new doc - ffurfio ffurfiau - hwb€¦ · cofier mai rhoi cymorth i ymgeiswyr ar gyfer asesiad...

18
FFURFIO’R FFURFIAU

Upload: others

Post on 11-Oct-2020

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: NEW DOC - Ffurfio Ffurfiau - Hwb€¦ · Cofier mai rhoi cymorth i ymgeiswyr ar gyfer asesiad ysgrifenedig ... Deunydd Sbardun: Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

1

FFURFIO’R FFURFIAU

Page 2: NEW DOC - Ffurfio Ffurfiau - Hwb€¦ · Cofier mai rhoi cymorth i ymgeiswyr ar gyfer asesiad ysgrifenedig ... Deunydd Sbardun: Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i rhaglen gomisiynu adnoddau addysgu a dysgu Cymraeg a dwyieithog

© Awduron: Bethan Clement, Nia Cole Jones, Gwyddno Dafydd, Rebecca Hayes, Mererid Hopwood, Gruff Ifan, Dylan Iorwerth, Eleri Jenkins, Cyril Jones, 2015.

© Delweddau: Canolfan Peniarth, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, 2015.

Golygwyd gan Hedd ap Emlyn a Nia Cole Jones.

Dyluniwyd gan Gwenno Henley.

Cyhoeddwyd yn 2015 gan Ganolfan Peniarth.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn datgan ei hawl moesol dan Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 i gael ei hadnabod fel awdur a dylunydd y gwaith yn ôl eu trefn.

Cedwir pob hawl gan yr awduron unigol.

Gellir atgynhyrchu cynnwys y pecyn hwn at ddefnydd y tu mewn i ysgol y prynwr yn unig.

Page 3: NEW DOC - Ffurfio Ffurfiau - Hwb€¦ · Cofier mai rhoi cymorth i ymgeiswyr ar gyfer asesiad ysgrifenedig ... Deunydd Sbardun: Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Un o nodau’r pecyn hwn yw rhoi cymorth i fyfyrwyr TAG Cymraeg Iaith Gyntaf wrth iddynt baratoi ar gyfer Uned 6 eu maes llafur. Er hynny, mae yn y pecyn nifer o gyfleoedd er mwyn cyfoethogi sgiliau darllen, deall ac ysgrifennu ymgeiswyr y tu hwnt i baratoi ar gyfer arholiad yn unig. Yn Uned 6, mae disgwyl i fyfyrwyr ysgrifennu darn ar ffurf benodol, sef:

• Bwletin newyddion • Prif eitem newyddion • Datganiad i’r wasg • Cofnodion cyfarfod • Adroddiad i bapur newydd • Cyfarwyddiadau • Anerchiad

Ceir yma, felly, ganllawiau ar sut i ysgrifennu pob un o’r ffurfiau hynny’n unigol gan arbenigwyr yn eu meysydd. Yn ychwanegol at hyn, ceir pum enghraifft o bob ffurf y gallai ymgeiswyr eu defnyddio er mwyn modelu eu gwaith. Mae’r enghreifftiau penodol hyn hefyd yn cynnig cyfleoedd ychwanegol y byddai’n bosibl i ymgeiswyr eu hefelychu wrth ganolbwyntio ar y ffurf benodol. Tynnir sylw ymgeiswyr at yr elfennau y gellid eu defnyddio yn eu gwaith drwy gyfrwng anodiadau ar ochr y ddalen. Gwelir bod yr enghreifftiau'n amrywio o ran eu hyd a’u pwnc er mwyn cynnig enghreifftiau hawdd eu cyrraedd yn ogystal â rhai sy'n fwy heriol eu naws. Gall ymgeiswyr, felly, feistroli rhai o’r enghreifftiau yn eithaf cyflym a bydd eraill yn eu hymestyn. Cofier mai rhoi cymorth i ymgeiswyr ar gyfer asesiad ysgrifenedig yn hytrach nag asesiad llafar yw’r bwriad yn y pen draw ac mae’r ieithwedd, o ganlyniad, yn adlewyrchu hynny.

Rhoddir sbardun i’r ymgeiswyr yn yr arholiad a fydd yn cynnwys nodiadau, ffeithiau ac ystadegau. Disgwylir i’r ymgeiswyr lunio eu henghraifft eu hunain, gan ychwanegu at y ffeithiau a defnyddio eu gwybodaeth eu hunain lle bo hynny’n briodol. Yn ychwanegol at y canllawiau a’r enghreifftiau penodol yn y pecyn hwn, lluniwyd un enghraifft orffenedig o bob ffurf fel y gall ymgeiswyr weld sbardun yn ogystal â’r deunydd gorffenedig a grëwyd ohono. Mae ffurf y sbardun yn amrywio yn ôl natur y darn. Rhoddir cyfle i ymgeiswyr hefyd lunio eu darn eu hunain o ddeunydd sbardun a baratowyd ar eu cyfer.

Rhoddwyd sylw i’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol drwy sicrhau bod y testunau’n cynnig cyfle i ymgeiswyr ymestyn eu sgiliau rhifedd drwy drin a thrafod niferoedd ac ystadegau, yn ogystal â gwella eu sgiliau llythrennedd drwy roi sylw penodol i’r ieithwedd y byddai angen iddynt ei mabwysiadu.

Mae’r gwaith wedi ei rannu fel y gall athrawon gyflwyno’r darnau fesul ffurf i’r ymgeiswyr, ac mae’r ffurfiau wedi eu nodi mewn lliwiau gwahanol er mwyn eu gwneud yn hawdd i’w hadnabod. Dyma’r drefn: i. canllaw ii. sbardun ynghyd â ffurf orffenedig iii. enghreifftiau o ffurfiau iv. sbardun yn unig.

Gwelir bod troednodiadau yn y gwaith. Ni fyddai disgwyl i ymgeiswyr osod y rhain yn eu gwaith eu hunain, ond maent yn hanfodol yn y gwaith hwn er mwyn cynnwys ffynonellau gwybodaeth ffeithiol. Os na cheir troednodiadau na chydnabyddiaeth, ffrwyth dychymyg yw’r cynnwys. Diolchwn i’r awduron ac i’r sefydliadau sydd wedi caniatáu inni addasu eu gwaith at ddibenion y gwaith hwn.

CYFLWYNIAD

Page 4: NEW DOC - Ffurfio Ffurfiau - Hwb€¦ · Cofier mai rhoi cymorth i ymgeiswyr ar gyfer asesiad ysgrifenedig ... Deunydd Sbardun: Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Adroddiad ar gyfer papur newyddCanllaw ........................................................................................................ 5 Deunydd Sbardun: Cymru i dderbyn cannoedd o ffoaduriaid .................... 7Cymru i dderbyn cannoedd o ffoaduriaid ................................................... 8 Protestiadau yn erbyn toriadau i addysg bellach ........................................ 10Storm Alys yn achosi difrod sylweddol ........................................................ 12Pobl ifanc yn dibynnu gormod ar fanc Mam a Dad ..................................... 14Darganfod trysor ......................................................................................... 15Deunydd Sbardun: Manteision ac anfanteision y we .................................. 16

AnerchiadCanllaw ........................................................................................................ 18Deunydd Sbardun: Cau ysgolion bach ........................................................ 20Cau ysgolion bach ....................................................................................... 21Cynllun ‘Chwaraeon y chweched’ ............................................................... 23Etholiad i gyngor Ysgol Bro Bynnag ............................................................ 25Owain Glyndŵr neu Dewi Sant? .................................................................. 27Yr Undeb Ewropeaidd ................................................................................. 29Deunydd Sbardun: Peryglon cyffuriau ......................................................... 31

Bwletin NewyddionCanllaw ........................................................................................................ 33Deunydd Sbardun: Bwletin 1 ....................................................................... 35Bwletin 1 ...................................................................................................... 36Bwletin 2 ...................................................................................................... 37Bwletin 3 ...................................................................................................... 38Bwletin 4 ...................................................................................................... 39Bwletin 5 ...................................................................................................... 40Deunydd Sbardun: Bwletin newyddion ....................................................... 41

CofnodionCanllaw ........................................................................................................ 42Deunydd Sbardun: Clwb pêl-droed Bwlch Eryri .......................................... 44Clwb pêl-droed Bwlch Eryri ......................................................................... 45Cyfarfod llywodraethwyr Ysgol y Bryn ......................................................... 46Clwb ffermwyr ifanc Bryn Bach .................................................................... 47Cyngor Ysgol Bryn Aber .............................................................................. 49Wythnos Gymraeg Coleg Addysg Bellach Mynydd Carnedd ..................... 51Deunydd Sbardun: Pwyllgor rheoli Menter Llandaf .................................... 53

CyfarwyddiadauCanllaw ........................................................................................................ 54Deunydd Sbardun: Taith o gwmpas Cwmbach ........................................... 56Taith o gwmpas Cwmbach .......................................................................... 57Urdd Gobaith Cymru ................................................................................... 59Dechrau gyrru .............................................................................................. 60Cadw’n heini er mwyn lleihau’r risg o strôc ................................................. 62Gwisgo ar gyfer alltaith ............................................................................... 63Deunydd Sbardun: Taith i Fannau Brycheiniog ........................................... 64

MYNEGAI

Page 5: NEW DOC - Ffurfio Ffurfiau - Hwb€¦ · Cofier mai rhoi cymorth i ymgeiswyr ar gyfer asesiad ysgrifenedig ... Deunydd Sbardun: Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Datganiad i’r WasgCanllaw ........................................................................................................ 66Deunydd Sbardun: Agor Yr Atom ............................................................... 68 Agor Yr Atom .............................................................................................. 69Arglwyddi’r anthemau’n arwyddo i label recordiau IKACHING .................. 70Gwobr antur fawr i Lowri ............................................................................. 71Cyhoeddi cyfres newydd o nofelau gwreiddiol a chyffrous i blant .............. 73Comisiynydd Plant newydd Cymru yn cyflwyno sialens .............................. 75Deunydd Sbardun: Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 77

Prif Eitem Newyddion ar gyfer Teledu a/neu RadioCanllaw ......................................................................................................... 79Deunydd Sbardun: Defnyddio ffôn symudol wrth yrru ................................ 81Defnyddio ffôn symudol wrth yrru ............................................................... 82Agor canolfan ym Machynlleth .................................................................... 83Cau safle ...................................................................................................... 85Tyrbinau Gwynt Dyffryn Tywi ....................................................................... 87Ffliw Plant .................................................................................................... 89Deunydd Sbardun: Lladradau Llangefni ...................................................... 91

Page 6: NEW DOC - Ffurfio Ffurfiau - Hwb€¦ · Cofier mai rhoi cymorth i ymgeiswyr ar gyfer asesiad ysgrifenedig ... Deunydd Sbardun: Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

5

ENGHREIFFTIAU:

PENNAWD

Mae angen pennawd clir, bachog, sy’n cyfl eu hanfod y stori ac yn gwneud i bobl fod eisiau darllen. Gydag ambell stori arbennig, gall fod yn bennawd doniol, clyfar, ond eithriadau yw’r rheiny.

Fel rheol, mae angen berfenw yn y pennawd – e.e. honni, ennill, bygwth, chwalu, rhybuddio - er mwyn rhoi’r teimlad fod rhywbeth yn digwydd.

DECHRAUY paragraff cyntaf yw’r pwysicaf wrth ysgrifennu adroddiad i bapur newydd. Hwn sy’n dangos beth yw’r ‘stori’.Y ‘stori’ yw’r peth pwysicaf, mwyaf cyffrous, mwyaf diweddar, mwyaf diddorol, mwyaf arwyddocaol (un neu’r cyfan o’r rhain).Felly, mae angen crynhoi y ‘stori’ yn syml yn y paragraff cyntaf, heb ormod o fanylion, ond gan dynnu sylw a bachu diddordeb.Bydd y ddau neu dri pharagraff nesaf yn ychwanegu ychydig ac yn atgyfnerthu’r ‘stori’.Dylai’r paragraffau cyntaf ateb y cwestiynau yma: Pwy?, Beth?, Ble?, Pryd?, Pam?

Disgrifi r adroddiad papur newydd fel pyramid gan rai– y pethau pwysicaf i ddechrau, wedi eu dweud yn gryno a miniog, a’r darn yn lledu wedyn wrth roi rhagor o fanylion a chefndir.

Gwelir bod modd defnyddio is-benawdau i rannu’r stori ac i arwain y darllenydd o un rhan i’r llall. Dylai is-benawdau fod yn fyr a bachog – dau neu dri gair fel rheol.

STRWYTHUR

CANOLDylai’r paragraffau nesaf ychwanegu ychydig rhagor o fanylion, rhoi gwybod am oblygiadau’r hyn sydd wedi digwydd a rhoi hynny o gefndir sy’n angenrheidiol i ddeall y stori. Gall dyfyniadau ychwanegu lliw a barn.

DIWEDDBydd stori yn aml yn gorffen gyda pharagraff sy’n tynnu popeth at ei gilydd, gyda dyfyniad cryf gan rywun sy’n rhan o’r stori neu drwy sôn am yr hyn sy’n digwydd nesaf.

PWRPAS

Pwrpas adroddiad ar gyfer papur newydd yw rhoi gwybod i’r darllenwyr am rywbeth newydd/pwysig/diddorol sydd wedi digwydd/ar fi n digwydd neu wedi cael ei ddweud. Dyna’r ‘stori’.

Mae’r ‘stori’ yn gallu amrywio’n fawr – o drychineb i gyhoeddi dogfen, o lwyddiant mewn chwaraeon i ddadl yn y Senedd.

Ond mae rhai elfennau cyffredin:

• Dylai’r adroddiad dynnu sylw a gwneud i bobl gymryd diddordeb yn y testun.

• Dylai roi digon o wybodaeth i bobl ddeall yn llawn beth sydd wedi digwydd.

• Os oes mwy nag un farn neu safbwynt am ddigwyddiad neu bwnc, dylai ddangos hynny.

ADRODDIAD AR GYFER PAPUR NEWYDD

Page 7: NEW DOC - Ffurfio Ffurfiau - Hwb€¦ · Cofier mai rhoi cymorth i ymgeiswyr ar gyfer asesiad ysgrifenedig ... Deunydd Sbardun: Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

6

HANFODION Y FFURF

CANLLAWIAU IAITH

Bod yn glir yw’r peth pwysicaf, ynghyd â bod yn fywiog a diddorol.

Ni ddylech ddefnyddio jargon. Os oes termau technegol, dylech eu hesbonio.

Ni ddylai adroddiad papur newydd fod yn y person cyntaf. Mae’n bwysig bod adroddiad papur newydd yn glir, gyda’r stori’n symud o un peth i’r llall mewn ffordd bendant a rhesymegol.Dylai paragraffau fod yn fyr a brawddegau’n syml ac uniongyrchol.

Os yw’r adroddiad yn ymwneud â digwyddiad, mae’n bwysig cael disgrifi adau da er mwyn mynd â’r darllenydd i ganol yr hyn sy’n digwydd.

Mae’n bwysig defnyddio dyfyniadau gan bobl berthnasol er mwyn dod â’r adroddiad yn fyw – gallan nhw fod yn llygad-dystion, er enghraifft, neu’n bobl sydd â barn am y pwnc. Dylai’r dyfyniadau gyfl eu emosiwn neu farn yn hytrach nag adrodd ffeithiau moel.

Ar bapur newydd proffesiynol, byddai’n rhaid i ohebydd feddwl am nifer o elfennau ychwanegol, gan gynnwys faint o le sydd ar gyfer yr adroddiad ac erbyn pryd y mae’n rhaid iddo fod yn barod. Mae’n rhaid bod yn ymwybodol hefyd pryd y mae’r papur yn ymddangos – heddiw, yfory neu ymhen rhai dyddiau.

Os oes gair byr, syml yn gwneud y gwaith yn lle gair hir, cymhleth, defnyddiwch y gair byr. Dylech anelu at iaith lyfn a bywiog ac arddull hawdd ei darllen.

Peidiwch â defnyddio gormodedd o ffurfi au amhersonol e.e. “credir”. Mae angen i adroddiad papur newydd fod yn uniongyrchol.

Darllenwch eich brawddegau’n uchel – os ydyn nhw’n anodd eu darllen felly, dylech fynd yn ôl atyn nhw a’u symleiddio. Yn aml, mae modd rhannu brawddeg gymhleth yn ddwy.

Os byddwch yn dyfynnu rhywun, dylai’r dyfyniad swnio fel rhywun yn siarad, nid fel darn allan o lyfr.

Erbyn heddiw, mae mwy a mwy o ohebwyr yn gyfrifol am osod eu hadroddiad yn ei le yn y papur hefyd. Wedyn, mae’n rhaid meddwl am lun i fynd gyda’r stori a sut y mae’r erthygl yn mynd i edrych – y dylunio.

Y BYD GO IAWN

Page 8: NEW DOC - Ffurfio Ffurfiau - Hwb€¦ · Cofier mai rhoi cymorth i ymgeiswyr ar gyfer asesiad ysgrifenedig ... Deunydd Sbardun: Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

7

Awdurdodau lleol yng Nghymru a Phrydain: poeni pwy fydd yn talu

Yr Undeb Ewropeaidd: cyhoeddi bwriad i ailgartrefu 120,00 o ffoaduriaid. Nifer o wledydd Ewrop wedi cytuno

Ffoaduriaid sy’n cyrraedd Prydain: Beth fydd yn digwydd?

• Ddim yn derbyn statws ffoadur swyddogol

• Derbyn diogelwch dyngarol• Hawl i weithio – 5 mlynedd• Wedi hyn: rhaid gwneud cais

swyddogol i aros ym Mhrydain• Tocynnau bwyd ar gael?• Rhaid dysgu Saesneg

Aberystwyth: Cynlluniau: derbyn 10-12 ffoadur o Syria cyn y NadoligLandlordiaid o’r sector preifat: darparu tai. Patrwm tebyg ar draws Cymru? Beth am landlordiaid cyhoeddus?

Canolfan Atom Caerfyrddin – wedi trefnu casgliad – gorfod trefnu 2 fan i fynd yn lle 1

Protest – Llangefni – asgell dde – 60 “Infidels of North Wales”.Tua 350 yno i’w gwrthwynebu – canu ‘Calon Lân’80 o blismyn ond protest heddychlon

Dyfyniad Leanne Wood: “Mae’r ffigwr o 326 yn cyfateb i lai nag un tîm rygbi ym mhob awdurdod lleol. Rydyn ni'n sôn am ddau neu dri o deuluoedd ym mhob ardal”.

Dr Barry Morgan (Archesgob Cymru): Beirniadu David Cameron am fod yn “gybyddlyd”

Dyfyniad Dr Barry Morgan: “Pan 'dych chi'n ystyried fod pedair miliwn o bobl wedi dianc o Syria ers 2011 a 600,000 eleni; mae'r Almaen yn cymryd miliwn a gwledydd eraill yn cymryd mwy - mae'n ymddangos yn gybyddlyd”.

Argyfwng ffoaduriaid: sylw yn y wasg: llun o’r bachgen 3 oed wedi boddi - ar y tudalennau blaen. Pobl - ymateb yn chwyrn. Dal i ddigwydd

Cyhoeddiad David Cameron: Prydain: derbyn 20,000 o ffoaduriaid erbyn 2020. 1,000 i gyrraedd cyn y Nadolig

Adroddiad Oxfam, 15/6/ 2015: dylai Cymru gynnig cartref i 326 o ffoaduriaid erbyn diwedd y flwyddyn. Leanne Wood: cytuno - ffigwr cyraeddadwy

DEUNYDD SBARDUN: CYMRU I DDERBYN CANNOEDD O FFOADURIAID

Page 9: NEW DOC - Ffurfio Ffurfiau - Hwb€¦ · Cofier mai rhoi cymorth i ymgeiswyr ar gyfer asesiad ysgrifenedig ... Deunydd Sbardun: Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

8

CYMRU I DDERBYN CANNOEDD O FFOADURIAID

Mae’n debygol y bydd cannoedd o ffoaduriaid yn ymgartrefu yng Nghymru dros y misoedd nesaf. Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog, David Cameron, mae disgwyl i Brydain dderbyn hyd at 1,000 o ffoaduriaid cyn y Nadolig. Mae hyn yn rhan o’r cynllun i dderbyn 20,000 o ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd yn ffoi o ryfel a gormes i Brydain erbyn 2020.1

Cyhoeddodd yr Undeb Ewropeaidd ei fwriad i gartrefu 120,000 o ffoaduriaid ac mae nifer o wledydd Ewrop wedi cytuno i gartrefu niferoedd mawr o ffoaduriaid. Mae’r Almaen ar hyn o bryd yn paratoi i gymryd 17,000 o ffoaduriaid yn rhan gyntaf y cynllun.

Yn ôl adroddiad diweddar gan yr elusen Oxfam, dylai Cymru fod yn cynnig cartref i o leiaf 326 o ffoaduriaid erbyn diwedd y fl wyddyn. Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ei bod yn gefnogol i’r datganiad yma ac yn credu ei fod yn gyraeddadwy iawn: “Mae’r ffi gwr o 326 yn cyfateb i lai nag un tîm rygbi ym mhob awdurdod lleol. Rydyn ni'n sôn am ddau neu dri o deuluoedd ym mhob ardal.”2

Ni fydd y ffoaduriaid ym Mhrydain yn derbyn statws ffoadur swyddogol yn syth wedi iddynt gyrraedd. Yn hytrach, byddant yn derbyn diogelwch dyngarol, gan gynnwys yr hawl i weithio am bum mlynedd. Wedi’r cyfnod hwnnw, bydd disgwyl iddynt wneud cais swyddogol os byddant eisiau aros ym Mhrydain.3

Beirniadaeth hallt sydd gan Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, o’r Prif Weinidog. Dywed ei fod yn “gybyddlyd” am nad yw Prydain yn bwriadu derbyn cymaint o ffoaduriaid â gwledydd Ewrop. Yn ei eiriau ef: “Pan 'dych chi'n ystyried fod pedair miliwn o bobl wedi dianc o Syria ers 2011 a 600,000 eleni; mae'r Almaen yn cymryd miliwn a gwledydd eraill yn cymryd mwy - mae'n ymddangos yn gybyddlyd.”4

Clywir bod cynlluniau eisoes ar droed yn Aberystwyth i ymgartrefu rhwng 10 a 12 o ffoaduriaid o Syria yn y dref cyn y Nadolig. Bydd y ffoaduriaid yn cael eu cartrefu mewn tai sydd wedi eu gwneud ar gael gan landlordiaid o'r sector preifat.5 Y gobaith yw y bydd ardaloedd eraill yng Nghymru yn ymateb mor ddyngarol

Teitl clir a syml

Brawddegau byr a chlir yn trafod un cysyniad

Rhoi mwy o fanylion am y stori, gan gynnwys y cyd-destun ehangach

Ysgrifennu yn y trydydd person, yn ddi-duedd

Rhoi gwybodaeth i ddarllenwyr am stori bwysig a sut mae’n berthnasol i Gymru

Rhoi prif fanylion y stori ynghyd â ffigurau’n syth. Wedi ateb y cwestiynau ‘pwy?’, ‘beth?’, ‘ble?’, pryd?’‘, pam?’

Dyfyniad bachog sy’n rhoi’r niferoedd yn eu cyd-destun

Rhoi manylion pellach sy’n esbonio goblygiadau’r stori

Amrywio brawddegau gan ddefnyddio brawddeg bwysleisiol

Brawddegau amrywiol yn hawdd eu darllen e.e. ‘ni fydd’, ‘yn hytrach’, ‘wedi’r cyfnod hwnnw...’

Defnyddio idiom sy’n ddealladwy

Dyfyniad uniongyrchol yn nodi union eiriau un sy’n feirniadol o’r cynllun

Page 10: NEW DOC - Ffurfio Ffurfiau - Hwb€¦ · Cofier mai rhoi cymorth i ymgeiswyr ar gyfer asesiad ysgrifenedig ... Deunydd Sbardun: Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

99

Nodi’r hyn fydd yn digwydd nesaf

Rhoi cyd-destun ehangach i’r stori

â thrigolion Aberystwyth i groesawu ffoaduriaid i’w cymunedau.

Yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol ar Baris, cafwyd tensiynau yn nhref Llangefni pan gynhaliodd tua 60 o’r grŵp asgell dde, "Infi dels of North Wales”, brotest yn erbyn mewnfudo.6 Boddwyd eu lleisiau, fodd bynnag, gan dorf a oedd wedi ymgynnull i’w gwrthwynebu a chanu ‘Calon Lân’.7 Er bod tua thri chant a hanner yno’n gwrthwynebu’r mudiad asgell dde, ac wyth deg o blismyn yn bresennol, protest heddychlon a gafwyd. Bydd y Senedd yn ymgynnull yn San Steffan yr wythnos nesaf er mwyn trafod yr ymateb i ffoaduriaid yng ngoleuni’r ymosodiadau gwaedlyd ar Baris.

Page 11: NEW DOC - Ffurfio Ffurfiau - Hwb€¦ · Cofier mai rhoi cymorth i ymgeiswyr ar gyfer asesiad ysgrifenedig ... Deunydd Sbardun: Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

10

Bydd cannoedd o ddarlithwyr a myfyrwyr yn protestio heddiw ym mhob coleg yng Nghymru yn erbyn toriadau’r llywodraeth i Addysg Bellach. Cyhoeddwyd toriadau o £26 miliwn gan y Llywodraeth yn y gyllideb ar gyfer addysg ôl-16 ddoe.

Mae undeb y darlithwyr, UCU, yn nodi mai 6.14% yw’r gostyngiad yng nghyllid colegau ar draws Cymru'r fl wyddyn academaidd hon.8 Yn ôl yr Undebau, gallai hyn arwain at golli hyd at 1000 o swyddi ar draws Cymru.9

Ceir 14 sefydliad addysg bellach amrywiol yng Nghymru sy’n cynnig amrywiaeth o raglenni academaidd a galwedigaethol. Mae’r sector addysg bellach yng Nghymru yn ehangu mynediad i addysg, mynd i’r afael ag eithrio cymdeithasol, a hybu twf yn yr economi.

Un ffaith ddirdynnol yw bod colegau yn darparu 80% o’r holl gymwysterau ôl-16 yng Nghymru ac yn cyrraedd bron 200,000 o ddysgwyr yn y wlad. Gwelir bod dwy ran o dair o'r holl ddysgwyr 16 i 18 oed yn dewis astudio mewn coleg yn hytrach nag mewn ysgol. Er hynny, oedolion dros 19 oed yw 80% o fyfyrwyr y colegau, ac mae rhan fwyaf y rhain yn astudio’n rhan amser.10

“Teg dweud bydd toriadau yn cael effaith aruthrol ar ddysgwyr a darlithwyr,”meddai Prif Weithredwr Colegau Unedig Cymru, Gwern Jones, “Mae colegau addysg bellach wedi wynebu nifer o doriadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond ofnwn y gall yr ergyd olaf hon fod yn ergyd farwol i rai colegau.”

Dywed llefarydd ar ran Coleg y Garnedd y bydd y toriadau’n effeithio ar eu staff yn syth, gan y bydd yn rhai cael gwared â hyd at 50 o staff darlithio a staff ategol yn ystod y fl wyddyn. Cynigir ymddeoliad cynnar i rai, ond bydd yn anorfod bod rhai yn cael eu diswyddo.

Gall y toriadau effeithio’n sylweddol ar y 12,000 o siaradwyr Cymraeg sy’n cael eu haddysgu mewn addysg bellach. 111

“Blaenoriaethu yw’r unig ffordd ymlaen,” meddai Prif Weithredwr Coleg Saron. Yn ôl y Prif Weithredwr, bydd yn rhaid gwerthuso’r cyrsiau yn ôl nifer y myfyrwyr: “Gall hyn effeithio ar gyrsiau Cymraeg eu hiaith sy’n cael eu rhedeg law yn llaw â chyrsiau dwyieithog yn y coleg, er enghraifft chwaraeon a busnes. Naw sydd ar y cwrs busnes Cymraeg

PROTESTIADAU YN ERBYN TORIADAU I ADDYSG BELLACH

Rhoi manylion pellach am sut bydd y newyddion yn effeithio ar unigolion

Dyfyniad sy’n rhoi rhagor o fanylion am y stori yn hytrach nag ailadrodd ffeithiau

Amrywio dechrau brawddegau

Nodi ochr arall y ddadl

Nodi’r hyn fydd yn digwydd nesaf

Nodi pwynt pwysicaf y stori’n gyntaf, sef colli swyddi ar draws Cymru

Ysgrifennu gwrthrychol

Nodi ergyd y stori’n gryno, gan nodi beth, ble, pryd a pham

Teitl syml heb ferf

10

Page 12: NEW DOC - Ffurfio Ffurfiau - Hwb€¦ · Cofier mai rhoi cymorth i ymgeiswyr ar gyfer asesiad ysgrifenedig ... Deunydd Sbardun: Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

1111

Dyfyniad mwy llafar ei naws

Nodi’r hyn fydd yn digwydd nesaf

Nodi’r effaith ar unigolyn yn bersonol yn cyfleu emosiwn

lefel tri, er enghraifft, ond mae dau ddeg un ar y cwrs dwyieithog. Bydd yn rhaid inni ystyried a yw’r cwrs Cymraeg yn gynaliadwy yn y tymor hir.”

Poeni am ei ddyfodol mae Alun Williams, sydd yn dilyn cwrs lefel 1 gwaith saer yng Ngholeg y Garnedd: “Dydyn nhw ddim yn siŵr fydd fy nghwrs i’n gallu parhau i redeg achos dim ond chwech sydd arno fe. Dw i’n poeni achos wnes i ddim llwyddo yn yr arholiadau yn yr ysgol. Dyma’r unig dalent sydd gyda fi . Beth wna i heb gymhwyster o gwbl?”

Mae’r llywodraeth yn nodi ei bod hi’n rhaid gwneud y toriadau yn y maes oherwydd y sefyllfa ariannol bresennol. Trafodir y toriadau yn y Senedd yr wythnos nesaf pan fydd grŵp o Aelodau’r Cynulliad yn cwrdd â chynrychiolwyr yr Undebau a dysgwyr er mwyn trafod eu pryderon.

Page 13: NEW DOC - Ffurfio Ffurfiau - Hwb€¦ · Cofier mai rhoi cymorth i ymgeiswyr ar gyfer asesiad ysgrifenedig ... Deunydd Sbardun: Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

12

Teitl clir a syml yn defnyddio berfenw ‘achosi’

Rhoi rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau

Nodyn personol ar sut mae wedi effeithio ar unigolyn

Gwelir bod nifer o ferfau cryno yn yr amser gorffennol yn y stori e.e. ‘dywedodd’, ‘gorlifodd’

Rhoi’r effaith bwysicaf yn gyntaf - dyma’r peth a effeithiodd ar nifer fwyaf y bobl

Nodi’n glir yr hyn sydd wedi digwydd, ble, pryd a pham

Mae difrod sylweddol wedi ei weld ar draws Cymru yn dilyn storm Alys neithiwr. Gwelwyd gwyntoedd o 78 milltir yr awr ar draws Cymru, ynghyd â dwy fodfedd o law’n disgyn o fewn tair awr. Gweddillion corwynt a welwyd ar draws Môr yr Iwerydd yw Storm Alys.

Yn ôl Pwerdy’r Gogledd, roedd 9,000 o gartrefi heb drydan o 6pm neithiwr. Roedd gan 6,000 o’r tai hynny gyfl enwad trydan erbyn 8am y bore yma, ond mae 2,000 yn dal i fod heb bŵer. Dywedodd Simon Adams, llefarydd ar ran Pwerdy’r Gogledd:

“Bu timoedd allan yn gweithio ar hyd a lled Cymru, mewn amodau gweithio anodd iawn, er mwyn sicrhau bod y tai hyn yn cael eu hailgysylltu â’r trydan. Roedd dau gant a hanner o weithwyr gyda ni’n gweithio drwy’r nos ac mae’n glod iddyn nhw eu bod wedi llwyddo i ailgysylltu’r cyfl enwad ar gyfer 6000 o dai.”

Roedd hi’n noson anodd i’r gwasanaethau brys hefyd. Cafodd y gwasanaeth tân ei alw yn Sir Fynwy gan fod coed wedi cwympo ar wifrau trydan ac achosi tân.

Dywedodd arweinydd Gwasanaeth Tân Dyfed Powys: “Mae wedi bod yn noson anodd i’r gwasanaeth tân gan ein bod wedi cael ein galw nid yn unig i nifer o danau ond i symud anifeiliaid fferm i dir uwch gan fod y caeau dan ddŵr hefyd.”

Gorlifodd nifer o afonydd yn ardal Abertawe a bu’n rhaid cau ysgolion cynradd Gorshelyg a Llwyn Llwchwr ar fyr rybudd gan fod heolydd yr ardal dan ddŵr. Roedd trenau wedi’u gohirio rhwng Abertawe a Chaerfyrddin oherwydd bod tonnau uchel yn codi dros y rheilffordd yn ardal Llanelli hefyd.

Roedd Meri Tomos, sydd yn byw yn y Bala, wedi gorfod gadael ei chartref dros nos: “Aeth dynion tân â fi i’r ganolfan gymunedol leol achos bod y dŵr yn codi yn y nant fach sydd yn rhedeg tu ôl i’r tŷ ac wedyn doedd dim trydan gen i. Roedd ugain ohonon ni yno drwy’r nos ond roedd yn gynnes ac roedd bwyd yno.”

Yn 2014, amcangyfrifwyd bod cynghorau wedi gwario tuag wyth miliwn o bunnau’n atgyweirio’r difrod a achoswyd gan stormydd a phenllanw’r môr. Yn ardal Conwy y cafwyd y difrod gwaethaf, a bu’n rhaid i’r cyngor wario tua £5 miliwn ar atgyweirio.

Y llynedd, bu’n rhaid i Lywodraeth Cymru glustnodi £2 fi liwn

STORM ALYS YN ACHOSI DIFROD SYLWEDDOL

Brawddegau syml, hawdd eu deall

Page 14: NEW DOC - Ffurfio Ffurfiau - Hwb€¦ · Cofier mai rhoi cymorth i ymgeiswyr ar gyfer asesiad ysgrifenedig ... Deunydd Sbardun: Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

1313

er mwyn atgyweirio’r difrod a welwyd ar draws Cymru. Gan fod rhybudd arall am law trwm wedi’i gyhoeddi gan y swyddfa dywydd, bydd yn rhaid aros i weld beth fydd y gost derfynol i’r llywodraeth eleni. 12 Disgwylir iddi oeri erbyn y penwythnos pan fydd ffrynt oer yn symud ar hyd y wlad o’r Arctig. Mae’r ffrynt eisoes wedi achosi i droedfedd o eira gwympo yn Rwsia a chwe modfedd yn yr Almaen. Mae rhybudd melyn o eira ar draws Cymru ar gyfer dydd Sadwrn.

Crynhoi’r stori a nodi’r hyn a allai ddigwydd nesaf

Page 15: NEW DOC - Ffurfio Ffurfiau - Hwb€¦ · Cofier mai rhoi cymorth i ymgeiswyr ar gyfer asesiad ysgrifenedig ... Deunydd Sbardun: Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

14

POBL IFANC YN DIBYNNU GORMOD AR FANC MAM A DAD

Mae adroddiad diweddar yn honni bod pobl ifanc yn dibynnu gormod ar eu rhieni ac o ganlyniad y bydd hyn yn cael effaith negyddol ar y ffordd y maen nhw’n dysgu sut i ymdrin ag arian. “Mae’n rhy hawdd troi at Mam a Dad a gofyn am help ariannol,” dywedodd Aled Morgan, o Brifysgol Rhydwen. Yn ôl bob tebyg, mae nifer fawr o bobl ifanc mewn dyled sylweddol erbyn iddyn nhw adael y brifysgol neu’r coleg a bod hynny’n parhau yn broblem iddyn nhw wrth iddyn nhw ddatblygu a thyfu yn oedolion ifanc.

“Y broblem ydy, cyn gynted ag y byddwch chi mewn dyled sylweddol, mae’n anodd iawn cael gwared â’r ddyled honno,” meddai Mr Morgan. Mae’n ymddangos, felly, fod banc Mam a Dad fel arfer yn barod i gyfrannu tuag at dalu’r dyledion hynny. Mae rhieni ar draws Prydain yn cyfrannu £44 biliwn bob blwyddyn i helpu eu plant i dalu dyledion yn ogystal ag amryw o bethau eraill.13 Heddiw, mae oedolion ifanc yn dibynnu ar eu rhieni i brynu pob math o bethau, megis ceir a thai yn ogystal â thalu am eu priodasau.

Yn wir, mae talu am briodasau yn costio oddeutu £4.3 biliwn y fl wyddyn i rieni Prydain.14 Dywedodd Alun Evans o Lanwern fod talu am briodas ei ferch wedi rhoi straen enfawr ar ei sefyllfa ariannol ef a’i wraig. Dywedodd Mr Evans, sy’n 58 mlwydd oed, “Fe warion ni gyfanswm o £22,000 ar briodas ein merch ac roedden ni’n benderfynol y byddai hi’n cael diwrnod i’w gofi o. Mae’n rhaid i fi gyfaddef bod hynny’n golygu fy mod i nawr mewn dyled enfawr.” Mae’r patrwm yma yn ddigon cyffredin ar draws Prydain yn ôl bob tebyg.

Dangosodd arolwg ymysg pobl ifanc fod 35% yn cyfaddef eu bod wedi dibynnu ar arian eu rhieni i dalu am gostau byw. Dywedodd 38% eu bod wedi benthyg arian neu wedi cael arian i dalu dyledion ac roedd 34% arall wedi cael arian i helpu i brynu cartref.15 Beth yw gwraidd y broblem? Pam y mae cymaint o oedolion ifainc mewn dyled?

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd bod mwy a mwy o brifysgolion Prydain yn dewis codi’r mwyafswm posibl o ran y ffi oedd dysgu. Gall hyn olygu y bydd ffi oedd dysgu cwrs gradd sydd yn dair blynedd o hyd mor uchel â £26,000.16 Rhaid hefyd ystyried costau byw’r myfyrwyr tra byddant yn y brifysgol. Yn ôl Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, mae costau byw myfyrwyr sydd yn astudio y tu allan i Lundain yn £12,056 bob blwyddyn ar gyfartaledd.17 Golyga hyn fod nifer helaeth o fyfyrwyr yn gadael y brifysgol â dyled o dros £30,000. Erbyn hyn, mae’r cyfartaledd cenedlaethol rhwng £35,000 a £40,000.18

Does dim syndod, felly, bod mwy a mwy o oedolion ifanc yn dibynnu ar fanc Mam a Dad i dalu am eu dyledion a’u costau byw. Credir bod tua 22% o rieni wedi gorfod torri’n ôl ar eu gwariant eu hunain er mwyn helpu eu plant, ac yn ôl bob tebyg fe wnaeth un o bob 10 gymryd benthyciad er mwyn helpu eu plant.

Wrth gwrs, mae’r oes wedi newid. Mae mwy o gyfl eoedd i bobl y dyddiau yma ac mae’n well gan bobl wario’u harian ar bethau i’w mwynhau yn hytrach na thalu eu dyledion a thorri yn ôl ar eu costau byw. Rhaid cofi o na fydd banc Mam a Dad yn bodoli am byth, ac i rai pobl bydd y wers honno yn un anodd ei dysgu.

Rhoi’r cefndir angenrheidiol er mwyn deall y stori

Ychwanegu rhagor o fanylion perthnasol

Diweddglo sy’n crynhoi’r stori

Pennawd clir sy’n cyfleu hanfod y stori ac yn gwneud i bobl fod eisiau darllen. Sylwer ar y berfenw ‘dibynnu’ yn y pennawd

Dyfyniad o fewn cyd-destun yr adroddiad gan berson perthnasol. Nodi awdurdod yn y maes

Crynhoi’r ‘stori’ yn syml, heb ormod o fanylion yn y paragraff cyntaf

Paragraffau byr â brawddegau syml ac uniongyrchol

Dyfyniad sy’n berthnasol i gyd-destun yr adroddiad ac sy’n cyfleu emosiwn

Berfau cryno syml - iaith lyfn sy’n hawdd ei darllen

Brawddegau uniongyrchol

14

Page 16: NEW DOC - Ffurfio Ffurfiau - Hwb€¦ · Cofier mai rhoi cymorth i ymgeiswyr ar gyfer asesiad ysgrifenedig ... Deunydd Sbardun: Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

151515

Dyfyniadau naturiol sy’n rhoi lliw i’r stori. Gellir ysgrifennu’r rhain mewn cywair mwy llafar.

Brawddegau byrion ac amrywiol sy’n hawdd eu darllen

Dyfyniad gan arbenigwr yn rhoi mwy o liw i’r stori

Nodi’r hyn fydd yn digwydd nesaf

Gorffen â dyfyniad cofiadwy

Ychwanegu at y stori gan roi’r union fanylion sut y digwyddodd y darganfyddiad

Rhoi cefndir sut y daeth i gael synhwyrydd metalau, sy’n bwysig er mwyn deall y cyd-destun

Paragraff cyntaf sy’n nodi ergyd y stori ond heb roi gormod o fanylion er mwyn ennyn diddordeb y darllenydd

Defnyddio is-deitlau byr er mwyn rhannu’r darn. Byddai’r erthygl hon yn addas ar gyfer cylchgrawn neu bapur newydd. Ni ddisgwylir iddo fod ar dudalen flaen papur newydd.

Teitl syml iawn sy’n defnyddio berfenw

Daeth merch ifanc ddwy ar bymtheg oed o un o bentrefi de Cymru o hyd i drysor hanesyddol ddoe. Wrth ddefnyddio synhwyrydd metelau ar gaeau ger pentref Gelli Garth, darganfu Lois Llywelyn gist fechan. Yn ôl arbenigwyr, y gist hon ydy’r hynaf o’i bath i gael ei darganfod erioed. Dywedant fod safl e’r darganfyddiad hefyd yn tafl u goleuni ar gyfnod arbennig yn ein hanes.

Hanes Cymru’n brin

Mae Lois yn astudio ar gyfer arholiadau Safon Uwch yn Ysgol Gyfun Cymerau ac yn ymddiddori’n fawr yn y pwnc. “Rwy wrth fy modd yn astudio Hanes,” meddai, “ond yn anffodus does dim llawer o gyfl e i astudio hanes Cymru na hanes lleol yn yr ysgol, felly rwy’n dwlu siarad â Dad-cu am hanes yr ardal.” Mae Glyn Llywelyn, tad-cu Lois, yn dipyn o hanesydd lleol ac fe soniodd wrth ei wyres am y Rhufeiniaid yn cloddio yn yr ardal.

“Ar ôl siarad â Dad-cu, es i i lyfrgell y pentref a dod o hyd i hen lyfr am hanes y plwyf. Roedd pennod yno yn dweud bod y Rhufeiniaid wedi bod yn chwilio am blwm a chopr yn y ddaear. Ces i sioc o weld hen fap yn y llyfr oedd yn dangos eu bod nhw wedi cloddio yn y tir tu ôl i ‘nghartre.”

Anrheg werth chweil

Gan ei fod yn dioddef o’r cryd cymalau ac yn methu â cherdded yn bell, roedd Mr Llywelyn wedi rhoi ei synhwyrydd metelau i’w wyres fel anrheg fl wyddyn yn ôl. “Roedd Lois bob amser yn hoffi ’r teclyn, ond doeddwn i ddim yn disgwyl iddi gael cymaint o hwyl gydag e”.

Ar ôl darllen Hanes Plwyf y Gelli yn y llyfrgell cafodd Lois ganiatâd y ffermwr i fynd i’r cae ger ei thŷ. Sylwodd fod codiad tir yng nghornel pellaf y cae. Aeth â’r teclyn o gwmpas y twmpath. Yn sydyn, clywodd e’n gwneud sŵn uchel uwchben un man penodol. Dechreuodd Lois gloddio’n ofalus, ac ar ôl mynd i lawr tua throedfedd, gwelodd ran uchaf y gist fechan.

“Ro'n i’n gwybod yn syth ei fod e’n edrych yn hen,” dywedodd, “a dyna pam cloddies i o gwmpas yr ochrau rhag ofn i fi ei ddifetha.” Wedyn gadawodd e yn y ddaear gan ei fod yn ymddangos yn lled fregus a mynd yn gyffrous i ddweud wrth ei thad-cu. Ei awgrym ef oedd ymweld â Chanolfan Treftadaeth y Sir a sôn wrth arbenigwyr am ei darganfyddiad.

Tipyn o gamp

Ar ôl ymweld â’r safl e wythnos yn ôl, cadarnhaodd Dr Gerwyn Austin o’r Ganolfan fod y ferch ysgol wedi cyfl awni tipyn o gamp. “Doeddwn i ddim yn disgwyl gweld cist o gyfnod y Rhufeiniaid,” meddai, “Caf fy ngalw allan yn aml gan bobl sy’n tybio eu bod wedi dod o hyd i drysor trwy ddefnyddio’r teclynnau hyn ac yn amlach na pheidio dydyn nhw ddim”.

Cadarnhaodd y bydd archeolegwyr yn archwilio’r safl e cyfan pan gaiff y Ganolfan ddigon o gyllid i ymgymryd â’r gwaith. Pan ofynnwyd i Lois am ei hymateb i’w darganfyddiad, roedd wrth ei bodd. “Rwy’n teimlo’n falch iawn ac wedi penderfynu astudio archaeoleg pan af i i’r brifysgol... achos rwy wedi dysgu bod hanes yn cychwyn wrth fy nhraed.”

DARGANFOD TRYSOR

1515

Page 17: NEW DOC - Ffurfio Ffurfiau - Hwb€¦ · Cofier mai rhoi cymorth i ymgeiswyr ar gyfer asesiad ysgrifenedig ... Deunydd Sbardun: Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

16

Nifer o gyfleoeddCyfle i gydweithio Cadw cysylltiad â theulu a ffrindiauStorfa fawr o wybodaethGallu gweithio o gartref

Ond – nifer o droseddwyr – cymryd mantais o gyfleoedd y we – bancio yn enwedig. Grwpiau arbenigol – targedu unigolion, busnesau bach a chorfforaethau mawr – dwyn data 19

Disgwyl i ymosodiadau ar y we gostio dros £800 miliwn y flwyddyn i fusnesau yng Nghymru 20

Peryglon eraill: PreifatrwyddPosibilrwydd esgus bod yn rhywun arallStelcio ar-lein – merched dan fwy o fygythiad. Gall merched gael eu stelcio gan gyn-gariad. Gall fod yn gyfeillgarwch wedi suroBwlio ar-lein – gallu postio lluniau a sylwadau a all achosi poen meddwl i rywun Posibilrwydd ymosod ar rywun yn eiriol o fewn ei broffil personol ei hun

Dwyn hunaniaeth rhywun ar-lein – y mwyaf o wybodaeth sydd ar-lein, y mwyaf yw’r perygl o ddwyn hunaniaeth.Peidio ag ateb e-bost oddi wrth rywun nad ydych yn ei adnabodPeidio â rhoi gwybodaeth bersonol e.e. rhif ffôn, lluniau, gwybodaeth am fanciauPerygl: dwyn arian/rhoi eich hun ac eraill mewn perygl/trosedduAnfon lluniau anweddus 21

Dwyn data hyd at 2.4 miliwn o ddefnyddwyr Carphone Warehouse 22

Heddiw, agor canolfan i frwydro yn erbyn troseddu ar y we. Targedu grwpiau trefnedig sydd yn gweithio ar draws y byd

Dyfyniad Dr Eira Dafis, prif weithredwr y ganolfan:“Bydd y ganolfan yn arloesol wrth dargedu grwpiau ar draws y byd. Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn cydweithio â nifer o asiantaethau, gan gynnwys yr heddlu a phrifysgolion, er mwyn ceisio gwneud gwahaniaeth sylweddol a fydd yn gwella diogelwch ein gwlad.”

Dyfyniad y Prif Gwnstabl Mathew Richards: “Mae angen y ganolfan ar Gymru ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio’n agos iawn â hi er mwyn ceisio datrys troseddau a gweld pa fath o dueddiadau sy’n datblygu o ran ymosodiadau ar-lein”

Dyfyniad Alwyn Coombes, myfyriwr prifysgol: “Rwy’n edrych ymlaen at geisio cael gwaith yn y ganolfan pan fydda i’n graddio achos rwy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol drwy’r amser ac eisiau dysgu mwy amdanyn nhw”.

Ymchwilwyr WISERD: ymchwil i 848 o ddisgyblion ysgol yng Nghymru 22% o ddisgyblion blwyddyn 8 a 23% o ddisgyblion blwyddyn 10 yn ateb drwy ddweud eu bod wedi aros ar ddihun er mwyn edrych ar gyfryngau cymdeithasol.

Mwy na hanner y plant hyn yn dweud eu bod wedi blino bron bob amser yn eu gwersi’r diwrnod wedyn

Mwy na 25% o ddisgyblion blwyddyn 10 yn mynd i gysgu ar ôl hanner nos 23

87% o blant 7-11 oed yn berchen llechen (tablet) neu i-Pad 24

DEUNYDD SBARDUN: MANTEISION AC ANFANTEISION Y WE

Lluniwch adroddiad i bapur newydd sy’n trafod manteision ac anfanteision y we. Bydd angen i chi ddewis a dethol ffeithiau addas ar gyfer yr erthygl, rhoi trefn arnynt ac ysgrifennu’n gryno ac yn bwrpasol. Gallwch hefyd dynnu ar eich profiadau/gwybodaeth bersonol pan fo’n briodol. Dylech ysgrifennu tuag un ochr tudalen.

Page 18: NEW DOC - Ffurfio Ffurfiau - Hwb€¦ · Cofier mai rhoi cymorth i ymgeiswyr ar gyfer asesiad ysgrifenedig ... Deunydd Sbardun: Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

17

TROEDNODIADAU

1. BBC Cymru. [2015] Uwchgynhadledd i drafod ffoaduriaid. [Ar-lein]. Ar gael: http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/34177225 (Cyrchwyd: 11 Tachwedd 2015)

2. Oxfam Cymru. [2015] Is there still a welcome in Wales? [Ar-lein]. Ar gael: http://www.oxfam.org.uk/cymru/blog/2015/06/is-there-still-a-welcome-in-wales (Cyrchwyd: 11 Tachwedd 2015)

3. Independent. [2015] Refugee crisis: UK to receive 1,000 Syrians by Christmas - but is it enough? [Ar-lein]. Ar gael: http://www.independent.co.uk/news/uk/home-news/refugee-crisis-uk-to-receive-1000-syrians-by-christmas-but-is-it-enough-a6729836.html (Cyrchwyd: 11 Tachwedd 2015)

4. BBC Cymru. [2015] Ffoaduriaid: David Cameron 'yn gybyddlyd'. [Ar-lein]. Ar gael: http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/34631378 (Cyrchwyd: 11 Tachwedd 2015)

5. BBC Cymru. [2015] Paratoi symud ffoaduriaid i Aberystwyth. [Ar-lein]. Ar gael: http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/34702382 (Cyrchwyd: 11 Tachwedd 2015)

6. http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/34881236 (Cyrchwyd: 24 Tachwedd 2015)

7. http://www.walesonline.co.uk/news/education/college-staff-protest-site-entrances-10452133 (Cyrchwyd: 16 Tachwedd 2015)

8. http://golwg360.cymru/newyddion/cymru/206667-calon-lan-yn-boddi-protestiadau-gwrth-ffoaduriaid (Cyrchwyd: 24 Tachwedd 2015)

9. http://www.walesonline.co.uk/news/education/college-staff-protest-site-entrances-10452133 (Cyrchwyd: 16 Tachwedd 2015)

10. http://www.colegaucymru.ac.uk (Cyrchwyd: 24 Tachwedd 2015)

11. Data LLWR 2013/14, cafwyd gan Golegau Cymru (24 Tachwedd 2015)

12. http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-25948617 (Cyrchwyd: 24 Tachwedd 2015)

13. This is Money. [2013] Bank of Mum and Dad subsidises 'a new generation of adult children' to the tune of £1,125 a year each year. [Ar-lein] Ar gael: http://www.thisismoney.co.uk/money/news/article-2483654/Parents-hand-44bn-year-adult-children.html. (Cyrchwyd: 18 Tachwedd 2015)

14. This is Money. [2013] Bank of Mum and Dad subsidises 'a new generation of adult children' to the tune of £1,125 a year each year. [Ar-lein] Ar gael: http://www.thisismoney.co.uk/money/news/article-2483654/Parents-hand-44bn-year-adult-children.html (Cyrchwyd: 24 Tachwedd 2015)

15. Golwg360. [2010] Pobl ifanc yn dibynnu ar rieni i dalu costau byw. [Ar-lein] Ar gael: http://golwg360.cymru/archif/22717-pobol-ifanc-yn-dibynnu-ar-rieni-i-dalu-costau-byw (Cyrchwyd: 18 Tachwedd 2015)

16. The Telegraph. [2015] More universities to charge maximum tuition fees of £9,000. [Ar-lein] Ar gael: http://www.telegraph.co.uk/education/universityeducation/student-finance/10987092/More-universities-to-charge-maximum-tuition-fees-of-9000.html (Cyrchwyd: 19 Tachwedd 2015)

17. NUS. [2010] What are the costs of study and living? [Ar-lein] Ar gael: http://www.nus.org.uk/en/advice/money-and-funding/average-costs-of-living-and-study/ (Cyrchwyd: 19 Tachwedd 2015)

18. Which University. [2014] How much debt will you actually get into by going to university? [Ar-lein] Ar gael: http://university.which.co.uk/advice/student-finance/how-much-debt-will-i-actually-get-into-by-going-to-university (Cyrchwyd: 19 Tachwedd 2015)

19. http://www.nationalcrimeagency.gov.uk/crime-threats/cyber-crime (Cyrchwyd 18 Tachwedd 15)

20. http://www.capitalnetworks.co.uk/news/2015/07/03/rise-in-cyber-crime-could-cost-welsh-firms-800m-a-year/ (Cyrchwyd 19 Tachwedd 2015)

21. http://safe.met.police.uk/internet_safety/get_the_facts.html (Cyrchwyd 18 Tachwedd 2015)

22. http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/personal-data-up-24-million-9819795 (Cyrchwyd 19 Tachwedd 2015)

23. http://golwg360.cymru/newyddion/gwyddoniaeth-a-thechnoleg/199807-disgyblion-wedi-blino-oherwydd-cyfryngau-cymdeithasol (Cyrchwyd 24 Tachwedd 2015)

24. http://www.walesonline.co.uk/news/education/nine-10-children-ipad-new-10453689 (Cyrchwyd 24 Tachwedd 2015)