tachwedd 2012

6
Cylchlythy Cylchlythy Tachwedd Tachwedd 2012 2012 Rhifyn : 8 Ffon Ffon : : (01978) 292092 (01978) 292092 Ebost Ebost : : [email protected] [email protected] Gwefan Gwefan : : www.wrexham.gov.uk/businessline www.wrexham.gov.uk/businessline Cysylltwch â Llinell Fusnes os ydych am i ni gyhoeddi eich hysbyseb yn y Cysylltwch â Llinell Fusnes os ydych am i ni gyhoeddi eich hysbyseb yn y cylchlythyr. cylchlythyr. Tudalen Tudalen 1: 1: Y diweddaraf o fyd busnes Y diweddaraf o fyd busnes Tudalen Tudalen 2: Erthygl nodwedd Llinellfusnes 2: Erthygl nodwedd Llinellfusnes Tudalen 3 Tudalen 3 : Busnes (nid) fel arfer : Busnes (nid) fel arfer Tudalen Tudalen 4: Buddion Lean Six Sigma 4: Buddion Lean Six Sigma Tudalen Tudalen 5: Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi 5: Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi Nid yw hysbysebion nac erthyglau cylchlythyr Llinellfusnes yn awgrymu Nid yw hysbysebion nac erthyglau cylchlythyr Llinellfusnes yn awgrymu cefnogaeth o unrhyw fath gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac ni cefnogaeth o unrhyw fath gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac ni ddylid casglu hynny o dan unrhyw amgylchiadau. ddylid casglu hynny o dan unrhyw amgylchiadau.

Upload: businessline-wrexham

Post on 18-Mar-2016

230 views

Category:

Documents


5 download

DESCRIPTION

Tachwedd 2012

TRANSCRIPT

Page 1: Tachwedd 2012

C y l ch ly thy C y l ch ly thy Tac hwedd Tac hwedd 20122012

Rhifyn : 8

FfonFfon : : (01978) 292092(01978) 292092

EbostEbost : : [email protected]@wrexham.gov.uk

GwefanGwefan : : www.wrexham.gov.uk/businesslinewww.wrexham.gov.uk/businessline

Cysylltwch â Llinell Fusnes os ydych am i ni gyhoeddi eich hysbyseb yn y Cysylltwch â Llinell Fusnes os ydych am i ni gyhoeddi eich hysbyseb yn y

cylchlythyr.cylchlythyr.

TudalenTudalen 1: 1: Y diweddaraf o fyd busnesY diweddaraf o fyd busnes

TudalenTudalen 2: Erthygl nodwedd Ll inel l fusnes 2: Erthygl nodwedd Ll inel l fusnes

Tudalen 3Tudalen 3 : Busnes (nid) fel arfer : Busnes (nid) fel arfer

TudalenTudalen 4: Buddion Lean Six Sigma 4: Buddion Lean Six Sigma

TudalenTudalen 5: Cyl l id a Thol lau Ei Mawrhydi 5: Cyl l id a Thol lau Ei Mawrhydi

Nid yw hysbysebion nac erthyglau cylchlythyr Llinellfusnes yn awgrymu Nid yw hysbysebion nac erthyglau cylchlythyr Llinellfusnes yn awgrymu

cefnogaeth o unrhyw fath gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac ni cefnogaeth o unrhyw fath gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac ni

ddylid casglu hynny o dan unrhyw amgylchiadau.ddylid casglu hynny o dan unrhyw amgylchiadau.

Page 2: Tachwedd 2012

Y diweddaraf o fyd busnes

• Google ar gyfer Entrepreneuriaid: http://ow.ly/eR1nY

• Am uwchraddio eich fan busnes? Grant Faniau: http://ow.ly/eQUg8

• Micro fenthyciadau ar gael drwy Gyllid Cymru: http://ow.ly/eQLde

• Dweud eich Dweud – Arolwg Canol Tref Wrecsam: http://ow.ly/ewq3h

• Am geisio am “ariannu torfol”? Canllaw cynhwysfawr i’r llwyfannau ariannu torfol allweddol: http://ow.ly/eW1Fa

• 18 ffordd i farchnata eich busnes ar gyllideb fach: http://ow.ly/ewpG5

• Mae Facebook yn ffordd dda o godi ymwybyddiaeth brand ond sut mae troi eich ‘hoffi’ yn ‘prynu’? http://ow.ly/ewoeO

• Mae Pinterest gyda’r gwefannau cyfryngau cymdeithasu sy’n tyfu cyflymaf ac mae’n cynnig digonedd o gyfleoedd i fusnesau’r DU yrru twf: http://ow.ly/ewkDj

• Oes gennych chi wefan sy’n gwerthu eich cynnyrch? Sicrhewch nad yw’n tramgwyddo yn erbyn rheoliadau: http://ow.ly/ewnHP

• Beth yw’r diweddaraf gyda Twitter? Dysgwch fwy am benawdau proffil ayb: http://ow.ly/ewlnS

• Canllaw i ddeddfwriaeth taliadau hwyr: http://ow.ly/eW2zu

• Ydych chi wedi dechrau busnes yn y tri mis diwethaf: Cyfle yn rhad ac am ddim i ddarlledu eich busnes newydd: http://ow.ly/ewjcu

• Sut i ddelio â chwsmeriaid anfodlon ac anhapus: http://ow.ly/ef8T5

• Gweithdai “Parod i Recriwtio” yn rhad ac am ddim ar gael ym mhob cwr o Gymru: http://ow.ly/ef8Cn

• Mae gan y cynllun Benthyciadau Dechrau Busnes 2,000 o ymgeiswyr ifanc yn barod. Maent yn annog entrepreneuriaid ifanc 18-24 i ymuno: http://ow.ly/ef8r8

North East Wales Family Information Services

Parents in Employment:

• Help with finding childcare and childcare costs

• Access to training opportunities

• Balancing work and life

• Accessing tax credits

• Family Finance

Employers:

• Information surgeries to support employees

• Balancing work and life

• Helping to reduce absenteeism and improve retention

• Supporting employees with training and career progression

01978 292094

[email protected]

www.wrexham.gov.uk/fis

A Great Business Opportunity in the Health

and Wellness Industry

Who Are We Looking For?

• Anyone who wants to take their wellness programme seriously and receive a 25% discount on future orders.

• Personal Trainers/Fitness Instructors who would like to provide nutritional products to their clients.

• New mothers torn between going back to work and staying home full-time.

• People who dislike their current job, but don't know what to do instead.

• Couples wondering how to manage with just one income after deciding to start a family.

• Graduates who don't want to follow the normal '45 year plan'.

For more information: www.Discover.TheWellnessOpportunity.co.uk

[email protected] 07581436446

Page 3: Tachwedd 2012

Erthygl nodwedd Llinellfusnes

Adolygu Taniwch eich Busnes:

Y farn ymysg y mwyafrif mawr o’r mynychwyr fu yn y digwyddiad Taniwch eich Busnes a gynhaliwyd ar

3ydd

Hydref gyda Ross Sleight - Cyd-sefydlydd Virgin Games a Phrif Swyddog Strategaeth Somo, y

busnes cyfryngau digidol sy’n drydydd o ran maint eu twf yn Ewrop, i’r digwyddiad fod yn un hynod

werthfawr a gwerth chweil.

• Yn ystod cyflwyniad effeithiol tu hwnt dysgodd y mynychwyr am:

• Gost cyfleoedd marchnata digidol ble mae costau yn is, ond ble mae’r amser sydd ei angen yn

uwch

• Y berthynas rhwng marchnata cyfryngau cymdeithasu sy’n codi tal, sy’n eiddo ac a enillir

• Argaeledd adnoddau llunio gwefannau am ddim, offer sy’n galluogi trosi gwefannau i fformat

sy’n gweddu ffonau deallus,

• a phwysigrwydd ystyried “cwsmeriaid aml-sgrin”

• Dysgodd y mynychwyr hefyd am ddulliau cynradd, eilradd a thrydyddol o farchnata digidol a

sut i wneud y defnydd gorau o adnoddau megis Facebook ac arfau Google amrywiol

• Wedi’r digwyddiad cawsom adborth calonogol iawn, gan gynnwys y sylwadau canlynol:

“Siaradwr rhagorol - yn wybodus tu hwnt ac mae gen i syniadau di-ri i’w cymryd oddi yma! Digwyddiad

o’r radd flaenaf - byddwn yn argymell i eraill.”. “Gwych ein bod yn cael mynediad i siaradwr o’r fath radd

a pherthnasedd yn Wrecsam.”, “Fe fwynheais i’r seminar ‘Taniwch eich Busnes’ yn fawr iawn -

ardderchog, ac fe ddysgais i lawer - o bosib y £15.00 gorau imi ei wario ers peth amser.”

Gostyngiadau Busnes-i-Fusnes:

Mae Llinellfusnes yn gwbl ymroddedig i gefnogi sefydlu busnesau newydd, a chynorthwyo metrau lleol i

ffynnu, ac o ganlyniad, sicrhau cymuned fusnes fwy ffyniannus a llwyddiannus. Yn sgîl hyn, rydym yn

falch iawn o fedru hwyluso cynllun gostyngiadau busnes-i-fusnes sydd wedi anelu at ddenu masnach

ychwanegol a buddsoddiad mewnol i ardal Wrecsam, gan fod o fudd i fentrau presennol a mentrau

newydd. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnig gostyngiad ar eich cynnyrch/gwasanaeth ewch

i’r ddolen tudalen we ar ddiwedd yr erthygl hon am ragor o fanylion. Bydd rhestru am flwyddyn gyfan ar

dudalennau gwe Llinellfusnes yn:

• Cael eu gweld gan gynulleidfa eang. Llynedd cofnodwyd 4,000 o sesiynau defnyddwyr ar ein

tudalennau gwe, er rydym yn disgwyl i’r nifer yma dyfu’n arwyddocaol unwaith inni ddechrau

hyrwyddo ein tudalen gostyngiadau busnes-i-fusnes i’n holl gleientiaid, h.y. pobl sydd yn y

broses o ddechrau eu busnes eu hunain ynghyd â Busnesau Bach a Chanolig sy’n bod eisoes.

• Cynnwys dolen i’ch tudalen we, a allai wella presenoldeb eich gwefannau ar Google

• Rydym yn disgwyl i fentrau lleol gael eu cyfeirio at ein tudalen we busnes-i-fusnes gan

gynghorwyr busnes o fewn Cyngor Wrecsam, Llywodraeth Cymru a sawl mudiad proffesiynol

arall sy’n cefnogi busnes.

Os hoffech i’ch busnes chi fod yn amlycach na’ch cystadleuwyr, yna ewch i’r ddolen ganlynol i ganfod

mwy. Mae manylion ynghylch yr holl ostyngiadau busnes-i-fusnes sydd ar gael ar hyn o bryd i’w gweld

hefyd drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

http://bit.ly/business-discounts-Wrexham

Page 4: Tachwedd 2012

Fel perchennog busnes bach rhaid ichi droi’ch sylw i bob agwedd o’ch busnes, gan adael ychydig o amser ar ôl i weithio ar, yn ogystal ag yn eich busnes. Rydych yn oedi gwneud pethau tan yfory, ond beth os mai amser caletach fyth ddaw yfory?

A yw eich cynllun busnes yn ddim mwy nag atgof yn y pellter? A wnaethoch chi osod y nodau cywir ac yna rhywsut tyfu’n rhy brysur i’w cyflawni?

Ail-afaelwch ynddi:

• Trefnwch slotiau amser rheolaidd i’w dreulio ar eich pen eich hun, oddi wrth y ddesg, i

ystyried ble rydych am weld eich busnes yn mynd • Dechreuwch gyda chyfnodau sy’n hawdd eu trafod – dyweder 10 munud/dydd neu 4

awr/mis gan gynyddu’n araf • Cadwch gofnod, nodiadau neu fap meddwl, o’r hyn sy’n dod i’r meddwl, beth fyddwch

yn meddwl amdano, yn ei benderfynu, deall neu fethu â deall • Ychwanegwch unrhyw syniadau perthnasol ddaw i’r meddwl rhwng sesiynnau • Yn eich sesiwn nesaf, myfyriwch ar eich cofnod a dechreuwch gategoreiddio eich

syniadau a’ch meddyliau • Ail-adroddwch nes eich bod yn gweld thema neu gyfeiriad yn ymddangos yna

gweithredwch arno – daliwch ati gyda’r sesiynau, mae’r dyfodol yn ddi-ddiwedd!

Yn fuan byddwch wedi:

• Profi i’ch hunan fod gennych yr amser i’w wario ar eich busnes a byddwch yn amserlennu

cyfnodau hirach o amser i gyflawni hyd yn oed mwy • Newid eich patrwm meddwl i weld tu hwnt i’r amlwg i’r hyn sy’n bosib • Adnabod cyfeiriad / cadwyn meddwl / adolygu nod neu ail-ddatgan nod rydych am ei datblygu

BACHWCH AR Y CYFLE NAWR I FYND Â’CH BUSNES I’R LEFEL NESAF!

Cyfrannwyd yr erthygl hon gan: marybradley.co [email protected] 07592 932667

http://bit.ly/business-discounts-Wrexham

Disgowntiau Busnes-i-Fusnes:

Cynigion disgownt newydd: Mae gostyngiadau bellach ar gael drwy Llinellfusnes gyda’r busnesau canlynol yn Wrecsam. Gweler y dudalen we a restrir uchod am ragor o wybodaeth:

Busnes (nid) fel arfer

Page 5: Tachwedd 2012

Buddion Lean Six Sigma

Hysbysebwch eich Busnes Yma

Am ragor o wybodaeth

cysylltwch â:

[email protected]

01978 292092

Gall Lean Six Sigma alluogi unrhyw weithrediad i gyflawni nifer o fuddion busnes sylweddol. Gall

ansawdd wella drwy well cynhyrchion prosesau a llai o sgrap a chostau cywiro. Mae costau yn gwella

drwy well effeithlonrwydd, gwell llif arian, ac adenillion uwch ar asedau. Gall cyflenwi wella drwy gwtogi

amseroedd arwain yn y broses gynhyrchu, sy’n golygu busnesau mwy hyblyg sy’n gallu ymateb yn

gyflym i newidiadau o ran gofynion y cwsmer.

Er gwaethaf ymdrechion, ni lwyddodd y rhan fwyaf o fusnesau i ddal na chynnal buddion gweithredu

Lean Six Sigma. Mae Lean Six Sigma yn cynrychioli newid sylfaenol ac mae’r rhan fwyaf o fusnesau

wedi mynd ar ôl newid mewn modd tactegol, yn hytrach na strategol. Gellir priodoli’r rhan fwyaf o

weithrediadau Lean Six Sigma a fethodd i ddiffyg ymrwymiad gwirioneddol gan uwch reolwyr a

dealltwriaeth o’r broses newid. Yn fwy na hyn, y fethodoleg sydd gan y rhan fwyaf o gwmnïau yw

dibynnu ar gyfres o ymagweddau ergyd-gyflym sy’n cyflawni buddion tymor byr, ond nad sy’n

gynaliadwy yn yr hirdymor. Ychwanegwch at hyn yr amharodrwydd sydd gan lawer o gwmnïau i

ystyried y busnes fel cyfanrwydd yn hytrach na dim ond canolbwyntio ar weithrediadau neu

weithgynhyrchu, a dyma ichi rysáit ar gyfer methiant.

Yn y pen draw, ni all unrhyw un warantu cynaladwyedd y system os nad yw’r Busnes yn barod i

fuddsoddi yn yr amser, yr adnoddau a’r ymrwymiad sydd ei angen i’r broses newid. O’i rhoi ar waith yn

y modd cywir, bydd Lean Six Sigma nid yn unig yn cynnig mantais gystadleuol, ond hefyd yn cyflwyno

cyfleoedd strategol newydd.

Os nad ydych chi’n gwella, rydych yn dirywio. I wneud dim mwy nag aros yn eich unfan, rhaid ichi

symud yn eich blaen ar yr un cyflymdra â’ch cystadleuwyr.

Cyfrannwyd yr erthygl hon gan: Beyondlean Limited www.beyondlean.com 01978 661437

[email protected]

01978 292092

Gallwn eich cynorthwyo i wneud hyn:

• Datblygu eich busnes

• Marchnata eich busnes

• Gwneud ymchwil ar eich marchnad

• Ymchwilio i statws credyd cwmnïau

Page 6: Tachwedd 2012

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi:

Wyddoch chi am Gov.uk?

Mae www.gov.uk wedi cymryd lle gwefannau Business Link a Directgov.

Lansiwyd GOV.UK ar 17 Hydref, gan gymryd lle Business Link a Directgov i ddechrau. Dyma’r cam

cyntaf tuag at wneud GOV.UK yn brif wefan ar gyfer rhyngwynebu â’r llywodraeth ganolog.

Yn y cyfamser, mae gwefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn dal i fod ar gael fel ffynhonnell gyntaf o

gefnogaeth ar-lein. Ac mae’n bwysig nodi na fydd newidiadau di-oed i wasanaethau ar-lein Cyllid a

Thollau Ei Mawrhydi.

Adrodd Gwybodaeth Amser Real (RTI) i ddechrau yn Ebrill 2013.

O Ebrill 2013, bydd cyflogwyr yn danfon data Cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE) i Gyllid a Thollau Ei

Mawrhydi yn electronig pob tro maent yn talu eu cyflogeion fel rhan o brosesau cyflogres arferol, yn

hytrach na danfon datganiad niferoedd ar wahân ar ddiwedd y flwyddyn. Bydd datganiadau niferoedd

yn cynnwys manylion ynghylch holl enillion a didyniadau pob cyflogai. Bydd llythyron yn cael eu danfon

at dros 1.4 miliwn o gyflogai ym mis Hydref yn rhoi gwybod iddynt beth sydd raid iddynt ei wneud i

baratoi ar gyfer y ffordd newydd o adrodd Gwybodaeth Amser Real PAYE ym mis Ebrill 2013

( http://bit.ly/PcAUWR ). Bydd cyflogwyr yn defnyddio cynlluniau PAYE penodol ( http://bit.ly/RpKrMi ) yn

dechrau adrodd yn Ebrill 2014.

Lawr lwythwch Bwletlin Cyflogwyr Rhifyn 42 (sy’n cynnwys gwybodaeth RTI)

Mae’r Bwletin Cyflogwyr diweddaraf ( http://bit.ly/OOMmNH ) bellach ar gael ac mae’n cynnwys gwy-

bodaeth bwysig a diweddariadau ynghylch Gwybodaeth Amser Real a chrynodeb o newyddion eraill a

allai effeithio gweithrediad eich cyfrifoldebau cyflogres.

Newidiadau i gyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol: effeithiol o 1 Hydref 2012

Mae’r cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol ( http://www.hmrc.gov.uk/paye/rates-thresholds.htm ) ar

gyfer cyfnodau talu a ddechreuodd ar neu wedi 1 Hydref 2012 fel a ganlyn:

• Bydd y brif gyfradd i oedolion (ar gyfer gweithwyr 21 mlwydd oed a hŷn) yn cynyddu gan

11c i £6.19 yr awr (y gyfradd gyfredol yw £6.08 yr awr)

• Bydd y gyfradd ar gyfer pobl 18-20 mlwydd oed yn aros ar £4.98 yr awr.

• Bydd y gyfradd ar gyfer pobl 16.17 mlwydd oed yn aros ar £3.68 yr awr.

• Bydd y gyfradd ar gyfer prentisiaid yn cynyddu gan 5c i £2,65 yr awr (y gyfradd gyfredol yw

£2.60 yr awr).

Tollau a Chyllid Ei Mawrhydi: y cyfeiriad newydd ar gyfer post sy’n dod i mewn

Rydym yn gwneud newidiadau i’r modd rydym yn trafod post a

ddanfonir atom. Bydd darparu cyfeiriadau PO Box newydd

( http://bit.ly/VMNil4 ) yn ein galluogi i ymateb yn gynt a mwy

effeithlon.