cymdeithas edward llwyd y naturiaethwr · cymdeithas edward llwyd dosberthir yn rhad i aelodau...

44
C YMDEITHAS E DWARD L LWYD Y Naturiaethwr Cyfres 2 Rhif 19 Rhagfyr 2006

Upload: others

Post on 18-Jul-2020

7 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

CYMDEITHAS EDWARD LLWYD

Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward LlwydPris i’r cyhoedd £2.50

Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdalgan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr

Cyfres 2 Rhif 19 Rhagfyr 2006

Cover_Winter_2006 26/1/07 13:46 Page 1

Page 2: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

Cymdeithas Edward Llwyd

Sefydlwyd Cymdeithas Edward Llwyd yn 1978 a hi yw Cymdeithas GenedlaetholNaturiaethwyr Cymru. Enwir y Gymdeithas ar ôl Edward Llwyd, a anwyd yn 1660 ac a alwyd ynei gyfnod “y naturiaethwr gorau yn awr yn Ewrop”.Cymraeg yw iaith y Gymdeithas, ac y mae dros 1,200 o aelodau led-led Cymru a thu hwnt. Prifddibenion y Gymdeithas yw astudio byd natur, yn cynnwys planhigion, anifeiliaid a chreigiau, ganhyrwyddo ymwybyddiaeth o amgylchedd a threftadaeth naturiol Cymru ac ymgyrchu droseu gwarchod. Mae’r Gymdeithas yn:

• trefnu cyfarfodydd awyr-agored ym mhob rhan o Gymru, i astudio ac i gerdded• cynnal cyfarfodydd gwaith cadwriaethol• trefnu darlithoedd a chyfarfodydd cymdeithasol• cynnal pabell ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol• cyhoeddi Y Naturiaethwr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi Cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi llyfrau ar enwau Cymraeg creaduriaid a phlanhigion• cynnig grantiau (£600) bob blwyddyn am waith gwreiddiol ym myd natur• lleisio barn gyhoeddus ar faterion amgylcheddol• trefnu pris gostyngol gyda nifer o siopau dillad ac offer awyr agored

Mae aelodaeth yn agored i bawb o bob oed sydd â diddordeb ym myd natur.Dyma’r tâl blynyddol:Unigolyn - £12Teulu - £18I ymaelodi neu am ragor o fanylion cysylltwch â’r Ysgrifennydd Aelodaeth:Richard Jones, Pentre Cwm, Cwm, Diserth, Sir Ddinbych.

www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk

Clawr blaen:

Condor (neu Fwltur Periw) Santa Cruz, ArianninAderyn hedfanog mwya’r Byd

Clawr ôl:

Seren y Ddaear (Geastrum sp.)Ffwng anghyffredin yng NghymruLluniau: Goronwy Wynne.

Lluniau’r Clawr

Cover_Winter_2006 26/1/07 13:46 Page 2

Page 3: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

Golygydd: Goronwy Wynne, “Gwylfa”,Licswm, Treffynnon, Sir Fflint CH8 8NQ.

Cymdeithas Edward Llwyd 2006 – 07

Llywydd: Dafydd Davies

Cadeirydd: Ieuan Roberts

Is-gadeirydd: Tom Jones

Trysorydd: Gwennan Jones

Ysgrifennydd: Gruff Roberts, ‘Drws-y-coed’,119 Ffordd y Cwm, Diserth, Sir DdinbychLL18 6HR. 01745 570302 e-bost: [email protected]

Ysgrifennydd Aelodaeth: Richard Jones,Pentre Cwm, Cwm, Diserth, Sir Ddinbych.01745 570631

Y NaturiaethwrCyfres 2, Rhif 19, Rhagfyr 2006.

Cyhoeddir Y Naturiaethwr gan GymdeithasEdward Llwyd.

Dyluniwyd gan: MicroGraphics

Argraffwyd gan: Kelvin Graphics

Mae hawlfraint pob erthygl yn eiddo i’r awdur.

Y NaturiaethwrCyfres 2 Rhif 19 Rhagfyr 2006

Cynnwystudalen

Gair gan y Golygydd 3Goronwy WynneTranc yr Hil 4Llyr GruffyddY Fuwch Goch Gota 7Dafydd DafisCyfrinach Cae’r ’Steddfod 8Harri WilliamsYmweliad â chartref Isaac Newton 10Elfed H EvansMeini Penrhyn Llyn 12Arfon HuwsGwarchod Waun Fignen 14Arwel MichaelY Migneint – ymlyniad wrth le 16Gruff EllisCip ar Enlli 19Elisabeth LynnGeo-Môn 20Margaret WoodGwaith ac Iaith 23Gwyn JonesCystadleuaeth – Y Gaeaf a’r Bardd 26Eluned RobertsLlysieua ar Fynydd Helygain 28Eluned RobertsBlodau Prin y Glannau 30

Ymweliad â’r ardd 31Dewi Lloyd LewisAur o dan y rhedyn 32Dewi JonesWyddoch chi? 33

Llythyr 34Maldwyn ThomasAdolygiadau

Beloved Tywi 35Rhagor o Enwau Adar 36Offa’s Dyke 37Blodau Gwyllt 38

Awn i Hela’r Ysgyfarnog 40

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 1

Page 4: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 2

Page 5: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

Unwaith eto daethamrywiaeth o gyfraniadaui law. Diolch i’r cyfeillionfu’n ymateb yn brydlon igais y Golygydd amerthygl, a diolch yn fwyfyth i’r rhai a anfonoddgyfraniad digymell – gwyneich byd!

Efallai mai’r hyn sy’n brin ywadroddiadau gwreiddiol - sylwebaethuniongyrchol - sylwadau personol (ynhytrach nag ail-law). Beth am sylwi,cofnodi, a chyfri rhywbeth ym myd naturyn ystod 2007? Buaswn wrth fy modd yncael adroddiad manwl o ryw agwedd ar fydnatur mewn llecyn penodol - does dimrhaid iddo fod yn rhywle ‘arbennig’ megisgwarchodfa natur - mae rhywbeth i’w weldymhobman! A does dim rhaid i chi fod ynnaturiaethwr proffesiynol ychwaith.Cofiwch fod gennym draddodiad clodwiw osylwadau gwerthfawr gan amaturiaid ymmyd natur, a chofiwch hefyd mai’r diffiniado ‘amatur’ yw un sy’n caru ei bwnc!

Mae lle hefyd i fynegi barn. Mae gennyfddau gyfaill - y ddau yn ddynion canol oedyn byw mewn dau bentref cyfagos. Y ddauyn Gymry da ac yn gyfarwydd â bywyd ywlad. Un yn athro ysgol, ac yn frwd drosgadwraeth a bywyd gwyllt a’r llall ynffarmwr. Dro’n ôl roeddwn mewn cyfarfodcyhoeddus - dim byd i wneud â byd natur- ond digwyddodd rhywun sôn bod y

barcud coch bellach wedi cyrraedd Sir yFflint ac yn nythu mewn lle arbennig.Roedd yr athro ysgol yn amlwg ynfrwdfrydig, ond ’roedd y ffarmwr, oedd yndigwydd eistedd yn y sedd tu ôl i mi, ynteimlo’n wahanol, ac meddai dan ei wynt“Mae eisio saethu’r blydi lot!” Caffedpawb ei farn!

Mae’r ddadl ynglyn â’r berthynas rhwngmoch daear â’r clefyd TB mewn gwarthegyn rhygnu ymlaen yn ddiddiwedd. Bethwnewch chi o’r ddau adroddiad yma……?

1. Yn 1943 Cafwyd protest gan UndebNaturiaethwyr Gogledd Sir Gaerhirfryn ynerbyn y bwriad i ddifrodi moch daear erbudd amaethyddiaeth.

2. 2006 Mae DEFRA yn trefnu arbrawf,ar gost o £1 miliwn, i brofi brechiadgwrth-TB mewn rhyw ddau gant a hannero foch daear yn Swydd Gaerloyw. Maehyn yn rhan o gynllun tair blynedd i geisiorheoli’r clwy TB mewn gwartheg mewnrhannau o Gymru a chanolbarth Lloegr.Gobeithio na fydd rhaid aros am hannercan mlynedd arall am yr ateb.

Os ydych yn un o bobl y ‘pethe’ fewyddoch am yr Athro W.J. Gruffydd felysgolhaig, llenor a bardd (pwy nachlywodd am Ynys yr Hud?), ond tybed aglywsoch am ei gyfraniad arbennig i fywydCymru yn 1943? Ar y pryd yr oedd W.J.Gruffydd yn aelod seneddol dros BrifysgolCymru dan nawdd y Rhyddfrydwyr ac yroedd hefyd yn aelod o Gyngor yrAmgueddfeydd. Cyn hynny, yr oedd holldrysor darganfyddedig (treasure trove)Prydain yn mynd i’r Amgueddfa Brydeinigyn Llundain, ond llwyddodd Gruffydd inewid y ddeddf, ac o hynny ymlaen bu ganyr Amgueddfa Genedlaethol yngNghaerdydd yr hawl cyntaf ar bopeth addarganfuwyd yng Nghymru.

Dyna i chi diypn o wybodaethannisgwyl!

3

Gair gan y GolygyddGoronwy Wynne, Gwylfa, Licswm, Treffynnon,

Sir Fflint, CH8 8NQ.

Ffôn: 01352 780689

Mar’r mochyn daear yn dal i rannu cymdeithas

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 3

Page 6: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

Gydag ymddeoliad, taflwyd fy llyfrauecoleg i gornel dywyll yn yr atig gydallawer o bethau eraill a oedd yn gysylltiedigâ gwaith a gyrfa. Ond nid anghofiaisegwyddorion ecoleg er hynny, oherwyddatgoffir fi’n gyson amdanynt gangyfeiriadau at broblemau ecolegol ymhobpapur a chyfnodolyn bron. Un o’regwyddorion pwysig sy’n dod i’r amlwg i’rsawl a’i gwêl yw’r rôl allweddol, sylfaenol ymae dwysedd poblogaeth yn ei chwaraemewn unrhyw fodel ecolegol. Gadewchimi ymhelaethu trwy yn gyntaf restrusymptomau sy’n gysylltiedig â dwyseddpoblogaeth.

Y byd yn cynhesu

Mae cylchgronau amgylcheddol yn fritho gyfeiriadau at y ddamcaniaeth fod y bydyn cynhesu o ganlyniad i’r carbon deuocsid(CO2) a ollyngir i’r atmosffer gan ddyn.A pho fwyaf o bobl sydd yma i’w greu,mwyaf yn y byd yw’r effaith. CyfeiriaMorgan Parry (WWF) yn y Naturiaethwr(Rhifyn 18) at nifer o ffactorau sy’n gyfrifolam y cynnydd mewn CO2 gan gynnwys ysystem economaidd fyd eang - system nadyw’n ystyried effeithiau polisïaueconomaidd ar y blaned (gw. Banc y Bydisod). Cefais innau brofiad uniongyrcholo’r cynhesu pan euthum, un misTachwedd, i Churchill yng Nghanada iweld yr eirth gwynion yn ymgynnull ar lanBae Hudson yn aros i’r môr rewi. Panddaw rhew i orchuddio’r môr, byddympryd yr haf drosodd a daw cyfle unwaitheto i hela morloi ac i besgi tipyn ar gyfercychwyn yr hirlwm nesaf sy’n ymestyn o’rgwanwyn tan yr hydref. Ond y neges drista gawsom oedd bod tymor y rhew ynbyrhau. Mae’r hinsawdd yn tyneru a’rgaeaf yn crebachu ymhob pen. Oganlyniad mae’r cyfnod hela i’r hen arth ynlleihau a’i dyfodol, yn enwedig ym

mharthau mwyaf deheuol ei chynefin, ynhynod o ansicr.

Plâu ac afiechydon

Fel y bydd dwysedd yn cynyddu, maellwybr pla ac afiechydon drwy’r boblogaethyn mynd yn llawer haws ei dramwy gan ygall neidio o un i’r llall yn rhwydd.Gwelsom mor hawdd yw dal anwyd arsiwrnai hir mewn awyren, neu mewnneuadd lawn. Ni fyddai myxomitosis ynlledaenu mor fuan, os o gwbl, petai ondrhyw un gwningen fechan ymhob cae. Ynyr un modd, mae rhwystro clwy’r traed a’rgenau rhag ymledu bron yn amhosiblmewn system amaethyddol ddwys. Acmae rhai ohonom yn cofio’r tro diwethaf yrymledodd diptheria ar garlam drwy’r wlad,ac un o’r dulliau effeithiol o’i rwystro rhagneidio o un person i’r llall oedd cau pobysgol a gwahardd pob cyfarfod oedd yncreu cnewyllyn dwys o bobl gyda’i gilydd.

Ymddygiad

Clywsom y chwedl honno am y lemingyn cyflawni hunan laddiad pan â dwyseddeu poblogaeth yn rhy uchel. Nid gwir ywhyn, ond mae’n wir fod dwysedd uchel ynarwain at ymladd ymysg anifeiliaid, acmae’r leming yn fwy tebyg o farw trwy

4

Tranc yr hil ddynol?Llyr Gruffydd

Cyn swyddog y Cyngor Cefn Gwlad ym Mangor

Beth yw dyfodol yr Arth Wen? Llun… Goronwy Wynne

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 4

Page 7: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

ymladd, mewn sefyllfa o’r fath, na thrwyladd ei hun. Credaf y bydd rhyfeloedd ynfwy tebyg o gychwyn fel y tyf einpoblogaeth ni oherwydd yr anniddigrwyddo fod yn byw yn rhy glos at ein gilydd achystadlu am yr un adnoddau prin.

Cadwraeth

Daeth y syniad o gadwraeth i fodoherwydd bod bywyd gwyllt, cynefinoedd athirweddau dan fygythiad. Sefydlwydgwarchodfeydd oherwydd yr effaith y maedyn yn ei gael ar ei amgylchedd. Maent ynsymptom o ddwysedd uchel poblogaeth ywlad. Yn ddelfrydol, lle nad oes pwysau oganlyniad i boblogaeth ddwys, byddai’rwlad i gyd yn un warchodfa natur fawr.Yn anffodus ni allwn fyth fynd yn ôl isefyllfa debyg i honno heb i ryw ffactorneu’i gilydd leihau ein niferoedd ynsylweddol.

Nid yw’r gwarchodwr bob amser ynmeddwl fel ecolegydd er ei fod wedi eihyfforddi i fod yn ecolegydd da. Mae’rysfa i warchod yn gryfach ynddo efallai na’iresymeg ecolegol. Fe ddywed yr ecolegyddpur fod y gwarchodwr yn trin symptomauyn hytrach nag ymgodymu â’r rheswmsylfaenol am y dirywiad yn ein cynefinoedda’u ffawna a’u fflora. Y ffactorau sy’ngyfrifol yn y bôn, wrth gwrs, ydi dwysedduchel y boblogaeth ddynol.

Prysurdeb

Soniodd Peter Hope Jones mewn erthyglyn Natur Cymru (Rhif 2, Gaeaf 2001) amryw nodwedd hynod yng ngwarchodfaYnys Enlli yn creu ynddo deimlad osyndod a rhyfeddod yn gymysg ag ychydigarswyd - oherwydd bod yma dirwedd hebun dyn byw ar ei gyfyl. Cofiaf fod ardal fymebyd yng nghanolbarth Cymru bron yrun mor dawel hanner can mlynedd yn ôl.Yr oedd yr ardal honno yn llawer mwyhygyrch nag Enlli, a Phrydain bron morboblog ag yw hi heddiw, ond ni ddeuaipobl yno oherwydd nad oeddynt morsymudol ag ydym ni heddiw. Maesymudoldeb yn dwysau symptomaugorboblogi a bydd poblogaeth yn symud ilenwi’n barhaol bob twll a chornel o’ichynefin ac nid oes unman ar ôl lle

medrwn fynd i gael ennyd fechan oheddwch.

Adnoddau

Mae sawl arbenigwr yn bendant ein bodeisoes yn defnyddio’n hadnoddau naturiolmor drwm fel nad oes modd i natur eu hailsefydlu bellach. Mae enghreifftiau di-rif,ond mae un ohonynt yn ddigon i’mperswadio i ein bod wedi mynd heibio’rpwynt troi’n ôl, oni bai bod posibl lleihauein niferoedd yn sylweddol. Honno yw’rhelfa brin o bysgod sydd yn weddill yn einmoroedd. Roedd teimlad unwaith fod ymoroedd mor fawr fel nad oedd yn bosiblinni eu dihysbyddu. Erbyn hyn, osparhawn i’w pysgota fel y gwnawn ar yfunud, mae’n eithaf posib na fydd sioppysgod a sglodion ymhen ychydigflynyddoedd - deugain mlynedd yn ôl yramcangyfrif diweddaraf.

Y driniaeth

Rhestrais rai symptomau, ond a oestriniaeth? Rwyf yn berffaith sicr mainaïfrwydd o’r radd flaenaf yw credu ymedrwn achub y byd trwy drin ysymptomau yn unig - a dim ond unsymptom yw’r cynhesu byd-eang sydd ynein hwynebu. Yn naturiol, mae rhoi pilseni drin y boen y mae’r afiechyd yn ei greuyn mynd i helpu, h.y., mae lleihau y lefel oCO2 yn yr amgylchfyd yn mynd i arafu unagwedd o’r bygythiad. Doeth yw trin ysymptomau ochr yn ochr â pherfformio’rllawdriniaeth i gael gwared â’r afiechyd yngyfan gwbl. Y syndod mwyaf i mi yw’rffaith nad oes unrhyw ddogfen, erthygl nacadroddiad a ddarllenais yn ystod yblynyddoedd diwethaf, na gwleidydd ygwrandewais arno, wedi hyd yn oedgrybwyll y rheswm sylfaenol hwn drosbroblemau’r byd. Ni sonnir am ddwyseddpoblogaeth mewn unrhyw adroddiad awelais yn ddiweddar ar bolisi ynni nac ynadroddiad Banc y Byd ar Clean Energy andDevelopment. Dim sôn, chwaith ynAdolygiad Stern ar The Economics ofClimate Change. I mi, mae’n rhan symlond hanfodol o’r ddadl - byddai lleihaupoblogaeth y byd yn ddull llawer mwyeffeithiol o arbed ynni na’r brith brosiectau

5

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 5

Page 8: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

sydd ar y gweill ar y funud. Yn wir, niwelaf ddyfodol hyd yn oed i’m hwyriona’m hwyresau os na ddigwydd hyn. Hyd ynoed os llwyddir i arafu’r cynhesu trwyleihau CO2, mae’r canlyniadau eraill oorboblogi (plâu, rhyfeloedd, prinderadnoddau ac yn y blaen) yn dal ynfygythiad real o’n blaen o hyd.

Lleihau ein niferoedd

Hyd at hanner can mlynedd yn ôl, niwelodd gwledydd y byd angen o gwbl iboeni am faint eu poblogaeth, ond, i fodyn deg, fe sylweddolwyd cyn hirbwysigrwydd dwysedd poblogaeth a bu’rCenhedloedd Unedig yn trafod y matermewn ambell gynhadledd - y ddiwethaf, migredaf, ym 1994! Ond yn ôl a welaf, nithrodd y siarad yn weithredu o ddifrif. Ym1994, nodwyd bod poblogaeth y byd wedityfu i tua 6 biliwn - teirgwaith ei maint yn1900 - a’i bod yn debyg o gynyddu i tua 9biliwn erbyn 2050. Mae’n wir fodgraddfa’r cynnydd yn arafu yn ardaloedddatblygedig y byd ond mae’n amlwg ybydd y nifer ychwanegol o bobl a fydd yndefnyddio ynni yn 2050 (cynnydd o ryw 10mil bob awr yn ôl un awdurdod) yngyfrwng i ddadwneud yr holl arbedion awneir drwy’r cynlluniau presennol (dangytundeb Kyoto) i leihau lefelau CO2.Hefyd, mae’n amheus iawn a yw’rcynlluniau hyn yn ddigonol beth bynnag.Mae’r Athro James Lovelock (Profile, Rhag,04) yn nodi bod lefelau CO2 yn yratmosffer wedi cyrraedd 380ppm ym 2004a bod modelau cyfrifiadurol yn rhagweldbod y pwynt di-droi’n-ôl, sydd rhwng 400a 600ppm, bron â’i gyrraedd. Yn ôlAdolygiad Stern eleni, mae wedi cyrraedd430ppm, ac mae yntau yn annog y byd ifrysio.

Fe’ch clywaf yn gofyn - ond sut maerheoli poblogaeth? Dydi’r ateb ddim gen i.Mae’n broblem hynod gymhleth. Yr unigbeth y medraf ei ddweud yw na fydddyfodol i’r ddynoliaeth os na wneirrhywbeth yn fuan. Bydd y canlyniad owneud dim yn erchyll, a’m barn bersonol iyw, yn hytrach nag effeithiau cynhesu’r

byd, y gallai un o’r ffactorau eraill, sy’ndilyn o ddwysedd poblogaeth rhy uchel,effeithio arnom yn gyntaf. Pethau megisffliw adar neu ryw bla pandemig arall,rhyfeloedd a phrinder adnoddau.Canlyniad digwyddiadau ‘naturiol’ fel hynfyddai lleihad dramatig a sydyn yn yboblogaeth, a phob teulu yn colli hannerneu fwy o’i aelodau. O hynny ymlaen wrthgwrs, byddai gwell cydbwysedd rhwng dyna’i gynefin a’i adnoddau gan y byddai llai olawer o bwysau arnynt. Ond pwy yn eilawn bwyll fyddai’n fodlon gadael ibrosesau distrywiol, myxomatosaidd,‘naturiol’ fel hyn wneud be y medrwn ni eiwneud ymhell ymlaen llaw, ond caelgweledigaeth fyd eang i gychwyn ‘rwan!Wedi’r cwbl, mae gennym ni fantais fawrdros y leming - rydym yn gweld ytrychineb yn dod.

Gobeithiaf o waelod calon na fydd fywyrion a’m hwyres, cyn diwedd eu hoes,yn medru dweud ‘mi dd’wedodd taid ’ndo?’

6

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 6

Page 9: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

7

Pan oeddwn yn blentyn dysgodd fymam i mi osod y fuwch goch gota ar gledrfy llaw ac adrodd y rhigwm:

Y Fuwch Goch Gota, P’un ai glaw neu hindda?Os mae glaw cwymp o’m llaw,Os tywydd braf, hedfana. Mae pawb yn hoffi’r fuwch goch gota,

hyd yn oed y bobl hynny sy’n casáuchwilod, ond chwilen brydferth yw hon.Aelod o deulu’r Coccinellidae yw’r fuwchgoch gota ac fe geir 5,200 o wahanolrywogaethau ohonynt dros y byd; ymMhrydain mae gennym 46 o wahanolrywogaethau. Yn ddiweddar disgynnodd yFuwch Goch Gota Harlecwin ar Brydain -nodwyd hi gyntaf yn y flwyddyn 2004 ganwneud naturiaethwyr a chadwraethwyr ynansicr a ddylem ni ei chroesawu.

Creaduriaid sydd yn ymosod ar bryfedgleision a chenbryf (aphids a scale insects) ermawr lawenydd i arddwyr ein gwlad ywbuchod coch cota brodorol Cymru.Ffyrnicach byth yw ymosodiad y FuwchGoch Gota Harlecwin ar genbryf a phryfedgleision. Mor llwyddiannus y bu’rHarlecwin yn Asia fel i’r Unol Daleithiauei mewnforio. Ymhen dim roedd y

chwilod Harlecwin wedi ymledu drosOgledd America.

Paham felly yr amheuaeth ym meddyliaunaturiaethwyr dros ddyfodiad yr Harlecwini Brydain? Yr ateb yw bod yr Harlecwinrheibus yn ymosod ar drychfilod llesol ynogystal ag ar y rhai niweidiol. Enghraifft ohyn yw ei harferiad o fwydo ar wyau alarfau'r fuwch goch gota frodorol.

Cyrhaeddodd yr Harlecwin i Brydainmewn nwyddau a ddaeth o OgleddAmerica ac o Ewrop a hefyd mae llawerohonynt wedi hedfan o Ewrop ar draws ySianel a’r canlyniad yw bod y mwyafrif o’rchwilod Harlecwin ym Mhrydain wedi eulleoli yn Ne-ddwyrain Lloegr. Ar y mapdiweddaraf sydd yn dangos eu dosbarthiad,gwelir un smotyn coch yn unig yngNghymru a hwnnw yn Aberdaugleddau yny flwyddyn 2006. Mae cofnod arall ohoniyng Nghymru sydd heb ei nodi ar y mapeto. Ymddangosodd un Harlecwin yn ytrap gwyfynod sydd gennyf yng ngarddTy’r Ysgol, Rhandirmwyn, ar yr 18fed oAwst 2006! Anfonwyd hi gyda’r gwyfynodi Rothamsted Research, Harpenden,Swydd Hertford. Fe fydd y derbynnydd ynei hanfon i’r Prosiect Arolwg y Fuwch

Goch Gota Harlecwin. Mae’rarolwg hwn yn awyddus iawn igael gwybodaeth am ddosbarthiadyr Harlecwin gan ei bod ynnewydd i’n gwlad. Yn ogystal,bydd yr arolwg yn darganfod paeffaith a gaiff ar ein buchod cochcota brodorol.

Y Fuwch Goch Gota HarlecwinHarmonia axyridis

Dafydd Dafis, Rhandirmwyn, Sir Gaerfyrddin

Dwy ffurf o’r Fuwch Goch Gota Harlecwin. Hyd: 6-8mm

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 7

Page 10: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

Fel llawer tro yn y gorffennol bu maes yrEisteddfod Genedlaethol eleni yn destunsiarad a beirniadaeth.

Yma roedd safle hen waith alcam yFelindre ac roedd y wyneb caregog yn dysti’r adfer sydd yno ar hyn o bryd. Disgwylirdatblygu Parc Diwydiant yno yn y dyfodol,ond yn y cyfamser fe gafodd ein gwylgartref yno dros dro.

Felly, rhyfedd oedd gweld fod eraill wedicael lloches yno’r haf yma, os mai dim ondam dymor. Bu’n rhaid oedi’n hir cyncodi’r Pafiliwn Pinc a llawer o’r stondinauac ychydig a feddyliodd y miloedd oedd yneistedd yn y babell fawr eu bod yn yr union

le a oedd ychydig ynghynt yn fangre nythu irai o’n hadar prin.

Yn gynnar yn y gwanwyn fe fu’rgornchwiglen yn gwneud ymholiadau am ysafle, a chan ei bod dan fygythiad ledled ywlad fe ofynnwyd i Barry Stewart sydd ynymgynghorydd amgylcheddol i archwilio’rsafle. Fel yr ai’r tymor yn ei flaen roedderaill hefyd yn ymgartrefu yno ac fellybu’n rhaid ailwampio’r cynlluniau cyntrefnu’r maes.

Y cyfrif swyddogol o’r nythu a fu yno ywchwe nyth cornchwiglen, tri nyth cwtiadtorchog bach, dau gwtiad torchog ac unpibydd y dorlan.

8

Cyfrinach Cae’r ’Steddfod yn AbertaweHarri Williams, Pontarddulais

Cyn Gadeirydd Cymdeithas Edward Llwyd

Y Cwtiad Torchog Bach ar ei nyth ar gae’r ’Steddfod. Llun: Steve Philips

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 8

Page 11: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

9

Er bod y gornchwiglen a’r cwtiadtorchog gyda ni drwy’r flwyddyn,ymfudwyr yw’r ddau arall er bod y pedwaryn perthyn i deulu’r rhydyddion.

Y cynllun a fabwysiadwyd oedd cofnodinyth, yna yn ofalus iawn rhoi math ar soserbridd o dan y cyfan a’i symud yn ofalusrhyw ddwylath bob yn eilddydd i lecynmwy diogel. O wneud hynny, gydaphrofiad, ni chollwyd un safle a bu’rcontractwyr yn hynod o gefnogol i’r hollwaith, ac o ganlyniad cafodd y nythod igyd eu hachub. Nid oedd yn bosiblgwneud cyfrif manwl o’r cywion addeorwyd, ond, ar fy ymweliad i â’r safle,(gyda chaniatâd), roedd dau gyw cwtiadtorchog bach yn swatio yn daclus, un arallyn wlyb a newydd ddeor a’r cyw arall ynprysur dorri allan. Gan fod yr aderyn ymao dan reolaeth Rhestr Un nid oedd hawlgennyf i gymryd llun ohono. Fe dynnwydy llun sydd yma gan Steve Phillips, syddâ’r drwydded angenrheidiol, yn SirGaerfyrddin eleni, ac rwyf yn ddiolchgariawn iddo am ei ganiatâd i’w ddangos.Mae’r aderyn prydferth yma yn hynod

iawn gan ei fod mor debyg i’w gefnder ycwtiad torchog, ond bod ganddo fodrwyaur o gwmpas ei lygad, ac fel pibydd ydorlan mae’n ymwelydd cyson â ni, ondmae’n prinhau.

Wedi’r deor, gan fod cymaint o fwrlwmar y cae, buan iawn yr arweiniodd y rhienieu cywion i ddiogelwch y tyfiant trwchus aoedd yn amgylchynu’r safle.

Mae hyn yn dangos pa mor gyflym y gallrhywogaethau ail ennill eu tiriogaeth, ondni fydd parhad i’r safle hwn fel mangrenythu.

Os bu i rywun gwyno am arwynebeddsafle’r Eisteddfod eleni, yna cofier bodcerrig a’r gwastadedd oedd yno wedi eiwneud yn le delfrydol i fagu teulu.

Hefyd, ar yr heol y tu cefn i BabellCymdeithas Edward Llwyd gwelwydlindysyn gwyfyn yr Ymerawdwr.

Calondid felly oedd gweld os nad oeddcroeso swyddogol i’r ‘Cymru ar Wasgar’fod o leiaf rai yn mynnu eu lle yn ein GwylGenedlaethol.

O.N. Mr Golygydd. Oes lle i aros gydachi yn yr Wyddgrug y flwyddyn nesaf?

Lindys gwyfyn Yr Ymerawdwr. Llun yr awdur

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 9

Page 12: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

10

Eleni, fe dreuliais wythnos gyfan yncrwydro Swydd Lincoln ac fe fanteisiais ary cyfle i ymweld â chartref y gwyddonyddbyd enwog, Isaac Newton, ger Grantham.Mae ei gartref, Woolthorpe Manor, erbynhyn yn eiddo i'r YmddiriedolaethGenedlaethol ac yn agored i'r cyhoedd yrhan fwyaf o'r pnawniau yn yr Haf.

Bedair canrif yn ôl, roedd hon yn ffermfawr o thua 500 erw ac, felly, oherwydd eichynnyrch sylweddol, yn rhoddi statwsaruchel i'r perchennog mewn cymdeithas.Wrth ben y drws, gwelir arfbais wedi einaddu o garreg gyda dau asgwrn ystlysdafad wedi eu croesi arno. Fe atgoffa'rarfbais ni, ynghyd ag enw'r maenordy eihun, o bwysigrwydd y ddafad yn economi'rwlad pryd hynny.

Yn yr ystafell orau yn llofft y maenordyy ganwyd Newton ar ddydd Nadolig yn yflwyddyn 1642. Ganwyd ef o flaen eiamser yn faban eiddil ac yn ddigon bychani ffitio i mewn i lestr chwart. Yn drist iawn,ni welodd y tad ei gyntaf-anedig oherwyddbu farw dri mis ynghynt. Ymhen pethamser wedyn, cytunodd y weddw i briodi'rficer lleol ac, ymhen dwy flynedd,symudodd allan o'i chartref gan adaelNewton yng ngofal ei nain.

Mynychodd Newton yr ysgol leol yngyntaf ac yna'r Ysgol Ramadeg Frenhinolyn Grantham hyd nes yr oedd yn 17 oed.Gadawodd yr ysgol i fyw a gweithio ar yfferm, ond daeth yn amlwg yn fuan iawnnad oedd deunydd ffermwr ynddo. Ynffodus, fe berswadiodd ei gyn-brifathro i'wfam adael iddo ddychwelyd i'r ysgol hydnes yr oedd yn 19 oed er mwyn iddo gaelmynediad i goleg Caergrawnt. Yno, feddaeth yn gyfarwydd ag athroniaethRoegaidd, ond gwell oedd ganddo ddarllenam syniadau newydd Descartes adamcaniaethau herfeiddiol gwyddonwyr felCopernicus, Galileo a Kepler.

Graddiodd yn y flwyddyn 1665, pryd yroedd eisoes wedi darganfod y theoremfinomaidd. Roedd hefyd wedi dechraudatblygu ei sustem newydd a adwaenwnheddiw fel calcwlws. Yn fuan ar ôl graddiofe gaeodd y coleg oherwydd y Pla agrwydrai'r tir. Treuliodd y deunaw miscanlynol yn ei gartref lle y parhaodd iddatblygu ei fersiwn o galcwlws. Hefyd,gweithiodd ar syniadau newydd ynglyn ânatur golau a disgyrchiant.

Yn y blynyddoedd 1670-1672, feddarlithiodd ar natur goleuni. Ef oedd ycyntaf i esbonio sut y ffurfir yr enfys ganddiferion o wlaw gwasgaredig yn yr awyr.Yn y cyfnod hwnnw, fe astudiodd y moddy gellid plygu golau gan wydr ar ffurf prismi'w rannu i wahanol liwiau'r enfys.Dyfeisiodd fath o delesgop hollol newydd ichwyddo lluniau'r planedau. Roedd Galileoeisoes wedi dyfeisio telesgop i chwyddo'rgwrthrych, ond rhagorai telesgop Newtonar hwnnw oherwydd ei fod yn defnyddiodrych i chwyddo yn hytrach na lens.Medrai ei ddrych 6 modfedd chwyddo lluno'r gwrthrych yn llawer mwy a chliriach.

Yn y flwyddyn y ganwyd Newton, fe fufarw Galileo, a dwy flynedd ynghynt bufarw'r seryddwr Kepler. Roedd Keplerwedi dangos fod yr holl blanedau yn troi oamgylch yr haul mewn cylch hirgrwn.Gyda'r cefndir gwyddonol hwnnw, pethnaturiol oedd i Newton ystyried paddeddfau a reolai'r holl symudiadau yn ybydysawd. Fel mae’n digwydd, pan oeddyn myfyrio ynghylch y pethau hyn, fesylwodd drwy'r ffenestr ar afal yn syrthio'nsyth i'r ddaear oddi ar un o'r coed yn yberllan. Honno oedd y foment ‘eureka’fawr yn ei hanes. Ystyriodd y posibilrwyddfod y grym a dynnai'r afal tua chanol yddaear, yn ei hanfod, yr un fath a'r hwnoedd yn rheoli symudiadau'r planedau. Yndilyn hyn, fe ddangosodd y medrai fesur

Ymweliad â chartref Isaac NewtonElfed H Evans, Licswm, Sir Fflint

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 10

Page 13: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

11

cylchrediad y lleuad pe bai yn rhagdybiofod y grym yn lleihau yn wrthgyfartal isgwâr y pellter rhyngddo â’r ddaear.Dyfalodd fod yr un grym yn rheolicylchrediad y planedau hefyd ac, oherwyddhynny, fe alwodd y grym yn ddisgyrchiantcyffredinol. Cyhoeddodd ei lyfr enwogPrincipia a eglurai'r ddeddf disgyrchiantnewydd ynghyd â’r deddfau sy’n rheolisymudiad.

Pan ymwelais â'i gartref, tynnais lun oafal yn tyfu ar goeden yn y berllan. Honnirfod y goeden honno yn tyfu o'r un gwraiddâ'r goeden a dyfai pan oedd Newton ynfyw. Deellir hefyd fod clôn o'r un goedenyn dal i dyfu o flaen y brif giât i Goleg yDrindod yng Nghaergrawnt yn union odan yr ystafell y byddai Newton yn bywynddi pan oedd yn Athro yno. Gelwir ymath o afal a dyf ar y goeden yn Pride neu

Flower of Kent ac mae sawl prifysgol wediderbyn impyn ohoni erbyn hyn.

Yn 1696, fe symudodd i Lundain i fodyn geidwad y Bathdy Brenhinol. Er maiswydd segur oedd hon, fe gymrodd hi oddifrif gan erlid yn llwyddiannus y rhaioedd yn cynhyrchu arian ffug. Sylfaenoddhefyd y Bunt Sterling ar aur yn hytrach nagarian am y tro cyntaf.

Yn y flwyddyn 1705 fe'i anrhydeddwydgan y frenhines Anne a’i ddyrchafu’nfarchog. Er mawr syndod, am ei waith felceidwad y Bathdy Brenhinol, ac nid am eigyfraniad unigryw ac amhrisiadwy i fydgwyddoniaeth, yr anrhydeddwyd ef.

Bu farw yn Llundain yn y flwyddyn1727 a'i gladdu gydag anrhydedd yn AbatyWestminster.

Nid dyma’r afal a welodd Newton, ond fe newidiodd y gwyddonydd ein ffordd o edrych ar y bydysawd

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 11

Page 14: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

12

Yn Rhif 18 o’r Naturiaethwr (Gorffennaf2006, tud. 31) soniodd y Golygydd amddathliad sefydlu’r AHNE, Ardal oHarddwch Naturiol Eithriadol gyntaf yngNghymru a Lloegr, sef Penrhyn Gwyr.

Eleni cafwyd dathliad hanner canmlynedd AHNE Penrhyn Llyn.Dynodwyd oddeutu chwarter arwynebeddy penrhyn yn Ardal Eithriadol ym 1956 aceleni (2006) cynhaliwyd nifer oweithgareddau i gofio’r achlysur.Trefnwyd amryw o deithiau cerddeddrwy’r ardal, cyrsiau walio cerrig sych achloddiau pridd, sgyrsiau am ffynhonnauLlyn, rhostiroedd Llyn a hyd yn oedsmyglwyr Llyn, ac yn y blaen. Cynhaliwydcystadlaethau tynnu lluniau camera ynogystal â chystadleuaeth gelf - ‘Hud aLledrith Llyn’, y goreuon i’w mwynhau yn

Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog, hydat y Nadolig.

Penderfynwyd nodi ffiniau'r AHNEgydag arwyddion gwenithfaen lleol ac yn2003, gosodwyd tri o feini ar ymylon yffyrdd. Cynlluniwyd y meini mewncystadleuaeth gan fyfyrwyr celf ColegMeirion Dwyfor a dewiswyd tri syniadgwahanol gyda logo gwreiddiol cynllunGlennydd Llyn, a sefydlwyd flynyddoeddlawer yn ôl gan Gyngor Dosbarth Dwyfor,ar ganol pob un o’r meini. Canolbwynt ylogo yw darlun o’r frân goesgoch(Pyrrhocorax pyrrhocorax) - gweler YNaturiaethwr, Rhagfyr 2003. Mae’r aderynarbennig hwn yn ffynnu ar glogwyni Cilan,Aberdaron a Nefyn a’i grawc gwynfanus yngyfeiliant i rythm y môr.

Ar y ffin ogleddol dynodir cychwyn yrAHNE gan faen (A) ar y llaw chwith i’r

Meini Penrhyn Llyn – AHNEArfon Huws, Bwlchtocyn, Llyn

Maen A

Maen B

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 12

Page 15: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

13

Maen C

ffordd ger pentref Aberdesach igyfeiriad Pwllheli. Mae maen (B)ar y chwith o’r briffordd cyncyrraedd Llanbedrog o gyfeiriadPwllheli a gosodwyd maen (C) ardriongl o dir glas uwch pentrefAberdaron ar fforch yn y brifforddgydag un lôn yn disgyn i’r pentrefa’r llall yn arwain i gyfeiriadUwchmynydd. Wrth gwrsroeddem ni’r trigolion a’ncyndeidiau yn gwybod ein bod ynfreintiedig i gael mwynhau'r cilcynhwn o ddaear ond mae’n braf caelstamp swyddogol r’un pryd!

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 13

Page 16: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

14

Wedi sawl blwyddyn o ddadlau rhwngParc Cenedlaethol Bannau Brrycheiniog,Cyngor Cefn Gwlad Cymru a phorwyrrhan ddwyreiniol y Mynydd Du, cafwydcynllun o’r diwedd i ddiogelu a gwarchodWaun Fignen Felen, sy’n Safle oDdiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’rgwaith wedi dechrau ers mis Medi 2004.

Oddeutu 12,000CC roedd y rhewlifoeddyn dechrau toddi’n raddol ar FannauBrycheiniog ac fel yr oedd yr hinsawdd yngwella gwelwyd olyniaeth o blanhigion.Erbyn 7,000CC roedd yr ardal ynmwynhau hinsawdd Gogleddol (Boreal).Roedd yn gyfnod cymharol sych a chynnes.Roedd y rhan fwyaf o dir uchel Prydainhyd at 600m o dan dyfiant o goed bedw aphîn. Gwelwyd tyfiant o goed deri a chyllar y tir isaf, ac o amgylch y tir corsiog a’rafonydd y coed gwern oedd amlycaf.Oddeutu 6,000CC fe dorrwyd Prydainoddi wrth weddill Ewrop oherwydd codiadyn uchder dwr y môr.

Parhau i newid oedd yr hinsawdd acerbyn 5,000CC fe ddaeth hinsawddIwerydd (Atlantic) gyda thywydd llaith,cefnforol ac eithaf cynnes. Mae’n debygolbod y tymheredd rhyw 3 gradd C yn uwchnag ydyw heddiw. Roedd y coedwigoeddyn doreithiog, gyda phlanhigion bwytadwy:aeron, cnau, blagur, ffwng a grawn gydadigonedd o anifeiliaid gwyllt megis ybaedd, yr ych, y ceirw a bele’r coed, adigon o bysgod yn yr afonydd a’rlynnoedd. Yn ystod Oes Ganol y Cerrigroedd y bobl yn gallu elwa ar yr adnoddaunaturiol. Roeddynt yn gelfydd iawn felhelwyr a chrynhowyr, gan chwilio am fwyda defnyddiau crai i’w anghenion bob dydd.

Dyna’r math o fywyd oedd yn y bryniauo amgylch Waun Fignen Felen ym mhenuchaf Cwm Tawe yn Oes y Cerrig.

Mae Waun Fignen Felen yn gorweddmewn pantlle mawnog ar lwyfandir o

garreg galch yn y Mynydd Du, 480muwchben wyneb y môr (SN825179). Llyn,rhyw 1k ar ei draws oedd yno yn niweddOes yr Iâ. Erbyn Oes Gannol y Cerrig, llynbeiston oedd yno – dwr agored wedi eiamgylchu gan siglen a phrysgwydd. Maedwr y llyn wedi diflannu drwy’r garreggalch i lawr i ogofau Dan-yr-Ogof ersamser maith ac erbyn heddiw mignen syddyno. Mae’r mawn wedi erydu ersblynyddoedd, ac mae saith modfedd wedidiflannu oddi ar wyneb y fawnog ers pedairblynedd mewn ambell fan, gan effeithio aransawdd y dwr sy’n llifo i mewn i’r ogofâu.Ar ddiwedd pob gaeaf mae darnausylweddol o wraidd coed yn cael eu golchiallan o’r mawn, ond meant yn pydru’nfuan yn yr awyr agored.

Yn 1979 daeth archaeolegwyr ar drawsdarnau o fflint a gwastraff fflint mewnsafleoedd o amgylch y waun ac ystyrir eubod yn hannu o Oes Gannol y Cerrig. Yn1980-82 archiliwyd dau safle arbennig. Yny cyntaf darganfuwyd 12 o ddarnau bach oficrolithau. Yn yr ail daethpwyd o hyd i 51o fflintiau yn wasgaredig, yn cynnwys 3microlith, ysgrafell ac un llafn wedi ei ricio.Yn ychwanegol, darganfuwyd darnaucynoesol wedi eu ffurfio gan ddyn, sef 10microilith, carreg hirgron wedi ei sgrafellu,55 darn o fflint a blaen bachog saeth – ynôl pob tebyg o Oes yr Efydd.

Mae’n amlwg bod dyn wedi cael effaithbarhaol ar ecoleg y safle, ac fel yr eglurwyduchod, mawnen yn gorwedd mewn pantllesydd yno bellach. Mae’n debygol bod dynwedi ymweld â’r safle mor bell yn ôl â’rdegfed mileniwm CP. Fe grewyd darnagored o amgylch y llyn cyn 8,000CP a’igadw ar agor gan weithgarwch dynol.Wedi’r cyfnod hwn gwelwyd newid ymmhatrwm y llystyfiant oherwydd ymyrraethdyn yn llosgi’r goedwig.

Gwarchod Waun Fignen FelenArwel Michael, Penrhos, Ystradgynlais, Powys.

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 14

Page 17: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

15

Mae’n bosibl bod pori gan anifeiliaid yndigwydd hefyd. Roedd ffurfiant cynnar yrhostir yn mynd nôl hyd at 7,900CP adylanwad dyn yn gadael ei effaith ar ytirlun. Ehangodd y llyn ac roedd cynyddmewn anifeiliaid pori ar y glannau. Ynraddol fe ddisodlwyd y rhostir ganblanhigion mwy goddefgar o’r dwr a’idroi’n wrthban o fawn. Dichon hefyd bodyr ardal yn cael ei llosgi’n gyson.

Dangosodd archwiliad o baill y cyfnodbod newid mawr wedi digwydd yn ystodOes yr Efydd. Prinhaodd y coed. Cafwydllawer o redyn a phlanhigion trofannol yncyd-ddigwydd â dirywiad yn yllwyfen.Dichon hefyd bod cyflwr WaunFignen Felen yn ein dyddiau ni yn cael eieffeithio gan lygredd diwydiannol,agosrwydd at Fôr Iwerydd a chan y porigan ddefaid. Pwy a wyr?

O’r diwedd, mae Parc CenedlaetholBannau Brycheiniog trwy gymorth CyngorCefn Gwlad Cymru, wedi dechraugwarchod y safle. Yn ystod mis Medi 2004codwyd ffens dros dro o amgylch y waunar ôl cael cytundeb o’r diwedd â’r porwyrlleol. Yn ystod mis Mai 2005 cludwyd

nifer helaeth o sachau enfawr o wellt,eithin a rhedyn ar y waun gan hofrennyddi’w gosod yn y rhychau a ffurfiwyd gan yrhew a’r glaw. Y bwriad yw arafucyflymder y dwr sy’n llifo drwy’r rhychaugan gludo’r mawn allan o’r waun ac imewn i’r ogofau. Ar ddiwedd pob gaeafers blynyddoedd bu’n orfodol symudtunelli o fawn o Dan-yr-Ogof cyn tymor yrymwelwyr, ond eleni daeth fawr ddimmawn o’r ogofâu. Yn ystod gwanwyn ahydref 2006 cludwyd rhai cannoedd ynrhagor o sachau ar y waun.

Eisoes, mewn llai na dwy flynedd, gweliradfywiad ar y waun, ar ôl cyfnod hir owaethygu a dirywio. Mae gennyf brofiadpersonnol o hyn ar ôl yn agos i hannercanrif o gerdded yr ardal. Edrychwnymlaen i weld tyfiant dros y waun i gyd,i’w diogelu ar gyfer cenedlaethau i ddod.Mae wardeniaid y Parc Cenedlaethol wedigweithio’n galed ar y waun. Diolch i bawba gafodd y weledigaeth i’w gwarchod.

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 15

Page 18: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

Cariad ymlyniad wrth le, hen berthynI hen barthau, rhywleA’m deil o waun i dyle

Yn rhwym yn llinynnau’r we. (Closs Parry)

A dyna fel mae hi rywsut; mae gan bawbei Gwm Pennant fel y dywedodd DeiTomos wrth sgwrsio â mi ar y radio, raiblynyddoedd yn ôl bellach. Ond mae fynghynefin i yn cynnwys tri chwm, sefCwm Eidda, Cwm Gylchedd a Chwm yBlaenau sy’n ein harwain dros y Migneintam Ffestiniog; lle mae tarddiad AfonyddConwy a Serw a llynnoedd y Gamallt.

Fel y cyrhaeddwch yr hen dy cipar nidnepell o’r ffordd a ble y cychwynnwch amLyn Conwy, mae rhaeadr gyntaf yr afon i’rchwith, a thu draw i hon mae clogwyn a

enwid yn Garreg Ddefod. Yn yr unionfan ar y clogwyn y cwrddai bugeiliaid yMigneint flynyddoedd yn ôl (dim mwyach)i gael rhyw fath o gwrdd i ofyn bendith areu praidd o’r gwanwyn i’r hydref, ac ynhwyrach, os oedd y tywydd yn caniatáu.Man diddorol yw Carreg Defod hefyd oran ei phlanhigion ac yn fil a hannertroedfedd uwch lefel y môr. Mae’r grug o’ichwmpas wrth gwrs, ond ar y clogwyn tyf yGoedfrwynen Fawr (Luzula sylvatica),Coed Llus (Vaccinium myrtillus), Clychau’rGog (Hyacinthoides non scripta) a Llaeth yGaseg neu Wyddfid (Lonicerapericlymenum), ac amryw o wahanol redynsef Rhedynen Gorniog (Phegopterisconnectillis), Gwibredynen (Blechnumspicant) a’r Llaw Redynen (Polypodiumvulgare), Rhedynen Fair (Athyrium felixfemina) a’r Marchredynen Lydan(Dryopteris dilatata) heb anghofio’rGriafolen a’r Frân Dyddyn (Carrion Crow)yn nythu arni’n ddi-feth bob gwanwyn.

16

Y Migneint – ymlyniad wrth leGruff Ellis

Bu’r awdur yn gweithio i’r Bwrdd Cynhyrchu Trydan ac yna i’rYmddiriedolaeth Genedlaethol yn Ysbyty Ifan

Rhedynen Gorniog Phegopteris connectillisLlun: Goronwy Wynne

Coedfrwynen Fawr Luzula sylvatica. Llun: Goronwy Wynne

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 16

Page 19: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

Yng Nghwm Gylchedd, y mae cynefin ydiweddar fardd Thomos Jones,Cerrigellcwm Isaf, bardd gwlad arbennigiawn a luniodd y gerdd ‘Hed y gwcw’, nidannhebyg i ‘Nico annwyl’ Cynan:

Hed y gwcw, hed yn fuanHed dros fro Arennig Fawr;Ac nes doi i Sbyty IfanPaid â rhoi dy droed i lawr……

Yma ar y Gylchedd a Charnedd y Filiasty canfyddwch y Corn Carw (Lycopodiumclavatum), Cnwpfwsogl Mawr (Huperziaselago) a Chnwpfwsogl Alpaidd(Diphasiastrum alpinum) yn bur doreithiog.Llai o dir creigiog a mwy o gawn fel y’igelwir o yma neu Glaswellt y Bwla(Molinia), Purple Moorgrass, ac mae hwnyn rhoi’r lliw rhuddgoch ar y Gylchedd ynyr Hydref. Gelwir rhan o’r Gylchedd yn‘Brotos’, enw od iawn meddech; ond yn ôly diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones‘Bratffos’ oedd yr hen enw mewn henddogfennau yn ymwneud â throsglwyddotiroedd yn yr ardal tua’r flwyddyn 1322, acyn y ddogfen honno nant fechan oedd‘Bratffos’ yn rhedeg i’r Afon Hesgin arochr Tir Mynach i’r Gylchedd. Mae’n sônhefyd am ‘bratpwll’ sef twll dwfn yn yddaear wedi ei gloddio a’i guddio âchanghennau i ddal anifeiliaid gwylltionwrth hela!

Mae Cwm Gylchedd yn gallu bod yn lleoer drybeilig weithiau ac yn dwyn i gofambell aeaf caled a hirlwm:

Ar lwyfan Carnedd Filiast

Mae’r gaeaf yn rhuo’n ornest,Y rhew yn dew ar wyneb dwrA phanwr yn y ffenest.

Tomos JonesIe, Cwm tecaf y cymoedd, Cwm Eidda

y diweddar D. O. Jones neu Dewi Hafnantiddo gael ei enw barddol:

Llain o gwm pellenig yw, cwm y gogCwm y gân ddiledryw,

Odiaeth o brydferth ydyw,Er ei fwyn y caraf fyw.

Mae yna ddwy garreg arbennig yma arFfridd y Llech sydd yn derfyn rhyngom niyma yn ’Sbyty â Phenmachno. Mae’rgyntaf yn gorwedd ar ffridd fferm EiddaFawr, nepell o hen ffordd y porthmyn sy’nein harwain drosodd i Benmachno, TyMawr Wybrnant a Dolwyddelan, sef y‘garreg orchest’. Carreg fawr lled gron addefnyddid mewn ymrysonau codi pwysaurhwng meibion Ysbyty a Phenmachno.Wrth ddyfalu, mae’n pwyso rhyw ddeugantneu fwy mae’n siwr gen i. Byddaf yn galwheibio iddi yn weddol aml ond nid i geisio’ichodi na hyd yn oed ei symud; dim ond iwneud yn siwr ei bod yn dal yno! Maedyddiad neu ddau wedi ei naddu arni, sef,1868 rwy’n meddwl, gan ei fod yn buranelwig, a 17.. rhywbeth neu’i gilydd.

Rhaid crwydro i’r dwyrain nes y down atyr Wylfa, lle mae ffridd Fron Ddu yn taroar Ffridd Dugoed, Penmachno, ac yn ymyly clawdd terfyn canfyddwn y ‘GarregAdnod’. Yn yr Wylfa tua 1891 y trigaiJane Jones a thri o’i meibion: Richard,Dafydd a William. Cofnodwyd Williamyng nghyfrifiad 1891 fel ‘crydd agwallgofddyn’ (lunatic) ond os oedd hyn ynwir, roedd crefydd wedi cael argraff ddofnarno ac aeth i fynegi ei gred ar y garreghon ac mae’r rhan fwyaf o’r geiriau’nberffaith glir heddiw ond bod llawer o gamsillafu a rhai llythrennau a’u pen i lawr.Mae’r dyddiad 1896 wedi ei naddu arnihefyd. Mae Cwm Eidda’n nodedig am eiweirgloddiau cyfoethog, yn enwedig ffermTy Uchaf. Soniais am hyn yn Y

17

Cnwpfwsogl Corn Carw Lycopodium clavatum

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 17

Page 20: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

Naturiaethwr Rhifyn 12, 2003, felly nid af iymhelaethu ’chwaneg.

Byddaf yn crwydro o’m cynefin yn buraml ac mae’n werth ‘troi’n alltud ambelldro’. Wedi bod yn crwydro arfordir Penfroac ymweld â’r Mwnt – man ddiddorol asylwi ar ambell i blanhigyn oeddwn i ddimyn gyfarwydd â nhw yma yn yr ucheldir:Llin y Llyffant (Linaria vulgaris) a’rTagaradr (Ononis repens) ac amryw oflodau’r arfordir. Ymweld â hen eglwys yMwnt sydd wedi ei chymhennu’n daclusgan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol adarllen cerdd T. Llew Jones i hen eglwys yMwnt.

I ddod yn nes adre, bûm yn cerdded ifyny am Gwm Dulyn. Gadael y car yn ymaes parcio ar gyrion Llyn a Chwm Eigiaua cherdded yr hen lwybr (maith) at LynMelynllyn. Gweld ambell i Rugiar Gochi’r chwith inni yn y grug, a braf oedd gweldeu bod yn dal eu tir yn y man anghysbellyma. Heibio i Glogwyn yr Eryr a’r henchwarel ‘hones’ neu’r chwarel ‘carreg hogi’lle mae’r hen adeilad yn furddun a’r henolwyn oedd yn troi’r ‘injan’ yno o hyd.Cyrraedd Melynllyn, sy’n gorwedd o dan ygraig fawr nid nepell o’r Foel Grach bledaeth yr awyren ‘Anson’ i lawr yn Ionawr1943. Gwneud fy ffordd i lawr at LynDulyn sydd 1747 troedfedd uwchlaw’rmôr, 347 troedfedd yn is na Melynllyn,llyn du bob amser, hyd yn oed pandywynno’r haul a’r graig serth yn codi o’idwr tua 500 troedfedd. Mae un awyreni’w gweld yn y dwr weithiau pan fo’r haularno a’r dwr heb awel, un a darodd yn ygraig adeg yr ail ryfel byd. Mae dyfnder yllyn oddeutu 180 troedfedd ac nid yw’n lley buaswn yn hoffi treulio’r nos fy hun.Mae craig yn y llyn a elwir yr ‘Allor Goch’a phetaech yn treulio noson ar hon caechweld pwy fyddai’n marw yn ystod ydeuddeg mis nesaf, ond byddai’n rhaid ichwi fod yno ar Galan Mai, noson GwylIfan neu Galan Gaeaf. Dim i mi, diolch ynfawr.

I ysgafnhau ychydig, mae Craig Dulynfel y’i gelwir yn fan diddorol yn fotanegolhefyd gyda rhai planhigion arctic alpaidd

i’w canfod yno. Mae un blodyn yn eiderfyn deheuol yna sef yr Helyglys DailGwlydd (Chickweed Willow Herb,Epilobium alsinifolium). Cerdded o LynDulyn i lawr yn ôl ar hyd yr afon fechan athroi’n ôl i gyfeiriad Eigiau gan ddod athen furddunod cyntefig Maeneira a Hafody Garreg a hen gaeau bychain bron ynrhedyn i gyd lle tyf y Clychlys Dail Eiddew(Wahlenbergia hederacea, Ivy LeavedBellflower) y byddwn yn ei ganfod ynWaen Bant Pandy Coch, Ysbyty Ifan erstalwm, ond wedi diflannu. Mae’n dal yndoreithiog yng Nghwm Dulyn a Maeneira.

Rhyw dipyn o lobscows y tro ymahwyrach, ond diolch am y cyfle. Maerhywbeth hen a newydd mewn natur o hydfel canfod darn o dderw’r gors, caled felhaearn a dod a fo adre i’w sychu a’i grafu’nlan o driog y fawnog

Yn rhydd tros foelydd heb swn trafeilioYn wir dedwydd fe af tan freuddwydio;Mynd lle’r wy’n dymuno yw fy mraint,A haint na henaint ni theimlaf yno!

18

Clychlys Dail Eiddew WahlenbergiaLlun: T. Edmondson

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 18

Page 21: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

Ar ddiwrnod perffaith o haf ym misMehefin aeth criw ohonom am dro i wylioadar o Bwllheli i Ynys Enlli ac yn ôl.’Roedd hyn yn dipyn o fenter i mi gan nadwyf yn forwr rhy dda (atgofion, nid rhyfelys, o groesi Môr y Gogledd mewnstorm) ac yn gwybod fawr ddim am adar.Beth bynnag, cefais fy mherswadio i fynd arhaid cyfaddef imi gael diwrnodbythgofiadwy.

Cychwyn o’r marina ym Mhwllheligydag un ar ddeg o ffrindiau a theimlollawer yn well yn syth o weld fod y cwch ynun moethus a solet. Allan â ni i FaeCeredigion gan ffarwelio â dau alarch achrëyr glas yn yr harbwr. Wrth nesáu atYnysoedd Sant Tudwal mynd yn agos, agosat nifer o forloi yn torheulo (oes posib?) ary graig. Rhai yn pwffian dwr wrth gwffioam le, eraill yn gorwedd yn simsan ondgosgeiddig ar ddarn bach o graig.

Ymlaen ar hyd yr arfordir a rhyfeddu aty Fulfran (Cormorant) a’r Fulfran Werdd(Shag). Cyn hyn ‘Bilidowcar’ oedd yFulfran a’r Fulfran Werdd i mi, ond wrtheu gweld ochr yn ochr ’roedd cyfle i sylwiar y gwahaniaeth rhyngddynt yn glir am ytro cyntaf. Y Fulfran yn sefyll morosgeiddig, a lliw anhygoel plu’r gwddf yndisgleirio yn yr haul. Yn ôl Iolo Williams,y Fulfran yn unig sy’n sychu ei hadenydd‘fel llong ar lawn hwyl’ – a sylwais ar ysmotyn gwyn wrth big y Fulfran syddhefyd yn ei gwahaniaethu oddi wrth yFulfran Werdd.

Ymlaen â ni tuag at Enlli a gweld yrAderyn Drycin Manaw (Manx Shearwater)enwog. Mor drawiadol yn hedfan – plu duar ei gefn a phlu gwyn, gwyn oddi tano –yn newid du/gwyn bob yn ail wrth hedfandros y tonnau. Iolo Williams yn rhoi tipyno’i hanes gan egluro fod hanner poblogaethy byd yn nythu ar ynysoedd Sgomer,Sgogwm ac Enlli.

Sylwais ar rywbeth oren ar silff yn yclogwyn. Gofynnais i berchennog y cwcham eglurhad. Wrth edrych drwy’rsbienddrych gwelais mai rhyw hen linynplastig oren oedd o yn cael ei ddefnyddiofel darn o nyth!

Wrth fy modd yn gweld yr Wylog(Guillemot) – mor osgeiddig a lliw brownbendigedig ei phlu (hi oedd fy ffefryn dwi’nmeddwl), a’r Llurs (Razorbill). ’Roedd yFrân Goesgoch (Chough) yn nythu i fyny’nuchel ar y clogwyn er nad aderyn y môr yw.

Pleser o’r mwyaf oedd cael mynd ogwmpas Ynys Enlli a gweld y ty llecawsom wyliau bendigedig dro’n ôl. OndO! ’roedd y tonnau dipyn mwy garw erbynhyn ac wrth groesi’r Swnt mi es yn weddolddistaw a dim cymaint o weiddi‘Edrychwch ar hyn!’

Panad wrth Ynys y Gwylanod amwynhau gwylio’r Pâl (Puffin) yn nythumewn tyllau ddigon tebyg i dyllaucwningod. Maent mor ddoniol a deniadolac yn gwneud i bawb wenu – dawnarbennig iawn!

Wrth ei throi hi am Bwllheli gweld haido wylanod a dwy Hugan (Gannet) yn eumysg. Dyna’r gwylanod wedyn yn eindilyn yr holl ffordd adref. Wedi’r holledrych a chanolbwyntio ’roeddwn wediblino – ond blino’n braf ar ôl ymweld âbyd hollol wahanol yn llawn hud aharddwch, byd arbennig iawn, iawn.

19

Cip ar EnlliElisabeth Lynn, Llanfynydd, Sir Fflint

Arfordir Enlli ar ddiwrnod braf. Llun: Goronwy Wynne

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 19

Page 22: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

Ffurfiwyd y prosiect cyffrous, GeoMôn,ym mis Mawrth 2005, ac mae bellach ynmynd o nerth i nerth. Dewiswyd enw’rGeobarc drwy gyfuno Geo (daeareg) gydagenw’r ynys. Gwarchod a gwella treftadaethddaearegol Ynys Môn, trwy ddod yn aelodo Rwydwaith Geobarc Ewropeaidd aGeobarciau Byd-eang UNESCO, yw prifnod y prosiect. Mae’n sail i ddatblygiadcymdeithasol-economaidd yr ynys a’ifwriad yw sicrhau datblygiad tiriogaetholcynaliadwy, trwy Geo-dwristiaeth ynbennaf.

Mae Geobarciau Ewropeaidd acUNESCO yn ardaloedd hynod âthreftadaeth ddaearegol arbennig. Mae’rdisgrifiad yn bwysig ac mae bod yn aelod oRwydwaith Geobarc yn cynnig cyfleoeddcyffrous i weithio ar brosiectau newydd adiddorol mewn partneriaeth â Geobarciaueraill. Mae Ynys Môn yn fan delfrydol argyfer bod yn Geobarc gan fod iddiddaeareg unigryw, hudol ac amrywiol, syddyn cynnwys rhai o greigiau hynaf Prydainsydd tua 660 miliwn o flynyddoedd oed!Yn nhermau daearegol, gellir ymdebyguYnys Môn i’r byd ar hances boced, gan fodcymaint o amrywiaeth o greigiau yma arddarn daearyddol mor fach!

I’r rhai hynny sydd yn addysgu maesTectoneg Platiau y CwricwlwmCenedlaethol, gellir gweld enghraifft offiniau platiau o bob math, ac mae ymweldâ’r safleoedd hyn yn dod â’r ffenomen fyd-eang hon yn fyw yn ein dosbarth awyragored. Gallwn ddangos bod Ynys Môn ynwreiddiol yn safle llorweddol Awstraliaheddiw a phrofi ei bod wedi treulio 600miliwn o flynyddoedd yn symud i’rgogledd ar gramen y ddaear i’w lleoliadcyfredol, sef 530 i’r Gogledd o’r cyhydedd.

Grwp RIGS (Safleoedd GeoamrywiaethPwysig Rhanbarthol) Gwynedd a Môn, aluniodd Partneriaeth Geoamrywiaeth YnysMôn, sef sefydliad sydd yn cynnwyscynrychiolwyr lleol o’r sectorau preifat,diwydiannol, cyhoeddus, gwirfoddol acaddysgol, a hwy a sefydlodd y prosiect.Mae 62 o aelodau gan y bartneriaeth o danarweiniad Mr John Williams, Cyngor SirYnys Môn. Ers ei sefydlu ym mis Mawrth2005, bu cynnydd sylweddol yn niferaelodau’r Bartneriaeth. Yn ddiweddarllwyddodd y Bartneriaeth i sicrhau cyllid argyfer y prosiect am dair blynedd oddi wrthLywodraeth Cynulliad CenedlaetholCymru drwy Gronfa Gynaliadwyedd yrArdoll Agregau, Cyngor Cefn GwladCymru a Leaderplus. Rydym yn hynod oddiolchgar i Ymddiriedolwyr AthrofaPritchard Jones (PJI) yn Niwbwrch amddarparu ein pencadlys, sydd yn cynnwysswyddfa, ystafell waith/gyfeiriol fawr astorfa, ar gyfer GeoMôn. Cynhaliwydamrywiaeth o weithgareddau yn ystod yflwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys teithiaucerdded ar gyfer y cyhoedd, a drefnwyd argyfer grwpiau coedwigaeth a chymunedol ageo-ddigwyddiadau diwrnod agored yn yPencadlys.

Ar yr 11eg Tachwedd sefydlir ClwbDaearegwyr Ifanc yn y PJI. Gwahoddirplant o 8 i 15 oed (gall plant 5-8 oedfynychu o dan oruchwyliaeth oedolyn) achodir cyfradd arbennig o 50c y sesiwn argyfer plant Ynys Môn. Bydd y sesiwncyntaf hwn yn gyflwyniad i ddinosoriaid odan y teitl ‘Esgyrn i ddannedd’ ar gyferplant. Cynhelir y digwyddiad fel prosiectRockwatch, sydd yn sefydliad Cenedlaetholar gyfer plant. Kate Riddington oAmgueddfa Grosvenor yng Nghaer fydd yn

20

GeoMônGeobarc Ynys Môn

Margaret Wood (Cyfarwyddwr, GeoMôn)

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 20

Page 23: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

gyfrifol am gynnal y chwech cyntaf o’rcyfarfodydd bob deufis.

Mae’r wythnos gyntaf ym mis Mehefinyn Wythnos Geobarc Rhyng-Genedlaethola byddwn yn trefnu Geo-deithiau ar gyfer ycyhoedd, cyfeiriadu yng NghoedwigNiwbwrch gyda Chomisiwn CoedwigaethCymru, digwyddiadau, sgyrsiau achystadlaethau Geocache. Hysbysebir yrhain ar ein gwefan a gellir neilltuo lle o fisEbrill ymlaen. Bydd y prosiect yn cynnignifer o ffyrdd eraill i bobl ddysgu amddaeareg arbennig Ynys Môn, gangynnwys pecynnau addysgol ar gyferysgolion (yn cael eu paratoi), hyfforddiant iathrawon ac ar gyfer grwpiau eraill mewngwahanol ardaloedd, a chynhelirdigwyddiadau a gweithgareddau i ysbrydolirhai o bob oedran sydd â diddordeb mewndaeareg. Rydym hefyd yn gobeithiocynnwys digwyddiadau i’r rhai hyn neu’rrhai â phroblemau symudedd y maecerdded i safleoedd diddorol yn anoddiddynt. Wrth i ni ddatblygu’r Geobarcgellir cael mwy o wybodaeth trwy edrych arein gwefan neu drwy ffonio MargaretWood ar 01248 440888 neu 01248810287.

Mae codi proffil geogadwraeth ar YnysMôn yn un o amcanion y prosiect hefyd, achynhyrchwyd Cynllun GweithreduGeoamrywiaeth Lleol (CGGL) fel un o’rprif ffyrdd o gyflawni hynny. Mae’rCGGL bellach yn barod i’w ddosbarthu atein partneriaid i ddibenion ymgynghori adylai hynny helpu yn arw o ran lluniopartneriaethau i wella geogadwraeth eintreftadaeth naturiol a ffurfiogweithgareddau i hyrwyddo amcanion yBartneriaeth. Rydym yn gobeithio y byddholl drigolion Ynys Môn yn ein helpu isicrhau llwyddiant y fenter hon, ac yn sgilhynny, gwneud bywyd ein hynys brydferthyn fwy diddorol, a helpu ein treftadaethnaturiol i ddenu cyllid rhyngwladol aswyddi newydd i’n harfordir creigiog. MaeGeoMôn eisoes yn Geobarc ond mae einpartneriaid yn cydweithio i sicrhaucydnabyddiaeth UNESCO Byd-eang ynystod y flwyddyn nesaf. Bydd hynny ynein galluogi i weithio gyda Geobarciau

eraill yn unrhyw ran o’r byd ar brosiectauar y cyd a sicrhau cyllid rhyngwladol.

Syr Kyffin Williams, aelod sylfaenolGeobarc a’n noddwr cyntaf, luniodd einlogo. Cyn ei farwolaeth ym mis Medi,roedd Syr Kyffin yn trefnu rhaicystadlaethau geo-gelf ar gyfer y Geobarc.Ein bwriad nawr yw ceisio trefnu rhywddigwyddiad o’r fath yn ystod WythnosGeobarc ym mis Mehefin nesaf, er cofamdano. Rydym hefyd wedi enwi ein prifystafell yn ein pencadlys yn PJI, yn YstafellKyffin, arddangosir rhai o’i ffotograffau a’isbesimenau daearegol yno er cof am einnoddwr cyntaf a’n cefnogwr brwdfrydig.Mae’r logo yn darlunio naws Geobarcdrwy gyfuno daeareg gyda diwylliant ahanes. Dengys y meini hirion ymMhenrhosfeilw sydd tua 4000 oed ac sy’ndynodi beddrod hynafol, fe dybir. Mae’rcerrig trawiadol yn cynnwys creigiau GrwpHarbwr Newydd gyda rhai haenau amlwga phlygiadau manwl sydd yn nodweddiadolo’r grwp hwn, ac ymddengys iddynt gael

Creigiau hynafol Ynys Lawd, Môn. Llun: Goronwy Wynne

21

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 21

Page 24: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

eu symud ychydig bellter ar draws y cae ogerrig brig i’r dwyrain o’u safle presennol.Lleolir y safle ar hollt mawr ar wyneb yddaear ac mae’n nodi’r ffin rhwng YnysLawd a Grwpiau’r Harbwr Newydd ogreigiau Cyn-gambriaidd.

Ni chaniateir cael Geobarciau yn agos atei gilydd, felly, ni ellir creu Geobarciaueraill yng Ngogledd Cymru. Fodd bynnag,fe allai ardaloedd eraill ymuno ag YnysMôn fel ‘ardaloedd Porth’ neu drefi Porth.

Trwy wneud hynny gellid ystyried yrardaloedd hynny am gyllid yn y dyfodol argyfer prosiectau sydd yn cyd-fynd â rhaiYnys Môn. Byddai Parc CenedlaetholEryri a threfi arfordirol Gogledd Cymru yngyfranogwyr delfrydol i ymuno â ni yn yfenter bwysig hon ac rwyf yn gwahoddunrhyw ardal sydd â diddordeb i gysylltu âni i drafod y mater ymhellach.

22

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 22

Page 25: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

Cyfeiriwyd at y diweddar Ddoethur R.Tudur Jones fel ‘rhychor’ gan GwynThomas, ein cydymaith cyfrangar, yn uno’i gerddi. Yr ych a arferai gerdded yrhych, ac wrth wneud, yn dal y pen trymaf,oedd hwn, mewn cyferbyniad a’r gwelltoroedd yn gyfarwydd â thynnu ar y cefnneu’r gwellt. Ceir hefyd ychen teithiog aphrofiad o’r rhych a’r cefn. Nid oeddCyfraith Hywel Dda yn caniatáu gweithio’rychen ar ôl echwydd, ac y mae’r hen ystyri’r gair fel gorffwysfa rhag haul canol dydd,yn dystiolaeth i’r gofal tuag atynt, felanifeiliaid pwysicaf y fferm yn yr hen fyd.Ceir cofnod yn nyddiadur Bulkeley oDronwy, Sir Fôn ‘iddo ddanfon yr ycheni’r traeth, er mwyn iddynt gael ymdrochiyn y môr’. Nid oes ond yr enw a roed ar yceffyl a gerddai'r cefn i gofio am y geilwadgynt, sef y ‘ceffyl dan law’. CyfeiriaFfransis Payne at ddarluniau wedi eu cerfioar greigiau yn yr Alpau o ddynion ynaredig efo ychen yn Oes y Pres, ac mae’ngofyn a oeddynt yn cyd-fynd â’r hyn syddyn wybyddus am yr aredig cynnar yn ywlad hon? Ei ateb yw, eu bod yn cyfateb

i’r dim â phrif nodweddion dull o drefnu’rwedd i aredig a oroesodd i’r bedwareddganrif ar bymtheg.

Mae George Ewart Evans, brodor oAbercynon, yn tybio mai parhad o drefnhyn o lawer yn Suffolk oedd yr arfer ibeidio â dadfachu ganol dydd ond i ddalati hyd hanner awr wedi dau y prynhawn,heb ddim ond un ysbaid o ugain munud ary dalar i’r ceffylau am un ar ddeg y bore.Credai bod rhaid mynd yn ôl at yr ychen achafodd gadarnhad o hyn gan i hengertmon fynegi’r farn bod y daliad hir ynhepgor dadfachu yng nghanol y dydd.Mwy diddorol byth, oedd iddo gyfeirio atyr ymweliad dyddiol â’r cael fel siwrnai(journey).

Yn yr Oesoedd Canol, yr erw neu lainoedd yr hyn y byddai gwedd o ychen yn eiaredig ar gyfartaledd mewn diwrnod.Gelwid hyn weithiau yn jurnalis mewnLladin mynachaidd neu journel mewnFfrangeg h.y. yr hyn a ellid ei aredig mewndiwrnod. Dylid ychwanegu hefyd bod ySuffolk Punch ‘the sorrel horse’ adefnyddio’r hen enw am ei liwnodweddiadol, sydd wedi goroesi ardafarnau yn Suffolk, wedi ei fagu o ‘Crisp’sHorse of Ufford’, i allu gweithio oriau hir o6.30 a.m. i 2.30 p.m., gyda’i gorff dwfn adigon o fwa i’r asen.

Cyfraniad mawr G.E.E. oeddgweithredu ar y gosodiad gan y DrI.C.Peate na fu hi erioed yn rhy hwyr igasglu a chofnodi’r traddodiad dilys oddiwrth grefftwyr o bob math. Bu ef ynffodus yn ei gymdogion ym mhentrefgwasgaredig a diarffordd Blaxhall ynSuffolk, lle deuai arogl halen ar fin y gwyntdros y rhostir o’r môr chwe milltir i ffwrdd.Nid yn unig ’roedd Robert Savage yr olaf o

23

Gwaith ac IaithGwyn Jones

Pen y Garn, Ceredigion

Aredig gyda gwedd o geffylau; y ‘rhychor’ yw’r um ary chwith a’r ‘gwelltor’ ar y dde, yn cerdded y cefn.

Llun: Farmer & Stock-Breeder

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 23

Page 26: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

24

linach hir o fugeiliaid ond yr oedd hefyd yngwbl gartrefol ynglyn â hwsmonaeth y tirâr a chylchdro cnydau. Felly hefyd eiwraig Priscilla, yn ei gwybodaeth ymarferolo’r drindod sylfaenol at gynhaliaeth yteulu, sef pobi, bragu a halltu cig moch.Nid oedd hyn ond dechrau’r daith,oherwydd cyflwynwyd y cyfan mewntafodiaith bur oedd bron mor hen â’rwybodaeth ei hun, am glychau defaid acati, ac yn dwyn atgofion i’r cyfarwydd oChaucer, Clare, Spenser, Shakespeare aThomas Tusser.

Mae G.E.E. yn cofnodi atgofion AdrianBell o’r ffordd y bu i hen gertmon eigyfarwyddo ar sut i arwain caseg rhwngrhesi o blanhigion ifanc: ‘You lead that mareas slowly as ever foot can fall’. Brawddeg feroedd hon yn cynnwys holl nodweddion yrhen ddiwylliant yn glir a byw, am ei bod ynllawn o ddelweddau bywyd bob dydd, ahynny yn iaith Shakespeare. Daw’r cymal‘as softly as foot can fall’ yn ‘As you like it’.Mae’n cyfeirio at farn R.G.Stapledon, maiunwaith y disodlir yr hen ddiwylliantmaterol o’r cof, amddifadir myfyrwyrllenyddol o’r ddolen gydiol rhyngddynt arhannau cyfoethocaf eu treftadaeth. Mae’nnodi mai John Bunyan, wrth ddilyn yCyfieithiad Awdurdodedig o’r Beibl, oeddgyda’r olaf i ddefnyddio iaith blaen y wladyn gofiadwy. Mae’r iaith lafar mor irheddiw yn Rob Roy a phan ysgrifennoddWalter Scott, arloeswr gyda Dickens mewntafodiaith, y llyfr. Gallaf i ategu hyn.

Bu Sam Friend, hen gertmon ffraeth, yngyfaill cyfrangar arall i G.E.E. Deuai’rwybodaeth mewn cymalau o dafodiaith,ond yn aml yn farddoniaeth bur. Medr yraradrwyr a’u gofal am y ceffylau ‘ddaw ohyd i’r golau’. Yn wir, yr oedd cadwynanweledig rhwng y dyn a’r ceffyl yn aml.Adroddir am gertmon yn cysgu yn y gwelltwrth ochr y ceffyl a’i ben ar ei garn acyntau uwch ei ben fel cerflun heb symud.Daeth G.E.E. o hyd i lawer o gyfrinachau’rhen gertmyn a feddai’r gallu nid yn unig iddenu ceffyl ond hefyd i’w rwystro rhagsymud o’r fan, trwy gyfuniad oddefnyddio gwahanol oeliach ac weithiau’rddefod o baratoi asgwrn llyffant i dderbyn

y cemegolion. Cymryd mantais o ffroengref y ceffyl oedd y gwir gyfrinach ond etogallai’r hen gertmyn hefyd uniaethu’n llwyrâ’r ddefod [Mae defodau o’r fath yn fwydealladwy ar ôl gwaith arloeswyr felMalinowski].

Dilynwyd dadansoddiad clasurol AlwynD. Rees o’r drefn gymdeithasol ynLlanfihangel yng Ngwynfa (Rees 1950) ganlyfr ar Aberporth, Tregaron, Aberdaron aLlanuwchllyn (Davies & Rees 1960).Torrwyd tir newydd gan David Jenkins ynei hanes o Aberporth wrth iddoddosbarthu’r brodorion yn ôl eu bucheddac fe’i dilynwyd gan waith cynhwysfawrganddo ar y gymuned amaethyddol yngngwaelod Ceredigion tua chan mlynedd ynôl. Defnyddir priod-ddulliau yn aml ihwyluso’r dadansoddiad cymdeithasol ganeu bod yn rhan o wead bywyd bob dyddmewn ardal wledig. Cyferbynnir bachgentew i ‘lo yn sugno dwy fuwch’, tra ’roeddangen ‘codi rhastal’ gwr boliog. Siaradwrsoniarus heb sylwedd fel ‘cachgi mewnstên’, tra bod gwr di-nod ‘fel mesen ymmola hwch’. Cyfeirir at farwolaethddisymwth fel ymadael ‘rhwng llaw allawes’, sydd yn ein hatgoffa o ddywediadtebyg gan J.C. Jones, Drws Cae’r Gwenyn,Llanuwchllyn, sef ‘cafodd groesi’r afonmewn lle cul’. ‘Unwaith y flwyddyn ylleddir mochyn gan bobl y tai bach’ syddyn llinyn mesur o adnoddau’r ‘ty moel’(Arfon).

Mae’n werth ystyried rhan o’r rhagairgolygyddol i’r llyfr ar y pedair ardal wlediguchod. Pwysleisir bod y pedwar awdur ynfrodorion o Gymru wledig, yn GymryCymraeg ond iddynt hefyd fyw a gweithiomewn gwledydd eraill, sydd yn eu galluogii ddychwelyd at y diwylliant yn wrthrychol.Astudiaethau o’r diwylliant ‘oddi mewn’ydynt yn y bôn, serch hynny, y Cymro yngweld ei hun. Maent yn gyfarwydd â’rgwerthoedd a goleddir gan aelodau’rgymdeithas, sydd allan o gyrraedd pobl o’rtu allan iddi. Nid damwain yw’r ffaithiddynt gyfeirio llawer at y capeli a’rgwerthoedd a gynrychiolir ganddynt, tramewn astudiaeth o bentref ar y Goror gan

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 24

Page 27: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

25

Tir oedd gynt yn ddiwerth gan mor drwchus y rhedyn a niferus y trogod: chwistrellu, codi cerrig a thrin yrwyneb yn unig ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Mynydd Llwynwallter o dan y Garn Wen ar y Foel Goch yngNgogledd Ceredigion.

estron, cyfeirir fwyaf at y clwb pêl-droed,llywodraeth leol a’r carnifal.

Tra’n cerdded tu ôl i Dre’r Ddol ym misMedi, cyfeiriodd ein Cadeirydd at y tirluno’n blaen, lle ceid gwyrddlesni rhwng craig,cors a choed fel brithwaith, gair sydd hefydyn cyfleu’r amrywiaeth a’r rhychwant ofewn anthropoleg. Bu gwyrddlesni ynsymbol o adnewyddiad ers y Dyn Gwyrddyn y Canol Oesoedd. Yr oedd cysylltiadpobl bwysig yn y gymdeithas fel gofaint âthân, oedd yn arwain at wyrddlesni, trwyddylanwad huddygl fel gwrtaith ac efallaimai glanhawr simne oedd y Dyn Gwyrdd.Daw John Barleycorn yn fyw eto ar ôl eigladdu. Mynegwyd y peth yn fyw iawn ganffermwr fel ‘y gyfrinach’, wrth iddo weld yregin cyntaf yn ymddangos mewn caellwydaidd. A ellir honni mai dyma’r hynsy’n ein gwahanu ar y blaned hon ers ugainmil o flynyddoedd oddi wrth weddill ybyd? Roedd mesur o ddewiniaeth ynperthyn i’r glanhawr simne, oherwydddysgwyd plant i’w gyfarch yn weddus.

Yn ôl yr Athro W.J. Gruffydd, nid oeddyn rhaid i bobl beidio â siarad iaith, iddifarw i bob pwrpas, os nad adnewyddid hi’nbarhaus gan dafodiaith fyw a phriod-ddulliau traddodiadol. Gall fod mor farw â

hoelen mewn drws, sydd yn gymhariaethaddas, gan y gall yr hoelen symud fel ygwna’r drws, ond nid yw hi yn cyffro.

Ffynonellau

Payne F.G., 1947, The Plough in AncientBritain: Archaeological Journal.Jones Gwyn 1999, Nid ar redeg y maearedig: Fferm a Thyddyn: Rhif 23. Evans G.E., 1993, The Crooked Scythe: AnAnthology of Oral History: Faber & Faber.Evans G.E., 1960, The Horse in the Furrow:Faber and Faber.Evans G.E., 1987, Spoken History, Faberand Faber.Rees A.D., 1950, Life in a WelshCountryside, University of Wales Press.Davies E. & Rees A.D. Ed. 1960, WelshRural Communities, University of WalesPress.Jenkins D., 1962, Trefn Ffarm a LlafarGwlad: Ceredigion, Cyfrol iv, 3.Jenkins D., 1971, The AgriculturalCommunity in S-W Wales at the turn of theTwentieth Century, University of WalesPress.Peate I.C., 1972, Tradition and Folk Life:A Welsh View: Faber & Faber.

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 25

Page 28: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

26

1. Yn oer drwch ar dir uchel – daw â’i gen Wedi Gwyl Fihangel,

A daw i’r coed fel lleidr cêlGan eu diosg yn dawel.

2. Ar fergoes araf, wyrgam – y nesâYn swil ac yn wenfflam:

Coch y gwin yw’r un dinamA phlu ei fynwes yn fflam.

3. Cwrlid gwynnach na’r carlwm, - y gaeafYn gweu rhyfedd batrwm:

Ac wele dan ei gwlwmUnlliw’r coed â llawr y cwm.

4. Heddiw pan lapia RhagfyrBlanced am ddaear glaf

’Rwyt ti mor goch â pherllanDoreithiog ddiwedd haf.

Paham y mynni wridoDdydd geni’n Ceidwad ni?

A’i am mai’i waed a gochoddGynnau dy bigau di.

5. Adeg dysgub ysgubor, - hir gyni,A’r Gwanwyn heb esgor;

Y trist wynt yn bwyta’r stôrHyd dim – rhwng dau dymor.

Y Gaeaf a’r BarddCystadleuaeth dymhorol gan Eluned Roberts, Rhuthun

Diolch i Lun am ein herio unwaith eto. Y dasg yw enwi testun y gerdd, a’rawdur. Atebion i’r Golygydd erbyn Mawrth 1af 2007.

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 26

Page 29: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

27

6. Mewn cwter ar ddisberod – tegan tristGwynt y rhew a’r gawod;

Ddoe yn hardd, heddiw’n ddi-nod,Ddoe yn dirf, heddiw’n darfod.

7. Dydd â min i’w dywydd mawr, - dydd eiraDydd oerwynt echrysfawr;

Tywynodd gwta unawrA’i nos yng nghynffon ei wawr.

8. Oblegid pan ddeffroaisAc agor heddiw’r drws

Fel ganwaith yn fy hiraeth,Wele’r ……….. tlws,

‘Oll yn eu gynnau gwynionAc ar eu newydd wedd

Yn debyg idd eu HarglwyddYn dod i’r lan o’r bedd’.

9. Y mis y gwelsom Iesu – yn ei grud,A gwawl gras o’i ddeutu;

Mis gwyn, a mis i ganuCarolau a chlychau lu.

10. Gwae y fedwen pan gyfodo – gwae’r môr,Mae grym aruthr ynddo;

Y cawr yw, ond mae’n crioYn null clown yn nhwll y clo.

11. Oherwydd clochdar balch dy bigA’th drem drahaus ar dir y lord,

Mi fynnwn heno gael dy gig Yn rhost amheuthun ar fy mord;

A byw yn fras am hynny o droAr un a besgodd braster bro.

12. Pren y plant a’r Santa, - a’i wanwynYng nghanol y gaea’;

Ni ry’ ffrwyth nes darffo’r ha’,Nid yw’n ir nes daw’n eira.

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 27

Page 30: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

28

Rhywogaeth Nifer o gofnodion (allan o 10)

Ardal A Ardal B

gyda gwastraff pl heb wastraff plwm amlwg

Minuartia verna 10 -Thymus polytrichus 10 7Festuca ovina 9 9Rumex acetosella 9 -Plantago lanceolata 8 7Bellis perennis 4 6Carex caryophyllea 4 4Cerastium fontanum 3 3Carex flacca 2 9Pilosella oficinarum 1 3Galium saxatile 1 2G. verum 1 -Cynosurus cristatus - 6Briza media - 5Trifolium bubium - 4Achillea milefolium - 4Viola riviniana - 3Lotus corniculatus - 3Sanquiorba minor - 2Ulex europaeus - 2Cirsium acaule - 2Euphrasia officinalis - 2Anthoxanthum odoratum - 2Polygala vulgaris - 1Calluna vulgaris - 1Cirsium arvense - 1Carex pulicaris - 1Hypericum pulchrum - 1Pteridium aquilinum - 1Nifer y rhywogaethau 12 27

Cawsom ddiwrnod gwahanol ar Sadwrn braf ym mis Mehefin ger Rhes-y-cae ar FynyddHelygain yn Sir y Fflint o dan arweiniad Dr Goronwy Wynne. Y mae Mynydd Helygain yn ardal eang o dir comin ar y garreg galch, ardal lle bu cloddioam blwm dros y canrifoedd, a lle ceir chwareli calchfaen enfawr hyd heddiw. Mae defaidyn pori’r rhan fwyaf o’r mynydd.Treuliwyd y bore yn dod i adnabod nifer o blanhigion trwy ddefnyddio ‘allweddau’ o’rllyfrau safonol, a dod yn gyfarwydd â’r eirfa fotanegol syml. Buom yn sylwi ar ygwahaniaethau sylfaenol rhwng y gweiriau, y brwyn a’r hesg. Nodwyd sut i adnabod tairysgallen, Cirsium arvense Ysgallen Gyffredin, Cirsium vulgare March Ysgallen a Cirsiumacaule Ysgallen Ddigoes – y ddwy gyntaf yn gyffredin iawn a’r llall yn hynod o brin yn yrhan yma o’r wlad. Mae llawer o hen domennydd plwm ar y rhan yma o’r mynydd a’r cyfartaledd uchel oblwm yn y pridd yn wenwynig i lawer o blanhigion. Buom yn cymharu dwy ardal fechano fewn ychydig fetrau i’w gilydd – un gyda gwastraff plwm yn amlwg drosti, a’r llall hebddim. Cymerwyd 10 cyfrifiad ar ffurf hapsamplau (random quadrats) o bob un, gweler yffigyrau canlynol:

Llysieua ar Fynydd HelygainEluned Roberts, Rhuthun

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 28

Page 31: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

29

Gwelwn fod nifer y rhywogaethauar y tomennydd plwm lawer ynllai nag ar y tir cyfagos, ond bodrhai planhigion megis Minuartiaverna (Tywodlys y Gwanwyn) aRumex acetosella (Suran yr Yd) yngyfyngedig i’r tomennydd. Mae’r arolwg syml yma ynawgrymu pob math o ymchwilpellach!Diolch, Goronwy am ddiwrnoddifyr.

Llysieua ar Fynydd Helygain, Mehefin 2006. Llun yr awdur

Tywodlys y Gwanwyn Minuartia verna – nodweddiadol o’r hendomenni plwm. Llun: Goronwy Wynne

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 29

Page 32: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

30

Derbyniais y ddau lun yma yn ddiweddar yn cofnodi dau blanhigyn digon anghyffredinsy’n tyfu ar yr arfordir ger Prestatyn, rhwng y gwersyll carafannau a’r twyni tywod.

Blodau prin y glannau

Llewyg yr Iâr Hyocyamus nigerHenbane

Planhigyn trawiadol yr olwg sy’n tyfu ardir agored, tywodlyd ger y glannau acweithiau ar lecynnau lle ceir tail gwartheg,megis buarth fferm. Mae’n perthyn i’r unteulu â’r tatws a’r tomato (Solanaceae),ond fel eraill o’r teulu y mae’n wenwynig.Ceir yr alkaloid hyoscine o’r dail. Dyna addefnyddiodd yr enwog Dr Crippin yn1910 i ladd ei wraig.

Tafod y Bytheiad Cynoglossumofficinale Hound’s-tongue

Mae hwn yn perthyn i’r Boraginaceae,teulu’r Cyfardwf (Comfrey), Tafod-yr-Ych(Borage) a’r Scorpionllys (Forget-me-not).Tyf fel afer ar dir calchog, yn fwyafarbennig ar bridd sych, agored ger y môr.Mae iddo arogl cryf, yn atgoffa’r rhanfwyaf o bobl o lygod bach. Dywedir iddogael ei enwau Cymraeg a Saesneg o’r hengoel bod rhoi deilen ohono yn eich esgidyn cadw’r cwn rhag cyfarth!

Lluniau gan Audrey Moore

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 30

Page 33: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

31

Taith ysgafndroed oedd honno, o’r ty i’rlluarth ac offer garddio ar f’ysgwydd. Aethpedwar tymor hau a phedwar cynhaeafheibio ers y daith gyntaf pan gefais randirar rent gan Gyngor Dinas Caerdydd.Blodau a rhiwbob oedd prif gynnyrch ytenant o’m blaen ac, i raddau, cefais fod yrhan helaethaf o’r darn tir megis lawnt i’wthrin am y tro cyntaf. Lluarth, sef garddlysiau, y dymunwn i’r rhandir fod. Yn llyfrrhagorol J.E. Jones, Llyfr Garddio, Llyfrau’rDryw, 1969, y cefais y gair lluarth am arddlysiau. Mae’n llyfr mor gyfoes, byddaicroeso i argraffiad arall, mae’n siwr.

Daeth y cornel pellaf yn gartref i domenyr ardd, yn ei ffrâm sgwâr o hen ddrysau.Yno yn gyson yr awn â gwastraff llysiau aphorfa lawnt ffrynt a chefn y ty. Yn ôl yprofiadol yn y pethau hyn, mae angen‘troi’r domen er mwyn cael y gwrtaithgorau’. Yn gynnar un gwanwyn euthumeto’n ysgafndroed o’r ty i’r lluarth gydagoffer garddio ar f’ysgwydd a’m bwriadoedd troi’r domen. Wedi symud ygorchudd a fu’n helpu’r broses drwygadw’r gwres yn uwch, yno yr oedd golygfahyfryd ac annisgwyl - yn llonydd ac yn syn,yn ddisglair ac yn ddi-swn, ar yr wyneb yroedd dwy neidr ddefaid (slorwm) fel dwydorch o aur. A dyna ddiwedd ar droi’rdomen y diwrnod hwnnw. Roedd y daithyn ôl i’r ty ar droed ysgafnach fyth a’r offeryn fodlon segur ar f’ysgwydd.

Y dyddiau a’r wythnosau dilynol bûmyn meddwl llawer beth i’w wneud gyda’rsefyllfa annisgwyl: nid tomen gardd ynunig ydoedd bellach - roedd yn gartref i’rymlusgiaid swynol hyn. Cyn i mi wneuddim, ar wahân i edrych arnynt ynachlysurol, trodd y domen yn feithrinfa acaeth y ddwy neidr ddefaid yn bedair; daethdwy fechan tua dwy fodfedd yn gwmni i’rrhieni ac yn atyniad ar ben atyniad i bawbarall. Erbyn yr hydref, yr oedd wyth yn y

teulu a’n diddordeb ni ynddynt wedi tyfuyr un fath. Yr her yn awr oedd sicrhaucartref iddynt ac, os yn bosibl, cael ffordd iddefnyddio’r gwrtaith heb ymyrryd arddedwyddwch y teulu.

Meddyliais y gallwn eu denu at domenarall, wrth ochr y gyntaf. Gweithiodd ycynllun hwnnw’n dda: gydag amser,symudasant yno. Cawsant hwy gyflenwadnewydd o fwydon a minnau grugyn owrtaith da. Erbyn y gwanwyn canlynolcynyddodd eu nifer i un deg pedwar. Ynawr, yn 2006, maent wedi symud i’wtrydydd cartref, ac wedi mwy na dyblu oran nifer. Yn ddiweddar, llwyddais i gyfriftri deg - rhai yn iau na blwydd oed, rhai ynhyn ac eraill yn eu llawn dwf. Aeth uncartref yn rhy fach, mae’n siwr. Maentbellach mewn dau le - un teulu yn nhomennewydd yr ardd ac un arall mewn pentwr oglotasau a ddaw, maes o law, yn bridd i’wdychwelyd i’r ardd. Bu Iona, Carwyn,Dyfan a Sioned, a’u rhieni, wrth eu boddyn syllu ar y torchau aur byw ac at eusymudiadau tawel, diffwdan. Byd natur ynei elfen ac yn rhoi mwynhad i ninnau.

Ymweliad â’r arddDewi Lloyd Lewis, Rhiwbeina

Neidr Ddefaid neu’r Slorwm Anguis fragilis

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 31

Page 34: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

32

Wyddech chi fod Dyffryn Nantlle yngadarnle i un o’r planhigion gwyllt prinnafyng Nghymru, a’i fod yn tyfu mewn mwynag un safle? Rhedynen fechan ysgafndryloyw lluosflwydd yw’r RhedynachTeneuwe Tunbridge (Hymenophyllumtunbrigense) sy’n tyfu ar y mynydd-dirmewn hafnau llaith cysgodol ar greigiauasidig, ac weithiau ar foncyffion coed.

Mae bron chwarter canrif wedi myndheibio ers i mi ddod ar ei thraws am y trocyntaf yn Nyffryn Nantlle, a hynny arGlogwyn-y-garreg, uwchlaw Drws-y-coed.Yno, yn llechu rhwng y meini, fe’i cefais yncarpedu cilfach laith gan addurno’r llwydnicaled gyda’i gwyrddni cyfoethog. Ymhenblwyddyn, gwelais fwy nag un safle lletyfai’r rhedynen hon ymysg y creigiau ar yllethr uwchlaw safle hen waith coprSimdde’r Dylluan yn Nrws-y-coed. Wedi imi gael caniatâd y tirfeddiannwr, bûm ynsbrowta ar hyd ceunant Afon Talymigneddgan ddarganfod tyfiant toreithiog o’rRhedynach Teneuwe yma hefyd. Gan fymod yn un sy’n hoff o droedio’r ucheldir,byddaf yn aml yn ymweld â mynydd yGraig Goch, Cwm Silyn a Chrib Nantlle,ac wrth ddringo o Gwm Dulyn unwaithdarganfûm safle arall eto o’r rhedynen hon.

Mae’n wybyddus bod y planhigyn hwnyn ffafrio cynefin o naws asidig, a dyna,mae’n debyg, sydd i gyfrif am y nifer osafleoedd sy’n bodoli yn Nyffryn Nantllea’r rheini mor agos i’w gilydd. Ymhlith ysafleoedd eraill lle y’i gwelais arfynyddoedd Eryri mae rhwng clogfeinienfawr Tryfan, Ceunant Mawr gerLlanberis, Nantgwynant a CheunantLlennyrch ger Maentwrog, yr oll yn fannaucysgodol a llaith.

Er goroesi casglu anghymedrol y 19ganrif mae dosbarthiad daearyddol yrhedynen hon wedi bod yn weddol gysondrwy Brydain, ond bu gostyngiad

sylweddol yn ardaloedd de-ddwyrainLloegr ers 1950 yn dilyn colli sawl coedwiggyntefig. Mae’r ffaith bod y cyfan osafleoedd y Rhedynach TeneuweTunbridge a nodir uchod o fewn ffiniauParc Cenedlaethol Eryri yn galonogol argyfer sicrhau dyfodol ein planhigionbrodorol.

Aur o Dan y RhedynDewi Jones, Pen-y-gros, Gwynedd

Hymenophyllum tunbrigense

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 32

Page 35: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

33

• Yn ddiweddar, darganfuwyd derwen hynafol ym mhentref Mamheilad, i’r gogledd oBont-y-pwl. Mae’r boncyff yn 10m, a chredir bod y goeden oddeutu 800 oed. Mae’ndal i ddeilio bob blwyddyn.

• Mae cynlluniau ar droed i warchod y Wiwer Goch yng nghanolbarth Cymru, yngnghoedwigoedd Tywi, Irfon a Chrychan – lle mae’n dal i grafu byw, ond o danfygythiad gan y wiwer lwyd.

• Yn ôl yr awdurdodau yn Kew mae Castanwydden y Meirch Aesculus hippocastaneumneu goeden ‘concars’ o dan fygythiad gan wyfyn o’r enw Cameraria ohridella. Mae’rlindys yn turio i mewn i’r ddeilen, ac yn Kew cafwyd chwe chenhedlaeth o’r gwyfyn ofewn ychydig fisoedd.

• Ym mis Tachwedd agorwyd cuddfan newydd i wylio adar ar Gors Caron (Cors GochGlan Teifi) ger Tregaron. Ymysg yr adar y mae siawns dda i’w gweld y mae’r BodTinwen, Alarch y Gogledd, y Barcud Coch, y Creyr Bach, a’r Cudyll Bach a heidiau oGorhwyaid a Chwiwellod.

• Hefyd ym mis Tachwedd bu criw o wirfoddolwyr yn tacluso Llyn Padarn gerLlanberis. Casglwyd dros 20 sachaid o ysbwriel - gwastraff ymwelwyr gan mwyaf - o’rdwr a’r dorlan.

• Darganfuwyd Saffrwm y Ddôl Colchicum autumnale (Autumn Saffron) ar dir calchogym Mhant-y-mwyn ger Yr Wyddgrug ym mis Medi eleni. Mae’r blodyn hardd hwn yneithriadol brin yng Nghymru.

G.W.

Wyddoch chi?

Saffrwm y Ddôl Colchicum autumnale

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 33

Page 36: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

34

Cefn BereCae’r Deintur

Dolgellau

3 Tachwedd 2006

Annwyl GoronwyBu 06 yn flwyddyn ryfedd yn wir. Nid wyf yn cadw yr un math o gofnod tywydd ond ynfy nghof mae cyfnodau o law trwm, gwres llethol ac erbyn yr wythnos yma rhew caled.Ond yr wyf yn sylwi ar effaith y tywydd ar yr ardd a’r wlad o’n cwmpas. Fedra i ddimcofio gweld cymaint o fes mor gynnar ar y derw, na chwaith gnau ar y cyll, na sypiau ohadau asgellog ar yr ynn, na chystal cnwd o aeron coch ar y celyn. Mae’r afalau surionyn felyn ar y coed, a’r drain duon yn pwyso o eirin tagu a’r wawr lwydlas yn parhau ar yffrwythau duon. Yn yr ardd mae gwair y lawnt yn dal i dyfu, a’r genhinen Bedr (Narcissusbulbocodium) o Morocco mewn blodau gryn ddeufis o flaen ei hamser arferol, a gellesgAlgeria (Iris unguicularis) yr un fath.Ar y llaw arall mae lliwiau’r hydref dipyn yn hwyr. Rwyf yn ffortunus o fyw yng ngolwgisfryniau coediog Cadair Idris, a medru gwerthfawrogi patrwm lliwiau cynnil y coedcollddail. Cychwynnodd y lliw yn gynnar eleni efo dail y bedw yn melynu ac yn crino yny sychdwr am fod y coed yn gwreiddio yn agos i’r wyneb, ond daeth y glaw i achublliwiau’r gweddill hyd yma. Mae’n ddiddorol deall rhywfaint o’r hyn sy’n digwydd. Maecoed collddail yn paratoi at y gaeaf di-haul trwy ollwng eu dail. Maent yn ffurfio haenenfwrw rhwng coes y ddeilen a’r brigyn, sy’n achosi i’r ddeilen golli ei lliw gwyrdd sef ycloroffyl. Mae hwn trwy’r haf wedi cuddio lliwiau eraill sydd oddi tano, a rheiny wedynyn dod i’r amlwg, melyn ac oren o’r carotenoidau a phorffor a coch o’r anthosyaninau. Ytywydd gorau i hybu’r broses hon ydi’r dyddiau heulog a’r nosweithiau oer rydym wedi’umwynhau yn ddiweddar. Yn yr ardd mae’r holl blanhigion sydd wedi ymsefydlu yma owledydd fel Siapan a Gogledd America yn ychwanegu at y lliw ac yn gwneud y tymor ymao’r flwyddyn yn hynod bleserus. I mi mae llawer mwy o ramant mewn chwedl un olwythau brodorol Gogledd America’n egluro’rnewid fel y sonia O.J. Harris yn ei lyfr Maples:Helwyr ieuanc y Llwybr Llaethog yn lladd yr ArthFawr efo seren gynffon a’i gwaed yn syrthio ar ycoed a throi’r dail yn goch. Wedyn torri’r ArthFawr yn ddarnau a’i choginio yng nghrochanSeren y Gogledd. Yn eu blinder syrthiodd yrhelwyr i gysgu a berwodd y crochan trosodd a’rsaim yn goferu dros y coed a throi gweddill y dailyn felyn. Mae’n siwr bod pob gwyddonydd ynwfftio at y ffasiwn ffwlbri. Cofion Maldwyn Thomas

Llythyr

Lliwiau’r hydref. Acer dissectum

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 34

Page 37: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

Beloved Tywi a Visual JourneyKen Day

Gwasg Gomer 2006

96 tud. clawr caled a siaced lwch

£19.99

Arddangosfa o ogoniant Dyffryn Tywi wrth olrhain taith yr afon o’itharddiad nid nepell o Ystrad Fflur nes iddi lifo i Fae Caerfyrddin a geir yma ganKen Day – ffotograffydd proffesiynol sydd bellach wedi ymgartrefu yn Llandybie ar ôlllwyr ymgolli ym mhrydferthwch y Sir. Rhennir y llyfr yn bedair rhan a cheir map syml ar ddechrau pob rhan i ddangos lleoliadcyfres o luniau trawiadol - i gyd ac eithrio dau yn waith yr awdur. I ychwanegu at nawsac awyrgylch ei luniau dewisodd yr awdur, yn ddoeth a deallus, ddetholiadau amrywiol owaith deunaw o bobl leol sydd, fel yntau, yn ymhyfrydu mewn gwahanol agweddau o’rdyffryn. Mae’r erthyglau i gyd yn ystwyth a chywrain eu hiaith. Gresyn er hynny nad oessôn am rai o feirdd a llenorion y Sir.Wrth ddilyn cwrs yr afon sonnir am y canlynol:• bywyd gwyllt, anifeiliaid, adar a bywyd cefn gwlad• hanes y Sir – hanes Llewelyn ap Gruffudd Fychan a’r cerflun trawiadol yn

Llanymddyfri. Daw enwau fel Rhodri Fawr, Hywel Dda, Rhys ap Tewdwr a’rArglwydd Rhys i’r amlwg a cheir hanes Dinefwr, lle sy’n treiddio’n ddwfn i’nhymwybyddiaeth fel cenedl.

• archeoleg y Sir, hen gestyll a hen eglwysi • cyfraniad Pantycelyn i lenyddiaeth• bywyd diwylliannol y Sir a’i hiaith - erthygl ddiddorol iawn am darddiad yr enw Tywi.

Hoffaf yn fawr erthygl galonogol Owain Siôn Gruffydd, un o blant y dyffryn sy’nymfalchïo yng Nghymreictod y Sir

• pysgod yr afon a’r pleser o bysgota ynddi• hanes y gerddi yn Llanarthne ac Aberglasne• ambell daith ddiddorol i’w dilyn Ceir gan yr awdur ei hun:• grynodeb o hanes yr hen ddyffryn o Oes yr Iâ hyd at y presennol• nodiadau cynhwysfawr am y cyfranwyr ac am y lluniau a’u lleoliad• nodiadau technegol ar y ffotograffiaeth fydd yn apelio at y rhai sy’n ymddiddori yn y

maes hwnApêl fwyaf y llyfr i mi yw lluniau trawiadol Ken Day. Dyma feistr ar ei grefft yn meddu’rddawn a’r amynedd i ddal golau, lliw, patrwm ac awyrgylch. Gwelir y dyffryn yn yr haul,y glaw a’r niwl a bron na ellir clywed swn yr afon mewn ambell lun. Hawdd gweld sut yrhawliodd y dyffryn yr enw ‘Gardd Cymru’. Eto, siomedig efallai yw’r lluniau o hen gapel

35

Adolygiadau

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 35

Page 38: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

Soar y Mynydd a’r draphont yng Nghynghordy – gwell fyddai gennyf eu gweld yn erbyneu cefndir.Mae’r siaced ddeniadol gyda’i chlytwaith o ddarluniau lliwgar yn dal ein sylw. Pleser ywgafael yn y papur sgleiniog ac mae graen ar y cynhyrchu. Dyma drysor o lyfr ‘bwrddcoffi’ fydd yn siwr o blesio, ac fel y dywed Mererid Hopwood yn ei Rhagair –“........mwynhewch y lluniau ar bob cyfrif ond os cewch ryw awr o hamdden dewch draw

am daith a wnaiff eich cyfareddu.” Heulwen Bott

Rhagor o Enwau AdarDewi E Lewis

Gwasg Carreg Gwalch 2006

79 tudalen, clawr meddal

£4.95

Bu nifer o gyhoeddiadau yn y gorffennol yn rhestru enwauCymraeg ar adar. Daw’r rhain i gof (dichon fod eraill):Meirion Parry Enwau Adar 1963P. Hope Jones & E. V. Breeze-Jones Rhestr o Adar Cymru 1973Cymdeithas Edward Llwyd Creaduriaid Asgwrn Cefn 1994Yn 1994 prynais lyfr Dewi E. Lewis Enwau Adar ar faes y ’Steddfod yng Nghwm Nedd.Aeth deuddeng mlynedd heibio, ac yn y cyfamser, fel yr eglura’r awdur, yn ei ragair i’wgyfrol bresennol, newidiodd statws nifer o rywogaethau, ychwanegwyd nifer o enwaunewydd i’r rhestr genedlaethol ac enwyd ac ail-enwyd rhai rhywogaethau o fewn dosbarthgwyddonol. Felly, dyma’r llyfr yn ymddangos eilwaith, unwaith eto yn y gyfresboblogaidd Llyfrau Llafar Gwlad, o dan y teitl Rhagor o Enwau Adar.Yr hyn a geir yn y llyfr yw ailargraffiad o’r gyfrol wreiddiol, gyda nifer o ychwanegiadaui’r rhestr o enwau lleol, tafodieithol. Dwy restr yn nhrefn yr wyddor sydd yma, yn gyntaf,yr holl enwau Cymraeg, gyda’r enw Lladin a’r enw Saesneg cyfatebol, ac yn ail, rhestr o’renwau Saesneg, gyda’r enw Lladin a’r enw Cymraeg (safonol) yn dilyn, ynghyd â’r hollenwau Cymraeg eraill y mae’r awdur wedi eu casglu. Ambell dro nodir yr ardal llecofnodwyd yr enw tafodieithol, sy’n ychwanegiad pwysig i werth y rhestr. Ceir ambell anghysondeb, e.e. yn yr ail restr, o dan Red Grouse nodir Ceiliog y Mynyddfel un o’r enwau Cymraeg, ond yn y rhestr gyntaf, yr unig enw Saesneg a geir am Ceiliog yMynydd yw Black Grouse. Synnais fod dwy ffurf mor debyg â Deryn Du ac Aderyn Du, ynhaeddu llinellau ar wahân yn y rhestr Gymraeg. Ar y cyfan mae’r gyfrol yn rhydd o fân wallau, ond sylwais ar Picus virids yn lle Picusviridis (8 llinell o’r gwaelod ar dudalen 17).

36

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 36

Page 39: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

Mae’r diwyg yn ddeniadol a’r argraffu yn lân a chymen, a’r pris o lai na phumpunt ynrhesymol. Sonnir mewn ôl-nodyn bod Dewi Lewis, brodor o Borthmadog sy’n byw yng NghwmTawe, yn paratoi llyfr fydd yn adrodd y stori sydd y tu ôl i’r enwau - fe fydd croeso iddorwy’n siwr.

G.W.

OFFA’S DYKE – A journey in wordsand picturesJim Saunders

Rhagair – Iolo Williams

Gwasg Gomer

ISBN1 84323699 0

£19.99

Mae’r gyfrol hon yn swmpus, yn lliwgar a hynod ddeniadol. Wrth ein tywys gyda’igamera ar hyd Clawdd Offa, mae’r awdur yn rhoi i ni flas ar y gwleddoedd sydd ar gael iunrhyw un sy’n fodlon mentro cerdded y 177 milltir o fryniau a phantiau sy’n gwahanuarfordir Sir Fynwy ac arfordir Sir Ddinbych. Mae’r gwleddoedd hynny yn cynnwys rhaii’r llygaid ac i’r enaid.Gwasanaethodd yr awdur fel Swyddog Llwybr Clawdd Offa am gyfnod o 18 mlynedd acmae pob agwedd ar y gyfrol yn adlewyrchu cyfoeth ei wybodaeth a’i brofiad am y Clawddei hun ac am y bröydd y mae’n mynd trwyddynt. Rhennir y gyfrol yn wyth pennod, sy’n cynnwys nodiadau manwl a diddorol a nifer fawr offotograffau hardd. Ceir 8 map bychan ar ddechrau pob pennod, a phob un ohonynt yncynrychioli oddeutu 20 - 25 milltir o waith cerdded. Mae’r daith gyntaf a ddisgrifir yncychwyn oddi wrth Glogwyni Sedbury ym mharthau isaf Dyffryn Afon Wysg ac yngorffen yn Nhrefynwy. Mae’r olaf yn tywys y darllenwr o Bont Cysyllte i Brestatyn.Ar bob taith, trwy gyfrwng ffotograffau trawiadol a thra deniadol o goed a blodau amannau megis Castell Powys, Abaty Tyndyrn, Moel Arthur a Phont Ddwr Pontcysyllte,ynghyd â thestun manwl, llawn gwybodaeth, sydd wedi’i ysgrifennu mewn arddull rwydda braf i’w darllen, mae’r awdur yn cyflwyno i ni gyfuniad o hanes, daearyddiaeth acastudiaeth o fyd natur yn ei aml weddau. Llwydda i gyfleu’r pleser sydd i’w gael wrthddilyn yr hen Glawdd ac o stelcian yma ac acw ar y daith. Mae’r gyfrol yn sicr o wneudi unrhyw un sy’n ei darllen awchu am gael dilyn ôl ei droed, ac mae hefyd yn llwyddo iroi i’r sawl na all wynebu taith mor hir lawer iawn o rin a chyfaredd y tirweddaumynyddoedd a’r dyffrynnoedd anhygoel o hardd sy’n gwahanu Cymru a Lloegr. Os oesproblem yn perthyn i’r gyfrol, yn ei maint a’i phwysau y gorwedd honno. Byddai angencefn go lydan i fedru ymdopi â’i hychwanegu at y beichiau y mae unrhyw un sy’n cerdded

37

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 37

Page 40: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

y llwybr yn gorfod eu cario. Ar y llaw arall, byddai ei ddiberfeddu, a chario un bennod ary tro yn weithred o fandaliaeth o’r iawn ryw!Mae’r gyfrol, drwyddi, yn dangos bod yr awdur yn ymwybodol o bresenoldeb yr iaithGymraeg yn llawer o’r ardaloedd y mae’n cerdded trwyddynt a phan geir cyfeiriad atadar, anifeiliaid neu blanhigion, mae’r enwau, yn ddieithriad, yn cael eu cofnodi yn yGymraeg a’r Saesneg.Mae Offa’s Dyke yn haeddu cael ei ddosbarthu ymhell tu hwnt i ffiniau Cymru ac maeynddo’r potensial i hudo cerddwyr o bob rhan o’r byd i ddod i gerdded clawdd a godwyd,mae’n debyg, i gadw’r Cymry allan o Loegr! Hwyrach, hefyd, y bydd yn gyfrwng isbarduno rhagor o aelodau Cymdeithas Edward Llwyd i wneud yn yr un modd. Y gresynyw nad oes cyfrol gyffelyb i hon ar gael yn y Gymraeg.

Gruff Roberts

Blodau Gwyllt Cymru ac Ynysoedd PrydainJohn Akeroyd

Addasiad Cymraeg: Bethan Wyn Jones

Gwasg Carreg Gwalch 2006

Clawdd medal, siaced blastig

256 tud. £12.50

Pan oedd Charles Darwin yn ystyried priodi, aeth ati i baratoi dwyrestr, un o blaid ac un yn erbyn y syniad. Rydw i am ddilyn yr unpatrwm ynglyn â’r llyfr yma. Yn gyntaf – canmol:• Dywedir wrthym mai bwriad y llyfr yw cyflwyno blodau gwyllt mwyaf cyffredin Cymru

ac Ynysoedd Prydain. Bu galw am lyfr o’r fath yn Gymraeg ers blynyddoedd, ac o’rdiwedd, dyma fo yn ein dwylo.

• Ar gyfer pob planhigyn ceir llun lliw yn dangos ei nodweddion, ynghyd â chysgodlun(silhouette) yn dangos siâp a lliw y blodyn.

• Nodir yr enwau Lladin, Cymraeg a Saesneg ynghyd ag enw teulu pob un.• Dangosir y misoedd y mae’r planhigyn yn debyg o flodeuo.• Ceir gwybodaeth am gynefin y planhigyn ynghyd a’u ddosbarthiad, a rhai ffeithiau

eraill megis dulliau peillio, defnydd o’r planhigyn ac ati.• Ar ymyl pob tudalen ceir ‘Ffeil Ffeithiau’ yn cynnwys disgrifiad o’r planhigyn - blodau,

dail ac ati, a nodir rhai ‘planhigion tebyg’ gyda’u nodweddion.• Ceir map bychan yn dangos dosbarthiad y planhigyn dros orllewin Ewrop.• Mae’r adrannau rhagarweiniol ‘Chwilio am Flodau Gwyllt’ a ‘Cynefinoedd y Blodau

Gwyllt’yn ddiddorol, a cheir crynodeb yn ymdrin â strwythur y planhigion a’r blodau.

38

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 38

Page 41: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

39

• Mae’r iaith yn raenus, yn ystwyth a naturiol – mor wahanol i gymaint o’r cyfieithiadaua gawn o ddydd i ddydd.

• Mae’r gyfrol yn hwylus i’w rhoi mewn poced, gyda phapur a rhwymiad da, a chlawr iwrthsefyll glaw.

Yn ail – beirniadu:• O edrych ar deitl y llyfr, ‘Blodau Gwyllt Cymru ac Ynysoedd Prydain’ siom yw canfod

mai dim ond 240 o blanhigion a gynhwysir, gan fod dros dair mil y gellid eu trafod.Mae’r frawddeg yn y Cyflwyniad sy’n dweud fod ‘gan Gymru ac Ynysoedd Prydaindros 1,500 o flodau gwyllt’ yn gamarweiniol, gan mai dim ond y rhai brodorol yw’rrhain, tra bod cymaint os nad mwy o rai estron wedi ymgartrefu yma – llawer ohonynt,megis Blodyn y Fagwyr Erysimum cheiri a Clymog Japan Fallopia japonoica wedi eucynnwys yn y llyfr.

• Ni chyfeirir at yr un o’r gweiriau, yr hesg, y brwyn, y rhedyn na’r coed, a dim ondplanhigion llawr gwlad a gynhwysir – dim sôn am flodau ucheldir Cymru.

• Tybed a oedd y canllawiau ar gyfer y fersiwn wreiddiol (Saesneg) o’r llyfr yn addas argyfer ‘Blodau Gwyllt Cymru’? Er enghraifft, cynhwysir y Clychlys Mawr Campanulalatifolia sy’n brin iawn yng Nghymru, tra bod y Clychlys Dail Eiddew Wahlenbergiahederacea, sy’n tyfu ym mron bob sir yn cael ei hepgor. Wrth gyfeirio at Fresych y CwnBlynyddol Mercurialis annua, dywedir ei fod yn tyfu ‘yn ne Lloegr, a dwyrain a deIwerddon’ –heb sôn ei fod yn eithaf cyffredin mewn rhannau o dde Cymru.

• Dichon mae’r blodau mwyaf ‘poblogaidd’ gan y rhan fwyaf ohonom yw’r tegeirianau –ac y mae rhyw hanner cant yn tyfu’n wyllt ym Mhrydain ond dim ond pedair sy’ngweld golau dydd o fewn cloriau’r gyfrol.

• Mae popeth ynglyn â’r llyfr yn fychan, a’r print yn fân – weithiau’n fân iawn. Maegraddfa’r mapiau yn llawer rhy fach i roi gwybodaeth fuddiol. Er enghraifft, dangosirbod y Clychlys Crwydrol Campanula rapunculoides i’w gael dros Gymru gyfan, ondmewn gwirionedd, dim ond mewn un llecyn yn Sir Faesyfed y mae’n tyfu ar hyn obryd!

• Un gwyn arall – pam, O! pam mae dim ond yr enwau Cymraeg sydd yn y mynegai ?Dylid yn sicr fod wedi cynnwys yr enwau Lladin, Cymraeg a Saesneg os am gaelmynegai defnyddiol.

Prysuraf i bwysleisio mai NID bai Bethan Wyn Jones yw’r gwendidau hyn. Y mae hi wedi gwneud gwaith campus gyda’r deunydd crai oedd ganddi – sef y gyfrolwreiddiol. Ond gofynnaf i mi fy hun ai dyma’r dewis gorau o’r holl lyfrau Saesneg syddar gael ar gyfer ei addasu i’r Gymraeg?

G.W.

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 39

Page 42: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

Pryd gwelsoch chi ‘sgwarnog ddiwethaf? Ydi’r creadur yn brin?

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wrthi’n gwneud arolwg ynglyn â’r anifailheglog yma, ac yn dibynu arnom ni, y cyhoedd, i roi gwybodaeth iddynt.

Eisoes, gwelwyd bod nifer go dda ar Ynys Môn, ond beth am weddill y wlad?

Os gwelsoch chi ysgyfarnog yn gymharol ddiweddar rhowch wybod i’r Ymddiriedolaethyn y cyfeiriad isod. Eu rhif ffôn yw 01248 351541.

Gofynwch am daflen wybodaeth a cherdyn cofnodi.

Diolch!

40

“Awn i Hela’r Ysgyfarnog”

Winter_2006_Text_Pages 26/1/07 13:54 Page 40

Page 43: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

Cymdeithas Edward Llwyd

Sefydlwyd Cymdeithas Edward Llwyd yn 1978 a hi yw Cymdeithas GenedlaetholNaturiaethwyr Cymru. Enwir y Gymdeithas ar ôl Edward Llwyd, a anwyd yn 1660 ac a alwyd ynei gyfnod “y naturiaethwr gorau yn awr yn Ewrop”.Cymraeg yw iaith y Gymdeithas, ac y mae dros 1,200 o aelodau led-led Cymru a thu hwnt. Prifddibenion y Gymdeithas yw astudio byd natur, yn cynnwys planhigion, anifeiliaid a chreigiau, ganhyrwyddo ymwybyddiaeth o amgylchedd a threftadaeth naturiol Cymru ac ymgyrchu droseu gwarchod. Mae’r Gymdeithas yn:

• trefnu cyfarfodydd awyr-agored ym mhob rhan o Gymru, i astudio ac i gerdded• cynnal cyfarfodydd gwaith cadwriaethol• trefnu darlithoedd a chyfarfodydd cymdeithasol• cynnal pabell ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol• cyhoeddi Y Naturiaethwr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi Cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi llyfrau ar enwau Cymraeg creaduriaid a phlanhigion• cynnig grantiau (£600) bob blwyddyn am waith gwreiddiol ym myd natur• lleisio barn gyhoeddus ar faterion amgylcheddol• trefnu pris gostyngol gyda nifer o siopau dillad ac offer awyr agored

Mae aelodaeth yn agored i bawb o bob oed sydd â diddordeb ym myd natur.Dyma’r tâl blynyddol:Unigolyn - £12Teulu - £18I ymaelodi neu am ragor o fanylion cysylltwch â’r Ysgrifennydd Aelodaeth:Richard Jones, Pentre Cwm, Cwm, Diserth, Sir Ddinbych.

www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk

Clawr blaen:

Condor (neu Fwltur Periw) Santa Cruz, ArianninAderyn hedfanog mwya’r Byd

Clawr ôl:

Seren y Ddaear (Geastrum sp.)Ffwng anghyffredin yng NghymruLluniau: Goronwy Wynne.

Lluniau’r Clawr

Cover_Winter_2006 26/1/07 13:46 Page 2

Page 44: CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Y Naturiaethwr · CYMDEITHAS EDWARD LLWYD Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd Pris i’r cyhoedd £2.50 Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol

CYMDEITHAS EDWARD LLWYD

Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward LlwydPris i’r cyhoedd £2.50

Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdalgan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr

Cyfres 2 Rhif 19 Rhagfyr 2006

Cover_Winter_2006 26/1/07 13:46 Page 1