stori sydyn

8
@storisydyn2014  •  @quickreads2014  •  www.darllencymru.org.uk  Ar gael mewn siopau llyfrau, ar-lein a llyfrgelloedd. gwales.com LLYFRAU AR-LEIN BOOKS ON-LINE Troi tudalen newydd

Upload: stori-sydyn-quick-reads

Post on 21-Feb-2016

252 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

Cylchgrawn Stori Sydyn 2014 yn cynnwys erthyglau difyr am yr holl lyfrau Stori Sydyn Cymraeg sy'n cael eu cyhoeddi eleni.

TRANSCRIPT

Page 1: Stori Sydyn

      @storisydyn2014  •  @quickreads2014  •  www.darllencymru.org.uk 

Ar gael mewn siopau llyfrau, ar-lein a llyfrgelloedd. gwales.comLLYFRAU AR-LEIN BOOKS ON-LINE

Troi tudalen newydd

Page 2: Stori Sydyn

Mae’r ffeithiau’n ddigon i ddweud bod Aled Sion Davies yn destun llyfr anhygoel ...

Y dyn a enillodd aur

l Wedi’i eni ym Mhen-y-bont

ar Ogwr

l Taldra: 6’1

l Dioddef o anabledd ar ei goes

dde.

l Medal arian am daflu disgen

F42 ym Mhencampwriaethau’r

Byd yn 2011

l Dwy fedal yng Ngemau

Paralympaidd Llundain yn

2012 – aur yn taflu disgen F42,

ac efydd am daflu siot F42-44

l Dwy fedal aur ym

Mhencampwriaethau’r Byd yn

Lyon yn 2013 – disgen F42 a

siot F42

l Record Byd am daflu siot

– 14.71m

l Record Ewropeaidd am daflu’r

ddisgen – 46.14m

Mae taith Aled Sion Davies i gyrraedd y top yn stori anhygoel.Mae edrych ar y ffeithiau yn

ddigon i ddweud hynny.Nid llawer sy’n gweld breuddwyd yn dod

yn wir trwy ennill Medal Aur Baralympaidd, dod yn bencampwr byd a churo anabledd. Dyma’n union mae’r gwr o Ben-y-bont wedi’i wneud.

Roedd yn un o sêr y Gemau yn Llundain yn 2012, wrth ennill Medal Aur am daflu’r ddisgen a Medal Efydd am daflu siot.

Y llynedd fe wnaeth hyd yn oed yn well, gyda dau deitl byd.

Ac mae ei wên fawr a’i ysbryd wedi ennill ffans iddo ar hyd a lled y byd.

Am y rhesymau yna i gyd, mae ei lyfr yn y gyfres Stori Sydyn yn werth ei darllen - Aled a’r Fedal Aur.

‘Profiad anhygoel’“Roedd yn brofiad anhygoel bod yn y Gêmau Paralympaidd,” meddai Aled Sion Davies. “Wnes i wylio Athens 2004 a meddwl ’mod i eisiau bod yno rhyw ddydd – roeddwn i’n fachgen bach gyda breuddwyd enfawr.

“Yn Llundain yn 2012 fe wnes i ddod o unman, doedd dim llawer o bobl yn gwybod pwy oeddwn i. Ar ôl hynny roeddwn i eisiau mwy.

“Felly yn y Pencampwriaethau Byd roeddwn i eisiau profi i bawb’mod i yma i aros.”

Mae’n awr yn barod am flwyddyn dda arall yn 2014 yn taflu’r ddisgen dros Gymru yng Ngêmau’r Gymanwlad yn Glasgow.

“Rwy’n edrych ymlaen at Gêmau’r Gymanwlad yn 2014,” meddai Aled.

“Bydd e’n wych cystadlu gyda thîm Cymru. Rwy’n Gymro balch a hwn fydd fy nghyfle cyntaf.”

Anabledd ddim yn rhwystr

Cafodd Aled Sion Davies ei eni gyda’r anabledd hemi-hemelia sy’n golygu nad oedd asgwrn ei goes dde yn tyfu’n iawn.

“Weithiau rwy’n meddwl mod i’n lwcus i gael fy ngeni gyda’r hemi-hemelia,” meddai.

“Dyw e heb fy stopio i rhag cystadlu.“Pan oeddwn i’n fach ro’n i jyst yn

gwneud popeth oedd y bechgyn eraill yn gwneud, ac yn trio curo ’mrawd i ym mhopeth!”

Newydd!

Llyfrau byr

Page 3: Stori Sydyn

Stori ryfeddol am ddyn ifanc o Gymru, Stalin ac Ymerawdwr Japan

Does dim llawer o bobl yn gwybod am y dyn papur newydd, Gareth Jones.

Ond roedd yn rhan o un o straeon mawr y byd yn y ganrif ddiwetha’ ... ac mae yna stori fawr y tu cefn i’w fywyd yntau. Neu, a dweud y gwir, y tu cefn i’r ffordd y bu farw.

Dyna pam fod Alun Gibbard wedi mynd ati i sgrifennu hanes y Cymro o’r Barri mewn llyfr newydd Stori Sydyn, Y Dyn Oedd yn Gwybod Gormod.

Dyma’r llyfr cynta’ Cymraeg i ddweud hanes y dyn ifanc o’r Barri a aeth draw i’r Wcrain yn yr Undeb Sofietaidd yn nyddiau Stalin.

Ef oedd y cynta’ i gyhoeddi i’r byd fod pobl yr Wcrain yn marw o newyn oherwydd polisïau Stalin. A dyna un ffaith beryglus.

Ymhen ychydig wedyn, roedd wedi teithio i Japan ac wedyn i China i ardaloedd fel Mongolia, a oedd wedi eu concro gan Japan.

Y tro yma, roedd yn dweud bod polisïau Japan yn Mongolia yn debyg i rai Stalin. Un ffaith beryglus arall.

Y diwrnod cyn ei ben-blwydd yn 30 oed, fe gafodd ei ladd gan ladron.

Un cwestiwn yn y llyfr newydd ydy pwy oedd yn gyfrifol?

“Fe oedd y cynta’ i dynnu sylw at y newyn erchyll oedd yn digwydd o dan Stalin,” meddai Alun Gibbard.

“Roedd yn gweld tebygrwydd rhwng beth oedd Japan yn ei wneud a’r pethau roedd Stalin yn eu gwneud.

“Roedd yn ddyn dewr a safodd lan dros beth oedd e’n gredu.”

“Roedd rhywun eisiau ei gadw’n dawel. Mae yna lot wedi ceisio dyfalu pwy laddodd e; ai’r Rwsiaid neu’r Japaneaid?”

Y cwestiwn mawr arall ydy pam y cafodd Gareth Jones ei ladd? Ond mae Alun Gibbard yn gwybod yr ateb i hynny: “Roedd yn gwybod gormod.”

Cafodd Gareth Jones brofiad annisgwyl arall yn 1933 – ef oedd un o’r newyddiadurwyr cyntaf i deithio mewn awyren gydag Adolf Hitler.

Roedd Hitler newydd gael ei ethol yn arweinydd yr Almaen, ac roedd ar ei ffordd i rali fawr yn Frankfurt.

Teithiodd Gareth Jones gydag ef yn yr awyren, ac roedd yn sefyll yng nghefn y llwyfan wrth i Hitler roi ei araith.

Y dyn oedd yn gwybod gormod

Newydd!

Ar ôl gadael y coleg, a chyn iddo ddod yn newyddiadurwr, roedd Gareth Jones yn gweithio i David Lloyd George.

Roedd Lloyd George yn Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon, ac wedi bod yn Brif Weinidog ar Brydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

l Mae yna blac i gofio Gareth Jones ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle’r oedd wedi bod yn stiwdant. Yn 2008 cafodd gwobr arbennig ei rhoi i’w gofio gan Lywodraeth Wcrain.

Llun: PAPhotos

Page 4: Stori Sydyn

Llyfrau bachog

Fydd Jonathan Davies fyth yn anghofio taith y Llewod yn 2013 a’i ran yn y gêm fawr ola’.

Fe gymerodd le un o chwaraewyr gorau’r byd, y Gwyddel Brian O’Driscoll ac roedd llawer o bobl yn flin.

Ond pan lwyddodd y Llewod i chwalu Awstralia, roedd Jonathan Davies yn arwr.

Mae’r llyfr Foxy’r Llew yn dilyn gyrfa Jon Davies o gam i gam at y gêm fwya’ yn ei fywyd.

Jonathan a’r funud fawr ... “Pan ddewisodd Gatland fi i chwarae yn lle O’Driscoll, fe achosodd y penderfyniad tipyn o storom yn y byd rygbi, yn enwedig yn Iwerddon.

“Ond wrth i ni fynd ar y bws at y cae fe ddaeth Brian ata’i a shiglo fy llaw gan ddymuno’r gorau i fi.”

Bois y BancMae gan Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, jôc dda – fod mwy o fois o bentref Bancyfelin yn nhîm y Llewod nag oedd o Saeson. Jonathan Davies yw un a’r mewnwr, Mike Phillips, yn un arall.

Mynd amdaniDoedd Jonathan Davies ddim yn siw^ r am chwarae yn broffesiynol.

“Fe wnes i chwarae i fy ysgol a fy rhanbarth heb feddwl chwarae’r gêm yn broffesiynol,” meddai. “Fe ddaeth

hynny pa o’n i’n tua 16 oed. Fe wnes i ymarfer llawer mwy caled,

colli pwysau a dechrau meddwl wedyn am ennill fy mara menyn

drwy chwarae rygbi.”

Y dyn aeth â lle O’Driscoll

Roedd llawer o bobl wedi gwylltio pan gafodd Jonathan Davies ei ddewis i gêm ola’r Llewod ... ond y Cymro oedd yn gwenu ar y diwedd.

Geni: Solihull, LloegrMagu: Bancyfelin, Sir Gaerfyrddin.

Taldra: 6’ 1’’Oed: 25

Pwysau: 16 stôn Safle: Canolwr

Clwb: Scarlets. Y flwyddyn nesa’ – Clermont yn Ffrainc.Capiau i Gymru: 37Ceisiau i Gymru: 9

FFEITHIAU

JON DAVIES

Cofio cap cyntaFe fydd Jon Davies yn cofio’i gap cynta i Gymru hefyd – ond nid am reswm amlwg.

Nid yn Stadiwm y Mileniwm yr oedd y gêm. Ond o flaen 8,500 o bobl yng Nghanada. Ac roedd dynion yn dal i godi’r stands wrth i’r tîm gyrraedd.

“Ond doedd dim ots ‘da fi ble roedd y gêm yn cael ei chwarae. Roeddwn i wedi cael fy newis i Gymru. Dyna oedd yn bwysig ac ro’n i’n falch iawn o hynny.”

JON A CHWPAN Y BYD

Roedd cael chwarae yng Nghwpan y Byd yn uchafbwynt i Jon Davies, ac er na wnaeth Cymru ennill y Gwpan roedd wedi mwynhau.

“Er i ni golli, roedd y gystadleuaeth yna’n ddechrau cyfnod newydd pendant i dîm

rygbi Cymru, ac fe gafodd sylfeini eu gosod sy’n dal i fod yno heddi.”

Newydd!

Llun: PAPhotos

Page 5: Stori Sydyn

Dillad du, hiwmor du a chwestiynau mawr mewn nofel newydd

Mae Oswald yn ddyn gwahanol i’r rhan fwyaf. Pwy sy’n

dweud hynny? Y person a ddaeth ag ef i’r byd.

Cymeriad mewn nofel newydd ydy Oswald ac mae ganddo hobi anarferol iawn. Nid casglu stampiau na chwarae golff, ond mynd i wahanol angladdau.

Nid dim ond angladdau teulu a ffrindiau, ond unrhyw angladdau sy’n mynd.

Bob bore, mae’n edrych yn y papur newydd a gweld pa rai sydd ar gael. Os yw’n gallu mynd, mae’n ymuno gyda’r galarwyr.

Lleucu Roberts ydy awdur Oswald – ei llyfr cynta’ yn y gyfres Stori Sydyn. Mae hi’n byw yn Rhostryfan yn ardal Caernarfon ond yn dod o Bow Street, Ceredigion.

Mae wedi sgrifennu llawer o lyfrau i blant a phobl mewn oed, ond mae Oswald yn gymeriad gwahanol i bob un arall o’r blaen.

“Mae’n gymeriad unig sydd yn hoff o’i gwmni ei hun,” meddai. “Mae’n tueddu i gadw

pobl eraill hyd braich.“Dyw e ddim yn hoffi

cael pobl eraill yn ymyrryd yn ei fywyd. Mae’n

berson sy’n cael trafferth wrth ymwneud â

phobl.”

Y dyn sy’n hoffi angladd

Os hon ydy Stori Sydyn gyntaf Lleucu Roberts, mae wedi sgrifennu llawer ac ennill llawer o wobrau.

l Un o’i gwobrau mawr cyntaf oedd Cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ôl ym Mhwllheli yn 1982.

l Mae wedi ennill Gwobr Tir na n-Og ddwywaith am lyfrau plant – yn 2009 am stori Annwyl Smotyn Bach ac yn 2011 am Stwff – Guto S. Tomos.

l Mae ei llyfrau eraill yn cynnwys Iesu Tirion, Troi Clust Fyddar ac Y Ferch ar y Ffordd

l Mae miloedd ar filoedd o bobl yn gweld a chlywed ei gwaith – mae’n sgrifennu llawer o sgriptiau ar gyfer y radio a’r teledu.

Newydd!

Llyfrau Lleucu

Mae yna un ddynes sy’n reit hoff o Oswald ond mae o’n meddwl ei bod hi’n ychydig o niwsans.

Mae Lleucu Roberts yn enwog am sgrifennu straeon gyda llawer o hiwmor ond mae Oswald yn trafod pethau difrifol hefyd.

“Ar ddiwedd y stori mae Oswald yn gofyn beth ydyn ni’n ei wneud gyda’n bywydau,” meddai Lleucu.

Stori hawdd ei darllen ond sy’n gofyn cwestiynau mawr.

O ble ddaeth Oswald?Maen nhw’n dweud bod y Cymry’n hoffi angladdau.

Mae rhai’n dweud pethau fel, “Ew, roedd honna’n angladd dda!”

Ond does dim rhaid i ffrindiau a chymdogion Lleucu Roberts boeni – dydy Oswald ddim wedi ei seilio ar berson go iawn.

“Roeddwn i jyst eisiau meddwl am gymeriad oedd ychydig yn wahanol i’r arfer,” meddai. “Mae Oswald yn gwbl ddychmygol!”

Llun: Cyngor Llyfrau Cymru

Page 6: Stori Sydyn

Yn ogystal â’r 8 teitl newydd a gyhoeddir

yng Nghymru, mae yna 6 o deitlau Quick

Reads newydd ar werth drwy’r Deyrnas

Gyfunol ac Iwerddon, am £1 yr un. Maent

yn cynnwys llyfrau gan rai o’r awduron

mwyaf poblogaidd, a byddant yn sicr o’ch

rhwydo i fwynhau darllen.

Newydd ar gyfer

Hidden gan Barbara Taylor BradfordDrama, torcalon, a dechreuadau newydd – stori afaelgar gan un sy’n feistres ar ei chrefft.

Ar yr wyneb, mae Claire Saunders ar ben ei digon. Mae ganddi yrfa lewyrchus, a merch talentog. Diplomydd uchel ei barch yw ei gw^ r cariadus.

Ond, bob hyn a hyn, rhaid iddi roi haen drwchus o golur ar ei hwyneb, a gwisgo sbectol haul. Mae hi’n meddwl ei bod wedi llwyddo i guddio’i chyfrinach rhag ei ffrindiau gorau – ond maen nhw’n ei hadnabod yn rhy dda i hynny.

All ei ffrindiau ei hachub rhag niwed, a’i hamddiffyn rhag dyn sydd mor greulon ag yw e o atyniadol a phwerus? Oes gobaith y gall Claire ddysgu peidio ag amddiffyn y bobl anghywir?

Blackout gan Emily BarrRydych yn deffro ym Mharis.

Dim arian. Dim cof. Dim plentyn.Rydych mewn stafell ddieithr, heb

unrhyw amcan sut y cyrhaeddoch chi yno.Rydych ar y cyfandir, mewn dinas nad

ydych wedi ymweld â hi erioed o’r blaen. Does ganddoch chi ddim arian, dim

pasbort, dim ffôn.A does dim golwg o’ch babi yn unman.Beth ydych chi’n ei wneud?

The Escape gan Lynda La PlanteAi newid hunaniaeth yw’r cyfan sydd ei angen i ddianc o’r carchar?

Mae Colin Burrows wedi cyrraedd pen ei dennyn. Wrth gael ei garcharu am bedair blynedd, mae’n sylweddoli y bydd yn colli genedigaeth ei blentyn cyntaf. A’r dyddiad yn agosáu, roedd wedi gobeithio y byddai awdurdodau’r carchar yn

A Cruel Fate gan Lindsey DavisCyn belled ag y bo rhyfel yn bodoli, bydd y stori hon yn bwysig.

Caiff Martin Watts, llyfrwerthwr, ei gipio gan ddynion y brenin. Maent yn cymryd Nat, brawd Jane Afton, hefyd. Mae’r ddau ohonynt yn dioddef yn enbyd fel carcharorion rhyfel.

Mewn nofel wedi’i seilio ar ddigwyddiadau gwir yn Rhyfel Cartref Lloegr, mae Lindsey Davis yn adrodd hanes Capten Smith oedd yn camddefnyddio’i awdurdod yng Ngharchar Rhydychen. Yno, bu farw llawer mewn amgylchiadau truenus, ac ychydig iawn o rai ffodus a lwyddodd i oroesi.

2014!

Llyfrau bywiog

Page 7: Stori Sydyn

Rules for Dating a Romantic Hero gan Harriet EvansYdych chi’n credu mewn diweddglo hapus?

Roedd Laura Foster yn arfer bod yn berson hynod ramantaidd, a chanddi obsesiwn am gwrdd â’i Thywysog ei hun – hyd nes iddi dyfu i fyny a sylweddoli bod bywyd go iawn yn fater cwbl wahanol.

Tybed a oes gan ferch gyffredin fel Laura obaith o fod yn hapus gydag un o’r dynion mwyaf cymwys yn y wlad?

Mae stori gyffrous yr

awdures adnabyddus Lynda La Plante yn seiliedig ar hanes

gwir.

Four Warned gan Jeffrey ArcherMae’r pedair stori fer yn y casgliad hwn, gan un sy’n arbenigwr ar ei grefft, yn llawn o elfennau annisgwyl.

Yn Stuck on You, mae Jeremy yn dod o hyd i’r ffordd orau o ddwyn y fodrwy berffaith ar gyfer ei ddyweddi.

Wrth i Albert ddathlu ei ben blwydd yn 100 oed, mae e wrth ei fodd yn derbyn The Queen’s Birthday Telegram. Ond mae’n methu’n lân â deall pam nad yw ei wraig yn derbyn un hefyd.

Yn Rwsia, mae dyn busnes o’r enw Richard yn cynllunio’r dull perffaith o lofruddio’i wraig. Mae egin syniad da yn ffurfio yn ei feddwl, ond yna mae’r gwesty’n rhybuddio: Don’t Drink the Water o’r tapiau.

Wrth i Diana, mam sengl brysur, yrru i gael pryd o fwyd gyda ffrindiau, mae hi’n sylweddoli’n sydyn bod fan ddu yn ei dilyn. A hithau’n ofni am ei bywyd, mae’n gwneud beth bynnag sydd raid i lynu at y rhybudd a roddir i yrwyr, sef: Never Stop on the Motorway . . .

Bydd gan bob darllenydd ei hoff stori – bydd rhai yn gwneud i chi chwerthin, ac eraill yn tynnu deigryn o’ch llygaid. Ac fel bob amser, byddant i gyd yn eich gwefreiddio.

newid eu meddyliau – ond maent wedi gwrthod.

Yn rhannu cell gyda Colin mae dyn o’r enw Barry Marsden sydd, yn wahanol i’r rhan fwyaf, wrth ei fodd gyda bywyd y carchar. Dyw e ddim eisiau gorfod gadael y carchar yn fuan.

Wrth gydymdeimlo â’i gydgarcharor, mae Barry’n dyfeisio cynllun fydd yn golygu bod Colin yn bresennol yng ngenedigaeth ei blentyn.

Ewch i www.quickreads.org.uk i gael rhagor o wybodaeth ynghylch y llyfrau hyn a’u

hawduron, ac i ddarganfod ymhle y gellir eu prynu. Yn ogystal, gellir

prynu a lawrlwytho’r teitlau fel Elyfrau oddi ar wefannau nifer o

gwmnïau.

Mae’r wefan hefyd yn rhoi manylion am y deunyddiau atodol fydd yn helpu pawb i gael y gorau allan o deitlau cyfres Quick Reads. Mae’r adnoddau i’w lawrlwytho

yn cynnwys y canlynol:

NEWYDD AR GYFER 2014

– pecynnau Grwpiau Darllen unigol ar gyfer pob teitl;

• Poster Quick Reads;• Pecyn Egwyl Darllen Quick Reads i’w ddefnyddio mewn

gweithleoedd, colegau, llyfrgelloedd ac ati.

Ar y wefan hefyd mae gwybodaeth am ôl-restr gynhwysfawr Quick Reads, ynghyd ag astudiaethau

achos yn dangos pa ddefnydd mae pobl wedi ei wneud o’r llyfrau, a’r

effaith anhygoel a gawsant.

Ewch i www.quickreads.org.uk

i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf.

Gellir cael y newyddion diweddaraf am Quick Reads hefyd

ar wefan Twitter @Quick_Reads

Chwiliwch amdanom ar Facebook www.facebook.com/

TheQuickReads

Page 8: Stori Sydyn

Headhunter Jade JonesMae Jade Jones yn disgrifio sut y cafodd ei diddordeb yn y gamp ei sbarduno pan, yn wyth oed, aeth ei thaid â hi i ddosbarth yn ei glwb lleol am y tro cyntaf. Dros y blynyddoedd, mae ei huchelgais a’i gwaith caled wedi talu ar ei ganfed.

Mae’r llyfrau ar gael yn eich siop lyfrau leol, eich llyfrgell neu ar www.gwales.com

Am fwy o wybodaeth ewch i www.darllencymru.org.uk neu dilynwch ni ar Trydar @storisydyn2014 neu Facebook.

LLYFRAU NEWYDD AR GYFERYn ogystal a’r teitlau Cymraeg newydd, mae yna pedwar o lyfrau newydd sbon

wedi cael eu cyhoeddi yng Nghymru gan Accent Press fel rhan o gyfres

Saesneg Quick Reads.

Do Not Go GentlePhil CarradiceHanes ffuglennol oriau olaf Dylan Thomas ar y ddaear. Wrth iddo orwedd yn aros i’r diwedd ddod, mae’n meddwl yn ôl dros ei fywyd – o’i blentyndod yn Abertawe i’w wythnosau olaf yn Efrog Newydd.

Be Your Own BossAlison StokesYn y gyfrol hon, mae dwsin o bobl sydd wedi mentro ym myd busnes yn rhannu eu straeon ysbrydoledig, yn awgrymu sut i fynd o’i chwmpas hi, ac yn nodi camgymeriadau cyffredin i’w hosgoi.

LionheartRichard HibbardYma, mae Richard Hibbard, seren y Gweilch a’r Llewod, yn sôn am ei lwybr hir – ac anodd yn aml – i gyrraedd y brig ar y maes rygbi.