national dance company wales folk programme/ rhaglan 2016

13
ndcwales.co.uk ndcwales #ndcwales 2016 Gwanwyn Spring Programme Rhaglen

Upload: ndc-wales

Post on 25-Jul-2016

222 views

Category:

Documents


3 download

DESCRIPTION

National Dance Company Wales' Spring Tour programme provides details of its forthcoming tour this Spring which tours across the UK. The programme features information on its repertoire, company, dancers and interviews with the new Artistic Director, Caroline Finn who has created Folk.

TRANSCRIPT

ndcwales.co.ukndcwales #ndcwales

2016GwanwynSpring

ProgrammeRhaglen

Fel y Cyfarwyddwr Artistig a’r Prif Weithredwr newydd yng Nghwmni Dawns Cenedlaethol Cymru rydym yn eich croesawu i’n rhaglen Wanwyn fywiog. Rydym ill dau wedi dod i Gymru er mwyn gweithio gyda’r cwmni nodedig hwn o ddawnswyr a staff. Rydym yma oherwydd ein bod eisiau creu dawns newydd cyffrous ac ymgysylltu gyda chynulleidfaoedd ym mhob cwr o Gymru, ledled y DU a thramor.

Mae hon yn daith arbennig iawn i ni gyda Caroline yn cyflwyno ei darn cyntaf gyda’r Cwmni, sef Folk. Rydym wrth ein boddau bod Folk i’w berfformio ym mhob lleoliad y byddwn yn ymweld ag ef, ochr yn ochr â gweithiau o’n repertoire: detholiad o Tuplet gan Alexander Ekman; Walking Mad gan Johan Inger ac A Mighty Wind gan Jeroen Verbruggen.

Ar gyfer ein cynulleidfaoedd yn Llundain, byddwn yn ail-lwyfannu un o’n hoff ddarnau repertoire sef They Seek To Find The Happiness They Seem gan ein Cyfarwyddwr Ymarfer, Lee Johnston. Mae’r rhaglen yn un hynod amrywiol o ran ei ieithwedd goreograffig a hefyd o ran y cynlluniau gweledol a theimlwn yn siŵwr y bydd yn ennyn eich cywreinrwydd i weld y Cwmni eto yn y dyfodol. Yn ogystal mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar y gweill sy’n cynnwys mynd ar daith i theatrau mawr a bach ym mhob cwr o Gymru, ledled y DU ac yn rhyngwladol.

Rydym yn cyflwyno rhagor o berfformiadau matinée rhyngweithiol ar gyfer ysgolion a theuluoedd mewn rhai lleoliadau yn arbennig ar gyfer y rheini y mae dawns yn rhywbeth newydd iddynt. Yn dilyn ein cyfnod trigiannol hynod lwyddiannus yny Tyŵ Dawns, Caerdydd gyda Cai Tomos, byddwn yn agor ein drysau ac yn cynnig cyfle cyffelyb unwaith eto ar gyfer artistiaid sydd wedi eu lleoli yng Nghymru, ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn cynnig cyfle tebyg i artistiaid rhyngwladol. Arhoswch mewn cysylltiad â ni a derbyn ein newyddion diweddaraf trwy ymuno â’n rhestr ddosbarthu, ynteu ein dilyn trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Mwynhewch y sioe!

As the new Artistic Director and Chief Executive at National Dance Company Wales we welcome you to our vibrant Spring programme. We have both come to Wales to work with this outstanding company of dancers and staff. We’re here because we want to create thrilling new dance, and engage audiences in all corners of Wales, across the UK and overseas.

This is a very special tour for us, as Caroline presents her first piece with the company, Folk. We are delighted that Folk will be playing in every venue alongside works from our repertoire: a selection from Alexander Ekman’s Tuplet; Johan Inger’s Walking Mad and Jeroen Verbruggen’s A Mighty Wind.

For our London audiences, we will be reviving one of our favourite repertoire pieces, They Seek To Find The Happiness They Seem by our own Rehearsal Director Lee Johnston. The programme is so diverse in both its choreographic language and visual design that we feel sure it will spark a curiosity to see the company again. We also have ambitious plans for the future which includes touring theatres large and small in every corner of Wales, across the UK and internationally.

We are presenting more Schools and Family Interactive Matinees for those who are new to dance at some venues. After our hugely successful residency at the Dance House in Cardiff with Cai Tomas, we will be opening up this opportunity again to Wales based artists, and later in the year to international artists. Stay in touch and follow our updates by joining our mailing list, or signing up to our social media. Enjoy the show!

Paul, Chief Executive / Prif Weithredwr Caroline, Artistic Director / Cyfarwyddwr Artistig

Welcome Croeso

At NDCWales we are passionate about dance and dancing. We offer a wide range of activities for those who want to Learn, Explore and Dance.

Yng NgDCCymru, rydym yn teimlo’n angerddol ynghylch dawns. Rydym yn cynnig ystod eang o weithgarwch ar gyfer y rheini sy’n dymuno Dysgu, Archwilio a phrofi Dawns.

Find out more through our GET INVOLVED programme at Er mwyn dod i wybod rhagor ynghylch ein rhaglen YMWNEUD ewch i ymweld â ndcwales.co.uk

Explore

ARCHWILIWCH

Dance

dAWNS

DYSGU

LEARN

Get Involved Cyfrannwch

...more about dance through our bespoke workshops and interactive matinees.

...Dysgwch ragor ynghylch dawns trwy ein gweithdai wedi eu teilwra’n arbennig a perfformiadau matinée rhyngweithiol.

...dance through our additional events such as open rehearsals and post show talks.

...ddawns trwy ddigwyddiadau ychwanegol megis ymarferion agored a sgyrsiau yn dilyn perfformiadau.

...at all different levels of age and ability.

...ar bob lefel gallu ac oedran.

ndcwales.co.uk @ndcwales #ndcwalesfolk 3

Choreography / Coreograffi: Alexander Ekman

Choreographer’s Assistant / Cynorthwydd y Coregoraffydd: Ana Lucaciu

Music and Sound / Cerddoriaeth a Sain: Mikael Karlsson, featuring / yn cynnwys Fly Me To The Moon, performed by / wedi ei berfformio gan Victor Feldman from the album / o’r albwm Jazz at Ronnie Scott’s

Lighting Design / Cynllun golau: Amith A. Chandrashaker

Costume Design / Cynllunio gwisgoedd: Nancy Haeyung Bae

Costume Maker / Creu gwisgoedd: Louise Edmunds

Costume Assistants / Cynorthwywyr gwisgoedd: Angharad Spencer, Rebecca Hayes, Gregory Rostek, Llinos Griffiths

6 dancers / dawnsiwr

18 minutes / munud

Tuplet Alexander Ekman’s works are known for their clever ideas, fast-paced choreography and abundance of humour. He has created 35 works to date, performed worldwide by companies such as the Boston Ballet, Nederlands Dans Theater, Sydney Dance Company, Vienna and Les Ballets de Monte Carlo.

Ekman creates unique performances in collaboration with different disciplines and regularly designs the set and costumes as well as jointly composing the music for his creations. Tuplet was originally made for Cedar Lake Dance Company using a score created with the dancers’ own rhythmic impulses and employing their bodies as percussion instruments. We are delighted to be the first European company to perform this work.

Mae gweithiau Alexander Ekman yn adnabyddus oherwydd y syniadau clyfar, y coreograffi chwim a’r hiwmor cyforiog sy’n ganolog iddynt. Mae wedi creu 35 o weithiau hyd yma sy’n cael eu perfformio led-led y byd gan gwmnïau megis Bale Boston, Nederlands Dans Theater, Cwmni Dawns Sydney, Vienna a Les Ballets de Monte Carlo.

Mae Ekman yn creu perfformiadau unigryw mewn cyd-weithrediad ag amrywiol ddisgyblaethau ac mae’n cynllunio’r set a’r gwisgoedd yn gyson ac yn cyd-gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer ei greadigaethau. Lluniwyd Tuplet yn wreiddiol ar gyfer Cwmni Dawns Cedar Lake gan ddefnyddio sgôr wedi ei greu o ddyheadau rhythmig y dawnswyr eu hunain a ddefnyddia eu cyrff fel offerynnau taro. Rydym wrth ein bodd o fod y cwmni Ewropeaidd cyntaf i berfformio’r gwaith hwn.

Alexander Ekman

I’ve worked with rhythm in many of my pieces… it’s a huge part of my work. Alexander Ekman

“ I’ve worked with rhythm in many of my pieces… it’s a huge part of my work. When I make a piece I want it to be about something, a very clear subject or a concept, so I thought it was time to dedicate a whole piece to rhythm.

“ I believe in honesty on stage and if a dancer is having an experience on stage themselves… I actually try and get the dancers to have more of an experience rather than performing the work.

“ I think the size of the company creates a very relaxed working atmosphere, and it’s fun and when I have fun, I create well and I want to create, so I start to make changes and it becomes more fresh… every time I re-set the work it becomes new because the dancers are the piece… that’s the beauty of it, I get to see the same piece but it changes because it’s alive.”

More from the Choreographer Mwy oddi wrth y Coreograffydd

© T

M R

ives

ndcwales.co.uk @ndcwales #ndcwalesfolk 5

Choreography / Coreograffi: Jeroen Verbruggen

Sound Design by / Cynllun y Sain gan: James Kennedy

Works by / Gweithiau gan: And So I Watch You From Afar, Enemies, Sound Effects Library, Diamanda Galas, Natalia Paruz, Because of Ghosts, Diabologum and/a Suicide. Full list of artists on our website Ceir rhestr llawn o’r artistiaid ar ein gwefan

Lighting Design / Cynllun y Golau: Ben Ormerod

Design Consultant / Ymgynghorydd cynllunio: Suzi Dorey

Costume makers / Gwneuthurwyr gwisgoedd: Amy Barrett, Louise Edmunds & Angharad Spencer

8 dancers / dawnsiwr

28 minutes / munud

Belgian choreographer Jeroen Verbruggen studied at the Royal Belgian Ballet School of Antwerp, and went on to win a scholarship to study with the National Ballet School of Canada.

In 2001 Vebruggen took second place at the Eurovision Young Dancer with his solo Hyperballad. Verbruggen joined the Royal Ballet of Flanders in Antwerp from 2001-2003 before dancing with Ballet d’Europe as first soloist. During his time with Ballet d’Europe, Verbruggen created a number of works for choreography evenings, Belgian national television, and the Monaco dance forum.

In 2012 Jeroen created his first full piece on Les Ballets de Monte Carlo, Kill Bambi, which was made in collaboration with the Parisian fashion house On aura tout vu. In 2013 Jeroen was nominated by the prestigious Rolex Arts Initiative and in November 2014, he presented his first full length evening with his interpretation of a new Nutcracker for Le Ballet du grand theatre de Genève.

A Mighty Wind is Jeroen’s first UK commission.

Astudiodd y coreograffydd Belgaidd Jeroen Verbruggen yn ysgol Fale Frenhinol Belg yn Antwerp, a mynd rhagddo i ennill ysgoloriaeth er mwyn astudio gydag Ysgol Fale Genedlaethol Canada. Yn 2001 dyfarnwyd yr ail safle i Vebruggen yng Nghystadleuaeth Dawnsiwr Ifanc Eurovision gyda’i waith unawd Hyperballad.

Ymunodd Verbruggen â Bale Brenhinol Fflandrys yn Antwerp rhwng 2001 a 2003 cyn dawnsio gyda Ballet d’Europe fel ei unawdydd blaenaf. Yn ystod ei gyfnod gyda Ballet d’Europe, creodd Verbruggen nifer o weithiau ar gyfer nosweithiau coreograffiadd, teledu cenedlaethol Gwlad Belg, a Fforwm Ddawns Monaco.

Yn 2012 creodd Jeroen ei waith cyflawn cyntaf gyda Les Ballets de Monte Carlo, Kill Bambi, a grëwyd mewn cyd-weithrediad â’r Ty Ffasiwn o Baris On aura tout vu. Yn 2013 enwebwyd Jeroen gan Fenter Gelfyddydol uchel ei bri Rolex Arts ac ym mis Tachwedd 2014, cyflwynodd ei noson gyflawn gyntaf gyda’i ddehongliad newydd o Nutcracker ar gyfer Le Ballet du grand theatre de Genève.

A Mighty Wind yw comisiwn cyntaf Jeroen yn y DU.

“ A Mighty Wind in my eyes can be many things. I think that first of all it’s something bigger than ourselves that we want to overcome; or try to beat; but a mighty wind can also be just, a mighty wind. Also, in terms of the music for the piece, A Mighty Wind can also relate to the loudness of the rock music. I see my piece as a poem, which plays with themes of wind and overcoming things, or trying to erase things such as little sections of memories.

“ We are trying to give a modern rock feeling as a style of the piece. I want the public to enjoy it even if they don’t necessarily understand everything; to be touched by it. I want them to go with the music and have a good time as if they’re watching a concert.”

Jeroen Verbruggen

More from the Choreographer Mwy oddi wrth y Coreograffydd

A Mighty Wind I see my piece as a poem,

which plays with themes of the winds and overcoming things or trying to erase things like little sections of memories. Jeroen Verbruggen

ndcwales.co.uk @ndcwales #ndcwalesfolk 7

Choreography / Coreograffi: Caroline Finn

Music / Cerddoriaeth: Works by / Gweithiau gan: Barcarola (Offenbach and Giraud) by Mantavoni and his Orchestra, Midnight Waltz by Adam Hurst, O Zorbas by Mikis Theodorakis, Homo Fugit velut umbra by Christina Pluhar & L’Arpeggiata, Black Gold by Armand Amar + Sarah Nemtanu, Pepa by Carles Santos, Threnody by Goldmund

Set and Lighting Design / Cynllunio’r set a’r Goleuo: Joe Fletcher

Costume Design / Cynllunio gwisgoedd: Gabriella Slade

Costume Supervisor & Maker / Goruchwyliwr a Chrëwr y Gwisgoedd: Amy Barrett

Costume Maker / Creu Gwisgoedd: Rhiann Houlihan

9 dancers / dawnsiwr

28 minutes / munud

FOLK Caroline Finn joined National Dance Company Wales in September 2015 as its new Artistic Director. A winner of the Matthew Bourne New Adventures Choreographer Award 2014, she created a new work entitled Bloom for Phoenix Dance Theatre in 2015.As a dancer, Finn performed with Ballet Theater Munich under the direction of Philip Taylor; Ballet Preljocaj (France); Compagnie Carolyn Carlson (France); Jochen Heckmann and Johanna Richter.Finn has been a freelance dancer and choreographer since 2009 and her acclaimed solo work Bernadette has toured internationally to festivals in Aix en Provence, Munich, Luzern, Berlin, Krakow, Paris and South Korea.Three years in a row she was commissioned to create new works for Theater in Kempten and she has created work for companies such as Tanz Luzerner Theater (Switzerland); Cross Connection Ballet (Denmark); Compagnie DIEM (France) and Teatr Groteska (Poland). Between 2013 and 2014 Finn presented three of her works at the Interdans Festival in Belgium. In 2015 she choreographed a new piece for the National Ballet of Chile based on Kurt Joos’ The Green Table. Finn has been a member of Tanztendenz München e.V. since 2013.

Ymunodd Caroline Finn â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ym mis Medi 2015 fel Cyfarwyddwr Artistig newydd y Cwmni. Yn enillydd Gwobr Coreograffydd Anturiaethau Newydd Matthew Bourne 2014, creodd waith newydd o’r enw Bloom ar gyfer Phoenix Dance Theatre yn 2015.Fel dawnsiwr, perfformiodd Finn gyda Ballet Theater Munich dan gyfarwyddyd Philip Taylor; Ballet Preljocaj (Ffrainc); Compagnie Carolyn Carlson (Ffrainc); Jochen Heckmann a Johanna Richter.Mae Finn wedi bod yn ddawnsiwr a choreograffydd llawrydd ers 2009 ac mae ei gwaith unawd uchel ei glod, Bernadette, wedi bod ar daith yn rhyngwladol i wyliau yn Aix ên Provence, Munchen, Luzern, Berlin, Krakow, Paris a De Corea.Tair blynedd yn olynol cafodd ei chomisiynu i greu gweithiau newydd ar gyfer Theater in Kempten ac mae wedi creu gweithiau ar gyfer cwmnïau megis Tanz Luzerner Theater (y Swistir); Cross Connection Ballet (Denmarc); Compagnie DIEM (Ffrainc) a Teatr Groteska (Gwlad Pwyl). Rhwng 2013 a 2014 cyflwynodd Finn dri o’i gweithiau yng Ngŵyl Interdans yng Ngwlad Belg. Yn 2015 hi oedd y coreograffydd a greodd ddarn newydd ar gyfer Bale Cenedlaethol Chile, yn seiliedig ar The Green Table gan Kurt Joos. Mae Finn wedi bod yn aelod o Tanztendenz München e.V. ers 2013.

Caroline Finn

I wanted to create a surreal-yet-familiar community for the characters in the piece to exist in. A world which is not immediately identifiable or recognisable, yet which we can all relate to on some level. Caroline Finn

World Premiere / Perfformiad cyntaf led-led y byd

“ I love watching people; their quirks and idiosyncrasies, and the way they function in different social scenarios. So I wanted to make a piece which is largely about social dynamics – exploring the relationships between people and how they behave when they are in a group compared to how they behave when they are on their own. What makes people form a group or a particular connection with someone? What ostracises people from a group and how does this affect their behaviour?

“ I was also inspired by the variety and expressions of the characters and communities you see in old 17th and 18th century oil paintings and encouraged the dancers to create their own characters for the piece based on some of these oil paintings.

“ I wanted to create a surreal-yet-familiar community for the characters in the piece to exist in – pushing the fine line between fantasy and reality; a world which is not immediately identifiable or recognisable, yet which we can all relate to on some level.”

More from the Choreographer Mwy oddi wrth y Coreograffydd

© R

hys

Coz

ens

ndcwales.co.uk @ndcwales #ndcwalesfolk 9

Choreography / Coreograffi: Johan Inger

Choreographer’s Assistant / Cynorthwydd y Coreograffydd: Karl Inger

Music / Cerddoriaeth: Maurice Ravel: Boléro for orchestra (1928) & Arvo Pärt, Für Aline

Lighting Design / Cynllun y Golau: Erik Berglund

Costume Design / Cynllun y Gwisgoedd: Johan Inger

Costume Realisation / Crëwyr y Gwisgoedd: Llinos Griffiths

9 dancers / dawnsiwr

22 minutes / munud

Performing at the Sherman Theatre only. I’w berfformio yn Theatr y Sherman yn unig.

Walking Mad Swedish Chorogragher Johan Inger completed his dance training at the Royal Swedish Ballet School and at the National Ballet School in Canada. He danced with the Royal Swedish Ballet in Stockholm from 1985 to 1990, before leaving to join Nederlands Dans Theater 1 where he stayed until 2002. During this time he made various works for the company developing his choreographic talent.

He left NDT in 2003 to take on the artistic leadership of Cullberg Ballet in Stockholm, making various choreographies for the company, until leaving to devote himself entirely to his choreography in 2008. His works have been commissioned by numerous ballet companies around the world, as well as maintaining a longstanding creative relationship with Nederlands Dans Theater with whom he holds the position of Associate Choreographer.

Cwblhaodd y coreograffydd o Sweden Johan Inger ei hyfforddiant dawns yn Ysgol Fale Frenhinol Sweden a’r Ysgol Fale Genedlaethol yng Nghanada. Rhwng 1985 a 1990 bu’n dawnsio gyda Chwmni Bale Brenhinol Sweden yn Stockholm. Yn 1990 ymunodd â Nederlands Dans Theater I a bu yno tan 2002. Ers hynny mae Inger wedi llunio amrywiol weithiau ar gyfer Nederlands Dans Theater gan feithrin ei ddoniau coreograffig.

Ymadawodd â Nederlands Dans Theater er mwyn ysgwyddo arweinyddiaeth artistig Cullberg Ballet yn Stockholm yn 2003, a lluniodd amrywiol ddarnau o goreograffi ar gyfer y cwmni hwnnw. Yn 2008 daeth Inger â’i gyfarwyddiaeth artistig i ben er mwyn ymroi’n llwyr i goreograffi. Comisiynwyd gweithiau oddi wrtho gan amrywiol gwmnïau bale led-led y byd, ac mae’n llunio coreograffi’n gyson ar gyfer Nederlands Dans Theater lle mae’n Gydymaith Goreograffydd.

Johan Inger

The famous Boléro from Ravel with its sexual, almost kitschy history was the trigger point to make my own version. Johan Inger

© U

rban

Jör

én

“ The famous Boléro from Ravel with its sexual, almost kitschy history was the trigger point to make my own version. I quickly decided that it was going to be about relationships in different forms and circumstances. I came up with the idea of a wall that could transform the space during this minimalistic music and create small pockets of space and situations. Walking Mad is a journey in which we encounter our fears, our longings and the lightness of being.”

More from the Choreographer Mwy oddi wrth y Coreograffydd

ndcwales.co.uk @ndcwales #ndcwalesfolk 11

Choreography / Coreograffi: Lee Johnston

Music / Cerddoriaeth: Several works by / Amrywiol weithiau gan: Max Richter

Lighting Design / Cynllun y Golau: Joe Fletcher

Costume Design / Cynllun y Gwisgoedd: Zepur Agopyan

2 dancers / dawnsiwr

13 minutes / munud

Performing at The Place only. I’w berfformio yn The Place yn unig.

They Seek To Find The Happiness They Seem

They Seek To Find The Happiness They Seem is Lee’s second work for the repertoire of National Dance Company Wales. Other credits include Purlieus, which was a World Stage Design 2013 finalist and voted a Telegraph Top 15 highlight. Both works were brought into NDCWales’s repertoire whilst Lee was House Choreographer in 2014.

Before her current role as Rehearsal Director for National Dance Company Wales, Lee was Rehearsal Director for Sydney Dance Company, under the artistic direction of Rafael Bonachela.

Highlights of her ten year performance career include working with Christopher Bruce, Stephen Petronio, Ohad Naharin and Nigel Charnock, and touring extensively throughout Wales, Europe, and Australia.

They Seek To Find The Happiness They Seem yw ail waith Lee ar gyfer repertoire Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Mae gweithiau eraill yn cynnwys Purlieus, a gyrhaeddodd rown derfynol gwobrau Cynllunio Llwyfan y Byd 2013 a’i enwebu i fod ym mhymtheg uchaf uchafbwyntiau’r Telegraph. Daeth y ddau waith yn rhan o repertoire CDCCymru pan oedd Lee yn goreograffydd trigiannol y Cwmni yn 2014.

Cyn ei swydd bresennol fel Cyfarwyddwr Ymarfer Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, bu Lee yn Gyfarwyddwr Ymarfer Cwmni Dawns Sydney, dan arweiniad artistig Rafael Bonachela.

Ymhlith uchafbwyntiau ei gyrfa ddeng mlynedd o hyd fel perfformiwr bu gweithio gyda Christopher Bruce, Stephen Petronio, Ohad Naharin a Nigel Charnock, a theithio’n helaeth led-led Cymru, Ewrop ac Awstralia.“ They Seek To Find The Happiness They Seem is a

special work for Joe Fletcher and I that took form effortlessly. At the time, I was fascinated by the impenetrable inner world of couples; the particular routines, unspoken understanding and tensions that play out between two people.

“ I was drawn to subdued moments and moments where something irrevocably shifts. Iconic film dance duos from the 1930’s, as popular culture archetypes of romance, were a constant reference point to reframe, reconfigure or work in opposition to.”

Lee Johnston

More from the Choreographer Mwy oddi wrth y Coreograffydd

© F

airy

odd

…I was fascinated by the impenetrable inner world of couples; the particular routines, unspoken understanding and tensions that play out between two people. Lee Johnston

ndcwales.co.uk @ndcwales #ndcwalesfolk 13

Creative Folk Creadigol

We go behind the scenes and meet the creative team on Folk

Choreographer / Coreograffydd, Caroline Finn: left / chwith

Cip tu hwnt i’r llen er mwyn cyfarfod â’r tîm creadigol ar gyfer Folk

How did you start creating Folk with the dancers?

In the run up to Christmas, I set the dancers some tasks based on 17th and 18th century oil paintings in order to allow them to begin creating a character and exploring what the physicality of that character might be. The dancers did amazingly with this task, creating such a palette of colourful characters and generating a wealth of physicalities for me to develop further.

I then started with a movement phrase of my own which I taught to the dancers. This is always helpful, to both myself and the dancers, when we haven’t worked with each other before since it helps them get used to my way of moving and it also enables me to see how each dancer interprets my movement differently. Essentially this phrase became our ‘language’ for the piece and from that, we created many different sentences and phrases, identifying different ways in which we could adapt and evolve that initial phrase of movement depending on the tone and necessity of the scene.

The process has really been a combination of me guiding the dancers with information, images and sometimes very specific physical details, but also incorporating their own creative ideas and impulses, and allowing for improvisation.

For example, sometimes I will give the dancers very specific movements set to very specific counts and I will be very clear on how I want these phrases to look or feel. But other times I will set them a task, for example ‘manipulation’ and ask them to take some time themselves to research and explore how they can manipulate their partner without actually touching them – using their energy or dynamic to have a physical effect on the other. We had some very powerful, expressive and also sensitive results!

Sut wnaethoch chi ddechrau creu Folk gyda’r dawnswyr?

Yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig, rhoddais dasgau i’r dawnswyr yn seiliedig ar ddarluniau olew o’r ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif er mwyn rhoi cyfle iddynt ddechrau llunio cymeriad ac archwilio natur gorfforol posib y cymeriad. Llwyddodd y dawnswyr yn rhyfeddol o ran cyflawni’r dasg hon, gan greu amrywiaeth fawr o gymeriadau lliwgar a chynhyrchu rhychwant eang a choeth o nodweddion corfforol i mi eu datblygu ymhellach.

Fe gychwynnais wedyn gyda brawddeg o ddawns yr oeddwn wedi ei llunio ac a ddysgais i’r dawnswyr. Mae hyn yn fuddiol bob amser, i fi ac i’r dawnswyr, gan nad ydym wedi gweithio gyda’n gilydd o’r blaen, er mwyn eu cynorthwyo i ddod i arfer gyda’m ffordd i o symud a’m galluogi i hefyd i weld sut y mae pob dawnsiwr unigol yn dehongli fy symudiad i yn wahanol. Yn ei hanfod daeth y frawddeg hon yn ‘iaith’ i ni ar gyfer y darn ac o hwnnw fe wnaethom lunio nifer o frawddegau ac ymadroddion amrywiol, gan ddynodi ffyrdd gwahanol y medrem addasu ac esblygu’r frawddeg ddawns wreiddiol honno yn dibynnu ar ofynion a naws yr olygfa.

Mae’r broses mewn difri yn cyfuno dwy elfen - fi yn tywys y dawnswyr trwy roi gwybodaeth, delweddau ac o dro i dro fanylion corfforol cysáct iddynt, ond hefyd ymgorffori eu syniadau a’u hysgogiadau creadigol nhw i mewn i’r darn a chaniatáu ymateb byrfyfyr.

Er enghraifft byddaf weithiau’n rhoi symudiadau penodol iawn wedi eu gosod i amseriad cysáct iddynt a byddaf yn glir tu hwnt ynghylch sut yr wyf yn dymuno i’r brawddegau hyn ymddangos yn weledol ynteu deimlo. Ond dro arall byddaf yn gosod tasg iddynt ei chyflawni,r

ndcwales.co.uk @ndcwales #ndcwalesfolk 15

17

Set and Lighting Designer Cynllunio’r set a’r goleuo, Joe Fletcher:

How do you go about creating a set for Folk? Caroline and I met to discuss the type of world she wanted to explore. She had a very clear image of a tree structure, a centerpiece and symbol of the community she wanted to create.I researched imagery and art installations which had a similar sense of structure that Caroline and I were interested in, such as photographer Tim Walker and visual artist Katie Holten. I discovered that the birch tree had strong thematic links to Caroline’s work, symbolising initiation, renewal and majesty. This lead me to create a scale model which demonstrated naturalistic textures with a stark colour contrast to complement the surreal timeless environment. When the structure and props were decided I then transferred the model and drawings to Wild Creations, creators of the Rugby World Cup ‘Ball In The Wall’, in Cardiff, who completed the construction and sculpting of the props. They were an absolute joy to work with and interpreted all the early imagery and models beautifully.

er enghraifft ‘llywio’ a holi iddynt dreulio amser eu hunain yn ymchwilio ac archwilio sut y medrant lywio eu partner heb gyffwrdd â nhw yn gorfforol – gan ddefnyddio eu hegni ynteu eu dynamiaeth er mwyn effeithio’n gorfforol ar y llall. Cawsom ganlyniadau grymus iawn, llawn mynegiant ond rhai sensitif tu hwnt hefyd!

Sut aethoch chi ati i greu’r set ar gyfer Folk?

Cyfarfu Caroline a fi er mwyn trafod y math o fyd yr oedd hi’n dymuno ei archwilio. Roedd ganddi ddelwedd glir iawn o strwythur coeden, canolbwynt ac yn symbol o’r gymuned y dymunai ei greu. Gwneuthum rhywfaint o waith ymchwil ar ddelweddau a gweithiau celf gosod a oedd ag ymdeimlad tebyg o strwythur i un artistiaid yr oedd Caroline a mi yn diddori ynddynt megis y ffotograffydd Tim Walker a’r artist gweledol Katie Holten. Darganfûm bod gan y goeden fedwen gysylltiadau thematig cryf â gwaith Caroline, gan nodweddu derbyniad, adnewyddu ac urddas ynddo. Esgorodd hyn ar i mi greu model graddfa a ddangosai wead naturiolaidd gyda lliwiau cyferbyniol er mwyn cyd-fynd ag amgylchedd swreal tu hwnt i amser. Pan oeddem wedi penderfynu ar y strwythur a’r propiau gyrrais y darluniau at Wild Creations, y cwmni a greodd y ‘Bel yn y Mur’, yng Nghaerdydd, ar gyfer Cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd, a nhw gyflawnodd y gwaith adeiladu ac o lunio’r propiau. Bu’n bleser pur gweithio gyda nhw ac fe wnaethon nhw ddehongli’r darluniau cynnar a’r modelau yn wych.

Costume Designer / Cynllunydd y Gwisgoedd, Gabriella Slade:

How did you create the costumes for Folk?

Caroline has imagined that this community was like an abandoned landscape, a bit like an island, and how nine people were thrown on this island and they have to wear what was available to them, but there was a slightly surreal high fashion quality to it. The photographer Tim Walker was a big inspiration in terms of visuals for us in this piece.

I knew from seeing the set design that there needed to be a lot of texture in the costumes and the trees quite monochrome so we chose lots of fabrics but feeding in elements of pale pinks, tans and khaki, to marry in with the slightly more naturalistic leaves that Joe has designed; so hopefully the costumes would look fairly disjointed but also quite in keeping with the setting.

Caroline and I were really interested in having an element of styling for the dancers. We had a session with the dancers and spread out all the costumes for them to dress in whatever they felt reflected their characters. At that point I could then see each dancer’s style and judge whether the costumes were looking ok and how the company looked together. I then went away and worked on the individual look from that point on. This isn’t a way which a lot of designers work but I have done this a few times and it works.

Sut aethoch chi ati i greu’r gwisgoedd ar gyfer Folk?

Yn nychymyg Caroline roedd y gymuned hon fel un a oedd yn debyg i dirwedd a oedd wedi ei gadael, rhywbeth tebyg i ynys, a phan fo naw o bobl wedi eu taflu ar yr ynys felly rhaid iddynt wisgo’r hyn sydd ar gael iddynt, ond bod ‘na natur dra ffasiynol swreal braidd i’r gwisgoedd rheini. Bu’r ffotograffydd Tim Walker yn ysbrydoliaeth fawr o ran llunio’r elfennau gweledol ar ein cyfer yn y darn hwn.

Gwyddwn o fod wedi gweld cynllun y set bod angen i’r gwisgoedd fod â gweadedd y gellid ei deimlo o bell a bod y coed yn ddu a gwyn bron felly fe wnaethom ddewis llawer o ddeunyddiau ond gwneud hynny er mwyn cyflwyno elfennau o binc golau, lliwiau brown a chaci, er mwyn medru cyd-blethu gyda’r dail naturiolaidd yr oedd Joe wedi eu cynllunio. Y gobaith oedd y byddai’r gwisgoedd yn ymddangos yn go ddigyswllt ond ar yr un pryd yn gydnaws â’r gosodiad.

Roedd Caroline a minnau yn diddori mewn cael elfen o steilio ar gyfer y dawnswyr. Cawsom sesiwn gyda’r dawnswyr pryd y gosodwyd y gwisogedd oll allan a gadael iddynt ddewis y wisg y credent a oedd yn adlewyrchu eu cymeriad nhw orau. Ar yr adeg honno medrwn weld hefyd arddull pob dawnsiwr a dod i farn ynghylch pa un ai oedd y gwisgoedd yn edrych yn iawn a sut yr oedd y Cwmni cyfan yn edrych gyda’i gilydd. Euthum ati wedyn i weithio o hynny allan ar y ddelwedd unigol. Nid dyma’r ffordd y mae’r rhelyw o gynllunwyr yn gweithio ond rwyf wedi gwneud hyn ambell dro ac mae wedi bod yn llwyddiannus.

ndcwales.co.uk @ndcwales #ndcwalesfolk 1716

Nod CDCCymru yw cludo pobl ar deithiau darganfod; a chreu cyfleoedd unigryw ar gyfer cymryd rhan, trafod, gwylio a dysgu ynghylch dawns ac amdanynt eu hunain.

Gall dawnsio wella lles corfforol, emosiynol ac iechyd meddwl pawb. Byddwn yn datblygu ac ehangu’r cyfleodd hyn ar gyfer y gymuned, a darparu cyfleoedd ar gyfer y rhai hynny sy’n dymuno dilyn gyrfa ym maes dawns. Fedrwn ni ddim gwireddu hyn heb gefnogaeth werthfawr sefydliadau cyllido, busnesau lleol a rhoddwyr unigol.

Hoffai CDCCymru estyn diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth barhaus, a chroesawu Sefydliad Jane Hodge fel cefnogwr newydd ar gyfer prosiect Dawnsio ar gyfer Parkinson’s y Cwmni.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ynghylch sut y medrech chi o bosib gefnogi’r gwaith hwn, cysylltwch os gwelwch yn dda â Paul Kaynes – [email protected]

NDCWales takes people on journeys of discovery; creating unique opportunities to participate, discuss, watch and learn about dance and about themselves.

Dancing can improve physical well-being and emotional and mental health for everyone. We will be developing and expanding these opportunities for the community, and providing opportunities for those wishing to pursue a career in dance. We cannot achieve this without the valuable support from funding organisations, local businesses and individual donors.

NDCWales would like to thank the Arts Council of Wales for their continued support and welcome the Jane Hodge Foundation as a new supporter for the company’s Dance for Parkinson’s project.

For further information on how you might be able to support this work please contact Paul Kaynes – [email protected]

Image from / Delwedd oddi wrth

Supporting Community Projects Cefnogi Prosiectau Cymunedol

More about Mwy ynghylch…

Joe FletcherJoe is a freelance theatre designer specialising in lighting design and scenography for theatre, dance, concerts, events and architecture. He recently spent nine months with Sydney Dance Company and was resident designer for National Dance Company Wales between 2006 and 2013. Joe’s lighting and video design for Purlieus (National Dance Company Wales) was selected as a finalist at the World Stage Design Exhibition 2013, and was one of the Telegraph’s top 15 highlights.

Joe is also a guest tutor for the BA & MA stage management and design courses at the Royal Welsh College of Music & Drama.

Mae Joe yn gynllunydd theatr llaw-rydd sy’n arbenigo mewn cynllunio goleuo a golygraffiaeth ar gyfer theatr, dawns, cyngherddau digwyddiadau a chreadigaethau pensaernïol. Yn ddiweddar treuliodd naw mis gyda Chwmni Dawns Sydney a bu’n gynllunydd trigiannol Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru rhwng 2006 a 2013. Cafodd cynllun goleuo a fideo Joe ar gyfer Purlieus (Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru) ei ddethol ar gyfer rownd derfynol Arddangosfa Cynllunio Llwyfan y Byd 2013, a chyrraedd 15 uchaf uchafbwyntiau’r Telegraph.

Yn ogystal mae Joe yn diwtor gwadd ar gyfer cyrsiau rheoli a chynllunio llwyfan BA ac MA yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Recent credits include / Mae gweithiau diweddar yn cynnwys: In Water I’m Weightless (National Theatre Wales), Parallel Lines (Dirty Protest); Nansi, Mrs. Reynolds A’r Cena Bach (Theatr Genedlaethol Cymru); Pause And Effect (Maiden Voyage); aM (Dawns Cenedlaethol Ieuenctid Cymru); Quixoteland, Purlieus, They Seek To Find The Happiness They Seem, Virtual Descent, Phantoms Of Us (Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru).

Gabriella SladeGabriella was nominated for an Off-West End Award 2015 for Best Costume Design for In The Heights, and was shortlisted as one of the final 20 candidates for the prestigious The Linbury Prize 2013 for Stage Design.

Enwebwyd Gabriella ar gyfer Gwobr Off-West End yn 2015 am y Cynllun Gwisg Gorau am In The Heights, a’i rhoi ar y rhestr fer o 20 ymgeisydd ar gyfer Gwobr Linbury 2013 uchel ei bri am Gynllunio Llwyfan.

Recent credits include / Mae gweithiau diweddar yn cynnwys: Henry VI and Richard III (Omidaze & Wales Millennium Centre); A Christmas Carol, The Adventures of Pinocchio, The One Hundred And One Dalmatians (Castle Theatre); In The Heights (Kings Cross Theatre); Showstopper! (Apollo Theatre); Caucasian Chalk Circle, How Do You Eat An Elephant? (National Youth Theatre Wales); Love Birds, Happy Never After (Pleasance Courtyard); We Can Make You Happy (Vault Festival); House Of Blakewell’s House Party (Latitude & Bestival); Just So, Wind In The Willows (Wilde Theatre); and Dead Born Grow (Frantic Assembly & National Youth Theatre Wales).

ndcwales.co.uk @ndcwales #ndcwalesfolk 1918

David

Mathieu

Lee Johnson Rehearsal Director / Cyfarwyddwr Ymarfer

Lee oversees the quality of performances and the development, wellbeing and management of the dancers as well as working closely with the participation team to ensure the company has a strong and enriching engagement programme. As a performer, choreographer and rehearsal director Lee has worked with companies including Sydney Dance Company, National Dance Company Wales and LINK Dance Company. Highlights as a performer include working with Ohad Naharin, Christopher Bruce, Stephen Petronio and Nigel Charnock, and touring extensively throughout Wales, Europe, and Australia. Lee was most recently Rehearsal Director for Sydney Dance Company, under the artistic direction of Rafael Bonachela. Prior to this, Lee worked with NDCWales as House Choreographer and Rehearsal Director, creating repertoire They Seek To Find The Happiness They Seem and Purlieus which was a World Stage Design 2013 finalist and voted a Telegraph Top 15 highlight.Lee sy’n goruchwylio safon perfformiadau a datblygiad, lles a rheolaeth y dawnswyr ac yn ogystal mae’n gweithio gyda’r tîm estyn allan er mwyn sicrhau bod gan y cwmni raglen estyn allan gref a gwerthfawr.Fel perfformiwr, coreograffydd a chyfarwyddwr ymarferion, mae Lee wedi gweithio gyda chwmnïau megis Cwmni Dawns Sydney, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Chwmni Dawns LINK. Ymhlith ei huchafbwyntiau fel perfformiwr mae’n cyfrif gweithio gydag Ohad Naharin, Christopher Bruce, Stephen Petronio a Nigel Charnock, ac mae wedi teithio’n helaeth led-led Cymru, Ewrop ac Awstralia. Yn fwyaf diweddar gweithiodd Lee fel Cyfarwyddwr Ymarferion ar gyfer Cwmni Dawns Sydney, dan gyfarwyddyd artistig Rafael Bonachela. Cyn hynny gweithiodd Lee fel Coreograffydd Trigiannol a Chyfarwyddwr Ymarferion CDCCymru, gan lunio repertoire They Seek to Find the Happiness They Seem a Purlieus a gyrhaeddodd rownd derfynol Cynllun Llwyfan y Byd 2013 a’i bleidleisio ym 15 Uchaf uchafbwyntiau’r Telegraph.

Camille Giraudeau Originally from Oxford, Camille joined NDCWales in August 2011 as an apprentice as part of the MA programme at London Contemporary Dance School. Camille attended Arts Educational School before studying at Trinity LabanConservatoire of Music and Dance, where she graduatedin 2011 with a first class degree in dance. Camille starteddancing professionally for the company in 2012. She participated in the KND performance mentoring programme in August 2015, which has been an invaluable part of her development as a professional dancer. Yn wreiddiol o Rydychen, ymunodd Camille â CDCCymru ym mis Awst 2011 fel prentis ac fel rhan o raglen MA Ysgol

Ddawns Gyfoes Llundain. Mynychodd Camille yr Ysgol Addysgu Gelfyddydol cyn astudio yng Nghonservatoire Cerdd a Dawns Trinity Laban gan raddio oddi yno gyda gradd dosbarth cyntaf mewn dawns yn 2011. Bu’n rhan o raglen fentora perfformiad KND ym mis Awst 2015, a bu hyn yn elfen amhrisiadwy o’i datblygiad fel dawnsiwr proffesiynol.

The Company Y Cwmni

Apprentice Dancers Prentis Ddawnswyr

Camille Lee

Josef Matteo

Josef Perou Born in Sussex, Josef trained at Laban and Central School of Ballet graduating in 2008. During his final year he performed in Pinocchio and Faeries by Will Tuckett for ROH2 as well as touring with Ballet Central. He toured with Bare Bones in 2009 and later that year joined Phoenix Dance Theatre. He was a member of Henri Oguike Dance Company from spring 2010 to spring 2011, as well as reviving Faeries. Josef returned to Phoenix as a Guest Artist in the summer and joined NDCWales in August 2011. Josef is on the KND Performance Mentoring Programme.Yn enedigol o Sussex, hyfforddwyd Josef yn Laban a’r Ysgol Fale Ganolog gan raddio yn 2008. Yn ystod ei flwyddyn derfynol, perfformiodd yn Pinocchio a Faeries gan Will Tuckett ar gyfer ROH2 yn ogystal â theithio gyda Ballet Central. Bu ar daith gyda Bare Bones yn 2009 ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno, ymunodd â Theatr Ddawns Phoenix. Roedd yn aelod o Gwmni Dawns Henri Oguike rhwng gwanwyn 2010 a gwanwyn 2011, yn ogystal ag ail-greu Faeries. Dychwelodd Josef at Phoenix fel Artist Gwadd yn yr haf, ac ymunodd â CDCCymru ym mis Awst 2011. Mae Josef yn rhan o Raglen Fentora Perfformio KND.

Matteo Marfoglia

Originally from Pesaro, Italy, Matteo trained at the Accademia Nazionale Di Danza in Rome and graduated from Rotterdam Dance Academy. From 2007 to 2011 Matteo worked in Introdans having performed pieces by Jiri Kylian, Lightfoot & Leon amongst others. In 2010 Matteo won second prize at the Certamen Internacional De Coreografia Burgos, New York, for his choreography Just A Breath. In 2012 he danced in the multi-disciplinary project Nierka in London, directed by Tupac Martir and choreographed by Fernando Hernando Magadan. Matteo joined NDCWales in May 2012.Yn wreiddiol o Pesaro, yn yr Eidal, hyfforddwyd Matteo yn yr Accademia Nazionale Di Danza yn Rhufain a graddio o Academi Ddawns Rotterdam. Rhwng 2007 a 2011 gweithiodd Matteo yn Introdans gan berfformio darnau gan Jiri Kylian, a Lightfoot & Leon ymhlith eraill. Yn 2010 dyfarnwyd yr ail wobr i Matteo yn y Certamen Internacional De Coreografia Burgos, Efrog Newydd, am ei goreograffi Just A Breath. Yn 2012 dawnsiodd yn y prosiect aml-ddisgyblaethol Nierka yn Llundain, dan gyfarwyddyd Tupac Martir a’r coreograffi gan Fernando Hernando Magadan. Ymunodd Matteo â CDCCymru ym mis Mai 2012.

EdJosie

Angela Elena

ndcwales.co.uk @ndcwales #ndcwalesfolk 21

Mathieu Geffré Mathieu studied modern dance from 2001 to 2006 at the Conservatoire National Supérieur de Musique et de Danse de Paris. After graduating he danced for several choreographers in France. In January 2009 he joined Dansgroep Amsterdam under the artistic direction of Itzik Galili and Krizstina De Chatel. In July 2011, Mathieu started dancing for Noord Nederlandse Dans and in August 2012 he joined National Dance Company Wales. Alongside the works created as part of Alternative Routes programs, Mathieu was commissioned to create a piece for Monmouthshire Youth Dance Company in 2014 and a site specific work with the company as part of Artes Mundi 6 exhibition at National Museum Cardiff. He is the NDCWales Associates Co-ordintor and choreographed their recent piece, Le Bal.Astudiodd Mathieu ddawns fodern rhwng 2001 a 2006 yn y Conservatoire National Supérieur de Musique et de Danse de Paris. Ar ôl graddio bu’n dawnsio ar gyfer sawl coreograffydd yn Ffrainc. Ym mis Ionawr 2009 ymunodd â Dansgroep Amsterdam dan gyfarwyddyd artistig Itzik Galili a Krizstina De Chatel. Ym mis Gorffennaf 2011, dechreuodd Mathieu ddawnsio ar gyfer Noord Nederlandse Dans ac ym mis Awst 2012 ymunodd â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Ochr yn ochr â’r gweithiau a greodd fel rhan o raglenni Alternative Routes, comisiynwyd Mathieu i greu darn ar gyfer Cwmni Dawns Ieuenctid Sir Fynwy yn 2014 ac yn fwyaf diweddar gwaith penodol i leoliad ar gyfer ei gyd-ddawnswyr o’r Cwmni fel rhan o berfformiadau awr ginio Artes Mundi 6 yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd. Cyd-lynydd Cymdeithion CDCCymru a choreograffydd eu darn diweddar, Le Bal.

Ed Myhill Ed joined NDCWales as a year long apprentice from Autumn 2015. From London, Ed grew up in Leeds and went to Hammond Secondary School in Chester, followed by three years at Rambert School of Ballet and Contemporary Dance.

Ymunodd Ed â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ar brentisiaeth blwyddyn yn ystod hydref 2015. Yn wreiddiol o Lundain, magwyd Ed yn Leeds ac aeth i Ysgol Uwchradd Hammond yng Nghaer, cyn treulio tair blynedd yn y Rambert School of Ballet and Contemporary Dance.

Josie Sinnadurai Josie grew up in Brecon and was a student of Mid-Wales Dance Academy for 6 years as well as being a National Dance Company Wales Associate. She trained at London Contemporary Dance School (LCDS), graduating with a first class BAHons degree in 2015.

Magwyd Josie yn Aberhonddu a bu’n ddisgybl yn Academi Dawns Canolbarth Cymru am 6 blynedd yn ogystal â bod yn aelod o Gymdeithion Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru am dair blynedd. Cafodd ei hyfforddi yn y London Contemporary Dance School (LDCS) gan raddio â gradd BA anrhydedd dosbarth cyntaf yn 2015.

Apprentice dancers are postgraduate students who work with the company as part of their coursework at London Contemporary Dance School.

Mae’r prentis ddawnswyr yn fyfyrwyr ôl-raddedig sy’n gweithio gyda’r Cwmni fel rhan o’u gwaith cwrs yn Ysgol Ddawns Gyfoes Llundain.

Apprentice Dancers Prentis Ddawnswyr

The Company / Y CwmniCommunity and Engagement Officer / Swyddog Cymunedau ac Ymgysylltu: Kelly Barr

Marketing and Engagement Manager / Rheolwr Marchnata ac Estyn Allan: Suzanne Carter

Technical Stage Manager / Rheolwr Llwyfan Technegol: Adam Cobley

Artistic Director / Cyfarwyddwr Artistig: Caroline Finn

Programme Co-ordinator / Cyd-lynydd y Rhaglen: Julia Gay

Rehearsal Director / Cyfarwyddwr Ymarfer: Lee Johnston

Chief Executive / Prif Weithredwr: Paul Kaynes

Freelance Touring Technician / Technegydd llawrydd ar y daith: Charlie Knight

Marketing and Engagement Assistant / Cynorthwydd Swyddfa a Chyfranogi: Megan Pritchard

Finance & Operations Co-ordinator / Cydlynydd Cyllid a Gweithrediadau: Jane Thomas

Chief Technician / Prif Dechnegydd: Leighton Thomas-Burnett

Technical Director / Cyfarwyddwr Technegol: Nia Thomson

Programme Manager / Rheolwr Rhaglennu: Kelly Twydale

Additional thanks to / diolch pellach i Wild Creations

Board of Directors Bwrdd y CyfarwyddwyrChairman / Cadeirydd Andrew Davies Assis Carreiro MBE Emma Evans Julie Hobday Gareth Powell Helen Protheroe Tessa Shellens Gary Thomas

Àngela Boix Duran

Originally from Barcelona, Spain, Àngela trained at Ballet Conservatoire for 5 years and later joined IT Dansa Companyia in July 2010 where she was directed by Catherine Allard. In July 2012 she worked at Noord Nederlandse Dans, performing many pieces by Stephen Shropshire. In 2010 Àngela won first prize for her contemporary dance piece in the Castellón National Dance contest. Àngela joined NDCWales in summer 2013. Yn wreiddiol o Farselona, Sbaen, hyffoddwyd Àngela yn y Ballet Conservatoire am 5 mlynedd ac yn ddiweddarach ymunodd â’r IT Dansa Companyia ym mis Gorffennaf 2010 lle bu iddi gael ei chyfarwyddo gan Catherine Allard. Yn Ngorffennaf 2012 gweithiodd yn Noord Nederlandse Dans, gan berfformio nifer o ddarnau gan Stephen Shropshire. Yn 2010 enillodd Àngela y wobr gyntaf am ei darn o ddawns gyfoes yng nghystadleuaeth Ddawns Castellón National. Ymunodd Àngela â CDCCymru yn ystod hydref 2013.

Elena Thomas Originally from Nancy, North East France, Elena trained at Ecole Nationale Superieure de Danse de Marseille and the Conservatoire National Superieur de Musique et de Danse de Lyon. Straight from training she started performing with Jeune Ballet Conservatoire National Superieur de Lyon. In 2007 Elena spent 5 months with Europa Danse before joining Ballet National du Rhin where she performed works by Bertrand d’At Mathieu Guillaumon, Jo Strømgren, Alexander Ekman amongst others. In 2009 she moved to Spain to work with La Mov’ in Zaragoza where she was introduced to Company Chameleon when they choreographed on the company. Elena joined Company Chameleon in 2012 before moving to National Dance Company Wales in December 2013. Yn wreiddiol o Nancy, gogledd ddwyrain Ffrainc, hyfforddwyd Elena yn yr Ecole Nationale Superieure de Danse de Marseille a’r Conservatoire National Superieur de Musique et de Danse de Lyon. Yn syth wedi cwblhau ei hyfforddiant dechreuodd berfformio gyda’r Jeune Ballet Conservatoire National Superieur de Lyon. Yn 2007 treuliodd Elena 5 mis gyda Europa Danse cyn ymuno â Ballet National du Rhin lle perfformiodd weithiau gan Bertrand d’At Mathieu Guillaumon, Jo Strømgren ac Alexander Ekman ymhlith eraill. Yn 2009 symudodd i Spaen er mwyn gweithio gyda La Mov’ yn Zaragoza ac yno cafodd ei chyflwyno i Company Chameleon pan y bu iddynt lunio coreograffi gyda’r Cwmni. Ymunodd Elena gyda Company Chameleon yn 2012 cyn symud i ymuno â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ym mis Rhagfyr 2013.

David Pallant Originally from Farnham, Surrey, David trained at Central School of Ballet, London before specialising in contemporary dance at the Conservatoire National Supérieur de Musique et de Danse de Paris. In 2011 he joined Oper Graz, Austria, working with choreographers including Natalia Horecna, Itamar Serussi, James Wilton and Dong Jie. In 2013 he moved to Heidelberg, Germany and performed for two years with the Nanine Linning Dance Company. Yn wreiddiol o Farnham, Surrey, cafodd David ei hyfforddi yn y Central School of Ballet, Llundain cyn arbenigo mewn dawns gyfoes yn y Conservatoire National Supérieur de Musique et de Danse de Paris. Yn 2011 ymunodd â Oper Graz, Awstria, gan weithio gyda choreograffwyr yn cynnwys Natalia Horecna, Itamar Serussi, James Wilton a Dong Jie. Yn 2013 symudodd i Heidelberg, yr Almaen a pherfformiodd am ddwy flynedd gyda’r Nanine Linning Dance Company, gan greu a pherfformio ei waith ei hun hefyd yn ystod y cyfnod hwn.

ndcwales.co.uk @ndcwales #ndcwalesfolk 2322

Thank you for comingDiolch am ddod

@NDCWales #NDCWalesFolk

ndcwales.co.uk 029 2063 5600

National Dance Company Wales gratefully acknowledges support from: Arts Council of Wales, Welsh Government, A Space in the City, Flight Link Wales Airport Shuttle Service, The Foyle Foundation, Jane Hodge Foundation, Wales Millennium Centre, and London Contemporary Dance School.

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cydnabod yn ddiolchgar gefnogaeth: Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, A Space in the City, Gwasanaeth Cludo Awyrenfa FlightLink Wales, Sefydliad Foyle, Sefydliad Jane Hodge, Canolfan Mileniwm Cymru ac Ysgol Ddawns Gyfoes Llundain.

Photography / Ffotograffiaeth: Rhys Cozens & Fariyodd

Design / Dylunio gan: Limegreentangerineŵ