sain ffagan: amgueddfa werin cymru digwyddiadau gorffennaf - medi 2013

8
Digwyddiadau Digwyddiadau Sgyrsiau a Theithiau Hwyl i’r Teulu 7– 8 Medi Gŵyl Fwyd Sain Ffagan Gorffennaf – Medi 2013 Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Upload: amgueddfa-cymru

Post on 17-Mar-2016

221 views

Category:

Documents


3 download

DESCRIPTION

Digwyddiadau / Arddangosfeydd

TRANSCRIPT

Page 1: Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru Digwyddiadau Gorffennaf - Medi 2013

1

Digwyddiadau

DigwyddiadauSgyrsiau a Theithiau Hwyl i’r Teulu

7– 8 Medi Gŵyl Fwyd Sain Ffagan

Gorffennaf – Medi 2013

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

ww

w.am

gu

edd

facymru

.ac.uk 0300 111 2 333

Page 2: Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru Digwyddiadau Gorffennaf - Medi 2013

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

2 Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Sul 7 Gorffennaf 2pm – 3pm Gofyn i’r Garddwr: Tocio a Thrin Ffigys Dewch draw i ddysgu sut mae tocio ffigys.

Iau 11 Gorffennaf 2pm – 3pm (Saesneg) 3pm – 4pm (Cymraeg) Tu ôl i’r Llenni: O Dan y Dillad Beth oedd ein cyndeidiau’n ei wisgo o dan eu dillad? Dewch i ddarganfod cyfrinachau’r casgliad tecstilau. Rhaid archebu lle: (029) 2057 3424. Dim mwy na 12 o bobl.

Sad 20 Gorffennaf11am – 1pm Clwb Llyfrau Sain FfaganWolf Hall gan Hilary Mantel. Bywgraffiad ffuglennol sydd wedi ennill nifer o wobrau ac sy’n adrodd hanes esgyniad cyflym Thomas Cromwell i rym yn llys Harri’r VIII.

Iau 18 Gorffennaf 2pm – 3pm Gofyn i’r Garddwr: Teneuo Grawnwin Dewch i weld sut mae gwella eich grawnwin yn y Winwydd-dy.

Sad 20 Gorffennaf 11am – 1pm a 2pm – 4pm Clwb Cwiltio Dewch â’ch project eich hun neu dechreuwch rywbeth newydd yn y Clwb Cwiltio!

Sad 27 – Sul 28 Gorffennaf 11am – 4pmPenwythnos PysgotaO bysgota â phlu i bysgota rhwydi lâf, i drochi rhwydi a choginio pysgod – mae gwledd ar eich cyfer yn yr Amgueddfa dros y penwythnos gan gynnwys pencampwr castio’r byd Hywel Morgan!

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Gorffennaf

Page 3: Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru Digwyddiadau Gorffennaf - Medi 2013

3

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Sad 20 Gorffennaf 2pm – 3pm Gofyn i’r Garddwr: Dysgu am Liwlysiau Dewch draw i’r ardd liwurau ger y Felin Wlân i ddysgu mwy.

Sul 21 Gorffennaf 2pm – 3pm Gofyn i’r Garddwr: Tocio Coed Ffrwythau yn yr Haf Dysgwch sut i docio’ch coeden ffrwythau yn Llwyn yr Eos.

Llun 22 Gorffennaf 2pm – 3pm (Saesneg) 3pm – 4pm (Cymraeg) Tu ôl i’r Llenni: Capel Pen-rhiw Dewch i ddysgu am y bobl sydd wedi dod i Gapel Pen-rhiw i addoli, addysgu a dysgu mwy am eu credoau ers 1777.

3

Mawrth 23 – Iau 25 Gorffennaf 11am a 3pm (Cymraeg) 12pm a 2pm (Saesneg)Chwaraeon TuduraiddGalwch draw i’r Talwrn i glywed mwy am chwaraeon anarferol y Tuduriaid gan gynnwys Reslo Cymreig, cnapan ac ymladd ceiliogod.

Iau 25 – Gwe 26 Gorffennaf 11am – 1pm a 2pm – 4pmCelfyddyd Amddiffyn:Creu TarianCyfle i ddysgu am dariannau’r Oes Haearn a chreu eich tarian eich hun.

Sad 27 Gorffennaf 10am – 5pmCyfarfod â’r Cerfwyr PrenDewch i weld y cerfwyr pren cyfeillgar yn arddangos eu crefft.

Teithiwch yn ôl drwy’r oesau yn un o amgueddfeydd awyr agored gorau’r byd. Mae Sain Ffagan wedi symud ac ailgodi dros 40 adeilad hanesyddol i ddangos sut fyddai pobl Cymru yn byw, gweithio, chwarae ac addoli dros y canrifoedd.

Ar agor Bob dydd 10am – 5pm (ac eithrio 24, 25, 26 Rhagfyr ac 1 Ionawr).

Mynediad am ddim.

I gael rhagor o wybodaeth, ac i gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin CymruSain Ffagan Caerdydd CF5 6XB Ffôn: (029) 2057 3500 neu 0300 111 2 333 (galwadau cyfradd leol)

Manylion yn gywir wrth fynd i’r wasg. Cysylltwch â ni cyn teithio’n unswydd.

MYNEDIAD AM D

DIM

MYN

EDIAD AM DDIM

Dyl

un

io g

illad

vert

isin

g.c

om

Page 4: Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru Digwyddiadau Gorffennaf - Medi 2013

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

4 Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Awst

Iau 1 – Gwe 2 Awst 11am – 1pm a 2pm – 4pm Cert Celf yr HafSesiwn celf a chrefft llawn hwyl i’r teulu.

Sad 3 Awst, 11am – 12.30pm a 2pm – 3.30pmBwytadwy neu BeryglusCyfle i deuluoedd chwilota planhigion gwyllt a dysgu pa rai sy’n fwytadwy a pha rai sy’n beryglus

Sul 4 Awst, 2pm – 4pm Y Clwb Ffilmiau: Hedd Wyn (1992)Ffilm am fywyd y bardd Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans), Cymro a laddwyd yn ystod Brwydr Passchendaele, y Rhyfel Mawr.

Mawrth 6 – Iau 8 AwstMawrth 13 – Iau 15 AwstMawrth 20 – Iau 22 AwstO 11am Gweithgareddau NaturGolwg fanylach ar yr amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt yn Sain Ffagan. Drwy gydol mis Awst bydd llond lle o weithgareddau natur, teithiau cerdded, sgyrsiau a llawer mwy! Bydd gwybodaeth am weithgareddau’r diwrnod ar gael yn y Fynedfa neu ar Twitter: @Nature_StFagans.

Llun 5 – Gwe 9 Awst 11am – 1pm a 2pm – 4pm Cert Celf yr Haf Sesiwn celf a chrefft llawn hwyl i’r teulu.

Gwe 1 Awst, 9pm Iau 15 Awst, 8.30pm Iau 29 Awst, 8pm Cerdded y Cyfnos gyda’r Ystlumod Taith gyffrous gyda’r ystlumod wrth iddi nosi. Gwisgwch ddillad addas a dewch â fflachlamp a fflasg os hoffech chi. Tocynnau: £3 i oedolion, £2 i blant. Parcio am ddim. Bydd y daith yn cychwyn wrth y brif fynedfa ac yn para awr a hanner. Rhaid archebu lle: (029) 2057 3424.

Page 5: Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru Digwyddiadau Gorffennaf - Medi 2013

5

Iau 8 Awst, 2pm – 3pm Gofyn i’r Garddwr: Haf yn y Borderi Llysieuol Sut i gael y gorau o’ch borderi llysieuol.

Sad 10 Awst 11am – 1pm a 2pm – 4pm Gweithio yn y GoedwigBeth oedd ein cyndeidiau’n ei gasglu o’r goedwig, a pham?

Sad 10 – Sul 11 Awst 10am – 5pmBywyd yr 17eg Ganrif yn Sain Ffagan Dewch i ymweld â phentref dan gynfas grwp ail-greu y Marcher Stuarts i ddarganfod crefftau, offer ac arfau’r oes a siarad â milwyr hur a’u teuluoedd.

Llun 12 – Gwe 16 Awst 11am – 1pm a 2pm – 4pm Cert Celf yr Haf Sesiwn celf a chrefft llawn hwyl i’r teulu.

Llun 12 a Merch 14 Awst 11am a 3pm (Cymraeg) 12pm a 2pm (Saesneg)Taith Dywys: Tŷ’r Masnachwr Dewch i archwilio ychwanegiad diweddaraf Sain Ffagan a dysgu mwy am Gymry mordwyol yr oes Duduraidd.

Mawrth 13 Awst 11am – 1pm a 2pm – 4pm Plethu’r Gorffennol Ers dyddiau cynnar llinyn, mae pobl wedi ei blygu, ei glymu ai blethu er mwyn ei wneud yn hirach, yn gryfach neu’n fwy deniadol! Ymunwch â ni i ddysgu hen sgiliau y gallwch chi eu defnyddio gartref.

Iau 15 Awst 2pm – 3pm (Saesneg) 3pm – 4pm (Cymraeg)Tu ôl i’r Llenni: Cadeiriau Barddol Dewch gyda’r curadur Sioned Williams i weld casgliad yr Amgueddfa o gadeiriau barddol. Rhaid archebu lle: (029) 2057 3424. Dim mwy na 10 o bobl. Addas i oed 10+.

Sul 4 Awst, 11am – 4pmGarddwest Castell Sain FfaganRoedd garddwesti’r haf yn boblogaidd iawn mewn tai gwledig Fictoraidd ac Edwardaidd, ac fe’u cynhaliwyd yng Nghastell Sain Ffagan yn y 1900au. Dewch i gael blas ar fywyd y cyfnod, o safbwynt y gweision a’r bonedd. Bydd digwyddiadau lu.

Page 6: Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru Digwyddiadau Gorffennaf - Medi 2013

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

6 Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Gwe 16 Awst 11am a 3pm (Cymraeg) 12pm a 2pm (Saesneg)Taith Dywys: Tŷ’r MasnachwrDewch i archwilio ychwanegiad diweddaraf Sain Ffagan a dysgu mwy am Gymry mordwyol yr oes Duduraidd.

Sad 17 – Sul 18 Awst 11am – 1pm a 2pm – 4pm Pen-blwydd Hapus Blaenwaun!Dewch i ddysgu mwy am y swyddfa bost fechan hon o gefn gwlad Cymru ar ben-blwydd ei symud i’r Amgueddfa.

Llun 19 – Gwe 23 Awst 11am – 1pm a 2pm – 4pm Cert Celf yr Haf Sesiwn celf a chrefft llawn hwyl i’r teulu.

Iau 22 Awst 2pm – 3pm Taith Dywys: Fferm KennixtonTaith o’r fferm gan gynnwys y ffermdy, yr ysgubor a’r cut lloi a hanes y teulu fu’n byw yno rhwng 1600 a 1952. Rhaid archebu lle: (029) 2057 3424. Dim mwy na 12 o bobl.

Sad 24 Awst, 11am – 4pmSeiniau Sain Ffagan: Diwrnod o GerddoriaethGwledd i’r glust: mwynhewch alawon swynol o amgylch y safle gan amrywiol gerddorion amryddawn Cymreig.

Sad 24 – Llun 26 Awst 10am – 5pmHwyl Gŵyl y Banc!Penwythnos cyfan o weithgareddau a gweithdai llawn hwyl.

Llun 26 – Gwe 30 Awst 11am – 1pm a 2pm – 4pm Cert Celf yr Haf Sesiwn celf a chrefft llawn hwyl i’r teulu.

AwstLlun 19, Merch 21 a Gwe 23 Awst, 11am, 12pm, 2pm (Saesneg) 3pm (Cymraeg)Taith Dywys: Eglwys Sant TeiloTaith o gwmpas murluniau lliwgar a cherfiadau cain yr Eglwys.

Page 7: Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru Digwyddiadau Gorffennaf - Medi 2013

7

Sad Awst 31 – Sul 1 MediCyfarfod â’r Muzzleloaders!Arddangosiad o arfau hynafol gyda changen Sir Fynwy o’r Muzzleloaders. Bydd yr aelodau’n ddigon parod i siarad â’r cyhoedd ac ateb unrhyw gwestiwn gaiff ei anelu atynt!

Iau 5 Medi, 2pm – 3pm (Saesneg) 3pm – 4pm (Cymraeg) Tu ôl i’r Llenni: Ystafelloedd y GweisionYmunwch â’r curadur Mared McAleavey am daith o ystafelloedd y gweision yng Nghastell Sain Ffagan. Rhaid archebu lle: (029) 2057 3424. Dim mwy na 10 o bobl.

Gwe 6 Medi, 11am – 1pm Addurno’r CapelDiolchgarwch yng Nghapel Pen-rhiw gyda chynnyrch a blodau’r ystâd.

Sad 7 Medi, 2pm – 3pm Gofyn i’r Garddwr: Tocio a Thrin RhosodDysgu mwy am docio a thrin rhosod.

Sad 7 – Sul 8 Medi 10am – 5pm Gŵyl Fwyd Sain Ffagan Cymerwch rai stondinau yn arddangos y bwydydd a’r diodydd Cymreig gorau, ychwanegwch ddogn da o hanes, cymysgwch hyn i gyd â mynediad am ddim a gweini’r cyfan mewn lleoliad awyr agored unigryw! Dyma’r rysáit perffaith am wyl fwyd sy’n tynnu dwr i’r dannedd.

Medi

Page 8: Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru Digwyddiadau Gorffennaf - Medi 2013

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

8 Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Sad 7 – Sul 8 Medi 11am – 1pm a 2pm – 4pmBwydydd yr Hydref yn yr Oes Haearn Dewch i weld beth sy’n coginio yn y crochan a dysgu sut oedd pobl yr Oes Haearn yn cadw’u bwyd i’w cynnal dros y gaeaf.

Sad 7 – Sul 8 Medi 11am – 1pm a 2pm – 4pmBlas ar y Gorffennol: Coginio yn Oes Harri VIIIBlas ar y gorffennol yn ystod Gwyl Fwyd Sain Ffagan. Dewch i weld ac arogli cegin Duduraidd tra bo swper ar y tân.

Sul 8 Medi, 3pm – 4pm Gwasanaeth Diolchgarwch Gwasanaeth Diolchgarwch Cymraeg gan Undodiaid Caerdydd yng Nghapel Penrhiw am 3pm. Croeso cynnes i bawb.

Sul 15 Medi, 2pm – 3pm Sgwrs: Owain GlyndŵrAr y penwythnos y cyhoeddodd Owain Glyndwr mai ef oedd Tywysog Cymru ym 1400, dewch i glywed hanes y tywysog gwrthryfelgar a’i frwydr dros Gymru annibynnol.

Sad 21 Medi, 11am – 1pm Clwb Llyfrau Sain Ffagan Ymunwch â’r clwb i drafod nofel Allen Raine, A Welsh Witch, a ailgyhoeddwyd yn ddiweddar.

Sad 28 Medi, 11am – 1pm Grŵp Gwau a GwnïoDewch â’ch project eich hun gyda chi a rhannu syniadau.

Sad 28 – Sul 29 Medi 10am – 5pm Cymdeithas Ceffylau Haearn Morgannwg: Hen Beiriannau Fferm Casgliad arbennig y Gymdeithas o hen beiriannau fferm.

MediSul 8 Medi, 2pm – 3pm Gofyn i’r Garddwr: Grawnwin ar werth! Dewch draw i’r Winwydd-dy i flasu ein grawnwin a phrynu bwnsiad i fynd adre gyda chi.

Sad 21 – Sul 22 Medi 11am – 1pm a 2pm – 4pm Smeltio HaearnDewch i’n gwylio wrth y dasg beryglus sydd angen cryn dipyn o grefft – creu gwrthrychau hardd gan ddefnyddio tân a mwyn.