sicrhau cartrefi diogel a hygyrch i bobl sydd ag mnd - addasu …€¦ · memorandwm...

12
Sicrhau cartrefi diogel a hygyrch i bobl sydd ag MND - addasu cartrefi a’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl Adroddiad Cryno Ellie Munro, 2019 Mynediad i addasiadau cartref i bobl sydd â chlefyd niwronau motor

Upload: others

Post on 05-Oct-2020

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Sicrhau cartrefi diogel a hygyrch i bobl sydd ag MND - addasu …€¦ · Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Cenedlaethol, Gwella Iechyd a Gofal trwy’r cartref, yn 2018 gan y Weinyddiaeth

Sicrhau cartrefi diogel a hygyrch i bobl sydd ag MND - addasu cartrefi a’r Grant

Cyfleusterau i’r Anabl

Adroddiad CrynoEllie Munro, 2019

Mynediad i addasiadau cartref i bobl sydd â chlefyd niwronau motor

Page 2: Sicrhau cartrefi diogel a hygyrch i bobl sydd ag MND - addasu …€¦ · Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Cenedlaethol, Gwella Iechyd a Gofal trwy’r cartref, yn 2018 gan y Weinyddiaeth

Gweithredu 1

Page 3: Sicrhau cartrefi diogel a hygyrch i bobl sydd ag MND - addasu …€¦ · Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Cenedlaethol, Gwella Iechyd a Gofal trwy’r cartref, yn 2018 gan y Weinyddiaeth

Gweithredu 2

Clefyd Niwronau Motor (MND) a’r Gymdeithas MNDYchydig o gyflyrau sydd mor ddychrynllyd â’r Clefyd Niwronau Motor (MND). Yn y mwyafrif o achosion mae’n gwaethygu’n gyflym, ac mae bob amser yn angheuol. Bydd cleifion, mewn gwahanol drefn a chyfuniadau, yn colli’r gallu i siarad, llyncu a defnyddio eu coesau a’u breichiau; methiant anadlol yw’r achos marwolaeth mwyaf cyffredin. Yn fwyaf cyffredin bydd yr unigolyn yn aros yn effro yn feddyliol wrth iddo ddod yn gaeth mewn corff sy’n methu, er bod rhai yn datblygu dementia neu newid gwybyddol. Mae oddeutu 5,000 o bobl yn byw gyda MND yn y DU. Mae MND yn lladd traean o bobl o fewn blwyddyn a bydd dros hanner o bobl yn marw o fewn dwy flynedd o’r diagnosis. Nid oes gwellhad.

Y Gymdeithas MND yw’r unig sefydliad cenedlaethol sy’n cefnogi pobl y mae MND yn effeithio arnynt yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gyda thua 90 o ganghennau dan arweiniad gwirfoddolwyr a 3,000 o wirfoddolwyr. Gweledigaeth y Gymdeithas MND yw byd heb MND. Tan hynny, byddwn yn gwneud popeth a allwn i alluogi pawb sydd ag MND i gael y gofal gorau, cael bywyd o’r ansawdd uchaf posibl, ac i farw gydag urddas.

Byw gyda MND: Pam fod tai hygyrch yn bwysig?Mae tai hygyrch yn hynod bwysig i bobl sy’n byw gyda’r Clefyd Niwronau Motor (MND). Mae gan bawb yr hawl i fyw mewn cartref addas a diogel. I bobl sy’n byw gyda MND, mae hyn yn golygu cartref hygyrch sy’n eu galluogi i gynnal eu hannibyniaeth, eu hurddas a’u hansawdd bywyd wrth i’r afiechyd ddatblygu.

Mae bod yn gaeth mewn cartref anhygyrch yn gysylltiedig ag ystod o effeithiau negyddol ar iechyd corfforol ac iechyd meddyliol, sy’n deillio o ffactorau fel teimlo’n ynysig ac unigrwydd, diffyg gweithgarwch corfforol, ymddieithrio oddi wrth y teulu a’r gymuned, ac amgylcheddau anniogel sy’n cyfrannu at ddamweiniau fel cwympo.

Yn anffodus, mae miloedd o bobl sy’n byw gydag anabledd yn byw mewn tai sydd ddim yn diwallu eu hanghenion hygyrchedd. Yn ôl y gymdeithas dai Habinteg, mae tua 1.8 miliwn o bobl ag angen tai hygyrch yn y UK; mae 300,000 o oedolion anabl yn gweld nad yw’r anghenion hyn yn cael eu diwallu. 7% yn unig o gartrefi yn Lloegr sy’n cynnig nodweddion hygyrchedd lleiaf.1

O ganlyniad, mae nifer o bobl gyda MND yn ceisio addasu eu cartrefi i ddiwallu eu gofynion hygyrchedd. Canfu ein hadroddiad blaenorol, MND Costs, mai addasiadau tai yw un o’r costau unigol mwyaf i bobl ag MND. Mae’r addasiadau’n amrywio o gymhorthion llai fel canllawiau cydio neu rampiau, i newidiadau mwy cymhleth a drud fel ystafelloedd gwlyb, lifftiau grisiau neu lifftiau trwy’r llawr, neu ymestyn yr eiddo. Mae prisiau’n amrywio yn unol â hynny. Roedd 43% o’r rhai a ymatebodd i’r arolwg MND Costs yn dweud eu bod wedi cael cymorth i dalu am y rhain.2

Gall cynlluniau fel y Grant Cyfleusterau i’r Anabl (DFG) ddarparu cefnogaeth hanfodol i bobl sydd angen addasu eu cartrefi, ond na allant fforddio gwneud hynny. Fodd bynnag, gall problemau gyda pholisi a chyflenwi gwneud mynediad i’r cynllun yn anodd. Gall diffyg gwybodaeth am ba gymorth sydd ar gael ar gyfer

addasiadau i’r cartref, beth i’w ddisgwyl o’r broses a gyda phwy i siarad ychwanegu at anawsterau i bobl ag MND, eu teuluoedd a’u gofalwyr wrth reoli eu bywydau sy’n newid yn gyflym.

Mae gwell amodau tai yn darparu gwell ansawdd bywyd. Canfu’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y gallai llety anaddas achosi dirywiad difrifol mewn lles meddyliol pobl anabl, tra gallai ymyriadau tai llwyddiannus ‘drawsnewid bywydau pobl er gwell’.3 Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn nodi bod hygyrchedd gwael yn cynyddu’r risg o ynysu, yn cyfyngu ar gyfranogiad cymdeithasol, yn effeithio’n negyddol ar ansawdd bywyd a gall gynyddu lefel y gofal y mae angen i deulu a ffrindiau ei ddarparu.4

Mae diffyg tai hygyrch yn arwain at gostau i gymdeithas yn ogystal ag unigolion. Roedd aros am offer ac addasiadau yn cyfrif am 51,328 o ddiwrnodau gwely ysbyty wedi’u colli yn 2017/18.5 Mae torri esgyrn o ganlyniad i gwympiadau ymhlith pobl hŷn yn costio tua £4.4 biliwn y flwyddyn i’r GIG a’r gwasanaethau gofal cymdeithasol.6 Yn 2011, amcangyfrifodd Gofal a Thrwsio Cymru, sy’n gwneud mân addasiadau yng Nghymru, am bob £1 a wariwyd, roedd £7.50 yn cael ei arbed i’r gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol.7

Fel y dengys y dadansoddiad hwn, mae darparu cymorth tai cyflym ac effeithiol yn rhan hanfodol o sicrhau y gall pobl gynnal eu hurddas, eu hannibyniaeth a’r dewis i aros yn eu cartref eu hunain wrth fyw gyda salwch angheuol.

Page 4: Sicrhau cartrefi diogel a hygyrch i bobl sydd ag MND - addasu …€¦ · Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Cenedlaethol, Gwella Iechyd a Gofal trwy’r cartref, yn 2018 gan y Weinyddiaeth

Gweithredu 3

Beth yw’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl?

Mae’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl (DFG) yn grant sy’n dibynnu ar brawf modd a all helpu tuag at gost addasu cartref yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Gall ddarparu cyllid ar gyfer gosod lifft grisiau neu lifft trwy’r llawr, creu ystafell gawod gyda mynediad gwastad, lledu drysau, darparu rampiau a theclynnau codi neu greu estyniad ar y llawr gwaelod. Cyflwynwyd y grant trwy Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, ac ar hyn o bryd mae’n cael ei lywodraethu gan Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.

Bydd unigolyn yn gymwys i gael y grant os gallant ddangos bod y gwaith yn ‘angenrheidiol ac yn briodol’ i ddiwallu ei anghenion, gan gynnwys symud o gwmpas a mynd i mewn ac allan o’i eiddo, a bod y gwaith yn ‘rhesymol ac yn ymarferol’. Mae yna hefyd ‘brawf adnoddau’ sy’n seiliedig ar incwm y cartref a chynilon. Mae rhai budd-daliadau, fel y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Chredyd Cynhwysol, yn golygu y bydd unigolyn yn cael ei basio trwy’r prawf modd.

Uchafswm gwerth y grant yn Lloegr yw £30,000. Yng Nghymru mae’n £36,000, ac yng Ngogledd Iwerddon mae’n £25,000. Mae’r grantiau’n cael eu gweinyddu gan awdurdodau lleol sydd â chyfrifoldebau tai yn Lloegr (cynghorau dosbarth, bwrdeistref ac unedol), cynghorau lleol yng Nghymru, a chan Weithrediaeth Tai Gogledd Iwerddon. Yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw, gallai’r gwasanaeth gael ei ddarparu gan sefydliad allanol fel Asiantaeth Gwella Cartrefi (HIA) neu gangen o Gofal a Thrwsio Cymru neu Loegr.

Mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr y grym i gyflwyno cymorth ychwanegol neu gymorth gwahanol ar gyfer addasiadau cartref. Yn aml, gelwir hyn yn ‘DFG dewisol’, a gallai gynnwys codi lefel y grant uchaf, cael gwared ar brofion modd ar gyfer rhai eitemau neu gyflwyno systemau llwybr cyflym.

Mae rhagor o wybodaeth am Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl ar gael ar daflen wybodaeth y Gymdeithas MND.

Page 5: Sicrhau cartrefi diogel a hygyrch i bobl sydd ag MND - addasu …€¦ · Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Cenedlaethol, Gwella Iechyd a Gofal trwy’r cartref, yn 2018 gan y Weinyddiaeth

Gweithredu 4

Yr amgylchedd polisi presennol ar gyfer addasiadau cartrefCyflwynwyd y Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl trwy Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, ac ar hyn o bryd maent yn cael eu llywodraethu gan Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.8 Yn 2014, symudwyd y gronfa gyffredinol yn Lloegr i gyllideb gyfun o’r enw’r Cronfa Gofal Gwell (BCF), a weinyddir gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r gyllideb hon yn rhan o agenda integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol y llywodraeth.9 Yr uchelgais yw y dylid integreiddio systemau iechyd a gofal cymdeithasol lleol, gan gynnwys tai, erbyn 2020.

Mae Foundations, y corff cenedlaethol ar gyfer Asiantaethau Gwella Cartrefi, yn gweld cynnwys DFGs yn y gronfa ehangach fel cam cadarnhaol; ‘am y tro cyntaf mae’n golygu bod yn rhaid i Dai fod yn rhan o drafodaethau lleol am gomisiynu iechyd a gofal cymdeithasol.’ Mae’r cyfanswm sydd ar gael ar gyfer DFGs yn Lloegr wedi cynyddu’n raddol ers iddo symud i’r Gronfa Gofal Gwell, gyda buddsoddiad gan y llywodraeth ganolog o £468 miliwn yn 2018/19.10

Er mwyn sbarduno integreiddio ymhellach, llofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Cenedlaethol, Gwella Iechyd a Gofal trwy’r cartref, yn 2018 gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG), yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, GIG Lloegr, Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol (RCOT) ac ystod o sefydliadau gwirfoddol, sy’n nodi ymrwymiad ar y cyd i weithredu ar y cyd ar draws sectorau llywodraeth, iechyd, gofal cymdeithasol a thai yn Lloegr.11

Comisiynodd y Llywodraeth adolygiad annibynnol mawr o’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl ac addasiadau cartref yn 2018, gan nodi o bosibl ymrwymiad i fynd i’r afael â rhai o’r materion gyda gweithrediad y grant.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fframwaith newydd ar fyw’n annibynnol a fydd yn adolygu gwariant a dyraniad cyllid ar gyfer addasiadau cartref ac yn parhau i gefnogi pobl i fyw’n annibynnol.12 Mae’r strategaeth newydd yn diffinio byw’n annibynnol fel hyn: ‘pob person anabl yn cael yr un rhyddid, urddas, dewis a rheolaeth ag y mae dinasyddion eraill yn ei gael gartref, yn ei waith, mewn addysg ac yn y gymuned.’ Mae’r llywodraeth wedi creu cynllun o’r enw HWYLUSO gyda’r nod o ddod â grantiau tai gwahanol ynghyd o dan un ymbarél. Yn 2018 lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad hefyd ar safonau gwasanaeth drafft ar gyfer addasiadau cartref, gyda’r nod o wella cysondeb cyflenwi gan ddarparwyr gwasanaeth, gan gynnwys awdurdodau lleol, darparwyr trydydd parti, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a therapyddion galwedigaethol. Cyhoeddwyd y safonau gwasanaeth newydd ym mis Ebrill 2019. Maent yn cynnwys saith safon sy’n cwmpasu ansawdd offer a gwasanaeth ac amserlenni disgwyliedig. Mae gan hyn y potensial i sefydlu fframwaith cadarn, tryloyw a mesuradwy ar gyfer cyflwyno addasiadau.13

Yng Ngogledd Iwerddon, cyhoeddodd yr Adran Datblygu Cymdeithasol a’r Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch Cyhoeddus Gynllun Adolygu a Gweithredu Rhyng-adrannol ar gyfer gwasanaethau addasu tai yn 2016.14 Arweiniodd adolygiad 2013 at gynhyrchu Pecyn Cymorth Cyfathrebu Dylunio ar gyfer Addasiadau, sy’n cynnwys manylion mân addasiadau y gellir eu darparu heb yr angen am asesiad, safonau a fformatau dylunio, a chanllawiau cyfathrebu ar gyfer therapi galwedigaethol.15

Page 6: Sicrhau cartrefi diogel a hygyrch i bobl sydd ag MND - addasu …€¦ · Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Cenedlaethol, Gwella Iechyd a Gofal trwy’r cartref, yn 2018 gan y Weinyddiaeth

Gweithredu 5

Addasiadau cartref: Materion a heriau i bobl sy’n byw gyda MNDMae pobl anabl yn wynebu nifer o rwystrau wrth geisio addasu eu cartrefi. Roeddem eisiau gwybod am brofiadau ein haelodau, cefnogwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y maes. Trwy arolygon a digwyddiadau ymgysylltu gwnaethom ofyn iddynt ddewis tri opsiwn ar gyfer y ‘tair her fwyaf’ o ran tai hygyrch, i’n helpu i ddeall y rhwystrau hyn yn well.

O’r 387 o ymatebwyr i’n harolwg ar gyfer pobl ag MND, eu teuluoedd a’u gofalwyr, dewisodd 96% gost addasiadau fel rhwystr mawr i addasu eu cartref. Dewisodd 39% arall diffyg cymorth ariannol ar gyfer addasiadau neu symud i gartref newydd, a dewisodd 23% y gost o symud tŷ. Tynnodd canfyddiadau’r digwyddiadau ymgysylltu sylw at gost atgyweiriadau yn ogystal ag addasiadau a dewisiadau tai amgen, argaeledd adnoddau’r cyngor, profion modd, cyfyngiadau grantiau a chostau dychwelyd cartrefi i’w cyflwr blaenorol ar ôl i’r unigolyn ag MND farw.

Hyd yn oed os yw’r unigolyn yn gymwys i gael grant DFG, mae’r gost y mae disgwyl iddo ei thalu tuag at addasiadau mor uchel fel na all llawer o bobl ei fforddio.

Staff y Gymdeithas MND

Dewisodd chwarter o’r rhai a ymatebodd faint o amser a gymer i wneud addasiadau. Dewisodd 21% ddiffyg argaeledd cartrefi hygyrch, sy’n cynyddu amseroedd aros, a dewisodd canran fach (16 o bobl, neu 4%) yr amser sydd rhaid aros am gartref hygyrch newydd. Dewisodd pobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol yn fwy aml y diffyg tai sydd ar gael (41.7%). Dywedodd pumed wrthym fod yr amser y mae’n ei gymryd i glywed a oeddent yn gymwys i gael grantiau fel y DFG yn broblem, dywedodd 12% yr amser aros i glywed a oedd y cais am grant wedi bod yn llwyddiannus a nododd nifer llai, 25 o bobl (tua 7%) yr amser a gymerwyd i gael caniatâd cynllunio.

Roedd ymatebion testun rhydd a gwybodaeth a gasglwyd mewn digwyddiadau ymgysylltu hefyd yn dangos bod yr amser a gymerir i gael asesiadau, cymeradwyaeth, dyfynbrisiau, i gwblhau gwaith neu sicrhau tai amgen yn faterion o bwys i bobl ag MND, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Amlygodd digwyddiadau ymgysylltu’r mater o sicrhau caniatâd landlordiaid y sector preifat i wneud addasiadau.

Gyda’r clefyd hwn sgen i ddim amser i aros am grantiau neu addasiadau gan y cyngor. Symudom i fynglo, ond bu farw cyn i’r system ateb y drws gael ei osod, a dyma nhw’n troi i fyny ar y bore bu farw i addasu’r drysau ar gyfer cadair olwyn.

Aelod o’r Gymdeithas MND

Dewisodd 23% o’r rhai a ymatebodd ddiffyg cefnogaeth gan wasanaethau lleol, a dewisodd 22% arall diffyg gwybodaeth ynghylch sut i addasu eu cartrefi. Cyfeiriodd 11% at y broses ymgeisio gymhleth am grantiau addasu, a dewisodd nifer fach (22 o bobl neu 6%) ddiffyg gwybodaeth am symud i gartref hygyrch. Roedd pobl mewn digwyddiadau ymgysylltu hefyd yn teimlo bod naill ai diffyg cefnogaeth neu gefnogaeth o ansawdd gwael, cyfathrebu gwael gan weithwyr proffesiynol, cyngor anghyson neu ddiffyg gwybodaeth am MND ymhlith gweithwyr proffesiynol.Nododd pobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol ddiffyg cefnogaeth gan wasanaethau lleol (44.4%) yn fwy cryf na’r rhai a ymatebodd yn gyffredinol.

Ychwanegu straen, dryswch a gofid at sefyllfa anodd iawn yn barod. Pe bai wedi cael ei adael i fy mam a oedd yn unig ofalwr i fy nhad ac eisoes wedi ymlâdd... yna ni fyddai wedi gwybod sut i fynd ati i ymgeisio am unrhyw beth. Yn ffodus roedd gen i fynediad i’r rhyngrwyd (mae’n swnio’n hurt ond nid oes gan bawb/nid yw pawb yn gallu ei ddefnyddio) felly roeddwn yn gallu dod o hyd i wybodaeth i symud pethau yn eu blaen.

Aelod o’r Gymdeithas MND

Fe wnaethom hefyd ofyn i weithwyr proffesiynol beth oedd y rhwystrau mwyaf yr oedd pobl yn byw gyda MND yn eu hwynebu wrth sicrhau tai hygyrch. O’r 92 o bobl a ymatebodd, dywedodd 87% mai’r rhwystr mwyaf oedd y baich emosiynol o drefnu addasiadau neu symud i gartref newydd. Roedd staff y Gymdeithas MND yn cytuno’n gryf a hyn, ac roedd yn un o themâu’r digwyddiadau ymgysylltu hefyd.

Gwaethygir llawer o’r problemau hyn pan nad yw gwasanaethau’n gweithio gyda’i gilydd. Rydym am weld awdurdodau lleol, timau iechyd a thai yn adeiladu ar arfer da i integreiddio gwasanaethau, creu systemau data a rennir a rheoli achosion sy’n darparu gwasanaeth cyflym, effeithiol a di-dor i bobl ag MND.

Page 7: Sicrhau cartrefi diogel a hygyrch i bobl sydd ag MND - addasu …€¦ · Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Cenedlaethol, Gwella Iechyd a Gofal trwy’r cartref, yn 2018 gan y Weinyddiaeth

Gweithredu 6

Page 8: Sicrhau cartrefi diogel a hygyrch i bobl sydd ag MND - addasu …€¦ · Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Cenedlaethol, Gwella Iechyd a Gofal trwy’r cartref, yn 2018 gan y Weinyddiaeth

Gweithredu 7

Sut mae awdurdodau lleol yn perfformio wrth ddarparu addasiadau cartref?Yn 2018 fe wnaethom anfon cais rhyddid gwybodaeth (FOI) at awdurdodau lleol i ddarganfod sut roeddent yn gwario eu cyllidebau addasu cartrefi, pa mor gyflym yr oeddent yn cyflwyno addasiadau cartref a beth allai rhai o’r rhesymau fod dros bobl yn methu â chael grantiau DFG. Cafwyd 269 (83%) o ymatebion llawn neu rannol gan awdurdodau lleol Lloegr gyda chyfrifoldeb am dai. Ymatebodd 18 (81%) allan o 22 awdurdod lleol Cymru.

Cyllid

Mae data rhyddid gwybodaeth yn dangos bod cynghorau Lloegr wedi gwario 82% o’u grantiau, ond gydag amrywiadau eang rhwng ardaloedd. Adroddodd cynghorau amlaf eu bod wedi gwario o leiaf 100% o’u cyllideb, ond dim ond 30% o’r holl rai a ymatebodd y mae’r cynghorau hyn yn eu cynrychioli. Roedd 10% o gynghorau wedi gwario mwy na 100% o’u cyllideb - cyfanswm o 28. Roedd pob un o’r 22 cyngor yng Nghymru heblaw wyth wedi defnyddio o leiaf 90% o’i gyllideb DFG. Nid oedd unrhyw gyngor wedi gwario mwy na 100% o’i gyllideb.

Nid yw lefelau gwario gwahanol yn golygu o reidrwydd bod cynghorau yn cael gormod neu rhy ychydig o gyllid. Mae’r broses ddyrannu yn gymhleth, ac mae’n anodd pennu anghenion presennol ac anghenion y dyfodol ar sail y data sydd ar gael ar hyn o bryd. Argymhellodd Adolygiad Annibynnol o’r DFG y dylid adolygu a newid y dull dyrannu er mwyn rhoi ystyriaeth well i lefelau anabledd, a’r math o dai ym mhob ardal.

Dywedodd cynghorau wrthym yn fwyaf cyffredin mai methu’r prawf cymhwysedd ariannol oedd y rheswm mwyaf cyffredin

dros gau achosion DFG. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod cynghorau yn gallu creu polisïau ar gyfer grantiau DFG dewisol sy’n cynnig cymorth heb brawf modd.

Mae llawer wedi defnyddio’r pwerau hyn i gael gwared ar y prawf modd ar gyfer addasiadau cost is. Mae Cyngor Bwrdeistref Eastbourne a Chyngor Dosbarth Lewes, mewn partneriaeth, wedi cael gwared ar y prawf modd ar gyfer gwaith sy’n costio llai na £8,000 ac ar gyfer yr holl waith i bobl sy’n cael gofal lliniarol, tra bod cynghorau Brighton, Caerefrog a Dorset i gyd wedi cael gwared ar y prawf modd ar gyfer gwaith o dan £5,000.

Mae cynghorau eraill, fel Chorley a Gorllewin Sussex, wedi creu grantiau ‘atodol’ ar gyfer gwaith sy’n costio mwy na’r terfyn o £30,000 yn Lloegr, neu wedi codi’r terfyn ei hunain.

Amseru

Er bod y mwyafrif o gynghorau’n cwblhau ceisiadau a thaliadau o fewn y terfynau amser penodedig, mae amrywiad sylweddol o hyd. Dywedodd 74% o’r rhai a ymatebodd yn Lloegr fod 100% o geisiadau yn cael eu prosesu o fewn y cyfnod hwn. Nododd 32 cyngor arall (12%) eu bod wedi cwblhau’r broses o fewn yr amserlen ar gyfer rhwng 90% a 99% o achosion. O’r gweddill, roedd saith cyngor yn adrodd eu bod wedi prosesu’r ceisiadau o fewn y ffrâm amser mewn llai na hanner yr holl achosion. Adroddodd 156 o gynghorau, neu 58% o’r rhai a ymatebodd bod 100% o’r grantiau DFG a gymeradwywyd wedi cael eu talu o fewn blwyddyn.

Page 9: Sicrhau cartrefi diogel a hygyrch i bobl sydd ag MND - addasu …€¦ · Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Cenedlaethol, Gwella Iechyd a Gofal trwy’r cartref, yn 2018 gan y Weinyddiaeth

Gweithredu 8

O’r awdurdodau sy’n weddill, roedd 74 (28%) wedi cwblhau 90% o daliadau o fewn blwyddyn. Adroddodd saith cyngor eu bod wedi ariannu prosiectau o fewn blwyddyn ym 50% neu lai o’r holl achosion. Yng Nghymru, roedd pob un o’r 18 cyngor heblaw pump wedi dweud wrthym eu bod yn gallu prosesu ceisiadau o fewn chwe mis 100% o’r amser. O’r pump, dim ond dau oedd yn is na 95%; roedd un yn 92% a’r llall yn 72%.

Roedd chwe chyngor yn methu â gwneud taliadau o fewn blwyddyn ym mhob achos, a tri o’r rhain mewn llai na 95% o achosion.

Mae’r amrywiad ledled y wlad yn peri pryder, ac mae gweithwyr proffesiynol a phobl ag MND yn dweud wrthym fod yr aros yn dal yn rhy hir yn aml. Mae yna, fodd bynnag, rhai enghreifftiau cadarnhaol iawn o gynlluniau dull carlam ar gyfer achosion brys a chost isel. Er enghraifft, dywedodd Sevenoaks, Chichester, Luton, King’s Lynn a Gorllewin Norfolk i gyd wrthym fod ganddynt gynlluniau ffurfiol ar gyfer cyflymu addasiadau. Mae Cymru hefyd wedi sefydlu dangosyddion perfformiad lleol ar gyfer amseroedd cyflenwi DFG. Y cyfartaledd ledled Cymru oedd 213 diwrnod, tua 30 wythnos, yn 2017/18 (y flwyddyn ddiweddaraf sydd ar gael), gydag ystod o 122 diwrnod ym Mhowys i 297 diwrnod ym Merthyr Tudful.16

Gwybodaeth ac integreiddio

Dychwelodd 56 cyngor yn Lloegr a phedwar cyngor yng Nghymru ddata ar bobl ag MND. Dywedodd y gweddill nad oedd ganddynt y data, neu y byddai’n costio gormod i echdynnu’r data. Nododd sawl cyngor mai dim ond ar lefel Therapi Galwedigaethol neu Wasanaethau Cymdeithasol yr oedd data’n cael ei ddal, gan awgrymu nad yw’r data hwn fel arfer yn cael ei drosglwyddo mewn awdurdodau dwy haen. Mae’r diffyg data ar gyflyrau meddygol a mathau o anabledd yn golygu ei bod yn amhosibl gwybod a yw poblogaethau penodol gyda gwahanol fathau o anghenion yn cael eu gwasanaethu’n dda gan y system DFG. Efallai y bydd angen math gwahanol o gymhorthion ac addasiadau ar rywun sydd â chyflwr sy’n gwaethygu o’i gymharu â rhywun ag anabledd nad yw’n gwaethygu neu gyflwr cyfnewidiol. Yn achos MND, o ystyried natur gyflym y dirywiad, bydd angen i’r gwasanaeth fod yn gyflym ac yn addasadwy i anghenion sy’n datblygu’n gyflym.

Er bod rhai cynghorau, megis Salford a Swydd Gaerlŷr, wedi gwneud gwaith sylweddol yn integreiddio timau addasu cartrefi fel rhan o systemau iechyd a gofal cymdeithasol ehangach, mae’n amlwg bod cryn ffordd i fynd eto. Gall timau integredig sicrhau bod gan bobl fynediad at weithwyr proffesiynol sydd â’r arbenigedd cywir, a all helpu i arwain y broses yn effeithlon ac yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gan bobl ag MND y wybodaeth gywir yn gynnar i ddeall a llywio systemau sy’n aml yn gymhleth.

Galwad i weithreduDaw’r adroddiad hwn ar adeg pan gwblhawyd canlyniadau adolygiad mawr o systemau addasu cartrefi wedi’i noddi gan y llywodraeth, ac yn y cyfnod yn arwain at ddiwedd y Gronfa Gofal Gwell, y mae cyllid ar gyfer addasiadau cartref yn dod oddi tano, yn 2020. Mae’r DFG wedi bodoli ers 30 mlynedd yn 2019. Mae’n bryd gweithredu i sicrhau bod gan bawb fynediad i gartref diogel a hygyrch.

Mae’r Gymdeithas MND yn galw am weithredu i sicrhau bod materion tai i bobl sy’n byw gyda MND yn cael sylw. Mae gan bawb yr hawl i fyw a marw yn eu cartref eu hunain os ydynt yn dymuno. Trwy wella systemau sydd eisoes yn bodoli, gallwn wneud hyn yn bosib i bawb.

Camau Gweithredu sydd eu hangen gan Lywodraethau Cenedlaethol:

Cyllid

• Rhaid i lywodraethau cenedlaethol gynnal ymrwymiad clir i gyllid canolog parhaus ar gyfer grantiau DFG pan fydd y dyraniadau presennol yn dod i ben. Rhaid i’r cyllid barhau i godi er mwyn adlewyrchu’r galw a’r newid demograffig.

• Dylai llywodraethau cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr adolygu’r fformiwla dosbarthu cyllid ar gyfer grantiau DFG, gan ystyried lefel yr anabledd, lefelau incwm, deiliadaeth tai ac amrywiadau rhanbarthol mewn costau adeiladu.

• Dylai llywodraethau cenedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon godi’r cap ar y lefel grant uchaf ar gyfer grantiau DFG gorfodol i o leiaf ystyried codiadau ar sail chwyddiant a chostau adeiladu cynyddol

• Dylai llywodraethau cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr gydnabod costau gwirioneddol darparu cefnogaeth DFG ac addasiadau cartref integredig, ac ystyried grantiau refeniw yn ychwanegol at gyfalaf er mwyn ariannu gwelliannau i weinyddiaeth, arbenigedd a systemau yn ddigonol.

• Dylai llywodraethau cenedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon adolygu’r prawf modd i fynd i’r afael â phroblemau allweddol a nodwyd gan gynnwys:

- Y trothwy cynilon isel

- Dim ystyriaeth i gostau gwirioneddol, gan gynnwys costau tai a chostau ychwanegol anabledd.

- Lefelau ddim yn cadw’n gyfartal â chostau tai, cynnydd mewn budd-daliadau na chwyddiant

- Diffyg aliniad gyda phrofion modd gofal cymdeithasol.

Amseru

• Dylai llywodraethau cenedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gynnwys amseroedd aros targed ar gyfer gwaith brys a gwaith nad oes brys mewn safonau tryloyw a mesuradwy ar gyfer addasiadau cartref, a monitro perfformiad yn erbyn y targedau hyn.

Page 10: Sicrhau cartrefi diogel a hygyrch i bobl sydd ag MND - addasu …€¦ · Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Cenedlaethol, Gwella Iechyd a Gofal trwy’r cartref, yn 2018 gan y Weinyddiaeth

Gweithredu 9

• Er mwyn gwella argaeledd cartrefi hygyrch, dylai Llywodraeth y DU a llywodraethau cenedlaethol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon weithredu argymhelliad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i’w gwneud yn ofynnol i bob tŷ newydd gael ei adeiladu i safon hygyrch ac addasadwy yn ddiofyn, ac isafswm o 10% i safon hygyrch i gadeiriau olwyn.

• Er mwyn lleihau oedi sy’n deillio o drafodaethau gyda landlordiaid, dylai llywodraethau cenedlaethol roi cyhoeddusrwydd i hawl tenantiaid anabl i addasiad cartref rhesymol, a chynnwys y wybodaeth hon yn eu canllawiau ar hawliau a chyfrifoldebau landlordiaid a thenantiaid yn y sector preifat.

Gwybodaeth ac integreiddio

• Dylai llywodraeth genedlaethol yn Lloegr adolygu’r cynnydd a wnaed tuag at integreiddio iechyd, gofal cymdeithasol a thai o dan y Gronfa Gofal Gwell, gan nodi arfer da a’r ffordd i fynd eto. Rhaid i hyn gynnwys ffocws penodol ar grantiau DFG fel rhan o gymorth iechyd, gofal a lles integredig.

• Dylai llywodraethau cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr ddyrannu cyllid i helpu partneriaethau lleol i barhau i integreiddio gwasanaethau, datblygu systemau rhannu data a chyflwyno rheolaeth achos amlddisgyblaethol effeithiol ar gyfer addasiadau i’r cartref, fel rhan o becyn cymorth ehangach.

• Fel rhan o gyflwyno a datblygu safonau cenedlaethol ar gyfer addasiadau cartref, rhaid i lywodraethau cenedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gyflwyno mesur canlyniadau priodol yn seiliedig ar arfer da a argymhellir ar gyfer grantiau DFG.

Camau Gweithredu sydd eu hangen gan Lywodraeth Leol:

Cyllid

• Dylai pob awdurdod sydd â chyfrifoldeb am grantiau DFG, fel gofyniad sylfaenol, sefydlu proses dryloyw, llwybr cyflym, heb brawf modd ar gyfer addasiadau o dan £5,000 erbyn 2021.

• Dylai pob awdurdod lleol sydd â chyfrifoldeb am dai yng Nghymru a Lloegr ddatblygu polisi gan ddefnyddio ei bwerau o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (RRO) 2002 i gyflwyno cefnogaeth ddewisol, gan ddilyn enghreifftiau o arfer da a thystiolaeth ynghylch enillion ar fuddsoddiad, gan gynnwys:

- Pasportio ar gyfer pobl sydd â salwch angheuol

- Cael gwared ar y prawf modd ar gyfer lifftiau grisiau

- Prawf modd ‘darbodus’ neu dim prawf modd ar gyfer addasiadau cost isel effeithiol iawn.

- Cynyddu’r cap ar y lefel grant uchaf yn seiliedig ar gostau lleol

- Caniatáu disgresiwn a hyblygrwydd fel nad yw cefnogaeth yn cael ei gohirio yn ddiangen oherwydd incwm gweddilliol fel tâl salwch.

Amseru

• Rhaid i awdurdodau lleol a Gweithrediaeth Tai Gogledd Iwerddon (NIHE) adolygu eu cydymffurfiad ag amserlenni targed a sicrhau eu bod yn cwrdd â’r rhain mewn 100% o achosion.

• Rhaid i bob awdurdod lleol ddefnyddio ei bwerau o dan RRO 2002 i gyflwyno cefnogaeth ddewisol ar gyfer addasiadau cartref, gan gynnwys systemau llwybr cyflym.

• Dylai awdurdodau lleol gyflwyno systemau llwybr cyflym ar gyfer achosion lle mae gan yr unigolyn salwch angheuol.

• Dylai awdurdodau lleol edrych ar eu systemau ar gyfer cymeradwyo gwaith, gan gynnwys a all rhestrau darparwyr cymeradwy ac atodlenni cyfraddau ar gyfer gwaith syml gael gwared ar gamau diangen.

• Dylai awdurdodau lleol fonitro ac adrodd yn flynyddol ar yr amseroedd prosesu o’r dechrau i’r diwedd ar gyfer grantiau DFG, o asesiad therapi galwedigaethol i gwblhau’r gwaith. Dylent sefydlu nifer y camau sy’n rhan o’r broses a cheisio lleihau’r rhain i’r eithaf lle mae’r nifer yn ormodol.

• Dylai pob awdurdod lleol sefydlu cofrestr tai hygyrch fel eu bod yn gallu adnabod eiddo addas yn well, a darparu amseroedd aros manwl gywir ar gyfer pobl sydd angen cartref newydd

• Yn lle safonau cenedlaethol gorfodol, dylai pob awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i bob datblygiad tai newydd gael ei adeiladu i safon hygyrch ac addasadwy yn ddiofyn, ac isafswm o 10% i safon hygyrch i gadeiriau olwyn.

Gwybodaeth ac integreiddio

• Dylai awdurdodau lleol weithio i nodi a rhannu arfer da wrth ddarparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i bobl â chyflyrau sy’n gwaethygu, gan gynnwys canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r effeithiau emosiynol.

• Dylai awdurdodau lleol gyflwyno systemau sy’n darparu un pwynt cyswllt i bobl anabl, gyda ‘sgyrsiau da’ ar ddechrau’r broses ac arweiniad ar hyd llwybrau priodol.

• Dylai awdurdodau lleol fuddsoddi mewn Canolfannau Byw’n Annibynnol, arweiniad ‘pop up’ neu ddulliau gwybodaeth a chyngor eraill i helpu pobl i ddeall yr opsiynau ar gyfer addasu eu cartref.

• Dylai awdurdodau lleol wella eu gwybodaeth ar-lein am grantiau DFG, gan gynnwys cyhoeddi eu meini prawf asesu, eu prosesau ac opsiynau cymorth eraill mewn fformatau hygyrch.

• Dylai awdurdodau lleol adeiladu ar enghreifftiau o arfer da i barhau i integreiddio gwasanaethau, datblygu systemau rhannu data a chyflwyno rheolaeth achos amlddisgyblaethol effeithiol ar gyfer addasiadau cartref, fel rhan o becyn cymorth ehangach.

• Dylai pob awdurdod lleol gofnodi prif anabledd neu gyflwr iechyd ymgeiswyr am grantiau DFG er mwyn galluogi gwell gwerthuso a monitro o ran pa mor dda y maent yn diwallu anghenion eu poblogaeth leol.

• Dylai awdurdodau lleol a phartneriaid mewn iechyd a thai ddefnyddio rhifau GIG i olrhain, monitro ac adrodd ar lwythi achosion DFG.

Page 11: Sicrhau cartrefi diogel a hygyrch i bobl sydd ag MND - addasu …€¦ · Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Cenedlaethol, Gwella Iechyd a Gofal trwy’r cartref, yn 2018 gan y Weinyddiaeth

Gweithredu 10

Llyfryddiaeth

1. Habinteg (2017), Accessible housing policy update, London: Habinteg

2. Vibert, S. (2017), MND Costs: exploring the financial impact of motor neurone disease, London: Demos

3. Equality and Human Rights Commission (2018), Housing and Disabled People: Britain’s Hidden Crisis, London: EHRC

4. World Health Organization (2018), WHO Housing and Health Guidelines, Geneva: WHO

5. NHS England (2018), Delayed Transfers of Care Data 2017-18, London: NHS England

6. Public Health England (2018), Falls prevention: cost-effective commissioning, London: Public Health England

7. Equality and Human Rights Commission (2018), Housing and disabled people: Wales’s hidden crisis, London: EHRC

8. Foundations (no date), DFG Regulations: Legislation, London: Foundations

9. NHS England (2017), Better Care Fund, London: NHS England

10. Page, C. (2018), Integration and Better Care Fund: The Disabled Facilities Capital Grant (DFG) Determination 2018-19 [31/3337], London: Ministry of Housing, Communities and Local Government

11. Various (2018), Improving Health and Care through the home: A National Memorandum of Understanding, London: Public Health England

12. Welsh Government (2018), Action on disability: the right to independent living, Cardiff: Welsh Government

13. Welsh Government (2019), Housing adaptations service standards, Cardiff: Welsh Government

14. Northern Ireland Executive (2016), DSD/DHSSPS Inter-Departmental Review of Housing Adaptations Services: Final Report and Action Plan 2016, Belfast: NI Executive

15. Department for Social Development and Department of Health, Social Services and Public Safety (no date), Adaptations Design Communications Toolkit, Belfast: NI Housing Executive

16. Infobase Cymru (2018), Housing – Local authority: table, Cardiff: Local Government Data Unit - Wales

Page 12: Sicrhau cartrefi diogel a hygyrch i bobl sydd ag MND - addasu …€¦ · Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Cenedlaethol, Gwella Iechyd a Gofal trwy’r cartref, yn 2018 gan y Weinyddiaeth

Y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor PO Box 246 Northampton NNl 2PR

Ffôn: 01604 611860 E-bost: [email protected]

www.mndassociation.org

Eluesen Gofrestredig Rhif: 294354 © Cymdeithas MND 2019

Cyfeiriad cofrestredig: Francis Crick House, 6 Summerhouse Road, Moulton Park, Northampton, NN3 6BJ, UK

This is a translated version of the Motor Neurone Disease Association (2018), Act to Adapt report.

/mndcampaigns

@mndcampaigns