rhifyn 4 // hydref 2013 cyfoeth - natural resources wales · mewnol ac allanol, yn cynnwys:...

6
www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk Pennod newydd i Goed y Brenin Rhifyn 4 // Hydref 2013 Newyddion Cyfoeth Naturiol Cymru Yn y rhifyn hwn o Cyfoeth, rydym yn troi ein sylw at fioamrywiaeth a’r gwaith sy’n mynd ymlaen ar draws Cymru. Ffurfiwyd Cyfoeth Naturiol Cymru i gymryd agwedd mwy integredig tuag at reoli amgylcheddol, gan fabwysiadu dulliau sy’n seiliedig ar ecosystemau. Mae hwn yn gysyniad sy’n integreiddio rheoli’r tir, y d ˆ wr a phethau byw ac mae’n anelu at gydbwysedd. Os ydym am wneud hyn yn llwyddiannus, yna byddwn angen ystyried bioamrywiaeth mewn ffordd wahanol, gyda llai o wahanu rhwng cadwraeth a rheoli amgylcheddol arall. Wrth galon yr agwedd sy’n seiliedig ar ecosystemau y mae’r ecosystemau eu hunain. Nid cynefinoedd arbennig, megis rhostiroedd, coetiroedd ac aberoedd yw’r rhain yn unig. Cynnyrch yr holl bethau sy’n byw oddi mewn iddyn nhw yw ecosystemau, yr holl ryngweithio rhynddyn nhw, a chyda’r tir, y wr a’r awyrgylch o’u cwmpas. Yn ogystal, mae ecosystemau yn darparu ‘gwasanaethau ecosystemau’ i bobl a chymunedau, yn cynnwys hanfodion bywyd - bwyd, awyr a d ˆ wr glân - yn ogystal â’n lles cyffredinol. CYFOETH parhau ar tudalen 2 C ryfhaodd Parc Coedwig Coed y Brenin ei statws fel un o ganolfannau beicio mynydd pennaf y byd, pan agorodd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths ardal sgiliau blaengar ac estyniad i’r ganolfan ymwelwyr. Golygodd poblogrwydd y parc coedwig, a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, na allai’r ganolfan ymwelwyr. Adeiladwyd yr estyniad, a gysylltir i’r ganolfan ymwelwyr drwy lwybr pren, yn gyfan gwbl o bren lleol, ac y mae’n agos at ddybylu maint yr adeilad presennol. Mae’n cynnwys siop feiciau newydd a man llogi ar y llawr gwaelod, gydag ystafell gynadledda/cyfarfod aml- ddiben a gofod ychwanegol i’r caffi ar y llawr cyntaf, ynghyd â thai bach sydd ar agor i’r cyhoedd ddydd a nos. Y tu allan, mae man medrau beicio mynydd newydd, o’r enw’r Ffowndri, wedi’i greu i roi cyfle i ddechreuwyr ddysgu technegau sylfaenol cyn cychwyn ar hyd un o’r llwybrau, neu i alluogi beicwyr profiadol i ymarfer ar gyfer yr heriau mwy eithafol. Agorodd y Gweinidog y MinorTaur hefyd, sef llwybr beicio mynydd canolig, graddfa las sydd hefyd yn darparu ar gyfer beicwyr ag anableddau. Mae’r MinorTaur, gyda’i thair dolen yn cynnig llwybrau o amryw wahanol hyd, wedi’i sefydlu ei hun yn ychwanegiad poblogaidd at amryw lwybrau Coed y Brenin, sy’n cynnig rhagor na 140 cilomedr o feicio mynydd ar gyfer y profiadol a’r amhrofiadol fel ei gilydd. Mae’r Prosiect wedi ei ariannu’n rhannol trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Gyfatebol yr Undeb Ewropeaidd, trwy’r Bwrdd Croeso a Llywodraeth Cymru. Daw arian ychwanegol o Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Gwynedd, yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear a Phartneriaeth Dwristiaeth Canolbarth Cymru. Golygyddol Y Gweinidog dros Ddiwylliant a Chwaraeon, John Griffiths, yn rhoi cynnig ar feic wedi’i addasu yng nghwmni Graham O’Hanalan o Challenge your Boundaries

Upload: others

Post on 29-Aug-2020

3 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Rhifyn 4 // Hydref 2013 CYFOETH - Natural Resources Wales · mewnol ac allanol, yn cynnwys: trwyddedu, gweithrediadau coedwigaeth fel marchnata a chynaeafu pren, gwarchod coedwigoedd,

www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Pennod newydd i Goed y Brenin

Rhifyn 4 // Hydref 2013Newyddion Cyfoeth Naturiol Cymru

Yn y rhifyn hwn o Cyfoeth, rydym yn troi ein sylw at fioamrywiaeth a’r gwaith sy’n mynd ymlaen ar draws Cymru.

Ffurfiwyd Cyfoeth Naturiol Cymru i gymryd agwedd mwy integredig tuag at reoli amgylcheddol, gan fabwysiadu dulliau sy’n seiliedig ar ecosystemau. Mae hwn yn gysyniad sy’n integreiddio rheoli’r tir, y dwr a phethau byw ac mae’n anelu at gydbwysedd. Os ydym am wneud hyn yn llwyddiannus, yna byddwn angen ystyried bioamrywiaeth mewn ffordd wahanol, gyda llai o wahanu rhwng cadwraeth a rheoli amgylcheddol arall.

Wrth galon yr agwedd sy’n seiliedig ar ecosystemau y mae’r ecosystemau eu hunain. Nid cynefinoedd arbennig, megis rhostiroedd, coetiroedd ac aberoedd yw’r rhain yn unig. Cynnyrch yr holl bethau sy’n byw oddi mewn iddyn nhw yw ecosystemau, yr holl ryngweithio rhynddyn nhw, a chyda’r tir, y dwr a’r awyrgylch o’u cwmpas. Yn ogystal, mae ecosystemau yn darparu ‘gwasanaethau ecosystemau’ i bobl a chymunedau, yn cynnwys hanfodion bywyd - bwyd, awyr a dwr glân - yn ogystal â’n lles cyffredinol.

CYFOETH

parhau ar tudalen 2

Cryfhaodd Parc Coedwig Coed y Brenin ei statws fel un o ganolfannau beicio mynydd

pennaf y byd, pan agorodd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths ardal sgiliau blaengar ac estyniad i’r ganolfan ymwelwyr.

Golygodd poblogrwydd y parc coedwig, a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, na allai’r ganolfan ymwelwyr.Adeiladwyd yr estyniad, a gysylltir i’r ganolfan ymwelwyr drwy lwybr pren, yn gyfan gwbl o bren lleol, ac y mae’n agos at ddybylu maint yr adeilad presennol.

Mae’n cynnwys siop feiciau newydd a man llogi ar y llawr gwaelod, gydag ystafell gynadledda/cyfarfod aml-ddiben a gofod ychwanegol i’r caffi ar y llawr cyntaf, ynghyd â thai bach sydd ar agor i’r cyhoedd ddydd a nos.

Y tu allan, mae man medrau beicio mynydd newydd, o’r enw’r Ffowndri, wedi’i greu i roi cyfle i ddechreuwyr ddysgu technegau sylfaenol cyn

cychwyn ar hyd un o’r llwybrau, neu i alluogi beicwyr profiadol i ymarfer ar gyfer yr heriau mwy eithafol.

Agorodd y Gweinidog y MinorTaur hefyd, sef llwybr beicio mynydd canolig, graddfa las sydd hefyd yn darparu ar gyfer beicwyr ag anableddau. Mae’r MinorTaur, gyda’i thair dolen yn cynnig llwybrau o amryw wahanol hyd, wedi’i sefydlu ei hun yn ychwanegiad poblogaidd at amryw lwybrau Coed y Brenin, sy’n cynnig rhagor na 140 cilomedr o feicio mynydd ar gyfer y profiadol a’r amhrofiadol fel ei gilydd.

Mae’r Prosiect wedi ei ariannu’n rhannol trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Gyfatebol yr Undeb Ewropeaidd, trwy’r Bwrdd Croeso a Llywodraeth Cymru. Daw arian ychwanegol o Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Gwynedd, yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear a Phartneriaeth Dwristiaeth Canolbarth Cymru.

Golygyddol

Y Gweinidog dros Ddiwylliant a Chwaraeon, John Griffiths, yn rhoi cynnig ar feic wedi’i addasu yng nghwmni Graham O’Hanalan o Challenge your Boundaries

Page 2: Rhifyn 4 // Hydref 2013 CYFOETH - Natural Resources Wales · mewnol ac allanol, yn cynnwys: trwyddedu, gweithrediadau coedwigaeth fel marchnata a chynaeafu pren, gwarchod coedwigoedd,

Cytuno ar ymdriniaeth newydd ar gyfer safonau ynni dwr

M ae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cytuno ymdriniaeth newydd i asesu’r swm o ddwr a all gael ei

gymryd o afonydd Cymru i gynhyrchu trydan, gan sicrhau ar yr un pryd bod cyflenwadau dwr a bywyd gwyllt yn cael eu diogelu. Bydd yr ymdriniaeth yn cynnig ffordd gliriach, fwy syml o asesu’r dwr sydd ar gael ar gyfer ynni dwr cynaliadwy yn gyson ledled Cymru.

Gall cynlluniau ynni dwr achosi lefelau dwr is mewn afonydd rhwng y pwyntiau lle caiff y dwr ei dynnu allan a’i roi yn ôl yn yr afon wedi iddo basio trwy’r tyrbin.Mae lefelau dwr a newidiadau yn llif yr afon o ddydd i ddydd yn hanfodol i ddiogelu cynefinoedd bywyd gwyllt ar gyfer pysgod sy’n silio a rhywogaethau eraill.

Ochr yn ochr â’r ymdriniaeth newydd, rydym hefyd yn edrych ar ragor o ffyrdd i gefnogi’r diwydiant, yn ogystal â’r grwpiau cymunedol a’r tirfeddianwyr a allai elwa o ynni dwr. Byddwn yn darparu canllawiau ychwanegol er mwyn helpu datblygwyr ynni dwr i ddatblygu cynlluniau cynaliadwy, sydd wedi’u cynllunio a’u gweithredu yn y modd cywir ac yn y man cywir. Rydym hefyd yn ceisio adnabod ffyrdd o gyflymu’r broses geisiadau.

Rydym yn sefydlu gweithgor ynni dwr yn cynnwys datblygwyr, grwpiau cymunedol, grwpiau genweirio a sefydliadau amgylcheddol eraill a fydd yn cydweithio i helpu’r diwydiant yng Nghymru i ddatblygu’n gynaliadwy yn yr hirdymor.

Mae’r ymdriniaeth yma yn dilyn ymgynghoriad helaeth gyda’r diwydiant ynni dwr a grwpiau eraill â diddordeb megis grwpiau genweirio a chyrff cadwraeth. Cyhoeddir manylion y safonau newydd a chanllawiau ar argaeledd llif yn y flwyddyn newydd.

Rhifyn 4 // Hydref 2013Newyddion Cyfoeth Naturiol Cymru

Un nodwedd allweddol o’n gwaith yw sicrhau bod yr amgylchedd yn dod yn fwy gwydn. Oherwydd na allwn ni ragweld yn fanwl gywir pa newidiadau a fydd yna’n y dyfodol, nid oes yna unrhyw ffordd o wybod pa gynefinoedd neu rywogaethau a fydd yn dod yn bwysig i’n helpu ni addasu ar gyfer newid. Felly, y mae angen i ni edrych ar iechyd ecosystemau a’r amrywiaeth naturiol sylfaenol fel cyfanwaith.Yn ogystal, mae bioamrywiaeth yn bwysig am ei werth diwylliannol - Mae’n rhoi mwynhad i ni drwy werthfawrogi natur, a chyfoethogi ein gweithgareddau hamdden o wylio adar i lenyddiaeth ac arlunio.Am yr holl resymau hyn mae bioamrywiaeth yn bwysig i ni. Yn gyffrous, mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru y cyfle i’w osod mewn cyd-destun ehangach, yn perfformio swyddogaeth sylfaenol, ymarferol o fewn ein hadnoddau naturiol. Ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain ac mae llawer o’r gwaith yn cael ei gyflawni drwy bartneriaethau gyda chyrff eraill. Hoffem weithio gyda chi, er mwyn datblygu ymhellach ein ffyrdd o reoli ecosystemau. Mae rhai o’r erthyglau yn y rhifyn hwn o Cyfoeth yn dangos sut yr ydym yn cychwyn ar y ffordd honno.

Emyr Roberts Prif Weithredwr

Emyr Roberts Cwrdd â chriw’r Gwasanaethau Cenedlaethol Yn ôl Trefor Owen, y Cyfarwyddwr

Gweithredol “Ein prif bwrpas yw cyflwyno gwasanaethau technegol, dadansoddol a chyfreithiol i fodloni anghenion cwsmeriaid mewnol ac allanol, yn cynnwys: trwyddedu, gweithrediadau coedwigaeth fel marchnata a chynaeafu pren, gwarchod coedwigoedd, ynni adnewyddadwy, rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd, digwyddiadau a chynllunio rhag argyfyngau, a mwy.

“Rydym yn cynllunio ac yn cyflawni gwaith, pan mae’n gwneud synnwyr inni wneud hynny “unwaith ar gyfer Cymru”. Golyga hyn ein bod yn gweithio’n

agos iawn gyda’n cydweithwyr ar draws y sefydliad – yn enwedig yn y Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau a’r Gyfarwyddiaeth Gwybodaeth, Strategaeth a Chynllunio.

“Yn ddiweddar rydym wedi cwblhau ein hymgyrch fawr gyntaf yn y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid o gysylltu â 14,000 o ffermwyr Cymru a oedd angen ymgeisio am eithriadau gwastraff amaethyddol ar eu tir. Mae ymgyrchoedd tebyg gyda Pharthau Perygl Nitradau, Delwyr Metel Sgrap a mapiau Perygl Llifogydd eisoes ar y gweill.”

yn dilyn o dudalen 1

www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Tîm Arwain Gwasanaethau Cenedlaethol Richard Siddons, Dave Edwell, Trefor Owen a Jeremy Parr

Cynllun ynni dwr yn Hafod y Llan, Eryri

Page 3: Rhifyn 4 // Hydref 2013 CYFOETH - Natural Resources Wales · mewnol ac allanol, yn cynnwys: trwyddedu, gweithrediadau coedwigaeth fel marchnata a chynaeafu pren, gwarchod coedwigoedd,

DEFNYDD TIR YNG NGHYMRU – beth yw gwerth natur a phwy a ddylai dalu amdano?

“Cyfoeth naturiol Mynyddoedd y Cambria - beth mae o’n ei wneud inni, a sut dylid ei reoli yn y dyfodol” dyma oedd y cwestiwn a ofynnwyd gan gontractwyr Land Use Consultants mewn prosiect ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru a Menter Mynyddoedd y Cambria.

Roedd y broses yn archwilio i ba raddau y mae cymdeithas yn cymryd yn ganiataol rhywfaint o’r gost o gynhyrchu rhai gwasanaethau ecosystemau fel ffermio ar gyfer bwyd neu ddwr yfed o ansawdd uchel o gronfeydd a dyfrhaenau. Daeth rheoli llifogydd, a ddarparwyd gan gynefinoedd gwlyptiroedd a phriddoedd yn ogystal â rheoli hinsawdd oddi wrth storio carbon mewn priddoedd a llystyfiant o dan y chwyddwydr hefyd. Roedden nhw hefyd yn ystyried pa systemau talu a oedd yn cael eu rheoli gan y farchnad neu fentrau posibl a oedd eu hangen er mwyn cyflawni gwasanaethau ecosystemau i reoli tir yn yr ardal.

Cymerodd sawl grwp o randdeiliaid gwahanol ran yn y trafodaethau - siopwyr yn nhrefi’r ffin fel yr Amwythig

a Threfynwy, pobl yn byw’n yr ardal leol, ffermwyr a phorwyr yr ardal yn ogystal â chyrff statudol ac undebau ffermio.

Nid yw’n syndod bod pobl yn fwy ymwybodol o’r cysyniad o Wasanaethau Ecosystemau os ydyn nhw ynghlwm â chyflawni’r gwasanaeth mewn ryw ffordd, neu os ydyn nhw’n cael eu heffeithio gan ddiffyg yn y gwasanaeth - llifogydd neu gyfyngiadau ar ddefnydd dwr er enghraifft. Ond yn dilyn trafodaethau, roedd yna ddiddordeb sylweddol gan gymunedau cyhoeddus a ffermio ar gyfer adnabod ffyrdd o dalu am gostau o warchod systemau naturiol fel y gallan nhw barhau i ddarparu hanfodion bywyd.

Un canlyniad o’r prosiect oedd mai’r Gwasanaeth Ecosystem sydd â’r potensial mwyaf i symbylu dadl ddyfeisgar a chynhyrchiol rhwng defnyddwyr, rheolwyr tir a gwneuthurwyr/rheolyddion polisi yw’r ddarpariaeth ansawdd dwr, wedi’i dilyn yn agos gan reoli llifogydd. Roedd pobl yn awyddus i archwilio beth fyddai agwedd sy’n seiliedig ar ecosystemau’n ymdebygu iddo yn ymarferol.

FfocwsBlaenoriaethu Bioamrywiaeth

Mae gan Gymru amrywiaeth eithriadol o gynefinoedd a rhywogaethau. Mae llawer ohonynt o bwys Ewropeaidd a byd-eang. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ran hanfodol yng nghyflawni ymrwymiadau bioamrywiaeth cenedlaethol a rhyngwladol Llywodraeth Cymru: ond cadarnha’r adroddiad Cyflwr Natur diweddar fod gennym lawer o waith o’n blaenau.

Mae perthynas agos rhwng cysylltedd a gwydnwch ecolegol a’r Arddull Ecosystemol. Mae mapiau rhwydwaith cynefin yn un ffordd o’n helpu i weld cysylltiadau thwng gweithredu er budd bioamrywiath a gwasanaethau ecosystemol eraill. Rydym yn gweithio â Phartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru er mwyn datblygu Mapiau Ardaloedd Gweithredu Blaenoriaethol yn haen o fewn y data cydgysylltedd. Bydd hyn o gymorth i ddarparu golwg strategol, fel y gallwn flaenoriaethu’r gweithredu, gan ganolbwyntio ar y cynefinoedd/rhywogaethau hynny sydd â mwyaf o angen rheolaeth o fewn pob un ardal ddaearyddol, a chanfod ardaloedd allweddol ar gyfer cynlluniau ar raddfa eang.

Rhifyn 4 // Hydref 2013Newyddion Cyfoeth Naturiol Cymru

www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

// Roedd pobl yn awyddus i archwilio beth fyddai agwedd sy’n seiliedig ar ecosystemau’n ymdebygu iddo yn ymarferol!

©C

roes

o C

ymru

Dyma’r Gogledd a’r Canolbarth!

D yma Tim Jones, Cyfarwyddwr y Gweithredol Gogledd a’r Canolbarth i gyflwyno’i waith i chi!

”Weithiau, rwy’n dal i orfod stopio’r car a threulio ychydig funudau’n edrych ar y golygfeydd fel nad ydw i’n anghofio pa mor lwcus ydyn ni o gael gweithio mewn gwlad mor brydferth a chanddi’r fath gyfoeth o adnoddau naturiol.

“Mae fy nhîm yn gweithio rhwng Wrecsam a Sir y Fflint yn ardal y Gogledd-ddwyrain, Ynys Môn yn y Gogledd i Lanfair-ym-Muallt, Mynyddoedd Cambria yn y De, a Bae Ceredigion ac arfordir Llyn i’r Gorllewin, gan gwmpasu saith o awdurdodau lleol.

“Mae ein gwaith yn cynnwys rheoli rhai o’r coedwigoedd cyhoeddus mwyaf yng Nghymru gyda’u cyfleusterau beicio byd enwog, a gofalu am dri chwarter Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol Cymru. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn yr awdurdodau lleol a Pharc Cenedlaethol Eryri i

annog pobl i ddefnyddio a mwynhau hyfrydwch cefn gwlad, yn cynnwys llwybr yr arfordir, gan helpu i ddatblygu’r buddion economaidd y gall cymunedau elwa arnynt. Mae ein timau hefyd yn gweithio i sicrhau ein bod yn cadw pobl yn ddiogel rhag llifogydd a bod ein hafonydd a’n moroedd yn lân, heb eu llygru ac yn llawn o fywyd.

“Rydym yn wynebu heriau o hyd; i sicrhau ein bod yn gweithio’n effeithiol gyda datblygwyr prosiectau ynni adnewyddadwy a rhaglenni eraill i gydbwyso’r gwaith o warchod yr amgylchedd, ei fywyd gwyllt a’i dirwedd, gyda helpu Cymru i ddatblygu fel cenedl. Yr ymchwiliad cyhoeddus i ddatblygiadau ynni yn y Canolbarth a’r Rhaglen Ynys Ynni ar Ynys Môn yw’r heriau mwyaf cymhleth o’r rhain ar hyn o bryd. Rydym hefyd yn gweithio gyda ffermwyr a physgotwyr i reoli’r amgylchedd naturiol yn gynaliadwy mewn hinsawdd economaidd anodd “

// Mae ein gwaith yn cynnwys rheoli rhai o’r coedwigoedd cyhoeddus mwyaf yng Nghymru a gofalu am dri chwarter y Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol sy’n eiddo i’n sefydliad.

yn dilyn o dudalen 1

Rhifyn 2 // Awst 2013 Newyddion Cyfoeth Naturiol Cymru

Tim Jones (ail o’r dde) a Thîm Arweinyddiaeth y Gogledd a’r Canolbarth (o’r chwith i’r dde).; Rhian Jardine, Ruth Jenkins and Mike Davies.

ac mae diffyg ymarfer corff ei hun yn costio tua £650 miliwn yn anuniongyrchol i Gymru bob blwyddyn.

Yn y rhifyn hwn gallwch ddarllen am rai o’n mentrau i hyrwyddo byw’n iach.

Mae’n bosibl mai Cyfoeth Naturiol Cymru yw un o’r darparwyr hamdden awyr agored mwyaf yng Nghymru, gyda 550 cilomedr o lwybrau beicio mynydd, 135 cilomedr o lwybrau marchogaeth, 450 cilomedr o lwybrau cerdded, 5 canolfan i ymwelwyr a 75 safle picnic. Ond ni allwn gyflawni ein huchelgais ar ein pen ein hunain. Rydym yn cydweithio â phartneriaid i sicrhau bod pawb yn elwa o elfennau iechyd, cyfoeth a mwynhad hamdden awyr agored.

Dr Emyr Roberts

Dilynnwch ni ar:

www.Facebook.com/ NatResWales

www.Youtube.com/NatResWales

www.Flickr.com/NatResWales

www.Twitter.com/NatResWales

Page 4: Rhifyn 4 // Hydref 2013 CYFOETH - Natural Resources Wales · mewnol ac allanol, yn cynnwys: trwyddedu, gweithrediadau coedwigaeth fel marchnata a chynaeafu pren, gwarchod coedwigoedd,

Perlau mewn PeryglMae gan y cregyn glas perlog ran bwysig yn ein hanes ni - ond erbyn hyn mae o dan fygythiad o ddiflannu’n llwyr drwy’r byd i gyd.

Mae “Perlau mewn Perygl” yn brosiect Life+ Nature sydd wedi ei gyllido ar y cyd gan 14 o gyrff. Fe’i sefydlwyd er mwyn diogelu poblogaethau pwysig o’r cregyn glas perlog. Yng Nghymru bydd y gwaith wedi’i ganolbwyntio ar ddalgylch Afon Eden yn Nhrawsfynydd.

Gall y cregyn glas perlog fwy am dros ganrif, sy’n eu gnweud yn un o’r anifeiliaid di-asgwrn cefn mwyaf hir hoedlog a gallant dyfu i faint eich llaw. Maent yn byw ar waelod afonydd glan sy’n llifo’n gyflym, lle claddant eu hunain mewn tywod cwrs neu raean man.

Yn ogystal â chyflwyno graean glân lleol i Afon Eden, byddwn hefyd yn rhoi cerrig mawrion a gweddillion coediog yn yr afon. Bydd hyn yn creu amrywiaeth yn y patrymau llif, fel bod ardaloedd o waddodiad graean naturiol yn datblygu. Bydd y gwelyau hyn yn darparu cynefinnoedd addas ar gyfer cregyn glas perlog ifanc.

Mae rhaglen ymwybyddiaeth lleol hefyd yn cael ei sefydlu.

Rhifyn 4 // Hydref 2013Newyddion Cyfoeth Naturiol Cymru

www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Arolwg DNA o Ddyfrgwn yn Eryri

M ae’r Prosiect Mamaliaid mewn Amgylchedd Cynaliadwy (MISE) yn ei drydedd flwyddyn yn

gwneud arolwg o famaliaid brodorol yng Nghymru ac Iwerddon.

Eleni, lansiodd MISE arolwg o ddyfrgwn yn Eryri er mwyn rhoi inni ddarlun mwy manwl o ecoleg dyfrgwn yn yr ardal hon. Rydym yn gwybod bod cynnydd yn niferoedd dyfrgwn yng Nghymru yn hanes arbennig o lwyddiannus, ac fel rhywogaeth maen nhw’n arwydd o ecosystem iach.

Ym mis Mai, gwnaed arolwg gan dros 40 o wirfoddolwyr gyda staff CNC a wardeniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn nalgylch Afon Dwyryd er mwyn

casglu baw dyfrgwn ar draws cymaint o’r dalgylch â phosibl. Mae Sefydliad Technoleg Waterford yn yr Iwerddon wedi datblygu technegau genetig i ddadansoddi baw dyfrgwn, er mwyn cadarnhau’r rhywogaeth, nodi’r rhyw a chymryd golwg ar yr amrywiaeth genetig.

Mae arolygon dyfrgwn blaenorol MISE wedi rhoi ‘darlun’ o’r dyfrgwn a oedd wedi bod yn yr ardal yn ddiweddar, ac wedi dechrau datgelu mewnwelediad diddorol am ddyfrgwn Cymru. Roedd arolwg o ddyfrgwn ar arfordir Penrhyn Llyn, er enghraifft, wedi dangos bod nifer anghymesur o’r baw wedi dod o ddyfrgwn beinw!

Mae wedi’i gyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd drwy Raglen Iwerddon Cymru, ac wedi’i gyflawni mewn partneriaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yng Nghymru a Sefydliad Technoleg Waterford, Cyngor Sir Waterford a Chanolfan Ddata Bioamrywiaeth yn yr Iwerddon.

Mae gwaith i gael gwared â rhywogaeth farwol o bysgodyn o lynnoedd ym Mharc Arfordirol y Mileniwm yn Llanelli wedi’i farnu’n llwyddiant. Cyrhaeddodd y Lyfrothen Dwr Croyw Asia y DU o Asia drwy ddamwain oddeutu deng mlynedd yn ôl ac mae’n cario clefyd sydd yn gallu lladd eogiaid a brithyll brodorol. Gall eu presenoldeb arwain at safleoedd yn methu â chyrraedd Statws Ecolegol Da o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr.

Roedd ein rhaglen i gael gwared ohonyn nhw yn cynnwys achub pysgod

brodorol mawr o’r llynnoedd cyn pwmpio a draenio’r llynnoedd er mwyn gostwng lefelau’r dwr a defnyddio plaladdwr naturiol, Rotenone, drwy ddefnyddio pwmp a system jet ar fwrdd cwch.

Yna cafodd y pysgod brodorol a achubwyd eu hailgyflwyno’n ôl i’r llynnoedd oddeutu deng wythnos yn ddiweddarach.

Bu’r rhaglen yn gwbl lwyddiannus ac mae cynllunio ar waith i gael gwared o’r lyfrothen dwr croyw Asia o un llyn sy’n weddill.

Canolbwyntio ar brosiectau Bioamrywiaeth

Gwaredu’r Lyfrothen Dwr Croyw Asia

Page 5: Rhifyn 4 // Hydref 2013 CYFOETH - Natural Resources Wales · mewnol ac allanol, yn cynnwys: trwyddedu, gweithrediadau coedwigaeth fel marchnata a chynaeafu pren, gwarchod coedwigoedd,

Cronfa ar gyfer Ecosystemau

Ymddiriedolaeth Afon Hafren - Prosiect Rhywogaethau Goresgynnol yr UcheldiroeddArolygwyd bron i 100 o gyrff dwr yn nalgylch yr Hafren yng Nghanolbarth Cymru ar gyfer rhywogaethau anfrodorol goresgynnol, yn arbennig felly y Ffromlys Chwarennog, Clymog Japan a’r Efwr Enfawr. Mae’r planhigion hyn yn gwneud yn well na rhywogaethau brodorol ac yn medru rhwystro llif dwr ar amseroedd o lawiad uchel, gan gynyddu’r tebygolrwydd o lifogydd.

Bu Ymddiriedolaeth Afon Hafren yn gweithio efo tri o grwpiau afonydd cymunedol gwirfoddol i wneud peth o’r gwaith ymarferol a gafodd ei dargedu. Wedi cwblhau’r gwaith hwn derbyniodd yr Ymddiriedolaeth gyllid gan y Loteri Fawr: Pobl a Lleoedd ar gyfer eu Prosiect Monty Rivers gan wneud defnydd o’r wybodaeth a’r profiad a gasglwyd o’r grant gwreiddiol gan Lywodraeth Cymru.

Cyngor Gwynedd - Prosiect Morwellt PorthdinllaenMae Porthdinllaen o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llyn a’r Sarnau. Mae morwellt yn gydran bwysig o’r ACA ac mae’r gwely morwellt ym Mhorthdinllaen yn un o’r rhai mwyaf a’r mwyaf trwchus yng Ngogledd Cymru gydag arwynebedd o 46 o gaeau pêl-droed. Fodd bynnag, mae effaith mwrio ac angori cychod

yn dangos ei ôl ar y morwellt. Roedd y cyllid yn galluogi partneriaeth yr ACA i wneud prosiect ehangach, drwy wella dealltwriaeth o natur y lleoliad a maint y niwed a achoswyd gan fwrio’r cychod - gwybodaeth allweddol er mwyn helpu datblygu dewisiadau rheoli. Cynhyrchwyd deunyddiau gwybodaeth a chynhaliwyd cyfarfodydd a sesiynau galw heibio fel bod y grwpiau rhanddeiliaid wedi cael y cyfle i ofyn cwestiynau a dod yn rhan o’r fenter.

Menter y Ceirw yn Nyffryn Elwy: Prosiect Dyffryn ElwyMae niferoedd ceirw yng Nghymru yn cynyddu ac mae’u heffeithiau ar amaethyddiaeth, coedwigaeth a chynefinoedd brodorol bregus yn dod yn fwy amlwg. Nod y prosiect hwn yw gwella rheoli ceirw ar raddfa’r dirwedd drwy adnabod dosbarthiad ac effeithiau presennol poblogaeth y ceirw mewn ardal o gwmpas Ardal Cadwraeth Arbennnig Coedwigoedd Dyffryn Elwy yng Ngogledd Cymru.

Cafodd 30 o leiniau eu ffensio i mewn er mwyn eithrio ceirw o ddarnau o gynefinoedd bach drwy Ddyffryn Elwy. Bydd monitro’r lleiniau yn rhoi gwybodaeth am effaith y ceirw ar y coetiroedd. Er mwyn cwblhau’r lleiniau gwahardd, gosodwyd 20 o gamerâu sefydlog mewn 15 o goetiroedd. Bydd y wybodaeth a

gasglwyd am weithgareddau’r ceirw ac asesiadau effaith, yn ogystal â thrafodaethau gyda thirfeddianwyr, yn darparu gwybodaeth i’r cynlluniau rheoli ym mhob un o’r coetiroedd.

Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid - Ailgysylltu Dreigiau De CymruMae amffibiaid ac ymlusgiaid yn hanfodol i’n ecosystemau, ond maen nhw wedi dioddef yn sgîl ynysu eu cartrefi. Roedd Ailgysylltu Dreigiau De Cymru yn brosiect sy’n ymdrin â’r mater hwn yn arbennig.

Cyn i’r gwaith ymarferol gychwyn, cafodd ardaloedd a oedd yn bwysig ar gyfer amffibiaid ac ymlusgiaid yn Ne Cymru eu mapio, a dilynwyd hyn gan adnabod cynefinoedd ac ardaloedd cysylltiol allweddol ar gyfer creu neu wella cynefin fel bod cysyllteddau rhwng rhywogaethau, fel y madfall ddwr gribog, y llyffant dafadennog a’r wiber yn gallu cael eu hail-greu.

Cafodd llawer o’r prosiect ei gyflawni drwy weithio gyda’r gymuned a gwirfoddolwyr. Gweithiodd y swyddog Prosiect yn agos gyda’r Awdurdodau Lleol, Swyddogion Bioamrywiaeth Lleol, yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, Cadw Cymru’n Daclus, a’r Cymdeithasau Rhandiroedd ymysg eraill, fel bod grwpiau allweddol ynghlwm fel arolygwyr gwirfoddol a chrewyr cynefinoedd.

Rhifyn 4 // Hydref 2013Newyddion Cyfoeth Naturiol Cymru

www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Dros y dair blynedd ddiwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £3.5 miliwn er mwyn cefnogi datblygu prosiectau i sicrhau bod ein ecosystemau yn fwy gwydn ac amrywiol. Mae £1.5 milwn o’r swm hwn wedi cael ei ddyrannu o dan y Gronfa Ecosystemau Gwydn sydd wedi’i gweinyddu gan Gyfoeth Naturiol Cymru a’i hasesu gan Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru. Tra’r ydym yn disgwyl cyhoeddi’r prosiectau a fu’n fuddugol cyn bo hir, rydym am edrych yn ôl ar rai o’r prosiectau a gafodd eu cyllido rhwng Tachwedd 2011 i Mawrth 2013.

Page 6: Rhifyn 4 // Hydref 2013 CYFOETH - Natural Resources Wales · mewnol ac allanol, yn cynnwys: trwyddedu, gweithrediadau coedwigaeth fel marchnata a chynaeafu pren, gwarchod coedwigoedd,

Rhoi Help Llaw i Natur

Yn dilyn gwaith yn Nhwyni tywod Cynffig a Merthyr Mawr, mae prosiect adfywio’r twyni yng

Nghymru wedi symud i Warchodfa Natur Cwningar Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn. Y nod yw creu ardaloedd newydd, bychain o dwyni noeth, tywod agored a llaciau twyni, a fydd yn cynyddu’r siawns y bydd rhai o’r planhigion a’r pryfed mwyaf prin y twyni tywod yn cynnwys llysiau’r afu petalog, cacwn y tywod, gwenyn tyllu a chwilod prin yn goroesi.

Defnyddiwyd peiriannau trwm i roi help llaw i natur, drwy ddechrau creu ardaloedd bychain o dywod agored a llaciau twyni ifanc ar y pen sy’n wynebu’r môr o’r Gwningar. Ac nid bywyd gwyllt yn unig a fydd yn elwa - mae twyni tywod

symudol naturiol yn darparu system amddiffyn yr arfordir mwy deinamig sy’n addasu i stormydd a newid yn lefel y môr.

Dim ond tri y cant o’r system dwyni yn Niwbwrch ar hyn o bryd sy’n dywod noeth ac mae llawer o hynny mewn clytiau lleol. Dengys hyn sut mae’r warchodfa wedi dod yn drwm o lystyfiant dros y blynyddoedd. Gyda pheth ymyrraeth yn awr, mae Wardeniaid ar y safle yn hyderus y bydd pryfed prin yn dechrau ailgytrefu’r ardaloedd bron yn syth. a bydd planhigion prin yn dechrau cytrefu o fewn dwy flynedd. Drwy arafu’r golled o rywogaethau a chynefinoedd sy’n arwyddocaol yn genedlaethol, byddwn yn mynd rywfaint o’r ffordd i adfer y cynefinoedd amrywiol a’r cydbwysedd yn y twyni unwaith eto.

Mae addysgwyr yng Nghaerffili wedi bod yn gweithio’n galed yn creu cartref perffaith i greuaduriaid bychain mewn ardal o goetiroedd sy’n cael ei galw’n ‘Coedlan’ ar dir Ysgol Gymraeg Penalltau yn Ystrad Mynach.

Defnyddiodd grwp clwstwr Menter Addysg Coedwig Caerffili grant o £200 er mwyn prynu helygen ac arbenigedd Mel Bastir o Out to Learn i adeiladu cromen helyg fyw yn y goetir.

Daeth plant o flynyddoedd 4 a 5 yn yr ysgol i ddysgu am nodweddion yr helygen, sut yr oedd yn cael ei chynaeafu’n gynaliadwy ac ar gyfer beth y gellir ei defnyddio. Roedden nhw’n gwneud y mwyaf o’r cyfle, wrth balu a phlannu fel roedden nhw’n adeiladu strwythur y gromen, a fydd yn cael ei defnyddio fel lle i guddio gan ei bod yn cysgodi’r plant yn ystod sesiwn dysgu yn yr awyr agored.

Creu Cartrefi Clyd!

Rhifyn 4 // Hydref 2013Newyddion Cyfoeth Naturiol Cymru

www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Yn GrynoRhannu triciau’r busnes gydag Uned Hanes Naturiol y BBC Bu staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn annerch staff Uned Hanes Naturiol y BBC gan amlinellu eu defnydd o gelloedd tanwydd methanol ar gyfer gweithredu cyfarpar mewn lleoliadau anghysbell ynghyn â’u profiadau o bweru camerâu, cyfarpar recordio a lampau isgoch tra’n.

Rhannwyd hefyd ein profiadau o ddefnyddio cynhyrchu pwer micro hydro, su’n gallu cael ei ddefnyddio mewn ardaloedd sensitif lle gwaherddir ffynonellau tanwydd megis methanol. Mae’r BBC yn wynebu llawer o heriau tebyg i ni wrth gipio’r delweddau trawiadol yr ydym yn eu gweld ar y teledu – er nad yw’r Tîm Asesu Pysgodfeydd wedi gorfod dioddef eirth yn pawennu’u cyfarpar hyd yma!

Madfallod y tywod yn dychwelyd i’r gwylltDrwy weithio gyda Chadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid (ARC), cafodd madfallod y tywod, a fagwyd mwen caethiwed, eu gollwng ar safle a gafodd ei baratoi’n arbennig ar arfordir Clwyd. Mae’r safle hwn, ar y twyni ar ben yr Afon Ddyfrdwy yn cwblhau rhaglen ailgyflwyno’r rhywogaeth hon a oedd cyn hyn wedi marw allan yng ngogledd Cymru. Fel rhan o’n gwaith rheoli ar y safle byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda BHP Bilton ac ARC, gan gadw golwg agos ar sut mae’r madfallod yn cymryd at eu hamgylchedd newydd, a phryd fyddan nhw’n dechrau cytrefu mewn ardaloedd newydd.

Newyddion