o amser brecwast i amser gwely

12
O AMSER BRECWAST I AMSER GWELY Eich helpu chi a’ch plentyn trwy gydol y dydd! MAGU PLANT YN HYDERUS

Upload: city-and-county-of-swansea

Post on 07-Apr-2016

240 views

Category:

Documents


6 download

DESCRIPTION

Eich helpu chi a'ch plentyn trwy gydol y dydd

TRANSCRIPT

Page 1: O amser brecwast i amser gwely

O AMSER BRECWAST I

AMSER GWELYEich helpu chi

a’ch plentyn trwygydol y dydd!

MAGUPLANT

YN HYDERUS

Page 2: O amser brecwast i amser gwely

Noddwyd y daflen hon gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Geiriad gwreiddiol gan Sophie Linington, Anne Page a GillKeep, gyda diolch am gymorth gan Tesco; ChristineBidmead, Sefydliad Ymarferwyr Cymunedol ac YmwelwyrIechyd (CPHVA); Dr Stephen Scott, Darllenydd mewnIechyd ac Ymddygiad Plant a Seiciatrydd YmgynghorolPlant a Phobl Ifanc; Anne Saville, Cyngor CenedlaetholTeuluoedd Un Rhiant (NCOPF); Eileen Hayes, CynghoryddMagu Plant yr NSPCC; Parentline Plus Ariannwyd gan yrAdran Iechyd Medi 2003.

Plant yng Nghymru yw’r sefydliadplant ymbarél cenedlaethol yngNghymru, a ddaw â sefydliadau acunigolion ynghyd i:

Wneud Confensiwn y CenhedloeddUnedig ar Hawliau’r Plentyn ynrealaeth yng Nghymru

Ymladd dros wasanaethaucynaliadwy o ansawdd a chwarae tegi bob plentyn a pherson ifanc

Sicrhau y rhoddir sylw a thriniaetharbennig i blant mewn angen

Rhoi llais i blant a phobl ifanc

Mae Plant yng Nghymru yn gweithiomewn partneriaeth â’r NationalChildren’s Bureau yn Lloegr a Childrenin Scotland, ac mae’n cydweithio’nrhyngwladol â Fforymau Lles Plant arlefel Ewropeaidd a rhyngwladol.

Mae Plant yng Nghymru wedi gweithiomewn partneriaeth â SefydliadCenedlaethol y Teulu a Rhieni (NFPI).

Elusen annibynnol yw’r NFPI asefydlwyd i wella gwerth acansawdd bywyd teuluol.

Page 3: O amser brecwast i amser gwely

1

Gall bod yn rhiant i blentyn ifanc llawnegni fod yn daith olwyn fawr yn amrywioo amserau bendigedig i fod ar ben eichtennyn! Mae pob rhiant yn gwybodam yr amserau da gyda’u plant, ondefallai fod bywydau prysur heddiw yneu gwneud yn galetach i’w gweld.

Bydd deall anghenion eich plentyn agwybod sut i’w diwallu yn eich helpu igael mwy o adegau da a llai o adegaugwael.

Mae’r llyfryn hwn yn canolbwyntio arfagu plant mewn ffyrdd cadarnhaol,trwy annog plant i deimlo’n dda am euhunain a hybu ymddygiad da trwysefydlu trefn a gosod ffiniau.

Mae amserodd anodd yn fwy tebygolo ddigwydd pan fo plant wedi diflasuneu’n rhwystredig. Gall y ffordd yr ydychyn ymateb iddynt a sut y teimlwch,weithiau droi tasg syml yn frwydr rhwngdau ewyllys. Mae’n amlwg na fedrirosgoi hyn bob amser ond gall ychydigo syniadau syml eich helpu chi a’chplentyn i gael mwy o’r amseroedd da!

Gallai rhieni plant anabl wynebusialensiau a phwysau ychwanegol naellir eu trafod yn y llyfryn yma. Foddbynnag mae yna fanylion am sut igysylltu â sefydliadau a allai fod o helpyn yr adran Cysylltiadau.

CynnwysChwarae 2

Tyfu i Fyny 3

Siarad 4

Hunan-Hyder 5

Amserau Anodd 6

Min Nos i Amser Gwely 8

Edrych Ar Ôl Eich Hunan 9

Help a Chysylltiadau 10

Cyflwyniad

1

Page 4: O amser brecwast i amser gwely

Os bydd plant yn canolbwyntio arweithgaredd, maent yn llai tebygol ofod yn postio’r teclyn teledu yn y binneu’n ymladd gyda brawd neu chwaer!

Os oes gennych lawer i wneud mewncyfnod byr, trefnwch weithgaredd afydd yn rhoi’r hanner awr hollbwysighynny i’ch hunan:

Peintio, tynnu llun, a lliwioMae hyd yn oed blant ifanc iawn ynmwynhau creu gwaith celf a goraupo fwyaf y llanastr! Rhowch bapurnewydd i lawr a gorchuddio dilladi’w diogelu ac i leihau’r gwaithglanhau wedyn.

DwrGall bowlen golchi llestri o ddwr acychydig o gwpanau gadw plentynbach yn brysur am hydoedd. Byddangen goruchwyliaeth oedolyn argyfer hyn.

DychymygEstynnwch nifer o dedis a doliau achreu te parti neu sw yn cynnwyspob math a llun o deganau - gadewchi’w dychymyg redeg yn wyllt.

YmunoUnwaith fod popeth allan o’r ffordd,neilltuwch bum munud i ymuno ynyr hyn mae eich plentyn yn eiwneud – dangoswch iddyn nhw bodyr hyn a wnânt yn bwysig.

Ei gadw’n symlOs yw hyn i yn swnio’n rhy gymhletha llafurus, ceisiwch gadw bocs odeganau, creonau a thoes chwaraeyn barod a gwneud y gorau o amserbath ar gyfer chwarae gyda chwpan neu ddwy a sbwng.2

Awgrymiadau

Chwarae

Page 5: O amser brecwast i amser gwely

Mae anghenion plant a lefelaudealltwriaeth plant yn newid wrthiddynt dyfu, ac ni fedrir disgwyl yr unpethau gan blentyn dwyflwydd â ganblentyn pedair oed:

Darganfod a fforioMae plant ifanc yn dysgu am eu bydtrwy gyffwrdd, ysgwyd, blasu, tywallt,gwasgu…mae’r rhestr yn ddiddiwedd!

Nid bod yn ddrwg yw hyn, ondffordd o ddysgu am eu byd. Gwnewchyn sicr fod eich cartref yn‘gwrthsefyll plant’ drwy geisio cadwpethau gwerthfawr a bregus ogyrraedd eich plentyn fel y medrantfforio’n ddiogel.

Gall annibendod bywyd gydaphlentyn ifanc fod yn flinedig iawnond meddyliwch am yr holl ddysgumaent yn ei wneud!

AnnibyniaethBydd profi ffiniau a dod yn unigolynyn rhan o dyfu fyny eich plentyn.Medrwch eu helpu trwy ganiatáuiddynt wneud cymaint ag sydd moddeu hunain - cadw teganau ar uchderplant, gadael iddynt ddewis eu dillada rhoi bwyd bys a bawd iddynt.

Tyfu Fyny

3

Awgrymiadau

AnogaethBydd eich plentyn yn dysgu oddiwrthych chi beth sy’n iawn iddyntwneud felly rhowch lawer oganmoliaeth a sylw i ymddygiad da- ceisiwch “rwyt yn defnyddio dylwy yn dda iawn”, yn lle “Paid âgwneud cymaint o lanastr”.

Os mai dim ond wrth gamymddwynyr ydych yn rhoi sylw i’ch plentyn,byddant yn dysgu camymddwyn igael eich sylw.

Page 6: O amser brecwast i amser gwely

4

Siarad

Awgrymiadau

Mae siarad a gwrando ar eich plentyn yneu helpu i ddeall beth sy’n mynd ymlaen:

IaithDwedwch wrth eich plentyn bethrydych eisiau iddynt ei wneud, ynhytrach na beth nad ydych eisiauiddynt wneud - yn lle “paid â gwneudcymaint o lanastr”, ceisiwch “taclusady deganau os gweli’n dda”.

ParchMae plant yn dysgu o’r hyn a wnewchac a ddywedwch. Os ydych eisiaui’ch plant fod yn gwrtais a dangosparch, meddyliwch am yr hyn addywedwch a sut i’w ddweud -bydd codi eich llais yn golyguy byddant hwy’ngweiddi’n ôl, ac nid ywcael eu bychanu yn dda ihunan hyder neb.

EsbonioOs ydych yn gorfoddweud ‘na’ wrth eichplentyn rhowch reswm daam hynny a chynnigrhywbeth arall. “Mae Rhianyn chwarae gyda’r ddolnawr, gad i ni gael hyd idegan arall i ti”.

GwrandoMae’ch plentyn yn profi ei hiaithnewydd ac angen cael ei chlywed.Sgwrsiwch â hi - hyd yn oed osyw’n teimlo braidd yn unochrogweithiau. Bydd yn cael llawer ofudd ohono ac yn dysgu am siaradgydag eraill. Ceisiwch fynd lawri’w lefel hi – bydd yn ei chael ynhaws i siarad gyda chi (a gwrando)os nad ydych yn sefyll dros ei phen.

TeimladauHelpwch rwystredigaeth eichplentyn trwy geisio cyfleu euteimladau mewn geiriau - “rwytwedi gwylltio dy fod yn gorfodmynd i’r bygi nawr, ond fe gei diddod allan pan fyddwn yn y parc”.

Page 7: O amser brecwast i amser gwely

Bydd adeiladu hunanhyder eich plentynyn eu helpu i brofi pethau newydd,gwneud ffrindiau a rheoli’r helbulon a’rproblemau a gânt wrth dyfu i fyny:

Canfod: Rhowch gyfle i’ch plentynwynebu profiadau a heriau newyddgyda’ch cefnogaeth.

Cariad: Dywedwch wrth eich plentyneich bod yn eu caru, a dangoswchiddynt drwy wenu, eu cofleidio a’ucusanu.

Annibyniaeth: Peidiwch geisio datryspob problem i’ch plentyn - gall canfodateb i’r broblem eu hunain fod ynhwb i’w hyder.

Canmoliaeth: Ceisiwch wneudarferiad o ganmol eich plentyn bumgwaith yn fwy aml na’u beirniadu.

Chi’ch hunan: Os teimlwch y medrechwneud gyda hwb, ceisiwch restru’rholl bethau yr hoffwch am eich hunan.

5

Mae’r rhan fwyaf o rieni’n cerdded yllinell rhwng bod yn “rhy lym” a “rhyfeddal” bob dydd. Gall meddwl sut unydych fel rhiant a sut ydych yn ymatebmewn gwahanol sefyllfaoedd eichhelpu i gael perthynas hyd yn oedgwell gyda’ch plant.

Mae pob plentyn yn wahanol - nidyw’r hyn sy’n gweithio gyda phlentynbob amser yn addas i frawd neuchwaer yn yr un teulu. Mae gan blantwahanol natur. Mae rhai yn ddidraffertha byddant yn ymuno yn rhwydd mewngweithgareddau; mae eraill yn araf igynhesu ac angen eu darbwyllo’ndawel, tra gall fod yn fwy ofnus ac yngwrthod ymuno mewn o gwbl.

Cofiwch

Hunan-Hyder

Page 8: O amser brecwast i amser gwely

Hyd yn oed gyda bwriadau da. Maeadegau sy’n dal i fod yn anodd ar gyfer pobteulu -fel arfer pan fo gormod i’w gwneudmewn cyfnod byr, neu pan mae’r hynsydd angen ei wneud yn gwrthdaro â’rhyn y mae eich plentyn eisiau ei wneud.

Y Rhuthr Boreol

“Rwy’n ceisio cael dillad allan a pharatoieu pecynnau cinio’r noson cynt - mae’nrhoi ychydig mwy o amser i mi yn y bore”.

“Mae eu cael i wneud ychydig drostynteu hunain bob amser yn helpu, hyd ynoed os mae dim ond nôl bowlen a llwyyw hynny. Mae’r plant yn teimlo fel eubod yn helpu ac mae’n un peth llai i miei wneud”.

6

Tyrd yn dy flaen,tyrd yn dy flaenBRYSIA!

Un llyfrarall?

Pethau eraill i’w profi:

Os ydych yn gorfod bod yn y gwaithar amser arbennig holwch osmedrwch drafod oriau mwy hyblyg -er enghraifft mynd i mewn ynhwyrach, gadael yn hwyrach. Os nadyw hynny’n bosibl, ceisiwch godiychydig ynghynt i osgoi’r rhuthr.

Byddwch yn gyntaf i godi a chaelpum munud ar eich pen eich hun argyfer cwpanaid cyflym o goffi.

Gofynnwch i blant hyn i bacio eubagiau eu hunain a diolch iddynt panwnânt hynny.

Sefydlwch drefn reolaidd yn y bore isicrhau bod pawb yn gwybod bethyw eu dyletswyddau.

Mae’n rhaid i mi dy olchi

a’th wisgo di, gwneud dy

frecwast, gwneud y brechdanau,

paratoi i fynd i’r gwaith, gadael

nodyn i’r dyn llaeth, rhoi’r gath

allan, dadrewi swper heno…

Adegau Anodd

Dwi am fwyta

hwn, darllen lly

fr

a gwylio ych

ydig

o deledu hefyd.

Page 9: O amser brecwast i amser gwely

7

Fy un i, NA!

Ondfy un i ydy o,

dos i nôl un dyhun, dwi ddim isio iti ei gael o. Dwi ddim’di gorffen chwarae

efo fo.

Dwi i isio fo!

Wrth Ddesg Dalu’r Archfarchnad

“Rwy’n ceisio cael hyd i rywbeth i fyndâ’i ddiddordeb cyn mynd at y ddesg dalu– weithiau rwyf hyd yn oed yn canu, dimond i’w chadw rhag gofyn am felysion!”.

“Pan mae’n eistedd yn y troli, rwy’nrhoi pethau iddo i’w rhoi ar y cownter acmae wrth ei fodd yn gwneud hynny”.

Pethau eraill i’w profi:

Rhowch rywbeth i’r plentyn i edrychymlaen ato unwaith y mae’r siopadiflas wedi’i orffen - trip i’r parc,fideo pan ewch adref.

Os yw’ch plentyn yn strancio, efallaina fydd ceisio cael hyd i ateb neuresymu gyda hi o help - gall fod yn rhygrac neu flin i wrando. Ceisiwch ddaleich tir, cadw’ch plentyn rhag anafu ei hunan ac aros nes y maent weditawelu cyn ceisio gwneud unrhywbeth arall.

Amser Chwarae

“Rwy’n cuddio ei hoff degan pan ddawplant eraill yma - mae’n golygu nadydynt yn ymladd amdano”.

“Os yw wedi cynhyrfu o ddifrif, rwy’nceisio mynd â hi i rywle arall fel y galldawelu – mae’n dal i orfod gwybodnad yw’n iawn iddi ymladd, ond mae’nwell gwneud hynny yn rhywle tawel”.

Pethau eraill i’w profi:

Ceisiwch adael i blant ddatrys eucwerylon eu hunain cyhyd nad oesneb yn mynd i gael ei hanafu, ondgwahanwch hwy os ydynt yn brifoei gilydd ac esbonio’n gadarn nafyddwch yn caniatâi i neb frifoplentyn arall.

Gadewch i’ch plentyn wybod eichbod yn deall pam ei bod yn ddig,ond na chânt frifo plentyn arall.

Gall helpu eich plentyn i siarad ameu teimladau pan neu ar ôl iddyntgynhyrfu. Gall helpu i leihau’rtebygrwydd y bydd yr un broblemyn digwydd eto.

Page 10: O amser brecwast i amser gwely

“Pan rwy’n dod adref o’r gwaith, rwy’nceisio cael pum munud yn arbennig areu cyfer hwy - unwaith yr wyf wediclywed am eu diwrnod, mae’n hawsiddynt adael i mi fynd ymlaen i wneudy swper”.

“Rydym newydd ddechrau rhoi rhybuddpum munud iddo fel ei fod yn gwybodbod ganddo ychydig yn fwy o amser ichwarae, yna mae’n amser gwely”.

8

Min Nos i Amser Gwely

Pethau eraill i’w profi:

Ceisiwch esbonio eich bod yn gorfodgwneud y swper, paratoi pecynnau cinioac ati a’u cynnwys mewn gwneudpethau megis hulio’r bwrdd neu goginiosylfaenol - mae’n debyg y byddanteisiau aros yn agos atoch os ydychwedi bod ar wahân yn ystod y dydd.

Gwrandewch ar ofnau eich plentyn amy tywyllwch neu fynd i’r gwely a’u helpui ganfod ffyrdd o ddelio gyda’r ofn. e.e.creu stori, hel yr anghenfil allan o’rystafell wely.

Os yn bosibl, rhannwch y drefn gydaphartner neu aelod arall o’r teulu.

Ceisiwch roi ychydig o amser arbennig i bob un o’ch plant ar wahan – amser i ddarllen stori neu wrando ar eunewyddion.

Page 11: O amser brecwast i amser gwely

Er gymaint y carwch eich plentyn,gallant hefyd eich gyrru i fyny’r wal,gan loetran pan fyddwch yn ceisio eucael yn barod i’r ysgol, neu ofyn amdeganau yn yr archfarchnad.

Bydd pob rhiant yn ei chael hi’n anoddweithiau; mae’n normal i fethu ymdopiac i fod angen help, felly peidiwchgadael i swildod eich stopio rhag gofynam help.

Os gwnewch yn sicr eich bod yn caelseibiant i ymlacio, neu fynd allanmwynhau eich hunan, yna byddwchmewn cyflwr gwell i ymdopi gyda bodyn rhiant hefyd. Ewch i gyfarfod rhienieraill - mae plant yn aml yn teimlo’n fwyhapus os oes ganddynt gyfaill yn gwmni.

Peidiwch llethu eich hunan drwy geisionewid gormod ar unwaith – cymerwchun awgrym a’i ddefnyddio nes maeyn gweithio ac yna geisio un arall.

Does neb yn cael popeth yn iawndrwy’r amser.

Mae hyblygrwydd yn dda – gallbywyd fod yn ddi-drefn a byddagwedd hyblyg yn helpu eich plant ifod yr un fath.

Edrych Ar Ôl Eich Hun

Os teimlwch eich bod yn boddidrwy orfod ymdopi gyda phopeth arunwaith, cymerwch anadl ddofn achyfrif i ddeg. Os yw’n dal i deimlo’nannioddefol, gwnewch yn siwr fodeich plentyn yn ddiogel a neilltuwchbum munud i chi’ch hunan mewnystafell arall.

Y peth pwysicaf yw bod eichplentyn yn cael ei garu ac yn hapusymysg anhrefn dydd-i-ddydd!

Cofiwch

9

Page 12: O amser brecwast i amser gwely

Mae llawer o wybodaeth a chyngor ar gael i rieni, ond gall fod yn anodd cael hyd iddo. Edrychwch mewn llyfrau, taflenni, fideos a’r ryngrwyd. Gofynnwch i’ch ymwelydd iechyd neu feddyg.Holwch rieni eraill a ffrindiau beth a gawsant yn ddefnyddiol. Dyma ychydig o enghreifftiau.

Gwasanaeth gwybodaeth annibynnolcenedlaethol yw Fathers Directwww.fathersdirect.com

Mae Gingerbread yn dod â rhieni sengl atei gilydd ar gyfer cyd-gefnogaeth 0800 018 4318 www.gingerbread.org.uk

Llinell gymorth Rhwydwaith Rhieni Anabl0870 241 0450www.disabledparentsnetwork.org.uk

Mae Cyswllt y Teulu yn helpu teuluoeddsy’n gofalu am blant ag unrhyw anabledd029 2049 8001 www.cafamily.org.uk

Canolfan gynghori i deuluoedd â phlant aganghenion addysgol arbennig yw SNAP Cymru029 2038 8776 www.snapcymru.org

YoungMinds yw’r elusen genedlaethol syddwedi ymrwymo i wella iechyd meddwl hollblant a phobl ifanc 0800 018 2138www.youngminds.org.uk

Mae RoSPA’n darparu gwybodaeth achyngor ar sut i wneud eich cartref ynddiogel a chyfeillgar i’ch plentyn 029 2025 0600 www.rospa.org.uk

Mae Relate yn cynnig cyngor a chwnselaar berthynas a gallant gyfryngu a chefnogi,ar y ffôn neu wyneb yn wyneb 0845 130 4010 www.relate.org.uk

Gwefan yw Dysgu Cymru sy’n rhoigwybodaeth ar bob agwedd ar addysg yngNghymru www.dysgu.cymru.gov.uk/rhieni

Elusen yw Working Families sydd yngweithio ar draws y Deyrnas Unedig ihelpu teuluoedd a chyflogwyr gydbwysobywyd teulu a gwaith 0800 013 0313www.workingfamilies.org.uk

10

Mae gan Barnardo’s Cymru amryw obrosiectau magu plant 029 2049 3387www.barnardos.org.uk/wales

Mae NCH Cymru yn cefnogi plant, poblifanc a’u teuluoedd 029 2022 2127www.nch.org.uk

Mae’r NSPCC yn gweithredu llinell gymorthddwyieithog i blant a rhieni 0808 800 5000(mae galwadau am ddim) www.nspcc.org.uk

Mae Plant yng Nghymru yn rheoli achefnogi‘r Fforwm Magu Plant sy’n aneluat gefnogi, asiantaethau gwirfoddol astatudol i ddatblygu a gwella’r gefnogaeth i rieni yng Nghymru 029 2034 2434www.childreninwales.org.uk

Llinell gymorth am ddim 24 awr y dydd ywParentline Plus 0808 800 2222www.parentlineplus.org.uk

Mwy o Help…Llyfrau i’w darllen gyda’ch plant:

Methu Cysgu Wyt Ti, Arth Bach? ganMartin Waddell, Gwasg y Dref Wen.Alun yr Arth a’r Llanast Mawr gan MorganThomas, Y Lolfa. Pawb Gyda’i Gilydd ganRob Lewis, Gwasg Gomer. Dyma FaintDwi’n Dy Garu Di gan Sam McBratney,Gwasg Gomer. Addas gan Anita Jeram,Cymdeithas Lyfrau Ceredigion.

The Behaviour Directory

Cyhoeddiad NFPI sy’n adolygu llyfrau,taflenni, fideos a gwefannau o amrediado sefydliadau ar ymddygiad a disgyblaeth,yn cynnwys adran ar reoli ymddygiadanodd. Ar gael yn uniongyrchol o’r NFPIar: 020 7424 3460