rhwydweithio 360 - aelodau

7

Upload: businessline-wrexham

Post on 31-Mar-2016

221 views

Category:

Documents


1 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

Page 1: Rhwydweithio 360 - Aelodau
Page 2: Rhwydweithio 360 - Aelodau

Llinellfusnes Gwasanaeth gwybodaeth fusnes Rhif Ffôn: 01978 292092 Cyfeiriad e-bost: [email protected] Cyfeiriad gwefan: www.wrexham.gov.uk/businessline Mae’r Llinellfusnes yn darparu gwasanaeth gwybodaeth fusnes sy’n rhad ac am ddim gan fwyaf i fusnesau newydd a chyfredol. Drwy ein tanysgrifiadau i adnoddau arweiniol y farchnad gallwn gynorthwyo cleientiaid i; sefydlu busnes, adnabod cyfleoedd marchnata lleol a chenedlaethol, cael mynediad at restrau e-bost, post a gwerthu dros y ffôn, gan gynnwys enwau cyswllt rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol, canfod cyllid grant, darparu adroddiadau credyd ynglŷn â chwmnïau, cael mynediad at ymchwil marchnad manwl a llawer mwy. Matmas HSEQ Solutions Ymgynghoriaeth Iechyd, Diogelwch, Amgylchedd ac Ansawdd Rhif Ffôn: 07928 277311 Cyfeiriad e-bost: [email protected] Gwefan: www.matmashseqsolutions.com Ymgynghoriaeth Iechyd, Diogelwch, Amgylchedd ac Ansawdd yng Ngogledd Cymru. Yn gyffredin mae’r math o waith yr ydym yn ei gyflawni ar gyfer ein cleientiaid yn cynnwys:

- Datblygu, gweithredu neu ddiweddaru systemau rheoli iechyd, diogelwch ac amgylcheddol i ISO9001, ISO14001 ac OHSAS 18001

- Archwilio mewnol - Darparu cyngor iechyd a diogelwch cymwys ar bob lefel y sefydliad - Datblygu polisïau a gweithdrefnau - Arolygiadau gweithle ac archwilio a pharatoi cynlluniau gweithredu - Cynorthwyo gyda chamau cywirol a rhwystrol - Darparu Cymorth Achrediad

Page 3: Rhwydweithio 360 - Aelodau

M. C. Video Cynhyrchu Fideos a DVD Rhif Ffôn: 01978 350122 Gwefan: www.mcvideo.co.uk Mae M. C. Video wedi bod yn cynhyrchu cynnwys fideo ers 1996, ar gyfer Wrecsam, Caer a'r DU. Maent yn darparu gwasanaethau i drosglwyddo Fideo i DVD, Ffilmio Digwyddiadau a Chynadleddau, Darlledu Teledu, Ffilm Sinema i DVD a dyblygu DVD. Eu dymuniad yw darparu gwasanaeth proffesiynol a dibynadwy gan sicrhau bod eu cwsmeriaid yn cael cynnyrch o ansawdd uchel bob tro. Mae Martyn, perchennog y busnes wedi ffilmio rhaglenni dogfen yn India, UDA a ledled Ewrop. Mae hefyd wedi ffilmio ledled y DU ar gyfer cynyrchiadau corfforaethol a llawrydd ar gyfer HIBU Video Team (Yell.com yn flaenorol) yn ffilmio gwe fideo ar gyfer busnesau bychain. Avenue Media Solutions Darparwyr gwasanaethau dysgu ar-lein ac e-arolygon Rhif Ffôn: 01978 781173 Cyfeiriad e-bost: [email protected] Gwefan: www.avenuemediasolutions.com Yn Avenue Media Solutions rydym yn frwdfrydig ynglŷn â chynorthwyo pobl i ddysgu. Mae ein profiad yn ymwneud â materion pobl. Rydym yn darparu amrywiaeth o adnoddau dysgu (DVD, e-lyfrau, canllawiau hyfforddi, cyrsiau e-ddysgu a Rhaglen Ddatblygu Proffesiynol Avenue - cymuned ddysgu ar-lein gydag awdur arweiniol yn diwtor, Dr Neil Thompson). Rydym hefyd yn cynnig Canolfan Arolwg Avenue, gydag arolwg lles ar-lein gyda 100 cwestiwn, wedi’i ddylunio i gynorthwyo sefydliadau i ganfod yr hyn y maent yn ei wneud yn dda o ran hyrwyddo lles yn y gweithle er mwyn ei wneud hyd yn oed yn well a pha feysydd sydd angen eu gwella. Gallwn ddatblygu arolygon unigryw i fodloni'ch anghenion hefyd.

Page 4: Rhwydweithio 360 - Aelodau

Sparks Project Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam Rhif Ffôn: 01978 292094 Cyfeiriad e-bost: [email protected] Gwefan: www.wrexham.gov.uk/cib Mae Prosiect Sparks Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam yn darparu gwybodaeth a chymorth i rieni a gwarcheidwaid ar blant 0-19 oed sy’n gweithio ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae'r prosiect yn cynorthwyo cyflogwyr a gweithwyr gyda: - Gwybodaeth am gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a gweithio hyblyg - Help i ddod o hyd i ofal plant ac arian tuag at gostau gofal plant - Cael mynediad i Gredydau Treth, Credydau Treth Gwaith, a chymorth ariannol arall - Cymorth i wella sgiliau a mynediad at hyfforddiant Hefyd: gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar gymorth gyda magu plant, addysg, pethau i'w gwneud, diogelwch plant, gwasanaethau i blant anabl a phlant ag anghenion ychwanegol, a mynediad i wasanaethau plant a phobl ifanc. Training You Hyfforddiant Cadw Cyfrifon a Sage Rhif Ffôn: 07795 480278 Cyfeiriad e-bost: [email protected] Gwefan: www.trainingyou.co.uk Rwy'n rhoi hyfforddiant unigol ar gadw cyfrifon a Sage, yn eich swyddfa, gan ddefnyddio’ch cyfrifiadur a'ch gwaith papur. Byddaf yn dangos i chi beth sydd angen i chi ei wybod ac rwy’n gallu’ch helpu i wella eich trefnau cadw cofnodion i arbed amser, ymdrech a’ch pwyll.

Page 5: Rhwydweithio 360 - Aelodau

Ellis & Co Cyfrifwyr Siartredig ac Ymgynghorwyr Busnes Rhif Ffôn: 01244 343 504 Cyfeiriad e-bost: [email protected] Gwefan: www.ellis-uk.com Sefydlwyd Ellis & Co Chartered Accountants and Business Advisers yn Wrecsam a Chaer ym 1989 ac mae wedi cyfrannu at lwyddiant cannoedd o fusnesau. Rydym yn cynnig gwasanaeth o'r radd flaenaf i’n cleientiaid, nid yn unig mewn cyfrifeg, ond hefyd trwy sicrhau dealltwriaeth o'u busnes, nodi ffyrdd o dorri costau, lleihau trethiant a manteisio’n llawn ar gyfleoedd ar gyfer twf. Fel y byddech yn disgwyl gan gwmni o Gyfrifwyr Siartredig sydd wedi’i hen sefydlu, mae Ellis & Co wedi datblygu sylfaen eang iawn o gleientiaid ar draws y sectorau economaidd cynradd.

Marketing PRojects Gwasanaethau Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus Rhif Ffôn: 01244 330000 Cyfeiriad e-bost: [email protected] Gwefan: www.marketingprojects.co.uk Mae Marketing PRojects yn ymgynghoriaeth farchnata a chysylltiadau cyhoeddus wobredig gyda swyddfeydd yng Nghaer ers 1995 ac yn Llundain ers 2000. Mae Marketing PRojects, sy’n arbenigo mewn cynnig canlyniadau i sefydliadau sydd eisiau cynyddu eu siâr o’r farchnad neu o feddyliau, bob amser wedi cyfuno syniadau arloesol a ffres gyda thechnegau marchnata sydd wedi hen ennill eu plwyf. Mae'n cyfuno creadigrwydd a dawn gyda gwybodaeth ac arbenigedd. Mae ein tîm yn cynnig ‘help, nid cyngor yn unig’ ar ystod eang o faterion marchnata a chysylltiadau cyhoeddus sy'n cwmpasu cynlluniau marchnata a strategaethau ar gyfer twf, cysylltiadau cyhoeddus, gan gynnwys rheoli cynnwys a materion; marcomms gan gynnwys fideo; cyfryngau cymdeithasol; marchnata ac ymchwil cwsmeriaid.

Page 6: Rhwydweithio 360 - Aelodau

Owl Accountancy Services Gwasanaethau Cyfrifeg Rhif Ffôn: 07709547678 Cyfeiriad e-bost: [email protected] Gwefan: www.owlaccountancyservices.co.uk Os oes angen gwasanaethau cyfrifeg neu ariannol arnoch chi , ffoniwch neu e-bostiwch ni. Byddai'n bleser i ddefnyddio ein profiad i helpu eich sefyllfa benodol. Mae Owl Accountancy Services yn arbenigo mewn gwasanaethau ar gyfer busnesau newydd, busnesau bach, hunan-fasnachwyr, partneriaethau a chwmnïau bach. Rydym wedi’n lleoli yn harddwch Gogledd Ddwyrain Cymru, rhwng trefi Wrecsam a'r Wyddgrug, a gallwn gynnig gwasanaeth gwirioneddol lleol a phersonol i fusnesau bach. O ganlyniad, mae canran uchel o'n busnes yn dod drwy gyfeiriadau personol. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys, ond nid ydynt wedi’u cyfyngu i: Cyfrifon Blynyddol, ffurflenni hunanasesu Treth Incwm, Cynlluniau Busnes, Cyflogau gan gynnwys CIS, Gwasanaethau casglu dyledion, Cyngor sefydlu busnes, Cadw cofnodion a Ffurflenni TAW

Rethink and Do Limited Cymorth busnes a rhwydweithio Rhif Ffôn: 01244 573887 Cyfeiriad e-bost: [email protected] Gwefan: www.rethinkanddo.com Ein cenhadaeth yw cryfhau craidd y sector iechyd cyflenwol. Ein nod yw ysbrydoli a grymuso therapyddion amgen ac ategol i fod yn iach ac yn gryf eu hunain wrth adeiladu a thyfu busnesau iach a ffyniannus. Rydym yn gwneud hyn drwy gyfuniad o'r canlynol: * Sgyrsiau Cymunedol * Cyfarfodydd Sgwrsio * Mentora a hyfforddi * Cyrsiau a gweithdai hyfforddiant * Goruchwyliaeth glinigol Mae dau sylfaenydd Rethink and Do hefyd yn therapyddion busnes proffesiynol. Mae Tracy Jones yn Hypnotherapydd Clinigol ac yn Ymarferydd Gofal Hypno-anadlu.

Page 7: Rhwydweithio 360 - Aelodau

John Peers Limited Broceriaid Yswiriant Rhif Ffôn: 01978 758226 Cyfeiriad e-bost: [email protected] Gwefan: www.johnpeers.com Broceriaid yswiriant masnachol annibynnol sy'n cynnig premiymau cystadleuol iawn ar gyfer pob yswiriant busnes. Ffioedd eiddo, atebolrwydd, indemniad proffesiynol ac ati. I gael y gwasanaeth personol gorau, gadewch i ni reoli eich anghenion yswiriant. Ers ein sefydlu ym 1986 mae gennym gleientiaid yn amrywio o hunan-fasnachwyr i gwmnïau mawr sydd â throsiant o fwy na £10 miliwn.