llyfrgell genedlaethol cymru the national ...and events celebrating the life and work of gwynfor...

9
Cylchlythyr yr Archif Wleidyddol Gymreig The Welsh Political Archive Newsletter LLYFRGELL GENEDLAETHOL CYMRU THE NATIONAL LIBRARY OF WALES MANIFESTO MANIFFESTO NEW COLLECTIONS SHELTER CYMRU ARCHIVE ELECTION EPHEMERA JEREMY BOWEN LECTURE NEWS LORD CLEDWYN OF PENRHOS BIOGRAPHY #REVOLUTION EXHIBITION CASGLIADAU NEWYDD ARCHIF SHELTER CYMRU EFFEMERA ETHOLIADOL DARLITH JEREMY BOWEN NEWYDDION BYWGRAFFIAD YR ARGLWYDD CLEDWYN O BENRHOS ARDDANGOSFA #CHWYLDRO www.llgc.org.uk 47

Upload: others

Post on 18-Feb-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Cylchlythyr yr Archif Wleidyddol Gymreig The Welsh Political Archive Newsletter

    LLYFRGELL GENEDLAETHOL CYMRU THE NATIONAL LIBRARY OF WALES

    Manifesto

    M

    anif

    fest

    o

    • NEW COLLECTIONS • SHELTER CYMRU ARCHIVE • ELECTION EPHEMERA • JEREMY BOWEN LECTURE • NEWS • LORD CLEDWYN OF

    PENRHOS BIOGRAPHY • #REVOLUTION EXHIBITION

    • CASGLIADAU NEWYDD• ARCHIF SHELTER CYMRU • EFFEMERA ETHOLIADOL • DARLITH JEREMY BOWEN • NEWYDDION • BYWGRAFFIAD YR ARGLWYDD

    CLEDWYN O BENRHOS • ARDDANGOSFA #CHWYLDRO

    www.llgc.org.uk

    47

  • ISSUE 47 The Welsh Political Archive Newsletter 2 3

    Sefydlwyd yr Archif Wleidyddol Gymreig yn 1983 i gydlynu’r gwaith o gasglu tystiolaeth ddogfennol o bob math am wleidyddiaeth Cymru. Cesglir cofysgrifau a phapurau pleidiau gwleidyddol, gwleidyddion, mudiadau lled-wleidyddol, ymgyrchoedd a charfanau pwyso; taflenni, pamffledi, ac effemera printiedig eraill, posteri a ffotograffau, gwefannau a thapiau rhaglenni radio a theledu. Ni chyfyngir ei gweithgareddau i un adran o fewn y Llyfrgell.

    Yn unol â Pholisi Datblygu Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae’r Archif Wleidyddol Gymreig yn casglu papurau personol gwleidyddion sydd wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd y genedl, ac unigolion sydd â phroffil uchel oherwydd gwaith ymgyrchu ar faterion cenedlaethol neu ryngwladol.

    Rydym yn casglu papurau Aelodau Seneddol, Aelodau Cynulliad, Aelodau Senedd Ewrop ac Arglwyddi os ydynt er enghraifft wedi gwasanaethu fel Ysgrifennydd Gwladol, arweinydd plaid wleidyddol, gweinidog, cadeirydd pwyllgor blaenllaw. Nid ydym fel arfer yn casglu papurau aelodau etholedig eraill na phapurau etholaethol.

    Rydym yn casglu archifau cenedlaethol pleidiau gwleidyddol (e.e. Archifau Plaid Lafur Cymru) ond nid ydym bellach yn casglu archifau canghennau a rhanbarthau pleidiau gwleidyddol (e.e. Cofnodion Plaid Lafur y Fenni) Rydym yn casglu archifau carfannau pwyso cenedlaethol, a grwpiau sy’n ymgyrchu ar faterion gwleidyddol o bwys cenedlaethol.

    Rydym yn casglu effemera etholiadol o bob etholaeth yng Nghymru ar gyfer etholiadau a refferenda cenedlaethol gan gynnwys etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Nid ydym yn casglu deunydd yn ymwneud ag awdurdodau lleol.

    The Welsh Political Archive was set up in 1983 to co-ordinate the collection of documentary evidence of all kinds about politics in Wales. It collects the records and papers of political parties, politicians, quasi-political organisations, campaigns and pressure groups; leaflets, pamphlets, other printed ephemera, posters, photographs, and tapes of radio and television programmes. Its work is not restricted to a specific department within the Library.

    In accordance with the National Library of Wales’ Collection Development Policy, the Welsh Political Archive collects the personal papers of politicians who have played an important role in the life of the nation, and individuals with a high profile for campaigning on national or international issues.

    We collect the papers of Members of Parliament, Assembly Members, Members of the European Parliament and Lords if they have for example held positions such as Secretary of State, party leader, minister, senior committee chair. We do not usually collect the papers of other elected members or constituency papers.

    We collect the national archives of political parties (e. g. Labour Party Wales Archives) but we no longer collect the regional or branch papers of political parties (e. g. Records of Abergavenny Labour Party).

    We collect the archives of national pressure groups and groups which campaign on national issues.

    We collect election ephemera from all constituencies in Wales for national elections and referenda including elections for Police and Crime Commissioners. We do not collect material related to elections to local authorities.

    AM YR ARCHIF WLEIDYDDOL GYMREIGABOUT THE WELSH POLITICAL ARCHIVE

    DERBYNIADAU ACqUISITIONS

    Cylchlythyr yr Archif Wleidyddol Gymreig RHIFYN 46

    The Political Archive has been successful in acquiring a number of interesting archives during the past year.

    Shelter Cymru Archive

    Shelter Cymru, formed in 1981 as an independent charity campaigning and supporting individuals on housing issues in Wales, has kindly donated their archive to the Library. This wonderful collection contains administrative records such as minutes and reports, as well as material related to lobbying, conferences and campaigns throughout its history. As well as paper material, the archive also includes VHS and audio cassettes, and campaign ephemera such as badges.

    Shelter Cymru sorted and listed the items in the archive before it was transferred to the Library following guidelines provided to them. This innovative approach resulted in a full description of the archive being available on the catalogue within a few weeks of arrival at the Library. Shelter Cymru staff and volunteers visited the Library in June 2016 to see the collection and have a tour of the Library as part of volunteers week.

    The collection attracted media interest and resulted in a 2 page article in the Welsh language weekly news magazine, Golwg.

    Mae’r Archif Wleidyddol wedi llwyddo i dderbyn nifer o archifau diddorolyn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

    Archif Shelter Cymru

    Mae Shelter Cymru, a sefydlwyd yn 1981 fel elusen annibynnol sy’n ymgyrchu a chefnogi unigolion ynglŷn â materion tai yng Nghymru, wedi rhoi eu harchif i’r Llyfrgell. Mae’r casgliad arbennig hwn yn cynnwys cofnodion gweinyddol fel cofnodion ac adroddiadau, yn ogystal â deunydd yn gysylltiedig â lobio, cynadleddau ac ymgyrchoedd drwy gydol ei hanes. Yn ogystal â deunydd printiedig, mae’r archif hefyd yn cynnwys casetiau VHS a sain, ac effemera ymgyrchu fel bathodynnau.

    Aeth Shelter Cymru ati i ddidoli a rhestru’r eitemau yn yr archif cyn ei throsglwyddo i’r Llyfrgell gan ddilyn y canllawiau a roddwyd iddynt. Roedd y dull arloesol hwn yn golygu bod disgrifiad llawn o’r archif ar gael ar y catalog ymhen ychydig o wythnosau ar ôl i’r casgliad gyrraedd y Llyfrgell. Daeth staff a gwirfoddolwyr Shelter Cymru i’r Llyfrgell ym Mehefin 2016 i weld y casgliad a chael taith o gwmpas y Llyfrgell fel rhan o wythnos gwirfoddolwyr.

    Denodd y casgliad ddiddordeb y wasg a neilltuwyd erthygl dwy dudalen iddo yn y cylchgrawn newyddion Cymraeg wythnosol, Golwg.

    Dyddiaduron Wyn Roberts

    Rhoddwyd casgliad o ddyddiaduron gwleidyddol, 1970-2006, a ysgrifennwyd gan gyn AS Conwy, Gweinidog Gwladol yn y Swyddfa Gymreig ac Is-ysgrifennydd Seneddol Cymru i’r Llyfrgell gan Arglwyddes Roberts yn 2015. Maent yn cynnwys gwybodaeth fanwl am yrfa wleidyddol yr Arglwydd Roberts o’r adeg y cafodd ei ethol yn 1974, a cheir cipolwg arbennig ar y modd yr oedd llywodraeth Thatcher yn gweithio, sefydlu S4C a Deddf yr Iaith Gymraeg. Llwyddodd y rhodd i ddenu cryn sylw yn y wasg gydag erthygl yn ymddangos yn y cylchgrawn newyddion Cymraeg wythnosol, Golwg yn ogystal ag eitem ar raglen wleidyddol BBC Radio Wales, Sunday Supplement.

    Cefn

    Rhoddwyd casgliad mawr o ddeunydd, 1985-2008, yn ymwneud â gwaith Cefn, y sefydliad hawliau dynol, i’r Llyfrgell yn ystod y flwyddyn. Mae’r archif yn cynnwys dros 130 o ffeiliau blwch o lythyrau, sylwadau yn y wasg a llythyrau’n manylu ar waith achos ac ymgyrchoedd cyffredinol.

    Wyn Roberts Diaries

    A collection of political diaries, 1970-2006 written by the former Conwy MP, Minster of State at the Welsh Office and Parliamentary Under Secretary for Wales was donated to the Library by Lady Roberts in 2015. They detail Lord Roberts’ political career from his election in 1974 and contain fascinating insights into the workings of the Thatcher government, the establishment of S4C and the Welsh Language Act. The donation attracted significant media attention which resulted in an article in the Welsh language weekly Golwg and at item on BBC Radio Wales Sunday Supplement politics programme.

    Cefn

    A large collection of material, 1985-2008, regarding the work of the civil rights organisation Cefn was donated to the Library during the year. The archive consists of over 130 box files of letters, press coverage and letters detailing casework and general campaigns.

    Archif Cefn / Cefn Archive

    Archif Shelter Cymru / Shelter Cymru Archive Dyddiaduron Wyn Roberts / Wyn Roberts Diaries

  • ISSUE 47 The Welsh Political Archive Newsletter Cylchlythyr yr Archif Wleidyddol Gymreig RHIFYN 47 4 5

    Gwilym Prys Davies Papers

    An important collection of papers, 1901-2012, including correspondence relating to the Welsh language, devolution and the Welsh Republican Movement.

    Peter Hughes Griffiths (Gwynfor Evans) Papers

    Collection of political ephemera, 1923-2012, including material from various election campaigns and events celebrating the life and work of Gwynfor Evans.

    Ioan Bellin Papers

    Collection of documents mainly relating to developments in broadcasting and the media in Wales, 1995-1999.

    Papurau Gwilym Prys Davies

    Casgliad pwysig o bapurau, yn cynnwys gohebiaeth yn ymwneud â’r iaith Gymraeg, datganoli a Mudiad Gweriniaethol Cymru,1901-2012.

    Papurau Peter Hughes Griffiths (Gwynfor Evans)

    Casgliad o effemera gwleidyddol, 1983-2012, yn cynnwys deunydd o wahanol ymgyrchoedd etholiadol a digwyddiadau’n dathlu bywyd a gwaith Gwynfor Evans.

    Papurau Ioan Bellin

    Casgliad o ddogfennau’n ymwneud yn bennaf â datblygiadau yn y byd darlledu a’r cyfryngau yng Nghymru, 1995-1999.

    Papurau’r Arglwydd MacDonald o Waenysgor

    Prynodd y Llyfrgell y casgliad hwn o ohebiaeth rhwng yr Arglwydd MacDonald o Waenysgor a ffigyrau blaenllaw yn Llywodraeth Lafur 1945-51 gan gynnwys Clement Attlee, Emanuel Shinwell a Harold Wilson ynghyd â gohebiaeth a dogfennau’n gysylltiedig â’i rôl fel Llywodraethwr Newfoundland a Chadeirydd Cyngor Darlledu Cenedlaethol Cymru, 1940au-1960au.

    Papurau Peter Hain

    Rhoddwyd deunydd ychwanegol, 1964-2015, i’r Llyfrgell gan yr Arglwydd Hain, yn cynnwys dyddiaduron gwaith, gohebiaeth, ffotograffau a deunydd clyweledol.

    Papurau Peter Temple-Morris

    Rhoddwyd deunydd ychwanegol, 1970-2007, i’r Llyfrgell gan yr Arglwydd Temple-Morris i ychwanegu at ei bapurau gan gynnwys gohebiaeth a phapurau gwleidyddol yn ymwneud â Syr Owen Temple-Morris.

    DERBYNIADAU ACqUISITIONS

    Lord Touhig Papers

    Lord Touhig, the former Labour and Co-operative Party MP for Islwyn donated a significant collection of this papers, mostly 1995-2010, to the Library earlier this year. The papers reflect his Parliamentary career as Parliamentary Private Secretary to Gordon Brown and as a minister at the Ministry of Defence, as well as political correspondence, Miners’ compensation and the Labour Party.

    Labour Party Wales Archive

    5 boxes of material, 1946-2011, to add to the Labour Party Wales Archive already held at the Library was received during the year. The additional material includes campaign literature such as leaflets and posters for a number of General Elections, European Elections and National Assembly Elections as well as the 1997 referendum on devolution and Labour Party papers on devolution.

    Papurau’r Arglwydd Touhig

    Rhoddodd yr Arglwydd Touhig, cyn AS Llafur a’r Blaid Gydweithredol dros Islwyn gasgliad sylweddol o’i bapurau, 1995-2010 i’r Llyfrgell yn gynharach eleni. Mae’r papurau’n adlewyrchu ei yrfa Seneddol fel Ysgrifennydd Preifat Seneddol i Gordon Brown ac fel Gweinidog Amddiffyn yn ogystal â gohebiaeth wleidyddol, iawndal y Glowyr a’r Blaid Lafur.

    Archif Plaid Lafur Cymru

    Yn ystod y flwyddyn derbyniwyd 5 blwch o ddeunyddiau, 1946-2011, i ychwanegu at Archif Plaid Lafur Cymru sydd eisoes yn y Llyfrgell. Mae’r deunydd ychwanegol yn cynnwys llenyddiaeth ymgyrchu fel taflenni a phosteri ar gyfer nifer o Etholiadau Cyffredinol, Etholiadau Ewrop ac Etholiadau’r Cynulliad, yn ogystal â refferendwm 1997 ar ddatganoli a phapurau’r Blaid Lafur ar datganoli.

    Papurau Olwen Davies

    Rhoddwyd deunydd printiedig ychwanegol o 1983 hyd at 2004 i’r Llyfrgell ym Medi 2015. Mae’r rhain wedi eu hychwanegu at Bapurau Olwen Davies.

    Archif Dot Cymru

    Rhoddwyd papurau ymgyrch Dot Cymru i’r Llyfrgell yn Hydref 2015. Mae’r rhain yn cynnwys gwybodaeth am yr ymgyrch rhwng 2006 a 2011 i sefydlu .cym, yn ddiweddarach .cymru fel parth rhyngrwyd lefel uchaf i Gymru. Mae’r papurau’n cynnwys gohebiaeth, cynlluniau busnes, cofnodion y bwrdd, deunydd hyrwyddo a thoriadau papur newydd.

    Papurau Godfrey Ley

    Derbyniwyd dau flwch o ddeunyddiau’n ymwneud â Phlaid Cymru, 1947-1959, yng Ngwent a Phowys i ychwanegu at Bapurau Godfrey Ley.

    Lord MacDonald of Gwaenysgor Papers

    The Library purchased this collection of correspondence between Lord MacDonald of Gwaenysgor and leading figures in the 1945-51 Labour Government including Clement Attlee, Emanuel Shinwell and Harold Wilson along with correspondence and documents relating to his roles as Governor of Newfoundland and chairman of the National Broadcasting Council for Wales, 1940s-1960s.

    Peter Hain Papers

    Additional material, 1964-2015, was donated to the Library by Lord Hain, including engagement diaries, correspondence, photographs and audio-visual material.

    Peter Temple-Morris Papers

    Additional material, 1970-2007, was donated to the Library by Lord Temple-Morris to add to his papers including political correspondence and papers related to Sir Owen Temple-Morris.

    Olwen Davies Papers

    Additional printed material dating from 1983-2004 was donated to the Library in September 2015. These have been added to the Olwen Davies Papers.

    Archif Dot Cymru

    The papers of the Dot Cymru campaign were donated to the Library in October 2015. These detail the campaign from 2006 to 2011 to establish .cym, later .cymru as a top level internet domain for Wales. The papers include correspondence, business plans, board minutes, promotional material and newspaper cuttings.

    Godfrey Ley Papers

    2 boxes of material, 1947-1959, relating to Plaid Cymru in Gwent and Powys were received to add to the Godfrey Ley Papers.

    DERBYNIADAU ACqUISITIONS

    Papurau’r Argwlydd MacDonald o Waenysgor / Lord Macdonald of Gwaenysgor Papers

    Papurau Gwilym Prys Davies / Gwilym Prys Davies Papers

    Archif Plaid Lafur Cymru / Labour Party Wales Archive

  • Cylchlythyr yr Archif Wleidyddol Gymreig RHIFYN 47 6 7ISSUE 47 The Welsh Political Archive Newsletter

    Election Ephemera

    2016 was a bumper year for our collection of political ephemera. Voters went to the polls on Thursday 5th May in an election for the National Assembly for Wales which saw Labour returned to government, Plaid Cymru replace the Conservatives as the official opposition, the Liberal Democrats reduced to one seat and UKIP Assembly Members elected for the first time. The post-election period saw Carwyn Jones re-elected as First Minister, Kirsty Williams join the cabinet and Elin Jones elected as Presiding Officer.

    On the same day a Parliamentary by-election was held in Ogmore for the seat vacated by Huw Irranca-Davies who was elected to the Assembly and for the four Police and Crime Commissioners.

    Our supporters across Wales collected election material

    Effemera Etholiad

    Roedd 2016 yn flwyddyn gynhyrchiol i’n casgliad o effemera gwleidyddol. Aeth pleidleiswyr allan i bleidleisio ar ddydd Iau 5 Mai yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru; etholwyd y Blaid Lafur eto fel llywodraeth, cymerodd Plaid Cymru le’r Ceidwadwyr fel yr wrthblaid swyddogol, enillwyd un sedd yn unig gan y Democratiaid Rhyddfrydol ac etholwyd Aelodau UKIP i’r Cynulliad am y tro cyntaf. Yn y cyfnod ar ôl yr etholiad ail-etholwyd Carwyn Jones yn Brif Weinidog, ymunodd Kirsty Williams â’r cabinet ac etholwyd Elin Jones fel y Llywydd.

    Yr un diwrnod cynhaliwydisetholiad Seneddol yn Ogwr ar gyfer sedd wag Huw Irranca-Davies a ymddiswyddodd o Senedd y DG i sefyll ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac ar gyfer pedwar ComisiynyddHeddlu a Throseddu.

    Aeth ein cefnogwyr drwy Gymru ati i gasglu deunydd etholiadol yn cynnwys posteri a thaflenni, ac rydym yn falch bod gennym ddeunydd ar draws yr holl etholaethau a’r rhanbarthau ac ardaloedd yr heddlu, gan lenwi 4 blwch archifol.

    Ychydig wythnosau’n ddiweddarach ar 23 Mehefin cynhaliwyd refferendwm ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd. Roedd y polau piniwn wedi darogan y byddai’n ganlyniad agos, gyda 52% yn pleidleisio dros adael yr UE yn gyffredinol, er bod y patrymau pleidleisio’n wahanol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bu’n bosibl casglu deunydd sylweddol, gan lenwi 1 blwch archifol, o’r ymgyrchoedd Aros a Gadael, ynghyd â chyhoeddiadau swyddogol gan Lywodraeth EM a’r Comisiwn Etholiadol.

    Hefyd mae’r Llyfrgell wedi gwneud copïau o wefannau gan gynnwys rhai pleidiau ac ymgeiswyr gwleidyddol.

    including posters and leaflets, and we’re pleased that we have material from all constituencies, regions and police force areas, filling 4 archival boxes.

    This was followed only a few weeks later on June 23rd by the referendum on the UK’s membership of the European Union. The polls had predicted a close result, with 52% voting to leave the EU overall, although the voting patterns were different in Wales, England, Scotland and Northern Ireland. We were able to collect a significant amount of material, filling 1 archival box, from both the Remain and Leave campaigns, along with official publications from HM Government and the Electoral Commission.

    The Library also made archive copies of websites including those of political parties and candidates.

    DERBYNIADAU ACqUISITIONS

    Effemera refferendwm ar aelodaeth y DG o’r Undeb Ewropeaidd / Ephemera from the referendum on the UK’s membership of the EU

    Effemera o etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu / Ephemera from the Police and Crime Commissioner elections

    Sorting Election Material

    Thanks to our supporters across Wales, a considerable amount of election addresses, letters to voters and other electoral ephemera is donated to the Welsh Political Archive every year. As well as our focused campaigns to collect for specific elections, we are often sent historic material to add to the collection which of course requires research to ensure that each item is correctly filed. Thanks to a partnership

    Didoli Deunydd Etholiad

    Diolch i’n cefnogwyr drwy Gymru, rhoddir deunydd sylweddol yn cynnwys cyfeiriadau etholiad, llythyrau i bleidleiswyr ac effemera etholiadol eraill i’r Archif Wleidyddol Gymreig bob blwyddyn. Yn ogystal â’n hymgyrchoedd penodol i gasglu ar gyfer etholiadau penodol, yn aml anfonir deunydd hanesyddol atom i ychwanegu at y casgliad, ac wrth gwrs mae hynny’n golygu bod angen ymchwilio iddo i sicrhau bod

    pob eitem yn cael ei ffeilio’n gywir. Diolch i bartneriaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth, roedd y Llyfrgell yn gallu cynnig cyfle i fyfyriwr roi cymorth gwirfoddol i wneud y gwaith hwn yn ystod hydref a gaeaf 2015/16 fel rhan o’n rhaglen wirfoddoli. Bellach mae’r rhan helaeth o’r deunydd hwn wedi ei didoli ar sail etholiad ac etholaeth ac wedi ei ychwanegu at y ffeil briodol yn y casgliad pwysig hwn.

    with Aberystwyth University, the Library was able to offer a student the opportunity to assist with this work on a voluntary basis through the autumn and winter of 2015/16 as part of our volunteer programme. Much of this material has now been sorted by election and constituency and added to the appropriate file in this very important collection.

    DERBYNIADAU ACqUISITIONS

    Effemera o etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru / Ephemera from elections to the National Assembly for Wales

  • Cylchlythyr yr Archif Wleidyddol Gymreig RHIFYN 47 8

    NEWYDDION O’R ARCHIF WLEIDYDDOL GYMREIG

    NEWS FROM THE WELSH POLITICAL ARCHIVE

    Committee meeting in Cardiff

    Following feedback from members of the Welsh Political Archive Advisory Committee, arrangements have been made to hold the annual meeting in Cardiff in September, instead of in Aberystwyth in November as an experiment. The meeting will be held in the Senedd in Cardiff Bay and members who cannot physically attend will be able to virtually join the meeting.

    Electoral Success

    Congratulations to two members of the Welsh Political Archive Advisory Committee on their success in the elections to the National Assembly for Wales. David Melding was re-elected for South Wales Central and Lee Waters was elected for Llanelli.

    Twitter @WelshPolArch

    During 2016 we’ve been tweeting a picture with a political flavour every month from the collection. So far, subjects have included Wyn Roberts, Caernarfon Town Council, a demonstration by farmers, Clement Davies, Goronwy Roberts, David Maxwell Fyfe, Eamon DeValera and Gwynfor Evans.

    David Lloyd George

    Lloyd George’s War, broadcast on BBC Radio Wales at the end of 2015 used material from the Lloyd George family Papers and the William George Papers held at the National Library of Wales.

    2015 Committee meeting

    The Welsh Political Archive Advisory Committee met on 4th November last year and the meeting was chaired for the first time by the new Librarian, Linda Tomos. The committee received a report on acquisitions and the activities of the Welsh Political Archive over the previous year including a pop-up exhibition at the Plaid Cymru conference, lectures, attendance at conferences and plans for an exhibition in Cardiff in September 2016.

    The committee recommended that the Library makes efforts to acquire the papers of former Secretaries of State for Wales and work with politicians to raise awareness of the importance of electronic records for future research.

    The committee noted that Roger Pratt had moved on to another role in the Conservative Party and that Richard Minshull had been appointed as Director of the Welsh Conservatives and would be a member of the committee in that role. Widening the membership of the committee was also discussed and Tony Hopkins of Gwent Archives has agreed to become a member.

    2015 Welsh Political Archive Annual Lecture

    The 2015 Welsh Political Archive Annual Lecture was delivered by BBC Middle East Editor, Jeremy Bowen to a full house in the Drwm at the National Library of Wales..

    Jeremy Bowen was born and attended school in Cardiff and later attended University College London and the Paul H. Nitze School of Advanced International Studies at Johns Hopkins University in Washington, DC. He joined the BBC in 1984, reporting from many war zones including El Salvador, the Israel – Palestine conflict, the war in Syria, and significant international events such as the death of Pope John Paul II. He has won a number of awards including a Sony Gold award for coverage of the arrest of Saddam Hussein, an International Emmy for the BBC’s coverage of the Lebanon war in 2006 and the 2012 Peace Through Media. He was appointed as the BBC Middle East Editor in 2005.

    In his lecture Jeremy Bowen considered what made him become a journalist and how reporting from war zones and the deaths of a number of colleagues has affected him. He talked about how his new role allows him to look at the bigger picture in the Middle East and consider how the region is changing. He explained the demographic changes which are causing a generational period of transformation, and how the number of refugees as a result of conflict is further driving instability. He also considered how difficult it is for journalists to be impartial, reporting the facts but ensuring their audience understand the underlying issues.

    He finished his lecture with some thoughts about his Welsh identity, and kindly took questions after the lecture.

    Cyfarfod o’r Pwyllgor yng Nghaerdydd

    Yn dilyn adborth gan aelodau Pwyllgor Ymgynghorol yr Archif Wleidyddol Gymreig, gwnaed trefniadau i gynnal cyfarfod blynyddol yng Nghaerdydd ym Medi, yn lle Aberystwyth ym mis Tachwedd, fel arbrawf. Cynhelir y cyfarfod yn y Senedd ym Mae Caerdydd a bydd aelodau sy’n methu a bod yno yn gallu ymuno â’r cyfarfod drwy gyfrwng rhithiol.

    Llwyddiant Etholiadol

    Llongyfarchiadau i ddau aelod o Bwyllgor Ymgynghorol yr Archif Wleidyddol Gymreig ar eu llwyddiant yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ail-etholwyd David Melding fel aelod Canol De Cymru ac etholwyd Lee Waters dros Lanelli.

    Twitter @AWGymreig

    Yn ystod 2016 rydym wedi bod yn trydar llun gwleidyddol o’r casgliad bob mis. Hyd yma, trydarwyd lluniau o Wyn Roberts, Cyngor Tref Caernarfon, protest gan ffermwyr, Clement Davies, Goronwy Roberts, David Maxwell Fyfe, Eamon DeValera a Gwynfor Evans.

    David Lloyd George

    Yn Lloyd George’s War, a ddarlledwyd ar BBC Radio Wales ar ddiwedd 2015 defnyddiwyd Papurau teulu Lloyd George a Phapurau William George a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

    Cyfarfod y Pwyllgor 2015

    Cyfarfu Pwyllgor Ymgynghorol yr Archif Wleidyddol Gymreig ar 4 Tachwedd y llynedd a chadeiriwyd y cyfarfod am y tro cyntaf gan y Llyfrgellydd newydd, Linda Tomos. Derbyniodd y pwyllgor adroddiad ar dderbyniadau a gweithgareddau’r Archif Wleidyddol Gymreig yn ystod y flwyddyn flaenorol gan gynnwys fflach arddangosfa yng nghynhadledd Plaid Cymru, darlithoedd, presenoldeb mewn cynadleddau a chynlluniau ar gyfer arddangosfa yng Nghaerdydd ym Medi 2016.

    Argymhellodd y pwyllgor fod y Llyfrgell yn ceisio caffael papurau cyn Ysgrifenyddion Gwladol Cymru a gwaith gyda gwleidyddion i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cofnodion electronig ar gyfer ymchwil y dyfodol.

    Nododd y pwyllgor fod Roger Pratt wedi symud i swydd arall yn y Blaid Geidwadol a bod Richard Minshull wedi ei benodi’n Gyfarwyddwr y Ceidwadwyr Cymreig ac y byddai’n aelod o’r pwyllgor yn y rôl honno. Hefyd trafodwyd ehangu aelodaeth y pwyllgor ac mae Tony Hopkins o Archifau Gwent wedi cytuno i fod yn aelod.

    Darlith Flynyddol Archif Wleidyddol Gymreig 2015

    Traddodwyd Darlith Flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig 2015 gan Jeremy Bowen, Golygydd y BBC ar y Dwyrain Canol i gynulleidfa lawn yn y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol.

    Ganed Jeremy Bowen yng Nghaerdydd ac yno y derbyniodd ei addysg gan fynd yn ddiweddarach i Goleg y Brifysgol Llundain ac Ysgol Uwch Astudiaethau Rhyngwladol Paul H. Nitze ym Mhrifysgol Johns Hopkins yn Washington, DC. Ymunodd â’r BBC yn 1984, gan ohebu o nifer o barthau rhyfel yn cynnwys El Salvador, gwrthdaro rhwng Israel a Phalestina, y rhyfel yn Syria a digwyddiadau rhyngwladol pwysig fel marwolaeth Pab Ioan Pawl II. Mae wedi ennill nifer o wobrau yn cynnwys gwobr Aur Sony am ohebu ar arestio Saddam Hussein, Emmy Rhyngwladol am y sylw ar y BBC i ryfel Lebanon yn 2006 a gwobr 2012 Peace Through Media. Fe’i penodwyd yn Olygydd y BBC ar y Dwyrain Canol yn 2005.

    Yn ei ddarlith rhoddodd Jeremy Bowen ystyriaeth i’r hyn a barodd iddo fynd yn newyddiadurwr a sut mae gohebu o ardaloedd rhyfela a marwolaethau nifer o gydweithwyr wedi effeithio arno. Siaradodd am y modd y mae ei swydd newydd yn caniatáu iddo edrych ar y darlun ehangach yn y Dwyrain Canol ac ystyried sut mae’r rhanbarth yn newid. Eglurodd y newidiadau demograffig sy’n achosi cyfnod o drawsnewid mawr, a sut mae nifer o ffoaduriaid o ganlyniad i wrthdaro’n creu mwy o ansefydlogrwydd. Hefyd ystyriodd pa mor anodd ydyw i newyddiadurwyr fod yn ddiduedd, gan adrodd y ffeithiau ond sicrhau bod eu cynulleidfa’n deall y materion sylfaenol.

    Gorffennodd ei ddarlith gyda rhai o’i syniadau am ei hunaniaeth Gymreig, cyn ateb cwestiynau.

    Jeremy Bowen yn y Llyfrgell Genedlaethol / Jeremy Bowen at the National Library

    Ffermwyr yn protestio, 1970 / Farmers protesting, 1970 (Geoff Charles)

  • ISSUE 47 The Welsh Political Archive Newsletter Cylchlythyr yr Archif Wleidyddol Gymreig RHIFYN 47 10 11

    NEWYDDION NEWS

    CATALOGIO

    Yn ystod y flwyddyn, catalogiwyd nifer o gasgliadau a’u rhoi ar-lein.

    • DyddiaduronWynRoberts archives.library.wales/index.

    php/wyn-roberts-diaries

    • YchwanegiadauatBapurauIan a Thalia Campbell archives.library.wales/index.

    php/ian-and-thalia-campbell-papers-2

    • ArchifPlaidGydweithredolCymru

    archives.library.wales/index.php/ian-and-thalia-campbell-papers-2

    • ArchifShelterCymru archives.library.wales/index.

    php/shelter-cymru-archive

    • PapurauGwilymPrysDavies archives.library.wales/index.

    php/gwilym-prys-davies-papers

    • YchwanegiadauatBapurau’rArglwydd Ogmore

    archives.library.wales/index.php/lord-ogmore-papers-2

    • Papurau’rFarwnesRanderson archives.library.wales/index.

    php/baroness-randerson-papers

    • ArchifPlaidWerddCymru archives.library.wales/index.

    php/green-party-wales-papers

    • PapurauPeterHughesGriffiths (Gwynfor Evans) archives.library.wales/index.php/peter-hughes-griffiths-gwynfor-evans-papers

    CATALOGUING

    During the year, a number of collections were catalogued and made available on the Library’s online catalogue.

    • WynRobertsDiaries archives.library.wales/index.

    php/wyn-roberts-diaries

    • AdditionstotheIanandThalia Campbell Papers

    archives.library.wales/index.php/ian-and-thalia-campbell-papers-2

    • Co-operativePartyWalesArchive

    archives.library.wales/index.php/ian-and-thalia-campbell-papers-2

    • ShelterCymruArchive archives.library.wales/index.

    php/shelter-cymru-archive

    • GwilymPrysDaviesPapers archives.library.wales/index.

    php/gwilym-prys-davies-papers

    • AdditionstotheLordOgmore Papers

    archives.library.wales/index.php/lord-ogmore-papers-2

    • BaronessRandersonPapers archives.library.wales/index.

    php/baroness-randerson-papers

    • WalesGreenPartyArchive archives.library.wales/index.

    php/green-party-wales-papers

    • PeterHughesGriffiths(Gwynfor Evans) Papers - archives.library.wales/index.php/peter-hughes-griffiths-gwynfor-evans-papers

    Derbyniadau eraillYn ystod yn flwyddyn roedd y Llyfrgell hefyd yn falch o dderbyn ffotograff wedi ei fframio o gyn arweinydd Plaid Cymru, Gwynfor Evans, ychwanegiadau at LlGC ex 2039 ynglŷn â’r ymgyrch “Na” yn refferendwm datganoli 1997, 1 blwch o ddeunyddiau i ychwanegu at Bapurau Marion Lee a phosteri etholiad o’r 19eg ganrif o Gaerdydd. Yn ogystal â hyn prynwyd portread o arweinydd glowyr Glofa’r Tŵr, Tyrone O’Sullivan gan Valerie Ganz.

    Other acquistionsDuring the year the Library was also pleased to receive a framed photograph of former Plaid Cymru leader Gwynfor Evans, additions to NLW ex 2039 regarding the “No” campaign in the 1997 devolution referendum, 1 box of material to add to the Marion Lee Papers and some 19th century election posters from Cardiff. In addition, a portrait of the Tower Colliery Miners’ leader Tyrone O’Sullivan by Valerie Ganz was also purchased.

    DERBYNIADAU ACqUISITIONS

    Gwynfor Evans [Llun gan Arwel Davies, Caerfyrddin] / Picture by Arwel Davies, [Carmarthen]

    NEWYDDION O LYFRGELL GENEDLAETHOL CYMRU Gwnaed nifer o benodiadau yn ystod y flwyddyn diwethaf. Llanwyd swydd Llyfrgellydd Cenedlaethol gan Linda Tomos ar 1 Tachwedd 2015, a oedd cyn hynny yn bennaeth ar adran Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau Llywodraeth Cymru. Yn sgil ymddeoliad Syr Deian Hopkin, penodwyd cyn Aelod Cynulliad a Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru Rhodri Glyn Thomas yn Llywydd y Llyfrgell a dechreuodd ei swydd ym mis Ebrill eleni. Penodwyd Pedr ap Llwyd yn Gyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus a dechreuodd ei swydd yn Ebrill.

    Adleolwyd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru i safle newydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ystod y flwyddyn, ac agorodd ei ystafelloedd darllen newydd ar 6 Gorffennaf.

    Mewn seremoni yng Nghaerdydd ar 21 Mehefin, ychwanegwyd yr Arolwg o Blastai Crughywel a Thretŵr, a grëwyd gan Robert Johnson yn 1587, ac sydd bellach yng ngofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru at gofrestr Cof y Byd DU UNESCO. Sefydlwyd Rhaglen Cof y Byd UNESCO yn 1992 a’i gweledigaeth yw bod treftadaeth ddogfennol y byd yn perthyn i bawb, ac y dylid ei gwarchod a’i diogelu i bawb a bod ar gael i bawb yn rhwydd. Mae’r gofrestr yn cydnabod casgliadau treftadaeth dogfennol o ‘bwysigrwydd eithriadol i’r DU’.

    Ym Medi 2016 enillodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru Wobr Gwirfoddoli Archifau y Gymdeithas Archifau a Chofnodion (ARA) am ei chynllun ‘Ein Helpu i Gyflawni’. Mae’r cynllun yn ceisio ehangu mynediad at archifau cenedlaethol Cymru trwy ddatblygu grŵp o wirfoddolwyr medrus. Noddir y gwobrau gan Gymdeithas Archifau a Chofnodion (DU ac Iwerddon) a phartneriaid y sector ac maent yn cydnabod gwaith arbennig gan wirfoddolwyr o fewn gwasanaeth archifau sefydliadol.

    NEWS FROM THE NATIONAL LIBRARY OF WALES A number of new appointments have been made at the National Library during the last year. Linda Tomos took up the post of National Librarian on 1st November 2015, having previously been head of the Welsh Government’s Museums, Libraries and Archives division. Following the retirement of Sir Deian Hopkin, former Assembly Member and Welsh Government Culture Minister Rhodri Glyn Thomas was appointed to the role of President of the Library and took up the position in April. Pedr ap Llwyd was appointed as Director of Collections and Public Programmes and took up the position in April.

    The Royal Commission on the Ancient and Historic Monuments of Wales relocated to new premises at the National Library of Wales during the year, opening its new reading rooms on July 6th.

    At a ceremony in Cardiff on June 21st, the Survey of the Manors of Crickhowell and Tretower, created by Robert Johnson in 1587 and now in the care of the National Library of Wales was added to the UNESCO UK Memory of the World register. UNESCO established the Memory of the World (MoW) Programme in 1992 with a vision the world’s documentary heritage belongs to all, should be fully preserved and protected for all and permanently accessible to all without hindrance. The register recognises documentary heritage collections of ‘Outstanding significance to the UK’.

    In September 2016 the National Library of Wales won prestigious ARA Archive Volunteering Award for its ‘Helping us to Achieve’ scheme. The scheme aims to expand access to Wales’ national archives by developing a cadre of skilled volunteers. The awards are sponsored by Archives and Records Association (UK & Ireland) and sector partners and recognises outstanding work involving volunteers within an institutional archive service.

  • ISSUE 47 The Welsh Political Archive Newsletter Cylchlythyr yr Archif Wleidyddol Gymreig RHIFYN 47 12 13

    Cofiant Cledwyn o BenrhosRevd. Dr. D. Ben Rees

    A new biography of Lord Cledwyn of Penrhos, written by the Revd. Dr. D. Ben Rees, and based on archives held at the National Library of Wales is due to be released shortly. Rees’ biography of Lord Cledwyn’s predecessor at the Welsh Office, Jim Griffiths was released in 2014 and was well received.

    Cledwyn Huges (1916-2001) was Member of Parliament for Anglesey from 1951 to 1979. His background as a native of Holyhead, county councillor, solicitor, member of the Royal Air Force during the Second World War, as well as the son of a minister, the Revd. H. D. Hughes, who supported the Liberal Megan Lloyd George is explored. Rees explores his change in political allegiance to Labour during his time at Aberystwyth University and become one of the leading figures of the Labour Party in his day.

    Aneurin Bevan, Jim Callaghan, Roy Jenkins , Willie Whitlaw, and the Welsh and British establishments thought highly of him due to his ability and personaily. He was not a marginal figure.

    His Parliamentary career, including his involvement in the Parliament for Wales Campaign (1950-55), his study into the conditions on St Helena (1958), his contribution while at the Commonwealth Office (1964-66), as Secretary of State for Wales (1964-66) and as Minister for Agriculture, Food and Fisheries (1968-70) is considered in depth along with some of the more challenging issued he faced in Wales such as the Aberfan disaster in 1966 and preparations for the investiture of the Prince of Wales in 1969.

    There is detailed analysis of his beliefs on the European Community, his relationship with Gwynfor Evans and Harold Wilson and as a mediator on the Rhodesia issue and between the left and right wings of the Labour Party. Rees also explores his role in the Labour/Liberal pact of 1977 and his contribution as an opposition spokesperson in the House of Lords.

    His relationship with the Royal Family, as a lay preacher, his constituency work, his contributions to the University of Wales, the Eisteddfod and public life as well as his family life are all covered in individual chapters.

    This new volume will be a valuable addition to the study of one of Wales leading political figures in the 20th century.

    Cofiant Cledwyn o BenrhosParch. Ddr D. Ben Rees

    Yn fuan cyhoeddir bywgraffiad newydd yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos, wedi’i ysgrifennu gan y Parchedig Dr. D. Ben Rees, yn seiliedig ar archifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyhoeddwyd bywgraffiad rhagflaenydd yr Arglwydd Cledwyn yn y Swyddfa Gymreig, Jim Griffiths, ganddo yn 2014, a chafodd ymateb da.

    Roedd Cledwyn Hughes (1916-2001) yn Aelod Seneddol dros Ynys Môn rhwng 1951 a 1979. Yn y gyfrol trafodir ei gefndir fel brodor o Gaergybi, cynghorydd sir, cyfreithiwr, aelod o’r Llu Awyr Brenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, y ffaith ei fod yn fab i weinidog, y Parchedig H. D. Hughes, a gefnogai’r Rhyddfrydwraig Megan Lloyd George. Mae Rees yn edrych ar y newid wrth iddo droi at y Blaid Lafur yn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth a dod yn un o ffigyrau blaenllaw’r Blaid Lafur yn y cyfnod hwnnw.

    Roedd gan Aneurin Bevan, Jim Callaghan, Roy Jenkins , Willie Whitlaw, a’r sefydliad Cymreig a Phrydeinig feddwl mawr ohono oherwydd ei allu a’i bersonoliaeth. Nid oedd yn ffigwr ymylol.

    Trafodir yn fanwl ei yrfa Seneddol, gan gynnwys ei gyfraniad i Ymgyrch Senedd i Gymru (1950-55), ei astudiaeth o’r amodau ar St Helena (1958), ei gyfraniad tra bu yn Swyddfa’r Gymanwlad (1964-66), fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru (1964-66) ac fel Gweinidog Amaeth, Bwyd a Physgodfeydd (1968-70), yn ogystal â rhai o’r materion mwy heriol a wynebodd yng Nghymru fel trychineb Aberfan yn 1966 a pharatoadau ar gyfer arwisgo Tywysog Cymru yn 1969.

    Ceir dadansoddiad manwl o’r hyn a gredai am y Gymuned Ewropeaidd, ei berthynas gyda Gwynfor Evans a Harold Wilson, ac fel cyfryngwr ar fater Rhodesia, a rhwng adain chwith a dde’r Blaid Lafur. Mae Rees hefyd yn ystyried ei rôl yng nghytundeb Llafur/Rhyddfrydwyr 1977 a’i gyfraniad fel llefarydd yr wrthblaid yn Nhŷ’r Arglwyddi.

    Rhoddir sylw i’w berthynas â’r Teulu Brenhinol, ei waith fel pregethwr lleyg, ei waith yn ei etholaeth, ei gyfraniadau at Brifysgol Cymru, yr Eisteddfod a bywyd cyhoeddus yn ogystal â’i fywyd teuluol mewn penodau unigol.

    Bydd y gyfrol newydd hon yn ychwanegiad gwerthfawr at yr astudiaeth o un o ffigyrau gwleidyddol blaenllaw Cymru yn yr 20fed ganrif.

    Yr Arglwydd Cledwyn o Penrhos / Lord Cledwyn of Penrhos, (Geoff Charles)

    ADOLYGIAD LLYFRBOOK REVIEW

    Logo Newydd

    Lluniwyd logo newydd ar gyfer yr Archif Wleidyddol Gymreig gan aelod o staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

    New Logo

    A new logo for the Welsh Political Archive has been designed by a member of staff at the National Library of Wales.

    Arddangosfa yng Nghynhadledd Plaid Cymru

    Gwahoddwyd yr Archif Wleidyddol Gymreig gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru i fynd ag arddangosfa fechan i gynhadledd Plaid Cymru yn Hydref 2015 i ddathlu 90 mlynedd ers sefydlu’r blaid.

    Exhibition at Plaid Cymru Conference

    The Welsh Political Archive was invited by the Plaid Cymru History Society to take a small exhibition to the Plaid Cymru conference in October 2015 to mark 90 years since the formation of the party.

    LOGO NEWYDDNEW LOGO

  • Darlith flynyDDol yr archif WleiDyDDol GyMreiGWelsh Political archive annual lecture

    Ann Clwyd AS a fydd yn trafod eigyrfa gartref a thramor, o 1979 hyd heddiw.

    Mynediad am ddim drwy docyn

    Ann Clwyd MP discusses her career at home and abroad from 1979 to the present.

    Free admission by ticket

    Ann Clwyd AS/MPY Berth sy’n Llosgi!

    Dydd Gwener 4 Tachwedd / Friday 4 November5.30pm

    Sgwrs gan ei gofiannydd i nodi canmlwyddiant geni y gwleidydd o Fôn, Cledwyn Hughes, ar 16 Medi 1916.

    Mynediad am ddim drwy docyn

    A talk by the biographer of Anglesey politician, Cledwyn Hughes, to mark the centenary of his birth on 16 September 1916.

    Free admission by ticket

    Yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos (1916–2001)Parch. Ddr. / Rev. Dr D. Ben Rees

    Dydd Mercher 5 Hydref / Wednesday 5 October1.15pm

    Honnodd yr hanesydd Gwyn Alf Williams

    fod “cenedl” gyntaf y Cymry wedi ymddangos

    gyda’r chwyldroadau Americanaidd a Ffrengig;

    a’r ddemocratiaeth Gymreig gyntaf hefyd. Ceir yn yr

    arddangosfa gyffrous hon gyfoeth o ddeunydd, gair

    a llun, sy’n archwilio datblygiad trafodaeth wleidyddol

    yng Nghymru o’r 1790au hyd heddiw. Mewn llythyrau,

    baledi, pamffledi a lluniau o archifau Llyfrgell

    Genedlaethol Cymru, mae lleisiau o Gymru yn

    datgelu ymatebion amrywiol iawn i ddigwyddiadau

    yng Nghymru, Ewrop a gweddill y byd.

    This exhibition is jointly

    organised by the Welsh

    Political Archive at The

    National Library of Wales

    and the University of

    Wales Centre for Advanced

    Welsh and Celtic Studies,

    drawing on work from

    from the AHRC-funded

    ‘Wales and the French

    Revolution’ project.

    Cyd-drefnir yr

    arddangosfa hon gan

    yr Archif Wleidyddol

    Gymreig, Llyfrgell

    Genedlaethol

    Cymru a’r Ganolfan

    Uwchefrydiau Cymreig

    a Cheltaidd (Prifysgol

    Cymru). Mae’n tynnu

    ar waith y prosiect

    AHRC, ‘Cymru a’r

    Chwyldro Ffrengig’.

    ORIEL Y DYFODOL / FUTURES GALLERY, PIERHEAD 06/09/16 – 29/09/16

    The historian Gwyn Alf Williams claimed that

    The first modern Welsh “nation” was born with

    the American and French revolutions; so was the

    first Welsh democracy. This exciting exhibition

    brings together a wealth of words and images

    exploring the story of public political discourse

    in Wales from the 1790s to the present day. In

    letters, songs, pamphlets and pictures from the

    archives at The National Library of Wales, Welsh

    voices express their radically different responses

    to events in Wales, Europe and the wider world.

    chwyldro-gwahoddiad_2.indd 1 22/07/2016 12:26

  • 16

    www.llgc.org.uk

    AberystwythCeredigionSY23 3BU

    t: 01970 632 800 f: 01970 615 [email protected]

    Oriau Agor Cyffredinol /General Opening Hours Dydd Llun – Dydd Gwener/ Monday – Friday 9:30am – 6:00pmDydd Sadwrn/Saturday9:30am – 5:00pm

    LLYFRGELL GENEDLAETHOL CYMRU THE NATIONAL LIBRARY OF WALES

    dyl

    un

    io/d

    esig

    n e

    lfen

    .co.

    uk

    issn 1365-9170

    www.llgc.org.uk/archifwleidyddolgymreigwww.llgc.org.uk/welshpoliticalarchive

    @AWGymreig@WelshPolArch

    YR ARCHIF WLEIDYDDOL GYMREIGTHE WELSH POLITICAL ARCHIVE

    The Welsh Political Archive Newsletter is produced annually to highlight new collections and the work of the archive and is circulated to journalists, historians, academics, politicians and others who are interested in the history and politics of Wales. If you would like to receive a copy, please let us know using the contact details above.

    Back issues of the newsletter are available on the Welsh Political Archive pages of the National Library of Wales website.

    Cyhoeddir Cylchlythyr yr Archif Wleidyddol Gymreig unwaith y flwyddyn i dynnu sylw at gasgliadau newydd a gwaith yr archif ac mae’n cael ei ddosbarthu i newyddiadurwyr, haneswyr, academyddion, gwleidyddion ac eraill sydd â diddordeb yn hanes a gwleidyddiaeth Cymru. Os hoffech dderbyn copi, rhowch wybod i ni drwy’r manylion cyswllt uchod.

    Mae ôl-rifynnau o’r cylchlythyr ar gael ar dudalennau’r Archif Wleidyddol Gymreig ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

    Llun y clawr: Tyrone O’Sullivan gan Valeri GanzCover image: Tyrone O’Sullivan by Valerie Ganz