yr eglwys a’i chenhadaeth tiwtor: euros wyn...

36
1 YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn Jones. Modiwl 20 credyd Dulliau Asesu: Dau draethawd hir 3500 o eiriau ar y canlynol: Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u perthnasedd i’n dyddiau ni. Ystyriwch bwysigrwydd ac arwyddocâd athrawiaeth y Drindod i’r genhadaeth Gristionogol. Neu Un traethawd hir 7000 – 8000 o eiriau ar bwnc y cytunir arno gyda’r tiwtor.

Upload: buidien

Post on 21-Jun-2018

223 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

1

YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn Jones. Modiwl 20 credyd Dulliau Asesu: Dau draethawd hir 3500 o eiriau ar y canlynol: Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u perthnasedd i’n dyddiau ni. Ystyriwch bwysigrwydd ac arwyddocâd athrawiaeth y Drindod i’r genhadaeth Gristionogol. Neu Un traethawd hir 7000 – 8000 o eiriau ar bwnc y cytunir arno gyda’r tiwtor.

Page 2: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

2

Y GENHADAETH Gweithgarwch Dduw yw’r genhadaeth o’i dechrau i’w diwedd. Ef yw’r Alpha a’r Omega, “yr hwn sydd a’r hwn oedd a’r hwn sydd i ddyfod” (Datg. 1:4). Yn ei law ef y mae’r awenau, ei ewyllys a’i fwriad ef yw’r grym gweithredol. Nid yw wedi dirprwyo ei waith i neb arall, nac wedi dechrau ar y gwaith a gadael i eraill ei gwblhau.

Wrth anfon yr Ysbryd oddi wrth y Tad a’r Mab y mae wedi gwneud yn amlwg mai Ef sy’n dal yr awenau. Yn ei ddwylo Ef y maent a neb arall (W. Anderson, Towards a Theology of Mission).

Dyma’r “missio Dei”. Gair Lladin wrth gwrs, yn golygu “anfon” neu “bwrw allan” – “mission” yn Saesneg. O’r gair “cennad” y cawn y gair “cenhadaeth”, a’i ystyr yw “negesydd”, “llatai”, “herald”. Felly y mae William Salisbury yn cyfieithu y gair Groeg, apostolos gan gadw yr ystyr, “un wedi ei anfon”: “nyd yw’r cenadwr (:-apostol) yn vwy na’r hwn a’i danvonawdd ef..(Testament Newydd 1567). Y DRINDOD Mae Duw, awdur y genhadaeth, oll yn oll, yn berffaith yn ei sancteirwydd, “y Tri yn Un, a’r Un yn Dri.” Nid yw’n anghyflawn mewn unrhyw fodd. Ond o’i ras dewisodd greu’r byd a dynoliaeth i fod yn adlewyrchiad o’r perffeithrwydd hwnnw ac i fod yn ognoniant iddo’i hun. Ei fwriad yw cynnwys y byd cyfan ym mwyniant ei fodolaeth. i’r diben hwnnw y creodd y byd a chreu dyn ar ei lun a’i ddelw Ef ei Hun. Difethwyd y pwrpas daionus hwn gan anufudd-dod dyn, a bellach rhwng y byd a Duw, y Tad Sanctaidd, daw un peth nas gellir ei ddileu ond gan Dduw ei hun. Y peth hwnnw yw pechod. Pechod sydd megis clwyf agored i’r ddynoliaeth a’r cread cyfan, yn sugno’u hegni ac yn chwalu eu harmoni. “To Redeem, sin must be destroyed, a universe re-organized” (P T Forsyth, The Holy Father td 25). A dim ond Duw y Tad a ddileodd y pechod hwn trwy anfon ei Fab i farw yn ein lle. Dyma ryfeddod ein gwaredigaeth “...it was holiness owning holiness under the unspeakable load of human guilt” (ibid. tt73-4). Yng Nghrist concwerwyd pechod ac adferwyd dyn a’r cread i gymundeb â Duw. Cymaint yw’r fuddugoliaeth fel na ellir ei disgrifio ond yn nhermau dynoliaeth newydd a chread newydd. Y mae’r Ysbryd Glân ar waith yn y cread ac yng nghalonnau dynion yn dod ar amcan hwn i’w ffrwyth. … “y bwriad a arfaethodd yng Nghrist yng nghynllun cyflawniad yr amseroedd, sef dwyn yr holl greadigaeth i undod yng Nghrist” (gweler Effes 1:1-14):

Mission is cosmic in its scope, concerned with bringing the whole of creation and the whole of humanity within the sphere of God’s purpose of good” Your Kingdom Come, WCC yn Thinking Mission, rhif 60, 1988.

Oddi wrth Dduw, sy’n datguddio’i hun yn Dad, Mab ac Ysbryd Glân, yn y cread, yn y waredigaeth ac yn y cyflawniad, y mae’r symudiad. YR ANFONWR

Page 3: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

3

Duw’r Anfonwr felly yw sail ein cenhadaeth. O’i ras y dewisodd symud tuag atom ac y mae’r Beibl cyfan o Genesis i’r Datguddiad yn ddehongliad o’r modd y mae’r Duw hwn yn gweithio o’r creu i’r cyflawniad terfynol pan ddaw’r holl genhedloedd ynghyd ac y gwireddir ei bwrpas mawr ar gyfer yr holl ddynoliaeth. Yn hanesyddol mae ddiwinyddiaeth cenhadu yn dechrau gyda Duw yn anfon Abraham (Gen 12:1-3). Yno cofnodir fod holl genhedloedd y ddaear i’w bendithio ynddo ef a’i had. Dyma derfyn ar yr ymrafael cyntefig lle lladdodd brawd ei frawd (Cain ac Abel); y difethwyd y ddaear gan felltith; y dryswyd yr ieithoedd (Tŵr Babel). Yn awr, bendithir holl dylwythau’r ddaear yn Abraham. Gafaelodd y Salmydd yn y traddodiad cyfoethog hwn a chyhoeddi y bydd yr holl bobloedd yn dod i Jerwsalem i weld gogoniant yr Arglwydd (Salm 47). A gall y proffwyd gyhoeddi bydd deng cenedl-ddyn yn gafael yn llaw Iddew ac yn dod gyda hwy i Jerwsalem (Sechareia 8:23). Gweler H. W. Wolff “The Kerygma of the Yahwist”, (Interpretation 20, 1966). Anfonwyd Abraham allan o Ur, anfonwyd Joseff i’r Aifft, anfonwyd Moses i waredu’r genedl oddi yno. Wedi’r gaethglud anfonwyd y genedl yn ôl i’w gwlad. Yng nghyflawnder yr amser anfonodd Duw ei Fab ei hun i waredu’r ddynoliaeth a’r cyfanfyd o afael pechod. “Pan ddaeth cyflawniad yr amser, anfonodd Duw ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni o dan y Gyfraith, i brynu rhyddid i’r rhai oedd dan y gyfraith, er mwyn i ni gael braint mabwysiad. A chan eich bod yn feibion anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i’n calonnau, yn llefain ‘Abba Dad’” (Gal 4:4-6). Daw’r Ysbryd Glân oddi wrth y Tad a’r Mab ac fe’i tywelltir ar “bob cnawd” – nid ar Israel yn unig (Act 2:17). Cenhadaeth y Mab sy’n ganolog ac allweddol; ef oedd cyflawniad y tadau a’r proffwydi ac ynddo ef daeth grym yr Ysbryd i’w uchafbwynt. Yn awr, mae ef ei hun yn anfon fel y cafodd ef ei anfon (Ioan 20:21). Yn ystod ei weinidogaeth yr oedd wedi anfon ei ddisgyblion allan fel estyniad megis o’i weinidogaeth iacháu ef ei hun ond wedi’r atgyfodiad y mae’n ehangu ei genhadaeth i gynnwys pawb sy’n galw arno fel Arglwydd. Ei nod yw eu dwyn i mewn i’w dŷ. Nid tŷ o waith llaw ond teyrnas ei gyfiawnder. “It means a household in a house not made with hands, the King of a righteous kingdom of loving hearts, a social God with a social gospel, a triune God who is an eternal home and society in himself” (Forsyth, op cit., t.88). A dyna ninnau yn ôl lle dechreusom – gyda’r Duw sy’n Dri yn Un ac yn un yn Dri.. Ohonno ef y tardd ein cenhadaeth. “It is this Trinitarian understanding of mission which enables us to explore fully the meaning of the kingly rule of God and his justice” (Thinking Mission td 1).

Page 4: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

4

Y DEYRNAS Iesu o Nasareth sy’n dod â chynllun Duw i’w gyflawniad. Wedi derbyn bedydd yr Ysbryd amlygir iddo mai ef yw’r Meseia. Pregethodd yng Ngalilea y newyddion da a dweud, “Y mae’r amser wedi ei gyflawni ac y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos. Edifarhewch a chredwch yr Efengyl”. Ei genhadaeth oedd cyhoeddi a sefydlu Teyrnas Dduw, “i hyn y’m hanfonwyd”. Ond mae’n gwneud mwy na chyhoeddi’n unig, Iesu ei hun, yn ei berson, yw’r Newyddion Da. Cyhoeddodd hyn yn y synagog yn ei dref ei hun yn Nasareth wrth gymhwyso geiriau’r Proffwyd Eseia am yr Eneiniog ato’i hun (Luc 4:16 ymlaen). Iesu felly yw’r Neges ac ef yw’r Negesydd; y mae’n cyhoeddi’r Newyddion Da nid yn unig trwy ei eiriau a’i weithredoedd ond yn ei berson. Y gair Aramaeg am deyrnas ar wefusau’r Iesu fyddai “malkuta”, sy’n golygu llawer mwy na brenin yn llywodraethu ar ddarn o dir. “Yn wir, nid ar hynny mae’r pwyslais ond ar y weithred o deyrnasu ei hun fel y mae honno yn fynegiant o awdurdod a gallu brenin” (“Cenhedaeth a Chenadwri Iesu,” Isaac Thomas, Efrydiau Beiblaidd Bangor 1, gol D. R. Ap-Thomas, td 103). Hanfod y syniad traddodiadol am frenin yn y Dwyrain Canol yn ôl Margaret Dewey yn Thinking Mission rhif 60 (td8) yw’r hyn sy’n cyfateb i’r “sheikh” Arabaidd heddiw. Nid unben creulon, ond un sydd yn agored ac ar gael i’w holl ddeiliaid. (Gweler Deut.18 lle daw’r bobl a’u cwynion at Moses). Yng nghanol chwedegau’r ganrif hon dechreuodd y Brenin Hussein godi palas ychydig i’r gogledd o Jerwsalem, ar yr ochr Orllewinol, er mwyn bod ar gael i’w ddeiliaid yno. Eto, yn nhraddodiad y Dwyrain Canol, nid yw teyrnas yn golygu “sofraniaeth,” fel yr ydym ni yn deall y gair, ond y mae’r pwyslais ar lys y brenin, ei ddilynwyr agosaf, ei gyfeillion. Wrth gyhoeddi fod Teyrnas Dduw wedi dod yn agos yr oedd Iesu’n datgan felly nad Duw pell mohono, ond un sydd ar gael i’w bobl, “gallwch chwi fod yn gyfaill iddo.” Nid dod â statws a wna hynny, ond cael bod gydag ef, a rhannu yn ei fwriadau, ac “yfed ei gwpan”. Braint y Deyrnas hon yw cyfarch Duw fel “abba” – “Dad”. Unig amod mynediad iddi yw edifeirwch a chredu neu ffydd a thröedigaeth. NATUR A GOFYNION Y DEYRNAS Gelwir ar bawb i rannu yn y Deyrnas felly mae ei drysau’n agored i bawb. Casglodd Iesu’r ysgymun a’r gwehilion, y tlodion a’r difreintiedig. “Eiddynt hwy yw Teyrnas nefoedd.” Mae’r waredigaeth y mae ef yn ei sefydlu yn cyffwrdd dyn yn ei gyfanrwydd (yn gorff ac ysbryd). Nodweddir ei genhadaeth gan ddeubeth – iacháu a maddeuant. Dengys ei wyrthiau iacháu nad oes lle i afiechyd na thristwch yn ei Deyrnas Ef. “In the act of healing, Christ invited belief, conversion, the desire for pardon. Once there is faith, the healing process encourages the recipient to go further and brings him to salvation” (Ioan Paul II, “Mission of the Redeemer”, Letter to Universal Church 1991). Mae’r deyrnas yn chwyldroi gwerthoedd y byd hwn ac yn dod â dynion i berthynas newydd â’i gilydd. Dysgant garu ei gilydd, maddau i’w gilydd a gweini ar ei gilydd.

Page 5: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

5

Adeiledir y Deyrnas trwy ryddhau pobl oddi wrth y drwg. Y Deyrnas felly yw’r datguddiad cyflawn a’r gwireddiad llwyr o gynllun gwaredigol Duw.

Mae Duw yn ymboeni, nid am iachawdwriaeth bersonol a hyfforddi disgyblion unigol yn unig, ond hefyd gyda sefydlu ei deyrnas ar y ddaear. Mae ef am i ni ddod yn gymdeithas newydd, yn gymuned fyw a fydd yn arddangos, trwy ei ffordd newydd o fyw, ei gwerthoedd newydd, a pherthynas newydd pobl â’i gilydd, beth yw ei bwrpas ar gyfer y byd. Ei gynllun gwreiddiol a’i fwriad terfynol yw i’r rhai a greodd ef ar ei ddelw ei hun dyfu i fod yn gymuned llawn cariad” (David Watson, dyfynnir yn Byw’r Drindod, Cymru i Grist, 1988, td 13).

DAU GAMDDEHONGLIAD Un perygl real iawn ein hoes ni yw uniaethu’r Deyrnas yn llwyr gyda rhaglen wleidyddol arbennig neu athroniaeth gymdeithasegol neilltuol, megis rhyddid y farchnad neu gomiwnyddiaeth. Ceisir gwireddu rhyw iwtopia ddaearol a’i galw yn Deyrnas Dduw. Diau y gellid ystyried y cyhoeddiad Efengyl y Deyrnas fel lladmerydd y syniad hwn yng Nghymru. Ddechrau’r ugeinfed ganrif ymlaen coleddwyd y syniad fod dynoliaeth yn datblygu yn anochel a diwrthwynebiad tua’r Deyrnas. Yn ddieithriad gwaith dyn oedd creu’r deyrnas honno. Dywed rhai pobl heddiw nad oes angen yr eglwys arnom ar unig bwrpas ar ôl iddi yw ymgyrchu dros gyfiawnder economaidd a rhyddid gwleidyddol a diwylliannol. Mae angen inni wrando’n astud ar Iesu pan rybuddia “nid yw fy nheyrnas i o’r byd hwn”. Y mae’n guddiedig, mor fach a hedyn mwstard. Gwaith sofran Duw yw’r Deyrnas a’i waith ef yn unig. Mae angen inni wrando hefyd pan ddysg Iesu ei ddisgyblion i weddïo, “Deled dy Deyrnas”. Yn y dyfodol y mae ei sylweddoli yn ei grym. Ond y mae yma yn awr, lle bynnag mae Iesu ei hun yn cael ei dderbyn a’i addoli. Dylid sylwi nad “Deled dy Deyrnas” yw’r cais cyntaf yn y weddi a ddysgodd Iesu i’w ddisgyblion – efallai mae’n perygl ni yw ei drin felly – ond “sancteiddier dy enw”. “The Kingdom comes from the satisfaction of holiness. It does not make it” (Forsyth, op cit. t11). Gwrthod mantell brenin a sefydlu ei Deyrnas trwy rym a wnaeth Iesu. Cynnig cymod ac adferiad gyda Duw y mae ef a hynny yn sail i gymod rhwng dynion. Yn ail, perygl arall a syrthiodd yr eglwys iddo yn ystod yr ugeinfed ganrif oedd meddwl mai achub eneidiau yn unig yw ei phwrpas. Darluniwyd y cenhadwr yn eistedd o dan y balmwydden a’r brodorion o’i amgylch yn gwrando arno. Yn 1886 dywedodd R. N. Cust fod holl arian y genhadaeth yn cael ei gasglu i un pwrpas yn unig, sef, i achub eneidiau. Nid oedd pob un mor eithafol ag ef ac anfonwyd llawer allan i’r maes cenhadol yn athrawon a meddygon. Hyd yn oed wedyn yn amlach na pheidio y cymhelliad sylfaenol oedd ennill pobl i Grist. Nid oedd yr addysg neu’r meddyginiaethu ond llwyfan i gyflwyno’r Efengyl. (Gweler Klaas Runia, “The Church’s Mission Today,” International Reformed Bulletin, 51, 1972 tt 2-13).

Page 6: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

6

IESU – UNIG FFYNHONNELL IACHAWDWRIAETH Gwnaeth Iesu fwy na chyhoeddi’r Deyrnas – ynddo ef daeth yn agos ac i’w chyflawniad. Ni ellir gwahanu’r Deyrnas oddi wrth Iesu. Pe baem yn gwneud hynny nid Teyrnas Dduw yr ydym yn gweithio drosti ond iwtopia ddaearol. Yng ngeiriau Fatican II: “Amlygwyd y Deyrnas ym mherson Crist ei hun, Mab Duw a Mab y Dyn, a ddaeth i weini a rhoi ei einioes yn bridwerth dros lawer” (Ioan Paul II, op cit. t 14). Mewn geiriau eraill, nid theori neu athrawiaeth neu raglen wleidyddol yw, ond person yr Arglwydd Iesu Grist ei hun. Ef yw drws mynediad i’r Deyrnas, ef yw’r allwedd i’r drws, ef yw’r ffordd at y drws, ac ef yw’r map i’r ffordd! Yn Efengyl Ioan cais Thomas gael fformiwla gyfleus i ddod â’r Deyrnas i’n byd. “Na”, meddai Iesu, ac mewn un o’r gosodiadau mwyaf chwyldroadol yn yr holl efengyl dywed: “MYFI yw’r ffordd, y gwirionedd, a’r bywyd” (Ioan 14:6). Lle mae Iesu’n bresennol fe geir y wir eglwys, a rhywbeth mwy na hynny, yno mae’r Deyrnas yn ei holl ehangder. Undod â Christ yw sail yr iachawdwriaeth hon. “Rwy’n gweddïo ar iddynt oll fod yn un, ie, fel yr wyt ti, O Dad, ynof fi a minnau ynot ti, IDDYNT HWY HEFYD FOD YNOM NI….” (Ioan 17). Walter Cradock yn un o’i bregethau grymus sy’n mynegi’r gwirionedd hwn yn y darlun trawiadol hwn: “Y mae’r dyn dan gyfraith fel un mewn cwch yn sownd yn y tywod ac er i dyrfa dynnu o’r lan nid yw’n symud. Eto, mae’r sawl sydd yng Nghrist fel gŵr yn codi hwyl a’r llanw yn ei godi a’r gwynt yn ei yrru” (Works of W.C., Chester 1800, td, 49). Ni cheir gwell mynegiant o’r undod hwn rhwng y credadun a Christ na geiriau Thomas Cranmer yn y Llyfr Gweddi Gyffredin, y weddi “Humble Access” sy’n diweddu gyda’r geiriau: fel y trigom byth ynddo ef, ac yntau ynom ninnau. (that we may evermore dwell in him, and he in us.) Y mae’r T.N. yn gwbl eglur nad oes iachawdwriaeth yn neb arall ond yn yr Arglwydd Iesu Grist. Gweler Actau 4:12, “Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall, oblegid nid oes enw arall o dan y nef, wedi ei roi i ddynion, y mae i ni gael ein hachub drwyddo.” Y mae Paul yr un mor eglur â Phedr: “Oherwydd hyd yn oed os oes rhai a elwir yn dduwiau, naill ai yn y nef neu ar y ddaear – fel yn wir y mae “duwiau” lawer ac “arglwyddi” lawer – eto, i ni, UN DUW SYDD, ffynhonnell pob peth, a diben ein bod; ac UN ARGLWYDD IESU GRIST – cyfrwng pob peth, a chyfrwng ein bywyd ni” (1 Cor 8: 5,6,). Pwysleisir UN DUW AC UN ARGLWYDD gan yr apostol mewn gwrthgyferbyniad i gredo gyffredin y ganrif gyntaf mewn llu o “dduwiau” ac “arglwyddi”. Adweithio i amldduwiaeth ei oes mae Paul gan bwysleisio’r gred Gristionogol mewn un Duw, ac un Arglwydd anfonedig. Crist yw’r unig gyfryngwr rhwng Duw a dyn a dim ond trwy ffydd yn ei enw ef, cael ein huno ag ef, y down yn gyfrannog o’r iachawdwriaeth. Y mae llawer heb glywed am Iesu eto a thasg yr eglwys yw cyhoeddi ar led swm a sylwedd yr efengyl fawr hon. Rhoi mynegiant i Arglwyddiaeth Crist dros fywyd yn ei gyfanrwydd yw tasg y Cristion a’r Eglwys. I grynhoi, dyma eiriau arwyddocaol Joachim Jeremias yn Jesus’ Promise to the Nations, SCM, 1967, tt 74-5:

Page 7: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

7

Y mae’r dasg genhadol wedi ei gwreiddio yng ngweithgarwch Duw ei hun. Yn nywediadau Iesu am y cenedl-ddynion gwelir: 1. pwyslais enfawr ar ostyngeiddrwydd. Ni all dyn wneud dim. Nid ein pregethu sy’n dod â’r cenhedloedd i mewn … Duw yn unig sy’n gwneud hynny. Yr unig beth y gellir bod yn sicr ohono yw realiti Duw ac ehangder ei drugaredd. 2. Datguddiad o bwysigrwydd y dasg genhadol. Gyda’r Pasg daeth y Dydd Diwethaf … Y mae’r genhadaeth i’r cenhedloedd yn arwydd ac yn flaenffrwyth o’r cyflawniad terfynol hwnnw… Yr arwydd eschatolegol yn cael ei chyflawni. Gallwn gydweithio â Duw yn yr awr dyngedfennol y sonnir amdani yn Es 25: y Cenhedloedd yn cael eu derbyn gerbron bwrdd y Wledd (ad6), heb orchudd am eu llygaid (ad7), a marwolaeth wedi ei drechu am byth (ad8).

Page 8: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

8

2 : YR EGLWYS LEOL Yn wyneb y ffaith fod holl nodau’r Eglwys yn bresennol yn y gymuned leol sy’n cyfarfod yn enw Crist ac o dan ei arglwyddiaeth, y cyfrwng arferol, mwyaf naturiol a mwyaf ffrwythlon i gyfranogi yng nghenhadaeth Duw yn y byd yw’r eglwys leol. Hi sydd yn ceisio rhoi mynegiant ymarferol i arglwyddiaeth Crist yn y gymdogaeth honno. Grym y Deyrnas ar waith a welir pan gafodd yr eglwys gyntaf ei sefydlu (Actau’r Apostolion). Eglwys oedd yn cyfarfod yn y Deml ac yn nhai ei gilydd i gael eu dysgu, i addoli, i gael cymdeithas (Koinonia), yn y torri bara, yn y gweddiau ac yn rhannu eu heiddo i bob un yn ôl eu hangen (Act 2:42-47 a 4:32-37). Nid arbrawf mewn comwinyddiaeth fel y mae rhai wedi awgrymu ond tystiolaeth i rym Teyrnas Dduw ar waith ydoedd. Cymunedau ffydd sy’n tystio trwy eu bywydau, eu gweithredoedd, eu geiriau a’u haddoliad i arglwyddiaeth Duw yn y byd y dylai’r eglwysi lleol fod. Yn wyneb hyn ni ddylid ceisio adeiladu peirianwaith neu strwythur newydd i ofalu am waith cenhadol yr eglwys neu enwad. Ni ddylid meddwl am Efengylu ychwaith yn nhermau mynd allan i brynu pecyn D I Y mewn cenhadu. Y mae’r strwythur angenrheidiol eisoes yn bod ymhob cymuned, fach neu fawr, lle cydnabyddir arglwyddiaeth Crist. Yn wir, byddai unrhyw blaid wleidyddol yn llawn eiddigedd o’r adnoddau mewn adeiladau a phobl sydd gan yr eglwys at ei gwasanaeth. Mewn cynhadledd yn Aberystwyth yn ystod Haf 1991 dywedodd Michael Green wrthym mai’r dasg gyntaf i’w chyflawni mewn cenhadaeth yng Nghymru yw nid gwahodd yr efengylwyr torfol mawr fel Billy Graham a Luis Palau atom ond gweddïo ar i’r Ysbryd Glân agor geneuau y bobl gyffredin sy’n eistedd yn seti ein heglwysi o Sul i Sul a’u troi yn genhadon a thystion i Grist. NODWEDDION YR EGLWYS LEOL Yng Nghymru fel mewn mannau eraill yn y Gorllewin edwino mae’r eglwysi Cristnogol. Mewn rhannau eraill yn y byd gwelir cynnydd aruthrol. Y mae dilynwyr ysgol “Church Growth”, fel Donald McGavran, Peter Wagner ac Eddie Gibbs a Glenn Smith wedi gwneud llawer o ymchwil i’r maes hwn – yr olaf ohonynt mewn tair cyfrol o dan y teitl, Evangelising Adults, Evangelising Youth, Evangelising Blacks a gyhoeddir gan Paulist Press a Tyndale Press. Mae cyfrol Eddie Gibbs, I Believe in Church Growth, Hodder, yn llawn enghreifftiau diddorol. Ychwanegwyd at y maes gan Marc Europe gyda’r cyfrolau Ten Growing Churches, Ten Worshipping Churches, Ten Sending Churches. Y mae’r darlun a grëir ynddynt yn rhyfeddol o unol am y modd y mae’r eglwysi nid yn unig wedi cynyddu mewn rhifau ac mewn dyfnder ysbrydol, bywyd a chenhadaeth. Ond yn hytrach nac edrych ar yr enghreifftiau hyn mwy buddiol fyddai edrych ar un eglwys yn y TN – Eglwys Antiochia. Ceir hanes yr eglwys honno yn yr Actau penodau 11:9–30 a 13:1-3. Dinas a phorthladd wrth aber afon Orontes. Dim ond dwy ddinas oedd yn fyw na hi o ran maint, Rhufain ac Alecsandria.

Page 9: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

9

Yr oedd yn ganolfan filwrol o bwys ac yn dref fasnach. Yn wir, ar lawer cyfri yn ddinas fodern iawn. Oddi yno a dechreuwyd y genhadaeth i Ewrop a’r byd. Yno y galwyd disgyblion Iesu wrth yr enw Cristionogion gyntaf (11:26). SEFYDLU’R EGLWYS Oherwydd ei bod yn ddinas mor bwysig gellid tybio i’r eglwys gael ei sefydlu gan un o’r cewri o blith yr apostolion, rhyw Pedr neu Paul. Ond nid felly yn ôl y wybodaeth a gyflëir yn yr Actau. Sefydlwyd hi gan ffoaduriaid o Jerwsalem yn dilyn merthyrdod Steffan. Helenistiaid oeddent wedi eu magu yn yr iaith Roeg a’i diwylliant ac oes oeddent yn ddilynwyr Steffan diau iddynt ei glywed yn pregethu. Yn ei bregeth fawr Actau 7 gwelodd Steffan y Cristionogion fel yr Israel newydd, pobl etholedig yr Arglwydd. Ymhlith pobl o’r un diwylliant a hwy y dechreuasant genhadu. Pobl gyffredin oeddent felly, ond er hynny, yn bobl oedd yn barod i newid pethau. Erlidiwyd y rhain o Jerwsalem er bod eraill o’r apostolion, rhai mwy traddodiadol eu golygon fel Pedr, yn cael aros mewn tawelwch. Pobl oedd yn barod i newid pethau oeddem ninnau fel eglwysi Diwygiedig ar un adeg. Nid eglwysi wedi ein diwygio unwaith-ac-am-byth yr ydym ond “ecclesia reformata et semper reformanda” (yr eglwys ddiwygiedig yw’r eglwys honno sy’n wastad yn agored i’w diwygio). Tybed a aethom yn rhy debyg i Pedr a chynheiliaid y traddodiad yn Jerwsalem? Tybed a ydym ni yn barod i gael ein diwygio neu a ydym am lynu’n haearnaidd wrth y ffurfiau addoli sydd gennym? Dyma eglwys a sefydlwyd gan wŷr a gwragedd cyffredin nid gan glerigwyr o unrhyw fath – na gweinidogion, offeiriadon ac apostolion. Pobl gyffredin yn llawn argyhoeddiad a ffydd. Er i ni fel Ymneilltuwyr arddel offeiriadaeth yr holl saint, yn ymarferol, fodd bynnag, cyfyngir gweinidogaeth yn ein heglwysi i un gŵr. Disgwylir i’r gweinidog fod a’i fys ymhob brywes, yn wir, does dim byd yn digwydd os nad yw ef yno. O’i amgylch ef y mae’r eglwys yn troi. Nid yw hynny yn llesol iddo ef nac i’w braidd. Fel dywed James M. Mays yn Interpretation 1960: “All too often the minister in this predicament is captured by despair because of all the wonderful things he does do.” Mae’n rhaid rhoi lle mwy blaenllaw i arweiniad ein haelodau cyffredin. Mae pob aelod yn weinidog i Grist ac fe’n galwyd i weini ar ein gilydd! Eglwys oedd yn agored i Ffydd Yr oedd toreth o broblemau yn wynebu y gymuned fechan hon yn Antiochia – tlodi, diffyg addysg, hilyddiaeth, anfoesoldeb. Er gwaethaf, pob rhwystr trwy eu ffydd yn Nuw cawsant oruchafiaeth. Fel rhai yn gweld yr anweledig cawsant nerth i ddyfalbarhau. Mae hanes Cristionogaeth yn llawn o bobl gyffelyb. Yr oedd yn sicr o’i neges “Gan gyhoeddi’r newydd da am yr Arglwydd Iesu”. Dim ymdeimlad o gywilydd ymhlith y rhain! Nid oedd cyfyngu’r neges ychwaith. Er bod digon o Iddewon yn Antiochia, eto ni allai’r rhain ymatal rhag sôn wrth y Groegiaid hefyd (Act 11:20). Dyma enghraifft o’r hyn y soniodd Paul amdano yn ei lythyr at y Thesaloniaid, y sôn wedi mynd ar led am “weithgarwch eich ffydd, a llafur eich cariad, a’r dyfalbarhad sy’n tarddu o’ch gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist” (1 Thes. 1:3b).

Page 10: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

10

Yn anffodus, mewn llawer o’n heglwysi, prin y clywir enw’r Iesu yn cael ei yngan a phan wneir crëir rhyw “embarrass”. Mae hyn yn drueni oherwydd beth sy’n fwy naturiol i bobl na siarad a chlebran am wrthrych eu ffydd a’u serch. Yr oedd yn agored i dderbyn hyfforddiant Anfonwyd Barnabas o Jerwsalem i weld beth oedd yn digwydd yno ac wedi cyrraedd llawenhawyd ef gan yr olygfa ac i ffwrdd o fo i gyrchu Saul o Darsis i’w helpu gyda’r gwaith o hyfforddi. Buont yno am flwyddyn gyfan gyda’r dyrfa fawr. Dirywiodd ein hagwedd ni tuag at waith addysgol yr eglwys yn enbyd yn ystod yr hanner canrif diwethaf. Er bod mwy o adnoddau ar gael i ddeall ac astudio’r Beibl nac erioed, eto aethom yn llesg iawn wrth hyfforddi. Peidiodd dosbarth oedolion a chyfarfod yn ein hysgolion Sul, a pheidiodd yr ysgol Sul mewn llawer lle. Am ryw reswm od aethpwyd i gredu unwaith fod rhywun yn dod yn gyflawn aelod nad oes angen mwy o hyfforddiant arno am ei oes! Mae angen trwytho eto yn y Beibl trwy gyfrwng astudiaeth Feiblaidd bersonol ac mewn grwpiau. Does dim rhaid cyfarfod mewn capeli i wneud hynny. Beth am gyfarfod yn nhai ein gilydd? Mae angen hyfforddi rhai ar gyfer tasgau arbennig yn ogystal, fel addysgu ac efengylu. Felly gwnaeth eglwys Antiochia. Paratowyd rhai o’i hieuenctid yn y gwaith. Aeth Paul a Barnabas a’r gŵr ifanc Ioan Marc gyda hwy ar y daith. Eglwys lle mae cariad yn weithredol Heb feddwl ddwywaith anfonwyd cyfraniadau i helpu’r anghenus yn Jwdea. Mae eglwysi sy’n estyn allan i gyfarfod anghenion eraill yn eu cymdeithas yn eglwysi byw (a diolch am hynny!). Ond os byw iddynt eu hunain y maent yna marw fyddant. Agored i gael eu harwain gan ragor nac un Ar ddechrau pennod 13 rhestrir nifer o’r arweinwyr. Criw amrywiol iawn oeddent. Daeth Barnabas o Gyprus, Manaen o Jerwsalem, Saul o Tarsus, Lucius o Gyrene yng Ngogledd Affrica, Simeon yn ddyn du ei groen o rywle yn Nwyrain Affrica. Yr hyn sy’n bwysig i’w gofio yma yw nad oedd neb ohonynt yn gweinidogaethu heb dderbyn gweinidogaeth eu hunain. Gwelir hefyd fod yma “broffwydi ac athrawon”, dau ddosbarth fyddai’n ei chael yn anodd cydfyw. Proffwydi eisiau rhyddid llwyr wrth addoli, tra mynnai athrawon gadw trefn. Ond yn Antiochia ni chafwyd, hyd y gwyddom, unrhyw densiwn, gan fod y ddau ddosbarth yn cydweithio’n dangnefeddus. Yr oedd eu haddoliad yn ddeinamig

1. Yr oedd eu haddoli’n drefnus a difrifol, yn canoli ar yr Arglwydd Iesu. 2. Yn weddigar. ’Roedd lle amlwg i weddi yn eu plith. 3. Yr oedd yn ddisgwylgar. Disgwylient am arweiniad yr Ysbryd. 4. Yr oedd yn ufudd i ddatguddiad Duw.

Yr oedd yn eglwys oedd yn anfon O dan arweiniad yr Ysbryd Glân comisiynwyd Paul o Barnabas i fynd allan yn genhadon. Digwyddodd yr arweiniad mewn cwrdd gweddi ac fe’i comisiynwyd mewn cwrdd gweddi. Heb arweiniad a nerth yr Ysbryd nid oes genhadu.

Page 11: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

11

[Mae’r uchod yn seiliedig ar bennod 4 yng nghyfrol Michael Green, Evangelism Through the Local Church, Hodder, 1990 – gydag ychydig newidiadau]. SEFYLLFA’N HEGLWYSI Dameg: Amser maith yn ôl ar arfordir peryglus rhyw wlad lle roedd llongddrylliad yn digwydd yn aml caed cwt bach diolwg gydag un cwch achub ynddo. Ond yr oedd yno griw achub ymroddedig, yn peryglu eu bywydau ddydd a nos i achub bywydau oddi ar y llongau. Daeth yr orsaf fechan yn enwog oherwydd cymaint o bobl oedd yn cael eu hachub yno. Dymunai pobl eraill gysylltu eu hunain mewn rhyw ffordd neu’i gilydd â’r gwaith. Casglwyd arian mawr a hyfforddwyd criwiau eraill a phrynwyd cychod newydd. Cyn hir adeiladwyd canolfan hardd, helaethwyd yr adeilad a chafwyd dodrefn crand. Daeth yn boblogaidd fel lle i gyfarfod a dechreuwyd clwb. Gyda threigliad y blynyddoedd collodd yr aelodau bob diddordeb mewn achub bywydau a huriwyd criwiau o’r tu allan i wneud y gwaith. Tua’r adeg hon bu llongddrylliad enfawr a chludwyd llawer o’r cleifion i’r clwb a’u gosod ar y byrddau. ’Roedd yr aelodau’n anfodlon ac yn y cyfarfod nesaf o’r clwb mynegwyd yr anfodlonrwydd. Trwy fwyafrif pasiwyd eu bod yn atal yr holl waith achub bywydau am ei fod yn aflonyddu ar eu bywyd cymdeithasol. Aeth lleiafrif bychan oddi yno a dechrau gorsaf achub bywydau arall. Cyn hir aeth honno trwy’r un broses a’r orsaf gyntaf a sefydlwyd gorsaf newydd. Yr oedd hanes yn ailadrodd ei hun dro ar ôl tro. Yn y diwedd caed nifer o glybiau ar hyd yr arfordir. Caed llawer llongddrylliad hefyd, ond boddi wnâi’r rhan fwyaf o’r llongwyr. Pa fodd mae’r ddameg hon yn berthnasol i’n heglwysi heddiw? Un o’n peryglon pennaf yw meddwl am yr eglwys fel clwb ymhlith clybiau eraill. “Perygl ein dyddiau ni yng Nghymru yw gweld yr Eglwys yn mynd yn “ghetto” gysurus ar gyrion cymdeithas lle mae’r bobl orau’n cyfarfod y bobl orau” E. Pryce Jones, Her yr Athrawiaethau, Anerchiad Llywydd Undeb yr Annibynwyr, 1980 td 15. GALWAD YR EGLWYS LEOL Peter Wagner yn ei gyfrol, Frontiers in Missionary Strategy a nododd y tair “P” angenrheidiol mewn cenhadu – “presence, proclamation and persuasion” (t 134). Ategir hynny gan the Lausanne Covenant parag 4, “Our Christian presence in the world is indispensable to evangelism”. Yn ôl Efengyl Marc mae’r efengyl yn dechrau pan ddaw Iesu ei hun i Galilea (Mc 1:14-15). Ei bresenoldeb ef yw amod y newydd

Page 12: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

12

da nid yn unig ei bregethu na’i weithredoedd. “Myfi yw’r ffordd, a’r gwirionedd a’r bywyd”. Trwy rym yr Ysbryd Glan mae’r Iesu yn bresennol ymhlith ei bobl. Y mae’r eglwys leol felly yn tystio i bresenoldeb byw Iesu Grist yn ei chanol. Nid yn barhad o’r ymgnawdoliad fel myn rhai uchel-eglwyswyr ddweud (L. S. Thornton, The Common Life in the Body of Christ). Rhaid i’r Eglwys leol ddangos y presenoldeb hwn, rhaid iddi ei gyhoeddi yn eglur a rhaid iddi ei fyw yn y gymdogaeth. Gwna hynny yn ei haddoliad, yn ei sacramentau, yn ei gweddi, yn ei gweithredoedd ac yn ei gwasanaeth. Y GYMDOGAETH LEOL Nid drwg o beth fyddai i eglwys leol gynnal arolwg o’i bywyd ei hun bob 5-10 mlynedd. Priodol fyddai cynnal arolwg o’r gymdogaeth hefyd bob 10 mlynedd. Dyma’r math o gwestiynau y gellid eu gofyn:

1. Sut bobl sy’n byw yn yr ardal? Eu cenedl, crefydd, diwylliant, gwaith? Ai teuluoedd, neu byw ar ei pennau eu hunain, pensiynwyr, pobl ifanc? Beth yw anghenion cymdeithasol mwyaf yr ardal?

2. A oes ysgolion, colegau, cylchoedd meithrin? 3. Bywyd masnachol, busnes, ffatrïoedd. 4. Lle mae’r mwyafrif yn byw? 5. Ymhle maent yn hamddena? 6. Faint o gapeli ac eglwysi eraill sydd yna?

Yna gellid gofyn dau gwestiwn holl bwysig. Pa gysylltiad sydd gan yr eglwys leol a’r gymuned hon? Faint yw ei dylanwad arni? Dylai edrych yn fanwl arni ei hun yn ogystal. Dyma rhai cwestiynau y gellid eu gofyn. (Ceir mwy yn y pecyn defnyddiol “DILYN CENHADAETH”).

1. Yr adeilad. A yw’n groesawgar a chynnes ac yn bwrpasol i anghenion yr unfed ganrif ar hugain.

2. A yw’r aelodau’n croesawu ymwelwyr. 3. A yw’r gwasanaethau, trefn yr oedfaon, yr iaith, yr enymau, y canu, y

pregethu yn gyfryw i ddenu pobl at Frenin y Deyrnas. 4. A yw’r aelodau yn cael eu paratoi i genhadu? A yw’n mynegi patrwm y

TN o weinidogaeth yr holl saint? 5. A yw’r rhaglen wythnosol o weithgarwch cysylltiol mor llethol nes bo

bywyd teuluol yr aelodau’n dioddef? A yw holl ddoniau’r aelodau yn cael mynegiant?

Wedi’r 2 arolwg gellid trefnu hyfforddiant yn ôl yr angen a’r galw (gwel. “Evangelism Through the Local Church”, John Stott yn One Gospel – Many Clothes, gol Chris Wright a Chris Sugden, Regnum Books, 1990. Mae un peth yn amlwg, nod yr holl weithgarwch yw adnewyddu bywyd yr eglwys leol. Ni cheir cenhadu effeithiol heb wneud hynny. Yn y bon, wrth gwrs, gwaith yr Ysbryd ydyw, ond mae gennym ninnau ein rhan hefyd!

Page 13: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

13

3 : EFENGYLU

Ystyr hanfodol y gair “efengylu” (euangelizomai) yw “cludo neu gyhoeddi newyddion da”. Yr “efengyl” (euangelion) yw’r newyddion da a’r weithred o gyhoeddi a rhannu honno yw efengylu. Felly y mae Cyfamod Lausanne yn datgan:

Efengylu yw gwasgaru’r newyddion da fod Iesu Grist wedi marw dros ein pechodau ac wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw yn ôl yr Ysgrythurau, ac fel yr Arglwydd sy’n teyrnasu y mae’n cynnig maddeuant pechodau a rhodd yr Ysbryd i bawb sy’n edifarhau ac yn credu (John Stott, Lausanne Covenant: An Exposition and Commentary, Minneapolis 1975, t 20).

Er y gellir dehongli efengylu mewn ystyr eang a chynnwys holl waith yr eglwys eto, y safbwynt traddodiadol yw mai trwy gyhoeddiad geiriol o’r newyddion da y digwydd efengylu. Ni ddylid cymysgu agweddau eraill megis gweithredoedd da neu addysgu gyda’r gwaith penodol hwn. Cadarnhawyd hyn gan gyfrol arloesol C. H. Dodd, The Apostolic Preaching and its Developments, 1936, lle y llwyddodd i wahaniaethu rhwng dau beth ym mhregethu a bywyd yr eglwys fore, sef, y kerygma neu’r cyhoeddiad o’r newyddion da, a’r didache, yr addysgu yn y ffydd.

Gair o’r ganrif ddiwethaf, fodd bynnag, yw “efengylwr”. I bob pwrpas am bedair canrif ar bymtheg cyfyngwyd y gair i ddisgrifio’r pedwar efengylydd sydd yn y TN ond yn y ganrif ddiwethaf adferwyd ystyr wreiddiol y gair yn y TN, mai un sy’n cyhoeddi’r newyddion da yw efengylwr. Felly, cafwyd cynnydd mawr yn y bobl sy’n ystyried eu hunain yn efengylwyr torfol. Rhan o’r un patrwm yw’r “telly-evangelists” yn yr America.

Er i’r pwyslais hwn fod yn dra gwerthfawr ac yn gyfrwng i adfer y wedd bwysig hon ar dystiolaeth Cristionogion, eto, wrth gyfyngu efengylu yn unig i’r cyhoeddiad geiriol o’r efengyl collwyd golwg o’r amrywiaeth cyfoethog sydd i’w gael yn y TN. Yn anffodus fe’n cyflyrwyd i feddwl am efengylwyr fel pregethwyr teithiol yn cyhoeddi’r neges o le i le. Ond wrth edrych ar y darlun o waith yr apostol Philip yn yr 8fed bennod o’r Actau gwelir amrywiaeth mawr o gyfrifoldebau. Nid yn unig y mae’n cyhoeddi’r newyddion da ond mae’n iacháu a bwrw allan gythreuliaid, bedyddio a hyfforddi. Y mae’r Comisiwn Mawr (Math 28: 18-20) yn rhoi’r pwyslais nid yn gymaint ar y cyhoeddi ond ar wneud disgyblion, bedyddio a dysgu. Cadarnheir hyn gan ddarn gwefreiddiol o eiddo Eusebius, Hanes yr Eglwys, 3:37.2:

Very many of the disciples of that age whose hearts had been ravished by the divine word with a burning love of philosophy [Christianity] first fulfilled the command of the Saviour and divided their goods among the needy. Then they set out on long journeys, doing the work of evangelists, eagerly striving to preach Christ to those who had never heard the word of faith, and to deliver them the holy gospels. In foreign lands they simply laid the foundations of the faith. That done they appointed others as shepherds, entrusting them with the care of the new growth, while they themselves proceeded with the grace and co-operation of God to other countries and other places.

Page 14: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

14

Dyma ddarlun byw iawn o waith yr efengylwyr cynnar a gwelir fod ystod eu cyfrifoldebau yn ehangach na dim ond cyhoeddi’r efengyl. ’Roedd iddynt ran amlwg yn yr hyfforddi a’r adeiladu yn ogystal. Cadarnheir hyn ymhellach gan brofiad John Wesley. Ym 1745 penderfynodd ef a’i gydweithwyr bregethu’r efengyl ymhobman hyd yn oed lle nad oedd seiadau i’w cael i gynnig hyfforddiant i’r dychweledigion. Ond ym 1748 gwyrdrowyd y penderfyniad a gwrthodwyd pregethu mewn mannau lle na ellid darparu hyfforddiant a chymdeithas i’r rhai oedd yn ymateb. (Minutes of the Methodist Conferences Llundain: John Mason 1862, td 39). Gwaith yr eglwys yn ddiau yw efengylu.

Yn wyneb y feirniadaeth ddilys hon ar y safbwynt traddodiadol ynglyn ag efengylu ceisiodd William Abraham, The Logic of Evangelism, Hodder 1989, ddadlau fod angen ail edrych arno yng ngoleuni dysgeidiaeth y TN am y Deyrnas. Dadleuir fod efengylu yn waith neilltuol a gwahanol i weinidogaethau eraill oddi mewn i’r eglwys. Gwahanol i recriwtio aelodau neu hyfforddi neu waith cymdeithasol. Rhaid i efengylu ganoli ar gyflwyno hanfodion y neges yng nghyd-destun yr oes a hynny yn broffwydol a phersonol gan alw ar bawb i edifeirwch a thröedigaeth. Bydd y neges yn canoli felly ar ddyfodiad teyrnas Dduw a grym yr Ysbryd Glân yn galluogi pobl i ymateb. Ond gwaith yr eglwys ydyw o hyd. Rhaid adfer efengylu i’w briod le yng ngweinidogaeth gyfan yr eglwys ac oddi wrth yr unigolyddiaeth afiach sy’n nodweddu cymaint o efengylu presennol. “…we enrich our conception of evangelism to include the vital first phases of initiation into the kingdom of God” (Abraham, op. cit. td 69).

GALWAD I EDIFEIRWCH Galwad sylfaenol efengylu yw’r alwad i edifeirwch. “Edifarhewch a chredwch yr efengyl” meddai Iesu. Nid yn unig y mae’n golygu bod yn edifar am ein drygioni ond mae’n cynnwys troad hanfodol yn ein ffordd o fyw. Troi o rodio i un cyfeiriad i gerdded i gyfeiriad newydd. Chwyldro mewn bywyd. John Wesley sy’n cyfleu yr alwad hon yn y darlun grymus hwn. “Beth yw efengylu? Y mae fel dod i mewn i dy. Y ty yw sancteiddrwydd; caru Duw a’n holl galon a charu’n cymydog fel ni ein hunain. I ddod i mewn i’r ty rhaid cerdded trwy’r porth, sef, edifeirwch a ffydd”. Pwysleisiodd Wesley fod y porth yn gul a chyfyng ac felly yn gaw am ostyngeiddrwydd i fynd trwyddo.

Y mae’r gair Groeg gwreiddiol am edifeirwch (metanoia) yn golygu “newid meddwl.” Newid sydd mor sylfaenol fel na ellir ond ei ddisgrifio fel chwyldro yn ein holl ffordd o fyw. Nid digwyddiad unwaith-ac-am-byth yw edifeirwch, ond y mae yn waith oes. Y mae iddo agwedd gymdeithasol hefyd. Cam â syniad y TN am edifeirwch yw ei gyfyngu i’r cylch personol yn unig. Nodir yn Y Tyst td 5, Mawrth 5 1992, y duedd gan un garfan Efengylaidd i gyfyngu’r alwad i edifeirwch i un peth yn unig, sef, achub dyn o’i bechod er mwyn iddo osgoi condemniad tragwyddol. “Crebachiad ar ddysgeidiaeth y Gair yw cyfyngu cenhadaeth i achub eneidiau. Y mae gorwelion cenhadaeth gyfled a bwriadau Duw ar gyfer ei holl greadigaeth yng Nghrist”. Wrth ganoli ar ddyn yn unig cyfyngir ar ehangder yr achubiaeth yng Nghrist.

Page 15: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

15

Nid hynny yn unig sy’n cael ei wyrdroi yn y safbwynt hwn. Wrth gyfyngu’r waredigaeth i achub eneidiau yn unig anwybyddir grymuster ofnadwy gafael y drwg ar ein byd. Nid rhywbeth i’w garthu allan o galon dyn yn unig yw’r drwg ond y mae’n llawer mwy na hynny. Y mae’r “holl fyd yn gorwedd yng ngafael yr un drwg” (Ioan 5:19). Y mae’r byd i gyd yn nwylo’r tywysogaethau a’r awdurdodau gelyniaethus i Dduw. Cyflwr gwrthrychol yw pechod sy’n cyflyru dynion a merched i gyflawni pechodau. Hanfod pob pechod yw’r celwydd (“Byddwch megis Duwiau” – Gen 3:5), ac y mae’n tarddu oddi wrth y diafol, “tad pob celwyddau” (Ioan 8:44).

Sin …..is a social and even a cosmic rather than merely an individual problem. Personal sins – those that according to Jesus come ‘from within, out of the heart of man’ (Marc 7:21-2) – are the echo of a voice that comes from the creation, the creation that ‘was subjected to futility’ and that will be ‘set free from its bondage to decay’” (Rhuf 8:20-21) (Rene Padilla, Mission Between the Times, td 7).

Yn ein hoes ni uniaethir arwyddion diafolaidd gyda’r ocwlt yn unig ac fel canlyniad collwyd golwg ar natur demonig y byd ysbrydol sy’n cyflyru dyn.

The individualistic concept of redemption is the theological consequence of an individualistic concept of sin that ignores ‘all that is in the world’ (not simply in the heart of man) – namely, ‘the lust of the flesh and the lust of the eyes and the pride of life’ (I John 2:15-16). In one word it ignores the reality of materialism, which is to say the absolutization of the present age in all it offers – consumer goods, money, political power, philosophy, science, social class, race, nationality, sex, religion, tradition, and so on …….. the Great Lie that man derives his meaning from ‘being like God’ in independence from God (Mission Between the Times, Rene Padilla, td 7).

Tristwch dyn yw nid ei fod yn cyflawni pechodau unigol ond ei fod wedi ei garcharu oddi mewn i sustem gauedig o wrthryfel yn erbyn Duw. Cyflwr yw pechod. Ni ellir efengylu heb gyfeirio’n benodol at ymwneud dyn a’r byd drwg hwn. Yn sicr, nid yn ei allu ei hun y mae nerth yr efengylwr yn gorwedd ond fel dywed Paul “nid â dynion yr ydym yn yr afael, ond â thywysogaethau ac awdurdodau, â llywodraethwyr tywyllwch y byd hwn, â phwerau ysbrydol drygionus yn y nefoedd” (Effes 6:12). Mae angen adnoddau Ysbryd Duw ei hun i’r ymdrech hon gan rymused y drwg.

To evangelize, then, is not to offer an experience of freedom from feelings of guilt, as if Christ were a super-psychiatrist and his saving power could be separated from his Lordship. To evangelize is to proclaim Christ Jesus as Lord and Saviour, by whose work man is delivered from both the guilt and the power of sin and integrated into God’s plans to put all things under the rule of Christ (Rene Padilla, op. cit. td10).

Nid oes efengylu heb yr alwad sylfaenol hon i edifeirwch a throi at Dduw am fywyd. Torrodd grym Teyrnas Dduw i mewn i’r byd drwg ym mherson Iesu. Dangosodd Duw ei fwriad a’i gynllun i ddarostwng pob peth o dan draed Crist. Y mae galluoedd

Page 16: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

16

y tywyllwch wedi eu trechu. Yma, yn awr, mewn undeb â Christ, gall dyn brofi bendithion yr oes newydd. Y mae edifeirwch gan hynny yn fwy na rhywbeth preifat rhwng dyn a Duw. Y mae’n golygu chwyldro ym mywyd y byd. Os nad yw efengylu yn cymryd edifeirwch o ddifrif, nid yw o ddifrif am y byd nac am Dduw. Nid galwad i geidwadaeth gymdeithasol yw efengylu nac i gymryd dyn allan o’r byd. I’r gwrthwyneb, y dasg yw rhoi dyn yn ôl yn y byd nid fel caethwas ond fel mab Duw.

Gan fod Crist yn Arglwydd y Cread cyfan rhaid lledaenu ei awdurdod dros holl agweddau ar fywyd. Y mae’n dasg cwbl angenrheidiol ymhob eglwys ac ymhob diwylliant. Casglu a gwreiddio pobl yn y deyrnas yw’r nod ac am hynny nid yw’n wrthgyferbyniol i weinidogaethau eraill yr eglwys.

Page 17: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

17

4 : DULLIAU EFENGYLU

Wrth drafod pa ddulliau efengylu sy’n addas i’r oes hon mewn cyfarfod o Henaduriaeth Môn rywdro dywedodd un gweinidog profiadol rywbeth fel hyn: “Pan roeddwn yn dal cwningod ers talwm, cuddio’r trapiau fyddwn i.” Ar un ystyr trafodaeth ddiangen yw hon oherwydd os yw’r eglwys yn gwneud ei gwaith y mae’n siwr o efengylu. Nid yw trafodaeth ar ddulliau o gymorth i neb os nad yw ei galon wedi ei gynhesu gan yr efengyl ac os nad oes ganddo syched am ennill pobl i Grist. “Dilynwch fi ac fe’ch gwnaf yn bysgotwyr dynion”, meddai Iesu. Ar y “dilyn fi” y mae’r pwyslais dechreuol, fel canlyniad i hynny daw’r sêl o efengylu. Fel dywed David Wells yn ei lyfr God the Evangelist yr Ysbryd Glân yw awdur efengylu, ef sy’n ei symbylu ac ef sy’n ei grymuso. Mae’r dulliau yn amrywiol a niferus fel y gwelir wrth edrych ar fywyd a gweinidogaeth Iesu ei hun.

Yn ddiamheuaeth Iesu Grist ei hun yw patrwm ein hefengylu. “Fel mae’r Tad wedi fy anfon i, yr wyf innau yn eich anfon chwi” (Ioan 20:21). Wrth bwysleisio’r “fel” gwelir bod Iesu ei hunan yn rhoi patrwm i’w ddisgyblion gyflawni cenhadaeth Duw yn y byd. Yn ychwanegol at y pethau y sylwyd arnynt yn y ddarlith flaenorol dyma ychydig yn rhagor.

i) Y mae’r Iesu yn anfon ei ddisgyblion yn ei bresenoldeb. “Yr wyf fi gyda

chwi bob amser hyd ddiwedd y byd” (Math 28). Fel yr anfonwyd ef oddi wrth y Tad, y mae ef yn ein hanfon ninnau. Y oedd ganddo ef gymundeb agos a’r Tad, “Myfi a’r Tad un ydym.” Daliai Iesu gymundeb agos â’r Tad gan neilltuo i’r mannau unig i weddïo arno. I efengylu mae gweddi yn anhepgorol. Mae llawer ohonom yn brofiadol ar gyrddau gweddi lle ’roedd yr ymbil yn daer am adnewyddiad ysbrydol yn ein gwlad. Eto, ychydig o ewyllys i weithredu’r gweddïau a gafwyd. Ni yw gweithredwyr gorau ein gweddïau ac os ydym yn gweddïo ar i Dduw adnewyddu ei waith yn ein mysg rhaid i ni fod yn barod i roi ein hunain yn ei law wrth iddo gyflawni ei bwrpas. Yr adeg honno ni ddylem bryderu am beth i’w lefaru na beth i’w ddweud gan fe rydd yr Ysbryd Glân ei adnoddau inni fel yr addawodd Iesu (Luc 12:11-12).

Duw yw’r Cyfathrebwr ac ef ei hun yw’r hyn a gyfathrebir. Rhoes Iesu addewid ei nerth a’i bresenoldeb i’r rhai a aiff i’r holl fyd i wneud disgyblion yn ei enw ef (Michael Green Evangelism Through the Local Chruch, t 265).

ii) Dathlu ei bresenoldeb. Un anghenrhaid i ni fel Cristionogion heddiw yw

adfer yr ymdeimlad o ddathlu yn ein hoedfaon. Dod ynghyd i ddathlu presenoldeb byw yr Arglwydd Iesu Grist yw ein diben a dylai ein haddoliad, ein gweddïau, ein pregethu, ein hemynau, i gyd adlewyrchu hynny. Edrydd Reuben Alves, diwinydd o America Ladin, stori dreiddgar am geiliog balch a hunanbwysig a ystyriai ei hun yn frenin y buarth am y rheswm mai ei gân ef a barai i’r haul godi bob dydd. Rhyw fore, fodd

Page 18: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

18

bynnag, dihunodd yr hen frawd yn hwyr ac i’w syndod yr oedd yr haul wedi hen godi. Ni wyddai ymhle i dangos ei hun gan gymaint ei gywilydd. Bu mewn stad o sioc fel hyn am fisoedd lawer. Un bore, clywodd yr ieir a’r anifeiliaid eraill glochdar brwd yr hen geiliog ar doriad y dydd. Os rhywbeth, yn canu’n uwch ac yn well nac erioed. Wedi rhedeg ato a gofyn pam ei fod wedi penderfynu canu, atebodd, “os nad fy nghân i oedd y peri iddi wawrio, yna fe wnai yr unig beth y gallaf ei wneud, sef, CANU I DDATHLU DYFODIAD Y DYDD.” Mae mwy i’r stori hon nac a dybiwn. Ym marn Alves darlun o’r eglwys yw’r ceiliog. Eglwys wedi colli ei dylanwad a’i phwysigrwydd ac yn rhyw fynd o amgylch y buarth a’i phen yn ei phlu. Wedi colli’r ymdeimlad fod ei Harglwydd gyda hi. Ond wrth adfer y dathlu hwn gall hithau ganu eto a thystio i fawredd yr Hwn sydd yn ei chanol.

iii) Gwasanaeth costus. “Dangosodd iddynt ei ddwylo a’i ystlys” (Ioan

20:20). Ffordd y Groes a droediodd Iesu a geilw ar bob un sy’n dymuno bod yn ddisgybl iddo i godi’r groes a’i ganlyn ef. Yn hanes Cristionogaeth cafwyd llawer enghraifft o bobl a gysegrodd eu bywydau i ddilyn y ffordd hon. Dyna Vincent Sant yn gwerthu ei hun i wasanaeth er mwyn bod wrth ochr y caethweision yn y llongau (“galleys”) Rhufeinig i’w chwipio a’i daro fel pob un arall.

Geilw rhai y math hwn o efengylu yn efengylu anuniongyrchol. Y presenoldeb Cristionogol yn y byd ac yn y gymdeithas. Ond mae’n llawer rhy hawdd gor-bwysleisio’r gwahaniaeth a throi hwn yn esgus dros beidio ag efengylu trwy’n geiriau yn ogystal. Ni wyddai Iesu am y rhwyg hwn. “Yr oedd ei eiriau yn dehongli ei weithredoedd, a’i weithredoedd yn dilysu ei eiriau” (Lesslie Newbigin, The Good Shepherd, td62). Tystia Newbigin nad oedd wedi profi grym yr efengyl nes iddo ymweld â’r carchardy ym Madurai a siarad gyda’r carcharorion oedd wedi eu condemnio i farwolaeth. Meddai:

it is as we are truly present with our neighbours, bearing with them the sin and sorrow of the world, that we shall be in a position to point them to Jesus in such a way that they will recognise him as Saviour (ibid. td 62).

iv) Addasu. Gwelir fod Iesu a’i apostolion yn addasu eu cyflwyniad o’r neges i gwrdd â gwahanol amgylchiadau. Yr un oedd y neges ond nid yn yr un modd y cyflwynwyd hi bob tro. a) Wrth bregethu i Iddewon gallai’r apostolion gymryd yn ganiataol

bod eu gwrandawyr yn credu yn Nuw y Creawdwr a’r Cynhaliwr. Ar y sylfaen honno aent ymlaen i bregethu am fawrion weithredoedd Duw yn Iesu Grist.

b) Wrth bregethu i genedl-ddynion eto mae amrywiaeth o ddulliau. I wladwyr amaethyddol Lystra mae Paul yn dechrau trwy bwysleisio daioni Duw yn y Cread, yn anfon glaw a chnydau, bwyd a dedwyddwch (Actau 14:8-18). Ond wrth bregethu i ddysgedigion Athen mae’n dechrau yn eu byd hwy. Athroniaeth Stoicaidd ac

Page 19: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

19

Epicureaidd yw’r bont a ddefnyddiodd i gyflwyno’i neges (Act. 17).

Rhaid i efengylu gyfarfod pobl lle y maent. Rhaid gwrando’n astud ar bobl yn ein cymdeithas i ddeall eu rhagdybiaethau, eu diwylliant a’r iaith y maent yn ei ddefnyddio. Dywed David Sheppard yn yr Expositry Times cyf 102 rhif 5 tt 131-135, nad yw y rhelyw o bobl yn aeddfed i’w hefengylu. Geilw hynny am amynedd i gyfarfod pobl lle y maent yn ddiwylliannol i drafod eu syniadau digon dryslyd am Dduw. Yn ôl yr arolygon barn mae canran uchel o’r boblogaeth yn credu mewn rhyw fath o Dduw trosgynnol. Mae angen cymell pobl i gredu mewn Duw sy’n gweithredu ei bwrpas daionus yn y byd cyn dechrau efengylu medd Sheppard. Ni cheir gwell mynegiant o’r argyhoeddiad hwn yn unman nac yng ngeiriau Paul:

Oherwydd fy mod yn rhydd oddi wrth bawb, yr wyf wedi fy ngwneud fy hun yn gaethwas i bawb, er mwyn ennill rhagor ohonynt. I’r Iddewon euthum fel Iddew, er mwyn ennill Iddewon … i’r gweiniaid euthum yn wan, er mwyn ennill y gweiniaid. Yr wyf wedi mynd yn bopeth i bawb, er mwyn i mi, mewn rhyw fodd neu’i gilydd, achub rhai (1 Cor 9:19-22).

v) Crefyddau eraill. Ofn yr Iddewon a’r Moslemiaid yw eu bod hwy yn

dargedau parod i’r ymgyrchoedd o gyfeiriad y Cristionogion. Ond lle mae ofn a drwgdybiaeth ni cheir tir ffrwythlon i efengylu.

Yn fras gellir dweud fod tair agwedd tuag at y crefyddau eraill:

a) Efengylu gan anwybyddu’n llwyr pob argyhoeddiad a ffydd arall gan ddatgan mai Cristionogaeth yw yr unig wir ffydd. Safbwynt cyfyng diwinydd mawr fel Karl Barth, er na fyddai ef yn defnyddio’r un termau.

b) Agwedd arall yw honno sy’n trin pob crefydd yn gyfwerth. Ymdrechir adeiladu rhyw fath o grefydd syncretaidd sy’n cynnwys yr elfennau gorau ymhob un! John Hick yn un diwinydd nodweddiadol o’r safbwynt hwn.

c) Deialog. Trafod synhwyrol gan barchu gwahanol argyhoeddiadau a heb geisio perswadio neb i adael ei ffydd ei hun. Hans Kung yn lladmerydd y safbwynt hwn.

ch) Mae rhai yn edrych ar y crefyddau eraill fel paratoad i Gristionogaeth. Y mae’r Hindw fel y Bwdydd yn Gristionogion anymwybodol (“anonymous”). Karl Rahner a ddaeth a’r syniad hwn i boblogrwydd.

Nid oes ateb rhwydd i broblem hon. Ond mae’r Iesu yn galw arnom i rannu’r newyddion da a phawb a hynny mewn cariad gan fod yr un Efengyl yn ein barnu ninnau yn ogystal. Onid y llinyn mesur i bawb o bob ffydd yw ein hagwedd tuag at yr Iesu?

Page 20: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

20

DULLIAU EFENGYLU (parhad) Cyfrwng cyntaf efengylu yw tystiolaethu. Rhydd ein hoes ni fwy o goel ar y tyst nac ar yr athro. Y mae tystiolaeth bywyd y Cristion ei hun yn allweddol i’r gwaith. Gwaith yr Ysbryd yw hwn yn gweithredu trwy fywydau pobl. Edrydd Donald English stori am wraig fu’n dod ato yn rheolaidd am gyngor yn ei hargyfwng personol ond heb fawr o effaith. Un Sul digwyddodd ddychwelyd adre o’r oedfa yng nghwmni merch ifanc o Gristion. Rhannodd honno ei thystiolaeth bersonol a hi a bu hynny yn gyfrwng i ddod â hi trwy fwlch yr argyhoeddiad. Gosododd Karl Barth y darlun o eiddo Grünwald yn ei stydi, y darlun o Ioan Fedyddiwr yn pwyntio tua’r Crist croeshoeliedig. Nid ato ef ei hun y mae’r cenhadwr yn tynnu sylw ond tuag at ei Feistr.

Y mae’n tystiolaeth dros gyfiawnder, heddwch, hawliau dynol etc., yn rhan anheporol o’r dystiolaeth hon. “A faith shared is a faith strengthened” John Paul II “Renewal in Mission” td 5. Rhaid wrth ymarfer efengylu er mwyn tyfu yn y ffydd. Gŵyr y mabolgampwr fod yn rhaid ymarfer yn gyson os am lwyddo. Ffydd grebachlyd fydd ein ffydd os nad ymarferwn hi, medd Michael Green (Evangelism Through the Local Church, Hodder).

a) Y symbyliad i efengylu yw calon wedi ei thanio ag awydd i rannu’r

newyddion da. Yr Ysbryd Glân yw’r symbylydd hwnnw. Cyfrwng neilltuol ei weithredu yw Gair Duw a gweddi. Y mae’r gair o dan rym yr Ysbryd yn goleuo’n gweddi gan na wyddom ni “beth i’w lefaru na beth i’w ddweud”. “Ni allwn weddio ar Dduw oni bai i’r efengyl fynd o’n blaenau, hi yw’r lamp sy’n ein goleuo” (John Calfin, Sermons on Timothy and Titus td 171 Banner of Truth). Mae angen meithrin yr hyn a elwi’r Pab presennol yn “missionary spirituality” yn ein mysg. Yr Ysbryd Glân sy’n arwain y ffordd ac yn ennyn syched am eneidiau fel ’roedd gan yr Iesu ei hun. Galwad i sancteiddrwydd (gan adleisio John Wesley uchod) yw’r alwad genhadol. “The missionary spirituality of the Church is a journey towards holiness” (td 59 op cit).

b) Cyfrwng allweddol efengylu yw addoli. A yw hwnnw yn wresog a

chroesawgar? Y pregethu yn ddirfodol a heriol? ’Roedd Iesu yn galw am benderfyniad radical Igodi’r groes a’i ganlyn ef. Galwai am edifeirwch a chredu. Rhaid i’r pregethu nid yn unig alw am benderfyniad personol ond rhaid iddo fod yn broffwydol. Mae darlun heriol Eseciel yn wers bwysig i’r eglwys heddiw. Cyhudda fugeiliaid Israel o fod wedi cyfyngu’r genhadaeth Igynnal y sefydliad crefyddol yn unig, ac anwybyddu ceisio â chwilio am y defaid colledig. Nid y bugeiliaid yn unig sydd o dan y lach ond y defaid hynny sydd wedi eistedd yn gysurus yn eu cynorthwyo. “Amdanoch chwi, fy mhraidd, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: Wele, byddaf fi’n barnu rhwng y naill ddafad a’r llall, a rhwng yr hyrddod a’r bychod. Onid yw’n ddigon i chwi bori ar borfa dda heb Ichwi sathru gweddill eich porfa a’ch traed? A yw’n rhaid i’m praidd fwyta’r hyn a sathrwyd gennych, ac yfed yr hyn a faeddwyd a’ch traed? Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrthynt: Byddaf fi fy hunan yn barnu rhwng defaid bras a defaid tenau. Oherwydd eich bod yn gwthio ag

Page 21: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

21

ystlys ac ysgwydd, ac yn twlcio’r gweiniaid a’ch cyrn nes Ichwi eu gyrru ar wasgar, byddaf yn gwaredu fy mhraidd, ac ni fyddant mwyach yn ysglyfaeth, a byddaf yn barnu rhwng y naill ddafad a’r llall. Byddaf yn gosod arnynt un bugail, fy ngwas Dafydd, a bydd ef yn gofalu amdanynt; ef fydd yn gofalu amdanynt ac ef fydd eu bugail” (Eseciel 34:17-23). Dyma’r proffwyd yn condemio’r defaid a’r geifr, y rhai sy’n gorthymu’r tlawd a’r anghenus yn y wlad. Rhaid i’n pregethu ninnau fod yr un mor heriol a phroffwydol heddiw. Mae agweddau eraill ar ein haddoliad y dylid edrych yn fanylach arnynt, fel ein hemynau, ein trefn, ein litwrgi, heb anghofio lle priodol meim, dawns a drama yn y cyfan. Mae’r sacramentau yn gyfle gwych i gyflwyno craidd y neges, a diau mai yn y gwasanaethau cymun a bedydd y ceir y gynulleidfa orau! Yn y cyfan rhaid inni adfer yr ymdeimlad mai dathlu dyfodiad brenhiniaeth Duw yr ydym.

Ch) Meithrin cylchoedd bychain oddi mewn i’r eglwys lleol. Yn ôl Eddie Gibbs, IBelieve in Church Growth, Hodder, y mae’r eglwysi sy’n cynyddu heddiw wedi datblygu cylchoedd o’r fath. Llwyddodd yr eglwys Babyddol hithau i ddatblygu “base communities” fel rhan o fywyd eglwys leol mewn llawer lle. Cylchoedd bychain yn dod ynghyd Iweddio neu fyfyrio ar y gair neu Iweithreu’n gymdeithasol (John Paul II op cit td 35). Mae angen gofal wrth wneud hyn. Yr amcan yw datblygu gweinidogaeth yr holl saint ac adeiladu yr eglwys gyfan. Rhydd cylchoedd o’r fath gyfle hefyd Iddatblygu doniau neu sgiliau arbennig fel hyfforddiant Iefengylu, dysgu, gwasanaethu, etc.

c) Y teulu yw’r uned genhadol leiaf, ond yn sicr gyda’r pwysicaf sy’n bod.

Dim ond cyfundrefnau totalitaraidd sy’n lladd yr uned gymdeithasol hon. Ni ddylid ei chwalu trwy drefnu cyfarfodydd Iblant yn unig neu pobl ifanc yn unig, chwiorydd yn unig.

dd) Rhan bwysig o ystod efengylu yw hyfforddi yn y ffydd. Rhaid defnyddio

pob cyfrwng posibl i’r gwaith. DARLLEN Selwyn Hughes, Sharing your Faith, MMS 1983. Rebecca M. Pippert, Out of the Salt Shaker, (IVP). David Watson, IBelieve In Evangelism, (H&S). Person to Person, Fideo Cymdeithas y Biebl ac Undeb y Gair. Glenn C. Smith, Evangelising Adults, (Tyndale/Paulist). Glenn C. Smith, Evangelising Youth, (Tyndale/Paulist).

Page 22: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

22

5 : LLEDAENIAD CRISTIONOGAETH hyd 500 “Oherwydd fel y tystiolaethaist amdanaf fi yn Jerwsalem, felly y mae’n rhaid Iti dystiolaethu yn Rhufain hefyd” (Actau 23:11). Dyma yw stori Llyfr Actau’r Apostolion, “o Jerwsalem i Rhufain”, lledaeniad y dystiolaeth Gristionogol o gornel fechan digon di-nod ym Mhalesteina Ibrifddinas a chanolbwynt yr Ymrodraeth Rufeinig mewn llai na deng-mlynedd-ar-hugain. Yr Ysbryd Glân oedd yn arwain yr apostolion a’r eglwys yn y genhadaeth hon. Yn wir, awgrymodd rhywun y gellid galw Llyfr yr Actau yn Lyfr Actau’r Ysbryd Glân. Pan ’roedd yr apostolion yn ddigon diymadferth a diweledigaeth, ef oedd yn arwain trwy ymestyn y genhadaeth ymhell y tu hwnt i’w disgwyliadau. Mae ymateb Pedr ym mhennod 10 a’r eglwys yn Jerwsalem ym mhennod 11 i’r Ysbryd yn syrthio ar Cornelius, cenedl-ddyn, yn brawf o hynny. Cenhadaeth mewn cyd-destyn Iddewig oedd y genhadaeth ar ei dechrau ac fe achosodd yr ymestyn allan i’r cenedl-ddynion sioc enfawr i’r apostolion. Merthyrdod Steffan (Act 7:54-60) oedd yn bennaf gyfrifol am y trawsnewid hwn. Er nad oedd Pedr a’i gyd-apostolion wedi sefyll yn gyhoeddus o’i blaid, eto ’roedd ganddo ddigon o ddilynwyr i wasgaru’r newyddion da. Wedi eu herlid o Jerwsalem dechreuasant rannu’r newyddion da yn Antiochia a mannau eraill (gwel. Act 11:19 ymlaen a Darlith 3). Oddi yno y dechreuodd Paul o Barnabas ar y daith genhadol gyntaf (Act 13-14) ac fel ymateb i honno y galwyd y Cyngor yn Jerwsalem (Act 15). Ni fu popeth yn fêl yno ac ymddengys i Paul a Barnabas adael yn bur anfodlon. Ond wedi cymodi dechreuwyd eto ar y genhadaeth; yr Ail Daith a’r Drydedd, hyd nes i Paul gael ei garcharu a’i symyd i Rufain. Felly y daeth y dystiolaeth i Rufain. Erbyn diwedd y drydedd ganrif yr oedd Cristionogaeth wedi treiddio i bob cwr o’r Ymerodraeth (gan gynnwys Ynysoedd Prydain). Yr ardaloedd lle cafwyd y cynnydd mwyaf oedd Syria, Asia Leiaf, yr Aifft a Gogledd Affrica. Pan ddaeth Cystennin Fawr (274-337) yn Ymerawdwr daeth Cristionogaeth yn grefydd y wladwriaeth ei hun. Lledaenwyd o fannau fel Cappadocia i Armenia. Sylfaenydd y Ffydd yno oedd Grigor (c. 240-332). Anfonwyd Ulffilas (c. 311-383) i blith ei bobl ei hun, y Gothiaid, i’r Gogledd o afon Donwy ym c.341. Lluniodd wyddor i’r iaith a chyfieithodd y Beibl iddi. Llafuriodd gyda’r fath lwyddiant am ddeugain mlynedd fel pan ymosododd y Gothiaid ar yr Ymerodraeth Rufeinig yr oeddent yn arddel Cristionogaeth eisoes! YR OESOEDD TYWYLL 500-1000 Wynebodd y genhadaeth Gristionogol dreialon mawr yn ystod y cyfnod hwn. Yr oedd yr Ymerodraeth Rufeinig wedi chwalu. Cafwyd tŵf aruthrol mewn un grefydd Arabaidd arbennig. Arweinydd y grefydd oedd y Proffwyd Mohamed (570-632). Cyfansoddodd lyfr sanctaidd, y Cwran, a galw’r grefydd yn Islam sy’n golygu “ildio”, gan mai pwrpas y grefydd yw ildio i ewyllys yr un Duw, Allah. Llwyddodd i uno llwythau rhyfelgar Arabaidd mewn rhyfel sanctaidd (“Jihad”) ac mewn can mlynedd goresgynwyd y canolfannau Cristionogol ym Mesopotamia, Palesteina, yr Aifft, Gogledd Affrica, ynysoedd Môr y Canoldir fel Sicily, nes dod i Sbaen. Croeswyd Pyreniaid i mewn i Ffrainc nes cael eu trechu yno gan Charles Martel ym 732.

Page 23: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

23

Collwyd trysorau enfawr yn y brwydro. Yn eu plith llyfrgell enwog Caesarea. Collwyd canolfanau fel Antiochia, Edessa, Jerwsalem, Alecsandria, Carthag a Hippo. Collwyd etifeddiaeth gyfoethog oedd wedi ei thrysori yn y mannau hyn – fel llawysrifau rhai o lyfrau’r TN. Yr hyn sy’n rhyfeddod yw er bod cyn lleied o fywydau wedi eu colli, eto canlyniad y goresgyniad hwn oedd gwneud Cristionogaeth yn grefydd Ewropeaidd am ganrifoedd lawer. Ym Mhrydain ciliodd Cristionogaeth i Gymru wrth i’r Sacsoniaid paganaidd oresgyn rhannau helaeth o’r wlad. Ond ym 596 anfonwyd Awstin Fynach gan y Pab Grigor Fawr i Brydain a sefydlodd ei fynachdy yng Nghaergaint. Yn fuan cafodd brenin Caint, Ethelbert (560-616) droedigaeth. Felly cafwyd tri math o Gristionogaeth yma : Prydeinig, Celtaidd a Rhufeinig. Yn Synod Whitby 663/4 ar ôl gwrando ar ddadleuon y ddwy ochr plediodd brenin Northumbia Gristionogaeth Rhufeinig yn hytrach na Cheltaidd. Erbyn 688 yr oedd Theodor o Tarsis wedi trefnu Lloegr yn blwyfi ac estynwyd awdurdod Archesgob Caergaint dros yr holl wlad. I bob pwrpas collodd Tŷ Ddewi ei dylanwad ar draul Caergarint. Yr oedd y mudiad mynachaidd ei hun yn offeryn cenhadol dylanwadol iawn. Wrth sefydlu mewn ardal baganaidd a dod i ddeall iaith a diwylliant y brodorion llwyddwyd i ddylanwadu arnynt a’u troi at Gristionogaeth. Bu’r ddull hwn o uniaethu â’r diwylliant brodorol yn ddylanwadol iawn Sefydlodd Illtud ganolfan yn Llanilltud Fawr a dyfodd i fod yn un o ganolfannau dysg pwysicaf y gorllewin.Yr oedd yntau yn ôl traddodiad yn ddisgybl i Garmon, a ddaeth drosodd i Brydain i helpu yn y frwydr yn erbyn Pelagiaeth. Disgybl Illtud oedd Deiniol (ac efallai Dewi a Gildas) a sefydlodd gell ym Mangor. [Gweler y modiwl ar Gristionogaeth yng Nghymru]. Dyma ychydig enghreifftiau o’r mynaich eraill: Padrig (389-461). Gadawodd y mynachdy yn Ffrainc a hwylio i’r Iwerddon o Gymru lle sefydlodd fynachlogydd a chyflwyno Cristionogaeth i’r ynys honno am y tro cyntaf. Columba (521-597). Brodor o’r Iwerddon a sefydlodd ddwy fynachlog yno cyn croesi i’r Alban a sefydlu cymuned fechan ar ynys Iona. Oddi yno aeth Aidan i’r Hen Ogledd yn c.642 ar wahoddiad y brenin. Sefydlodd fynachlog ar Ynys Metgawdd (Lindisfarne). Soniwyd am Awstin Caergaint eisoes, ond aeth cenhadon eraill allan i gyfandir Ewrop, megis, Wynfrith o Grediton, sy’n fwy adnabyddus wrth yr enw Sant Boniface (680-754). Ef yw apostol yr Almaen. Llwyddodd eglwys y Dwyrain i ymestyn ei gorwelion o Gaergystenin, yn fwyaf arbennig, i blith pobloedd Yugoslavia, Rumania ac i Rwsia. Gwnaeth Cystennin (826-869) a’i frawd Methodius (815-885) waith arloesol ymhlith y Slafiaid ym Morafia gan greu gwyddor i’r iaith a chyfieithu’r Ysgrythurau. Bu Vladimir, rheolwr Rwsia o 980-1015, yn pwyso a mesur rhinweddau’r gwahanol ffurfiau ar Gristionogaeth cyn penderfynu mabwysiadu ffurfiau Eglwys Roegaidd fel crefydd y wladwriaeth.

Page 24: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

24

O 1000 – 1500 Nodwedd amlycaf y cyfnod hwn oedd y Croesgadau yn erbyn y Saraseniaid Moslemaidd. Ymgais ydoedd i adennill y tir a gollwyd i’r Moslemiaid trwy ddefnyddio grym y cledd. Nid yn gymaint menter genhadol oedd hon ond ymgais i ladd y gwrthwynebwyr trwy eu difa o’r tir. Cafwyd chwe Croesgad rhwng 1096 a 1244. Llwyddwyd i ennill Jerwsalem yn 1099 ond erbyn 1244 collwyd y cyfan a enillwyd. Codwyd rhai lleisiau mewn protest yn erbyn y dull hwn. Ffransis o Assisi yn enghraifft glodwiw. Ceisiodd deirgwaith i ennill tir ymhlith y Moslemiaid trwy ddulliau cymod a chariad ac yn 1219 llwyddodd. Mae Ramon Lull (1235-1314) yn enghraifft arall. Credodd fod tri pheth yn hanfodol i ennill y Saraseniaid i Grist:

i) Gwybodaeth drylwyr o’u hieithoedd i ddeall eu meddyliau ii) Cyflwyno’r ffydd Gristionogol yn rhesymol. iii) Tystiolaeth ffyddlon ymhlith y bobl eu hunain.

Aeth i ogledd Affrica, llabyddiwyd ef a bu farw. Ond erys ei ddulliau’n allweddol bwysig i waith cenhadol o hyd. Datblygodd mynachaeth hefyd yn y cyfnod hwn gan dorri tir newydd. Uniaethodd y Ffransisgiaid â’r tlawd a’r anghenus gan ledaenu’r newyddion da yn eu plith. Canoli ar ddysgu a phregethu a wnaeth y Dominiciaid a sefydlwyd gan Dominic (1170-1221). Sylfaenwyd urdd y Jesiwitiaid gan Ignatius Loyola (1491-1556) a bu’n offeryn cenhadol grymus yn Eglwys Rhufain. Un o’u cenhadon grymusaf oedd Francis Xavier (1506-1552) a ledaenodd y ffydd i fannau anghysbell fel Japan wrth i gyfandiroedd newydd gael eu darganfod gan bobl fel Columbus a Vasco da Gama. 1500-1900 Mae cyfnod y Diwygiad Protesannaidd (1517-1555) yn hynod am ei dawedogrwydd ar bwnc cenhadaeth yr eglwys. Mae Luther a’r Diwygwyr eraill yn hynod o dawel ar fater diwinyddiaeth cenhadu. Awgrymodd K. S. Latourette The History of the Expansion of Christianity chwe rheswm am y diffyg: i) ymgais Protestaniaeth i sefydlu ei hun, ii) y rhyfeloedd crefyddol, iii) eu heschatoleg, iv) anwadalwch tywysogion Protestannaidd, v) diffyg peirianwaith cenhadol, vi) diffyg cysylltiad â gwledydd nad oeddent yn Gristionogol. Ond yn ol W. R. Hogg, The Rise of Protestant Missionary Concern, 1517-1914 y mae rhesymau cryfach na hyn. Nodir tri: i) Trwy wrthod y Babaeth, un o’r grymusterau cenhadol cryfaf oedd yn bodoli, gwrthodwyd yn anfwriadol y cymhelliad cenhadol hefyd. Canolwyd sylw ar broblemau mewnol gwledydd ac fe gafwyd twf mewn cenedlaetholdeb; ii) gwrthodwyd mynachaeth yn llwyr; iii) canlyniad pwysleisio offeiriadaeth yr holl saint oedd canoli ar alwad y Cristion i gyflawni ei alwedigaeth yn y fan lle ’roedd yn byw ac nid i deithio’r byd yn cyhoeddi’r newyddion da. Yng nghyfnod Sgolastigiaeth Brotestannaidd (1555-1689) cafwyd datblygiadau gwahanol a daeth Calfiniaeth i ddylanwadu ar y genhadaeth. Yng nghymal I a II o Gyffes Westminster, 1647, pwysleisir fod yr Ysgrythurau yn Air Duw, felly y mae’r Comisiwn Cenhadol (Math 28) yn rhwymo pob Cristion. Oherwydd dywedodd Iesu, “Ewch gan hynny i’r holl fyd...”

Page 25: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

25

Dylanwadodd Oes y Goleuo, Pietistiaeth a’r Diwygiad Efengylaidd (1689-1789) yn fawr ar y genhadaeth Gristionogol. Datblygodd haen gref o resymoliaeth oddi mewn i Brotestaniaeth. a rhoddwyd pwyslais ar addysg. Yr un pryd lledaenodd dyheadau imperialaidd gwladwriaethau Ewrop a goresgynwyd i bwrpas masnach rannau helaeth o’r byd. Manteisiodd y cenhadon ar y ffaith fod llwybrau masnachu newydd wedi eu hagor i ddod â’r Efengyl i’r brodorion. Cafwyd dau fudiad cenhadol trefedigaethol Anglicanaidd gyda sefydlu’r S.P.C.K. (1699) a’r S.P.G. (1701). Adwaith i’r pwyslais ar resymoliaeth oedd y mudiad Pietistaidd i raddau helaeth. Blagurodd yn yr Almaen ac o dan ddylanwad yr arweinydd Pietistaidd Francke sefydlwyd Cenhadaeth Ddanaidd Halle. Etifeddwyd sel genhadol Francke gan Zinzendorf a sefydlwyd y genhadaeth Forafaidd. Dylanwadodd y rhain yn eu tro ar bobl fel John a Charles Wesley a Howell Harris. Cynhaliodd y Morafiaid genhadaeth gref ymhlith Indiaid Gogledd America. Yn Lloegr Newydd bu gwaith Jonathan Edwards yn dra dylanwadol gan iddo ail-ddehongli Calfiniaeth a’i gwneud yn offeryn mwy hyblyg i genhadaeth effeithiol. Y dylanwadau hyn a wnaeth y bedwareddganrif-ar-bymtheg yn ganrif fawr y genhadaeth Gristionogol. Y gymdeithas genhadol gyntaf oedd The Baptist Missionary Society (1792) a ysbrydolwyd gan William Carey (1761-1834), a ddaeth yn genhadwr cyntaf y Gymdeithas ac a deithiodd i India yn 1793. Am ei fod yn Ymneilltuwr ni chafodd lawer o groeso gan y British East India Company ond wedi ymguddio am gyfnod llwyddodd i sefydlu ei hun mewn trefedigaeth Ddanaidd yn Serampore. ’Roedd ganddo bum egwyddor genhadol a fu’n ddylanwadol trwy’r ganrif: i) pregethu’r Efengyl yn eang; ii) cyfieithu’r Ysgrythurau i’r iaith frodorol, iii) sefydlu eglwysi cyn gynted ag yr oedd yn bosibl; iv) hyfforddi pobl leol i fod yn weinidogion; v) astudiaeth fanwl o ddiwylliant a meddylfryd y brodorion. Ychwanegwyd egwyddorion eraill atynt ond y pum pwynt yma fu’n sail i holl weithgarwch cenhadol y ganrif. Bu llythyr cyntaf Carey o’r India yn gyfrwng i ysbrydoli sefydlu cymdeithasau cenhadol eraill, megis y London Missionary Society (1795), y C.M.S. a’r Religious Tract Society yn 1799. Yn 1804 sefydlwyd The Methodist Missionary Society a’r British and Foreign Bible Society. Bu nifer o Gymry yn ddylanwadol yn ffurfio nifer ohonynt. Un o’r cenhadon a anfonwyd gan yr L.M.S. oedd John Davies, Tahiti. Ganwyd ef yn fab fferm fechan o’r enw Pendugwm, ym mhlwyf Llanfihangel-yng-Nghwynfa, ym 1772. Daeth o dan ddylanwad Thomas Charles o’r Bala a bu’n athro yn un o’i ysgolion. Dylanwadwyd arno i fynd yn genhadwr ac fe’i danfonwyd i Tahiti yng nghwmni pedwr-ar-ddeg o genhadon eraill ym 1800. Llafuriodd i baratoi gramadeg a geiriadur i’r iaith ac fe gyfieithodd lyfrau fel Taith y Pererin. Gyda chymorth Henry Nott cyfieithodd y Beibl i’r iaith. Ef oedd yn gyfrifol am gyfieithu’r Salmau, Efengyl Mathew ac Efengyl Marc ac Epistolau Paul. Nott a gymerodd y clod am y gwaith i gyd! Ysgrifennodd Davies hanes y genhadaeth i Tahiti ac fe’i cyhoeddwyd ym 1961 gan ysgolhaig o Awstralia o’r enw C. W. Newbury. Dywed mewn llythyr at John Hughes, Hydref 1835, iddo gyfansoddi’r hanes yn y Gymraeg ond nid oes son am y

Page 26: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

26

gwaith hwnnw. Bu farw yn henwr 84 oed wedi ei siomi gan diffyg sêl a brwdfrydedd y brodorion. Eraill a gerddodd i mewn i’w lafur. Un arall o Gymru oedd David Jones, Madagascar. Un o Ddyffryn Aeron oedd ef ac fe’i ganwyd ym 1797. Addysgwyd yn athrofa enwog Neuadd-lwyd o dan y Dr. Thomas Phillips. Aeth ef a gŵr ifanc arall o’r fro, Thomas Bevan, tua Madagascar ym 1818. Bu farw Thomas Bevan a’i briod a’u teulu yn fuan wedi glanio, a chollodd David Jones ei briod yntau a’i blant. Ond daliodd ati yn wyneb caledi mawr ac un o’r llythyrau dwysaf sydd gan y Gymdeithas Genhadol yn ei meddiant yw o’i eiddo yn pwyso arnynt i anfon cenhadwr arall ato. Anfonwyd David Griffiths o Wynfe. Gan ei fod yn ieithydd medrus rhoddodd David Jones wyddor a gramadeg i’r Falagaseg ac yn erbyn dylanwad y Saeson fe’i gwnaeth yn iaith fyddai’n cael ei hysgrifennu’n ffonetig. Cyfieithwyd y TN a rhannau helaeth o’r HD gan y ddau Gymro. Erbyn 1830 rhannwyd 5,000 copi o’r TN. Ond daeth ergyd i’w cynlluniau pan ddaeth y frenhines Ranavalona I i’r orsedd. Ym 1835 rhoddwyd gwaharddiad ffurfiol ar Gristionogaeth. Ym 1836 cyhoeddwyd cyfieithiad o’r Beibl cyfan. Gorffennodd David Jones ei ddyddiau ar ynys Mauritius yn ymgeleddu’r ffoaduriaid a ddihangodd o’r erlid creulon. Bu farw ym 1841. “Gorchestwaith David Jones a’i gyfeillion oedd sefydlu ysgolion, rhoi’r iaith ar bapur, llunio gramadeg, cyfieithu a chyhoeddi’r Beibl a llyfrau eraill yn y Falagaseg” (Ieuan S. Jones, Y Gair ar Gerdded, Gwasg Pantycelyn, 1982, td 167. Un arall a fu’n fawr ei ddylanwad yn y maes cenhadol oedd Timothy Richard (1845-1919). Anfonwyd ef i Tsiena gan Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr ym 1869 ac ar wahân i gyfnodau byrion yn ôl ym Mhrydain arhosodd yno tan 1914. Dewiswyd ef yn ysgrifennydd y “Christian Literature Society of China” yn 1891. Bu’n eithriadol o ddylanwadol fel cenhadwr, dyngarwr, ysgolhaig, athro, awdur, cynghorydd tywysogion ac yn y blaen. Un nodwedd amlwg iawn oedd y modd y mabwysiadodd ffordd y Tsineaid o fyw heb fradychu’r egwyddorion Cristionogol. Mewn canrif lle cyhuddwyd cenhadon o fod yn gwbl ddifeddwl a haerllug tuag at draddodiadau brodorol wrth honni mai dim ond trwy gyfrwng y diwylliant Gorllewinol y gellid pregethu’r Efengyl, yr oedd ef yn eithriad. Yn wir, pwysodd ar y Tsineaid i dderbyn Cristionogaeth er mwyn ffurfio morglawdd yn erbyn y diwylliant Gorllewinol a ddeuai i ddistrywio eu traddodiadau gwerthfawr a hynafol. Er hynny, gallai fod yn dra beirniadol ar agweddau o’r diwylliant cynhennid Tsineaidd. Bu farw yn Llundain ym 1919. CENHADAETH YR UGEINFED GANRIF Y ganrif ecwmenaidd Cynhadledd Genhadol y Byd Caeredin 1910. Gosodwyd y nod o “efengylu’r byd yn ein cenhedlaeth”. Tasg y gynhadledd oedd deffro’r ymwybyddiaeth genhadol yn eglwysi’r gorllewin yn arbennig. Un o ffrwythau’r gynhadledd oedd sefydlu “The International Missionary Council” (1921) a bu’n offeryn grymus am ddeugain mlynedd cyn uno â Chyngor Eglwysi’r Byd ym 1961. Cyhoeddwyd cylchgrawn ganddo sy’n dal mewn bodolaeth o dan y teitl “The International Review of Missions”. Canlyniad y Gynhadledd oedd sefydlu tair adran arbennig:

Page 27: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

27

Cenhadaeth y Byd Ffydd a Threfn Bywyd a Gwaith.

Cynhaliodd pob adran gynhadleddau dylanwadol yn y deugain mlynedd hyn. Y broblem fawr a ddaeth i’r golwg yng Nghaeredin oedd fod Cristionogaeth Ewrop wedi allforio ei gwahaniaethau enwadol i’r meusydd cenhadol yn ogystal. I lawer o’r brodorion ’roedd y gwahaniaethau yn ymddangos yn amherthnasol. Nid oedd yr Eglwys Uniongred nac Eglwys Rhufain yn rhan o’r trafodaethau. Cynhaliwyd cynhadleddau arloesol a bendithiol gan y gwahanol adrannau yn y cyfnod cyn yr Ail Ryfel Byd: Stockholm 1925; Lausanne 1927; Jerwsalem 1928 – oedd y cylch cyntaf. Cafwyd ail gyfres ym: Rhydychen 1937; Caeredin 1937; Tambaram 1938. Yn yr olaf daethpwyd i’r argyhoeddiad fod cyfnod “yr anfon” o Eglwysi’r Gorllewin a’r “derbyn” gan y gwledydd eraill wedi dod i ben. Sylweddolwyd fod y sefydliadau cenhadol “dramor” yn eglwysi yn eu hawl eu hunain ac felly yr oedd Eglwys Iesu Grist yn wirioneddol ecwmenaidd, h.y. byd-eang. Yno gosodwyd hadau Cyngor Eglwysi’r Byd. Ond bu’n rhaid gohirio popeth gan i’r Rhyfel ddechrau. Oddi ar 1948 mae Cyngor Eglwysi’r Byd wedi cynnal cynadleddau bob 6-8 mlynedd. Ym 1961 ymunodd Eglwys Uniongred Rwsia, Rumania, Bwlgaria, a gwlad Pwyl, ynghyd a’r “International Missionary Council” â’r Cyngor. Ym 1968 yn Uppsala ymunodd Eglwys Rhufain fel sylwedyddion ac felly y maent wedi parhau tan ein dyddiau ni. RHAI CERRIG MILLTIR Yng nghynhadledd Jerwsalem (1928) o’r “International Missionary Conference” datblygwyd y drafodaeth i gynnwys perthynas yr eglwysi ieuengaf a’r rhai hynaf. Ym 1938 yng nghynhadledd Tambaram y dechreuwyd trafod diwinyddiaeth cenhadu o ddifrif. Anghofiwyd am y gwahaniaeth rhwng gwledydd Cristionogol a rhai anghristionogol neu baganaidd. Golygodd hyn fod yn rhaid ystyried glwedydd Ewrop a Gogledd America hefyd yn feusydd cenhadol dilys. Gwelwyd nad oedd diwinyddiaeth dyn-ganolog Rhyddfrydiaeth Brostestannaidd diwinyddion fel Harnack, Troeltsch yn ddigonol i gyfarfod â bygythiad enbyd Ffasgaeth, Natsïaeth a Marcsiaeth. Dechreuodd geiriau fel pechod, barn, troedigaeth, maddeuant, adenedigaeth a chyfiawnder flaguro unwaith eto mewn cylchoedd cenhadol. Dechreuwyd sylweddoli fod yr eglwys a chenhadaeth yn anatod. Gwelwyd fod yr Eglwys yn gyfrwng allweddol i genhadu. Yn nghynhadledd Willengen, 1952, newidwyd y safbwynt eto. Yn lle rhoi pwyslais ar genhadaeth yn canoli ar yr eglwys, pwysleisiwyd mai tasg yr eglwys yw canoli ar y genhadaeth. Nid yr eglwys yw nod y genhadaeth na’i man cychwyn. Y mae’n tarddu o Dduw. Cyfranogi yn y “missio Dei” yw braint yr eglwys. Yn wir, y “missio Dei” sy’n cyfreithloni a chyfiawnhau’r “missiones ecclessiae”. Yn lle bod yr un sy’n anfon newidia’r eglwys i fod yr un sy’n cael ei hanfon. Adleisiwyd hyn yn Achimota (1958): “The Christian world mission is Christ’s and not ours”. Y mae pob gwlad yn ddi-wahân yn faes cenhadol ac mae cenhadaeth yn bartneriaeth.

Page 28: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

28

Yn y Cyngor unedig cyntaf yn Delhi Newydd ym 1961. Dechreuwyd ar y dasg o drafod “the Missionary Structure of the Congregation”. Yn Uppsala (1968) y cafwyd ffrwyth y gweithgarwch hwn. Bellach nod y genhadaeth yw dod hyrwyddo dyfodiad teyrnas Dduw. Heokendijk oedd lladmerydd mawr y syniad hwn. Daeth cenhadu yn derm eang oedd yn cynnwys projectau iechyd a chymdeithasol, ieuenctid, gweithgarwch gwleidyddol, projectau economaidd, hyd yn oed y defnydd o rym, etc. Mae’r gwahaniaeth rhwng yr eglwys a’r byd i bob pwrpas wedi ei ddileu. Dyma gyfnod yr “all is mission”. Diflannodd iwfforia’r cyfnod hwn yn fuan. Erbyn canol y 70’au dechreuwyd gweld nad oes pwrpas i genhadu heb yr eglwys. “Mission is moored in the church’s worship, to its gathering around the Word and to the sacraments” (Bosch, Transforming Mission, td 385). Mae’r eglwys wedi ei galw o’r byd er mwyn ei hanfon i’r byd. Y mae addoli a chenhadu yn rhan anhepgor o’i gwaith (gwel 1 Pedr 2:5 a 9 : “yr ydych chwithau ...... yn dŷ ysbrydol ....i offrymu aberthau ysbrydol ...../ .....yn hil etholedig....i hysbysu gweithredoedd ardderchog yr un a’ch galwodd chwi ..”). Yn raddol adferwyd y pwyslais ar Deyrnas Dduw a rhan yr eglwys yn lledaenu honno. Yng Nghynhadledd CWME Melbourne (1980) pwysleisiwyd fod yr eglwys yn “sacrament, arwydd a chyfrwng” y Deyrnas. Ym 1947 diffiniwyd cenhadu yn Nghynhadledd Whitby gyda’r ddau air, kerygma a koinonia. Mewn erthygl ddylanwadol ychwanegodd Heokendijk y term diaconia i’r diffiniad. Yn Willengen crynhowyd yr holl eiriau o dan y term marturia. “Rhoddir y dystiolaeth hon trwy broclomasiwn, cymdeithas a gwasanaeth”. Dyma’r diffiniad sy’n crynhoi orau agwedd y ganrif hon tuag at y dasg genhadol. UNDEB YR ANNIBYNWYR AC CWM Cyngor y Genhadaeth Fyd-Eang (CWM) yw etifedd yr hen L.M.S. i bob pwrpas. Sefydlwyd hi yn ei ffurf ddiwygiedig ym 1977 ac yn ddilyniant i’r L.M.S. (1795-1966), Cyngor Cynulleidfaol y Genhadaeth Fyd-eang (1966-72), a Chyngor y Genhadaeth Fyd-Eang (1972-77). Amcan y Cyngor yw “helpu ei aelodau, ac eraill, i gyhoeddi Efengyl ogoneddus ein bendigedig Dduw, ac i rannu adnoddau mewn pobl, arian, ffydd a dealltwriaeth trwy waith a thystiolaeth, cydweithio mewn cenhadaeth ag eglwysi eraill a chydag ymdrechion ecwmenaidd y mae gan Eglwysi perthynol iddo gyfran yn ei weithgarwch” (Blwyddiadur a Llawlyfr Yr Annibynwyr Cymraeg td 5). Y mae’r pwyslais ar roi a derbyn yn gryf yn y datganiad hwn. Nid “cenhadaeth dramor” yw hi mwyach, ond rhannu adnoddau i gynorthwyo’r amcan mawr o wasanaethu Teyrnas Dduw, boed hynny yng Nghymru neu rhannau eraill o’r byd. Fel y gwyddom yn rhy dda nid dramor yn unig mae’r angen mawr bellach, ond ar garreg ein drws. “Y mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg wedi addunedu i gefnogi’r gweithgarwch hwn trwy geisio deall natur cenhadaeth gyfoes yr Eglwys, trwy weddio dros lwyddiant y genhadaeth Gristionogol Fyd-Eang, trwy wahodd a derbyn a hyfforddi

Page 29: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

29

pobl i wasanaethu, a chyfrannu’n ariannol i hyrwyddo’r gwaith, mewn ufodd-dod i Gomisiwn ein Harglwydd Iesu i’w Eglwys”. (op cit. Td 5). Llyfryddiaeth: A History of the Expansion of Christianity, K. S. Latourette. Christianity In a Revolutionary Age, K. S. Latourette. Mission and Expansion of Christianity, Harnack. A History of Christian Missions, S. Neill. Y Gair ar Gerdded, Ieuan S. Jones. Translating the Message, Lamin Sanneh. Transforming Mission, D. Bosch. The History of the Church gol. Pearce Jones, Institute for Theological Leadership and Development, United Church of Jamaica and Grand Cayman.

Page 30: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

30

6 : EFENGYLU A DIWYLLIANT YR OES “Neges bersonol yw efengyl Iesu Grist – y mae’n datguddio Duw sy’n cyfarch pob un ohonom wrth ein henwau. Ond y mae hefyd yn neges gosmig – yn datguddio cynllun a bwriad Duw ar gyfer yr holl greadigaeth. Nid cyfarch dyn fel unigolyn (“monos” – y mae’n amheus a oes y fath fod i’w gael!) a wna ond, dyn fel aelod o ddynoliaeth gyfan – dynoliaeth wedi ei chaethiwo mewn pechod – yn un ac Adda, yn garcharor pechod a marwolaeth. Geilw Duw ef i fod yn gyfrannog yn y ddynoliaeth newydd yng Nghrist sy’n cael ei nodweddu gan gyfiawnder a bywyd tragwyddol (Rene Padilla, Mission Between the Times, td.1). Nid rhyw Robinson Crusoe yw dyn ond y mae bob amser yn ddyn-mewn-perthynas. Yn y sefyllfa honno mae Gair Duw yn ei gyfarch. Y mae yn greadur cymdeithasol a diwylliannol. Felly y crewyd ef. Ond beth yw diwylliant? Dyma un diffiniad: “Yr holl ffyrdd o fyw wedi eu hadeiladu gan y teulu dynol a’u trosglwyddo o un genhadaeth i’r llall”. Nid rhywbeth personol yn unig yw, ond y mae’n cynnwys holl gyfundrefn gwareiddiad. Iaith, arferion, credoau, trefn gymdeithasol, llywodraeth, gwerthoedd, ac yn y blaen. Mae rhychwant y gair yn eang ac y mae’r gair cymdeithasol yn rhan allweddol ohono. Yn yr ystyr hwn y gellir siarad am ddyn fel crëwr – y mae’n grëwr diwylliant. Ufuddhau y mae i’r gorchymyn a gafodd gan ei Greawdwr, Genesis 1:28.

Bendithiodd Duw hwy a dweud, “Byddwch ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a darostyngwch hi; llywodraethwch ar bysgod y mor, ar adar yr awyr, ac ar bopeth byw sy’n ymlusgo ar y ddaear”.

Fel y mae mam yn dysgu iaith i’w phlentyn ac wrth wneud nid yn unig yn ufuddhau i’r gorchymyn dwyfol i “ddiwylltio’r” ddaear ond hefyd yn trosglwyddo cyfoeth ei hetifeddiaeth a’r allwedd i’r etifeddiaeth honno, sef, Iaith. “Language is a living expression of culture....not only the “soul” of a people.....but a garment that gives shape, decorum, vitality, to concious life.... (Lamin Sanneh, Translating the Message. The Missionary Impact on Culture, td200). Y mae’r famiaith yn holl bwysig os am gyrraedd y nod wrth efengylu. “Os am gyrraedd y galon mae’n rhaid cyfarch dyn yn ei famiaith” (Edwin Smith In the Mother Tounge BFBS 1930 td 8). Y CRISTION A’R BYD. Yn ôl y TN mae paradocs ym mherthynas y Cristion a’i fyd ac a’i ddiwylliant. Yn ôl Ioan 17:11, 15, 16, gweddiodd Iesu ar ei Dad ........ “nid wyf yn gweddio ar i Ti eu cymryd allan o’r byd, ond ar i Ti eu cadw rhag yr un Drwg. Nid ydynt o’r byd mwy nad wyf innau o’r byd”. Y mae’r Cristion YN y byd ond nid O’R byd. Beth a olygir wrth “y byd” yn y TN. Er mwyn ceisio deall gwaith Duw yng Nghrist rhaid ceisio deall y berthynas rhwng yr efengyl a’r byd. Y gair Groeg am y byd yn y TN yw “cosmos” – gair sy’n llawn o wahanol ystyron.

Page 31: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

31

1. “Yr holl greadigaeth”. Y nefoedd a’r ddaear a greodd Duw yn y dechreuad ac y bydd rhyw dydd yn eu hail-greu. (Math 24:21, Ioan 1:9-10). Pwyslais Cristolegol a geir yn y TN, fod y byd wedi ei greu gan Dduw trwy ei Air. Crist yw cyfrwng y greadigaeth a’r waredigaeth (Ioan 1:3). Ef yw nod yr holl greadigaeth (Col 1:16). Nid oes gan y Cristion hawl bod yn besimistaidd am dynged y byd er gwaethaf troeon hanes. Cred fod Duw yn dal ar ei orsedd ac yn yr amser priodol bydd popeth yn cael ei roi o dan ei lywodraeth ef (Effes 1:10). Nod amcan efengylu yw cyhoeddi “adferiad popeth yng Nghrist” (Act 3:21) gan edrych ymlaen tuag at sefydlu dyniolaeth newydd. Rhaid cyhoeddi’r gobaith hwn er mwyn di-noethi pob ffug obaith arall y mae’r byd hwn yn ei gyhoeddi.

2. “Y bywyd hwn gyda’i bethau materol”. ’Does dim o’i le ar y pethau materol

ond yn nwylo dyn gallant droi yn nod ynddynt eu hunain. Trysorau sy’n darfod ydynt, “yn noeth y daethom i’r byd ac yn noeth yr awn oddi yma” (I Tim 6:7).

Wrth gyhoeddi’r efengyl yr ydym yn cyhoeddi Teyrnas y bu i’n Brenin ni ei

gwrthod (Math 4:8) er mwyn sefydlu ei Deyrnas ei hun wedi ei sylfaenu ar gariad.

3. “Dynoliaeth mewn gwrthryfel wedi ei chaethiwo gan bwerau’r tywyllwch”.

Mae’r holl fyd yng ngafael yr un Drwg medd 1 Ioan 2:15 ym. ac mewn gwrthryfel yn erbyn Duw. Mae Crist yn prynu ac adfer etholedigion Duw – y rhai o’i ras mae ef yn dewis eu hachub. Gadewir y gweddill i wynebu eu tynged oherwydd eu gwrthryfel. Y mae’r byd mewn gwrthryfel yn erbyn Duw ac wedi ei gaethiwo gan alluoedd y tywyllwch. Unieithir y byd â dynoliaeth mewn gelyniaeth agored yn erbyn Duw. Gelyn Crist a’i bobl yw. Daeth Crist yn oleuni i’r byd ond gwell gan ddynion y tywyllwch “am fod eu gweithredoedd yn ddrwg” (Ioan 3:19). Y mae’r byd wedi ei gaethiwo mewn cylch dieflig sy’n peri ei fod yn casau Crist a’i ddilynwyr ac yn gwbl analluog i adnabod gwirionedd yr efengyl (Ioan 9:39-41). Mae ei gyflwr mor enbydus fel nad yw Iesu yn gweddio drosto (Ioan 17:9).

O dreiddio’n ddyfnach eto i syniadau Ioanaidd a Phaulaidd y TN gwelir y bod rhywbeth mwy na hynny y tu ol i’r gwrthryfel hwn. Y mae yma rymusterau ysbrydol cwbl elyniaethus i Dduw ac i ddyn. “Y mae’r holl fyd yng ngafael yr un drwg” (I Ioan 5:19). Satan, duw’r byd hwn (2 Cor 4:4) sydd wedi dallu llygaid yr anghredadyn. Heb ffydd y mae pawb yn gaeth i “ysbrydion elfennig y cyfanfyd” (Gal 4:3, Col 2: 8,20) y grymusterau a’r pwerau (Rhuf 8:38, Eff 1:21, a 3:10). “The universe is not a closed system in which everything can be explained by an appeal to natural causes, rather, it is the arena in which God – a God who acts in history – is engaged in a battle with the spiritual powers that enslave men and hinder their perception of the truth revealed in Jesus Christ” (Padilla op cit. td 6). Nid ymgais i esgusodi dyn am y drwg y mae yn ei wneud yw hyn ond ymgais i beri inni sylweddoli fod y drwg yn llawer grymusach na dim ond cyfanswm ein holl bechodau ni. Y mae yn deyrnas, yn gyflwr sy’n caethiwo dyn. Hanfod pechod yw’r celwydd a bedlerir yng Ngardd Eden – “byddwch megis Duw” (Gen 3:5) – ac oddi

Page 32: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

32

wrth y Diafol tad pob celwydd y tardd y celwydd hwn (Ioan 8:44). “Nid problem i’r unigolyn yn unig yw pechod ond mae iddo arwyddocad cymdeithasol a chosmig” (Padilla op cit). Mae’r pechod sy’n dod o galon dyn (Marc 7:21-220 yn adlais o’r hen wrthryfel pan ddarostyngwyd y cread i gaethiwed (Rhuf 8:20-21). Nid mater o addoli’r Diafol neu chwarae efo’r ocwlt yw’r drwg. Y mae’n ehangach o lawer. Perygl y rhai sy’n cyfyngu gwarediaeth trwy Grist i achubiaeth bersonol dyn yn unig yw gwneud pechod yn rhy fach. Nid o galon dyn yn unig mae’n rhaid ei garthu ond “y mae’r cwbl sydd yn y byd” (I Ioan 2:15-16) sef, “trachwant y cnawd, a thrachwant y llygaid, a balchder mewn meddiannau – nid o’r Tad y mae ond o’r byd”. Hon yw’r fateriolaeth sy’n dwyfoli’r byd hwn a phopeth y mae’n ei gynnig – eiddo, arian, grym gwleidyddol, athroniaeth, gwyddoniaeth, statws cymdeithasol, rhyw, crefydd, traddodiad, A DIWYLLIANT. Yr hen gelwydd fod dyn yn gallu bod yn dduw mewn annibyniaeth oddi wrth ei Greawdwr. Problem dyn yw ei fod wedi ei gau, ei garcharu oddi mewn i system o wrthryfel yn erbyn Duw. Gan fod, felly, ein brwydr nid yn erbyn “cig a gwaed, ond â thywysogaethau, ac awdurdodau a llywodraethwyr tywyllwch y byd hwn, a phwerau ysbrydol drygionus yn y nefoedd” (Eff 6:12), y mae angen mwy nac adnoddau dynol i gyhoeddir Efengyl. Rhaid wrth adnoddau Duw ei hun. YR EGLWYS A’R BYD Y mae dyfodiad yr efengyl i’r byd yn peri creisis yng nghalon dyn. Geilw arno i edifarhau ac i wahaniaethu rhwng Duw a’r drwg, goleuni a thywyllwch, y gwir a’r gau. Wrth gael ein huno â Duw y creir yr eglwys fel cymdeithas yn y byd ond nid o’r byd. O’r waredigaeth yng Nghrist y mae cenhadaeth yr eglwys yn tarddu. Rhaid cyhoeddi edifeirwch a maddeuant pechodau i’r holl genhedloedd (Luc 24:24). Y gorchwyl hwn sy’n rhoi ystyr a phwrpas i hanes hyd ddiwedd yr oes hon. “Fe gyhoeddi’r yr Efengyl hon am y deyrnas drwy’r byd i gyd fel tystiolaeth i’r holl genhedloedd, ac yna daw’r diwedd (Math 24:14)”. Beth yn union yw perthynas yr eglwys a’r byd? Gosodwyd y safbwyntiau hanesyddol yn glir gan Richard Niebuhr, Christ and Culture.

1. Crist yn erbyn diwylliant. Dyma’r safbwynt sy’n ystyried fod gelyniaeth barhaus rhwng dwy deyrnas. Does dim cymodi rhwng Jerwsalem ac Athen, Duw ac athroniaeth yn ôl Tertwlian. Lladmerydd y safbwynt yn yr ugeinfed ganrif oedd Tolstoy. Yng Nghymru gellir cymryd Morgan Llwyd a Theulu Trefeca fel enghreifftiau.

2. Crist yn goron diwylliant. Dilëir y paradocs rhwng Crist a diwylliant yn gyfangwbl. Ceir rhai sy’n credu y gellir sefydlu’r drefn foesol a chymdeithasol yn y byd hwn, e.e. Miall Edwards, Thomas Rees, Gwynfor Evans.

3. Crist a diwylliant yn gyfochrog. Dadleuir fod Natur a Gras yn ddwy deyrnas ar wahân. Y mae gras, fodd bynnag, yn well ac yn perffeithio natur. Tomos o Acwin, Saunders Lewis.

Page 33: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

33

4. Crist a diwylliant mewn paradocs. Erys tyndra parhaol rhyngddynt. Er mai dinesydd byd arall yw’r Cristion yn y byd hwn y mae’n bodoli. Rhaid byw gyda’r paradocs. Martin Luther.

5. Crist yn trawsffurfio diwylliant. Hwn yw’r safbwynt sy’n cymryd pechod dyn o ddifrif ac eto yn gweld Crist yn Arglwydd bywyd yn ei hollgyflawnder ac felly yn trawsffurfio’r byd a’r bywyd hwn. Crist yw sancteiddiwr diwylliant. Calfin, William Williams, Gruffydd Jones, Thomas Charles, Thomas Jones, Ieuan Glan Geirionnydd, Gwilym Hiraethog.

Rhaid wrth efengylu, felly, sy’n cymryd o ddifrif y gwahaniaeth rhwng yr eglwys a’r byd o berspectif yr efengyl. Efengylu wedi ei anelu tuag at dorri caethiwed dyn yn y byd heb gaethiwo’r eglwys yn y byd drachefn (Padilla Ibid td 9). Dyma rai awgrymiadau:

1. Efengylu sy’n cyhoeddi Iesu Grist yn Arglwydd popeth. Crynhoi’r neges hanfodol y TN yn yr adnod: “Gwnaeth Duw ef yn Arglwydd ac yn Grist, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi” (Act 2:36) Gweler hefyd Heb 1:4 a Philip 2:6-11). Ni ellir gwahanu gwaith offeiriadol Crist oddi wrth ei waith fel brenin. Nid yn unig y mae wedi ein glanhau oddi wrth ein pechodau ond y mae wedi ein rhyddhau o afael galluoedd y tywyllwch. Awr y Groes oedd awr barnu tywysog y byd hwn (Ioan 12:31). Gweler Col 2:15. Mae’r Iachawdwriaeth yng Nghrist felly, yn cynnwys maddeuant pechodau (1 Ioan 1:9) a buddugoliaeth tros y byd (1 Ioan 5:4-5) trwy ffydd. Wrth efengylu nid yn unig y rhyddheir dyn o euogrwydd pechod ond fe’i gollyngir yn rhydd i WASANAETHU AC i RANNU YM MWRIADAU DUW AR GYFER Y BYD. Y bwriadau oedd yn amlwg o’r dechrau ond a gymylwyd ac a lygrwyd gan bechod. Dyma ddyn yn greadur newydd, yn rhydd i wasanaethu ei Arglwydd mewn ufudd-dod fel crëwr ei ddiwylliant. Rhaid iddo gofio, fodd bynnag, mai yn y byd drwg hwn y mae o hyd, ac nid oes ddwyfoli i fod ar unrhyw greadigaeth ddiwylliannol o’i eiddo. Teyrnas arall y mae yn ei geisio, dinas y mae yn ei chwennych ei hadeiladydd a’i sylfaenydd yw Duw ei hun. Y gwahaniaeth sylfaenol rhwng yr eglwys a’r byd yw ei bod hi wedi derbyn Arglwyddiaeth Crist ac yn byw’n barhaus yn rhinwedd ei roddion a’i fendithion ef iddi (Effes 1:3-14, 4:7-16).

2. Ond y mae bydolrwydd yn bygwth yr eglwys o hyd. Yn rhy aml uniaethodd yr eglwys ei hun gydag un diwylliant arbennig gyda chanlyniadau anffodus. Mae perygl mawr ffosileiddio’r Efengyl oddi mewn i un diwylliant arbennig, e.e. Concwest America Ladin gan Spaen – yr oedd yn goncwest filitaraidd a chrefyddol. Plannwyd nid yn unig y diwylliant Spaenaidd yno ond diwylliant Cristionogol.

Page 34: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

34

Cyflawnodd nifer fawr o genhadon eu cenhadaeth yng nghysgod Imperialaeth y ganrif ddiwethaf. Uniaethwyd yr efengyl â ffordd y dyn gwyn o weithredu ac o fyw. (Er bod gwir yn hyn cyflwynwyd gwrthddadl yn ddiweddar gan Lamin Sanneh Transforming the Message, Orbis. Hanfod ei ddadl yw bod yr efengyl yn wir nid yn unig oherwydd y bobl sy’n ei chyhoeddi ond y mae yn wirionedd ynddi ei hun. Canlyniad cyfieithu’r Ysgrythurau gan y cenhadon oedd fod y brodorion yn medru defnyddio’r efengyl i feirniadu eu diwylliant hwy eu hunain a diwylliant y cenhadon. (Y Zulu yn Ne Affrica yn beirniadu gwisg y cenhadon ar sail Gen 3:21). Wrth drafod efengylu a’r byd mae’r cwestiynau hyn yn berthnasol.

1. Beth yw terfynau ein hymwneud â chyfiawnder ac economeg a gwleidyddaieth?

2. A yw newid strwythur cymdeithas yn rhan o’r dasg i efengylu?

3. Beth all yr eglwys ei wneud yn wyneb problemau enfawr ein byd?

Lamin Sanneh, Translating the Message, Orbis. Rene Padille, Mission Between the Times, Eardmans. D. Bosch, Transforming Mission, Orbis. Costas, Christ Outisde the Gate, Orbis. H. Richards, Christ and Culture, Niebuhr. Ieuan S. Jones, Y Gair ar Gerdded.

Page 35: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

35

Llyfryddiaeth Cyffredinol David Ollerton, Cenhadaeth Newydd i Gymru, Cymru, Cyhoeddiadau’r Gair 2016. J. G. Davies, Worship and Mission, SCM. L. Newbigin, The Finality of Christ, SCM. W. Abraham, The Logic of Evangelism, Hodder. A M Hunter, Christ and the Kingdom, St Andrew’s Press. “Cenhadaeth a Chenadwri Iesu yn ôl yr Efengylau Cyfolwg”, yn Efrydiau Beiblaidd Bangor 1, gol D R Ap-Thomas, Ty John Penry. P. T. Forsyth, The Holy Father. Ysgrifau yn International Review of Missions a International Reformed Bulletin. J. Jeremias, Jesus’ Promise to the Nations, SCM. C. Rene Padilla, Mission Between the Times, Eerdams, 1985. David J. Bosch, Transforming Mission, Orbis 1991. D. Senior a C. Stuhlmueller, The Biblical Foundations for Mission, Orbis, 4ydd arg 1991. O. Costas, Christ Outside the Gate, Orbis 1982. J. Stott, Christian Mission in the Modern World, Kingsway 1975. R. K. Orchard, Missions in a Time of Testing, 1964. J. H. Bavinck, An Introduction to the Science of Missions. R. Padilla, gol, The New Face of Evangelism, Hodder. R. Allen, Missionary Methods: St Paul’s or ours. Michael Marshall, The Gospel Connection, DLT 1991. Yn arbennig penodau 4,5,6. Leighton Ford, Jesus the Transforming Leader Hodder. Michael Green, Evangelism through the local Church, Hodder, 1990. Yn enwedig, pennod 4 sy’n gyforiog o awgrymiadau a llyfryddiaeth ar bynciau fel adnewyddu’r eglwys, lle’r lleygwyr, arweiniad yr Ysbryd, drama, grwpiau yn y catref, cerddoriaeth.

Page 36: YR EGLWYS A’I CHENHADAETH Tiwtor: Euros Wyn …colegyrannibynwyr.cymru/downloads/yr-eglwys-a-i-chenhadaeth.pdf · Trafodwch Ddiwinyddiaeth a dulliau cenhadol yr apostol Paul a’u

36