tafwyl 2012

24
22 -29 Mehefin / June Gwyl Gymraeg Caerdydd - Cerddoriaeth Byw, Llenyddiaeth, Celf, Bwyd a Diod, Chwaraeon, Comedi, Drama, Gweithgareddau i’r teulu... Cardiff’s Welsh Language Festival - Live Music, Literature, Art, Food & Drink, Sports, Comedy, Drama, Family Activities...

Upload: richard-chitty

Post on 23-Mar-2016

235 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

Mae Menter Caerdydd wedi llwyddo yn awr i sicrhau bod Tafwyl 2012 yn rhan o wyl Caerdydd (www.gwylcaerdydd.com), mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd – sef casgliad o ddigwyddiadau o Fai i Fedi ar draws y ddinas. Fel rhan o’r datblygiad yma bydd Ffair Tafwyl 2012 yn cael ei chynnal yn un o brif atyniadau treftadaeth Cymru – Castell Caerdydd.

TRANSCRIPT

Page 1: Tafwyl 2012

22 -29 Mehefin / June

Gwyl Gymraeg Caerdydd - Cerddoriaeth Byw, Llenyddiaeth, Celf, Bwyd a Diod, Chwaraeon, Comedi, Drama, Gweithgareddau i’r teulu...

Cardiff’s Welsh Language Festival - Live Music, Literature, Art, Food & Drink, Sports, Comedy, Drama, Family Activities...

Page 2: Tafwyl 2012

Cefndir / BackgroundSefydlwyd Menter Caerdydd ym Mehefin 1998, gyda’r nod o hyrwyddo ac ehangu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yng Nghaerdydd drwy greu cyfleoedd i drigolion y ddinas ddefnyddio’r iaith tu allan i oriau gwaith a muriau’r ysgol. Tafwyl yw’r wyl flynyddol a sefydlwyd gan y Fenter yn 2006 i ddathlu defnydd o’r Gymraeg yng Nghaerdydd.

Cychwynodd Tafwyl gyda 1,000 o fynychwyr mewn 11 digwyddiad. Erbyn 2011 roedd 6,000 o fynychwyr mewn 19 digwyddiad. Prif ddigwyddiad yr wyl yw Ffair Tafwyl sydd wedi datblygu ers 2004 fel diwrnod llawn hwyl, sy’n gyfuniad o ddigwyddiadau artistig, cerddorol, diwylliannol a chwaraeon i gyd trwy’r iaith Gymraeg. Llynedd gyda chynulleidfa o 2,700 roedd y ffair yn rhy fawr i’r lleoliad, sef gardd Tafarn y Mochyn Du ger Gerddi Sophia ac roedd rhaid adolygu’r trefniadau a darganfod lleoliad mwy addas ar gyfer 2012.

Mae Menter Caerdydd wedi llwyddo yn awr i sicrhau bod Tafwyl 2012 yn rhan o wyl Caerdydd (www.gwylcaerdydd.com), mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd – sef casgliad o ddigwyddiadau o Fai i Fedi ar draws y ddinas. Fel rhan o’r datblygiad yma bydd Ffair Tafwyl 2012 yn cael ei chynnal yn un o brif atyniadau treftadaeth Cymru – Castell Caerdydd.

Menter Caerdydd was established in June 1998 with the aim of promoting and expanding the use of the Welsh language in Cardiff by creating opportunities for city residents to use the language outside working hours and outside school. Tafwyl is the annual festival established by Menter Caerdydd in 2006 to celebrate the use of Welsh in Cardiff.

Tafwyl started with 1,000 people attending 11 events. By 2011 there were 6000 people attending 19 events. The main event of Tafwyl is the Fair which has developed since 2004 as a fun day, including artistic, musical, cultural and sports events all through the medium of Welsh. Last year with an audience of 2,700 the fair was too big for the location, the garden of the Mochyn Du pub near Sophia Gardens and we had to review the arrangements and discover a more suitable location for 2012.

Menter Caerdydd, in partnership with Cardiff Coucil, has now succeeded in making Tafwyl 2012 a part of the Cardiff Festival (www.cardiff-festival.com) – numerous events held between May and September across the city. As part of this development Tafwyl Fair 2012 will be held in one of the main heritage attractions of Wales - Cardiff Castle.

2

Page 3: Tafwyl 2012

Ffair Tafwyl / Tafwyl FairDYDD SADWRN – 23 MEHEFIN 2012 – 12.00-20.00 – MYNEDIAD AM DDIM!SATURDAY 23 JUNE 2012 – 12.00-20.00 – FREE ENTRY!

Bydd Ffair Tafwyl yn ddigwyddiad arbennig a chyffrous fydd ar raddfa llawer mwy na Tafwyl y blynyddoedd cynt. Am y tro cyntaf erioed bydd ffair yr wyl ar y 23ain o Fehefin yn cael ei chynnal yng Nghastell Caerdydd, ac yn rhan o ddigwyddiadau Gwyl Caerdydd.

Bydd stondinau amrywiol yn y ffair yn hyrwyddo cynnyrch Cymreig, yn ogystal â gweithdai a sesiynau llenyddol, cerdd, celf, coginio a drama. Bydd prif lwyfan gyda pherfformiadau byw gan artistiaid gwerin, roc a phop mwyaf llwyddiannus y sîn gerddoriaeth Gymraeg, sesiynau acwstig, diddanwyr stryd, sesiynau dawns, maes chwaraeon, sesiynau i ddysgwyr a gweithgareddau i blant o bob oedran.

Tafwyl Fair will be a special and exciting event on a much bigger scale than previous Tafwyl Fairs. For the first time the festival fair will be held on 23 June in Cardiff Castle and will be part of Cardiff Festival events.

There will be numerous stalls in the fair promoting Welsh produce, and workshops, literary sessions, music, cookery, art and drama sessions. On the main stage there will be live performances by the most successful folk, rock and pop artists in the Welsh pop scene, acoustic sessions, street entertainers, dance sessions, sports field, Welsh learners sessions and activities for children of all ages.

3

Page 4: Tafwyl 2012

Prif Lwyfan / Main StageNoddir y Prif Lwyfan gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd / Main Stage Sponsored by the Welsh Goverment and Cardiff Council

COWBOIS RHOS BOTWNNOGTri brawd gyda dylanwadau cerddorol amrywiol, ond y mae canu gwerin, canu gwlad a roc yn eithaf amlwg. Yn aml mae nhw’n ceisio cyfuno’r dylanwadau yma, ac yn rhoi triniaeth a gwedd newydd i lu o hen ganeuon gwerin Cymraeg yn ogystal â chaneuon eu hunain / Three brothers with varied musical influences but folk music, country music and rock are fairly obvious. They often combine these influences and perform old Welsh folk songs as well as their own original songs.Cefnogir y perfformiad gan Ganolfan Mileniwm Cymru / Performance supported by Wales Millennium Centre

YR ODSSefydlwyd Yr Ods nôl yn 2006, ac erbyn 2009 roeddent yn chwarae ar lwyfan Glastonbury. Yr Ods were established in 2006 and by 2009 were playing in Glastonbury. “A brilliant indie band from North Wales with sharpness, melodies and a natural flow that can make you blush”. Huw StephensCefnogir y perfformiad gan Ganolfan Mileniwm Cymru / Performance supported by Wales Millennium Centre

Y NIWLBand syrff offerynnol hynod boblogaidd o ogledd Cymru sydd wedi cael cyfnod llwyddianus iawn yn ddiweddar ar draws Prydain a’r Unol Daleithiau / An instrumental surf band from North Wales who have been very successful recently touring Britain and the USA.

SEN SEGURBand sydd llawn egni ieuenctid, a werth eu gweld / An energetic young band worth seeing.

GERAINT LOVGREEN A’R ENW DABand a sefydlwyd nôl ym 1981 ac wedi bod yn amlwg iawn ar y sîn Gymreig ers talwm iawn erbyn hyn! / A band established in 1981 who have been very evident on the Welsh scene for a very long time now!

CYWDewch i gael hwyl wrth ganu a dawnsio gyda Rachel a Trystan o Cyw! / Lots of fun, singing and dancing with Rachel and Trystan from Cyw Cefnogir y perfformiad gan S4C / Performance supported by S4C

STWNSHGallwch chi ddim dianc rhag Stwnsh! Digonedd o hwyl gwallgo gyda Lois ac Owain / You can’t escape from the Stwnsh crew! Lots of silly fun with Lois and Owain. Cefnogir y perfformiad gan S4C / Performance supported by S4C

SWICABydd criw carnifal blaenllaw Cymru yn cyflwyno eu sioe newydd “DAWNS Y DDRAIG”. Ar ôl gorymdeithio gyda’r drymiau samba bydd y Criw Carnifal yn dod a’u perfformiad yn fyw ar brif lwyfan Tafwyl / Wales’ leading carnival arts group proudly present their new “WELSH DRAGON DANCE”. After parading with Brazilian samba drums, the Carnival Crew will roar into life on the main stage.

4

Page 5: Tafwyl 2012

Llwyfan Acwstig / Acoustic StageNoddir y Llwyfan Acwstig gan Clwb Ifor Bach / Acoustic Stage sponsored by Clwb Ifor Bach

MEIC STEVENSHeb amheuaeth Meic Stevens yw un o ffigyrau pwysicaf y byd canu cyfoes Cymreig, fel cyfansoddwr, gitarydd a chanwr, a hynny ers pedwar degawd / Meic Stevens has been, without doubt, the major figure of Welsh popular music since the 1970s. A true Welsh legend.

MR HUWArtist unigol fydd yn ein swyno a’n dychryn gyda’i hiwmor sych a’i eiriau creadigol! / A solo artist who delights and frightens us with his dry humour and creative words!

GRETA ISAACCantores a chyfansoddwraig leol sydd ag aeddfedrwydd cerddorol ymhell y tu hwnt i’w hoed / Local singer-songwriter with a musical maturity far beyond her age.

HEATHER JONESWedi’i geni a’i magu yng Nghaerdydd, gan ddysgu Cymraeg fel ail iaith, mae Heather Jones wedi bod ar flaen y gad canu gwerin yng Nghymru yn y ddwy iaith ers y 70au / Born and bred in Cardiff, Heather learnt Welsh as a second language, and has been at the forefront of Welsh folk singing in both languages since the 70s.

COLORAMACreadigaeth Carwyn Ellis yw Colorama. Cerddor amryddawn a hyfforddwyd yn y Royal Academy of Music yn Llundain. Yn arbennig i Tafwyl bydd Carwyn yn ein swyno gyda set acwstig unigol / Colorama is the creation of Carwyn Ellis, a versatile musician trained at the Royal Academy of Music in London. Carwyn will perform a solo acoustic set especially for Tafwyl.

ALUN GAFFEYCyn-gitarydd y Race Horses sydd bellach yn canolbwyntio ar ei gerddoriaeth ei hun yw Alun Gaffey. Mae’r canwr talentog wedi creu dilyniant sicr iddo’i hun yng Nghymru / The former Race Horses guitarist who now focuses on his own music. The talented singer has certainly created a following for himself in Wales.

5

Page 6: Tafwyl 2012

Celf / Art

Gweithdai celf a chrefft wedi eu trefnu ar y cyd â‘r Amgueddfa Genedlaethol a Crefft yn y Bae fydd yn y babell hon. Dewch i gymryd rhan mewn gweithdai anffurfiol i ddysgu sgiliau newydd a chreu darn o gelf i fynd adref gyda chi. Bydd y sesiynau’n addas i blant ac oedolion o bob oedran.

Dewch draw i arbrofi â thechnegau crochenwaith gyda Lowri Davies, sgiliau print gyda Gweithdy Print Caerdydd a gweithdai celf gyda’r artist Ffion Rhys.

Bydd deunyddiau yn cael eu darparu ar eich cyfer. Bydd ffi bach am y deunyddiau ar gyfer rhai sesiynau. Does dim angen cofrestru o flaen llaw, ond dewch draw yn gynnar i osgoi cael eich siomi.

Art and craft workshops organised jointly with the National Museum and Craft in the Bay. Come and take part in fun and relaxed workshops to learn new skills and create a piece of art to take home with you. Suitable for adults and children.

Join Lowri Davies to experiment with pottery techniques, Cardiff Print Workshop to learn a few printing skills, and artist Ffion Rhys to create a piece of art!

Materials will be provided. There will be a small fee for materials in some sessions. Drop in sessions. There is no need to register beforehand but come early to avoid disappointment.

Cerdd / Music

Mae Cerdd Gymunedol Cymru wedi creu amserlen liwgar a hynod swnllyd o weithdai a sesiynau cerddoriaeth yn Tafwyl!

Ymysg y sesiynau bydd gweithdy drymio samba hwyliog, cyfle i roi tro ar ddysgu sgiliau bît bocsio a chyfle hefyd i jamio ar nifer eang o offerynnau ac ennill profiad o chwarae mewn band.

Does dim angen cofrestru o flaen llaw, ond dewch draw yn gynnar i osgoi cael eich siomi. Sesiynau i gyd am ddim!

Community Music Wales has created a colourful and noisy timetable of workshops and music sessions for Tafwyl!

Amongst the sessions there will be a samba drumming session, beat boxing skills and an opportunity to take part in a jamming session with numerous instruments and play in a band.

There is no need to register beforehand but come early to avoid disappointment. All sessions are free!

6

Page 7: Tafwyl 2012

Coginio / CookeryCefnogir y babell gan Gwir Flas Llywodraeth Cymru /

Supported by True Taste Welsh Goverment

Dewch draw i Gegin Gwir Flas Cymru i flasu pecyn llawn dop o weithdai a sesiynau coginio, wedi eu trefnu ar y cyd ag Ymgynghoriaeth Bwyd Howel.

Bydd gweithdai i blant a phobl ifanc yn cynnig cyfle i drio ryseitiau blasus ac iachus a chreu pryd i fynd adref gyda chi.

Yna, bydd cyfle i eistedd i lawr i wylio arddangosfeydd coginio yn rhoi cyngor ar sut i greu prydau blasus o gynnyrch ffres lleol. Bydd cyfle i flasu ambell i damed wrth gwrs!

Bydd y cogydd enwog Bryn Williams, o’r rhaglen BBC Great British Menu, Cegin Bryn, a pherchennog a chogydd Odette’s, Primrose Hill Llundain yn y babell yn rhannu syniadau am ryseitiau a’n rhoi arddangosfa goginio i gynulleidfa Tafwyl.

Bydd ffi bach ar gyfer y gweithdai. Does dim angen cofrestru o flaen llaw, ond dewch draw yn gynnar i osgoi cael eich siomi.

Come and visit the True Taste of Wales Kitchen to take part in workshops and cookery sessions, organised jointly with Howel Food Consultancy.

There will be workshops for children and young people giving them the opportunity to try tasty and healthy new recipes and create a meal to take home.Then there will be an opportunity to sit down and watch cookery exhibitions giving advice on how to make tasty meals from fresh local produce. And of course a chance to taste some food!

Welsh celebrity chef Bryn Williams, of the BBC programme Great British Menu, S4C’s Cegin Bryn, and chef-owner of Odette’s in Primrose Hill, London will be at the Tafwyl cookery marquee, sharing recipe ideas and giving a cookery demonstration.

There will be a small fee for the workshops. Drop in sessions. There is no need to register beforehand but come early to avoid disappointment.

Ysgolion / SchoolsNoddir y babell gan ND Addysg a Llywodraeth Cymru /

Supported by New Directions and the Welsh Goverment

Dewch draw i wrando ar ysgolion cynradd Cymraeg Caerdydd yn perfformio cân neu ddwy ar lwyfan arbennig gyda lle i gynulleidfa o 150 o bobl. Bydd cyfle hefyd i fwynhau perfformiadau gan griw drama Ffwrnais Awen a chriw Dawnsio Stryd Menter Caerdydd a’r Urdd.

Bydd y gantores, perfformwraig a pherchennog diweddaraf Y Deri Arms, Tara Bethan yn cyflwyno, ynghyd â’r cerddor a chyflwynwraig teledu Branwen Gwyn.

Yn ogystal bydd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, yn lansio gêm technoleg ryngweithiol i blant, sydd wedi cael ei greu yn arbennig i Tafwyl.

Come and listen to Welsh medium primary schools in Cardiff performing one or two songs on a special stage with room for an audience of 150 people. Drama crew Ffwrnais Awen, and Menter Caerdydd’s Street Dance Club will also be performing.

The singer, performer and latest owner of the Deri Arms, Tara Bethan will be presenting, as well as the musician and television presenter Branwen Gwyn.

Leighton Andrews, Minister for Education and Skills, will also be launching a special interactive game for children designed especially for Tafwyl.

7

Page 8: Tafwyl 2012

Llenyddiaeth / Literature

Pabell lenyddiaeth fydd yn llawn gweithgareddau, sesiynau a gweithdai llenyddol i blant, pobl ifanc a’r rhai hyn! Trefnir y gweithgareddau ar y cyd â Llenyddiaeth Cymru, Y Lolfa a Gomer.

Ymhlith yr awduron a’r beirdd talentog fydd yn cynnig gweithdai a sesiynau fydd, Bardd Plant Cymru Eurig Salisbury, Dewi Pws a Grahame Davies.

Bydd dwy awdures ifanc yn lawnsio eu nofelau newydd – Gwennan Evans a Ceri Elen, a’n holi’r ddwy fydd Bethan Mair.

Yn ogystal bydd sesiwn arbennig gan Geraint Jarman, fydd yn darllen cerddi o’i gyfrol Cerbyd Cydwybod.

Sesiynau i gyd am ddim!

A Literary Tent full of activities, sessions and literary workshops for children, young people and the older ones! The activities are organised jointly with Literature Wales, Lolfa and Gomer.

Amongst the talented authors and poets are Wales’ Children’s Poet Eurig Salibury, Dewi Pws and Grahame Davies.

Two talented young writers Gwennan Evans and Ceri Elen will be launching their new novels and discussing them with Bethan Mair.

In addition there will be a special session by Geraint Jarman, who will read poems out of his own volume ‘Cerbyd Cydwybod’.

All sessions are free!

Dysgwyr / Welsh LearnersCefnogir gan HWB, S4C / Supported by HWB, S4C

Bydd y babell Cymraeg i Oedolion Caerdydd a’r Fro yn llawn cyffro eleni gyda chyrsiau iaith, gweithgareddau Cymraeg i’r teulu a chaffi ar gael trwy gydol y dydd - a chyfle cyffrous i chi greu blog fideo o’r wyl ar gyfer cyfres Hwb ar S4C!

Dewch i glywed llu o siaradwyr gwadd; Dr John Davies ar hanes yr iaith yng Nghaerdydd, lansiad swyddogol y llyfryn ‘Rhannwch eich Cymraeg’ gyda chyngor Dr Lynda Newcombe ar sut orau i annog dysgwyr gyda’r iaith a Heini Gruffudd ar ddyfodol dysgu Cymraeg . Ymunwch ag adloniant y dydd gyda sesiynau holi ac ateb gyda Heather Jones a chaneuon Cymraeg ar y gitâr glasurol gan Rhisiart Arwel.

Whether you’re a Welsh learner, fluent/first language Welsh speaker or not yet had anything to do with Welsh: Welsh for Adults has something to offer you in Tafwyl this year.

With free Welsh Taster sessions, Welsh for the family activities and a café available all day, they’ll be plenty of excitement and activity for all.

Come and hear a special session on the Welsh language in Cardiff by historian, Dr. John Davies, the launch of ‘Rhannwch eich Cymraeg’ booklet with advice from Dr. Lynda Newcombe on encouraging Welsh learners and topical issues regarding the future of learning Welsh with renowned Welsh author, Heini Gruffudd. Join in with the rest of the entertainment with singer and Heather Jones and music on the classical guitar by Rhisiart Arwel.

8

Page 9: Tafwyl 2012

Sherman Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru / Wales Millennium Centre

Mae’r tri mudiad creadigol, Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Sherman Cymru, wedi dod ynghyd i gynnig diwrnod o weithgareddau a pherfformiadau i’n diddanu yn ystod yr wyl eleni. Yn ogystal â gweithdai pypedau, cornel grefft a pherfformiadau, bydd staff wrth law i ateb unrhyw gwestiynau. Cofiwch bicio draw i ddweud helo!

Come and experience an exciting combination of establishments joining together to offer drama, music and performing activities for Tafwyl. Wales Millennium Centre, Theatr Genedlaethol Cymu and Sherman Cymru will come together to offer puppet workshops, taster sessions and a crafts corner. Staff will also be on hand to answer any of your questions. Come over and say hello!

Chwaraeon / Sports

Yr Urdd sydd yn cydlynu amserlen llawn dop o sesiynau pêl-droed, rygbi, hoci iâ, golff, trampolin a dawns – gyda Cymdeithas Bel-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Y Gleision a’r Cardiff Devils yn dod draw i ddweud helo a chynnal ambell i weithdy. Bydd cystadlaethau i ennill tocynnau i gemau a crysau timau… a llawer mwy!

The Urdd are co-ordinating a full timetable of football, rugby, ice hockey, golf, trampoline and dance sessions – with the Football Association Wales, Wales Rugby Union, Cardiff Blues and Cardiff Devils coming to say hello and to run a few workshops. There’s a chance to win tickets for matches and team shirts…and much more!

9

Page 10: Tafwyl 2012

Chwarae / PlayNoddir gan Adran Chwarae Cyngor Caerdydd / Sponsored by Cardiff Council Play Services

Bydd ardal arbennig i blant a phobl ifanc yn Tafwyl. Wedi ei hamgylchynu gan yurts a thipi, bydd cyfle i wneud gweithdai celf a chrefft a phaentio wynebau. Bydd Surf Simulator a Bungee Run, gweithdai dawnsio stryd a chyfle i ddysgu sgiliau syrcas gyda chriw NoFit State.

Bydd gêm dechnoleg byw lle bydd angen i dîmau ddatgloi cliwiau a negeseuon gan ddefnyddio pob un o’u synhwyrau ... yn ogystal â’u ffonau symudol! Bydd angen defnyddio lot o ddychymyg, tynnu lluniau, ffeindio ‘QR Codes’ a ‘Googlio’ lot o bethau i chwarae’r gêm.

At Tafwyl there will be an exciting children and young people’s area. Surrounded by yurts and tipis, there will be an opportunity to take part in art and craft recycling workshops and face painting sessions. There will be a Surf Simulator and a Bungee Run, street dance sessions and an opportunity to learn circus skills with NoFit State Circus.

Theres a chance to take part in a live action interactive game where teams need to unlock clues and messages using all of their senses ... including their mobile phones! You will need to use a lot of imagination, take pictures, find ‘QR Codes’ and ‘Google’ a few things to play the game.

Ardal Meithrin / Nursery Area

I’r plant meithrin bydd gweithgareddau trwy gydol y dydd, a chyfle i chwarae ar yr offer soft play. Mae si bod Sam Tân a Sali Mali yn dod am dro i Tafwyl eleni! Dewch draw i ddweud helo! Gyda pheiriant bybls a chastell neidio mae’r ardal yn wyl bach yn ei hun!

Dewch i ddarganfod mwy am waith Mudiad Meithrin yng Nghaerdydd gan gynnwys gwybodaeth am Gylchoedd Ti a Fi a Chylchoedd Meithrin y brifddinas. Cyfle i chi a’ch plentyn fwynhau mewn awyrgylch braf a hamddenol i fod yn greadigol a chwilfrydig os dyna’ch dymuniad, ymhlith ffrindiau. There will be activities all day for toddlers and an opportunity to play on the soft play equipment. There’s a rumour that Fireman Sam and Sali Mali will be visiting Tafwyl this year! Come and say hello! With a bubble machine and bouncy castle the area is a festival in itself!

Discover more about Mudiad Meithrin’s work in Cardiff including information about Ti a Fi Groups and playgroups in the capital. A chance for you and your child to enjoy in a pleasant and relaxed atmosphere and to be creative and curious if you wish among friends.

© WALES NEWS SERVICE

10

Page 11: Tafwyl 2012

Stondinau / Stalls

Bydd stondinau celf a chrefft, nwyddau cartref, gemwaith, llyfrau a llawer mwy….dewch draw i weld ac i wario! / Art and crafts, home produce, jewellery, books and more… come over to see and spend!

Ymysg y stondinwyr mae / Stall holders include...

Peris + Corr, Buddug, Anthony Evans, Elfyn Lewis, Katie Barrett, Cwtchins, Cyfarchion, Gweithdy Argraffu Caerdydd / Cardiff Print Workshop, Dyfaldonc, Celf Rhiannon Art, Crefft yn y Bae / Craft in the Bay, Calon, Janglerins, Siop y Pentan, Lora Wyn, Y Gegin Fach a Botwm.

Techniquest

Mae Techniquest yn falch o allu rhoi’r cyfle i ymwelwyr Tafwyl archwilio gweithgareddau rhyngweithiol yn ein harddangosfa fechan. Bydd yr arddangosfa yn cynnwys gweithgareddau ymarferol a gynlluniwyd yn arbennig i annog ymholi a datrys problemau, gan gwmpasu gwahanol feysydd o wyddoniaeth a mathemateg mewn modd hwyliog a diddorol… Beth wnewch chi ei ddarganfod?

Techniquest are delighted to give Tafwyl visitors the opportunity to explore interactive activities in our small exhibition. The exhibition will include hands-on activities specially designed to encourage enquiry and problem solving, covering various fields of science and mathematics in a fun and interesting way….what will you discover?

Tipi Llyfrgelloedd Caerdydd / Cardiff Libraries Tipi

Yn ein Tipi mi fydd ‘na arddangosfa o’r amrywiaeth o adnoddau a gwasanaethau Cymraeg sy’n cael eu darparu gan lyfrgelloedd Caerdydd.

Cyfle i chi ddarganfod beth sydd gennym i’w gynnig – am ddim! Ymlaciwch yn y babell a brigbori eich hoff lyfrau, CDs a DVDs ac ymuno â’r Llyfrgell i’w benthyg yn syth. Yn ogystal mi fyddwn yn rhedeg cwis ac mi fydd gwledd o roddion a gwobrau – gall astudiaeth holgar o gynnwys y Tipi am gliws cynyddu’ch cyfle o ennill!

Cardiff Libraries Tipi – Come visit our tipi to discover the huge variety of resources and services that are provided by the Cardiff Libraries in Welsh.

An opportunity to find out what we have to offer – free! Relax in the tent and browse through your favourite books, CDs and DVDs. In addition we will be running a quiz with a feast of gifts and prizes – study around the tipi for clues to increase your chance of winning!

Yn ogystal a’r ardaloedd uchod bydd cyfle i fwynhau gweithgareddau gan y canlynol yn Tafwyl... / As well as all of these areas there’s an opportunity to enjoy activities by the following at Tafwyl...

• Eisteddfod Genedlaethol Cymru • Cwmni Dawns Werin Caerdydd • Stori Caerdydd / Cardiff Story • Cymdeithas yr Iaith

11

Page 12: Tafwyl 2012

Cyffredinol / General

COST – Mae mynediad i faes Tafwyl am ddim. Bydd rhai gweithdai/gweithgareddau yn codi ffi bach, ond mae rhan fwyaf o’r digwyddiadau am ddim. Os ydych am grwydro o amgylch y castell ei hun oddi ar maes Tafwyl bydd angen talu am docyn mynediad neu gwneud cais am ‘Allwedd Castell Caerdydd’ (gweler isod).

ALLWEDD CASTELL CAERDYDD - Os ydych yn byw neu’n gweithio yng Nghaerdydd gallwch wneud cais am Allwedd Castell sy’n rhoi mynediad am ddim i’r castell. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw holi yn Swyddfa Docynnau’r Castell gyda thystiolaeth eich bod yn byw neu yn gweithio yng Nghaerdydd (mae bil treth gyngor neu lythyr gan eich cyflogwr yn gwneud y tro). Byddwch yn derbyn eich cerdyn Allwedd Castell gyda llun ID yn y fan a’r lle. Does dim angen i chi ddod â ffotograff gyda chi.

BWYD A DIOD – Bydd stondinau bwyd, bariau, a byrddau picnic ar y maes.

PARCIO – Ni fydd maes parcio arbennig ar gyfer Tafwyl – ond mae sawl lle o amgylch y castell i barcio.

AMSEROEDD – Bydd maes Tafwyl yn agor am 12.00. Bydd yr holl weithgareddau yn rhedeg tan 18.00, yna fydd y prif lwyfan yn cario ymlaen tan 20.00.

HYGYRCHEDD – Mae safle Tafwyl ei hun yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a rhieni gyda chadeiriau gwthio. Ceir toiledau i’r anabl ar y llawr cyntaf yn y caffi. Mae lifft ar gael i hebrwng ymwelwyr o’r llawr gwaelod i bob lefel, gan gynnwys y teras to. Am fanylion hygyrchedd gweddill safle’r castell ewch i www.cardiffcastle.com

CYFARWYDDIADAU – Mae Castell Caerdydd wedi ei leoli yng nghanol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd.• Mewncar:O’rM4,gadaelcyffordd32adilynyrA470i ganol dinas Caerdydd. Defnyddiwch feysydd parcio canol y ddinas neu fannau parcio talu ar y stryd.• Ardrênneuarfws:10munudynunigo’rcastellar droed mae Gorsaf Canol Caerdydd Mae’r gwasanaethau bws lleol X2, 96, 96a yn stopio tu allan y Castell. Am ragor o fanylion trafnidiaeth gyhoeddus, ffoniwch Traveline ar 0871 200 2233 neu ewch i www.traveline-cymru.info• MaegwasanaethbwsdwrargaeloFaeCaerdydd www.aquabus.co.uk ac mae’n stopio ger Parc Bute. Oddi yno, cymer 3 munud yn unig i gerdded at fynedfa’r Castell.• Arfeic:Mae’rllwybrbeicNCR8agosafynpasiodrwy’r Ganolfan Ddinesig, 2 funud yn unig o fynedfa’r Castell ar y beic• Ardroed:Edrychwchamyrarwyddionigerddwyrar draws canol y ddinas. Mae mynedfa’r Castell ar gyffordd Heol y Castell a Heol Fawr

CoST – Entrance is free to Tafwyl Fair. Some activities will charge a small fee but most activities are free. If you want to visit the castle grounds itself, away from the Tafwyl site, you will have to pay an entrance fee or make an application for a Cardiff Castle Key (see below).

CARDiFF CASTlE KEY – If you live or work in Cardiff you can aply for a Castle Key which gives you free entry to the Castle. All you need is to show evidence at the Ticket Office that you live or work in Cardiff (council tax bill or a letter from your employer is sufficient). You will receive your Castle Key card with an ID photo immediately. You don’t need to bring a photograph with you.

FooD AND DRiNK – There will be food stalls, bars and picnic tables on the field.

PARKiNg – There won’t be a special car park for Tafwyl – but there are plenty of car parks around the castle.

TimES – Tafwyl Fair will be open at 12.00. All activities will run until 18.00, and the main stage will run until 20.00.

ACCESSibiliTY – Tafwyl site is completely accessible to wheel chair users and parents with pushchairs. Toilets for the disabled are on the first floor in the café. There is a lift to carry visitors from the ground floor to all levels, including the roof terrace. For accessibility details about the rest of the castle site visit www.cardiffcastle.com

DiRECTioNS – Cardiff Castle is situated in the centre of the city and easy to find.• Bycar:fromM4,exitjunction32andfollowtheA470to Cardiff city centre. Please use the city centre car parks or on-street meter parking.• Bytrainandbus:CardiffCentralStationislocatedjust 10 minutes’ walk away. Local bus services X2, 96 and 96a stop outside the Castle. For more details of public transport, see Traveline website www.traveline-cymru. info or call 0871 200 22 33.• AWaterbusserviceisavailablefromCardiffBay www.aquabus.co.uk and stops at Bute Park, only 3 minutes walk from the Castle entrance.• Bybike:nearestcyclerouteNCR8passesthroughthe Civic Centre, only 2 minutes’ ride from the Castle entrance.• Onfoot:lookforthefingerpostsignsaroundthecity centre. The Castle entrance is on the junction of Castle Street and High Street.

12

Page 13: Tafwyl 2012

Wythnos Tafwyl / Tafwyl Week

22 – 29 Mehefin/June 2012LLEOLIADAU AMRYWIOL / VARIOUS LOCATIONS

Am wythnos gyfan bydd rhaglen o weithgareddau amrywiol yn digwydd ar draws y ddinas. Mae rhywbeth i bawb gyda digwyddiadau yn amrwyio o noson gomedi i gerddoriaeth byw, o deithiau hanes i weithgareddau i blant meithrin.

A week long programme of Welsh language activities which will take place across the city ranging from comedy, live music, film, history tours, Welsh learners events and nursery activities.

13

Page 14: Tafwyl 2012

Gwener / Friday 22.6.12

Huw Chiswell + Gildas Gig agoriadol Tafwyl 2012, a phwy gwell i agor yr wyl na’r arwr Huw Chiswell - yn gyfansoddwr, yn offerynnwr dawnus, yn awdur geiriau caboledig, ac yn ganwr ysgubol! Yn cefnogi bydd yr hyfryd Gildas, gyda’i ganeuon modern ac unigryw. / Tafwyl 2012’s opening gig, and who better to open the festival than the Welsh hero Huw Chiswell - composer, talented musician, a writer of polished words, and a great singer! Supported by the lovely Gildas, with his unique and modern sound.

Lleoliad / Location - Clwb y Diwc, 48 Clive Road, Treganna / Duke of Clarence, 48 Clive Road, CantonAmser / Time - 20.00Cost - £10 Ar werth yn Caban / On sale in CabanTrefnir y noson gan / Evening organised byClwbyDiwc:[email protected]. Elw’r noson tuag at Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg / Evenings proceeds towards National Eisteddfod Vale of Glamorgan

Sadwrn / Saturday 23.6.12

Ffair Tafwyl / Tafwyl FairLleoliad / Location - Castell Caerdydd / Cardiff Castle Amser / Time - 12.00 - 20.00Gwybodaeth ar tudalenau 3-12 / Information on pages 3-12

Clwb Ifor Bach, Swn + Tafwyl yn cyflwyno/presents...

Y Niwl / Violas / Eilir PierceGig perffaith i orffen y dydd, wedi ei drefnu ar y cyd gan ddau o hyrwyddwyr cerddoriaeth fwyaf y ddinas, Swn a Clwb Ifor Bach. Band syrff hynod boblogaidd Y Niwl, band indi pop Violas, ac Eilir Pierce sydd yn ôl Huw Stephens yn “athrylith, sy’n swnio fel neb arall yn y byd!” / The perfect gig to end the day, organized jointly by two of the city’s main music promoters, Swn and Cwb Ifor Bach. Popular surf band Y Niwl, indie pop band Violas, and Eilir Pierce who according to Huw Stephens “The guy’s a genius. Sounding like no one else in the world!”

Lleoliad / Location - Clwb Ifor Bach, 11 Womanby Street, Caerdydd, CF10 1BRAmser / Time - 20.00 | Cost - £7Tocynnau ar werth o’r llefydd canlynol / Tickets on sale from the following outlets: www.swnpresents.com , www.sadwrn.com, www.clwb.net + Spillers

14

Page 15: Tafwyl 2012

Sul / Sunday 24.6.12

Cwis Dafarn Menter Caerdyddmenter Caerdydd’s Pub QuizBydd cyn-gyflwynydd Jacpot Kevin Davies yn ymuno â chwis misol Menter Caerdydd yn arbennig ar gyfer Tafwyl! Bydd yn holi cwestiynau cyffredinol, fydd yn addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg a’n gyfle gwych i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg. Gwobrau gwych a rhai ddim mor wych i’r ennillwyr a’r collwyr! / Former Jackpot presenter Kevin Davies joins Menter Caerdydd’s monthly quiz especially for Tafwyl! Asking general knowledge questions, the quiz is suitable for Welsh speakers of all levels and is a great opportunity for learn-ers to practice their Welsh. Great prizes and some not so great for the winners and losers!

Lleoliad / Location - Mochyn Du, Clos Sophia, Caerdydd, CF11 9HW.Amser / Time - 20.00 | Cost - £1 y person / per personTrefnir y noson gan / Evening organised by - Menter Caerdydd / [email protected]

Llun / Monday 25.6.12

Amser Stori a Chân / Storytime Songs Amser stori a chân gyda Gareth a Trystan o Cyw! Croeso i blant 0-4 a’u rhieni i ymuno mewn sesiwn hwyliog sy’n rhad ac am ddim / Storytime and songs with Gareth and Trystan from Cyw! Suitable for children between 0 - 4 and their parents. Non Welsh speaking parents are welcome

Lleoliad 1 / Location 1 - Llyfrgell Treganna / Canton Library, Caerdydd. Amser / Time - 10.30-11.30Lleoliad 2 / Location 2 - Llyfrgell Penylan / Penylan Library, Caerdydd. Amser / Time - 13.30-14.30Cost - £1 y person / per personTrefnir y digwyddiad gan / Event organised by - Menter Caerdydd / [email protected] + Llyfrgelloedd Caerdydd / Cardiff Libraries

15

Page 16: Tafwyl 2012

Mawrth / Tuesday 26.6.12

Bore Coffi i Ddysgwyr gyda Beti George a Hywel Gwynfryn / Welsh learners Coffee morning with beti george & Hywel gwynfryn Bydd Beti George a Hywel Gwynfryn yn mynychu bore coffi y Mochyn Du i gael paned a sgwrs hwylus! Cyfle i wrando a holi ambell gwestiwn i’r gwesteion a chyfle i gwrdd â chyd-ddysgwyr o bob lefel / Beti George and Hywel Gwynfryn will be visiting the Welsh Learners Coffee Morning for a cuppa and a friendly chat! A chance to meet fellow learners and take part in a question and answer session with the guests

Lleoliad / Location - Mochyn Du, Clos Sophia, Caerdydd, CF11 9HW.Amser / Time - 11.00 – 12.30Cost - Am ddim / FreeTrefnir y digwyddiad gan / Event organised by - Menter Caerdydd / [email protected]

Taith Iaith i ddysgwyr / Welsh learners Tour Dewch am grwydr o gwmpas Cymru yn yr amgueddfa. Cyfle i ymarfer eich Cymraeg gyda Ken Brassil, swyddog addysg archaeoloeg / Come explore Wales at the museum with a Welsh Learners Tour! An opportunity to practice your Welsh with Ken Brassil, the museum’s archeology learning officer.

Lleoliad / Location - Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Parc Cathays / National Museum of Wales, Cathays Park. CF10 3NPAmser / Time - 14.00 – 15.00Cost – Am ddim / FreeTrefnir y digwyddiad gan / Event organised by – Amgueddfa Genedlaethol Cymru/National Museum of Wales – 029 2057 3240

Beirdd yn y Bar – Bywyd Caerdydd / Poems and Pints – Cardiff LifeCyfle i glywed ambell i gerdd am fywyd Caerdydd a mwynhau noson ddifyr yng nghwmni rhai o feirdd amlycaf y ddinas gan gynnwys Rhys Iorwerth, Llyr Gwyn Lewis ac Osian Rhys. / An opportunity to hear poems about life in Cardiff and enjoy an entertaining evening with some of the city’s most prominent poets including Rhys Iorwerth, Osian Rhys and Llyr Gwyn Lewis.

Lleoliad / Location - Mochyn Du, Clos Sophia, Caerdydd, CF11 9HW.Amser / Time - 20.00Cost - Does dim angen tocyn o flaen llaw - £2 ar y drws / No need to buy tickets beforehand - £2 on the door.Trefnir y noson gan / Evening organised by - Menter Caerdydd / [email protected]

16

Page 17: Tafwyl 2012

Noson Gomedi / Comedy Evening - The Dragon Has Three Tongues / 3 Cymro i Gynnig! Y sioe gomedi ddwyieithog orau yn y byd. Hefyd, yr unig sioe gomedi ddwyieithog yn y byd. Dewch i fwynhau a dathlu dwyiethogrwydd. Nid oes angen unrhyw fath o afael ar y Gymraeg, nac yn wir Saesneg chwaith! / Wales’ best, biggest, boldest, brashest and indeed only bi-lingual show. No knowledge of Welsh, or English required to receive maxium enjoyment from this unique show. From the North to The South to The East To The Powys, a truly multi-lingustic journey through Wales. Come and tri-lingual.

Lleoliad / Location - Bunkhouse, 93-94 Heol y Santes Fair / St Mary’s Street.Amser / Time – 19.30Cost – £7 ar y drws / on the doorTrefnir y noson gan / Evening organised by – Damage Un Ltd [email protected]

#ystafellddirgelDiolch i Twitter, mae Gary Slaymaker o’r diwedd wedi darganfod defnydd newydd i’r we. Ond yn hytrach nag ymfalchïo yn rhyddid creadigol y cyfrwng newydd cyffroes, na gyd ma Slay moen wybod yw hyn...Be sy’n weindio’ chi lan? Be sy’n mynd dan eich croen, be sy’n hala chi’n benwan. Yn syml iawn, be ddylai’i gael ei daflu i’r #ystafellddirgel? Bydd Gary yn pori dros y misoedd dwetha o drydar, ac yn gwahodd Daniel Glyn, Huw Marshall, Gethin Thomas a Jon Gower i gloi eu cas bethau i ffwrdd. / Thanks to Twitter, Gary Slaymak-er has finally found another use for the internet. But rather than celebrate the creative freedom of an exciting new medium, all Slay wants to know is this...What winds you up? What gets under your skin, what drives you apoplectic, what make your blood boil? Quite simply, what should be thrown into the #ystafellddirgel? Gary will have been browsing the past few month’s tweets, and will also be joined by Daniel Glyn, Huw Marshall, Gethin Thomas and Jon Gower, so they can decide once and for all what stays and what gets locked away forever.

Lleoliad / Location – Bunkhouse, 93-94 Heol y Santes Fair / St Mary’s Street.Amser / Time – 21.30Cost – £7 ar y drws / on the doorTrefnir y noson gan / Evening organised by – Damage Un Ltd [email protected]

17

Page 18: Tafwyl 2012

Mercher / Wednesday 27.6.12

Scrabble i ddysgwyr / Scrabble for Welsh learners Cipiwch ar y cyfle i ymarfer eich Cymraeg mewn awyrgylch hamddenol, cymdeithasol a chefnogol. Dyma’r gweithgaredd perffaith naill ai i ehangu’ch geirfa tipyn bach neu i ddangos eich dawn yn yr iaith ar y bwrdd – hyn holl yn enw hwyl a sbri! Mi fydd rhoddion a gwobrwyau ac wrth gwrs – geiriaduron! / Capture the opportunity to practice your Welsh in a relaxed, social and supportive environment. This is the perfect activity to either broaden your vocabulary a little bit or to show your talent on the board – and all in the name of fun! There will be gifts and prizes and of course – dictionaries!

Lleoliad / Location – Llyfrgell Ganolog Caerdydd / Cardiff Central Library Amser / Time – 10.00-12.00 + 14.00-16.00Cost – Am ddim – ond mae angen cofrestru o flaen llaw / Free – but you need to register beforehand I gofrestru / To register - [email protected] / 029 2078 0966

Helfa Drysor Cymdeithas Carnhuanawc / History Treasure Hunt Helfa drysor ar droed o gwpas pen dwyreiniol canol dinas Caerdydd. Cliwiau ar ffurf rhigymau. Croeso i bawb ymuno ag aelodau’r gymdeithas sy’n coffau bywyd a gwaith Thomas Price (Carnhuanawc) – awdur “Hanes Cymru” / Walking Treasure Hunt around Cardiff City Centre. Clues in the form of rhymes. Join members of the society which commemorates the life and work of Thomas Price (Carnhuanawc), on this fun historical event. (www.carnhuanawc.org)

Lleoliad / Location – I gychwyn yn / To start at 33 Windsor Place Bar, CaerdyddAmser / Time - 18.30 | Cost – Am Ddim / FreeTrefnir y digwyddiad gan / Event organised by – Cymdeithas Carnhuanawc - [email protected]

18

Page 19: Tafwyl 2012

Gig Ieuenctid 14+ / Youth gig 14+ Breichiau Hir, Catrin Herbert a mwy / and more! Gig ieuenctid wedi ei drefnu ar y cyd a rhwng Menter Caerdydd a chriw fydd yn mynd i weithio yn wirfoddol i Batagonia gyda’r Urdd fis Hydref. Cerddoriaeth gan y band egniol a swnllyd o Gaerdydd, Breichiau Hir; yr hyfryd Catrin Herbert, a dau fand ifanc o Ysgol Plasmawr ac Ysgol Bro Morgannwg. / Youth gig jointly organised by Menter Caerdydd and the Urdd crew who will be working voluntarily in Patagonia this October. Music by the energetic and noisy band from Cardiff, Breichiau Hir; the lovely Catrin Herbert, and two young bands from

Ysgol Plasmawr and Ysgol Bro Morgannwg.

Lleoliad / Location - Clwb Ifor Bach, 11 Womanby Street, Caerdydd, CF10 1BRAmser / Time – 19.00 – 21.30 Oed / Age – 14+ | Cost - £4 Tocynnau ar werth o’r llefydd canlynol / Tickets on sale from the following: Ysgol Plasmawr, Ysgol Bro Morgannwg, Ysgol Glantaf, Menter Caerdydd.Trefnir y digwyddiad gan / Event organised by - Menter Caerdydd / [email protected]

Elw’r noson yn mynd i griw taith yr Urdd Patagonia / Evenings proceeds towards the Urdd’s Patagonia Project.

Iau / Thursday 28.6.12

Hwyl yn yr Amgueddfa / Fun at the museum! Diwrnod llawn hwyl i blant meithrin i gyd-fynd ag arddangosfa’r Amgueddfa o waith yr artist llyfrau Anthony Browne. Cyfle i weld rhai o arddangosfeydd yr amgueddfa, gweiddi gyda’r deinosoriaid, creu pob math o waith celf a mynd am grwydr. I blant bach 3+ oed / A fun day for nursery children to accompany the work of the Museum’s exhibition on the illustrator Anthony Browne. An opportunity to see some of the museum’s exhibitions, shout with the dinosaurs, and create all kinds of exciting art work! For young children aged 3 +/

Lleoliad / Locations - Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Parc Cathays / National Museum of Wales, Cathays Park. CF10 3NPAmser / Time – Sesiynau galw heibio rhwng / Drop in sessions between 11.00 – 15.00 | Cost – Am ddim / FreeTrefnir y digwyddiad gan / Event organised by – Amgueddfa Genedlaethol Cymru/National Museum of Wales – 029 2057 3240

Panel trafod Cwlwm Busnes Caerdydd a’r Cylch / Cardiff’s Welsh business group Discussion PanelY pwnc trafod yw “Mae llwyddiant economi Cymru yn dibynnu ar Gaerdydd”, Martin Rhisiart o Brifysgol Morgannwg fydd yn cadeirio’r noson / “The success of the Welsh economy depends on Cardiff”, Martin Rhisiart, University of Glamorgan will chair the evening.

Lleoliad / Location - Holiday Inn, Heol y Castell / Castle Street. CF10 1XDAmser / Time - 18.00Trefnir y digwyddiad gan / Event organised by Cwlwm Busnes Caerdydd a’r Cylch - [email protected]

19

Page 20: Tafwyl 2012

Cwmni theatr ‘Protest Fudr’ / ‘Dirty Protest’ Theatre Lleoliad / Location – Bunkhouse, 93-94 Heol y Santes Fair / St Mary’s Street.Dirty Protest yn cyflwyno…Protest Fudur. Chwe awdur, chwe drama fer, un thema. Noson o sgwennu newydd gan rhai o sgwennwyr mwyaf cyffrous y ddinas ac yn cyflwyno un sgwennwr hollol newydd yn ‘popio ei geirios’! Dirty Protest present…Protest Fudur! / Six authors, six plays, one theme. An evening of new writing by some of the city’s most exciting writers and one entirely new writer will be popping his cherry!

Amser / Time - 19.30 | Cost – £5.00 I brynu tocynnau ac am fwy o wybodaeth /

For tickets and more information www.dirtyprotesttheatre.co.uk / [email protected]

Gwener / Friday 29.6.12

Cystadleuaeth Cymdeithas Golff y Ddinas / Cardiff’s Welsh golf Society CompetitionCystadleuaeth golff i Barau / Golf Competition for Pairs

Lleoliad / Location – Clwb Golff Radur, Ffordd Drysgol, Radur / Radyr Golf Club, Drysgol Road, Radyr. CF15 8BSAmser / Time – Parau i gychwyn rhwng 16.30- 17.30 / Pairs to start between 16.30- 17.30pmManylion pellach gan / For more informaition - Wyn Mears - [email protected]

Clwb Ifor Bach + Tafwyl yn cyflwyno / Presents...

Steve Eaves / Fflur Dafydd / Greta Isaac / DJ Meic PY ffordd berffaith i orffen yr wyl. Noson yng nghwmni’r hynod dalentog Steve Eaves. Yn fardd, cyfansoddwr a cherddor o fri, bydd Steve Eaves yn ein swyno gyda set acwstig fel rhan o driawd. Bydd Fflur Dafydd yn canu caneuon oddi ar ei albwm newydd “Ffydd Gobaith Cariad,” sydd yn gasgliad o ganeuon myfyriol, hardd, a thelynegol, a Greta Isaac fydd yn agor y noson gyda’i llais gwerin, swynol ac ifanc. DJ Meic P fydd yn cloi’r noson gyda chasgliad eclectig o gerddoriaeth Cymraeg tan 2.00 y bore. / The perfect way to end the festival. An evening with the extremely talented Steve Eaves. The poet, composer and musician Steve Eaves will enthrall us with a special acoustic set. Fflur Dafydd will be singing songs from her new album “Ffydd Gobaith Cariad,” which is a collection of beautiful reflective songs, and Greta Isaac will open the evening with her dreamy young folk voice. DJ Meic P will close the evening with an eclectic mix of Welsh music until 2:00 in the morning.

Lleoliad / Location – Gwdihw, 6 Guilford Crescent, CF10 2HJAmser / Time – 20.00 – 02.00Cost – £5 ar y drws / on the door + tocynnau ar werth / tickets on sale at www.sadwrn.com

20

Page 21: Tafwyl 2012

Noddwyr Mae Tafwyl yn gwerthfawrogi’r nawdd gan y canlynol / Tafwyl gratefully acknowledges the sponsorship received from the following:

Partneriaid Mae Tafwyl yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a dderbynia gan y canlynol / Tafwyl grateffuly acknowledges the support it receives from the following:

21

Page 22: Tafwyl 2012

Prif lwyfanMain Stage

Llwyfan AcwsticAcoustic Stage

LlenyddiaethLiterature

CerddMusic

12.0012.1512.3012.4513.0013.1513.3013.4514.0014.1514.3014.4515.0015.1515.3015.4516.0016.1516.3016.4517.0017.1517.3017.4518.0018.1518.3018.4519.0019.1519.3019.4520.00

SWICA12.00 - 12.30

CYW13.00 - 13.30

STWNSH13.45 - 14.15

Geraint Lovgreen a’r Enw Da14.40 - 15.20

Y Niwl15.50 - 16.30

Sen Segur17.00 - 17.30

Yr Ods18.15 - 18.55

Cowbois Rhos Botwnnog19.15 - 20.00

Alun Gaffey12.30 - 13.00

Heather Jones13.20 - 13.50

Colorama14.10 - 14.40

Greta Isaac15.20 - 15.50

Mr Huw16.30 - 17.00

Meic Stevens17.30 - 18.15

Dr Mair Evans Ysgrifennu creadigol / Creative Writing

12.00 - 13.00

Mike Church a Grahame Davies Barddoniaeth a syrcasPoetry and circus

13.00 - 14.00

Dewi PwsCanu a Cherddi Poems and Music!

14.00 - 15.00

Eurig SalisburyBardd Plant Cymru Wales Children’s Poet

15.00 - 16.00

Gwennan Evans + Ceri Elen Lansio nofelau /Book Launch

16.00 - 17.00

Ed Holden Bît Bocsio / Beatboxing12.30 - 13.00

Samba Gweithdy Drymio Drumming Workshop 13.30 - 14.00

Band Gweithdy / Workshop 16.30 - 17.00

Ed Holden Bît Bocsio / Beatboxing14.30 - 15.00

Samba Gweithdy Drymio Drumming Workshop 15.30 - 16.00

Geraint Jarman‘Cerbyd Cydwybod’ 17.00 - 18.00

Band Gweithdy / Workshop 17.30 - 18.00

AMSE

RLE

N /

SCH

EDU

LE

Page 23: Tafwyl 2012

CoginioCookery

DysgwyrLearners

CelfArt

ChwaraeonSports

YsgolionSchools

Gweithdy Coginio / Cookery WorkshopOedran Cynradd /Primary School Age12.30 - 13.00

Gweithdy Coginio /Cookery Workshop - Oedran UwchraddSecondary School Age13.30 - 14.00

Nerys Howell 17.00 - 17.45

Bryn Williams 15.00 - 15.40

Nerys Howell 16.00 - 16.45

Amser Stori i blant / Story time for children12.00 - 12.30

Lynda Newcombe “Rhannwch eich Cymraeg” 13.00 - 13.30

Heini Gruffudd 15.30 - 16.00

Sesiwn Blasu / Taster Session 14.00 - 14.30

Heather Jones14.45 - 15.15

Sesiwn Blasu / Taster Session 16.00 - 16.30

12.00 - 18.00 Sesiynau galw heibio trwy gydol y dydd / Drop in sessions all day

• Crochenwaith/ Pottery• Print• Gemwaith / Jewellery• Tecstiliau / Textiles

John Davies 17.00 - 17.30

Rhisiart Arwel Caneuon Cymraeg Welsh music 17.30 - 18.00

Yr Urdd Chwaraeon / Sports12.00 - 12.30

Undeb Rygbi Cymru / WRU12.30 - 13.00

Yr Urdd Chwaraeon / Sports13.00 - 13.30

Cymdeithas Bel-droed Cymru / FAW13.30 - 14.00

Cic o’r smotyn / Penalty Shootout14.00 - 14.30

Gleision Caerdydd / Cardiff Blues14.30 - 15.00

Yr Urdd Chwaraeon / Sports15.00 - 15.30

Cardiff Devils Cystadleuaeth / Competition 15.30 - 16.00

Yr Urdd Chwaraeon / Sports16.00 - 16.30

Undeb Rygbi Cymru a Gleision / WRU and Cardiff Blues16.30 - 17.00

Cymdeithas Bel-droed Cymru / FAW17.00 - 17.30

Yr Urdd Chwaraeon / Sports17.30 - 18.00

12.00Pwll Coch

12.20Creigiau

12.40Bro Eirwg a Pen y Pil

13.00 Leighton Andrews

13.20 Coed Y Gof

13.40 Y Berllan Deg

14.00 Nant Caerau

14.20 Glan Morfa

14.40 Pen Y Groes

15.00 Y Wern

15.20 Glan Ceubal

15.40 Melin Gruffudd

16.00 Treganna a Tan yr Eos

16.20 Mynydd Bychan

16.40 Pencae

17.00 - Dawnsio Stryd/ Street Dance

17.20 Ffwrnais Awen

Page 24: Tafwyl 2012

tafwyl.orgMenter Caerdydd, 42 Lambourne CrescentParc Busnes Caerdydd, LlanishenCaerdydd CF14 5GG 029 2068 9888www.MenterCaerdydd.org