cylchlythyr rhwydwaith cyswllt iechyd rhywiol cymru gyfan ... · gonorea yn 2008. mae nifer yr...
TRANSCRIPT
Rhifyn 34 | MEhEfin 2010
Peidiwch anghofio gwefan y Rhwydwaith www.shnwales.org.uk
Cylchlythyr Rhwydwaith Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan
Peidiwch anghofio gwefan y Rhwydwaith www.shncymru.org.uk
Cynhaliodd Cyswllt Iechyd
Rhywiol Cymru Gyfan eu
cynhadledd flynyddol ar
ddydd Mercher 24 Mawrth 2010,
ar thema Cynlluniau Cerdyn-C
(Cerdyn Condom) yng Nghymru.
Mae llawer o Gynlluniau Cerdyn-C
ar waith yng nghymru, sydd i gyd yn
unigryw o ran strwythur, trefniadaeth
a chyllid, ond eto mae ganddynt
i gyd yr un amcanion: lleihau
beichiogrwydd nas dymunir a lleihau
lledaeniad heintiau a drosglwyddir
yn rhywiol. nod y gynhadledd
oedd dod â chynrychiolwyr ynghyd
o Gynlluniau Cerdyn-C lleol a
rhanbarthol mewn ymdrech i rannu
profiad a gwybodaeth yn sgil eu
cynlluniau priodol.
Mynychodd bron 100 o
gynadleddwyr Stadiwm SWALEC
yng nghaerdydd i wrando ar
gyflwyniadau gan dri siaradwr gwâdd
yn sesiwn y bore gyda gweithdai
yn y prynhawn o dan arweiniad
ymarferwyr sy’n gweithio gyda
Chynlluniau Cerdyn-C ar draws
Cymru yn sesiwn y prynhawn.
Dechreuodd Dr Marion Lyons o
iechyd Cyhoeddus Cymru y trafodion
gyda’i chyflwyniad a oedd yn
ymwneud ag adolygiad diweddar o
Gynlluniau Cerdyn-C yng nghymru,
gan gyfeirio at wybodaeth ystadegol,
hanes y cynlluniau a chyd-destun
polisi gweithredu a chyflwyno
Cynlluniau Cerdyn-C. Siaradodd
Lisa Bartlett o Brook am y canllawiau
ar gyfer Cynlluniau Cerdyn-C yn
Lloegr yr oedd Brook wedi eu
cynhyrchu ar y cyd â’r Adran iechyd,
a siaradodd Jonathan Upton o The
Campaign Company am ddefnyddio
dull marchnata cymdeithasol mewn
prosiectau iechyd rhywiol.
yn sesiwn y prynhawn, cafwyd
gweithdai o dan arweiniad
ymarferwyr sydd yn gweithio
gyda Chynlluniau Cerdyn-C ar
draws Cymru. Roedd y gweithdai
yn cynnwys ystod o destunau yn
ymwneud â Chynlluniau Cerdyn-C,
yn cynnwys: gwerthusiadau,
ymgysylltu a rhwydweithio
cymdeithasol, safonau ansawdd ac
anghydraddoldebau.
Rhoddodd Sarah Andrews, Llinos
Owen ac Eiriann Turner gyflwyniad
ar ddatblygiad Cynllun Cerdyn-C
ynys Môn a Gwynedd, trwy eu
hymgysylltiad â phobl ifanc wrth
ddyfeisio brand y Cynllun, a’u
defnydd o safleoedd rhwydweithio
cymdeithasol i hyrwyddo’r Cynllun.
Arweiniodd Geinor Medi Jones o
Dîm iechyd y Cyhoedd Ceredigion
Yn parhau ar dudalen 2 ››
Cynhadledd Flynyddol Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan yn canolbwyntio ar Gynlluniau Cerdyn-C
Sefydlwyd y Rhwydwaith yn2000 fel rhan o’r Cynllun gweithredu i weithredu’r fframwaith Strategol ar gyfer hybu iechyd Rhywiol yng nghymru, a chaiff ei reoli gan iechyd Cyhoeddus Cymru.
Os hoffech fwy o wybodaeth am y Rhwydwaith, cysylltwch ag Adam JonesCydlynydd Cyswllt iechyd Rhywiol Cymru Gyfan, 14 ffordd yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd Cf11 9LJ. ffôn: 029 2022 7744Ebost: [email protected]
Ynglyn â Chyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan
UchafbwyntiauCynhadledd Flynyddol Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan Tudalen 1
Rhyddhau Adroddiad ar Y Tueddiadau HIV/STI Diweddaraf yng Nghymru Tudalen 2
Edrych ar gam-drin: ymchwil gan bobl ag anableddau dysgu Tudalen 4
Sgrinio Clamydia ar y Campws Tudalen 4
Lansio Rhwydwaith Prosiectau Gwaith Rhyw Cymru Gyfan Tudalen 5
Dyddiadur RHYWdwaith Tudalen 5
FPA yn lansio llyfr newydd ar ddulliau atal cenhedlu Tudalen 6
TUDALEN 2 | Rhifyn 34 Peidiwch anghofio gwefan y Rhwydwaith www.shncymru.org.uk
Beth sy’n digwydd yng Nghymru
Cyhoeddwyd y Tueddiadau hiV ac STi diweddaraf
yn Adroddiad Gwyliadwraeth Cymru yn Ebrill gan
Ganolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy (CDSC)
iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r data diweddaraf ar
gyfraddau hiV/AiDS a heintiau eraill a drosglwyddir yn
rhywiol (STi) yng nghymru. Mae’r data a gyflwynir yn yr
adroddiad yn gyflawn hyd at ddiwedd Rhagfyr 2008.
Dyma ganfyddiadau allweddol yr adroddiad:
Mae amlygrwydd hiV/AiDS yng nghymru yn parhau
i gynyddu; yn 2008 derbyniodd 1,082 o drigolion
Cymru driniaeth am hiV/AiDS (36 fesul 100,000
o’r boblogaeth). Mae’r cynnydd dros y blynyddoedd
diweddar wedi bod yn rhannol oherwydd cyfraddau
goroesi gwell ymysg y rheiny sydd wedi eu heintio â
hiV yn y gorffennol, a phobl yn mewnfudo i Gymru
sydd wedi caffael yr haint dramor. fodd bynnag,
mae hiV/AiDS yn parhau i gael ei drosglwyddo, yn
arbennig ymysg dynion sy’n cael rhyw gyda dynion
(MSM), ac mae’r grwp hwn yn dal i roi cyfrif am
gyfradd sylweddol o’r achosion pennaf yng nghymru.
Mae nifer y profion gwrthgyrff hiV sy’n cael eu
cynnal gan labordai yng nghymru yn parhau i
gynyddu. Cynhaliwyd 57,614 o brofion yn 2008
(1,925 o brofion fesul 100,000 o’r boblogaeth). Er
2004, mae nifer y profion a gynhaliwyd mewn GUM
wedi dyblu bron.
Adroddodd yr Asiantaeth Diogelu iechyd (hPA) 148
o achosion newydd o heintiad hiV yng nghymru yn
2008. Mae hyn yn dangos gostyngiad o’r flwyddyn
flaenorol, a oedd â’r nifer uchaf o achosion newydd
yng nghymru ers dechrau’r epidemig. nododd naw
deg un y cant gategori cysylltiad, 51% ohonynt mwy
na thebyg wedi cael eu heintio trwy ryw heterorywiol
ac roedd 46% yn MSM.
Roedd ychydig dros hanner y rheiny a gafodd
ddiagnosis o hiV yn 2008 a oedd wedi caffael eu
haint trwy ryw heterorywiol o grŵp ethnig nad yw’n
wyn, o ethnigrwydd Du Affricanaidd yn bennaf, y
mae menywod yn parhau i gael eu gorgynrychioli yn
y grwp hwn.
Rhwng 2007 a 2008, parhaodd y cynnydd yn
niferoedd yr achosion newydd o siffilis, clamydia heb
gymhlethdodau, herpes a dafadennau a gafodd eu
canfod mewn clinigau GUM yng nghymru. Cafwyd
gostyngiad yn niferoedd yr achosion newydd o
gonorea yn 2008.
Mae nifer yr achosion o siffilis heintus a nodwyd
ar y cynllun gwyliadwraeth siffilis datblygedig yn
parhau i gynyddu. nodwyd 119 o achosion yn 2008
o’i gymharu â 90 yn 2007. Roedd mwyafrif yr holl
achosion yn 2008 yn wyn (89%). Dim ond 4%
o’r achosion a nododd ryw heterorywiol fel achos
tebygol yr heintiad.
ni chafodd unrhyw roddwyr gwaed posibl newydd
eu sgrinio’n gadarnhaol am heintiad treponemaidd
yn 2008. Mae hyn yn cymharu â dau yn 2007 a dim
yn 2006. Cafwyd, fodd bynnag, dwy rodd o waed
positif gan roddwyr sefydledig yn 2008 (mae hyn yn
cymharu â dwy rodd bositif yn 2007 a dwy yn 2006).
yn 2008, cafwyd 4,302 o achosion o heintiau
clamydia heb gymhlethdodau mewn GUM. Mae
hwn yn gynnydd o 18% ar y niferoedd a gafodd
ddiagnosis yn 2007 a chynyddodd cyfradd yr
heintiau clamydia heb gymhlethdodau yng nghymru
i 144 ym mhob 100,000 yn 2008. Mae’r duedd
gyffredinol ar gyfer cynnydd yng nghyfraddau
diagnosis yng nghymru o 1994 i 2008 yn rhannol
yn adlewyrchu cynnydd mewn ymwybyddiaeth a
thechnegau diagnostig gwell.
Cynhelir cyfran sylweddol o’r profion clamydia mewn
practis cyffredinol. Dengys data o atebion gwirfoddol
o ganlyniadau profion labordai ar samplau a
gyflwynwyd o bob ffynhonnell fod nifer y canlyniadau
positif wedi cynyddu o 4,194 o brofion yn 2007 i
4,656 yn 2008 (156 am bob 100,000 o’r boblogaeth).
Mae hwn yn amcangyfrif rhy isel gan nad yw pob
labordy yng nghymru yn rhoi adroddiad.
yn 2008, cafwyd 403 o achosion o gonorea heb
gymhlethdodau a 177 o driniaethau epidemiolegol o
gonorea a amheuir o glinigau GUM yng nghymru (19
o achosion newydd fesul 100,000 o’r boblogaeth).
Mae hyn yn is na blynyddoedd blaenorol yng
nghymru (gostyngiad o 11% er 2007), gan
Rhyddhau Adroddiad ar y Tueddiadau HIV/STI Diweddaraf yng Nghymru
Rhifyn 34 | MEhEfin 2010
TUDALEN 3 | Rhifyn 34Peidiwch anghofio gwefan y Rhwydwaith www.shncymru.org.uk
weithdy’n ymwneud â gwerthuso
Cynlluniau Cerdyn-C a ddangosodd
bwysigrwydd cynnwys pobl
ifanc wrth asesu a dadansoddi
gwasanaeth sydd wedi ei anelu at
bobl ifanc.
Cyflwynodd Kathryn Cross o
iechyd Cyhoeddus Cymru yn
nhorfaen a Caroline Jones o
fwrdd iechyd Aneurin Bevan
weithdy’n ymwneud â chynnwys
safonau ansawdd mewn Cynlluniau
Cerdyn-C. Roedd y gweithdy’n
cynnwys cyflwyniad i’r safonau
ansawdd a gyflwynwyd yng
nghynllun Cerdyn-C Torfaen, ac yn
cynnwys nifer o sefyllfaoedd ffug
gwahanol, a fyddai’n haws ymateb
iddynt pe bai safonau ansawdd yn
cael eu cymhwyso.
Cafodd y gweithdy’n ymwneud
ag anghydraddoldebau mewn
Cynlluniau Cerdyn-C ei arwain gan
Cheryl Joscelyne o Dîm iechyd y
Cyhoedd Caerdydd. Cynhaliwyd
y gweithdy hwn fel trafodaeth
ryngweithiol rhwng Cheryl a’r
cyfranogwyr, gan archwilio’r hyn a
olygir gan ‘anghydraddoldebau’ a’r
hyn y gellir ei wneud i leihau’r rhain
mewn Cynlluniau Cerdyn-C.
Roedd yr adborth a dderbyniwyd
gan y cynadleddwyr ar ôl y
gynhadledd yn gadarnhaol iawn, ac
mae adroddiad llawn o’r diwrnod,
ynghyd â dogfennau allweddol, ar
gael i’w llwytho i lawr ar wefan Cyswllt
iechyd Rhywiol Cymru Gyfan. n
Cynhadledd Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru GyfanWedi parhau o dudalen 1
››
barhau â gostyngiad cyffredinol mewn achosion a
nodwyd er 2004. Roedd ugain y cant o’r achosion
o gonorea heb gymhlethdodau a nodwyd ymysg
dynion yn 2008 mewn MSM (o’i gymharu â 28% yn
2007). Parhaodd adroddiadau labordy o neisseria
gonorrhoea i ostwng hefyd ond yn dal uchaf ymysg
dynion a menywod 15 i 24 oed (42 am bob 100,000
o’r boblogaeth ar gyfer pob rhyw).
Ers i lymphogranuloma venereum (LGV) ddod i’r
amlwg fel haint difrifol yn sgil MSM yn 2003, mae
cyfanswm o wyth achos wedi eu nodi o Gymru.
nodwyd pump achos yng nghymru yn 2005, fel
clwstwr ym Mwrdd iechyd Lleol Prifysgol Abertawe
Bro Morgannwg. nodwyd un achos pellach yn
Abertawe Bro Morgannwg yn 2008 a nodwyd dau
ym Mwrdd iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r fro yn
2009.
Mae rhwystrau o hyd i wyliadwraeth effeithiol o STi
yng nghymru. nid yw data KC60 yn amserol ac
ni all data labordy na data KC60 ddarparu data ar
achosion o STi mewn poblogaethau sy’n preswylio
mewn Bwrdd iechyd Lleol. hefyd, nid yw adrodd
gwirfoddol am STi gan labordai yng nghymru yn
gyflawn am nad yw rhai labordai yn adrodd yn
rheolaidd i’r cynllun. Er mwyn mynd i’r afael â hyn,
mae prosiect i ddatblygu a gweithredu gwyliadwraeth
STi yn seiliedig ar bobl ac ardaloedd yn cael ei
weithredu ar draws Cymru ar hyn o bryd.
Mae integreiddio gwasanaethau GUM a dulliau atal
cenhedlu wedi arwain at fwy o sgrinio ar gyfer STi
a feirysau a gludir yn y gwaed sy’n digwydd mewn
clinigau iechyd rhywiol yn y gymuned. nid yw
gweithgareddau’r clinigau hyn wedi eu cynnwys eto
yn y data KC60.
Mae’r adroddiad llawn ar gael i’w lawrlwytho ar wefan
Cyswllt iechyd Rhywiol Cymru Gyfan. n
Dr Marion Lyons o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflwyno ‘Adolygiad o Ddarpariaeth Cerdyn Condom yng Nghymru’
TUDALEN 4 | Rhifyn 34 Peidiwch anghofio gwefan y Rhwydwaith www.shncymru.org.uk
Yn ddiweddar, mae’r Gronfa Loteri fawr wedi ariannu prosiect 3 blynedd arloesol wedi ei
leoli ym Mhrifysgol Morgannwg mewn partneriaeth â gwasanaeth cwnsela new Pathways a Rhoi Pobl yn Gyntaf RhCT, grwp eiriolaeth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.
Daeth y syniad ar gyfer yr ymchwil hwn gan bobl ag anableddau dysgu oedd yn poeni am gam-drin ac yn gweld angen i ddatblygu ffyrdd o gadw pobl yn ddiogel. Roedd grwpiau hunaneiriolaeth yn rhan o’r tîm ysgrifennu cais ac mae tri o bobl ag anableddau dysgu wedi cael eu recriwtio fel ymchwilwyr.
Prif ffocws y prosiect bydd gweithdy preswyl, pan fydd y rhan fwyaf o’r data’n cael ei gasglu. Bydd copïau o arolwg hefyd yn cael eu hanfon i grwpiau ar draws Cymru.
Dyma 4 cwestiwn yr ymchwil:Beth mae pobl ag anableddau dysgu yn ei ddeall o’r 1. term cam-drin?Beth yw barn pobl ag anableddau dysgu am gam-2. drin?
Pa gymorth a chefnogaeth sydd ei angen ar bobl 3. ag anableddau dysgu i’w cadw yn ddiogel? Pan fydd rhywun wedi cael ei gam-drin, beth yw’r 4. ffyrdd gorau o helpu?
Mae pob aelod o’r tîm ymchwil yn cadw cyfnodolion adlewyrchol i gasglu gwybodaeth fanwl ynglŵn â’r ffordd y mae ymchwil gyfranogol yn gweithio i bawb sydd yn gysylltiedig, felly bydd ymchwil gyfranogol yn y dyfodol yn gallu rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i ymchwilwyr a phobl ag anableddau dysgu i fodloni heriau cynhwysiant gwirioneddol.
nod new Pathways, gwasanaeth cwnsela ar draws De Cymru ar gyfer pobl sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol, yw gweithredu canfyddiadau o’r ymchwil i wneud eu gwasanaeth yn fwy hygyrch i bobl ag anableddau dysgu.
Cysylltwch â Joyce howarth ar 01443 483881 neu ebost [email protected] n
Edrych ar gam-drin: ymchwil gan bobl ag anableddau dysgu
Os yw pobl ifanc yn amharod i ymweld â gwasanaeth iechyd rhywiol i gael eu sgrinio ar
gyfer clamydia, beth am fynd â’r sgrinio atynt hwy? Cafodd myfyrwyr yng ngholeg Glan hafren yng nghaerdydd y cyfle i gael eu sgrinio ar gyfer clamydia ar gampws eu coleg ym mis Ebrill.
Gweithiodd Tîm Lleol iechyd y Cyhoedd Caerdydd mewn partneriaeth ag ymddiriedolaeth GiG Caerdydd a’r fro a yMCA Caerdydd i ddarparu gweithdai addysgol a sgrinio clamydia ar gyfer y myfyrwyr ar ddau safle Coleg Glan hafren yn y ddinas.
Cyflwynodd Caroline Ryan, Gweithiwr ieuenctid a Chymunedol o yMCA Caerdydd, gyfres o weithdai ar gyfer dros 200 o fyfyrwyr yn canolbwyntio ar heintiau a drosglwyddir yn rhywiol gyda phwyslais penodol ar glamydia. Dysgodd y myfyrwyr am STi, yr hyn yr oedd y broses o brofi yn ei olygu a’r hyn fyddai’n digwydd pe byddai angen unrhyw driniaeth arnynt.
yn dilyn y gweithdai, cynigiodd dwy nyrs o’r Gwasanaeth iechyd Rhywiol integredig yn ymddiriedolaeth GiG Caerdydd a’r fro, sef Kareen Lewis a Cerys Edwards, brofion clamydia yn y ddau gampws. Gwnaed 94 o brofion dros bedwar diwrnod ar gyfer myfyrwyr, ac fe wnaeth rhai o’r tiwtoriaid gael eu profi hyd yn oed. yna anogwyd unrhyw un â chanlyniad
positif i fynychu’r Clinig iechyd Rhywiol integredig i gael triniaeth.
Mae’r adborth gan bob sefydliad a gymerodd ran yn y fenter hon wedi bod yn gadarnhaol, gan fod llawer wedi ymgymryd â’r gwasanaeth sgrinio. fe wnaeth y myfyrwyr fwynhau’r gweithdai addysgol a rhoddodd y coleg gefnogaeth dda i’r fenter.
Dywedodd Cheryl Joscelyne, Uwch Arbenigwr hybu iechyd gyda Thîm Lleol iechyd y Cyhoedd Caerdydd: ‘Croesawodd Coleg Glan hafren y cyfle i gynnal peilot o’r fenter hon, gan alluogi sgrinio clamydia i gael ei gynnig i bobl ifanc mewn lleoliad addysgol. Mae’r gweithdai addysgol a ddarparwyd cyn i’r profion gael eu cynnal yn allweddol i lwyddiant y fenter hon, gan alluogi’r myfyrwyr i gael dealltwriaeth glir o’r hyn yw clamydia, sut yr ydych yn ei gael a sut y mae’r broses o brofi’n gweithio. Gall pobl ifanc fod yn amharod weithiau i fynychu cyfleuster
“meddygol” am eu bod yn ofn embaras, neu’n poeni am yr hyn y mae’r prawf yn ei olygu. Trwy fynd â’r prawf atynt hwy a dweud wrthynt amdano ymlaen llaw, cafodd rhai o’r pryderon hynny eu dileu.’
Cysylltwch â: Cheryl Joscelyne, Uwch Arbenigwr hybu iechyd, Tîm Lleol iechyd y Cyhoedd (iechyd Cyhoeddus Cymru), 029 20556029, [email protected] n
Sgrinio Clamydia ar y Campws
Rhifyn 34 | MEhEfin 2010
TUDALEN 5 | Rhifyn 34Peidiwch anghofio gwefan y Rhwydwaith www.shncymru.org.uk
8fed cwrs STIF
5 – 6 Gorffennaf 2010A drefnir gan Adran Meddygaeth Genhedlol-wrinol a HIV Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Ysbyty Gwynedd Bangor, Gogledd Cymru, y cwrs yn rhoi gwybodaeth, sgiliau ac agweddau i gyfranogwyr i’w gallogi i reoli heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn effeithiol. Mae’r cwrs, sydd wedi ei anelu at feddygon, nyrsys mewn gofal sylfaenol ac eilaidd, ymarferwyr cynllunio teulu, nyrsys ysgol, ymarferwyr GUM Gradd Gyrfa Anymgynghorol, nyrsys a chynghorwyr iechyd. Cysylltwch â Iorwen Flanagan ar 01248 384384 (est 5242) neu ebost [email protected]
Gwasanaeth Seraf Barnardo’s – Hyfforddiant Aml-asiantaeth 1 Diwrnod ar Ddiogelu Plant a Phobl Ifanc y Camfanteisir arnynt yn Rhywiol Lefel 1
Dydd Mercher 21 Gorffennaf 2010 Swyddfeydd Barnardo’s Cymru, Llys Trident, Caerdydd Mae Barnardo’s Cymru yn cynnal digwyddiad hyfforddi ar ddiogelu plant a phobl ifanc y camfanteisir arnynt yn rhywiol. Mae’r digwyddiad hwn wedi ei anelu at y rheiny sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
Nod y digwyddiad hwn yn disgrifio ac esbonio’r broses o gamfanteisio’n rhywiol ar blant, archwilio agweddau a chredoau’n ymwneud â phuteindra a chamfanteisio’n rhywiol ar blant, galluogi ymarferwyr i adnabod plant/pobl ifanc sydd mewn perygl o ddioddef camfanteisio’n rhywiol ar blant gan ddefnyddio elfennau sy’n eu gwneud yn agored i niwed a nodwyd trwy arfer gorau ac ymchwil, asesu plant/pobl ifanc sydd mewn perygl gan ddefnyddio offeryn
Asesu Risg Seraf a chymhwyso categori risg ac ymyriad cysylltiedig i bob plentyn, a defnyddio canllawiau lleol a chenedlaethol y llywodraeth a deddfwriaeth sy’n berthnasol i gamfanteisio’n rhywiol ar blant i lywio gwaith gyda phobl ifanc yn y dyfodol.
Mae’r digwyddiad wedi ei anelu at bawb sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, fel y rheiny mewn gwaith Ieuenctid a Chymunedol, y Sector Gwirfoddol, Iechyd Rhywiol, Cyfiawnder Troseddol, Addysg/Hyfforddiant, Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, Camddefnyddio Sylweddau a Thai.
Cynhelir y digwyddiad ar ddydd Mercher 21 Gorffennaf 2010, am £75 y pen (yn cynnwys TAW) a darperir cinio.
Am fwy o wybodaeth am hyn neu ddigwyddiadau eraill a gynhelir gan Barnardo’s Cymru ar draws Cymru, neu i gofrestru eich diddordeb yn y digwyddiad hwn, cysylltwch â [email protected] neu [email protected].
Wythnos Iechyd Rhywiol FPA
13–19 Medi 2010Bydd ymgyrch eleni wedi ei anelu at gael pobl dros 50 oed i fod yn fwy deallus am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a’u hiechyd rhywiol. Bydd pecynnau’r ymgyrch ar gael am ddim. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â [email protected] neu ewch i www.fpa.org.uk.
Hyfforddiant FPA Elfennau Sylfaenol Atal Cenhedlu
17–18 Tachwedd 2010Mae’r cwrs cyflwyniadol hwn ar gyfer proffesiynolion sy’n dymuno cael dealltwriaeth o atal cenhedlu a’r sgiliau angenrheidiol i gyfathrebu amdano. Mae’r cwrs yn rhoi gwybodaeth fanwl, anghlinigol am bob math o atal cenhedlu. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Helen Shipley ar [email protected] neu 0845 122 8661.
Lansio Rhwydwaith Prosiectau Gwaith Rhyw Cymru Gyfan
Ar ddydd Gwener 16 Ebrill 2010,
cafodd Rhwydwaith Prosiectau
Gwaith Rhyw Cymru Gyfan ei lansio,
ar y cyd â Rhwydwaith Prosiectau
Gwaith Rhyw y DU. Ceisiodd
achlysur lansio’r digwyddiad
amlygu’r gwaith sy’n datblygu yng
nghymru, trafod rôl nSWP Cymru
Gyfan, codi ymwybyddiaeth yn
ymwneud â materion cyfredol y mae
gweithwyr rhyw yn eu hwynebu ac
amlygu’r ymchwil i ‘waith rhyw’ sy’n
cael ei gwneud yng nghymru.
Roedd y siaradwyr ar y diwrnod
yn cynnwys Lorraine Galatowicz
(UKnSWP), Detectif Brif Arolygydd
Tim Keenan (heddlu Glannau
Merswy), Debbie Jones (Prifysgol
Abertawe), nici Evans (fforwm
ymarferwyr Gweithwyr Rhyw
Caerdydd), Pete Clark (Cyfarwyddwr
Cenedlaethol, ymddiriedolaeth
Terrence higgins Cymru) a Dr
Tracey Sagar (Darlithydd mewn
Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol,
Prifysgol Abertawe)
Mynychwyd y digwyddiad gan
broffesiynolion sydd yn gweithio
gyda gweithwyr rhyw yn ogystal
ag academwyr ac ymchwilwyr â
diddordeb yn y pwnc.
Am fwy o wybodaeth am waith
Rhwydwaith Prosiectau Gwaith
Rhyw Cymru Gyfan cysylltwch â
Dyddiadur
TUDALEN 6 | Rhifyn 34 Peidiwch anghofio gwefan y Rhwydwaith www.shncymru.org.uk
Newyddion y DU
Mae’r elusen iechyd rhywiol, fPA, wedi lansio llyfr
newydd sbon, Choose what you use: the FPA
essential guide to contraception. Mae’r llyfr, sydd yn
hawdd i’w ddarllen, yn cynnwys ffactorau hanfodol
ond sydd yn aml yn cael eu hanwybyddu, yn ymwneud
â ffordd o fyw, a allai effeithio ar ddewis menywod
o ddulliau atal cenhedlu. Mae materion meddygol
ac ymarferol yn ymwneud â phob un o’r 15 dull atal
cenhedlu wedi eu cynnwys yn y llyfr hwn, yn ogystal ag
adrannau sydd yn chwalu mythau a thestunau hanfodol
eraill fel dewisiadau beichiogrwydd, rhyw mwy diogel
ac atal cenhedlu brys. .
Mae’r llyfr yn galluogi menywod i reoli eu bywydau
atgenhedlol trwy eu helpu i ddewis y dull atal cenhedlu
sydd fwyaf addas iddynt hwy a’u ffordd o fyw. Mae
Choose what you use yn berthnasol i fenywod waeth
beth yw sefyllfa eu bywyd; naill ai yn ceisio osgoi
beichiogrwydd, yn ystyried cael babi yn y dyfodol,
newydd gael babi, neu’n nesáu at y menopos.
Gan nodi 80 mlynedd fel elusen yn rhoi cyngor ar
ddulliau atal cenhedlu, dywedodd Julie Bentley, Prif
Weithredwr yr fPA: “Mae anghenion atal cenhedlu
menywod yn newid dros amser yn dibynnu ar eu ffordd
o fyw a ffactorau personol felly gall y canllaw hwn fod
yn ddefnyddiol iawn pa bryd bynnag y byddwch yn
ystyried newid eich dull atal cenhedlu.”
Mae Choose what you use ar gael am £9.99 o
Amazon a phob gwerthwr llyfrau da. Am fwy o
wybodaeth ewch i www.fpa.org.uk n
FPA yn lansio llyfr newydd ar ddulliau atal cenhedlu
Mae fPA wedi ychwanegu dau gwrs newydd i’w
gatalog cynhwysfawr o hyfforddiant iechyd
rhywiol anghlinigol yn 2010:
Defnydd o Alcohol, Gweithgaredd Rhywiol a Phobl Ifanc
yn gynyddol, mae proffesiynolion sy’n gweithio gyda
phobl ifanc yn dod yn fwy ymwybodol bod gan
ddefnydd pobl ifanc o alcohol gysylltiadau uniongyrchol
â’u gweithgaredd rhywiol. Mae edifeirwch yn amlwg
iawn yn nisgrifiad pobl ifanc o weithgaredd rhywiol pan
fyddant wedi bod yn yfed. nod y cwrs hwn yw edrych ar
ddefnydd pobl ifanc o alcohol, cymryd risgiau a’r ffyrdd
y mae alcohol yn effeithio ar hyn, a’r gweithgaredd
rhywiol sy’n dilyn. Ei nod hefyd yw helpu proffesiynolion
i ffurfio strategaethau i weithio gyda phobl ifanc ar y
materion hyn.
Egwyddor Pleser
y dyddiau hyn, mae Addysg Rhyw a Pherthynas (SRE) ar
gyfer pobl ifanc yn gallu bod yn llawn ffeithiau a ffigurau,
beth i beidio gwneud a sut i osgoi heintiau a cham-drin.
Mae pobl ifanc yn dweud wrthym eu bod yn dymuno
cael gwybodaeth llai ffeithiol a dysgu mwy am sut i
gael perthynas gadarnhaol, sut i roi pleser i’w partner
a sut i gael y gorau o berthynas fynwesol. Bydd y cwrs
undydd hwn yn rhoi cyfle i’r cyfranogwyr archwilio rhai
ymarferion ar gyfer gwaith diogel, addysgol gyda phobl
ifanc.
Gellir cyflwyno unrhyw un o’r cyrsiau hyn mewn lleoliad
o’ch dewis am £800, a chostau’r hyfforddwr, ar gyfer
hyd at 12 o gyfranogwyr. Am fwy o wybodaeth am y
cyrsiau hyn neu unrhyw hyfforddiant fPA, cysylltwch â
[email protected] neu ewch i www.fpa.org.uk n
Dau gwrs hyfforddiant newydd ar gael gan FPA