· web viewmae hi’n wlad hardd iawn, ond mae problemau iechyd difrifol yno: mae dros 25% o’r...
TRANSCRIPT
UNED 9
Patrymau craidd
YR AMSER DYFODOL (Future Tense)
BOD GWNEUD
Mi fydda i Mi wna i
Fyddi di? Wnei di?
Mi fydd o / hi / y plant / ’na Mi wneith o / hi / y plant
Mi fyddwn ni Mi wnawn ni
Fyddwch chi? Wnewch chi?
Mi fyddan nhw Mi wnân nhw
[Yn y Cwrs Wlpan, mae’r patrymau yma’n codi yn Unedau 24, 25 a 43]
Hefyd yn yr uned:
GWRANDO: 1. Negeseuon ffôn
2. Newyddion
YSGRIFENNU: 1. Pasio negeseuon ffôn ymlaen
2. Ysgrifennu neges yn gofyn i rywun wneud pethau yn y tŷ
DARLLEN: Dolen Cymru-Lesotho
A. PROC I’R COF
167
Yr Amser Dyfodol (Future Tense)
Rhan 1: Mi fydda i, ac ati
a) Lle fyddwch chi... am 8.00 bore yfory?
Be’ fyddwch chi’n wneud .... am hanner dydd yfory?
am 8.00 nos yfory?
dydd Sadwrn?
dydd Sul?
ym mis Awst?
dros y Nadolig?
mewn deg mlynedd?
Gofynnwch y cwestiynau eto gan ddefnyddio “ti”
b) Sut fydd y tywydd yfory?
Be’ fydd ’na ar y teledu dros y penwythnos?
Pryd fydd y dosbarth nesa?
Pwy fydd yma/Pwy fydd ddim yma yn y dosbarth nesa?
Pryd fydd y gwyliau nesa?
Pryd fydd yr etholiad nesa?
Lle fydd yr Eisteddfod Genedlaethol nesa?
Lle fydd y Gemau Olympaidd nesa?
dosbarth/etholiad - gwrywaiddEisteddfod - benywaidd
c) Fyddi di’n brysur yfory?
168
Fydd y tywydd yn braf dros y penwythnos?
Fydd y plant yn yr ysgol wythnos nesa?
Fyddwch chi’n mynd i rywle diddorol yn ystod yr wythnosau nesa?
Fydd ’na rywbeth ymlaen yn yr ardal yn ystod yr wythnosau nesa?
Fydd dynion y biniau’n casglu sbwriel wythnos nesa?
Fydd yr archfarchnad ar agor am hanner nos heno?
Fyddi di’n rhydd am 7.00 nos Iau nesa?
Fydd yr ystafell yma ar gael am 10.00 dydd Sadwrn?
Fyddwch chi ar y Cwrs Uwch y flwyddyn nesa?
Rhan 2: Wnewch chi, ac ati
Edrychwch ar y lluniau ar y dudalen nesa, a gofynnwch gwestiynau’n dechrau efo
a) Wnewch chi..... b) Wnei di.....
Wna i, siŵr. Na wna i, wir!
Geirfa
anfon - to sendarwyddo - to signcloi - to lockffurflen (b) - form
llanast (g) - mess
169
170
Taflen Waith 1
1. Llenwch y bylchau
Mi ___________________ ni i ffwrdd wythnos nesa.
___________________ chi i mewn yfory?
___________________ y staff ddim yma yfory, ond mi ___________________
nhw’n ôl wythnos nesa.
___________________ di ar gael i helpu heno?
Sut ___________________ y tywydd wythnos nesa?
Yn anffodus, ___________________ i ddim yn medru dŵad i’r cyfarfod heno.
Pwy ___________________ wrth y ddesg yfory?
Be’ ___________________ yn digwydd nos Wener?
2. Gorffennwch y frawddeg trwy ofyn ffafr ( by asking a favour)
Mae hi’n oer iawn yma, ________________________________________________?
Sgen i ddim pres, _____________________________________________________?
Os wyt ti isio dŵad ar y cwrs, ___________________________________________?
Mae pen-blwydd Ceri yfory, ____________________________________________?
Mae’r ficer yn mynd i alw heddiw, _______________________________________?
3. Atebwch Yes/No
Mi fydd y tywydd yn well yfory _____________ / __________________
Fyddi di a Ceri ar y trip? _____________ / __________________
Fydd y cacennau’n barod mewn pryd? _____________ / __________________
Wnei di anfon e-bost i mi? _____________ / __________________
Wnest ti arwyddo’r llythyr? _____________ / __________________
Oeddet ti’n gwybod yr ateb? _____________ / __________________
Mi fydd popeth yn glir un diwrnod _____________ / __________________171
B. YMESTYN
i. Os + dyfodol
Fyddi di allan yn y mynyddoedd yfory? Bydda, os bydd hi’n braf
Fyddi di yn y swyddfa yfory? Bydda, os bydd hi’n bwrw
Fyddi di yn y cyfarfod yfory? Bydda, os bydda i’n rhydd
Fyddi di yn y sioe nos Sadwrn? Bydda, os bydd ’na docynnau ar ôl
ii. Os + na
Fyddi di allan yn y mynyddoedd yfory? Bydda, os na fydd hi’n bwrw
Fyddi di yn y swyddfa yfory? Bydda, os na fydd hi’n braf
Fyddi di yn y cyfarfod yfory? Bydda, os na fydda i’n rhy brysur
Fyddi di yn y parti nos Sadwrn? Bydda, os na fyddi di yno!
iii Mi wna i ac ati
Does ’na ddim lle i eistedd Paid â phoeni, mi wna i symud
Paid â phoeni, mi wneith Ceri symud
Mae ‘na lanast yma Paid â phoeni, mi wna i glirio
Paid â phoeni, mi wneith Ceri glirio
’Sgen i ddim pres Paid a phoeni, mi wna i dalu
Paid â phoeni, mi wneith Ceri dalu
iv Be’ wna i? ac ati
Rwyt ti wedi colli’r awyren. Be’ wna i rŵan?
Mae Dafydd yn ymddeol heddiw. Be’ wneith o rŵan?
Dw i wedi colli’r papurau. Be’ wnei di rŵan?
’Sgynnon ni ddim dŵr yn y tŷ. Be’ wnewch chi rŵan?
Mae hanner y staff wedi cael y sac. Be’ wnân nhw rŵan?
Mae’r tiwtor ar streic. Be’ wnawn ni rŵan?
172
v. Wneith o ddim gweithio ac ati
Be’ sy’n bod ar y peiriant? Wneith o ddim gweithio
Be’ sy’n bod ar y plant? Wnân nhw ddim cysgu
Be’ sy’n bod ar y planhigion? Wnân nhw ddim tyfu
Be’ sy’n bod ar y parot? Wneith o ddim siarad
Does dim pwynt prynu tocyn loteri... wna i ddim ennill
Does dim pwynt dy e-bostio di... wnei di ddim ateb
Does dim pwynt rhoi bil i chi... wnewch chi ddim talu
Does dim pwynt trio esbonio i ni... wnawn ni ddim dallt
vi. Fy helpu i ac ati
Rwyt ti’n edrych wedi drysu Wnei di fy helpu i, plîs?
Paid ag anghofio Wnei di fy atgoffa i, plîs?
Paid â chysgu’n hwyr Wnei di fy neffro i, plîs?
Pam wyt ti ar dy liniau? Wnei di fy mhriodi i, plîs?
vii Fyddi di / Wnei di
Gweithio yfory
Ti [Gwybodaeth/Information] Fyddi di’n gweithio yfory?
Ti [Ffafr/Favour] Wnei di weithio yfory, plîs?
I [Gwybodaeth/Information] Mi fydda i’n gweithio yfory.
I [Cynnig/Offer] Mi wna i weithio yfory, os dach chi isio.
Trefnu popeth
Chi [Gwybodaeth/Information] Fyddwch chi’n trefnu popeth?
Chi [Ffafr/Favour] Wnewch chi drefnu popeth, plîs?
Ni [Gwybodaeth/Information] Mi fyddwn ni’n trefnu popeth.
Ni [Cynnig/Offer] Mi wnawn ni drefnu popeth, os dach chi isio.
173
Taflen Waith 2
1. Llenwch y bylchau
Be’ _________________ di nesa?
Be’ _________________ hi nesa?
Be’ _________________ nhw nesa?
Be’ _________________ chi nesa?
Be’ _________________ ni nesa?
Be’ _________________ i nesa?
2. Dilynwch y patrwm (Follow the pattern)
Does ’na ddim pwynt i mi brynu tocyn loteri, wna i ddim ennill
Does ’na ddim pwynt rhoi’r plant yn y gwely, ________________________________
Does ’na ddim pwynt anfon neges at Ann, __________________________________
Does ’na ddim pwynt plannu blodau yn yr ardd, ______________________________
Does ’na ddim pwynt trio esbonio i ni, _____________________________________
Does ’na ddim pwynt rhoi’r bil i ti, ________________________________________
Does ’na ddim pwynt cicio’r car, __________________________________________
3. Llenwch y bylchau
Wnei di fy _________________ i, plîs? (atgoffa)
Wnei di fy _________________ i, plîs? (talu)
Wnei di fy _________________ i, plîs? (galw)
Wnei di fy _________________ i, plîs? (deffro)
Wnei di fy _________________ i, plîs? (credu)
Wnei di fy _________________ i, plîs? (priodi)
174
4. Llenwch y bylchau
Mi fydda i’n hapus i helpu, os ______________ i yma.
______________ di’n medru dŵad, os ______________ di’n gweithio?
Mi ______________ pawb ar y traeth, os ______________ y tywydd yn braf.
Mi _______________ ni yn y cyngerdd, os ______________ ’na docynnau ar gael.
______________ y staff ddim yn hapus, os ______________ nhw’n hwyr yn gorffen.
______________ ‘na ddim lle i barcio, os ______________ ni’n hwyr.
5. Trowch i’r negyddol (Turn into the negative)
Os bydd hi’n braf _______________________________________
Os bydda i yma _______________________________________
Os byddi di’n rhy brysur _______________________________________
Os byddan nhw’n barod _______________________________________
Mi fydda i’n gweithio yfory _______________________________________
Mi wna i weithio yfory _______________________________________
Mi fydd y gwaith yn barod _______________________________________
Mi wneith y bos dalu _______________________________________
Mi fyddwn ni yma _______________________________________
Mi wnawn ni gofio popeth _______________________________________
175
Geirfa’r uned b = benywaidd/feminineg = gwrywaidd/masculine
anfon - to send
ar dy liniau - on your knees
arwyddo - to sign
atgoffa - to remind
casglu - to collect
cenedlaethol - national
cloi - to lock
cynnig (g) - an offer, to offer
drysu - to confuse (wedi drysu – confused)
esbonio - to explain
etholiad (g) - election
ffurflen (b) - form
gwybodaeth (b) - information
llanast (g) - mess
planhigyn (g) - plant
planhigion - plants
rhydd - free
trefnu - to arrange
tyfu - to grow
yn ystod - during
Geirfa’r ddeialog
am wn i - I suppose, as far as I know
aml - often
ffa (b) - beans
golwg (b) - look, sight (cadw golwg ar - to keep an eye on)
neidr (b) - snake
rhewgell (b) - freezer
tra - while
176
C. DEIALOG
A. Helo Mrs. Jones. Dach chi’n cadw’n iawn?
B. Ydw, diolch. Dw i ddim wedi’ch gweld chi ers talwm. Dach chi ddim yn galw’n aml.
A. Ym, nac ydw, dach chi’n iawn. Mi wna i alw’n fwy aml ar ôl dŵad yn ôl o fy ngwyliau.
B. Gwyliau?
A. Ia. Dan ni’n mynd yfory. Dw i isio gofyn ffafr i chi, a deud y gwir. Wnewch chi gadw
golwg ar y tŷ tra byddwn ni i ffwrdd, os gwelwch chi’n dda?
B. Wel.. ym.. iawn, am wn i.
A. Diolch, Mrs Jones, dach chi’n glên iawn. Mi wna i roi’r goriad trwy’r drws i chi yn y bore.
A wnewch chi roi’r biniau allan nos Iau, plîs?
B. Wna i, os na fyddan nhw’n rhy drwm.
A. Fydd ’na ddim problem, dw i’n siŵr. Hefyd, os bydd y tywydd yn sych, wnewch chi roi
dŵr i’r llysiau yn yr ardd, plîs? Ac os bydd y pys neu’r ffa’n barod, wnewch chi eu casglu
nhw a’u rhoi nhw yn y rhewgell i ni?
B. Wel, mi fydd hynny’n lot o ....
A. Ac un peth bach arall. Wnewch chi gofio rhoi bwyd i Boris, plîs?
B. Boris? Pwy ydy Boris?
A. Y neidr. O, mae Boris yn glên iawn. Mi fydd o’n berffaith hapus efo un llygoden fawr
bob dydd. Mae ’na ddigon o lygod mawr yn y rhewgell.
B. Ym... Un cwestiwn bach. Pryd fyddwch chi’n ôl?
A. Dan ni’n mynd o gwmpas y byd. Fyddwn ni ddim yn ôl am chwe mis.
177
CH. GWRANDO AC YSGRIFENNU
1. Gwrandewch ar y negeseuon ar beiriant ateb Ceri Jones
Geirfa
archebu - to order
cadarnhau - to confirm
darn (g) - part, piece
i fod i - supposed to
picio - to pop, to nip
torth (b) - loaf
Neges 1
Pwy sy’n ffonio? _____________________________________________
Pryd roedden nhw i fod i gyfarfod? _____________________________________________
Be’ sy wedi digwydd? _____________________________________________
Pryd fydd hi’n cael gyrru eto? _____________________________________________
Pryd wneith hi ffonio eto? _____________________________________________
Neges 2
Pwy sy’n ffonio? _____________________________________________
Fydd y car yn barod heddiw? _____________________________________________
Be’ ydy’r broblem? _____________________________________________
Pryd wneith y darn gyrraedd? _____________________________________________
Faint fydd pris y gwaith? _____________________________________________
Pam mae rhaid i Ceri ffonio? _____________________________________________
Pryd wneith y garej archebu’r darn? _____________________________________________
178
Neges 3
Pwy sy’n ffonio? _____________________________________________
Be’ mae hi isio wybod? _____________________________________________
Be’ mae hi isio? (1) _____________________________________________
Pam? _____________________________________________
Be’ mae hi isio? (2) _____________________________________________
Pam? _____________________________________________
Oes rhaid i Ceri alw, dach chi’n meddwl? _____________________
YSGRIFENNU
a) Ysgrifennwch y tair neges i Ceri, e.e.
Mae Nerys Jones wedi ffonio o Gyngor Môn. Roeddech chi i fod i gyfarfod yn y Ganolfan
am 3.00 heddiw, ond fydd Nerys ddim yn medru dŵad.....
b) Ysgrifennwch neges i ddeud bod chi’n mynd i gyrraedd adra’n hwyr heno ac yn gofyn i
rywun wneud pethau yn y tŷ.
2. Y newyddion
Geirfa
arferol - usual
arfordir (g) - coast
chwythu - to blow
disgwyl - to expect
holl - all
o hyn ymlaen - from now on
para - to last
Prif Weinidog - Prime Minister
rhybuddio - to warn
179
Eitem 1
Pwy fydd yn colli eu gwaith? _________________________________
Lle fydd dillad y cwmni’n cael eu gwneud o hyn ymlaen? _________________________________
Eitem 2
Lle ar yr A55 fydd ‘na waith ffordd heddiw? _________________________________
Pryd fydd y gwaith yn gorffen? _________________________________
Faint o amser fydd pob taith yn gymryd? _________________________________
Eitem 3
Lle fydd y Prif Weinidog bore ‘ma? _________________________________
Be’ fydd o’n weld? _________________________________
Lle fydd o p’nawn ‘ma? _________________________________
Pam fydd o yno? _________________________________
Eitem 4
Pwy fydd yn chwarae heno? _________________________________
Lle fyddan nhw’n chwarae? _________________________________
Pam na fydd Gareth Evans yn chwarae? _________________________________
Pam fydd Iwan Williams yn chwarae? _________________________________
Eitem 5
Pa mor gryf fydd y gwynt heddiw? _________________________________
Fydd hi’n sych heddiw? _________________________________
Fydd y tywydd yn well heno? _________________________________
Pam fydd y tîm rygbi’n hapus? _________________________________
Pam na fydd y Prif Weinidog yn hapus? _________________________________
180
D. DARLLEN
Dolen Cymru-Lesotho
Geirfa
addysg (b) - educationcefnogi - to supportclefyd (g) - diseasecyffredin - commoncynnig - to offercystadleuaeth (b) - competitioncysylltu efo - to contactchwilio am - to look fordifrifol - seriousdod i ben - to come to an enddolen (b) - linkdwyrain - eastelw (g) - profitgorymdaith (b) - march, paradegweithgareddau (g) - activitieshyfforddiant (g) - traininglleol - localllety (g) - accommodationpoblogaeth (b) - populationPorthaethwy - Menai Bridgetir (g) - landtrefnydd / trefnwyr - organiser(s) Logo Dolen Cymru-Lesotho
Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi, Mokhotlong 2012
Dolen Cymru-Lesotho
181
Gwlad yn Ne-Ddwyrain Affrica ydy Lesotho. Mae 2.3 miliwn o bobl yn byw yno a dyma’r unig wlad yn y byd lle mae’r tir i gyd dros 1,000 metr uwchben lefel y môr.
Mae hi’n wlad hardd iawn, ond mae problemau iechyd difrifol yno: mae dros 25% o’r boblogaeth yn diodde o HIV/AIDS, mae TB yn gyffredin iawn ac mae clefyd y siwgr wedi bod yn tyfu’n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwetha.
Dydy’r system addysg ddim yn gryf yno chwaith. Dim ond chwarter y plant sy’n mynd i ysgol uwchradd yn y wlad.
Ym 1985, cafodd Dolen Cymru-Lesotho ei sefydlu i gynnig help a hyfforddiant i bobl Lesotho. Mae gweithgareddau codi arian yn digwydd yng Nghymru ac mae athrawon a gweithwyr iechyd o Gymru yn cael cyfle i fynd i weithio mewn ysgolion ac ysbytai yn Lesotho.
Eleni, bydd côr o bobl ifanc o Lesotho’n dod i Eisteddfod Ryngwladol Llangollen i ganu yng Nghyngerdd y Plant ar y prynhawn dydd Mawrth. Byddan nhw hefyd yn cymryd rhan mewn tair cystadleuaeth yn ystod yr wythnos.
Ar ôl yr Eisteddfod, bydd y côr yn mynd ar daith drwy Gymru ac yn perfformio ym Machynlleth, Aberystwyth a Chaernarfon. Bydd y daith yn dod i ben gyda chyngerdd yn Ysgol David Hughes Porthaethwy nos Fercher 12fed Gorffennaf am 7.30. Mae’r tocynnau ar gael o’r ysgol neu Siop Awen Menai am £6.00 yr un (hanner pris i blant a phensiynwyr).
Bydd y bobl ifanc yn aros efo pobl leol yn ystod eu taith. Mae’r trefnwyr yn dal i chwilio am lety i tua 10 o blant yn ein hardal ni ar noson cyngerdd Porthaethwy. Wnewch chi gysylltu efo Dolen Cymru os dach chi’n medru helpu, os gwelwch chi’n dda? Y cyfeiriad e-bost ydy [email protected].
Roedd rhaid i’r côr fenthyg dros £20,000 o’r banc i dalu costau dod draw i Gymru am bythefnos, felly maen nhw’n gobeithio gwnân nhw dipyn o elw pan fyddan nhw’n gwerthu tocynnau’r cyngherddau. Cofiwch am y dyddiad, felly: nos Fercher 12 Gorffennaf. Dewch i gefnogi!
Addasiad o Papur Menai (Papur Bro ar Ynys Môn)
182
1. Lle mae Lesotho?
_____________________________________________________________________
2. Be’ sy’n arbennig am y wlad?
_____________________________________________________________________
3. Be’ ydy’r problemau iechyd mwya yn y wlad?
_____________________________________________________________________
4. Be’ ydy’r broblem efo’r system addysg?
_____________________________________________________________________
5. Pryd gaeth Dolen Cymru-Lesotho ei sefydlu?
_____________________________________________________________________
6. Pwy sy’n mynd o Gymru i weithio yn Lesotho?
_____________________________________________________________________
7. Faint o weithiau fydd y côr yn perfformio yn Llangollen?
_____________________________________________________________________
8. Faint o weithiau fydd y côr yn perfformio ar ôl yr Eisteddfod?
_____________________________________________________________________
9. Faint fydd pris tocyn i’r cyngerdd ym Mhorthaethwy, os dach chi ar eich pensiwn?
_____________________________________________________________________
10. Lle fydd y plant yn aros yn ystod eu taith o gwmpas Cymru?
_____________________________________________________________________
11. Pa broblem sy gan y trefnwyr ar hyn o bryd?
_____________________________________________________________________
12. Pam mae’r côr yn gobeithio gwneud elw pan fyddan nhw’n gwerthu’r tocynnau’r cyngherddau?
_____________________________________________________________________
183
DD. GRAMADEG (Er gwybodaeth)
1. Amser dyfodol BODFuture tense of “to be”
Mi fydda i = I will be
Mi fyddi di
Mi fydd o / hiMi fydd y plantMi fydd ’na
Mi fyddwn ni
Mi fyddwch chi
Mi fyddan nhw
a) “Mi” yn y positif; dim “mi” yn y cwestiwn a’r negyddol:
Mi fydd o yma > Fydd o yma? > Fydd o ddim yma
b) Mae ’na “yn” yn dilyn cyn berf, ansoddair neu enw:“yn” follows before a verb, adjective or noun:
Mi fydda i’n gweithioFydda i ddim yn gweithio
Fyddi di’n brysur?
Mi fydd hi’n noson dda
Does ’na ddim “yn” cyn arddodiaid/llefydd:There is no “yn” before prepositions/places:
Mi fydda i ymaFyddi di adra?Mi fyddwn ni ar y trênMi fyddan nhw yn y swyddfa
c) Atebion Yes/No:
Fyddi di? Bydda / Na fyddaFydd o/hi/’na? Bydd / Na fyddFyddwch chi? Byddwn / Na fyddwnFyddan nhw? Byddan / Na fyddanFydd y plant? Byddan / Na fyddan
184
2. Amser dyfodol GWNEUDFuture tense of “to do, to make”
Mi wna i = I will
Mi wnei di
Mi wneith o / hiMi wneith y plant
Mi wnawn ni
Mi wnewch chi
Mi wnân nhw
a) “Mi” yn y positif; dim “mi” yn y cwestiwn a’r negyddol:
Mi wneith o dalu > Wneith o dalu? > Wneith o ddim talu
Mae’r gair cynta ar ôl y person/goddrych yn treiglo.The first word after the person/subject mutates.
b) Does ’na ddim “yn” yn dilyn y ffurf yma:There is no“yn” following this form:
Mi wna i gofioWna i ddim cofio
Wnewch chi gau’r drws?
Wneith o ddim gwrando
c) Atebion Yes/No
Wnei di? Wna i / Na wna i
Wneith o/hi? Wneith / Na wneith
Wnewch chi? Wnawn / Na wnawn
Wnân nhw? Wnân / Na wnân
Wneith y plant? Wnân / Na wnân
185
3. Gwahaniaethau rhwng “Mi fydda i” a “Mi wna i”Differences between the two forms
a) Os dach chi isio deud “I will be”, rhaid i chi ddefnyddio “bod”:If you want to say “I will be”, you must use “bod”:
I will be here = Mi fydda i ymaWill you be free? = Fyddi di’n rhyddIt will be cold tomorrow = Mi fydd hi’n oer yforyIf it’s cold (= will be cold) = Os bydd hi’n oer
b) Os dach chi’n gofyn ffafr neu’n gwneud cynnig, rhaid i chi ddefnyddio “gwneud”If you are asking a favour or making an offer, you must use “gwneud”:
Will you phone back? = Wnei di ffonio’n ôl?Will you wait for a minute? = Wnewch chi aros am funud?I’ll drive = Mi wna i yrruThey won’t help = Wnân nhw ddim helpu
c) Mae ’na wahaniaeth rhwng gofyn am wybodaeth a gofyn ffafr:There is a difference between asking for information and asking a favour:
Will you be working tomorrow? = Fyddwch chi’n gweithio yfory?Will you work tomorrow, please? = Wnewch chi weithio yfory, plîs?
Mae gwahaniaeth tebyg rhwng gwybodaeth a pharodrwydd yn y ddwy frawddeg yma:There is a similar difference between information and willingness in these two sentences:
He won’t be moving = Fydd o ddim yn symudHe won’t move = Wneith o ddim symud
Ond, ar y cyfan, does ‘na ddim gwahaniaeth pwysig rhwng y ddau. Mae croeso i chi ddeud: But, on the whole, there is no important difference between the two. You are welcome to say:
Mi fydd hi’n bwrw glaw yfory neu Mi wneith hi fwrw glaw yfory
Mi fydd Cymru’n ennill heno neu Mi wneith Cymru ennill heno
Does dim ots!
186
GEIRFA UNED 9
above uwchben
accommodation llety (g)
activities gweithgareddau (g)
all holl
arrange, to trefnu
as far as I know am wn i
beans ffa (b)
blow, to chwythu
coast arfordir (g)
collect, to casglu
come to an end, to dod i ben
common cyffredin
competition cystadleuaeth (b)
confirm, to cadarnhau
confuse, to drysu
contact, to cysylltu efo
disease clefyd (g)
during yn ystod
east dwyrain
education addysg (b)
election etholiad (g)
establish, to sefydlu
expect, to disgwyl
explain, to esbonio
form ffurflen (b)
free rhydd
freezer rhewgell (b)
from now on o hyn ymlaen
grow, to tyfu
I suppose am wn i
information gwybodaeth (b)
international rhyngwladol
keep an eye on, to cadw golwg ar
land tir (g)
last, to para
link dolen (b)
187
loaf torth (b)
local lleol
lock, to cloi
look for, to chwilio am
march gorymdaith (b)
Menai Bridge Porthaethwy
mess llanast (g)
national cenedlaethol
nip, to picio
offer, to offer cynnig (g)
often aml
on your knees ar dy liniau
order, to archebu
organiser / organisers trefnydd / trefnwyr
parade gorymdaith (b)
part darn (g)
piece darn (g)
plant / plants planhigyn (g) / planhigion
pop, to picio
population poblogaeth (b)
Prime Minister Prif Weinidog
profit elw (g)
remind, to atgoffa
secondary school ysgol uwchradd (b)
send, to anfon
serious difrifol
sign, to arwyddo
snake neidr (b)
support, to cefnogi
supposed to i fod i
training hyfforddiant (g)
usual arferol
warn, to rhybuddio
while tra
188