pure.aber.ac.uk  · web viewdychan ‘celtaidd’? iaith geltaidd yw’r gymraeg. ystyr y gosodiad...

39
Dychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg ayyb.), yn disgyn o iaith a elwir yn draddodiadol yn Gelteg Cyffredin neu’n Broto-Gelteg. Profir hyn yn bennaf ar sail nodweddion ffonolegol, e.e. y ffaith bod yr ieithoedd hyn i gyd wedi colli’r sain /p/ wreiddiol. 1 Felly mae Cymraeg a Gwyddeleg yn ieithoedd Celtaidd ar sail, e.e. yfed, Hen Wyddeleg ibid, ond ni ellir cynnwys Sansgrit ymysg disgynyddion Celteg Cyffredin oherwydd píbati sydd wedi cadw /p/. 2 Nid oes gennym gofnod o un frawddeg, neu hyd yn oed un gair, mewn Celteg Cyffredin: iaith ddamcaniaethol ydyw. Gellir adlunio geiriau, a hyd yn oed brawddegau, yn yr iaith honno, ond ni ddylid dychmygu cyfnod mewn cynhanes pan fyddai ‘Proto- Geltiaid’ yn crwydro Ewrop gan barablu mewn Proto-Gelteg. Fel ei hynafiad Indo-Ewropeg, dyfeisiad haniaethol ydyw, cyfanswm y nodweddion y mae’r ieithoedd Celtaidd hysbys yn eu rhannu sy’n eu gwahaniaethu rhag ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill, megis Sansgrit, Lladin, Pwyleg, Saesneg ayyb. Mewn geiriau eraill, nod ydyw yn achres yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Nid yw hyn yn golygu, wrth gwrs, y gellir olrhain pob agwedd ar yr iaith Gymraeg yn ôl at Gelteg Cyffredin. Mae llawer o eirfa’r Gymraeg wedi’i benthyca o ieithoedd eraill (Lladin, Ffrangeg, Gwyddeleg, Saesneg ayyb.). Her eithaf cyfarwydd yw ceisio dweud mae gen i focs o fatshis ym mhoced fy nhrowsus gan ddefnyddio geirfa Geltaidd yn unig. Go brin y gellid gwneud, ac pe lwyddid llunio brawddeg o’r fath, go brin y byddai neb yn ei deall! Eto, er gwaethaf y ffaith mai benthycair o’r Saesneg yw pob un enw ynddi, brawddeg Gymraeg ydyw o ran ffonoleg a chystrawen. Ni fyddai Sais yn ei deall. Yn ogystal â benthyceiriau, gall nodweddion morffolegol a 1 Mae pob /p/ yn yr iaith Gymraeg heddiw â tharddiad arall: mae rhai’n dod o */k w /, e.e. pen < Celteg Cyffredin *k w ennon, neu o’r cyfuniad /b/ + /h/, e.e. epil < *eb ‘ceffyl’ + hil, tra bod eraill yn digwydd mewn geiriau a fenthyciwyd o ieithoedd eraill nad oeddynt wedi colli’r sain /p/, e.e. pont < Lladin pont- . 2 Gw. Rudolf Thurneysen, A Grammar of Old Irish, cyf. D. A. Binchy ac Osborn Bergin (Dublin, 1946), tt. 138-40; Henry Lewis a Holger Pedersen, A Concise Comparative Celtic Grammar, ail olygiad (Göttingen, 1961), tt. 26-27; Kim McCone, Towards a Relative Chronology of Ancient and Medieval Celtic Sound Change (Maynooth, 1996), tt. 43-45, ar golli /p/ mewn Celteg Cyffredin. 1

Upload: others

Post on 23-Aug-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: pure.aber.ac.uk  · Web viewDychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg

Dychan ‘Celtaidd’?

Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg ayyb.), yn disgyn o iaith a elwir yn draddodiadol yn Gelteg Cyffredin neu’n Broto-Gelteg. Profir hyn yn bennaf ar sail nodweddion ffonolegol, e.e. y ffaith bod yr ieithoedd hyn i gyd wedi colli’r sain /p/ wreiddiol.1 Felly mae Cymraeg a Gwyddeleg yn ieithoedd Celtaidd ar sail, e.e. yfed, Hen Wyddeleg ibid, ond ni ellir cynnwys Sansgrit ymysg disgynyddion Celteg Cyffredin oherwydd píbati sydd wedi cadw /p/.2 Nid oes gennym gofnod o un frawddeg, neu hyd yn oed un gair, mewn Celteg Cyffredin: iaith ddamcaniaethol ydyw. Gellir adlunio geiriau, a hyd yn oed brawddegau, yn yr iaith honno, ond ni ddylid dychmygu cyfnod mewn cynhanes pan fyddai ‘Proto-Geltiaid’ yn crwydro Ewrop gan barablu mewn Proto-Gelteg. Fel ei hynafiad Indo-Ewropeg, dyfeisiad haniaethol ydyw, cyfanswm y nodweddion y mae’r ieithoedd Celtaidd hysbys yn eu rhannu sy’n eu gwahaniaethu rhag ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill, megis Sansgrit, Lladin, Pwyleg, Saesneg ayyb. Mewn geiriau eraill, nod ydyw yn achres yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd.

Nid yw hyn yn golygu, wrth gwrs, y gellir olrhain pob agwedd ar yr iaith Gymraeg yn ôl at Gelteg Cyffredin. Mae llawer o eirfa’r Gymraeg wedi’i benthyca o ieithoedd eraill (Lladin, Ffrangeg, Gwyddeleg, Saesneg ayyb.). Her eithaf cyfarwydd yw ceisio dweud mae gen i focs o fatshis ym mhoced fy nhrowsus gan ddefnyddio geirfa Geltaidd yn unig. Go brin y gellid gwneud, ac pe lwyddid llunio brawddeg o’r fath, go brin y byddai neb yn ei deall! Eto, er gwaethaf y ffaith mai benthycair o’r Saesneg yw pob un enw ynddi, brawddeg Gymraeg ydyw o ran ffonoleg a chystrawen. Ni fyddai Sais yn ei deall. Yn ogystal â benthyceiriau, gall nodweddion morffolegol a chystrawennol ddangos dylanwadau estron:3 mae’n debygol, e.e., fod yr amser gorberffaith synthetig (e.e. carasai ‘roedd wedi caru’) wedi datblygu dan ddylanwad Lladin.4 Yn ogystal, mae Cymraeg modern yn frith â chystrawennau megis ‘gadael allan’ sy’n dod yn syth o’r Saesneg, er eu bod yn defnyddio geirfa Gymraeg. 5 Nid yw’r datblygiadau cymharol ddiweddar hyn yn tanseilio Celtigrwydd cynhenid y Gymraeg fodd bynnag. Ychwanegiadau ydynt i’r craidd a etifeddwyd o Gelteg Cyffredin. Mae Stammbaumtheorie Neo-gramadegwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg, y ddamcaniaeth y gellir cynnig achresi neu goed teuluol i ieithoedd, yn dal ei thir o hyd.6

1 Mae pob /p/ yn yr iaith Gymraeg heddiw â tharddiad arall: mae rhai’n dod o */kw/, e.e. pen < Celteg Cyffredin *kwennon, neu o’r cyfuniad /b/ + /h/, e.e. epil < *eb ‘ceffyl’ + hil, tra bod eraill yn digwydd mewn geiriau a fenthyciwyd o ieithoedd eraill nad oeddynt wedi colli’r sain /p/, e.e. pont < Lladin pont- .2 Gw. Rudolf Thurneysen, A Grammar of Old Irish, cyf. D. A. Binchy ac Osborn Bergin (Dublin, 1946), tt. 138-40; Henry Lewis a Holger Pedersen, A Concise Comparative Celtic Grammar, ail olygiad (Göttingen, 1961), tt. 26-27; Kim McCone, Towards a Relative Chronology of Ancient and Medieval Celtic Sound Change (Maynooth, 1996), tt. 43-45, ar golli /p/ mewn Celteg Cyffredin.3 D. E. Evans, ‘Language Contact in Pre-Roman and Roman Britain’ yn Aufstieg und Niedergang der römischen Welt, II, 29.2, gol. H. Temporini a W. Haase (Berlin & New York, 1983), tt. 949-87 (t. 964).4 Gw. David Greene, ‘Some Linguistic Evidence Relating to the British Church’ yn Christianity in Britain, 300-700, gol. M. W. Barley a R. P. C. Hanson (Leicester, 1968), tt. 75-86 (t. 76); Proinsias Mac Cana, ‘Latin Influence on British: the Pluperfect’ yn Latin Script and Letters AD 400-900: Festschrift Presented to Ludwig Bieler on the Occasion of his 70th Birthday, gol. John J. O’Meara a Bernd Naumann (Leiden, 1976), tt. 194-206; Paul Russell, ‘Latin in Roman and Post-Roman Britain: Methodology and Morphology’, Transactions of the Philological Society, 109 (2011), 138-57 (tt. 150-52). Ar y cyfan, mae benthyca nodweddion morffo-gystrawennol o un iaith i’r llall yn gymharol brin, fodd bynnag, a phan ddigwydd, fe’i ysgogir fel arfer gan fenthyca geirfa - gw. trafodaeth Luay Nakhleh, Don Ringe a Tandy Warnow, ‘Perfect Phylogenetic Networks: A New Methodology for Reconstructing the Evolutionary History of Natural Languages’, Language, 81 (2005), 382-420 (tt. 386-87), a’r cyfeiriadau a ddyfynnir yno.5 Gw., e.e., John Rhys, Lectures on Welsh Philology, ail olygiad (London, 1879), t. 137. Cf. Oliver Padel, ‘The Nature and Date of the Old Cornish Vocabulary’, Zeitschrift für celtische Philologie, 61 (2014), 173-99 (t. 178), ar ddylanwad y Saesneg ar eirfa a chystrawen y Gernyweg.

1

Page 2: pure.aber.ac.uk  · Web viewDychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg

Mae’r temtasiwn i estyn y ddamcaniaeth hon y tu hwnt i ieithyddiaeth ac i mewn i feysyddd diwylliannol wedi bod yn drech na sawl un yn y gorffennol. A pham lai? Y ddamcaniaeth draddodiadol yw bod diwylliant Cymru, fel ei hiaith frodorol, yn gynhenid Geltaidd, er nad yw hynny’n hollol amlwg bellach oherwydd ychwanegiadau di-rif yn y cyfnod hanesyddol ato o wahanol ffynonellau (Rhufain, Lloegr, Unol Daleithiau America ayyb.). Nid yw hyn yn amlwg anghywir. Ond mae’n broblematig, a hyn yn bennaf am dair rheswm.

Yn gyntaf, mae’r syniad bod yna ddiwylliant Celtaidd unedig yn y lle cyntaf yn un dadleuol iawn. Roedd yna bobl ar y cyfandir yn yr hen gyfnod a siaradai ieithoedd Celtaidd ac a elwid yn Geltiaid (Keltoi ayyb. yn Roeg; Celti ayyb. yn Lladin), ond ni wyddys i ba raddau y dylid siarad am grŵp ethnig hunan-ymwybodol a chanddo ddiwylliant arbennig.7 Yn ôl ym 1967 datganodd Myles Dillon yn hyderus fod yna un diwylliant a rennid gan siaradwyr ieithoedd Celtaidd yn yr hen gyfnod:8 erbyn hyn, y consensws, mae’n debyg, yw nad oedd.9

Ond, a bwrw am funud bod y syniad am ddiwylliant Celtaidd cyffredin ar y cyfandir yn ddilys, a ellir estyn hyn i Brydain ac Iwerddon fel y gwnaeth Dillon? Rywsut neu’i gilydd, rywbryd neu’i gilydd, daeth ieithoedd Celtaidd i’r ynysoedd hyn yn y cyfnod cynhanesyddol. Tueddai ysgolheigion Ewropeaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i feddwl yn nhermau goresgyniadau: byddinoedd o Geltiaid ffyrnig yn croesi o’r cyfandir gan ladd neu gaethiwo’r trigolion truenus a sefydlu eu diwylliant, ynghyd â’u hiaith, ar eu tiriogaeth newydd. Oes imperialaeth oedd hon yn Ewrop: roedd yr ysgolheigion hyn yn dychmygu bod eu hynafiaid yn ymddwyn yn yr un modd ag yr oedd eu cyd-wladwyr yn eu cyfnod eu hunain. 10 Ers y 1970au, mae’r pendil wedi symud i’r pegwn arall: ychydig iawn o sôn am ‘oresgyn’ sydd erbyn hyn. Datblygwyd y syniad o ‘Geltigrwydd cynyddol’ (‘cumulative Celticity’), sef newid ieithyddol yn sgil symudiad dros gyfnod hir o grwpiau bach o unigolion o statws uchel.11 Yn yr un modd, gellid sôn am ‘Seisnigrwydd cynyddol’ yng Nghymru heddiw. Os yw’r ddamcaniaeth hon yn agos at y gwir, yna ni ellir bod yn sicr i ba raddau y byddai trigolion Prydain ac Iwerddon yn derbyn diwylliant y Celtiaid ynghyd â’u hieithoedd. Mae’n bosibl bod cyfran helaeth o’u diwylliant brodorol wedi goroesi’r newid iaith.12 Dyna’r ail broblem.

Mae’r drydedd yn un fethodolegol. Yn yr Oesoedd Canol, nid oedd y Cymry, na’u cyd-Frythoniaid yn meddwl eu bod yn Geltiaid na hyd yn oed eu bod yn perthyn i’r Celtiaid, ac mae’r un peth yn wir am siaradwyr Gaeleg y cyfnod yn Iwerddon, yr Alban ac Ynys Manaw. Nid oedd y ddau grŵp hyn yn dangos unrhyw ddealltwriaeth eu bod yn perthyn i’w gilydd, ychwaith. Byddai ‘Celtigrwydd’ unrhyw sefydliad yn y gwledydd hyn yn yr Oesoedd Canol yn ‘isymwybodol’, felly.13 Mae’r sawl sydd am ddarganfod olion diwylliant Celtaidd

6 John T. Koch, ‘Fled Bricrenn’s Significance within the Broader Celtic Context’ yn Fled Bricrenn: Reassessments, gol. Pádraig Ó Riain (London, 2000), tt. 15-39 (tt. 17-19); Nakhleh ac eraill, ‘Perfect Phylogenetic Networks’, tt. 407-8. Noder, fodd bynnag, feirniadaeth bwyllog D. Ellis Evans o’r Neo-gramadegwyr (‘Linguistics and Celtic Ethnogenesis’ yn Celtic Connections: Proceedings of the Tenth International Congress of Celtic Studies, I, Language, Literature, History, Culture, gol. Ronald Black, William Gillies a Roibeard Ó Maolalaigh (East Linton, 1999), tt. 1-18 (tt. 3-4)), a’r cyfeiriadau a restrir ganddo.7 Ar hyn, gw. Simon Rodway, ‘Celtic - Definitions, Problems and Controversies’ yn In Search of Celtic Tylis in Thrace (III C BC), gol. Lyudmil Vagalinski (Sofia, 2010), tt. 9-32 (tt. 13-15), a’r cyfeiriadau a restrir yna.8 Myles Dillon a Nora K. Chadwick, The Celtic Realms (London, 1967), t. 17.9 e.e. Barry Cunliffe, The Celts: A Very Short Introduction (Oxford, 2003), tt. 65, 93.10 Gw., e.e., op cit, t. 93.11 Gw. y cyfeiriadau a ddyfynnir yn Rodway, ‘Celtic’, t. 21.12 Patrick Sims-Williams, ‘Celtic Civilization: Continuity or Coincidence?’, Cambrian Medieval Celtic Studies, 64 (Winter 2012), 1-45 (t. 3).13 Simon Rodway, ‘Ailystyried y Bardd Celtaidd: Defodau Urddo a Dulliau Cyfansoddi’, Dwned, 21 (2015), 11-47 (tt. 23-24).

2

Page 3: pure.aber.ac.uk  · Web viewDychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg

honedig yng Nghymru, Iwerddon ac ati’n gorfod cymharu elfennau yn niwylliant y gwledydd hyn â’i gilydd, neu ag elfennau tebyg yn niwylliant yr hen Geltiaid ar y cyfandir, gan ddefnyddio disgrifiadau ohonynt gan awduron Clasurol megis Posidonios ac Iŵl Cesar, neu dystiolaeth archeolegol. Yn arwynebol, mae hyn yn debyg i’r hyn mae ieithyddion hanesyddol yn ei wneud: trwy gymharu Cymraeg gŵr, Gwyddeleg fear a Galeg Viro- , gellir adlunio *wiros ‘gŵr, dyn’ mewn Celteg Cyffredin trwy roi nifer o ddeddfau seinegol adnabyddus ar waith. Mae gan yr ieithydd yr offer i adnabod benthyciadau, fodd bynnag, oherwydd nad ydynt yn cydymffurfio â’r deddfau seinegol hyn: mae’n amlwg bod yna berthynas rhwng Cymraeg Canol pysg ‘pysgodyn’, Gwyddeleg iasc a Lladin piscis, ond gan fod y cyntaf yn cadw /p/ Indo-Ewropeg, gellir dweud yn hyderus mai benthyciad o’r olaf ydyw, tra bod Gwyddeleg iasc, sydd wedi colli /p/, yn cynrychioli’r gair Celteg. Dim ond yn rhith yr enw afon Wysg y mae’r gair brodorol am ‘bysgodyn’ yn goroesi yn y Gymraeg.14 Dywedodd John Rhys am ffonoleg gymharol: ‘it falls [...] not so very far short of the requirements of an exact science’.15 Anwyddonol braidd yw cymharu sefydliadau diwylliannol, fodd bynnag. Nid oes unrhyw fecanwaith i wahaniaethu rhwng benthyciadau o un diwylliant i’r llall ac elfennau a etifeddwyd o gyfnod honedig o undod diwylliannol rhwng siaradwyr ieithoedd Celtaidd. Mae’n amhosibl profi, er enghraifft, bod derwyddaeth yn rhan o gynhysgaeth gyffredinol y Celtiaid a oroesodd yng Ngâl, Prydain ac Iwerddon tan y cyfnod hanesyddol, yn hytrach na datblygiad gweddol ddiweddar ym Mhrydain, fel mae Iŵl Cesar yn awgrymu, a ledodd wedyn i Gâl ac i Iwerddon ond nid, hyd y gwyddys, i siaradwyr Celteg yn Sbaen.16

Yr eithriad i’r rheol hon yw agweddau ar y diwylliannau sydd o reidrwydd wedi codi mewn cyfnod lled ddiweddar. Er enghraifft, os oedd yna fath nodweddiadol ‘Geltaidd’ o Gristnogaeth fel y byddai rhai yn honni, yna mae’n rhaid bod hyn wedi datblygu trwy gysylltiadau rhwng yr ardaloedd Celtaidd eu hiaith yn y cyfnod hanesyddol. Wrth reswm, nid yw’n mynd yn ôl at gyfnod o undod ieithyddol cyn amser Crist!17. Yn achos datblygiadau ‘daearyddol’ fel hyn, nid oes dim i’w rhwystro rhag lledu y tu hwnt i ardaloedd Celtaidd eu hiaith, yn enwedig o gofio mai Lladin oedd cyfrwng llawer o’r cyfathrebu yn yr Oesoedd 14 J. E. Caerwyn Williams, ‘Wysg (River Name), wysg, hwysgynt, rhwysg’, Celtica, 21-22 (1990-91), 670-78. Mae’n anodd esbonio pam bod y gair brodorol am ‘bysgodyn’ wedi’i ddisodli gan y gair Lladin: gw. trafodaeth gan Kenneth Jackson, Language and History in Early Britain (Edinburgh, 1953), t. 78; C. E. Stevens, ‘The Social and Economic Aspects of Rural Settlement’ yn Rural Settlement in Roman Britain, gol. Charles Thomas (London, 1966), tt. 108-28 (t. 125, n. 161); J. P. Wild, ‘Borrowed Names for Borrowed Things?’, Antiquity, 44 (1970), 125-30 (tt. 127-28); Evans, ‘Language Contact’, tt. 969-70. Efallai y gellid cymharu’r ffordd mae’r gair benthyg ffish wrthi’n disodli pysgodyn ar lafar pan gyfeirir at bysgod fel bwyd, e.e. ffish a tships, ffish ffresh ayb.15 Rhys, Lectures in Welsh Philology, t. 87.16 Patrick Sims-Williams, ‘Celtomania and Celtoscepticism’, Cambrian Medieval Celtic Studies, 36 (Winter 1998), 1-35 (t. 10); Cunliffe, Celts, tt. 84-85, 97; cf. Rhys, Lectures in Welsh Philology, tt. 33-34. Mae’n bosibl, wrth gwrs, ei bod o darddiad cyn-Geltaidd, fel y tybiai John Rhys (t. 33). Eto, ni ellir profi na gwrthbrofi hyn.17 Gw. Sims-Williams, ‘Celtomania and Celtoscepticism’, t. 10. Nid yw’n amlwg bod y fath beth â ‘Christnogaeth Geltaidd’ erioed wedi bodoli mewn unrhyw ffordd ystyrlon, fodd bynnag. Gw. y cyfeiriadau a geir yn Sims-Williams, op cit, t. 10, n. 35, gan ychwanegu Donald E. Meek, The Quest for Celtic Christianity (Edinburgh, 2000); idem, ‘Alexander Carmichael and “Celtic Christianity”’ yn The Life and Legacy of Alexander Carmichael, gol. Domhnall Uilleam Stiùbhart (Port of Ness, 2008), tt. 82-95; Thomas O’Loughlin, Celtic Theology: Humanity, World and God in Early Irish Writings (London & New York, 2000), tt. 1-24; idem, ‘“A Celtic Theology”: Some Awkward Questions and Observations’ yn Identifying the ‘Celtic’, gol. Joseph Falaky Nagy (Dublin, 2002), tt. 49-65; John Carey, ‘Recent Work on “Celtic Christianity”’, Cambrian Medieval Celtic Studies, 42 (Winter 2001), 83-87; Celts and Christians: New Approaches to the Religious Traditions of Britain and Ireland, gol. Mark Atherton (Cardiff, 2002); Barry J. Lewis, adolygiad o Atherton, Celts and Christians, Cambrian Medieval Celtic Studies, 45 (Summer 2003), 75-78. Gw. Karen Jankulak, ‘Alba Longa in the Celtic Regions? Swine, Saints and Celtic Hagiography’ yn Celtic Hagiography and Saints’ Cults, gol. Jane Cartwright (Cardiff, 2003), tt. 271-84, am fotiff hagiograffegol a geir trwy’r gwledydd Celtaidd ond sydd, mae’n debyg, o darddiad Clasurol.

3

Page 4: pure.aber.ac.uk  · Web viewDychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg

Canol.18 Felly, mewn achosion fel hyn, nid yw’r term ‘Celtaidd’ yn briodol, mewn gwirionedd.

Mae cyd-ddigwyddiad yn bosibl hefyd. Cân adnabyddus i’r Cymry yw ‘Godro’r Fuwch’ gan y Tebot Piws.19 Nawr, mae gan Tomás Mac Eoin gân yn Wyddeleg o’r enw ‘Bleán na Bó’ (‘Godro’r Da’).20 A ellid dadlau bod y ddwy gân hyn yn adleisio pwysigrwydd da ym mywyd a mytholeg yr hen Geltiaid?21 Go brin! Wedi’r cwbl, nid cân am fuwch yw ‘Godro’r Fuwch’, ond addasiad o ‘Walking the Dog’ gan y canwr Americanaidd Rufus Thomas, a ‘Cerdded y Ci’ ydoedd yn wreiddiol, nes i Gareth Meils berswadio’r band i gefnu ar y teitl anidiomataidd hwnnw.22 Beth bynnag, ni allaf gredu y byddai hyd yn oed y Celtomanes mwyaf pybyr yn mentro dadlau o ddifrif y gellir gweld unrhyw Geltigrwydd yn y caneuon hyn - mae’r syniad yn abswrd. Ond, mewn gwirionedd, a yw llawer yn fwy abswrd na rhai o’r honiadau a wneir am ddiwylliant yr Oesoedd Canol? Mae Kim McCone, er enghraifft, fel llawer un o’i flaen, yn casglu bod torri pennau gelynion a’u cadw yn droffïau’n arfer Celtaidd y gellir ei weld yng nghymdeithas yr hen Aliaid ac mewn sagâu Hen Wyddeleg fel ei gilydd - dywed y byddai’n ‘quite perverse’ i wadu’r cysylltiad.23 Yn wir, mae’r cyffelybiaethau rhwng y ddwy ffynhonnell hyn yn drawiadol,24 ac unwaith ein bod wedi derbyn bodolaeth y traddodiad Celtaidd hwn, mae’n hawdd dehongli cyfeiriadau mewn llenyddiaeth Gymraeg at dorri pennau fel tystiolaeth ategol: pen Ysbaddaden ar bolyn yn Culhwch ac Olwen,25 e.e., neu ymffrost bardd o Gymro mewn cerdd o Lyfr Taliesin ei fod wedi torri cant o bennau ymaith.26 Ond, unwaith ein bod yn ehangu maes ein hymchwiliad, 18 Patrick Sims-Williams, Irish Influence on Medieval Welsh Literature (Oxford, 2011), tt. 20-24.19 Ar gael ar You Tube yma: https://www.youtube.com/watch?v=Cmg407c8Z_4 (wedi’i gweld 18 Tachwedd 2016).20 Ar gael ar You Tube yma: https://www.youtube.com/watch?v=GxspPfVFjbg (wedi’i gweld 18 Tachwedd 2016).21 Ar hyn, gw., er enghraifft, Anne Ross, Pagan Celtic Britain (London & New York, 1967), tt. 302-8; Dillon a Chadwick, Celtic Realms, t. 109; Miranda Green, Animals in Celtic Life and Myth (London & New York, 1992), tt. 12-15, 119-23, 183-85, 220-24; Fergus Kelly, Early Irish Farming (Dublin, 1997), tt. 27-29; Finbar McCormick, ‘The Decline of the Cow: Agricultural and Settlement Change in Early Medieval Ireland’, Peritia, 20 (2008), 209-24.22 Hefin Wyn, Be Bop a Lula’r Delyn Aur: Hanes Canu Poblogaidd Cymraeg (Talybont, 2002), t. 125; Dewi Pws Morris, Theleri Thŵp (Caernarfon, 2003), t. 103.23 Kim McCone, The Celtic Question: Modern Constructs and Ancient Realities (Dublin), t. 47.24 Gw. e.e. Táin Bó Cúalnge from the Book of Leinster, gol. Cecile O’Rahilly (Dublin, 1967), t. xi; Muireann Ní Bhrolcháin, An Introduction to Early Irish Literature (Dublin, 2009), t. 43. Cf. hefyd tystiolaeth archeolegol am dorri pennau yn Iwerddon yn ystod Oes yr Haearn (e.e. Elizabeth O’Brien, ‘Iron Age Burial Practices in Leinster: Continuity and Change’, Emania, 7 (1990), 37-42 (t. 38); Barry Raftery, Pagan Celtic Ireland: The Enigma of the Irish Iron Age (London, 1994), tt. 80, 185). Ond noder ei bod yn debygol, a chraffu ar dystiolaeth y Blwyddnodau, bod yr arfer o dorri pennau yn Iwerddon ar gynnydd yn y nawfed ganrif OC, a bod y sagâu (a oedd yn cael eu copïo yn y cyfnod hwn), o bosibl, yn adlewyrchu defod gyfoes (o dan ddylanwad drwg y Llychlynwyr efallai) yn hytrach nag un gynhanesyddol (J. P. Mallory, ‘The World of Cú Chulainn: The Archaeology of the Táin Bó Cúailnge’ yn Aspects of the Táin, gol. idem (Belfast, 1992), tt. 103-59 (tt. 139-41)). Mae Nora Chadwick (Celtic Realms, t. 296) yn dweud ei bod yn ‘tempted to conclude that the custom [o ddangos pennau toredig] was not very ancient’ ymysg y Galiaid.25 Culhwch ac Olwen, gol. Rachel Bromwich a D. Simon Evans (Caerdydd, 1988), llau. 1238-41; Y Mabinogion, diw. Dafydd a Rhiannon Ifans (Llandysul, 1980), t. 114.26 Legendary Poems from the Book of Taliesin, gol. Marged Haycock (Aberystwyth, 2007), 24.18. Gwêl J. E. Caerwyn Williams (Traddodiad Llenyddol Iwerddon (Caerdydd, 1958), t. 27) dystiolaeth o arfer ymysg y Cymry o hel pennau yn yr englynion i ben Urien, ond mae cyd-destun yr englynion hyn yn rhy amwys i ni wneud datganiadau o’r fath ag unrhyw hyder (gw. trafodaeth Patrick Sims-Williams, ‘The Death of Urien’, Cambrian Medieval Celtic Studies, 32 (Winter 1996), 25-56 (tt. 44-50)). Mae Gerallt Gymro’n datgan bod y Cymry a’r Gwyddelod yn torri pennau eu gelynion, yn wahanol i’r Ffrancwyr (Gerallt Gymro: Hanes y Daith trwy Gymru/Disgrifiad o Gymru, cyf. Thomas Jones (Caerdydd, 1938), t. 224), ac mae Michael Prestwich (Armies and Warfare in the Middle Ages: The English Experience (New Haven, CT & London, 1996), t. 237) yn dweud: ‘Head-hunting was indeed a feature of the Anglo-Welsh wars’, ond ni welaf pam ei fod yn honni bod

4

Page 5: pure.aber.ac.uk  · Web viewDychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg

rydym yn dod ar draws traddodiadau o hel pennau o bob cwr o’r byd: Sgythia, Indonesia, Ynysoedd y Philipinau, gogledd Affrica, Nigeria, Japan canoloesol, Gogledd America ayyb.27 Yn wir, mae digon o dystiolaeth bod y Rhufeiniaid hwyntau yn euog o hel pennau, yn achlysurol o leiaf:28 a ellid dadlau mai traddodiad Rhufeinig sy’n gorwedd y tu ôl i bennau toredig llenyddiaeth Cymru? Wrth ystyried traddodiadau o gasglu pennau yn Indonesia ac yn Nigeria, mae Cyrnol J. R. Wilson-Haffenden yn crybwyll y ‘possibility that the above traits [h.y. hel pennau] may have been developed independently, under the influence of similar conditions in both territories’.29 Onid yw’n bosibl bod yr un peth yn wir yn Ngâl ac yn Iwerddon?30

Mae pethau’n fwy addawol mewn achosion lle y ceir geiriau cytras yn y gwahanol ieithoedd Celtaidd. Enghraifft a ddyfynnir yn aml yw Cymraeg bardd : Galeg bardos : Gwyddeleg Canol bard : Gaeleg yr Alban bàrd : Llydaweg barz : Hen Gernyweg barth. Mae hyn yn ogleisiol oherwydd bodolaeth beirdd mawl proffesiynol yng Ngâl, Cymru, yr Hen Ogledd, Iwerddon, yr Alban, Ynys Manaw ac (o bosibl) yn Llydaw,31 a hefyd oherwydd y ffaith bod yna stoc o eirfa sy’n ymwneud â barddoniaeth sy’n gyffredin i’r ieithoedd i gyd: nid yw’r gair bardd ar ei ben ei hunan.32 Fodd bynnag, mae ystyron geiriau yn newid. Mae’n debyg bod swyddogaeth y bardos Galaidd yn lled debyg i eiddo’r bardd Cymraeg,33 ond roedd y bard Gwyddelig tipyn yn is ei statws,34 ac yn ôl y Vocabularium Cornicum, mima ł scurra ‘meimiwr neu gellweiriwr’ oedd y barth Cernywaidd.35 Ni wyddys i sicrwydd pa un o’r ystyron hyn sy’n adlewyrchu ystyr y gair *bardos mewn Celteg Cyffredin: fel arfer cymerir mai bardd mawl mawreddog ydoedd, a bod ei statws wedi gostwng yn Iwerddon a Chernyw yn nes ymlaen, ac mae etymoleg y gair, o wreiddyn *gwṛH(s)-dhh1-o- ‘un a rydd glod’, fel petai’n cefnogi hyn.36 Noder, fodd bynnag, bod Eric Hamp yn cynnig tarddiad arall,

hyn ‘probably of Welsh origin’, am ei fod yn rhestru enghreifftiau o dorri pennau gan y ddwy ochr.27 Gw. cyfeiriadau yn Bernhard Maier, ‘Comparing Fled Bricrenn with Classical Descriptions of Continental Celts: Parallels, Problems and Pitfalls’ yn Fled Bricrenn, gol. Ó Riain, tt. 1-14 (tt. 12-14); Sims-Williams, ‘Celtic Civilization’, tt. 3-7.28 Rebecca Redfern a Heather Bonny, ‘Headhunting and Amphitheatre Combat in Roman London, England: New Evidence from Walbrook Valley’, Journal of Archaeological Science, 43 (2014), 214-2629 J. R. Wilson-Haffenden, The Red Men of Nigeria (London, 1930), t. 214.30 Maier, ‘Comparing Fled Bricrenn’, tt. 13-14; Koch, ‘Fled Bricrenn’s Significance’, tt. 34-39; Sims-Williams, ‘Celtic Civilization’, t. 5. Cf. sylwadau Malcolm Chapman, The Celts: The Construction of a Myth (London & New York, 1992), t. 287; John Collis, The Celts: Origins, Myths and Inventions (Stroud, 2003), tt. 215-16; Rodway, ‘Celtic’, t. 23; Helen Imhoff, ‘Inna hinada hi filet cind erred Ulad inso - Burial and the Status of the Head’, Zeitschrift für celtische Philologie, 63 (2016), 69-94 (tt. 79-80).31 Rodway, ‘Ailystyried y Bardd Celtaidd’, tt. 11-22.32 Gw. op cit, t. 26, a’r cyfeiriadau a ddyfynnir yn n. 54, gan ychwanegu David Stifter, ‘Metrical Systems of Celtic Traditions’ yn Grammarians, Skalds and Rune Carvers - Interfaces and Interrelations, gol. Michael Schulte a Robert Nedoma (Amsterdam, 2016), tt. 38-94 (tt. 40-48).33 Noder peth tystiolaeth o Gymru bod prydydd yn uwch ei statws na bardd, fodd bynnag (Gramadegau’r Penceirddiaid, gol. G. J. Williams ac E. J. Jones (Caerdydd, 1934), tt. 17, 35, 57; Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar, gol. Marged Haycock (Llandybïe, 1994), t. 109).34 Williams, Traddodiad Llenyddol Iwerddon, tt. 37, 124-25; Fergus Kelly, A Guide to Early Irish Law (Dublin, 1988), t. 46.35 Enrico Campanile, Profilo etimologico del cornico antico (Pisa, 1974), t. 12. Noder bod Patrick Sims-Williams (‘Gildas and Vernacular Poetry’ yn Gildas: New Approaches, gol. Michael Lapidge a David Dumville (Woodbridge, 1984), tt. 169-92 (t. 177, n. 53)) yn dadlau y gall hyn adlewyrchu rhagfarn clerigol yn erbyn beirdd, ac felly na ellir ei dderbyn fel tystiolaeth am statws isel y bardd yng Nghernyw. Mimus oedd ystyr Llydaweg Canol barz yntau, yn ôl sawl ffynhonnell: ystyr canoloesol mimus oedd ‘un poète et un musicien’ yn ôl Herve le Bihan (An Dialog etre Arzur Roe d’an Bretounet ha Guynglaff ‘Le dialogue entre Arthur roi des Bretons et Guynglaff (Rennes, 2013), t. 17).36 Ar darddiad *bardos, gw., er enghraifft, D. M. Jones, ‘bardd’, Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 11 (1943-44), 138-40; Enrico Campanile, ‘L’étymologie du celtique *bard(h)os’, Ogam, 22-25 (1970-73), 235-36; idem, Profilo etimologico, t. 12; Peter Schrijver, Studies in British Celtic Historical Phonology (Amsterdam &

5

Page 6: pure.aber.ac.uk  · Web viewDychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg

o *gwrsdo- , gan honni ‘It seems clear that the bard started out with a station, both in Irish and in Welsh, considerably lower than that of the chief court poet [...]. It seems reasonable then that in I[ndo-]E[uropean] society he was a simple technical “singer” or “reciter”’.37 Onid yw’n bosibl, yn ddamcaniaethol, felly, bod y bardd wedi’i ddyrchafu mewn rhai ieithoedd Celtaidd ymhell ar ôl iddynt wahanu? Mae Calvert Watkins yn nodi: ‘Cognate cultural institutions are often, though not necessarily, accompanied by cognate linguistic expressions. Lexical substitution and cultural change in the course of millenia [sic] may leave only the semantic features of the original expression present; we have the preservation of the signifié (and its associated cultural nexus), but a renewal of the signifiant’.38 Roedd gan nifer o’r diwylliannu cyfagos feirdd proffesiynol lled debyg (scop yr Hen Saeson, y skald Sgandinafaidd, beirdd mawl Lladin y Cyfandir megis Venantius Fortunatus): dylid o leiaf ystyried y posibiliad eu bod wedi dylanwadu ar y traddodiadau o ganu mawl yn yr ieithoedd Celtaidd (neu, yn wir, fel arall). Ar y llaw arall, ar draws y byd i gyd yn grwn, cafwyd cyfundrefnau cymharol: mewn rhannau o Affrica, er enghraifft. Mae hyn yn dangos bod traddodiadau o ganu mawl yn gallu datblygu’n annibynnol. Felly, er ei bod yn debygol bod Gâl, Iwerddon a Chymru wedi etifeddu ‘bardd Celtaidd’, ni ddylid bod yn rhy barod i dderbyn yn ddigwestiwn bod pob agwedd ar y traddodiadau barddol yn y parthau hyn yn sylfaenol Geltaidd - dylid ystyried bodolaeth benthyciadau o ddiwylliannau cyfagos a/neu gyd-ddigwyddiadau.39

Canu mawl i’w noddwr a dychan i’w elynion oedd prif swyddogaeth y bardd proffesiynol yn Iwerddon. Mynegir hyn yn gryno yn y geirdarddiad ffansïol a roddir i’r gair fili ‘bardd o’r statws uchaf’ yn yr eirfa Hen Wyddeleg a elwir yn Sanas Cormaic: sef o fi ‘gwenwyn’ (h.y. dychan) a li ‘ysblander’ (h.y. mawl).40 Felly hefyd oedd swyddogaeth bardoi Gâl, yn ôl Diodorus Siculus (V.31): ‘Y maent yn cyfansoddi molawdau i rai a dychanau i eraill’.41 Nid oes rhaid i fi ddweud wrthych fod mawl yn hollol ganolog i’r traddodiad barddol Cymraeg: beird byt barnant wyr o gallon, meddai Aneirin,42 ac maent yn dal i’w wneud hyd heddiw yma yng Nghymru. Mae yna draddodiad o ganu dychan hefyd, a chasgliad go helaeth o gerddi dychan yn Llyfr Coch Hergest ac mewn llawysgrifau

Atlanta, GA, 1995), tt. 143-44; Graham R. Isaac, The Verb in the Book of Aneirin: Studies in Syntax, Morphology and Etymology (Tübingen, 1996), t. 393; Xavier Delamarre, Dictionnaire de la langue gauloise (Paris, 2001), tt. 57-58; Ranko Matasović, Etymological Dictionary of Proto-Celtic (Leiden, 2009), tt. 56-57; Nicholas Zair, The Reflexes of the Proto-Indo-European Laryngeals in Celtic (Leiden & Boston, MA, 2012), tt. 82-83; Stifter, ‘Metrical Systems’, tt. 43-44.37 ‘The Semantics of Poetry in Early Celtic’ yn Papers from the Thirteenth Regional Meeting of the Chicago Linguistic Society, gol. Woodford A. Beach, Samuel E. Fox a Shulamith Philosoph (Chicago, IL, 1977), tt. 147-51 (tt. 150-51). Am feirniadaeth o hyn, gw. Schrijver, Studies, t. 143, n. 2.38 ‘Is tre fír flathemon: Marginalia to Audacht Morainn’, Ériu, 30 (1979), 181-98 (t. 182).39 Rodway, ‘Ailystyried y Bardd Celtaidd’, tt. 25-29. Cf. Sims-Williams, Irish Influence, t. 7, n. 39: ‘The seductions of etymology can be illustrated by a reductio ad absurdam: the normal Modern Welsh word for “vehicle”, cerbyd, is related to the ancient Celtic word for “chariot”, but Welsh cerbydau typically resemble other contemporary motor cars and lorries. The same may apply to beirdd and bardoi.’ Cf. sylwadau Graham Isaac, adolygiad o McCone, Celtic Question, Journal of the Galway Archaeological and Historical Society, 62 (2010), 213-15 (t. 215).40 Fred Norris Robinson, ‘Satirists and Enchanters in Early Irish Literature’ yn Studies in the History of Religions Presented to Crawford Howell Toy, gol. David Gordon Lyon a George Foot Moore (New York, 1912), tt. 95-130 (t. 110); Donald Ward, ‘On the Poets and Poetry of the Indo-Europeans’, Journal of Indo-European Studies, 1 (1973), 127-44 (t. 135); Liam Breatnach, ‘Satire, Praise and the Early Irish Poet’, Ériu, 56 (2006), 63-84 (t. 67)).41 Williams, Traddodiad Llenyddol Iwerddon, tt. 55-56. Gw. Patrick K. Ford, ‘Agweddau ar Berfformio ym Marddoniaeth yr Oesoedd Canol’ yn Cyfoeth y Testun: Ysgrifau ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, gol. Iestyn Daniel, Marged Haycock, Dafydd Johnston a Jenny Rowland (Caerdydd, 2003), tt. 77-108 (t. 77) am gyfieithiad arall o’r darn hwn i’r Gymraeg, ynghyd â’r testun gwreiddiol.42 Canu Aneirin, gol. Ifor Williams (Caerdydd, 1938), ll. 285.

6

Page 7: pure.aber.ac.uk  · Web viewDychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg

diweddarach. Felly, dyma ni, achos wedi’i gau: gallwn dderbyn mai moli a dychanu oedd job y bardd Celtaidd a symud ymlaen. Bydd rhaid cyfaddef, wrth gwrs, bod y dystiolaeth Alaidd yn denau, a byddai’n braf cael mwy o enghreifftiau Cymraeg o’r cyfnod cynnar, ond eto i gyd mae pethau’n ddigon destlus. Ond, cyn i chi gau’r gyfrol hon a throi’ch sylw at rywbeth arall, hoffwn gloddio ychydig o dan yr wyneb i weld pa mor debyg, mewn gwirionedd, oedd y traddodiadau dychanol yn Iwerddon a Chymru yn yr Oesoedd Canol. Gan nad oes gennym lawer mwy na datganiad moel Diodorus bod y bardoi yn dychanu, ni allwn ystyried dychan Gâl ymhellach.

Dechreuwn gyda therminoleg. Mae gan y ferf dychanu air cytras mewn Hen Wyddeleg, sef do:cain ‘mae’n llafarganu, adrodd; canu’ < *to-kan- .43 Felly hefyd goganu, gair arall a ddefnyddir am ‘ganu dychan’ mewn Cymraeg Canol: mae hwn yn gytras â Hen Wyddeleg fo:cain ‘mae’n llafarganu, cyfeilio’ < *wo-kan- . Nid ‘dychanu’ yw ystyr y berfau Hen Wyddeleg hyn, fodd bynnag, ac nid dyna oedd ystyr y berfau Cymraeg ychwaith, yn wreiddiol. Mae’n debyg mai ‘canu’ oedd ystyr y ddau, ond eu bod wedi datblygu’n semantig yn Gymraeg ar hyd yr un llwybr â gwawd, a olygai ‘ganu mawl’ yn wreiddiol, ond nad yw ond yn golygu ‘gwatwar’ heddiw.44 Cyn y bedwaredd ganrif ar ddeg, roedd y ddau derm yn amwys.45 Y gair arferol am ddychan mewn Hen Wyddeleg yw áer (Gwyddeleg Modern aor) sydd, mae’n debyg, yn tarddu o *aigrā ‘arf llym’.46 Mae hyn yn dwyn i gof cerdd o’r testun cyfreithiol Bretha Nemed Toísech, lle y portreedir dychan fel llafn sy’n anafu wyneb y gwrthrych.47 Mae Eric Hamp yn awgrymu’n betrus y gellir gweld gair cytras ag áer yn ail elfen y gair Cymraeg ornair ‘bai, cerydd, cabl, gwawd, enllib’,48 ond mae’n fwy tebygol mai

43 Noder, fodd bynnag, bod GPC s.v. dychanaf, a Stefan Zimmer, Studies in Welsh Word-formation (Dublin, 2000), tt. 251, 268, yn tarddu dychanu o *dus-kan- a fyddai, felly, ag ystyr negyddol o’r dechrau’n deg (ar *dus- , gw. Thurneysen, Grammar of Old Irish, t. 231; Zimmer, Studies in Welsh Word-formation, t. 250). Ni fyddai’n gytras wedyn â’r gair Hen Wyddeleg, nac â dyganu ‘canu, datganu, llafarganu’ (contra D. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964), t. 62, sy’n ystyried dychanu a dyganu yn amrywiadau ar yr un ferf - gw. y nodyn nesaf am g ~ ch). Os felly, mae’n rhaid bod yr ystyr eilaidd ‘canmol, clodfori’ wedi datblygu erbyn y ddeuddegfed ganrif: noder Dychanaf y’m naf mewn cerdd fawl i Owain Cyfeiliog gan Gynddelw Brydydd Mawr (Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr I, gol. Nerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (Caerdydd, 1991), 16.15).44 J. E. Caerwyn Williams, ‘Bardus Gallice Cantor Appelatur...’ yn Beirdd a Thywysogion: Barddoniaeth Llys yng Nghymru, Iwerddon a’r Alban, gol. B. F. Roberts a Morfydd E. Owen (Caerdydd, 1996), tt. 1-13 (tt. 6-8); Catherine McKenna, ‘Bygwth a Dychan mewn Barddoniaeth Llys Gymraeg’, op cit, tt. 108-21 (tt. 108-9). Ar gogan cf. Lewis a Pedersen, Concise Comparative Celtic Grammar, t. 349; Eric P. Hamp, ‘On *org-nV-’, Bwletin y Bwrdd Gwybodaeth Celtaidd, 25 (1974), 388-91 (tt. 390-91); idem, ‘Semantics of Poetry’, t. 149; Dylan Foster Evans, ‘Goganwr am Gig Ynyd’: The Poet as Satirist in Medieval Wales (Aberystwyth, 1996), t. 3. Noder, fodd bynnag, bod Eric Hamp (‘Intensives in British Celtic and Gaulish’, Studia Celtica, 12-13 (1977-78), 1-13 (t. 3)) fel petai’n cynnig mai ‘dychanu’ oedd ystyr gwreiddiol gogan: ‘note that gogan meaning “satirize” could usefully be disambiguated from that which meant “praise” and which yielded gochan’. Am esboniad gwahanol am g ~ ch yn y ffurfiau hyn, gw. Simon Rodway, Dating Medieval Welsh Literature: Evidence from the Verbal System (Aberystwyth), tt. 86-87, a’r cyfeiriadau a ddyfynnir yno. Roedd gwawd wedi datblygu’r ystyr ‘gwatwar’ erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg (Dafydd ap Gwilym: A Selection of Poems, gol. Rachel Bromwich (Llandysul, 1982), tt. 21, 57, 161). Comparandum posibl arall yw’r ail elfen yn y geiriau dirmyg a tremyg (< *mik- ‘disgleirio’), sydd fel petai wedi datblygu ystyr negyddol yn yr achosion hyn (Eurys Rolant, ‘Ceing Faglawg’, Studia Celtica, 20/21 (1985-86), 199-206 (t. 201)).45 McKenna, ‘Bygwth a Dychan’, t. 109.46 Hamp, ‘On *org-nV-’, t. 390; idem, ‘OIr. áer, Slavic *jĭgra’, Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 35 (1988), 55; Vladimir E. Orel, ‘OIr. áer’, Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 32 (1985), 164-66.47 Breatnach, ‘Satire, Praise and the Early Irish Poet’, t. 63, n. 2; Roisin McLaughlin, Early Irish Satire (Dublin, 2008), t. 4. Cf. O’Rahilly, Táin Bó Cúalnge from the Book of Leinster, ll. 2627 (cyfieithiad, t. 212); McLaughlin, Early Irish Satire, t. 15; Anna Matheson, ‘Itinerant Drúith and the Mark of Cain in O’Davoren’s Glossary’, Cambrian Medieval Celtic Studies, 67 (Summer 2014), 55-71 (t. 60), am gyfeiriadau cymharol. Cf. y gred yng Ngwlad yr Iâ y gallai barddoniaeth ddychanol ‘frathu’ ei tharged yn yr un modd ag y gallai cleddyf neu arf arall (Margaret Clunies Ross, A History of Old Norse Poetry and Poetics (Cambridge, 2005), t. 63).48 ‘On *org-nV-’, t. 390; cf. GPC s.v. ornair.

7

Page 8: pure.aber.ac.uk  · Web viewDychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg

gair sydd yno.49 Felly nid oes llawer o gefnogaeth ieithyddol i’r syniad bod yna draddodiad Celteg Cyffredin o ddychanu. Ond, tystiolaeth negyddol sydd yma.

Wrth droi at y cerddi eu hunain, gwelwn fod enghreifftiau o ganu dychan yn gymharol brin yn y ddwy iaith. ‘This is hardly surprising,’ meddai Roisin McLaughlin, ‘since the subject of a satire is unlikely to go to any great lengths to preserve it, unlike the recipient of a praise poem.’50 Ymhellach, mae dychan ar bobl o statws isel yn annhebygol o gael ei gadw, am fod grym y cerddi yn dibynnu ar y ffaith bod y gynnulleidfa’n adnabod y targed a’r digwyddiadau a enillai ddicter y bardd.51 Fodd bynnag, mae yna nifer o gerddi dychan Gwyddeleg wedi’u cynnwys fel enghreifftiau mewn traethodau mydryddol Gwyddeleg Canol - gall rhai o’r enghreifftiau fod yn gynharach o dipyn na’r traethodau ei hunain, sy’n dyddio o’r ddegfed ganrif neu’r unfed ar ddeg.52 Mae’r rhan fwyaf o’r hyn sydd gennym o ddychan y cyfnod Gaeleg Clasurol (c. 1200-1600) wedi’i chynnwys mewn un llawysgrif Albanaidd o’r unfed ganrif ar bymtheg, sef Llyfr Deon Lismore.53 Yn yr un modd, heb fodolaeth Llyfr Coch Hergest o c. 1400,54 ni fyddai gennym unrhyw syniad o nerth y traddodiad dychanol yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.55 Nid oes yna enghreifftiau sicr o ddychan yn Gymraeg cyn y ganrif honno, ond mae yna dystiolaeth anuniongyrchol ei fod yn rhan o repertoire Beirdd y Tywysogion (c. 1100 - 1300).56 Nid oes yna enghreifftiau pendant o’r corff annelwig o farddoniaeth gynnar a elwir yn hengerdd ychwaith. Mae Jenny Rowland yn crybwyll pennill o Ganu Heledd sy’n ymdebygu i felltith, a dau englyn masweddus.57 Mae’r olaf yn bur anodd i’w dehongli, felly nid yw’n glir y dylid eu hystyried yn ddychan. Beth bynnag, nid ydynt yn arbennig o gynnar: mae David Callander yn awgrymu eu bod yn dyddio o’r cyfnod 1200 × 1350.58 Ffynhonnell arall sy’n hynod o ddefnyddiol ar gyfer astudio

49 J. Lloyd-Jones, Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg (Caerdydd, 1931-63), t. 525.50 Early Irish Satire, t. 9. Cf. Máirtín Ó Briain, ‘Satire in Seventeenth- and Eighteenth-Century Gaelic Poetry’ yn Memory and the Modern in Celtic Literatures, gol. Joseph Falaky Nagy (Dublin, 2006), tt. 118-42 (tt. 119-20).51 Gw. R. A. Breatnach, ‘A Pretended Robbery’, Éigse, 3 (1941-42), 241-44 (t. 242).52 McLaughlin, Early Irish Satire, tt. 118-19.53 Gw. William Gillies, ‘Courtly and Satiric Poems in the Book of the Dean of Lismore’, Scottish Studies, 21 (1977), 35-53; Ó Briain, ‘Satire in Seventeenth- and Eighteenth-Century Gaelic Poetry’, t. 120.54 Daniel Huws, ‘Llyfr Coch Hergest’ yn Cyfoeth y Testun, gol. Daniel ac eraill, tt. 1-30.55 Ceir cwpl o enghreifftiau o gerddi dychan Cymraeg yn fersiwn Peniarth 20 o Ramadeg y Penceirddiaid, a hyn er gwaethaf agwedd negyddol awduron y testunau hyn tuag at ddychan (Gramadegau’r Penceirddiaid, gol. Williams a Jones, t. 57; Gwaith Einion Offeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. R. Geraint Gruffydd a Rhiannon Ifans (Aberystwyth, 1997), Atodiad Dd, cerddi 39 a 40; cf. Rachel Bromwich, Aspects of the Poetry of Dafydd ap Gwilym: Collected Papers (Cardiff, 1986), t. 110, n. 21). Perthyn Gramadeg Peniarth 20 i’r cyfnod 1316/17 × c. 1330 (Simon Rodway, ‘The Where, Who, When and Why of Medieval Welsh Prose Texts: Some Methodological Considerations’, Studia Celtica, 41 (2007), 47-89 (t. 63)). Mae cerdd 40 (yng ngolygiad Gruffydd ac Ifans) yn perthyn i flynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar ddeg os mai Trahaearn Brydydd Mawr yw’r Trahaearn a ddychenir ynddi - mae’n bosibl, yn wir, mai Casnodyn oedd yr awdur (Gwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli, gol. N. G. Costigan (Bosco), R. Iestyn Daniel a Dafydd Johnston (Aberystwyth, 1997), t. 95; Gwaith Einion Offeiriad, gol. Gruffydd ac Ifans, t. 174; Gwaith Casnodyn, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1999), t. 14). Ar floruit Trahaearn, gw. Gwaith Gruffudd ap Dafydd, gol. Costigan (Bosco) ac eraill, tt. 92-93; ar Casnodyn, gw. Gwaith Casnodyn, gol. Daniel, 1999, tt. 7-8. Ar gerdd 39, gw. Meirion Pennar, ‘Dryll o Dystiolaeth am y Glêr’, Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 28 (1978-79), 406-12. Rwyf yn ddiolchgar i’r Dr Richard Glyn Roberts am dynnu fy sylw at y cerddi hyn.56 Huw M. Edwards, Dafydd ap Gwilym: Influences and Analogues (Oxford, 1996), tt. 38-66; Foster Evans, ‘Goganwr am Gig Ynyd’; McKenna, ‘Bygwth a Dychan’; Dafydd Johnston, Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300-1525 (Caerdydd, 2005), tt. 375-400.57 Jenny Rowland, ‘Genres’ yn Early Welsh Poetry: Studies in the Book of Aneirin, gol. Brynley F. Roberts (Aberystwyth, 1988), tt. 179-208 (tt. 179-80).58 David Callander, ‘Dau Englyn Maswedd o “Ganu Heledd”’, Dwned, 20 (2014), 31-36 (tt. 34-35).

8

Page 9: pure.aber.ac.uk  · Web viewDychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg

dychan Gwyddeleg, ond sydd bron yn hollol absennol yng Nghymru, yw cyfeiriadau at ddychan mewn testunau cyfreithiol ac mewn chwedlau.

Yn fuan iawn, deuir i’r casgliad bod dychan yn chwarae rhan ganolog yn y gymdeithas Wyddelig (neu, o leiaf, yn haenau uchaf y gymdeithas honno).59 Roedd ofn dychan y beirdd yn real iawn. Yn y chwedlau, dyma yw ysgogiad pob math o weithredoedd annoeth, e.e. Fer Diad yn cytuno i ymladd â’i frawd maeth Cú Chulainn yn Táin Bó Cuailgne.60 Mae’r ofn hwn yn cael ei grybwyll yn aml mewn disgrifiadau o gymdeithas Iwerddon yn y cyfnod modern cynnar.61 Roedd yna gyfreithiau llym yn eu lle i warchod cymdeithas rhag effaith dychan. Dylid rhoi rhybudd o flaen llaw i roi cyfle i wrthrych y dychan dalu iawndal,62 a gallai dychanwr anghyfrifol wynebu’r gosb eithaf.63 Eto, mae’n debyg bod yna garfan o feirdd yn Iwerddon a oedd yn fodlon defnyddio bygythiad dychan i wasgu lletygarwch a phob math o nwyddau oddi ar eu noddwyr truan.64 Gellir gweld y modus operandi mewn penillion a gofnodir yn y testun cyfreithiol Uraiccecht Becc ac a gysylltir â’r drisiuc (math o fardd o statws isel):65

A ben uil isin cuili,in tabraid [sic] biad do duine?in tabrai dam, a ben ban,saill [im] loim 7 aran?

Ata formmeni tuga biad im’dorn.berat th’enech,a ben ban,is indisfet dom dean.

O woman who is in the kitchen, will you give a man food? O fair woman, will you give me bacon, milk, butter, and bread? If you do not put food in my fist, O fair woman, I am determined to take your honour and tell it to my teacher.

59 Mae yna nifer o astudiaethau da o wahanol agweddau ar ddychan yn Iwerddon ganoloesol, e.e. Robinson, ‘Satirists and Enchanters’; Howard Meroney, ‘Studies in Early Irish Satire I. “Cis lir fodlaí aíre?”; II. “Glám dícind”’, Journal of Celtic Studies, 1 (1950), 199-226; idem, ‘Studies in Early Irish Satire III. “Tréfhocal fócrai”’, Journal of Celtic Studies, 2 (1953-58), 59-130; Robert C. Elliot, The Power of Satire: Magic, Ritual, Art (Princeton, NJ, 1960), tt. 18-48; Vivian Mercier, The Irish Comic Tradition (Oxford, 1962), tt. 105-81; Ward, ‘Poets and Poetry’, tt. 131-35; Tomás Ó Cathasaigh, ‘Curse and Satire’, Éigse, 21 (1986), 10-15; Kim McCone, ‘A Tale of Two Ditties: Poet and Satirist in Cath Maige Tuired’ yn Sages, Saints and Storytellers: Celtic Studies in Honour of Professor James Carney, gol. Donnchadh Ó Corráin, Liam Breatnach a Kim McCone (Maynooth, 1989), tt. 122-43; Philip O’Leary, ‘Jeers and Judgments: Laughter in Early Irish Literature’, Cambridge Medieval Celtic Studies, 22 (Winter 1991), 15-29; Liam Breatnach, ‘On Satire and the Poet’s Circuit’ yn Unity in Diversity: Studies in Irish and Scottish Gaelic Language, Literature and History , gol. Cathal G. Ó Háinle a Donald E. Meek (Dublin, 2004), tt. 25-35; idem, ‘Satire, Praise and the Early Irish Poet’, tt. 63-65; Catherine Marie O’Sullivan, Hospitality in Medieval Ireland 900-1500 (Dublin, 2004), tt. 35-38; Ó Briain, ‘Satire in Seventeenth- and Eighteenth-Century Gaelic Poetry’, tt. 120-27; McLaughlin, Early Irish Satire; Matheson, ‘Itinerant Drúith’.60 Táin Bó Cúailnge: Recension I, gol. Cecile O’Rahilly (Dulyn, 1976), llau. 2578-82; cyf. t. 196; Táin Bó Cúalnge from the Book of Leinster, gol. eadem, llau. 2619-27; cyf. tt. 211-12.61 Gw. O’Sullivan, Hospitality in Medieval Ireland, tt. 28-29 am enghreifftiau.62 Gw. Breatnach, ‘Satire, Praise and the Early Irish Poet’, tt. 66-67, 68.63 Kelly, Guide to Early Irish Law, tt. 137-39. Am enghraifft lenyddol o hyn, gw. ‘The Prose Tales in the Rennes Dindṡenchas’, gol. Whitley Stokes, Revue celtique, 15 (1894), 272-336, 418-84 (tt. 306-7). Cf. O’Sullivan, Hospitality in Medieval Ireland, t. 36.64 Gw. McCone, ‘Tale of Two Ditties’, tt. 129-30; O’Sullivan, Hospitality in Medieval Ireland, tt. 114-15, 116-17, 158. Am enghreifftiau llenyddol o’r fath ymddygiad, gw. McLaughlin, Early Irish Satire, tt. 8, 201.65 Matheson, ‘Itinerant Drúith’, tt. 61-62.

9

Page 10: pure.aber.ac.uk  · Web viewDychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg

Cymharer hefyd bygythiad y dychanwr Cridenbél i anrhydedd y Dagda yn y chwedl Cath Maige Tuired.66 Mae’r testun cyfreithiol Bretha Nemed Dédenach yn rhybuddio’r beirdd Ní onae, ní ainme i foichlige sét ‘You are not to disfigure, you are not to blemish [trwy ddychan], for the purpose of snatching chattels away’.67 Yn ôl y traddodiad, cynhaliwyd cynhadledd yn Druim Cetta yn swydd Derry yn 575 gyda’r bwriad o alltudio’r beirdd gan eu bod yn gymaint o ormes ar frenhinoedd Iwerddon, a dim ond dylanwad Colum Cille (Columba Sant), a blediodd eu rhan, a enillodd y dydd iddynt.68 Chwedl yw hon,69 ond mae bodolaeth genre o chwedlau gwrth-farddol, yn dychanu’r dychanwyr, yn ddigon i ddangos maint grym y beirdd a’r drwgdeimlad y gallai hyn achosi.70 ‘Antihero’ par excellence y chwedlau hyn yw Athirne, y dychanwr blin a barus, gyda’i ddihiddrwydd seicopathig am ganlyniadau ei weithredoedd. Fel hyn y mae Caoimhín Ó Dónaill yn ei ddisgrifio ‘a depraved poet who is only concerned with pleasuring himself with other men’s wives and with feathering his own nest with booty gained through the abuse of his poetic privileges’.71 Er nad ydynt cyn gased ag Athirne, mae portread y beirdd Dallán Forgaill a Senchán Torpéist yn y chwedl Tromdámh Guaire (‘Ymwelwyr Beichus Guaire’) yn llawn dirmyg: cynrychiolant sefydliad hunanfodlon a llwgr, ac mae astrusi diangen eu gwaith yn tanseilio grym eu mawl a’u dychan fel ei gilydd.72 Mae rhai o’r beirdd eu hunain yn cyfeirio’n chwareus atynt eu hunain fel ysbeiliwyr neu helwyr cyfoeth eu noddwyr.73

Roedd parchus ofn y bardd yn hirhoedlog yn Iwerddon, mae’n debyg. Ym 1539, roedd beirdd yn ogystal ag eglwyswyr yn dystion i gytundeb rhwng Maghnus Ó Domhnail a Tadhg Ó Conchobhair, gyda’r eglwyswyr yn bygwth esgymuniad a’r beirdd dychan pes torrid.74 Yn 1672 cwynodd Thomas Carew bod uchelwyr Iwerddon yn gwobrwyo’r beirdd

66 Cath Maige Tuired: The Second Battle of Mag Tuired, gol. Elizabeth A. Gray (London, 1982), tt. 28-31; cf. O’Sullivan, Hospitality in Medieval Ireland, tt. 23-24.67 Breatnach, ‘Satire, Praise and the Early Irish Poet’, tt. 67-68.68 ‘The Bodleian Amra Choluimb Chille’, gol. Whitley Stokes, Revue celtique, 20 (1899), 30-55, 132-83, 248-87, 400-37; Manus O’Donnell: The Life of Colum Cille, gol. Brian Lacey (Dublin, 1998), tt. 172-90; cf. Williams, Traddodiad Llenyddol Iwerddon, tt. 41-42; O’Sullivan, Hospitality in Medieval Ireland, tt. 169-70.69 John Ryan, ‘The Convention of Druim Ceat (AU 575)’, Journal of the Royal Society of Antiquaries of Ireland, 76 (1946), 35-55; John Bannerman, Studies in the History of Dalriada (Edinburgh & London, 1974), tt. 157-70; Proinsias Mac Cana, ‘Regnum and Sacerdotium: Notes on Irish Tradition’, Proceedings of the British Academy, 65 (1979), 443-79 (tt. 462-67).70 Gw. O’Sullivan, Hospitality in Medieval Ireland, t. 35; Robin Chapman Stacey, Dark Speech: The Performance of Law in Early Ireland (Philadelphia, PA, 2007), tt. 162-63; Rodway, Dating Medieval Welsh Literature, tt. 26-27.71 Talland Étair (Maynooth, 2005), t. 11. Ymhellach ar Athirne, gw. John Rhys, Lectures on the Origin and Growth of Religion as Illustrated by Celtic Heathendom, ail olygiad (London & Edinburgh, 1892), tt. 324-37; Robinson, ‘Satirists and Enchanters’, tt. 116-18; Elliot, Power of Satire, tt. 27, 29-32, 65, n. 39; O’Sullivan, Hospitality in Medieval Ireland, tt. 35-37; Rodway, ‘Ailystyried y Bardd Celtaidd’, t. 34 (gyda chyfeiriadau pellach).72 Tromdámh Guaire, gol. Maud Joynt (Dublin, 1941); cyf. The Celtic Poets: Songs and Tales from Early Ireland and Wales, gol. Patrick K. Ford (Belmont, MA, 1999), tt. 77-111.73 Gw. Katherine Simms, ‘Images for the Role of Bardic Poets’ yn Aon don Éigse: Essays Marking Osborn Bergin’s Centenary Lecture on Bardic Poetry (1912), gol. Caoimhín Breatnach a Meidhbhín Ní Úrdail (Dublin, 2015), tt. 247-60 (tt. 252-53).74 Maura Carney, ‘Agreement between Ó Domhnaill and Tadhg Ó Conchobhair Concerning Sligo Castle (23 June 1539)’, Irish Historical Studies, 3 (1943), 282-96; cf. James Carney, Studies in Irish Literature and History (Dublin, 1955), t. 263; McLaughlin, Early Irish Satire, t. 5. Ceir parodi o gytundeb o’r fath yn Aislinge Meic Con Glinne (gol. Kenneth Jackson (Dublin, 1990), llau. 568-75; cyf. Tom Peete Cross a Clark Harris Slover, Ancient Irish Tales (New York, 1936), tt. 565-66). Bodolai system debyg mewn rhannau o India tan flynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif: ‘Charans [beirdd llys] would act as guarantors of bonds - committing suicide and, so it was said, haunting a defaulting debtor if he failed to pay up as required’ (Charles Allen a Sharad Dwivedi, The Lives of the Indian Princes (London, 1984), t. 31, gan ddyfynnu achos o Kathiawar yn y 1920au).

10

Page 11: pure.aber.ac.uk  · Web viewDychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg

oherwydd ofn dychan.75 Mae sawl un wedi honni bod yr ofn hwn yn dal yn fyw yn yr ugeinfed ganrif. Ym 1911, dywedodd Fred Norris Robinson: ‘the old conception of the destructive satirist, the poet with superior power, whom it is dangerous to displease, has never disappeared among the Gaels of either Ireland or Scotland’.76 Mor ddiweddar â 1951, ysgrifennodd Kenneth Jackson ‘in some parts of Ireland people still hesitate to offend a poet for fear of being satirized’.77 Ni chynigir unrhyw dystiolaeth, ond noder yr hanes canlynol yn hunangofiant Tomás Ó Criomhthain o Ynys y Great Blasket oddi ar arfordir swydd Kerry (1856 – 1937) am ymgyfarfyddiad â bardd:

Ní rabhas róbhaoch dá chomhrá, ach gur bhuail náire mé gan suí ina theannta. Rud eile, do thuigeas mar mbeadh an file baoch díom go ndéanfadh sé leibhéal orm na beadh ar fónamh78

I didn’t care much for what he had to say, but I was rather shy of refusing to sit down with him. Besides, I knew that if the poet had anything against me, he would make a satire on me that would be very unpleasant.79

Mae rhai sylwebwyr modern wedi derbyn hyn yn dystiolaeth bod grym y dychanwr Celtaidd yn fyw ac yn iach yn y cyfnod modern yn y rhannau mwyaf anghysbell o Iwerddon.80 Mae Ó Criomhthain, fel y clerigwyr canoloesol a gynhyrchai’r straeon gwrth-farddol, yn flin â’r bardd, yn ei achos ef oherwydd ei fod yn ei gadw rhag ei waith o dorri mawn, ac mae’n teimlo bod anffawd yn ei ddilyn o’r diwrnod hwnnw allan, er ei fod wedi osgoi cael ei ddychanu. Cymharer stori arall gan Ó Criomhthain a gofnodir gan Robin Flower am dref ar bwys Killarney a ddinistriwyd ar ôl i’w thrigolion droi at farddoniaeth ac esgeuluso’u gwaith.81

Yn anffodus, nid yw Ó Criomhthain yn ymhelaethu ar sut yn union y byddai dychan bardd yr ynys yn ‘annymunol’. Yn Iwerddon yn yr Oesoedd Canol, fodd bynnag, credid y byddai dychan yn codi pothelli ar wyneb y targed.82 Mewn cymdeithas lle yr oedd ‘wyneb’ (enech) hefyd yn golygu ‘anrhydedd’, byddai hyn yn arwydd glir a gweladwy o warth y sawl a ddychanwyd.83 Byddai’r sgil-effeithiau’n ddifrifol iawn i frenhinoedd, o ystyried y ffaith

75 Ó Briain, ‘Seventeenth- and Eighteenth-Century Gaelic Satires’, t. 119.76 Robinson, ‘Satirists and Enchanters’, t. 127.77 A Celtic Miscellany: Translations from the Celtic Literatures, gol. Kenneth Jackson, ail olygiad (Harmondsworth, 1971, t. 195. Cf. Elliott, Power of Satire, tt. 36, 276; Ward, ‘Poets and Poetry’, t. 135, am honiadau tebyg.78 Tomás Ó Criomthain, An tOileánach, gol. Seán Ó Coileáin (Dublin, 1929/2002), t. 102.79 Tomás O’Crohan, The Islandman, cyf. Robin Flower (Oxford, 1937), t. 86. Am y cefndir, gw. Robin Flower, The Western Island or The Great Blasket (Oxford, 1944), tt. 95-99.80 Gw. e.e. Philip Freeman, The Philosopher and the Druids: A Journey among the Ancient Celts (London, 2006), t. 194.81 Flower, Western Island, tt. 17-19; cf. John Wilson Foster, ‘The Islandman’ yn Bláithín : Flower, gol. Mícheál Ó Mórdha (Dingle, 1998), tt. 44-58 (tt. 52, 56).82 Robinson, ‘Satirists and Enchanters’, tt. 112-15; Kelly, Guide to Early Irish Law, t. 44; O’Sullivan, Hospitality in Medieval Ireland, tt. 36, 68; Ó Briain, ‘Seventeenth- and Eighteenth-Century Gaelic Satires’, t. 121; McLaughlin, Early Irish Satire, tt. 82-84; Matheson, ‘Itinerant Drúith’, tt. 70-71.83 Gw. Kelly, Guide to Early Irish Law, tt. 43, 125, n. 1; Kim McCone, Pagan Past and Christian Present in Early Irish Literature (Maynooth, 1990), tt. 124, 172; O’Sullivan, Hospitality in Medieval Ireland, tt. 72-73. Mor bwysig oedd yr enech i hunaniaeth y Gwyddelod canoloesol fel bod glosiwr Würzburg yn defnyddio’r gair hwn i losio’r rhagenw me ‘fi’ ac unusquisque propria ‘pob unigolyn ei hunan’ (Thesaurus Palaeohibernicus gol. Whitley Stokes a John Strachan (Oxford, 1901-3), I, tt. 589, 602 (Wb 14a4, 15c25); cf. O’Leary, ‘Jeers and Judgements’, t. 25). Gellir defnyddio geiriau eraill a olyga ‘wyneb’ neu ‘foch’ yn yr un modd: gw. O’Leary, op cit, tt. 20-21 am enghreifftiau. Cf. Cymraeg wyneb ‘anrhydedd’ (Canu Llywarch Hen, gol. Ifor Williams (Caerdydd, 1935), t. 58; Canu Aneirin, gol. idem, t. 131); wynebwerth ‘pris anrhydedd’ : Hen Lydaweg enep-uuert, cf. Hen Wyddeleg lóg n-enech (Pedeir Keinc y Mabinogi, gol. idem (Caerdydd, 1930), tt. 175-76; Thomas Charles-Edwards, ‘The Date of the Four Branches of the Mabinogi’, Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1970 (1971), 263-98 (t. 277); Eric P. Hamp, ‘enech, ένιπή’, Ériu, 25 (1974), 261-68;

11

Page 12: pure.aber.ac.uk  · Web viewDychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg

bod rhaid i frenhinoedd fod yn gorfforol berffaith yn Iwerddon ganoloesol, ac y gallai nam o ryw fath arwain at golli sofraniaeth.84

Ond gallent fod yn waeth byth. Mae blwyddnodau Iwerddon yn cofnodi sawl achos o farwolaeth oherwydd dychan - y diwethaf, am wn i, oedd Syr John Stanley, Arglwydd Raglaw Iwerddon, a fu farw yn 1414 yn sgil dychan gan deulu Niall Ó hUiginn. Cofnododd yr awdur o Sais Reginald Scot yn ei Discoverie of Witchcraft (1584): ‘The Irishmen will not sticke to affirm that they can rime either man or beast to death’.85 Yn wir, ceir honiadau gan feirdd trwy’r ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif bod eu cerddi’n gallu achosi niwed corfforol neu farwolaeth.86 Mae Patrick S. Dinneen yn cofnodi stori a oedd, mae’n debyg yn cylchredeg ar lafar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, am y bardd Aodhagán Ó Rathaille (c. 1670 - post 1724) yn lladd â’i ddychan, ac yn llwyddo goroesi ymgais i’w ladd yn ei dro trwy’r un dull, er iddo golli rhai o’i wartheg.87 Mor ddiweddar â 1792, credid bod dychan gan y bardd Gaeleg yr Alban Kenneth MacKenzie wedi achosi marwolaeth ei wrthrych.88 Mae Seán Ó Neachtáin (1659-1729), fodd bynnag, fel petai’n cwyno bod grym y beirdd wedi dod i ben yn Iwerddon erbyn ei gyfnod ef: yn ei gerdd ddychan i Cathal Ó Luinín mae’n rhestru’r effeithiau corfforol y byddai dychan wedi cael arno mewn dyddiau a fu:

Do ghearrfaidis ré faoighle a mbeola chroicion buidhe ’s achríonfheoil,go ttuidfeadh sé ’na loghar dhearggan ghruaig, gan díon, go fírshearg

They would rend with the words of their mouths his yellow skin and his withered flesh until he fell down, a red mass, hairless, without covering, completely wasted away.89

Yng ngeiriau Catherine Marie O’Sullivan, ‘Whether the Irish actually believed in the lethal potency of satire or the threat of it had simply faded to a vestigial superstition is open to doubt’.90 Noda Máirtín Ó Briain: ‘There always were individuals within and without the

The Welsh Law of Women, gol. Dafydd Jenkins a Morfydd E. Owen (Cardiff, 1980), t. 220). Cf. grudd ‘anrhydedd’ (Graham C. G. Thomas, ‘Llinellau o Gerddi i Gadwallon ap Cadfan’, Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 26 (1974-76), 406-10 (t. 408); Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr I, gol. Jones a Parry Owen, t. 315). Am y posibiliad bod Hen Wyddeleg lecca ‘boch, gên’ yn gallu golygu ‘gwarth’, gw. ‘Úar in Lathe do Lum Laine’, gol. Máirín O’Daly, yn Celtic Studies: Essays in memory of Angus Matheson 1912 - 1962, gol. James Carney a David Greene (London, 1968), tt. 99-108 (tt. 106-7); Kicki Ingridsdotter, Aided Derbforgaill: The Violent Death of Derbforgaill, traethawd PhD (Uppsala, 2009), ar gael ar y We: http://uu.diva-portal.org/smash/get/diva2:213892/FULLTEXT01.pdf, tt. 42-43. Mae’r cysyniad o gysylltiad agos rhwng wyneb ac anrhydedd yn digwydd fan arall yn y byd, hefyd, e.e. yn Tsieina ac yn Japan - mae’n debyg mai calc ar ymadrodd Tsieineaidd yw’r Saesneg to save/lose face (gw. James Carney, ‘Society and the Bardic Poet’, Studies, 62 (1973), 233-50 (t. 236)). Diolch i Ms Momoko Miyahara am yr wybodaeth am hyn yn Japan.84 Gw. trafodaeth Damian McManus, ‘Good-Looking and Irresistible: The Hero from Early Irish Saga to Classical Poetry’, Ériu, 59 (2009), 57-109 (tt. 58-62).85 Williams, Traddodiad Llenyddol Iwerddon, t. 147; cf. idem, ‘Beirdd y Tywysogion: Arolwg’, Llên Cymru, 11 (1970-71), 3-94 (t. 62). Ar farwolaeth Stanley, gw. ymhellach Bromwich, Aspects of the Poetry of Dafydd ap Gwilym, tt. 62-63; Katharine Simms, ‘Bards and Barons: The Anglo-Irish Aristocracy and the Native Culture’ yn Medieval Frontier Societies, gol. Robert Bartlett ac Angus MacKay (Oxford, 1989), tt. 177-97 (t. 184); O’Sullivan, Hospitality in Medieval Ireland, t. 42, n. 67; Ó Briain, ‘Satire in Seventeenth- and Eighteenth-Century Gaelic Poetry’, t. 124; McLaughlin, Early Irish Satire, t. 5.86 Ó Briain, ‘Satire in Seventeenth- and Eighteenth-Century Gaelic Poetry’, tt. 120-24.87 Dánta Aodhagáin Uí Rathaille/The Poems of Egan O’Rahilly, gol. Patrick S. Dinneen a Tadhg O’Donoghue, ail olygiad (London, 1911), t. xxx; cf. Ó Briain, ‘Satire in Seventeenth- and Eighteenth-Century Gaelic Poetry’, t. 123.88 An Lasair: Anthology of 18th Century Scottish Gaelic Verse, gol. Ronald Black (Edinburgh, 2001), tt. 508-9.89 Ó Briain, ‘Satire in Seventeenth- and Eighteenth-Century Gaelic Poetry’, t. 142.90 Hospitality in Medieval Ireland, t. 42.

12

Page 13: pure.aber.ac.uk  · Web viewDychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg

ambit of the Gaelic cultural world who were impervious to the belief in the destructive power of satire’.91

Nid oes cymaint o dystiolaeth am ofn dychan o Gymru. Dywedodd T. Gwynn Jones ym 1914 ‘The fear of the “cerdd” of the local “prydydd” was general in country districts thirty years ago, though not then on account of any baleful results attributed to it’.92 Ergyd hyn yw mai dyna oedd sail yr ofn ers lawer dydd, ond hwyrach bod yr Hibernophile Jones yn gosod hyn ar batrwm y dystiolaeth o Iwerddon.93 Nid oes sôn am ddychan o gwbl yn y cyfreithiau Cymreig. Mae Nerys Patterson yn dadlau bod hyn yn adlewyrchu gwahaniaethau cymdeithasol rhwng Iwerddon a Chymru yn yr Oesoedd Canol:

There is nothing in the Welsh laws about kings being satirized. The power of the community to harness its aristocracy to its own social needs was probably much less in Wales, even as early as the age of Hywel Dda, than it had been in Ireland during the eighth century. Irish kings based their power upon the co-operation of their base clients. Welsh kings had survived, as Welsh, only inasmuch as they could draw the line against the English at Offa’s Dyke. To this end they were dependent on a nucleus of a mercenary standing army, and that source of power could be turned inwards upon the domestic community to impose social order from above, without consensus.94

Mae Gramadegau’r Penceirddiaid yn condemnio dychan,95 ond nid oherwydd ei sgil-effeithiau dinistriol. Yn hytrach, pwysleisir bod dychan yn perthyn i repertoire y clerwr isel ei statws yn hytrach nag eiddo’r prydydd.96 Cf. gosodiad Trahaearn Brydydd Mawr:

Mal nad un pen-cun cynnar - o brydyddâ bradwr cerdd watwar.

Fel nad [yr] un yw penarglwydd buan o fardd bradychwr cerdd ddychan97

Snobyddiaeth sydd wrth wraidd yr agwedd negyddol hon tuag at ddychan, mae’n siŵr, yn hytrach na phryder am ei effaith ar y gymdeithas. Yn sicr, ni welaf dystiolaeth bod y Cymry canoloesol yn ystyried y beirdd yn bla barus a pheryglus yr oedd rhaid eu ffrwyno, fel y gwnâi’r Gwyddelod yn y cyfnod hwn, a hyn er gwaethaf y ffaith eu bod hwy, fel eu cymheiriaid yn Iwerddon, yn teithio gyda mintai.98

91 ‘Satire in Seventeenth- and Eighteenth-Century Gaelic Poetry’, t. 125.92 ‘Bardism and Romance: A Study of the Welsh Literary Tradition’, Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1913-14 (1915), 205-310 (t. 295).93 Ar T. Gwynn Jones ac Iwerddon, gw., e.e., Llŷr Gwyn Lewis, ‘Cyfieithiadau T. Gwynn Jones a Tadhg Ó Donnchadha o Farddoniaeth Gymraeg a Gwyddeleg’, Ysgrifau Beirniadol, 33 (2014), 11-46.94 ‘Honour and Shame in Medieval Welsh Society’, Studia Celtica, 16/17 (1981/82), 73-103 (t. 99).95 e.e. Gramadegau’r Penceirddiaid, gol. Williams a Jones, t. 35, llau. 10-13.96 Gw. Edwards, Dafydd ap Gwilym, t. 42; McKenna, ‘Bygwth a Dychan’, tt. 110-12.97 Gwaith Gruffudd ap Dafydd, gol. Costigan (Bosco) ac eraill, 13.9-10.98 Gw. Jenny Rowland, Ailystyried y Canu Mawl Cynnar (Aberystwyth, 2016), tt. 10-11, 17-18. Noder y gelwir rhyw Fleddyn yn westai chwai chwydlyd (chwai ‘chwim’) mewn cerdd ddychan ddienw o Lyfr Coch Hergest (Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a Cherddi Dychan Dienw o Lyfr Coch Hergest, gol. Huw M. Edwards (Aberystwyth, 2000), 8.15). Os mai Bleddyn Ddu oedd y Bleddyn hwn (Gwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994), tt. 5-6, 66), yna cawn bortread yn y gerdd hon o fardd a oedd yn westai barus ac annymunol fel y beirdd Gwyddeleg mewn chwedlau megis Tromdámh Guaire. Eto nid oes unrhyw reswm cryf dros uniaethu Bleddyn y gerdd â’r bardd o Fôn (Gwaith Prydydd Breuan, gol. Edwards, t. 120). Mae Edgar Slotkin (‘Maelgwn Gwynedd: Speculations on a Common Celtic Legend Pattern’ yn Heroic Poets and Poetic Heroes in Celtic Tradition: A Festschrift for Patrick K. Ford, gol. Joseph Falaky Nagy a Leslie Ellen Jones (Dublin), tt. 327-35) yn cymharu Tromdámh Guaire â Hanes Taliesin, ond ni phwysleisir barusrwydd y beirdd yn yr olaf. Yn yr un modd, mae’r cyfeiriad enwog at y symiau mawr a delir am gerddi mawl annealladwy y beirdd yn Breuddwyd Rhonabwy (Breudwyt Ronabwy, gol. Melville Richards (Caerdydd, 1948), t. 20, llau. 13-16; Y Mabinogion, diw. Ifans ac Ifans, t. 127) yn dwyn i gof beirdd

13

Page 14: pure.aber.ac.uk  · Web viewDychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg

Serch hynny, mae gennym enghreifftiau o fygwth dychan mewn Cymraeg Canol. Mae’n hysbys iawn bod yna fygythiadau yn y chwedlau rhyddiaith y gellid eu deall fel bygythiadau o ddychan. Yn Culhwch ac Olwen, ar ôl i Gulhwch gael ei rwystro rhag mynd i neuadd Arthur, dywed:

Ot agory y porth, da yw. Onys agory, mi a dygaf anglot y’th arglwyd a drygeir y titheu. A mi a dodaf teir diaspat ar drws y porth hwnn hyt na bo anghleuach ym Penn Pengwaed yg Kernyw ac yg gwaelawt Dinsol yn y Gogled, ac yn Eskeir Oeruel yn Iwerdon. Ac yssyd o wreic ueichawc yn y llys honn, methawd eu beichogi, ac ar nyd beichawc onadunt, ymhoelawd eu calloneu yn vrthtrwm arnadunt mal na bwynt ueichawc byth o hediw allan.99

Os agori di’r porth, da yw; onid agori di ef, fe ddygaf i warth ar dy arglwydd ac enw drwg i tithau. Ac fe roddaf i dair gwaedd o flaen y porth hwn fel na byddo’n llai clywadwy ym mhen Pengwaedd yng Nghernyw ac yng ngwaelod Dinsol yn y gogledd ac yn Esgair Oerfel yn Iwerddon. Ac fe fydd i holl wragedd beichiog y llys hwn erthylu, a’r rhai ohonynt nad ydynt yn feichiog fe fydd i’w crothau drymhau ynddynt fel na fyddant feichiog fyth o heddiw allan.100

Mae Huw Meirion Edwards yn cymharu’r chwedl Wyddeleg am Laidcenn sy’n atal ffrwythlondeb tir Leinster trwy ei ddychan.101 Yn wir, ceir bygythiad i ffrwythlondeb mewn cerdd ddychan Gymraeg gan Rys ap Dafydd ab Einion:

Ni cheir drwy serch na chariadNac epil na hil na had.102

Ond nid bardd mo Gulhwch. Bygwth melltith y mae, efallai, yn hytrach na dychan, i’r fath raddau ag y gallwn wahaniaethu rhwng y ddau.103 Mae’r gair diasbad ‘gwaedd’ yn cysylltu y weithred arfaethedig â’r diasbad uwch Annwfn y cyfeirir ato yn y cyfreithiau fel ffordd o geisio iawndal.104 Cofier hefyd am ddiasbad arall yn llenyddiaeth y Cymry, un gyda chanlyniadau tebyg iawn i’r rhai a fygythir gan Gulhwch, sef sgrech y dreigiau a glywir pob Calan Mai yn Cyfranc Lludd a Llefelys, a achosai anffrwythlondeb i wragedd, ymysg pethau eraill.105 Mae’n debyg bod rhyw gysylltiad rhwng y diasbad hwn ac un Culhwch, ond nid yw’n glir imi beth yw natur y cysylltiad hwnnw.106

annealladwy a barus y chwedlau gwrth-farddol o Iwerddon (cf. Rhian M. Andrews, ‘Cerddi Bygwth a Dadolwch Beirdd y Tywysogion’, Studia Celtica, 41 (2007), 117-36 (t. 135, n. 91)), ond mae’n anodd gwybod yn union beth yw pwrpas awdur y testun anodd yma (gw. trafodaeth gan Rodway, Dating Medieval Welsh Literature, tt. 24-30, a chyfeiriadau pellach). Noder hefyd y cyfeiriad yn Armes Prydein at agawr brydyd (gol. Ifor Williams (Caerdydd, 1955, ll. 193) ‘bardd gwancus’ (op cit, t. xxi).99 Culhwch ac Olwen, gol. Bromwich ac Evans, llau. 103-10.100 Y Mabinogion, gol. Ifans ac Ifans, tt. 82-83.101 Dafydd ap Gwilym, tt. 39-40; gw. Ancient Irish Tales, gol. Cross a Slover, t. 514; Williams, Traddodiad Llenyddol Iwerddon, t. 46. Am fygythiad i atal ffrwythlondeb tir trwy ddychan mewn un o’r chwedlau Hen Wyddeleg am Mongán, gw. Compert Mongáin and Three Other Early Mongán Tales, gol. Nora White (Maynooth, 2006), t. 73 (paragraff 3), cyf. t. 79, a cf. y drafodaeth ar tt. 51-52. Cf. stori am fardd llys o Rajasthan, gogledd India, yn y 1920au, a achosodd sychder trwy’i felltith (Allen a Dwivedi, Lives of the Indian Princes, t. 31).102 Gwaith Prydydd Breuan, gol. Edwards, 5.39-40.103 Gw., e.e. Elliott, Power of Satire, tt. 291-92; Ó Cathasaigh, ‘Curse and Satire’, t. 15. Cymharer deialog tebyg ond llawer cynilach rhwng Conaire a’r wrach Cailb yn y chwedl Hen Wyddeleg Togail Bruidne Da Derga lle nad oes raid i Cailb fanylu ar sgil-effeithiau peidio â chynnig lletygarwch iddi (gol. Eleanor Knott (Dublin, 1936), llau. 572-75; Early Irish Myths and Sagas, cyf. Jeffrey Gantz (Harmondsworth, 1981), 77).104 Patrick K. Ford, ‘Welsh asswynaw and Celtic Legal Idiom’, Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 26 (1974-76), 147-53 (t. 147).105 Gol. Brynley F. Roberts (Dublin, 1975), llau. 35-41; Y Mabinogion, gol. Ifans ac Ifans, t. 76.106 Mae Brynley F. Roberts (Cyfranc Lludd a Llefelys, t. xxxviii) yn cofnodi bod ‘Dragon’s shriek makes land barren’ yn fotiff (B11.12.2) ym mynegai Stith Thompson (Motif-Index of Folk Literature, ail olygiad

14

Page 15: pure.aber.ac.uk  · Web viewDychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg

Ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi, dywed Blodeuwedd fod rhaid iddi wahodd Gronw Pebr i’r llys oherwydd:

ni a gawn yn goganu gan yr unben o’e adu y prytwn y wlad arall, onys gwahodwn107

fe gawn ni ein dilorni gan yr unben am ei adael i fynd i wlad arall yr adeg hon o’r dydd oni wahoddwn ef108

Wrth gwrs, nid bardd oedd Gronw, ychwaith, ac, o ystyried pwysigrwydd lletygarwch fel rhinwedd yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol,109 hwyrach nad yw Blodeuwedd yn ofni mwy na’r gwarth a ddelai yn sgil troi rhywun i ffwrdd. Mewn gwirionedd, o ystyried ei rôl lywodraethol yn yr episod hwn,110 mae’n bosibl mai esgus gwag ydyw, beth bynnag. Eto, mae defnydd y gair goganu yn ogleisiol,111 a noder bodolaeth cerddi dychan am ddiffyg lletygarwch.112

Nid yw’n sicr, felly, bod yr enghreifftiau hyn o’r chwedlau’n berthnasol. Fodd bynnag, mae gennym ddwy gerdd fygwth gan Brydydd y Moch (fl. c. 1174 - 1220), un i Ddafydd ab Owain ac un i Ruffudd ap Cynan.113 Bygwth dychan y mae’r Prydydd, does bosib. Wrth Ruffudd ap Cynan, meddai:

A hwde ddewis o’r rhyddid,Cabl neu glod o’m dyfod dybid.

A dyma iti ddewis mewn rhyddid,/ Deued anfri neu glod o’m dyfod [i’r llys]114

Mae’r ffaith bod y gair bygwth yn ymddangos yn nheitlau’r cerddi hyn yn Llawysgrif Hendregadredd yn ein temptio i’w ddeall fel term technegol am genre adnabyddus, fel y

(Copenhagen, 1955-58)), lle y nodir ei fod yn digwydd mewn ‘Irish myth’, gan gyfeirio at Tom Peete Cross, Motif-Index of Early Irish Literature (Bloomington, IN, 1952). Mae Cross yn ei dro yn cyfeirio’r darllenydd at J. A. MacCulloch, The Religion of the Ancient Celts (London, 1911), t. 114; idem, ‘Celtic’ yn The Mythology of All Races, gol. Louis Herbert Gray (New York, 1918), III, 1-213 (t. 130), ond cyfeirio at Cyfranc Lludd a Llefelys y mae MacCulloch yn y ddau achos! Nid wyf yn ymwybodol bod y motiff yn digwydd mewn llenyddiaeth Wyddeleg, ac yn wir, nid wyf yn gwybod am unrhyw dystiolaeth i awgrymu mai motiff rhyngwladol ydyw.107 Math Uab Mathonwy, gol. Ian Hughes (Aberystwyth, 2000), tt. 408-9.108 Y Mabinogion, gol. Ifans ac Ifans, t. 61.109 Ar hyn gw. Llinos Beverley Smith, ‘On the Hospitality of the Welsh: A Comparative View’ yn Power and Identity in the Middle Ages: Essays in memory of Rees Davies, gol. Huw Pryce a John Watts (Oxford, 2007), tt. 181-94; Sims-Williams, ‘Celtic Civilization’, tt. 16-20. Cf. Sioned Davies, Pedeir Keinc y Mabinogi (Caernarfon, 1989), t. 70.110 Gw. Roberta L. Valente, ‘“Merched y Mabinogi”: Women and the Thematic Structure of the Four Branches’, traethawd PhD (Cornell, 1986), tt. 272-73; Gwynfa M. Adam, ‘Blodeuwedd: Ei Henw a’i Natur’, Dwned, 9 (2003), 9-21 (tt. 11-12).111 Foster Evans, ‘Goganwr am Gig Ynyd’, t. 3. Ar ystod semantig gogan a goganu mewn Cymraeg Canol, gw. McKenna, ‘Bygwth a Dychan’, t. 109, sy’n nodi: ‘Nid ydynt yn cael eu cyfyngu i ymadroddion gwatwarus barddonol neu benodol; gallant ddisgrifio gwawd merch tuag at ei chariad, neu ddirmyg ei bobl tuag at Geraint pan ymwada â maes y twrnameint am yr ystafell wely.’112 Gwaith Dafydd y Coed a Beirdd Eraill o Lyfr Coch Hergest, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 2002), cerddi 7 a 19; Smith, ‘Hospitality of the Welsh’, tt. 187-88; ‘Gwaith yr Ustus Llwyd’, gol. Twm Morys, yn Gwaith Madog Benfras ac Eraill o Feirdd y Bedwaredd Ganrif ar Ddeg , gol. Barry J. Lewis (Aberystwyth, 2007), tt. 309-45 (tt. 329-30). Cf. O’Sullivan, Hospitality in Medieval Ireland, tt. 28, 35-36, 69; McLaughlin, Early Irish Satire, tt. 12-13, am y thema hon mewn canu dychan Gwyddeleg.113 Gwaith Llywarch ap Llywelyn ‘Prydydd y Moch’, gol. Elin M. Jones a Nerys Ann Jones (Caerdydd, 1991), cerddi 2 ac 8; cf. Morfydd E. Owen, ‘Noddwyr a Beirdd’ yn Beirdd a Thywysogion, gol. Roberts ac Owen, tt. 75-107 (tt. 91-92); McKenna, ‘Bygwth a Dychan’, tt. 113-19; Foster Evans, ‘Goganwr am Gig Ynyd’, tt. 3-4; Andrews, ‘Cerddi Bygwth a Dadolwch’.114 Gwaith Llywarch ap Llywelyn, gol. Jones a Jones, 1991, 8.23-24.

15

Page 16: pure.aber.ac.uk  · Web viewDychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg

trefhocal yn Wyddeleg, sef rhybudd ffurfiol o’r bwriad i ddychanu,115 ond mae rhaid cofio mai dim ond dwy gerdd sy’n dwyn y teitl hwn. ‘Anodd yw hawlio genre ar sail dwy enghraifft yn unig’ yw casgliad pwyllog Catherine McKenna, er ei bod,116 gan ddilyn Morfydd E. Owen,117 yn honni bod ‘un o’r cerddi a briodolir i Ddafydd Benfras mewn gwirionedd yn bygwth i Lywelyn ap Gruffudd er nad yw’n dwyn y teitl hwnnw.’118 Yn ogystal, mae Rhian M. Andrews wedi tynnu ein sylw at ddau englyn bygwth (nas gelwir yn fygythion yn y llawysgrifau) o’r ddeuddegfed ganrif,119 un gan Lywelyn Fardd I a’r llall gan Gynddelw Brydydd Mawr.120

Beth am effeithiau dychan y Cymry? Mae darn awgrymog o dystiolaeth o ffynhonnell annisgwyl yn dangos bod yna gred yng Nghymru bod gan ddychanwyr rym goruwchnaturiol. Yn y cyfieithiad Cymraeg Canol o’r testun crefyddol yr Elucidarium, ceir goganwyr am malefici ‘dewiniaid’ y testun Lladin.121 Cefnogir hyn, efallai, gan y farddoniaeth. Yn ei fygwth i Ddafydd ab Owain, mae Prydydd y Moch yn sôn am ei dafod gwenwynig a achosai glwyf nas tyf eli ‘na iachâ eli mohono’.122 Wrth gwrs, gall hyn fod yn drosiad - cf. llysenw y cymeriad annymunol Bricriu Nemthenga ‘tafod gwenwynig’ yn y chwedlau Hen Wyddeleg. Eto, fel y mae Catherine McKenna’n nodi, ‘y mae’r cymal perthynol nas tyf eli yn datblygu’r ffigur mewn ffordd sy’n awgrymu niwed gwrthrychol, naill ai i’r corff neu’r psyche’.123 Dywed Llywelyn Fardd I i elynion Seisnig Owain Gwynedd gael anaf anant ‘niwed [gan] feirdd’.124 Efallai bod hyn yn gyfeiriad at rym eu dychan fel yr awgrymir gan y golygydd, ond eto, o ystyried bod beirdd yn ymladd ochr yn ochr â’u noddwyr yn yr Oesoedd Canol,125 mae’n bosibl mai anafiadau o’r math arferol a olygir yma. Tybed a oes yna gyfeiriad at nam corfforol a achosir gan ddychan mewn cerdd gan Ddafydd y Coed lle y ceir y llinell ’N ei law y caiff mefl a lŷn?126 Wrth fygwth Gruffudd ap Cynan, dywed Prydydd y Moch gyrraf wrid/ I’th ddeurudd ‘paraf i wrid ddod i’th wyneb’.127 Mewn ffordd debyg, mae bardd o’r

115 Gw. Meroney, ‘Studies in Early Irish Satire III’; Uraicecht na Ríar: The Poetic Grades in Early Irish Law, gol. Liam Breatnach (Dublin, 1987), t. 139; idem, ‘Satire and the Poet’s Circuit’, tt. 25-26; McLaughlin, Early Irish Satire, t. 7. Am enghreifftiau, gw. Aithdioghluim Dána, I, Introduction and Text, gol. Lambert McKenna (Dublin, 1939), cerdd 48 (cyfieithiad Saesneg yn Aithdioghluim Dána, II, Translation, Notes, Vocabulary, etc., gol. idem (Dublin, 1940), cerdd. 48); Roisin McLaughlin, ‘A Threat of Satire by Tadhg (mac Dáire) Mac Bruaidheadha’, Ériu, 55 (2005), 119-36.116 ‘Bygwth a Dychan’, tt. 114, 117.117 ‘Noddwyr a Beirdd’, t. 92.118 Am olygiad o’r gerdd, gw. Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o Feirdd Hanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg, gol. N. G. Costigan (Bosco), R. Geraint Gruffydd, Nerys Ann Jones, Peredur I. Lynch, Catherine McKenna, Morfydd E. Owen a Gruffydd Aled Williams (Caerdydd, 1995), cerdd 26. Noder bod y golygydd yn dadlau mai Llywelyn ab Iorwerth, nid Llywelyn ap Gruffudd oedd y gwrthrych (t. 413).119 Andrews, ‘Cerddi Bygwth a Dadolwch’, tt. 117, 118, 125-26.120 Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif, gol. Kathleen Anne Bramley, Nerys Ann Jones, Morfydd E. Owen, Catherine McKenna, Gruffydd Aled Williams a J. E. Caerwyn Williams (Caerdydd, 1994, 3.1-4; Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr II, gol. Nerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (Caerdydd, 1995), 349-54. Er bod y golygyddion yn rhoi’r gerdd olaf mewn Atodiad, ni wêl Rhian Andrews unrhyw reswm dros amau ei dilysrwydd (Andrews, ‘Cerddi Bygwth a Dadolwch’, tt. 125-26). Gelwir yr englyn hwn yn ‘ddychan’ gan ei chopïydd o’r unfed ganrif ar bymtheg, ond nid yw hyn yn golygu mai fel dychan y gwelid y gerdd yn y ddeuddegfed ganrif (Foster Evans, ‘Goganwr am Gig Ynyd’, t. 2).121 Gw. Sarah Rowles, ‘Ar Drywydd y Malefici Cymreig: Darllen rhwng Llinellau’r Elucidarium’, Dwned, 14 (2008), 61-88.122 Gwaith Llywarch ap Llywelyn, gol. Jones a Jones, 2.16. Am ddelweddau tebyg mewn cerddi Gwyddeleg, gw. Simms, ‘Images for the Role of Bardic Poets’, tt. 254-55.123 ‘Bygwth a Dychan’, t. 115.124 Gwaith Llywelyn Fardd I, gol. Bramley ac eraill, 2.68, nodyn ar t. 44.125 Gw. Rodway, ‘Ailystyried y Bardd Celtaidd’, t. 21.126 Gwaith Dafydd y Coed, gol. Daniel, 7.24.127 Gwaith Llywarch ap Llywelyn, gol. Jones a Jones, 8.19-20.

16

Page 17: pure.aber.ac.uk  · Web viewDychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg

bymthegfed ganrif yn dymuno i’w ddialedd ddod i dalcen ei wrthrych.128 Mae hyn yn dwyn i gof y pothelli ar wynebau gwrthrychau dychan y beirdd Gwyddeleg, ond efallai mai cyfeiriad at gochi oherwydd cywilydd yn hytrach nag at unrhyw rym goruwchnaturiol y mae’r beirdd Cymraeg yma. Yn bendant, does dim sôn penodol am bothelli yn y cerddi Cymraeg. Mae nifer o feirdd diweddar, gan gynnwys Siôn Tudur,129 yn dyfynnu’r ddihareb Taua6t a dyrr asg6rn,130 ond dihareb gydwladol yw hon, a ddaw yn y pen draw o’r Beibl: ‘Trwy hirymaros y bodlonir pendefig: a thafod esmwyth a dyr asgwrn’ (Diarhebion, 25: 15).131 Nid tystiolaeth am gred frodorol ydyw, felly.132 Noder, fodd bynnag, y term cyfreithiol gweli tafod ‘clwyf a achosir gan y tafod; sarhâd’, a ddefnyddir hefyd gan Ddafydd ap Gwilym.133

Fodd bynnag, mae yna draddodiadau yng Nghymru am ddychan yn achosi marwolaeth. Yr enwocaf o’r rhain yw’r hanes am Rys Meigen, a gyfansoddodd gerdd hynod o anweddus am fam Dafydd ap Gwilym, gan honni (mewn termau coch iawn) ei fod wedi cael rhyw â hi. Fel mae pawb yn gwybod, nid yw dynion yn ymateb yn dda i unrhyw sarhad i’w mamau! Atebodd Dafydd gyda cherdd ddychan hynod o sbeitlyd,134 ac yn ôl nodyn a geir mewn dwy lawysgrif, bu farw Rhys yn y fan a’r lle pan glywodd y gerdd honno.135 Mewn gwirionedd, mae Dafydd yn honni mewn cywydd i Ruffydd Gryg ei fod wedi lladd Rhys ‘â gwawd’.136 Gellir cymharu nodyn yn Llyfr Coch Hergest sy’n rhagflaenu cerdd ddychan gan Drahaearn Brydydd Mawr:

Trahaearn Brydydd Mawr a’i cant i Gadwgan Ficar a’i ddaw ac y llosges ei dŷ y Calan nesaf wedy ei ddychanu yn nos Nadolig ac y llas ei ddaw137

Ceir hanes sy’n syndod o debyg i hyn mewn llythyr gan Ifan Richards, Bryncroes a gyhoeddwyd ym 1796:

Y mae lle a elwir Tir y Dref, ac yno lawer o hen furiau drylliedig a elwir Cwmmwd Tindywydd - a’r [sic] dir Coch-y-moel y mae’r hen adfail ddywededig. Dywedir hefyd mae ar dan yr aeth y Dref o achos i’r trigolion naccau rhoi lletty i ryw Brydydd yr hwn a’i melldithiodd fel y canlyn-

Dinas sy fry ar y fron - ac yn i [sic]

128 Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym o Grynhoad Owen Jones (Owain Myfyr), William Owen (Dr. W. Owen Pughe) ac Edward Williams (Iolo Morganwg), gol. Robert Ellis (Cynddelw) (Lerpwl, 1873), CCXXV.19-20; cf. Edwards, Dafydd ap Gwilym, t. 40, n. 8.129 Gwaith Siôn Tudur, gol. Enid Roberts (Caerdydd, 1980), 188.40-42.130 Diarhebion Llyfr Coch Hergest, gol. Richard Glyn Roberts (Aberystwyth, 2013), t. 33, ll. 1056; ‘Hen Ddiarhebion (Llyfr Du o’r Waun, td. 32)’, gol. Ifor Williams, Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 3 (1926-27), 22-31 (t. 27).131 Gw. Archer Taylor, The Proverb and Index to ‘The Proverb’ (Hatboro, PA & Copenhagen, 1962), tt. 58-59; Diarhebion Llyfr Coch Hergest, gol. Roberts, tt. 103-4.132 contra Rodway, Dating Medieval Welsh Literature, t. 28, n. 76.133 Cyfreithiau Hywel Dda yn ôl Llyfr Blegywryd (Dull Dyfed), gol. Stephen J. Williams a J. Enoch Powell (Caerdydd, 1942), tt. 9, 118, 119; Cerddi Dafydd ap Gwilym, gol. Dafydd Johnston, Huw Meirion Edwards, Dylan Foster Evans, A. Cynfael Lake, Elisa Moras a Sara Elin Roberts (Caerdydd, 2010), ar gael ar y We: http://www.dafyddapgwilym.net/, 6.125.134 Op cit, cerdd 31.135 Bromwich, Aspects of the Poetry of Dafydd ap Gwilym, tt. 16-17, 48, 62-63; Twm Morys, ‘Bob Dalen ar Benillion’, Barddas, 215 (Mawrth 1995), 16-17 (t. 17); Celtic Poets, gol. Ford, t. 151; Johnston, Llên yr Uchelwyr, tt. 376-77; Cerddi Dafydd ap Gwilym, gol. Johnston ac eraill, tt. 618, 620-21.136 Op cit, 28.58-60. Nid yw Gruffydd yn ofni grym tafod Dafydd, fodd bynnag, gan ddatgan nid mi Rhys Meigen (op cit, 27.66), ac â yn ei flaen i honni (mewn modd fwy cynnil) ei fod yntau wedi cysgu â mam Dafydd (op cit, 29.49-58)! Gw. trafodaeth Bromwich, Aspects of the Poetry of Dafydd ap Gwilym, t. 49. Cymharer y gŵr yn y cywydd ‘Y Cwt Gwyddau’ sy’n datgan Arfau drwg i ddigoni/ Yw’r cywyddau sydd dau di ‘Arfau gwael i wneud gwrhydri/ Yw’r cywyddau sy’n perthyn i ti’ (Cerddi Dafydd ap Gwilym, gol. Johnston ac eraill, 67.19-20).137 Gwaith Gruffudd ap Dafydd, gol. Costigan (Bosco) ac eraill, cerdd 12.

17

Page 18: pure.aber.ac.uk  · Web viewDychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg

Ganoedd o drigolionI’r ulw hyll yr elo honA diango dy Engion.138

Yn ôl nifer o lawysgrifau, bu farw’r llwynog a ddychanwyd gan Rys Goch Eryri, a hyn o achos grym y gerdd.139 Mae hyn yn ddiddorol yn sgil y traddodiadau am feirdd Iwerddon yn lladd anifeiliaid (yn enwedig llygod) â dychan. Mae’r rhain, efallai, yn tarddu o episod yn y chwedl ddychanus Tromdámh Guaire lle mae Senchán Torpéist yn dychanu llygod gan achosi i ddeg ohonynt farw.140 Posibiliad arall yw bod y chwedl hon yn dyst i fodolaeth traddodiadau o’r fath erbyn yn yr Oesoedd Canol. Roedd y traddodiadau hyn yn hysbys yn Lloegr yn oes Elisabeth, ac mae Ben Johnson a William Shakespeare yn cyfeirio atynt141. Roeddynt yn fyw yn Iwerddon a’r Alban hyd yr ugeinfed ganrif,142 ac ymddengys fod yr ysgolhaig Eugene O’Curry wedi ceisio hyn, yn aflwyddiannus, rywdro cyn 1855!143 Ond, er gwaethaf y ffaith bod llenyddiaeth ganoloesol y Cymry yn cofnodi gormes llygod,144 nid oes sôn am eu dychanu. Nid oes unrhyw dystiolaeth bod beirdd Cymru y bymthegfed ganrif yn ymwybodol o’r traddodiad Gwyddeleg hwn. Mewn gwirionedd, mae David Fitzgerald yn dyfynnu comparandum sy’n nes byth at gerdd Rhys Goch Eryri i’r llwynog, lle y bu farw llwynog ar ôl cael ei ddychanu gan y bardd Hallgrimr Petursson o Wlad yr Iâ.145

Yn ogystal, mae nifer go fawr o gerddi dychan Cymraeg yn dymuno neu’n proffwydo marwolaeth i’w gwrthrychau.146 Noder yn enwedig agoriad dychan Dafydd y Coed i Ddafydd ap Rhys ab Ieuan:

Gwnaf drwy nod anghlod â’m englyn - yn farwDaer agarw darogyn

Paraf trwy farc anghlod â’m henglyn [fod] yn farw/ Bryfyn ffyrnig [a] drygionus147

Yma, awgrymir y bydd rhyw ‘nod’ yn achosi marwolaeth y gwrthrych: mae’n anodd peidio â meddwl am y pothelli a achoswyd gan ddychan y beirdd Gwyddeleg.148

138 Williams, ‘Beirdd y Tywysogion: Arolwg’, t. 62.139 Gwaith Rhys Goch Eryri, gol. Dylan Foster Evans (Aberystwyth, 2007), 146-47. Cf. Cerddi Dafydd ap Gwilym, gol. Johnston ac eraill, 2010, 60.48, lle disgrifir y llwynog fel llewpart â dart yn ei din, trosiad am ei gynffon, yn ôl y dehongliad arferol, ond gellid ei deall fel cyfeiriad at ‘the dart of the poet’s satire’ yn ôl Marged Haycock a Patrick Sims-Williams (‘Welch vch “fox?” in the Book of Taliesin’, Cambrian Medieval Celtic Studies, 73 (Summer 2017), 21-30 (t. 27)).140 Tromdámh Guaire, gol. Joynt, tt. 22-23; Celtic Poets, gol. Ford, tt. 96-97.141 Gw. Robinson, ‘Satirists and Enchanters’, tt. 95-97.142 Iain Thornber, ‘Rats’, Transactions of the Gaelic Society of Inverness, 55 (1986-88), 128-47; John A. Morrison, ‘Drumming Tunes: A Study of Gaelic Rat Satires’, Transactions of the Gaelic Society of Inverness, 57 (1990-92), 273-364; An Lasair, gol. Black, t. 476.143 Robinson, ‘Satirists and Enchanters’, t. 96.144 e.e. Michael Lapidge, ‘The Welsh-Latin Poetry of Sulien’s Family’, Studia Celtica, 8-9 (1973/74), 68-106 (tt. 92-93); Manawydan Uab Llyr, gol. Ian Hughes (Caerdydd, 2007), llau. 248ff.; Y Mabinogion, gol. Ifans ac Ifans, 1980, 42ff.145 ‘Early Celtic History and Mythology’, Revue celtique, 6 (1883-85), 193-259 (t. 195).146 Gw. yr enghreifftiau a restrir yn Edwards, Dafydd ap Gwilym, t. 41. Gellir ychwanegu Gwaith Bleddyn Ddu, gol. Daniel, cerdd 7; Dafydd ap Gwilym: Apocrypha, gol. Helen Fulton (Llandysul, 1996), 28.31-32.147 Gwaith Dafydd y Coed, gol. Daniel, 7.1-2.148 Cf. op cit, tt. 78-79. Mae R. Iestyn Daniel (‘Y Gwyddelyn: Cymeriad Dychmygol ynteu Bardd Hanesyddol?’, Dwned, 12 (2006), 107-11 (t. 111)) yn dadlau bod Iolo Goch yn dymuno achosi dallineb i’r Gwyddelyn yn ei ddychan iddo (Gwaith Iolo Goch, gol. Dafydd Johnston (Caerdydd, 1988), XXXVII.67), ond ymddengys imi fod Iolo yn honni bod gwrthrych ei gerdd yn ddall yn barod. Mae tynnu sylw at ddiffygion corfforol yn gyffredin mewn canu dychan (gw. McLaughlin, Early Irish Satire, tt. 15-19, am hyn yn y canu dychan Gwyddeleg, ac am enghraifft o fardd o Wyddel yn tynnu sylw at nam ar lygaid gwrthrych ei ddychan, gw. Ó

18

Page 19: pure.aber.ac.uk  · Web viewDychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg

Ond hwyrach na ddylwn gymryd pob un o’r marwolaethau honedig hyn o ddifrif. Wedi’r cwbl, roedd cyfansoddi ffug farwnadau i bobl a oedd yn dal ar dir y byw yn arfer cyffredin ymysg beirdd Cymraeg yr Oesoedd Canol diweddar.149 Perthyn y rhain i draddodiad hirhoedlog o dynnu coes ymysg beirdd Cymru a adlewyrchir hefyd mewn defodau fel y cyff clêr (defod lle y gwnaed prydydd yn gyff gwawd ei gyd-feirdd) a’r ymryson barddol.150 Mae Dafydd Johnston wedi dadlau mai i achlysur felly y perthyn gerdd Rhys Meigen ac ymateb Dafydd ap Gwilym:

Efallai i Rys Meigen fynd y tu hwnt i’r ffiniau derbyniol ac ennyn dicter gwirioneddol, neu’n fwy tebygol, o gofio’r elfen gref o or-ddweud a ffantasi yn nefod y cyff clêr, mai chwarae ffug oedd y cwbl.151

Mae’n bosibl bod rhai o’r cerddi dychan Gwyddeleg i feirdd wedi’u canu ar achlysuron tebyg.152 Byddai’r gerdd ddychan gan Cathal Mac Muireadhaigh ar fardd sâl wedi bod yn addas i achlysur o’r fath,153 ond nid oes yna dystiolaeth gadarn am gyd-destun y cerddi hyn.

Fodd bynnag, mae golwg difrifol ar rai o’r bygythiadau yn y dychangerddi Cymraeg: yn wir, mae rhai o’r cerddi’n ymdebygu i felltithion. Yr enghraifft amlycaf, efallai, yw cerdd gan y Nant,154 bardd crwydrol o ail hanner y bymthegfed ganrif, sy’n dymuno pob math o anffawd erchyll i griw o ladron ac i drigolion siroedd Caerfyrddin a Cheredigion yn gyffredinol. Yng ngeiriau ei golygydd diweddaraf:

Briain, ‘Satire in Seventeenth- and Eighteenth-Century Gaelic Poetry’, t. 133). Ar feirdd dall yn Iwerddon, yr Alban a Chymru, gw. Rodway, ‘Ailystyried y Bardd Celtaidd’, tt. 38-41.149 Bromwich, Aspects of the Poetry of Dafydd ap Gwilym, tt. 159-62; Huw M. Edwards, ‘Murnio Marwnadau: Golwg ar y Ffugfarwnad yng Nghyfnod y Cywydd’ yn Genres y Cywydd, gol. Bleddyn Owen Huws a Cynfael Lake (Talybont, 2016), tt. 71-92. Am enghraifft bosibl yng Ngaeleg yr Alban, gw. Scottish Verse from the Book of the Dean of Lismore, gol. W. J. Watson (Edinburgh, 1978), t. 285. Cf. Ó Briain, ‘Satire in Seventeenth- and Eighteenth-Century Gaelic Poetry’, tt. 121-22; Katharine Simms, ‘O’Friel’s Ghost’ yn Sacred Histories: A Festschrift for Máire Herbert, gol. John Carey, Kevin Murray a Caitríona Ó Dochartaigh (Dublin, 2015), tt. 401-8 (tt. 404-5). Noder bod y ‘mock elegies’ Gwyddeleg a drafodir gan Ó Briain, ‘Satire in Seventeenth- and Eighteenth-Century Gaelic Poetry’, yn gerddi dychan cynnil i wrthrychau a oedd wedi marw yn rhith marwnadau confensiynol: nid ydynt, felly, yn debyg iawn i’r ffug-farwnadau Cymraeg.150 Gwaith Iolo Goch, gol. Johnston, t. xxii; Jerry Hunter, ‘Professional Poets and Personal Insults: Ad Hominem Attacks in Late Medieval Welsh Ymrysonau’, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium, 13 (1993), 54-65; idem, ‘Cyd-destunoli Ymrysonau’r Cywyddwyr: Golwg ar yr “Ysbaddiad Barddol”’ yn Genres y Cywydd, gol. Huws a Lake, tt. 93-108. Cf. Dylan Foster Evans, adolygiad o Gwaith Madog Dwygraig, gol. Huw M. Edwards (Aberystwyth, 2006), Cambrian Medieval Celtic Studies, 61 (Summer 2011), 95-97 (t. 97): ‘satires [...] were in general a part of an evening’s entertainment in a patron’s court, in which individual poets would compete to outdo each other in their vituperativeness’. Noder bod Eurig Salisbury wedi dangos nad yw’r term cyff Nadolig yn cyfeirio at ddefod o’r fath, fodd bynnag (‘Cyff Nadolig’, Dwned, 17 (2011), 123-30). Mae’n bosibl bod gan y ffug-farwnad bwrpas mwy difrifol yn wreiddiol, fel dyfais i fynegi ffyddlondeb a chariad y bardd i’w noddwr. Yn ei ddarlith goffa i T. H. Parry-Williams (‘“I, not I”: The Literary Self in Medieval Welsh Poetry’, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, 26 Ebrill 2017), cymharodd yr Athro Thomas Owen Clancy’r gerdd fawl i Urien yn Llyfr Taliesin lle mae’r bardd yn dychmygu bod ei arglwydd wedi cael ei ladd ar faes y gad (Canu Taliesin, gol. Ifor Williams (Caerdydd, 1960), cerdd V; Yr Aelwyd Hon, gol. Gwyn Thomas (Caerdydd, 1970), t. 32).151 Llên yr Uchelwyr, t. 377. Cf. Cerddi Dafydd ap Gwilym, gol. Johnston ac eraill, t. 621. Ond ystyrir yno hefyd y posibiliad bod cerdd Dafydd wedi achosi marwolaeth Rhys mewn gwirionedd: ‘diau y byddai Rhys Meigen ei hun yn credu yng ngrym y dychan. Gallasai arswyd beri iddo fynd yn sâl a marw yn y fan a’r lle neu’n fuan wedyn.’ Cf. Rowles, ‘Ar Drywydd y Malefici Cymreig’, t. 78: ‘Ai cynddaredd yn unig a barodd i bwysau gwaed Rhys Meigen godi i’r enrychion a’i ladd [...], ynteu a gafwyd yma enghraifft o’r hen ofn yn parhau?’ Mae Patrick Ford, ar y llaw arall, yn ystyried y posibilrwydd nad oedd Rhys Meigen yn ddyn o gig a gwaed o gwbl, ond yn ffrwyth dychymyg Dafydd (Celtic Poets, t. 151).152 Gw. McLaughlin, Early Irish Satire, t. 28; cf. Ó Briain, ‘Satire in Seventeenth- and Eighteenth-Century Gaelic Poetry’, t. 121.153 David Greene, ‘A Satire by Cathal Mac Muireadhaigh’ yn Celtic Studies, gol. Carney a Greene, tt. 51-55.154 Gwaith y Nant, gol. Huw M. Edwards (Aberystwyth, 2013), cerdd 14.

19

Page 20: pure.aber.ac.uk  · Web viewDychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg

Nodwedd fwyaf trawiadol y gerdd hon yw’r ailadrodd fformiwläig yn llau. 89-112 sy’n golygu bod y felltith, ar fesur rhythmig y Nant, yn ymdebygu i weddi neu swyngyfaredd ddefodol.155

Mae dymuniad y Nant i weld y lladron yn cael eu gyrru i uffern bydew (ll. 40) yn dwyn i gof dychan y Mab Cryg i ryw Sais o’r enw Griffri sydd wedi boddi mewn afon ar ôl carcharu’r bardd yn anghyfiawn, lle mae’n dymuno iddo sychu wrth dân yr uffern.156 Tybed a oes yna awgrym mai grym cyfriniol y bardd a achosodd ei farwolaeth?157 Mae crefft y cerddi hyn yn wahanol iawn i gywyddau mawreddog y cyfnod, ac mae’n bosibl eu bod yn cynrychioli traddodiad poblogaidd a ffynnai ers cyn cof ymysg y bobl gyffredin yng Nghymru.158 Rydym yn gwybod bod yna draddodiad o felltithio lladron ym Mhrydain yn y cyfnod Rhufeinig: mae cannoedd o enghreifftiau wedi’u darganfod mewn safleoedd megis Caerfaddon ac Uley. Er bod y rhan fwyaf ohonynt yn Lladin, mae yna gwpl sy’n debyg o fod yn Frythoneg.159 Ceir tystiolaeth o’r Oesoedd Canol diweddar am draddodiad is-lenyddol o swynion yng Nghymru:160 tybed a oroesai traddodiad tebyg o felltithio ochr yn ochr â hwn? Ceir swynion yn Wyddeleg o’r nawfed ganrif ymlaen.161 A dweud y gwir, ceir un swyn Wyddeleg Canol mewn llawysgrif Gymreig: Cotton Vespasian A.xiv, a gopïwyd, mae’n debyg, yn Nhrefynwy c. 1200. Mae’r swyn (sy’n hynod garbwl) yn digwydd mewn testun Lladin, Buchedd Máedóc. Mae un o olynwyr Máedóc, Mo Ling, yn cysgu ar wely’r sant ac yn mynd yn sâl o ganlyniad. Mae’n gwella ei hunan trwy ynganu’r swyn.162 Gellir cymharu geiriau Gwyddeleg mewn swynion Hen Saesneg a Lladin,163 a thystiolaeth am y defnydd o’r Wyddeleg mewn swynion

155 Op cit, t. 127. Cf. Jones, ‘Bardism and Romance’, t. 298; Williams, ‘Beirdd y Tywysogion: Arolwg’, t. 63; Edwards, Dafydd ap Gwilym, tt. 50-51. Cymharer y melltith Gwyddeleg ofnadwy o’r ddeunawfed ganrif i Moll Dunlea a ddyfynnir gan Ó Briain, ‘Satire in Seventeenth- and Eighteenth-Century Gaelic Poetry’, t. 132. Am gerddi Gwyddeleg sy’n cynnwys dymuniadau i ladd neu anafu, gw. McLaughlin, Early Irish Satire, tt. 11-12.156 Gw. Morys, ‘Bob Dalen ar Benillion’; Gwaith Dafydd y Coed, gol. Daniel, t. 176.157 Op cit, t. 175.158 e.e. Edwards, Dafydd ap Gwilym, tt. 49-50.159 gw., e.e., R. S. O. Tomlin, ‘Was Ancient British Celtic Ever a Written Language? Two Texts from Roman Bath’, Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 34 (1987), 18-25; Alex Mullen, ‘Evidence for Written Celtic from Roman Britain: A Linguistic Analysis of Tabellae Sulis 14 and 18’, Studia Celtica, 41 (2007), 31-45; Tatyana A. Mikhailova, ‘British and Roman Names from the Sulis-Minerva Temple: Two Solutions to an Old Problem’ yn ‘Yn llawen iawn, yn llawn iaith’: Proceedings of the 6th International Colloquium of Societas Celto-Slavica, gol. Dafydd Johnston, Elena Parina a Maxim Fomin (Aberystwyth, 2015), tt. 31-46. Gw. hefyd y cyfeiriadau a restrir yn Rodway, Dating Medieval Welsh Literature, t. 3, n. 6.160 Brynley F. Roberts, ‘Rhai Swynion Cymraeg’, Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 21 (1964-66), 198-213; Cerddi Dafydd ap Gwilym, gol. Johnston ac eraill, 63.9-10, nodyn ar t. 657.161 e.e. Thesaurus Paleohibernicus, gol. Stokes a Strachan, II, tt. 248-50; Kuno Meyer, Learning in Ireland in the Fifth Century and the Transmission of Letters (Dublin, 1913), tt. 16-18; idem, ‘An Old Irish Prayer for Long Life’ yn Miscellany Presented to John Macdonald Mackay, Ll.D., gol. Oliver Elton (Liverpool, 1914), tt. 226-32; R. I. Best, ‘The St Gall Incantation against Headache’, Ériu, 8 (1916), 100; idem, ‘Some Irish Charms’, Ériu, 21 (1952), 27-32; James a Maura Carney, ‘A Collection of Irish Charms’, Saga och sed: Kungl. Gustav Adolfs akademiens årsbok, 1960, 144-52; McCone, Pagan Past and Christian Present, tt. 207-9; John Carey, ‘Téacsanna Draíochta in Éirinn sa Mheánaois Luath’, Léachtaí Cholum Cille, 30 (2000), 98-117; King of Mysteries: Early Irish Religious Writings, gol. idem (Dublin, 2000), tt. 127-38; idem, ‘Three Cétnada’ yn Mélanges en l’honneur de Pierre-Yves Lambert, gol. Guillaume Oudaer, Gaël Hily a Herve Le Bihan (Rennes, 2015), tt. 219-35; David Stifter, ‘A Charm for Staunching Blood’, Celtica, 25 (2007), 251-54; Jacqueline Borsje, ‘The Second Spell in the Stowe Missal’ yn Lochlann: Festschrift til Jan Erik Rekdal på 60-årsdagen, gol. C. Hambro a L. I. Widerøe (Oslo, 2013), tt. 12-26. Yn Acallam na Senórach, gwelwn y broses o Gristioneiddio traddodiad paganaidd o swynion yn erbyn gormesoedd goruwchnaturiol (gw. Ann Dooley, ‘Pagan Beliefs and Christian Redress in Acallam na Senórach’ yn Celtic Cosmology: Perspectives from Ireland and Scotland, gol. Jacqueline Borsje, Ann Dooley, Séamus Mac Mathúna a Gregory Toner (Toronto, 2014), tt. 249-67 (tt. 262-65)).162 Sims-Williams, Irish Influence, tt. 21-23.163 Howard Meroney, ‘Irish in the Old English Charms’, Speculum, 20 (1945), 172-82; Alderik Blom, ‘Linguae sacrae in Ancient and Medieval Sources: An Anthropological Approach to Ritual Language’ yn

20

Page 21: pure.aber.ac.uk  · Web viewDychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg

yng Ngwlad yr Iâ.164 Yn ôl Charles Plummer, ‘Irish was regarded as the language par excellence of magical formulae’.165 Mae’r glám dícenn ‘?dychan di-ben’ yn y traddodiad Gwyddeleg fel petai’n rhychwantu’r ffin rhwng melltith (yr amodau penodol am ei berfformiad, a’r cysylltiad â corrguinecht ‘dewiniaeth’) a dychan barddol (ei natur fydryddol, ei ddosbarthiad gyda gwahanol fathau o ddychan yn y testunau cyfreithiol, y pothelli mae’n eu hachosi ar wyneb y targed).166 Fodd bynnag, nid wn am unrhyw dystiolaeth bod y traddodiad o felltithio a dychanu Gwyddelig yn hysbys yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol.167

Bid a fo am hynny, ni ddylid, o reidrwydd, gweld gwreiddiau’r cerddi melltithio a drafodir uchod yng nghonfensiynau rhyw gyfundrefn farddol Geltaidd. Fodd bynnag, yn enwedig erbyn y bymthegfed ganrif, mae’n anodd tynnu llinell pendant rhwng etifeddion traddodiad yr hen feirdd mawl a’r rhigymwyr cyffredin a elwir yn glêr. Yn aml, mae’n amhosibl barnu a oedd y beirdd o ddifrif ai peidio. Ym 1996, awgrymodd Huw Meirion Edwards mai math o felltith oedd cerdd Madog Dwygraig i’r wrach,168 ond yn 2006, dywed: ‘Haws credu, fodd bynnag, mai codi chwerthin oedd y nod’.169 Os felly, gellid ystyried y gerdd hon fel ffrwyth rhyw ddefod gellweirus gan feirdd proffesiynol yn lle ffrwyth traddodiad sinistr y melltithion poblogaidd. Yn bendant, mae Madog Dwygraig yn rhychwantu’r ddau fyd hynny.170

Mae yna fath arall o dystiolaeth Gymraeg sydd, fe dybiwn i, yn berthnasol i’r cwestiwn hwn, sef y cerddi iacháu, h.y. cywyddau y credid bod ganddynt y grym i wella claf.171 A yw’r rhain yn tystio i gred yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol diweddar bod gan eiriau bardd y grym i effeithio ar gorff arall er gwell neu er gwaeth?

Pa mor unigryw yw’r traddodiadau Gwyddeleg a Chymraeg am ddychan y beirdd? Mae nifer o ysgolheigion dros y blynyddoedd wedi tynnu sylw at gredoau tebyg o ddiwylliannau eraill. Mae Fred Norris Robinson yn crybwyll ofn dychan beirdd Gwlad yr Iâ a’r cyfreithiau i’w ffrwyno,172 gan ddyfynnu geiriau’r Ffrancwr Isaac de la Peyrère a ymwelodd â Gwlad yr Iâ yn yr ail ganrif ar bymtheg gan honni bod pobl yn ofni dychan Multilingualism in the Graeco-Roman Worlds, gol. Alex Mullen a Patrick James (Cambridge, 2012), tt. 124-40 (tt. 136-37).164 Carney a Carney, ‘Collection of Irish Charms’, tt. 144-45; Blom, ‘Linguae sacrae’, t. 136.165 Vitae Sanctorum Hiberniae (Oxford, 1910), I, t. clx, n. 1.166 Ar glám dícend, gw. Meroney, ‘Studies in Early Irish Satire I’, tt. 212-26; Uraicecht na Ríar, gol. Breatnach, t. 140; Jacqueline Borsje, ‘Approaching Danger: Togail Bruidne Da Derga and the Motif of Being One-Eyed’ yn Identifying the ‘Celtic’, gol. Joseph Falaky Nagy (Dublin, 2002), tt. 75-99 (tt. 92-96); McLaughlin, Early Irish Satire, tt. 82-84.167 Mae Bernard Mees (Celtic Curses (Woodbridge, 2009)) wedi llunio astudiaeth uchelgeisiol o felltithion a swynion ‘Celtaidd’, o’r hen gyfnod i Iwerddon ganoloesol, ond nid yw ei gasgliadau am y traddodiad honedig hwn yn argyhoeddi. Gw., e.e., adolygiad beirniadol Mark Williams (Cambrian Medieval Celtic Studies, 61 (Summer 2011), 99-100).168 Edwards, Dafydd ap Gwilym, t. 51.169 Gwaith Madog Dwygraig, gol. idem, t. 131.170 Saunders Lewis, Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg, I, Hyd at 1535 (Caerdydd, 1932), tt. 72-73; Gruffydd Aled Williams, ‘The Literary Tradition to c. 1560’ yn History of Merioneth, II, The Middle Ages, gol. J. Beverley Smith a Llinos Beverley Smith (Cardiff, 2001), tt. 507-628 (tt. 552-55); Gwaith Madog Dwygraig, gol. Edwards, t. 3.171 Gw. Johnston, Llên yr Uchelwyr, tt. 306-10; Bleddyn Owen Huws, ‘“Llawer dyn.../ Â chywydd a iachawyd”: Guto’r Glyn yr Iachawr’ yn Gwalch Cywyddau Gwŷr: Ysgrifau ar Guto’r Glyn a Chymru’r Bymthegfed Ganrif/Essays on Guto’r Glyn and Fifteenth-Century Wales, gol. Dylan Foster Evans, Barry J. Lewis ac Ann Parry Owen (Aberystwyth, 2013), tt. 283-303; idem, ‘Y Cywydd Iacháu ac Anthropoleg Feddygol’, Ysgrifau Beirniadol, 33 (2014), 140-53.172 ‘Satirists and Enchanters’, tt. 101-2. Cf. Donald Ward, ‘The Satirical Song: Text versus Context’, Western Folklore, 36 (1977), 347-54 (t. 350). Yn Norwy ac yng Ngwlad yr Iâ roedd y cerddi dychanol a elwid yn níð yn anghyfreithlon, a gallai eu perfformio arwain at alltudiaeth neu hyd yn oed farwolaeth (Ross, History of Old Norse Poetry, t. 41).

21

Page 22: pure.aber.ac.uk  · Web viewDychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg

‘gwenwynig’ y beirdd fel yr ofnent frathiad ci cynddeiriog.173 Ceir digon o dystiolaeth o ffynonellau Hen Norseg am y gred bod gan farddoniaeth ‘the power to affect its victims with physical harm and mental hurt as well as to damage their reputations’.174 Rydym eisoes wedi clywed yr hanes am Hallgrimr Petursson yn lladd llwynog â’i ddychan. Mae Nora K. Chadwick yn tynnu’n sylw at chwedl ganoloesol am fardd o Wlad yr Iâ a achosai niwed gorfforol â phenillion hudol.175 Mae gennym un hanes o Wlad yr Iâ yn y Flateyjarbók (trydedd neu bedwaredd ganrif ar ddeg) sy’n hynod o ddiddorol. Dyfynnaf grynodeb Donald Ward:

Jarl Hakón robbed the poet Thorleif of all his possessions, even setting the poet’s ship afire while the latter was absent. Thorleif, enraged and determined to avenge himself, followed the Jarl back to Norway, where disguised as a beggar he appeared at the Jarl’s court, and asked permission to perform a song. At first Hakón was pleased, for the song described in flattering terms his deeds and those of his ancestors. As the singer continued, however, a rash broke out over his entire body, becoming especially irritating around his hind quarters. Hakón had himself scratched by two servants, who drew a rough cloth back and forth between his legs, but the itching became more and more unbearable. Surmising that the song was the cause of his discomfort, the Jarl demanded to hear a different song. The poet agreed to his request, but continued the original song, singing the third part, the thokuvísur ‘the fog-verses’. The entire hall became dark and the weapons that hung upon the walls left their places and began to fly around, bringing death to many of the assembled warriors, until [the] Jarl eventually fainted, and Thorleif was able to make his escape in the confusion. When Hakón returned to consciousness, he discovered that half of his beard and half of his scalp-hair had been singed away, and this hair never grew back again.176

Ymddengys imi, felly, bod y traddodiad Sgandinafaidd o ddychan yn debyg iawn i’r hyn a geir yn Iwerddon. Esboniad posibl am hyn fyddai dylanwad uniongyrchol. Mae sawl un wedi dadlau yn y gorffennol o blaid benthyca helaeth o Iwerddon yn llenyddiaeth Hen Norseg.

Mae Donald Ward, ar y llaw arall, yn gweld yma dystiolaeth am fodolaeth traddodiad Indo-Ewropeaidd o ddychan a allai achosi niwed corfforol neu farwolaeth. Dylid, felly, ystyried tystiolaeth o weddill y byd Indo-Ewropeaidd. Mae Fred Norris Robinson a Robert C. Elliott yn cymharu’r hanes am y bardd Groeg Archilocus (a fu yn ei flodau yn y seithfed ganrif CC) a achosodd farwolaeth Lycambes a’i ferched â’i ddychan.177 Yn y stori hon, fodd bynnag, nid yw grym y gerdd yn lladd yn uniongyrchol: mae Lycambes a’i ferched yn lladd eu hunain oherwydd y cywilydd y mae’r gerdd wedi’i ddwyn iddynt. Yng ngeiriau Robinson, ‘it is hardly a case in point, unless it be assumed that an original story of magical destruction has been rationalized into an account of death by shame; and there is no necessity for such an assumption.’178 Mwy addawol, efallai, yw’r dystiolaeth o India. Roedd Rajputiaid Rajasthan yng ngogledd India yn credu bod gan y Charan (math o fardd llys) y grym i felltithio’r sawl a’u gwrthodai, ac felly ni fyddai neb yn meiddio gwneud.Yn Dhrangadhra, Gujarat, roedd

173 Diddorol nodi yn y cyswllt hwn, gwerz o Lydaw sy’n datgan Gwell e’ din kavet afer deus tri gi arajet/ Evit e ve’ kavet afer deus an teod milliget ‘I’d rather deal with three rabid dogs/ Than deal with the spiteful tongue’ (Natalie A. Franz, ‘The Spiteful Tongue: Breton Song Practices and the Art of the Insult’, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium, 28 (2008), 28-39 (t. 38)). Cf. hefyd geiriau Calliamachus am y bardd Groeg Archilochus ‘Archilochos drank the biting fury of the dog and the sharp sting of the wasp, and from each comes the venom of his mouth’ (a ddyfynnir yn Ward, ‘Poets and Poetry’, t. 129).174 Ross, History of Old Norse Poetry, t. 41; cf. t. 63.175 ‘Norse Ghosts’, Folklore, 57 (1946), 50-65, 106-27 (t. 61).176 ‘Poets and Poetry’, tt. 136-37; cf. Ross, History of Old Norse Poetry, t. 34, n. 10. Cf. cerdd Seán Ó Neachtáin a ddyfynnir uchod.177 Robinson, ‘Satirists and Enchanters’, tt. 99-100; Elliott, Power of Satire, tt. 3-15. Cf. hefyd y drafodaeth gan Dinneen ac O’Donoghue, Dánta Aodhagáin Uí Rathaille, t. xxx; Ward, ‘Poets and Poetry’, tt. 127-29; J. E. Caerwyn Williams, ‘Posidonius’s Celtic Parasites’, Studia Celtica, 14/15 (1979/80), 313-43 (tt. 329-31).178 Robinson, ‘Satirists and Enchanters’, t. 99.

22

Page 23: pure.aber.ac.uk  · Web viewDychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg

yna fath o fardd achyddol o’r enw Barot a oedd yn arfer crwydro o bentref i bentref gyda tromdámh o ddilynwyr fel bod y bobl yn ofni eu dyfodiad fel dyfodiad locustiaid.179

Ond ni chyfyngir traddodiadau o’r fath i’r byd Indo-Ewropeaidd, o bell ffordd. Paralel arall a drafodir gan Robinson ac Elliott yw traddodiad dychan Arabeg: mae Robinson yn nodi’r ffaith bod noddwyr yn rhoi’n hael i osgoi dychan, a bod yna achosion o gosbi beirdd oherwydd sgil-effeithiau peryglus eu cerddi, tra bod Elliott yn trafod beirdd o Arabia yn defnyddio eu dychan fel arf mewn rhyfel, fel y mae’r bardd Coirpre mac Étaíne’n bygwth gwneud yn y chwedl Wyddeleg Cath Maige Tuired.180 Noder hefyd adroddiad Samuel Hearne ar siamaniaid brodorion Hudson Bay a oedd yn gallu gwella claf neu achosi marwolaeth â’u geiriau, sy’n dwyn i gof hanesion Bryan Edwards am ‘obeah-men’ ymysg caethweision o Affrica yn India’r Gorllewin.181 Mewn geiriau eraill, gwelwn ddigon o dystiolaeth bod gwahanol bobloedd ar draws y byd yn credu, fel y beirdd Navajo a drafodir gan Helen Carr, bod gan farddoniaeth ‘the power to alter and control the external world’.182 Noda Vivian Mercier: ‘“Sticks and stones may break my bones,/But words will never hurt me” is one English proverb that has never had much currency in Ireland’183 - nac yn unman arall yn y byd, efallai.

Sut mae esbonio’r cyffelybiaethau hyn? Yn ei lyfr The Power of Satire (1960), mae Robert C. Elliott yn gweld datblygiad anochel a chyffredinol o ddychan honedig hudol cymdeithasau ‘cyntefig’ i ddychan llenyddol cymdeithasau ‘soffistigedig’ y gorllewin yn y cyfnod modern. Go brin bod model o’r fath yn dderbyniol heddiw. Fodd bynnag, credaf fod yr arolwg byr hwn (nad yw o bell fordd yn ymhonni bod yn hollgynhwysol) yn dangos y gall cyffelybiaethau pur drawiadol godi’n annibynnol dros dalp helaeth o amser a gofod. Yng Nghymru ac Iwerddon ac yn Sgandinafia yn yr Oesoedd Canol, mae’n bosibl bod traddodiadau Cristnogol am rym dinistriol geiriau wedi cael dylanwad. Rydym eisoes wedi gweld bod ‘tafod yn torri esgyrn’ yn ddihareb Beiblaidd. Ceir dyfyniad mewn testun cyfreithiol Gwyddeleg: ‘[N]emo peritorum 7 prudentium dubitare debet quod sangis efunditur uerbis 7 linga sicut 7 mainibus cum anmis [leg. armis] efunndi uidetur .i. ni toimnenn nach neolach combadh lugha do pecad gao i mbriathraib ina todhail ḟola ó laim “No wise or learned person should doubt that blood is shed by words and tongue as it is seen to be shed by hands with weapons, i.e. no knowledgeable person thinks that false words are any less of a sin than shedding blood by hand”’.184 Yn y Collectio Canonum Hibernensis ‘Casgliad o Ganonau Gwyddelig’, testun Lladin o Iwerddon sy’n dyddio o’r wythfed ganrif gynnar, ceir yr un dywediad, a briodolir yma ar Awstin Sant: ‘Nemo peritorum et prudentium putet, quod minus sit periculum in verbis linguae mentiendo, quam manibus sanguinem effundendo [...] “No wise or learned person would think that there would be less danger in

179 Allen a Dwivedi, Lives of the Indian Princes, tt. 31-33.180 Robinson, ‘Satirists and Enchanters’, t. 100; Elliott, Power of Satire, tt. 15-18. Ar Coirpre mac Étaíne, gw. Cath Maige Tuired, gol. Gray, §§ 114-15. Cf. hefyd y dychanwyr gelyniaethus yn Brislech Mór Maige Muirthemni sy’n gofyn am waywffyn Cú Chulainn, ac yntau’n brwydro’n erbyn byddinoedd gweddill Iwerddon (The Death of Cú Chulainn: A Critical Edition of the Earliest Version of Brislech Mór Maige Muirthemni, gol. Bettina Kimpton (Maynooth, 2009)). Am episod tebyg yn Táin Bó Cúailnge, gw. Táin Bó Cúalnge from the Book of Leinster, gol. O’Rahilly, llau. 1803-15, cyfieithiad ar tt. 188-89. Noder hefyd y purohita yn India, a gynorthwyai ei frenin mewn rhyfel trwy alw ar y duwiau am eu cefnogaeth a thrwy annog y milwyr (J. E. Caerwyn Williams, The Court Poet in Medieval Wales: An Essay (Lewiston, Queenston & Lampeter, 1997), tt. 78-79).181 Gw. Tim Fulford, Romantic Indians: Native Americans, British Literature and Transatlantic Culture 1756-1830 (Oxford, 2006), tt. 157-58.182 Helen Carr, ‘Navaho Indian Poetics’ yn Memory and Poetic Structure, gol. Peter Ryan (London, 1981), tt. 136-67 (t. 147).183 Mercier, Irish Comic Tradition, t. 107.184 McLaughlin, Early Irish Satire, tt. 4-5, yn dyfynnu o Corpus Iuris Hibernici, gol. D. A. Binchy (Dublin, 1978), 1383.9-11.

23

Page 24: pure.aber.ac.uk  · Web viewDychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg

lying by word of mouth than in shedding blood by hand”’.185 Mae’n digwydd hefyd yn Collectaneum Miscellaneum Sedulius Scottus, lle yr honnir iddo ddod o Lyfr Ecclesiasticus.186 Nid ymddengys fod hynny’n wir. Eto i gyd, mae’n amlwg bod y dywediad hwn yn adnabyddus mewn cylchoedd eglwysig yn Iwerddon.

Yn y pen draw, mae’n debyg bod yna sail gwirioneddol i’r gred bod dychan yn gallu achosi niwed. Gall cywilydd arwain at symptomau corfforol, gan gynnwys brech ar yr wyneb. Mae John Rhys yn adrodd yr hanes canlynol am hyn: ‘when I was an undergraduate there was with me a Welsh undergraduate, who, when teased or annoyed by his friends, was well known to be subject to a sort of rash or minute pustules on his face: it would come on in the space of an hour or so.’187 Hwyrach bod y confensiwn Gwyddelig am bothelli’n ymddangos ar wyneb y sawl a ddychanwyd yn ddatblygiad nodweddiadol hyperbolic o ffenomen ffisiolegol fel hyn. Mae Anna Matheson yn dadlau bod yna gysylltiad â’r traddodiad Gwyddelig mai lympiau ar ei wyneb a fan arall ar ei gorff oedd ‘nod’ Cain a grybwyllir yn Llyfr Genesis (4.15),188 ond nid yw’n sicr pa draddodiad a ddaeth gyntaf. Efallai bod yr hanes a ddyfynnir uchod am Jarl Hakón a’i frech goslyd yn dangos dylanwad Gwyddelig. Ond, mae David Fitzgerald yn dyfynnu enghraifft o gerdd ddychanol yn achosi pothelli ar wyneb y targed o Dde Affrica, sy’n profi bod y syniad hwn yn gallu codi’n annibynnol mewn gwahanol draddodiadau.189 Mae’n bosibl mai ffurf y dychan yn ogystal â’i gynnwys sy’n hanfodol.190 Noder ymchwil diweddar sydd wedi profi bod barddoniaeth yn gallu cael effaith isymwybodol ar yr ymennydd.191 Efallai bydd mwy o waith o’r math hwn yn trawsffurfio’n dealltwriaeth o rym llenyddiaeth i effeithio ar ein cyrff.

Hoffwn gloi trwy gynnig damcaniaeth amgen am ddatblygiad dychan yng Nghymru ac Iwerddon, heb fynnu ei bod yn well na’r hen uniongrededd bod y ddau draddodiad yn adlewyrchu sefydliad Celtaidd. Roedd beirdd mawl y Cymry a’r Gwyddelod cynhanesyddol yn hanfodol Geltaidd.192 Mae’n bosibl eu bod wedi etifeddu traddodiad o ganu dychan yn ogystal â mawl, am fod dychan yn tueddu i fynd law yn llaw â mawl - dwy ochr yr un geiniog ydynt, i raddau helaeth. Fodd bynnag, yn Iwerddon y datblygodd y traddodiad o ddychan grymus a marwol a orchuddiai wyneb ei darged â phothelli. Dim ond yn Iwerddon roedd y dychanwyr mor bwerus fel bod rhaid cynnal cyfarfodydd brys i ystyried eu halltudo o’r wlad; dim ond yn Iwerddon roedd rhaid gosod cyfreithiau i’w ffrwyno. Tybed a welir olion rhyw hen draddodiad brodorol, cyn-Geltaidd ar waith yma? Mae’n bosibl, ond ni ellir dangos hynny. Yng Nghymru, roedd pethau’n bur wahanol. Rhan fechan o waith y bardd oedd dychanu, er y gallai fygwth ei noddwr o bryd i’w gilydd os nad oedd yn teimlo ei fod yn cael

185 McLaughlin, Early Irish Satire, t. 4; cf. Damian Bracken, ‘Latin Passages in Irish Vernacular Law: Notes on Sources’, Peritia, 9 (1995), 187-96 (t. 192, n. 19).186 Sedulli Scotti Collectaneum Miscellaneum, gol. Dean Simpson (Turnhout, 1988), tt. 158-59 (25.2.2); cf. Bracken, ‘Latin Passage’, t. 192.187 Celtic Folklore: Welsh and Manx (London, 1901), t. 634. Cf. Robinson, ‘Satirists and Enchanters’, t. 115; Elliott, Power of Satire, tt. 28-29.188 ‘Itinerant Drúith’. Am nod Cain mewn testunau Gwyddeleg gw. Simon Rodway, ‘Mermaids, Leprechauns, and Fomorians: A Middle Irish Account of the Descendants of Cain’, Cambrian Medieval Celtic Studies, 59 (Summer 2010), 1-17 (tt. 9-10).189 ‘Early Celtic History and Mythology’, t. 195.190 Ward, ‘Satirical Song’, tt. 350-51.191 e.e. Awel, Vaughan-Evans, Robat Trefor, Llion Jones, Peredur Lynch, Manon W. Jones a Guillaume Thierry, ‘Implicit Detection of Poetic Harmony by the Naïve Brain’, Frontiers in Psychology, 7 (2016), ar gael ar y We: http://journal.frontiersin.org/article/10.3389/fpsyg.2016.01859/full. Cf. ymchwil gan yr Athro Richard Marggraf-Turley a’r Athro Reyer Zwiggelaar o Brifysgol Aberystwyth, sy’n dangos y gall darllen barddoniaeth serch godi tymheredd y corff (‘Valentine’s love poetry brings a hot rush of blood to the cheeks’, The Guardian, 13 Chwefror 2010, ar gael ar y We: https://www.theguardian.com/science/blog/2010/feb/13/valentines-love-poetry-hot-blood).192 Gw. Rodway, ‘Ailystyried y Bardd Celtaidd’, t. 46.

24

Page 25: pure.aber.ac.uk  · Web viewDychan ‘Celtaidd’? Iaith Geltaidd yw’r Gymraeg. Ystyr y gosodiad hwn yw ei bod hi, ynghyd â nifer o ieithoedd eraill (Llydaweg, Gwyddeleg, Galeg

ei haeddiant. Yn y cyfamser, fodd bynnag, roedd traddodiad poblogaidd, is-lenyddol o felltithio’n ffynnu. Yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, yn sgil newidiadau chwyldroadol i’r gyfundrefn wleidyddol a’r gyfundrefn farddol fel ei gilydd yng Nghymru, teimlai’r beirdd fod ganddynt fwy o ryddid i ymhél â themâu’r canu poblogaidd. Benthycient rai o gonfensiynau’r melltithion poblogaidd, gan gynnwys y cysyniad y gellid achosi marwolaeth trwy rym geiriau, ar gyfer eu defodau cellweirus, oedd felly, trwy gyd-ddigwyddiad pur, yn ymdebygu i’r traddodiad Gwyddeleg am ddychan angheuol. Ceir enghraifft o ddatblygiad annibynnol system soffistigedig a defodol o sarhau mewn iaith Geltaidd yn rhith yr arfer o ganu gwerzioù sarhaus, yn enwedig gan fenywod, yn Llydaw yn y cyfnod modern cynnar.193

Fel y dywedais uchod, ni fynnaf mai dyma sut digwyddodd pethau: eto ni welaf fod y ddamcaniaeth hon yn esbonio’r ffeithiau’n waeth na’r un traddodiadol. Pa un bynnag, ni ddylwn gymryd yn ganiataol bod y traddodiad Gwyddeleg o ddychan yn adlewyrchu’n ffyddlon rhyw gyfundrefn Geltaidd, nac ychwaith ystumio’r dystiolaeth Gymraeg i gydymffurfio â hyn.194

SIMON RODWAYAberystwyth

193 Gw. Franz, ‘Spiteful Tongue’. Cf. hefyd y traddodiad o ddychan defodol (yn Saesneg yn bennaf) a dyfodd yn annibynnol yn Ynys Manaw (Susan Lewis, ‘A Very British Tradition? Irony, Irreverence and Identity in Manx Political Satire’ yn Islands and Britishness: A Global Perspective, gol. Jodie Matthews a Daniel Travers (Cambridge, 2012), tt. 162-79).194 Traddodwyd fersiwn o’r papur hwn mewn seminar ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 8 Mawrth 2017. Rwyf yn ddiolchgar i bawb a fu’n bresennol am eu sylwadau hynod helpfawr, ac yn enwedig i’r Athro Patrick Sims-Williams am ddarllen drafft. Myfi yn unig biau’r casgliadau ac unrhyw wallau a erys.

25