grant cystadleuol 2016 canllawiau rhan 11.5 faint ellir ymgeisio amdano? 1.6 a yw’n bosibl...

12
Grant Cystadleuol 2016 Canllawiau Rhan 1 Cwmpas y grant cystadleuol a sut i gwblhau’r ffurflen gais

Upload: others

Post on 12-Feb-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Grant Cystadleuol 2016 Canllawiau Rhan 11.5 Faint ellir ymgeisio amdano? 1.6 A yw’n bosibl ymgeisio am arian ar gyfer mwy nag un flwyddyn? 1.7 Faint o fanylion sydd eu hangen ar

Grant Cystadleuol

2016

Canllawiau – Rhan 1 Cwmpas y grant cystadleuol a sut i gwblhau’r ffurflen gais

Page 2: Grant Cystadleuol 2016 Canllawiau Rhan 11.5 Faint ellir ymgeisio amdano? 1.6 A yw’n bosibl ymgeisio am arian ar gyfer mwy nag un flwyddyn? 1.7 Faint o fanylion sydd eu hangen ar

Fersiwn2, Gorffennaf 16, 2015

2

Cynnwys 1.Trosolwg 1.1 Pwy all ymgeisio? 1.2 Beth yw’r themâu ar gyfer ariannu? 1.2.1 Nod A 1.2.2 Nod B 1.3 Sut y bydd ceisiadau’n cael eu hasesu? 1.4 Beth yw’r gyfradd ymyrraeth? 1.5 Faint ellir ymgeisio amdano? 1.6 A yw’n bosibl ymgeisio am arian ar gyfer mwy nag un flwyddyn? 1.7 Faint o fanylion sydd eu hangen ar ffurflen gais? 1.7.1 Llai na £50,000 1.7.2 Rhwng £50,000 a £100,000 1.7.3 Mwy na £100,000 1.7.4 Cofiwch 1.7.5 Bydd anghyflawnder neu amwyster yn gwneud drwg i asesiad eich prosiect 1.8 Beth fyddwn ni’n ei ariannu? 1.9 Oes gynnych unrhyw gwestiynau 2. Cwblhau’r Ffurflen Gais Rhan A – Teitl y Prosiect Rhan B – Manylion Sefydliadol Rhan C – Manylion y Prosiect Rhan D – Manylion Ariannol – Gweler Rhan 2 – Canllawiau Ariannol Rhan E - Datganiad Gweler Rhan 3 – Meini Prawf Cwmpasu `

Page 3: Grant Cystadleuol 2016 Canllawiau Rhan 11.5 Faint ellir ymgeisio amdano? 1.6 A yw’n bosibl ymgeisio am arian ar gyfer mwy nag un flwyddyn? 1.7 Faint o fanylion sydd eu hangen ar

Fersiwn2, Gorffennaf 16, 2015

3

1. Trosolwg 1.1 Pwy all ymgeisio? Cyfyngir ail rownd y Gronfa Gystadleuol i brosiectau'n cael eu harwain gan sefydliadau’r trydydd sector ac awdurdodau lleol. 1.2 Beth yw’r themâu ar gyfer ariannu? Seilir ariannu ar gyfer y rownd hon ar yr y nod o Reoli Adnoddau Naturiol, hynny yw, rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac yn y fath fodd ac ar raddfa a all gynnal a gwella gwytnwch ein hecosystemau ac, yr un pryd, gynnal anghenion cenedlaethau'r presennol heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i gyfarfod â'u hanghenion. Canolbwyntir ar rwydwaith o safleoedd dynodedig Natura 2000 yng Nghymru (Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig). Mae hyn er mwyn helpu i gyflawni cyfrifoldebau cyfreithiol Cymru o dan y Gyfarwyddeb Adar a'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd Ewropeaidd. Yr un pryd, mae’n ceisio cyfuno’r gwaith cadwraeth hwn gyda buddion eraill, cymdeithasol ac economaidd (Nod B) sy’n cael eu hamlygu fel rhai pwysig yng Nghynllun Corfforaethol Cyfoeth Naturiol Cymru https://naturalresources.wales/media/3305/cynllun-corfforaethol-2014-17.pdf Cofiwch bod yn rhaid i bob prosiect cynnwys Nod A ac Nod B 1.2.1 Nod A Gwella statws cadwriaethol cynefinoedd a rhywogaethau dynodedig ar y safleoedd Natura (Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig) hynny sy'n cael eu rheoli gan awdurdodau cyhoeddus neu gan sectorau'r trydydd sector yng Nghymru drwy daclo un neu ragor o’r pum mater isod: Y pum mater a ddewiswyd ar gyfer y rownd ymgeisio hon:- A1 – Drwg effeithiau mynediad a hamdden

A2 - Colli a darnio cynefinoedd

A3 - Rhywogaethau goresgynnol

A4 – Ysbwriel morol

A5 – Rheolaeth amhriodol/ anaddas o goetiroedd

Er mwyn gweld pa waith sy’n gymwys i dderbyn cymorth, dylech edrych ar y Tabl Basdata Gweithrediadau (Actions Database Table) sydd ar y wefan a hefyd ar yr wybodaeth arall

Page 4: Grant Cystadleuol 2016 Canllawiau Rhan 11.5 Faint ellir ymgeisio amdano? 1.6 A yw’n bosibl ymgeisio am arian ar gyfer mwy nag un flwyddyn? 1.7 Faint o fanylion sydd eu hangen ar

Fersiwn2, Gorffennaf 16, 2015

4

sydd ar gael ynghylch y Gronfa Gystadleuol. Mae’r rhain yn cynnwys rhestr o weithrediadau â blaenoriaeth Uchel a Chanolig y mae Cyfoeth Naturiol Cymru a’i bartneriaid yn ystyried sydd ei angen ar safleoedd Natura 200 unigol i dalu sylw i’r materion a restrir. Dylech edrych ar y tabl i ganfod, fel y cam cyntaf, y materion a’r gweithrediadau a fyddai o ddiddordeb i’ch sefydliad chi. Fel ail gam, dylech baratoi prosiect a fyddai’n talu sylw i’r materion hynny ac yn cyflawni’r gweithrediadau, gan anelu at ddatrys y mater yn llwyr neu wneud cyfraniad pwysig at hynny. Ni fydd gwaith a fydd yn cynnwys dim ond cynnal a chadw neu reolaeth arferol yn ddigon i ateb y gofyn. Rydym yn awgrymu y dylech gyflwyno un cais am bob safle, oni bai y gallwch ddangos y byddai gweithgaredd ar draws mwy nag un safle yn fwy cyflawn fel prosiect unigol. 1.2.2 Nod B Annog defnyddio ein hamgylchedd a’n hadnoddau naturiol i wella iechyd,

lles ac amgylchiadau lleol pobl a chefnogi adfywio cymunedol a lleihau tlodi.

Mae potensial mawr i ddefnyddio ein hamgylchedd a’n hadnoddau naturiol i wella iechyd, lles ac amgylchiadau lleol pobl a chefnogi adfywio cymunedol a lleihau tlodi. Pan fydd pobl yn cysylltu â'u mannau gwyrdd neu las lleol, a phan fydd y mannau hynny yn cael eu cyfuno’n llawn yn yr amgylchedd adeiliedig, mae hynny o fantais uniongyrchol i bobl, bywyd gwyllt ac chynefinoedd. Gall mannau gwyrdd a glas helpu i ffurfio cydlyniad cymdeithasol, creu cyfleoedd i ddatblygu a dysgu sgiliau a helpu i leihau effeithiau newid hinsawdd, llifogydd a llygredd aer. Yn y rownd hon, rydym yn dymuno cefnogi prosiectau a fydd o fantais i Fiamrwyiaeth a phobl / cymunedau. Y pedwar budd a ddewiswyd ar gyfer y rownd ymgeisio hon:-

B1 – Cynyddu dealltwriaeth, a gofal, y cyhoedd o adnoddau naturiol – gan arwain at newid ymddygiad ac at ffyrdd mwy cynaliadwy o fyw

B2 – Gwella tegwch cymdeithasol a chydlyniad pobl a chymunedau

B 3 – Gwella iechyd, lles a gwytnwch pobl a chymunedau

B4 – Cynyddu buddion economaidd i bobl a chymunedau – lleihau lefelau tlodi

Cofiwch na fyddwn yn derbyn prosiectau sy’n talu sylw i ddim ond un o’r Nodau hyn. Mae’n rhaid i chi i dalu sylw i o leiaf un o'r materion A1 - A5 AC i o leiaf un o'r buddion B1 - B4.

Page 5: Grant Cystadleuol 2016 Canllawiau Rhan 11.5 Faint ellir ymgeisio amdano? 1.6 A yw’n bosibl ymgeisio am arian ar gyfer mwy nag un flwyddyn? 1.7 Faint o fanylion sydd eu hangen ar

Fersiwn2, Gorffennaf 16, 2015

5

1.3 Sut y bydd ceisiadau’n cael eu hasesu? Dangosir y meini prawf ar gyfer asesu ceisiadau yn Rhan 3 y Canllawiau. Mae’r rhain yn cynnwys cyweddu strategaethol, dichonoldeb a chyllid a materion eraill, cysylltiol. Bydd yr asesiad yn cael ei gynnal gan dȋm o staff arbenigol ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd yn rhaid i bob aelod o'r panelau asesu ddatgan unrhyw wrthdrawiad buddiannau. Byddwn yn defnyddio system sgorio gonsensws. Bydd y ceisiadau'n cael eu rhannu i dri chategori, y rhai gyda chyfanswm gwerth o lai na £50,000, y rhai gyda chyfanswm gwerth o rhwng £50,000 a £100,000 a rhai gyda chyfanswm gwerth o fwy na £100,000. Bydd pob un o’r tri chategori yn cael eu hasesu mewn ffordd wahanol, ni fyddwn yn disgwyl i geisiadau gyda chyfanswm gwerth o lai na £50,000 fod mor fanwl a chynhwysfawr â’r rhai’n gofyn am fwy na £100,000. 1.4 Beth yw’r gyfradd ymyrraeth? Dim ond cyfradd ymyrraeth o 50% y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu ei gynnig. Golyga hynny y bydd yn rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus ganfod 50% o arian cyfatebol ar gyfer costau’r prosiect. 1.5: Faint ellir ymgeisio amdano? Ni fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnig llai na £10,000 o arian, felly y lleiaf y gall prosiect gostio yw £20,000. 1.6 A yw'n bosibl ymgeisio am arian ar gyfer mwy nag un flwyddyn? Ydyw, mae’n bosibl ymgeisio am un flwyddyn neu am ddwy flynedd. Felly, byddai prosiectau'n cychwyn fis Ebrill 2016 ac yn dod i ben fis Rhagfyr 2017 yn gymwys. Y dyddiad olaf posibl ar gyfer gorffen prosiect yw mis Rhagfyr 2017 er mwyn sicrhau y bydd y taliad olaf wedi’i brosesu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol (Mawrth 2018). 1.7 Faint o fanylion sydd eu hangen ar ffurflen gais? Bydd faint o fanylion a ddisgwylir yn dibynnu ar raddfa’r prosiect ond mae’n rhaid i chi ateb pob cwestiwn. 1.7.1 Llai na £50,000 Ar gyfer prosiectau o dan £50,000 (cyfanswm costau prosiect) byddwn yn fodlon â haeriadau yn seiliedig ar eich profiad.

Page 6: Grant Cystadleuol 2016 Canllawiau Rhan 11.5 Faint ellir ymgeisio amdano? 1.6 A yw’n bosibl ymgeisio am arian ar gyfer mwy nag un flwyddyn? 1.7 Faint o fanylion sydd eu hangen ar

Fersiwn2, Gorffennaf 16, 2015

6

1.7.2 Rhwng £50,000 a £100,000 Ar gyfer prosiectau rhwng £50,000 a £100,000 (cyfanswm costau prosiect), byddwn yn disgwyl atebion manylach. Dylech dynnu ar ymarfer gorau o fannau eraill, yn ogystal ag ar eich profiadau chi, fel sail i gyfiawnhau eich cyflwyniad. 1.7.3 Mwy na £100,000 Ar gyfer prosiectau o dros £100,000 (cyfanswm costau prosiect), byddwn yn disgwyl achos manwl iawn. Dylech ddangos ymarfer da o fannau eraill, a hynny’n eithaf manwl, a hefyd, yn ddelfrydol, gynnwys canlyniadau ymchwil i ddangos neu brofi'r dulliau sy'n cael eu cynnig ar gyfer eu hariannu. 1.7.4 Cofiwch ateb pob cwestiwn ar y ffurflen mor uniongyrchol â phosibl. Os byddwch yn cyflwyno manylion mewn atodiadau, cofiwch gyfeirio atyn nhw yn nghorff y cais ac egluro sut y maen nhw’n berthnasol i’r atebion i’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn. Ni fydd ‘amlhau geiriau' yn gwella eich cais, dim ond egluro'n glir ac yn berthnasol fydd yn gwneud hynny. 1.7.5 Bydd anghyflawnder neu amwyster yn gwneud drwg i asesiad eich prosiect. Cyfnod byr sydd yna ar gyfer asesu prosiectau ac ni fyddwn ni’n gallu cysylltu ag ymgeiswyr i ofyn am ragor o wybodaeth. Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu yn ôl yr wybodaeth a fydd yn cael ei gyflwyno. 1.8 Beth fyddwn ni’n ei ariannu? Dim ond gwaith prosiect fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei ariannu. Ni fydd elfennau o waith sydd eisoes ar y gweill yn cael eu hariannu. Prosiectau yw gwaith gyda dyddiadau dechrau a gorffen clir, gyda cherrig milltir wedi'i diffinio'n glir a chyda chanlyniadau sy'n talu sylw i themâu sy'n cael eu dangos yn y rownd hon o ariannu cystadleuol. Byddwn yn disgwyl i brosiect geisio ateb problem neu fater, un ai ei hateb yn gyflawn neu drwy ddangos sut y gellid gwneud hynny, neu ei dreialu fel ateb y gellid ei ddefnyddio'n ehangach. Ni fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ariannu gwaith rheoli neu gynnal a chadw sydd eisoes ar y gweill. Hefyd, ni fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cefnogi drwy’r gronfa grant hon:

Waith y tu allan i Gymru

Ariannu sefydliadau masnachol neu er elw

Costau cynnal a chadw ar lwybrau cyhoeddus, nid yw costau cynnal a chadw arferol ar lwybrau cyhoeddus yn gymwys am grant.

Os bydd prosiect angen mwy na 50% o arian cyhoeddus, heblaw o dan amgylchiadau arbennig.

Gwaith a fyddai’n fwy priodol ar gyfer asiantaethau eraill neu gynlluniau sydd â’u hamcanion yn fwy perthnasol i gorff ariannu arall e.e. y Cyngor Chwaraeon.

Page 7: Grant Cystadleuol 2016 Canllawiau Rhan 11.5 Faint ellir ymgeisio amdano? 1.6 A yw’n bosibl ymgeisio am arian ar gyfer mwy nag un flwyddyn? 1.7 Faint o fanylion sydd eu hangen ar

Fersiwn2, Gorffennaf 16, 2015

7

Cynlluniau lle mae'r gwaith wedi'i orffen neu ar y gweill. Nid yw o fewn cylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnig grantiau ôl-weithredol.

Hyfforddi; ni all Cyfoeth Naturiol Cymru gefnogi astudiaeth bersonol na gwaith ar gyfer cymwysterau academig neu broffesiynol unigolion.

Arolygu a chasglu data ar ei ben ei hun. Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am ariannu i sicrhau bodolaeth, neu weithgareddau craidd, cyrff eraill. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gynnig swm o arian sy'n wahanol i'r manylion neu i'r symiau ariannol sy’n cael eu dangos mewn ceisiadau. 1.9 Os oes gennych unrhyw gwestiynau Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, e-bostiwch [email protected] Ar gyfer ymholiadau ariannol, e-bostiwch: [email protected] Byddwn yn gwneud ein gorau i ateb eich cwestiynau gynted ag y gallwn.

Page 8: Grant Cystadleuol 2016 Canllawiau Rhan 11.5 Faint ellir ymgeisio amdano? 1.6 A yw’n bosibl ymgeisio am arian ar gyfer mwy nag un flwyddyn? 1.7 Faint o fanylion sydd eu hangen ar

Fersiwn2, Gorffennaf 16, 2015

8

2. Cwblhau’r ffurflen gais Nowch os gwelwch yn dda: Mae’r ffurflen gais wedi ei fformatio yn ‘Word’ er mwyn hwylustod cwbwlhau. Gwnewch yn siŵr nad ydych yn newid fformat y ffurflen. Adran A – teitl y prosiect Rhowch deitl disgrifiadol ar y prosiect. Mae'n rhaid cwblhau’r adran hon. Adran B – manylion sefydliadol Cofiwch roi manylion llawn eich sefydliad. Rydym yn gofyn am ddau enw yn yr adran hon: 1. Person cyswllt a safle'r person yn y sefydliad - at y person hwn y bydd llythyrau'n cael

eu cyfeirio. 2. Uwch Swyddog a’i swydd yn y sefydliad Uwch swyddog yw'r person sy'n gyfrifol yn y pen draw am sut y mae arian yn cael ei wario yn eich sefydliad e.e. Cyfarwyddwr Cyllid, Pennaeth Adran neu, mewn sefydliadau bychan, efallai'r Prif Weithredwr neu'r Cadeirydd. Dyma’r person a ddylai lofnodi’r ffurflen gais ar ôl ei chwblhau. Adran C – manylion y prosiect Cwestiwn 1 Nodwch deitl a dyddiadau cychwyn a gorffen y prosiect. Y dyddiad olaf posibl ar gyfer gorffen prosiect yw mis Rhagfyr 2017 er mwyn sicrhau y bydd y taliad olaf wedi’i brosesu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol (31 Mawrth 2018). Cwestiwn 2 – Crynodeb o’r Prosiect - Rhowch grynodeb byr o’r prosiect (Hyd at 500 gair) Dylai’r crynodeb gynnwys disgrifiad byr o’r hyn rydych yn gobeithio y bydd y prosiect yn ei gyflawni. Bydd yn rhaid i ni hefyd gael gwybod ar ba safle Natura y bwriedir gweithio. Cofiwch gynnwys map yn dangos ymhle y mae’r safle lle byddai’r gwaith yn cael ei wneud. Cofiwch hefyd gynnwys cyfeirnod grid, cod post ac enw’r sir. Os byddwch yn dymuno gweithio ar fwy nag un safle, bydd yn rhaid i chi gyflwyno cais ar wahân ar gyfer pob safle oni bai y gallwch ddangos y byddai gweithgaredd ar draws mwy nag un safle yn fwy cyflawn fel prosiect unigol.

Page 9: Grant Cystadleuol 2016 Canllawiau Rhan 11.5 Faint ellir ymgeisio amdano? 1.6 A yw’n bosibl ymgeisio am arian ar gyfer mwy nag un flwyddyn? 1.7 Faint o fanylion sydd eu hangen ar

Fersiwn2, Gorffennaf 16, 2015

9

Cwestiwn 3 – Pa fater/ion A1 – A5 y mae eich prosiect yn ei ei chynnwys/eu cynnwys?

Nod A Ticiwch y blwch / blychau perthnasol i ddangos y mater/ion A1 – A5 y bydd eich prosiect yn talu sylw iddyn nhw. Bydd yn rhaid ateb y pedwar cwestiwn o dan bob mater a ddewisir: h.y.

Pa Weithred/iadau ydych chi wedi ei dewis/eu dewis ar gyfer y safle?

Beth fyddwch chi’n ei wneud i gynnal y Weithred/iadau?

Beth fydd y canlyniadau mesuradwy?

Dyddiadau’r Canlyniadau (cyfnodau / cerrig milltir). Dylech ddefnyddio llinell wahanol ar gyfer pob gweithred. Felly, os byddwch yn rhestru tair gweithred, bydd yn rhaid i chi restru'r tair gweithred ar wahân, linell wrth linell (a, b, c) a bydd yn rhaid i chi ateb y tri chwestiwn canlynol ar gyfer pob gweithred a ddangosir yn (a, b, c). Cofiwch sicrhau bod eich atebion yn cyfeirio at y weithred gywir - h.y. dylai pob ateb ynghylch gweithred a) fod ar y llinellau wedi'u labelu'n a). Os byddwch yn gallu talu sylw i fwy nag un mater ar yr un safle Natura, gallwch ddefnyddio un ffurflen gais. Os byddwch yn gweithio ar safleoedd Natura gwahanol bydd yn rhaid i chi gwblhau ffurflenni cais gwahanol - oni bai y gallwch ddangos y byddai gweithgaredd ar draws mwy nag un safle yn fwy cyflawn fel prosiect unigol. Cwestiwn 4 – Pa rai yw’r cynefinoedd / rhywogaethau o bwysigrwydd Ewropeaidd ar y safleoedd Natura a fydd yn elwa o’ch gweithredoedd. Yn yr adran hon, dylech restru’r cynefinoedd / rhywogaethau o bwysigrwydd Ewropeaidd ar safle Natura a fydd yn elwa’n uniongyrchol o’ch gweithredoedd. Dim ond er gwybodaeth y mae hyn, ni fydd yn cael ei sgorio. Cwestiwn 5 – Pa fudd /ion B1 – B4 y mae eich prosiect yn ei gynnwys?

Nod B: Ticiwch y blwch / blychau perthnasol i ddangos y budd /ion B1 – B4 y bydd eich prosiect yn talu sylw iddyn nhw. Bydd yn rhaid ateb y pedwar cwestiwn o dan bob budd a ddewisir: h.y.

Beth yw’r angen/ anghenion penodol rydych chi wedi’u nodi? (Ystyr ‘anghenion’ yw ‘’yr anghenion a fydd yn helpu i sicrhau Budd B1, B2, B3 neu B4).

Beth fyddwch chi’n ei wneud i dalu sylw i’r angen / anghenion.

Beth fydd y canlyniadau mesuradwy

Dyddiadau’r Canlyniadau (cyfnodau / cerrig milltir).

Page 10: Grant Cystadleuol 2016 Canllawiau Rhan 11.5 Faint ellir ymgeisio amdano? 1.6 A yw’n bosibl ymgeisio am arian ar gyfer mwy nag un flwyddyn? 1.7 Faint o fanylion sydd eu hangen ar

Fersiwn2, Gorffennaf 16, 2015

10

Dylech ddefnyddio llinell wahanol ar gyfer pob angen gwahanol a nodir. Felly, os byddwch yn rhestru dau angen, bydd yn rhaid i chi restru'r ddau angen ar wahân, linell wrth linell (a, b) a bydd yn rhaid i chi ateb y tri chwestiwn canlynol ar gyfer pob gweithred a ddangosir yn (a, b, c). Cofiwch sicrhau bod eich atebion yn cyfeirio at yr angen cywir - h.y. dylai pob ateb ynghylch angen a) fod ar y llinellau wedi'u labelu'n a). Nid ydym yn dymuno bod yn rhy benodol. Bydd priodoldeb gweithgareddau’n dibynnu ar ba mor addas ydyn nhw ar gyfer safleoedd a chymunedau ardaloedd penodol. Fodd bynnag, dyma restr o rai syniadau y gellid eu hystyried:

Prosiectau i helpu cymunedau i ddeall, gwerthfawrogi ac amddiffyn amgylchedd eu hardal - lleihau digwyddiadau o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gweithgareddau a digwyddiadau i annog pobl i fynd allan i'r awyr iach yn rheolaidd - yn enwedig mewn ardaloedd lle mae iechyd corfforol a meddyliol pobl ar ei waethaf.

Darparu cyfleoedd i ddysgu a datblygu sgiliau – achrededig neu anffurfiol – yn ac o amgylch mannau gwyrdd yn enwedig mewn ardaloedd lle mae llawer iawn o bobl heb unrhyw gymwysterau.

Cysylltu â’r gymuned ac â gwirfoddolwyr wrth reoli a defnyddio safleoedd, prosiectau Gwyddoniaeth Dinasyddion yn ogystal â gweithgareddau cadwraeth ymarferol.

Rydym ni eisiau gweld yn glir sut y byddai’r grant rydych chi’n gofyn amdano’n cael ei ddefnyddio i dalu sylw i’r angen a ddangosir a sut y byddech chi’n mesur llwyddiant. Dyma rai enghreifftiau o lwyddiant efallai yr hoffech chi eu hystyried:

Nifer oriau gwirfoddolwyr ar y prosiect

Faint o wirfoddolwyr / cymunedau newydd a fydd yn cymryd rhan

Faint o aelodau'r gymuned fydd yn mabwysiadu’r ymddygiad y byddwch chi’n ei hyrwyddo

Faint o’r rhai a fydd yn cymryd rhan yn y prosiect a fydd yn ystyried fod eu hiechyd a'u lles wedi gwella

Faint o wirfoddolwyr a fydd wedi ennill cymhwyster Bydd gofyn i chi ystyried sut y byddwch yn mesur eich canlyniadau a bod â thargedau realistig. Cwestiwn 6 – Pwy yw’r bobl a / neu gymunedau a fydd yn elwa o’ch prosiect ac ym mhle y maen nhw? Cwestiwn yw hwn i chi allu ymhelaethu ar bwy fydd yn elwa, ac ym mha ffordd, o’ch prosiect. Dylai hynny adeiladu ar eich ateb i gwestiwn 5. Rydym yn arbennig o awyddus i gael ceisiadau sy'n cysylltu â chymunedau yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Byddwn yn disgwyl i ymgeiswyr ddangos sut y gallai’r prosiect fod o fudd i bob unigolyn yn ddiwahân, beth bynnag fo eu nodweddion personol megis oedran, anabledd, ailaseiniad rhyw, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred,

Page 11: Grant Cystadleuol 2016 Canllawiau Rhan 11.5 Faint ellir ymgeisio amdano? 1.6 A yw’n bosibl ymgeisio am arian ar gyfer mwy nag un flwyddyn? 1.7 Faint o fanylion sydd eu hangen ar

Fersiwn2, Gorffennaf 16, 2015

11

rhyw (gwryw neu fenyw) neu dueddiad rhywiol. Gellir gweld rhagor ynghylch ymrwymiad Cyfoeth Naturiol Cymru i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ar ein gwefan: https://naturalresources.wales/about-us/working-for-us/equality-and-diversity/?lang=cy

Cwestiwn 7 - Sut fyddech chi'n sicrhau fod Nod A (C3) a Nod B (C5) yn cael eu cyfuno yn eich prosiect? Efallai eich bod eisoes wedi trafod hyn wrth ddisgrifio eich gwaith. Fodd bynnag, eglurwch yn gryno sut y byddai eich gwaith o dan Nod A a Nod B yn plethu ac yn cyd-fynd â'i gilydd. Cwestiwn 8 - A fyddai eich prosiect angen unrhyw ganiatâd / trwydded e.e. cynllunio, trwyddedau rhywogaethau ayb? Dylech restru ac egluro a fyddai angen caniatâd neu drwydded o unrhyw fath e.e. cynllunio, trwyddedau rhywogaethau ayb i chi allu gwneud y gwaith yn eich prosiect. Pe byddai eich cais yn llwyddiannus, bydd yn amod o gael yr arian bod yn rhaid i chi hefyd gael pob caniatâd a thrwydded cyn bod y prosiect yn cychwyn. Cwestiwn 9 – Pa mor debygol yw hi y gallai eich prosiect gychwyn yn brydlon ar y dyddiad cychwyn sydd yng nghwestiwn C1? Dylech fanylu ar unrhyw risgiau rydych yn eu rhagweld a allai effeithio ar y dyddiad cychwyn. Dylech hefyd gyflwyno cynlluniau wrth gefn rhag ofn y byddai problemau'n rhwystro'r prosiect rhag cychwyn yn brydlon. Ni fyddai dyddiad cychwyn hwyrach na mis Ebrill 2016 yn effeithio ar asesiad eich cais cyn belled â’ch bod wedi cyflwyno achos yn cyfiawnhau hynny ac wedi sicrhau bod eich asesiad o'r risg yn realistig. Cwestiwn 10 – Sut fydd eich prosiect yn cael ei reoli? Eglurwch sut y byddai eich prosiect yn cael ei reoli - er enghraifft:

a) Sut fyddai eich sefydliad yn rheoli ac yn cyfarwyddo’r prosiect? b) Sut y byddai’n dygymod pe byddai un neu ragor o staff allweddol yn gadael? c) Sut fyddech chi’n gwerthuso llwyddiant y prosiect? d) Beth fyddai’r strategaeth adael? e) A fyddai yna etifeddiaeth a beth fyddai hynny? Ystyr 'etifeddiaeth’ yma yw nodi (i)

yr asedau cyfalaf y byddai’r prosiect yn ei greu ac y gellid eu harchwilio a’u dilysu a (ii) canlyniadau eraill (megis cynefin gwell) y gellid eu harchwilio a'u dilysu.

D.S. Mae Cwestiwn 10 yn cario mwy na thraean o’r holl farciau posibl. Dylech, felly, ei ateb yn gynhwysfawr.

Page 12: Grant Cystadleuol 2016 Canllawiau Rhan 11.5 Faint ellir ymgeisio amdano? 1.6 A yw’n bosibl ymgeisio am arian ar gyfer mwy nag un flwyddyn? 1.7 Faint o fanylion sydd eu hangen ar

Fersiwn2, Gorffennaf 16, 2015

12

Cwestiwn 11 - A oes yna unrhyw beth yr hoffech ei ychwanegu i gefnogi eich cais? (Hyd at 500 gair). Defnyddiwch y gofod hwn i restru unrhyw atodiadau rydych yn eu cynnwys ac eglurwch pam eu bod yn berthnasol i'ch cais. Dyma lle y gallwch ychwanegu unrhyw wybodaeth berthnasol y dymunwch ei amlygu i gefnogi eich cais ac i ddangos gwerth y math yma o waith. Os byddwch yn ychwanegu unrhyw Atodiadau i’ch cais, dylech osod cyfeirnod arnyn nhw ac egluro pam eu bod yn berthnasol i’ch cais. Adran D - Manylion ariannol - Gweler Canllawiau Rhan 2 Adran E - Datganiad Deddf Rhyddid Gwybodaeth Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi hawl i aelodau'r cyhoedd ofyn am unrhyw wybodaeth sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i dderbyn gan drydydd partïon megis, ond nid yn gyfyngedig i, ymgeiswyr am grantiau, deiliaid grantiau, contractwyr a phobl sy’n cyflwyno cwynion. Os gofynnir am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, byddwn yn ei ryddhau, yn amodol ar eithriadau, er efallai y byddwn yn dewis ymgynghori a chi yn gyntaf. Os ydych o'r farn y gallai’r wybodaeth rydych yn ei gyflwyno wedi’i eithrio rhag ei ryddhau os ceir cais, dylech adael i ni wybod pan fyddwch yn ymgeisio. Datganiad Yn ddelfrydol, dylai rhywun sy’n uchel yn eich sefydliad lofnodi eich ffurflen. Yn ddelfrydol, dylai fod yr uwch swyddog sy’n cael ei enwi yn adran B. Mae llofnodion electronig yn dderbyniol. Rhestr Wirio Cofiwch wneud yn siŵr eich bod wedi cynnwys pob dogfen yn eich rhestr wirio a rhestru unrhyw atodiadau ychwanegol. Meini Prawf Sgorio - Gweler Canllawiau Rhan 3