llwybrau i gyflogaeth llyfr gwaith i gynghorwyr€¦ · cyhoeddwyd: awst 2016 . 2 nôl i'r...

57
1 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr Fersiwn: 5 Cyhoeddwyd: Awst 2016

Upload: others

Post on 30-Sep-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

1

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr Fersiwn: 5 Cyhoeddwyd: Awst 2016

Page 2: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

2

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Cynnwys

Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5 Cyflwyniad Tudalen 6 Y Porth Sgiliau Tudalen 8

Rhaglenni Llwybrau Ymgysylltu

Cymunedau am Waith Tudalen 9 Cymunedau yn Gyntaf Tudalen 11 Cynhwysiant Gweithredol Tudalen 13 Cynnydd Tudalen 14 Esgyn Tudalen 16 Gwithfrydd Tudalen 17 Mentora Allan o Waith gan Gymheiriaid 25+ Tudalen 19 PaCE Tudalen 20 Pontydd i Waith Tudalen 21 Teuluoedd yn Gyntaf Tudalen 23 TRAC 11-24 Tudalen 24 Ysbrydoli i Gyflawni Tudalen 25

Page 3: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

3

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Rhaglenni Llwybrau Paratoi ar gyfer Gwaith

Canolfan Gyswllt Cyn Gyflogi Tudalen 26 Dewis Gwaith Tudalen 27 Hyfforddeiaethau Tudalen 29 Rhaglen Waith Tudalen 30 Twf Swyddi Cymru Tudalen 31 Ymgysyllti i Newyd Tudalen 32

Rhaglenni Llwybrau Uwchsgilio

Cynnydd ar gyfer llwyddiant (Llinen 1) Tudalen 33 Gwasanaeth Mynediad at Waith Tudalen 35 Lwfans Menter Newydd Tudalen 37 Menter Cymru Ymddiriedolaeth y Tywysog Tudalen 38 Mynediad i Waith Tudalen 39 Prentisiaethau Tudalen 40

Rhaglenni Llwybrau Uwchsgilio

Cenedl Hyblyg 2 Tudalen 42 Cymorth yn y Gwaith Tudalen 43 ReAct 3 Tudalen 44 SEE Tudalen 45 Sgiliau ar gyfer Diwidiant 2 (SO1) Tudalen 46 Sgiliau ar gyfer Diwidiant 2 (SO2) Tudalen 47 Sgiliau Gwaith i Oedolion 2 Tudalen 48

Page 4: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

4

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Rhaglenni Llwybrau Sgiliau Uwch / Technegol

Academi Deunyddiau a Gweithgynyrchu Tudalen 49 GWLAD Tudalen 50 ION Leadership Tudalen 51 KESS 2 Tudalen 52 METaL 2 Tudalen 53 Prentisiaethau Lefel Uwch Tudalen 54 Rhaglen Graddedigion Gwasanaethau

Ariannol Cymru Tudalen 55 Rhaglen Twf Busnes Blaenllaw 20Twenty Tudalen 56 STEM Cymru 2 Tudalen 57

Page 5: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

5

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Page 6: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

6

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Cyhoeddwyd y cynllun Gweithredu Sgiliau ym mis Gorffennaf 2014. Mae'n manylu ar uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer sgiliau yng Nghymru. Yr uchelgais o hyd yw datblygu system sgiliau yng Nghymru i gefnogi cystadleurwydd yn y dyfodol, helpu'r wlad i ddatblygu'n gymdeithas hyfedr tra'n mynd i'r afael â thlodi ac sy'n gynaliadwy yng nghyd-destun adnoddau cynyddol brinnach. Y prif ffocws fydd gwella cynhyrchiant, lleihau rhwystrau i weithio a helpu pobl i gael cyflogaeth gynaliadwy. Mae'r rhagolwg hirdymor ar gyfer y system sgiliau yng Nghymru yn canolbwyntio ar y canlynol:

Y Porth Sgiliau

Cyflwyniad

Sgiliau ar gyfer swyddi a thwf Yn canolbwyntio ar ddatblygu lefelau sgiliau uwch drwy'r gweithlu cyfan, gan sicrhau y rhoddir gwerth ar lwybrau galwedigaethol a helpu cyflogwyr i weithio ar y cyd i ymateb i'w hanghenion o ran sgiliau.

Sgiliau sy'n ymateb i anghenion lleol Yn darparu system sgiliau a chyflogaeth integredig, symlach a hygyrch i unigolion a chyflogwyr a datganoli cyfrifoldeb i bartneriaid cyflawni i ddatblygu ymatebion hyblyg sy'n seiliedig ar yr anghenion o fewn cymunedau lleol.

Sgiliau y mae cyflogwyr yn rhoi gwerth arnynt

Yn gweithio gyda chyflogwyr i ddatblygu cymwysterau galwedigaethol i oedolion a fframweithiau prentisiaethau a'u cefnogi'n llawn i ddefnyddio sgiliau'r gweithlu drwy ddatblygu diwylliant o weithio perfformiad uchel a buddsoddi mewn sgiliau ochr yn ochr â'r llywodraeth.

Sgiliau ar gyfer cyflogaeth Yn helpu unigolion i ddechrau cyflogaeth drwy fynediad at wybodaeth am sgiliau a chyfleoedd profiad gwaith ac anelu at yr uchelgais bod gan bob oedolyn sy'n gweithio lefel ofynnol o sgiliau llythrennedd, rhifedd a TGCh i'w helpu i gamu ymlaen yn eu gyrfa.

Page 7: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

7

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Sut mae'r Porth Sgiliau yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru. Cyflwynwyd y Porth Sgiliau i gyflawni swyddogaeth broceriaeth gyson i gael gafael ar gymorth sgiliau a chyflogaeth. Bydd y cymorth ar gael ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb, a gall unigolion a chyflogwyr defnyddio'r gwasanaeth. O ran cyflogwyr, mae'r Porth yn cynnig asesiad Sgiliau er mwyn datblygu cynllun hyfforddiant a chyfeirio cyflogwyr at sgiliau perthnasol a ddarperir ar lefel genedlaethol, rhanbarthol neu leol. O ran unigolion, ceir asesiad o sgiliau a pharodrwydd at waith hefyd er mwyn helpu i'w paru â swyddi a broceriaeth.

Page 8: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

8

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Y Porth Sgiliau

Manylion y Rhaglen: Mae'r Porth Sgiliau yn system ymgysylltu, asesu ac atgyfeirio unigol, sy'n darparu gwasanaeth di-dor i fusnesau ac unigolion sy'n ceisio cymorth sgiliau yng Nghymru. Swyddogaeth graidd y Porth yw helpu cleientiaid i benderfynu beth yw eu hanghenion cyflogaeth a sgiliau a sicrhau eu bod yn cael y cymorth cywir i ddiwallu'r anghenion hynny.

Nodweddion y Rhaglen: Yr amcan allweddol yw darparu un system ymgysylltu, asesu ac atgyfeirio sy'n fodd i gefnogi pob busnes ac unigolyn yng Nghymru. Wrth wneud hynny, mae'r Porth Sgiliau yn ceisio gwella cyfranogiad ym mhob rhaglen cyflogaeth a chymorth sgiliau genedlaethol, ranbarthol a lleol ynghyd â'u perthnasedd.

Pwy sy'n gymwys:

Unigolion sy'n ddi-waith, sy'n barod am waith ac sy'n awyddus i wella eu rhagolygon cyflogaeth, yn ogystal ag unigolion cyflogedig sydd am uwchsgilio er mwyn camu ymlaen yn eu gwaith.

Sut i'w Ddefnyddio: Gellir defnyddio'r Porth yn y ffyrdd canlynol:

Ar-lein drwy http://www.careerswales.com/en/skills-gateway/

Drwy ffonio Gyrfa Cymru (0800 0284844)

Wyneb yn wyneb i unigolion drwy Gyrfa Cymru, lle y nodwyd bod angen y lefel hon o gymorth.

Perchenogaeth: Llywodraeth Cymru (y Gangen Mynediad a Gwybodaeth) fydd yn rheoli'r rhaglen drwy Gytundeb Lefel Gwasanaeth â Busnes Cymru a Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth â Gyrfa Cymru

Page 9: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

9

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Cymunedau am Waith

Manylion y Rhaglen: Gwasanaeth cynghori yw Cymunedau am Waith, sy'n gweithio gyda phobl yn y 52 o Glystyrau Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru, er mwyn gwella cyflogadwyedd oedolion di-waith sydd wedi bod yn economaidd anweithgar am gyfnod hir a phobl NEET 16-24 oed sy'n wynebu rhwystrau cymhleth i gael cyflogaeth. Yn sail i'r gwasanaeth cynghori bydd mynediad at gyfres o raglenni hyfforddiant cyn cyflogaeth i gefnogi'r rhai sydd heb sgiliau cyflogaeth neu sydd â sgiliau cyflogaeth gwan. Bydd y rhaglen yn ceisio ffyrdd arloesol o ddarparu pecynnau o hyfforddiant yn y cymunedau hynny lle mae'r ddarpariaeth yn gyfyngedig, a hynny'n seiliedig ar y farchnad lafur leol, gan weithio'n agos gyda'r gymuned leol, Partneriaethau Dysgu Rhanbarthol a rhwydweithiau cyflogwyr.

Nodweddion y Rhaglen: Bydd Cymunedau am Waith yn rhoi cymorth unigol i'r rhai sy'n cymryd rhan drwy Gynghorwyr Cyflogaeth Cymunedol, Mentoriaid Ieuenctid a Mentoriaid i Oedolion sydd wedi'u lleoli ar safleoedd presennol Cymunedau yn Gyntaf, Canolfannau Plant Integredig neu leoliadau priodol tebyg o fewn clystyrau Cymunedau yn Gyntaf ar gyfer pobl sydd ymhellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur. Byddant yn rhoi cymorth, yn annog, yn cymell ac yn ennyn hyder, gan hyrwyddo cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth fel rhan o daith yr unigolyn tuag at sicrhau cyflogaeth gynaliadwy ac, yn yr hirdymor, eu galluogi i ddianc rhag tlodi. Gan ategu'r gwasanaeth cynghori, bydd Cymunedau am Waith yn darparu cronfa rwystrau i oresgyn rhwystrau i hyfforddiant neu gyflogaeth a byddant yn caffael ystod o hyfforddiant i ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen i ymateb i'r galw yn y farchnad lafur.

Pwy sy'n gymwys: Bydd Cymunedau am Waith yn targedu oedolion sydd wedi bod yn economaidd anweithgar ac yn ddi-waith am gyfnod hir:

pobl dros 25 oed yn ogystal â

phobl ifanc 16-24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET)

yn y 52 o Glystyrau Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymru

Manteision i Unigolion: Mae cymorth unigol i'r rhai sy'n cymryd rhan ar gael drwy Gynghorwyr Cyflogaeth Cymunedol arbenigol. Cymorth dwys un i un drwy Fentoriaid i Oedolion ac Ieuenctid gyda'r nod o symud yn nes at y farchnad lafur. Cronfa ddewisol i oresgyn rhwystrau i hyfforddiant a chyflogaeth yn ogystal ag ystod o hyfforddiant sy'n rhoi sgiliau hanfodol, cyrsiau cymell ac ennyn hyder a chyrsiau galwedigaethol sy'n ymateb i'r galw yn y farchnad lafur leol.

Y Camau Nesaf: Anfonwch e-bost i [email protected] a chewch eich rhoi mewn cysylltiad â chynghorydd lleol.

Page 10: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

10

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Lleoliad: Gorllewn Cymru a'r Cymoedd a Dwyrain Cymru

Cyllid: ESF

Perchenogaeth: Adran Llywodaeth Leol a Chymunedau Llywodraeth Cymru wedi'i noddi ar y cyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Page 11: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

11

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Cymunedau yn Gyntaf

Manylion y Rhaglen:

Rhaglen sy'n canolbwyntio ar gymunedau yw Cymunedau yn Gyntaf, sy'n cefnogi agenda Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru. Mae i'r rhaglen dri chanlyniad strategol: Cymunedau Iachach, Cymunedau sy'n Dysgu a Chymunedau Ffyniannus.

Mae Timau Cyflawni Cymunedau yn Gyntaf, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn gweithio gyda thrigolion, sefydliadau cymunedol a busnesau ac asiantaethau allweddol eraill mewn 52 o ardaloedd, a elwir yn Glystyrau Cymunedau yn Gyntaf. Cynhelir Timau Cyflawni Clystyrau gan Gyrff Cyflawni Arweiniol, sy'n atebol am reoli perfformiad y Clystyrau a gynhelir ganddynt. Caiff llawer o'r gwaith ei arwain gan bobl leol, sydd yn aml yn wirfoddolwyr. Mae cynnwys pobl leol ym mhob agwedd ar y gwaith hwn yn nodwedd hanfodol ar y rhaglen. Yn bwysig ddigon, mae seilwaith Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf hefyd yn llwyfan cyflawni ar gyfer rhaglenni cyflogaeth Esgyn a Cymunedau am Waith.

Nodweddion y Rhaglen: Mae clystyrau yn darparu gweithgareddau/prosiectau/cyrsiau ym mhob Clwstwr am ddim i'r unigolion mwyaf difreintiedig yn yr ardal honno.

Pwy sy'n gymwys: Unigolion sy'n preswylio yn un o ardaloedd clwstwr Cymunedau yn Gyntaf.

Manteision i Unigolion: Mae pob Tîm Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf yn paratoi cynllun cyflawni manwl. Mae cynlluniau yn amrywio yn ôl yr anghenion a nodwyd ym mhob Clwstwr, ond, o dan elfennau gweithgarwch Cymunedau Ffyniannus a Chymunedau sy'n Dysgu, bydd prosiectau yn canolbwyntio ar sgiliau, y profiad a'r cymwysterau sydd eu hangen i gael cyflogaeth a chymorth i ddod o hyd i swydd. Mae enghreifftiau yn cynnwys sgiliau sylfaenol megis rhifedd, llythrennedd a defnyddio TG, yn ogystal ag ysgrifennu CV a chymorth i chwilio am swyddi ar-lein. Darperir cyrsiau hyfforddiant ac maent wedi cynnwys iechyd a diogelwch, Cymorth Cyntaf a chardiau'r Cynllun Diwydiant Adeiladu (CIS). Gall unigolion gael budd os bydd hyfforddiant penodol yn cyfateb i anghenion cyflogwyr lleol. Mae lleoliadau gwaith a gwirfoddoli fel llwybr at waith wedi'u cynnwys hefyd mewn nifer o ardaloedd.

Page 12: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

12

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Y Camau Nesaf: Gellir cael manylion cyswllt Cyrff Cyflawni Arweiniol a Rheolwyr Clystyrau drwy ddilyn y ddolen ganlynol a fydd hefyd yn helpu i bennu a yw unigolyn yn byw yn un o ardaloedd Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf. http://gov.wales/topics/people-and-communities/communities/communitiesfirst/clusters/?lang=cy Gall Cyrff Cyflawni Arweiniol roi rhagor o wybodaeth. Mae eu manylion cyswllt fel a ganlyn:

Jenny Whiston – CBS Ynys Môn [email protected]

Lynne Berry – CBS Pen-y-bont ar Ogwr [email protected]

Tina McMahon – CBS Caerffili [email protected]

Rachel Jones – Cyngor Dinas Caerdydd [email protected]

Helen Morgan – CBS Conwy [email protected]

Marianne Jackson – CBS Conwy [email protected]

Niall Waller – CBS Sir y Fflint [email protected]

Amanda Davies – CBS Gwynedd [email protected]

Ian Benbow – CBS Merthyr Tudful [email protected]

Ian Isaac – New Sandfields ac Aberafan [email protected]

Angeline Spooner Cleverly – Castell-nedd Port Talbot [email protected]

Karen Williams – Cyngor Dinas Casnewydd [email protected]

Nicola Lewis – CBS Rhondda Cynon Taf [email protected]

Karen Grunhut - Cyngor Dinas a Sir Abertawe [email protected]

Emma Cambray-Stacey – CBS Torfaen [email protected]

Bob Guy – CBS Bro Morgannwg [email protected]

Andrew Harradine - CBS Wrecsam [email protected]

Rhys Burton – Y Grŵp Cydweithredol [email protected]

Martin Featherstone – Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Gwent [email protected]

Lleoliad: Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar y 10% o gymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru

Cyllid: Llywodraeth Cymru

Page 13: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

13

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Cynhwysiant Gweithredol

Manylion y Rhaglen: Mae'r rhaglen Cynhwysiant Gweithredol yn cael ei rheoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC). Ei nod yw lleihau gweithgarwch economaidd yng Nghymru a gwella cyflogadwyedd pobl o dan anfantais.

Nodweddion y Rhaglen: Mae'r rhaglen wedi'i thargedu at y rhai dros 25 oed sydd wedi bod yn economaidd anweithgar a/neu'n ddi-waith am gyfnod hir Mae dwy elfen i'r rhaglen:

Cynnwys – Yn rhoi hyfforddiant wedi'i achredu, mynediad at ddysgu pellach, cyfleoedd i wirfoddoli a chyflogaeth.

Cyflawni – Cyflogaeth â thâl a gynorthwyir am hyd at 26 wythnos ac am hyd at 35 awr yr wythnos.

Cymhwysedd: Mae'r gronfa yn gweithio gyda phobl dros 25 oed sydd wedi bod yn ddi-waith neu'n economaidd anweithgar am gyfnod hir ac sydd hefyd yn un o'r categorïau isod:

Mae ganddynt sgiliau gwan

Mae ganddynt gyflwr sy'n cyfyngu ar weithio

Mae ganddynt gyfrifoldebau gofalu

Maent dros 54 oed

Maent yn dod o aelwyd heb waith

Ni fydd unigolion yn gymwys i ymuno ag unrhyw un o brosiectau Cynhwysiant Gweithredol:

Os ydynt yn byw mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf

Os ydynt yn rhan o brosiect PaCE.

Os ydynt yn rhan o brosiect Rhaglen Waith neu Dewis Gwaith.

Manteision i Unigolion: Mae'r manteision i unigolyn yn cynnwys:

Cyfle i ennill cymwysterau Mynediad at leoliadau

profiad gwaith Cyflog sy'n hafal i'r

Isafswm Cyflog Cenedlaethol tra byddant yn dysgu.

Y potensial i fynd yn eu blaen i gael cyflogaeth amser llawn.

Y Camau Nesaf: Atgyfeiriadau gan y Ganolfan Byd Gwaith a thrwy'r Porth Sgiliau at CGGC

Lleoliad: Cenedlaethol

Page 14: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

14

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Cynnydd

Manteision i Unigolion: Mae buddiannau'r rhaglen hon yn dibynnu ar oedran yr unigolyn sy'n cymryd rhan: 11-13

Cymorth un i un gan weithiwr ieuenctid yn cynnig canllawiau diduedd

Cymorth i oresgyn rhwystrau personol

Cymorth i hyrwyddo ymgysylltu a dilyniant

Cyngor ar fyd gwaith

Cyfleoedd i ddysgu mewn amrywiaeth o leoliadau

Cyfleoedd i wella Saesneg a Mathemateg

Cyfleoedd profiad gwaith

Sesiynau rhagflas yn canolbwyntio ar waith i dreialu llwybrau gyrfa gwahanol a chyflwyno sgiliau gwahanol

14-16

Cymorth gan weithwyr ieuenctid i feithrin sgiliau gwaith a hyder

Cymorth i gael mynediad at leoliadau gwaith

Cymorth i ddatblygu sgiliau arholiad a gwella graddau

Cyngor diduedd ar yrfaoedd

Cyfleoedd i ddysgu mewn amrywiaeth o leoliadau

Cyfleoedd gwirfoddoli

Cyfleoedd i drefnu lleoliadau gwaith 17-19

Cymorth gan weithwyr ieuenctid i feithrin sgiliau gwaith a hyder

Cymorth i gael mynediad at leoliadau gwaith

Cyfleoedd gwirfoddoli Cyfleoedd i ddysgu a gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau

Manylion y Rhaglen: Mae'r rhaglen hon yn cynnig gweithgareddau dysgu a hyfforddiant i unigolion rhwng 11-19 oed. Mae wedi'i chynllunio i helpu pobl ifanc sy'n agored i niwed symud ymlaen i addysg bellach a chyflogaeth.

Page 15: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

15

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Pwy sy'n gymwys: Oedran: 11 – 19 mlwydd oed Rhyw: gwrywaidd, benywaidd Statws cyflogaeth: Mewn Addysg neu hyfforddiant <16 oriau yr wythnos, Mewn Addysg neu hyfforddiant >16 oriau yr wythnos,

Dysgwyr sydd mewn perygl o dod yn ‘NEET’ (nad ydynt mewn addysg na hyfforddiant)

Y Camau Nesaf: Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'ch myfyrwyr / gwasanaethau pobl ifanc trwy eich ysgol eich hun neu wasanaethau bugeiliol o fewn colegau

Addysg Bellach.

Lleoliad: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion , Castell-nedd Port Talbot , Sir Benfro, Abertawe

Perchenogaeth: Awdurdod Lleol Sir Benfro

Nodweddion y Rhaglen: Mae'r rhaglen yn nodi pobl ifanc sy'n agored i niwed rhwng 11-19 oed – 'agored i niwed' yn yr ystyr eu bod yn wynebu risg o adael addysg a dod yn ddi-waith – ac yn cynnig dysgu, hyfforddiant a chymorth gyrfaoedd un i un iddynt wedi'i deilwra i'w hanghenion unigol. Unwaith y bydd person ifanc wedi'i nodi i gymryd rhan yn y rhaglen - proses sy'n defnyddio data ysgol, yn ogystal â gwybodaeth awdurdod lleol ychwanegol - caiff cynllun datblygu wedi'i deilwra ei lunio er mwyn i'r unigolyn gytuno arno. Yna caiff gweithiwr ieuenctid arweiniol ei bennu i gefnogi'r person ifanc a gwneud yn siŵr y dilynir y cynllun i fanteisio i'r eithaf. Gallai hyn gynnwys rhoi gweithgareddau dysgu a hyfforddiant i'r unigolyn sy'n berthnasol i'w hanghenion. I bobl ifanc 11-16 oed sy'n cymryd rhan yn y rhaglen, mae'r gweithgareddau hyn yn canolbwyntio ar wella eu graddau diwedd blwyddyn.

Page 16: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

16

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Esgyn

Manylion y Rhaglen:

Nod Esgyn yw trawsnewid bywydau pobl sy'n byw mewn aelwydydd heb waith drwy roi cyfle iddynt ddysgu sgiliau hanfodol a chael swydd. Bydd manteision i fusnesau hefyd. Nod Esgyn yw cynnig 5,000 o gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth i bobl leol sy'n byw mewn aelwydydd heb waith yng Nghymru.

Nodweddion y Rhaglen:

Ym mhob un o ardaloedd Rhaglen Esgyn, mae broceriaid cyflogaeth yn gweithio yn y gymuned leol i nodi pobl a allai gael budd o'r rhaglen. Gwaith y brocer yw canfod yr hyn sydd wedi bod yn atal yr unigolyn rhag dod o hyd i waith ac yna weithio'n agos gyda'r unigolyn hwnnw i oresgyn y rhwystrau hynny. Gofynnir i fusnesau gynnig lleoliadau gwaith am o leiaf 16 awr yr wythnos am o leiaf ddwy wythnos neu gyflogaeth wirioneddol.

Pwy sy'n gymwys: Busnesau sydd wedi'u lleoli o fewn un o'r ardaloedd canlynol:

Cwm Afan (Castell-nedd Port Talbot)

Ynys Môn

Blaenau Gwent

Caerffili

Caerdydd

Sir Gaerfyrddin

Sir y Fflint

Gogledd-orllewin Abertawe

Gorllewin Taf (RhCT)

Manteision i Unigolion:

Yn helpu i ddileu'r rhwystrau iddynt gael cyflogaeth

Mynediad at gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth

Profiad Gwaith

Cyfle i ennyn hyder

Llwybr at yrfa

Enwau Cyswllt:

Cwm Afan – Vicky Prosser - [email protected]

Ynys Môn– Gary Williams – [email protected]

Blaenau Gwent – Mark McCrossen – [email protected]

Caerffili – Andrew Griffiths – [email protected]

Dwyrain Caerdydd – Natalie Pillinger – [email protected]

Sir Gaerfyrddin – Alex J Morgan – [email protected]

Sir y Fflint – Teresa Allen – [email protected]

Gogledd-ddwyrain Abertawe – Juliet Rees – [email protected]

Gorllewin Taf – Lesley McBride – [email protected]

Page 17: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

17

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Gweithfrydd

Manylion y Rhaglen: Helpu i gynyddu gallu'r rheini sydd â rhwystrau cymhleth i gyflogaeth.

Nodweddion y Rhaglen:

Nod y rhaglen yw cynyddu cyflogadwyedd pobl Anweithgar yn Economaidd a Di-

waith Hirdymor 25 mlwydd oed a throsodd sydd â rhwystrau cymhleth i

gyflogaeth.

Bydd Workways+ yn darparu:

• Cymorth integredig ac wedi'i bersonoli sydd wedi'i anelu at gyflawni

cyflogaeth gynaliadwy trwy ddarpariaeth Mentora.

• Darpariaeth ymgysylltu ac asesu gydlynol i sefydlu cysylltiadau â

darpariaeth bresennol ac arfaethedig ac allgymorth arloesol.

• Cymorth gan Swyddogion Cyswllt â Chyflogwyr i ddarparu cyfleoedd

cyflogaeth sy'n cyd-fynd â thueddiadau'r farchnad lafur; defnyddio Gwybodaeth

am y Farchnad Lafur i helpu gyda darparu cyflogaeth ac ateb galw cyflogaeth.

• Bydd gan bob cyfranogwr cynllun gweithredu addas o gymorth, dull gweithredu amlasiantaeth i gynnwys profiad gwaith, lleoliad gwaith â thâl, gwirfoddoli a hyfforddiant, gyda'r nod o symud ymlaen i gyflogaeth.

Manteision I’r Unigolyn:

Mynediad at Fentora a Chymorth wedi'u personoli

Cymorth a help i fynd i'r afael â rhwystrau y gallech eu hwynebu gan gynnwys cyfrifoldebau gofal

Mynediad at gyfleoedd swyddi parhaol, yn enwedig mewn ardaloedd o dwf economaidd a chyflogaeth, gan gynnwys chwilio am swydd, ysgrifennu CV a sgiliau cyfweliad.

Mynediad at brofiad gwaith neu wirfoddoli yn canolbwyntio ar waith i wella sgiliau cyflogadwyedd yr unigolyn ac fel llwybr i gyflogaeth neu hunangyflogaeth

Cymorth i wella lefelau sgiliau, gan gynnwys sgiliau hanfodol trwy ennill cymwysterau neu ardystiad sy'n berthnasol i waith.

Cymorth er mwyn helpu i ddatblygu hunanhyder a chanfyddiad o waith fel rhywbeth ystyrlon a realistig.

Page 18: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

18

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Lleoliad: Rhaglen ranbarthol sy'n cwmpasu ardaloedd nad ydynt yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.

Perchenogaeth: Caiff y rhaglen ei rheoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fel y buddiolwr arweiniol, gyda thimau cyflawni ym mhob un o'r pum ardal awdurdod lleol sy'n cyd-noddi; Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.

Pwy sy’n gymwys: Bod â chyflwr iechyd neu anabledd sy'n cyfyngu ar allu i weithio, cyfrifoldebau gofal neu'n dod o gartref di-waith.

Y Camau Nesaf:

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r partner cyflawni ar gyfer eich ardal awdurdod lleol perthnasol.

Sir Gaerfyrddin: 01267 234567

Ceredigion: 01545 570881

Castell-nedd Port Talbot: (01639) 686868

Sir Benfro: (01437) 764551

Abertawe: 01792 636000.

Page 19: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

19

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Mentora Allan o Waith gan Gymheiriaid 25+

Manylion y Rhaglen: Bydd y Gwasanaeth Allan o Waith yn helpu pobl sydd wedi bod yn ddi-waith ac yn economaidd anweithgar am gyfnod hir ac sy'n gwella ar ôl camddefnyddio sylweddau a/neu gyflyrau iechyd meddwl i gael cyflogateh a/neu addysg a hyfforddiant.

Nodweddion y Rhaglen: O ran unigolion, bydd y gwasanaeth yn cynnig y canlynol:

Sesiynau mentora gan gymheiriaid gyda mentor sy'n gymheiriad wedi'i bennu

Cymorth cyflogaeth arbenigol gyda ffocws ar agweddau ymarferol

Atgyfeiriadau a chymorth i oresgyn rhwystrau i addysg a/neu gyflogaeth fel y'u nodwyd drwy asesiad manwl o anghenion. Pwy sy'n gymwys:

Er mwyn bod yn gymwys, mae'n rhaid i bobl fodloni pob un o'r amodau canlynol:

Bod yn 16-24 oed (yr elfen ieuenctid) neu'n 25 oed neu'n hŷn (yr elfen i oedolion)

Preswylio yng Nghymru

Wedi bod yn ddi-waith neu'n economaidd anweithgar am gyfnod hir

Yn gwella ar ôl camddefnyddio sylweddau a/neu gyflwr/cyflyrau iechyd meddwl

Manteision i Unigolion:

Mentor penodol sy'n gymheiriad sydd â phrofiad uniongyrchol o gamddefnyddio sylweddau a/neu gyflyrau iechyd meddwl;

Cymorth cyflogaeth o safbwynt penodol pobl sy'n gwella ar ôl problemau o'r fath;

Eiriolaeth h.y. cymorth ymarferol drwy dderbyn atgyfeiriadau a fydd yn arwain at gymorth ychwanegol (er enghraifft, help i oresgyn problemau o ran tai, rheoli materion ariannol, sut i chwilio am swyddi, sut i ddatblygu rhwydwaith cymorth neu ddefnyddio'r cymorth sy'n bodoli eioes) a chyfleoedd i wella addysg, hyfforddiant, profiad ymarferol o gyflogaeth neu waith gwirfoddol;

Ffocws ar botensial a datblygiad personol a symud tuag at gyflogaeth.

Y Camau Nesaf: Am wybodaeth gychwynnol cysylltwch â: [email protected]

Lleoliad: Cymru Gyfan

Cyllid: ESF

Perchenogaeth: Yn arwain - Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Page 20: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

20

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE)

Manylion y Rhaglen: Bydd PaCE yn helpu rhieni sy'n economaidd anweithgar i gael gwaith cynaliadwy, os mai gofal plant yw'r prif rwystr iddynt.

Nodweddion y Rhaglen: Bydd rhieni cymwys yn cael cymorth wedi'i bersonoli drwy Gynghorydd Cyflogaeth Rhieni yn eu cymuned leol. Caiff PaCE ei darparu ledled Cymru; caiff ei thargedu'n ddaearyddol er mwyn cefnogi ardaloedd lle ceir niferoedd mawr o rieni sy'n economaidd anweithgar. Bydd PaCE yn targedu rhieni sy'n economaidd anweithgar:-

Rhieni Unigol (tua 70% o gyfranogwyr) Rhiant sy'n un o gwpl – aelwyd heb waith (tua 20% o

gyfranogwyr) Rhiant sy'n un o gwpl – un rhiant yn gweithio (tua 10% o

gyfranogwyr) Caiff PaCE ei darparu drwy rwydwaith o Gynghorwyr Cyflogaeth i Rieni a fydd yn cynnig cymorth unigol ac yn cytuno ar gynllun gweithredu i rieni fanteisio ar gyfleoedd i'w helpu i symud yn agosach at y farchnad lafur ac i mewn i'r farchnad lafur. Bydd cyngor a chymorth yn cael eu cynnig i rieni a fydd yn cynnwys opsiynau ar gyfer goresgyn rhwystrau i ofal plant, cymorth i wella sgiliau cyflogaeth a hyder i'w helpu i ymuno â'r farchnad lafur. Bydd rhieni yn gallu dewis pa ddarparwr gofal plant sydd wedi'i gofrestru ag AGGCC sy'n diwallu eu hanghenion, tra'n ymgymryd ag unrhyw weithgareddau sy'n gysylltiedig â gwaith drwy PaCE. Dim ond lle y cytunwyd ar gyfleoedd mewn ymyriadau â'u PEA a'u bod wedi'u nodi yn y cynllun gweithredu fel y cymorth mwyaf priodol i'r rhiant o dan PaCE y caiff gofal plant ei ariannu.

Pwy sy'n gymwys: Mae'n rhaid i rieni fod yn economaidd anweithgar ac mae'n rhaid mai gofal plant yw'r prif rwystr iddynt gael hyfforddiant sy'n gysylltiedig â gwaith neu gyflogaeth.

Manteision i Unigolion: Mae'r rhaglen hon yn cefnogi amcanion Llywodraeth Cymru o ran trechu tlodi yng Nghymru, drwy leihau nifer yr aelwydydd heb waith a helpu pobl i gael cyflogaeth gynaliadwy

Lleoliad: Cenedlaethol

Cyllid: Wedi'i chyd-ariannu gan ESF a Llywodraeth Cymru

Perchenogaeth: Llywodraeth Cymru yw'r prif fuddioliwr gyda DWP yn gyd-fuddioliwr.

Page 21: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

21

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Pontydd i Waith

Manylion y Rhaglen: Bydd Pontydd i Waith 2 yn mynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd mewn pum ardal Awdurdod Lleol yn y de-ddwyrain (Gorllewin Cymru a'r Cymoedd). Drwy gydweithredu, bydd y rhaglen yn anelu at ymgysylltu â phobl sy'n economaidd anweithgar, eu cefnogi a'u paratoi, gan gynnwys y rhai sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir, yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig y tu allan i glystyrau Cymunedau yn Gyntaf, er mwyn iddynt ddysgu'r sgiliau priodol i fod yn barod am waith a chael cyflogaeth gynaliadwy. Y newidiadau a geisir wrth gyflawni'r rhaglen yw:

Lleihau diweithdra ymhlith y rhai sy'n wynebu'r risg o dlodi a gwahaniaethu

Lleihau anweithgarwch economaidd, diweithdra a nifer yr aelwydydd heb waith

Cynyddu cynhwysiant cymdeithasol drwy gyflogaeth gynaliadwy

Lleihau rhwystrau i gynnal cyflogaeth a gweithio'n llawn amser

Nodweddion y Rhaglen: Bydd Cymhwysedd ac Asesiadau yn sicrhau y caiff gweithiwr achos ei neilltuo ar gyfer cyfranogwyr er mwyn rhoi lefel briodol o gymorth. Bydd y gweithiwr achos yn gweithredu fel eiriolwr ac yn cyfeirio at ddarpariaeth arbenigol lle y bo angen. Swyddogion Iechyd a Lles Arbenigol yn y tîm ar gyfer ffordd o fyw sy'n cynnwys salwch meddwl lefel isel a ffyrdd o fyw segur.

Manteision i Unigolion:

Bydd cyfranogwyr yn mynd drwy gyfres o ymyriadau er mwyn eu symud yn agosach at gyflogaeth

Mynediad at nifer o weithgareddau i ennyn hyder, codi lefelau cymhelliant a datblygu gwybodaeth er mwyn bod yn rhan o'r farchnad waith.

Rhoi cyfle i gyfranogwyr ddysgu sgiliau ac ennill cymwysterau.

Annog cyfranogwyr i fynd ati i chwilio am swyddi.

Gweithio mewn partneriaeth gyda gweithwyr proffesiynol a mentrau eraill i sicrhau bod Pontydd i Waith 2 yn cael yr effaith fwyaf bosibl.

Cefnogi cyfranogwyr drwy gynnig atebion o ran gofal plant a thrafnidiaeth.

Cymorth pwrpasol un i un

Cyrsiau am ddim mewn datblygiad personol a datblygiad gyrfa

Lleoliadau profiad gwaith a sesiynau rhagflas ar waith.

Cymorth parhaus os/pan fydd y cyfranogwr yn dechrau gweithio

Pwy sy'n gymwys: Pobl dros 25 sydd wedi bod yn ddi-waith neu'n economaidd anweithgar am gyfnod hir Pobl NAD ydynt yn byw mewn ardal cod post Cymunedau yn Gyntaf.

Perchenogaeth: Torfaen yw'r awdurdod atebol arweiniol

Page 22: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

22

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Y Camau Nesaf: [email protected] (Torfaen yn unig) mae manylion cyswllt erail ar gael ar gyfer ardaloedd eraill os bydd eu hangen.

Lleoliad: Rhanbarthol – pum awdurdod lleol – Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Page 23: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

23

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Teuluoedd yn Gyntaf

Manylion y Rhaglen: Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn rhoi arian i wella canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Ei nod yw helpu:

Pobl mewn gwaith mewn teuluoedd incwm isel i gael cyflogaeth a datblygu o fewn y gyflogaeth honno.

Plant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n wynebu risg o dlodi i gyflawni eu potensial.

Plant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n iach ac yn fodlon eu byd

Nodweddion y Rhaglen: Mae pob awdurdod lleol yn datblygu cynllun Teuluoedd yn Gyntaf, gan ymdrin â rhwystrau penodol mewn ffordd leol yn eu hardal. Bydd Teuluoedd yn Gyntaf yn gweithio ochr yn ochr â rhaglenni trechu tlodi eraill megis:

Dechrau'n Deg

Cymunedau yn Gyntaf

Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd

Mae'n helpu'r rhaglenni hyn i ymgymryd ag ymyriadau a nodi anghenion gwahanol teuluoedd yn gynnar:

Atal problemau i deuluoedd nad oes ganddynt anghenion ychwanegol ar hyn o bryd.

Amddiffyn teuluoedd sydd ag anghenion ychwanegol.

Unioni problemau i deuluoedd sydd ag anghenion cymhleth.

Nod y cynllun yw symud teuluoedd o'r cam Unioni i'r cam Atal.

Pwy sy'n gymwys: Teuluoedd , Rhieni Unigol

Y Camau Nesaf: Bydd awdurdodau lleol yn nodi manylion eu cynlluniau o dan Teuluoedd yn Gyntaf. Y manylion cyswllt cenedlaethol yw 02920 825 677 neu [email protected]

Manteision i'r Unigolyn:

Help i gael gafael ar y cymorth sydd ar gael i ddiwallu anghenion eu teulu.

Cymorth mewn atebion cynaliadwyedd.

Lleoliad: Cynllun yn gweithredu amryw o Awdurdodau Lleol drwy dylai Cymru

Page 24: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

24

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

TRAC 11-24

Manylion y Rhaglen: Prosiect sy'n cefnogi pobl ifanc sy'n ymddieithrio o addysg, ac yn wynebu'r risg o ddod yn NEET.

Nodweddion y Rhaglen:

Mae TRAC 11-24 yn brosiect sy'n cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 24 oed sy'n ymddieithrio o addysg, ac yn wynebu'r risg o ddod yn NEET (ddim mewn addysg na hyfforddiant). Bydd TRAC 11-24 yn gwella cyrhaeddiad ac yn cefnogi datblygiad gweithlu â sgiliau priodol, sy'n heini ac yn wydn.

Mae dwy elfen Graidd

1. Darparu Cwricwlwm Amgen Manwl - Darparu cyrsiau galwedigaethol wedi'u targedu a lleoliadau gwaith estynedig ar gyfer pobl ifanc a amlygwyd.

Cyrsiau i'w darparu i sicrhau cyrhaeddiad ystyrlon i bobl ifanc o fewn y rhanbarth.

2. Pecyn Cymorth Uwch - Cymorth Iechyd a Lles Ehangach ar gyfer pobl ifanc sy'n wynebu'r risg o ddod yn NEET, gan gynnwys:

• Gwasanaethau cwnsela

• Cymorth Gweithiwr Arweiniol

• Hyfforddi a Mentora

• Cymorth Gwasanaethau Iechyd Uwch

Mae hyn yn bwysig iawn i'r bobl ifanc hynny a amlygwyd fel rhai sy'n wynebu nifer o rwystrau i ymgysylltu.

Manteision i Unigolion: Bydd cyfranogwyr yn elwa o gymorth iechyd a lles a fydd yn cefnogi ymrwymiad parhaus mewn addysg, a mynediad at gwricwlwm amgen a fydd yn eu galluogi i gyflawni cymwysterau achrededig sy'n gysylltiedig â chyfleoedd y farchnad Lafur Leol.

Pwy sy'n gymwys: Pobl ifanc a amlygwyd gan Offer Adnabod Cynnar rhanbarthol fel rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf o ddod yn NEET (ddim mewn addysg na hyfforddiant Y Camau Nesaf: Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Sir Ddinbych

https://www.denbighshire.gov.uk/en/resident/contact-us/contact-us.aspx

Ffôn - 01824 706101

Lleoliad: Rhanbarthol - Gogledd Cymru Perchenogaeth: Cyngor Sir Ddinbych

Page 25: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

25

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Manylion y Rhaglen: Darparu cymorth ataliol i'r rheini sy'n wynebu'r risg o adael addysg prif ffrwd a hyfforddiant.

Nodweddion y Rhaglen:

Caiff cyfranogwyr gynnig rhaglen gymorth wedi'i theilwra i'w helpu i fynd i'r afael â rhwystrau i'w cyfraniad parhaus mewn addysg a hyfforddiant.

Manteision i Unigolion: Bydd unigolion yn derbyn pecyn cymorth wedi'i deilwra i'w helpu i fynd i'r afael â rhwystrau megis: Personol ac Emosiynol, Iechyd a Chymdeithasol, Addysgol neu Sgiliau a Hyfforddiant.

Pwy sy'n gymwys:

Rheini sydd wedi'u hadnabod fel bod mewn perygl o ddod yn NEET (Ddim mewn addysg na hyfforddiant - Bydd yr Awdurdodau Lleol yn cefnogi pobl ifanc 11-16 oed a bydd y Colegau Addysg Bellach yn cefnogi pobl ifanc 16-25 oed).

Y Camau Nesaf:

Caiff cyfranogwyr eu hatgyfeirio at y prosiect. Os ydych yn byw neu'n gweithio yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Gwynedd neu Sir Fôn, cysylltwch â:

01745 336442.

Os ydych yn byw neu'n gweithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot neu Abertawe, cysylltwch â:

0845 601 7556.

Lleoliad:

Rhanbarthol. Cyflwynir y prosiect gan 9 Cyd-Fuddiolwr

Gyrfa Cymru. Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, CBS Pen-y-bont ar Ogwr, CBS Caerffili, CBS Merthyr Tudful, CBS Torfaen

Coleg y Cymoedd, Coleg Gwent, Coleg Merthyr Tudful.

Caiff RhCT ei gwmpasu gan Gyrfa Cymru.

Perchenogaeth: Caiff y prosiect ei reoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar ran y 9 Cyd-Fuddiolwr.

Ysbrydoili i Gyflawni

Page 26: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

26

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Canolfan Gyswllt Cyn Gyflogi

Manylion y Rhaglen Mae Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru yn cynnig pecyn hyfforddiant i helpu cyflogwyr yn y sector i recriwtio staff ac ailhyfforddi neu uwchsgilio unigolion er mwyn iddynt symud i mewn i'r sector. Mae'r Fforwm yn cefnogi 200 o gyflogwyr, a'r busnesau hyn fydd yn gwarantu cyfweliadau i unigolion sy'n cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus. Mae'r Fforwm yn gweithio gydag asiantaethau cyflogaeth yr ymddiriedir ynddynt, gan gynnwys: Remploy, Prince’s Trust, Ymddiriedolaeth Shaw a'r Ganolfan Byd Gwaith. Mae proses fetio ddethol a hyfforddiant cynhwysfawr wedi'u cynllunio i gael pobl i mewn i weithle.

Nodweddion y Rhaglen: Mae'r cwrs ei hun yn cael ei gynnal ar ddau gam. Ar Gam 1 ceir cyflwyniad cychwynnol i natur gwaith canolfannau cyswllt. Mae hyn yn rhoi cyfle i gyfranogwyr weld a yw'n briodol iddynt cyn iddynt fynd yn eu blaen i'r cam nesaf. Ar Gam 2 ceir cwrs wythnos o hyd sy'n ymdrin â phopeth o wasanaeth cwsmer rhagorol i reoli achosion o wrthdaro. Caiff y cyrsiau eu darparu gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant a'u hategu gan yr adnodd hyfforddiant "Phone Coach".

Pwy sy'n gymwys: Gall unigolion gael eu hatgyfeirio at y rhaglen gan unrhyw rai o'r asiantaethau sy'n rhan o'r rhaglen (Prince's Trust, Remploy ac ati). Byddai angen i unigolion fod yn preswylio yng Nghymru. Byddai angen i fusnesau sy'n defnyddio'r rhaglen fod wedi'u lleoli yng Nghymru.

Manteision i Unigolion:

Gall unigolion gael rhagflas ar y gwaith dan sylw. Os ydynt yn cwblhau'r rhaglen, byddant yn cael gwarant o gyfweliad â busnes yn y sector. Cyfle i ychwanegu at sgiliau.

Y Camau Nesaf: Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen ar gael drwy Fforwm Canolfannau Cyswllt Gymru ar 02920 709 800 neu [email protected] Fel arall, gall unigolion sy'n ymgysylltu ag unrhyw rai o'r asiantaethau a nodir siarad â hwy ynglŷn â'r posibilrwydd o gymryd rhan yn y rhaglen.

Lleoliad: Cenedlaethol

Page 27: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

27

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Dewis Gwaith

Manylion y Rhaglen: Mae'r rhaglen hon yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cyflogaeth arbenigol sy'n wirfoddol, yn gydlynol ac wedi'u teilwra a all ymateb yn fwy hyblyg i anghenion unigol pobl anabl a'u cyflogwyr a defnyddio adnoddau'n well.

Nodweddion y Rhaglen:

Caiff Dewis Gwaith ei chyflwyno gan ddarparwyr gwahanol ledled y wlad. Maent yn cynnig tair lefel o gymorth.

Lefel y cymorth Yr hyn a gewch Am faint y bydd yn

para

Cymorth Mynediad i Waith

Cyngor ar sgiliau gwaith a phersonol i'ch helpu i gael swydd

Hyd at chwe mis

Cymorth yn y Gwaith Help i ddechrau gweithio ac aros mewn swydd

Hyd at ddwy flynedd

Cymorth Tymor Hwy yn y Gwaith

Help i gael swydd a gweithio heb gymorth

Hirdymor

Gellir ymestyn Cymorth Mynediad i Waith am dri neu chwe mis o dan amgylchiadau eithriadol a phan fydd rhagolygon clir o gael swydd.

Pwy sy'n gymwys: Er mwyn bod yn gymwys, mae'n rhaid bod cwsmer/hawlydd o oedran gwaith, yn preswylio yn y DU ac yn anabl fel y'i diffiniwyd yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Er mwyn bod yn gymwys i fod yn rhan o Dewis Gwaith mae'n rhaid: • eich bod o oedran gwaith • bod angen cymorth arnoch yn y gwaith yn ogystal â chymorth i ddod o hyd i waith • eich bod yn gallu gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos ar ôl Cymorth Mynediad i Waith • bod gennych anabledd cydnabyddedig sy'n golygu ei bod yn anodd i chi gael swydd neu ei chadw • bod angen cymorth arbenigol arnoch na allwch ei gael o dan raglenni neu gynlluniau eraill y llywodraeth - e.e. addasiadau i'r gweithle, cyflenwyr yn gweithio mewn partneriaeth â'r Ganolfan Byd Gwaith neu Mynediad i Waith Gallwch wneud cais os oes gennych swydd ond eich bod yn wynebu risg o'i cholli oherwydd eich anabledd. Mae hyn hefyd yn gymwys os ydych yn hunangyflogedig.

Page 28: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

28

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Manteision i Unigolion: Cymorth i helpu unigolion i ddod o hyd i swydd, ei chadw a datblygu yn y swydd honno.

Bydd y math o gymorth a gewch yn dibynnu ar yr hyn sydd ei angen arnoch - mae'n wahanol i bawb. Er enghraifft, efallai y cewch gymorth o ran y canlynol:

hyfforddiant ennyn hyder dod o hyd i swydd sy'n addas i chi hyfforddiant ar gyfweliadau datblygu'ch sgiliau

Byddwch yn cael cyfweliad i weld pa gymorth sydd ei angen arnoch pan fyddwch yn ymuno â Dewis Gwaith.

Y Camau Nesaf: Er mwyn cael gwybod sut i ymuno â Dewis Gwaith, siaradwch â Chynghorydd Cyflogaeth Anabledd yn eich Canolfan Gwaith leol.

Lleoliad: Cenedlaethol

Cyllid: Ddim ESF

Perchenogaeth: DWP/y Ganolfan Byd Gwaith

Page 29: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

29

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Hyfforddeiaethau

Manylion y Rhaglen: Mae hyfforddeiaethau yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc 16-18 oed i gael eu swydd gyntaf neu ymgymryd â hyfforddiant pellach. Maent yn hyblyg iawn. Ond maent yn cynnwys hyfforddiant paratoi am waith, Saesneg a Mathemateg - i'r rhai sydd eu hangen arnynt - a phrofiad gwaith o ansawdd uchel yn bennaf.

Nodweddion y Rhaglen: Mae'r busnes yn llunio rhaglen sy'n briodol i'r busnes a'r lleoliad. Ar y cyd â darparwr hyfforddiant, mae'n llunio amserlen waith a sut y caiff yr hyfforddiant ei roi. Bydd hyd yr hyfforddeiaeth yn amrywio, yn dibynnu ar y dysgwr unigol. Bydd pob hyfforddai yn cael lwfans hyfforddiant.

Pwy sy'n gymwys: Unigolion rhwng 16-18 oed nad ydynt mewn Cyflogaeth, Addysg na Hyfforddiant (NEET). At ddiben y diffiniad hwn, mae gwaith rhan-amser nad yw'n fwy na 15 awr yr wythnos yn cael ei ddosbarthu'n ddi-waith. Busnesau o unrhyw faint, mewn unrhyw sector, ar yr amod eu bod wedi'u lleoli yng Nghymru, ac y gallant roi profiad gwaith sylweddol ac ystyrlon yn y gweithle.

Manteision i Unigolion: Mae'r Rhaglen Hyfforddeiaethau yn helpu pobl ifanc 16-18 oed i ennyn hyder a chymhelliant, a gwella sgiliau parod am waith (e.e. technegau cyfweld, ysgrifennu CV). Mae hefyd yn eu helpu i symud i gyflogaeth neu ddysgu pellach drwy gael sgiliau meddal cyffredinol, hyfforddiant a chymwysterau galwedigaethol NVQ mewn maes galwedigaethol a ddewiswyd yn ogystal â phrofiad gwaith gwerthfawr (Rhyngweithio â Chyflogwyr) a, lle y bo'n briodol, gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru. Bydd y rhaglen hefyd yn helpu i fynd i'r afael ag unrhyw rwystrau neu faterion cymhleth sy'n atal person ifanc rhag cael cyflogaeth neu ddysgu. Bydd y dysgwr hefyd yn cael lwfans hyfforddiant fel a ganlyn:- Elfen Ymgysylltu - £30 yr wythnos (nad yw'n destun prawf modd) Lefel 1 neu Lefel 2 (Pontio at Waith) - £50 yr wythnos Caiff y ddau lwfans eu lleihau'n gymesur ar gyfer presenoldeb rhan-amser.

Y Camau Nesaf: Gall unigolion gael mynediad at y rhaglen drwy Gyrfa Cymru a'r rhwydwaith o ddarparwyr cymeradwy.

Lleoliad: Cymru Gyfan

Cyllid: Mae hyfforddeiaethau wedi'u hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru

Perchenogaeth: Llywodraeth Cymru drwy Rwydwaith o Ddarparwyr wedi'i gaffael

Page 30: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

30

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Nôl i'r cynnwys Tudalen

Manylion y Rhaglen: Mae'r rhaglen hon yn rhoi cymorth wedi'i bersonoli i hawlwyr y mae angen mwy o gymorth arnynt i chwilio am waith ac aros mewn gwaith. Mae darparwyr gwasanaethau yn cael y rhyddid i benderfynu ar y ffordd orau o gefnogi cyfranogwyr yn y Rhaglen Waith tra'n cyflawni'r safonau gofynnol o ran darparu'r gwasanaeth.

Nodweddion y Rhaglen: Bydd yr Hyfforddwr Gwaith yn cadarnhau p'un a yw hawlydd yn gymwys i fod yn rhan o'r Rhaglen a, lle y gall hawlwyr wirfoddoli, yn penderfynu ai'r Rhaglen Waith yw'r opsiwn mwyaf priodol i'r unigolyn hwnnw. Bydd atgyfeiriadau ar gyfer hawlwyr Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn dibynnu ar ba gyflym yr ystyrir y byddant yn ffit i ddychwelyd i weithio a ph'un a ydynt yn y Grŵp Gweithgaredd Cysylltiedig â Gwaith.

Pwy sy'n gymwys: Mae'n rhaid i hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith sy'n 18-24 oed ac sydd wedi bod yn cael Lwfans Ceisio Gwaith am naw mis, neu 12 mis i'r rhai 25 oed a hŷn ymgymryd â'r Rhaglen Waith.

Bydd hawlwyr cymwys yn hawlio:

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Lwfans Ceisio Gwaith.

Credyd Pensiwn

Credyd Cynhwysol

Manteision i Unigolion: Amrywiaeth eang o gymorth er mwyn i hawlwyr gael cyflogaeth gynaliadwy

Y Camau Nesaf: Caiff cyfranogwyr eu hatgyfeirio gan eu Hyfforddwr lleol yn y Ganolfan Byd Gwaith mewn cyfweliad atgyfeirio at Raglen Waith, lle y cânt wybodaeth am eu hawliau a'u cyfrifoldebau a'r safonau gwasanaeth gofynnol y gellir eu disgwyl gan ddarparwr. Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn neilltuo cyfranogwyr ar hap, yn ôl trefniadau cyfran o'r farchnad, a bydd yn rhoi gwybodaeth am bob cyfranogwr i ddarparwyr.

Lleoliad: Cenedlaethol

Cyllid: Ddim ESF

Perchenogaeth: DWP/y Ganolfan Byd Gwaith/ Darparwyr - Working Links a Rehab Jobfit

Rhaglen Waith

Page 31: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

31

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Twf Swyddi Cymru

Manylion y Rhaglen Mae Twf Swyddi Cymru yn rhoi cyfle swydd am chwe mis i bobl ifanc 16-24 oed sy'n barod am waith a thelir yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'n fwy iddynt am rhwng 25 a 40 awr yr wythnos. Mae'r rhaglen yn helpu pobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd swydd mewn sefydliadau yn y sector preifat a'r trydydd sector. Bwriad y rhaglen yw y bydd pobl ifanc yn cael eu cynnal yn y swydd ar ôl i'r chwe mis ddod i ben.

Nodweddion y Rhaglen::

Bydd Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru yn cymorthdalu cost cyfle swydd am chwe mis i gyflogwr ar gyfer contract o rhwng 25 a 40 awr yr wythnos ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Pwy sy'n gymwys:

Pobl ifanc 16-24 oed sy'n barod am waith wedi'u lleoli yng Nghymru ac nad oes ganddynt gontract cyflogaeth. Bydd angen i bobl ifanc roi tystiolaeth y byddant yn bodloni'r gofynion cymhwyso cyn iddynt gael eu penodi i swydd drwy Twf Swyddi Cymru. Bydd sefydliadau yn y sector preifat a'r trydydd sector yn gymwys i wneud cais i roi cyfle swydd cynaliadwy i berson ifanc (ar yr amod ei fod yn bodloni'r meini prawf cymhwyso).

Manteision i Unigolion:

Caiff unigolion eu cyflogi a chaiff eu cyflogau eu cymorthdalu am y chwe mis cyntaf. Byddant yn cael hyfforddiant mewn swydd a chyfle i fynd yn eu blaen i gael swydd fwy parhaol ar ddiwedd y cyfnod.

Y Camau Nesaf:

Gall unigolion weld swyddi gwag ar-lein drwy wefan Gyrfa Cymru https://ams.careerswales.com/Public/Default.aspx?mode=vacancy Ceir asiantau rheoli sy'n helpu gyda'r broses recriwtio, a byddant yn sicrhau y caiff swyddi gwag eu llenwi mewn ffordd agored a theg.

Lleoliad: Cymru Gyfan

Perchenogaeth: Llywodraeth Cymru

Page 32: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

32

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Ymgysyllti i Newyd

Manylion y Rhaglen: Mae'r rhaglen hon ar gyfer unigolion rhwng 16 a 25 oed sydd ag anawsterau dysgu neu awtistiaeth. Mae'n rhoi cymorth arbenigol i'ch helpu i ddod o hyd i swydd.

Nodweddion y Rhaglen: Mae'r rhaglen yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau gwaith drwy roi lleoliad gwaith i chi am chwe mis. Yn ystod y lleoliad gwaith hwn, byddwch yn ennill cyflog go iawn ac yn cael cyfle i gyflawni achrediad a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich gyrfa ymhellach. Pwy sy'n gymwys:

Oedran: 16 to 25 Rhyw: Gwrywaidd, Benywaidd Statws Cyflogaeth: Ddi-Waith (gyda neu heb budd-daliadau) Dim cyfyngiadau amser. Meini prawf eraill: Anabledd Dysgu neu Awtistiaeth , sy'n NEET neu sydd mewn perygl o fod yn NEET

Manteision i Unigolion: Byddwch yn cael asesiad arbenigol cyn i chi ddechrau eich lleoliad gwaith – fel y cewch eich cyfateb â swydd sy'n addas i'ch anghenion a'ch galluoedd. Yna cewch gymorth ar y safle gan hyfforddwr Swyddi arbenigol yn ystod eich lleoliad. Bydd eich hyfforddwr Swyddi yn rhoi cyngor a hyfforddiant un i un i chi – yn eich helpu gydag unrhyw gwestiynau neu ofynion sydd gennych wrth i'ch lleoliad ddatblygu, yn ogystal â sicrhau eich bod yn aros ar drywydd i gyflawni eich nodau. Erbyn diwedd eich lleoliad byddwch yn gallu gweithio'n annibynnol a chyfrannu at y tîm ehangach mewn ffordd gadarnhaol – gan helpu i wella hyder. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gyflawni achrediad yn gysylltiedig â swydd a datblygu sgiliau hanfodol fel trin arian a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus – gan eich helpu i ddatblygu eich gyrfa a dod yn fwy annibynnol.

Y Camau Nesaf: Gallwch chi neu rywun sy'n eich cyfeirio wneud cais. Cysylltwch ag un o'r asiantaethau cyflogaeth wedi'u cefnogi canlynol: De, Dwyrain a Gorllewin Cymru e-bost: [email protected] ffôn: 01443 226664 Gogledd Cymru e-bost: [email protected] ffôn: 01248 361392

Lleoliad: Cymru Gyfan

Cyllid: WG , a weinyddir gan y Gronfa Loteri Fawr

Perchenogaeth: Learning Disability Wales

Page 33: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

33

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Manylion y Rhaglen: Mae'r rhaglen hon ar gyfer unigolion sy'n gweithio yn y sector gofal plant nad oes ganddynt unrhyw lefelau o gymwysterau perthnasol neu lefelau isel iawn, ac sydd am uwchsgilio i Lefelau 2 a 3 drwy hyfforddiant wedi'i ariannu.

Nodweddion y Rhaglen: Mae'r rhaglen yn rhoi mynediad uniongyrchol i chi i amrywiaeth o hyfforddiant wedi'i gynllunio'n arbennig ar gyfer y blynyddoedd cynnar, gofal plant a'r sector chwarae. Bydd yr hyfforddiant hwn yn eich helpu i ennill cymwysterau cydnabyddedig yn eich maes dewisol ac yn eich helpu i gynnal a gwella safon ragorol o ofal.

Pwy sy'n gymwys: Oedran: 25+ Rhyw: Gwrywaidd, Benywaidd Statws Cyflogaeth: Cyflogedig <16 oriau yr wythnos Hunan-gyflogedig <16 oriau yr wythnos Angen iddynt fod mewn cofrestredig a chyflogaeth mewn AGGCC cofrestredig blynyddoedd cynnar, gofal plant neu lleoliad chwarae yng Nghymru , neu os ydych yn cofrestru ag AGGCC hunangyflogedig gwarchodwr plant yng Nghymru; Mae ymarferwyr

Manteision i Unigolion: Drwy gael mynediad at hyfforddiant perthnasol a chael cymwysterau newydd, byddwch yn gallu codi eich lefelau sgiliau a datblygu ymhellach yn eich gyrfa. Drwy roi'r sgiliau newydd hyn ar waith, cewch y cyfle i ddatblygu eich hyder a chael mwy o foddhad o'ch swydd. Gydag amrywiaeth eang o hyfforddiant ar gael, cewch y cyfle i uwchsgilio yn y meysydd a fydd fwyaf o fudd i chi a'ch gyrfa.

Lleoliad: Cymru Gyfran

Cyllid: ESF

Perchenogaeth: Llywodraeth Cymru

Cynnydd ar gyfer Llwyddiant (Llinyn 1)

Page 34: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

34

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Y Camau Nesaf: Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais , cysylltwch â'r darparwyr perthnasol i'ch Authourity Lleol. Ynys Môn, Conwy , Sir Ddinbych , Gwynedd Grwp Llandrillo Menai Ffôn 01492 546666 Ext 1773 neu anfonwch e-bost [email protected] Blaenau Gwent , Pen-y- Caerffili , Caerdydd, Sir Gaerfyrddin , Ceredigion , Sir y Fflint , Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot , Casnewydd , Sir Benfro , Powys , Rhondda Cynon Taf, Abertawe , Torfaen , Bro Morgannwg , Wrecsam : ITEC Training Solutions Ltd Ffoniwch 029 2071 3689 Blaenau Gwent , Pen-y- Caerffili , Caerdydd, Sir Gaerfyrddin , Merthyr Tudful, Sir Fynwy , Castell-nedd Port Talbot , Casnewydd , Sir Benfro , Rhondda Cynon Taf , Torfaen , Abertawe , Bro Morgannwg , Sgiliau Galwedigaethol Partneriaeth (Cymru) Cyf ffôn 07825838884

Page 35: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

35

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Gwasanaeth Mynediad at Waith

Manylion y Rhaglen: Mae'r Gwasanaeth Mynediad at Waith yn cynnig cymorth a chyngor am ddim i drigolion Caerdydd sy'n chwilio am waith, neu i bobl sy'n awyddus i uwchsgilio er mwyn cael gwell siawns o gael cyflogaeth. Gall tîm y Gwasanaeth i Mynediad at Waith gynorthwyo gyda'r canlynol:

Ysgrifennu CV Ffurflenni cais a llythyrau eglurhaol Paru Swyddi Ar-lein Chwilio am swyddi Defnyddio e-bost a'r rhyngrwyd Clybiau Gwaith Mynediad i gyfleusterau cyfrifiadurol galw heibio Hyfforddiant sgiliau gwaith Hyfforddiant cyfrifiadurol Cynhwysiant digidol/cymorth i fynd ar-lein Gwirfoddoli

Nodweddion y Rhaglen: Mae'r Gwasanaeth Mynediad at Waith ar gael bob dydd yn Yr Hyb Cynghori @ Hyb Llyfrgell Caerdydd, 3ydd Llawr, Canolfan Fenter Llaneirwg a Hwb Trelái a Chaerau. Ceir sesiynau allgymorth hefyd mewn 10 o leoliadau eraill ledled Caerdydd: Mae'r Gwasanaeth Mynediad at Waith hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyfforddiant byr sy'n gysylltiedig â gwaith am ddim i drigolion Caerdydd. Cyrsiau wedi'u hachredu megis

Diogelwch Bwyd

Manwerthu a Gofal Cwsmeriaid

Iechyd a Diogelwch

Cymorth Cyntaf a hefyd gyrsiau nad ydynt wedi'u hachredu megis

Ymwybyddiaeth o Reoli Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH)

Sgiliau Cyfweliad

Coginio ar Gyllideb Fach Darperir sesiynau hyfforddiant byr ar y wefan Paru Swyddi Ar-lein hefyd; cwrs hanner diwrnod sy'n helpu i ddysgu hanfodion y wefan i unigolion, o fewngofnodi i wneud cais am swyddi.

Page 36: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

36

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Pwy sy'n gymwys: Trigolion Caerdydd yn unig; pobl sy'n ddi-waith ac yn chwilio am waith, neu'r rhai sy'n awyddus i uwchsgilio er mwyn cael gwell siawns o gael cyflogaeth.

Manteision i Unigolion: Bod yn fwy parod am waith drwy raglen i Mewn i Waith wedi'i theilwra, gan gynnwys cymorth ar-lein, ysgrifennu CV a chwrs hyfforddiant Sgiliau Gwaith.

Y Camau Nesaf: Y Gwasanaeth Mynediad at Waith – Ffôn: 029 2087 1000 neu [email protected]

Lleoliad: Caerdydd yn unig

Cyllid: Ddim ESF: arian craidd o gyllideb yr Awdurdod Lleol

Perchenogaeth: – Cyngor Dinas Caerdydd

Page 37: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

37

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Lleoliad: Cymru Gyfan

Cyllid: Ariennir prentisiaethau yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Lwfans Menter Newydd

Manylion y Rhaglen: Gall y Lwfans Menter Newydd roi arian a chymorth i helpu unigolyn i ddechrau ei fusnes ei hun os yw'n cael budd-daliadau penodol.

Nodweddion y Rhaglen: Gall Hyfforddwr Canolfan Byd Gwaith atgyfeirio unigolyn at y cynlllun cyn gynted ag y caiff budd-dal cymwys ei dalu. Bydd arbenigwr yn asesu'r syniad ar gyfer busnes. Os oes ganddo botensial, gall unigolyn ymuno â'r cynllun a chael mentor busnes. Bydd yr hawlydd yn gallu hawlio cymorth ariannol:

os caiff y cynllun busnes ei gymeradwyo

os yw'r hawlydd wedi dechrau gweithio mewn busnes am 16 awr yr wythnos neu fwy

Pwy sy'n gymwys: Mae'n rhaid i unigolion fod yn 18 oed neu hŷn, cyflwyno syniad ar gyfer busnes a chael un o'r budd-daliadau canlynol: • Lwfans Ceisio Gwaith • Cymhorthdal Incwm fel rhiant unigol • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, os ydych yn y grŵp gweithgaredd cysylltiedig â gwaith Nid ydych yn gymwys os ydych yn rhan o'r Rhaglen Waith.

Manteision i Unigolion:

Lwfans wythnosol a delir am hyd at 26 wythnos (hyd at gyfanswm o £1,274)

Gwneud cais am fenthyciad i helpu gyda chostau dechrau

Mae'n rhaid ad-dalu'r benthyciad ond nid y lwfans. Ni fydd unrhyw arian y mae unigolyn yn ei gael yn effeithio ar Fudd-dal Tai, credydau treth, Treth Incwm, Credyd Cynhwysol na grant Mynediad i Waith Mentor busnes a fydd yn:

Helpu i ddatblygu'r syniad ar gyfer busnes

helpu'r busnes i ddechrau masnachu

Lleoliad: Ledled y DU

Cyllid: Ddim ESF; cyllid gan y llywodraeth ganolog

Perchenogaeth: Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) – Darparwr A4E

Y Camau Nesaf: Cysylltwch â hyfforddwr gwaith canolfan gwaith – bydd yn esbonio sut y gall y cynllun hwn helpu'r unigolyn. Bydd hefyd yn rhoi gwybodaeth am y cymorth y mae mentoriaid busnes gwirfoddol yn ei gynnig yn ystod misoedd cynnar masnachu.

Page 38: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

38

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Menter Cymru Ymddiriedolaeth y Tywysog

Manylion y Rhaglen: Mae Rhaglen Menter Cymru Ymddiriedolaeth y Tywysogyn helpu pobl ifanc 18 i 30 oed i benderfynu a yw eu syniad ar gyfer busnes yn ddichonadwy ac ai hunangyflogaeth yw'r opsiwn cywir iddynt. Mae wedi'i thargedu tuag at y bobl ifanc hynny:

Y mae ganddynt syniad ar gyfer busnes y maent am ei archwilio

Sy'n 18 i 30 oed

Nad ydynt yn gweithio neu sy'n gweithio llai nag 16 awr yr wythnos.

Nodweddion y Rhaglen: Ceir sesiwn wybodaeth un awr ac yna gwrs pedwar diwrnod. Gall cyfranogwyr gael cymorth ariannol o rhwng £1,000 a £5,000 ar ffurf benthyciad.

Pwy sy'n gymwys: NID yw'r bobl ganlynol yn gymwys i fod yn rhan o'r rhaglen:

Myfyrwyr Blwyddyn i Ffwrdd

Graddedigion diweddar (yn ystod y chwe mis diwethaf)

Pobl â gradd ôl-raddedig

Manteision i Unigolion:

Bydd cyfranogwyr yn cael y canlynol:

Hyfforddiant i ddangos iddynt yr hyn y bydd angen iddynt ei wybod er mwyn dechrau eu busnes eu hunain.

Cymorth un i un i archwilio eu cynllun busnes a phrofi eu syniadau.

Mentora i helpu i ddatblygu eu busnes neu fanteisio ar gyfleoedd eraill (addysg, gwaith hyfforddiant, gwirfoddoli ac ati).

Y Camau Nesaf: Cysylltwch â [email protected]

Lleoliad: Cenedlaethol

Cyllid: Ddim ESF

Page 39: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

39

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Mynediad i Waith

Manylion y Rhaglen: Gwasanaeth anabledd arbenigol yw Mynediad i Waith, a ddarperir gan y Ganolfan Byd Gwaith, sy'n rhoi cyngor a chymorth ymarferol i bobl anabl, p'un a ydynt yn gweithio, yn hunangyflogedig neu'n chwilio am waith. Darperir Mynediad i Waith lle mae angen cymorth neu addasiadau ar rywun sydd y tu hwnt i'r addasiadau rhesymol y mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyflogwyr i'w gwneud o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Dim ond os yw'r cyflogwr wedi'i leoli yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban y bydd grantiau Mynediad i Waith ar gael.

Nodweddion y Rhaglen:

Bydd lefel y grant yn dibynnu ar y canlynol:

A yw'r unigolyn yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig

Ers faint o amser y mae wedi bod yn ei swydd

Y math o gymorth sydd ei angen Caiff grantiau o hyd at 100% eu hystyried ar gyfer y canlynol:

Pobl hunangyflogedig

Pobl sydd wedi bod yn gweithio ers llai na chwe wythnos pan fyddant yn gwneud cais yn gyntaf o dan Mynediad i Waith

Y Gwasanaeth Iechyd Meddwl

Darparu gweithwyr cymorth

Costau teithio i'r gwaith a chostau teithio yn y gwaith ychwanegol, neu

Cymorth i gyfathrebu mewn cyfweliadau

Efallai y bydd yn rhaid i'r cyflogwr rannu'r gost â Mynediad i Waith os yw'r unigolyn wedi bod yn gweithio iddo ers dros chwe wythnos pan fydd yn gwneud cais o dan Mynediad i Waith am y canlynol:

Cymhorthion a chyfarpar arbennig

Addasiadau i safle neu gyfarpar Pwy sy'n gymwys: Y cyflogai ei hun sy'n cael y cymorth ac er mwyn bod yn gymwys i'w gael, mae'n rhaid:

Bod gan yr unigolyn anabledd neu gyflwr iechyd sy'n cael effaith andwyol sylweddol hirdymor ar ei allu i ymgymryd â'i swydd

Bod yr unigolyn mewn cyflogaeth â thâl neu ar fin dechrau mewn cyflogaeth â thâl (gan gynnwys hunangyflogaeth).

Bod yr unigolyn yn byw ac yn gweithio ym Mhrydain Fawr fel arfer

Nad yw'r unigolyn yn hawlio Budd-dal Analluogrwydd na Lwfans Cyflogaeth a Chymorth unwaith y bydd yn gweithio

Page 40: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

40

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Manteision i Unigolion:

Gall Mynediad i Waith helpu:

cyflogai sy'n datblygu anabledd neu gyflwr hirdymor i aros yn ei swydd (gan gadw eu sgiliau gwerthfawr ac arbed amser ac arian o ran recriwtio rhywun yn ei le)

Cefnogi cyflogeion sydd â chyflwr iechyd meddwl. Y math o gymorth y gall Mynediad i Waith ei gynnig:

Cymhorthion a chyfarpar arbennig

Addasiadau i gyfarpar

Teithio i'r gwaith

Teithio fel rhan o'r gwaith

Cymorth i gyfathrebu mewn cyfweliadau

Amrywiaeth eang o weithwyr cymorth

Y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Nid yw Mynediad i Waith yn cynnig y cymorth ei hun, ond mae'n rhoi grant i ad-dalu cost y cymorth sydd ei angen.

Y Camau Nesaf: I gael rhagor o wybodaeth am Mynediad i Waith: E-bost: [email protected] Ffôn: 0345 268 8489 Ffôn testun: 0345 608 8753 Gwefan: www.gov.UK

Lleoliad: Ledled y DU

Cyllid: Ddim ESF

Perchenogaeth: Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)/ y Ganolfan Byd Gwaith

Page 41: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

41

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Prentisiaethau

Manylion y Rhaglen: Mae prentisiaethau yn cael eu cynllunio ar sail anghenion cyflogwyr. Yn wir, maent yn cwmpasu mwy na 150 o sectorau busnes gwahanol. Mae'r hyfforddiant bob amser yn uniongyrchol berthnasol i'r busnes – ac mae'r cyflogeion yn cyrraedd lefel uchel o gymhwysedd a pherfformiad. Yn well na hynny, mae prentisiaid yn parhau i fod yn gynhyrchiol yn y busnes wrth iddynt ddysgu. Ac, yn aml, maent yn mynd yn eu blaen i ddal uwch swyddi rheoli, gan arwain at enillion sylweddol o'r buddsoddiad.

Nodweddion y Rhaglen:

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu grŵp o ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy i'w galluogi i gynnig lleoedd wedi'u hariannu ar gyrsiau prentisiaeth. Mae'r busnes yn talu eu cyflog ond ni sy'n talu am y rhan fwyaf o'u hyfforddiant.

Felly, rydych yn ennill wrth ddysgu. Ac yn gweithio tuag at gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol ar un o dair lefel: Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2), Prentisiaeth (Lefel 3) neu Brentisiaeth Uwch (Lefel 4).

Gall unigolion ddefnyddio'r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau gan Gyrfa Cymru. Gallant weld y cyfleoedd sydd ar gael yn eu hardal ac ar gyfer eu dewis lwybr gyrfa.

Pwy sy'n gymwys:

Cynigir prentisiaethau i bobl 16 oed neu'n hŷn, sy'n byw a/neu sy'n gweithio yng Nghymru. Gall y fframweithiau prentisiaethau wedi'u hariannu gael eu defnyddio gan ddechreuwr newydd neu i ddatblygu sgiliau cyfredol cyflogai.

Manteision i Unigolion:

Hyfforddiant sydd wedi'i deilwra i'r busnes fel eu bod yn cael y sgiliau sydd eu hangen ar y busnes.

Cyfle i ennill cymhwyster ffurfiol wrth ennill cyflog

Lleoliad gwaith gyda chyflogwr, a all ddatblygu'n gyflogaeth amser llawn ar ôl i'r brentisiaeth gael ei chwblhau.

Y Camau Nesaf:

Gall unigolion ystyried eu hopsiynau gyda Gyrfa Cymru.

Perchenogaeth: Llywodraeth Cymru drwy Rwydwaith o Ddarparwyr wedi'i gaffael

Page 42: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

42

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Cenedl Hyblyg 2

Manylion y Rhaglen: Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio ar gyfer merched o bob cefndir, oedran ac ar bob cam i gael y wybodaeth, yr hyder a'r sgiliau i gefnogi datblygiad eu gyrfa. Mae'n rhaglen yn cynnig

Cymorth i adnabod nodau.

Cyngor ar oresgyn rhwystrau.

Cymwysterau'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar lefelau 2, 3 a 5.

Mynediad i wasanaethau mentora

Cyfleoedd i rwydweithio ag unigolion eraill ar y rhaglen a rhannu profiadau.

Nodweddion y Rhaglen: Rhaglen wedi'i hariannu'n llawn. Dim cost i'r unigolyn na'i gyflogwr

Pwy sy'n gymwys: Merched 16 oed neu'n hŷn sydd yn un o'r naw sector â blaenoriaeth fel y'u nodwyd yn Rhaglen Adnewyddu'r Economi Llywodraeth Cymru.

Manteision i Unigolion:

Cymhwyster gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Cymorth datblygu gyrfa

Mentora

Lwfans hyfforddiant ychwanegol (mae meini prawf yn gymwys)

Cyfle i ddod yn fentor

Y Camau Nesaf: Gall unigolion â diddordeb gysylltu â Chwarae Teg Enwau Cyswllt [email protected]; [email protected] www.cteg.org.uk

Lleoliad: Cenedlaethol

Cyllid: ESF

Perchenogaeth: Chwarae Teg

Page 43: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

43

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Manylion y Rhaglen:

Cymorth am ddim i bobl sydd â phroblemau meddwl neu broblemau corfforol yn y gwaith, neu sy'n absennol o'r gwaith oherwydd salwch.

Nodweddion y Rhaglen: Mae'r gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn rhoi cymorth am ddim a chyfrinachol i helpu pobl sy'n cael trafferth yn y gwaith, neu sy'n absennol oherwydd salwch o ganlyniad i broblem cyhyrysgerbydol (fel poen cefn neu glun), problem iechyd meddwl (fel straen neu orbryder) neu o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol.

Pwy sy'n gymwys:

Os ydych yn gweithio ar hyn o bryd

ond yn cael trafferth oherwydd

problem iechyd, neu'n absennol o'r

gwaith ar hyn o bryd oherwydd

salwch am bedair wythnos, neu'n

wynebu'r risg o hynny.

Mae'r gwasanaeth hwn wedi'i anelu'n bennaf at Fusnesau Bach a Chanolig yn y sector preifat a'r trydydd sector.

Manteision i Unigolion:

- Mynediad cyflym at therapi galwedigaethol am ddim, cyfrinachol wedi'i deilwra, ffisiotherapi a gwasanaethau therapi seicolegol.

- Helpu cyflogeion sydd â phroblemau iechyd i ddychwelyd i'r gwaith neu aros yn y gwaith.

Lleihau'r risg o absenoldeb hirdymor oherwydd salwch, o ddiweithdra, ac o gyflwr iechyd yn gwaethygu.

Y Camau Nesaf:

Os ydych yn byw neu'n gweithio yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Gwynedd neu Sir Fôn, cysylltwch â:

01745 336442.

Os ydych yn byw neu'n gweithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot neu Abertawe, cysylltwch â:

0845 601 7556.

Lleoliad: Ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth yn gweithredu yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd, yn ardaloedd awdurdod lleol Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Sir Fôn, Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.

Perchenogaeth: Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd mae'n cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â RCS yng Ngogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn Ne Orllewin Cymru.

Cymorth yn y Gwaith

Page 44: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

44

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

ReAct 3

Manylion y Rhaglen:

Mae rhaglen ReAct yn cynnig arian i unigolion gael hyfforddiant i'w cael yn ôl yn y farchnad lafur, a chymhelliant i gyflogwyr recriwtio gweithiwr cymwys sydd wedi colli ei swydd.

Nodweddion y Rhaglen: Gall ReAct 3 roi:

cyfraniad o £1,500 tuag at gostau hyfforddiant.

Cymorth gyda chostau teithio a gofal plant i gefnogi'r hyfforddiant.

cymhorthdal cyflog o hyd at £3,000 tuag at weithwyr cymwys sy'n cael ei dalu i'r cyflogwr newydd.

Pwy sy'n gymwys:

Unigolion sydd wedi colli eu swydd yn ystod y tri mis diwethaf, neu sydd wedi cael rhybudd eu bod yn colli eu swydd.

Manteision i Unigolion: Gall ReAct wneud y canlynol:

Helpu rhywun i ddychwelyd i weithio

Rhoi cyfle i rywun newid gyrfa.

helpu gyda chost hyfforddiant sy'n gysylltiedig â swydd

Y Camau Nesaf: Byddai angen i unigolion fynd drwy'r broses gwneud cais gyda Gyrfa Cymru. Gall tîm ReAct Llywodraeth Cymru ateb ymholiadau penodol ynglŷn â'r rhaglen ar 01792 765 888.

Lleoliad: Cymru Gyfan

Cyllid: Wedi'i hariannu'n rhannol gan ESF

Perchenogaeth:

Caiff y rhaglen ei chynnal gan Lywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Gyrfa Cymru a'r Ganolfan Byd Gwaith

Page 45: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

45

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Manylion y Rhaglen: Prosiect i uwchsgilio unigolion cyflogedig trwy gymwysterau sy'n gysylltiedig â gwaith

Nodweddion y Rhaglen:

Bydd SEE yn cefnogi unigolion cyflogedig sy'n gweithio mewn sefydliad wedi'i leoli yn y gogledd i uwchsgilio, datblygu a gwella eu sgiliau trwy gymwysterau sy'n gysylltiedig â gwaith hyd at Lefel 3.

Mae'r Prosiect yn targedu'r grwpiau canlynol ond efallai y gall cwmnïau nad ydynt yn yr ardaloedd hyn gynnig cymorth:

• Sector Bwyd

• Economi Ddigidol - cymorth i fusnesau i gael mynediad at hyfforddiant a datblygiad i wella Cymhwysedd TGCh

• Uwch

• Gwyddorau Bywyd ac Iechyd

• Twristiaeth a Hamdden

• Sector Gofal

• Adeiladu

• Sector Ynni a Charbon Isel

Pwy sy'n gymwys: Rhaid i unigolion cyflogedig gael cymeradwyaeth gan eu cyflogwr

Manteision i Unigolion:

- Darperir cymwysterau achrededig i wella a datblygu sgiliau a gwybodaeth.

Cyfle i symud ymlaen trwy gymwysterau a chefnogaeth lawn gan y coleg er mwyn helpu unigolion i lwyddo

Y Camau Nesaf:

I ddechrau trafodwch eich diddordeb gyda'ch cyflogwr ac yna e-bostiwch [email protected]

Ewch i'r wefan www.cambria.ac.uk neu cysylltwch ag aelod o'r tîm ar 01244 831531 est 4056 neu 6115

Lleoliad: Chwe sir Gogledd Cymru

Cyllid: ESF

Perchenogaeth:

Partneriaeth o Goleg Cambria, Grŵp Llandrillo Menai a WEA WEFO

SEE

Page 46: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

46

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Sgiliau ar gyfer Diwidiant 2 (SO1)

Manylion y Rhaglen:

Bydd Sgiliau ar gyfer Diwydiant (SO1) yn helpu unigolion i feithrin neu wella eu sgiliau a'u cymwysterau.

Nodweddion y Rhaglen: Os nad oes gennych unrhyw gymwysterau eto, bydd gennwch y cyfle i ddatblygu sgiliau ar gyfer swyddi penodol ar lefelau 1 a 2. Os ydych eisoes yn meddu ar gymwysterau Lefelau 1 a 2 eisoes, bydd modd i chi uwchraddio eich sgiliau fel eu bod yn berthnasol i anghenion y cyflogwr. Cewch y cyfle i wneud cynnydd mewn sectorau penodol, gan gynnwys: ynni, adeiladu, diwydiannau creadigol, gwyddoniaeth, gweithgynhyrchu uwch, TGCh, peirianneg modurol, gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, bwyd, gofal a thwristiaeth.

Pwy sy'n gymwys: Oedran: 16+ Rhyw: Gwrywaidd, Benywaidd Statws Cyflogaeth: Rhaid i gyfranogwyr fod yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig.

Manteision i Unigolion: Byddwch yn gallu gwella eich sgiliau a'ch rhagolygon gyrfa drwy'r canlynol:

Cael cymorth ynghylch sut i ddefnyddio technolegau digidol newydd

Dysgu'r ffyrdd gorau i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith ar-lein a chael mynediad iddynt

Lleoliad: Anelir gweithgareddau'r rhaglen at Ranbarth De Orllewin Cymru. (Ceredigion, Pembrokeshire, Carmarthenshire, Swansea, Neath Port Talbot)

Cyllid:ESF

Camau nesaf: Os oes gennych ddiddordeb yn y rhaglen hon, cysylltwch â'r tîm rhanbarthol i gael gwybod mwy! Tîm Rhanbarthol SFI [email protected] 01792 284054 / 284209

Perchenogaeth: Trefnir nawdd ar gyfer y rhaglen ar y cyd rhwng Coleg Gŵyr Abertawe (y prif noddwr) a'r pump coleg arall sy'n ffurfio rhanbarth De Orllewin Cymru: Coleg Sir Gâr, Coleg Ceredigion, Coleg Castell Nedd Port Talbort, Coleg Sir Benfro a Chymdeithas Addysg y Gweithwyr Cymru.

Page 47: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

47

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Sgiliau ar gyfer Diwidiant 2 (SO2)

Manylion y Rhaglen: Rhoi'r cyfle i gyfranogwyr sydd â chymwysterau Lefel 2 neu uwch wella eu sgiliau.

Nodweddion y Rhaglen: Bydd y rhaglen Sgiliau ar gyfer Diwydiant (SO2) yn rhoi'r cyfle i chi ennill cymwysterau ar Lefel 3 ac uwch, gan eich galluogi i uwchraddio eich sgiliau er mwyn iddynt fod yn berthnasol i'r sgiliau arbenigol sydd eu hangen ar gyflogwyr. Bydd yn rhoi cyfle i chi wneud cynnydd mewn sectorau penodol, gan gynnwys: ynni, adeiladu, diwydiannau creadigol, gwyddoniaeth, gweithgynhyrchu uwch, TGCh, peirianneg modurol, gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, bwyd, gofal a thwristiaeth. Cewch y cyfle i wneud cynnydd mewn sectorau penodol, gan gynnwys: ynni, adeiladu, diwydiannau creadigol, gwyddoniaeth, gweithgynhyrchu uwch, TGCh, peirianneg modurol, gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, bwyd, gofal a thwristiaeth.

Pwy sy'n gymwys: Oedran: 16+ Rhyw: Gwrywaidd, Benywaidd Statws Cyflogaeth: Rhaid i gyfranogwyr fod yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig. Rhaid i chi feddu ar gymhwyster Lefel 2 neu uwch i fod yn gymwys ar gyfer y rhaglen.

Manteision i Unigolion: Bydd y rhaglen yn rhoi cymorth i unigolion drwy wella lefel eu sgiliau, gan eu galluogi i ddatblygu ymhellach eu gyrfaoedd.

Lleoliad: Anelir gweithgareddau'r rhaglen at Ranbarth De Orllewin Cymru. (Ceredigion, Pembrokeshire, Carmarthenshire, Swansea, Neath Port Talbot)

Cyllid:ESF

Camau nesaf: Os oes gennych ddiddordeb yn y rhaglen hon, cysylltwch â'r tîm rhanbarthol i gael gwybod mwy!

Tîm Rhanbarthol SFI [email protected] 01792 284054 / 284209

Perchenogaeth: Trefnir nawdd ar gyfer y rhaglen ar y cyd rhwng Coleg Gŵyr Abertawe (y prif noddwr) a'r pump coleg arall sy'n ffurfio rhanbarth De Orllewin Cymru: Coleg Sir Gâr, Coleg Ceredigion, Coleg Castell Nedd Port Talbort, Coleg Sir Benfro a Chymdeithas Addysg y Gweithwyr Cymru.

Page 48: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

48

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Sgiliau Gwaith i Oedolion II

Manylion y Rhaglen:

Helpu unigolion cyflogedig i wella eu sgiliau, gan gynnwys sgiliau sy'n berthnasol i'r gwaith, er mwyn sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau i gamu ymlaen yn eu gwaith.

Nodweddion y Rhaglen: Drwy gyfres o asesiadau cychwynnol, cymorth a hyfforddiant, bydd Sgiliau Gwaith i Oedolion 2, drwy ddarpariaeth yn y gymuned, yn canolbwyntio ar helpu pobl i fanteisio ar gyfleoedd dysgu y tu allan i'r gweithle a bydd yn cynnig ystod o ddarpariaeth, gan gynnwys llythrennedd, rhifedd, TGCh a sgiliau trosglwyddadwy cyffredinol eraill.

Pwy sy'n gymwys: Trigolion 16 oed a hŷn sy'n gyflogedig, gan gynnwys pobl hunangyflogedig, ac nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau ffurfiol neu y mae ganddynt gymwysterau hyd at lefel 2.

Manteision i Unigolion: Drwy allgymorth yn y gymuned bydd Sgiliau Gwaith i Oedolion yn ymgysylltu â chyflogeion ar adeg ac mewn lleoliad sydd fwyaf cyfleus iddynt. Bydd yn gwella lefel sgiliau pobl gyflogedig.

Lleoliad: Caiff Sgiliau Gwaith i Oedolion 2 ei harwain gan Torfaen ac mae'n gweithredu yn Nhorfaen, Caerffili, Blaenau Gwent a Merthyr.

Cyllid: Caiff y prosiect, sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan ESF gydag arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru, ei arwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Page 49: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

49

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Manylion y Rhaglen:

Bydd yr Academi Deunyddiau a Gweithgynrchu sydd wedi'i harwain yn ôl y galw ac sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant yn paratoi 124 o unigolion o'r radd flaenaf sydd wedi'u hyfforddi i lefel gradd meistr neu ddoethuriaeth i fynd yn eu blaen i arwain ein sector peirianneg a deunyddiau uwch. Nod y gweithrediad hwn yw ceisio cynyddu nifer y bobl sydd â sgiliau uwch sy'n cymryd rhan mewn ymchwil ac arloesedd yn y sector deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch. Bydd yr M2A yn cynnig llif o unigolion o'r radd flaenaf sy'n meddu ar sgiliau technegol, arwain a rheoli sy'n hanfodol i lwyddiant sectorau gweithgynhyrchu a deunyddiau gwerth uchel yng Nghymru.

Nodweddion y Rhaglen: Gall cwmnïau sy'n ymwneud â deunyddiau neu weithgynhyrchu gynnig prosiectau ymchwil gradd meistr blwyddyn neu ddoethuriaeth pedair blynedd sy'n seiliedig ar brosesau neu gynhyrchion eu busnes. Caiff graddedigion eu recriwtio i ymgymryd â phrosiectau a arweinir gan y diwydiant o dan gyd-oruchwyliaeth academydd a chynrychiolydd o'r cwmni sy'n eu noddi. Mae ymchwilwyr doethurol yn cael cyflog blynyddol o £20,000 ac mae'r M2A yn talu eu ffioedd. Mae'n rhaid i'r cwmni partner wneud cyfraniad blynyddol o £9,000 tuag at y costau hyn.

Pwy sy'n gymwys: Mae'n rhaid bod gan fyfyrwyr sydd wedi cofrestru â'r M2A gyfeiriad preswyl yn ardal gydgyfeirio Cymru, mae'n rhaid bod ganddynt basport y DU neu hawl barhaol i aros ac o leiaf radd 2:1 yn un o'r gwyddorau neu beirianneg.

Manteision i'r Unigolyn: Cyfle i weithio gyda busnes sefydledig yn y sector, a dangos eu bod yn addas ar gyfer cyflogaeth bellach.

Y Camau Nesaf: Enw Cyswllt - Dr Ian Mabbett [email protected]

Lleoliad: Ym Mhrifysgol Abertawe neu yn y cwmni partner (os yw o fewn ardal gydgyfeirio Cymru)

Perchenogaeth: Prifysgol Abertawe

Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu

Page 50: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

50

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Manylion y Rhaglen:

Dysgu o fewn cwmni ar lefel canolradd ac uwch er mwyn helpu pobl i uwchsgilio.

Nodweddion y Rhaglen: Bydd y rhaglen hon yn cefnogi ac yn

hwyluso dysgu o fewn cwmni ar lefel

canolradd ac uwch.

Bydd y rhaglen yn galluogi cyflogeion i hawlio credyd academaidd lefel uwch ar gyfer rhaglenni datblygu staff achrededig o fewn cwmni. Bydd yn galluogi dysgwyr i hawlio credyd prifysgol am ddysgu arbrofol blaenorol ac elwa ar amrywiaeth helaeth o fodiwlau sy'n arwain at gymwysterau (o Radd Sylfaen hyd at, ac yn cynnwys Meistr) mewn Ymarfer Proffesiynol.

Pwy sy'n gymwys: Gyda chytundeb eich cyflogwyr ac os cewch eich cyflogi am fwy na 16 awr yr wythnos byddwch yn gymwys ar gyfer y rhaglen hon.

Manteision i'r Unigolyn: Cymwysterau (o Radd Sylfaen hyd at ac yn cynnwys Meistr) mewn Ymarfer Proffesiynol.

Y Camau Nesaf:

Cysylltwch â [email protected]

Neu Ffoniwch 01267 676882

Lleoliad:

Bydd y rhaglen hon ar gael i gyflogeion sy'n gweithio mewn busnesau o fewn De Orllewin Cymru ond caiff ceisiadau i gefnogi sefydliadau y tu allan i'r ardal hon eu hystyried.

Perchenogaeth: Caiff y rhaglen hon ei rhedeg gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Ni chaiff ei harwain gan Lywodraeth Cymru.

GWLAD

Page 51: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

51

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

ION Leadership

Manylion y Rhaglen: Mae ION Leadership yn helpu i ddatblygu sgiliau arwain, rheoli a busnes ledled Cymru. Mae ION Leadership yn rhaglen datblygu arweinyddiaeth ystwyth, sy'n gallu cynnig hyfforddiant datblygu pwrpasol mewn sectorau diwydiant gwahanol a sefydliadau o faint gwahanol. Mae pedair prif elfen i'r rhaglen; Mae Dosbarthiadau Meistr Rhyngweithiol yn cyflwyno theori ac arfer gorau ar sail pedair thema fawr i'r rhai sy'n cymryd rhan: Arwain Eich Hun, Arwain Pobl, Arwain Sefydliadau ac Arwain Twf. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a hyder y rhai sy'n cymryd rhan. Mae Setiau Dysgu Gweithredol yn rhoi cyfle i'r rhai sy'n cymryd rhan drafod heriau a chyfleoedd datblygiad a thwf sefydliadol. Mae'r sesiynau yn rhoi amser i ddatblygu cynlluniau gweithredu a thrafod syniadau â grŵp o gymheiriaid adeiladol. Mae Gweithredu yn y Gweithle yn rhoi cyfle i'r rhai sy'n cymryd rhan ddatblygu Cynllun Datblygu Personol a Chynllun Twf Busnes. Mae'n rhaglen yn rhoi pwyslais ar weithredu syniadau a luniwyd ar y rhaglen yn y gweithle. Rhoddir amser i'r rhai sy'n cymryd rhan gynllunio newidiadau i'w hymddygiad arwain a'u gweithredu. Mae aseiniadau yn annog y rhai sy'n cymryd rhan i gofnodi a mynegi eu datblygiad arweinyddiaeth unigol a manylu ar gynlluniau ar gyfer eu strategaeth datblygu sefydliadol. Gellir cwblhau rhwng un a thri modiwl fel rhan o'r rhaglen.

Nodweddion y Rhaglen: Caiff y rhaglenni eu cynnal dros gyfnod o wyth mis fel arfer am un diwrnod y mis (ar wahân i'r digwyddiad cychwynnol sy'n para am ddeuddydd). Caiff hyn ei gymorthdalu drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Gallai cyfraniadau unigol ddibynnu ar faint eu sefydliad. Gall y tîm ym Mhrifysgol Abertawe ddarparu rhagor o wybodaeth.

Cymhwysedd: Fel gofyniad sylfaenol:

Dylai'r busnes fod wedi bod yn gweithredu ers 12 mis.

Mae'n rhaid bod unigolion yn byw neu'n gweithio mewn ardal gydgyfeirio yng Nghymru ac mae'n rhaid bod ganddynt gyfrifoldeb rheolwr llinell.

Mae rhaglenni wedi'u cynllunio ar gyfer perchenogion busnes, cyfarwyddwyr ac arweinwyr.

Manteision i Unigolion:

Gwell gwybodaeth a sgiliau

Mynediad at Rwydwaith Arweinyddiaeth

Datblygu busnes

Twf mewn trosiant

Mae 97% o'r rhai sy'n cymryd rhan yn nodi bod y rhaglen wedi cael effaith sylweddol arnynt hwy a'r ffordd y maent yn gweithio

Y Camau Nesaf: I gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais, cysylltwch â thîm ION Leadership ar 01792 606733

Lleoliad Mae'r rhaglen yn cwmpasu Ardaloedd Cydgyfeirio Cymru.

Page 52: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

Nôl i'r Tudalen cynnwys

52

Manylion y Rhaglen: Cefnogi myfyrwyr trwy roi cyfleoedd iddynt weithio ar brosiectau gyda chwmnïau lleol.

Nodweddion y Rhaglen: Fel un o gyfranogwyr rhaglen KESS cewch gyfle i weithio gyda chwmnïau lleol, gan eich gwneud yn fwy cyflogadwy a chaniatáu i chi weld eich ymchwil yn cael ei roi ar waith mewn sefyllfaoedd go iawn. Mae'r rhaglen yn talu cyflog misol yn ogystal â rhoi cyllideb i'ch galluogi i gyflawni eich prosiectau, er enghraifft i fforddio pethau megis offer, deunyddiau traul, costau teithio, hyfforddi a datblygu.

Pwy sy'n gymwys: Oedran: 16+ Rhyw: gwrywaidd, benywaidd Statws Cyflogaeth: Mewn Addysg neu hyfforddiant <16 oriau yr wythnos Mewn Addysg neu hyfforddiant >16 oriau yr wythnos Mewn addysg uwch Cymhwysedd ychwanegol: Rhaid i fyfyrwyr sy'n cyfranogi fyw o fewn ardal Cydgyfeirio Cymru a gallu gweithio yn yr ardal Cydgyfeirio ar ôl cwblhau'r rhaglen.

Manteision i'r Unigolyn:

Bydd y manteision i chi yn cynnwys: Telir eich ffioedd prifysgol

Telir cyflog misol a chyllidebau KESS i chi – ar ôl i chi gyflwyno taflenni amser a chwblhau Gwobr Datblygu Sgiliau KESS i Raddedigion (PSDA)

Cewch amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi a datblygu wedi'u teilwra i'ch anghenion

Y Camau Nesaf: I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon, ewch i: www.higherskillswales.co.uk/kess/ neu cyswllt a Dr Penny Dowdney KESS Wales Project Manager [email protected] 01248 382266

Lleoliad:

Ardal Cydgyfeirio Cymru.

(Isle of Anglesey, Conwy, Denbigshire, Gwynedd, Ceredigion, Pembrokeshire, Carmarthenshire, Swansea, Neath Port Talbot, Bridgend, Rhondda Cynon Taff, Merthyr Tydfil, Blaenau Gwent, Caerphilly, Torfaen)

Perchenogaeth: Llywodraeth Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru

KESS 2

Page 53: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

53

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Manylion y Rhaglen: Cyrsiau byr a ariennir yn rhannol i uwchsgilio pobl ym maes Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch

Nodweddion y Rhaglen:

Mae prosiect Addysg Hyfforddiant a

Dysgu Deunyddiau a Gweithgynhyrchu

(METaL) o Brifysgol Abertawe yn brosiect

sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant, ar sail y

galw sy'n anelu at uwchsgilio dros 360 o

bobl ym maes Deunyddiau a

Gweithgynhyrchu Uwch trwy ddarparu

cyrsiau technegol byr.

Dyfernir Cymwysterau Credyd Prifysgol

Abertawe ar ôl cwblhau pob cwrs yn

llwyddiannus. Ymhlith yr enghreifftiau

mae; Cyflwyniad i Beirianneg

Deunyddiau, Technoleg

Gweithgynhyrchu, Dylunio â Chymorth

Cyfrifiadur, Cyrydu a Chaeniadau,

Meteleg Ymarferol a Chemeg

Dadansoddol.

Mae METaL hefyd yn anelu at weithio gyda diwydiant i ddatblygu cyrsiau ar fylchau a phrinder sgiliau technegol.

Pwy sy'n gymwys: Unigolion dros 16+ mewn swydd

Manteision i'r Unigolyn: Set Sgiliau Uwch - Bydd y set sgiliau uwch yn gwella gallu cyflogeion i wneud eu swydd ac felly'n cynyddu cyfleoedd cyflogeion o symud ymlaen o fewn eu cwmni. Bydd hyn hefyd yn gweithredu i osod enghreifftiau i gyflogeion eraill o fanteision hyfforddiant.

Cyflogadwyedd Gwell - Bydd yr hyfforddiant a gynigir yn darparu sgiliau uwch a fydd yn arwain at fod yn fwy cyflogadwy a ffurfio cronfa o bobl fedrus yn y sector gweithgynhyrchu sy'n gallu cymhwyso gwybodaeth benodol o un diwydiant i un arall.

Dilyniant Academaidd - Mae'r hyfforddiant a gynigir gan METaL yn cynnig dilyniant clir o gysylltiad cychwynnol hyd at ddoethuriaethau.

Y Camau Nesaf: Ewch i www.project-metal.co.uk am ragor o wybodaeth ac i archebu lle ar gyrsiau.

Lleoliad: Unrhyw un sydd mewn swydd ac yn byw neu'n gweithio yn ardaloedd Gorllewin Cymru a'r Cymoedd.

Perchenogaeth: Prifysgol Abertawe

METaL 2

Page 54: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

54

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Prentisiaethau Lefel Uwch

Manylion y Rhaglen: Mae Prentisiaethau Lefel Uwch yn rhoi cyfle i gyflogeion ddatblygu eu gyrfaoedd ymhellach a chyfrannu at lenwi'r bylchau mewn sgiliau lefel uwch i fusnesau yng Nghymru. Mae prentisiaethau uwch ar gael ar nifer o lefelau, o'r hyn sy'n cyfateb i radd sylfaen i radd baglor. Maent yn rhoi'r sgiliau i unigolion symud i rolau mwy technegol neu rolau rheoli yn y gweithle.

Nodweddion y Rhaglen: Yn unol ag uchelgais Llywodraeth Cymru i wella lefel sgiliau gweithlu Cymru, gall y rhwydwaith o ddarparwyr Dysgu seiliedig ar Waith a ariennir gynnig lleoedd ar fframweithiau NVQ Lefel 4 i alluogi unigolion i ddatblygu yn eu gyrfaoedd. Gall unigolion ddefnyddio'r fframweithiau hyn ac ennill y cymwysterau ochr yn ochr â'u gwaith bob dydd.

Pwy sy'n gymwys: Gall unigolion sy'n byw, a/neu sy'n gweithio yng Nghymru gael lleoedd wedi'u hariannu, neu wedi'u hariannu'n rhannol, ar gyrsiau Prentisiaeth Lefel Uwch drwy rwydwaith Llywodraeth Cymru o ddarparwyr Dysgu seiliedig ar Waith cymeradwy. Y Camau Nesaf: Mae adnodd chwilio am gyrsiau Gyrfa Cymru yn cynnwys manylion y fframweithiau sydd ar gael. http://www2.careerswales.com/coursesinwales/default.asp?page=LCD_WBL&menuid=4&namevote=

Lleoliad: Cymru Gyfan

Perchenogaeth: Llywodraeth Cymru drwy rwydwaith o ddarparwyr cymeradwy.

Manteision i Unigolion:

Cynyddu eu hystod o gymwysterau

Cael y sgiliau i ymgymryd â rolau mwy technegol

Cael y sgiliau i gyflawni rôl rheolwr ar lefel uwch.

Datblygiad gyrfa.

Page 55: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

55

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Rhaglen Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru

Nodweddion y Rhaglen: Bydd graddedigion yn ymgymryd â phedwar lleoliad am chwe mis yr un yn y sefydliadau ar gontract cyfnod penodol ac yn astudio ar gyfer Gradd Meistr ran amser mewn Rheoli Gwasanaethau Ariannol.

Manteision i Unigolion: Profiad gwaith o ansawdd uchel am ddwy flynedd, hyfforddiant mewn swydd a chyflog cystadleuol. MSc mewn Rheoli Gwasanaethau Ariannol Rheoli Prosiect Cynhadledd Gwasanaethau Ariannol Cymru Cyfle i wneud cais am swyddi gwag gan gyflogwyr wrth iddynt godi.

Manylion y Rhaglen: Rhaglen gwaith, hyfforddiant ac astudiaethau academaidd yw Rhaglen Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru, sy'n unigryw i Gymru. Cafodd ei llunio gan sefydliadau gwasanaethau ariannol blaenllaw a'i nod yw creu cronfa dalent o weithwyr proffesiynol i'r diwydiant. Ymhlith y cyflogwyr sy'n cymryd rhan mae Admiral, Atradius, GM Financial, Optimum Credit a Chymdeithas Adeiladu Principality.

Y Camau Nesaf: Cysylltwch â Rowena O’Sullivan, Rheolwr y Prosiect i gael rhagor o wybodaeth. E: Rowena.O’[email protected] Rhif ffôn: 02920 824022

Cyllid: ESF

Lleoliad: De-ddwyrain Cymru

Perchenogaeth: Fforwm Canolfananu Cyswllt Cymru Cyf

Pwy sy'n gymwys: Graddedigion o Gymru sydd â gradd 2.1.

Page 56: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

56

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Manylion y Rhaglen: Mae'r rhaglen hon yn helpu perchnogion busnes a chyflogeion i ennill cymhwyster arwain cydnabyddedig, gan eich helpu i feithrin sgiliau busnes datblygedig ar yr un pryd.

Nodweddion y Rhaglen: Gwahoddir cyfranogwyr i fynychu cyfres o weithdai (hyd at 15 diwrnod) dros gyfnod o 10 mis. Cynigir amrywiaeth o gymwysterau arwain cydnabyddedig dewisol yn amrywio o Lefel 3 i Lefel 7, sydd i gyd wedi'u hachredu gan y Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI). Yn achos yr unigolion sy'n ennill cymhwyster lefel 7, byddant yn gymwys i gael Tystysgrif Arwain i raddedigion - sy'n cyfateb i draean o radd MBA ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Pwy sy'n gymwys:

Rhaid i chi naill ai fod yn berchennog, yn gyfarwyddwr neu'n gyflogai mewn busnes yn ardal gystadleurwydd Dwyrain Cymru, neu fyw yn yr un ardal.

Manteision i Unigolion: Cewch y cyfle i ddatblygu a meithrin sgiliau allweddol a fydd yn eich helpu i dyfu eich busnes, gan gynnwys:

Arwain

Hyfforddi

Gwerthu

Marchnata

Rheolaeth ariannol Effeithlonrwydd gweithredol

Y Camau Nesaf:

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

www.20twentybusinessgrowth.com Neu cysylltwch â Catherine Wilson ar 02920 417160 neu [email protected] Lleoliad:

Ardal gystadleurwydd Dwyrain Cymru.

Cyllid: ESF

Perchenogaeth: Llywodraeth Cymru drwy Ysgol Reoli Caerdydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Rhaglen Twf Busnes Blaenllaw 20Twenty

Page 57: Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr€¦ · Cyhoeddwyd: Awst 2016 . 2 Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl ir tudalen map sgiliau Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5

57

Nôl i'r tudalen cynnwys Nôl i’r tudalen map sgiliau

Stem Cymru 2

Manylion y Rhaglen: Bydd Stem Cymru 2 yn adeiladu ar waith prosiect cyfredol Stem Cymru i ddatblygu sgiliau STEM ymhlith disgyblion 11-19 oed drwy ymgymryd ag ystod o weithgareddau ymarferol cyffrous. Mae'r gweithgareddau yn codi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd mewn gyrfaoedd STEM a datblygu ystod o sgiliau cyflogadwyedd. Anogir pob cyfranogwr i geisio ennill gwobrau CREST a gall myfyrwyr 6ed dosbarth ennill rhan o gymhwyster Bagloriaeth Cymru drwy gymryd rhan mewn prosiect sy'n gysylltiedig â diwydiant. Bydd y prosiect yn targedu'r grwpiau canlynol:

Pobl ifanc 11-14 oed cyn iddynt ddewis eu pynciau TGAU

Pobl ifanc 15-16 oed cyn iddynt wneud dewisiadau Lefel 3

Pobl ifanc 17-19 oed cyn iddynt wneud dewisiadau o ran addysg bellach neu addysg uwch

Merched 11-19 oed ar bob cyfnod allweddol yn eu haddysg

Nodweddion y Rhaglen:

Drwy ymgynghori ag ysgolion caiff grwpiau o ddisgyblion eu nodi i ymgymryd ag ystod o weithgareddau STEM.

Pwy sy'n gymwys: Meini prawf i unigolion (h.y. oedran, statws cyflogaeth ac ati) Disgyblion/myfyrwyr 11-19 oed mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru

Manteision i Unigolion: Gwell dealltwriaeth o'r cyfleoedd sydd ar gael mewn gyrfaoedd STEM. Bod yn rhan o weithgareddau cyffrous a buddiol i wella sgiliau STEM a gwella rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol. Gwell sgiliau cyflogadwyedd

Y Camau Nesaf: Cyswllt - [email protected]

Lleoliad: Ledled Cymru

Cyllid: ESF

Perchenogaeth: Cynllun Addysg Beirianneg Cymru Cyf