haydn: symffoni drum roll hif 13...haydn: symffoni drum roll hif 13 cbac: gwaith gosod ug nodiadau r...

24
Haydn: Symffoni Drum Roll Rhif 103 CBAC: Gwaith Gosod UG Nodiadau’r Athro Gwybodaeth gefndirol Mae’n hanfodol defnyddio’r deunyddiau canlynol gyda’r adnodd hwn. • Sgôr Eulenberg o Symffoni Drum Roll gan Haydn (ISBN 978-3-7957-6558-3) • Recordiad o’r symffoni Gwaith paratoadol gyda’r dosbarth ynglŷn â: • confensiynau cerddorol ac arddull yr oes Glasurol • arddull cerddorol Haydn • ffurf y sonata • dadansoddiad o’r symudiad cyntaf Bwriad y nodiadau hyn yw rhoi cymorth i athrawon cerddoriaeth wrth iddynt baratoi a chyflwyno’r gwaith gosod. Arweiniad amlinellol sydd yma, ac mae’r nodiadau’n cynnwys awgrymiadau ar beth y dylid ei astudio o ran cynnwys cerddorol a chefndir, ond ni ddylid eu defnyddio fel adnodd cynhwysfawr. Dylid defnyddio’r wybodaeth a roddir i athrawon ochr yn ochr â’r taflenni gwaith i ddysgwyr, ac mae rhai cwestiynau ac aseiniadau ychwanegol wedi’u cynnwys i gefnogi ymchwil pellach a dealltwriaeth estynedig. Yr oes Glasurol – • yn cyfeirio at y cyfnod rhwng tua 1750 ac 1830 yn dechrau dod i’r amlwg yn ystod blynyddoedd olaf yr oes Faròc flaenorol

Upload: others

Post on 02-Feb-2021

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Haydn: Symffoni Drum Roll Rhif 103 CBAC: Gwaith Gosod UG Nodiadau’r Athro

    Gwybodaeth gefndirol

    Mae’n hanfodol defnyddio’r deunyddiau canlynol gyda’r adnodd hwn.

    • Sgôr Eulenberg o Symffoni Drum Roll gan Haydn (ISBN 978-3-7957-6558-3)• Recordiad o’r symffoni

    Gwaith paratoadol gyda’r dosbarth ynglŷn â:

    • confensiynau cerddorol ac arddull yr oes Glasurol • arddull cerddorol Haydn• ffurf y sonata• dadansoddiad o’r symudiad cyntaf

    Bwriad y nodiadau hyn yw rhoi cymorth i athrawon cerddoriaeth wrth iddynt baratoi a chyflwyno’r gwaith gosod. Arweiniad amlinellol sydd yma, ac mae’r nodiadau’n cynnwys awgrymiadau ar beth y dylid ei astudio o ran cynnwys cerddorol a chefndir, ond ni ddylid eu defnyddio fel adnodd cynhwysfawr. Dylid defnyddio’r wybodaeth a roddir i athrawon ochr yn ochr â’r taflenni gwaith i ddysgwyr, ac mae rhai cwestiynau ac aseiniadau ychwanegol wedi’u cynnwys i gefnogi ymchwil pellach a dealltwriaeth estynedig.

    Yr oes Glasurol –

    • yn cyfeirio at y cyfnod rhwng tua 1750 ac 1830 • yn dechrau dod i’r amlwg yn ystod blynyddoedd olaf yr oes Faròc flaenorol

  • Haydn: Symffoni Drum Roll Rhif 103 CBAC: Gwaith Gosod UG Nodiadau’r Athro

    Prif nodweddion arddull cerddoriaeth Glasurol

    • Yn llai cymhleth na cherddoriaeth Faròc, ac yn meddu ar wead mwy ysgafn ac eglur, gan gynnwys eglurder brawddegau a llai o addurniad.

    • Yn pwysleisio gosgeiddrwydd (style galante) yn hytrach na mawredd a difrifoldeb llawer o gerddoriaeth Faròc.

    • Wedi’i gau i mewn i adeileddau ffurfiol a gâi eu dal mewn cyfrannedd: roedd melodïau yn tueddu i fod yn fyrrach, yn fwy cytbwys ac yn cynnwys diweddebau eglur, ac roedd rheoleidd-dra a chydbwysedd adeiledd y brawddegau’n dod ag eglurder i’r gerddoriaeth (weithiau, y cymysgedd o frawddegau a rhythmau rheolaidd / afreolaidd fyddai’n dod â theimlad o unigoliaeth i arddull personol cyfansoddwr).

    • Roedd adeileddau mwy a chryfach gyda thri neu bedwar symudiad amlwg yn siapio’r elfennau cerddorol yn gyfanwaith unedig ac ehangach, gydag amrywiaeth unedig a chyferbyniadau cyweiriau coeth yn egwyddorion arweiniol.

    • Cafodd ffurf y sonata ei chydnabod fel y prif adeiledd a ddefnyddiwyd i adeiladu symudiadau (yn bennaf symudiadau cyntaf, ond weithiau symudiadau eraill hefyd).

    • Cafodd gwell effeithiolrwydd harmonig o fewn yr adeileddau hyn ei gyflawni drwy ddefnyddio cordiau symlach a dilyniadau mwy effeithiol, gydag eglurder y berthynas rhwng y cyweiriau a thrawsgyweiriad yn sicrhau proses harmonig ‘weithredol’.

    • Ar y cyfan, roedd gweadau’n homoffonig ac yn felodig gyda chyfeiliant cordiol. Er hyn, roeddent yn dal i gynnwys llawer o enghreifftiau o ysgrifennu gwrthbwyntiol.

    • Roedd yr arddull cyffredinol yn fwy amrywiol a hyblyg, gyda chyferbyniadau yn amlwg yn y gerddoriaeth (dynameg, naws, seinlawnderau cerddorol, rhythmau a deunydd thematig, tempo a chywair).

    • Rhoddwyd pwyslais cynyddol ar gerddoriaeth offerynnol fel divertimenti, trios a’r pedwarawd llinynnol a oedd yn dod i’r amlwg, gyda’r sonata drio Faròc yn esblygu yn sonata Glasurol, a’r agorawd Eidalaidd yn datblygu’n symffoni Glasurol newydd. Roedd y concerto yn parhau i fod yn boblogaidd iawn, er bod y solo concerti yn fwy poblogaidd na’r concerto grosso Faròc hŷn.

    • Roedd y gerddorfa yn cynyddu o ran maint ac amrywiaeth, a’r adran chwythbrennau yn dod yn fwyfwy pwysig; yn dibynnu llai ar yr harpsicord i ‘lenwi bylchau’.

    • Yn raddol, byddai’r piano (forte) yn disodli’r harpsicord a‘r basso continuo yn peidio â chael ei ddefnyddio o gwbl.

    • Doedd y cyfansoddwyr symffonig newydd ddim yn cyfansoddi ar gyfer y llys neu’r eglwys yn unig bellach. Nid y sefydliadau hyn oedd eu hunig gyflogwyr chwaith; erbyn hyn, roeddent yn cyfansoddi ar gyfer cynulleidfaoedd cyngherddau. Roedd Haydn yn un cyfansoddwr a ddaeth i delerau â’r agwedd hon yn y pen draw, ac roedd yn llwyddiannus.

  • Haydn: Symffoni Drum Roll Rhif 103 CBAC: Gwaith Gosod UG Nodiadau’r Athro

    Haydn a’i arddull cerddorolFranz Joseph Haydn

    • Dyddiadau: 1732–1809.

    • Ynghyd â Mozart a Beethoven, mae Haydn yn cael ei adnabod fel un o’r tri chyfansoddwr Clasurol ‘Mawr’.

    • Dangosodd ddawn gerddorol o oedran ifanc, ac ysgrifennodd ei symffoni gyntaf a phedwarawd llinynnol cyn 1760. Cafodd ei gofio fel ‘Tad y Symffoni’.

    • Yn 1761, apwyntiwyd Haydn i lys y Tywysog Esterházy yn Eisenstadt ger Vienna ac yna fe’i dyrchafwyd yn Kapellmeister. Yma, daeth o hyd i ryddid i ddatblygu ac i arbrofi fel cyfansoddwr, gan ddefnyddio’r cyfleusterau cerddorol anhygoel oedd ar gael iddo. Ar y stad bellennig hon, roedd ef braidd yn ynysedig – a thrwy ei gyfaddefiad ef ei hun, cafodd ei ‘orfodi i fod yn wreiddiol’.

    • Cafodd ei gydnabod drwy Ewrop gyfan wrth i’w waith gael ei gyhoeddi, ac fe gynigiwyd sawl comisiwn iddo (e.e., symffonïau Paris, ‘The Seven Last Words’, symffonïau London). Ar adeg ei farwolaeth, yn 77 oed, ef oedd un o gyfansoddwyr enwocaf Ewrop.

    • Fe’i gwahoddwyd i Lundain yn 1791 ac yn 1794 gan y cerddor a’r impresario Johann Salomon o’r Almaen. Dyma gyfnod cyfansoddi symffonïau rhif 93–104 (h.y. symffonïau London).

    • Mae ei waith yn rhoi’r darlun mwyaf cynhwysfawr o ddatblygiad arddull cerddoriaeth yr oes Glasurol. Parodd ei gyfnod creadigol am flynyddoedd lawer – yn hirach na’r rhan fwyaf o gyfansoddwyr – ac yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd llawer o newidiadau mewn cerddoriaeth, e.e. dibyniaeth adeileddol ar berthynas benodol rhwng cyweiriau a thwf cerddoriaeth offerynnol nes iddi gael cydnabyddiaeth debyg i gerddoriaeth leisiol.

    • Mae Haydn yn cael ei gofio fel y symffonïwr mawr cyntaf, ac fel y cyfansoddwr a ‘ddyfeisiodd’ y pedwarawd llinynnol i bob pwrpas. Cafodd ei ddisgrifio fel ‘prif ddyfeisiwr’ yr arddull Clasurol, ac roedd ei ddylanwad ar gyfansoddwyr diweddarach yn aruthrol – yn enwedig Mozart, Beethoven, Schubert, Mendelssohn a Brahms.

    Cynnyrch

    Ynghyd â cherddoriaeth ar gyfer allweddellau, operâu, cerddoriaeth eglwysig, divertimenti, darnau amrywiol o gerddoriaeth siambr, concerti, a cherddoriaeth leisiol, cyfansoddodd dros 70 pedwarawd llinynnol a 104 symffoni.

    Y symffonïau

    Drwy gydol ei fywyd hir, mae’n bosib sylwi ar y gwahaniaeth anferth – ym mhob agwedd – rhwng ei ymdrechion cynnar, mwy sylfaenol, a’r feistrolaeth a welir yn y symffonïau olaf a gyfansoddwyd ar gyfer Llundain. Gellir olrhain datblygiad graddol ei arddull cerddorol o’r darnau elfennol cyntaf drwy’r 1770au, pan oedd ei waith yn adlewyrchu’r delfrydau symffonig Almaenig newydd, hyd at uchafbwynt ei gyrhaeddiad symffonig – symffonïau London. Roedd yn rhoi teitlau i’w symffonïau

  • Haydn: Symffoni Drum Roll Rhif 103 CBAC: Gwaith Gosod UG Nodiadau’r Athro

    yn aml, ac roedd yn cael ei gofio am y defnydd o hiwmor yn ei gerddoriaeth, am gynnwys rhagarweiniadau araf a’i ddefnydd o un thema yn unig (monothematicism), dynameg ffrwydrol, cyferbyniadau mewn tempo, etc.

    Arddull Cerddorol

    Adeiledd Roedd gan Haydn ddiddordeb sylfaenol mewn adeiledd, ac roedd ei gerddoriaeth yn dangos synnwyr pensaernïol cadarn:

    • Gellid ei ystyried o bosibl fel ‘tad ffurf y sonata’ hefyd – mae ei symffonïau, yn enwedig, yn arddangos ei ddefnydd o adeiledd a’r ffordd yr oedd yn datblygu potensial dramatig y cynnwys cerddorol.

    • • Roedd yn mwynhau amrywiaeth ffurf, ac mae’r rhyddid yn ei waith yn amlwg iawn yn

    symffonïau London. • • Sylweddolodd botensial y miniwét.• • Haydn, yn bennaf, a greodd adran bontio (transition) i adran y Datblygiad a hefyd i adran yr

    Ailddangosiad, fel eiliadau o dyndra ac o ddiddordeb.• • Gwnaeth bob agwedd o’r harmoni yn ymhlyg yn y prif themâu, gan ddarparu ‘analog

    homoffonig’ i’r ‘ffiwg bolyffonig’ – drwy wneud hyn plannodd yr hedyn a fyddai’n arwain at syniadau diweddarach, gydag effeithiau gwahanol.

    • • Byddai’n defnyddio rhagarweiniadau araf i symudiadau agoriadol yn aml.• • Weithiau, byddai’n llunio ffurf sonata ar un thema yn unig (monothematicism).

    Melodi

    • Dylanwadwyd ar Haydn gan gerddoriaeth werin o Awstria a Chroatia, cerddoriaeth y sipsiwn ac alawon o Hwngari. Cyfansoddodd felodïau gwreiddiol yn yr un arddull, a llwyddodd i’w trawsnewid a’u cymryd i lefel newydd.

    • Roedd yn well ganddo ddefnyddio’r frawddeg fer, gyfnodol, groyw gyda chymesuredd yn amlwg, nid yn unig o frawddeg i frawddeg, ond hefyd o fewn y frawddeg ei hun.

    • Sylweddolodd beth oedd posibiliadau torri llinellau thematig hirach yn gydrannau a motiffau byrrach, melodig a rhythmig.

    • Weithiau, byddai’n defnyddio brawddegu afreolaidd, ac roedd hyd brawddegau anarferol yn rhai o’i symffonïau cynnar (e.e., mae finale Rhif 1 yn agor gyda brawddeg 6 bar, ac mae miniwét Rhif 9 yn defnyddio brawddegau 3 bar).

  • Haydn: Symffoni Drum Roll Rhif 103 CBAC: Gwaith Gosod UG Nodiadau’r Athro

    • Roedd e’n gorfoleddu wrth drin a thrawsffurfio syniad unigol, weithiau’n seilio ei symudiadau ffurf sonata agoriadol ar un thema yn unig.

    Gweadau Ar adeg pan oedd yr arddull Clasurol newydd yn ffafrio gwead gweddol syml y llinell felodig ynghyd â chyfeiliant cordiol, mewn cyferbyniad â gweadau coeth polyffonig y Baròc roedd Haydn, mewn gwirionedd, yn cynnwys amrywiaeth o weadau yn ei gerddoriaeth leisiol ac offerynnol:

    • Roedd e’n gwybod sut i gyflwyno ac i ddefnyddio ei ddeunydd i gyflawni dyluniadau astrus, manweog yn y ffabrig cerddorol.

    • O’r cychwyn cyntaf roedd gwrthbwynt yn bwysig, ac roedd Haydn yn ei ddefnyddio yn ei gerddoriaeth offerynnol i adeiladu’r newidiadau cywair a’r trawsnewidiadau melodig (e.e. mae’r finale ym mhedair o’i 14 symffoni gyntaf yn bolyffonig).

    • Roedd e’n pwysleisio pwysigrwydd amrywiaeth gwead yn ei symffonïau drwy’r ffordd roedd holl ‘leisiau’ unigol y gerddorfa yn cyfrannu at yr effaith gyfan – nid cymaint fel melodi sylfaenol a chyfeiliant, ond wrth gyflwyno thema sy’n dibynnu ar integreiddiad llinellau, rhythmau a soniareddau gwrthgyferbyniol.

    HarmoniMae harmoni Haydn yn ddiatonig yn bennaf – ond roedd ei ddefnydd estynedig o harmoni yn symffonïau London yn eithaf trawiadol:

    • Mae’n arbrofi gyda thrawsgyweiriadau eang, ac mae’n gwthio’r ffiniau harmonig, gan ddefnyddio harmoni yn ddyfeisgar, ac yn mwynhau anturiaethau cromatig.

    • Roedd e’n mwynhau cyferbyniadau yn y cywair mwyaf a’r cywair lleiaf.

    • Weithiau mae’n defnyddio cysylltiadau anghonfensiynol rhwng cyweiriau rhwng symudiadau.

    • O fewn un symudiad, weithiau mae symudiadau (shifts) sydyn i gyweiriau pell (e.e. symud i’r ♯6ed).

    • Nodwch sut mae’n defnyddio gohiriannau, nodau pedal, cordiau cywasg a chordiau estynedig, cordiau neapolitaidd, etc.

  • Haydn: Symffoni Drum Roll Rhif 103 CBAC: Gwaith Gosod UG Nodiadau’r Athro

    OfferyniaethGan ddefnyddio’r arfau helaethach oedd ar gael iddo yn Llundain, roedd Haydn wrth ei fodd yn creu sain newydd, helaeth (spacious) a disglair – utgyrn, drymiau, a chwythbrennau dwbl (gan gynnwys clarinetau).

    • Ni roddodd Haydn byth mo’r gorau i’r allweddell, ond gadawodd i offerynnau’r gerddorfa ddisodli ei swyddogaeth.

    • Mae’n bwysig nodi y defnydd chwareus o seinlawnderau offerynnol wrth i Haydn ganiatáu llinellau annibynnol o sain.

    • Yn raddol, rhoddwyd mwy o ddibyniaeth i’r chwythbrennau.

    • Defnydd concertante achlysurol o offerynnau (caniadau feiolin solo yn symffonïau London 95, 96, 98 ac yn Andante’r Drum Roll).

    • Yn raddol, daeth arweinydd y feiolinau yn gyfrifol am ‘arwain’ y gerddorfa .

    Mae manyleb CBAC yn cynnwys uned orfodol sy’n seiliedig ar Traddodiad Clasurol y Gorllewin – yn benodol, Y Symffoni, 1760–1830.

    Mae hwn yn cael ei gyflwyno fel Maes Astudiaeth A, ac mae’n canolbwyntio ar ddatblygiad y symffoni drwy’r oes Glasurol i’r oes Ramantaidd gynnar. Ystyriwyd y symffoni fel y genre offerynnol pwysicaf yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Aeth datblygiad y symffoni law yn llaw ag esgyniad ffurf y sonata a datblygiad y gerddorfa.

    Mae’r symffoni yn cael ei chydnabod fel cyfansoddiad cerddorol estynedig ar gyfer cerddorfa. Mae ei gwreiddiau yn gorwedd yn agorawd yr opera Eidalaidd yn y ddeunawfed ganrif, a oedd yn gyfansoddiad mewn tair rhan, h.y. cyflym – araf – cyflym, ac yn fath eithaf ysgafn o adloniant. Gydag ychwanegiad miniwét a thrio fel trydydd symudiad, a briodolwyd yn wreiddiol i gyfraniad Stamitz ac ysgol gyfansoddi Mannheim, cafodd y symffoni ei derbyn fel cyfansoddiad mwy cymhleth, yn bennaf mewn pedwar symudiad cytbwys:

  • Haydn: Symffoni Drum Roll Rhif 103 CBAC: Gwaith Gosod UG Nodiadau’r Athro

    Symudiad 1 Symudiad 2 Symudiad 3 Symudiad 4Fel arfer:

    – Allegro ar ffurf y sonata

    – weithiau’n cael ei rhagflaenu gan ragarweiniad araf

    – yn nhonydd / cywair gwreiddiol y gwaith

    Fel arfer:

    – naill ai Adagio neu Andante

    – mewn cywair gwahanol i’r tonydd (e.e. cywair perthynol)

    – wedi’i adeiladu gan ddefnyddio adeileddau megis ffurfiau teiran (e.e. ABA), thema ac amrywiadau, neu ffurf sonata wedi’i haddasu (heb adran y Datblygiad)

    Fel arfer:

    – Allegretto

    – miniwét a thrio

    – roedd miniwét yn ddawns urddasol, a’r trio yn aml yn fwynach o ran cymeriad

    – tempo cymedrol

    – yng nghywair y tonydd

    – amser triphlyg

    – ffurf ABA ar y cyfan (yn aml, pob adran yn y ffurf ddeuaidd)

    (D.S. Disodlodd Beethoven y miniwét â’r scherzo, a oedd yn fwy cyflym)

    Fel arfer:

    – Allegro Molto (neu Presto, neu Vivace)

    – yng nghywair y tonydd

    – ar ffurf rondo neu sonata (neu gyfuniad o’r ddau!)

    – yn gyflymach ac yn ysgafnach na’r symudiad agoriadol

    – yn aml yn cynnwys themâu gwerinol (yn enwedig yng ngweithiau Haydn)

    Er mwyn i ddysgwyr roi’r cyfle gorau i’w hunain i ddeall a gwerthfawrogi’r gwaith gosod, mae’n rhaid iddynt ymgyfarwyddo’n llwyr â Ffurf y Sonata. Nid yw’r math hwn o adeiledd yn cyfeirio at drefniadaeth gwaith cyfan – yn hytrach, mae’n cael ei ddefnyddio i ddarparu fframwaith ar gyfer symudiad unigol. Mae gan yr adeiledd dair prif adran, DANGOSIAD, DATBLYGIAD ac AILDDANGOSIAD (er y gall cyfansoddwyr hefyd gynnwys Rhagarweiniad ac adran Coda).

    Yn y math hwn o adeiledd, mae dwy thema neu ddau destun yn cael eu harchwilio yn ôl perthynas osod rhwng cyweiriau. Dyma sail llawer o gerddoriaeth glasurol, gan gynnwys y sonata, y symffoni, a’r concerto.

    Mae’r cynllun isod yn dangos trefn y syniadau hyn:

  • Haydn: Symffoni Drum Roll Rhif 103 CBAC: Gwaith Gosod UG Nodiadau’r Athro

    FFURF Y SONATA – CYNLLUN AMLINELLOL SYMLRHAGARWEINIAD

    DANGOSIAD DATBLYGIAD AILDDANGOSIAD CODAMae’r Dangosiad yn dangos ac yn cyflwyno’r prif ddeuny-dd thematig.

    Mae’r Datblygiad yn datblygu ac yn archwilio’r deunydd thematig.

    Mae’r Aildangosiad yn ailddan-gos ac yn ein ‘hatgoffa’ am y deunydd thematig gwreiddiol.

    Mae’r Coda yn ‘cwblhau’ y darn.

    Testun CyntafT1

    Cywair Gwreiddiol(Cywair y Tonydd)

    Adran y bont

    Newid cywair

    Ail DestunT2

    Cywair perthy-nol

    Archwilio cyweiriau newydd wrth drin y deunydd thematig.

    (Fel arfer yn gorffen gyda pharatoad y llywydd ar gyfer y cywair gwreiddiol yn barod ar gyfer dychweliad I yn yr Ailddangosiad)

    Testun cyntafT1

    Cywair gwreiddiol(Cywair y Tonydd)

    Adran y bont wedi newid i aros yn y Cywair gwreiddiol

    Ail DestunT2 –

    Nawr yn y Cywair gwreiddiol

    Hefyd yn y Cywair gwreiddiol

    Y ffordd orau o gyflwyno Ffurf y Sonata yw defnyddio darn allweddell ar raddfa fach, e.e. Sonatina Rhif 4 gan Clementi. Bydd hyn yn darparu archwiliad defnyddiol o gyfansoddiad ar raddfa lai. Yn amlwg, mae’n llai cymhleth (ac mae diffyg datblygiad syniadau!) ond mae’r adrannau yn glir, a gobeithio y bydd hyn yn haws ac yn fwy hylaw i ddisgyblion ddeall i ddechrau.

    Cywair Gwreiddiol:

    F fwyaf

    Bar 13: →

    Trawsgyweiriad, newid cywair

    Mae’r enghreifftiau o B♮ yn y Trawsgyweiriad yn arwyddion o’r symud graddol i C fwyaf, cywair y llywydd

    T1 yn y tonydd neu’r cywair gwreiddiol, F fwyaf

  • Haydn: Symffoni Drum Roll Rhif 103 CBAC: Gwaith Gosod UG Nodiadau’r Athro

    T2 yng nghywair y llywydd, C fwyaf

    Hapnodau yn arwydd o newid cywair

    Mae’r F# yn adran T2 yn addurnol yn unig (h.y. nodau tonnog is)

    DECHRAU ADRAN Y DATBLYGIAD

    Dilyniant esgynnol

    Brawddeg 3 bar i orffen yng nghywair y llywydd, C fwyaf

    Codetta

  • Haydn: Symffoni Drum Roll Rhif 103 CBAC: Gwaith Gosod UG Nodiadau’r Athro

    ← Bar 61 Trawsgyweiriad, wedi newid i aros yng nghywair y tonydd

    Pedal y llywydd a pharatoad ar gyfer dychwelyd i’r cywair gwreiddiol.

    T1 yng nghywair y tonydd, F fwyaf

  • Haydn: Symffoni Drum Roll Rhif 103 CBAC: Gwaith Gosod UG Nodiadau’r Athro

    Codetta: gorffen y frawddeg 3 bar, nawr yng nghywair y tonydd, ac yn disgyn yn hytrach nag yn esgyn

    T2 yng nghywair y tonydd, F fwyaf

  • Haydn: Symffoni Drum Roll Rhif 103 CBAC: Gwaith Gosod UG Nodiadau’r Athro

    Symffoni Drum Roll Haydn: Symudiad 1

    Y symffoni hon (Rhif 103 yn E♭ fwyaf) yw’r unfed ar ddeg o’r deuddeg o symffonïau a gyfansoddodd Haydn, yn benodol i Lundain. Llysenw y symffoni hon yw’r ‘Drum Roll’, gan ei fod yn dechrau gyda bwrlwm hir ar y tympanau.

    Roedd 40 o gerddorion yn y gerddorfa a drefnwyd gan Salomon ar gyfer symffonïau London Haydn ond, ar gyfer perfformiad cyntaf y gwaith hwn ym mis Mawrth 1795, cynyddwyd y lluoedd rywfaint. Roedd adran y chwythbrennau yn cynnwys 2 ffliwt, 2 obo, 2 glarinét yn B♭ a 2 fasŵn, roedd yr adran bres yn cynnwys 2 gorn (yn E♭) a 2 utgorn yn E♭, ynghyd â 2 dympan a llinynnau.

    Sylwch: Yn y cyfnod hwn, roedd y clarinét yn dal i fod yn newydd yn adran y chwythbrennau – dim ond mewn pump o’r symffonïau terfynol y cynhwysodd Haydn yr offeryn, ac nid oedd ganddynt lawer i’w wneud!

    Cyn cychwyn ar ddadansoddi’r gwaith gosod, bydd angen i ddysgwyr ymgyfarwyddo â’r grefft o ddarllen sgôr (o bosib gan ddechrau gyda sgôr biano, yna darn o gerddoriaeth siambr, cyn rhoi cynnig ar sgôr gerddorfaol). Mae disgwyl hefyd i athrawon egluro ystyr offerynnau trawsnodi a’r defnydd o’r cleff fiola /cleff C symudol. Ar ben hynny, mae angen i ddysgwyr fod yn ymwy-bodol o’r ffaith fod rhai cyfyngiadau yn natblygiad rhai offerynnau unigol yn dal i fodoli (h.y. ystod gyfyngedig o drawiau yn yr offerynnau pres a oedd yn dal heb falfiau).

    Sylwch: Yn Symffoni Drum Roll, y clarinetau, y cyrn a’r utgyrn yw’r offerynnau trawsnodi . Yn y cyfnod hwn, doedd dim falfiau ar yr offerynnau pres, felly roedden nhw’n gyfyngedig i nod-au’r gyfres harmonig. Yn amlwg, roedd hyn yn cyfyngu hefyd ar eu gallu melodig yng ngolwg cyfansoddwyr. Mae Rhif 103 yn E♭ fwyaf – felly byddai’r offerynnau yn cael eu cysylltu â bagl (crook) E♭. Roedd gan y perfformwyr pres faglau (tiwbiau rhydd), er mwyn gallu newid cywair yr offeryn.

    Cofiwch fod:• Cyrn yn E♭ yn swnio 6ed mwyaf yn is nag sydd wedi’i nodi.• Utgyrn yn E♭ yn swnio 3ydd lleiaf yn uwch nag sydd wedi’i nodi.• Clarinetau yn B♭ yn swnio tôn yn is nag sydd wedi’i nodi.

    Er bod y symffoni hon yn arddangos unigoliaeth a rhai nodweddion yn ei hawl ei hun, mae hi’n enghraifft berffaith o symffoni Glasurol:

    • Mae hi’n unedig, ond yn llawn amrywiaeth.

    • Mae’r cyferbyniadau mewn dynameg yn ail i gydbwysedd ehangach y melodïau a’r cyweireddau.

    • Mae’r themâu, yn nodweddiadol, yn gyfyngedig o ran ystod ac yn gytbwys o ran adeiledd y brawddegau a modd y mynegiant.

    • Mae’r math personol o fynegiant emosiynol sy’n gysylltiedig â gweithiau diweddarach ar goll.

    • Mae’n ddarbodus yn ei ddefnydd o’r deunydd.

  • Haydn: Symffoni Drum Roll Rhif 103 CBAC: Gwaith Gosod UG Nodiadau’r Athro

    Yn gyffredinol, mae’r offerynnau yn cael eu defnyddio mewn ffordd wreiddiol. Mae hwn yn amlwg yn y defnydd o’r tympanau ar y dechrau, ac yn y ffordd y mae Haydn yn defnyddio’r lliwiau a’r cyferbyniadau rhwng teuluoedd gwahanol y gerddorfa i ailadrodd ac i estyn y deunydd mewn ffordd ddiddorol a dychmygus. Ar ben hynny, er bod yr offerynnau pres yn gyfyngedig o ran pa nodau roeddent yn medru eu canu, ac roedden nhw’n cael eu defnyddio yn bennaf i atgyfnerthu’r harmonïau, mae Haydn hefyd yn eu defnyddio i chwarae’r thema ragarweiniol pan fo hynny’n bosibl. Mae amrediad y motiff cychwynnol yn gul: yn wir, mae’n bosibl bod cyfyngiadau’r offerynnau pres yng nghefn ei feddwl wrth iddo gyfansoddi hwn! Mae’r cyfansoddi ar gyfer y llinynnau yn aml yn cael ei gyfoethogi drwy ychwanegu’r basŵn, ac mae’r bas dwbl a ‘r sielo yn cael llinellau unigol pan fydd hynny’n angenrheidiol. Yn aml, mae’r chwythbrennau’n cael eu defnyddio am linellau unigol yn unig, ac mae’r cyfansoddwr yn amlwg yn mwynhau arbrofi gyda lliwiau seinlawnder offerynnau unigol ynghyd â lleihad yn nhermau gwead er mwyn creu cyferbyniadau yn y gerddoriaeth.

    Dadansoddiad AmlinellolRhagarweiniad (Barrau 1–39)

    Noder: Mae’r Rhagarweiniad hwn yn cynnwys peth deunydd thematig pwysig a fydd yn cael ei integreiddio yn adran y Datblygiad a’r Coda yn nes ymlaen.

    Mae’r symudiad hwn yn dechrau gyda bwrlwm drwm ar E♭, a dyma’r rheswm am yr enw a roddwyd i’r symffoni hon. Mae’n cael ei ddilyn gan ragarweiniad adagio eithaf hir, sydd yn eithriadol o dywyll o ran cymeriad. Mewn gwirionedd, hwn yw’r hiraf o holl ragarweiniadau symffonig Haydn.

    Mae’n dechrau gyda thema isel sy’n 12 bar o ran hyd, gan gynnwys dwy frawddeg 6 bar. Mae’r frawddeg gyntaf, sy’n cael ei chanu gan y llinynnau is a basŵn unigol, yn gorffen â thrawsgyweiriad tawel a chryno i gywair y llywydd, sef B♭. Mae’r ffliwt gyntaf a’r oboi yn rhoi cefnogaeth dawel i’r ddiweddeb hon.Mae’r ddiweddeb yn cael ei chlywed yn y chwythbrennau uchaf a’r cyrn fel o’r blaen, ond sylwch hefyd fod cyrn wedi eu hychwanegu.

    Nodwch y patrwm ym marrau 2 a 3 yma o ran y trawiau.

    E♭ → C → A♭ → F → D → B♭

    Ar ôl saib o un curiad ar ddiwedd y frawddeg, mae’r frawddeg 6 bar atebol yn cychwyn ar draw uwch, gan ddechrau gyda chord islywydd, ac yna’n dynwared arddull y frawddeg agoriadol nes dod i ben yn dawel gyda diweddeb berffaith yn ôl yng nghywair y tonydd. Mae’r ddiweddeb yn cael ei chlywed yn y chwythbrennau uchaf a’r cyrn fel o’r blaen, ond sylwch hefyd fod cyrn wedi eu hychwanegu

  • Haydn: Symffoni Drum Roll Rhif 103 CBAC: Gwaith Gosod UG Nodiadau’r Athro

    Bar 14: Mae’r feiolinau cyntaf yn ailadrodd y frawddeg 6 bar rhagarweiniol, wedi’i harmoneiddio gan yr ail feiolinau sy’n chwarae cyfalaw rhythmig trawsacennog. Mae’r frawddeg yn cael ei chwarae yn y ddynameg piano, sy’n rhoi cyferbyniad ysgafn i wead y darn. Unwaith eto, mae’n gorffen gyda diweddeb berffaith yng nghywair y llywydd ym marrau 18‒19 gyda chefnogaeth gan y llinynnau isaf a gyda’r oboi a’r baswnau yn arosod atsain ysgafn. Mae’r cyrn yn atgyfnerthu tonyddeiddio B♭ yn dawel â 3 nodyn crosiet B♭ ysgafn (gyda bwlch o wythfed rhyngddynt).

    Bar 19: Mae newid i’w weld yn syth yn y frawddeg sy’n ateb, sy’n hirach ac yn wahanol. Mae’r deunydd melodig yn cael ei glywed eto drwy feiolin 1, ond y tro hwn mae fiolâu yn ymuno â feiolin 2 a’r cyfeiliant trawsacennog. Mae’r darn yn dod i ben gyda diweddeb berffaith yn ôl yn y cywair gwreiddiol (barrau 24–25).

    Bar 25: Brawddeg estynedig sydd yma, ac ynddi beth deunydd mewn arddull newydd. Mae hwn yn werth ei nodi gan ei fod yn arddangos nodweddion o ddiddordeb harmonig ac amrywiaeth gwead.

    Gweler sut mae’r syniadau cynharach o ddechrau’r Rhagarweiniad yn cael eu defnyddio yma, ynghyd â’r pwyslais sydd ar y motiff hanner tôn. Mae’r gwead yn amrywio drwy ddynwared ac atseinio motiffau.

    Bar 333: Mae’r adran hon yn gorffen gyda syniad unsain 6 bar (sy’n dechrau gyda hanner tôn sy’n symud i fyny o F♯→G). Mae’r frawddeg hon yn troelli i lawr yn y llinynnau a’r basŵn unigol, cyn ymsefydlu yn y pen draw drwy ailadrodd y motiff ar ffurf A♭→G (cwymp hanner tôn), a gan

    Yr un defnydd o drawiau, drydydd ar wahân, yn y frawddeg hon, ond wedi’u trefnu yn wahanol, ac o ganlyniad i hyn, mae’r cyfyngau’n wahanol ac mae siâp gwahanol i’r llinell fas

  • Haydn: Symffoni Drum Roll Rhif 103 CBAC: Gwaith Gosod UG Nodiadau’r Athro

    gynnwys anwadaliadau dynamig diddorol o fewn brawddeg mor fyr. Mae ailadroddiad y pedwar nodyn G pp terfynol yn dod i ben ar ddaliant, sy’n ein harwain i ddisgwyl cywair C leiaf. Exposition Section (Bars 40-93)Adran y Dangosiad (Barrau 40–93)

    Mae’r Dangosiad yn dangos ac yn cyflwyno prif ddeunydd thematig y symudiad.

    Adran Testun Cyntaf: T1 (Barrau 40–46)

    Efallai ein bod ni’n disgwyl cywair C leiaf – ond nid dyma’r achos! Mae’r motiff blaenorol yn nawr yn cael ei ailadrodd yn llon yng nghywair E♭ fwyaf! Mae cyferbyniad clir yn y tempo a’r naws wrth i’r gerddoriaeth gyflwyno testun cyntaf adran y Dangosiad. Mae hwn yn fyr ac yn para am 7½ bar yn unig.

    T1 =

    Mae’r testun cyntaf (T1) wedi’i labelu yn Allegro a’i amseriad yw 6/8. Mae hi’n thema 4 bar sy’n cael ei chanu gan y llinynnau uchaf, ac mae’n cynnwys adeiledd cwestiwn ac ateb amlwg, gyda’r llinynnau isaf yn ymuno ar gyfer y frawddeg ateb. Piano yw’r dynamig, ac mae’r gwead yn ysgafn ac yn homoffonig.

    Er mwyn eglurder:

    • bydd y 5 nodyn cyntaf yn cael eu labelu yn T1a (h.y. motiff cyntaf T1)• bydd y 6 nodyn olaf yn cael eu labelu yn T1b.

    Mae T1a yn ailadrodd nodau ar y dechrau, ac mae’n cynnwys motiff yr hanner tôn – motiff ‘dau nodyn’. Mae’r motiff penodol hwn yn gallu cael ei weld yn esgynnol ac yn ddisgynnol mewn nifer o leoedd yn y frawddeg agoriadol hwn: weithiau’n esgyn, weithiau’n disgyn, ac weithiau’n cael ei glywed mewn cyfwng o hanner tôn.

  • Haydn: Symffoni Drum Roll Rhif 103 CBAC: Gwaith Gosod UG Nodiadau’r Athro

    Bar 43: Mae’r gwead yn teimlo ychydig yn fwy sylweddol, gan fod y thema yn cael ei hailadrodd gan feiolin 1 wythfed yn is nag o’r blaen ac mae rhai rhannau’n cael eu haildrefnu wrth i’r llinynnau isaf ganu nodyn y tonydd a glywyd cyn hynny gan y fiola. Mae cyfeiliant hanner cwaferi llyfnach gan feiolin 2 ac mae rhan y fiola yn adleisio rhan agoriadol T1 a’r syniad hanner tôn ‘dau nodyn’. Mae’r adran fer hon yn gorffen gyda diweddeb berffaith yng nghywair y tonydd, sef E♭ fwyaf.

    Adran bontio (Barrau 47–78)

    Dyma ddarn trawsgyweiriol sy’n cysylltu’r testun cyntaf â’r ail destun. Mae’n hwyluso’r newidiadau cywair o’r tonydd yn yr agoriad i gywair perthynol thema’r ail destun. Weithiau, mae’n cael ei adnabod fel y bont.

    Mae hon yn adran eithaf hir sy’n para am 32 bar. Mae’n dechrau gydag adran tutti (er yn defnyddio dwy set o chwythbrennau), sy’n cael ei chlywed forte. Mae patrwm melodig 1 bar yn cael ei ailadrodd deirgwaith gan ffliwt, clarinét, feiolin 1 a fiola solo, uwchben pedal y tonydd yn y bas a’r tympanau, gyda’r offerynnau eraill yn cyfeilio – yr oboi yn symud mewn camau yn yr un rhythm â’r bas, a’r sieloau yn ymuno â’r 2ail feiolinau gyda chyfeiliant hanner cwaferi. Mae’r syniad hwn hefyd yn cynnwys gwaith pedal addurnol:

    Bar 50: Mae’r ffliwt a feiolin 1 yn cyflwyno syniad 1 bar sy’n ein hatgoffa o T1, gan ddechrau drwy ailadrodd addurniad yr hanner tôn. Yna mae hyn yn cael ei glywed mewn dilyniant gyda’r llinellau eraill i gyd yn sefydlu’r patrwm rhythmig sy’n amlwg wedi’i gymryd o T1a. Mae’r gerddoriaeth yn setlo i harmoni’r tonydd a’r llywydd, gyda chefnogaeth y tympanau. Nodwch bedal y llywydd yn y tympanau a nodyn y llywydd yn cael ei gynnal gan y ffliwt a’r cyrn o far 55, cyn cyrraedd diweddeb amherffaith (I–V) yng nghywair y tonydd ym marrau 57–8.

    Bar 58–63: Mae newid arwyddocaol mewn gwead yma, wrth i ni glywed ailadrodd y grwpiau o dri chwafer tawel a stacato yn yr oboi. Ym mar 59 mae’r obo cyntaf yn canu ffigur T1a uwchben cefnogaeth gordiol dawel y llinynnau uchaf a’r basŵn, sydd am ychydig yn achosi tonyddeiddio C leiaf ym mar 60 . Mae’r syniad hanner cwaferi forte nodedig (unsain) sy’n dilyn (yn y chwythbrennau a’r llinynnau) yn arwain at yr A♮ amlwg ar guriad cyntaf bar 61. Yn dawel, daw hwn yn rhan o gord cywasg, sy’n ein tywys drwy ddiweddeb wrthdro i gord y llywydd (B♭) ar guriad cyntaf bar 62. Mae’r ffigur graddfeuol (scalic) yna’n cael ei glywed eto mewn dilyniant (gam yn is), sydd y tro hwn yn dirwyn ei ffordd i B♭ (y llywydd) ym mar 63. Uwchben pedal y llywydd yn y bas, yr utgyrn a’r tympanau, mae cyfeiriad byr at y testun cyntaf (ond yng nghywair y llywydd).

    Ai dyma ddechrau T2? Mae Haydn yn adnabyddus am gyflwyno T1 yng nghywair y llwydd ar ddechrau T2......

    Serch hynny, mae’n bosib gweld – bron yn syth – fod y cynnwys harmonig yn drawsgyweiriol o hyd. Ym mar 67, mae’r F♯ yn mynd â ni am ychydig i gywair G fwyaf ac mae dilyniad diddorol iawn o gordiau yn dilyn, gan orffen gyda’r gerddorfa gyfan yn chwarae cord 7fed cywasg uchel iawn ym mar 70:

  • Haydn: Symffoni Drum Roll Rhif 103 CBAC: Gwaith Gosod UG Nodiadau’r Athro

    Mae’r cord cywasg cryf a adeiladwyd ar yr E ♮ gan y sielo a’r bas yn tarddu o’r uwchdonydd B♭: mae’r dilyniad harmonig nesaf yn mynd â ni i gywair B♭ i baratoi ar gyfer y brif adran nesaf sef T2.

    Mae’r darn wedi’i seilio ar: ii (o) → V7 → I yn Bb fwyaf.

    Does dim amheuaeth – mae’r gerddoriaeth yn dal i deimlo’n fyrhoedlog. Mae’r hyn a allai fod wedi teimlo fel dechrau’r ail destun wedi gwibio heibio; ar ben hynny, nid yw’r barrau hyn yn ymddangos yn yr Ailddangosiad, sy’n ategu’r farn ein bod ni’n dal i fod yn yr adran bontio – ac nad ydym ni wedi cyrraedd T2.

    Bar 72: Mae cyfeiriad diddorol yma at y thema o’r Rhagarweiniad, ond mae hi wedi’i gweddnewid yn llwyr! Cymharwch farrau 73–78 â barrau agoriadol y Rhagarweiniad, gan nodi’r ffordd y mae syniadau’n cael eu trin, fel y defnydd o’r hanner tôn a’r motiff triadaidd:

    Sylwch hefyd ar nodau pedal y llywydd yn adran y chwythbrennau uchaf a’r adran bres ac ar nodau acennog y llywydd yn y tympanau. Mae’r adrannau’n gorffen gyda dilyniad diweddebol ii6/4 → V7 sy’n paratoi ar gyfer yr adran nesaf.

    Adran yr Ail Destun: T2 (Barrau 79–93)

    Mae cord y llywydd blaenorol yn adfer i gord I cywair y llywydd, sef B♭. Mae’r thema newydd hon yn cael ei chwarae gan yr obo a’r feiolin ac mae’n felodi disglair sy’n debyg i walts. O ran cymeriad, mae hi’n fwy telynegol, yn ôl y disgwyl – er, fel yn T1, ei fod yn cael ei chwarae mewn piano ac, yn ddiddorol, mae ei hyd hi eto yn 7 bar. Mae gweddill y llinynnau; yr ail feiolinau a’r

    Dyma’r syniad o farrau agoriadol y Rhagarweiniad wedi ei glywed mewn cywasgiad

  • Haydn: Symffoni Drum Roll Rhif 103 CBAC: Gwaith Gosod UG Nodiadau’r Athro

    fiolâu yn cyfeilio ac yn darparu cyfeiliant ‘oom-cha’, gyda bas pizzicato ar y prif guriadau. Mae’r gwead yn amlwg yn homoffonig ac mae’r harmoni’n cynnwys cordiau’r tonydd a chordiau’r llywydd yn y safle gwreiddiol.

    Bar 86: Mae’r ddiweddeb yn cael ei hestyn gan y gerddorfa (sylwch – mae rhannau unigol yn cael eu clywed gan y ffliwt, y basŵn, y corn a’r utgorn).

    Mae’r 7/8 bar olaf yn cael eu defnyddio fel codeta byr iawn.

    Mae’r rhythm grymus trawsacennog sy’n cael ei chwarae gan y feiolinau ym mar 87 yn ymddangos fel pe bai’n dwyn i gof yr un teimlad rhythmig â diwedd T1a ac â dechrau barrau 41 a 43, h.y. y patrwm ailadrodd 2 nodyn sy’n gorffen pob un o’r brawddegau byr yn T1. Mae rhythm T2b yn cael ei ddefnyddio’n helaeth yn y darn olaf hwn sy’n dod ag adran y Dangosiad i ben. Mae’n gorffen drwy ailadrodd pedair diweddeb berffaith yng nghywair B♭ –ac er ei fod yn nodweddiadol iawn o ‘arddull’ Clasurol cerddoriaeth, mae’r ffaith fod y feiolinau yn ailadrodd cyfwng yr hanner tôn yn teimlo’n gyfarwydd ac yn arbennig o addas!

    Mae adran y Dangosiad yn gorffen gydag ailadroddiad pedwar cord y tonydd B♭. Mae’r adran gyfan yna’n cael ei hailadrodd cyn symud ymlaen at adran y Datblygiad

    Adran y Datblygiad (Barrau 94–158)

    Mae Adran y Datblygiad yn datblygu ac yn archwilio’r deunydd thematig. Mae hi wedi’i rhannu yn brosesau at ddiben y dadansoddiad hwn. Mae hi’n adran hir, ac mae’n gywrain yn y ffordd mae’n gweithio’r deunydd, gan estyn deunydd y Dangosiad trwy’r defnydd polyffonig campus o fotiffau (oT1 yn bennaf) a thrwy arbrofi gyda nifer o gyweiriau.

    Proses 1 (Barrau 94–111)

    Bars 94–100: Mae hwn yn dechrau gyda datganiadau sy’n dynwared y testun cyntaf (gan y llinynnau yn unig i ddechrau) ac mae’r deunydd yn gweithio’i ffordd drwy E♭ fwyaf (bar 95), A♭ fwyaf (96) cyn cyrraedd F leiaf ym mar 97. Mae’r basŵn solo yn ein hatgoffa o’r ffigur 4 nodyn a gafodd ei ailadrodd yn flaenorol ar E♭, cyn pwysleisio’r motiff hanner tôn (ym mar 97, wrth i’r gerddoriaeth droi i F leiaf). Ym mar 99,mae pob un o’r rhannau llinynnol yn adleisio cyfwng yr hanner tôn (er ei fod yn disgyn). Mae ffigureiddio ailadroddus wedi’u seilio ar hwn (a T1) yn cael ei glywed gan y fiola o far 97 hyd at far 103 – er, o far 101, mae’r fiola’n canu’n ddigyfeiliant am 2½ bar. Mae hwn yn sicr yn ychwanegu cyffyrddiad diddorol yn nhermau cyferbyniad gwead!

    T2 ‘b’

  • Haydn: Symffoni Drum Roll Rhif 103 CBAC: Gwaith Gosod UG Nodiadau’r Athro

    Bars 103–111: Ar ail guriad bar 103, mae datganiad llawnach o T1 yn cael ei glywed gan y feiolin, ynghyd â’r patrwm trawsacennog sy’n ailadrodd y nodau yn y llinynnau isaf. Erbyn hyn, A♭ fwyaf yw’r cywair. Wrth i’r chwythbrennau uchaf ymuno â’r llinynnau yn y datganiad dynwaredol chwareus o T1b , mae’r gerddoriaeth yn adeiladu at uchafbwynt tutti yn C leiaf. Mae hwn yn cynnwys nifer o fotiffau cyfarwydd, cyn i’r darn orffen gyda diweddeb amherffaith a daliant ar ddiwedd y broses ym mar 112.

    Proses 2 (Barrau 111–142)

    Yna, mae cyfeiriad at y Rhagarweiniad yn cael ei glywed yn y llinynnau is, gan ddechrau yng nghywair y tonydd, E♭ fwyaf. Mae’n cael ei chwarae piano, ac mae’n cadw cymeriad llwm yr agoriad, er ei fod yn cael ei ganu yn y tempo cyflymach hwn.

    Bar 111: Mae’r bar hwn yn dechrau piano, yn isel yn y fiola a’r sielo. Mae’r ffigur yn symud i gyfeiliant cwaferi triadaidd sy’n cael ei ailadrodd. Mae’r feiolinau yn ymyrryd gan chwarae’r motiffau canlynol:

    Bar 1152–116: Mae’n parhau ar ffurf lleihad yn y gwead a gyda dim ond y llinynnau yn chwarae mewn arddull tebyg. Mae’r harmoni cywasg yn adfer i F leiaf, ac mae’r syniad yn cael ei ailadrodd cyn symud yn ôl i E♭ fwyaf erbyn bar 119. Wrth i’r ail feiolinau barhau i adleisio feiolin 1, mae’r gerddoriaeth yn adeiladu tuag at tutti forte arall yn dechrau yn C fwyaf ym mar 125. Mae hefyd yn defnyddio’r thema bontio (o feiolin 2, bar 47), ac mae hon nawr yn cael ei chlywed yn unsain ac yn forte yn nwy ran y feiolinau.

    Bar 127–128: Mae’r rhythm cwaferi 2 nodyn yn rhagori yma, gan adleisio’r syniad yn nau nodyn cyntaf T1 (cf. barrau 51 ymlaen yn yr adran bontio). Mae’r ddau far hyn wedi’u seilio ar lywydd (7) F leiaf (gyda 7fed cywasg wedi’i ychwanegu yn 1262).

    Bars 129–130: Mae’r broses hon yn gorffen gyda nodyn atgoffa tawel a byr o T1a yn y llinynnau uchaf, wedi’i osod yn erbyn y ffigur sy’n cael ei glywed mewn gwrthdro yn y sielo a’r bas. Yn ddiddorol, mae’r frawddeg yn cael ei hailadrodd gyda’r basŵn yn canu’r patrwm isel ar yr un pryd â’r llinynnau uchaf. Mae hwn yn cael ei ddilyn gan ddaliant arall.

    Sylwch fod feiolin 1 yn canu islaw feiolin 2

  • Haydn: Symffoni Drum Roll Rhif 103 CBAC: Gwaith Gosod UG Nodiadau’r Athro

    Bars 131–143: Nawr, mae’r un ffigureiddio’n parhau. Mae’n cael ei ailadrodd dros V7 yn D♭ leiaf, gyda’r fiola, sielo a’r basŵn yn adleisio T1a uwchben pedal y llywydd sy’n cael ei ddal gan y bas dwbl. Mae’r cord hwn yn cael ei gynnal gan fasŵn unigol a feiolinau a feiolau ym mar 134, tra mae’r sielo yn dal sylw yn yr un ffordd â rhan y fiola ym mar 101, cyn iddo lithro i fyny yn y bas ym mar 136 i gyrraedd B♭.

    Bar 136: Y dilyniad harmonig yma yw I64 → V → 1 wrth iddo gefnogi T1a mewn trydyddau yn yr oboi, wedi’i adleisio gan y cyrn (piano). Yn dilyn adferiad y ddiweddeb berffaith ym mar 139, mae’r clarinetau a’r llinynnau uchaf yn cipio’r motiff.

    Yna, mae’r un ffigur yn cael ei chwarae gan y chwythbrennau yn C leiaf ym mar 140, A♭ fwyaf ym mar 141 ac yn ôl i F leiaf yn y llinynnau uchaf ym mar 142.

    Proses 3 (Barrau 143–158)

    Bar 143: Mae’r broses hon yn ymdrin â datblygiad T2 yn bennaf. Sylwch ar y pethau canlynol:

    • Y symudiad i D♭ fwyaf – ar y ffurf cywair pell yn yr achos hwn. (Wedi dweud hynny, heb y symudiad sydyn yn ôl i F leiaf yn y bar blaenorol, byddai’r gerddoriaeth wedi symud ymlaen yn hwylus o far 141, gan y byddai A♭ wedi paratoi ar gyfer y llywydd. Mae’r harmoni yn F leiaf ym mar 14 yn tarfu braidd ar y broses hon.)

    • Yn amlwg wedi’i seilio ar farrau 79–86.

    • Y dynwarediad yn y ffliwt, un bar yn ddiweddarach ym mar 144, sydd 3ydd yn uwch ac uwchben harmoni 7fed y llywydd (D♭ fwyaf).

    • Mae’r oboi – mewn 3yddau – yn adleisio’r syniad o ddisgyn a geir yn ail far T2 (h.y. 145), ond mewn estyniad.

    • Mae’r baswnau (yn uchel yng nghleff y tenor) yn darparu rhywbeth sy’n ein hatgoffa’n dawel o’r ffigur hanner tôn, ac ym mar 16 mae’r baswnau yn chwarae’r ffigur yn lle’r feiolinau (cf. bar 111).

    Barrau 146–158: Mae’r frawddeg 4 bar hwn yn dechrau fel pe bai am ailadrodd, ond mae symudiad ar ail guriad bar 149, gyda chord 7fed B♭ tutti, forte sydyn. Mae hyn yn bwysig oherwydd dyma 7fed y llywydd yn y cywair gwreiddiol, sef E♭ fwyaf. Mae hi’n newid cynnil o’r cord blaenorol yn D♭, oherwydd mae gan y cordiau dri nodyn yn gyffredin:

    Bar 149Cord D♭ Cord B♭ 7

    Db, F, Ab B♭, D, F, Ab

  • Haydn: Symffoni Drum Roll Rhif 103 CBAC: Gwaith Gosod UG Nodiadau’r Athro

    Ym mar 150, mae’r gerddoriaeth yn newid i E♭ – ond yn y modd lleiaf a gyda dynamig piano i adlewyrchu hyn ! Fodd bynnag, mae’r ddynameg yn adeiladu’n gyflym (wedi’i seilio o hyd ar gynnwys T2), ac mae’r dilyniad harmonig yn symud trwy’r cordiau canlynol cyn cyrraedd yn ôl ar 7fed cryf y llywydd yn E♭ fwyaf:

    Barrau 150 151 152 153 154 155 156 157/8Cordiau E♭m → C Fm → C43 F63 B♭42 →E♭63 B♭65 → E♭ F65 B♭ B♭7

    Mae daliant arall yn dilyn ... paratoad a rhagdrawiad amlwg ar gyfer dychweliad cywair y tonydd a’r adran agoriadol.

    Adran yr Ailddangosiad (Barrau 159–200)

    Mae’r Ailddangosiad yn ‘ailddangos ac yn ein hatgoffa’ o’r deunydd thematig gwreiddiol.

    Adran Testun 1 (Barrau 159–165)

    Mae T1 yn y cywair gwreiddiol, E♭ fwyaf. Barrau 159–165 = barrau 40–46.

    Adran bontio (Barrau 166–178)

    Yn ôl yr arfer, ar y pwynt hwn yn ffurf y sonata, rydym yn disgwyl i’r Adran bontio arwain at T2 am y tro cyntaf yng nghywair y tonydd.

    Mae’r adran hon yn dechrau yn yr un ffordd yn union ag y gwnaeth yn y Dangosiad, h.y. barrau 166–173 = barrau 47–56. Wedi dweud hynny, mae’n newid ym mar 176 er mwyn aros yng nghywair y tonydd. Dim ond 4 bar sydd nes i ni gyrraedd yr ail destun. Yn y Dangosiad, roedd 22 bar arall ar y pwynt hwn! Ym mar 177 sylwch ar bresenoldeb S2b cyn y dilyniad diweddebol 6/4 yn E♭ fwyaf.

    Adran Testun 2 (barrau 179–200)

    Mae T2 erbyn hyn yng nghywair y tonydd, E♭ fwyaf. (Sylwch ar alwad rymus y corn yng nghanol y gwead, sy’n darogan y deunydd a fydd yn dechrau’r finale yn nes ymlaen.) Mae’r gerddoriaeth yn parhau yn ôl y disgwyl, gan adeiladu at tutti ff ym mar 188. Erbyn hyn, mae’r gerddoriaeth yng nghywair A♭ fwyaf ac mae dau far yn cael eu clywed dros y pedal ar A♭ a llinynnau hanner cwafer mynych, cyn tawelu’n sydyn (decrescendo). Mae’r frawddeg hon yn cael ei chlywed ddwywaith eto – ym marrau 190 a 192 (gyda’r un ddynameg effeithiol) – ond gan ddechrau’n fwy angerddol ar gord A♭ leiaf.

    Barrau 194–1971: Mae cordiau forte (cordiau B♭ 7fed y llywydd mewn ail wrthdro, h.y. cordiau 4/3) yn cael eu clywed ar ffurf y patrwm 2 nodyn acennog a welwyd ym marrau 127128. Serch hynny, yma, mae rhan feiolin 1 yn symud i fyny, gan esgyn ar draws nodau cord y llywydd, er eu bod yn neidio bob tro i nodyn sydd hanner tôn yn uwch cyn adfer tuag i mewn:

  • Haydn: Symffoni Drum Roll Rhif 103 CBAC: Gwaith Gosod UG Nodiadau’r Athro

    Mae dau far terfynol y syniad dramatig hwn yn cael eu canu’n dawel ac ar eu pen eu hunain gan feiolin 1.Mae’r darn yn gorffen gyda llinynnau a chlarinét solo yn cyfuno i adfer i gord 7fed cywasg sy’n cael ei ddal ym mar 100.

    Coda (Barrau 201–228)

    Nid yw’r codeta byr wnaeth gwblhau adran y Dangosiad yn ddigonol i Haydn yma! Mae casgliad y symudiad hwn yn anarferol ac yn greadigol a dweud y lleiaf. Er bod cyfansoddwyr diweddarach megis Beethoven a Franck wedi dilyn yr un math o drefn, buasai’n hynod o anarferol ar y pryd – ond mae’n debyg y byddai hi wedi bod wrth fodd ei wrandawyr yn Llundain yn y perfformiad cyntaf. (Efallai mai ei fwriad i ddarparu Coda mor ddiddorol i ni oedd y rheswm pam roedd y codeta mor fyr yn y Dangosiad.)

    Mae’r bwrlwm drwm agoriadol yn ailymddangos yn ddramatig, wedi ei ddilyn gan 12 bar cyntaf y Rhagarweiniad ar eu cyflymder gwreiddiol.

    Barrau 201–205 = barrau 1–5,ond gan ychwanegu’r fiola.

    Barrau 206–207 = barrau 6–7, ond gan ychwanegu clarinetau, cyrn a’r llinynnau uchaf. Mae’r trefniant cerddorfaol llawnach yn ychwanegu dyfnder i roi pwyslais ar y ddiweddeb berffaith i B♭ fwyaf, ond piano yw’r ddynameg o hyd.

    Barrau 208–213 = barrau 8–13, ond gydag offerynnau ychwanegol (fel uchod).

    Fel ar ddiwedd adran y Rhagarweiniad, mae’r darn hwn yn gorffen gyda diweddeb berffaith yn ôl yng nghywair y tonydd. Fodd bynnag, y tro hwn, wrth i gord y llywydd (bar 213) adfer i gord y tonydd yn E♭ fwyaf, mae difrifoldeb y Rhagarweiniad yn ’cael ei ddisodli gan chwerthin’, wrth i ddarn forte bywiog gychwyn.

  • Haydn: Symffoni Drum Roll Rhif 103 CBAC: Gwaith Gosod UG Nodiadau’r Athro

    Barrau 213–228 – sylwch ar:

    • Dychwelyd i fydr 6/8, ac wedi’i chwarae yn forte.

    • Dechrau gyda deunydd thematig y Rhagarweiniad sy’n cael ei glywed mewn cywasgiad.

    • Symudiad unsain cryf yn y llinynnau a’r basŵn unigol uwchben pedal y tonydd wedi’i ddal mewn rhannau eraill, ac uwchben bwrlwm tympanau ar E♭.

    • Cyfeiriad at T1 yn cael ei glywed ‘mewn arddull ffanffer’ yn y cyrn ym mar 219 (ac yna’n cael ei ddynwared gan y chwythbrennau a’r llinynnau).

    • T2 yn cael ei glywed yn y bas ym mar 222, yng nghwmni patrwm trawsacennog yn y feiolinau yn debyg i’r hyn sydd ym marrau 195/6.

    • Bar 225 – mae’r bas yn rhan olaf y bar yn rhoi cipolwg o ostyngiad hanner tôn arall (nodyn tonnog isel Aª), a thrwy wneud hynny, mae’n symud am ennyd i (donyddeiddio) B♭ cyn gorffen yn E♭.

    • Mae’r symudiad yn gorffen gyda thair diweddeb berffaith yn E♭, gyda chord y tonydd yn cael ei ailadrodd dwywaith yn rhagor er mwyn cloi’r symudiad.

    Mae’r nodiadau canlynol yn cyfeirio at daflenni gwaith y myfyrwyr.

    GweithgareddauA

    Mae hi’n hynod o bwysig bod myfyrwyr yn sylweddoli mai dim ond drwy werthfawrogi’r deunydd cerddorol yn ofalus a deall sut y mae hi wedi’i threfnu o fewn ffurf y sonata y byddant yn deall adeiledd y symudiad cyntaf. Bydd cyfeirio’n gyson at y sgôr, rhifau’r barrau a nodi themâu arwyddocaol a’r ffordd y maent yn cael eu cyflwyno, eu datblygu a’u hailadrodd o fewn adeiledd y cywair gosod, yn atgyfnerthu eu dealltwriaeth.

    Mae’r tasgau estynedig ar gyfer ystyriaeth bellach yn rhoi cyfle i ddisgyblion i baratoi ymatebion ysgrifenedig manwl sy’n gofyn am ddealltwriaeth ddwfn o’r elfennau cerddorol, y cyd-destun a’r iaith.

    B

    Mae gwybodaeth am adeiledd cyffredinol cywair y darn yn hanfodol. Mae’r gweithgaredd hwn wedi’i lunio i annog dealltwriaeth ofalus o rai o agweddau cyffredinol cyweiredd adran y Dangosiad. Gellir mabwysiadu dulliau tebyg gyda’r adrannau eraill yn y symudiad. Mae’n rhaid annog disgyblion i weithio’n agos gyda’r sgôr; gan ddod o hyd i’r cyweiriau ac unrhyw newidiadau ar eu pennau eu hunain.

  • Haydn: Symffoni Drum Roll Rhif 103 CBAC: Gwaith Gosod UG Nodiadau’r Athro

    C

    Yma, y nod yw eglurhau peth terminoleg; ac i enwi’r mathau o wead sy’ n cael eu defnyddio yn symudiad cyntaf Symffoni Drum Roll. Bydd y gwaith ymchwil sy’n cael ei awgrymu ar gyfer ystyriaeth bellach yn help wrth ehangu dealltwriaeth. Dylid annog disgyblion hefyd i gyflwyno rhai o’u syniadau cyfansoddi gan ddefnyddio gwahanol weadau.

    CH

    Mae’r gweithgaredd hwn yn cadarnhau adeiledd cyffredinol symudiad 1, gan roi ei themâu o fewn yr adeiledd cydnabyddedig. Mae rhai troeon annisgwyl diddorol yn hyn o beth (fel sy’n cael ei awgrymu yn y dasg a amlinellir ar gyfer ystyriaeth bellach).

    D

    Mae’r gweithgaredd hwn yn dilyn y dasg flaenorol, oherwydd bydd y disgyblion yn elwa o adnabod nodweddion cerddorol hanfodol a nodweddiadol pob thema. Dylid eu cynghori i ddilyn trywydd cyflwyno a datblygu’r deunydd/themâu cychwynnol drwy gydol y symudiad, gan nodi unrhyw wahaniaethau neu bethau sy’n debyg a datblygiadau yn y defnydd o elfennau cerddorol.

    Ar ben hynny, gan gyfeirio at y dyfeisiadau datblygiadol sy’n amlwg yn y symudiad, byddai’n arfer da i nodi cynifer â phosibl ar eu sgôr personol. Bydd dealltwriaeth dda o’r agwedd hon yn annog cynnwys tebyg yn eu cyfansoddiadau nhw.

    DD

    Mae gallu adnabod diweddebau amrywiol (mewn cyweiriau gwahanol) yn hanfodol o ran deall adeiledd y cyfan. Mae gwerthfawrogi’r prif ddiweddebau yn help i wybod pryd maen nhw wedi’u cynnwys a beth yw eu swyddogaeth. Byddai gwaith pâr/unigol yn mapio’r dilyniadau diweddebol yn fanteisiol, ynghyd ag awgrymu dilyn yr un arfer yn eu gwaith cyfansoddi sy’n adlewyrchu’r Traddodiad Clasurol Gorllewinol.

    E

    Mae hwn yn rhoi peth gwybodaeth am theori cordiau. Fel gyda diweddebau, mae’n rhaid i fyfyrwyr allu adnabod a defnyddio amrywiaeth o gordiau mewn safleoedd gwahanol, yn eu gwaith ysgrifenedig a chlywedol. Mae’r gweithgaredd yn annog disgyblion i enwi cordiau yn y sgôr ac i werthfawrogi sut mae cord yn cael ei ffurfio.

    F

    Mae’r dasg hon yn cynnig cyfle i’r dysgwyr ystyried rhai o nodweddion offerynnol y symudiad, ac mae rhai cyfeiriadau at derminoleg ac arwyddion, symbolau a chyfarwyddiadau perfformio.