rwy’n gwybod am awtistiaeth (i know about autism in welsh)

27
Rwy’n gwybod am awtistiaeth

Upload: asdinfowales

Post on 14-Jan-2015

303 views

Category:

Health & Medicine


11 download

DESCRIPTION

Rwy’n gwybod am awtistiaeth

TRANSCRIPT

Page 1: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

Rwy’n gwybod am awtistiaeth

Page 2: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

Dyma Gynllun‘Rwy’n gwybod am awtistiaeth’

Wrth drafod awtistiaeth, rydyn ni’n cynnwys pobl ac arnyn nhw anhwylderau’r sbectrwm

awtistaidd a Syndrom Asperger.

Page 3: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

Gall awtistiaeth effeithio ar blant, pobl ifanc ac oedolion.

Allwn ni ddim gwella awtistiaeth ond, trwy ddysgu amdani, gallwn ni ei deall er lles pobl

mae’n effeithio arnyn nhw.

Page 4: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

Ydych chi o’r farn bod modd gweld a oes gan rywun awtistiaeth yn ôl yr olwg sydd arno?

Page 5: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

Does dim modd gweld a oes awtistiaeth gan rywun yn ôl yr olwg sydd arno.

Mae pob un o’r plant, y bobl ifanc a’r oedolion sydd ag awtistiaeth yn wahanol, a gallai rhai

brofi mwy o anawsterau nag eraill.

Page 6: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

Mae plant, pobl ifanc ac oedolion sydd ag awtistiaeth yn ei chael yn anodd deall a

gwneud rhai pethau.

Dyma gipolwg ar y rheiny...

Page 7: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

CyfathrebuAllwch chi nodi’r amryw ffyrdd o ddangos sut rydyn ni’n teimlo neu beth rydyn ni’n meddwl

amdano?

Page 8: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

Eich llygaid (edrych ym myw llygaid rhywun i ddangos eich bod yn gwrando neu edrych yn gas ar rywun pan

foch chi’n grac)

Eich wyneb (gwenu, gwgu ac ati)

Eich corff (megis croesi’ch breichiau pan

foch chi’n ddig)

Eich dwylo (bawd i fyny, clapio)

GeiriauBlah blah blah

Page 9: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

Ydy’n amlwg bod rhywun yn ddig?

Page 10: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

Pan fo rhywun yn ddig, bydd yn:• Cau ei ddyrnau• Syllu• Gwgu• Gweiddi• Chwysu• Troi’n goch, o bosibl

Page 11: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

Mae plant, pobl ifanc ac oedolion sydd ag awtistiaeth yn ei chael yn anodd dyfalu sut

mae rhywun yn teimlo neu beth mae’n meddwl amdano trwy edrych arno.

Page 12: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

Felly, efallai na fyddan nhw’n sylweddoli eich bod yn grac, yn drist neu’n cael hwyl pan foch

chi’n siarad â nhw.

Dylech chi geisio defnyddio geiriau bob amser i ddangos sut rydych chi’n teimlo wrth siarad â

phobl sydd ag awtistiaeth.

Page 13: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

Pa eiriau fyddai orau? Os dywedwch chi rywbeth heb fod o difrif, fe

fydd plant, pobl ifanc ac oedolion sydd ag awtistiaeth yn ei chael yn anodd deall hynny.

Allwch chi nodi unrhyw bethau mae pobl sydd heb awtistiaeth yn eu dweud heb fod o ddifrif?

Page 14: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

Dyma rai enghreifftiau:

Mae’n anhygoel

Fe ddaw yn ôl ymhen eiliad

Pryd o dafodMae ’y mhen

yn troi

Mae hi’n wallgof

Hel dy draed

Page 15: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

Wrth siarad â phlant, pobl ifanc ac oedolion sydd ag awtistiaeth, mae’n bwysig -

Cyfleu’r ystyr yn eglur

Page 16: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

CyfeillionMae plant, pobl ifanc ac oedolion sydd ag

awtistiaeth yn hoffi cwmni ffrindiau. Yn aml, fodd bynnag, maen nhw’n ei chael yn

anodd hel a chadw ffrindiau. Y rheswm dros hynny yw na fyddan nhw’n

gwybod sut rydych chi’n teimlo bob tro nac yn sylweddoli eich bod wedi diflasu neu eu bod

yn swnio braidd yn od ichi.

Page 17: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

Yn aml, mae plant a phobl ifanc sydd ag awtistiaeth yn ffrindiau ffyddlon.

Gallwch chi eu helpu trwy ddefnyddio geiriau sy’n eu galluogi i ddeall sut rydych chi’n teimlo

a’u dysgu nhw sut i sgwrsio gyda phlant a phobl ifanc eraill.

Page 18: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

Dychymyg

Mae plant, pobl ifanc ac oedolion sydd ag awtistiaeth yn ei chael yn anodd defnyddio eu

dychymyg weithiau.Er enghraifft, chwarae ysgol fach neu fod yn frenin a brenhines, dychmygu beth yw’ch barn chi amdanyn nhw neu hyd yn oed sut y bydd

lleoedd a gweithgareddau newydd.

Page 19: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

Sut y gallwch chi helpu?• Chwarae gêmau lle nad oes angen dychymyg

megis lwdo, dal, rasio neu esgil.• Bod yn garedig ac yn amyneddgar a’u holi a

ydyn nhw’n deall y gêm cyn dechrau.• Defnyddio’ch geiriau i esbonio sut rydych chi’n

teimlo a pham rydych chi’n gwneud rhywbeth.

Page 20: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

Byw yn ôl trefnMae rhai plant, pobl ifanc ac oedolion sydd ag awtistiaeth yn hoffi gwneud yr un pethau yn yr

un modd neu ar yr un amser bob dydd.

Mae’n bosibl na fyddan nhw’n hoffi newidiadau ac y byddan nhw’n disgwyl i’r un pethau

ddigwydd yn ôl yr un drefn bob dydd.

Page 21: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

Gall newidiadau godi braw ar bobl sydd ag awtistiaeth, weithiau.

Allwch chi nodi unrhyw

newidiadau allai boeni plant sydd ag awtistiaeth yn yr ysgol?

Page 22: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

Dyma rai newidiadau allai boeni plant sydd ag awtistiaeth yn yr ysgol:

• Athro gwahanol• Gwyliau’r ysgol• Adeg y Nadolig (ymarferion, cyngherddau a

phartïon)• Gwibdeithiau’r ysgol• Disgyblion newydd• Symud i ystafell ddosbarth arall• Eistedd mewn lle gwahanol

Page 23: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

Synhwyrau

Allwch chi enwi’r pum synnwyr?

Page 24: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

Dyma nhw:

GweldClywed

ArogleuoBlasu

Cyffwrdd

Page 25: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

Efallai y bydd synhwyrau plant, pobl ifanc ac oedolion sydd ag awtistiaeth yn fwy agored.

O ganlyniad, gallan nhw fod yn ofnus mewn lle swnllyd neu wrth glywed sŵn megis peiriant

sychu dwylo.Efallai na fyddan nhw am i neb gyffwrdd â nhw,

nac yn gallu goddef golau cryf a rhai mathau o wynt a blas.

Page 26: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

O achos yr anawsterau hynny, bydd plant, pobl ifanc ac oedolion sydd ag awtistiaeth fod yn

bryderus ac yn ofnus, weithiau.

Os ydyn nhw’n bryderus, efallai y byddan nhw’n ymddangos yn swil, yn wylo neu’n ymguddio. Ar adegau eraill, gallen nhw weiddi neu daflu

pethau.

Page 27: Rwy’n gwybod am awtistiaeth (I know about autism in Welsh)

Rydych chi wedi dysgu llawer am awtistiaeth. Gallwch chi helpu trwy fod yn garedig ac yn amyneddgar a chofio popeth rydych chi wedi’i

ddysgu.

Llongyfarchiadau!!!

Rydych chi’n gwybod am awtistiaeth!