chapter awst 2015

29
chapter.org @chaptertweets 029 2030 4400

Upload: chapter

Post on 22-Jul-2016

248 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

chapter.org@chaptertweets029 2030 4400

Croeso i’ch cylchgrawn misol sy’n rhestru pob un o ddigwyddiadau cyffrous Chapter ym mis Awst. Mae ein rhagolygon poblogaidd o sioeau Caeredin yn parhau y mis hwn. Gallwch weld y talentau Cymreig gorau, mewn perfformiadau fel Caitlin gan Light, Ladd & Emberton, a Diary of a Madman (t11), cyn iddynt ei heglu hi tua’r gogledd. Byddwn yn dangos ffilmiau i’r teulu cyfan yn ystod mis Awst (t25), felly gwnewch y mwyaf o’r gwyliau a dewch â’r plantos i’n sinema gyffyrddus. Mae hi’n haf o’r diwedd a nifer ohonom yn gadael i fynd ar ein gwyliau. Un person lwcus o’r fath yw Thomas, un o dywyswyr ein horiel, a fydd yn treulio’r haf yn gweithio fel goruchwyliwr ym Mhafiliwn Cymru yn y Biennale yn Fenis. Cewch ddarllen am ei rôl unigryw yn Chapter a’i haf Fenisaidd ar dudalen 8.Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir.

Croeso02 chapter.org

Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr–lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter

ChapterHeol y Farchnad,Caerdydd CF5 1QE029 2030 4400

[email protected]

02

Delwedd y clawr: Love & Mercy

Oriel tudalennau 4–8

Bwyta Yfed Llogitudalen 9

Theatr tudalennau 10–13

Chapter Mix tudalen 13

Chapter yn Jazz Aberhonddu tudalen 14

Cefnogwch Nitudalen 15

Sinematudalennau 16–25 Addysgtudalennau 26–27

Uchafbwyntiau

Nodwch os gwelwch yn dda bod copïau print bras o’n cylchgrawn ar gael ar gais. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400.

Cerdyn CL1CCerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol

hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ffrindiau ChapterYmunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.Ffrind Efydd: £25/£20Ffrind Arian: £35/£30Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar–leinwww.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddimeAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch [email protected] â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.

Cysylltwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts

Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau tudalen 28

Cymryd Rhan tudalen 29

Calendr tudalennau 30–31

chapter.org 03Ca

thie

Pilk

ingt

on, B

lank

, 201

0, F

felt

, llin

yn, g

wlâ

n,

45 x

40

x 20

cm

Oriel04 029 2030 4400

Cath

ie P

ilkin

gton

, Cur

io (m

anyl

yn),

2015

, Jes

mon

it w

edi’i

bei

ntio

ar d

dres

er h

apga

el g

yda

darn

au s

eram

eg, 1

70 x

100

x 1

20cm

Oriel 05chapter.org

Thirteen Blackbirds Look at a Man Fiona MacDonald, Cathie Pilkington, Annie Whiles & Sean AshtonSad 11 Gorffennaf — Sul 6 Medi 2015

Mae artistiaid yr arddangosfa hon yn chwilio am gyseiniant a chysylltiadau mewn mytholeg. Waeth beth fyddo gofynion ffasiynau cyfoes, mae eu gwaith yn ddyhead greddfol, cwest am fan lle mae pethau bob dydd yn encilio, lle y gall dieithrwch teyrnas y dychymyg ddwyn ffrwyth. Rydym yn byw mewn byd cymhleth lle mae cysylltedd, a ystyrid unwaith yn beth hudolus, yn cael ei ystyried bellach mewn ffyrdd mwyfwy rhesymegol. Ac eto mae yna rywbeth sydd yn aros, rhyw elfen anesboniadwy: mae mytholeg fel petai’n ‘gronfa’ o’r ‘dirgelion’ hyn. Man lle mae alegorïau a chyfresi cymhleth o ddigwyddiadau fel petaent yn ceisio egluro deddfau natur a’r bydysawd

– a chadw hefyd elfen o ryfeddod sydd yn gwrthsefyll rheswm. Mae’r parth hwn, y parth mytholegol, yn un sy’n cofleidio gwrthddywediadau ac mae creulondeb a drama ei straeon yn syfrdanol, ar brydiau. Mae artistiaid yr arddangosfa hon yn ymwneud â’r gofod mytholegol ag angerdd greddfol a dogn helaeth o hiwmor. Mae eu gweithiau fel petaent yn datgelu syniadau am gyfriniaeth weledol a theimladau neo-grefyddol. Mae’r cymeriadau wedi eu tynnu o fywyd go iawn, o’r Beibl, o chwedlau Groegaidd neu straeon tylwyth teg Almaenaidd ond maent wedi eu gwreiddio bob un mewn perthynas â ‘naratif cysegredig’.

Gyda’r cloc o’r brig: Annie Whiles, Bird in Commercial Way, 2012; Fiona MacDonald, Lullingstone Tree #9, 2013, dyfrlliw ac acrylig ar bapur brown, wedi’i fframio, 65 x 50cm; Cathie Pilkington, Infanta (manylyn), 2007, Clai, paent, brethyn, 25 x 25 x 18cm

Oriel06 029 2030 4400

Mae Fiona MacDonald yn tynnu ar reolau diwylliannol straeon tylwyth teg a’r dychymyg. Mae’r hierarchaeth draddodiadol rhwng pobl, anifeiliaid a phlanhigion yn diflannu ac mae hi’n archwilio syniadau am ansicrwydd, croesrywedd a chyd-ddibyniaeth.www.fionamacdonald.co.uk Mae Cathie Pilkington yn creu darnau ag amrywiaeth eang o ddeunyddiau. Mae hi’n cynnwys elfennau parod yn eu gwaith yn ogystal â thechnegau a phrosesau mwy cyfarwydd fel modelu, cerfio a phaentio, ynghyd â gorffeniadau eraill.www.marlboroughfineart.com Mae Annie Whiles yn ymwneud â chelfyddyd fel petai’n ymwneud â pheth tra amheus. Mae ganddi ddiddordeb yn ein perchnogaeth o hud a lledrith, fel petai’n rhyw fath o eiddo coll diwylliannol. Mae gwaith Whiles yn cyfeirio at iaith arwyddluniol ac at arteffactau seremonïol, defodol a chymdeithasol. Mae hi’n creu cerfiadau pren, darnau wedi’u brodio â llaw, darluniau a ffilm. www.anniewhiles.com

Mae Sean Ashton yn gelwyddgi sy’n byw yn Llundain. Mae ei gelwyddau diweddar yn cynnwys ‘Mr Heggarty Goes Down’ i Collapse Vol. VIII, stori am academydd sy’n defnyddio’i gorff i brofi damcaniaeth am bosibiliadau radical; a ‘The Portrait of Cary Grant’, gwaith dychanol am gasglwr gweithiau celfyddydol gan enwogion. Yn 2007, cyhoeddodd lyfr o gelwyddau, ‘Sunsets and Dogshits’ (Alma Books), casgliad o adolygiadau o weithiau celf apocryffaidd, llyfrau, digwyddiadau chwaraeon a ffenomenau diwylliannol eraill. Derbyniodd yr arddangosfa hon gefnogaeth ariannol gan Sefydliad Henry Moore, Prifysgol Goldsmiths Llundain a Chanolfan Diwylliant a’r Celfyddydau Prifysgol Beckett Leeds. Gyda diolch i Oriel Celfyddyd Gain Marlborough, Llundain.

Gyda

’r cl

oc o

’r ch

wit

h uc

haf:

Fion

a M

acDo

nald

, Dia

na w

ith

Nym

phs,

201

3, O

lew

ac

acry

lig a

r lia

in, 1

55 x

110

cm;

Anni

e W

hile

s, O

ne o

f the

Gap

ers

(man

ylyn

), 20

15; F

iona

Mac

Dona

ld, B

lood

y Et

hel (

man

ylyn

) 201

4

Oriel 07chapter.org

LANSIO LLYFR A SGWRS ARTISTIAID

THIRTEEN BLACKBIRDS LOOK AT A MANMaw 4 Awst 6pm Ymunwch â ni i ddathlu lansiad cyhoeddiad newydd Chapter sydd yn cyd-fynd â’n harddangosfa ddiweddaraf, Thirteen Blackbirds Loot at A Man, ac sydd yn cynnwys hefyd ddarn comisiwn arbennig gan yr awdur, Sean Ashton. Bydd yr artistiaid, Fiona MacDonald, Cathie Pilkington ac Annie Whiles, yn sgwrsio â’r curadur annibynnol a’r awdur, Angela Kingston, ac yn trafod eu gwaith a themâu’r arddangosfa. Bydd y cyhoeddiad ar gael i’w brynu ar y noson am bris gostyngol o £5 (pris arferol £10).Mae Angela Kingston yn guradur ac yn awdur ar ei liwt ei hun. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn archwilio ac ystyried y themâu hynny sy’n ffrwtian yn stiwdios yr artistiaid ac sydd yn ymwneud â’r zeitgeist, ‘ysbryd yr oes’. Cyflwynwyd ei harddangosfeydd a’i phrosiectau celfyddyd gyhoeddus mewn orielau a lleoliadau eraill ledled y DG ers 1985, ac fe gyflwynwyd un o’i harddangosfeydd blaenorol, Fairy Tale, a oedd yn cynnwys fersiynau amgen o straeon tylwyth teg a thirweddau rhyfeddol, yn Chapter yn 2007.

Sgyrsiau am 2Sad 1 + Sad 15 + Sad 29 Awst 2pmMae ein ‘Sgyrsiau am 2’ yn deithiau tywysedig o gwmpas yr arddangosfa gyfredol, yng nghwmni ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Thomas Williams.Maent yn gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac am ddulliau gwaith unigryw yr artistiaid. Nid oes angen archebu ymlaen llaw — dewch draw i flaen yr Oriel cyn 2pm i ymuno â ni!RHAD AC AM DDIM

Gree

n (m

anyl

yn) 2

009,

ser

ameg

hap

gael

, res

in, p

aent

Oriel08 029 2030 4400

CELFYDDYD YN Y BAR

Fiona MacDonald: Wild WordGwe 26 Mehefin — Sul 6 Medi“Hoffwn lefaru gair ar ran Natur” Henri David ThoreauCyflwynir Wild Word yn rhan o’r arddangosfa Thirteen Blackbirds Look at A Man, sydd i’w gweld yn yr Oriel.Mae’r wyddor yn gynrychioliad o syniadau haniaethol a syniadau anthroposentrig am ystyr ac, o’r herwydd, yn gyferbyniad llwyr â materoldeb organig coed. Cafodd y ‘llythrennau’ eu dewis a’u trefnu o blith casgliad parhaus o ffotograffau o siapiau hapgael ac mae MacDonald yn dehongli’r rhain fel arwyddion a chyfathrebiadau o fyd natur annynol. Cynnig chwareus, difrifol, dwfn ac arwynebol y gwaith yw y gellir gosod a dehongli’r ystumiau a’r ffurfiau hyn ar draws ffiniau rhywogaethol. Gall ystyr yr arwyddion fod yn fwy haniaethol hefyd, neu yn fwy diriaethol. Wrth greu ac astudio paentiadau, mae rhywun yn darllen amrywiadau cynnil o ran pwysau, lliw, gwead a disgleirdeb, sydd yn ymdebygu i’r modd y mae naturiaethwr yn dysgu i adnabod blew neu lwybrau anifail: gall pob marc fod yn arwydd o newid cyfeiriad neu fwriad. Mae Wild Word hefyd yn ystyried syniadau am symbolaeth gysegredig ac ‘amhur’ — yr ystyron cudd sydd i’w cael mewn gwrthrychau neu ddelweddau na ellir mo’u darllen ond gan ddarllenwr hyddysg. Un wedd ar hyn oedd ‘athrawiaeth y nodweddion’ Cristnogaeth ganoloesol (‘doctrine of signatures’) – sef y syniad y gallai planhigion a rhannau o anifeiliaid helpu (neu iachau) organau y tybid eu bod yn weledol debyg iddynt.

Thomas WilliamsTywysydd BywDw i’n gweithio yn rhan o dîm Celfyddydau Gweledol Chapter, yn yr Oriel gan mwyaf. Dechreuais fel tywysydd gwirfoddol ac roeddwn i’n ddigon ffodus i sicrhau fy swydd bresennol ym mis Medi y llynedd.Mae Oriel Chapter yn lle grêt i weithio, yn rhannol am nad yw trwch yr ymwelwyr â’n sioeau yn dod i Chapter i ymweld yn unswydd â’r Oriel. Mae siarad â phobl nad oes ganddynt ragdybiaethau am gelfyddyd gyfoes yn gallu bod yn ffordd ffres a diddorol o ymwneud â’r gwaith yn y sioeau. Dw i wedi cael ambell i sgwrs ardderchog ac mae pob un o’r rhain wedi cyfrannu rhywbeth at y gwaith; dyw arddangosfeydd byth yr un fath ar ddiwedd y cyfnod arddangos ag yr oeddent wrth agor. Fel dysgwr Cymraeg, cefais gyfle yn ddiweddar i arwain fy nhaith gyntaf yn y Gymraeg. Mae dod o hyd i ffyrdd o siarad am y gwaith yn Gymraeg yn beth cyffrous ac fe ychwanegodd hynny haen arall at y sioe. Byddaf yn treulio amser yn Fenis yr haf hwn, ac yn gweithio gyda Helen Sear o Gymru ar ei harddangosfa, ‘…the rest is smoke’. Bydd yn gyfle gwych i ymwneud â’r sioe a’i chynulleidfa, y tu hwnt i fyd cyfarwydd y Gymraeg a’r Saesneg, ac i weld rhai o’r darnau celfyddydol gorau yn y byd, i gwrdd â phobl o bob cwr o’r byd ac i dreulio amser mewn dinas hynod, yn ystyried ac yn datblygu fy ngwaith artistig fy hun.

Fion

a M

acDo

nald

, Wild

Wor

d 20

15. L

lun:

War

ren

Orch

ard

09chapter.org Bwyta Yfed Llogi

ChapterLiveGwe 7 Awst + Gwe 21 Awst 9pmMae ChapterLive yn gyfres newydd o gyngherddau byw wedi’u curadu gan hyrwyddwyr profiadol y Jealous Lovers Club, ac fe fyddan nhw’n cyflwyno eu hoff gerddoriaeth o bob cwr o’r DG, Ewrop a gwledydd pellennig yma yn Chapter. Cynhelir ChapterLive yn y Caffi Bar ar ddydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener bob mis. Fydd yna ddim genres penodedig felly bydd y nosweithiau’n gyfle i chi ddarganfod artistiaid newydd gwych. A rhag ofn bod angen mwy o berswâd arnoch, mae mynediad i’r nosweithiau’n rhad ac am ddim. Ffordd wych o gychwyn y penwythnos! RHAD AC AM DDIM@JealousLovers1 #ChapterLive

YfedByddwn yn adolygu ein rhestr win y mis hwn. Ein nod, fel bob amser, yw cynnig amrywiaeth eang o winoedd o bob cwr o’r byd. Cadwch lygad ar agor am ein rhestrau gwin newydd a fydd yn cynnwys, am y tro cyntaf, wybodaeth am y bwydydd hynny sy’n gweddu’n arbennig o dda i ffrwyth gwinwydden benodol. Mae croeso i chi adael i ni wybod am winoedd newydd yr hoffech eu gweld yn Chapter, yn ogystal â’r rheiny a ddylai gadw eu lle y tu ôl i’n bar! @chapter_eats

LlogiMae nifer o ystafelloedd a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi, ac mae llawer o’r rhain yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan gymysgedd eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwe-fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod neu gynhadledd, neu am ofod i saethu fideo, i ymarfer neu i gynnal gweithgareddau adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn gallu sicrhau bod eich digwyddiad yn gyffyrddus, yn unigryw ac yn gofiadwy. Gallwn gynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058 neu anfonwch e-bost at [email protected].

Pop Up ProduceMer 5 Awst 3–8pmMae ein marchnad fisol boblogaidd yn llawn dop â chynhyrchwyr bwyd lleol ac fe fyddan nhw’n cynnig danteithion i dynnu dŵr o’ch dannedd. Ar ddydd Mercher cyntaf bob mis, byddwn yn cyflwyno rhai o’ch hen ffefrynnau ynghyd ag ambell stondin newydd a fydd yn gwerthu siocledi, jamiau, bara arbenigol, pice ar y maen, gwin, teisennau heb glwten, te, mêl a nwyddau i’r cartref. Ydych chi’n cynhyrchu bwyd? Ydych chi wedi sylwi ar fwlch yn narpariaeth Pop Up Produce? Os hoffech chi ymuno â ni unwaith y mis i werthu’ch cynhyrchion chi, cysylltwch â Philippa — [email protected] — i wneud cais am stondin.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Cha

pter

Live

: Dan

ielle

Lew

is, P

op u

p Pr

oduc

e

Theatr10 029 2030 4400

Cait

lin. L

lun:

War

ren

Orch

ard

Theatr 11chapter.org

LIGHT, LADD & EMBERTON YN CYFLWYNO

CaitlinLlun 3 + Mer 5 + Iau 6 Awst 6pm + 8pm Caitlin oedd gwraig y bardd Dylan Thomas. Ar ddechrau’r 1970au, 20 mlynedd ar ôl ei farwolaeth ef, dechreuodd hi fynychu cyfarfodydd Alcoholics Anonymous. Yng nghanol cylch o gadeiriau, wedi’u trefnu ar gyfer cyfarfod AA, mae Caitlin yn ceisio delio â’i gorffennol tymhestlog. Mae’r gynulleidfa’n eistedd yn y cylch gyda Caitlin wrth iddi ail-ystyried ei bywyd gyda Dylan. Taniwyd eu perthynas gan gariad, dibyniaeth, cenfigen ac anffyddlondeb. Wrth i Caitlin a Dylan yfed, ymladd, agosáu a gwahanu, daw’r cadeiriau gwag yn rhan o’r digwydd, mewn deuawd gorfforol a grymus. Enillydd Gwobr y Cynhyrchiad Dawns Gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru 2015 — dewch i weld y sioe hon cyn iddi fynd i Ŵyl Fringe Caeredin 2015. Cafodd CAITLIN ei greu gan Eddie Ladd a’i gomisiynu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn rhan o ddathliadau canmlwyddiant geni Dylan Thomas yn 2014. Cyfarwyddo gan Deborah Light Cyd-ddyfeisio a pherfformio gan Eddie Ladd a Gwyn Emberton Sgôr sain gan Thighpaulsandra Sain gan Siôn Orgon Gwisgoedd gan Neil Davies £12.50/£10.50www.lightladdemberton.comGyda chefnogaeth cronfa ‘Cymru yng Nghaeredin’ Cyngor Celfyddydau Cymru.

LIvING PICTURES YN CYFLWYNO

Diary of a MadmanMaw 4 + Mer 5 Awst 7.30pmMae Poprishchin yn was sifil isel-radd gyda’r Llywodraeth ac yn brwydro i wneud ei farc mewn bywyd — ond un diwrnod, mae e’n gwneud darganfyddiad anhygoel. Ai ef, mewn gwirionedd, fydd Brenin nesaf Sbaen? Caiff ei yrru’n wallgo’ gan fiwrocratiaeth a hierarchaeth y llywodraeth yng nghomedi dywyll Gogol am ddyn sy’n syrthio ar ei ben i fyd ffantasi swreal. Perfformiad gan yr actor gwobrwyol, Robert Bowman, wedi’i gyfarwyddo gan Sinéad Rushe a enwebwyd am Wobr Olivier. Enillydd Gwobr Theatr Cymru (Actor Gorau) 2014. Rhan o Arddangosfa Caeredin 2015 y Cyngor Prydeinig. £12/£1014+ oed (ychydig o iaith anweddus)www.livingpictures.orgGyda chefnogaeth cronfa ‘Cymru yng Nghaeredin’ Cyngor Celfyddydau Cymru.

“... mae Bowman yn dehongli’r gwallgofrwydd yn berffaith — mae e’n dadfeilio o flaen ein llygaid ac yn diflannu ar ei ben i fyd ffantasi” Western Mail

Diar

y of

a M

adm

an, L

lun:

Kirs

ten

McT

erna

n

RHAGOLYGON CAEREDIN

Theatr12 029 2030 4400

Oh Hello! Sad 1 + Sul 2 Awst 8pmCharles Hawtrey oedd un o ffigyrau pennaf cyfres ffilmiau Carry On. Yn fywiog, egnïol ac yn hynod ddoniol, roedd Hawtrey yn un o actorion comedi mwyaf adnabyddus y 40au, y 50au a’r 60au ond, wrth i’w enwogrwydd gilio, felly y daeth ei ymddygiad i fod yn fwy afreolus, meddw ac ecsentrig ac fe gollodd lawer o’r ffrindiau a fu ganddo, yn ystod cyfnod pan oedd bod yn hoyw ym Mhrydain yn drosedd — ac yn rhwym o arwain at ddedfryd o garchar. Wedi’i pherfformio gan Jamie Rees yn ystod y flwyddyn y byddai Hawtrey wedi dathlu’i ben-blwydd yn 100 oed, mae’r sioe un dyn hon yn adrodd hanesion a gasglwyd dros gyfnod o 50 mlynedd. Gweithiodd Hawtrey gydag enwogion fel Alfred Hitchcock a serennu mewn ffilmiau a oedd yn cynnwys The Ghost of St Michael’s, Passport to Pimlico a 21 o ffilmiau Carry On. Dewch i glywed am ei ddadleuon doniol gyda Kenneth Williams, ei ddirmyg tuag at gynhyrchwyr y ffilmiau Carry On ac am ei berthynas gymhleth â mam a oedd yn colli’i phwyll. £12/£10/£8

“Mae Rees yn llwyddo i ddal ystumiau a llais yr actor camp i’r dim ... r’ych chi’n siŵr o rolio chwerthin a beichio crio” The Western Mail

CLWYD THEATR CYMRU YN CYFLWYNO

Mimosagan Tim BakerSad 8 Awst 7.30pm(Perfformiad yn Gymraeg)Taith epig yr ymfudwyr Cymreig a greodd Gymru fach y tu hwnt i Gymru.150 mlynedd yn ôl, ar 28 Mai 1865, hwyliodd llong o’r enw y Mimosa o borthladd Lerpwl i Batagonia. Ar ei bwrdd roedd grŵp o deuluoedd Cymreig a oedd yn gobeithio dod o hyd i achubiaeth ym Mhatagonia, drwy sefydlu cymuned Gymraeg 7,000 o filltiroedd i ffwrdd. Ond roedd y baradwys ddisgwyliedig yn fyth dinistriol. Ar ôl blynyddoedd o galedi ac, er gwaetha’ popeth, fe lwyddon nhw yn eu menter, ac mae’r gymuned Gymraeg honno’n bodoli hyd heddiw. Perfformir y sioe gerddorol, Mimosa, gan griw unigryw o bobl ifainc o Gymru a Phatagonia, ar y cyd ag actorion proffesiynol. Ar ôl y perfformiad hwn yn Chapter, bydd y sioe yn teithio i Batagonia, i rannu stori ryfeddol sefydlu’r gymuned Gymraeg yn Ne America.Ysgrifennu a Chyfarwyddo gan Tim BakerCyfansoddwr a Chyfarwyddwr Cerdd: Dyfan JonesGeiriau’r Caneuon: Tudur Dylan JonesDylunydd: Alex Robertson£8/£6ctctyp.co.uk@youngclwydifanc #Mimosa

“Codwyd yr angor ac fe ffarweliom â’r wlad lle’n ganed ni” Thomas Jones, Glan Camwy

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Oh

Hello

!, M

imos

a

RHAGOLYGON CAEREDIN

Theatr/Chapter Mix 13chapter.org

OMIDAzE PRODUCTIONS

Ysgol Haf ShakespeareLlun 3 — Gwe 7 Awst 9.30am–3.30pm Mae Ysgol Haf Shakespeare yn gyflwyniad hwyliog ac ymarferol i Shakespeare ac i fyd y ddrama. Mae Omidaze yn credu’n gryf mewn cyflwyno a pherchnogi Shakespeare drwy ddulliau cyffrous a chwbl ryngweithiol. Ni fyddwn yn ymarfer cynhyrchiad felly does dim angen gwybodaeth arbenigol arnoch neu brofiad nac o’r ddrama nac o Shakespeare ei hun. Prif destun eleni fydd A Midsummer Night’s Dream.Cynlluniwyd y cwrs gan y Cyfarwyddwr Theatr a’r Cynhyrchydd, Yvonne Murphy. Mae ganddi hi ryw dair blynedd ar hugain o brofiad ym myd y theatr broffesiynol ac addysgol ac mae hi’n gweithio gyda’r Theatr Genedlaethol Frenhinol a Gŵyl Ysgolion Shakespeare er mwyn sicrhau mynediad i weithiau a byd Shakespeare.Cysylltwch ag Omidaze ar 07949 626538 i gael mwy o wybodaeth a ffurflen gais neu i gael gwybodaeth am ddyddiadau eraill.£100 i bob myfyriwr neu £180 i ddau frawd a/neu chwaer. Agored i blant ysgol 7-11 oed (blynyddoedd 2-6)

“Cyflwyniad ardderchog i Shakespeare” Adborth gan Riant

Clwb Comedi The DronesGwe 7 + Gwe 21 Awst Drysau’n agor: 8.30pm Sioe’n dechrau am: 9pmClint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue.£3.50 (wrth y drws)

Cylch Chwedleua CaerdyddSul 2 Awst 8pmStraeon yn nhro’r tymhorau — straeon a chaneuon i groesawu’r haf.£4 (wrth y drws)

CapoeiraSul 16 Awst 2–4pmBydd y grŵp capoeira lleol, Nucleo de Capoeiragem (c-m Claudio Campos), yn cyflwyno’u roda awyr agored misol yng Ngardd Gymunedol Chapter yn ystod misoedd yr haf. Mae Capoeira yn gamp Affro-Frasilaidd sy’n ymgorffori crefft ymladd chwareus, “floreos” acrobatig ac elfennau o ddawns, cerddoriaeth acwstig fyw a chanu. Croeso i bawb!RHAD AC AM DDIM

Jazz ar y SulSul 23 Awst 9pmEin noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar, gyda Phedwarawd Jazz Chapter — Glen Manby, Jim Barber, Don Sweeney a Greg Evans.RHAD AC AM DDIMwww.glenmanby.com

CHAPTER MIX

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Sha

kesp

eare

Sum

mer

Sch

ool,

Card

iff S

tory

telli

ng C

ircle

Chapter yn Jazz Aberonddu14 029 2030 4400

Gyda

’r cl

oc o

’r ch

wit

h: C

ourt

ney

Pine

, Jul

ia B

iel,

Mot

is &

Cha

orro

Bydd rhaglen eleni yn dechrau ar ddydd Gwener wrth i ni groesawu jazz siambr hardd Nia Lynn a Thriawd y Bannau, a thriawd a enwebwyd am wobr Grammy, sef y gantores Norma Winstone MBE, y pianydd o’r Eidal, Glauco Venier a’r pibydd o’r Almaen, Klaus Gesing, a fydd yn cyflwyno cerddoriaeth o’u record nodedig ar label ECM, Stories Yet to Tell.Ar ddydd Sadwrn, bydd Llwyfan Chapter yn croesawu Courtney Pine a Zoe Rahman, a bydd yna berfformiadau yn ystod y dydd gan gyn-sacsoffonydd Loose Tubes, Julian Arguelles, a’i bedwarawd, Tetra. Bydd artist preswyl yr ŵyl, Huw Warren, yn cyflwyno Tails for Wales.Yn y Gadeirlan ar ddydd Sul, byddwn yn croesawu’r seren newydd o Barcelona, Andrea Motis. Bydd y trwmpedwr a’r canwr ifanc yn perfformio gyda’i gydweithiwr rheolaidd, Joan Chamorro. Bydd Songs for Quintet — sef Stan Sulzmann, John Parricelli, Chris Laurence, Martin France a Gwilym Simcock — yn

perfformio albwm olaf y cawr, Kenny Wheeler, cyn i gyn-enillydd Canwr Jazz Perrier y Flwyddyn, Julia Biel, ddod â blwyddyn arall o jazz i ben yn y lleoliad hardd hwn. Hefyd yn yr ŵyl eleni, bydd yna berfformiadau gan gyn-ganwr The Kinks, Ray Davies, deuawd chwedlonol Kenny Barron a Dave Holland, Gogo Penguin, a enwebwyd am Wobr Mercury, enillwyr gwobr MOBO, Sons of Kemet, un o ffefrynnau mawr yr ŵyl, Scott Hamilton, y ‘Lautari’ afreolus, Taraf de Haïdouks, y pianydd gwobrwyol, Robert Glasper, a llawer iawn mwy. Bydd yna raglen lawn hefyd o Ddosbarthiadau Meistr, Marchnad Stryd Jazz Aberhonddu, Parc Chwarae Western Power i Blant a digonedd o Adloniant Stryd rhad ac am ddim i ddiddanu’r teulu cyfan.I brynu tocynnau ac i weld y rhaglen lawn, ewch i Breconjazz.com.

Gwe 7 — Sul 9 AwstMae gŵyl gazz fyd-enwog Aberhonddu yn dychwelyd rhwng dydd Gwener 7 Awst a dydd Sul 9 Awst eleni ac fe fydd Chapter, unwaith yn rhagor, yn ymuno â’r ŵyl i gyflwyno artistiaid ar Lwyfan Chapter yn Eglwys Gadeiriol syfrdanol y ddinas.

Digw

yddi

ad C

lwb

Chap

ter.

Llun

: Mag

enta

Pho

togr

aphy

Cefnogwch Ni 015029 2030 4400

UnigolionFfrindiauYmunwch â chynllun Ffrindiau Chapter ac fe gewch chi fuddion sy’n amrywio o ostyngiadau ar docynnau a bwyd a diod yn ein Caffi Bar i wahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn Ffrindiau hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd : £25/£20Ffrind Arian: £35/£30Ffrind Aur: £45/£40 RhoddionCofrestrwch i wneud cyfraniadau unigol neu roddion reolaidd i Chapter, er mwyn chwarae rhan lawn yn ein gwaith elusennol. Gallwch wneud cyfraniadau ar–lein, ar www.chapter.org/cy/cefnogwch–ni neu drwy ymweld â’n Swyddfa Docynnau. Gallwch wneud cyfraniadau drwy neges destun erbyn hyn hefyd — tecstiwch ‘Chap15’, ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi, at 70070. Fydd hi ddim yn costio ceiniog i chi anfon y neges destun ac fe fyddwn ni’n derbyn 100% o’ch cyfraniad. MyfyrwyrYdych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth rad ac am ddim a manteisio ar gynigion arbennig ardderchog, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? Cofrestrwch heddiw drwy ymweld â www.chapter.org/cy/chapter–student–membership. CymynroddionMae gadael cymynrodd i Chapter yn fodd i ddiogelu ein gwaith at y dyfodol. Os hoffech chi ystyried gadael rhodd i Chapter yn eich Ewyllys, dylech ofyn am gyngor gan eich cyfreithiwr yn y lle cyntaf. Os ydych chi eisoes wedi crybwyll Chapter yn eich Ewyllys, rhowch wybod i ni, fel y gallwn gydnabod eich cyfraniad yn y modd mwyaf priodol.

BusnesauClwbCynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, a’r rheiny’n cynnwys cyfleoedd i rwydweithio, defnydd o’n mannau llogi hyblyg a gostyngiadau i chi a’ch staff ar docynnau sinema a theatr yn ogystal â phrisiau gostyngol yn ein Caffi Bar.I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/chapter–clwb. NawddYn 2014, dyfarnodd Celfyddydau & Busnes Cymru Wobr Gyffredinol Categori’r Celfyddydau i Chapter am ein perthynas waith ragorol â busnesau. Mae yna nifer o gyfleoedd ar gael i noddi a’r rheiny’n cynnig buddion gwych, gan gynnwys cyfranogiad staff, lletygarwch corfforaethol a chyfle i hyrwyddo eich brand.

I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r materion uchod, cysylltwch os gwelwch yn dda ag Elaina Gray ar 02920 355662 neu e–bostiwch [email protected].

Mae Chapter yn elusen gofrestredig ac rydym yn dibynnu ar gefnogaeth gan unigolion a busnesau er mwyn gallu cyflwyno ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysgol pwysig. Rydym yn ddiolchgar am bob ceiniog a dderbyniwn ac fe allwn gynnig ambell beth gwych i chi yn gyfnewid. Mae yna nifer o wahanol ffyrdd o gymryd rhan...

Sinema16 029 2030 4400

Iris

17chapter.org Sinema

True StoryGwe 31 Gorffennaf — Iau 6 Awst UDA/2015/99mun/15. Cyf: Rupert Goold. Gyda: James Franco, Jonah Hill, Felicity Jones.

Caiff Christian Longo ei arestio ym Mecsico ar amheuaeth o lofruddio ei wraig a’u tri o blant. Mae e’n ffoi ac yn dechrau chwarae rôl newyddiadurwr drwg-enwog y New York Times, Michael Finkel. Mae’r Michael go iawn yn awyddus i adfer ei yrfa ac mae e’n cytuno, felly, i gyf-weld â Christian. Fodd bynnag, mae haerllugrwydd Michael yn ei arwain i gêm ryfedd â Christian, sydd yn barod i fanteisio ar y sefyllfa. Yn seiliedig ar stori go iawn, mae’r ffilm hon yn llawn perfformiadau cynnil ac yn stori hynod am ryfyg a balchder. Disgrifiadau Sain ar gael ymhob dangosiad ac Is-deitlau Meddal ar Sul 2 Awst 5.35pm a Iau 6 Awst 2.30pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe-fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau.)

Moviemaker Chapter Llun 3 AwstSesiwn reolaidd sy’n caniatáu i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth am ddangos eich ffilm chi, neu unrhyw fanylion eraill, e-bostiwch [email protected]. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed.

IrisGwe 31 Gorffennaf — Iau 6 AwstUDA/2015/83mun/PG. Cyf: Albert Maysles.

Mae Iris Apfel yn wraig 93 oed ddeallus a lliwgar a bu’n ddylanwad egnïol ar sîn ffasiwn Efrog Newydd ers degawdau. Mae’r ffilm ddogfen hon yn fwy na ffilm ffasiwn; mae hi’n stori am greadigrwydd gan gyfarwyddwr y ffilm Grey Gardens (1975), sy’n ein hatgoffa bod gwisgo, a bywyd yn wir, yn fater o arbrofi.

Far From the Madding CrowdGwe 31 Gorffennaf — Iau 6 Awst DG/2015/119mun/12A. Cyf: Thomas Vinterberg. Gyda: Carey Mulligan, Michael Sheen, Matthias Schoenaerts.

Mae’r Bathsheba Everdene annibynnol a phengaled yn denu sylw tri dyn gwahanol iawn: Gabriel Oak, ffermwr defaid, Frank Troy, sarjant di-hid a William Boldwood, hen lanc cyfoethog. Mae’r stori oesol hon am ddewisiadau a nwydau Bathsheba yn archwilio natur perthnasau a chariad, yn ogystal â’r gallu dynol i oresgyn caledi â gwydnwch a dyfalbarhad. Disgrifiadau Sain ar gael ymhob dangosiad ac Is-deitlau Meddal ar Gwe 31 Gorffennaf 8.20pm, Maw 4 Awst 8.20pm a Iau 6 Awst 10.30am a 8.20pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe-fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau.)

Os na lwyddoch chi i fynychu trafodaeth grŵp Addasiadau o Far From the Madding Crowd, mae pynciau’r drafodaeth ac ysgrifau perthnasol ar gael ar ein gwe-fan.

True

Sto

ry

Sinema18 029 2030 4400

Revenge of the MekonsGwe 7 — Iau 13 AwstUDA/2015/95mun/15arf. Cyf: Joe Angio.

Er ennill llu o ffans pybyr a llwyddiant beirniadol, bu perthynas y band pync, The Mekons, â’r diwydiant recordiau yn ddigon cythryblus erioed. Yn y ffilm ddifyr ac ysbrydolgar hon, gwelwn ddatblygiad y provocateurs gwleidyddol o fod yn fyfyrwyr celf heb unrhyw sgiliau cerddorol yn 1977 i fod yn agitateurs cymdeithasol cerddoriaeth werin. Ac maent yn dal i esblygu, yn dal i greu gwaith anturus a heriol ac yn dal yn ffrindiau, er gwaetha’ popeth.+ Sesiwn holi-ac-ateb gydag aelodau’r band ar ôl y dangosiad ar ddydd Gwener 7 Awst

EdenGwe 31 Gorffennaf — Iau 6 AwstFfrainc/2014/128mun/is-deitlau/15. Cyf: Mia Hansen-Løve. Gyda: Félix de Givry, Pauline Etienne, Greta Gerwig.

Ar ddechrau’r 90au a thros gyfnod o ddau ddegawd wedyn, gwelwn hanes Paul a’i ffrindiau, clybwyr pybyr, a datblygiad sin gerddoriaeth electronig greadigol y “French touch”. O rêfs anghyfreithlon i hits rhyngwladol gan grwpiau fel Daft Punk, gwelwn realiti bywyd i’r rheiny y cyd-blethwyd eu bywydau â’r llwyddiannau hyn. Mae curiadau ffres ac iwfforia yn ildio i felancoli wrth i Paul geisio cadw cydbwysedd rhwng ei gelfyddyd, ei gariad a’i iechyd.

AmyGwe 14 — Iau 27 AwstDG/2015/128mun/15. Cyf: Asif Kapadia.

Roedd talentau Amy Winehouse yn unigryw ac fe ddenodd y seren ifanc sylw’r byd â’i chyfansoddiadau cain a’u chaneuon o’r galon. Ond er gwaethaf ei gallu i fynegi ei hemosiynau ar gân, ac er yr effaith sylweddol a gafodd Winehouse ar fyd cerddoriaeth, roedd ei bywyd ei hun yn llawn treialon dybryd. Mae’r ffilm hon, sy’n cynnwys deunydd nas gwelwyd o’r blaen, ynghyd â chyfraniadau gan ei theulu, ei ffrindiau a’i chariadon, yn adrodd hanes ei bywyd — o’i phlentyndod yng ngogledd Llundain i’w statws fel eicon rhyngwladol dioddefus.

Love & Mercy Gwe 7 — Iau 20 AwstUDA/2014/121mun/12A. Cyf: Bill Pohlad. Gyda: John Cusack, Paul Dano, Elizabeth Banks.

Ym 1963, roedd Brian Wilson, athrylith creadigol The Beach Boys, yn ceisio recordio ar ddisg ei holl ddoniau sonig, ar y record Pet Sounds — a gwneud hynny er gwaetha’r peryglon i’w iechyd meddyliol a’i berthynas â’i deulu. Mae’r ffilm sensitif a chrefftus hon yn cynnwys dau actor sy’n chwarae gwahanol fersiynau o Wilson ac yn archwilio dyddiau penfeddwol yn y stiwdio yn ogystal â’r cyfnod, ugain mlynedd yn ddiweddarach, pan ‘ail-ymddangosodd’ ar ôl ei gyfnod ‘coll’.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Rev

enge

of t

he M

ekon

s, A

my

19chapter.org Sinema

SouthpawGwe 14 — Iau 27 AwstUDA/2015/124mun/15. Cyf: Antoine Fuqua. Gyda: Jake Gyllenhaal, Rachel McAdams, Forest Whitaker, Naomie Harris.

Mae gan y paffiwr, Billy Hope, yrfa ymddangosiadol lewyrchus, gwraig a merch sy’n ei garu a bywyd moethus. Ond daw trasiedi i’w ran ac mae ei reolwr yn ei adael. Daw gobaith am waredigaeth o gyfeiriad annisgwyl – paffiwr wedi ymddeol o’r gampfa leol, o’r enw Tick. Â’i ddyfodol yn ddibynnol ar arweiniad a dycnwch Tick, mae Billy’n cychwyn ar frwydr anoddaf ei frwydr wrth iddo geisio adennill ei anwyliaid.

ManglehornGwe 7 — Iau 13 AwstUDA/2014/97mun/12A. Cyf: David Gordon Green. Gyda: Al Pacino, Holly Hunter, Harmony Korine.

Mae saer cloeon yn byw a bod mewn tref fach yn Texas ond ychydig iawn o ddiddordeb sydd ganddo mewn pobl. Collodd gariad ei fywyd flynyddoedd lawer yn ôl ac mae Manglehorn bellach yn gweld ei amser yn prinhau. Ond caiff ei rwtîn ei chwalu gan Dawn, sydd yn swil ond sydd yn gweld rhywbeth yn y dyn a allai fod yn werth ei achub. Astudiaeth deimladwy sy’n cynnwys perfformiad canolog ardderchog. Mae’r ffilm yn hynod brydferth ac yn dangos na ddylech chi fyth roi’r gorau i obeithio.

“Perfformiad gorau Pacino ers blynyddoedd” Xan Brooks, The Guardian

MarshlandGwe 14 — Iau 20 AwstSbaen/2014/104mun/is-deitlau/15. Cyf: Alberto Rodríguez. Gyda: Javier Gutiérrez, Raúl Arévalo, María Varod.

Yn Sbaen Franco, byddai pobl yn diflannu yn aml ac yn ddirybudd. Yn y cyfnod rhwng unbennaeth a democratiaeth, mae dau dditectif yn ymdrin â threftadaeth cyfnod ansefydlog. Wrth iddyn nhw geisio datrys cyfres o lofruddiaethau, mae’r achos yn cymhlethu cyn mynd ar chwâl. Mae i’r dyfrffyrdd a adleisir yn nheitl y ffilm hon harddwch bygythiol ac maent yn cuddio is-fyd peryglus ...

BAFTA Cymru yn cyflwynoMer 12 AwstEin dangosiad rheolaidd o’r ffilmiau Cymreig gorau o’r archif a’r cyfnod cyfoes. Ewch i www.bafta.org/wales neu www.chapter.org i weld manylion y dangosiad.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Sou

thpa

w, M

arsh

land

Sinema20 029 2030 4400

52 Tuesdays Gwe 7 — Iau 13 AwstAwstralia/2014/109mun/12A. Cyf: Sophie Hyde. Gyda: Tilda Cobham-Hervey, Del Herbert-Jane, Mario Späte.

Mae James yn fam sydd yn mynd trwy broses o drawsnewid rhyw. Â James yn poeni am effaith y broses honno ar ei ferch Billie, sydd yn eu harddegau, mae e’n gofyn iddi symud i mewn gyda’i thad, ac yn gwneud addewid i gwrdd â hi bob prynhawn dydd Mawrth. Wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen, mae James a Billie yn gweld y newidiadau yn ei gilydd ac yn eu perthynas — perthynas a oedd, ar un adeg, yn ddi-syfl. Mae hon yn stori gymhleth am drawsnewid corfforol a seicolegol sy’n cynnwys perfformiadau grymus.+ Sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr, Sophie Hyde, a’r ymgyrchydd trawsrywiol a’r gwneuthurwr ffilmiau, Jayne Rowlands, ar ddydd Sul 9 Awst.

The WolfpackGwe 21 — Iau 27 AwstUDA/2015/80mun/15arf. Cyf: Crystal Moselle.

Cafodd y brodyr Angulo eu codi yn un o ddinasoedd mwyaf cyffrous y blaned ond, tan yn ddiweddar, doedd yr un ohonynt wedi gadael yr adeilad yn Efrog Newydd lle roedd eu cartref. Fe gawson nhw’r llysenw ‘The Wolfpack’ ac fe’u gwaharddwyd rhag gadael yr adeilad, felly aeth y bechgyn ati i lanw’r bylchau yn eu profiad drwy gyfrwng ffilmiau ac ail-greu golygfeydd. Drwy hynny, daeth realiti ac adlewyrchiad cam y sinema o gymdeithas yn un. Ffilmiwyd y gwaith hwn dros gyfnod o bedair blynedd ac mae’r ffilm yn olwg ryfeddol ar gamau cyntaf y bechgyn at unigoliaeth a’r byd y tu hwnt i’r drws ffrynt.

45 YearsGwe 28 Awst — Iau 3 MediDG/2015/97mun/12A. Cyf: Andrew Haigh. Gyda: Charlotte Rampling, Tom Courtenay, Geraldine James.

Wythnos yn unig sydd yna tan i Kate Mercer a’i gŵr ddathlu 45 mlynedd o briodas. Ond pan ddaw llythyr i’w gŵr, Geoff, mae holltau’n ymddangos mewn priodas ymddangosiadol hapus. Daethpwyd o hyd i gorff ei gariad cyntaf ef, mewn rhewlif yn Alpau’r Swistir. Mae’r ffilm hon yn talu sylw manwl i fecaneg bob dydd perthynas gariadus ac mae ynddi berfformiadau anhygoel.

The Diary of a Teenage GirlGwe 28 Awst — Iau 3 MediUDA/2015/102mun/18. Cyf: Marielle Heller. Gyda: Bel Powley, Alexander Skarsgård, Kristen Wiig.

Fel y rhan fwyaf o ferched yn eu harddegau, mae Minnie’n ysu am gariad, am gael ei derbyn ac am deimlad o bwrpas yn y byd. Mae hi’n cychwyn ar garwriaeth gymhleth gyda chariad ei mam, sy’n arwain at stori finiog a doniol, stori bryfoclyd a diduedd, am ddeffroad rhywiol ac artistig merch yng ngwrth-ddiwylliant San Francisco y 1970au.

45 Y

ears

21chapter.org Sinema

Mad MaxSad 22 + Iau 27 AwstAwstralia/1979/88mun/18. Cyf: George Miller. Gyda: Mel Gibson, Joanne Samuel, Hugh Keays-Byrne.

Ffilm gyffro ôl-apocalyptaidd lle mae rhannau hirion, diarffordd o briffyrdd Awstralia wedi troi’n fannau ar gyfer brwydrau gwaedlyd. Mae Max Rockatansky yn blismon yn y dyfodol agos ac, ar ôl i’w fyd gael ei chwalu gan griw maleisus y Toecutters, mae e’n cychwyn allan i geisio dial.

Mad Max II: The Road WarriorSul 23 + Llun 24 AwstAwstralia/1981/91mun/15. Cyf: George Miller. Gyda: Mel Gibson, Bruce Spence, Michael Preston.

Ffilm sy’n profi nad yw pob dilyniant yn waeth na’r gwreiddiol. Mae’r ail ffilm hon yn greulon a chyffrous a gwelwn Max yn crwydro drwy gefn gwlad sydd yn llawn o lwythi rhyfelgar a gwersylloedd arfog gwasgaredig. Mae Max yn ei gael ei hun yng ngwersyll y burfa olew, dan arweiniad Pappagallo, ac mae e’n ymuno â nhw i frwydro yn erbyn Humungus.

Mad Max: Fury RoadGwe 21 — Iau 27 Awst Awstralia/2015/120mun/15. Cyf: George Miller. Gyda: Tom Hardy, Charlize Theron, Nicholas Hoult.

Yn y bennod ddiweddaraf ddwys a chyffrous hon, mae Max yn cael ei ddal gan grŵp Warboys Immortan Joe ac yn cael ei dynnu i mewn i’r frwydr rhwng Joe a’i yrrwr, Imperator Furiosa, sydd wedi gyrru i ffwrdd a chymryd gwragedd Joe gydag ef er mwyn ceisio cyrraedd man diogel allan o gyrraedd y brwydrau ffyrnig am rym. Disgrifiadau Sain ar gael ymhob dangosiad ac Is-deitlau Meddal ar Gwe 21 Awst 2.30pm a Maw 25 Awst 6pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe-fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau.)

Mad Max I ddathlu rhyddhau’r bennod ddeinamig ddiweddaraf yn saga George Miller, byddwn yn cyflwyno ffilmiau gorau cyfres Mad Max ar y sgrin fawr.

Gyda

’r cl

oc o

’r br

ig: M

ad M

ax: F

ury

Road

, Mad

Max

: Fur

y Ro

ad, M

ad M

ax II

: The

Roa

d W

arrio

r

Sinema22 029 2030 4400

Prem

atur

e Bu

rial

chapter.org Sinema 23

The Lost WeekendSul 2 + Maw 4 AwstUDA/1945/98mun/PG. Cyf: Billy Wilder. Gyda: Ray Milland, Jane Wyman, Phillip Terry.

Mae Don Birnam yn nofelydd dioddefus a chanddo broblem yfed ddifrifol. Mae e’n dianc o’r fflat y mae ei frawd, sy’n poeni amdano, wedi ei drefnu iddo ac yn mynd ar sbri hunanddinistriol. Y ffilm bwerus hon oedd y tro cyntaf i alcoholiaeth gael ei phortreadu ar y sgrin fel dibyniaeth ofnadwy ac enillodd perfformiad grymus Milland Oscar iddo — ef oedd yr actor cyntaf o Gymru i ennill yr anrhydedd honno.+ Ymunwch â ni am gyflwyniad, trafodaeth a dadl ar ôl y dangosiad ar ddydd Sul 2 Awst yng nghwmni criw Tinted Lens.Mae Tinted Lens yn gydweithrediad newydd gan Chapter, Prifysgol Caerdydd a’r BFI. Byddwn yn archwilio’r meddwl a chysyniadau’n ymwneud â normalrwydd a phatholeg, ac yn canolbwyntio ar golled a galar, ffantasi a rhith, dealltwriaeth o amser a chyflyrau ymwybyddiaeth.

Premature BurialSul 9 + Maw 11 AwstUDA/1961/78mun/15. Cyf: Roger Corman. Gyda: Ray Milland, Hazel Court, Richard Ney.

Maa Guy Carrell yn ddyn a chanddo obsesiwn, sef y syniad y caiff ei gladdu’n fyw mewn cyflwr o gatalepsi (a oedd yn bosibilrwydd go iawn yn nyddiau cynnar meddygaeth Fictoraidd). Wedi’i argyhoeddi bod yna gynllwyn yn ei erbyn, mae ei ddyweddi Emily yn addo ei wella ond geiriau gwag yw’r rhain...

X: The Man with the X Ray EyesSul 16 + Maw 18 AwstUDA/1963/75mun/PG. Cyf: Roger Corman. Gyda: Ray Milland, Diana Van Der Vlis, Harold J. Stone.

Mae’r gwyddonydd enwog, Dr James Xavier, yn datblygu serwm wrth iddo arbrofi â llygaid dynol. Pan gaiff ei ddefnyddio, mae’r serwm yn caniatáu gweledigaeth y tu hwnt i’r ffiniau arferol. Wrth iddo barhau i brofi’r cyffur arno ef ei hun, mae Xavier yn dechrau gweld nid yn unig drwy waliau a dillad ond drwy wead realiti.

The Thing with Two HeadsSul 23 + Maw 25 AwstUDA/1972/93mun/PG. Cyf: Lee Frost. Gyda: Ray Milland, Roosevelt Grier, Don Marshall.

Mae llawfeddyg terfynol-wael hiliol, a fu’n arbrofi â thrawsblannu pennau, yn perswadio ei gydweithiwr i berfformio llawdriniaeth o’r fath arno fe ei hun. Fodd bynnag, caiff ei feddwl ei newid yn llwyr ar ôl i’w ben gael ei osod ar gorff carcharor croenddu sydd ar fin cael ei ddienyddio ond sy’n benderfynol o brofi ei fod yn ddieuog. + Ymunwch â’r gwneuthurwr ffilmiau a’r ffan pybyr o ffilmiau arswyd, Ben Ewart-Dean, ar ôl y dangosiad ar ddydd Sul 23 Awst am drafodaeth o themâu’r ffilm.

Love StorySul 30 Awst + Maw 1 MediUDA/1970/100mun/PG. Cyf: Arthur Hiller. Gyda: Ali MacGraw, Ryan O’Neal, Ray Milland.

Mae myfyriwr yn y gyfraith yn Harvard o’r enw Oliver Barratt IV yn syrthio mewn cariad â myfyriwr cerddoriaeth o’r enw Jenny Cavilleri. Nid yw tad Oliver yn cytuno â’r berthynas am fod Jenny o gefndir israddol ac mae e’n atal lwfans ei fab ar ôl y briodas. Mae’r cwpwl yn byw bywyd o lawenydd pur serch hynny, tan i Jenny gael diagnosis o afiechyd marwol. Mae perfformiad Milland, yng ngaeaf ei yrfa, ac yn y clasur emosiynol hwn, yn rhagorol.

Timor Ray MillandGanwyd Reginald Truscott-Jones yng Nghastell-nedd a gweithiodd y gŵr a adwaenid wedi hynny fel ‘Ray’ fel hyfforddwr ceffylau yng Nghaerdydd cyn dechrau ar yrfa fel actor. Aeth i Hollywood, lle daeth yn seren. Wedi hynny cymrodd yr awenau ei hun a dod yn gyfarwyddwr, gan wneud ambell glasur cwlt. Yn enwog am ei hiwmor hawddgar a’i berfformiadau grymus, byddwn yn parhau y mis hwn â’n teyrnged i yrfa amrywiol a rhyfeddol y Cymro mawr hwn.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Pre

mat

ure

Buria

l, Th

e Th

ing

wit

h Tw

o He

ads

Sinema24 029 2030 4400

Gemma BoveryGwe 28 Awst — Iau 3 MediFfrainc/2015/100mun/is-deitlau/15.Cyf: Anne Fontaine. Gyda: Gemma Arterton, Jason Flemyng, Fabrice Luchini.

Yn y gomedi swynol hon, mae’r cwpl Prydeinig Gemma a Charles Bovery yn ymfudo i bentref bychan yn Normandi, ac yn symud i dŷ gyferbyn â phobydd canol oed lleol — a ffan pybyr o Flaubert — o’r enw Martin Joubert. Mae dychymyg eu cymydog yn ei arwain i gymharu Gemma ag arwres drasig Madame Bovary. Ag yntau’n benderfynol o atal y diweddglo trist hwnnw yn y byd go iawn, mae e’n dod yn rhan o’u bywydau.+ Ymunwch â ni ar gyfer ein clwb llyfrau / ffilm Addasiadau ar ôl y dangosiad ar ddydd Mawrth 1 Medi.

Gemma Bovery: AddasiadauMaw 1 MediMae’r ffilm hon yn gyfle i ddilyn gwe o addasiadau amrywiol. Mae Gemma Bovery, a gyfarwyddwyd gan Anne Fontaine, yn seiliedig ar y nofel graffig gan Posy Simmonds sydd, yn ei thro, yn seiliedig ar y clasur Ffrengig gan Gustave Flaubert sydd, yn ei fersiwn Saesneg, yn gyfieithiad — sef math o addasiad ynddo’i hun! Wrth fynd ati i greu darn o gelfyddyd, mae pob aelod o’r gynulleidfa yn cynnig ei ddehongliad ei hun, felly mae ein grŵp trafod, Addasiadau, yn gyfle i ddatod y gwahanol glymau hyn ac i gael clonc a lleisio barn ar ôl y ffilm.

Magician: The Astonishing Life and Work of Orson WellesGwe 28 Awst — Mer 2 MediDG/2015/91mins/12A. Cyf: Chuck Workman. Gyda: Orson Welles, Martin Scorsese, Peter Bogdanovich.

Yn bianydd rhyfeddol yn 10 oed, yn beintiwr ac yn gyfarwyddwr dramâu gan Shakespeare yn 14 oed ac yn seren y llwyfan a’r radio yn 20 oed, aeth Orson Welles ati, yn 25 oed, i gyfarwyddo ffilm sydd yn aml yn dod i frig rhestrau beirniaid o’r ffilmiau gorau erioed. Dweud llai na’r gwirionedd fyddai dweud iddo gael bywyd hudolus a rhyfeddol. Mae’r ffilm ddogfen hon yn defnyddio golygfeydd o’i yrfa doreithiog ac yn cynnwys enghreifftiau o ffraethineb chwedlonol Welles ac edmygwyr enwog di-ri. Byddwn yn talu ein teyrnged ein hunain i Orson Welles ym mis Medi.

RSC Live: OthelloMer 26 AwstDG/2015/240mun/dim tyst. Cyf: Iqbal Khan. Gyda: Hugh Quarshie, Lucian Msmati.

Mae Othello yn rhyfelwr eofn, yn ŵr cariadus ac yn benderfynol o amddiffyn dinas Fenis yn erbyn ei gelynion. Ond mae e hefyd yn ddyn ar y cyrion, dyn sydd wedi ennyn gelyniaeth yn sgil ei fuddugoliaethau. Mae’r gelynion hynny wedi’u gyrru gan ragfarn a chenfigen ac maent yn benderfynol o ddinistrio Othello.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Gem

ma

Bove

ry, M

agic

ian:

The

Ast

onis

hing

Life

and

Wor

k of

Ors

on W

elle

s

chapter.org Sinema 25M

inio

ns

Dr Proctor’s Fart PowderGwe 21 — Iau 27 AwstNorwy/2015/87mun/dybio/PG. Cyf: Arild Fröhlich. Gyda: Eilif Hellum Noraker, Emily Glaister, Marian Saastad Ottesen

Mewn byd heb fod yn rhy wahanol i’n byd ni — ar wahân i’r ffaith bod gwyddonwyr gwallgo’ ychydig yn fwy cyffredin — rhaid i ddau o blant unig helpu’r Doctor Proctor i ennill cydnabyddiaeth am ei bowdr rhechu anhygoel a dysgu sut i sefyll ar eu traed eu hunain.

Two by TwoGwe 28 Awst — Iau 3 Medi Yr Almaen/2015/87mun/U. Cyf: Toby Genkel, Sean McCormack. Gyda: Dermot Magennis, Callum Maloney, Tara Flynn

Mae llifogydd ar y ffordd ac fe adeiladwyd arch i achub pob anifail. Ond, yn anffodus, does yna ddim lle i’r Nestriaid — Dave a’i fab Finny. Maent yn sleifio i fwrdd y llong gyda Grymps, Hazel a Leah, ac yn credu eu bod nhw’n ddiogel — tan i’r plant chwilfrydig ddisgyn oddi ar yr Arch. Rhaid i Dave a Hazel roi’r gorau i’w dadlau wedi hynny ac achub eu plant. Disgrifiadau Sain ar gael ymhob dangosiad (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe-fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau.)

Carry on ScreamingBob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn cynnig cyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n creu stŵr. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod dan flwydd oed.

Song of the SeaGwe 31 Gorffennaf — Iau 6 AwstIwerddon/2015/93mun/PG. Cyf: Tomm Moore. Gyda: David Rawle, Brendan Gleeson, Lisa Hannigan.

Mae merch fach o’r enw Saoirse, sy’n gallu’i thrawsnewid ei hun yn forlo, yn mynd ar antur gyda’i brawd i achub byd yr ysbrydion a bodau hudol eraill.

HomeGwe 7 — Iau 13 Awst Dangosiad mewn Amgylchiadau Cefnogol Arbennig: Sul 2 AwstUDA/2015/94mun/U. Cyf: Tim Johnson. Gyda: Jim Parsons, Rihanna, Steve Martin.

Mae Oh yn aliwn sydd yn ceisio ffoi rhag ei bobl ei hun. Mae e’n glanio ar y Ddaear ac yn dod yn ffrindiau â’r Tip anturus, sydd ar ganol ei chwest ei hun.Disgrifiadau Sain ar gael ymhob dangosiad ac Is-deitlau Meddal ar Sad 8 Awst 11am a Mer 12 Awst 11am. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe-fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau.)

MinionsGwe 14 — Iau 20 AwstUDA/2015/91mun/U. Cyf: Kyle Balda, Pierre Coffin. Gyda: Chris Renaud, Pierre Coffin, Sandra Bullock, Jon Hamm.

Mae’r Minions, Stuart, Kevin a Bob, yn cael eu recriwtio gan Scarlet Overkill, uwch-ddihiryn sydd, ar y cyd â’i gŵr, y dyfeisiwr, Herb, yn cynllwynio i feddiannu’r byd.

Mae Dangosiadau mewn Amgylchiadau Cefnogol Arbennig yn ddangosiadau i blant ac oedolion ar sbectrwm awtistiaeth, neu bobl a chanddynt anableddau dysgu, ynghyd â’u teuluoedd, eu ffrindiau a’u gofalwyr. Yn ystod y dangosiadau hyn, cedwir goleuadau isel ynghynn yn yr awditoriwm ac nid yw’r trac sain mor uchel ag arfer. Fydd yna ddim hysbysebion cyn y ffilm ac fe fydd ymwelwyr yn rhydd i godi a symud o gwmpas y sinema.

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn a dydd Sul am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk02920 666688

FFIlMIAu I’R TEulu CyFAn

Addysg26 029 2030 4400

Gweithgareddau Ffilm yr HafDyddiau Mawrth 28 Gorffennaf — 18 Awst 9.30am–3.30pmYmunwch â’n Swyddog Addysg Ffilm, Matt, am ddiwrnodau hwyliog yn llawn gweithgareddau creadigol a fydd yn archwilio themâu a syniadau rhaglen yr haf o ffilmiau gwych i blant. Mae’r diwrnodau’n cynnwys dangosiad ffilm yn ogystal â gweithgareddau ymarferol fel animeiddio ‘stop-motion’, cynllunio sain, sgiliau cyfarwyddo sylfaenol, cynllunio ac adeiladu, gwneud modelau, gêmau, posau a llawer mwy. Felly dewch draw i ddysgu sgiliau newydd ac i gael hwyl wrth greu!Dewch â phecyn bwyd gyda chi.£22 fesul plentyn fesul diwrnod Maw 21 Gorffennaf Jurassic WorldHwyl cynhanesyddol a byd o ddinosoriaid.12-16 oed

Maw 28 Gorffennaf MinionsHwyl, gêmau, animeiddio a bananas. 8 -12 oed

Maw 4 Awst Song of the SeaCelfyddyd, crefftau ac animeiddio morwrol. 8 — 12 oed

Maw 11 Awst Dr Proctor’s Fart PowderDyfeisiadau gwallgo’ a chelfyddydau gwirion 8 — 12 oed

Maw 18 AwstMinionsRhag ofn i chi golli’r digwyddiad ym mis Gorffennaf, dyma ddiwrnod arall o hwyl gyda’r Minions! 8 — 12 oed Dewch â phecyn bwyd gyda chi, os gwelwch yn dda. £22 i bob plentyn. Dewch i Animeiddio!

‘Sewcials’ yr HafMer 29 Gorffennaf + Mer 5 Awst 10.45am–3pmDewch i wylio ffilm ac i gael eich ysbrydoli wedi hynny gan ddosbarthiadau ‘Sewcial’ yr Haf. Mewn awyrgylch hwyliog, bydd cyfranogwyr yn dysgu ac yn datblygu sgiliau gwnïo mewn gweithdai gwnïo dwy awr o hyd ar ôl ffilm.Delfrydol ar gyfer dechreuwyr neu bwythwyr canolradd 8 -12 oed£12 i bob plentyn (yn cynnwys tocyn a’r deunyddiau angenrheidiol)Dewch â phecyn bwyd gyda chi, os gwelwch yn dda. Mer 29 Gorffennaf Minions (PG)

Mer 5 Awst Song of the Sea (PG)

Ysgol Haf ShakespeareLlun 3 — Gwe 7 Awst 9.30am-3.30pmGweler tudalen 13 am fwy o fanylion.

Song

of t

he S

ea

Gweithdai Animeiddio i Bobl Ifainc ar Sbectrwm AwtistiaethLlun 3 + Llun 10 + Llun 17 + Llun 20 Awst 10.30am, 12.30pm + 2.30pm bob dydd O ganlyniad i boblogrwydd y gweithdai ymarferol ardderchog hyn i bobl ifainc ar sbectrwm awtistiaeth, byddwn yn cynnal deuddeg o weithdai ychwanegol yr haf hwn. Nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael ac fe gânt eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu. Mae’r sesiynau hyn yn gyfle i’r bobl ifainc gychwyn allan ym maes animeiddio ac i ddysgu a datblygu sgiliau mewn awyrgylch cefnogol a chreadigol. Does dim angen profiad o animeiddio felly os ydych chi wedi cymryd rhan yn un o’n cyrsiau deg wythnos yn y gorffennol neu yn awyddus i animeiddio am y tro cyntaf, bydd yna groeso cynnes i chi yn Chapter! £12 y sesiwn neu £40 am bob un o’r 4 sesiwn (1 yr wythnos)

Y ‘Cardiff Print Workshop’ yn ChapterAr agor bob dydd Sadwrn 10am-4pmMae’r CPW yn grŵp o artistiaid a gwneuthurwyr printiau cydweithredol sy’n gweithio â gwahanol dechnegau. Mae pob un ohonynt yn cynhyrchu printiau gwreiddiol sydd ar werth yn eu gweithdy yn Nhŷ’r Farchnad, Chapter.Mae’r gweithdy ar agor bob amser i aelodau newydd neu bobl chwilfrydig sy’n awyddus i ddysgu mwy am y grefft draddodiadol o wneud printiau. Mae gan CPW raglen gynhwysfawr o weithdai dydd a dosbarthiadau nos drwy gydol misoedd yr haf a’r hydref.Am fwy o wybodaeth, ewch i we-fan www.cardiffprintworkshop.com, neu dewch draw i’r stiwdio i gael cip drosoch eich hun!

chapter.org 27Addysg

Archebu/Gwybodaeth28 029 2030 4400

Sut i Archebu TocynnauDros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd.Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am–8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm.Ar–lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nosConsesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di–waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter.Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol.Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM.Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad.Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is–deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe–fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Prisiau ymlaen llaw/ar–lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

GwybodaethCwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd ChapterFe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE

Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas.

Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas.

Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad.

Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

GWYBODAETH

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.

Heol y Farchnad

Heol Ddwyreiniol y Bont Faen

Chur

ch R

d.

Llandaff Road

Leckwith Road

Albert St.

Wellington Street

Severn Road

Glynne St.

Springfield Pl.

Orchard Pl.

Gray St.

Gray St.

Gray Lane

King’s Road

Market Pl. Library St.

Penl

lyn

Rd.

Major Road

Earle Pl.

Hamilton St

Talbot St

Wyndham

Crescent

Har

ve

y Street

I Ganol Dinas Caerdydd

Treganna

o 6pm

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — arhosfan bysus — rac feics

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaenLlawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20)Disg £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10)Cerdyn + Disg £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50)DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40

29chapter.org Cymryd Rhan

CYMRYD RHAN

Cronfa Gymunedol Tirlenwi Sefydliad Esmée Fairbairn Rhaglen Ddiwylliant yr UESefydliad Baring Sefydliad Garfield Weston Sefydliad Foyle Gwobr BiffaYmddiriedolaeth Elusennol Colwinston Grŵp Admiral Cyf Sefydliad Moondance ar gyfer y Celfyddydau a ChwaraeonSefydliad Elusennol TrusthouseY Sefydliad Cymunedol yng NghymruPlant mewn Angen y BBCSefydliad Waterloo Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPowerYr Ymddiriedolaeth Ddarlledu GymreigSEWTA

Richer SoundsSefydliad y Brethynwyr MomentumSefydliad Henry Moore GoogleSefydliad Jane Hodge Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson Ymddiriedolaeth People’s Postcode Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill Legal & GeneralInstitut für Auslandsbeziehungen e.V Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y MileniwmYmddiriedolaeth Ernest CookLloyds TSBArwyddion MorganYmddiriedolaeth Elusennol y GarrickBarclays

Celfyddydau & Busnes Cymru Ymddiriedolaeth Austin & Hope Pilkington Sefydliad Rhyngwladol Singapore Gwestai Puma: Gwesty’r Angel CaerdyddMaes Awyr CaerdyddCelfyddydau Rhyngwladol Cymru Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs Cynllun Cymunedol CeredigionYmddiriedolaeth Elusennol Steel Sefydliad Boshier–Hinton1st OfficeYmddiriedolaeth OakdaleCwmni Plastig DipecNelmes Design

Ymddiriedolaeth Elusennol Coutts Elusen Wake BruceFunky Monkey FeetSefydliad Finnis Scott Banc Unity TrustHugh JamesCymdeithas Celfyddydau Cyfoes CymruDot FoundryGidden & ReesWestern Power Distribution Ymddiriedolaeth FollettCelfyddydau & Phlant CymruAduniad Merched Ysgol Uwchradd Canton Grŵp y Co–operative Llysgenhadaeth Gwlad Belg Llywodraeth Queensland

Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Rydym yn falch o fod yn rhan o Hynt. www.hynt.cymru

Cerdyn CL1CCerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol

hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ffrindiau ChapterYmunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.Ffrind Efydd: £25/£20Ffrind Arian: £35/£30Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar–leinwww.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddimeAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch [email protected] â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.

Cynllun Myfyrwyr ChapterYdych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — [email protected]/cy/aelodaeth–myfyrwyr–chapter