cynorthwyydd cyfleusterau 2020€¦ · dylid anfon ceisiadau, ar ffurf llythyr eglurhaol a cv...
TRANSCRIPT
Cynorthwyydd Cyfleusterau Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn elusen ymroddedig i gadwraeth planhigion ac ymchwil i blanhigion, sydd ag adran addysg lewyrchus. Mae'r Ardd hefyd yn un o'r prif gyrchfannau i ymwelwyr yng Nghymru, ac mae nifer ei hymwelwyr hamdden yn tyfu'n gyflym. Darganfyddwch ragor trwy archwilio ein gwefan https://garddfotaneg.cymru/.
Fel Cynorthwyydd Cynnal a Chadw byddwch yn aelod allweddol o dîm cynnal a chadw bach a phrofiadol.
Bydd gennych gyfrifoldeb am sicrhau bod safonau'r cyfleusterau a'r gweithgareddau gweithredol yn diwallu anghenion heriol y sefydliad darbodus a bywiog hwn.
Mae hon yn rôl ymarferol sy'n cynnwys parhau i ddatblygu a gweithredu systemau, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol a pherfformiad gweithredol o fewn cyfyngiadau tynn o ran adnoddau.
Mae'n debygol y bydd gennych gymwysterau cefndir ac ymarferol mewn sgiliau crefft, ynghyd â thystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd rhagorol.
Mae hanes profedig o ran theori ac ymarfer rheoli cyfleusterau yn hanfodol. Felly mae gallu trefniadol dadansoddol a phrofedig, ynghyd â'r gallu i weithio ar sawl tasg ar yr un pryd a blaenoriaethu eich amser eich hun ac amser eraill, yn hanfodol. Ynghyd â sgiliau TG cryf yn gyffredinol, byddwch yn hyderus wrth ddefnyddio pecynnau meddalwedd a systemau rheoli data amrywiol.
Fel cyfathrebwr da yn rhyngbersonol ac yn ysgrifenedig, byddwch yn rheolwr pobl cymwys, sy'n gallu rheoli ac ysgogi tîm bach a dylanwadu ar eraill.
Bydd rhuglder a hyder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn fantais. Yn ogystal, mae diddordeb a brwdfrydedd o ran dibenion ac amcanion cenhadaeth graidd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a chynaliadwyedd yn ddymunol iawn.
MANYLION AMLINELLOL Y PENODIAD Swydd lawn-amser barhaol yw hon, a fydd yn dechrau ar y dyddiad cynharaf y gellir ei drefnu. Yr oriau gwaith yw 37.5 ar unrhyw bum niwrnod allan o saith yn ôl yr angen i ddiwallu anghenion y tîm, gyda hyblygrwydd i sicrhau gweithrediad hwylus ledled y safle 568 erw. Disgwylir i chi weithio ar y penwythnos ar sail rota.
Telir cyflog o hyd at £25,000 y flwyddyn, yn ôl cymwysterau a phrofiad.
Edrychwch ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth.
Dylid anfon ceisiadau, ar ffurf llythyr eglurhaol a CV sy'n dangos yn glir sut yr ydych yn bodloni'r meini prawf, fel copi electronig yn ddelfrydol, at [email protected] erbyn dydd Gwener 25 Medi 2020.
Fodd bynnag, rydym yn cadw'r hawl i gau'r broses recriwtio yn gynnar a gwneud penodiad cyn y dyddiad cau.
Dylid hefyd ddarparu manylion cyswllt dau ganolwr.
Trefnir cyfweliadau cyn gynted â phosibl.
Cynorthwyydd Cyfleusterau Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Y Rôl Mae'r rôl yn gyfrifol am sicrhau bod safonau cyfleusterau a gweithgareddau gweithredol yn diwallu anghenion heriol ac amrywiol atyniad ymwelwyr blaenllaw, sefydliad ymchwil o safon fyd-eang a gardd fotaneg sy'n gartref i rai o blanhigion mwyaf prin y byd.
Y TÎM Mae'r tîm yn cynnwys Pennaeth Gweithrediadau a Chyfleusterau, Uwch-beiriannydd cymwys, aelod llawn-amser o'r tîm staff cynnal a chadw cyffredinol, ac un aelod tîm cyffredinol arall 60% cyfwerth ag amser llawn.
GARDD FOTANEG GENEDLAETHOL CYMRU SWYDD-DDISGRIFIAD Teitl y Swydd – Cynorthwy-ydd Cyfleusterau
Gradd – Cynorthwyydd
Adran Cyfleusterau a Gweithrediadau
Yn adrodd i'r Pennaeth Gweithrediadau a Chyfleusterau
DIBEN AMLINELLOL Y RÔL Mae'r rôl hon yn gyfrifol am sicrhau bod safonau cyfleusterau a gweithgareddau gweithredol yn diwallu anghenion heriol ac amrywiol atyniad ymwelwyr blaenllaw, sefydliad ymchwil o safon fyd-eang, a gardd fotaneg sy'n gartref i rai o blanhigion mwyaf prin y byd.
Mae'n cynnwys cyfrifoldeb am systemau a phrosesau sefydliadol, yn ogystal â monitro ac adrodd sy'n ymestyn i adeiladau ac asedau cyfalaf eraill, contractau a thendrau gwasanaethau a chyflenwi, trefniadau diogelwch, a gofynion statudol ac iechyd a diogelwch cysylltiedig. Fel rôl ymarferol iawn, mae'n cefnogi tîm cyfleusterau bach a phrofiadol, yn ogystal â rhyngweithio'n helaeth ag eraill yn fewnol ac yn allanol i'r sefydliad.
Cynorthwyydd Cyfleusterau Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
A. CYFRIFOLDEBAU CYFFREDINOL 1. Cyfrannu at gyfeiriad strategol, amcanion, uchelgais a llwyddiant y sefydliad.
2. Cynllunio a darparu gwasanaethau a systemau cyfleusterau a gweithredol sy'n diwallu anghenion, adnoddau a dangosyddion perfformiad y sefydliad. Datblygu a gweithredu strategaeth cynnal a chadw sydd wedi'i chynllunio ac sy'n edrych i'r dyfodol.
3. Cynorthwyo i lunio a gweithredu polisïau a phrosesau i sicrhau bod yr holl gyfleusterau ac offer yn addas at y diben.
4. Rheoli'r gwaith o gynnal a chadw cyfleusterau ynghyd â'r gwasanaethau cymorth, yn unol ag anghenion sefydliadol a gofynion statudol, gan sicrhau bod gwaith gweithredu, monitro ac adrodd o ddydd i ddydd ar waith i gyflawni safonau ac amcanion y cytunwyd arnynt.
5. Cynorthwyo i reoli contractau a chytundebau allanol cysylltiedig â chyfleusterau yn ôl yr angen. Cynorthwyo i gaffael gwasanaethau a chyflenwadau yn unol â gweithdrefnau ariannol yr Ardd a chan dalu sylw i arfer gorau, gwerth am arian gydol oes, ac amcanion cynaliadwyedd. Sicrhau bod telerau contract yn cael eu trafod a'u bodloni mewn modd diwyd.
6. Cynorthwyo'r Pennaeth Gweithrediadau i reoli ac adolygu iechyd a diogelwch sefydliadol. Mae hyn yn cynnwys llenwi unrhyw ffurflenni statudol yn ogystal â datblygu prosesau ar gyfer nodi, asesu, monitro ac adrodd ar risgiau. Mae gweithio gyda phob adran yn rhan hanfodol o hyn, er mwyn sicrhau cydymffurfedd ledled y safle.
7. O ran cyfleusterau a gweithrediadau yn arbennig (ond nid yn unig), cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu trefniadau cynllunio wrth gefn ac adfer ar ôl trychineb. Mewn cysylltiad â'r Pennaeth Gweithrediadau ac uwch-staff eraill, adolygu'r Gofrestr Risgiau yn barhaus.
8. Dirprwyo i arwain a rheoli'r tîm Cyfleusterau yn ystod gwyliau staff. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, arwain, hyfforddi a chefnogi'r tîm fel bod aelodau yn unigol ac ar y cyd yn glir o ran eu hamcanion, ac yn cael eu cymell i ddiwallu anghenion sefydliadol yn y ffordd orau.
9. Cydweithio'n effeithiol â chydweithwyr ledled y sefydliad, gan ddarparu gwasanaeth cyfleusterau a gweithrediadau sy'n bodloni neu'n rhagori ar dargedau a disgwyliadau ar gyfer sefydliad sy'n tyfu ac sy'n uchelgeisiol, ac adeiladu ar yr enw da presennol o ran dibynadwyedd.
10. Gweithio'n agos gydag eraill i ddiwallu anghenion gweithredol, a hynny mewn perthynas â digwyddiadau a blaengynllunio a darparu digwyddiadau mawr mewn modd llwyddiannus.
11. Cynorthwyo i gydlynu trefniadau ar gyfer hyfforddiant mewn perthynas â chyfleusterau, gweithrediadau, ac iechyd a diogelwch. Cefnogi rheolwyr eraill i ddatblygu neu weithredu hyfforddiant neu brotocolau sy'n gysylltiedig ag iechyd a diogelwch yn eu meysydd cyfrifoldeb.
Cynorthwyydd Cyfleusterau Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
12. Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu safonau uchel o gadw cofnodion a monitro y deellir yn eang, sy'n hygyrch i'r rheiny y mae angen iddynt eu rhannu, a darparu sylfaen gadarn ar gyfer monitro, adolygu, gwerthuso ac adrodd.
13. Cynnal archwiliadau o gyfleusterau/weithrediadau o ran cyflawniadau cyfleusterau, gwasanaethau, trefniadaeth a safonau y cytunwyd arnynt, a darparu adroddiadau i eraill yn ôl yr angen.
14. Gweithio'n rhagweithiol tuag at wella safonau a darparu arfer gorau ledled y sefydliad.
15. Cynrychioli'r Ardd gydag ymwelwyr allweddol neu benodol a/neu pan ofynnir ar gyfer digwyddiadau allanol.
B. DYLETSWYDDAU PENODOL 16. Trefnu a rheoli trefniadau amgylchedd a gwastraff, yn effeithlon ac yn unol â
gofynion yr Ardd ac unrhyw ofynion statudol.
17. Cyflawni safonau enghreifftiol amgylcheddol priodol ar gyfer y sefydliad.
18. Rheoli'r gwaith o gynnal a chadw fflyd cerbydau'r Ardd, a chysylltu ag adrannau eraill i sicrhau bod systemau, yswiriant, safonau cydymffurfio a thrwyddedau priodol ar waith ar gyfer gweithredu'n ddiogel.
19. Ymgymryd â phrosesau ymsefydlu iechyd a diogelwch a hyfforddiant gloywi ar gyfer staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr newydd a chyfredol.
20. Rheoli hyfforddiant cymorth cyntaf, cynnal cofrestr o swyddogion cymorth cyntaf a chynnal ymchwiliadau i ddamweiniau a damweiniau a fu bron â digwydd ar y safle.
21. Cynorthwyo i sicrhau bod cydymffurfedd yn cael ei gynnal bob amser ar y safle.
Cynorthwyydd Cyfleusterau Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
MANYLEB Y PERSON Isod gwelir y meini prawf a ystyrir yn angenrheidiol i gyflawni’r rôl.
Mae’r wybodaeth hon ar gael yn agored i ymgeiswyr, a bydd yn sail i’r broses recriwtio a dethol.
Dim ond yr ymgeiswyr hynny sy’n bodloni’r meini prawf hyn mewn modd digonol a fydd yn cael eu hystyried.
Meini Prawf Hanfodol
1 Perfformiad profedig mewn rôl rheoli cyfleusterau: 5 mlynedd
2 Lefel dda o addysg.
3 Sgiliau trefnu profedig, ac yn rhoi sylw brwd i fanylion.
4Gallu rhagorol mewn rhifedd, defnyddio bysellfwrdd a TG. Yn gallu trin data a gwybodaeth,
a dehongli ac adrodd ar dueddiadau a chanlyniadau.
5 Sgiliau cyfathrebu personol rhagorol a datblygedig, sy’n cynnwys mynegiant llafar croyw,
arddull ysgrifenedig rugl, a hyder wrth roi cyflwyniadau.
6Yn fedrus wrth ddefnyddio pecynnau MicrosoJ Office, yn enwedig Excel a meddalwedd Sage
ar gyfer cadw cyfrifon.
7 Hanes blaenorol o weithio ar lefel uchel o gyfrifoldeb ac atebolrwydd unigol.
8Yn meddu ar ymroddiad gwirioneddol i genhadaeth a diben yr Ardd Fotaneg, ynghyd â
brwdfrydedd i gyfrannu at ei llwyddiant, at ysbryd y Um, ac at enw da ac ethos yr Ardd.
Meini Prawf Dymunol
9 Rhuglder mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar, yn ogystal ag ymrwymiad i bobl, iaith a diwylliant
Cymru.