canolfan grefft rhuthun y ganolfan i’r celfyddydau cymhwysol · 2014. 10. 14. · cynhyrchwyd...

12
Roanna Wells Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol Be’ sy’ ‘mlaen Gwanwyn 2014

Upload: others

Post on 13-Feb-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Roanna Wells

    Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

    Be’ sy’ ‘mlaen Gwanwyn 2014

  • 8 Chwefror – 6 Ebrill 2014Oriel 1 a 2

    Mae’r Jerwood Makers Open yn cyflwyno gwaith newydd gan artistiaid sy’n dod i’r amlwg yn celfyddydau cymhwysol. Gyda phrosesau yn rhychwantu brodwaith, torri papur, ffotograffiaeth a gosodwaith ffilm, mae’r artistiaid dethol Maisie Broadhead, Linda Brothwell, Adam Buick, Nahoko Kojima a Roanna Wells yn archwilio a herio’r traddodiadol yn y celfyddydau cymhwysol drwy grefftwaith o’r radd flaenaf.

    Yn ychwanegol, yn Rhuthun yn unig, mae ystafell arddangos arall o serameg newydd gan Adam Buick.

    uchod: Linda Brothwell, Shims, 2013 brig: Adam Buick, Veneration Bell, 2013

  • 2/3

    uchod: Masie Broadhead, Angsty Arrows 2013 dde: Roanna Wells, Sea of Faith (manylyn), 2013

    Nahoko Kojima, Byaku3, 2013

    Sgwrs: Maisie Broadhead Dydd Sadwrn 8 Mawrth 2.00pm

    AM DDIM Ffoniwch i archebu lle

    Ers graddio gyda Gradd Meistr mewn Gemwaith o’r Coleg Celf Brenhinol yn 2009, mae Maisie Broadhead wedi arddangos ledled y DU i ganmoliaeth uchel, yn fwyaf diweddar yn Seduced by Art: Photography Past and Present yn yr Oriel Genedlaethol.

    Gan dynnu ysbrydoliaeth o’r Hen Feistri, mae Maisie yn rhoi tro cyfoes i’w ffotograffau gyda’i hailfeddwl deallus o bropiau, cymeriadau, dillad a’r amgylchedd i chwistrellu ffraethineb a hiwmor i bortreadau clasurol. Bydd Maisie yn trafod sut y dechreuodd weithio fel hyn a son yn fanwl am rai prosiectau unigol.

    Sgyrsiau, Digwyddiadau a Gweithdai Archebwch eich lle drwy gysylltu 01824 704774

    AM

    DDIM

  • manylion mewnol

  • 4/5

    8 Chwefror – 6 Ebrill 2014Oriel 3

    Mae Manylion Mewnol yn cyflwyno casgliad o grefftwaith cyfoes ar gyfer ein cartrefi – dodrefn, serameg, tecstilau, pren a metel – gan rai o’r gwneuthurwyr mwayf talentog o gwmpas heddiw. Mae’n rhoi cyfle i werthfawrogi nodweddion mwyaf cain gwrthrychau – yr un peth arbennig yna – y bachyn crogi annatod, y colfach neu’r cload perffaith, gorffeniad sy’n eich denu i gyffwrdd, y ddolen sy’n gwahodd ei gafael…. Wedi eu dethol am eu sgiliau dylunio a sylw i’r manylyn, mae’r gwneuthurwyr yma yn bencampwyr ar ddehongli gwaith llaw. Mae rhai yn wynebau cyfarwydd i Rhuthun – eich ffefrynnau – a chydag eraill mae’n gyfle i weld eu gwaith yma am y tro cyntaf.

    Curadwyd gan Gregory Parsons

    Justine AllisonDaniel BoyleChichi CavalcantiSuzanne HodgsonAlison Morton Ann NazarethEleanor PritchardRAMP CeramicsAngus RossHelaina SharpleyNic Webb

    Eleanor Pritchard

    Nic Webb

    Justine Allison

    rhes uchaf: Angus Ross, Eleanor Pritchard ail res: Daniel Boyle, Helaina Sharpley, Ann Nazareth trydydd res: Suzanne Hodgson, Justine Allison, Chichi Cavalcanti pedwerydd res: Nic Webb, Alison Morton, RAMP Ceramics

  • robert coopercyflwyniad arbennig oriel manwerthu

    8 Chwefror – 6 Ebrill 2014

    uchod: Greenish, 2012. isod: Pelican, 2012 ffotograffi: Michael Harvey

    Graddiodd Robert Cooper ym 1982 gyda MA mewn Serameg o’r Coleg Celf Brenhinol. Mae’n seramegydd sydd wedi hen ennill ei blwyf gan arddangos yn eang yn y DU ac yn rhyngwladol yn cynnwys: yr Unol Daleithiau, Brasil, Corea a’r Eidal. Mae’n aml yn defnyddio gwrthrychau canfod, megis teilchion crochenwaith o lannau’r Tafwys, wedi’u trwytho â bywyd a swyddogaeth blaenorol, fel man cychwyn i’w waith. Mae ail-gylchu wedi bod yn ddull o weithio iddo am flynyddoedd. Caiff gwahanol elfennau megis clai, ocsid a gwydreddau dros ben o’i sesiynau dysgu, hen drosluniau serameg, delweddaeth print o ddiwylliant poblogaidd a hyd yn oed darnau o hen waith, eu hailgyfuno i greu naratif newydd gyda ystyron lluosog.

    Mae’r holl waith ar gael i’w brynu.

  • Mae Dr Kevin Coates yn artist-eurof a cherflunydd aml-dalentog sy’n creu tlysau di-hafal mewn aur, meini gwerthfawr, cregyn, a deunyddiau egsotig eraill. Mae ei waith yn gain ac yn rhyfeddol. Yn dilyn arddangosfa unigol lwyddiannus ganddo yn y Wallace Collection yn Llundain yn 2011, mae Coates wedi bod yn gweithio ar brosiect newydd uchelgeisiol, A Bestiary of Jewels, gan baru creadur gyda’i gymar dynol, gyda’r em wedi ei gosod ar ‘dudalen’ bwystawr, mewn ymhelaethiad barddonol ar thema’r gwyddoniaduron canoloesol adwaenir fel Bwystoriau.

    Cynhyrchwyd mewn cydweithrediad ag Amgueddfa’r Ashmolean.

    Corff newydd o waith gan y seramegydd o fri rhyngwladol, Claire Curneen, sy’n ganlyniad i Wobr Llysgennad Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Treuliodd Curneen amser yn ymchwilio’r casgliad helaeth yn Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon yn Nulyn gyda’r curadur Audrey Whitty, gan ddychwelyd i Gymru i ddatblygu ei chanfyddiadau fel artist preswyl yn Oriel Mission. “Artist o weledigaeth a naratif sydd â’i gwaith yn cynnig i ni, ymhlith llawer o bethau eraill, byd yn llawn storïau a’u gofidiau eu hunain.” Teleri Lloyd Jones, Golygydd Cynorthwyol yn Crafts Magazine.

    Mae To this I put my name yn Arddangosfa Deithiol Canolfan Grefft Rhuthun ac Oriel Mission.

    Builders, 2013 ffotograffi: Dewi Tannatt Lloyd

    Yn dod yn fuan o Ebrill 12 2014...

    A Spider for Robert the Bruce, Darn gwddf (Artist’s no: 458.MNP.12B) ffotograffi: Clarissa Bruce

    Claire CurneenTo this I put my name

  • Os na ddywedir yn wahanol rhaid i bob sgwrs, digwyddiad a gweithdy gael ei archebu ymlaen llaw. Gofynnir i’r ffioedd gael eu talu’n llawn wrth archebu. Ni fydd dileu lle ar gwrs gan aelod o’r cwrs o angenrheidrwydd yn golygu dychwelyd y ffi. Gall ambell gwrs gael ei newid neu ei ddileu os nad oes digon wedi cofrestru.

    Sgyrsiau, Digwyddiadau a Gweithdai Archebwch eich lle drwy gysylltu 01824 704774

    Clwb Crefft

    Elly Strigner

    Elly Strigner

    Plygu, Torri, Rhwygo, Sgrynshio Gweithdy papur Mercher 26 Chwefror 10.30am – 12.30pm neu 1.30pm – 3.30pm

    £5 y plentyn y gweithdy (oedolion am ddim ) Addas i blant 5 – 11 oed

    Bydd y gweithdy yn cael ei seilio ar waith Nahoko Kojima ac yn cynnwys arbrofi gyda gwahanol dechnegau mewn papur, gan greu cerflun papur 3D.

    Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn Dosbarth-meistr gyda’r artist animeiddio Elly Strigner Iau 27 Chwefror 11.00am – 3.30pm

    £8 y person ifanc Oedran 11 – 14 oed Dewch â phecyn cinio gyda chi ar y diwrnod

    Bydd y gweithdy undydd hwn yn rhoi cyfle i gyfranogwyr greu nifer o ddarnau animeiddiedig arbrofol ysbrydolwyd gan yr arddangosfa yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. Gan weithio yn bennaf gyda thorri siapiau papur a thechnegau stop-ffrâm syml, bydd y bobl ifanc yn dysgu am wahanol brosesau creadigol sydd ynghlwm wrth wneud animeiddiad unigryw a chwareus, o’r dechrau i’r diwedd. Byddant yn cael eu cyflwyno i waith amrywiaeth o artistiaid animeiddio cyfoes cyffrous.

    Gweithdai Hanner Tymor i’r Teulu yn seiliedig ar waith yr Artist Papur Nahoko Kojima yn arddangosfa Gwobr Jerwood Makers Open

  • Dosbarth-meistr – Rhwymo llyfrau gyda Simeon Jones Mercher 16 Ebrill 2014 11.00am – 3.30pm

    £8 y person ifanc Oedran 11 – 14 oed Dewch â phecyn cinio gyda chi ar y diwrnod

    Bydd y cyfranogwyr yn gwneud rhwymiadau consertina syml, yn gwneud papur i wneud clawr i’r llyfr a gwaith creadigol i’w lenwi. Gemau gwerthfawr Wedi’i ysbrydoli gan arddangosfa Kevin Coates Gweithdy Plant Iau 17 Ebrill 10.30am – 12.30pm neu 1.30pm – 3.30pm

    AM DDIM Archebu lle yn hanfodol. Oedran 6 – 11 Rhaid bod yng nghwmni oedolyn

    Dewch i ddarganfod! Defnyddiwch chwydd-wydrau a microsgopau i archwilio gwahanol fathau o bryfed mewn casys arddangos i’ch hysbrydoli i wneud eich creaduriaid gludwaith eich hunain, yn arddull Kevin Coates. Dan arweiniad yr artist Mai Thomas.

    Gweithdy Ffigurau Clai Gyda’r crochenydd Katie Scarlett-Howard Mercher 23 Ebrill 10.30am – 12.30pm neu 1.30pm – 3.30pm £5 y plentyn y gweithdy (oedolion am ddim) Oedran 6 – 11 rhaid bod yng nghwmni oedolyn

    Iau 24 Ebrill 11.00am – 3.30pm Oedran 11 – 14 oed £8 y person ifanc. Dewch â phecyn cinio gyda chi ar y diwrnod

    Mae Katie Scarlett-Howard yn artist serameg ffigurol proffesiynol, gyda’i gwaith yn canolbwyntio ar y ffurff dynol. Mae hi wedi bod yn ymarfer ei chrefft fel artist am bedair blynedd ar ddeg gan weithio o’i stiwdio gartref yn Ninbych.

    Yn ystod y gweithdy, bydd Katie yn eich tywys trwy bob proses o wneud ffurf dynol neu anifail gyda chlai cerflunio grog proffesiynol. Byddwch yn dysgu amrywiaeth eang o dechnegau modelu serameg, o dorchi, slab-rolio, pinsio, ysgythru i geudyllu ac addurno. Bydd y ffigur neu anifail i chi gerflunio yn dod o’ch dychymyg chi!

    Bydd y cerfluniau yn cael eu tanio yn odyn Katie ac yn cael eu dychwelyd i’r Ganolfan Grefft i chi eu casglu.

    Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi

    Allweddi coll Gweithdy trawo-mewn Gwener 25 Ebrill 11.00am – 3.00pm

    AM DDIM dim angen archebu lle, ond byddwch yn amyneddgar os ydym yn brysur

    Ymunwch â ni i archwilio ein cwpwrdd trugareddau. Dewch â allweddi i’w bwrw mewn cywaith celf, rhannu straeon a datgloi’r drws i greadigrwydd.

    Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn

    Gweithgareddau Gwyliau’r Pasg i’r Teulu Ymunwch â ni yng Nghanolfan Grefft Rhuthun y pasg hwn ar gyfer llu o ddigwyddiadau cyffrous i’r teleu cyfan eu mwynhau wedi ei hysbrydoli ein arddangosfeydd!

    8/9

    AM

    DDIM

    AM

    DDIM

  • Digwyddiadau stiwdio agored yn Nghanolfan Grefft Rhuthun

    Bydd y stiwdio ar agor o: 11.00am – 4.00pm gyda sgwrs artist am 2.00pm Sul 9 Chwefror Sul 16 Mawrth

    Dewch i gwrdd â’r artist Sean Harris a fydd yn trafod ei ddylanwadau a gwaith diweddar.

    Gwnaethpwyd preswyliad Sean Harris yng Nghanolfan Grefft Rhuthun yn bosibl trwy Ddyfarniad Llysgennad Cymru Creadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac fe’i cynhelir trwy bartneriaeth â Pyramid Atlantic Arts Center, Washington DC.

    Mae’r prosiect yn deillio o brofiadau gafodd yr artist yng Ngogledd America yn 2009 a 2010 pan aeth yna, gyda chymorth cyllid Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, i ymgymryd â gwaith ymchwil yn Sefydliad Smithsonian a theithio i Warchodfa Indiaidd Fort Berthold, Gogledd Dakota. Yma, yng ngwladfa fechan Twin Buttes y cyfarfu ag Edwin Benson, yr unig siaradwr sy’n weddill o’r iaith Mandan.

    Mae Dyfarniad Llysgennad Cymru Greadigol yn cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru

    Sean Harris

    Digwyddiad Stiwdio agored

    Os na ddywedir yn wahanol rhaid i bob sgwrs, digwyddiad a gweithdy gael ei archebu ymlaen llaw. Gofynnir i’r ffioedd gael eu talu’n llawn wrth archebu. Ni fydd dileu lle ar gwrs gan aelod o’r cwrs o angenrheidrwydd yn golygu dychwelyd y ffi. Gall ambell gwrs gael ei newid neu ei ddileu os nad oes digon wedi cofrestru.

    Cyrsiau di-breswyl ydynt ond y mae digonedd o fannau gwych i aros yn Rhuthun a’r cyffiniau.

    Sgyrsiau, Digwyddiadau a Gweithdai Archebwch eich lle drwy gysylltu 01824 704774

    Diwrnod datblygiad proffesiynol ar gyfer artistiaid a gwneuthurwyr

    Celf mewn Mannau Cyhoeddus Gwener 21 Mawrth 2.00pm – 4.30pm Canolfan Grefft Rhuthun

    AM DDIM Ffoniwch i archebu lle

    Siaradwyr Gwadd y dydd:

    Nathalie Camus Rheolwr Portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru Jessica Lloyd-Jones Artist Bridget Sawyers Pensaer a dylunydd trefol

    Bydd Nathalie Camus yn trafod ac amlinellu’r cyfleoedd ariannu gwahanol ar gael i artistiaid a gwneuthurwyr yng Nghymru o fewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys esiamplau o astudiaethau enghreifftiol o’r gorffennol.

    Bydd Jessica Lloyd-Jones yn siarad am ei hymagwedd eang tuag at gelf gyhoeddus yn cynnwys gweithiau safle-penodol, pensaernïol a digidol gan wneud defnydd creadigol o olau a thechnoleg newydd.

    Bydd Bridget Sawyers yn arwain cyflwyniad a thrafodaeth yn amlinellu ehangder celf mewn mannau cyhoeddus a’r cyfleoedd ar gyfer artistiaid a chrefftwyr gan ddangos esiamplau o brosiectau diweddar, gan gynnwys prosiectau cyfalaf a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr. Trafodir y broses gomisiynu, rhaglenni celf gyhoeddus, gwaith celf integredig a chelf mewn cyd-destunau adfywio.

    Mewn cydweithrediad â Helfa Gelf, Rhwydwaith Stiwdios Agored Gogledd Cymru

    AM

    DDIM

  • 10/11

    Laura Ellen Bacon

    Jeanette Appleton

    Simeon Jones

    GweithdaiLaura Ellen Bacon Gweithdy 2 ddiwrnod Sadwrn 1 a Sul 2 Mawrth 10.30am – 4.30pm

    £140 yn cynnwys cinio ysgafn

    Mae Laura Ellen Bacon yn creu gwaith celf safle-benodol ac wedi ennill enw da am ei gwaith mawr mewn amgylcheddau adeiledig, lleoliadau mewnol a thirweddau agored, gan gynnwys Chatsworth, Castell Sudeley (ar gyfer Sotheby’s) a Thŷ yr Artistiaid yn Roche Court yn Wiltshire. Ysbrydolwyd cerfluniau cyfoes Laura yn wreiddiol gan ffurfiau tebyg i nythod ac ers hynny mae hi wedi datblygu ei hiaith unigryw ei hun gyda deunyddiau.

    Bydd y gweithdy’n cynnwys cyflwyniad i briodweddau helyg gyda arddangosiad i ddilyn ar sut i feithrin a hwyluso ymateb mynegiannol i’r cyfrwng. Yn ystod y gweithdy gellir archwilio dulliau amrywiol i ymdrin â graddfa, o wrthrychau bychan hyd at ffurfiau mwy, byrhoedlog. Jeanette Appleton, Marciau Lliw ac Arwynebau mewn Ffeltio, gweithdy 2 ddiwrnod Sadwrn 5 a Sul 6 Ebrill 10.30am – 4.30pm

    £130 yn cynnwys cinio ysgafn

    Mae Jeanette Appleton yn ddarlithydd ac artist tecstilau ar liwt ei hun sy’n arbenigo mewn techneg ffeltio a thrawsnewid deunyddiau â llaw neu brosesau diwydiannol.

    Bydd y gweithdy hwn yn cynnwys archwilio marciau a chyfrannau lliw gwlân a brethyn, gyda gwrthgyferbyniadau ysgafnder a dwysedd ffeltio. Gall y samplau arbrofol ddod yn ddarnau bychan neu gyfres o syniadau ar gyfer prosiectau yn y dyfodol, yn ddibynnol ar beth sy’n datblygu yn y broses.

    Simeon Jones Gweithdy Rhwymo Llyfrau 2 ddiwrnod Sadwrn 26 a Sul 27 Ebrill 10.00am – 4.30pm

    £120 yn cynnwys cinio ysgafn

    Mae Simeon Jones yn rhwymwr llyfrau lleol, yn gweithio gyda thechnegau a deunyddiau traddodiadol i wneud rhwymiadau arloesol â llaw.

    Yn y gweithdy deuddydd hwn bydd cyfranogwyr yn gwneud llyfr braslunio maint poced gan ddefnyddio strwythur gwnïo, a rhwymiad ‘mewn-casyn.’ Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol.

  • 12

    Gyda tair oriel yn dangos y gelfyddyd gymhwysol genedlaethol a rhyng-genedlaethol gorau bosibl, gweithdai, caffi ac oriel werthu – dewch i Ganolfan Grefft Rhuthun.

    Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol Heol y Parc, Rhuthun, Sir Ddinbych LL15 1BB Ffon: +44 (0)1824 704774

    Yn agored yn ddyddiol o 10.00am – 5.30pm. Mynediad AM DDIM Maes parcio AM DDIM

    Ewch i’n gwefan am wybodaeth am wahanol arddangosfeydd www.canolfangrefftrhuthun.org.uk

    Bwyty Café RBeth am ymweld â bwyty Café R gyda’i gwrt petryal a bwyd cartref, prydau ysgafn bore a phnawn a bwydlen pryd ganol dydd. Beth am archebu bwrdd os ydych yn meddwl dod mewn grŵ p.I archebu galwch 01824 703571.

    Yr Oriel WerthuYn gwerthu gwaith cyfoes rhai o grefftwyr gorau’r wlad. Piciwch i mewn i weld y dewis eang o dlysau, serameg, gwydr, gwaith metel, llyfrau, nwyddau sgwennu ac anrhegion unigryw.

    Cofiwch am Collectorplan, sef cynllun prynu di-log Cyngor Celfyddydau Cymru sydd ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o nwyddau’r oriel.

    Gwybodaeth ymwelwyrStiwdios Artistaid

    Cefyn BurgessStiwdio Artist 1www.cefynburgess.co.uk

    Neil DalrympleStiwdio Artist 4www.neildalrymple.com

    Yma yng Nghanolfan Grefft Rhuthun mae gennym dairStiwdio Artist i’w hymweld â nhw. Ceir tecstilau a ffabrigaugan Cefyn Burgess, cerfluniau crochenwaith caled gan Neil Dalrymple a gemwaith gan wneuthurwr Gemwaith Mirage.

    Cysylltwch â’r gwneuthurwyryn unigol ar gyfer eu horiau agor.

    Mirage JewelleryStiwdio Artist 6www.mirage-jewellery.co.uk