adolygu gramadeg
DESCRIPTION
ADOLYGU GRAMADEG. Cwestiynau. Bydd TRI chwestiwn i’w ateb: Creu brawddegau yn cynnwys berfau , priod-ddulliau, rhagenw perthynol o flaen berf, cymalau a negyddu. Cywiro gwallau mewn brawddegau – bydd dau wall ymhob brawddeg. Cywiro ymadroddion a’u defnyddio mewn brawddegau. - PowerPoint PPT PresentationTRANSCRIPT
ADOLYGU GRAMADEG
Cwestiynau
Bydd TRI chwestiwn i’w ateb:
• Creu brawddegau yn cynnwys berfau, priod-ddulliau, rhagenw perthynol o flaen berf, cymalau a negyddu.
• Cywiro gwallau mewn brawddegau – bydd dau wall ymhob brawddeg.
• Cywiro ymadroddion a’u defnyddio mewn brawddegau.
Cwestiwn 1Mae’n hanfodol bwysig gyda’r cwestiwn yma eich bod yn edrych yn ofalus ar derfyniad y ferf er mwyn gweld pa berson a pha amser sydd eisiau:
cysgaigweloddcaiffdarllenem
* RHAID dysgu terfyniadau’r berfau*
Tag amser
Mae’n hanfodol bwysig defnyddio TAG AMSER yn y brawddegau y byddwch yn eu creu:
Presennol: heddiw, ar hyn o bryd, rwan
Gorffennol: ddoe, llynedd, fis diwethaf
Amherffaith: ers talwm, flynyddoedd yn ôl
Amser Amherffaith
Gysa’r amser AMHERFFAITH, mae angen rhoi tag arferiadol yn ogystal:
-wn (Roeddwn i’n arfer…) cysgwn i-et (Roeddet ti’n arfer…) cysget ti-ai (Roedd o/hi’n arfer…) cysgai o/hi-em (Roedden ni’n arfer…) cysgem ni-ech (Roeddech chi’n arfer…) cysgech chi-ent (Roedden nhw’n arfer…) cysgent hwy
cysgen nhw
Ymarfer creu
Cofiwch edrych ar derfyniad y ferf a chofiwch ddefnyddio TAG AMSER
derbynioddcerddaicaiffgwelaisgwisgemdarllenwn i
Berf amhersonol
Mae’n bwysig ein bod yn adnabod y berfau amhersonol. Y trefyniadau yw:
-ir-wyd-id
cenir – mae rhywbeth yn cael ei ganucanwyd – mae rhywbeth wedi cael ei ganucenid – roedd rhywbeth yn arfer cael ei ganu
Berf amhersonol
Wrth greu brawddeg yn defnyddio berf amhersonol, rhaid cofio NID OES GODDRYCH I FERF AMHERSONOL
Mae’n syniad da i ddefnyddio GAN yn y frawddege.e. Ddoe yn yr ysgol gwelwyd yr
ymrafael gan nifer o ddisgyblion
Y rheol ydy:
PEIDIWCH Â DILYN BERF AMHERSONOL GYDAG ENW PERSON
e.e. Sonir y bardd yn ei gerddi…
Goddrych – felly’n anghywir
Beth am greu?
cafwydcenirysgrifennidchwaraewydgweliredrychid
Negyddu cymal enwol
Mae’n fwy na thebyg y bydd gofyn i chi greu brawddeg yn NEGYDDU CYMAL.
Y gyfrinach yw CREU PRIF GYMAL SYML ar ddechrau’r frawddeg. Does dim angen brawddeg gymhleth!
Enghreifftiau
nad ydy
Clywodd Sion nad ydy o wedi llwyddo i gael lle yn y coleg ym mis Medi.
Prif gymal syml
nad oedd
Dywedodd Sion nad oedd o wedi llwyddo i gwblhau ei waith cartref.
Prif gymal syml
nad ydym
Rwyf yn siomedig nad ydym ni’n cael defnyddio ein nodiadau i ateb y cwestiwn hwn!
Prif gymal syml
Beth am greu?
nad ydw ina fyddwn ninad oedd onad ydym ninad oedden nhwnad ydy o
Brawddeg yn cynnwysCYMAL PERTHYNOL
• Mae CYMAL PERTHYNOL yn dweud mwy wrthym ni am y goddrych yn y frawddeg
e.e. Dyma’r ferch a enillodd y brif wobr
• Mae CYMAL PERTHYNOL yn cychwyn gyda’r rhagenw perthynol ‘a’ neu’r negyddol ‘na’
Sut i greu brawddeg?
Y gyfrinach yw CREU PRIF GYMAL SYML
Dywedodd y ferch a oedd yn eistedd yng nghefn y dosbarth, ei bod wedi gorffen ei gwaith.
Prif gymal syml
Dywedodd y bachgen na lwyddodd i ennill lle yn y coleg, ei fod yn hynod siomedig.
Prif gymal syml
Beth am roi cynnig arni?
a weloddna chlywodda dderbyniaisna orffennodd
Defnyddio IDIOM mewn brawddeg
Wrth lunio brawddeg gydag IDIOM neu BRIOD-DDULL, sicrhewch fod ystyr yr idiom / priod-ddull yn hollol glir.
e.e. talu’n hallt Credaf fod Cai wedi talu’n hallt am ei noson o ffolineb yn y dafarn nos Sadwrn gan fod ei wraig wedi ei adael y diwrnod canlynol!
Cwestiwn 2
Byddwch yn cael pum brawddeg i’w cywiro. Mae’n rhaid darllen y brawddegau’n ofalus er mwyn ceisio darganfod y gwallau. Gall y gwallau fod yn unrhywbeth! Dylid ceisio esbonio mor ramadegol â phosibl ac mae angen llunio tair colofn daclus er mwyn ateb y cwestiwn hwn:Gwall Cywiriad Esboniad
Pa fath o wallau?Mae’n bwysig ystyried pa fath o wallau sy’n bosibl:
• Enw• Ansoddair• Arddodiad• Rhagenw• Berf• Negyddu Cymal• Camsillafu• Cymysgu geiriau tebyg• Cyfieithu llythrennol o’r Saesneg• Mynegi perthynas …of the
Gweler taflen waith ADOLYGU
Gwall treigloGan amlaf, mae treiglad yn cael ei achosi gan y gair sy’n dod o’i flaen e.e.
fy cath > fy nghathdy trwyn > dy drwynei pen > ei benei troed > ei throed
Yr hyn sy’n bwysig felly, yw gwybod yn union pa fath o air sy’n dod o flaen y treiglad.Yma RHAGENW DIBYNNOL BLAEN yw pob enghraifft uchod. Mae’r math o dreiglad yn wahanol ar ôl bob un ohonynt.
Ydych chi’n adnabod rhain?
y yr ‘r
am, ar, at
fy, dy, ei
a neu
a / y(o flaen berf)
Y FANNOD
ARDDODIAD
RHAGENW DIBYNNOL BLAEN
CYSYLLTAIR
RHAGENW PERTHYNOL
Dyma’r dyn yr enillodd y fedal arian am Gymru.yr enillodd > a enillodd
Angen y rhagenw perthynol ‘a’ ar ddechrau’r cymal perthynol
am Gymru > i GymruAngen yr arddodiad ‘i’ yma
Mae’r merch yn cyfleu ei teimladau’n eglur.
Mae’r merch > Mae’r ferch
Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod
ei teimladau > ei theimladau
Angen teiglad llaes ar ôl y rhagenw dibynnol blaen ‘ei’ benywaidd
Cyhoeddir y bardd nifer o cyfrolau’n flynyddol.
Cyhoeddir y bardd > Cyhoedda’r bardd
Nid oes goddrych i ferf amhersonol. Angen berf bersonol person 1af presennol y ferf ‘cyhoeddi’.
nifer o cyfrolau > nifer o gyfrolau
Angen treiglad meddal ar ôl yr arddodiad ‘o’
Yn gwlad Groeg mae fy brawd yn byw.
Yn gwlad > Yng ngwlad
Angen treiglad trwynol ar ôl yr arddodiad ‘yn’
fy brawd > fy mrawd
Angen treiglad trwynol ar ôl y rhagenw dibynnol blaen ‘fy’
Cerddodd bob dydd i’r ysgol ar ben ei hun.
Cerddodd > Cerddai
Mae angen y ferf yn yr amser amherffaith er mwyn cyfleu yr arferiadol. Terfyniad y 3ydd person unigol gorffennol yw ‘–odd’
ar ben ei hun > ar ei ben ei hun
Angen y rhagenw dibynnol blaen ‘ei’ o flaen y gair ‘ben’ yn yr idiom
Bydd ei mham yn gwrthod â mynd i siopa.
ei mham > ei mam
Mae’n ymddangos yma fod ‘mam’ wedi ei dreiglo’n drwynol. Dydy’r llythyren ‘m’ ddim yn treiglo’n drwynol. Yr unig ddau dreiglad all ddigwydd ar ôl y rhagenw dibynnol blaen yw meddal neu llaes.
gwrthod â mynd > gwrthod mynd
Does dim angen yr arddodiad ‘â’ ar ôl y ferf ‘gwrthod’
Darllenodd y plant bob dydd bennod allan o’r nofel.Darllenodd > Darllenai
Angen y ferf yn yr amser amherffaith er mwyn cyfleu yr arferiadol. Terfyniad y 3ydd person unigol amherffaith yw ‘-ai’
bennod allan o’r nofel > bennod o’r nofel
Cyfeithiad llythrennol o’r Saesneg
Gwelodd ei frawd pob nos yn neuadd y pentref ers talwm.
Gwelodd > Gwelai
Angen y ferf yn yr amser amherffaith yn hytrach na’r gorffennol er mwyn cyfleu yr arferiadol
pob nos > bob nos
Angen treiglad meddal yn y cyflwr adferfol
Os ydych wedi darllen ef, yna rwyt ti’n gwybod pam fy mod yn poeni.
wedi darllen ef > wedi ei ddarllen
Angen y rhagenw dibynnol blaen ‘ei’ o flaen y ferf ‘darllen’, ac mae hyn yn achosi treiglad meddal i’r ferf
rwyt ti’n gwybod > rydych chi’n gwybod
Angen yr 2il berson lluosog y ferf yn hytrach na’r 2il unigol
Os byddai Sian yn yr ysgol yn amlach, byddai’n gallu gorffen ei waith.Os byddai > Pe byddai
Angen defnyddio ‘pe’ o flaen y ferf ar ddechrau brawddeg i gyfleu’r amodol.
ei waith > ei gwaith
Does dim treiglad meddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen ‘ei’ benywaidd
Pan yn cerdded i’r ysgol gwelodd Sion damwain.Pan yn cerdded > Tra’n cerdded
Rhaid dilyn y gair ‘pan’ gyda berf, ac felly angen yr adferf ‘tra’ yma
gwelodd Sion damwain > gwelodd Sion ddamwain
Gwrthrych y ferf yn treiglo’n feddal
Cwestiwn 3
Bydd angen ail ysgrifennu paragraff a fydd yn cynnwys 10 gwall, yn gywir. Bydd angen tanlinellu pob gwall a gywirir.
Pwyntiau pwysig
– Darllen y paragraff yn ofalus– Tanlinellu pob gwall– Ail ysgrifennu’r darn yn bwyllog– Tanlinellu’r hyn a fydd wedi ei
gywiro– Bydd 10 gwall i gyd
Mewn llyfrgell ym Mhontypridd y cawswn i fy mhrofiad gwaith ac roeddwn ar ben fy myd yno. Cefais fy ngofyn gan y llyfrgellydd i chwilio am i gyd o’r llyfrau ar hanes lleol. Roeddwn i yn ofn mynd i mewn i’r stordy i chwilio am y llyfrau hyn. Yn ffodus ‘rwyf yn mwynhau darllen llyfrau ar y pwnc hwn. Chwiliaswn am lyfr yn sôn am ein anthem genedlaethol gan fod Evan a James James wedi byw ym mhentref Trehopcyn ger Pontypridd. Yn y llyfr hwnnw darllennais am y tro cyntaf y tri pennill sydd bia’r anthem…
Mewn llyfrgell ym Mhontypridd y cawswn i fy mhrofiad gwaith ac roeddwn ar ben fy myd yno. Cefais fy ngofyn gan y llyfrgellydd i chwilio am i gyd o’r llyfrau ar hanes lleol. Roeddwn i yn ofn mynd i mewn i’r stordy i chwilio am y llyfrau hyn. Yn ffodus ‘rwyf yn mwynhau darllen llyfrau ar y pwnc hwn. Chwiliaswn am lyfr yn sôn am ein anthem genedlaethol gan fod Evan a James James wedi byw ym mhentref Trehopcyn ger Pontypridd. Yn y llyfr hwnnw darllennais am y tro cyntaf y tri pennill sydd bia’r anthem…
Mewn llyfrgell ym Mhontypridd y cefais i fy mhrofiad gwaith ac roeddwn wrth fy modd yno. Gofynodd y llyfrgellydd i mi chwilio am yr holl lyfrau ar hanes lleol. Roeddwn i yn ofni mynd i mewn i’r stordy i chwilio am y llyfrau hyn. Yn ffodus ‘rwyf yn mwynhau darllen llyfrau ar y pwnc hwn. Chwiliais am lyfr yn sôn am ein hanthem genedlaethol gan fod Evan a James James wedi byw ym mhentref Trehopcyn ger Pontypridd. Yn y llyfr hwnnw darllenais am y tro cyntaf y tri phennill sydd yn yr anthem…