chwefror 2013 rhif 430 50c rhodd hael i gronfa eleanor mae … chwefror 2013.pdf · 2019. 1....

24
Chwefror 2013 Rhif 430 50c M AE Cronfa Apêl Eleanor Jones o Fethesda £500 yn elwach diolch i'r cwmni sy'n berchen ar Chwarel y Penrhyn, sef "Welsh Slate". Mae'r cwmni am ddathlu'r ffaith na fu unrhyw ddamwain sylweddol yn ystod y tair blynedd ddiwethaf trwy gefnogi elusen leol. Mae'r cwmni wedi rhoi'r arian i'r ardal y mae'n rhan ohoni a bydd y rhodd yn mynd tuag at brynu matres arbennig a ffaniau a fydd yn gwneud bywydau cleifion yn Ward Alaw Ysbyty Gwynedd yn fwy cysurus. Dewiswyd Cronfa Apêl Eleanor Jones gan bwyllgor Iechyd a Diogelwch Chwarel y Penrhyn fel y diweddaraf i fanteisio ar ymgyrch iechyd a diogelwch y cwmni. Gan na fu unrhyw ddamwain yn y ddau chwarter diwethaf manteisiodd Adran Oncoleg Ysbyty Glan Clwyd ar arian gan y cwmni a derbyniodd John Campbell, cyn-weithiwr yn y chwarel ac sy'n gwella ar ôl cael niwed difrifol i'w ben, fantais o'r gronfa hefyd. Dechreuwyd Cronfa Apêl Eleanor Jones gan Eleanor ei hun wedi iddi ddioddef o ganser a pharlyswyd hi'n rhannol tra roedd hi'n derbyn triniaeth am myeloma ar asgwrn ei chefn. Rhodd Hael i Gronfa Eleanor Mae Eleanor bellach mewn cadair olwyn ac mae'n gorfod ymweld ag Ysbyty Gwynedd ddwywaith yr wythnos am driniaeth cemotherapi a ffisiotherapi. Yn dilyn ei thriniaeth treuliodd Eleanor amser yng Nglan Clwyd lle mae'r staff yn defnyddio matresi chwyddadwy i symud cleifion o un lle i'r llall mewn dull haws a mwy effeithiol. Dyma'r pethau mae hi am godi arian ar eu cyfer yn Ysbyty Gwynedd. Meddai Ysgifennydd y gronfa, "Hoffwn ddiolch i bwyllgor iechyd a diogelwch Chwarel y Penrhyn am eu rhodd garedig. Bydd yr offer o gymorth mawr i gleifion ac i staff yr ysbyty”. O'r chwith: Joe Hughes, Gwilym Jones, Linda Brown, Mark Hodgkinson, Berwyn Williams, Ann Williams, Neil Roberts, Nia Williams. Ysgol Dyffyn Ogwen yn “rhagorol” Mwy ar dudalen 20

Upload: others

Post on 29-Jan-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Chwefror 2013 Rhif 430 50c

    MAE Cronfa Apêl Eleanor Jones oFethesda £500 yn elwach diolch i'rcwmni sy'n berchen ar Chwarel y Penrhyn,sef "Welsh Slate".

    Mae'r cwmni am ddathlu'r ffaith na fu unrhywddamwain sylweddol yn ystod y tair blyneddddiwethaf trwy gefnogi elusen leol.

    Mae'r cwmni wedi rhoi'r arian i'r ardal y mae'n rhanohoni a bydd y rhodd yn mynd tuag at brynu matresarbennig a ffaniau a fydd yn gwneud bywydaucleifion yn Ward Alaw Ysbyty Gwynedd yn fwycysurus.

    Dewiswyd Cronfa Apêl Eleanor Jones gan bwyllgorIechyd a Diogelwch Chwarel y Penrhyn fel ydiweddaraf i fanteisio ar ymgyrch iechyd a diogelwchy cwmni.

    Gan na fu unrhyw ddamwain yn y ddau chwarterdiwethaf manteisiodd Adran Oncoleg Ysbyty GlanClwyd ar arian gan y cwmni a derbyniodd JohnCampbell, cyn-weithiwr yn y chwarel ac sy'n gwellaar ôl cael niwed difrifol i'w ben, fantais o'r gronfahefyd.

    Dechreuwyd Cronfa Apêl Eleanor Jones gan Eleanorei hun wedi iddi ddioddef o ganser a pharlyswyd hi'nrhannol tra roedd hi'n derbyn triniaeth am myelomaar asgwrn ei chefn.

    Rhodd Hael i Gronfa Eleanor Mae Eleanor bellach mewn cadairolwyn ac mae'n gorfod ymweld agYsbyty Gwynedd ddwywaith yrwythnos am driniaeth cemotherapi affisiotherapi.

    Yn dilyn ei thriniaeth treulioddEleanor amser yng Nglan Clwyd llemae'r staff yn defnyddio matresichwyddadwy i symud cleifion o un llei'r llall mewn dull haws a mwy effeithiol. Dyma'r pethau mae hi amgodi arian ar eu cyfer yn YsbytyGwynedd.

    Meddai Ysgifennydd y gronfa,"Hoffwn ddiolch i bwyllgor iechyd adiogelwch Chwarel y Penrhyn am eurhodd garedig. Bydd yr offer ogymorth mawr i gleifion ac i staff yrysbyty”.

    O'r chwith: Joe Hughes, Gwilym Jones, Linda Brown, Mark Hodgkinson, Berwyn Williams, Ann Williams,

    Neil Roberts, Nia Williams.

    Ysgol Dyffyn Ogwen yn “rhagorol”Mwy ar dudalen 20

    Llo Chwefror_Llais Ogwan 11/02/2013 21:29 Page 1

  • Llais Ogwan

    Derfel Roberts [email protected]

    ieuan Wyn [email protected]

    Lowri Roberts [email protected]

    Dewi Llewelyn Siôn [email protected]

    Fiona Cadwaladr Owen [email protected]

    Siân Esmor Rees [email protected]

    Neville Hughes [email protected]

    Dewi A Morgan [email protected]

    Trystan Pritchard [email protected] 373444

    Walter W Williams [email protected]

    SWYDDOGiONCadeirydd:Dewi A Morgan, Park Villa,Lôn Newydd Coetmor, Bethesda,Gwynedd LL57 3DT [email protected]

    Trefnydd Hysbysebion:Neville Hughes, 14 Pant, Bethesda LL57 3PA [email protected]

    Ysgrifennydd:Gareth Llwyd, Talgarnedd, 3 Sgwâr Buddug, Bethesda LL57 3AH [email protected]

    Trysorydd: Godfrey Northam, 4 Llwyn Bedw, Rachub,Llanllechid LL57 3EZ [email protected]

    Y Llais Drwy’r Post: Owen G Jones, 1 Erw Las, Bethesda,Gwynedd LL57 3NN [email protected]

    PANEL GOLYGYDDOL

    £18 Gwledydd Prydain£27 Ewrop£36 Gweddill y Byd

    Owen G. Jones, 1 Erw Las,Bethesda, Gwynedd LL57 [email protected]

    01248 600184

    -

    Golygydd y Mis

    Archebu Llais Ogwan drwy’r Post

    DYDDiADuR Y DYFFRYN Rhoddion i’r Llais

    Llais Ogwan 2

    Clwb Cyfeillion Llais Ogwan

    Os gwyddoch am rywun sy’n caeltrafferth â’i olwg, ac a hoffai dderbyncopi o’r Llais ar gasét bob mis,cysylltwch ag un o’r canlynol:

    Gareth Llwyd 601415Neville Hughes 600853

    Llais Ogwan ar Dâp

    Golygwyd y mis hwn gan Derfel Roberts.

    Golygydd mis Mawrth fydd Ieuan Wyn,Talgarreg, Ffordd Carneddi, BethesdaLL57 3SG (01248 600297)[email protected]

    Pob deunydd i law erbyn dydd Mercher,27 Chwefror, os gwelwch yn dda. Plygunos Iau, 14 Mawrth yng NghanolfanCefnfaes am 6.45.

    £ 5.00 Er cof am Debbie Burnell oddi wrth ei mam, Megan

    £10.00 Er cof annwyl am Brian Parry, 45 Abercaseg, Bethesda, gan Joan a’r teulu.

    £ 8.00 Don Hughes, Ripponden, Halifax£10.00 Gwyneth Morris, Gwaen Gwiail,

    Gerlan.£ 4.50 Vernon ac Iris Davies, Rachub.£50.00 Er cof am Jean Elain Morris,

    32 Ffordd Tanybwlch, Rachub, oddi wrth y teulu.

    £ 5.00 Derek a Norma Griffiths, 46 Abercaseg, Bethesda.

    £10.00 Mrs Eirlys Jones, 4 Braichmelyn.£ 4.50 Mrs B Cavanagh,

    25 Maes y Garnedd, Bethesda.£ 9.50 Y Teulu Speddy, 6 Pantglas,

    Bethesda20.00 Er cof am Mrs Morfudd Jones,

    oddi wrth y teulu

    Diolch yn Fawr

    Gwobrau Mis Chwefror

    £30 (64) Mrs. Rita BullockMaes y Garnedd, Bethesda.

    £20 (152) Mrs Jean Ogwen Jones, Ystad Coetmor, Bethesda.

    £10 (117) Mrs. Gwenda Bowen, Stryd Hir, Gerlan.

    £5 (77) Miss J B Williams, Porthaethwy.

    Mis Chwefror16 Bore Coffi NSPCC. Neuadd Ogwen.

    10.00 – 12.00.

    22 Cyfarfod Blynyddol Plaid Cymru Dyffryn Ogwen gyda Leanne Wood. Cefnfaes am 7.00

    23 Bore Coffi Plaid Cymru. Neuadd Ogwen. 10.00 – 12.00.

    24 Cyngerdd Blynyddol Côr Meibion y Penrhyn. Capel Jerusalem.

    27 Cangen Plaid Lafur Dyffryn Ogwen. Cefnfaes am 7.30.

    28 Merched y Wawr Bethesda. Dathlu Gŵyl Ddewi. Cefnfaes am 7.00

    28 Pesda Roc yn cyflwyno COLORAMA yn Neuadd Ogwen.

    Mis Mawrth02 Bore Coffi Ymchwil Cancr.

    Neuadd Ogwen. 10.00 – 12.00.

    04 Merched y Wawr Tregarth. Dathlu Gŵyl Ddewi gyda’r Boncathod. Festri Shiloh am 7.00

    08 Noson gyda CELT. Clwb Criced a Bowlio Bethesda.

    09 Bore Coffi Eglwys Crist Glanogwen. Neuadd Ogwen. 10.00 – 12.00.

    07 Theatr Bara Caws yn cyflwyno Hwyliau’nCodi yn Neuadd Ysgol Dyffryn Ogwen.

    09 Marchnad Cynnyrch Lleol. Ystafell Fawr Capel Jerusalem. 10.00 – 2.00.

    12 NSPCC Adran Bethesda. Cyfarfod Blynyddol . Canolfan Cefnfaes am 2.00

    13 Cymdeithas Lenyddol Gofalaeth Bro Dyffryn Ogwen. Ysgol Llanllechid am 6.30.

    14 Plygu Llais Ogwan. Cefnfaes am 7.00

    15 Pesda Roc yn cyflwyno GAI TOMS yn Neuadd Ogwen.

    16 Bore Coffi Neuadd Talgai. Neuadd Ogwen. 10.00 – 12.00.

    23 Bore Coffi Ysgol Glanaethwy. Neuadd Ogwen. 10.00 – 12.00.

    24 Cymanfa Ganu Sul y Blodau. Capel Bethlehem Talybont am 7.30.

    28 Merched y Wawr Bethesda. Sgwrs gan Dafydd Cadwaladr. Cefnfaes am 7.00

    Cyhoeddir gan Bwyllgor Llais Ogwan

    Cysodwyd gan Tasg, 50 Stryd Fawr Bethesda,

    LL57 3AN 07902 362 [email protected]

    Argraffwyd gan Wasg Ffrancon, Dôl Ddafydd, Bethesda LL57 3LY

    01248 601669

    Nid yw pwyllgor Llais Ogwan na’rpanel golygyddol o angenrheidrwyddyn cytuno â phob barn a fynegir ganein cyfranwyr.

    Hysbysebwch eichgweithgareddau

    yn y Llais Ffoniwch

    Neville Hughes ar600853

    Llo Chwefror_Llais Ogwan 11/02/2013 21:29 Page 2

  • Llais Ogwan 3

    Cae Glas,TregarthBangor01248 [email protected]

    Annwyl Olygydd,

    Yn ddiweddar, tra ar ymweliada fy ffrind, Aldwyth Wynne, oDdyffryn Ardudwy,gwelais yrerthygl papur newydd ymamewn hen Lyfr Sgrap roeddmam Aldwyth wedi bod yn eigadw ers blynyddoedd lawer.

    Eluned Evans o Lanbedr oeddei mam, ond yn enedigol oLanbedrog yn Llŷn. Mae'namlwg ei bod yn gasglydd o fria chan fod cyfeiriad at Tregarthyn yr erthygl tybiais y byddai oddiddordeb i drigolion DyffrynOgwen. Mae'n siwr fod rhai yny Dyffryn hwn oedd ynadnabod Mrs Morgan. Beth amgael ei hanes?

    CYNGOR I BLANT[Y mae Mrs Morgan, 2Ffrwdgaled, Tregarth, Bangorwedi dweud mewn pennill sut ydylai'r plant dreulio pobdiwrnod, a chredaf ei fod ynbennill addas iawn i'r plantddysgu. Dyma'r pennill ]

    Pa fodd, dywedwch imi'n rhyddY dyla'i plentyn dreulio'r dydd?Codi'n forau gyda'r wawr,Rhoi ei liniau bach i lawr,Gwisgo'n gryno fel y pin,At ei frecwast wedi hyn;Pan ddel cinio doed ymlaenGyda gwen a dwylo glan;Yna i chwarae'n braf ei fyd,Ac i'r ysgol erbyn pryd;Ar ol dysgu'r gwersi'n llwyrAdref wedyn cyn yr hwyr;A'r peth olaf bob dydd yw,Rhoi ei hun i ofal Duw.

    O! fel mae pethau wedi newid !

    Gwenda Davies

    Hoffwn dynnu eich sylw at brosiect cenedlaethol sy’n cael ei arwain gan y LlyfrgellGenedlaethol Cymru mewn partneriaeth â llyfrgelloedd, casgliadau arbennig acarchifau Cymru. Hefyd mae blog ‘Y Rhyfel Byd Cyntaf a’r profiad Cymreig’ ar gael.

    Gwahoddwn y cyhoedd i gyfrannu i’rprosiect trwy ddod ag eitemau draw i’rdiwrnodau agored ar gyfer eu digido.Bydd staff wrth law i sganio llythyrau,ffotograffau, tystysgrifau, cardiau post,dyddiaduron ac unrhyw ddogfennauneu eitemau cofiadwy eraill. Byddcasgliad digidol ar gael i’w weld ar-leinar ddiwedd y daith.

    Annwyl Olygydd,

    Byddaf yn derbyn Llais Ogwan ynweddol reolaidd gan gyfaill adiddorol oedd darllen yr ohebiaethyn Llais Ogwan Mis Rhagfyrynghylch y ffordd gywir o ynganuMoelyci a Llandygai. Dydw i’nbersonol ddim yn gymwys iddweud pa un o’r amrywiadausy’n gywir ond efallai y byddaigan eich darllenwyr ddiddordebmewn clywed am un hanesyn bachsy gen i i’w adrodd.

    Rai blynyddoedd yn ôl roedd gen iberthynas pell yn byw yn neAwstralia ac mewn un llythyr atafrywdro yn y chwedegau cyfeirioddat enw mynydd yn ardal BurraBurra, heb fod nepell o Adelaide,fel Mount Bald Dog a safai rhyw50 milltir o’r lle roedd o’n byw.

    Cafodd ar ddeall gan y bobl leolmai enw a roddwyd gan ymfudwro Ogledd Cymru rywdro yn yr1870au oedd hwnnw. Wedigwneud ymchwil pellach canfu fymherthynas mai rhyw WilliamJones o ardal Bethesda neuDregarth oedd y dyn dan sylw. Ycwestiwn sy’n codi yw – tybed aenwodd William y mynydd ar ôl yMoelyci o ardal ei febyd gangredu’n daer mai ci sy’n cael eigrybwyll yn yr enw? Yn fwy nahynny fe sefydlodd Williamwinllan a fu’n allforio gwin osafon i bellafoedd y byd dan yrenw Bald Dog Winery. Ni wn ayw’r winllan honno’n dal mewnbodolaeth oherwydd bu fymherthynas farw bum mlynedd ynôl a chollais bob cysylltiad â’ideulu ers hynny.

    Ceisiodd rhai o’r Saeson aymfudodd i’r ardal ynddiweddarach newid enw’rmynydd i Lucie’s Hill ondmethiant fu’r ymgais hwnnw a hydy gwn i mae’r enw Mount BaldDog, sydd, fel y crybwyllwyd, ynrhan o’r Bald Hills ger BurraBurra, yn dal i gael ei arfer ar unmynydd yn ne Awstralia. Mae’ndebyg bod William wedi ymfudo iAwstralia i weithio yn ycloddfeydd aur a fodolai yn yrardal ynghanol y bedwaredd ganrifar bymtheg . Gellir gwelddisgrifiad o’r gweithfeydd aur a’rBald Hills ar Google.. Diddorolonide?

    Tybed oes gan rywun arall oddarllenwyr Llais Ogwan oleunipellach i’w daflu ar y mater?

    Yr eiddoch yn gywir,

    Bedwyr ap Ifor.

    Llythyrau

    Annwyl ddarllenwyr

    Mi hoffwn i siarad efo rhywun sy’n cofio teulu Davies oedd yn bywyn Wern Bach, Llanllechid.. Thomas Davies oedd y dyn olaf, roeddpawb yn ei alw’n “Twm, Wern Bach”.

    Dysgwr Cymraeg ydw i a dw i’n edrych i mewn i hanes y bobl oeddyn byw yn ein tŷ ni fel rhan o brosiect ar gyfer arholiad Cymraeg.

    Os dach chi’n cofio Twm neu’i deulu mi faswn i’n hapus iawn iglywed oddi wrthoch chi.

    Diolch yn fawr.Susan Hopkins

    Wern Bach01248 601 049

    30 Adwy’r Nant,Bethesda.

    Annwyl Olygydd,

    Hoffwn ddatgan fy ngwerthfawrogiad o waith y llu o wirfoddolwyr yny Dyffryn sydd yn gweithio’n ddiflino er lles elusennau a thrigolion yrardal. Enghreifftiau diweddar o hyn yw’r ymdrechion a wnaed i godiarian i gronfa Leon Williams ac Apêl Eleanor Jones i gael offer i WardAlaw yn Ysbyty Gwynedd. Clywais fod Taith Gerdded Noddedigddiweddar wedi codi rhai miloedd o bunnau at Apêl Eleanor.Llongyfarchiadau mawr iddynt i gyd!

    ‘Rwy’n siŵr y cytuna llawer o ddarllenwyr y Llais nad oes neb yn fwygweithgar yn y gymuned na’r Cynghorydd Ann Williams o’r Gerlan.Bu mewn sawl taith gerdded, yn cynnwys yr uchod, a bu’n helpu mewnllawer iawn o foreau coffi yn ogystal â chefnogi pob math oddigwyddiadau eraill at achosion da. Ar ben hyn i gyd mae hi morbarod i helpu unigolion a theuluoedd, yn aml iawn yn y dirgel.Dyma Gynghorydd gwerth ei chael!!Diolch yn fawr iddi am ei holl weithgarwch!

    Yn gywir,

    Helen Ogwena Doyle.

    Cyngor PentirYn eu cyfarfod ar Ionawr 10fed, bu aelodau Cyngor Cymuned Pentir ynystyried y gyllideb am 2013/14. Derbyniwyd gwybodaeth gan GyngorGwynedd mai £3,000 fyddai maint y grant am y cyfnod. Rhaid oedd i'r cyngorbederfynu ar y Praesept am 2013/14. Penderfynwyd y byddai'n rhaidcynyddu'r Praesept o 2% am eleni er mwyn sicrhau fod y gyllideb yn ddigonolar gyfer gwariant y cyngor.

    Gan nad oedd y blismones gymunedol wedi gallu dod i'r cyfarfod heno,penderfynwyd y dylid anfon gwahoddiad i'r rhingyll lleol, os posib, ddod igyfarfod y Cynghorwyr yn fuan gan fod y broblem o ddiffyg plismona mewnrhai ardaloedd yn dal i fod yn boen i'r cyhoedd.

    Nodwyd fod £900 o nawdd wedi ei rannu i gymdeithasau lleol hyd yn hyn.

    Mynegwyd pryder fod y palmant ar Lon Tŷ Clwt angen sylw, ac y dylidhysbysu Cyngor Gwynedd o hyn, yn ogystal a holi pryd fyddai'r Cyngor yngorffen y gwaith o ostwng y palmentydd ar y ffordd drwy Penrhosgarnedd argyfer cerbydau'r anabl.

    Llo Chwefror_Llais Ogwan 11/02/2013 21:29 Page 3

  • Cynhelir Gwasanaethau fel a ganlyn:

    Sul Cyntaf bob mis - “Llanast yn y Llan” (Gweler isod) – 11.00am

    Ail a thrydydd Sul bob mis -Cymun Bendigaid Cymraeg –11.00am

    Pedwerydd Sul bob mis - CymunBendigaid dwyieithog – 11.00amPumed Sul - Gwasanaeth ar y cydgyda Mynydd Llandegai a Phentir(Lleoliad i’w gyhoeddi)

    Ni chynhelir y Gwasanaeth Cymunam 8.00am ar y Sul ar hyn o bryd.

    Bob bore Dydd Mercher am10.30am - Cymun Bendigaid

    Croeso cynnes i bawb i’rgwasanaethau uchod.

    Llanast yn y Llan - Na nid llanastgo iawn!! Rhyw fath o wasanaethteuluol anffurfiol. Dewisir themaar gyfer y gwasanaeth ac mae cyflei brofi gweithgareddau ymarferol achreu arddangosfa. Cyfle i blant acoedolion gael hwyl wrth addoli. Arddiwedd y gwasanaeth trefnirlluniaeth i bawb. Dewch draw arSul cyntaf y mis i weld beth sy’nmynd ymlaen.

    Arch Noa - Clwb bach yw hwn argyfer plant bach cyn oed ysgol.Mae’n cyfarfod yn YsgolAbercaseg bob bore Dydd Llun am9.15am.

    BethesdaLlên Ogwen, Stryd Fawr, Bethesda 600431

    Siop KathyStryd Fawr, Bethesda

    Fiona Cadwaladr Owen, Bryn Meurig Bach, Coed y Parc, Bethesda, LL57 4YW 601592

    Joe Hughes, Awel y Nant, Ffordd Ffrydlas,Bethesda 601902

    Eglwys Crist,Glanogwen

    Llais Ogwan 4

    CAPEL BETHANIA

    3 Mawrth: Mr Dafydd Thomas (5.30)

    17 MawrthY Parchedig Gwynfor Williams

    (5.30)

    Croeso Cynnes i Bawb

    YsbytyBu sawl un yn yr ysbyty yn ystodmis Ionawr, a da deall fod rhaiwedi dychwelyd gartref erbynhyn. Cofion a dymuniadau amwellhad buan atoch, ac at y rhaisy’n sâl gartref:Mr Bert Hughes, Stryd John;Mrs Phyllis Roberts, Adwy’rNant;Mr John Roberts, Arafa Don;Mr Tudor Roberts, Abercaseg;Miss Glenys Lloyd Jones, RhesGordon;Mr Bill Lloyd Williams, FforddBangor; Mr Terry Williams, Pant Glas;Mr Percy Parry, Erw Las;Mrs Eirian Pritchard, Rhes Elfed.

    DamwainCafodd dwy o\r pentref ddamwainyn ddiweddar a gorfod derbyntriniaeth yn yr ysbyty. Cofioncynnes iawn atoch eich dwy, sefMrs Irene Hughes, Glanffrydlas a Mrs Phyllis Evans, Erw Las.

    GorffwysfanPwyllgoe Bore Llun, 25 Chwefroram 11.00 o’r gloch.Cofion at yr aeloday sydd wedibod yn sâl yn ddiweddar, sef MrEric Jones ein Cadeirydd, MrsChristine Jones, Mrs Alice Jones,Mr Jim Amos a Mr a Mrs TomMorgan. Gwellhad buan i chi igyd.

    CydymdeimloAmfonwn ein cydymdeimlad atsawl teulu a fu mewn profedigaethyn ddiweddar, sef:-Mr a Mrs Vernon Thomas a Sara –colli nain a hen nain ymMraichmelyn, sef y ddiweddarMrs Gladys Jones.Mr a Mrs Now Jones a’r tueulu,Erw Las. Janet wedi colli brawdym Meffgelert.Mr a Mrs Tom Morgan a’r teulu,wedi colli chwaer Tom.

    MarwolaethAr 4 Ionawr, yn sydyn yn eigartref, 4 Abercaseg, bu farw MrDavid Royston Morgan yn 57oed, brawd annwyl i Lenard,Neville, Violet a Kevin ac ewythrhoffus. Cynhaliwyd ei angladdddydd Gwener, 11 Ionawr gydagwasanaeth yn Eglwys Crist,Glanogwen a mynwent EglwysCoetmor. Gwasanaethwyd gan y

    Parchedig John Matthews.Cydymdeimlwn â chwi fel teulu igyd yn eich profedigaeth o golliRoyston.

    Ym Mhlas Ogwen ar ddyddSadwrn, 5 Ionawr, bu farw MrsMorfudd Jones (Morgan gynt) o 1Maesygarnedd, yn 83 oed. Priod ydiweddar Mr Stan Jones, mam amam yng nghyfraith i Carys a Phil,Janice a Barry, a nain annwyl iFfion, Llinos, Alys, Joel a Darren.Roedd yn chwaer i Tom a Vera,Hefin a Rosemary ac yn fodrybhoffus. Roedd yn berson hoffusiawn ac yn barod ei sgwrs bobmser. Anti Mo oedd hi i bawb acroedd yn falch o hynny.Cynhaliwyd ei hangladd fore dyddLlun, 14 Ionawr, gyda gwasanaethyn amlosgfa Bangor dan arweiniadei gweinidog, y Parchedig Geraint SR Hughes. Darllenwyd dwydeyrnged iddi gan y gweinidog, ungan yr wyrion a’r llall gan MrGilbert Bowen. Mr Wyn Williamsoedd wrth yr organ. Cydymdeimwnâ chi Carys, Janice a’r teulu i gyd,ar golli mam, nain a chwaerannwyl.

    Ar 17 Ionawr, yn Sligo, yn yrIwerddon, bu farw Mrs CarolMary Williams yn 57 oed, priodannwyl y Parchedig Arfon Williams(cyn ficer Eglwys Glanogwen) amam hoffus i Ceri, Ruth a’rddiweddar Helen. Roedd yn ferch achwaer annwyl a charedig.Cynhaliwyd gwasanaeth yn EglwysGadeiriol Sligo ac amlosgfa Belfastddydd Llun, 21 Ionawr, ac ynacafwyd gwasanaeth i gofio amfywyd Carol yn Eglwys Crist,Glanogwen dan arweiniad yParchedig Trefor Evans a’rParchedig John Matthews llecafwyd teyrnged i Carol gan eiohriod. Mrs Christine Evans oeddwrth yr organ. Wedi’r gwasanaethcladdwyd ei llwch ym mynwentEglwys Coetmor. Cydymdeimlwn achi fel teulu yn eich profedigaeth.

    Yn Ysbyty ©wynedd ar 18 Ionawr,bu farw Mrs Marjorie Morris, 2Arafa Don, yn 68 oed. Priod MrDewi Morris a mam a mam yngnghyfraith Shirley a Phil, Sandra aDave, Michael a Nerys. Nain Kelly,Caryl, Claire, Nerys, Colin, Keith aSophie. Hen-nain annwyl i Kieran,Cameron, Chelsey, Hayden,Christine, Ann, Brian, Owen Glyn aMargaret.

    Cynhaliwyd ei hangladd ddyddGwener 25 Ionawr, gydagwasanaeth yn Eglwys Crist,Glanogwen ac Amlosgfa Bangor,gyda’r Parchedig John Matthews yngwasanaethu. Claddwyd ei llwchym mynwent Coetmor.Cydymdeimlwn â chwi Dewi a’rteulu i gyd, o golli Marjorie.

    Gair o DdiolchDymuna Carys, Janice a theulu yddiweddar Morfudd Jones (AntiMo) ddiolch o galon i bawb am bobarwydd o gydymdeimlad acharedigrwydd tuag atynt yn eucolled enfawr o golli mam, nain a

    chwaer hynod annwyl a charedig.Diolch am y sŵn anrhydeddus oarian er cof sydd wedi ei rannurhwng ysbyty Alder Hey, Lerpwl,ac NSPCC Cymru. Diolch i’rParchedig Geraint Hughes amwasanaeth yn unol â dymuniaadMam ac i’r gynulleidfa niferus amyr holl ganu. Diolch i GarethWiliams am ei drefniadau tawel apharchus. Hoffem hefyd ddiolchi’r gofalwyr ac i Blas Ogwen ameu gofal diflino a’u caredigrwydd.Bydd colled fawr ar ei hôl.

    ProfedigaethYn dawel ym Mhlas Garnedd,Pentraeth ar 19 Ionawr bu farw MrJ. Kenneth Hughes, Sŵn y Nant,yn 87 oed. Priod annwyl yddiweddar Mrs Vera Wyn Hughes,tad a thad yng nghyfraith Richarda Sim, Alison ac Alwyn, Nicola aDave, Fiona a Dafydd, a thaidhoffus Iwan a Fflur, Kathryn,Lucie, Gwenllian, Iestyn a Swyn.Roedd yn aelod o Eglwys Crist,Glanogwen ac yn weithgar gyda’rLleng Prydeinig. Cynhaliwyd eiangladd ddyddd Gwener, 25Ionawr, i’r teulu yn unig, gyda’rParchedig John Mattews yngwasanaethu. Cydymdeimlwn âchi fel teulu i gyd yn eich hiraetham dad a thaid annwyl.

    Yn sydyn yn ei gartref, 1 RhesPenrhyn, ar 24 Ionawr, bu farw MrBrian Venmore Thomas yn 69oed. Priod Mrs Helen Thomas, tady diweddar Mark, Michael acOsian, a brawd Eric a’r diweddarBeryl. Cynhaliwyd gwasanaeth ynamlosgfa Bangor ddydd Iau, 31Ionawr. Cydymdeimlwn â chwi,Mrs Thomas, a’r teulu i gyd.

    DiolchFe hoffai Dennis a Janet Hughes oYstad Coetmor, ddiolch o waelodcalon i bawb a helpodd famDennis, sef Irene Hughes o 11Glanffrydlas, pan gafodd hiddamwain ar y pafin o flaen TaiGlanogwen gyferbyn â’r DouglasArms yn ddiweddar. Diolch ynarbennig i ferch o’r enw Barbara affoniodd am ambiwlans a gofaluein bod ni’n dau yn cael y neges, ahefyd i nyrs o’r enw Frances aroddodd driniaeth a gofal iddi tra`ndisgwyl am yr ambiwlans, a hebanghofio’r person a fu mor garedigâ rhoi cadair a blanced iddi. Maehi`n gwella’n araf, ond bydd crynamser cyn y daw’n ôl i lawniechyd.

    DiolchYn dilyn ei brofedigaethderbyniodd Selwyn Owen,12, Ffordd Ffrydlas ddau lythyr owerthfawrogiad, y naill ganGymdeithas Alzheimers a’r llallgan Ymchwil Canser. Fe gasglwyd£674.50 yr un i’r elusennau hyn yn angladd ei wraig,Brenda a fu’ndioddef yn enbyd o’rddau glefyd yma. Mae copi o’rddau lythyr i’w gweld yng nghynteddau’r Eglwys Unedig.Unwaith eto, dymuna Mr Owenddioch o galon i bawbam eu haelioni.

    Llyfr Newydd

    Llongyfarchiadau i FionaCadwaladr Owen ar gaelcyhoeddi ei phwederyddllyfr i blant sef, Byd MoiMisho (dan yr enw FionaWynn Hughes). Yn ôl yson, mae'r bechgyn sydd yrun dosbarth â Iestyn wrtheu boddau yn darllen amhelyntion y bachgendireidus.

    Llo Chwefror_Llais Ogwan 11/02/2013 21:29 Page 4

  • Merched y Wawr, Cangen BethesdaY Fns. Elina Owen gyda’r Fns. Gwenno Evans yn cyfeilio. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Megan, Medi, Dilys ac Eirwen(Griffiths). Pleser oedd gweld fod Elinor (Holland) wedi gallu ymunoâ ni ar ôl triniaeth a gobeithiwn y bydd yn parhau i wella. Mynegodd y Llywydd ein bod yn teimlo chwithdod o golli Brendao’n plith a hithau wedi bod yn aelod ffyddlon ac yn barod bob amser idroi ei llaw at wahanol weithgareddau.

    Pleser hefyd oedd croesawu tair dysgwraig atom sef, Linda, Sue aCatherine. Ar hyn o bryd mae Catherine yn paratoi ar gyfer sefyllarholiad Lefel A yn y Gymraeg.

    Ar ran Is-Bwyllgor Anabl Rhanbarth Arfon, bydd Elena, Jennie a Patyn cymryd rhan mewn distawrwydd noddedig o ddwy awr i godiarian at CLIC, sef elusen cancr i blant. Mae Pat eisoes wedicasglu £80 at yr elusen.

    Estynnwyd croeso twymgalon i’r Bnr. Andre Lomozik a ddaeth atomfel gŵr gwadd ar fyr rybudd. Cawson noson ddiddorol yn edrych argasgliad o luniau o ‘Fethesda a’r Cylch’ yn dyddio o 1992 i’rpresennol. Syndod oedd sylweddoli cymaint o siopau sydd wedi cau,cymaint o newidiadau sydd wedi digwydd mewn oddeutu 30mlynedd, a chynifer o gymeriadau’r ardal sydd wedi ein gadael.Maith iawn fuasai nodi pob un yn unigol, ond un enghraifft drawiadoloedd gweld Capel y Tabernacl ar dân yn 1998, a’r fflamau cochion ynesgyn i fyny mor ffyrnig.

    Diolchwyd yn gynnes iawn i Andre gan ein Llywydd a chafoddgymeradwyaeth haeddiannol gan yr aelodau.

    Rhoddwyd y wobr lwcus gan Jennie a’r enillydd oedd Muriel.Wedi paned a sgwrs daeth y cyfarfod i ben.

    Llais Ogwan 5

    Bu mis cyntaf y flwyddyn yn ddigon oer a gaeafol a bu llaweryn cwyno gan annwyd, y ffliw a heintiau eraill. Rydym yn falcho weld rhai o gwmpas bellach ac anfonwn gofion at y rhai sy'ndioddef adref, mewn cartref henoed neu'r ysbyty. Gobeithio arwaethaf rhybuddion o ragor o dywydd garw y bydd pawb yn dali wella. Cydymdeimlwn gyda Tom a Vera Morgan ar farwolaethMorfudd, chwaer Tom. Bu Morfudd yn berson ymroddgarmewn mwy nag un capel ac eglwys ac roedd yn berson hwyliogdros ben ond ers tro byd bellach roedd wedi colli ei hiechyd a'ihasbri. Cydymdeimlwn hefyd gyda'r merched a'u teuluoedd agyda Hefin, ei brawd arall, sy'n byw yn Seland Newydd ersblynyddoedd. Cydymdeimlwn hefyd gyda Megan Phillips aDafydd ei mab. Bu farw chwaer yng nghyfraith Megan yn ystody dyddiau diwethaf.

    Bore Sul, Ionawr 6 cynhaliwyd bedydd Elain, merch fach DrMeic Hughes a Dr Nia Hughes. Dymunwn yn dda i'r teulu wrthiddynt symud eu haelodaeth i Seilo, Caernarfon lle maent wedicartrefu bellach.

    Nos Fawrth, Ionawr 8 cynhaliwyd Cyfarfod Gweddi dechrau'rflwyddyn o dan ofal Rhiannon Evans gyda chynorthwy OlwenWilliams, Minnie Lewis a Ceri Dart. Y cyfeilydd oedd EileenEvans ac mae'n werth nodi bod pob un o'r merched yma wedibod yn weinyddesau ond wedi ymddeol bellach.

    Nos Iau, Ionawr 11 cynhaliwyd cyfarfod o Gymdeithas yChwiorydd o dan lywyddiaeth Rhiannon Evans, yr is-lywydd.Estynnodd groeso cynnes i Arthur Rowlands, cyn-flaenor yn yreglwys ond sydd bellach wedi symud i ardal y Bala i fyw.Cafwyd noson hyfryd yn ei gwmni a hanes ei wyliauyng ngwlad yr Iesu.

    Nos Fercher, Ionawr 16 o danlywyddiaeth y Gweinidog,cafwyd noson hwyliog panroedd nifer o'r aelodau yn sônam eu hoff bethau.

    Pan oedd y tywydd yncaniatáu, fe gynhaliwydseiadau ar nos Fawrth aLlenwi'r Cwpan ar fore Iau.Croeso i bawb i bob cyfarfoda gynhelir yma.

    Yr Eglwys unedigGweinidog: Y Parchedig Geraint Hughes

    GWASANAETHAU'R SUL

    Chwefror 17 Parch. Cledwyn Williams24 Y GWEINIDOGMawrth 03 Y GWEINIDOG (10.00)Parch Robert Capon (5.00)10 Y GWEINIDOG17 Parch. Reuben Roberts

    Eglwys y Santes Ann a’r Santes FairChwefror17: 9.45 Boreol Weddi24: 9.45 Cymun Bendigaid

    Estynnwn groeso cynnes i bawb ymuno a ni yn ein gwasanaeth argyfer Sul y Fam.

    Ein dymuniadau gorau i bawb sy’n sâl ar hyn o bryd, anfonwn eincofion cywiraf atoch i gyd.

    Os oes unrhyw un yn dymuno derbyn Cymun yn eu cartref, neuunrhyw wasanaeth arall, cysylltwch â’r Curad, Y Barchedig JennyHood (605 017) neu Mr. Peter Price (601 199) neu Mrs. JanetWilliams (600 434) wardeiniad yr eglwys.

    Mynydd

    LlandygáiTheta Owen. Gwêl y Môr, Mynydd Llandygai. 600744

    YsbytyNid yw Mrs Margaret WilliamsTan y Bwlch wedi bod yn rhy dda,ond erbyn hyn daeth gartref o’rysbyty. Dymuniadau gorau.

    GenedigaethGanwyd merch fach gyntaf yflwyddyn newydd i WilliamNaylor a Leia. Croeso mawr iWillow, chwaer fach i Ruby aToby a wyres fach i Peter aLindsey. llongyfarchiadau i chi.

    LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i Jean WilliamsTan-y-bryn ar ddod yn nain am ybedwaredd tro. Wyres arall!Ganwyd Alys Joyce yn Stockport ar11 Ionawr. Merch fach i Dylan a’iwraig Melanie. llongyfarchiadauiddyn nhw.

    GenedigaethLlongyfarchiadu i Linda Davies arenedigaeth merch fach, Llio, ynchwaer i Leia, Lauren a Lois.Wyres i Elwyn a Jackie. Pobhapusrwydd i’r teulu.

    Brysiwch WellaMae llawer yn sâl yn y pentref adymunwn adferiad buan i chi i gyd.

    Y NeuaddBydd gweithgareddau yn ailddechrau yn y Neuadd Goffa y mishwn. Cofiwch am y Pantomein!Dewch yn llu!

    Contractwyr Trydanol

    Jones & Whitehead Cyf

    Swyddfa Gofrestredig

    Penrala, Tregarth, Bangor, Gwynedd, LL57 4AU

    Ffôn: 01248 601257Ffacs: 01248 601982

    E-bost: [email protected]

    Mawrth 03: 9.45 Gwasanaeth Teuluol10: 9.45 Sul y Fam - Cymun Teuluol17: 9.45 Boreol Weddi

    Llo Chwefror_Llais Ogwan 11/02/2013 21:29 Page 5

  • CAPEL CARMEL

    GwasanaethauChwefror17 Y Parch. J L Jones 5.0024 Y Parch. W R William 2.00

    Mawrth03 Y Gweinidog 2.00 a 5.0010 Y Parch G WIlliams 2.0017 Y Gweinidog 2.00 a 5.00

    Yr Ysgol Sul 10.30 y boreDwylo prysur, nos Wener 6.30.

    Croeso Cynnes i Bawb

    Rachub a Llanllechid

    Dilwyn Pritchard, Llais Afon, 2 Bron Arfon, RachubLL57 3LW 601880

    Capel Carmel - Yr Ysgol Sul

    Llais Ogwan 6

    CAPEL BETHEL (B)

    GwasanaethauChwefror17 Y Parchedig Dewi Morris24 Y Parchedig John Pritchard

    Mawrth03 Y Parchedig Huw Pritchard10 Y Gweinidog17 Mr Alun Wyn Rowlands24 Ms Nerys Griffiths

    Oedfaon an 2.00 o’r gloch

    Croeso Cynnes i Bawb

    Dathlu yn ei Hen FroY mis diwethaf, daeth gŵr sydd â’i wreiddiau yn Llanllechid yn ôl i’when gynefin i ddathlu ei ben-blwydd yn gant oed. Roedd FfrangconEvans (brawd i’r diweddar Goronwy Evans, Llwyn Onn, AlltPenybryn, Bethesda) wedi trefnu i aros am bythefnos yn yr HenWeithdy yn sgwâr Llan, o fewn tafliad carreg i’r tŷ lle ganwyd o yn1913.

    Cafwyd parti arbennig ym mwyty’r Split Willow yn Llanfairfechan arIonawr 19eg pan ddaeth nifer fawr o berthnasau a chyfeillion ynghydi’w longyfarch a chyd-lawenhau mewn gwledd i nodi’r achlysurarbennig. Bu Ffrangcon, a’i ddiweddar wraig, Gwyneth, yn byw ar stadGorwel yn Llanfairfechan cyn iddo symud i fyw mewn fflat y drwsnesaf i’w fab a’i ferch yng nghyfraith yn Stoke St Gregory heb fodymhell o Taunton yng Ngwlad yr Haf. Cafodd Ffrangcon ddathliad ynoar Ionawr 6ed, ddydd ei ben-blwydd.

    Cafodd Ffrangcon ei eni yn Nhanybryn yn Llanllechid, a symudodd yteulu bach i hen gartref ei dad, Bryn Eithin, gerllaw pan fu farw eidaid. Wedi cwblhau ei hyfforddiant yn y coleg yn Lerpwl, bu’narolygydd iechyd a thirfesurydd efo cynghorau lleol yn Wrecsam aSwydd Efrog ar y cychwyn, ac yna ym Meirionnydd, Môn ac Arfon.

    Mae Ffrangcon yn brysur efo’i gyfrifiadur ac mae o wedi llunio cartachau dwy ochr ei deulu, Bryn Eithin a Gwaun-y-gwiail. Mae o’n caelpleser yn darllen ac ysgrifennu, ac ychydig flynyddoedd yn ôl daeth iroi sgwrs i Gymdeithas Hanes Dyffryn Ogwen ar Lanllechid yngnghyfnod ei fagwraeth. Roedd o’n un o aelodau cyntaf yr Urdd yn1922, ac yn dilyn cofnodi hanes cynnar Adran Llanllechid yn Y FanerNewydd yn ddiweddar, derbyniodd lythyr arbennig gan Gyfarwyddwry mudiad. Ar hyn o bryd, ymhlith llu o bethau eraill, mae o’nysgrifennu erthygl ar ddulliau amaethu adeg ei blentyndod ar gyferFferm a Thyddyn. Mae’n hyfryd cael ei longyfarch ar gyrraedd carregfilltir nodedig.

    Deio o Fethesda a’i gefnder Now o Rostryfan yn mwynhau’r partiyng nghwmni Ffrangcon, eu hen, hen ewythr.

    Dyma lun rhai o blant yr Ysgol Sul a fu’n casglu arian tuag at C.W.M.,sef y Genhadaeth Fyd Eang. Rhwng y cardiau casglu a chasgliadgwasanaeth y plant a’r bobol ifanc casglwyd swm anrhydeddus o bron iddau gant o bunnoedd.

    Bedydd‘Pnawn Sul, 27 Ionawr bedyddiwyd Lois, Merch Ann Marie ac EilirJones, Fferm Llwyn Penddu gan y Parch Geraint Hughes. Mae Lois a’ichwaer, Efa yn ffyddlon iawn yn yr ysgol sul drwy’r flwyddyn.

    Gwellhad BuanAnfonwn ein cofion at nifer sydd wedi derbyn triniaeth mewn ysbytaiyn ddiweddar, Mrs Thomas, Fflat Capel Salem a Martha Evans,Mignaint.

    CydymdeimladAr 7 Ionawr ym Mhlas Ogwen bu farw Mrs Bruna Williams, MaesBleddyn yn 85 mlwydd oed. Anfonwn ein cydymdeimlad at Ann aChesella a’r teulu oll yn yn eu profedigaeth. Bu’r gwasanaethangladdol yn yr Amlosgfa, Bangor ar 14 Ionawr. Er yn hanu o’r Eidal,‘roedd wedi hen wreiddio yn Rachub ers priodi a’i diweddar wr,Meirion.Cymeriad hynaws llawn bywyd oedd Mrs Williams bob amseryn barod ei sgwrs a’i gwên. Bwlch arall i ardal Rachub.

    Dyma blant bach Cylch Meithrin Llanllechid yn cychwyn ar eu taith i Blas Ffrancon.

    Cylch MeithrinLlanllechid

    DiolchDymuna Kevin, Rhian, Siân a’u teuluoedd ddiolch o galon am bobarwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn dilyn euprofedigaeth o golli mam, mam yng nghyfraith a nain annwyl.Diolch yn arbennig i gymdogion a ffrindiau am bob cymorth, ahefyd am y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof amdani.

    Carmel LlanllechidTe Bach

    Pmawn Llun18 Chwefror 2.30 tan 4.00

    Croeso Cynnes i Bawb

    Llo Chwefror_Llais Ogwan 11/02/2013 21:29 Page 6

  • GerlanAnn a Dafydd Fôn Williams, 14/4 Stryd y Ffynnon, Gerlan 601583

    CarneddiDerfel Roberts, Ffordd Carneddi, Bethesda 600965

    Llais Ogwan 7

    Adref o’r ysbytyBraf yw gweld fod Alun OgwenThomas, Ffordd Gerlan, wedi dodadref ar ôl cael triniaeth yn YsbytyGwynedd. Rydym i gyd yn cofioatat, ac yn dymuno gwellad llwyr abuan iti, Alun.

    CroesoRydym yn croesawu Heather aPeter i’w cartref newydd yn Strydy Ffynnon. Gobeithio y byddwchyn hapus yn ein plith.

    ProfedigaethDaeth newyddion trist eto am un odrigolion y Gerlan, pan glywyd amfarwolaeth y ddiweddar MorfuddJones, Maes y Garnedd, ond gynto Stryd Hir. Roedd Morfudd wedibyw yn y Gerlan ers yn blentyn,cyn symud i lawr i Faes y Garneddyn ddiweddar. Rydym yncydymdeimlo gyda Dylan Morgan,Stryd y Ffynnon, ei nai, a gyda’rteulu i gyd yn eu profedigaeth.

    CydymdeimloRydym yn estyn eincydymdeimlad i Shirley a Phil a’rteulu, Ciltrefnus, yn euprofedigaeth o golli mam annwyl,

    sef y diweddar Marjorie Morris,Arafa Don, Bethesda. RoeddMarjorie yn ferch o’r Gerlan, acwedi byw yma am flynyddoedd.Rydym, hefyd, yn cydymdeimlogyda Nerys a Cara, Stryd yFfynnon, yn eu profedigaeth ogolli nain a hen nain annwyl. Byddcolled fawr ar ôl y diweddarMarjorie gan yr holl deulu.

    Gwyl Gerdd TorontoBydd Lisa Jên a Martin Hoyland,Gwernydd, a’u band 9Bach, yncymryd rhan mewn gŵyl gerddfyd-eang o’r enw ‘Folk Alliance’yn Toronto, Canada, ddiweddChwefror. 9Bach fydd yr unig fandyno fydd yn canu yn y Gymraeg.Bydd y band yn cynnal 6 cyngerddyno i gyd. Rydym yn falch oglywed y bydd 9Bach yn rhyddhaueu halbwm newydd yn ystod ymisoedd nesaf, ac rydym yn sicrfod disgwyl mawr amdano.Llongyfarchiadau ichi ar gael eichdewis i gymryd rhan yn yr ŵyl, aphob dymuniad da ichi yno, ac i’rdyfodol.

    ProfedigaethDaeth newyddion trist eto am un odrigolion y Gerlan, pan glywyd amfarwolaeth y ddiweddar MorfuddJones, Maes y Garnedd, ond gynt oStryd Hir. Roedd Morfudd wedibyw yn y Gerlan ers yn blentyn,cyn symud i lawr i Faes y Garneddyn ddiweddar. Rydym yncydymdeimlo gyda Dylan Morgan,Stryd y Ffynnon, ei nai, a gyda’rteulu i gyd yn eu profedigaeth.

    Marathon Llundain

    Gethin Jeffreys a Carwyn Evans

    Ar Ebrill 21ain bydd dau o hogiau’r dyffryn yn rhedeg ym MarathonLlundain ac yn codi arian ar gyfer Cystic Fibrosis Trust er cof am ydiweddar Gavin Bolton, Bryn Caseg. Y ddau wr ifanc ydy CarwynEvans, Stryd Morgan, Gerlan, a Gethin Jeffreys, Braichmelyn. Eunod yw casglu isafswm o £2500 ar gyfer yr achos da, a buasent ynfalch iawn o gael trigolion yr ardal i’w noddi, neu drefnu unrhywweithgareddau i godi’r arian. Os hoffech gyfrannu, gellir cysylltu’nuniongyrchol gyda Carwyn neu Gethin, neu gyfrannu ar y We ar ysafwe www.virginmoneygiving.com/ gethinjeffreys. Braf yw gwelddau wr ifanc yn barod i wneud ymdrech glodwiw fel hyn. Er mwyn codi arian trefnwyd gig gyda’r grwp Celt yn y ClwbCriced, nos Wener, 8 Mawrth, ac maent yn gobeithio cynnal ocsiwn.Dewch yn llu i gefnogi’r hogiau yn eu hymdrech!

    DiolchDymuna Beryl Williams, StrydGoronwy, a’r teulu, ddiolch owaelod calon i bawb a ddangosoddarwyddion o gydymdeimlad acharedigrwydd gyda hwy yn euprofedigaeth fawr o golli RichardAlun ychydig cyn y Nadolig.Diolch i gymdogion a ffrindiau amyr holl gardiau, galwadau ffôn, arhoddion a dderbyniasant er cofam Richard. Diolch yn fawr iawn ichi i gyd.

    ColledBu’r misoedd diwethaf yn rhaihynod o greulon i’r Gerlan, ganinni golli nifer o drigolion yr ardal.Ychydig cyn i’r Llais fynd i’rwasg daeth y newyddion trist amfarwolaeth un arall o’r pentref, sefy ddiweddar Anita Williams,Gwernydd.Rydym yncydymdeimlo’n fawr gyda’iphriod, Gruff Williams, a’r teulu igyd yn eu profedigaeth lem o gollimam a nain annwyl.

    Braichmelyn

    Rhiannon Efans, Glanaber, Pant, Bethesda 600689

    GenedigaethLlongyfarchiadau i Carl Jones,gynt o Garneddi, a Kate arenedigaeth eu merch, PoppyCatrin Jones, ar 14 Ionawr. MaeCarl a Kate wedi ymgartrefu ynGosport, Swydd Hapshire.

    Llongyfarchiadau hefyd i Alan aJackie Jones, Carneddi, am fod ynnain a thaid am y tro cyntad, ac iThomas a Heddwen Jones, Rhos yCoed am fod yn hen nain a thaid,ac wrth gwrs i Anti Ceri.

    GwellaDa gweld bod Eileen Roberts, 86Ffordd Carneddi yn gwella wediderbyn triniaeth i’w phen-glin ynddiweddar. Pob dymuniad da iddi.

    DiolchMae yna gymwynaswyr achymwynaswyr, ond ychydig yw’rrhai sy’n fodlon mynd allan achlirio stryd gyfan o eira er mwynhwyluso trafnidiaeth i bawb, Ynabsenoldeb gweithwyr y cyngor,dyna a wnaeth Conrad Davies, 78Ffordd Carneddi yn ddiweddar adymuna holl drigolion yr ardalddiolch iddo am ei lafur caled.

    Ymadael â ThafarnDaeth cyfnod i ben ddiweddIonawr yn Nhafarn Y Sior,Carneddi pan adawodd Chris aMaureen Watson y dafarn ar ol eirhedeg am bum mlynedd. Roeddcroeso cynnes i’w gael gan y ddaubob amser a chynhaliwydnosweithiau difyr dros ben yno.Un da oedd Chris ar fod yn

    gwisfeistr ac ni fyddai yr un yncael ei gynnal heb i Maureen fodwedi trefnu lluniaeth. Byddaillawer o fudiadau, cymdeithasau a

    chronfeydd apêl yn cael eu cynnalyno, megis Cylchoedd Meithrin yrardal, Apêl Eleanor i enwi dim ondychydig. Yr un fyddai’r croesotwymgalon a’r cymorth bob amser.Byddai’r lle dan ei sang yn ystodgêm rygbi ryngwladol gydalobsgows blasus hanner amser achrys rygbi i’w ennill gyda tocynam ddim gyda’ch diod.

    Nosweithiau difyr eraill agynhaliwyd oedd nosweithiaubingo a hwyl a chân yng nghwmniHogia’r Bonc . Diolch Maureen aChris am y croeso bob amser.Dymunwn y gorau i chi ar eichymddeoliad yn eich cartrefnewydd ym Mae Colwyn acedrychwn ymlaen i’ch gweld yneistedd yr ochr yma i’r bar panfyddwch yn ymweld â Karen yngNgharneddi

    Hoffa’r ddau ddiolch o galon ibawb am eu cwsmeriaeth a’ucwmniaeth yn ystod yr amser ybuont yn cadw’r Sior.

    DiolchDymuna Mrs Eirlys Jones, 4Braichmelyn ddiolch i’r Llais am ydymuniadau da ar ei phen-blwyddarbennig. Hefyd i’r perthnasau,ffrindiau a chymdogion am ycardiau, anrhegion ac ymweliadaua gafodd ar y diwrnod arbennigiawn.

    DiolchDymuna Anita ac Alun Jones,Cadnant, Braichmelyn, ddiolch ogalon i’r holl ofalwyr a fu’n gweiniar fam Anita, sef y ddiweddar MrsGladys Jones dros y blynyddoedddiwethaf.. Diolch hefyd am bobarwydd o gydymdeimlad adderbyniwyd boed ar ffurfymweliadau, galwadau ffôn neu’nysgrifenedig gan deulu, cyfeillion achydnabod. Aeth pob cyfraniad ercof am Mrs Jones at yr elusenCarers Outreach sy’n cynrychioliac yn gofalu am fuddiannaugofalwyr ar draws y wlad.

    GwellhadMae Mr Eric Jones, Cefncwlyn, ynwell wedi iddo fod yn wael ers rhaiwythnosau. Mae’n braf ei weldallan wedi gwella cystal.Dymuniadau gorau i chi Eric.

    Rydym yn meddwl am bawb syddwedi cael y ffliw neu’r annwydsy’n mynd o gwmpas yr ardalhefyd. Brysiwch wella pawb!

    CofionRydym yn gyrru ein cofion gorau iNita Jones, Braichmelyn, syddwedi cael triniaeth i’w llygad ynYsbyty Gwynedd. Cymrwchbethau’n ysgafn rwan, Nita, agobeithiwn y byddwch yn gwella’nllwyr a buan.

    Llo Chwefror_Llais Ogwan 11/02/2013 21:29 Page 7

  • Llais Ogwan 8

    LlandygáiEthel Davies, Pennard,

    Llandygái 353886

    Eglwys Sant TegaiGwaeleddDymnwn wellhad buan i Mrs Joy Radcliffe sydd wedi cael llawdriniaeth yn Ysbyty Gwynedd ynddiweddar.Cofiwn y mis hwn eto am ein cyfeillion sydd yn wael yn eu cartrefi: Mrs Jane Couch, Mrs Beryl Edwards,Mr Gwynne Edwards a Mr Harry Gross – rydym i gyd yn meddwl llawer amdanoch.

    Gamoa ObiriYn Eglwys Sant Tegai ar nos Sul, 13 Ionawr, cynhaliwyd yr Hwyrol Wedi dan arweiniad y Parchedig JohnMattews. Yn dilyn y gwasanaeth yn Neuadd Talgai cafwyd sgwrs gan y Dr Einir Young, Talybont am ypentref bach, Gamoa Obiri sydd wedi ei gefeillio gydag Eglwys Sant Tegai ers sawl blwyddyn bellach.Roedd paned a bisgedi ar y diwedd wedi eu trefnu gan Nerys a Merched yr Eglwys a diolch o galoniddynt. Diolch yn fawr i Einir am y cyflwyniad rhagorol, mae’n braf cael clywed am y gwelliannau syddar y gweill ac mor ddiolchgar yw’r pentrefnwyr am bob cyfraniad.

    Yr Offeren a ChoffiBob bore Mercher byddwn yn cynnal gwasanaeth y cymun yn Eglwys Sant Tegai a bydd aelodau o’r tairEglwys yn ymuno. Yn ddiweddar mae rhai o’n cyfeillion wedi bod yn wael a’r tywydd gaeafol wedi eurhwystro rhag dod. Felly roeddem yn falch o weld Nesta Hughes a Linda Irons, y ddwy o Dregarth, wedidod atom fore Mercher, 23 Ionawr. Rydym yn anfon ein cofion at John Morell (un o’r ffyddloniaid) syddyn dal yn wael – brysiwch wella John. Diolch yn fawr i Muriel am edrych ar ôl pawb ar ôl y gwasanaethefo’r coffi a’r bisgedi – maent yn dderbyniol iawn yn ystod y tywydd oer.

    Diolch i’r Athro Ian Russell am gymryd gwasanaeth y Foreol Weddi ar fore Sul 27 Ionawr ac hefyd iGeraint Gill yr organydd, i Edmond a Rhian am ddarllen, ac i Nerys am ofalu am bopeth.

    John Huw Evans, 30 Bro Rhiwen, Rhiwlas352835

    Rhiwlas

    TalybontNeville Hughes, 14 Pant, Bethesda 600853

    Capel Bethlehem, Talybont

    PlygainCynhaliwyd gwasanaeth Plygainyn Eglwys Y Drindod ar y nosWener cyntaf o’r mis. Roeddnaw o grwpiau yn cymeryd rhanyn cynnwys un o Eglwys MaesY Groes a balch oeddem fodciwrat Glanogwen, y BarchedigJenny Hood, wedi ymuno a ni iganu. Fe ganodd Geraint Gill einhorganydd unawd hefyd ar ynoson. Traddodwyd ydiolchiadau gan ein Esgob, yGwir Barchedig Andrew John.Diolch yn arbennig i CatrinHobson, ein warden, am eigwaith caled i drefnu’r nosonlwyddiannus.

    Cinio NadoligAr nos Wener y cyntaf oChwefror, cynhaliwyd ein cinioNadolig yng ngwesty’r Victoriaym Mhorthaethwy. Balchoeddem o weld aelodau oeglwysi Tregarth a Llandegaiwedi ymuno â ni i fwynhau’rnoson a’r pryd blasus.Diolch i’r Parchedig JohnMatthews, ein ficer, am eindiddori ac i Phyllis Davies amdrefnu’r noson mor drylwyr.Diolch hefyd i bawb am eurhoddion i’r raffl. Cyflwynwydtusw o flodau i Phyllis gan einficer mewn gwerthfawrogiad o’illafur.

    Yn yr YsbytyAnfonwn ein cofion at JohnMorrell sydd yn derbyn triniaethyn Ysbyty Gwynedd.

    Eglwys Maes y Groes

    BwrlwmMae’n braf medru cyhoeddi fodcyfarfodydd y “Bwrlwm” wediail gychwyn ers dydd Iau 23 Ionawr, gan fod y festribellach mewn trefn yn dilynllanast y llifogydd. Mae croesoi bawb ymuno â ni am sgwrsdros banad bob yn ail ddyddIau o 2.15 tan 3.45. Ar waethaf popeth mae’rBwrlwm wedi medru rhannu£300 rhwng 5 elusen lleol.

    Ysgol SulWedi rhyw 2 fis o dawelwch, braf oedd clywed lleisiau 13 o blant addaeth i gyfarfod cyntaf yr Ysgol Sul ar 3 Chwefror. ‘Roedd yngwbl amlwg eu bod wedi colli dod i’r Ysgol Sul ac yn falch o gaeldod yn ôl!

    GwellhadCroesawyd Mrs. Rita Hughes yn ôl i’r Capel ac i’r Bwrlwm ynddiweddar wedi cyfnod o absenoldeb oherwydd iddi dderbyn llawdriniaeth. Gobeithiwn y bydd Mrs. Rhiannon Williams, wedigwella’n ddigon da i ddychwelyd atom cyn bo hir!

    DiolchDymuna Rita Hughes, 7 Lôn Ddŵr, ddiolch i bawb am y cardiau a’ranrhegion a gafodd ar ôl bod yn Ysbyty Gwynedd.

    GwaeleddAnfonwn ein cofion a’ndymuniadau da i’r cleifion sy’n dali fod heb wella y gaeaf hwn: Ernie aNerys Coleman, Beryl a JimHughes, Dr Pam Jones, OlwenLytham, Betty Williams a DorothyProudley Williams – llwyr wellhad ichi i gyd a chadwch yn gynnes ynystod y tywydd oer yma.

    BingoNos Fawrth, 15 Ionawr, cynhaliwydy Bingo cyntaf am eleni yn NeuaddTalgai, ac er mai nifer fechan oeddyn bresennol fe wnaed elwsylweddol tuag at y neuadd. Diolcham eich cefnogaeth a diolcharbennig i Pauline a Raymond.

    Pen-blwyddLlongyfarchiadau i Cai Jones, 4Pentre Llandygái gynt, ar 22Chwefror pan fydd yn dathlu eiben-blwydd yn 19 mlwydd oed.gobeithio y cei di ddiwrnod wrth dyfodd a hwyl fawr i ti i’r dyfodol.

    LlongyfarchiadauRhaid llongyfarch a diolch i’r DrJohn Elwyn Hughes am ei gyfrolnewydd ‘Rhai o Enwogion LlênDyffryn Ogwen’. Mae’n ddiddoroldros ben i bawb, ac yn arbennigfelly i ni a fagwyd yn NyffrynOgwen ac a gafodd y fraint oadnabod yr enwogion hyn. Tri ynunig oedd wedi marw cyn fy ngeni,sef Rhys J. Hughes, W J Parry aBenjamin Thomas, er i mi glywedamdanynt ar fy aelwyd gartref.Diolch hefyd i Neville Hughes,Dafydd Roberts, Arthur Rowlands aIeuan Wyn am eu cyfraniadhwythau fel aelodau o’r pwyllgor.

    Sefydliad y Merched, LlandygaiEin cyfarfod cyntaf o’r flwyddynoedd ymweliad a llyfrgell Bangor,nos Fercher, Ionawr 23.

    Cafwyd nifer o ymddiheuriadau amabsenoldebau. Croesawyd pawb yngynnes gan Gwawr gyda phaned achacen.

    Rhoddodd fraslun inni o hanes yllyfrgell. Adeiladwyd hi gan GyngorDinas Bangor a chafwyd swmsylweddol o’r gost yn rhodd ogronfa’r dyngarwr AndrewCarnegie. Un o amodau y rhoddoedd ei bod yn llyfrgell rhydd , argael i bawb i’w defnyddio. Gwelirplac copor yn y cyntedd - LlyfrgellDinas Bangor, agorwyd yn 1907.

    Synnwyd yr aelodau gan ehangdery gwasanaethau sydd ar gael ynddi,ar wahan i’r llyfrau a’r deunyddiautechnegol.

    Wedyn cawsom grwydro o gwmpasy llyfrgell i weld y gwahanoladnoddau. Noson ddifyr iawn.Diolchwyd i Gwawr am y croeso agawsom a’r holl wybodaeth ynglynar llyfrgell.

    Lle i GanmolRhaid canmol Cyngor Gwyneddam wrando ar gwynion trigolionRhiwlas a Phentir a myned ati igymryd camau i arafu’r ceir a’rlorïau sy’n teithio ar y ffordd fawrdrwy’r ardal.

    Codwyd arwyddion 50 milltir yrawr cyn cyrraedd cyffordd LônBach Awyr o gyfeiriad Bethel ac

    OedfaonChwefror 17 Parchg. Cledwyn Williams 24 Y Gweinidog

    Mawrth 3 Parchg. Iwan Llewelyn Jones,

    Porthmadog 10 Y Gweinidog17 Parchg. Reuben Roberts.

    Oedfaon am 2 o’r gloch oni nodir yn wahanol. Croeso cynnes i bawb.

    un arall wrth ddod tuag at Ryd yGroes o gyfeiriad Llandygái.

    Rhoddwyd gwrymiau ar wyneb yffordd yn ogystal. Nid oes ondgobaith y gwnaifff gyrrwyrgymryd sylw ohonynt.

    Diolch i’r rhai a roddodd o’uhamser i gasglu enwau ar yddeiseb fu o gwmpas y ddwyardal ac i’r cynghorwyr lleol afu’n gefnogol i’r ymgyrch.

    Rhoddwyd sylw i anghenioncerddwyr yn ogystal. Gosodwydllwybr caled o Lôn Bach Awyrhyd at Bentir a llwybr cyffelyb oRyd y Groes i Bentir.

    Llo Chwefror_Llais Ogwan 11/02/2013 21:29 Page 8

  • Llais Ogwan 9

    Cloddio Safle Cae’r Mynydd – Ein Hen, Hen Hanes.

    Yn dilyn cyfeiriad byr at ‘y Camp’ yn rhifyn Ionawr o’r Llais, bu rhai o’rdarllenwyr yn holi a oedd rhagor o wybodaeth i’w gael am y safle. Yn yCymro, 17 Tachwedd 1955 ceir yr adroddiad canlynol, sy’n hynod ddiddorol:

    Oddeutu un ganrif ar bymtheg yn ôl roedd teulu neu deuluoedd – Cymry ynôl pob tebyg – yn amaethu tir Cae’r Mynydd wrth odre Moel Rhiwen. Yrwythnos hon mae hynafiaethwyr o’r Comisiwn hen greiriau wrthi’ndadwreiddo olion yr hen ffermdy – gwaith y dechreuwyd arno yn 1949.Eisoes turiwyd digon i ddangos y bu ar y tir hwn fferm, wedi eihamgylchynu â waliau. O fewn y waliau hyn, ar gylch o dri chan troedfeddar draws, roedd adeiladau crynion ac un neu ddau adeilad hirsgwar. A’r tuallan i’r wal a oedd yn gylch am y cwbl roedd wal lai – hon yn ôl pob tebygi rwystro i anifeiliaid grwydro. Yn 1949 cafwyd y bu pobl yn byw mewn uno’r adeiladau mewn tri chyfnod gwahanol. Yn agos i’r wyneb roedd llawrwedi ei balmantu. Methwyd â phennu oed hwn.O dano roedd trwch deunaw modfedd o olion y bobl a fuasai’n byw yn yradeilad – lludw coed, darnau o lestri pridd o’r drydedd a’r bedwareddganrif, hoelion haearn a mainc garreg. Yn is wedyn roedd cerrig a allasaifod yn sylfaen adeilad cynharach oedd ar safle dipyn yn wahanol. Y trohwn canfuwyd darnau o lestri pridd ac o faen melin a ddefnyddiwyd i faluŷd.

    Mae’r safle, sydd ar ffurf pant yn y ddaear i’w weld rhyw ddau gan llath o’r tudraw i dŷ Cae’r Mynydd ac ar y chwith i’r llwybr wrth wynebu Beran. Os amymweld â’r safle, gwell fuasai gwneud ym misoedd y gaeaf gan fod rhedyn yncuddio’r lle yn yr haf.

    Merched y Wawr, RhiwlasMae dau gyfarfod i’w cofnodi y mis hwn, cyfarfodydd Rhagfyr a Ionawr.

    Mr Maldwyn Thomas ddaeth atom yn Rhagfyr. Testun ei sgwrs oedd‘Merched mewn Hanes’. Gan ein bod yn dynesu at y Nadoligdechreuodd trwy gyfeirio at gân Mair (Magnificat). Yna aeth ymlaen isôn am rai o wragedd a merched y tywysogion Cymreig. Cyfeiriodd atElizabeth Ferrers, gwraig Dafydd ap Gruffydd a’r modd y cafodd euplant eu trin. Bu farw dau o’r meibion yng ngharchar a threuliodd eumerched weddill eu hoes yn lleianod yn Lloegr. Cawsom hefyd storihynod Catrin a Mary Roberts. Gorffennodd trwy ddarllen rhan o nofelIslwyn Fffowc Elis, Cysgod y Cryman.

    Cafodd ei sgwrs dderbyniad gwresog. Ni ellid disgwyl llai gan fod MrThomas yn feisrolgar a diddorol ei gyflwyniad bob amser.

    Gwnaed y te gan Einir ac Agnes. Agnes hefyd wnaeth y mins peis abarnai’r aelodau eu bod y rhai gorau iddynt eu profi erioed. Cyfeiriwydat waeledd Ann Roberts a threfnwyd i ni anfon win cofion a’ndymuniadau gorau ati.

    Un o’n haelodau fu’n gyfrifol am gyfarfod mis ionawr, sef Gwen Aaron.Mae Gwen fel y gwyddom yn hoff iawn o fyned ar deithiau cerdded, ynaml i wledydd tramor; ond hanes un o’i theithiau yn nes at adref gawsomni y tro hwn. Yn 2008 agorwyd llwybr 60 milltir o hyd ar hyd arfordirSir Aberteifi, a dyma’r llwybr y bu Gwen yn ei gerdded. Cychwynodd ydaith yn Aberteifi, yna galw yn Aberporth, Cwm Tydi, Llangrannog aLlanrhystud, gan orffen y daith yn Aberystwyth.

    Roedd yn amlwg ei bod wedi mwynhau’r profiad a chodai ei shwrs yrawydd i ddilyn ôl ei throed pe deuai’r cyfle.

    TregarthGwenda Davies, Cae Glas, 8 Tal y Cae, Tregarth 601062

    Olwen Hills (Anti Olwen), 4 Bro Syr Ifor, Tregarth 600192

    Damwain yn y cartrefDylem fod wedi cyfeirio yn rhifynMis Ionawr o’r Llais am yddamwain ddaeth i ran MrsMegan Davies, Ffrwd Galed. Tristoedd clywed iddi syrthio yn ystodcyfnod y Nadolig a thorri ei dwyfraich. Mae’n dda deall ei bod yngwella a dymunwn lwyr iachadiddi. Rydan ni’n cofio Megan yngweithio yn y Swyddfa Bost ynNhregarth am flynyddoedd a bobamser yn barod ei chymwynas.Brysiwch wella Megan.

    Llongyfarchiadaui Alwyn Ellis, Tal y Cae ar gael eibenodi’n Flaenor yng NghapelBereia Newydd

    LlawdriniaethMae Emyr Morris Jones, Lliwedd,Tal y Cae, wedi cael llawdriniaethyn ysbyty Gobowen, Croesoswallt,ddechrau mis Chwefror. Brysiawella Emyr !

    ProfedigaethMae amryw i drigolion y pentrefwedi cael profedigaethau yn ystodyr wythnosau diwethaf. Rydanni’n anfon ein cydymdeimladatoch i gyd yn eich hiraeth ar ôlanwyliaid.

    Daeth profedigaeth i ran Allisonac Alwyn Ellis, Tal y Cae pan fu

    Clwb 100 Canolfan Tregarth

    Ionawr 201341 Goronwy Roberts £156 David Hadfield £108 Gomer Davies £ 5

    Merched y Wawr, TregarthRichard Lloyd Jones, Bethel, oedd y gŵr gwâdd yng nghyfarfod Mis Ionawr o Gangen Tregarth o Ferched yWawr yn Festri Capel Shiloh, Nos Lun, Ionawr 7. Cyn athro Mathemateg yn Ysgol David Hughes,Porthaethwy yw Richard ac yn un sydd wedi bod a diddordeb mawr am flynyddoedd mewn chwaraeon ynogystal, ac yn arbennig mewn criced. Ond ni ddaeth i’r gangen i sôn am ei waith fel mathemategydd nacmewn chwaraeon ond yn hytrach am ei ddiddordeb yn y byd llenyddol a barddonol.

    Mae wedi ennill peth wmbredd o gystadlaethau mewn Eisteddfodau lleol a chenedlaethol am sgwennustraeon byrion, atgofion, englynion a phenillion di-ri. Mae wedi argraffu nifer o bamffledi yn cynnwys eiwaith llenyddol a chawsom ei glywed yn darllen rhai ohonynt yn ystod y noson. Mae’n amlwg ei fod ynberson prysur, er iddo ymddeol o’i waith fel athro rhai blynyddoedd yn ôl.

    Diolchwyd iddo am noson ddiddorol dros ben ac am ei atgofion o fod yn ddisgybl yn Ysgol GynraddLlandygai ac Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda. Roedd yn hyfryd gweld y Festri yn Shiloh yn llawn ar gyfer ynoson hwyliog a difyr yma. Diolchwyd i Richard am ddod i’r gangen ar fyr rybudd.

    Paratowyd y baned gan Iona Rhys, Jên Margiad a Gwenda Davies. Bydd y gangen yn cyfarfod nesa Nos Lun,Chwefror 4 ac yna ym Mis Mawrth ar Fawrth 4 pan fyddwn yn dathlu Gŵyl Ddewi yng nghwmni yBoncathod.

    Capel Shiloh, Tregarth Gwasanaethau ShilohYsgol Sul Shiloh 10.30 bob bore SulOedfa’r Hwyr 5.00

    Chwefror 17 Parchedig John Gwilym Jones,Peniel, Caerfyrddin24 Parchedig W.R Williams, Y Felinheli

    Mawrth 10 Mr R.J.H Griffiths, Bodffordd17 Y Parchedig Harri Parri,Caernarfon24 Oedfa Deulu am 10.30 WynThomas, Bangor yn anerch31 Mr J.O Roberts, Bethesda

    Ers rhai wythnosau bellach maesedd Mrs Megan Davies, FfrwdGaled, yn wag ar nos Sul yn Shilohgan iddi syrthio a thorri ei braich yngo egar. Anfonwn ei cofion ati felcyfeillion yn Shiloh gan ddymunogwellhad buan iddi.

    Cydymdeimlwn gyda Mrs LilianRichardson, Ffordd Tanrhiw, yn eiphrofedigaeth ddiweddar o golli eichwaer, sef Mrs Buddug Pleasant,Bro Syr Ifor.

    Daeth profedigaeth i ran GeralltWilliams, Ffordd Tanrhiw, a’r teulupan fu farw ei fam o’r Gerlan ynYsbyty Gwynedd ar Ionawr 29.Mae Joshua a Hannah yn aelodau oYsgol Sul Shiloh ac mae Gerallt acAndrea ei briod yn barod iawn eucymwynas bob amser yn Shiloh.

    farw tad Allison , sef KennethHughes, Bethesda, mewn cartrefynm Mhentraeth. Cofion at Allison,Richard, Nicola, Fiona a’r holldeulu yn eich galar.

    Collodd Gerallt Williams, 28Ffordd Tanrhiw, ei fam oedd ynbyw yn y Gerlan ar ddiwedd MisIonawr. Cofion at Gerallt, Andrea,Joshua,Hannah a’r teulu yn eichprofedigaeth chwithau.

    Trist oedd clywed y newyddion amfarwolaeth Llion Jones,Llanfairfechan, gynt oBrynhoffnant, Sir Aberteifi,yn 83mlwydd oed. Bu Llion yn brifathroyn Ysgol Gynradd Tregarth amnifer o flynyddoedd yn ysaithdegau a chydymdeimlwngyda’i briod Jean, ei ferched Beth aNia, ei wŷr Robert a’i frawdCampbell.

    Llo Chwefror_Llais Ogwan 11/02/2013 21:29 Page 9

  • Llais Ogwan 10

    GlasinfrynCaerhunMarred Glynn Jones2 Stryd Fawr, Glasinfryn,Bangor LL57 4UP01248 [email protected]

    Clwb 100

    Mis Rhagfyr '12

    1af Rhif 44 Margaret Griffith, Caerhun2ail Rhif 4 Gaynor Perry, Nant Y Garth3ydd Rhif 22 Ann Williams, Rhiwlas

    Mis Ionawr '13

    1af Rhif 30 Mair Roberts, Rhiwlas2ail Rhif 39 Beryl Griffith Pentir3ydd Rhif 26 Catherine Roberts, Rhiwlas

    GwellhadAnfonwn ein cofion at BillLloyd-Williams, Min Ogwen,Bethesda sydd ar hyn o bryd ynYsbyty Gwynedd ag at AverillThomas, Alban, Pentir syddwedi treilio cyfnod yr ysbyty ynddiweddar ar ol damwain yn eichartref. Brysiwch wella olldau.

    CydymdeimloAnfonwn ein cydymdeimladdwysaf at Mike yn eibrofedigaeth o golli mamannwyl, sef Pat Jarvis, BroInfryn, Glasinfryn.

    Bingo a ChrempogYn Y Ganolfan, Glasinfrynprynhawn Sadwrn y 16Chwerfror am 2y.h. Mae croesocynnes i chwi ymuno a ni amgem o Fingo sydd i'w dilyngyda Te Crempog.

    Gŵyl DdewiNos Sadwrn yr ail o Fawrth am6.30y.h. yn Eglwys St. Cedol,bydd noson gymdeithasol iddathlu gwyl ein nawddsant.Mae croeso cynnes i chwiymuno yn y dathliad.

    Gwasanaethau'r SulCynhelir y gwasanaethau bobbore Sul am 9.45y.b.:Sul cyntaf ar trydydd - CymunBendigaid - dwyieithogAil a pedwerydd Sul - BoreuolWeddi - dwyieithogMae croeso cynnes i bawbymuno yn wasanaethau'r Sul.

    DiolchFel Eglwys hoffwn ddiolch ibawb a gefnogodd eingweithgareddau yn ystod 2012.Diolch yn fawr am eichcefnogaeth.

    PentirAnwen Thomas,Min yr afon11 Rhydygroes, Pentir 01248 355686

    Eglwys Sant Cedol

    MarwolaethAr fore dydd San Steffan, a hithauar drothwy ei phenblwydd yn nawdeg a saith, bu farw Ellen ElizabethWilliams, neu fel yr adwaenid higan drigolion Pentir – Nel BrynHywel.

    Fe anwyd Nel yn Llanfechell, YnysMôn, lle treuliodd ei blynyddoeddcynnar. Pan oedd yn un ar bymthegoed daeth i weini at hen deulu BrynHywel fel morwyn fach, ac yno ytreuliodd ei bywyd. Wedi colli’rolaf o deulu Bryn Hywel, sef MrRobert Evan Roberts, y Giaffar fely galwai o, yn 1987, treuliodd Nelei hamser yn garddio, cadw cathoda cherdded. Cerddai filltiroedd bobwythnos, o gwmpas y fferm.Nid oedd wedi mwynhau iechyd daiawn yn ystod y pedair blyneddddiwethaf yma, a threuliodd raimisoedd yn Ysbyty Gwynedd acYsbyty Eryri, ac wedi hynny tairblynedd a hanner yng NghartrefBryn Llifon ym Mangor, lle cafoddofal o’r radd orau. Yno y bu hifarw.Cynhaliwyd ei hangladd ynAmlosgfa Bangor, dan arweiniad yParchedig W R Williams, yFelinheli, yng nghwmni nifer o’itheulu a’i ffrindiau. Claddwyd eillwch ym medd teulu Bryn Hywel.

    Teyrnged i Pat Jarvis gan eimab Mike

    Symudodd Pat a Don i Bentir oSwydd Stafford ym 1975, aphrynu Tan-y-bryn, a oedd ar uncyfnod yn Siop Bwtsiar. Roeddangen gwaith atgyweirio amoderneiddio arno a gwnaethDon y gwaith i gyd ei hun.

    Dechreuodd y ddau weithio ynffatri Denis Ferranti ym Mangor,Don fel weldar a Pat yn yr adrangwneud ffonau.

    Roedd Pat yn weithgar iawn ymmywyd y gymuned, yn helpugyda’r Eglwys a’r arddwest, trabod Don yn gweithio’n galed areu tŷ. Yn ei amser sbar roedd ynysgrifennwr o fri, yn cynhyrchullawer o erthyglau ar gyferpapurau cenedlaethol.

    Ar eu hymddeoliad symudodd yddau o Dan-y-bryn i’r Graig acyna i Lasinfryn.

    Parhaodd y ddau i fod ynweithgar ar ôl ymddeol, ac wrthiddynt ddathlu 60 mlynedd obriodas roedd Don yn dal iysgrifennu a phaentio a Pat yn dali gefnogi’r Eglwys trwy wnïo agwau.

    Oherwydd eu caredigrwydd a’uhaelioni gwnaeth y ddaugyfeillion oes yn yr ardal.

    Yn drist bu Don farw yn hydref2008, wedi cystudd hir. Bu farwPat yn dawel a heddychlon ynYsbyty Gwynedd ar 6 Ionawr2013 wedi cystudd hir.

    Sefydliad y MerchedCynhaliwyd cyfarfod cynta’rflwyddyn 2013 ar nos Fercher9fed o Ionawr dan lywyddiaethMrs Sarah Flynn. Croesawyd yraelodau a diolchwyd i Mair am eigwaith diflino yn trefnu’r hollweithgareddau yn ystod 2012.Llongyfarchwyd Mrs MurielPritchard ar ddod yn hen nainunwaith eto, a braf oedd cael eichwmpeini yn y sefydliad a hithauar drothwy ei phen-blwydd yn 94oed.

    Christina yw’r trysorydd newydd adymunwn bob llwyddiant iddi.Wedi delio â’r materion,croesawyd ein gŵr gwadd, MrNeil Adams, sy’n wirfoddolwrgyda Gwasanaeth Achub MynyddOgwen ers hanner can mlynedd.Tipyn o gamp ynte? Mae yna tua70 o wirfoddolwyr ac i ymuno â’rgwaith pwysig mae angen eitha’gwybodaeth am yr ardal a’rmynyddoedd! Oherwydddatblygiad technoleg, erbynheddiw mae gan bobgwirfoddolwr radio arbennig acfelly nid oes angen byw yn agosi’r pencadlys sydd wedi ei leoliwrth Lyn Ogwen sydd gyferbyn âmynydd Tryfan.

    Yn yr Alban mae’r gwaithhyfforddi yn digwydd ac mae hynyn angenrheidiol i bob aelodnewydd. Ar lethrau Tryfan maerhan fwyaf o’r gwaith achub yncymryd lle - tua 35% ac i helpu ‘rgwaith peryglus mae ganddyntddwy 4x4 Land Rover ambiwlansa chymorth y llu awyr 22 squadrono’r Fali yn Sir Fôn.

    Bu 134 o alwadau i achub ynystod y flwyddyn ddiwethaf, yrhan fwyaf yn llwyddiannus.Rhaid edmygu’r bobl yma sy ‘ngwneud y gwaith peryglus odroedio mynyddoedd ddydd a nosi achub bywyd rhan amlaf danamgylchiadau anodd iawn. Maentyn barod i weithredu i chwilio ambobl sydd ar goll, neu ddelio gydathrafferthion llifogydd ac eira neuunrhyw achlysur sydd angencymorth.

    Diolch am bobl fel Neil am eugwasanaeth.

    Cafwyd paned wedi ei pharatoigan Mair a Kath a diolchwyd iNeil gan Ingrid.

    BingoBydd y Bingo a Noson Goffinesaf yn cael ei gynnal ar 8Mawrth am 7.30, gyda’r elw ytro hwn yn mynd at y Ganolfan.Mae llawer o wariant wedi bodar y Ganolfan yn ddiweddar, felcypyrddau newydd, boilercynhesu dŵr a gwresogydd atheimlir y dylid rhoi hwb fach igyllid y Ganolfan i helpu tuag aty costau !

    Yn ystod y flwyddyn ddiwethafmae’r sesiynau Bingo wedicodi’r arian canlynol:

    Elusen “Sunny Days” - £100Marchogaeth i’r Anabl Treborth -£115Radio Ysbyty Gwynedd - £127Byddin yr Iachawdwriaeth - £98Cronfa Serena Pickavance £115Clwb Epilepsi Ysbyty Gwynedd- £148Uned Arbennig Babanod YsbytyGwynedd - £120“Help for Heroes” - £95Cyfanswm - £918

    Diolch yn fawr iawn i bawb ameich cefnogaeth i’r Bingo, drwyfynychu neu roddion ariannol agwobrwyon tuag at ynosweithiau.

    Clwb CantMae Pwyllgor y Ganolfan wedidechrau ymgyrch frwdfrydig iddenu mwy o aelodau i GlwbCant y Ganolfan.

    Mae’r elw o’r Clwb Cant yngyllid gwerthfawr iawn tuag atgynnal a chadw’r Ganolfan, acmae’n galluogi fod ffioeddllogi’r Ganolfan yn rhesymoliawn. Mae’r Clwb Cant yn caelei dynnu ar ddiwedd bob mis,gyda hanner yr arian yn mynd ynwobrwyon a’r hanner arall ynmynd tuag at y Ganolfan.

    Dim ond punt y mis sydd angenei dalu i fod yn aelod o’r ClwbCant. Beth amdani? Os hoffechymuno â’r Clwb Cant cysylltwchâ Mair Griffiths, Pen y Bryn,Waen Wen (01248 352966).

    FfarwelMae Joan Lear o Stryd Fawr,Glasinfryn, wedi symud i fyw ynddiweddar. Mae hi wedidychwelyd at ei gwreiddiau, gansymud i fyw at ei merch argyrion Oldham. Pob dymuniadda iddi ar ddechrau’r cyfnodnewydd yma yn ei bywyd. Mifyddwn ni yn ei cholli hi yngNglasinfryn.

    Sesiynau Siarad i Ddysgwyr

    Paned a SgwrsCaffi Fitzpatrick 11.00 –

    12.00 Dydd Sadwrn cyntaf pob mis

    Peint a Sgwrs Douglas Arms Bethesda

    20.00 – 21.00Trydydd Nos Lun pob mis

    Llo Chwefror_Llais Ogwan 11/02/2013 21:29 Page 10

  • Llais Ogwan 11

    Ar 30ain Rhagfyr 2012 priodwyd Cadi Iolen (merch Cynrig a Carys,Pentir) ac Elfyn Jones-Roberts (mab Hefin a Margaret, BlaenauFfestiniog) yng Nghapel Peniel, Waen Pentir, Rhiwlas. Cynhaliwyd ygwasanaeth priodas gan y Parchedig Ddr Hugh John Hughes gyda IonaJones yng ngofal yr organ.

    Y gwas priodas oedd Dylan, brawd Elfyn, a chafwyd cyfraniadau ganElin, sef chwaer Cadi a'i nai Cian Iolen. Bu'r brecwast priodas a'r partinos yng Ngwesty Seiont Manor, Llanrug.

    Hoffai Cadi ac Elfyn ddiolch yn fawr iawn am y llu o anrhegion adymuniadau da a dderbyniasant

    Priodas Llywydd Newydd

    Llongyfarchiadau i Cynrig Hughes, Rallt Uchaf, ar gael ei ethol ynllywydd Cyfundeb Annibynwyr Gogledd Arfon.

    Yn y llun gwelir y Parchedig Ddr. Hugh John Hughes, y cynlywydd, yn cyflwyno Beibl y Cyfundeb iddo yn y CyfarfodChwarter a gynhaliwyd yn Ebeneser, Hen Golwyn, ar 30 Ionawr.Dymunwn yn dda i Cynrig yn y swydd dros y ddwy flynedd nesaf.

    Y Wraig Weddw a’r Mangl

    Mae’n od fel y gwnaeth tlodi eu hannogI rannu a rhoddi,

    A hyn wnaeth ein teidiau niA’u piler fu’r capeli.

    O’n hil y chwarel hawliodd, a lludwI’r weddw a roddodd;

    Anobaith a wyneboddYn y man lle nad oedd modd.

    Ar unwaith mangl brynwyd, a hithau’r Wraig weithiodd yn ddiwyd;

    Daeth diolch am ’r hyn olchwydI bawb a oedd angen bwyd.

    Mewn oes llawn cymwynasau, hwy ydoeddY bobloedd â’u beiblau;

    Hwy gynigiodd geiniogauO’r graig i’r wraig ’sgafnu’r iau.

    Nyth y GânDwylo Chwarelwr

    Ar wyneb clogwyn dringaiA gwasgu’r rhaff a wnaethai,Gan fod ei ffydd mor gryf yn honYn eofn iawn y teimlai.

    Ei ddwylo oedd yn gryfion’Rôl taro’n hir ar gynionA gwyddai sut i hollti’r graigI’w wraig gael yr enillion.

    Mor anodd oedd bryd hynny I geisio cynnal teulu,Ond llwyddo wnaethai aml unÂ’i gŷn fu yn ei ddyrnu.

    Fe fynnai gwell i’w feibionNa rhwygo’r ponciau llwydion,Mil ’sgafnach fyddai llyfr na rhawA’r baw mewn ’sgidiau trymion.

    Bob tro y deuai’r SuliauFe blygai ar ei luniauAc ar raff arall gwasgai’n dynnBryd hyn yn ei weddїau.

    Oes y Pwyso Botwm

    Mae ar droi, mae’r lle mor drwm, i ni daethCymdeithas y botwm;

    Y mae’r llu â’u sgwrs mor llwmYn chwalu yno’i chwlwm.

    Dafydd Morris

    Y Chwarelwyr(adeg y Streic Fawr)

    Rhwyg a gaed ar y graig gynt ac yn honFe gawn hanes helynt:

    Hir ing ddaeth yno rhyngddynt,Hirach boen fu’r afiach bunt.

    Anfonwch eich cerddi at Ieuan Wyn, Talgarreg, Carneddi01248 600627 [email protected]

    Llo Chwefror_Llais Ogwan 11/02/2013 21:29 Page 11

  • Llais Ogwan 12

    AR DRAWS

    1. Sesiwn mewn capel. (5)4. Digwydd i eira neu dwrci cyn y

    Nadolig. (4)7. Yn cael moduron. (4)8. Dilychwin a thaclus. (8)9. Dangos i mi ffenast o addewidion

    gwleidyddol a chwalwyd. (9)10. Dod a phawb at ei gilydd. (3)12. Dail yn newid o liwiau’r haf i

    liwiau’r hydref. (6)14. Fawr o siawns i olwg neb fod yn

    dda pan fydd hi fel hyn. (6)16. Yr wyddor. (1,1,1)18. 1813 i 2013. (3,6)21. Anhwylder poenus ar y traed, yn y

    gaeaf mi dybiech. (4,4)22. Un hanner o deitl nofel Kate

    Roberts am efeilliaid ifanc. (1927)(4)

    23. Hen enw Cymraeg am y Beibl, ‘Y ----‘. (4)

    24. Cerddediad, er fod dryswch yn cauam fy nghoesau. (5)

    I LAWR

    1. Ebwch o ollyngdod. ------- o ryddhad. (7)

    2. Mi wnes i geryddu a dweud ydrefn.(8)

    3. Ceg cronfa. (5)4. Medrwch fagu neu chwythu hwn,

    un yn gadarnhaol a’r llall yn negyddol. (4)

    Croesair Chwefror 2013

    Yr ychydig wallau a gafwyd y tro hwn iamharu ar sgôr perffaith oedd ‘segyrian’,‘cwacwyr’ a ‘tan’ yn lle’r atebion cywir‘sefyllian’, ‘gwatwar’ a ‘dyn’. Yr un addaeth o’r het yn fuddugol oedd ymgaisAnn Carran, 26 Ffordd Ffrydlas,Bethesda. Llongyfarchiadau mawr i chi. Diolchhefyd i’r canlynol am atebion hollolgywir : Ann Ifans, Penisarwaun; Garetha Sara Oliver, Dulcie Roberts, ElizabethBuckley, Rosemary Williams, Tregarth;Rita Bullock, Bethesda; Emrys Griffiths,Rhosgadfan; E.E. Roberts, Llanberis;Karen Williams, Elfed Evans,Llanllechid; Doris Shaw, Bangor; JeanVaughan Jones, Heulwen Evans,Rhiwlas.

    Atebion erbyn dydd Mercher 27Chwefror i ‘Croesair Chwefror’,Bron Eryri, 12 Garneddwen,Bethesda. LL57 3PD.

    Enw:

    Cyfeiriad:

    5. Heb ymdroi, ar eich -----. (5)6. Ei roi ar wyneb y ffordd o flaen

    deg o Loegr cyn caelrhywbeth

    blasus i’w fwyta i de. (6)11. Cyflwr tanwydd yn llosgi mewn

    ffagl. (8)13. Ni fydd cleddyf mawr Gorsedd y

    Beirdd yn cael ei dynnu’nllwyr -’- ----am mai cleddyf heddwch

    ydyw. (1’1, 4)15. Mae gan Kyffin, Mostyn, Myrddin

    a Glyn y Weddwrai. (7)17. Neidiwr bach ar gob Porthmadog

    wedi drysu’n llwyr. (5)19. Trachwant y cant ar ôl yr eiddil.

    (5)20. Canlyniad gêm. (4)

    ATEBION CROESAIR IONAWR2013

    AR DRAWS 1. Dyn; 3. Sefyllian; 9.Pranc; 10. Gwatwar; 11. Nai; 13. Cymeradwy; 14. Clyfar16. Estrys; 18. Llaw flewog; 20. Uwd;22. Di-bafin; 23. Swper; 25. Gyda’rnos; 26. Gwy.

    I LAWR 1. Dipyn; 2. Noa; 4. Esgimo;5. Y faeres; 6. Iawnderau; 7. Norwyes;8. UCAC; 12. Isymwybod; 14. Colledig; 15. Aflafar; 17. Gwynto;19. Gast; 21. Dirwy; 24. Pig.

    Chwilair Chwefror

    Roeddwn i wedi addo i rai y byddai’r Chwilair yn ailddechrau ymis hwn, ond oherwydd trafferthion technegol gyda’r cyfrifiadur

    bydd yn rhaid disgwyl tan y mis nesaf.Gydag ymddiheuriadau.

    Andre.

    FFERMWYR IFANC ERYRIUgain mlynedd yn ôl (ia, ugain mlynedd yn ôl, coeliwch neubeidio) ym 1993 cyhoeddwyd y gyfrol “Y Llinyn Aur” i ddathluhanner canmlynedd ers sefydlu Ffederasiwn Clybiau FfermwyrIfanc Eryri ym 1943. Cafwyd cyfrol hwyliog a chynhwysfawr oeddyn cwmpasu’r cyfnod mewn modd difyr a diddorol. Bu cyfraniadaelodau, cyn-aelodau a chyfeillion yn hollbwysig i’w llwyddiant achafwyd adlewyrchiad teilwng iawn o’r “Dyddiau Difyr, DyddiauDa”.

    Ia, dyna chi, rydach chi’n llygad eich lle. Mae hi’n 2013 a syrpreis,syrpreis, ein bwriad yw dathlu 70 mlynedd ers sefydlu’r mudiad ynEryri a cheisio cyhoeddi cyfrol yr un mor apelgar â’r gyfrol honno agyhoeddwyd ym 1993.

    A dyna chi’n iawn drachefn. Ydan, rydan ni wir angen eich cymorthac yn mynd ar eich gofyn unwaith eto am bob cyfraniad posib’,boed bosteri neu luniau, atgofion neu hanesion, sy’n berthnasol i’rugain mlynedd diwethaf, hynny yw rhwng 1993 a 2013. Dynaesgus iawn i chi gael sbario carthu’r cytiau neu glirio’r geginambell i noson er mwyn cael tyrchu drwy’r bocsus lluniau neuysgrifennu ambell atgof ar ffurf pennill neu stori. Os na fedrwchchi wneud eich hun ceisiwch annog rhywun arall i wneud!

    Dyma dasg arall i chi hefyd. Rydym angen rhestr gyflawn o’r hollglybiau a sefydlwyd yn Eryri dros y 70 mlynedd diwethaf abyddem yn ddiolchgar iawn pe medrech ein cynorthwyo i luniorhestr o’r fath a fyddai’n cynnwys enwau’r holl glybiau.

    Gwn fod gwaith mawr o’n blaenau i gasglu deunydd ar gyfer ygyfrol ond mae’n eithriadol o bwysig cofnodi cyfnodau hanesyddolein mudiad er mwyn i ni, a phawb tu draw i ffiniau Eryri, gael cipar werth 70 mlynedd o weithgarwch diflino y mudiad rhwng dauglawr a chael, unwaith eto, brofi rhin y rhialtwch hwnnw.

    Hoffem dderbyn y deunydd erbyn 26ain Ebrill, os gwelwch yn dda,a hynny drwy e-bost i [email protected] neu drwy’r post iSwyddfa Ffermwyr Ifanc Eryri, Uned 12, Parc Glynllifon, FforddClynnog, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5DU.

    Annwyl Olygydd,Mae'r Gronfa Loteri Fawr a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)yn galw ar bobl ar draws Cymru i roi dechrau da i 2013 trwy wirfoddoli euhamser mewn grŵp cymunedol neu elusen leol.

    Yn ogystal â gwneud gwahaniaeth i bobl eraill, dengys ymchwil y Gronfa LoteriFawr y gall gwirfoddoli helpu i gynyddu sgiliau, hyder a hunan-barch.

    Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn ariannu miloedd o achosion da trwy gydol Cymru- o ofal seibiant ar gyfer gofalwyr, prosiectau i helpu pobl i oresgyn anableddauneu salwch, cefnogi plant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial, neu adfywioparciau a mannau cyhoeddus - y mae llawer ohonnyn nhw'n chwilio amgefnogaeth gan wirfoddolwyr. Gallwch gael gwybod am yr ystod o gyfleoeddgwirfoddoli sydd ar gael gyda rhai o'n prosiectau trwy fynd i'n gwefanwww.biglotteryfund.org.uk/welsh/community/blue-monday

    Mae yna filoedd o weithgareddau ac elusennau eraill y mae angen cefnogaetharnynt. Ewch i www.gwirfoddolicymru.net i gael mwy o wybodaeth achyfeiriadau i fudiadau a gwefannau gwahanol sy'n helpu pobl i gymryd rhan.

    P'un a oes gennych hanner awr i gael sgwrs gyda'ch cymydog oedrannus neu ygallwch gynnig ymrwymiad rheolaidd, mae cyfleoedd i bawb wirfoddoli.

    Cofion GorauJohn RoseCyfarwyddwr Cymru, Cronfa Loteri Fawr

    Llo Chwefror_Llais Ogwan 11/02/2013 21:29 Page 12

  • Llais Ogwan 13

    L. Sturrsa’i feibionsefydlwyd yn 1965

    ADEILADWYRHen Iard Stesion,

    Ffordd y Stesion, Bethesda

    Ffôn: 600953Ffacs: 602571

    [email protected]

    “J.R.”SGAFFALDWYR

    Yr iard, Ffordd StesionBethesda

    Ffôn: (01248) 601754

    Dyma ni - sgaffaldwyr o fri

    Un sesiwn am ddim os dewchâ’r hysbyseb hwn hefo chi

    Croeso i bawb, yn arbennig dysgwyr

    Manylion gan Jake neu ElenaFitzpatrick - 01248 602416

    neu galwch heibio’r dosbarth

    Dosbarthiadau

    yng Nghanolfan

    Gymdeithasol

    Tregarth bob

    nos Fercher

    6.30 tan 8.30

    WU SHU KWANBocsio Cic Tsieineaidd (Kung Fu)

    Symudol 078184 10640 01248 601 466

    Plymio a GwresogiTŷ Capel Peniel, Llanllechid

    Rhif Corgi 190913

    Tony Davies

    DAFYDD CADWALADRDAFYDD CADWALADR

    Cynhyrchion Coedlannol

    Coed Tân - Llwythi bach a mawrYsglodion pren i’r arddFfensio a thorri coed

    Asiant system gwresogi trwylosgi coed

    01248 605207

    Malinda Hayward(Gwniadwraig)

    Awel DegPenygroes, Tregarth.

    Am unrhyw waith gwnïo- trwsio, altro ac ati -

    Ffoniwch 01248 601164

    DEWCH I WELDEICH

    CYFREITHIWRLLEOL

    SGWâR BUDDUGSTRYD FAWR

    BETHESDAGWYNEDDLL57 3AG

    BETHESDA01248 600171

    [email protected]

    CyfreithwyrY CYNGOR CYNTAF

    AM DDIM

    EWYLLYSIAU APHROFIANT

    SYMUD TŶ

    Tudur Owen, Roberts, Glynnea’u cwmni

    OWEN’S TREGARTH

    Cerbydau 4, 8 ac 16 seddArbenigo mewn meysydd awyr

    Cludiant Preifat a Bws Mini

    01248 60226007761619475

    [email protected]

    Gorsaf betrolB E R A N

    D e i n i o l e nFfôn: Llanberis 871521

    Ar agor bob dydd 24/7

    Petrol • Diesel • Nwy Calor • GloCylchgronau • Papurau newydd Cardiau pen-blwydd • Melysion

    Tocynnau loteri Gwasanaeth PAYPOINT ar gyfer

    trydan, nwy, ffonau symudol,trwyddedau teledu ayyb

    MODURDY FFRYDLAS

    PerchennogA. Ll. Williams

    Stryd Fawr, Bethesda PROFiON M.O.T.

    GWASANAETH ATGYWEiRiOTEiARS A BATRiS

    GWASANAETH TORRi i LAWRNEu DDAMWAiN

    600723 Ffacs: 605068

    ProfionM.O.T.

    CONTRACTWYR TOi2 Hen Aelwyd, Bethesda

    600633 (symudol) 07702 583765

    Arbenigo mewn gwaith ffelt a pitsio.

    Hefyd toeau llechi a gwaith yswiriant.

    Gadewch i ni gynnig pris rhesymol am

    waith diguro.

    m.hughesa’i fab

    Sefydlwyd 1969

    Hysbysebwch yn y Llais 600853

    Llo Chwefror_Llais Ogwan 11/02/2013 21:29 Page 13

  • Llais Ogwan 14

    Pwy Sy’n Cofio Ddoe?

    © Dr J. Elwyn Hughes

    Brodor o Dal-y-bont, Ceredigion, oedd y Parchedig David Adams. Yr oedd yn rhyw lun ar fardd ond, yn bwysicach, roedd yn ddiwinyddac yn athronydd o bwys nid bychan yn ei ddydd. Cyhoeddodd ardraws y dwsin o draethodau a llyfrau siwinyddol pwysig rhwng 1884a 1914. Dysgodd ddarllen ac ysgrifennu yn gynnar yn yr Ysgol Sul, aderbyniodd ei addysg elfennol yn Ysgol Llanfihangel lle dyrchafwydef maes o law yn ‘pupil teacher’ yn ôl arfer yr oes honno. Aeth i’rColeg Normal ym Mangor yn 1865. Enillodd ysgoloriaeth i GolegPrifysgol Aberystwyth yn 1875 gan raddo yn BA yn 1877, gradd addyfernid yr adeg honno gan Brifysgol Llundain. Yr oedd yn fedrusyn y Clasuron ac wedi dysgu digon o Ffrangeg i’w alluogi igyfieithu’n rhwydd a chywir o ryddiaith y mathemategydd a’rathronydd Ffengig nodedig, Blaise Pascal, meddyliwr a ddigwyddaigydpesi â Morgan Llwyd o Wynedd (1619-1659), yr athrylithPiwritanaidd hynod hwnnw yn hanes ein llenyddiaeth ni y Cymry.Ordeiniwyd Adams i’r weinidogaeth gyda’r Annibynwyr ym mis Mai1879, a bu’n gofalu am ddiadelloedd eglwysi Hawen a Bryngwenith,Ceredigion, hyd nes iddo symud i’r Gogledd, i Fethesda yn Hydref1888.

    Am ei weinidogaeth yn y Capel Mawr, dywedodd David Adams:... arweinwyd fi i Fethesda, a chefais y fraint o lafurio am saithmlynedd ymysg chwarelwyr deallus yr ardal honno... Yr oedd ychwarelwyr hyn yn graff, ac yn feirniaid disgybledig – ar bregethu’narbennig... Cymerent bregeth i fyny yn ystod yr awr ginio, ganwneuthur briwgig o aml un a chymeradwyo eraill, yn ôl eu goleunia’u chwaeth. Eithr darganfûm yno fod gweithwyr yn meddwl – niddrostynt eu hunain ond yn ddiadellog, a bod clod ac anghlod ynymledu’n gyflym, a hynny rai prydiau nis yn ôl teilyngdod neuannheilyngdod, ond yn ôl y ddedfryd a euthai allan o’r chwarel.Dywedid mai eu difyrrwch oedd gwrando a beirniadu pregethau.... yroedd o leiaf yn ddifyrrwch mwy rhesymol na diddordeb y gweithiwrSeisnig yn lwc posibl rhyw geffyl mewn rhedegfa.

    Mae’n amlwg fod DavidAdams wedi chwarae rhanflaenllaw iawn ym mywydcyhoeddus Bethesda, a thuallan i gylch yr achos yn yCapel Mawr, ymroddodd iwasanaeth cyson ymmywyd addysg y fro acmewn gwleidyddiaeth.Dywedodd y PrifathroThomas Rees mewn ysgrifyn Y Geninen yn 1922:Bu’n gefnogydd ffyddlon ihen Ysgol y Cefnfaes; yroedd yn arweinydd yn ymudiad i gael ysgol ganoli’r lle, ac efo oeddcadeirydd eillywodraethwyr o’rcychwyn hyd nes yrymadawodd i Lerpwl [ynHydref 1895]... Yr oeddyn siaradwr dylanwadol ary llwyfan. Dywed poblBethesda nad oedd ymaneb yn ei ddydd o gyffelybddylanwad ar gyfarfodcyhoeddus.

    Yr oedd W J Parry, Neuadd Coetmor wedi dweud hyn am eiweinidog:Pan geir athrylith o ryw natur mewn cymeriad, y mae hwnnw ynwerth ei ddilyn, ei godi, ei fawrygu, a’i fywgraffu. Yr oedd DavidAdams yn gymeriad felly.

    Yr oedd David Adams yn ffigwr eithriadol o bwysig yng Nghymru ynei gyfnod, ac mae’n haeddu cael ei gofio nid yn unig am iddo fod ynweinidog ym Methesda gynt ond hefyd am ei fod yn feddyliwr o saflecenedlaethol.

    Dyddiadur Digwyddiadau – Cyn 1900

    Rai blynyddoedd yn ôl, wrth bori drwy ddeunydd haneslleol Dyffryn Ogwen sydd gen i yn y tŷ ’cw a sylwi arambell gyfeiriad at ryw ddyddiad neu’i gilydd yncofnodi digwyddiad neu achlysur yn y Dyffryn,meddyliais y byddai’n syniad da i gynhyrchu‘Dyddiadur Digwyddiadau’. Wedi dechrau ar y dasg,sylweddolais fy mod wedi ymgymryd â gorchwylenfawr! Edrychais ar rai degau o lyfrau a llyfrynnau,pamffledi a thaflenni – heb symud cam o’m stydi – achodi ohonynt bob dyddiad a chyfeiriad at bethau addigwyddasai yn Nyffryn Ogwen dros y canrifoedd.

    O ran trefn y dyddiadur, nodir y flwyddyn (ac unionddyddiad lle’r oedd hynny ar gael), yna’r cofnod (byr,gan amlaf), ac wedyn ffynhonnell yr wybodaeth (ar ffurfbyrfoddau), gan obeithio y byddai hynny o gymorth iunrhyw un a ddymunai weld y ffynhonnell wreiddiol igael rhagor o wybodaeth (pe bai ar gael). Wrth gwrs,heb wneud llawer iawn o ymchwilio trylwyrach, ni allafsicrhau bod y ffynonellau bob amser yn gywir.

    Yr un agwedd arall ar y gwaith ydi fy mod wedi cofnodimanylion perthnasol pob ffynhonnell (gan gynnwysteitl, awdur, cyhoeddwr, dyddiad, etc.) gyda’r canlyniadfod gen i bellach lyfryddiaeth yn datblygu o ddeunyddDyffryn Ogwen – a fydd, gobeithio, o gymorth i unrhywun sy’n cymryd diddordeb yn hanes yr ardal.

    Gan fy mod wedi ymroi i gyflawni gorchuchwylioneraill ers rhai blynyddoedd bellach, ac oherwydd diffygamser o ganlyniad i hynny, rhoddais y gorau i’r‘Dyddiadur Digwyddiadau’ am y tro ac erys yngnghwsg ym mherfeddion fy nghyfrifiadur! Ond, yn sicr,mae’n waith rhy bwysig – a diddorol – i’w roi o’r nailldu a’i anghofio, fel y gobeithiaf ddangos i ddarllenwyrLlais Ogwan gydag ychydig ddyfyniadau ohono) yn yrysgrif hon (ac mewn ysgrifau eraill i ddilyn dros ymisoedd nesaf). Dewisais beidio â nodi’r ffynonellau nachydnabod awdur ambell gofnod –gydagymddiheuriadau ymlaen llaw am hynny. Dyma ychydigo gofnodion yn perthyn i ddiwedd y ddeunawfed ganrif.

    1782 Dyma flwyddyn geni’r Parchedig Morris Jones(Yr Hen Broffwyd), gweinidog cyntaf Capel Jerusalem.Adeg Cyfrifiad 1841, nodir ei fod ef, ei wraig, Catrin,a’u deg plentyn (un ferch a naw mab) yn byw ymModforris (ger croesffordd Pont-y-Tŵr). Tŷ llofft asiambar bychan iawn oedd eu cartref. Roedd y plant igyd rhwng 10 a 30 oed a’r rhan fwyaf o’r meibion yngweithio yn Chwarel y Penrhyn. Bu farw Morris Jonesyn 1862.

    1789 Codi Pont Coetmor. Nodaf, er diddordeb, maidyma’r flwyddyn y dechreuodd y Chwyldro Ffrengig ablwyddyn y ‘Mutiny on the Bounty’.

    1790 Adeiladu’r harbwr yn Abercegin a’i alw’n PortPenrhyn.

    1792/3 Yr Arglwydd Penrhyn yn codi’r ffordd gyntaf (agamenwyd yn lleol yn ‘Roman Road’) drwy NantFfrancon. Cyn hynny, yn ôl Thomas Pennant, y teithiwr,nid oedd yno ond ‘the most dreaded horsepath in Wales’a hwnnw’n rhedeg ar hyd ochr ddwyreiniol NantFfrancon (fel y ddwy ffordd ‘newydd’ a godwyd drwy’rDyffryn ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg).Roedd ffordd newydd yr Arglwydd Penrhyn yn mynd ihwyluso cludiant ei lechi i gyfeiriad y de a, hefyd, ynmynd i fod yn gyswllt pwysig rhwng ei blasty ynLlandygái a’r gwesty moethus y bwriadai ei godi yngNghapel Curig (sef y Royal Hotel – Plas y Brenin erbynheddiw).

    Y tro nesaf, byddaf yn cynnwys pytiau o deunawmlynedd cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

    CofioY Parchedig David Adams (1845-1923)

    Gweinidog Capel Mawr Bethesda 1888 i 1895Gan Goronwy Wyn Owen

    Y Parchedig David Adams (1845-1923)

    Llo Chwefror_Llais Ogwan 11/02/2013 21:29 Page 14

  • Llais Ogwan 15

    Siop Trin Gwallt a Harddwch Newydd agor ym Methesda ym mis Medi

    Yn arbenigo mewn trin gwallt merched, dynion a phlant.

    Cynghori, gosod a thorri wigiau Rhai gwasanaethau harddwch a shafio

    (rasal “cut throat”)

    Mwy o fanylion gan Wendy ar 07748206817

    Hefyd ymgymryd â gwaith cerrig beddi:

    adnewyddu neu o’r newydd

    Gweithdy Pen-y-brynCefn-y-bryn, Bethesda

    Ffôn: gweithdy 600455gartref 602455personol 07770 265976Bangor 360001

    Gwasanaeth personol ddydd a nos

    STEPHEN JONES

    †TREFNYDD

    ANGLADDAU

    Gareth WilliamsTrefnydd Angladdau

    Crud yr Awel1 Ffordd Garneddwen

    Bethesda

    Ffôn: (01248) 600763 a 602707

    GWASANAETH DYDD A NOS

    01248 605566Archfarchnad hwylus Gwasanaeth personol

    gyda’r pwyslais ar y cwsmerTocynnau Loteri, cardiau a biliau trydan a nwy

    Ar agor 7.00 y bore tan 10.00 yr hwyr7 diwrnod yr wythnos

    LONDISBETHESDA

    JOHN ROBERTS

    Teilsiwr

    Symudol: 07747 628650

    Paentiwr

    Papurwr

    Ffôn: 01248 600995

    Gallai eich hysbyseb

    Chifod yma

    Cysylltwch âNeville Hughes 600853

    Pob math o waith trydanol

    Huw JonesYmgymerwr TrydanolTrydanwr cymwysedig gyda

    phrofiad diwydiannol

    Y Wern, Gerlan, Bethesda

    Gwynedd LL57 3ST

    Ffôn: 01248 602480

    Y Douglas Arms* Lluniaeth i Bartïon * Te Cynhebrwng *

    * Gardd Gwrw * Te a Choffi *Oriau Agor

    Llun – Gwener: 6.00 - 11.00Sadwrn: 3.30 – 12.00

    Sul: Pnawn 1.00 - 4.00, Hwyr 8.00 -11.0001248 600219

    www.douglas-arms-bethesdaCewch groeso cynnes gan

    Gwyn, Christine a Geoffrey

    Oriel CwmCwm y Glo, Caernarfon

    Gwasanaeth fframio lluniau obob math ar gael ar y safle

    Prisiau rhesymolArddangosfaganartistiaidl lleol

    Ffôn / Ffacs 01286 870882

    RICHARD S. HUMPHREYS

    CAFFI COED Y BRENIN1 Rhes Buddug, Bethesda

    Ffôn: 01248 602550

    Bwyd cartref blasus(mewn awyrgylch cyfeillgar)

    Cinio arbennig bob dydd Iau

    Bwyd i’w gario allan

    Gwasanaeth arlwyo ar gyfer partïon o bob math -

    plant, pen-blwydd ac ati(yn y caffi neu mewn lle o’ch dewis chi)

    Cacennau ar gyfer pob achlysur e.e. priodas neu ben-blwydd

    Prisiau rhesymol

    BISTRO’R BRENIN(Bwyty Trwyddedig)Rydym yn croesawu partïon

    o bob math – dathlu pen-blwydd ac achlysuron arbennig eraill.Beth am eich Parti Nadolig?

    Ffoniwch01248 602550

    e-bost : [email protected]

    Llo Chwefror_Llais Ogwan 11/02/2013 21:29 Page 15

  • Llais Ogwan 16

    Cyngerdd MawreddogMae’r côr yn parhau i ddod â digwyddiadauo bwys i Ddyffryn Ogwen a’r nesaf ywcyngerdd yng nghwmni un o sêr mwyaf ybyd cerddorol, sef Rhys Meirion, ar NosSul, Chwefror 24. Yn cadw cwmni i Rhysa’r côr bydd Gwenllian Jones sy’n gantoreso fri ei hun a bydd y noson fawr hon yndigwydd yng Nghapel Jerusalem am 7 o’rgloch yr hwyr a’r cyfan am bris rhesymoliawn o £6. Gwelir posteri mawr ynhysbysebu’r cyngerdd o flaen CapelJerusalem ac wrth groesffordd Bryn Bella –felly cofiwch y dyddiad a dewch draw amwledd o ganu safonol.

    Rhaglen lawn.Mae gan y côr raglen lawn o ddigwyddiadauo’i flaen eto eleni gyda nifer o gyngherddauyn Llandudno a thaith i Beverly yn SwyddEfrog ym Mis Ebrill. Ar ben hynny mae’rcôr wedi penderfynu rhoi cynnig arni ynEisteddfod Ryngwladol Llangollen am y trocyntaf ers dros 20 mlynedd pryd y byddwnyn cyflwyno rhaglen gymysg o’n heiddo einhunain fydd yn adlewyrchu ehangderrepertoire y côr ac yn cynnwys darnau sy’nnodweddu cyfansoddiadau cerddorolGymreig. Hefyd bydd y côr yn cyd-ganugyda Chôr Meibion Caernarfon yn y castellar ddiwedd ail daith gerdded Rhys Meirion igodi arian i’r ambiwlans awyr ym mis Awst

    Cadeirydd Newydd.Yn y cyfarfod blynyddol a gynhaliwyd ynddiweddar etholwyd Alun Davies i swyddcadeirydd y côr. Bu Alun yn is-gadeirydddiwyd a gweithgar am y ddwy flyneddddiwethaf o dan gadeiryddiaeth Wil Parry.Wrth groesawu Alun i’r swydd diolchoddWil i’r aelodau am eu cefnogaeth a’uparodrwydd i weithio er lles y côr tra bu efyn y gadair. Pwysleisiodd hefyd pa morffodus ydyn ni o gael arweinydd morfrwdfrydig ag Owain Arwel Davies i’nllywio ac am gael cyfeilydd mor dalentog âFrances Davies i’n cynorthwyo ar y piano.

    Cyfeirodd at Anthem, CD ddiweddaraf Côry Penrhyn, fel un o’r recordiadau mwyafcyffrous a gynhyrchwyd gan unrhyw gôryng Nghymru’n ddiweddar ac mae’rgwerthiant yn adlewyrchu mor boblogaiddyw cynnyrch y côr ar hyn o bryd.

    Plaid Lafur Dyffryn Ogwen

    Ar ddechrau mis Ionawr, aeth rhai o’raelodau i gyfarfod o bwyllgor gwaith PlaidLafur Arfon yng Nghaernarfon, i etholanfonogion i gynhadledd Plaid Lafur Cymru(a fydd yn Llandudno ar ddiwedd misMawrth), ac i ddechrau gwneud cynlluniauar gyfer yr etholiadau nesaf, a chaeladroddiadau gan y swyddogion.

    Yng nghanol y mis, cynhaliwyd y cyfarfodmisol i gael adroddiadau am Blaid LafurArfon, Cyngor Gwynedd (e.e. y pryder amYmgynghoriaeth Gwynedd a’r penderfyniadi godi trethi o 35%), Cyngor Bethesda ( e.e.y grantiau i wella blaen siopau, a’rcyfyngiadau parcio newydd ar y StrydFawr), a Chyngor Llandygai (e.e. problemauAllt St. Anne’s, a phwyso am wellcyflenwad dŵr i ymladd tanau).Cynhelir y cyfarfod nesaf ar y bedwareddnos Fercher o fis Chwefror ( y 27ain) yngNghanolfan Cefnfaes am 7.30.p.m.

    Côr Meibion y Penrhyn

    Pum mlynedd ar hugain yn ôl yn Ionawr1988 ffurfiwyd y Côr gan James Griffiths.Ar ôl ysgrifennu i’r papurau lleol daeth 12 oddynion dewr i Ganolfan Esgobaeth Bangoryn Stryd Waterloo gyda’r bwriad o ffurfiocôr meibion ym Mangor. Yr oedd JamesGriffiths yn Is Organydd Cadeirlan Bangorar y pryd a Deon Bangor, y diweddar IvorRees a ddaeth yn Esgob Tyddewi ynddiweddarach, yn gefnogol i’r syniad gan roiCanolfan yr Esgobaeth yn rhad ac am ddimam rai wythnosau i’r Côr gael ei sefydlu yniawn. Dau arall oedd yn gefnogol i’r syniadoedd y diweddar Idris Thomas o Fethesda -cadeirydd cyntaf y Côr a hefyd y diweddarCyril Roberts, Bangor. O’r deuddeggwreiddiol dim ond dau sydd ar ôl yn y Côrsef Emrys Hughes a James Griffiths.

    Côr Meibion Dinas Bangor

    Ar draws y blynyddoedd y mae’r Côr wedirhoi rhai cannoedd o gyngherddau, wediteithio llawer i America, Canada, YrAlmaen, Awstria, Malta, Cyprus, Llydaw aGogledd Iwerddon. Cyfeilydd y Côr broniawn o’r cychwyn yw Lowri RobertsWilliams o Frynrefail ac mae hi wedi bodyn hynod o ffyddlon i’r Côr ar draws yblynyddoedd. Y mae’r Côr hefyd wedicynhyrchu CD sydd wedi cael derbyniadgwych gan i sawl darn arno gael ei ddewis ifod ar CD efo Corau Llanelli, Godre’r Arana Phontarddulais i enwi tri.

    Bydd James Griffiths yn ymddeol o’r Côr arddiwedd Ionawr ond yn aros ymlaen nesbydd arweinydd newydd wedi cael eibenodi.

    Mewn cinio arbennig i aelodau yngNgwesty Carreg Bran nos Wener 25 Ionawrdathlwyd 25 pen-blwydd y Côr. Yn ystod ycyfarfod cafodd yr arweinydd JamesGriffiths ei anrhegu gan y CadeiryddDafydd Ellis ar achlysur ei ymddeoliadswyddogol fel arweinydd. Gwnaed bocspren peintio arbennig o gelfydd yn arbennigiddo gan Dafydd Ellis gyda phopeth sydd eiangen at beintio dyfrliw ynddo. Hefyd,rhoddwyd tusw o flodau i Mrs MairGriffiths gan Norman Evans ar ran y Côr.Yn ei araith i ddathlu’r pen-blwyddarbennig soniodd yr Arweinydd am ycychwyn ac yna ddyddiau cynnar ac anoddy Côr ac fel ar draws y blynyddoedd ymae’r Côr wedi datblygu ac wedi teithiollawer gan roi cyngherddau a chymryd rhanmewn sawl digwyddiad pwysig. Edrychirymlaen at y dyfodol pan fydd arweinyddnewydd yn cael ei benodi/phenodi gydagobaith.

    Yn y cyfarfod blynyddol nos Fercher 23Ionawr etholwyd y canlynol:Llywydd:Mr Cledwyn JonesCadeirydd: Dafydd EllisIs Gadeirydd: Gwyn Hefin JonesYsgrifennydd: Owain Myfyr ParryTrysorydd: H.H.WilliamsPwyllgor: Norman Evans, Emrys Hughes,R.J.Williams, Doug Jones, Elwyn Jones

    Cynhaliwyd cyfarfod o’r gangen ar Ionawr29ain. Y brif drafodaeth oedd sefyllfa parcio yn yGerlan a’r ffaith bod trafnidiaeth gyhoeddusyn cael trafferthion troi yn y pentref. Mae’rcynghorydd sirol mewn trafodaethau ynglynâ’r sefyllfa a mawr obeithir datrys ybroblem hon gan ei bod hefyd o faterpwysig i wasanaethau brys. Bu’r heddluallan yn ddiweddar fel ymateb i gwynion yngweld difrioldeb y sefyllfa.

    Cafwyd ymateb da gan drigolion Talybontpan fu Alun Ffred A.C. yn ymweld â hwywedi’r llifogydd difrifol. Roedd ygymhorthfa a gynhaliwyd ganddo ymMynydd Llandygai hefyd yn brysur iawn.

    Bu’r Cynghorydd Dafydd Meurig mewncysylltiad â Chwarel y Penrhyn sydd wedicyfrannu £500 i Gronfa Llifogydd Gwyneddsydd ar gael i gefnogi ei thrigolion.

    Canmolwyd Meirion Williams o GyngorGwynedd am ei waith yn ystod yr eira ganwneud yn siŵr bod gwaith graeanu’n cael eiwneud yn rheolaidd ar y ffyrdd priodol.

    Diolchwyd i Neville Hughes ac AnnWilliams am fynychu angladd Mr RoystonMorgan, aelod ffyddlon a gweithgar o BlaidCymru. Cydymdeimlwn yn fawr â’r teulu.

    Mynegwyd siom nad oedd yn bosib cynnalNoson Dwynwen oherwydd effeithiau’rtywydd drwg. Gwnaed y trefniadau terfynolar gyfer y Cyfarfod Blynyddol ac ymweliadLeanne Wood yng Nghanolfan Cefnaes arnos Wener, 22 Chwefror.

    Bydd Bore Coffi’r Gangen yn NeuaddOgwen fore Sadwrn, Chwefror 23ain.

    Plaid CymruCangen Dyffryn Ogwen

    Prynwch lyfr

    RHAi O ENWOGiON LLÊN DYFFRYN OGWEN

    (Dr. J. Elwyn Hughes)

    £3.00 y copi o’ch siopau lleol

    Londis neu Siop Kathy

    Neu cysylltwch â’r awdur ei hun

    am gopi wedi ei lofnodi ganddo

    01248 670517 (£4.20 drwy’r post)

    Clwb Cyfeillion Llais Ogwan

    Ymunwch â Chlwb Cant Cyfeillion Llais Ogwan. Gwobrau hael bob mis.

    Neville Hughes

    600853

    Llo Chwefror_Llais Ogwan 11/02/2013 21:29 Page 16

  • Llais Ogwan 17

    Posh PawsTacluso Cŵn

    Busnes lleol

    Prynhawniau neu Nosweithiau4.00 - 10.00

    Dydd Sul 8.00 a.m - 4.00 p.m.Gwasanaeth casglu a danfon

    Ty’n Llan Uchaf, Llanddeiniolen 01248 671382 neu 07935324193Ebost: [email protected]

    01248 361044 a 07771 634195

    Bysus o 25 i 57 sedd ar gael ar gyfereich holl anghenion teithio -

    tripiau, priodasau, partïon ac ati.

    Gwasanaeth lleol, traddodiadol a dibynadwysefydlwyd 1997 perchennog: derfel owens

    Ymgymerwr adeiladu agwaith saer

    Ronald JonesBron Arfon, Llanllechid

    Bethesda

    01248 601052

    Blodau Hyfryd7 Rhes Buddug, Bethesda

    602112 (gyda’r nos 602767)Blodau ar gyfer pob achlysur

    Priodasau, Angladdau ayybFfres a Sidan

    Gwasanaeth ‘Archebu a Danfon’

    Blodau RaccaPENISARWAUN

    Planhigion gardd a basgedi crog o’ransawdd gorau

    - gan hogan o