calon y mater newsletter chwech

24
www.taicalon.org facebook.com/taicalon @taicalon calon y mater Gwanwyn 2012 | Rhifyn 6 Cyfarwyddydd Tai Newydd Diwrnod Hwyl Hilltop Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Golwg Gwarchod

Upload: tai-calon-community-housing

Post on 08-Mar-2016

227 views

Category:

Documents


6 download

DESCRIPTION

Newsletter achos Ddeiliadon chan Tai calon Chymdeithas housing

TRANSCRIPT

www.taicalon.orgfacebook.com/taicalon @taicalon

calony mater

Gwanwyn 2012 | Rhifyn 6

Cyfarwyddydd Tai Newydd

Diwrnod Hwyl Hilltop

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Golwg Gwarchod

Mynd yn FawrMae gan bob aelod o staff Cartrefi Cymunedol Tai Calon gerdyn adnabod sydd yr un faint â cherdyn credyd ac yn rhoi eu henw a’u llun.

Dylai tenantiaid bob amser fynnu gweld y cerdyn pan fydd rhywun yn galw yn eu cartref yn dweud eu bod o Tai Calon. Fodd bynnag, gall y cerdyn fod yn anodd i bobl gyda nam ar y golwg i’w ddarllen. Dyna pam fod y sefydliad wedi rhoi cerdyn adnabod mwy, haws i’w ddarllen i’w grefftwyr. .

Mae llawer o ffyrdd gwahanol y gallwch gadw mewn cysylltiad â ni a chael gwybod beth sy’n digwydd.

Ffôn: Ffoniwch ni ar 0300 303 171 rhwng 9am a 5pm Llun i Gwener.

E-bost: [email protected]

Ffacs: 01495 290 501.

Ymweld neu ysgrifennu atom yn:Tai Calon, Solis One, Stad Ddiwydiannol Rising Sun, Blaenau NP13 3JW

Gwefan:Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol amdanom a’r holl newyddion diweddaraf ar www.taicalon.org

facebook: Ymunwch â’n tudalen drwy ein “hoffi” yn facebook.com/taicalon

Twitter: Dilynwch ni @taicalon

Os oes gennych stori i’w dweud wrthym, neu os hoffech i ni gynnwys rhywbeth yn rhifyn nesaf ein cylchlythyr, cysylltwch â:

Hefina Rendle,Rheolydd Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus, yn Solis One, neu drwy e-bost [email protected]

Cynnwysz Dathlu Hyfforddi t3

z Cyrsiau OCN i Denantiaid t4

z Cyfarwyddydd Newydd t4

z Mewn Risg t5

z Rhandiroedd Rhagorol t6

z Cystadleuaeth Arddio t7

z Diwrnod Hwyl Hilltop t8/9

z Crefft Crochenwaith t10

z Dysgu Hyblyg yn y Gymuned t10

z Golwg Tai Gwarchod t11/14

z Cyngor Da ar Dynnu Lluniau t15

z Teithiau Stad t16/17

z Ymddygiad Gwrthgymdeithasol t18/20

z Torri Gwair t21

z Ethol Tenantiaid yn Aelodau Bwrdd t22

z Amser Diolch t23

z Beth sy’n Digwydd t24

Cadw mewn Cysylltiad

2

33

Gwahoddwyd 15 prentisiaid i gael te ym mhencadlys Tai Calon i ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaeth.

Mae chwech ohonynt yn gweithio i Tai Calon a hwy oedd y cyntaf i’w recriwtio i’n cynllun prentisiaeth. Cyflogir y naw arall gan fusnesau sy’n gweithio gyda Tai Calon. Rhyngddynt mae’r grwp yn gwneud prentisiaethau mewn gwaith brics, plymio, plastro, gwaith saer coed a pheirianneg drydanol.

Dywedodd Simon Carter, Cyfarwyddydd Asedau Tai Calon: “Mae’n bwysig iawn i ni ddarparu swyddi ar gyfer pobl leol yn awr yn ogystal ag yn y dyfodol. Mae ein rhaglen prentisiaeth yn un o’r ffyrdd y gallwn wneud hynny Fe wnaethom ei sefydlu gyda’r bwriad o gyflogi cynifer o bobl ifanc ag sydd modd ac rydym wedi gweithio gyda’n contractwyr i’w cael hwy i wneud yr un fath.”

Mae Jamie Boucher o Lynebwy yn un o’r 15. Ef yw’r prentis gwaith brics cyntaf gyda Tai Calon. “Fe gymerodd bum mlynedd i mi wneud ceisiadau

i wahanol gynlluniau cyn i mi lwyddo cael prentisiaeth. Roedd cael fy ngwrthod yn beth mor ddigalon ac er mod i’n gweithio mewn ffatri, roeddwn angen crefft iawn. Roeddwn wrth fy modd pan gefais fy nerbyn gan Tai Calon.”

Bu Joshua Price o Abertyleri yn hyfforddi fel trydanwr am fis. Llwyddodd i gael prentisiaeth gyda A Bennett Electrical ar ôl mynychu noswaith gyrfaoedd yng Nglynebwy. “Rydych chi’n cael profiad gwych fel prentis. Dysgu gan rywun arall ar y swydd yw un o agweddau pwysicaf prentisiaeth.”

Mae Josh Evans, sy’n brentis plymiwr o Cwm, Glynebwy, yn cytuno. Mae’n teimlo’n lwcus iawn i gael ei swydd gyda R a M Williams ar ôl gweld llawer o’i ffrindiau yn methu cael gwaith. “Roeddwn bob amser eisiau crefft ac mae bod yn blymiwr yn swydd wych. Mae hefyd yn golygu y gallaf wneud beth bynnag rwy’n moyn yn y dyfodol gan wybod fod gan i grefft tu ôl i mi.”

Mae’r dynion ifanc i gyd yn credu y dylid annog mwy o gyflogwyr

i gymryd prentisiaid. Mae Dilwyn Snelgrove, goruchwyliwr adeiladu Tai Calon, yn cytuno. Dechreuodd ei yrfa fel plastrwr dan hyfforddiant gyda hen gyngor bwrdeisdref Blaenau Gwent 32 mlynedd yn ôl. “Roedd yn anodd cael prentisiaeth hyd yn oed yn y dyddiau hynny. Roedd llwyth o brofion ac roedd yn beth mawr cael eich derbyn ar gynllun. Fe welodd rhywun rywbeth ynddo i ac fe gefais y swydd. Nawr rwy’n gwneud fy mhwt drwy helpu’r genhedlaeth nesaf o brentisiaid gyda’u hyfforddiant.”

Cafodd y prentisiaid eu gwahodd i gael te gan Hayley Selway, Cyfarwyddydd Cynorthwyol Tai a Chymunedau. “Roeddem eisiau cael y prentisiaid at ei gilydd i ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaeth. Felly fe wnaethom wahodd ein prentisiaid ein hunain yn ogystal â rhai o gwmnïau sy’n gweithio gyda ni, R a M Williams, Seddon, A Bennett Electrical a Seren Contractors. Mae’n braf cwrdd â’r dynion ifanc yma a siarad gyda hwy am sut y maent yn dod ymlaen gyda’u hyfforddiant.”.

Dathlu Hyfforddiant

Y prentisiaid gyda Hayley Selway

4

Mae barn tenantiaid yn bwysig iawn i Cartrefi Cymunedol Tai Calon.

Bob wythnos mae’n cysylltu â phreswylwyr sydd wedi cael gwaith trwsio yn eu cartrefi i ganfod eu barn am y gwaith. Fodd bynnag, roedd tenantiaid yn aml yn amharod i ddweud beth oedd eu barn go iawn.

“Rydym yn cynnal arolygon boddhad ar waith trwsio bob wythnos. Mae’n gadael i ni wybod beth ydym yn ei wneud yn dda a lle mae angen i ni wella. Felly mae’n bwysig iawn ein bod yn cael cymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl, ond doedden ni ddim yn cael hynny. Doedd y tenantiaid ddim yn agor lan pan oeddem yn ein ffonio i ofyn iddynt am eu barn,” meddai Hayley Selway, Cyfarwyddydd Cynorthwyol Tai a Chymunedau.

Sylweddolodd Tai Calon fod ateb syml i’r broblem. Gofyn i denantiaid gynnal yr arolygon ar ei ran. Roedd y canlyniadau’n rhyfeddol. Bu’n gymaint o lwyddiant fel bod Tai Calon yn awr yn helpu rhai o’i ganfaswyr tenantiaid i ennill cymhwyster am wneud y galwadau ffôn wythnosol.

Mae pump o denantiaid a thri o breswylwyr yn astudio am dystysgrif OCN (Rhwydwaith Coleg Agored) mewn Gofal Cwsmeriaid. Mae’n gwrs wyth wythnos a chaiff eu gwaith ei asesu gan Pontydd i Waith.

Mae Morgana Wathen yn un o’r rhai sy’n derbyn hyfforddiant. “Mae hon yn ffordd wych i gael profiad gwaith a chymhwyster ar yr un pryd.”

Cytunodd Mawena Blackman. “Rwy’n wirioneddol edrych ymlaen at orffen y cwrs ac mae’n wych fod Tai Calon yn ein helpu i wneud hynny.”

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gobeithir y gall yr wyth gael mwy o brofiad gwaith neu hyd yn oed swydd mewn gofal cwsmeriaid yn ardal Blaenau Gwent.

Cyrsiau OCN i Denantiaid

Cyfarwyddydd NewyddAndrew Myatt yw Cyfarwyddydd newydd Cymunedau a Tai Cartrefi Cymunedol Tai Calon.

Ymunodd â Tai Calon o Selwood Housing yn Wiltshire lle’r oedd yn Bennaeth Cymdogaethau. Yn aelod o’r Sefydliad Tai Siartredig, bu Andrew yn gweithio yn y sector tai cymdeithasol ers gadael y brifysgol 18 mlynedd yn ôl.

“Mae tenantiaid, staff ac aelodau bwrdd wedi bod yn groesawgar iawn ac wedi fy helpu i gael golwg go iawn ar y gorffennol, lle’r ydym yn awr a lle’r ydym eisiau bod”, meddai Andrew Myatt.

“Mae ansawdd ein gwasanaethau wedi gwella dros y 18 mis diwethaf. Rwy’n edrych ymlaen at eu datblygu ymhellach a helpu i gyflwyno gwasanaethau newydd, fel yr addawyd i’n tenantiaid. Mae gwneud yn sicr fod y gwasanaethau rheng-flaen yn gweithio mor effeithiol ag sydd modd yn rhan allweddol o gyflawni ein haddewidion,” ychwanegodd.

Mae Andrew Myatt yn symud i Gymru gyda’i wraig a’u dau blentyn ifanc. Mae wedi gweithio’n flaenorol i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn Ne Orllewin a De Lloegr, yn cynnwys Sovereign Housing a chynghorau Bryste, Gosport a Portsmouth.

5

Roedd Sue* yn ei chael yn anodd ymdopi. Wrth iddi fynd i ddyled, cafodd ei ffôn ei thorri bant ac roedd ar ôl gyda’i rhent.

“Prin roeddwn i’n medru prynu fforddio prynu bwyd, heb sôn am dalu am unrhyw beth arall. Roedd gen i gymaint o ddyledion, wyddwn i ddim sut yr oeddwn yn mynd i’w dalu’n ôl,” dywedodd.

Ond sylweddolodd Sue, a oedd wedi gofalu’n llawn-amser am ei gwr, na fedrai anwybyddu ei phroblemau ariannol.

“Roedd gen i ofn mawr colli fy nghartref. Roedd ef a fi wedi byw yma am dros 20 mlynedd. Doedd gen i neb. Yr unig beth oedd ar ôl oedd fy nghartref ac roeddwn yn poeni gymaint beth fedrai ddigwydd.”

Cysylltodd Sue gyda Tai Calon, ei landlord, a chafodd gymorth gwirioneddol werthfawr.

“Os oes arnoch chi arian ac yn methu fforddio talu, peidiwch anwybyddu’r broblem. Mae’n rhaid i chi ddweud wrthynt eich bod mewn trafferthion. Rwyf mor falch i mi gysylltu â Tai Calon, maen nhw wedi bod mor gefnogol. Fedrwn i ddim bod wedi mynd trwy’r cyfan heb help a chyngor y swyddogion Incwm, Zoe Bishop a Sara Edwards. Maen nhw wedi bod yn wych ac alla’i

ddim diolch digon iddyn nhw.”

Mae Sue’n gweithio’n rhan-amser erbyn hyn. “Mae pethau’n dal yn anodd i mi, ond rwy’n gallu fforddio cadw fy nghartref ac mae hynny’n bwysig iawn i mi”, meddai.

Roedd Sue eisiau rhoi hyder i eraill i ofyn am help. “Nid fi yw’r unig berson i fod mewn dyled. Mi allwn i fod wedi colli fy nghartref pe byddwn wedi anwybyddu’r broblem.”

Mae Ceri Owen, Rheolydd Incwm, yn cytuno. “Fe fyddem yn annog ein tenantiaid i ddweud wrthym os ydyn nhw’n cael problem yn talu eu rhent. Byddwn yn sicr yn gwneud ein

gorau i helpu ond rydyn ni hefyd yn ceisio gwneud yn siwr nad yw tenantiaid yn cael eu hunain yn y sefyllfa yn y lle cyntaf.”

Mae aelod o’r tîm Incwm yn cwrdd â darpar denantiaid i’w helpu i drefnu eu harian ar gyfer cost rhedeg eu cartref newydd. Gall y staff hefyd roi cyngor iddynt hwy a’r tenantiaid presennol ar ba fudd-dal tai a budd-daliadau eraill a all fod ar gael.

Fodd bynnag, bydd Tai Calon yn ysgrifennu at denant os ydynt fwy nag wythnos ar ôl gyda’u rhent. Caiff y cyswllt dechreuol ei ddilyn gan fwy o lythyrau ac hyd yn oed ymweliadau i’r cartref. Os nad yw’r tenant yn ymateb, aiff Tai Calon i’r llys i ofyn am y cartref yn ôl.

“Dydyn ni ddim eisiau mynd i’r sefyllfa honno,” meddai Ceri Owen. “Fe fyddwn i bob amser yn gwneud ein gorau ond allwn ni ddim helpu os nad ydym yn gwybod beth sydd o’i le. Ac yn achos Sue, fe drodd popeth allan yn iawn iddi oherwydd daeth ati a dweud wrthym ei bod yn cael problemau”, meddai Ceri Owen.

Mwy o newidiadau i fudd-dal tai.

Os ydych chi'n cael help i dalu eich rhent, yna mae angen i chi ddarganfod sut bydd y newidiadau yn cael e�aith arnoch chi.

Ceisiwch gyngor nawrFfoniwch 0845 075 5005, ewch i sheltercymru.org.uk

Neu anfonwch e-bost at [email protected] �oniwch 08444 77 2020 neu ewch i adviceguide.org.uk

Elus

en G

ofre

stre

dig

5159

02

Aeth popeth ar chwâl i Sue pan fu ei hannwyl wr farw yn sydyn. Am chwe mis ni fedrai oddef gadael eu cartref ym Mlaenau Gwent. Ei chi oedd ei hunig gwmni, a heb deulu neu ffrindiau i gynnig cefnogaeth, aeth pethau o ddrwg i waeth.

Mewn risg

* Newidiwyd ei henw yn lle datgelu pwy ydyw

6

Bu Mike Harvey yn gofalu am ei randir am y 32 mlynedd ddiwethaf. Ef yw aelod hynaf Cymdeithas Randiroedd Brynmawr ac mae wrth ei fodd yn tyfu blodau yn ogystal â llysiau.

Ychydig flynyddoedd yn ôl enillodd ddwy wobr gyntaf mewn dau ddosbarth i newydd-ddyfodiaid yn sioe Cymdeithas Genedlaethol Chrysanthemum yng nghanol Lloegr. Mae garddio’n hobi a ddaeth yn fwy a mwy poblogaidd wrth i fwy o bobl fod eisiau tyfu eu bwyd eu hunain.

“Roedd rhandir unwaith yn cael ei weld fel lle chwarae i

hen ddynion ac yn y gorffennol rydym wedi ei chael yn anodd cael digon o bobl i ofalu am y lleiniau, ond dim mwy. Mae ein pedwar aelod diweddaraf i gyd yn eu tridegau ac mae eraill yn dal i aros am randir,” meddai Mr Harvey.

Bu’r gymdeithas mewn bodolaeth ers 1917 a gall y llwybrau o amgylch y 30 llain fynd yn frwnt iawn yn y gaeaf. Fodd bynnag datrysodd Mr Harvey y broblem pan ddywedodd Brian Cooper, peintiwr ac addurnwr, fod Tai Calon yn rhoi tomwellt i denantiaid a phreswylwyr.

Mae Green Earth, sy’n edrych ar ôl y gofodau gwrdd ar gyfer Tai Calon, ddigonedd o domwellt i’w roi. Dywedodd Gwynfor Evans o Green Earth: “Mae’r tomwellt am ddim

i unrhyw un sydd ei eisiau. Mae’n ddelfrydol fel gwrtaith ac fel gorchudd i atal chwyn. Felly roeddem wrth ein bodd pan ofynnodd Cymdeithas Randiroedd Brynmawr am ddigon i osod dros ei lwybrau.”

Bu gan Brian Cooper, sy’n gweithio i Tai Calon, randir am wyth mlynedd ac mae’n tyfu ei lysiau ei hun. Mae Brian yn tyfu llawer o’i gynnyrch o had a bydd yn brysur iawn yn edrych ar ôl ei gnydau o ddiwedd mis Mawrth ymlaen.

“Mae’n ffordd wirioneddol iach o roi bwyd ar eich bwrdd. Mae hefyd yn rhatach na siopa yn yr archfarchnad,” meddai Brian.

Mae’r tomwellt yn rhad ac am ddim i denantiaid a phreswylwyr a medrir ei gasglu o bencadlys Tai Calon yn y Blaenau.

Rhandiroedd rhagorol

7

Os mai’r ateb yw ydi ac ydw, yna rhowch gynnig yng Nghystadleuaeth Garddio 2012 Tai Calon.

Mae’r gystadleuaeth ar agor i bob tenant a bydd y beirniaid yn mynd o amgylch tua diwedd mis Gorffennaf.

Bydd yr enillwyr ym mhob categori yn derbyn gwobr o £100, £75 am yr ail le a £25 i’r trydydd, yn ogystal â thlws.

Y categorïau yw:

• Gardd orau• Gardd Orau gan Ddechreuwyr

(tenantiaethau dan 3 blynedd)• Basged Grog/Pot/

Cynhwysydd Gorau• Gardd Gymunedol Orau• Blodyn Haul Talaf (i blant 11

oed ac iau yn unig)

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 29 Mehefin 2012.

Bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol.

Mae’n rhaid i’r cystadleuwyr fod yn denantiaid Tai Calon.

Gwahoddir yr enillwyr i fynychu seremoni wobrwyo.

Mae Tai Calon yn cadw’r hawl i argraffu enwau, ardaloedd a lluniau ymgeiswyr mewn deunydd cyhoeddusrwydd.

Cystadleuaeth

Cystadleuaeth Arddio 2012 i Denantiaid LLENWCH Y MANYLION ISLAW MEWN PRIFLYTHRENNAU

Enw: .......................................................................................................................................................................................

Cyfeiriad: .............................................................................................................................................................................

Cod Post: ...........................................................................................................................................................................

Rhif Ffôn: .............................................................................................................................................................................

Ticiwch y blwch ar gyfer y categori neu gategorïau y dymunwch gystadlu ynddynt:Gardd Orau Gardd Orau Dechreuwyr (tenantiaeth dan 3 oed)Basged Grog/Pot/Cynhwysydd Gorau Gardd Gymunedol OrauBlodyn Haf Talaf (dim ond plant 11 oed a iau)

Dychweler ceisiadau i Chloe Williams, Cartrefi Cymunedol Tai Calon, Solis One, Stad Ddiwydiannol Rising Sun, Blaenau, Blaenau Gwent NP13 3JW. Dyddiad cau cynigion yw 29 Mehefin 2012.

!

A yw’ch gardd yn hardd? Ydych chi’n mwynhau tyfu pethau?

8

Peintio wynebau ... Bws Cymunedol Ffau’r Ddraig ... celf a chrefft ... dawnsio stryd Roedd y cyfan yn digwydd yn Niwrnod Hwyl Cymunedol Hilltop yng Nglynebwy.

Mae hwn yn un o’r llu o ddigwyddiadau yr ydym yn helpu i’w trefnu neu eu cynnal yn eich cymuned. Gadewch i ni wybod os ydych yn ystyried cynnal rhywbeth yn eich ardal.

Efallai y gallwn gynnig cefnogaeth, yn ogystal â’ch rhoi mewn cysylltiad gyda sefydliadau a allai gyfrannu arian at eich gweithgaredd.

Diwrnod Hwyl Hilltop

9

Crefft Crochenwaith

10

Dysgu Hyblyg yn y GymunedSylweddolodd Carrie Herbert fod angen iddi wneud rhywbeth i wella ei chyfle o ddod o hyd i waith. Felly cofrestrodd ar gyfer dosbarth Learndirect yn Siop Wybodaeth Cymunedau yn Gyntaf Garnlydan yng Nglynebwy.

Astudiodd Carrie Saesneg i ddechrau oherwydd ei bod eisiau gwella ei sgiliau llythrennedd ac ers hynny mae wedi cofrestru ar ddosbarth Mathemateg. Mae’r cyrsiau’n arwain at gymwysterau City & Guilds.

Caiff dysgwyr fynediad i’w cyrsiau drwy’r Rhyngrwyd, er enghraifft, yn ystod dosbarthiadau, mewn llyfrgell leol, yn eu cartref neu mewn canolfan WEA (Cymdeithas Addysgol y Gweithwyr).

Mae Carrie’n mwynhau medru astudio o’i chartref, yn arbennig gan na allodd fynd i ddosbarth yn ddiweddar oherwydd salwch. Mae hefyd yn golygu y gall weithio ar ei chyflymder ei hun lle bynnag a phryd bynnag y mae’n dewis.

Mae dewis eang o gyrsiau ar gael, yn cynnwys Sgiliau Gwaith, Sgiliau Bywyd a Thechnoleg Gwybodaeth. Cânt eu cynnal drwy brosiect Qwest a maent yn rhad ac am ddim.

I gael mwy o wybodaeth ar unrhyw gwrs Learndirect, cysylltwch â:

Alyson Smith 01495 791128

James Fleming 01633 613680

Neu edrych ar y wefan: www.swales.wea.org.uk/courses/learndirect

Os fu gennych chi erioed awydd gwneud crochenwaith neu addurno ffiol flodau, yna gallai hwn fod yn gyfle delfrydol i roi cynnig arni drwy gofrestru ar gyfer hyfforddiant gyda Tai Calon.

Mae Matt Jones, crochenydd a ceramydd lleol, yn cynnal dau gwrs byr yn ein swyddfa yn Solis One yn y Blaenau.

Mewn sesiynau wythnosol o ddwy awr yr un, bydd Matt yn dysgu myfyrwyr sut i wneud crochenwaith a’i addurno. Bydd pob un o’r cyrsiau, Sgiliau Crochenwaith Creadigol a Chyflwyniad i Waith Addurnol yn parhau am dair wythnos ac yn arwain at dystysgrif gan Agored Cymru.

“Roeddwn yn astudio celf yn y coleg a roedd gen i ddiddordeb mawr mewn cerameg. Rwyf wrth fy modd yn gwneud pethau a dysgu eraill sut i wneud hynny hefyd,” meddai Matt, a raddiodd mewn cerameg cyn sefydlu ei fusnes ei hun, ‘”Ave a go Ceramics”. Mae’r cyrsiau’n rhoi cyfle i chi roi cynnig ar rywbeth newydd ac i fod yn greadigol. Maent hefyd yn ffordd wych i hybu eich hyder.”

Caiff jwg mawr a wnaed gan Matt Jones ei arddangos yn y dderbynfa yn y Blaenau.

Nid oes angen cael unrhyw brofiad i gofrestru am y cyrsiau rhad ac am ddim.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Natasha Jones, Swyddog Buddsoddiad ac Ymgyfraniad Cymunedol ar 0300 303 1717.

Gwanwyn 2012 / Rhifyn 3

www.taicalon.orgfacebook.com/taicalon @taicalon

GwarchodGolwg Tai

Bywyd yn Fflatiau Riverside

Bod yn Ffrind

Fflatiau Riverside

Mae 25 fflat un llofft yn y safle, rhai ohonynt gyda golygfeydd gwych dros y bryniau o amgylch. Mae Brenda Chivers ac Evelyn Young wedi byw yn Riverside am 12 mlynedd. Fel eu ffrindiau yno, credant fod “gwarchod” yn air anghywir i ddisgrifio’r ffordd y maent yn byw. Mae’n well ganddynt y term “byw annibynnol” oherwydd dyna sut maent yn ei gweld hi.

“Rwyf wedi cail ail wynt ers i mi ddod yma. Mae gen i gymaint o breifatrwydd ag rwyf eisiau. Mae bob amser rywbeth yn digwydd a gallaf ddewis p’un ai cymryd rhan yn y gweithgareddau ai peidio,” meddai Mrs Chivers.

Mae Evelyn Young yn cytuno. “Mae cyfuniad da o bobl yma, menywod, dynion, pobl sengl a chyplau. Mae mor gyfleus a rhwydd. Mae’r cwmni’n wych.”

Caroline Bridge yw rheolydd y cynllun. Mae hefyd yn cytuno gyda’i phreswylwyr. “Roedd un darpar denant eisiau gwybod erbyn faint o’r gloch mae’n rhaid iddynt fod mewn yn y nos, fel petai cyrffiw. Fel yr esboniais, gallant ddod i mewn gyda’r dyn llaeth os dymunant. Nid

oes rheolau llym. Oes, mae yna reoliadau fel ym mhob tenantiaeth arall ond fel arall fe allant fynd a dod fel y dymunant.”

Gall y tenantiaid hefyd benderfynu faint o gefnogaeth maent ei eisiau gan Caroline. Mae’n galw i weld preswylwyr o leiaf unwaith y dydd, er bod rhai’n dewis iddi beidio ymweld o gwbl. Mae Riverside hefyd yng nghanol Blaenau. Mae arosfan bws a siopau yn ymyl, felly mae popeth o fewn pellter cerdded rhwydd i breswylwyr.

Symudodd Marilyn Werrett a Reg ei gwr ynddo ddwy flynedd yn ôl. “Fe wnaethom ddod yma am amrywiaeth o resymau, yn cynnwys y ffaith nad ydym mwyach eisiau’r cyrifoldebau sy’n mynd gyda chael ty mawr. Mae’n hyfryd yma, rydym yn teimlo’n ddiogel ac mae rhywbeth i’w wneud o hyd.”

Mae’r preswylwyr yn sicr yn cadw eu hunain yn brysur gyda sesiynau bingo, boreau coffi a phrydau bwyd gyda’i gilydd yn Riverside. Maent hefyd yn mwynhau llawer o weithgareddau i ffwrdd, yn cynnwys ymweliadau i’r theatr a chyngherddau. Fis Rhagfyr diwethaf cawsant ginio Nadolig yn Nhy Tredegar yng Nghasnewydd.

Crynhodd Elaine Singleton farn y preswylwyr i gyd am Riverside. “Mae’n gymuned o fewn cymuned. Rwyf wedi gwirioneddol fwynhau fy hun yn y

18 mis y bûm yma. Rwyf wedi bod yn gwneud mwy ac yn mynd allan fwy nag erioed o’r blaen.”

Mae cwpl o’r fflatiau yn wag ar hyn o bryd. Hoffai Caroline Bridge annog unrhyw un sy’n credu y gallent fod yn gymwys i ddod draw a chael golwg. “’Dyw Riverside ddim yr hyn mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei ddisgwyl. Mae ynglyn â phobl yn byw fel y dymunant, ond gwybod fod cymorth ar gael os ydynt ei angen.”

Preswylwyr ar ymweliad i DyTredegar yng Nghasnewydd.

Mae gan Tai Calon 11 safle tai gwarchod. Os hoffech fwy o wybodaeth cysylltwch ag Anthony Rowson, arweinydd tîm Tai Gwarchod ar 0300 303 1717.

Mae llawer o bobl yn cael yr argraff anghywir am dai gwarchod. Iddynt hwy maent yn lleoedd diflas ond allai hynny ddim bod ymhellach o’r gwir, meddai preswylwyr Fflatiau Riverside yn y Blaenau.

Golwg Tai Gwarchod 2

Caroline Bridge yn un o’r fflatiau gwag yn Riverside.

Bu RSVP mewn bodolaeth ers 1988 a derbyniodd arian o raglen AdvantAge y Loteri Fawr i ariannu ei waith yn y sir am bum bmlynedd.

Andy Harris, swyddog wedi ymddeol o Heddlu Gwent, yw cydlynydd datblygu’r prosiect. “Mae RSVP wedi’i anelu at bobl 50 oed a throsodd. Mae ynglyn â bod yn ffrind i rywun, ymweld â hwy, mynd â hwy allan a rhoi diddordeb iddynt eto. Mae ynglyn â chael gwared â’u teimladau o unigrwydd a bod ar ben eu hunain.”

Mae Andy Harris yn edrych am “gyfeillion” yn ogystal â gwirfoddolwyr hyn i’w helpu i redeg y cynllun. Mae angen rhywun i helpu sefydlu cofrestr o’r grwpiau, clybiau a chymdeithasau yn yr ardal a fyddai o ddiddordeb i rywun 50+ oed.

“Rydym yn ofalus i osod ein gwirfoddolwyr mewn prosiect lle gallant ddefnyddio eu sgiliau a’u profiad. Os yw mwy o hyfforddiant yn addas, gellir ei drefnu os yw’r gwirfoddolwr yn meddwl y byddai hynny’n ddefnyddiol,” meddai.

Caiff Welcome Friends ei gynnal i ddechrau yng Nghwrt Davey Evans, un o gynlluniau tai gwarchod Tai Calon yn Abertyleri.

“Mae’n drist meddwl bod unrhyw un yn unig. Mae Tai Calon eisiau gwneud yr hyn allwn i helpu. Rwy’n sicr fod tenantiaid a hoffai ddod yn wirfoddolwyr, yn ogystal â phobl eraill a fyddai’n cael budd mawr o wasanaethau RSVP,” meddai Anthony Rowson, Arweinydd Tîm Tai Gwarchod.

Ffrind yw ...

A ddylai tenantiaid tai gwarchod allu cadw anifeiliaid anwes? Mae Tai Calon eisiau eich barn. Ni chaniateir hynny ar hyn o bryd, ond rydym yn ystyried nifer o opsiynau.

1. Dal i wahardd anifeiliaid anwes2. Caniatau tenantiaid i gadw anifail anwes, gyda

rhai amodau.3. Tenantiaid newydd yn cael dod ag un anifail

gyda hwy ond dim caniatâd am anifail anwes newydd yn ei le os yw’r un cyntaf yn marw.

Gadewch i ni wybod beth yw eich barn drwy gysylltu ag Anthony Rowson, arweinydd tîm Tai Gwarchod ar 0300 303 1717.

Cofiwch ofyn i westeion lofnodi’r llyfr ymwelwyr pan maent yn cyrraedd eich safle. Mae’n bwysig fod gennym gofnod o bwy sy’n ymweld rhag ofn bod tân neu argyfwng arall. Ar gyfer diogelwch

pawb, gofynnir i chi wneud yn siwr fod pob ymwelydd yn mynd mewn a gadael y safle drwy’r brif fynedfa.

Rydym hefyd yn cynnal arolwg o’n safleoedd i geisio canfod ardaloedd addas ar gyfer storio ac ailsiarsio sgwteri. Ni fedrir eu cadw mewn ardaloedd cymunol neu goridorau oherwydd risg tân.

Cysylltwch â rheolydd eich cynllun i gael help os oes gennych gwestiwn neu broblem. Rydym hefyd yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd o’r Pwyllgor Tai Gwarchod yn Solis One i drafod ystod eang o faterion. Mae croeso i bawb, holwch reolydd eich cynllun am fanylion a dyddiad y cyfarfod nesaf.

Os hoffech wirfoddoli cysylltwch ag Andy Harris ar 01495 353343 neu 07788 310444 neu e-bost [email protected]

Nodiadau Gwarchod

Weithiau mae’n anodd gwneud ffrindiau. Mae hyd yn oed yn anos wrth i ni heneiddio neu ar ôl profedigaeth. Mae RSVP ym Mlaenau Gwent wedi sefydlu grwp cyfeillgarwch newydd ‘Welcome Friends’ i helpu cael pobl ynghyd.

Golwg Tai Gwarchod 3

Weithiau dyw hi ddim yn cymryd llawer i wneud gwahaniaeth go iawn. Derbyniodd tenantiaid Cwrt Peacehaven yn Nhredegar bron £3,000 gan Tai Calon i wario ar eu gardd.

Defnyddiodd preswylwyr y safle tai gwarchod beth o’r arian i ffensio’r ardal ac aiff y gweddill ar gompost a phlanhigion.

Gwnaed y gwaith caib a rhaw gan Seren, un o gontractwyr Tai Calon a threfnwyd y compost gan Green Earth. Y prif arddwr yw Dennis Davies (a welir yn y ty gwydr) er bod ei ffrind Hywel Jones yn ei helpu gyda’r palu (ail lun).

“Mae gennym 13 o dybiau a bu’n rhaid i mi ailblannu 11 ohonynt,” meddai Dennis Davies. Gwnaeth yr arian wahaniaeth go iawn. Roedd ychydig bach o jyngl yma ond nawr dylai fod yn lle braf i bobl eistedd a mwynhau bod yn yr awyr iach.”

Mae Dennis, sydd hefyd â rhandir, yn tyfu llawer o’i flodau a’i lysiau o had. Mae’n mwynhau ei hobi yn fawr. Y cyfan mae eisiau nawr yw ychydig o heulwen a bydd yr ardd yn blodeuo o ddifrif.

Cysylltu â NiOs hoffech gysylltu â Tai Calon, gallwch ein ffonio ar 0300 303 1717.

Os dymunwch ddweud wrthym fod angen gwaith trwsio i’ch cartref, holi am eich rhent neu siarad gydag aelod o staff Tai Calon ffoniwch ni ar

0300 303 1717

www.taicalon.org

Garddio Gwych

Golwg Tai Gwarchod 4

15

Gallai’r lluniau fod o goeden, anifail anwes, lle neu olygfa, unrhyw beth, cyhyd ag iddynt gael eu tynnu ym Mlaenau Gwent.. Yn rhifyn nesaf y cylchlythyr byddwn yn rhoi manylion o ble i anfon eich lluniau a dyddiad cau’r gystadleuaeth.

Bydd lluniau’r 12 enillydd yn cael eu hargraffu yn y calendr a byddant yn cael gwobr hefyd.

I’ch helpu i gymryd lluniau gwych, mae gan Damnian Vizard, ein Swyddog Cyfathrebu a Marchnata, wyth awgrym i’ch rhoi ar ben y ffordd.

1. Nid oes angen camera drud

Gallwch gymryd lluniau gwych gyda chamera syml “pwyntio a thynnu”. Wrth i’ch sgiliau ddatblygu, gallwch feddwl am brynu camera mwy proffesiynol.

2. Gwybod beth all eich camera ei wneud

Darllenwch lawlyfr eich camera sawl gwaith. Mwyaf yn y byd y gwyddoch am y ffordd mae’n gweithio, y gorau fyddwch am dynnu lluniau.

3. Defnyddio tripod

Os ydych eisiau delweddau perffaith, hyd yn oed nad yw’r golau’n ddelfrydol, defnyddiwch dripod. Bydd yn helpu i ostwng ysgwyd camera. Mae gan rai camerâu osodiad “sefydlogi delwedd” sy’n gwneud yr un peth.

4. Golau da ac amser o’r dydd

Ymwelwch â’r lleoliad rydych eisiau tynnu ei lun ar wahanol adegau o’r dydd, ac mewn gwahanol dywydd, i ganfod y foment berffaith i dynnu eich llun.

5. Newid persbectif

Arbrofwch gyda gwahanol bersbectif. Peidiwch dim ond tynnu llun “yn syth”. Ceisiwch wahanol onglau, fframio eich pwnc yn erbyn y cefndir, neu heb fod yn y canol i gael llun mwy anarferol.

6. Ar ôl tynnu eich lluniau

Triniwch y delweddau drwy grwpio neu addasu’r lliwiau. Mae gan rhai camerâu eu meddalwedd eu hunain i’ch helpu i wneud hyn. Mae rhaglenni golygu delweddau hefyd ar gael ar y rhyngrwyd.

7. Disgwyliwch yr annisgwyl

Cadwch gamera yn gyfleus bob amser. Weithiau caiff y lluniau gorau

eu tynnu ar amser annisgwyl. Hyd yn oed os oes gennych gamera drud, cadwch un rhatach yn gyfleus ar gyfer y cyfle llun “unwaith mewn oes” yna.

8. Help am ddim

Gall fod clwb ffotograffiaeth yn eich ardal. Mae’r rhyngrwyd hefyd yn ffynhonnell wych o wybodaeth. Ymunwch â grwp ar-lein neu edrych ar sesiynau tiwtorial.

Yn bennaf oll, mwynhewch a chofio mai ymarfer sy’n sicrhau perffeithrwydd.

Cyngor da ar dynnu lluniauDim ond ychydig o fisoedd sydd wedi mynd yn 2012 ... ond mae Tai Calon eisoes yn meddwl am y flwyddyn nesaf. Mae hynny oherwydd ein bod eisiau i CHI dynnu lluniau ar gyfer calendr 2013 Tai Calon.

Y syniad yw i staff a thenantiaid gerdded o amgylch ardal i:

• Nodi gwelliannau yr hoffent eu gweld mewn ardaloedd cymunol yn y gymdogaeth,

a

• Nodi problemau sy’n difetha ymddangosiad yr ardal, fel sbwriel ar lwybrau, sbwriel wedi ei adael mewn ardaloedd cymunol, tyllau yn y ffordd ac ati.

Mae pob taith stad yn cymryd tua dwy awr a byddwn yn rhoi lluniaeth i bawb sy’n cymryd rhan.

Nid yw’r daith yn ymwneud â chyflwr gardd tenantiaid unigol - caiff y gwaith hwnnw ei wneud gan dîm arbennig yn Tai Calon, ond mae ynglyn â gwella’r amgylchedd lle’r ydych yn byw.

Felly os hoffech ychydig o awyr iach a chyfle i gymryd rhan wrth benderfynu sut i wella eich ardal, ymunwch â ni ar y daith cymdogaeth nesaf yn eich ardal.

We all want to live in a nice, clean and safe neighbourhood, which is why we organise regular estate walkabouts.

Mae pawb ohonom eisiau byw mewn cymdogaeth braf, glân a diogel. Dyna pam ein bod yn trefnu teithiau cymdogaeth rheolaidd.

16

Teithiau Cymdogaeth

17

Teithiau Cymdogaeth Cwm Sirhywi - 10.00am ar ddyddiau Mawrth

Ardal Taith Cymdogaeth

Man Cyfarfod Ardal Taith Cymdogaeth

Man Cyfarfod Ardal Taith Cymdogaeth

Man Cyfarfod

Sirhywi Isaf - St James Way

3-Ebrill 10.00am maes parcio St James Way

Georgetown 1-Mai 10.00 maes parcio gyferbyn Peacehaven Court

Sirhywi Isaf - St James Way

5- Mehefin

10.00am maes parcio St James Way

Cefn Golau 10-Ebrill 10.00am tu allan Ty Cymunedol, Attlee Way

Cefn Golau 29-Mai 10.00am tu allan y Ty Cymunedol yn Attlee Way

Cefn Golau 19- Mehefin

10.00am tu allan Ty Cymunedol, Attlee Way

Canol Tref Tredegar

17-Ebrill 10.00am ym maes parcio St George’s Court yna 10.30am tu allan i Ysgol Deighton

Ashvale 15-Mai 10.00am cornel Gerddi Griffiths/ Sgwâr Griffiths

Canol Tref Tredegar

12- Mehefin

10.00 maes parcio St George’s Court yna 10.30am Ysgol Deighton

Dukestown 24-Ebrill 10.00am ger 1 Ystrad Deri

Sirhowy - Ysguborwen

8-Mai 10.00am tu allan Top Shop, Ysguborwen

Nantybwch & Waudeg

26- Mehefin

10.00am Fflat Gymunedol Waundeg

Nantybwch & Waundeg

22-Mai 10. 00am tu allan Fflat Gymunedol Waundeg

Os hoffech fwy o wybodaeth am Deithiau Cymdogaeth Tai Calon yn Nhredegar, cysylltwch â Kelsey Watkins, Swyddog Ymgyfraniad a Buddsoddiad Cymunedol ar 0300 303 1717

Teithiau Cymdogaeth Cwm Ebwy Fawr - 12.00pm ar ddyddiau Mawrth

Ardal Taith Cymdogaeth

Man Cyfarfod Ardal Taith Cymdogaeth

Man Cyfarfod Ardal Taith Cymdogaeth

Man Cyfarfod

Beaufort 3-Ebrill 12.00pm maes parcio cefn Dawnsfa Beaufort. 12.30pm mynedfa safle Bryn Coch12.55pm Lansbury Terrace

Garnlydan 22-Mai 12.00pm tu allan Clwb Garnlydan, Queensway

Rhasa Isaf 26-Mehefin

12.00pm tu allan Clwb Ty Bryn, Heol Rhasa

Hilltop Uchaf 24-Ebrill 12.00pm tu allan Canolfan Siopa Hilltop

Rhasa Uchaf 15-Mai 12.00pm tu allan Canolfan Gymunedol Rhasa

Hilltop Uchaf 19-Mehefin

12.00pm tu allan Canolfan Siopa Hilltop

Hilltop Isaf 17-Ebrill 12.00pm tu allan Canolfan Siopa Hilltop

Rhiw Briery 1-Mai 12.00pm Clwb RTB, Stryd Drysiog

Gwaun Helyg 12-Mehefin

12.00pm maes parcio cefn Wordsworth Close

Drenewydd 10-Ebrill 12.00pm mynedfa Fflatiau Princes Court

Brynteg 8-Mai 12.00pm tu allan Canolfan Siopa Hilltop

Drenewydd 5-Mehefin

12.00pm mynedfa fflatiau Princes Court

Cwm 29-Mai 12.00pm mynedfa’r ysgol ar Stryd Curre

Os hoffech fwy o wybodaeth am Deithiau Cymdogaeth Tai Calon yng Nglyn Ebwy, cysylltwch â Natasha Jones, Swyddog Ymgyfraniad a Buddsoddiad Cymunedol ar 0300 303 1717

Teithiau Cymdogaeth Cwm Ebwy Fach - 12.00pm ar ddyddiau Iau

Ardal Taith Cymdogaeth

Man Cyfarfod Ardal Taith Cymdogaeth

Man Cyfarfod Ardal Taith Cymdogaeth

Man Cyfarfod

Twyncynghordy 5-Ebrill 10.00am tu allan i siop Twyncynghordy

Bryn Farm 3-Mai 10.00am mynedfa’r stad

Bryn Farm 14-Mehefin

10.00am mynedfa’r stad

Winchestown 12-Ebrill 10.00am mynedfa stad Waunheulog

Coed Cae 10-Mai 10.00am tu allan i’r ganolfan gymunedol

Winchestown 7-Mehefin

10.00am mynedfa stad Waunheulog

Cwmcelyn 26-Ebrill 10.00am maes parcio Troed y Bryn

Ffosmaen 24-Mai 10.00am tu allan Ffosmaen Inn

Coed Cae 28-Mehefin

10.00am tu allan i’r ganolfan gymunedol

Cwmtyleri 19-Ebrill 10.00am tu allan mynedfa Valley View

Roseheyworth 17-Mai 10.00am Lower Arael View maes parcio ger 4110.30am maes parcio Upper Arael View

Beaumont Close

31-Mai 10.00am maes parcio

Brynithel 31-Mai 10.00am - maes parcio ger 1 Hafodarthen Bungalows

Os hoffech fwy o wybodaeth am Deithiau Cymdogaeth Tai Calon yn Abertyleri, Blaenau a Brynmawr, cysylltwch â Chloe Williams, Swyddog Ymgyfraniad a Buddsoddiad Cymunedol ar 0300 303 1717

Teithiau Cymdogaeth Rheolaidd

Mae Tai Calon yn cydnabod y straen a achosir gan ymddygiad gwrthgymdeithasol, megis aflonyddu, aflonyddu hiliol, trais yn y cartref a nwisans cyffredinol.

Cyflwynodd Deddf Troseddu ac Anrhefn 1988 ddiffiniad cyfreithiol o ymddygiad gwrthgymdeithasol fel “ymddwyn mewn modd sy’n achosi neu sy’n debygol o achosi aflonyddu, pryder neu ofid i un neu fwy o bersonau heb fod o’r un aelwyd.”

Beth yw ymddygiad gwrth-gymdeithasol?Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol fod mewn amrywiaeth eang o ddulliau. I gyfrif unrhyw ymddygiad fel bod yn wrthgymdeithasol, mae’n rhaid iddo fod yn barhaus. Byddai parti swnllyd unigol yn amharu ar gymdogion ond ni chaiff ei gyfrif fel ymddygiad gwrthgymdeithasol. Fodd bynnag byddai partïon cyson swnllyd yn cyfrif. Mae enghreifftiau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynnwys, ond heb fod wedi’u cyfyngu i:

Trais yn y cartref, yn defnyddio iaith neu ymddygiad ymosodol a/neu fygythiol, trais

gwirioneddol, bygythiad trais, difrod neu fygwth difrodi eiddo rhywun.

Mae troseddau casineb yn ymddygiad sy’n targedu grwpiau neu unigolion oherwydd eu hil, rhywioldeb, anabledd corfforol neu broblemau iechyd meddwl, crefydd neu anawsterau dysgu.

Beth yw ymddygiad niwsans?Ymddygiad niwsans yw “ymddwyn yn afresymol mewn ffordd sy’n effeithio ar eraill sy’n byw’n gyfagos neu’n defnyddio cyfleusterau cymunol”.

Byddai enghreifftiau o ymddygiad niwsans yn cynnwys, ond heb fod wedi’u cyfyngu i:

Niwsans a achosir gan anifeiliaid anwes neu anifeiliaid eraill megis baw cwn neu ganiatau cyfarth parhaus, niwsans swn a achosir gan gerddoriaeth uchel neu ddadlau cyson, trwsio cerbydau mewn mannau cyhoeddus, cael gwared â sbwriel yn anghyfreithlon, defnydd amhriodol o ardaloedd cymunol, gwerthu neu ddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon, achosi fandaliaeth a graffiti.

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Niwsans Cymdogion

18

Eich cyfrifoldebau dan y Cytundeb TenantiaethMae’r Cytundeb Tenantiaeth yn gontract cyfreithol rhyngoch chi a Tai Calon ac yn nodi nifer o amodau yn gyfnewid am i chi fyw yn yr eiddo. Mae hyn yn cynnwys cytuno i dalu eich rhent, rhoi adroddiad am waith trwsio sydd ei angen a bod yn gyfrifol am bob person sy’n byw yn eich cartref neu’n ymweld ag ef, yn cynnwys anifeiliaid anwes a phlant. Mae hyn hefyd yn cynnwys ardaloedd cymunol a’r gymdogaeth yr ydych yn byw ynddi.

Os ydych yn torri telerau eich Cytundeb Tenantiaeth, gall Tai Calon orfodi’r cytundeb drwy weithredu llys, os oes digon o dystiolaeth.

Sut allaf fod yn gymydog da?Caiff anghydfod cymdogion yn aml ei achosi gan swn o setiau teledu neu radio neu bartïon, plant yn chwarae, niwsans cwn, ceir neu sbwriel. Mae Tai Cymru yn annog pob tenant i lofnodi Cytundeb Cymydog Da yn ogystal â’r Cytundeb Tenantiaeth. Mae’r Cytundeb Cymydog Da yn gofyn i chi fod yn ystyriol o’ch cymdogion, er enghraifft cadw swn teledu a cherddoriaeth ar lefel resymol, yn arbennig yn ystod y min nos neu adael iddynt wybod os ydych yn cael parti.

Beth allwch chi wneud os ydych yn cael problem gyda’ch cymydog?Os mai dyma’r tro cyntaf i chi gael problem, gall fod yn well peidio gwneud dim gan y gallai fod yn ddigwyddiad unwaith yn unig.

Fodd bynnag, gorau po gyntaf y caiff anghydfod ei ddatrys. Ceisiwch siarad gyda’ch cymydog, efallai nad ydynt yn gwybod am effaith eu gweithredoedd.

Ewch i siarad gyda’ch cymydog mewn dull pwyllog, ar adeg pan allant siarad, ac esbonio sut mae eu hymddygiad yn effeithio arnoch. Os nad yw hyn yn datrys y materion, cysylltwch â Tai Calon a byddwn yn trefnu i Swyddog Cymdogaeth gysylltu â chi i drafod y mater.

Dim ond os teimlwch ei bod yn ddiogel i wneud hynny y dylech gysylltu â’ch cymydog. Mewn achosion lle bu trais, bygwth trais neu os ydych yn teimlo dan fygythiad, rhowch wybod i’r heddlu i ddechrau, ac yna i Tai Calon. Byddwn yn gweithio gyda’r heddlu ac asiantaethau eraill i ddatrys materion difrifol o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac aflonyddu.

Sut mae gwneud adroddiad am ymddygiad gwrthgymdeithasol neu niwsans?Gallwch wneud adroddiad am ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn nifer o ffyrdd.Ein ffonio ar 0300 303 1717 rhwng 9.00am - 5.00pm Llun i GwenerAnfon e-bost i [email protected] â ni neu ysgrifennu atom yn:Solis One, Stad Ddiwydiannol Rising Sun, Blaenau, NP13 3JHWwww.taicalon.org

Gallwch hefyd wneud adroddiad drwy rywun arall megis ffrind, perthynas

neu asiantaeth arall fel Gweithiwr

Cymdeithasol.

Byddai ymddygiad niwsans yn achosi problemau a achosir gan anifeiliaid anwes neu anifeiliaid eraill megis baw cwn neu ganiatáu cyfarth parhaus.

19

20

A allaf wneud cwyn ddienw?Mae pob adroddiad am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gyfrinachol. Ni fyddem yn datgelu eich cwyn i neb arall neu’r person y buoch yn cwyno amdano, heb gael eich caniatâd. Fodd bynnag, gallai hyn gyfyngu ar ein hymchwiliad. Os yw’r gwyn yn ddienw efallai na fydd gennym ddigon o wybodaeth neu dystiolaeth i ddelio gyda hi. Hefyd, ni allwn gymryd camau gweithredu ffurfiol heb ddatganiadau wedi’u llofnodi.

Os yw’r ymddygiad gwrthgymdeithasol o natur droseddol, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw, 24 awr y dydd, ar 0800 555 111. Gallwch hefyd gysylltu â’r heddlu - os yw’n argyfwng ffoniwch 999, fel arall ffoniwch 101, er enghraifft os ydych yn dyst i drosedd.

Beth wnaiff Tai Calon i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol?Mae gennym ymrwymiad i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a’i achosion. Gweithiwn gyda’r asiantaethau dilynol i sicrhau dull partneriaeth i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol: Heddlu Gwent, Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent, Gwasanaeth Prawf, Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid, grwpiau cymorth ac asiantaethau megis Cymorth i Ddioddefwyr a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Mae gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol gyfrifoldeb am leihau troseddu ac anrhefn ym Mlaenau Gwent. Fel landlord mae gennym ymrwymiad i weithio gyda’n cymunedau i

wneud ein cymdogaethau yn lleoedd dymunol a diogel i fyw ynddynt. Ni fyddwn yn goddef ymddygiad annerbyniol tuag at ein tenantiaid na’n staff.

Lle mae tystiolaeth o ymddygiad gwrthgymdeithasol, byddwn yn gweithredu dan delerau’r Cytundeb Tenantiaeth i ddatrys y mater. Gall hyn gynnwys gweithredu cyfreithol:

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym:

• Ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol iawn a gyfeiriwyd at unigolyn neu grwp o unigolion a all achosi niwed, ofn ac braw. Byddwn yn cysylltu fel mater o frys a gweithredir (fel arfer o fewn un diwrnod gwaith i’r adroddiad am y gwyn) i wneud asesiad o’ch achos. Gall y gweithredu gynnwys casglu tystiolaeth, a gyda’ch caniatâd chi, siarad gyda’r sawl yr honnir ei fod yn gyfrifol, neu ddileu’r graffiti tramgwyddus.

• Ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol sydd oherwydd ei natur a’i amlder, yn achosi ofn a braw. Byddwn yn cysylltu â chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith o dderbyn y gwyn a byddwn yn gweithredu o fewn pum diwrnod gwaith.

• Ymddygiad a all fod yn torri amodau tenantiaeth ond nad yw’n ddifrifol o ran natur nac amlder nac wedi ei dargedu’n bersonol. Byddwn yn cysylltu â chi o fewn 5 diwrnod gwaith a byddir yn dechrau gweithredu o fewn deg diwrnod gwaith.

Ymchwilio eich Cwyn a Gweithredu:Os ydych yn cwyno wrthym am ymddygiad gwrthgymdeithasol neu niwsans, byddwn yn gweithio gyda chi i ddatrys y broblem. Byddwn yn cymryd eich cwyn o ddifrif ac yn cofnodi’r manylion. Byddwn yn rhoi’r achos i swyddog a enwyd i’w ymchwilio. Byddwn yn datblygu cynllun gweithredu gyda chi. Byddwn yn rhoi gwybod i chi tra ymchwiliwn y gwyn. Byddwn yn cynnig cefnogaeth i chi ac yn gofyn i asiantaethau eraill, fel yr heddlu, i weithredu lle bo angen. Byddwn yn esbonio ein rhesymau wrthych am gau eich achos cyn gwneud hynny.

Ffynonellau Gwybodaeth Bellach a ChyngorCyngor Blaenau Gwent - llinell gymorth C2BG 01495 311556 ar gyfer yr adrannau dilynol o’r cyngor

Adran iechyd yr amgylchedd, adran gwasanaethau cymdeithasol

Partneriaeth Diogelwch Cymunedol, tîm ailgylchu a gwaredu gwastraff

Gwasanaeth Cam-drin Domestig Blaenau Gwent - 01495 291202

www.bgdas.co.uk

Crimestoppers - 0880 555 111

Mewn argyfwng ffoniwch 999 a gofyn am yr heddlu, fel arall 101.

21

PEIDIWCH COLLI

POPETHYSWIRIWCH EICH EIDDO

Ffoniwch Tai Calon

0300 303 1717

mewn cysylltiad ag

Caiff y gwair ei dorri ym mhob ardal unwaith bob tair wythnos. Fodd bynnag gall y rhaglen newid oherwydd y tywydd.

Mae’n arferol parhau i dorri ardaloedd gwastad yn ystod tywydd gwlyb, er y byddir yn osgoi llethrau.

Gadewir ardal o 18 modfedd o amgylch gwaelod coed i atal difrod. Caiff rhwystrau eraill eu cadw’n lân a thaclus.

Ni chaiff ardaloedd lle cafodd bylbiau eu plannu, neu sydd mewn cyflwr naturiol, eu torri am o leiaf chwe wythnos nes iddynt orffen blodeuo.

Bydd y timau Green Earth yn dilyn y llwybrau a restrir islaw:

Cwm Ebwy Fach

• Swffryd, Grace Pope Court• Brynithel• Six Bells• Cwmtyleri Gorllewin• Cwmtyleri Dwyrain• Rhesi Blaenau Gwent• Roseheyworth• Byngalos Blaenau• Llys y Capel/Riverside• Pentwyn Dwyrain• Southlands• Cwmcelyn• Coed Cae• Foregeside/East View

Cwm Ebwy Fawr

• Cwm• Drenewydd

• Glyn Coed• Beaufort/Bryn Coch• Gurnos/Bryn Farm• Tref Brynmawr• Winchestown• Roundhouse Close• Adeiladau Wesley/Heol Carreg Galch/Byngalos Banna• Fflatiau Princes St• Cae Glas• Hilltop• Rhiw Briery

Cwm Sirhywi

• Peacehaven• St James Way• Sirhywi• Ystrad Deri• Scwrfa• Rhasa• Garnlydan• Waundeg• Gwent Way/Ashvale• St Georges Court/Oliver Jones• Cefn Golau

Torri GwairMae Green Earth, sy’n edrych ar ôl y gofodau gwyrdd ar gyfer Tai Calon, yn disgwyl dechrau torri gwair ar draws y tri chwm ddechrau mis Ebrill.

22

Ethol Tenantiaid yn Aelodau BwrddYdych chi’n Denant i Tai Calon?Rydym wedi gwneud llawer o addewidion i’n tenantiaid am yr hyn a wnawn Ein cenhadaeth yw “Cyflawni ein haddewidion, gwella cartrefi a bywydau”.

Hoffech chi wneud gwahaniaeth?

Ydych chi’n frwdfrydig ac yn ymroddedig i Flaenau Gwent a’i chymunedau? Ydych chi eisiau ein helpu i wneud ein busnes y gorau?

Os mai’r atebion yw ‘ydw’ a ‘hoffwn’

Fyddech CHI yn barod i ymuno â’n Bwrdd Rheoli?Mae ein bwrdd yn cynnwys 5 aelod annibynnol, 5 tenant a 5 a enwebir gan y cyngor.

HOFFECH CHI WYBOD MWY?Cysylltwch â Jayne Lewis, Ysgrifennydd Cynorthwyol Cwmni

ar 0300 303 1717 neu drwy e-bost: [email protected] sesiynau gwybodaeth ddydd Mercher 16 Mai

rhwng 12.45pm-3pm a 5.30pm-7.45pm.

Mae aelodau bwrdd Tai Calon yn rhannu cyfrifoldeb am:

• Gosod amcanion a chytuno ar y cynlluniau i gyflawni’r amcanion hynny

• Cymeradwyo ein cyllideb a chyfrifon

• Monitro ein perfformiad ar gynlluniau a chyllidebau a gytunwyd; a

• Gwneud yn sicr y caiff busnes y sefydliad ei gynnal mewn modd cywir.

Bydd angen i chi:

• Allu rhoi o leiaf 5 awr y mis i fynychu cyfarfodydd Bwrdd. Cynhelir y rhain fel arfer ar 4ydd nos Lun pob mis yn ein swyddfa yn Solis One.

• Mynychu sesiynau hyfforddiant a “Dyddiau Bant”.

Mae’r swyddi yn wirfoddol, fodd bynnag telir costau.

Am bob dwy awr y mae tenant neu aelod o’r gymuned yn gweithio gyda’r sefydliad, mae’n rhoi credyd amser iddynt gan y cynllun Bancio Amser.

Gall gwirfoddolwyr wedyn ddefnyddio eu credydau amser ar amrywiaeth o weithgareddau. Aeth Jen Griffiths o Hilltop yng Nglynebwy a’i chwaer Barbara Kershaw i drin eu hewinedd yn adran Gwallt a Harddwch Coleg Gwent yng Nglynebwy.

“Fe wnes wirioneddol ei fwynhau a byddaf yn bendant yn mynd eto. Y tro nesaf fe gaiff Barbara a finnau drin ein traed. Mae’n braf meddwl ein bod yn mwynhau hyn oherwydd mod i wedi gwneud ychydig o waith i Tai Calon”, dywedodd.

Mae gwirfoddolwyr yn derbyn credyd am amrywiaeth o weithgareddau. Mewn gwirionedd, am bopeth o fynychu cyfarfodydd pwyllgor i gymryd rhan mewn arolygon, bod yn aelod o gymdeithas tenantiaid a phreswylwyr i ddilyn prosiectau amgylcheddol a chymunedol.

Dim ond un credyd amser oedd Jen Griffiths ei angen i drin ei hewinedd. Medrai hefyd fod wedi eu defnyddio mewn canolfannau chwaraeon a weithredir gan Gyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent, Supertubing

EVI (gynt Sefydliad Glynebwy) ar safle Gardd yr W^ yl ac ar dripiau dydd a drefnwyd gan Tai Calon.

Yn ddiweddar ymwelodd grwp â Bae Caerdydd a Techniquest ar gost o bedwar credyd i bob teulu. Fe wnaeth David Grainger Jones a Zelda Thomas fwynhau’r ymweliad yn fawr iawn. Maent yn cytuno gyda Mike Roberts a ddywedodd ei fod yn ddiwrnod ardderchog. “Pe bai pob tenant yn cymryd rhan yn y cynllun, gallant hwythau fynd ar dripiau. Mae’n gynllun gwerth chweil,” meddai.

Roedd Lucy Holly a Casey Stevens, wyrion Mike, hefyd yn meddwl ei fod yn hwyl fawr, yn arbennig y sioe Swigen a Ffrwydr.

Mae partneriaid Bancio Amser hefyd yn cynnig deliau gwych eraill hefyd. O nawr hyd ddiwedd mis Hydref 2012, gall tenantiaid Tai Calon gael disgownt o 20% ar brofiad Supertubing ym

Mharc yr W^ yl, Glynebwy. Os dangoswch gopi o’r cylchlythyr hyn pan gyrhaeddwch, gallwch gael cynnig arbennig o ddim ond £4 am bump o reidiau gwych - edrychwch ar www.supertubing.co.uk. Dim ond un cynnig disgownt i bob teulu. Ni ellir cyfuno’r cynnig yma gydag unrhyw gynnig neu ddisgownt eraill. Ni dderbynnir llungopïau o’r cylchlythyr.

Amser i Ddweud Diolch yn FawrMae’n braf cael “diolch” a dyna pam fod Tai Calon yn hoffi gwobrwyo ein gwirfoddolwyr.

23

I gael mwy o wybodaeth ar Fancio Amser, neu ffyrdd o gymryd rhan, cysylltwch â Chloe Williams ar 0300 303 17171.

Beth sy’n DigwyddDiwrnod Hwyl TenantiaidCynhelir Diwrnod Hwyl Tenantiaid 2012 ddydd Sadwrn 21 Gorffennaf yn ein pencadlys yn Solis One yn y Blaenau. Bydd digonedd i’w wneud a’i fwynhau.

Digwyddiadau Cymunedol Bydd Tai Calon yn cymryd rhan yn Niwrnod Hwyl Cymdogaethau Cytûn yng Nghanolfan y Star yn Sirhywi ddydd Mercher 11 Ebrill a dydd Iau 12 Ebrill.

Gadewch i ni wybod os oes gennych ddigwyddiar ar y gweill Caiff y Gemau Olympaidd eu cynnal yn y Deyrnas Unedig yn ystod yr haf eleni. Bydd wyth mil o bobl yn cario’r Fflam Olympaidd yn ystod y daith gyfnewid.

Daw’r fflam i Flaenau Gwent ddydd Gwener 25 Mai, pan fydd yn teithio drwy Frynmawr.

Mae’r Frenhines, gyda Dug Caeredin, yn teithio i Flaenau Gwent fel rhan o’i dathliadau Jiwbilî Diemwnt.

Maent yn cyrraedd Cymru ddydd Iau 26 Ebrill a byddant yn ymweld â Chaerdydd, Margam, Merthyr Tudful, Aberfan, Glynebwy a Pharc Glanusk ym Mhowys yn ystod eu harhosiad deuddydd.

Caiff nifer o ddigwyddiadau allweddol eu cynllunio ddechrau mis Mehefin i nodi 60 mlynedd o deyrnasiad y Frenhines. Symudwyd gwyliau banc mis Mai i ddydd Llun 4 Mehefin a bydd gwyl banc Jiwbili ychwanegol dydd Mawrth 5 Mehefin.

Mae preswylwyr Drenewydd a Peacehaven Court yn Nhredegar eisoes yn bwriadu cynnal partïon i ddathlu Jiwbilî Diemwnt y Frenhines.

Amanda Davies a wnaeth y deisen i ddathlu priodas Dug a Duges Caergrawnt y llynedd.

Os hoffech chi dderbyn y newyddion diweddaraf gan Tai Calon ...

Tecstiwch “cylchlythyr” i 07797 871717

neu

Anfon e-bost at [email protected]

Gallwch ddewis gadael y gwasanaeth ar unrhyw amser. .