datblygiad yn ghanaresources.hwb.wales.gov.uk/vtc/2012-13/geography/gwefan... · 2014. 5. 22. · 3...

4
1 Y Cylchgrawn Daearyddol DATBLYGIAD YN GHANA M ae hi bron yn 3 blynedd ers i’r G8 gyhoeddi cymorth dyled enfawr i rai o wledydd tlotaf y byd. Mae Ghana (Ffigur 1) yn un wlad sydd wedi elwa. Mae’r erthygl hon yn archwilio rhai o’r heriau a wynebir gan Ghana heddiw, ac yn pwyso a mesur a all cymorth dyled helpu i ddatblygu’r wlad. Gorffennol trefedigaethol Ghana Ym mis Mawrth 1957, enillodd Ghana annibyniaeth ar y DU. Dyma’r drefedigaeth gyntaf yn Affrica is-Sahara i’w rhyddhau ei hun o reolaeth drefedigaethol. Mae i gyfnod y wlad fel trefedigaeth Brydeinig etifeddiaeth barhaol – er enghraifft, mae Saesneg yn parhau i fod yn iaith swyddogol Ghana. Daeth y rheolaeth Brydeinig â rhai buddion, fel ysgolion ac ysbytai. Fodd bynnag, alltudion Prydeinig gafodd y swyddi mwyaf uchel-radd a’r rhai a dalai orau. Yn ystod y cyfnod hwn, prif ffynhonnell incwm Ghana oedd cynhyrchu coco – Ghana oedd cynhyrchydd coco mwyaf y byd. Llywodraeth y drefedigaeth, wedi’i phenodi gan Brydain, oedd yn penderfynu ar y pris a gâi’r ffermwyr am eu coco. Câi cnydau ac adnoddau eu hallforio’n rhad i Brydain ar ffurf grai. Y DU oedd yn eu prosesu ac yn elwa o’r gwerth ychwanegol – nid Ghana. Dylai annibyniaeth fod wedi golygu y byddai Ghana’n rhydd i benderfynu ar ei dyfodol ei hun. Ar adeg ei rhyddhau, roedd CMC Ghana y pen yn gyfartal ag un De Korea. Ac eto, mae De Korea wedi ‘Dw i’n dal i gario bwcedi [o ddŵr] ar fy mhen – yn f ’oed i! Efallai bod ein heconomegwyr yn ffugio’r ffigurau.’ Samuel Ablakwa, 26 oed, graddedig mewn gwyddoniaeth wleidyddol, yn cwestiynu data’r llywodraeth ar dwf economaidd Ghana yn 2007 (Gwefan y BBC World Service) Mae darparu dŵr yn her fawr yn Ghana © Jorgen Schytte/Still Pictures

Upload: others

Post on 16-Oct-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: DATBLYGIAD YN GHANAresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2012-13/geography/gwefan... · 2014. 5. 22. · 3 Y Cylchgrawn Daearyddol DATBLYGIAD YN GHANA golygu ad-drefnu benthyciadau i’w

1 Y Cylchgrawn Daearyddol

DATBLYGIAD YN GHANA

Mae hi bron yn 3 blynedd ers i’r G8 gyhoeddi cymorth dyled enfawr i rai o wledydd tlotaf y byd. Mae Ghana (Ffigur 1) yn un wlad sydd wedi elwa. Mae’r erthygl hon yn archwilio rhai

o’r heriau a wynebir gan Ghana heddiw, ac yn pwyso a mesur a all cymorth dyled helpu i ddatblygu’r wlad.

Gorffennol trefedigaethol GhanaYm mis Mawrth 1957, enillodd Ghana annibyniaeth ar y DU. Dyma’r drefedigaeth gyntaf yn Affrica is-Sahara i’w rhyddhau ei hun o reolaeth drefedigaethol. Mae i gyfnod y wlad fel trefedigaeth Brydeinig etifeddiaeth barhaol – er enghraifft, mae Saesneg yn parhau i fod yn iaith swyddogol Ghana. Daeth y rheolaeth Brydeinig

â rhai buddion, fel ysgolion ac ysbytai. Fodd bynnag, alltudion Prydeinig gafodd y swyddi mwyaf uchel-radd a’r rhai a dalai orau.

Yn ystod y cyfnod hwn, prif ffynhonnell incwm Ghana oedd cynhyrchu coco – Ghana oedd cynhyrchydd coco mwyaf y byd. Llywodraeth y drefedigaeth, wedi’i phenodi gan Brydain, oedd yn penderfynu ar y pris a gâi’r ffermwyr am eu coco. Câi cnydau ac adnoddau eu hallforio’n rhad i Brydain ar ffurf grai. Y DU oedd yn eu prosesu ac yn elwa o’r gwerth ychwanegol – nid Ghana.

Dylai annibyniaeth fod wedi golygu y byddai Ghana’n rhydd i benderfynu ar ei dyfodol ei hun. Ar adeg ei rhyddhau, roedd CMC Ghana y pen yn gyfartal ag un De Korea. Ac eto, mae De Korea wedi

‘Dw i’n dal i gario bwcedi [o ddŵr] ar fy mhen – yn f’oed i! Efallai bod ein heconomegwyr yn ffugio’r ffigurau.’

Samuel Ablakwa, 26 oed, graddedig mewn gwyddoniaeth wleidyddol, yn cwestiynu data’r llywodraeth ar dwf economaidd Ghana yn 2007

(Gwefan y BBC World Service)

Mae darparu dŵr yn her fawr yn Ghana

© Jo

rgen

Sch

ytte

/Stil

l Pic

ture

s

Page 2: DATBLYGIAD YN GHANAresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2012-13/geography/gwefan... · 2014. 5. 22. · 3 Y Cylchgrawn Daearyddol DATBLYGIAD YN GHANA golygu ad-drefnu benthyciadau i’w

2 Y Cylchgrawn Daearyddol

DATBLYGIAD YN GHANA

hen guro Ghana yn ei ffyniant. Sut mae Ghana wedi cael ei gadael ar ôl? Mae hi’n bell erbyn hyn o ennill annibyniaeth economaidd, ac yn parhau’n ddibynnol ar y penderfyniadau a wneir gan bobl eraill mewn gwledydd pell.

Datblygiad a chynnydd cynnarAr adeg annibyniaeth Ghana, adeiladodd y Prif Weinidog Nkrumah ysgolion, ffyrdd, ffatrïoedd, tai, maes awyr rhyngwladol newydd, a phorthladd newydd yn Tema. Roedd hyn wedi creu swyddi o fewn y diwydiant adeiladu ac roedd y teimlad yn un optimistaidd. Symudodd pobl o gefn gwlad i’r brifddinas, Accra, i fanteisio ar swyddi.

Un o’r projectau mwyaf oedd cynllun argae Volta. Cafodd afon Volta ei chronni i greu’r llyn enfawr, Llyn Volta, a chodwyd gorsaf pwer trydan dwr yn Akosombo. Bwriadwyd hon i gynhyrchu trydan i brosesu cronfeydd enfawr Ghana o focsit (mwyn alwminiwm). Ar y pryd, roedd y wlad agos, Nigeria, yn datblygu ei chronfeydd olew anferth, ac fe ddenodd filoedd o Ghaniaid yno fel gweithwyr gwadd. Roedd y gweithwyr hyn yn anfon arian yn ôl i Ghana ar ffurf taliadau gwerthfawr. Teimlai Ghana’n sicr o ddyfodol economaidd disglair.

Fodd bynnag, roedd y lefel hwn o fuddsoddiad yn ddrud, ac yn cael ei ariannu gan fenthyciadau rhyngwladol enfawr. Roedd yn canolbwyntio datblygiad ar ardaloedd trefol a’r arfordir. Esgeuluswyd y coco, fu mor llwyddiannus yng nghyfnod y drefedigaeth, cwympodd incymau, a daeth aflonyddwch cymdeithasol i ddilyn. Llwyddodd y fyddin i gipio’r awdurdod oddi ar y llywodraeth a rheoli’r wlad. Erbyn diwedd yr 1970au, roedd cyfres o sychderau wedi gwthio prisiau bwyd i fyny, roedd pobl yn newynu ac roedd yna ddiweithdra ar raddfa fawr. Cyrhaeddodd y ddyled genedlaethol y lefelau uchaf erioed. Gwaethygodd y sefyllfa pan alltudiwyd gweithwyr gwadd Ghana o Nigeria, gan eu gorfodi i ddychwelyd adref, ac felly daeth y taliadau i ben.

Argyfwng dyled yn dod i’r amlwgMae dyled Ghana yn egluro llawer am ei hymdrechion i ddatblygu ers yr 1970au. Roedd Ghana yn un o nifer o wledydd yn Affrica i ddatblygu yn yr 1960au a’r 1970au trwy ddefnyddio cyfalaf tramor wedi’i fenthyg ar gyfraddau llog rhad. Yn yr 1980au, dyblodd

cyfraddau llog byd-eang, ac roedd gwledydd wedi’u parlysu gymaint gan ddyled fel nad oedd rhai yn gallu talu’r llog hyd yn oed. Erbyn diwedd 2000, roedd dyledion Ghana gywerth â’i holl enillion blynyddol o allforion.

Er mwyn atal cwymp system fancio’r byd a achoswyd gan fenthyciadau na ellid eu had-dalu, cyflwynodd y Gronfa Ariannol Ryngwladol (International Monetary Fund - IMF) becynnau addasu strwythurol (structural adjustment packages, SAPs). Roedd y rhain yn

Ffigur 1 Map yn dangos prif nodweddion ac aneddiadau Ghana

CRONFA ARIANNOL RYNGWLADOL (IMF)Mae’r Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) yn sefydliad bancio byd-eang wedi’i leoli yn Washington (ac yn cael ei reoli’n bennaf gan UDA) sy’n bodoli er mwyn sicrhau sefydlogrwydd bancio byd-eang trwy gynorthwyo gwledydd gyda buddsoddiadau a dyled.

FFEIL FFEITHIAUCyfanswm y boblogaeth, 2005 22.1 miliwnDisgwyliad oes ar enedigaeth, 2004 57 oedCyfradd twf cyfartalog y boblogaeth, 2006 1.97% (amser dyblu o 36 mlynedd)Poblogaeth drefol 45%Cyfradd marwolaethau dan 5 oed, 2004 112 y filIncwm Gwladol Crynswth (IGC) y pen, 2005 $450. Yn safle 176 allan o 208 o wledydd. Gwlad incwm isel yn ôl Banc y BydTanysgrifwyr llinell sefydlog a ffôn symudol, 2004 93 y filAllyriadau carbon deuocsid y pen, 2002 0.4 tunnell

Page 3: DATBLYGIAD YN GHANAresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2012-13/geography/gwefan... · 2014. 5. 22. · 3 Y Cylchgrawn Daearyddol DATBLYGIAD YN GHANA golygu ad-drefnu benthyciadau i’w

3 Y Cylchgrawn Daearyddol

DATBLYGIAD YN GHANA

golygu ad-drefnu benthyciadau i’w gwneud yn fwy fforddiadwy – ond dim ond yn gyfnewid, a hynny ar amod a osodwyd gan yr IMF, am doriadau yng ngwariant y llywodraeth. Heb gymeradwyaeth yr IMF, doedd yr un wlad yn gallu cael mwy o gredyd. Bron yn ddieithriad, mae gwariant mwyaf llywodraethau’r economïau sy’n datblygu yn cael ei wneud ym myd iechyd ac addysg. Felly, roedd toriadau yn effeithio ar yr ardaloedd hyn ac yn cael yr effaith fwyaf ar y tlodion.

Yr heriau sy’n wynebu GhanaYnghyd â darparu addysg a gofal iechyd i’w phoblogaeth, mae Ghana yn wynebu nifer o heriau yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae dau faes yn sylfaenol i’r dyfodol: dwr glân, sy’n pennu iechyd cymaint o bobl, a’r sector ffermio, sy’n cyflogi 70% o’r boblogaeth.

DwrMae darparu dwr yn her fawr i Ghana. Mewn sawl ardal, mae’r isadeiledd cyflenwi wedi dadfeilio oherwydd diffyg buddsoddiad. Dim ond hanner y boblogaeth sydd â chyflenwad o ddwr diogel, wedi’i wella; mae’r hanner arall yn dibynnu ar afonydd a ffynhonnau heb eu trin. Mae mynediad at ddwr glân, wedi’i drin yn amrywio rhwng 62-70% o’r boblogaeth mewn ardaloedd trefol a 35-40% yng nghefn gwlad. Fodd bynnag, hyd yn oed mewn ardaloedd trefol, dim ond 40% o’r boblogaeth sydd â thap sy’n llifo’n iawn. Gorfodir hyd yn oed y Ghaniaid cymharol gyfoethog, sydd â mesuryddion dwr yn eu cartrefi, i brynu gan werthwyr dwr preifat oherwydd bod eu tapiau wedi rhedeg yn sych neu ddim ond yn rhoi dwr am ddiwrnod neu ddau yr wythnos. Mewn ardaloedd trefol, does gan 78% o’r bobl dlawd ddim dwr wedi’i beipio.

Mae effeithiau diffyg dwr wedi’i beipio a iechydaeth yn Ghana yn cynnwys:n yr amser a gymerir i gasglu dwr, gwaith a wneir gan ferched fel arfern y gost o brynu dwr yn ôl y bwced neu’r botel os nad oes gan bobl

fynediad at dap. Mae prynu tri bwcedaid o ddwr y dydd yn costio 10-20% o incwm dyddiol cyfartalog teuluoedd, ac eto mae hyn yn is nag argymhellion Mudiad Iechyd y Byd (WHO) ar gyfer dogn dwr dyddiol un person yn unign yr effaith ar iechyd a achosir gan gyffredinolrwydd afiechydon fel malaria a cholera a gludir gan ddwr. Mae ansawdd gwael y dwr a iechydaeth yn cyfrannu at 70% o afiechydon yn Ghana. Mae pobl sy’n sâl yn methu gweithio, yn colli incwm, a dydyn nhw ddim yn gallu fforddio dwr na bwyd. Er mwyn dod â dwr glân i holl bobl Ghana erbyn 2015, yn unol â Chyrchnodau Datblygu’r Mileniwm y CU, mae llywodraeth Ghana yn amcangyfrif y bydd arni angen buddsoddiad o $800 miliwn (doleri UDA). Gydag Incwm Gwladol Crynswth cyfartalog o ddim ond $477 (doleri UDA) y pen, byddai raid i lywodraeth Ghana fenthyg arian o Fanc y Byd i wella cyflenwadau dwr a systemau iechydaeth. Ond, dim ond ar yr amod fod y systemau dwr a iechydaeth yn cael eu preifateiddio y bydd Banc y Byd yn benthyg cyfalaf i Ghana, fel nad oes cynnydd yng ngwariant y llywodraeth.

Yn ôl y ddamcaniaeth, mae preifateiddio yn cynyddu’r cymhelliad elw, a byddai buddsoddiad gan gwmnïau preifat yn darparu ac yn cynnal cyflenwadau i bawb. Mewn egwyddor, dylai hyn felly helpu rhai o’r bobl dlotaf i gael dwr. Fodd bynnag, mae yna broblemau gyda’r ddamcaniaeth hon:n o dan system wedi’i phreifateiddio fel hyn, mae’n rhaid i bobl dalu am gael eu cysylltu, ac ni fyddai llawer yn gallu ei fforddion byddai tua hanner y 4,600 o weithwyr Ghana Water yn debygol o golli eu gwaith wrth i’r contractwr sector preifat newydd geisio torri costaun mae’r cynlluniau presennol wedi’u bwriadu ar gyfer preifateiddio systemau dwr ac iechydaeth y trefi yn unig. Beth fydd yn digwydd i’r ardaloedd gwledig?

Bagiau o ffa coco yng nghydweithfa Kuapa Kokoo

Argae Akosombo a Llyn Volta

© R

on G

iling

/Lin

eair

/Stil

l Pic

ture

s

© T

opha

m P

ictu

repo

int

Page 4: DATBLYGIAD YN GHANAresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2012-13/geography/gwefan... · 2014. 5. 22. · 3 Y Cylchgrawn Daearyddol DATBLYGIAD YN GHANA golygu ad-drefnu benthyciadau i’w

4 Y Cylchgrawn Daearyddol

‘Mae preifateiddio dwr fel traddodi dedfryd marwolaeth i dlodion trefi a chefn gwlad Ghana, gan na allan nhw fforddio talu.’ (Cyngor Cristnogol Ghana, dyfynnwyd gan John Pilger, 2002, http://www.zmag.org/content/Africa/Pilgershortafrica.cf)

FfermioYmunodd Ghana â Chyfundrefn Masnach y Byd (World Trade Organisation - WTO) yn 1995, mewn ymgais i gynyddu ei masnach fyd-eang. Tan hynny, roedd llywodraeth Ghana wedi rhoi cymorthdaliadau i ffermwyr i’w hannog i aros ar y tir a chynhyrchu digon o fwyd ar gyfer trefi Ghana, oedd yn tyfu. Ond mae amodau a osodwyd gan y WTO a’r IMF ar gyfer ad-drefnu benthyciadau yn datgan na ddylai ffermwyr dderbyn cymorthdaliadau bellach. Mae gwledydd eraill yn parhau i roi cymorthdaliadau i’w ffermwyr, yn cynnwys y rhai yn yr UE. Mae ffermwyr Ghana’n awr yn dioddef llawer iawn oherwydd mewnforion bwyd o Ewrop sydd wedi’i noddi’n drwm. Er enghraifft, mae ffermwyr mewn ardal tyfu tomatos yn Rhanbarth y Dwyrain Uchaf yn ei chael yn anodd gwerthu eu cynnyrch eu hunain gan fod tomatos wedi’u mewnforio yn rhatach. Mae ffatrïoedd canio wedi cau a does yna’r un allfa arall ar gyfer y tomatos. Ar yr un pryd, mae tyfwyr reis Ghana wedi cael eu gorlifo gan reis wedi’i fewnforio, llawer ohono o UDA. Yn draddodiadol, mae Ghana wedi cynhyrchu llawer o goco. Mae ffermydd coco yn tueddu i fod yn fach ac yn eiddo teuluoedd, sydd hefyd yn tyfu cnydau arian parod eraill ochr yn ochr â’r coco. Mae’n cymryd 8 mlynedd i blanhigyn coco gynhyrchu ffa, ac mae prisiau’r farchnad yn gallu newid yn ystod y cyfnod hwnnw. Hanerodd pris coco ar y farchnad fyd-eang rhwng 1983 ac 1993. Felly, gall tyfu coco fod yn fusnes hapfasnachol, a dydy hi ddim yn syndod fod pobl ifanc yn symud i ffwrdd o’r ardaloedd tyfu coco gwledig, gan adael y bobl hyn ar ôl i wneud y ffermio. Mae’r rhan fwyaf o’r siocled a fwyteir yn y DU wedi’i wneud o goco a dyfwyd yn Ghana. Eto, dim ond cyfran fechan o’r elw o goco sy’n aros yn Ghana gan fod y prosesu a’r pacio yn cael ei wneud yn Ewrop. Mae tollau mewnforio ar ffa coco yn yr UE yn llawer is na’r rhai ar goco wedi’i brosesu, ac felly gorfodir Ghana i allforio ffa coco, gan golli ar y gwerth a ychwanegir trwy brosesu.

Mae ffermwyr wedi ceisio adennill peth rheolaeth ar eu hincwm trwy ffurfio cydweithfaoedd. Dechreuodd Kuapa Kokoo (‘ffermwyr coco da’) fel grwp bychan yn 1993. Erbyn heddiw, mae gan y gydweithfa dros 40,000 o aelodau mewn mwy na 650 o bentrefi, ac maen nhw’n cynhyrchu 1% o holl gnwd coco’r byd rhyngddynt. Mae gan gydweithfa bwer bargeinio cryfach nag unigolion, ac mae Kuapa Kokoo yn talu mwy i’r ffermwyr unigol am fag o goco. Mae’n gwerthu i sefydliadau masnach deg yn Ewrop, ac yn 1998, ymunodd â chwmni masnach deg yn y DU i greu’r Day Chocolate Company. Cafodd y fenter hon ei chefnogi gan sefydliadau fel The Body Shop a Comic Relief, ac mae’n cynhyrchu siocled Divine, siocled masnach deg sydd wedi’i anelu at farchnad y brif ffrwd yn y DU. Mae gan Kuapa Kokoo ymddiriedolaeth ffermwyr i reoli ei chyllid a darparu credyd i dyfwyr. Mae peth o’r arian wnaed gan y gydweithfa wedi mynd i dalu am well dwr yfed mewn ardaloedd gwledig ac am yswiriant iechyd ar gyfer ffermwyr coco.

I ble nesaf?Mae Ghana’n wleidyddol sefydlog, ac er gwaethaf y ddyled, mae ei heconomi wedi tyfu’n gyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd taliadau gan Ghaniaid yn gweithio dramor yn werth $1.5 biliwn (doleri UDA) yn 2005, ac mae allforion yn cynyddu. Cytunodd cynhadledd 2005 y G8 ar gymorth dyled o $4.2 biliwn (doleri UDA), sef 70% o ddyled Ghana o $6 biliwn (doleri UDA). Mewn llog yn unig, arbedodd hyn $156 miliwn (doleri UDA) i’r llywodraeth yn 2006, arian y bu’n bosibl ei wario ar brojectau yn y wlad. Ac eto, mae Ghana’n parhau i wynebu problemau anferth.

Mae Ghana eisoes yn derbyn tua $1 biliwn mewn cymorth y flwyddyn, 10% o gynnyrch mewnwladol crynswth (CMC) y wlad. Y DU ydy rhoddwr mwyaf Ghana. Ond cyfran fechan yn unig ydy’r enillion hyn o’r swm sydd ei angen ar Ghana. Yn 2006, amcangyfrifodd adroddiad gan y BBC fod ar Ghana angen $6 biliwn (doleri UDA) i ddatblygu isadeiledd y wlad. Os ydy ei heconomi i gyrraedd targedau twf cyson o 8% erbyn 2010, mae angen mwy o fuddsoddiad a chymorth. Mae wedi derbyn buddsoddiad sylweddol gan gwmnïau mwyngloddio, a hi ydy ail allforiwr aur mwyaf Affrica, ar ôl De Affrica. Ond cred llawer fod angen i Ghana leihau ei dibyniaeth ar gymorth a cheisio yn hytrach gynyddu refeniw trethi oddi wrth y rhai mewn gwaith. Dim ond wedyn y gallai fforddio buddsoddi’n iawn mewn dwr ac isadeileddau eraill heb fynd i ddyled. Mae mwyafrif mawr poblogaeth economaidd weithgar Ghana yn gwneud eu harian yn y sector anffurfiol, a byth yn datgan eu hincwm. Dim ond 20% o’r CMC ydy’r refeniw o drethi (o gymharu â dros 40% yn y DU). Gellid cynyddu llawer ar y swm hwnnw petai pawb mewn gwaith yn talu trethi. Er mwyn cyflawni hyn, bydd ffyniant o ganlyniad i gynnydd mewn masnach, nid cymorth, yn well gwarant o ddyfodol economaidd Ghana.

Kay Chapman a Bob Digby

Mae Kay Chapman yn addysgu Daearyddiaeth yn Truro College, Cernyw. Roedd Bob Digby, tan yn ddiweddar, yn Bennaeth Daearyddiaeth yn University College School, gogledd Llundain. Mae bellach yn gweithio fel ymgynghorydd addysg ac awdur, gyda diddordebau mewn Daearyddiaeth ysgolion ac addysgu am y Gêmau Olympaidd yn Llundain.

Bywyd yn Ghana heddiw

n Mae teuluoedd yn ymdrechu i dalu rhenti cyfartalog o $16 (doleri UDA) y mis.n Mae’n gyffredin i bobl fyw heb bŵer, sefyllfa ryfedd mewn gwlad sy’n cynhyrchu trydan dŵr. Fodd bynnag, mae bron y cyfan o’r trydan a gynhyrchir yn cael ei werthu i’r gwaith alwminiwm, ac mae’r prisiau’n uwch na lefelau fforddiadwy mwyafrif trigolion Ghana.n Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gweithio yn y sector anffurfiol, a byth yn talu treth. n Mae pobl yn newynu yn aml, a dydy teuluoedd byth bron yn bwyta cig.n Mae ffïoedd un o ysgolion gorau Ghana yn $600 y flwyddyn – llawer mwy na’r hyn y gall y mwyafrif o bobl ei fforddio.n Mae 70% o Ghaniaid yn ffermwyr, ond mae Ghana yn parhau i fewnforio bwyd.n Mae diweithdra a thangyflogaeth yn gyffredin o hyd.

DATBLYGIAD YN GHANA