cynadleddau ac achlysuron
DESCRIPTION
Cynadleddau ac AchlysuronTRANSCRIPT
Cynadleddau ac Achlysuron
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Gyda golygfeydd hyfryd ar draws Bae Ceredigion, Canolfan y Celfyddydau
Aberystwyth, sydd wedi ennill sawl wobr, yw’r ganolfan gelf fwyaf a
phrysuraf yng Nghymru, gan gynnig rhaglen gyffrous ac amrywiol o theatr
fodern, dawns, perfformiad arbrofol, sinema, comedi, cerddoriaeth fyw,
cyrsiau ac arddangosfeydd.
Mae gofod perfformio, rihyrso ac arlwyo helaeth y Ganolfan ar gael hefyd
ar gyfer cynadleddau ac achlysuron, gan gynnig cyfleusterau llawn yn unol
â’ch gofynion - yn amrywio o gyfarfodydd bach o 5 i gynadleddau mawr
hyd at 1,000. Mae’r Ganolfan yn cynnwys neuadd gyngerdd, theatr,
orielau, sinema 3D, theatr stiwdio, gweithdai (gan gynnwys crochendy,
ystafell dywyll, stiwdio recordio, labordy digidol/stiwdio cyfrwng newydd a
stiwdio 2D), caffi, Siop Grefft a Dylunio, Siop Lyfrau a gwasanaeth arlwyo
poblogaidd - yn sicr, dyma’r lle delfrydol i gynnal eich cynhadledd!
Cynadleddau ac Achlysuron yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth g: www.aber.ac.uk/artscentre ff: 01970 622884
Pecynnau sydd ar gaelPecyn Diwrnod £25 y person (gan gynnwys TAW)
- Ystafell ar gyfer y cyfarfod - Lluniaeth ysgafn wrth gyrraedd - te, coffi & bisgedi masnach deg - Lluniaeth ysgafn canol bore - te, coffi & bisgedi masnach deg - Bwffe canol dydd - gellir ymateb i unrhyw ofynion arbennig - Lluniaeth ysgafn yn y prynhawn - te, coffi & chacennau masnach deg - Poteli o ddŵr & losin - Papur & phinnau ysgrifennu - Taflunydd, sgrîn & siartfflip
Pecyn Hanner-diwrnod £12.50 y person (gan gynnwys TAW)
- Ystafell ar gyfer y cyfarfod- Lluniaeth ysgafn wrth gyrraedd - te, coffi & bisgedi masnach deg - Lluniaeth ysgafn canol bore - te, coffi & bisgedi masnach deg - Poteli o ddŵr & losin- Papur & phinnau ysgrifennu- Taflunydd, sgrîn & siartfflip
Gellir addasu’r uchod yn ôl eich gofynion. Byddwn yn hapus i drafod eich anghenion a dyfynnu pris fel bo’n addas.
Cynadleddau ac Achlysuron yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth g: www.aber.ac.uk/artscentre ff: 01970 622884
Mannau CyfarfodNeuadd Gyngerdd
Mae prif neuadd gyngerdd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn
dal dros 900 o bobl. Gellir addasu lleoliad y seddi yn ôl yr angen a
dyma le delfrydol i gynnal cynadleddau, ffeiriau masnach a phrydau
bwyd ffurfiol. Defnyddir y neuadd hon i drefnu darllediadau byw
megis Côr Cymru - y gystadleuaeth i ddod o hyd i gôr gorau Cymru
a ddarlledwyd ar S4C. Gwyliwch y rownd derfynol ar-lein yma: http://
www.s4c.co.uk/corcymru
Theatr
Gyda seddi ar gyfer 312 o bobl, mae theatr y Ganolfan yn cynnig lle
cyfforddus ar gyfer cyfarfodydd yn ogystal â chyfleusterau goleuo a
sain da.
Sinema
Mae’r sinema gyda 125 o seddi yn lle gwych ar gyfer cynadleddau.
Mae’r lleoliad hwn yn cynnig cyfleusterau AV rhagorol, gan gynnwys
taflunydd 3D diffiniad-uchel digidol o’r safon uchaf, taflunydd 35mm
gyda sain cwmpasol, yn ogystal â mynediad i’r rhyngrwyd.
Cynadleddau ac Achlysuron yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth g: www.aber.ac.uk/artscentre ff: 01970 622884
Mannau CyfarfodStiwdio Gron
Mae’r theatr stiwdio yn cynnig lleoliad llai, mwy personol. Gyda seddi
ar gyfer 80 o bobl ar ffurf theatr, neu hyd at 100 ar ffurf stiwdio gron,
dyma’r lle delfrydol i gynnal cynadleddau a chyfarfodydd llai, neu
sesiynau trafod sy’n rhan o achlysur mwy.
Stiwdios Ymarfer
Mae pob un o’r chwe stiwdio ymarfer, gan gynnwys cyfleusterau
newydd sbon yr Ysgol Ddawns, yn gwneud ystafelloedd cyfarfod a
mannau trafod ardderchog. Gellir addasu’r mannau hyn i ymateb â’ch
gofynion.
Barrau & Chaffis
Mae’n cyfleusterau bar a chaffi ar gael ar gyfer achlysuron
corfforaethol, unai fel mannau cyfarfod ymlaciol, anffurfiol neu fel
lle cyfforddus i fwyta. Gallwch fwynhau cyfarfod amser brecwast yn
edrych allan dros y môr, neu bryd min nos yn gwylio machlud yr
haul!
Cynadleddau ac Achlysuron yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth g: www.aber.ac.uk/artscentre ff: 01970 622884
Bwyd a DiodBar y Theatr
Wedi’i leoli yng nghyntedd deniadol y theatr, mae Bar y Theatr yn
cynnig lle golau a chyfforddus i ymlacio. Ceir yn y cyntedd ddewis o
soffas a chadeiriau, mae croeso i blant, a gallwch hefyd eistedd allan
ar y patio os yw’r tywydd yn caniatau.
Caffi
Mae caffi poblogaidd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn cynnig
dewis blasus o saladau ffres, prydau poeth a byrbrydau - y cyfan yn
cael eu paratoi ar y safle - yn ogystal â dewis gwych o gacennau
cartref! Gellir darparu bwyd ar gyfer cynadleddau ac achlysuron o
unrhyw faint, a gellir addasu’r fwydlen i ateb â’ch gofynion.
Caffi’r Piazza
Mae caffi’r Piazza yn cynnig golygfeydd bendigedig ar draws Bae
Ceredigion ac amrediad o fwydydd ffres gan gynnwys pizzas, rholiau,
bagels, cacennau te wedi eu tostio, cacennau cartref heb eu hail a
phob math o de a choffi arbenigol.
Dewis o fwydlenni cynhadledd ar gael ar gais.
Cynadleddau ac Achlysuron yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth g: www.aber.ac.uk/artscentre ff: 01970 622884
Ynglyn â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth Yn adran o Brifysgol Aberystwyth, mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn croesawu dros 750,000 o ymwelwyr y flwyddyn gan gynnwys dros 100,000 yn mynychu’r celfyddydau perfformio a gweithgareddau sy’n nodweddu gwaith lleol, cenedlaethol a rhyngwladol; 236,000 yn mynychu’r arddangosfeydd a thros 100,000 yn cymryd rhan yn ein rhaglen addysg a chelfyddydau cymuned unigryw. Mae gan y ganolfan raglen artistig eang, yn cynhyrchu yn ogystal â chyflwyno, ym mhob agwedd o’r celfyddydau gan gynnwys drama, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, y celfyddydau cymhwysol, ffilm, y cyfryngau newydd a’r celfyddydau cymunedol, ac fe’i cydnabyddir fel canolfan genedlaethol flaenllaw ar gyfer datblygu’r celfyddydau.
Yn 2000 bu Canolfan y Celfyddydau yn cwblhau prosiect ail-ddatblygu sylweddol gwerth £4.3 miliwn. Yn 2009 ymgymerwyd â datblygiad ychwanegol gwerth £1.75 miliwn i greu stiwdios newydd ar gyfer artistiaid a’r diwydiannau creadigol, sydd hefyd yn gartref i’r artistiaid sy’n cymryd rhan yn ein rhaglen Artistiaid Preswyl sylweddol. Mae hyn yn golygu bod gan y Ganolfan amrediad o gyfleusterau sydd heb eu hail yn y rhan fwyaf
o’r DU.
Cynadleddau ac Achlysuron yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth g: www.aber.ac.uk/artscentre ff: 01970 622884
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Maris DaviesCanolfan y Celfyddydau Aberystwyth PenglaisAberystwythCeredigionSY23 3DE
ff: 01970 622884e: [email protected]: www.aber.ac.uk/artscentre