wjec gcse in welsh specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf ·...

33
TGAU Manyleb i’w haddysgu o 2010 Cymraeg

Upload: others

Post on 25-Jun-2020

5 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAUManyleb i’w haddysgu o 2010

Cymraeg

Page 2: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 1

Cynnwys

TGAU CBAC mewn CYMRAEG

I'w Addysgu o 2010 I'w Ddyfarnu o 2012

Tudalen

Crynodeb o'r Asesiad 2 Rhagarweiniad 3 Cynnwys y Fanyleb 6

Cynllun Asesu 7 Dyfarnu, Adrodd ac Ailsefyll 11

Gweinyddu'r Asesiad dan Reolaeth 12 Disgrifiadau Graddau 30 Y Cwricwlwm Ehangach 31

Page 3: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 2

CYMRAEG

CRYNODEB O'R ASESIAD

Uned 1: Darllen ac Ysgrifennu (40%) Papur Ysgrifenedig: 2 ¼ awr 100 marc (80 marc GMU) Adran A – Darllen Cywain gwybodaeth ac ymateb i ddarnau darllen anllenyddol Adran B – Ysgrifennu Naill ai: Darn ffeithiol/perswadiol Neu: Darn creadigol (rhyddiaith) Adran C – Defnyddio Iaith Adnabod a chywiro gwallau Uned 2: Tasgau Llafar (30 %) Asesiad Dan Reolaeth: 80 marc (60 marc GMU) Adran A Mynegi Barn – tasg grŵp Adran B Cyflwyno Gwybodaeth – tasg unigol Uned 3: Tasgau Ysgrifenedig (Darllen ac Ysgrifennu) (30 %) Asesiad Dan Reolaeth: 120 marc (60 marc GMU) Tasg 1 Darllen Drama / Stori Fer / Straeon Byrion Dehongli testun yn greadigol Tasg 2 Ysgrifennu Mynegi barn ar sail gwybodaeth Tasg 3 Ysgrifennu Naill ai: Cyflwyno gwybodaeth i bwrpas a chynulleidfa Neu: Ysgrifennu creadigol (rhyddiaith)

CYFLEOEDD ASESU

Cod Cofrestru

Testun Opsiwn Mehefin

2011 Ionawr 2012

Mehefin 2012

4531 W1 (S) Uned 1 4531 W2 (U)

Uned 2 4532 W1

Uned 3 4533 W1 Dyfarniad Pwnc 4530 GU

Rhif Achredu'r Cymhwyster: 500/7882/3

Page 4: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 3

CYMRAEG 1 RHAGARWEINIAD 1.1 Rhesymeg

Mae’r fanyleb hon yn meithrin yn yr ymgeiswyr agweddau cadarnhaol at yr iaith Gymraeg, y dreftadaeth lenyddol a’r diwylliant cyfoes aml-gyfrwng, gan feithrin gwerthfawrogiad o’r Gymraeg a hyrwyddo defnydd effeithiol ohoni. Mae’r fanyleb yn cynnig cyfleoedd hefyd ar gyfer byd gwaith a chyfleoedd dysgu pellach o fewn cyflogaeth.

1.2 Nodau a Chanlyniadau Dysgu

Dylai dilyn cwrs TGAU mewn CYMRAEG annog myfyrwyr i gael eu hysbrydoli, eu cyffroi a'u newid drwy astudio maes astudiaeth eang, cydlynol, gwerthfawr, sy'n rhoi boddhad. Dylai’r fanyleb ddatblygu eu diddordeb a’u brwdfrydedd yn y Gymraeg a’u harfogi i gyfrannu at gymdeithas ddwyieithog. Dylai baratoi ymgeiswyr i wneud penderfyniadau gwybodus am gyfleoedd dysgu pellach a dewisiadau gyrfa. Rhaid i fanylebTGAU mewn Cymraeg: alluogi ymgeiswyr i gyfathrebu’n hyderus ac yn effeithiol yn yr iaith arfogi ymgeiswyr i ddatblygu eu sgiliau er mwyn diwallu anghenion ymgeiswyr,

cyflogwyr ac addysg bellach paratoi ymgeiswyr i gaffael yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu

hangen ar gyfer astudio pellach yn y Gymraeg ar Lefel 3 yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.

1.3 Dysgu Blaenorol a Dilyniant Er nad oes anghenion penodol parthed dysgu blaenorol, mae’r fanyleb hon yn

adeiladu ar y Rhaglenni Astudio ar gyfer Cymraeg yng Nghyfnodau Allweddol 1-3. Yn achos disgyblion ysgol gallai hyn olygu eu bod wedi arddangos y rhan fwyaf o nodweddion cyflawniad ar lefel 3.

Gellir astudio’r fanyleb hon gan unrhyw ymgeiswyr beth bynnag eu rhyw neu gefndir

ethnig, crefyddol neu ddiwylliannol.

Nid yw’r fanyleb hon yn oed-benodol ac, oherwydd hynny, darpara gyfleoedd i ymgeiswyr ymestyn eu haddysg gydol oes. Bydd yr arholiad hwn, ynghyd â TGAU mewn Llenyddiaeth Gymraeg, yn sail gadarn i’r ymgeiswyr hynny sydd yn dymuno parhau â’u hastudiaethau yn y Gymraeg trwy ddilyn cyrsiau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch.

Page 5: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 4

1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg

Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau yn aml mewn pynciau TGAU. Y rheswm am hyn yw eu bod yn gymwysterau cyffredinol sy’n paratoi ymgeiswyr ar gyfer ystod eang o alwedigaethau a chyrsiau lefel uwch. Cafodd y cymhwyster a meini prawf pwnc TGAU diwygiedig eu hadolygu i ddarganfod a oedd unrhyw gymwyseddau y mae’r pwnc yn gofyn amdanynt yn gallu bod yn rhwystr i ymgeiswyr anabl. Os darganfuwyd rhwystr o’r fath, cafodd y sefyllfa ei hadolygu eto i sicrhau na chynhwyswyd y cymwyseddau perthnasol oni bai eu bod yn hanfodol i’r pwnc. Cafodd casgliadau’r broses hon eu trafod gyda grwpiau anabledd a phobl anabl. Gwneir addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr anabl er mwyn gwneud yr asesiadau’n hygyrch iddynt. Am y rheswm hwn, heblaw am nifer bach iawn o ymgeiswyr, ni fydd rhwystr llwyr i unrhyw ran o’r asesiad. Mae gwybodaeth am addasiadau rhesymol i’w chael yn nogfen y Cyd-Gyngor Cymwysterau Rheoliadau ac Arweiniad yn Ymwneud ag Ymgeiswyr sy’n Gymwys am Addasiadau mewn Arholiadau. Mae’r ddogfen hon ar gael ar wefan y CGC (www.jcq.org.uk <http://www.jcq.org.uk>). Mae fersiwn Gymraeg o'r ddogfen hon ar gael ar wefan CBAC (www.cbac.co.uk).

Yn y Gymraeg mae gofyn asesu sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Gall fod yn anodd i rai agweddau ar yr asesiad fod o fewn cyrraedd rhai o’r ymgeiswyr, ac efallai na fydd yn bosibl gwneud unrhyw addasiadau rhesymol, fel a ganlyn:

• siarad a gwrando – rhai ymgeiswyr gyda nam ar y lleferydd a rhai ymgeiswyr

gyda nam ar y clyw nad ydynt yn gallu darllen gwefusau • darllen – rhai ymgeiswyr â nam ar y golwg nad ydynt yn gallu darllen Braille.

Yn achos ymgeiswyr nad ydynt yn gallu cyrchu rhan sylweddol o’r asesiad, hyd yn oed ar ôl ystyried yr holl bosibiliadau trwy addasiadau rhesymol, bydd yn dal yn bosibl iddynt dderbyn dyfarniad. Caiff gradd ei rhoi iddynt am y rhannau o’r asesiad y maent wedi’u cymryd a nodir ar eu tystysgrif nad ymdriniwyd â’r holl gymwyseddau. Adolygir hyn yn rheolaidd a gellir ei newid yn y dyfodol.

Page 6: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 5

1.5 Codau Dosbarthu Ar gyfer pob manyleb, rhoddir cod dosbarthu cenedlaethol sy’n nodi i ba faes pwnc y

mae’n perthyn. Y cod dosbarthu ar gyfer y fanyleb hon yw 5510. Dylai canolfannau nodi, yn achos yr ymgeiswyr hynny sy’n cofrestru am fwy nag un

cymhwyster TGAU gyda’r un cod dosbarthu, mai un radd yn unig (yr uchaf) a gyfrifir at ddibenion y Tablau Perfformiad Ysgolion a Cholegau. Efallai yr hoffai canolfannau gynghori ymgeiswyr, os byddant yn cymryd dwy fanyleb gyda’r un cod dosbarthu, ei bod hi’n debygol iawn y bydd ysgolion a cholegau o’r farn eu bod wedi ennill un yn unig o’r ddau gymhwyster TGAU. Mae’n bosibl y byddant yn meddwl hyn hefyd os bydd ymgeiswyr yn cymryd dwy fanyleb TGAU â gwahanol godau dosbarthu ond cryn orgyffwrdd o ran cynnwys. Os oes gan ymgeiswyr unrhyw amheuon am eu cyfuniadau pwnc, dylent gysylltu â’r sefydliad y dymunant fynd iddo cyn dechrau ar eu cyrsiau.

Ceir gorgyffwrdd rhwng manylebau TGAU mewn Cymraeg a TGAU mewn Llenyddiaeth Gymraeg e.e. Asesiad Dan Reolaeth: Darllen – dehongli testun yn greadigol. Ni chaiff ymgeiswyr ar gyfer yr arholiad hwn sefyll TGAU mewn Cymraeg Ail Iaith (Cwrs Llawn a Byr) na TGAU mewn Cymraeg Ail Iaith Cymhwysol (Cwrs Llawn a Byr).

Page 7: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 6

2 CYNNWYS

Mae’r fanyleb TGAU mewn Cymraeg yn ceisio sicrhau bod ymgeiswyr yn cael y cyfle i:

ddatblygu eu diddordeb a’u brwdfrydedd yn y Gymraeg cyfathrebu’n hyderus ac yn effeithiol yn yr iaith datblygu eu sgiliau gan ymgymryd â thasgau ymarferol fydd yn diwallu

anghenion ymgeiswyr, cyflogwyr ac addysg bellach caffael y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cymryd

eu priod le mewn cymdeithas ddwyieithog caffael y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer astudio

pellach.

Rhoddir cyfle i ymgeiswyr:

drafod ac ymateb ar lafar fel unigolion ac fel aelodau o grŵp gan ddefnyddio iaith addas i’r pwrpas ac i’r gynulleidfa

darllen ac ymateb i ystod eang o destunau llenyddol ac anllenyddol ysgrifennu mewn ystod o ffurfiau gwahanol; dylai pob ymgeisydd ysgrifennu

gogyfer ag amrywiaeth o bwrpasau a chynulleidfaoedd rhoi sylw priodol i gywirdeb cystrawen a mynegiant ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Page 8: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 7

3 ASESU 3.1 Cynllun Asesu

Mae'r TGAU mewn Cymraeg yn cael ei asesu mewn haenau, h.y. targedir cydrannau/unedau a asesir yn allanol at yr ystodau graddau A*-D (Haen Uwch) ac C-G (Haen Sylfaenol), tra bod asesiadau dan reolaeth yn darparu ar gyfer yr ystod gallu lawn. Caiff cwestiynau a thasgau eu llunio er mwyn galluogi i'r ymgeiswyr ddangos yr hyn maent yn ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud. Gall ymgeisydd gofrestru am un haen yn unig yn ystod unrhyw gyfres arholiad: Haen Graddau sydd ar gael Uwch A*, A, B, C, D Sylfaen C, D, E, F, G

Dyfernir Gradd E i ymgeiswyr sydd ychydig yn brin o’r lleiafswm marciau ar gyfer Gradd D ar yr Haen Uwch. Bydd y cynllun asesu'n cynnwys: ASESIAD ALLANOL Papur Ysgrifenedig 40% (2 ¼ awr) Gosodir dau bapur arholiad – Haen Uwch (A* - D) a Haen Sylfaenol (C - G) Uned 1 AA2: 20% AA3: 20 % (100 marc: 80 GMU)

Adran A Darllen (Deunydd Anllenyddol) 20% Disgwylir i ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu deall cynnwys amrywiaeth o ddeunyddiau darllen anllenyddol gan ddewis yr hyn sy’n berthnasol at ddibenion penodol; dylent fod yn gallu ymateb i gynnwys, ffurf, cywair iaith a dyfeisiadau a ddefnyddir gan awdur; dylent roi sylw i adfer, trin a chyfuno gwybodaeth i ganfod ystyr y tu hwnt i’r llythrennol ac i ganfod yr hyn sydd ymhlyg mewn testun. Asesir iaith yr ymgeiswyr wrth iddynt ymateb i’r darnau darllen.

Yn ystod y cwrs dylid rhoi cyfleoedd i ymgeiswyr ddarllen ac ymateb i ystod eang o destunau mewn amrywiaeth o ffurfiau ac arddulliau.

Dylai ymgeiswyr gael y cyfle i ddarllen yn annibynnol a chynnal rhaglen sylweddol o ddarllen personol sy’n cynnwys:

amrywiaeth o ddeunydd ffeithiol ystod eang o ffurfiau deunydd sy’n heriol o ran cynnwys a mynegiant, er enghraifft taflenni gwybodaeth,

llyfrau gwybodaeth, gwybodaeth o’r we, cylchgronau a phapurau bro.

Gall y darnau darllen a gynhwysir yn yr arholiad berthyn i unrhyw rai o’r cyd-destunau uchod.

Bydd 50 o farciau i Adran A. Dyfernir hyd at 40 o farciau am ymateb ymgeisydd i’r darnau darllen a dyfernir 10 o farciau am ansawdd iaith a mynegiant.

Page 9: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 8

Adran B Ysgrifennu 16% Disgwylir i ymgeiswyr ddangos eu gallu i ysgrifennu darn ffeithiol / perswadiol neu ddarn creadigol (rhwng un a dwy dudalen o hyd) mewn amrywiaeth o ffurfiau ac at wahanol ddibenion.

Disgwylir i ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu ysgrifennu’r Gymraeg yn effeithiol ac arddangos ymwybyddiaeth o briodoldeb iaith yn unol â’r pwrpas a’r gynulleidfa, gan ddefnyddio ystod o eirfa a phatrymau iaith; cyflwyno testun yn glir, gan wneud defnydd cywir o baragraffu, cystrawen, sillafu ac atalnodi. Yn ystod y cwrs dylid rhoi cyfleoedd i ymgeiswyr ysgrifennu:

mewn ymateb i amrywiaeth eang o symbyliadau mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau i ystod eang o bwrpasau gan ddefnyddio ystod eang o ffurfiau addas i’r pwrpas.

Rhoddir 40 o farciau am Adran B. Dyfernir hanner y marciau am y cynnwys a hanner am ansawdd iaith a mynegiant.

Adran C Defnyddio Iaith 4% Disgwylir i’r ymgeiswyr adnabod a chywiro gwallau. Ar gyfer yr Haen Uwch, rhoddir darn byr o ryddiaith sy’n cynnwys 10 gwall. Ar gyfer yr Haen Sylfaenol, rhoddir darn byr o ryddiaith sy’n cynnwys 5 brawddeg. Bydd pob brawddeg yn cynnwys dau wall yr un. Rhoddir 10 o farciau am Adran C. Gweler isod y math o nodweddion iaith posibl a dargedir:

treigladau cenedl enwau berfau (berfau amhersonol – Haen Uwch yn unig) arddodiaid idiomau chwithig / idiomau Saesneg negyddu sillafu / atalnodi rhagenwau cymharu ansoddeiriau (Haen Uwch yn unig)

Gellir ystyried defnyddio’r adnoddau gramadeg isod wrth baratoi ar gyfer y cwestiwn hwn:

Cymraeg Graenus – Phil Brake Sylfeini’r Gymraeg – H. Meurig Evans Cymraeg Da – Heini Gruffudd Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu – J. Elwyn Hughes Llyfr Idiomau Cymraeg - R. E. Jones Defnyddio Iaith – Sioned Mair Jones (www.gcad-cymru.org.uk) Pa Arddodiad – D. Geraint Lewis Y Llyfr Berfau – D. Geraint Lewis Y Treigladur – D. Geraint Lewis Gloywi Iaith Ffeiloiaith – Guto Rhys Ymarfer Ysgrifennu – Gwyn Thomas Ffeil Defnyddiau Gloywi (Cymraeg i Oedolion) – CBAC Gloywi Iaith – Cynnal / GCAD (www.gcad-cymru.org.uk) Datblygu Cywirdeb Iaith (Agweddau ar Addysgu'r Gymraeg, Cyfnod Allweddol 3 a 4) – Uned Iaith CBAC Prosiect Telesgop (APADGOS)

Ni chaniateir defnyddio geiriaduron yn yr arholiad hwn.

Page 10: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 9

TASGAU DAN REOLAETH: Llafar 30%

Uned 2 AA1: 30% (80 marc: 60 GMU)Adran A – Tasg Grŵp Mynegi Barn (tua 10 munud) 40 marc Disgwylir i ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau llafar gydag eraill er mwyn mynegi a chefnogi barn. Rhydd y gweithgaredd gyfle i’r ymgeiswyr gyfleu profiadau personol.

Adran B – Tasg Unigol Cyflwyno Gwybodaeth (tua 5 munud) 40 marc Disgwylir i ymgeiswyr gymryd rhan mewn gweithgaredd llafar unigol gan gyflwyno gwybodaeth ar unrhyw agwedd neu agweddau yn ymwneud ag un o’r themâu canlynol:

1. Cymru 2. Hamdden 3. Byd Gwaith 4. Byd Gwyddoniaeth/Technoleg 5. Dinasyddiaeth

Rhydd y gweithgaredd gyfle i’r ymgeiswyr gyfleu profiadau personol.

Awgrymir testunau posibl ar dudalen 13.

TASGAU DAN REOLAETH Tasgau Ysgrifenedig 30%

Uned 3 AA2: 10% AA3: 20% (120 marc: 60 GMU)

Dylid sicrhau y defnyddir ffurfiau ysgrifennu gwahanol i bob un o’r tasgau. Tasg 1: Darllen (10% AA2) 40 marc Disgwylir i ymgeiswyr astudio drama brintiedig neu stori fer/straeon byrion. Dylai canolfannau osod tasg a fydd yn gofyn i ymgeiswyr ddehongli’r testun yn greadigol. Awgrymir testunau a thasgau posibl ar dudalennau 19-20. Tasg 2: Mynegi Barn ar sail gwybodaeth (10% AA3) 40 marc Awgrymir tasgau posibl ar dudalen 21. Tasg 3: Naill ai: Cyflwyno Gwybodaeth i bwrpas a chynulleidfa Neu: Ysgrifennu Creadigol (Rhyddiaith) (10% AA3) 40 marc Awgrymir tasgau posibl ar dudalennau 22-23.

Page 11: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 10

3.2 Amcanion Asesu

Bydd gofyn i'r ymgeiswyr ddangos eu gallu i: AA1 ddefnyddio iaith mewn sefyllfaoedd amrywiol a realistig; ymdrin ag ystod o

ffurfiau cyfathrebu llafar ac ymateb i symbyliadau a sefyllfaoedd amrywiol gan gymryd rhan mewn gweithgareddau llafar yn unigol a chydag eraill; defnyddio’r

cywair priodol a rhoi sylw i ansawdd iaith a rhuglder

AA2 darllen a deall amrywiaeth o ddeunyddiau darllen gan ddethol yr hyn sy’n

berthnasol at ddibenion penodol a chyfleu ystyr darnau i eraill; ymateb i gynnwys, ffurf, cywair, iaith a dyfeisiadau a ddefnyddir gan yr awdur

AA3 ysgrifennu’r Gymraeg yn effeithiol gan ddefnyddio amrywiaeth o ffurfiau sy’n

addas i’r pwrpas a’r gynulleidfa ac arddangos y gallu i ddefnyddio ystod eang o eirfa a phatrymau iaith, gan ddewis arddull briodol; arddangos gafael ar baragraffu, cystrawen, sillafu ac atalnodi

Mae pwysiad yr amcanion asesu ar draws y cydrannau fel a ganlyn:

AA1 AA2 AA3 Cyfanswm

Papur Ysgrifenedig Darllen ac Ysgrifennu

20%

20%

40%

Asesiad Dan Reolaeth Tasgau Llafar

30% 30%

Asesiad Dan Reolaeth Tasgau Ysgrifenedig

10% 20% 30%

Cyfanswm Pwysoli

30%

30%

40%

100%

3.3 Ansawdd y Cyfathrebu Ysgrifenedig

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr arddangos eu gallu mewn cyfathrebu ysgrifenedig ym mhob uned lle mae gofyn iddynt gynhyrchu deunydd ysgrifenedig estynedig: Unedau 1 a 3. Mae’r cynlluniau marcio ar gyfer yr unedau hyn yn cynnwys y meini prawf canlynol ar gyfer asesu cyfathrebu ysgrifenedig:

ysgrifennu’r Gymraeg yn effeithiol gan ddefnyddio amrywiaeth o ffurfiau sy’n

addas i’r pwrpas a’r gynulleidfa ac arddangos y gallu i ddefnyddio ystod eang o eirfa a phatrymau iaith, gan ddewis arddull briodol; arddangos gafael ar baragraffu, cystrawen, sillafu ac atalnodi.

Page 12: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 11

4 DYFARNU, ADRODD AC AILSEFYLL

Caiff cymwysterau TGAU eu hadrodd ar raddfa wyth pwynt o A* i G, ac A* yw’r radd uchaf. Bydd cyrhaeddiad disgyblion na fyddant yn llwyddo i gyrraedd y safon isaf bosibl i ennill gradd yn cael ei gofnodi â’r llythyren U (annosbarthedig) ac ni fyddant yn derbyn tystysgrif.

Manyleb ag unedau yw hon sy’n caniatáu elfen o asesu fesul cam. Unwaith yn unig y gellir ailsefyll yr unedau (gyda’r canlyniad gorau’n cyfrif) cyn agregu ar gyfer y dyfarniad pwnc. Rhaid i o leiaf 40% o’r asesiad gael ei gymryd ar ddiwedd y cwrs, i fodloni’r gofyniad am asesiad terfynol, a rhaid i ganlyniadau’r asesiad terfynol hwnnw gyfrannu at y dyfarniad pwnc. Felly, ni all unrhyw ganlyniadau blaenorol ar gyfer yr uned(au) sy’n cael eu defnyddio i fodloni’r gofyniad am asesiad terfynol o 40% gyfrannu at y dyfarniad pwnc, hyd yn oed os ydynt yn well na’r canlyniadau a enillwyd ar ddiwedd y cwrs.

Mae gan ganlyniadau am uned hyd oes a gyfyngir gan hyd oes y fanyleb yn unig. Gall ymgeisydd ailsefyll y cymhwyster cyfan fwy nag unwaith.

Adroddir canlyniadau unedau unigol ar raddfa marciau unffurf (GMU) â’r

cyfwerthoedd graddau canlynol:

GRADD UCHAF. A* A B C D E F G

Uned 1 80 72 64 56 48 40 32 24 16

Uned 2 60 54 48 42 36 30 24 18 12

Uned 3 60 54 48 42 36 30 24 18 12

Dyfarniad Pwnc 200 180 160 140 120 100 80 60 40

Page 13: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 12

5 GWEINYDDU'R ASESIAD DAN REOLAETH

Mae rheoliadau'r asesiad dan reolaeth wedi'u rhannu'n dri cham:

• gosod y dasg • gwneud y dasg • marcio'r dasg

Ar gyfer pob cam, mae'r awdurdodau rheoleiddio wedi pennu lefel benodol o reolaeth er mwyn sicrhau dilysrwydd a dibynadwyedd. Nid oes haenau i'r asesiadau dan reolaeth a gwahaniaethir trwy ganlyniad. Uned 2 - Tasgau Llafar Dylai disgyblion gael digon o gyfleoedd i ymarfer eu sgiliau llafar mewn gwahanol sefyllfaoedd ac i wahanol gynulleidfaoedd, yn unigol ac mewn grwpiau. Bydd manteisio ar gyfleoedd i gyflwyno gwybodaeth a mynegi barn am bynciau amrywiol, yn ogystal â chyflwyno profiadau yn cyfoethogi profiadau’r disgyblion ac yn datblygu eu sgiliau llafar. Tasg 1 Mynegi Barn (mewn grŵp) Gosod y dasg Rheolaeth ar lefel ganolig Bydd CBAC yn darparu banc o dasgau enghreifftiol (gweler llyfryn deunyddiau enghreifftiol am enghreifftiau) a bydd y rhain yn cael eu hadnewyddu bob dwy flynedd. Os bydd canolfan yn penderfynu gosod eu tasgau eu hunain neu’n addasu o’r banc enghreifftiol, bydd rhaid eu hadnewyddu bob dwy flynedd a’u hanfon at CBAC cyn eu defnyddio. Gosodir y sbardunau fel arfer mewn print/llun er y gellid ystyried deunydd gweledol/clywedol yn ogystal ambell waith. Byddant wedi eu selio ar bynciau cyfoes megis Delwedd neu Hawliau Dynol. Symbyliadau ar gyfer dechrau trafodaeth yn unig fydd y sbardunau hyn, a gellir cyfeirio at bethau perthnasol eraill na sonnir amdanynt yn y deunydd a gyflwynir. Gwneud y dasg Rheolaeth ar lefel ganolig Awgrymir oddeutu pythefnos i ymgeiswyr baratoi o flaen llaw ar gyfer y dasg. Yn ystod y cyfnod paratoi gall ymgeiswyr weithio o dan oruchwyliaeth gyfyngedig. Gallant ymchwilio am y pwnc trwy ddefnyddio’r we, darllen papurau newydd / cylchgronau neu wrando ar y newyddion. Gall athrawon roi arweiniad a chynnig cyngor cyffredinol i’r ymgeiswyr. Gellir gosod ymarferion / tasgau byrion i ymgeiswyr ynglŷn â thrafod mewn grŵp neu gogyfer ag ymgyfarwyddo â’r pwnc yn y sbardun trafod.

Page 14: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 13

Dylid gofyn i’r ymgeiswyr drafod y pwnc a roddwyd iddynt gan fynegi eu barn bersonol, a dylid caniatáu iddynt wneud hynny’n weddol annibynnol er y gellir ymyrryd ar adegau er mwyn symud y drafodaeth yn ei blaen. (Gweler Swyddogaeth yr athro/athrawes). Dylai’r drafodaeth gymryd tua 10 munud. Swyddogaeth yr athro/athrawes yn ystod y drafodaeth lafar. Yn ystod y drafodaeth grŵp dylai’r athro/athrawes roi cyfle i’r grŵp drafod yn weddol annibynnol. Os bydd angen dylai athro/athrawes sbarduno trafodaeth hybu newid cyfeiriad y drafodaeth gofyn i ymgeisydd gynnig tystiolaeth i gadarnhau syniadau neu ddatblygu dadl sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael cyfle i ymateb.

Marcio’r dasg Rheolaeth ar lefel ganolig • Disgwylir i’r athro/athrawes farcio'r dasg lafar o gyfanswm o 40. • Asesir iaith a mynegiant yr ymgeiswyr yn y dasg. Dyfernir hanner y marciau am

gynnwys cyfraniadau a hanner y marciau am gywair iaith priodol ac ansawdd iaith a mynegiant.

Tasg 2 Cyflwyno Gwybodaeth (yn unigol) Gosod y dasg Rheolaeth ar lefel gyfyngedig Ar gyfer y dasg cyflwyno gwybodaeth, dylai ymgeiswyr gael y cyfle i gymryd rhan yn unigol gan gyflwyno gwybodaeth ar unrhyw agwedd neu agweddau yn ymwneud ag un o’r themâu canlynol: 1. Cymru 2. Hamdden 3. Byd Gwaith 4. Byd Gwyddoniaeth/Technoleg 5. Dinasyddiaeth Rhydd y gweithgaredd gyfle i’r ymgeiswyr gyfleu profiadau personol. Enghreifftiau o destunau ar gyfer Tasg Cyflwyno Gwybodaeth 1. Cymru: Saunders Lewis, Urdd Gobaith Cymru, Joe Calzaghe, Cwm Tryweryn 2. Hamdden: Pêl-droed, Canu offeryn cerdd, Dawnsio, Beicio mynydd, Taikwando

3. Byd Gwaith: Ffermio, Profiad gwaith, Diwydiant lleol, Busnes lleol 4. Byd Gwyddoniaeth / Technoleg: Dyfais arbennig, Gêmau cyfrifaduron

5. Dinasyddiaeth: Masnach Deg, Ynni Cynaladwy, Datblygiad mewn ardal e.e.

canolfan siopa newydd, cwrs rasio ceffylau newydd – Ffos Las, Trimsaran

Page 15: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 14

Gwneud y dasg Rheolaeth ar lefel ganolig Awgrymir oddeutu pythefnos i ymgeiswyr baratoi o flaen llaw ar gyfer y dasg. Yn ystod y cyfnod paratoi gall ymgeiswyr weithio o dan oruchwyliaeth gyfyngedig. Gallant ymchwilio am y pwnc trwy ddefnyddio’r we, darllen papurau newydd / cylchgronau / llyfrau cyfair / pamffledi, gwrando ar raglenni teledu neu holi pobl. Gall athrawon roi arweiniad a chynnig cyngor cyffredinol i’r ymgeiswyr ynglŷn â gwneud y dasg. Disgwylir i’r ymgeiswyr gyflwyno gwybodaeth y maent wedi ei baratoi o flaen llaw ar unrhyw agwedd neu agweddau yn ymwneud â'r themâu a nodwyd uchod.

Caniateir i ymgeiswyr ddefnyddio gwrthrychau neu ddelweddau fel cymorth yn unig wrth gyflwyno gwybodaeth ar eu pwnc dewisol.

Gall yr ymgeiswyr ddefnyddio pwyntiau bwled byr sy’n cynnwys ystadegau, ffeithiau, enghreifftiau a dyfyniadau perthnasol.

Gellir defnyddio technoleg gwybodaeth e.e. PowerPoint, fel adnodd i gynorthwyo’r cyflwyniad fel cymorth yn unig. Pwysleisir nad tasg ddarllen mo hon ond cyflwyniad llafar wedi ei baratoi gan yr ymgeisydd.

Dylai’r athro/athrawes gadw unrhyw bwyntiau bwled neu gyflwyniad PowerPoint wedi’r cyflwyniad.

Pe dymunid, ar ddiwedd y cyflwyniad yn unig, gellir caniatáu i ddisgyblion eraill ofyn rhai cwestiynau.

Ni ddylid caniatáu mwy na 5 munud i bob ymgeisydd wneud y cyflwyniad unigol, yn cynnwys unrhyw gwestiynau a ofynnir i’r ymgeisydd.

Swyddogaeth yr athro/athrawes Yn ystod y cyflwyniad unigol gan yr ymgeisydd, dylai’r athro/athrawes: roi cyfle i’r ymgeisydd wneud ei gyflwyniad yn annibynnol ymyrryd neu brocio os oes angen yn unig sicrhau nad yw’r ymgeisydd yn darllen ei gyflwyniad.

Marcio’r dasg Rheolaeth ar lefel ganolig • Disgwylir i’r athro/athrawes farcio'r dasg lafar o gyfanswm o 40. • Asesir iaith a mynegiant yr ymgeiswyr yn y dasg. Dyfernir hanner y marciau am

gynnwys cyfraniadau a hanner y marciau am gywair iaith priodol ac ansawdd iaith a mynegiant.

Safoni ar gyfer y ddwy dasg Dylai safoni ddigwydd ar ddwy lefel: (i) Er mwyn sicrhau bod safon yr asesu yn gyson ar draws y grwpiau dysgu

rhaid i safoni mewnol trylwyr ddigwydd o fewn canolfan. Mae'n rhaid sicrhau cyfleoedd i gyfnewid gwaith a thrafod meini prawf yn gyson. Rhaid i ganolfannau safoni asesiadau ar draws gwahanol athrawon a grwpiau addysgu. Mae’n anodd datrys problemau anghysondeb yn yr asesu pan fydd trefn teilyngdod ymgeiswyr yn newid yn ystod cyfnod asesu terfynol. Rhaid i un person fod yn gyfrifol am y drefn safoni mewnol yn y ganolfan.

Page 16: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 15

(ii) Rhaid i ganolfan anfon sampl o dasgau at y safonwr allanol erbyn dyddiad a bennir ar ddechrau Tymor yr Haf (diwedd Ebrill / dechrau Mai).

Taflen farciau unigol yr ymgeisydd • Dylid nodi'r hyn a roddwyd i’r ymgeiswyr fel sbardun ar gyfer y dasg mynegi

barn. • Dylid nodi unrhyw ragbaratoi ar ran yr ymgeisydd ei hun ac unrhyw

gymorth/arweiniad a roddwyd gan yr athro/athrawes. Bydd gofyn nodi unrhyw nodiadau/sylwadau perthnasol ar gyfer y safonwr

megis sut y cafodd y tasgau eu cyflawni. Dylid nodi a ddefnyddiwyd nodiadau byr neu gyflwyniad PowerPoint gan yr

ymgeisydd ar gyfer y dasg unigol. Y sampl

Dylid anfon sampl o un ymgeisydd o bob dosbarth dysgu ar gyfer y dasg lafar Cyflwyno Gwybodaeth ac un grŵp o bob dosbarth dysgu ar gyfer y dasg Mynegi Barn. Dylai'r sampl adlewyrchu'r holl ystod o raddau. Mewn canolfannau llai, lle nad oes mwy na dau ddosbarth dysgu, disgwylir o leiaf dair enghraifft sy'n cynrychioli ystod gallu'r ymgeiswyr ar y ddwy dasg. Dylid sicrhau bod sampl ychwanegol ar gael wrth gefn yn y ganolfan.

Dylid sicrhau bod enw a rhif y ganolfan yn ogystal ag enwau’r ymgeiswyr a’u marciau yn glir ar y tapiau sain / cryno ddisgiau.

Rhoddir cyfarwyddyd pellach i ganolfannau unigol pan na fydd canolfan wedi

cwrdd â gofynion CBAC. Os bydd angen, rhaid anfon y sampl ychwanegol o’r gwaith a gadwyd wrth gefn at y safonwr a/neu trefnir bod safonwr allanol yn ymweld â chanolfan i asesu’r ymgeiswyr. Lle y cyfyd problem sylweddol bydd CBAC yn cymeradwyo tasgau pellach ac yn monitro trefniadau’r ganolfan ar gyfer marcio a safoni gyhyd ag y tybir sydd yn angenrheidiol.

Cofnodi marciau Cofnodir marciau'r holl ymgeiswyr ar ffurflenni cyfrifiadurol “C” a gwblheir fel arfer

ym mis Mai.

Page 17: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 16

Cynllun Marcio Tasg Mynegi Barn

Cyfanswm Marciau

40

Marc 20

MYNEGI BARN 20

IAITH A MYNEGIANT 20

38-40

19-20

• cyfrannu’n aeddfed, blaengar ac

annibynnol • trafod y testun yn ymestynnol a threiddgar

gan gyflwyno tystiolaeth • ehangu a chrynhoi wrth ddatblygu

pwyntiau • holi’n dreiddgar wrth ddatblygu trafodaeth

a newid cyfeiriad • pwyso a mesur safbwyntiau eraill

• iaith gyfoethog a chyhyrog • gafael sicr ar iaith a chystrawen • mynegiant eglur a graenus • ieithwedd briodol i’r dasg a’r

gynulleidfa • defnyddio geirfa eang yn hyderus

34-37

17-18

• cyfrannu’n hyderus, pwrpasol ac

annibynnol gan ddangos blaengaredd • trafod y testun yn ymestynnol gan fynegi

barn bendant a chyflwyno tystiolaeth briodol

• dangos y gallu i ehangu a chrynhoi • holi’n dreiddgar wrth ddatblygu trafodaeth • ymateb yn briodol i safbwyntiau eraill

• iaith raenus • arddangos gafael gadarn ar iaith a

chystrawen • mynegiant eglur a graenus • ieithwedd briodol i’r dasg a’r

gynulleidfa • defnyddio geirfa eang

30-33

15-16

• cyfrannu’n hyderus, pwrpasol ac

annibynnol • trafod y testun yn fanwl gan fynegi barn yn

glir a chyflwyno tystiolaeth yn gyson • arddangos peth gallu i ehangu a chrynhoi • dangos y gallu i holi a datblygu trafodaeth • ymateb i safbwyntiau eraill

• adnoddau iaith da • dangos gafael dda ar iaith a

chystrawen • mynegiant eglur • ymwybyddiaeth o gywair iaith priodol • defnyddio geirfa eithaf eang

24-29

12-14

• cyfrannu’n hyderus ac annibynnol • trafod y testun gyda pheth manylder gan

fynegi barn yn gyson a chyflwyno tystiolaeth

• dangos peth gallu i holi a datblygu trafodaeth

• ystyried safbwyntiau eraill

• adnoddau iaith pur dda • arddangos gafael dda ar iaith a

chystrawen • siarad yn eglur • peth ymwybyddiaeth o gywair iaith

priodol • arddangos gafael dda ar eirfa

18-23

9-11

• cyfrannu gan ddangos cryn annibyniaeth • trafod y testun gan fynegi barn yn weddol

gyson a chyflwyno peth tystiolaeth • dechrau ymateb i safbwyntiau eraill

• adnoddau iaith lled foddhaol • gafael eithaf da ar iaith a chystrawen • siarad yn eithaf eglur • dangos ymwybyddiaeth o ofynion

cynulleidfa • arddangos gafael eithaf da ar eirfa

14-17

7-8

• cyfrannu’n effeithiol gan ymateb i

arweiniad sensitif • trafod y testun gan fynegi peth barn • cyflwyno ambell reswm

• peth gafael ar iaith • arddangos peth gafael ar eirfa a

chystrawen • peth lliw ar y mynegiant • cyflwyno’n weddol eglur

10-13

5-6

• cyfrannu’n effeithiol gyda pheth anogaeth • mynegi barn yn fyr ac yn syml • dangos peth gallu i roi rhesymau

• ychydig o amrywiaeth iaith • defnyddio geirfa a chystrawennau

elfennol • cynnal diddordeb eraill • ychwanegu peth lliw i’r mynegiant er

mwyn eglurder

6-9

3-4

• angen cryn anogaeth i gyfrannu

• ymgais i amrywio patrwm a geirfa

0-5

0-2

• ymateb yn fyr i gwestiynau syml

• adnoddau iaith cyfyngedig

Page 18: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 17

Cynllun Marcio Tasg Cyflwyno Gwybodaeth

Cyfanswm

Marciau 40

Marc 20 CYFLWYNO GWYBODAETH IAITH A MYNEGIANT

38-40

19-20

• cyflwyniad unigol cydlynus ac effeithiol • dangos treiddgarwch a dyfnder • dadansoddi syniadau’n aeddfed • trafod gwahanol agweddau ar y pwnc

yn drefnus

• iaith gyfoethog a chyhyrog • gafael sicr ar iaith a chystrawen • mynegiant eglur a graenus • cyflwyniad naturiol gyda chywair

priodol i’r dasg a’r gynulleidfa • defnyddio geirfa eang yn hyderus

34-37

17-18

• cyflwyniad unigol cydlynus • dangos manylder a dyfnder • dadansoddi syniadau • trafod agweddau ar y pwnc

• iaith raenus • arddangos gafael gadarn ar iaith a

chystrawen • mynegiant eglur a graenus • cyflwyniad naturiol gyda chywair

priodol i’r dasg a’r gynulleidfa • defnyddio geirfa eang

30-33

15-16

• cyflwyniad unigol trefnus • dangos manylder a threfn syniadau • dadansoddi syniadau • trafod rhai agweddau ar y pwnc

• adnoddau iaith da • dangos gafael dda ar iaith a

chystrawen • mynegiant eglur • cyflwyniad naturiol sy'n dangos

ymwybyddiaeth o gywair iaith priodol • defnyddio geirfa eithaf eang

24-29

12-14

• cyflwyniad unigol eithaf trefnus • dangos manylion perthnasol digonol • dechrau dadansoddi syniadau • trafod mwy nag un agwedd ar y pwnc

• adnoddau iaith pur dda • arddangos gafael dda ar iaith a

chystrawen • siarad yn eglur • cyflwyniad naturiol sy'n dangos peth

ymwybyddiaeth o gywair iaith priodol • arddangos gafael dda ar eirfa

18-23

9-11

• cyflwyniad unigol gydag ymgais i fod yn drefnus

• ffeithiau digonol • trafod o leiaf un agwedd ar y pwnc

• adnoddau iaith lled foddhaol • gafael eithaf da ar iaith a chystrawen • siarad yn eithaf eglur • cyflwyniad naturiol sy'n dangos

ymwybyddiaeth o ofynion cynulleidfa • arddangos gafael eithaf da ar eirfa

14-17

7-8

• cyflwyno peth gwybodaeth gydag ychydig o anogaeth

• ystyried agweddau ar y pwnc

• peth gafael ar iaith • arddangos peth gafael ar eirfa a

chystrawen • peth lliw ar y mynegiant • cyflwyno’n weddol eglur

10-13

5-6

• cyflwyno gwybodaeth am bwnc syml gyda pheth anogaeth

• ystyried un agwedd ar y pwnc

• ychydig o amrywiaeth iaith • defnyddio geirfa a chystrawennau

elfennol • cynnal diddordeb eraill • ychwanegu peth lliw i’r mynegiant er

mwyn eglurder

6-9

3-4

• cyflwyno gwybodaeth yn syml gyda chryn anogaeth

• ymgais i amrywio patrwm a geirfa

0-5

0-2

• cyflwyno ffeithiau moel yn unig gyda chryn anogaeth

• adnoddau iaith cyfyngedig

Page 19: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 18

Uned 3 - Tasgau Ysgrifenedig Gweinyddu’r tasgau ysgrifenedig • Dylid sicrhau y defnyddir ffurfiau ysgrifennu gwahanol i bob un o’r tasgau. • Dylid osgoi gosod yr un testunau neu dasgau i ymgeiswyr dros yr holl ystod gallu

onid ydynt yn addas ar eu cyfer. Pwysleisir mai gwaith gwreiddiol yr ymgeisydd a ddisgwylir ac os cynhwysir

adrannau nad ydynt yn waith gwreiddiol, dylid nodi'r ffynonellau yn glir. Ni ddylai'r athro/athrawes ar unrhyw gyfrif dderbyn gwaith sydd wedi'i gopïo neu

wedi'i gyfieithu. Tasg 1 Darllen Drama / Stori fer / Straeon byrion – dehongli testun yn greadigol (AA2) Gosod y dasg Rheolaeth ar lefel gyfyngedig Wrth gyflawni’r dasg hon dylai’r ymgeisydd ddehongli’r testun printiedig yn greadigol. Trwy gyfrwng y dasg gall ymgeisydd ddangos ei ddealltwriaeth a’i werthfawrogiad o’r testun a’i ymwybyddiaeth o naws, arddull a chyd-destun. Diffinnir dehongli testun yn greadigol yn y cyd-destun hwn fel gwaith sy’n cyfuno’r ffeithiol a’r dychmygol, hynny yw, mae’n defnyddio ffeithiau neu ddehongliadau sydd ymhlyg yn y stori fer / straeon byrion / drama, ond drwyddynt yn creu rhywbeth nad ydyw ar gael yn uniongyrchol yn y gwreiddiol. Rhaid i’r dasg hon gael ei seilio yn gadarn ar y testun neu fod yn ddatblygiad amlwg ohono, hynny yw, rhaid i’r testun gael lle pendant, canolog yn y dasg a gyflwynir. Pe bai canolfan yn dewis astudio drama brintiedig ar gyfer y dasg hon, yna gellid ei chyflwyno yn y gwaith cwrs Llenyddiaeth Gymraeg a’i hasesu ddwywaith yn unol â meini prawf Cymraeg a Llenyddiaeth Gymraeg. Dylid llungopïo’r dasg neu gynhyrchu ail fersiwn ar brosesydd geiriau a’i chynnwys yn y gwaith cwrs Llenyddiaeth Gymraeg. Dylai’r testunau a’r tasgau a osodir fod yn addas ar gyfer gallu’r ymgeisydd. Gall canolfannau ddewis testunau addas eraill ac addasu neu gynllunio tasgau tebyg i’r rhai a nodir isod.

Page 20: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 19

ENGHREIFFTIAU O DESTUNAU ADDAS

(Adolygir yr enghreifftiau o destunau addas bob dwy flynedd.) Testunau mwy heriol

*Ar Ddu a Gwyn – Huw Lloyd Edwards *Blodeuwedd – Saunders Lewis *Cyfres Codi’r Llenni - Martha Jac a Sianco: Sgript a Gweithgareddau – Caryl Lewis, Catrin Jones *Cysgod y Cryman: Addasiad Llwyfan – Siôn Eirian *Esther – Saunders Lewis *Gymerwch chi Sigaret? – Saunders Lewis *Sal – Gwenlyn Parry *Tair – Meic Povey *Y Tad a’r Mab – John Gwilym Jones Testunau y gellir eu hystyried ar gyfer yr holl ystod gallu

*Cariad Creulon – Richard Bryn Williams *Chwe Drama Fer – Emyr Edwards *Cyfres Codi’r Llenni - Hi Yw Fy Ffrind: Sgript a Gweithgareddau – Dafydd Llywelyn, Lowri Cynan *Cyfres Codi’r Llenni - I Dir Neb: Sgript a Gweithgareddau – Rhiannon Wyn, Catrin Jones *Dan y Wenallt – Dylan Thomas, Cyfieithwyd gan T. James Jones *Leni – Dewi Wyn Williams *Panto – Gwenlyn Parry *Shirley Valentine – Cyfieithiad Manon Eames *Y Ffin – Gwenlyn Parry Straeon Bob Lliw – Eleri Llywelyn Morris Testunau llai heriol

*Agi! Agi! Agi! – Urien William

*Cyfres Codi’r Llenni - Mewn Limbo: Sgript a Gweithgareddau – Gwyneth Glyn, Lowri Cynan *Cyfres Lleisiau *Dramâu’r Drain *Love Hearts i Bosnia - Gwen Lasarus *Man Gwyn Man Draw – Gwenno Hywyn *Siwan (Addasiad) – Saunders Lewis *Y Sosban – Myrddin ap Dafydd Cyfres I’r Byw Eli Brown / Straeon Mererid (Straeon Bob Lliw) – Eleri Llywelyn Morris

* Testunau sy’n pontio â’r fanyleb TGAU Llenyddiaeth Gymraeg

Page 21: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 20

Dylai ymgeiswyr gael y cyfle i gyflwyno tasgau tebyg i’r awgrymiadau isod:

TASGAU POSIBL (Adolygir yr enghreifftiau o dasgau bob dwy flynedd.)

Ymson y prif gymeriad / un o’r cymeriadau Cyfres o ymsonau’r cymeriadau ar adegau arbennig e.e. Leni Creu diweddglo / golygfa newydd e.e. Y Ffin Golygfa newydd i gloi Dyddiadur / Blog y prif gymeriad / un o’r cymeriadau Pytiau o ddyddiadur un neu fwy o’r cymeriadau e.e. Panto Sgwrs rhwng dwy gymdoges am y digwyddiadau yn y ddrama e.e. Shirley

Valentine Llythyr e.e. Love Hearts i Bosnia – llythyr Wayne at ei gariad Linda o

Sarajevo; Shirley Valentine – llythyr ffrind at Shirley Cyfres o lythyrau Sgwrs rhwng y cymeriadau wrth ailgwrdd ymhen cyfnod o amser e.e. Agi!

Agi! Agi! Cyfres o negeseuon e-bost rhwng cymeriadau

Gwneud y dasg Rheolaeth ar lefel ganolig Dylid nodi’r testun, y dasg a dyddiad cyflawni’r dasg. Dylai’r athrawon gyflwyno’r dasg i’r ymgeiswyr a chaniatáu oddeutu pythefnos cyn bod disgwyl iddynt gyflawni’r dasg. Nid yw hyn yn cynnwys yr amser sydd ei angen i baratoi’r testun gyda’r ymgeiswyr. Yn ystod y cyfnod paratoi gall ymgeiswyr weithio o dan oruchwyliaeth gyfyngedig. Gall athrawon drafod a chynnig cyngor cyffredinol i’r ymgeiswyr. Gellir gosod ymarferion / tasgau byrion ar lafar neu’n ysgrifenedig i ymgeiswyr gogyfer ag ymgyfarwyddo â’r testun neu a fydd yn medru eu cynorthwyo i ddeall natur y dasg. Gall ymgeiswyr weithio’n unigol neu ar y cyd ar yr ymarferion hyn. Gall yr ymgeiswyr ddefnyddio’r testun, nodiadau a geiriaduron wrth gyflawni’r dasg Gallant ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth gan ddefnyddio adnoddau ar-lein fel geiriaduron ar-lein a gwirwyr gramadeg a sillafu. Dylai’r ymgeisydd gwblhau’r dasg yn annibynnol. Hyd y dasg: Awgrymir lleiafswm o 500 o eiriau ac uchafswm o 1500 o eiriau. Dylid cofnodi pa arweiniad a roddwyd i’r ymgeiswyr ar y taflenni marciau unigol wrth gyflwyno’r sampl i’w safoni. Ni ddylai ymgeisydd ailysgrifennu tasg wedi i’r athro/athrawes ei chywiro h.y. ni ddylid ar unrhyw gyfrif roi marc am waith fydd wedi ei gywiro mewn drafftiau cynt.

Page 22: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 21

Marcio’r Dasg Rheolaeth ar lefel ganolig Asesir y gwaith cwrs yn fewnol gan athro neu athrawes yr ymgeisydd yn unol â’r cynlluniau marcio yn y fanyleb a’r deunyddiau enghreifftiol. Disgwylir i’r athro/athrawes farcio’r dasg o gyfanswm o 40. Dyfernir 30 o farciau am gynnwys cyfraniadau a 10 o farciau am gywair iaith priodol ac ansawdd iaith a mynegiant. Tasg 2 Ysgrifennu Trafod a mynegi barn ar sail gwybodaeth a gasglwyd (AA3) Gosod tasg Rheolaeth ar lefel gyfyngedig Dylai ymgeiswyr gael y cyfle i gyflwyno tasg debyg i’r awgrymiadau isod. Gall canolfannau ddewis addasu neu gynllunio tasgau tebyg. Tasgau llai heriol Cyfweliad ar ffurf deialog yn holi barn/safbwynt yn seiliedig ar waith llafar

blaenorol/rhaglen deledu/deunydd printiedig Dadl ysgrifenedig ar ffurf deialog rhwng dau berson ar bwnc llosg Ysgrifennu safbwynt ar bwnc y teimlir yn gryf amdano – dylid dewis ffurf addas i

fynegi’r safbwynt hwn Ysgrifennu llythyr perswadiol e.e. ymuno â chlwb, mynd ar wyliau, chwaraeon Ysgrifennu cyfres o lythyrau byrion sy’n mynegi safbwynt ar yr un pwnc ar gyfer

papur bro / rhaglen deledu / cylchgrawn i'r ifanc Tasgau mwy heriol Ysgrifennu dau lythyr ar bwnc llosg - yr ail yn anghytuno â'r cyntaf Ysgrifennu araith ffurfiol ar gyfer Noson Siarad Cyhoeddus e.e. pwnc llosg lleol /

cenedlaethol / addysgol / moesol ac yn y blaen Dadl ar ffurf deialog e.e. trafodaeth mewn pwyllgor (ffordd osgoi i’r dref) Erthygl papur newydd Llythyr perswadiol yn dangos y gallu i ehangu ar ddadl ac yn dangos

treiddgarwch Ymateb yn feirniadol, treiddgar ac ymestynnol i lythyr/safbwynt pryfoclyd ar ffurf

llythyr neu erthygl Traethawd yn mynegi barn

Gwneud y dasg Rheolaeth ar lefel uchel Dylid nodi’r testun, ffurf a dyddiad cyflawni’r dasg. Dylai’r athrawon roi’r dasg i’r ymgeiswyr oddeutu pythefnos cyn bod disgwyl iddynt gyflawni’r dasg.

Page 23: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 22

Yn ystod y pythefnos cyn gwneud y dasg gall ymgeiswyr weithio o dan oruchwyliaeth gyfyngedig. Gall athrawon drafod a chynnig cyngor cyffredinol i’r ymgeiswyr. Gellir gosod ymarferion / tasgau byrion ar lafar neu’n ysgrifenedig i ymgeiswyr i’w cyflawni yn y dosbarth gogyfer â’u cynorthwyo i ddeall natur y dasg. Gall ymgeiswyr weithio’n unigol neu ar y cyd ar yr ymarferion hyn. Os defnyddir taflenni gwaith neu fframiau ysgrifennu wrth baratoi ar gyfer y dasg yna dylid cyflwyno’r rheini gyda’r ffolderi a anfonir at y safonwr. Dylid cofnodi pa arweiniad a roddwyd i’r ymgeiswyr ar y taflenni marciau unigol wrth gyflwyno’r sampl i’w safoni. Caniateir i ymgeiswyr ddefnyddio un ochr tudalen A4 o nodiadau a baratowyd o flaen llaw ganddynt hwy a dylid cyflwyno’r dudalen hon gyda’r dasg orffenedig. Ni chaniateir i’r ymgeisydd ddefnyddio gwaith estynedig y bydd wedi ei baratoi ymlaen llaw e.e. paragraffau cyflawn (heblaw am ddyfyniadau). Caniateir pwyntiau bwled byr sy’n cynnwys ystadegau, ffeithiau, enghreifftiau a dyfyniadau perthnasol i gyflawni’r dasg. Dylid caniatáu i ymgeiswyr ddefnyddio geiriaduron / thesawrws. Bydd yn rhaid cyflawni’r dasg derfynol o dan oruchwyliaeth ffurfiol. Ni chaiff ymgeiswyr ymgynghori â’i gilydd. Caniateir 2 awr i gyflawni’r dasg. Caniateir mwy o amser i ddisgyblion a chanddynt anghenion arbennig. Unwaith y cyflwynir y gwaith gorffenedig i’r athro / athrawes ar ddiwedd y cyfnod a ganiateir i gwblhau’r dasg ni ellir ei ddiwygio ymhellach. Os gweinyddir y dasg yn ystod cyfnodau byrrach na 2 awr yna dylid casglu’r gwaith ar ddiwedd pob cyfnod a’i gadw’n ddiogel o fewn y ganolfan. Ni ddylai athro / athrawes nodi unrhyw sylwadau ar y gwaith rhwng y cyfnodau hyn. Ni chaniateir defnyddio Technoleg Gwybodaeth i gyflawni’r dasg hon. Ni chaniateir i’r ymgeisydd ddrafftio’r dasg dan reolaeth uchel y tu allan i’r ddwy awr a ganiateir i gyflawni’r dasg. Marcio’r Dasg Rheolaeth ar lefel ganolig Bydd yr athrawon yn marcio’r dasg yn unol â’r cynlluniau marcio yn y fanyleb a'r deunyddiau enghreifftiol. Disgwylir i’r athro/athrawes farcio’r dasg o gyfanswm o 40. Asesir iaith a mynegiant yr ymgeiswyr yn y dasg. Dyfernir hanner y marciau am gynnwys cyfraniadau a hanner y marciau am ansawdd iaith a mynegiant. Tasg 3 - Ysgrifennu Naill ai: Tasg Cyflwyno Gwybodaeth i Bwrpas a Chynulleidfa Neu: Tasg Ysgrifennu Creadigol Gosod y dasg Rheolaeth ar lefel gyfyngedig Naill ai: Cyflwyno Gwybodaeth i bwrpas a chynulleidfa Dylai ymgeiswyr gael y cyfle i gyflwyno tasg debyg i’r awgrymiadau isod. Gall canolfannau ddewis addasu neu gynllunio tasgau tebyg.

Page 24: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 23

Tasgau mwy heriol

Cyfres o ddatganiadau i’r wasg Cofnodion cyfarfod

Tasgau addas i'r holl ystod gallu

Taflen / pamffled wybodaeth Taflen dywys (e.e. o gwmpas tref, ardal, dinas) Llythyr Adroddiad Erthygl Cyfweliad Cyfres o e-byst e.e. yn trefnu digwyddiad / gwyliau i’r teulu

Tasgau llai heriol Cyfarwyddiadau e.e. sut mae gwneud tasg benodol Deunydd hysbysebu

*Ar gyfer y dasg hon, mae modd cyfuno mwy nag un ffurf e.e. datganiad + e-bost yn ymateb i'r datganiad. Neu: Ysgrifennu Creadigol (Rhyddiaith) Dylai ymgeiswyr gael y cyfle i gyflwyno tasg debyg i’r awgrymiadau isod:

• Dyddiadur • Ymson • Stori • Cyfres o lythyron personol • Dramodig • Deialog • Portread

Gwneud y dasg Rheolaeth ar lefel ganolig Dylid nodi’r testun, ffurf a dyddiad y dasg. Dylai’r athrawon roi’r dasg i’r ymgeiswyr a chaniatáu oddeutu pythefnos cyn bod disgwyl iddynt gyflawni’r dasg. Yn ystod y cyfnod paratoi gall ymgeiswyr weithio o dan oruchwyliaeth gyfyngedig. Gall athrawon drafod a chynnig cyngor cyffredinol i’r ymgeiswyr. Gellir gosod ymarferion / tasgau byrion ar lafar neu’n ysgrifenedig i ymgeiswyr gogyfer ag ymgyfarwyddo â’r testun neu a fydd yn medru eu cynorthwyo i ddeall natur y dasg. Gall ymgeiswyr weithio’n unigol neu ar y cyd ar yr ymarferion hyn. Gall yr ymgeiswyr ddefnyddio nodiadau a geiriaduron wrth gyflawni’r dasg Gallant ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth gan ddefnyddio adnoddau ar-lein fel geiriaduron ar-lein a gwirwyr gramadeg a sillafu. Dylai’r ymgeisydd gwblhau’r dasg yn annibynnol. Hyd y dasg: Awgrymir lleiafswm o 500 o eiriau ac uchafswm o 1500 o eiriau.

Page 25: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 24

Dylid cofnodi pa arweiniad a roddwyd i’r ymgeiswyr ar y taflenni marciau unigol wrth gyflwyno’r sampl i’w safoni. Ni ddylai ymgeisydd ailysgrifennu tasg na’i chywiro wedi i’r athro/athrawes ei chywiro h.y. ni ddylid ar unrhyw gyfrif roi marc am waith fydd wedi ei gywiro mewn drafftiau cynt. Marcio’r dasg Rheolaeth ar lefel ganolig Bydd yr athrawon yn marcio’r dasg yn unol â’r cynlluniau marcio yn y fanyleb a'r deunyddiau enghreifftiol. Disgwylir i’r athro/athrawes farcio’r dasg o gyfanswm o 40. Asesir iaith a mynegiant yr ymgeiswyr yn y dasg. Dyfernir hanner y marciau am gynnwys cyfraniadau a hanner y marciau am gywair iaith priodol ac ansawdd iaith a mynegiant. Safoni ar gyfer y tair tasg Dylai safoni ddigwydd ar ddwy lefel: (iii) Er mwyn sicrhau bod safon yr asesu yn gyson ar draws y grwpiau dysgu rhaid i

safoni mewnol trylwyr ddigwydd o fewn canolfan. Mae’n rhaid sicrhau cyfleoedd i gyfnewid gwaith a thrafod meini prawf yn gyson yn ystod y cwrs. Mae’n anodd datrys problemau anghysondeb yn yr asesu pan fydd trefn teilyngodod ymgeiswyr yn newid yn ystod cyfnod asesu terfynol. Rhaid i un person fod yn gyfrifol am y drefn safoni terfynol o fewn canolfan gan ddewis sampl o bob grŵp dysgu. Dylid dangos tystiolaeth o safoni ar waith yr ymgeiswyr.

(iv) Bydd safonwyr CBAC yn archwilio sampl o’r gwaith. Ceir manylion llawn ynglŷn â

dewis sampl yn Llawlyfr Gweinyddu Gwaith Cwrs ac anfonir manylion y drefn hon at ganolfannau yn ystod Tymor y Gwanwyn. Dylid anfon sampl i CBAC ym mis Mai ar gyfer safoni.

Rhoddir cyfarwyddyd pellach i ganolfannau unigol pan na fydd canolfan wedi cwrdd â gofynion CBAC. Os bydd angen, rhaid anfon samplau ychwanegol o’r gwaith at y safonwr. Mae hawl gan CBAC i ofyn am waith yr holl ymgeiswyr i mewn ar gyfer ailasesu os bydd hynny’n angenrheidiol. Lle y cyfyd problem sylweddol bydd CBAC yn cymeradwyo tasgau pellach ac yn monitro trefniadau’r ganolfan ar gyfer marcio a safoni gyhyd ag y tybir sydd yn angenrheidiol.

Cyflwyno’r tasgau ar gyfer y sampl safoni Dylid cyflwyno’r tasgau mewn ffolder A4 ac nid mewn ffeil. Bydd angen cynnwys y daflen farciau unigol ym mhob ffolder. Dylid hefyd gynnwys y daflen farciau grynodol sy’n cynnwys marciau’r holl ymgeiswyr yn y sampl. Cofnodi Marciau Cofnodir marciau'r holl ymgeiswyr ar ffurflenni cyfrifiadurol “C” a gwblheir fel arfer ym mis Mai.

Page 26: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 25

Meini Prawf Tasgau Ysgrifenedig Tasg Ddarllen

Cyfanswm Marciau

DARLLEN LLENYDDOL Marc

30 IAITH A MYNEGIANT Marc

10

38-40

• cyfanwaith creadigol sy’n dehongli testun heriol yn dreiddgar a threfnus

• adlewyrchu nodweddion canolog y testun gwreiddiol yn llawn o ran naws ac awyrgylch

• ymdrin â chymeriadau yn aeddfed a sensitif • gwybodaeth lawn am y testun gwreiddiol -

cymeriadau a digwyddiadau

28-30

• iaith gyfoethog a chyhyrog • defnyddio ystod eang o gystrawennau • gafael sicr iawn ar sillafu, treigladau, atalnodi,

paragraffu a therfyniadau berfau • defnyddio geirfa eang yn hyderus • defnydd hyderus ac effeithiol o ffurf gan

ddefnyddio arddull ysgrifennu sensitif sy’n briodol i’r pwrpas

10

34-37

• gwaith creadigol â dyfnder sy’n dehongli testun ymestynnol yn fanwl a threfnus

• adlewyrchu nodweddion canolog y testun gwreiddiol o ran naws ac awyrgylch yn dda

• dangos sensitifrwydd ac aeddfedrwydd wrth ymdrin â chymeriadau

• gwybodaeth fanwl am y testun gwreiddiol – cymeriadau a digwyddiadau

25-27

• iaith gyfoethog • defnyddio ystod lawn o gystrawennau • arddangos gafael gadarn ar sillafu, treigladau,

atalnodi, paragraffu a therfyniadau berfau • defnyddio geirfa eang • defnydd hyderus o ffurf gan ddefnyddio arddull

ysgrifennu effeithiol sy’n briodol i’r pwrpas

9

30-33

• gwaith creadigol ag apêl iddo sy’n ymateb i’r testun yn fyw a threfnus

• cadw nodweddion canolog y testun gwreiddiol o ran naws ac awyrgylch yn eithaf da

• adnabyddiaeth dda o nodweddion a theimladau’r cymeriadau

• dangos gwybodaeth dda am y testun gwreiddiol – cymeriadau a digwyddiadau

22-24

• adnoddau iaith da • defnyddio ystod dda o gystrawennau • gafael dda ar sillafu, treigladau, atalnodi,

paragraffu a therfyniadau berfau • defnyddio geirfa eithaf eang • dealltwriaeth dda o ffurf gan ddefnyddio arddull

ysgrifennu da sy’n briodol i’r pwrpas

8

24-29

• gwaith creadigol eithaf diddorol sy’n ymateb yn ddeallus i’r testun gyda pheth manylder a threfn

• dangos ymwybyddiaeth o brif nodweddion y testun gwreiddiol o ran naws ac awyrgylch

• ymwybyddiaeth o nodweddion y cymeriadau a’u teimladau

• gwybodaeth eithaf da am y testun gwreiddiol – cymeriadau a digwyddiadau

18-21

• adnoddau iaith pur dda • arddangos gafael dda ar gystrawen • arddangos gafael dda ar sillafu, treigladau,

atalnodi, paragraffu a therfyniadau berfau • arddangos gafael dda ar eirfa • adnabyddiaeth eithaf da o ffurf gan ddefnyddio

arddull ysgrifennu eithaf da sy’n briodol i’r pwrpas

6-7

18-23

• gwaith creadigol gyda chyffyrddiadau diddorol wrth ymateb i’r testun

• dangos peth ymwybyddiaeth o brif nodweddion y testun gwreiddiol o ran naws ac awyrgylch

• dangos dealltwriaeth o nodweddion cymeriadau • dangos gwybodaeth am y testun gwreiddiol trwy

gyflwyno ffeithiau perthnasol i’r dasg dan sylw am y cymeriadau a’r digwyddiadau lle bo hynny’n briodol

13-17

• adnoddau iaith lled foddhaol • gafael weddol dda ar gystrawen • gafael weddol dda ar sillafu, treigladau,

atalnodi, paragraffu a therfyniadau berfau • arddangos gafael eithaf da ar eirfa • ymwybyddiaeth eithaf da o ffurf gan ymdrechu i

ysgrifennu’n briodol i’r pwrpas

5

14-17

• gwaith creadigol sy’n dangos ymdrech i gyflwyno’n ddiddorol wrth ymateb i’r testun

• ymgais i adlewyrchu’r testun gwreiddiol o ran naws ac awyrgylch

• dangos peth dealltwriaeth o gymeriadau • dangos gwybodaeth am y testun gwreiddiol trwy

gyflwyno rhai ffeithiau perthnasol i’r dasg dan sylw am gymeriadau a digwyddiadau

10-12

• peth gafael ar gystrawen • dangos y gallu i sillafu, treiglo, atalnodi a

pharagraffu • defnyddio rhai terfyniadau berfau’n gywir • arddangos peth gafael ar eirfa • ymwybyddiaeth fras o ffurf gan ddangos peth

ymdrech i ysgrifennu’n briodol i’r pwrpas

4

10-13

• ymgais i gyflwyno gwaith creadigol yn seiliedig ar destun syml

• ymateb yn syml i’r testun • rhai manylion yn dangos peth dealltwriaeth o’r

cymeriadau • dangos peth gwybodaeth am y testun gwreiddiol

- cymeriadau a digwyddiadau

7 - 9

• defnyddio geirfa a chystrawennau elfennol • ymgais i baragraffu ac atalnodi • sillafu’r rhan fwyaf o eiriau syml yn gywir • terfyniadau rhai berfau’n gywir ar adegau • dangos ymwybyddiaeth o ffurf a’r angen i

ysgrifennu’n briodol i’r pwrpas

3

6-9

• peth ymgais i gyflwyno gwaith creadigol yn seiliedig ar destun syml

• ychydig o ddealltwriaeth o’r testun gwreiddiol • ychydig o fanylion am gymeriadau a

digwyddiadau

4 - 6

• ymgais i ddefnyddio iaith a chystrawen elfennol • atalnodi’n gywir ar adegau • sillafu rhai geiriau syml yn gywir • defnyddio terfyniadau berfau syml yn gywir • peth ymwybyddiaeth o ffurf gydag ymgais i

ysgrifennu’n briodol i’r pwrpas

2

0-5

• ychydig o ymdrech i gyflwyno gwaith creadigol yn seiliedig ar destun syml

• ychydig o wybodaeth am y testun gwreiddiol • ychydig iawn o fanylion am gymeriadau a

digwyddiadau

0 - 3

• adnoddau iaith cyfyngedig • ychydig iawn o atalnodi cywir • sillafu rhai geiriau syml yn gywir • defnyddio rhai berfau syml • rhai elfennau o’r ffurf

0-1

Page 27: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 26

Tasgau Ysgrifennu

Cyfanswm Marciau

40

Marciau 20

MYNEGI BARN

20

IAITH A MYNEGIANT

20

38-40

19-20

• trafod y testun yn ymestynnol a threiddgar gan fynegi barn aeddfed

• cyflwyno tystiolaeth briodol • ehangu a datblygu pwyntiau • pwyso a mesur safbwyntiau eraill yn ofalus

• iaith gyfoethog a chyhyrog • defnyddio ystod eang o gystrawennau • gafael sicr iawn ar sillafu, treigladau, atalnodi, paragraffu

a therfyniadau berfau • defnyddio geirfa eang yn hyderus • defnydd hyderus ac effeithiol o ffurf ac ieithwedd addas

i’r pwrpas

34-37

17-18

• trafod y testun a mynegi barn yn hyderus a phwrpasol

• cyflwyno tystiolaeth briodol • dangos y gallu i ehangu a datblygu pwyntiau • ystyried safbwyntiau eraill yn fanwl

• iaith gyfoethog • defnyddio ystod lawn o gystrawennau • arddangos gafael gadarn ar sillafu, treigladau, atalnodi,

paragraffu a therfyniadau berfau • defnyddio geirfa eang • defnydd hyderus o ffurf ac ieithwedd addas i’r pwrpas

30-33

15-16

• trafod y testun yn fanwl gan fynegi barn yn bendant • cyflwyno tystiolaeth yn gyson • dangos y gallu i ddatblygu pwyntiau • ystyried gwahanol safbwyntiau

• adnoddau iaith da • defnyddio ystod dda o gystrawennau • gafael dda ar sillafu, treigladau, atalnodi, paragraffu a

therfyniadau berfau • defnyddio geirfa eithaf eang • defnydd da o ffurf ac ieithwedd addas i’r pwrpas

24-29

12-14

• trafod y testun gyda pheth manylder gan fynegi barn yn gyson a chyflwyno tystiolaeth

• datblygu rhai pwyntiau • ystyried safbwyntiau eraill

• adnoddau iaith pur dda • arddangos gafael dda ar gystrawen • arddangos gafael dda ar sillafu, treigladau, atalnodi,

paragraffu a therfyniadau berfau • arddangos gafael dda ar eirfa • defnydd eithaf da o ffurf ac ieithwedd addas i’r pwrpas

18-23

9-11

• trafod y testun gan fynegi barn yn weddol gyson a chyflwyno peth tystiolaeth

• rhoi rhai rhesymau • dangos peth ymdrech i ddatblygu pwyntiau • dangos peth ymwybyddiaeth o wahanol

safbwyntiau

• adnoddau iaith lled foddhaol • gafael weddol dda ar gystrawen • gafael weddol dda ar sillafu, treigladau, atalnodi,

paragraffu a therfyniadau berfau • arddangos gafael eithaf da ar eirfa • ymwybyddiaeth dda o ffurf ac ieithwedd addas i’r pwrpas

14–17

7-8

• trafod y testun gan fynegi peth barn • cyflwyno ambell reswm

• peth gafael ar gystrawen • dangos y gallu i sillafu, treiglo, atalnodi a pharagraffu • defnyddio rhai terfyniadau berfau’n gywir • arddangos peth gafael ar eirfa • ymwybyddiaeth eithaf da o ffurf ac ymdrech i ddefnyddio

ieithwedd addas i’r pwrpas

10–13

5-6

• trafod y testun gan fynegi barn yn fyr ac yn syml • dangos peth gallu i roi rhesymau

• defnyddio geirfa a chystrawennau elfennol • ymgais i baragraffu ac atalnodi • sillafu’r rhan fwyaf o eiriau syml yn gywir • terfyniadau rhai berfau’n gywir ar adegau • dangos ymwybyddiaeth fras o ffurf ac ymdrech i

ddefnyddio ieithwedd addas i’r pwrpas

6-9

3-4

• trafod y testun gan gytuno neu anghytuno’n fyr • ymgais i ddefnyddio iaith a chystrawen elfennol • atalnodi’n gywir ar adegau • sillafu rhai geiriau syml yn gywir • peth ymwybyddiaeth o ffurf ac ieithwedd addas i’r

pwrpas

0–5

0-2

• un neu ddau o bwyntiau’n unig • adnoddau iaith cyfyngedig • ychydig iawn o atalnodi cywir • sillafu rhai geiriau syml yn gywir • defnyddio rhai berfau syml • rhai elfennau o’r ffurf

Page 28: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 27

Cyfanswm

marciau 40

Marciau 20

CYFLWYNO GWYBODAETH 20

IAITH A MYNEGIANT 20

38 - 40

19-20

• cyflwyno gwybodaeth drylwyr • crynhoi ffeithiau perthnasol yn grefftus • trafod gwahanol agweddau ar y testun • cyfanwaith cydlynus cyflwyniad effeithiol iawn ac addas i’r pwrpas

• iaith gyfoethog a chyhyrog • defnyddio ystod eang o gystrawennau • gafael sicr iawn ar sillafu, treigladau, atalnodi, paragraffu

a therfyniadau berfau • defnyddio geirfa eang yn hyderus • defnydd hyderus ac effeithiol o ffurf ac ieithwedd addas

i’r pwrpas

34-37

17-18

• cyflwyno gwybodaeth fanwl • crynhoi ffeithiau perthnasol yn effeithiol • trafod agweddau ar y testun • gwaith cydlynus

cyflwyniad effeithiol ac addas i’r pwrpas

• iaith gyfoethog • defnyddio ystod lawn o gystrawennau • arddangos gafael gadarn ar sillafu, treigladau, atalnodi,

paragraffu a therfyniadau berfau • defnyddio geirfa eang • defnydd hyderus o ffurf ac ieithwedd addas i’r pwrpas

30-33

15-16

• cyflwyno gwybodaeth briodol yn eithaf manwl • crynhoi rhai ffeithiau perthnasol • trafod agweddau ar y testun • gwaith trefnus cyflwyniad da ac addas i’r pwrpas

• adnoddau iaith da • defnyddio ystod dda o gystrawennau • gafael dda ar sillafu, treigladau, atalnodi, paragraffu a

therfyniadau berfau • defnyddio geirfa eithaf eang • dealltwriaeth dda o ffurf ac ieithwedd addas i’r pwrpas

24-29

12-14

• cyflwyno gwybodaeth berthnasol ddigonol yn eglur • trafod mwy nag un agwedd ar y testun • gwaith pur drefnus cyflwyno’r wybodaeth yn eglur ac addas i’r pwrpas

• adnoddau iaith pur dda • arddangos gafael dda ar gystrawen • arddangos gafael dda ar sillafu, treigladau, atalnodi,

paragraffu a therfyniadau berfau • arddangos gafael dda ar eirfa • adnabyddiaeth eithaf da o ffurf ac ieithwedd addas i’r

pwrpas

18-23

9-11

• cyflwyno ffeithiau digonol • trafod o leiaf un agwedd ar y testun • ymdrech i fod yn drefnus • ymdrech i gyflwyno’r wybodaeth yn eglur

• adnoddau iaith lled foddhaol • gafael weddol dda ar gystrawen • gafael weddol dda ar sillafu, treigladau, atalnodi,

paragraffu a therfyniadau berfau • arddangos gafael eithaf da ar eirfa • ymwybyddiaeth eitha da o ffurf ac ieithwedd addas i’r

pwrpas

14-17

7-8

• cyflwyno peth gwybodaeth • ystyried agweddau ar y testun • ymgais at waith cyflawn ac i gyflwyno’n eglur

• peth gafael ar gystrawen • dangos y gallu i sillafu, treiglo, atalnodi a pharagraffu • defnyddio rhai terfyniadau berfau’n gywir • arddangos peth gafael ar eirfa • ymwybyddiaeth fras o ffurf ac ieithwedd addas i’r pwrpas

10-13

5-6

• cyflwyno gwybodaeth am bwnc syml yn eitha eglur • ystyried un agwedd ar y testun • ymgais at drefn a dilyniant

• defnyddio geirfa a chystrawennau elfennol • ymgais i baragraffu ac atalnodi • sillafu’r rhan fwyaf o eiriau syml yn gywir • terfyniadau rhai berfau’n gywir ar adegau • dangos ymwybyddiaeth o ffurf ac ieithwedd addas i’r

pwrpas

6-9

3-4

• cyflwyno peth gwybodaeth yn syml • peth ymgais i gyflwyno manylion yn eglur • peth dilyniant

• ymgais i ddefnyddio iaith a chystrawen elfennol • atalnodi’n gywir ar adegau • sillafu rhai geiriau syml yn gywir • defnyddio terfyniadau berfau syml yn gywir • peth ymwybyddiaeth o ffurf ac ieithwedd addas i’r

pwrpas

0-5

0-2

• cynnwys yn denau iawn • adnoddau iaith cyfyngedig • ychydig iawn o atalnodi cywir • sillafu rhai geiriau syml yn gywir • defnyddio rhai berfau syml • rhai elfennau o’r ffurf

Page 29: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 28

Cyfanswm

Marciau 40

Marciau

20

CREADIGOL

20

IAITH A MYNEGIANT

20

38-40

19-20

• cyfanwaith creadigol aeddfed a threiddgar • arddull afaelgar • adeiladwaith sicr

• iaith gyfoethog a chyhyrog • defnyddio ystod eang o gystrawennau • gafael sicr iawn ar sillafu, treigladau, atalnodi,

paragraffu a therfyniadau berfau • defnyddio geirfa eang yn hyderus • defnydd hyderus ac effeithiol o ffurf ac ieithwedd addas

i’r pwrpas

34-37

17-18

• gwaith â dyfnder iddo • arddull aeddfed • adeiladwaith sicr

• iaith gyfoethog • defnyddio ystod lawn o gystrawennau • arddangos gafael gadarn ar sillafu, treigladau, atalnodi,

paragraffu a therfyniadau berfau • defnyddio geirfa eang • defnydd hyderus o ffurf ac ieithwedd addas i’r pwrpas

30-33

15-16

• gwaith ag apêl iddo • arddull ddifyr • gwaith trefnus

• adnoddau iaith da • defnyddio ystod dda o gystrawennau • gafael dda ar sillafu, treigladau, atalnodi, paragraffu a

therfyniadau berfau • defnyddio geirfa eithaf eang • dealltwriaeth dda o ffurf ac ieithwedd addas i’r pwrpas

24-29

12-14

• gwaith eithaf diddorol • ymwybyddiaeth o rai elfennau i greu effaith • gwaith pur drefnus

• adnoddau iaith pur dda • arddangos gafael dda ar gystrawen • arddangos gafael dda ar sillafu, treigladau, atalnodi,

paragraffu a therfyniadau berfau • arddangos gafael dda ar eirfa • adnabyddiaeth eithaf da o ffurf ac ieithwedd addas i’r

pwrpas

18-23

9-11

• gwaith ag ambell gyffyrddiad diddorol • peth ymdrech i ddefnyddio arddull ddiddorol • ymdrech i fod yn drefnus

• adnoddau iaith lled foddhaol • gafael weddol dda ar gystrawen • gafael weddol dda ar sillafu, treigladau, atalnodi,

paragraffu a therfyniadau berfau • arddangos gafael eithaf da ar eirfa • ymwybyddiaeth eitha da o ffurf ac ieithwedd addas i’r

pwrpas

14–17

7-8

• ymdrech at waith diddorol • ymdrech at waith cyflawn

• peth gafael ar gystrawen • dangos y gallu i sillafu, treiglo, atalnodi a pharagraffu • defnyddio rhai terfyniadau berfau’n gywir • arddangos peth gafael ar eirfa • ymwybyddiaeth fras o ffurf ac ieithwedd addas i’r

pwrpas

10–13

5-6

• ymdrech i gyflwyno manylion • ymgais at drefn a dilyniant

• defnyddio geirfa a chystrawennau elfennol • ymgais i baragraffu ac atalnodi • sillafu’r rhan fwyaf o eiriau syml yn gywir • terfyniadau rhai berfau’n gywir ar adegau • dangos ymwybyddiaeth o ffurf ac ieithwedd addas i’r

pwrpas

6-9

3-4

• peth ymgais i gyflwyno manylion • peth dilyniant

• ymgais i ddefnyddio iaith a chystrawen elfennol • atalnodi’n gywir ar adegau • sillafu rhai geiriau syml yn gywir • defnyddio terfyniadau berfau syml yn gywir • peth ymwybyddiaeth o ffurf ac ieithwedd addas i’r

pwrpas

0–5

0-2

• cynnwys yn denau iawn • adnoddau iaith cyfyngedig • ychydig iawn o atalnodi cywir • sillafu rhai geiriau syml yn gywir • defnyddio rhai berfau syml • rhai elfennau o’r ffurf

Page 30: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 29

Dilysu'r Asesiadau Dan Reolaeth Mae gofyn i ymgeiswyr lofnodi mai eu gwaith eu hunain yw’r gwaith a gyflwynwyd ac mae gofyn i athrawon/aseswyr gadarnhau mai gwaith yr ymgeisydd o dan sylw’n unig yw’r gwaith a asesir ac iddo gael ei wneud o dan yr amodau gofynnol. Bydd CBAC yn darparu copi o’r ffurflen ddilysu, sy’n rhan o’r daflen glawr ar gyfer gwaith pob ymgeisydd. Mae’n bwysig nodi bod gofyn i bob ymgeisydd lofnodi’r ffurflen hon, ac nid yn unig y rhai y mae eu gwaith yn rhan o’r sampl a gyflwynir i’r safonwr. Nid oes angen adrodd i CBAC am gamymddygiad a ddarganfuwyd cyn i’r ymgeisydd lofnodi'r datganiad dilysu ond rhaid ymdrin ag ef yn unol â gweithdrefnau mewnol y ganolfan.

Cyn i unrhyw waith tuag at yr Asesiad dan Reolaeth gael ei wneud, dylid tynnu sylw’r ymgeiswyr at yr Hysbysiad i Ymgeiswyr perthnasol gan y CGC. Ceir hwn ar wefan y CGC (www.jcq.org.uk) ac mae wedi’i gynnwys yn y Cyfarwyddiadau ar gyfer Cynnal Gwaith Cwrs/Portffolio. Rhoddir arweiniad manylach ar atal llên-ladrad yn Llên-ladrad mewn Arholiadau; Arweiniad i Athrawon/Aseswyr sydd hefyd ar wefan y CGC.

Page 31: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 30

6 DISGRIFIADAU GRADDAU

Rhoddir disgrifiadau graddau i roi arwydd cyffredinol o’r safonau cyrhaeddiad y mae’n debygol y bydd ymgeiswyr y dyfernir graddau penodol iddynt wedi’u dangos. Rhaid dehongli’r disgrifiadau yn gysylltiedig â’r cynnwys a nodir gan y fanyleb; nid diffinio’r cynnwys hwnnw yw eu bwriad. Bydd y radd a ddyfernir yn dibynnu’n ymarferol i ba raddau y mae’r ymgeisydd wedi ateb yr amcanion asesu’n gyffredinol. Gall diffygion mewn rhai agweddau ar yr arholiad gael eu cydbwyso gan berfformiadau gwell mewn rhai eraill.

Gradd F

Bydd disgwyl i ymgeiswyr wneud cyfraniadau effeithiol wrth siarad a gwrando mewn rhai cyd-destunau; cynnal diddordeb eraill drwy ychwanegu peth lliw i'w mynegiant; cyflwyno gwybodaeth gan ddangos peth gallu i roi rhesymau wrth fynegi barn.

Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddarllen amrywiaeth o destunau a dangos ymwybyddiaeth o'r ystyr gwaelodol; codi gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau; ymateb yn syml i destun a ddarllenir gan gyfeirio ato.

Bydd disgwyl i ymgeiswyr ysgrifennu darnau personol a dychmygus syml eu natur; cyflwyno gwybodaeth syml yn effeithiol; mynegi barn yn elfennol; sillafu'r rhan fwyaf o eiriau syml yn gywir; defnyddio geirfa a chystrawennau elfennol gydag ymgais i baragraffu ac atalnodi.

Gradd C

Bydd disgwyl i ymgeiswyr gyfrannu'n hyderus wrth drafod gwahanol bynciau; defnyddio iaith mewn gwahanol gyd-destunau gan siarad yn eglur ac yn eithaf trefnus; mynegi barn ac ystyried safbwyntiau gwahanol.

Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddarllen ac ymateb i amrywiaeth o ddeunydd; codi gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau yn effeithiol gan ddangos peth gallu i ddadansoddi syniadau; ymateb i ddeunydd drwy ddadansoddi a mynegi barn ar yr agweddau amlycaf.

Bydd disgwyl i ymgeiswyr gynhyrchu gwaith personol a dychmygus yn effeithiol; cyflwyno gwybodaeth gan ddangos manylder a threfn ar adegau; mynegi barn gan gynnig tystiolaeth i ategu eu safbwyntiau; arddangos gafael dda ar sillafu, treigladau, atalnodi, paragraffu, geirfa a chystrawen.

Gradd A

Bydd disgwyl i ymgeiswyr gyfrannu'n hyderus a holi'n dreiddgar wrth ddatblygu trafodaethau mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd gan ddangos y gallu i ehangu a chrynhoi; mynegi'u hunain yn eglur ac yn raenus mewn iaith sy'n briodol i'r dasg ac i'r gynulleidfa gan amrywio eu mynegiant; arddangos blaengaredd a hyder wrth fynegi barn a datblygu trafodaeth.

Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddarllen ac ymateb yn dreiddgar i amrywiaeth eang o ddeunydd heriol; codi gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau heriol a'u cyflwyno'n gydlynus; cymharu testunau yn fanwl a threiddgar, gan ddefnyddio technegau croesgyfeirio yn briodol.

Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddatblygu eu dadleuon yn rhesymegol ac yn argyhoeddiadol gan ategu eu safbwyntiau â thystiolaeth berthnasol; cyflwyno gwybodaeth gan ddangos manylder a threfn; arddangos gafael gadarn ar sillafu, treigladau, atalnodi a pharagraffu gan ddefnyddio geirfa eang ac ystod lawn o gystrawennau.

Page 32: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 31

7 Y CWRICWLWM EHANGACH

Sgiliau Allweddol, Sgiliau Gweithredol a Sgiliau Hanfodol (Cymru)

Bydd TGAU mewn Cymraeg yn darparu amrywiol gyfleoedd i ddatblygu'r sgiliau hyn, naill ai wrth baratoi ar gyfer asesiadau sgiliau gweithredol neu er mwyn darparu cyd-destunau ar gyfer cynhyrchu tystiolaeth ar gyfer portffolios sgiliau allweddol neu sgiliau hanfodol (Cymru). Gellir datblygu'r sgiliau allweddol canlynol trwy gyfrwng y fanyleb hon ar lefelau 1 a 2:

• Cyfathrebu • Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu • Datrys Problemau • Gweithio gydag Eraill • Gwella Eich Dysgu a'ch Perfformiad Eich Hun

Darperir cyfleoedd i olrhain datblygiad y sgiliau hyn yn erbyn y gofynion tystiolaeth sgiliau allweddol/hanfodol ar lefel 2 yn 'Enghreifftio Sgiliau Allweddol/Hanfodol ar gyfer Cymraeg’, sydd ar gael ar wefan CBAC.

Cyfleoedd i ddefnyddio technoleg

Mae’r fanyleb TGAU mewn Cymraeg yn cynnig cyfleoedd i ymgeiswyr ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth i gyflawni Uned 2; Asesiad Dan Reolaeth Tasgau Llafar ac Uned 3: Asesiad Dan Reolaeth Tasgau Ysgrifenedig. Cynigir y cyfle i ymgeiswyr ddefnyddio’r we fyd-eang er mwyn dod o hyd i wybodaeth i’w defnyddio ar gyfer y dasg ysgrifenedig - mynegi barn ar sail gwybodaeth neu’r tasgau cyflwyno gwybodaeth / mynegi barn ar lafar. Dylid annog yr ymgeiswyr i gyflawni tasgau ar gyfrifiadur cyhyd â bo hynny’n ymarferol bosibl ac eithrio’r dasg a gyflawnir dan reolaeth lefel uchel. Awgrymir hefyd annog yr ymgeiswyr i ddefnyddio PowerPoint fel cymorth i gyflawni’r dasg cyflwyno gwybodaeth ar lafar.

Materion Ysbrydol, Moesol, Moesegol, Cymdeithasol a

Diwylliannol Bydd astudio Cymraeg yn cyfrannu at ddealltwriaeth o faterion ysbrydol, moesol,

moesegol, cymdeithasol a diwylliannol. Mae Cymraeg yn ei hanfod yn bwnc sydd yn mynnu bod ymgeiswyr yn ystyried y materion hyn wrth ddarllen, trafod ar lafar ac ysgrifennu. Cyfyd y cyfleoedd wrth gyflwyno gwybodaeth a thrafod pynciau llosg yn y tair uned.

Dinasyddiaeth

Mae’r fanyleb TGAU mewn Cymraeg yn cynnig cyfleoedd i ymgeiswyr ddatblygu sgiliau cyfathrebu sy’n eu galluogi i fynegi a datblygu eu safbwynt yn ysgrifenedig ac ar lafar, gan eu hannog i ystyried safbwyntiau eraill yn feirniadol ac adeiladol. Mae’r gallu i benderfynu’n ddeallus, ar ôl ystyried, yn sgil hanfodol wrth ddatblygu dinasyddiaeth unigol. Mae dinasyddiaeth yn ymwneud â datblygu cyfrifoldeb cymdeithasol a moesol, cymryd rhan yng ngweithgareddau’r gymuned` a datblygu llythrennedd gwleidyddol. Mae Cymraeg yn gofyn i ymgeiswyr ystyried elfennau o ddinasyddiaeth trwy ymdrin yn feirniadol a chreadigol â themâu cymdeithasol. Anogir ymgeiswyr i ddangos cyfrifoldeb personol ac fel grŵp o ran eu hagweddau atynt eu hunain ac at eraill.

Page 33: WJEC GCSE in Welsh Specification - 2010cymraegygg.weebly.com/.../23286658/manyleb_cymraeg.pdf · TGAU Cymraeg 4 1.4 Cydraddoldeb ac Asesu Teg Mae angen asesu amrywiaeth eang o gymwyseddau

TGAU Cymraeg 32

Bydd Uned 2: Asesiad Dan Reolaeth Tasgau Llafar yn cynnwys gwaith grŵp a gofynnir i ymgeiswyr fynegi barn ar themâu cymdeithasol. Gallant hefyd gyflwyno gwybodaeth yn unigol ar bynciau sy’n ymwneud â dinasyddiaeth. Ceir cyfleoedd i ymgeiswyr hefyd ymateb i themâu cymdeithasol yn nhasgau Uned 3: Asesiad Dan Reolaeth Tasgau Ysgrifenedig ac wrth baratoi ar gyfer Uned 1: Papur Ysgrifenedig.

Mae’r fanyleb hon yn greiddiol i ddatblygiad ystod o Sgiliau Allweddol/ Hanfodol. Mae’r rhain o bwysigrwydd mawr i unigolion yn y byd mawr.

Materion Amgylcheddol ac Ystyriaethau Iechyd a Diogelwch

Cyfyd cyfleoedd yn ystod y cwrs i drafod materion sy’n ymwneud â materion amgylcheddol ac ystyriaethau iechyd a diogelwch wrth drafod themâu arbennig ar lafar ac wrth gyflawni gwaith ysgrifenedig ar destunau penodol.

Y Dimensiwn Ewropeaidd

Mae’r fanyleb TGAU mewn Cymraeg yn cyflwyno rhaglen waith sydd yn atgyfnerthu ac yn ehangu ymwybyddiaeth yr ymgeiswyr o bwysigrwydd y Gymraeg, yn y Gymru gyfoes ac yn nhraddodiad llenyddol Ewrop. Mae modd i’r ymgeiswyr ddefnyddio eu gwybodaeth am feysydd astudio eraill wrth gyflawni tasgau ysgrifenedig Asesiad Dan Reolaeth neu gyflwyno gwybodaeth ar lafar. Mae modd i ganolfan ddewis testunau printiedig sy’n cynnig mynediad i ystod ddiwylliannol eang ar gyfer Uned 3: Asesiad Dan Reolaeth.

Y Cwricwlwm Cymreig

Bydd ymgeiswyr yn cael cyfleoedd gydol y cwrs i ddatblygu a chymhwyso eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o nodweddion diwylliannol, economaidd, amgylcheddol, hanesyddol ac ieithyddol Cymru.

WJEC GCSE in Welsh Specification 2010/ED 26/01/10