addasu at newid hinsawdd yng nghymru

5
1 Addasu at Newid Hinsawdd yng Nghymru Pecyn o Adnoddau Addysgol i Athrawon a Disgyblion Cyfnod Allweddol 4

Upload: stash

Post on 23-Feb-2016

88 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

Addasu at Newid Hinsawdd yng Nghymru. Pecyn o Adnoddau Addysgol i Athrawon a Disgyblion Cyfnod Allweddol 4. Rhagair. - PowerPoint PPT Presentation

TRANSCRIPT

1.1 Traditional Agriculture

1

Addasu at Newid Hinsawdd yng NghymruPecyn o Adnoddau Addysgol i Athrawon a Disgyblion Cyfnod Allweddol 4

2RhagairNewid yn yr hinsawdd yw un or heriau mwyaf rydyn nin debyg ou hwynebu yn yr 21ain Ganrif. Yn rhinwedd fy swydd fel dyn tywydd, rydw i wedi gweld sut mae patrymaur tywydd wedi bod yn newid, yn arbennig yn y blynyddoedd diwethaf.

Pobl ifanc heddiw fydd yn gwneud y penderfyniadau yfory, ac felly maen holl-bwysig bod ganddyn nhw ddealltwriaeth glir a chytbwys o beryglon posibl newid yn yr hinsawdd a dealltwriaeth or opsiynau ar goblygiadau syn dod yn sgil addasu.

Maer pecyn addysgol hwn yn esbonio seiliau gwyddonol newid yn yr hinsawdd ac yn edrych ar sut y gallai newid effeithio ar faterion bob dydd fel y cyflenwad bwyd, aneddiadau, cludiant ac iechyd.

Bydd y pecyn yn helpu athrawon i gyfleu gwybodaeth gytbwys o safon, gan ysbrydoli pobl ifanc i addasu eu hymddygiad er mwyn sicrhau cynaliadwyedd yn y dyfodol.

Derek Brockway, Daroganwr a Chyflwynydd Tywydd y BBCMai 2011

Ffrynt Tywydd yn Nesu3CynnwysRHAN1- RhagymadroddRhagair2Cynnwys3Sut i ddefnyddior pecyn4Rhagymadrodd5

RHAN 2- Y cefndir gwyddonolThema 1: Persbectif hinsawdd y byd 6Thema 2: Persbectif hinsawdd Cymru12

RHAN 3- Effeithiau ac opsiynau ar gyfer addasuThema 3: Y cyflenwad bwyd ac adnoddau naturiol18Thema 4: Anheddu25Thema 5: Seilwaith hanfodol31Thema 6: Diwydiant38Thema 7: Iechyd a lles44

RHAN 4- Gwybodaeth ychwanegolRhestr or ffigurau ar ffynonellau50Geirfa52

CydnabodHoffem ddiolch in harianwyr, sef Rhaglen Goleufa Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a phrosiect IMCORE, am gefnogir gwaith hwn. Hoffem ddiolch hefyd ir holl athrawon ar disgyblion yn yr ysgolion a fun cymryd rhan yn y gweithdai a gafodd eu defnyddio i ddatblygur pecyn addysgol.I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch :Rhoda Ballinger ([email protected])Jeanette Reis ([email protected])Tara Thrupp ([email protected])Ysgol Gwyddoraur Ddaear ar Mr, Prifysgol Caerdydd, Y Prif Adeilad, Plas y Parc, Caerdydd, CF10 3YE.4

Sut i ddefnyddior PecynMaer pecyn wedii ddylunio i ategu gweithgareddau athrawon a disgyblion Cyfnod Allweddol 4 mewn Daearyddiaeth, Daeareg, Ffiseg, Cemeg, Bioleg, Dyniaethau, Addysg Bersonol a Chymdeithasol. Maen ystyried sut y gallai newidiadau yn yr hinsawdd effeithio ar ddinasyddion Cymru, ac yn enwedig sut y gallai dinasyddion addasu at fyw mewn hinsawdd wahanol. Cymru sydd dan sylw, ond maer pecyn yn defnyddio enghreifftiau o bob rhan or byd.

O ran hwylustod, maer pecyn wedii rannun nifer o themu. Maer themu hyn fel a ganlyn:

Thema 1: Persbectif hinsawdd y byd Thema 2: Persbectif hinsawdd CymruThema 3: Y cyflenwad bwyd ac adnodau naturiolThema 4: AnhedduThema 5: Seilwaith hanfodolThema 6: DiwydiantThema 7: Iechyd a lles

Ym mhob thema ceir nifer o adrannau. Maer adrannau i athrawon yn cynnwys: Arwyddion ir athrawon i ddangos pa rannau or cwricwlwm cenedlaethol sydd o dan sylw Deilliannau dysgu allweddol Gwybodaeth gefndir ir athrawon Gweithgareddau (sylwch: dynodir gweithgareddau dosbarth r symbol ) Cyfeiriadau (sylwch: dynodir cyfeiriadau dwyieithog r symbol ).

Maer adrannau ir disgyblion yn cynnwys: Gwybodaeth am ffactorau risg Gwybodaeth am opsiynau addasu.

Mae geirfa a rhestr o ffynonellau gwybodaeth ar gael ar ddiwedd y pecyn. Mae yna nifer o flychau Wyddech chi? ac Ydych chi erioed wedi ystyried? hefyd i hybu trafodaeth ychwanegol ar oblygiadaur opsiynau ar gyfer addasu.

5Maer hinsawdd yn effeithio ar bob proses ffisegol ar y ddaear. Yn eu tro, maer rhain yn dylanwadu ar y bwyd ar dr sydd ar gael, y cartrefi rydyn nin byw ynddyn nhw, sut rydyn nin cyfathrebu, pa fathau o swyddi rydyn nin eu gwneud a pha mor iach ydyn ni. Felly, mae newid yn yr hinsawdd yn creu goblygiadau pwysig i bawb ac i weithgareddau pawb.

Mae gwyddonwyr a gwneuthurwyr polisi yn cytuno bod angen gwellan dealltwriaeth o wyddor yr hinsawdd a chodi ymwybyddiaeth or opsiynau ar gyfer lliniaru ac addasu.

Lliniaru ywr camau uniongyrchol syn cael eu cymryd i leihau achosion newid yn yr hinsawdd, megis lleihau faint o nwyon t gwydr syn cael eu hallyrru. Mae addasu yn golygu cymryd camau priodol i atal neu i leihaur risgiau syn cael eu peri wrth ir hinsawdd newid, er enghraifft drwy newid y cnydau y byddwn yn eu tyfu neu drwy ddiogelun cartrefi an gweithleoedd rhag llifogydd.

Er bod y ddwy ymagwedd yn bwysig, bydd y pecyn addysgol hwn yn canolbwyntio ar ddulliau addasu, yn arbennig y rhai syn berthnasol i ddinasyddion Cymru.

Iechyd a llesY cyflenwad bwyd ac adnoddau naturiolAnheddu

Seilwaith hanfodolDiwydiantLliniaru risgiauE.e. gostwng allyriadau carbonAddasu at risgiauE.e. addasu taiFfigur 1. Dimensiynau dynol newid yn yr hinsawddRhagymdroddNewid hinsawdd