hamdden, teithio a thwristiaeth · hamdden, teithio a thwristiaeth pum tgau ar radd c neu’n uwch...

8
Gwybodaeth am y Cwrs Hamdden, Teithio a Thwristiaeth

Upload: others

Post on 25-Jan-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Gwybodaeth am y Cwrs

    Hamdden, Teithio a Thwristiaeth

  • HeloDiolch am ystyried Coleg Sir Benfro.

    Yma fe welwch bopeth am ein rhaglen Hamdden, Teithio a Thwristiaeth NEWYDD.

    Ein cyrsiau

    Yn yr adran hon byddwch yn darganfod mwy am y cyrsiau sydd

    ar gael a’r gofynion mynediad.

    Lefel 3Hamdden, Teithio a ThwristiaethPum TGAU ar radd C neu’n uwch (gall gynnwys 1 cyfwerth perthnasol) i gynnwys Iaith Saesneg neu Iaith Gyntaf Cymraeg a Mathemateg neu Rhifedd.

    Mae hwn yn gwrs newydd a chyffrous ar gyfer Medi 2020.

    Fe’i datblygwyd mewn partneriaeth â chyflogwyr lleol a’i nod yw darparu dysgwyr â’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn y diwydiant byd-eang hwn.

  • CefndirFel un o’r diwydiannau mwyaf poblogaidd ar draws y byd, gan gyflogi miliynau o bobl ledled y byd, mae twristiaeth yn sector cyffrous, ac yn tyfu’n gyflym. Gall yr hyfforddiant sydd gennym i’w gynnig arwain at gyfleoedd gyrfa rhagorol yn lleol ac yn fyd-eang.

    CyfleusterauBydd gan ddysgwyr fynediad i holl gyfleusterau’r Coleg gan gynnwys ystafelloedd TG, ac ystafelloedd dosbarth o’r radd flaenaf. Bydd dysgwyr hefyd yn cael eu hannog i gael mynediad i’r Biwro Cyflogaeth i ddod o hyd i leoliadau gwaith addas a chyflogaeth ran-amser yn y sector i hybu eu CVs.

    Darlithoedd GwaddRydym yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr lleol a gweithwyr proffesiynol y diwydiant i ddangos i’r dysgwyr yr ystod lawn o gyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant byd-eang hwn. Mae gennym berthnasoedd cryf â gwestai lleol ac atyniadau i dwristiaid yn ogystal â’r prifysgolion lleol. Trwy gydol y cwrs trefnir amrywiaeth o deithiau ac ymweliadau i helpu dysgwyr i ganfod pa elfen o hamdden, teithio a thwristiaeth yr hoffent ei ddilyn fel gyrfa yn y dyfodol.

    Cyrchfan TwristiaethYn ogystal â’r brif raglen bydd dysgwyr yn dilyn rhaglen gyrchfan a all gynnwys:

    • Siaradwyr gwadd• Ymweliadau yn y gweithle• Profiadau ymarferol• Prosiect Estynedig a all ddarparu pwyntiau UCAS

    ychwanegol ar gyfer mynediad i’r brifysgol

    Ynglŷn â’r cwrsMae gennym rai o’r darlithwyr a’r cyfleusterau dysgu gorau yn Sir Benfro.

    Yma fe welwch ychydig mwy am y cwrs a’r cyfleusterau.

  • Cyfathrebu a gwaith tîm

    Gwasanaeth cwsmer

    Datrys problemau

    Sgiliau cyflwyno

    Sgiliau a ddysgwchDyma rai o’r sgiliau allweddol y gallwch chi ddisgwyl eu dysgu wrth

    astudio ar y cwrs hwn.

    Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol

    Mae’r holl bynciau craidd hyn wedi’u hymgorffori ym mhob

    sesiwn addysgu.

  • Rheolwr Twristiaeth AnturCriw Caban AwyrCynorthwyydd Gwybodaeth Cwmni HedfanConciergeRheolwr Canolfan GynadleddaStiward Llong MordeithioCyfarwyddwr MordeithioRheolwr Gwasanaeth CwsmerCydlynydd AdloniantRheolwr DigwyddiadRheolwr Gwasanaethau GwesteionSwyddog TreftadaethGwesteiwrRheolwr GwestyDerbynnydd GwestyRheolwr Twristiaeth RhyngwladolAchubwr BywydCynorthwyydd AmgueddfaRheolwr DerbynRheolwr CyrchfanGweithredwr GwerthiantRheolwr Cyrchfan SgïoRheolwr TaithSwyddog TwristiaethTywysydd TwristiaidAsiant TeithioRheolwr Atyniad Ymwelwyr

    Hyfforddwr GyrfaDefnyddiwch yr offeryn Hyfforddwr Gyrfa ar ein gwefan i ddarganfod mwy am y

    gyrfaoedd sydd ar gael a’r potensial i ennill: pembrokeshire.emsicc.com

    £££Dyma rai cyflogau cyfartalog y diwydiant twristiaeth:Asiant Teithio £17,077Derbynnydd £19,563Stiward Mordaith £20,519Cynorthwyydd Teithio Awyr £21,029Criw Caban £22,449Rheolwr Digwyddiadau £25,917Rheolwr Derbynfa £27,712Rheolwr Gwasanaeth Cwsmer £27,873Rheolwr Twristiaeth £29,000Rheolwr Gwesty £30,028Ffynhonnell: EMSI

    Beth yw gyrfaoedd y dyfodol?Am wybod beth allech chi symud ymlaen iddo?

    Dyma ychydig o’r posibiliadau.

  • Dilyniant Prifysgol:

    Prifysgol Cymru’r Drindod Dewi SantRheoli Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol

    Prifysgol AbertaweRheoli Twristiaeth Ryngwladol

    Prifysgol Metropolitan CaerdyddTwristiaeth Rheoli Lletygarwch a DigwyddiadauRheoli Twristiaeth Ryngwladol

    Prifysgol BrysteRheoli Twristiaeth

    Ynghyd â llawer mwy o gyrsiau mewn prifysgolion ledled y DU

    Ble alla i fynd nesaf?Yn yr adran hon byddwch yn darganfod beth y gallech symud ymlaen iddo ar

    ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

    Gallai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus naill ai arwain yn uniongyrchol i gyflogaeth neu ymlaen i un o’r rhaglenni gradd canlynol (yn amodol ar y pwyntiau UCAS angenrheidiol).

  • Dylech geisio prynu unrhyw git neu wisg cyn dechrau’r tymor. Anfonir pecyn atoch sy’n cynnwys manylion unrhyw beth y mae angen i chi ei brynu.

    Sicrhewch fod gennych agwedd ‘gallu gwneud’. Mae angen i chi fod yn barod i weithio’n galed ac i gyrraedd yn barod ar gyfer eich sesiynau.

    Gwyliwch glipiau YouTube neu raglenni dogfen sy’n berthnasol i’r diwydiant teithio.

    Defnyddiwch yr offeryn Hyfforddwr Gyrfa ar ein gwefan i ddarganfod mwy am y gyrfaoedd sydd ar gael a’r potensial ennill: pembrokeshire.emsicc.com

    Os ydych chi eisoes ar gwrs yn y Coleg, rhaid i chi orffen y cwrs hwn cyn y gallwch chi symud i gwrs newydd.

    Paratowch ar gyfer y ColegDarllenwch yr adran hon i ddarganfod a oes unrhyw beth y gallwch chi fod yn

    ei wneud nawr i’ch paratoi ar gyfer astudio yn y Coleg.

  • Esbonio LefelauLefel Mynediad a Lefel 1Mae ein cyrsiau Lefel 1 a Lefel Mynediad yn addas ar gyfer ychydig o gymwysterau ffurfiol sydd gennych. Os na chewch y graddau TGAU yr oeddech wedi gobeithio amdanynt, yna gallwch ddechrau ar Lefel Mynediad a gweithio’ch ffordd i fyny.

    Lefel 2Mae’r rhan fwyaf o’n cyrsiau Lefel 2 yn gofyn bod gennych raddau D TGAU ac mae rhai hyd yn oed yn gofyn eich bod wedi cyflawni graddau C mewn rhai pynciau. Mae’r gofynion mynediad ar gyfer pob cwrs yn amrywio felly edrychwch ar y wefan cyn gwneud cais.

    Lefel 3Os oes gennych bum TGAU ar radd C neu’n uwch (efallai y bydd rhai cyrsiau’n gofyn eich bod wedi cyflawni graddau B mewn rhai pynciau) gallwch fynd yn syth i mewn ar Lefel 3 (sy’n cyfateb i astudio Lefel A).

    Sut i wneud cais1. Ewch i’n gwefan, dewiswch eich cwrs a gwnewch gais ar-lein

    Bydd angen i chi greu cyfrif a bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i’ch diweddaru ar hynt eich cais. Os oes angen unrhyw help arnoch gyda’ch cais, cysylltwch â’n tîm Derbyniadau: [email protected]

    2. CyfweliadAr ôl i ni dderbyn eich cais byddem fel arfer yn eich gwahodd i’r Coleg am gyfweliad. O ystyried yr amgylchiadau presennol, efallai y cewch eich gwahodd i gyfweliad rhithwir yn lle.

    3. CynnigOs ydym yn hapus â’ch cais a’ch cyfweliad byddwn yn gwneud cynnig amodol i chi. Bydd eich lle yn amodol ar gael y graddau TGAU angenrheidiol.

    4. DiweddariadauByddwn yn anfon e-byst atoch rhwng nawr a mis Medi i roi gwybod i chi nad ydym wedi anghofio amdanoch chi!

    5. CofrestruFe’ch gwahoddir i ddiwrnod cofrestru ym mis Awst lle byddwn yn gwirio’ch graddau ac yn eich cofrestru ar eich cwrs. Os na chewch eich graddau, peidiwch â phoeni, bydd ein tîm Cyngor ac Arweiniad yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i ddewis arall addas.

    Mwy o wybodaethMae’r adran hon yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth gyffredinol am y Coleg y

    credwn y gallai fod yn ddefnyddiol i chi.Cofiwch ein bod yn dal ar agor a gallwch gysylltu â ni unrhyw bryd:

    [email protected]