mawrth 2013
DESCRIPTION
Mawrth 2013TRANSCRIPT
C y l c h ly thy C y l c h ly thy Mawr th Mawr th 20132013
Rhifyn : 12
FfonFfon : : (01978) 292092(01978) 292092
EbostEbost : : [email protected]@wrexham.gov.uk
GwefanGwefan : : www.wrexham.gov.uk/businesslinewww.wrexham.gov.uk/businessline
Cysylltwch â Llinellfusnes os ydych am i ni gyhoeddi eich hysbyseb yn y Cysylltwch â Llinellfusnes os ydych am i ni gyhoeddi eich hysbyseb yn y
cylchlythyr.cylchlythyr.
Nid yw hysbysebion nac erthyglau cylchlythyr Llinellfusnes yn awgrymu Nid yw hysbysebion nac erthyglau cylchlythyr Llinellfusnes yn awgrymu
cefnogaeth o unrhyw fath gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac ni cefnogaeth o unrhyw fath gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac ni
ddylid casglu hynny o dan unrhyw amgylchiadau.ddylid casglu hynny o dan unrhyw amgylchiadau.
TudalenTudalen 1: 1: Y diweddaraf o fyd busnesY diweddaraf o fyd busnes
TudalenTudalen 2: Erthygl nodwedd Ll inel l fusnes 2: Erthygl nodwedd Ll inel l fusnes
Tudalen 3Tudalen 3 : Gwybodaeth amser real (GAR): Gwybodaeth amser real (GAR)
TudalenTudalen 4: Lwfansau treth ar eiddo masnachol 4: Lwfansau treth ar eiddo masnachol
Dwyiei thrwydd mewn Busnes Dwyiei thrwydd mewn Busnes -- £1,600 ar gael i f icrofusnesau £1,600 ar gael i f icrofusnesau
TudalenTudalen 5: 5: Pethau pwysig Cyl l id a Thol lau: mis MawrthPethau pwysig Cyl l id a Thol lau: mis Mawrth
Y diweddaraf o fyd busnes
• Ceisiwch ar gyfer Gwobrau Ysbrydoli Cymru: http://ow.ly/ijKqB
• A oes gennych chi ddyfais neu syniad technolegol a fydd o gymorth i bobl ifanc? Mae yna bum deg
mil o bunnoedd ar gael oddi wrth The Big Issue: http://ow.ly/ijxDA
• Y saith cam hanfodol cyn anfon argymhelliad busnes: http://ow.ly/ijxeD
• Mentora Busnes Cymru - gwasanaeth newydd sbon: http://ow.ly/ijvoE
• Pecynnau marchnata 5% yn rhatach gan y Post Brenhinol: http://ow.ly/ijsVL
• Y pump metrig gwe gorau, a theclynnau tyfu busnes: http://ow.ly/hK3Tj
• ‘Sponsored Stories’ ar Facebook. Mae’n bryd i chi ddweud pwy sy’n eich hoffi!: http://ow.ly/hK2to
• Mae’n bryd ail-ystyried hysbysebu ar YouTube: http://ow.ly/hK2eC
• Byg hysbysebu LinkedIn: http://ow.ly/hK1QQ
• Meddalwedd Sage am ddim - dau fis o Sage One Accounts am ddim: http://ow.ly/hK1y4
• A fyddai app lleoliad Facebook o fantais i chi?: http://ow.ly/hK1lN
• Cymorthdaliadau adfywio hyd at £80,000 ar gael yn Sir y Fflint a Wrecsam: http://ow.ly/hJYMs
• Llywodraeth Cymru’n hela am fasnach yng Nghanada: http://ow.ly/iuUm5
• Manteisio hyd yr eithaf ar eich cysylltiadau: http://ow.ly/hK4dv
• Apps ar gyfer cynnal a chadw cyfryngau cymdeithasol: http://ow.ly/hJQ13
• Cystadleuaeth – cyfle i egin-fusnesau gynnig i John Lewis: http://ow.ly/hJXNf
• Sut i annog gweithwyr creadigol: http://ow.ly/hJVn9
• Y chwe pheth mae pob cwsmer am ei gael: http://ow.ly/hJVIe
• Meistroli marchnata ar-lein; manteisio i’r eithaf ar ymgyrchoedd arddangos: http://ow.ly/hJTV8
• e-lyfr am ddim; 50 awgrym rhad ac effeithiol ar gyfer marchnata eich busnes: http://ow.ly/hJPEy
• Sut i hyrwyddo’ch rhan yng ngemau Olympaidd 2012: http://ow.ly/hezqF
01978 292092
Gallwn eich helpu i:
• Gynyddu eich busnes
• Marchnata eich busnes
• Ymchwilio i’ch marchnad
• Gwirio credyd cwmnïau
Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd Gogledd Ddwyrain Cymru
Rhieni sy’n gweithio:
• Cymorth i ddod o hyd i ofal plant a chostau gofal plant
• Cael cyfle i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddiant
• Cadw cydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith
• Cael gafael ar gredydau treth
• Cyllid teulu
Cyflogwyr:
• Cymorthfeydd gwybodaeth er mwyn rhoi cymorth i’r gweithwyr
• Cadw cydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith
• Cymorth er mwyn cael llai o absenoldeb a dal gafael ar ragor o weithwyr
• Cynorthwyo’r gweithwyr trwy roi hyfforddiant iddynt a’u helpu i gamu ymlaen yn eu gyrfa
01978 292094
www.wrexham.gov.uk/fis
Erthygl nodwedd Llinellfusnes
Diweddaru app Android Y Llinellfusnes
Mae app Android Y Llinellfusnes ar gael yn rhad ac am ddim o farchnad Google Play, ac mae newydd
gael ei ddiweddaru:-
Manylion llawn sesiynau hyfforddi busnes, gweithdai, a chyflwyniadau lleol. Mae’r rhain ar wahân i’r calendar o gyfleoedd rhwydweithio, sy’n galluogi gwahaniaethu’n haws
Manylion gostyngiadau lleol busnes i fusnes
Cyswllt uniongyrchol i sianel YouTube Y Llinellfusnes. Fideo sy’n amlinellu’r ddarpariaeth sydd yno ar hyn o bryd, ond mi fydd mwy’n ymddangos yn fuan. Cofiwch alw draw’n rheolaidd.
Tudalen y tystebau
Mae gennym mi dudalen sy’n tynnu sylw at y sylwadau rydyn ni wedi eu derbyn oddi wrth ein cwsmeriaid. Mi fyddwn ni’n ddiolchgar iawn am eich sylwadau ynglŷn â’n gwasanaeth cyfan, neu unrhyw ran benodol ohono. Fel diolch am eich cyfraniad mi fyddwch yn cael y cyfle i ennill chwarter tudalen o hysbyseb yn nau o’n cylchlythyrau, sy’n werth £48+TAW. Mae’r cylchlythyr yn cael ei anfon at dros dri chant o fusnesau lleol. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y wobr yma ar gael pob chwe mis, felly cofiwch anfon digon o sylwadau! Nodwch y bydd eich cyfraniad yn ymddangos ar wefan gyhoeddus, ac mewn adroddiadau a deunydd hyrwyddo. Mae gennyn ni’r hawl i wrthod cyfraniadau sydd yn ein barn ni’n anaddas. Anfonwch eich sylwadau at: [email protected]
Mae adran Cyllid a Thollau’r Llywodraeth yn annog cyflogwyr i baratoi am newidiadau mawr i’r drefn
PAYE. Erbyn hyn mae’n rhaid defnyddio meddalwedd sy’n defnyddio Gwybodaeth Amser Real (Real
Time Information, RTI) i anfon eu PAYE rheolaidd. Mi fydd yr wybodaeth yn cynnwys manylion y
cyflogau, y dreth a’r didyniadau eraill.
• Mi fydd y drefn newydd yn dod â PAYE i’r 21ain ganrif o’r diwedd, gan alluogi’r wybodaeth i
gyrraedd yn gyfredol yn hytrach na deuddeg mis yn hwyr.
• Mae tri cham allweddol ar gyfer cyflwyno RTI:-
• Ewch i http://www.hmrc.gov.uk/rti am yr holl fanylion
• Prynwch feddalwedd newydd neu wedi ei diweddaru – cyflogwyr sy’n gyfrifol am drefnu hyn hefo
darparwr eu meddalwedd neu ddarparwr eu gwasanaeth cyflogau
• Archwilio a diweddaru gwybodaeth eich gweithwyr - mae’n hanfodol fod y cyfan yn gyfredol ac yn
gywir
Mi fydd GAR yn gwneud pethau’n haws, ond mae gweinyddu cyflogau’n medru bod yn faich ac yn fwrn.
Mae’n werth ystyried talu cwmni i ysgwyddo’r baich.
Cyfrannwyd yr erthygl hon gan: Ellis & Co www.ellis-uk.com
01244 343504 [email protected]
http://bit.ly/business-discounts-Wrexham
Disgowntiau Busnes-i-Fusnes:
Cynigion disgownt newydd: Mae gostyngiadau bellach ar gael drwy Llinellfusnes gyda’r busnesau canlynol yn Wrecsam. Gweler y dudalen we a restrir uchod am ragor o wybodaeth:
Gwybodaeth amser real (GAR)
Lwfansau treth ar eiddo masnachol
Mae’r mwyafrif llethol o berchnogion eiddo (a’u harbenigwyr ariannol) yn anymwybodol bod hawl gand-
dyn nhw hawlio lwfansau treth ar y safle, offer, a’r darnau gosod a’r gosodiadau yn yr eiddo. Mae’n
cynnwys pob math o bethau – nenfydau crog, tai bach, pibellau a llawer iawn, iawn, mwy. Ac mae’n
bosib ôl-hawlio, hyd yn oed os nad ydych chi wedi gwneud erioed.
Ond sut?
Mae arolygwr arbenigol (sydd â chymhwyster RICS) yn cynnal archwiliad manwl o’r eiddo, ei gynnwys,
ei faint a’i strwythur. Mae’n anfon adroddiad at eich cyfrifwyr, sy’n esbonio’n union beth i’w hawlio, y
gost, a’r cyfrifo sydd angen iddyn nhw ei wneud. Os ydych chi wedi bod yn berchen ar yr eiddo ers
talwm, mae gennych yr hawl i newid eich dwy flynedd dreth ddiweddaraf, sy’n rhoi arian yn eich poced
ar unwaith ac sydd fel arfer yn talu am yr archwiliad yn hawdd. Yna mae’n fater o gadw trefn ar bethau
wrth hawlio yn y dyfodol.
Mae hyn yn hawl sy’n ymddangos yn y Ddeddf Dreth, ond mae’n bwysig sicrhau cymorth arbenigol er
mwyn sicrhau bod popeth yn iawn. Mae gan Cyllid a Thollau yr hawl i herio’ch cais chwe blynedd ar ôl i
chi ei gyflwyno, felly:
• sicrhewch nad yw’r ymarfer yn golygu unrhyw berygl ariannol i chi
• sicrhewch y bydd eich arbenigwr ar gael i’ch cynorthwyo am o leiaf chwe blynedd, a bod
ganddyn nhw’r yswiriant priodol; cofiwch gynnwys hyn yn ei gytundeb.
Dwyieithrwydd mewn Busnes - £1,600 ar gael i ficrofusnesau:
Prif atyniad y gronfa yma ydi nad oes angen ad-dalu’r arian. Cafodd ei sefydlu er mwyn:-
annog busnesau a mentrau cymunedol i gefnogi prosiectau i hybu twf economaidd ac i greu neu
ddiogelu swyddi
annog busnesau i symud ymlaen yn gynt gyda phrosiectau a fydd o fantais i economi Cymru.
Mi fydd dau gyfnod i’r gronfa:-
Cyfnod 1 – Mawrth 2013: datganiadau diddordeb ar gyfer ariannu rhwng £50,000 a £100,000
Cyfnod 2 – tymor yr Hydref 2013: datganiadau diddordeb ar gyfer ariannu dros £100,000.
Mae’r gronfa’n gyfle bendigedig i sicrhau y bydd 2013 yn flwyddyn i’w chofio i’ch cwmni.
Er mwyn datgan diddordeb yng Nghyfnod 1, ewch i http://bit.ly/XUmGOu ac anfon y ffurflen at
[email protected]. Mae’n rhaid gwneud hynny cyn y pumed o Ebrill 2013.
Cyfrannwyd yr erthygl hon gan: Nicoll Financial Solutions Ltd www.nfsltd.co.uk
0151 608 7883 07866 604020
Hysbysebwch eich busnes yama
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: http://bit.ly/UJlFeZ
Pethau pwysig Cyllid a Thollau: mis Mawrth
Arolwg e-ddysgu
Os ydych chi wedi cwblhau un o’n cynnyrch e-ddysgu o fewn y tri mis diwethaf, rydyn ni’n gofyn yn
garedig i chi gwblhau’r arolwg byr ( http://bit.ly/12rxISX ) cyn 14 Mawrth 2013 er mwyn i ni bwyso a me-
sur ein darpariaeth. Diolch.
Gwybodaeth amser real – cymorth ar gael
Mae Cyllid a Thollau wedi paratoi cymorth ar-lein, ac rydyn i wedi trefnu tri gweminar
( http://bit.ly/VAL1MP ) sydd ar eu gwefan nhw a dau fideo ( http://bit.ly/XFAnkm ) sydd ar eu sianel
YouTube. Maen nhw’n esbonio’r hyn sy’n digwydd, pam, a phwysigrwydd cywirdeb cyfredol. Maen
nhw’n gymorth mawr i gyflogwyr wrth iddyn nhw anfon eu manylion PAYE. Ac wrth gwrs maen nhw ar
gael i chi bob awr o’r dydd a’r nos.
Gwasanaeth Cymorth Taliadau Busnes - eisiau help?
Os ydych chi’n poeni na fedrwch chi dalu’r arian sy’n ddyledus i Cyllid a Thollau, mae yna gymorth a
chyngor ac awgrymiadau ar ( http://bit.ly/ZlRUiW ).
Cyngor am ddim i fusnesau bach a chanolig
Ar hyn o bryd rydyn ni’n cynnal nifer o ddyddiau cynghori anffurfiol ar gyfer busnesau newydd a phawb
sydd angen ychydig o awgrymiadau treth, gan gynnwys Gwybodaeth Amser Real. Mae angen
archebu’ch lle o flaen llaw er mwyn sicrhau fod gennyn ni’r atebion i’ch ymholiadau. Ewch i
( http://bit.ly/WMsJdq ), rhowch eich cod post neu eich lleoliad, dewiswch “Tax” o’r ddewislen ac ewch
amdani!
TAW ar ddeunydd arbed ynni
A oes gennych chi ymholiadau ynglŷn â beth sy’n cyfrif ar gyfer y gostyngiad TAW wrth osod deunydd
arbed ynni? Ewch I ( http://bit.ly/12ryu2r ) am yr atebion.
O fis Ebrill 2013 mi fydd cyflogwyr yn talu i mewn i un cyfrif banc Cyllid a Thollau
O hyn ymlaen mae cyflogwyr sy’n talu drwy BACS, Taliadau Cyflymach, ar-lein, dros y ffôn neu drwy
CHAPS yn talu i mewn i un cyfrif. Mae’r manylion ar ( http://bit.ly/13EE4OL ). Rydyn ni eisoes wedi
dechrau dweud wrth gyflogwyr ynglŷn â hyn. Mae’n bosib y byddwn yn cysylltu os ydych chi wedi talu
heb gyfeirnod talu ( http://bit.ly/WMtvqS ) neu wedi gwneud taliad anghywir.
Dull Amgen Datrys Anghydfod, DADA (Alternative Dispute Resolution, ADR) ar gyfer busnesau
bach a chanolig
Mae Cyllid a Thollau’n cynnal prawf o’r drefn yma. Y bwriad ydi datrys anghydfod treth oherwydd gwiriadau cydymffurfio (compliance checks). Os ydych chi’n credu nad ydi’ch trafodaethau gyda’ch gweithiwr achosion yn mynd i ddwyn ffrwyth, mae ( http://bit.ly/YTYEET ) yn esbonio’r camau nesaf ar eich cyfer. Mae cyflwyno’r cais yn cymryd tua deg munud, ac mi fyddwn yn penderfynu os ydi’r achos yn berthnasol i’r drefn DADA o fewn 30 diwrnod.