cymru - resources.hwb.wales.gov.ukresources.hwb.wales.gov.uk/vtc/2010-11/wsl/synoptig... · restr....
TRANSCRIPT
Cymru
Geirfa
Cymraeg Saesneg
balchder pride
bod yn falch to be proud
cenedl/cenhedloedd nation/s
cenedlaethol national
cenedlaetholwr
cenedlaetholwraig
cenedlaetholwyr
nationalist (m)/(f)/nationalists
diwylliant/diwylliannau culture/s
gwleidyddiaeth politics
ffyddlondeb faithfulness/loyalty
yn fwy na hyn more than this
Mae dysgu geirfa newydd o hyd yn help wrth ddysgu iaith. Beth am fentro ar y cwis
geirfa ar ddiwedd yr uned wedyn?
Beth yw Cymru i ti?
Beth mae’r gair ‘Cymru’ yn ei olygu i ti? Ysgrifenna dy syniadau ar fap meddwl 1 ar
ddiwedd yr uned.
Ar ôl astudio’r uned hon byddi di’n
gallu trafod Cymru fel thema
gallu cymharu Cymru mewn sawl testun
Beth mae Cymru’n ei olygu i dy bartner di? Trafoda hyn gyda dy bartner. Oes
syniadau gwahanol gennych chi? Ychwanega syniadau dy bartner at dy swigod di.
Nesa, mae’n rhaid i ti a dy bartner siarad â phâr arall. Rhannwch eich syniadau.
Ydych chi wedi sôn am
y bobl
yr iaith
yr hanes a gwleidyddiaeth
y diwylliant
byd natur?
Cofiwch hefyd fod nifer o’r pethau sy’n codi yn uned 4 yn addas iawn yma hefyd. Mae
llawer o bobl wedi dangos cyfrifoldeb tuag at Gymru.
Gofynnodd T H Parry Williams, un o feirdd pwysicaf Cymru y cwestiwn ‘Beth yw’r ots
gennyf i am Gymru?’ Beth ydy dy ateb di tybed?
Ysgrifenna dy ateb ar ddarn o bapur. Nawr, siarada gyda dy bartner. Ydy’ch syniadau
chi’n debyg neu’n wahanol?
Nesa, mae’n rhaid i ti a dy bartner drafod eich atebion gyda phâr arall. Ydy’ch
syniadau chi’n debyg neu’n wahanol i syniadau T H Parry Williams?
Mae T H Parry Williams yn ateb y cwestiwn. Ar ddechrau’r gerdd, mae e’n gweld
Cymru fel lle bach ac yn lle sy’n gallu bod yn broblem i rai pobl weithiau.
Beth yw’r ots gennyf i am Gymru? Damwain a hap yw fy mod yn ei libart yn byw.
Wyt ti’n cytuno â T.H. Parry Williams? Trafodwch syniadau T.H. Parry Williams yn
eich grŵp. Cofiwch roi digon o resymau i gefnogi’ch barn. Ydych chi’n gallu defnyddio
rhai o’r syniadau sy gennych chi ar fap meddwl 1 i gefnogi’ch barn?
Felly, beth ydy Cymru?
Dyma’r wlad lle rwyt ti’n byw mwy na thebyg. Dyma’r wlad lle cest ti dy eni efallai.
Yn sicr, gwlad ydy Cymru - ond eto i gyd mae Cymru yn fwy na hyn. Mae’n fwy na
darn o dir yn unig. Mae’r bobl, y Cymry’n bwysig iawn. Mae llawer ohonyn nhw wedi
dangos cyfrifoldeb at eu gwlad.
Wyt ti’n gallu meddwl am Gymry enwog sy wedi dangos cyfrifoldeb at Gymru? Gwna
restr. Os oes angen syniadau arnat ti clicia ar www.100welshheroes.com
Nawr, trafoda gyda dy bartner. Oes enwau gwahanol ar y ddwy restr? Gweithiwch
gyda’ch gilydd i ddewis y deg uchaf. Cofia roi digon o resymau i berswadio dy bartner
i gytuno â ti.
Yn 2004 roedd pôl piniwn ar-lein i ddewis 100 arwr Cymru. Tybed ydy dy ddeg ucha di
a deg ucha’r pôl piniwn yn debyg. Clicia ar
http://www.100welshheroes.com/cy/homepage i weld. Pam does dim merched yn y
deg uchaf?
Dyma enghreifftiau o’r rhestr o wefan ‘100 o arwyr Cymru’
(http://www.100welshheroes.com/cy/homepage). Wyt ti’n gwybod pwy ydyn nhw ac am
beth maen nhw’n enwog? Os wyt ti’n cael problem, mae help ar ddiwedd yr uned.
Gweithiwch fel grŵp i drafod y bobl hyn. Yn eich barn chi, ydyn nhw’n haeddu bod ar y
rhestr? Rhowch ddigon o resymau dros eich barn a nodwch sut maen nhw wedi
cyfrannu at fywyd Cymru.
Mae grid 1 ar ddiwedd yr uned. Gwnewch gopi a llenwch y grid fel grŵp. Dyma
enghraifft o un rhes wedi ei llenwi. Dilynwch y patrwm.
Pwy? Enwog am ...? Barn y grŵp
Gwynfor
Evans
Gwleidydd/Aelod Seneddol
cyntaf Plaid Cymru/Heriodd y
llywodraeth nes i ni gael
sianel deledu Gymraeg, sef
S4C.
Wrth drafod y deg arwr yma rwyt ti hefyd wedi trafod iaith a diwylliant, gwleidyddiaeth a
hanes.
Meddylia am y deunyddiau gosod. Oes rhai cymeriadau’n dangos cariad a pharch at
Gymru? Mae grid 2 ar ddiwedd yr uned. Gwna gopi a llenwa’r grid. Dyma enghraifft o
un rhes wedi ei llenwi. Dilyna’r patrwm.
Pwy? Sut mae’n dangos cariad a
pharch at Gymru?
Effaith hyn?
Hedd Wyn Mae e’n dangos cariad at yr
iaith Gymraeg, e.e. wrth
ysgrifennu barddoniaeth.
Hefyd mae diwylliant yn
bwysig iddo a’r wlad o
gwmpas ardal Trawsfynydd.
Trafoda dy restr di gyda dy bartner. Penderfyna ar y ddwy enghraifft orau sydd gennyt
ti. Perswadia dy bartner mai dy enghreifftiau di ydy’r enghreifftiau cryfa. Cofia roi digon
o resymau i gefnogi dy safbwynt.
Yn anffodus, dydy pawb ddim yn dangos cariad a pharch tuag at Gymru. Dydy rhai
ddim yn deall y syniad o Gymreictod. I nifer, rhywbeth dros dro ydy dangos balchder
mewn gwlad e.e. y cefnogwyr rygbi yn ‘Diwrnod y Gêm Genedlaethol’.
Wyt ti’n gallu meddwl am enghreifftiau eraill o bobl sy ddim yn dangos cariad a pharch
tuag at Gymru? Beth am
ffrindiau
teulu
pobl leol
enwogion?
Ond pam dydy pobl ddim yn dangos cariad a pharch at Gymru? Weithiau, mae pobl
yn camddeall. Dydyn nhw ddim yn deall pam mae perthyn i wlad arbennig yn bwysig.
Mae hyn yn gallu bod yn broblem i ni yng Nghymru, e.e. yn y gerdd ‘Iawn, gei di ofyn
cwestiwn personol’ gan Iwan Llwyd.
Felly mae’n bwysig i ni ystyried y ddwy ochr yma. Yn gyntaf mae pobl sy ddim yn
parchu Cymru. Yn ail, mae yna bobl sy ddim yn deall.
Wyt ti’n gallu meddwl am enghreifftiau o bobl sy ddim yn dangos cariad a pharch at
Gymru mewn cerddi eraill, yn y testunau gosod neu’r testunau eraill rwyt ti wedi eu
darllen, clywed neu wylio? Gwna gopi o grid 3. Llenwa dair colofn gyntaf y grid. Mae
enghraifft yn y rhes gyntaf isod. Gweithia gyda dy bartner i ddod o hyd i fwy o enwau
ar gyfer y golofn ‘Pwy?’. Wedyn, llenwch y colofnau ‘Beth?’ a ‘Pam dydyn nhw ddim
yn dangos cariad a pharch?’ ar gyfer pob enghraifft.
Pwy? Beth? Pam dydyn nhw
ddim yn dangos
cariad a pharch?
Effaith hyn?
Sarsiant y
gwersyll
hyfforddi (Hedd
Wyn)
Mae e’n galw’r
milwyr Cymraeg
yn ‘ignorant
Welsh peasants’
Dydy e ddim yn
deall. Efallai ei fod
e’n teimlo’n nerfus
achos bod y milwyr
yn siarad iaith arall a
fydd e ddim yn gallu
deall yr hyn maen
nhw’n dweud.
Trafoda dy restr di gyda dy bartner. Perswadia dy bartner mai dy restr di yw’r rhestr
orau. Cofia roi digon o resymau i gefnogi dy safbwynt.
Dangos neu fethu dangos cariad a pharch at Gymru
Fel arfer, mae canlyniad i ddangos neu fethu dangos cariad a pharch at wlad. Doedd
y sarsiant yn y gwersyll hyfforddi ddim yn dangos unrhyw barch at y Cymry.
Oherwydd hyn, dydy’r milwyr ddim yn gallu dangos parch ato fel person.
Edrycha eto ar gridiau 2 a 3. Wyt ti’n gallu llenwi’r golofn olaf nawr? Dyma res gyntaf
grid 3 i ti fel enghraifft.
Pwy? Beth? Pam dydyn nhw
ddim yn dangos
parch?
Effaith hyn?
Sarsiant y
gwersyll
hyfforddi (Hedd
Wyn)
Mae e’n galw’r
milwyr Cymraeg
yn ‘ignorant
Welsh peasants’
Dydy e ddim yn
deall. Efallai ei fod
e’n teimlo’n nerfus
achos bod y milwyr
yn siarad iaith arall a
fydd e ddim yn gallu
deall yr hyn maen
nhw’n dweud.
Mae e’n colli
parch y milwyr
tuag ato fel
person.
Siarada gyda dy bartner am yr effaith mae dangos neu fethu dangos cariad a pharch
wedi cael ar y gwahanol bobl. Ydych chi’n cytuno bob tro?
Siwan
Mae llawer o gyfeiriadau at Gymru yn y ddrama Siwan. Gwna gopi o grid 4 Gweithia
gyda dy bartner i lenwi’r grid. Mae un enghraifft i ti isod.
Pa
gymeriadau?
Beth oedd y cyfeiriad
at Gymru?
Ymateb i’r cyfeiriad?
Effaith hyn?
Siwan ‘Dafydd y rhois i ’mywyd
i euroi’i deyrnas...’ (tud
35)
Gweithiodd Siwan yn ddiwyd ym myd
gwleidyddiaeth gan drefnu priodasau
ei phlant er mwyn gwneud yn siwr bod
Dafydd yn etifeddu teyrnas gref.
Roedd dyfodol Cymru yn bwysig i
Siwan.
Mae mwy o gyfeiriadau at Gymru yn y ddrama Siwan. Gweithia gyda dy bartner i’w
hysgrifennu i gyd yn y grid.
Ar ôl i ti wneud hyn, byddi di’n gweld bod y wlad a dyfodol y wlad yn bwysig iawn i
Siwan a Llywelyn. Ydy Cymru a dyfodol Cymru yr un mor bwysig yn y testunau eraill
rwyt ti wedi eu darllen?
Cymharu’r enghreifftiau
Wyt ti’n gallu gweld cyfeiriadau eraill yn y ddrama Siwan? Wyt ti’n gallu cyfeirio at
draddodiadau neu arferion? Edrycha wedyn ar yr enghreifftiau o ffynonellau eraill rwyt
ti wedi eu nodi. Beth sy’n debyg ac yn wahanol? Beth am ddefnyddio diagram Venn i
gymharu’r enghreifftiau? Bydd hyn yn dangos y cyfan yn glir.
Mae enghreifftiau o gridiau wedi eu llenwi yn uned 1.
Tasg
Gweithia gyda dy grŵp i drafod y cwestiwn isod.
Cymru ydy un o’r themâu pwysicaf yn y ddrama Siwan. Ydych chi’n cytuno?
Trafodwch hyn gan gyfeirio at unrhyw lenyddiaeth a ddarllenwyd neu
lunyddiaeth a wyliwyd gennych sydd yn ymdrin â'r un pwnc.
Cyn dechrau, rhaid meddwl a chynllunio. Defnyddia’r gridiau rwyt ti wedi eu paratoi.
Beth am ddefnyddio un o’r mapiau meddwl neu greu un newydd? Mae mapiau
meddwl ar ddiwedd yr uned.
Cofia! Gwaith grŵp yw hwn, felly bydd rhaid i ti
ofyn ac ateb cwestiynau
gwrando ac ymateb
gofyn am esboniad a herio
rhoi dy farn gyda digon o resymau.
Mae modd i ti ddefnyddio llawer o’r geiriau a’r ymadroddion defnyddiol sy yn unedau 1
– 3. Edrycha arnyn nhw eto. Faint rwyt ti’n cofio? Ysgrifenna chwech ymadrodd dwyt
ti ddim yn eu cofio’n dda o unedau 1 – 3 isod. Dysga’r ymadroddion a defnyddia nhw
pan rwyt ti’n siarad.
Nawr, rwyt ti’n barod i weithio gydag aelodau eraill y grŵp. Yn y drafodaeth dylet ti
siarad am gyfeiriadau at Gymru yn Siwan a thestunau eraill
cymharu’r cyfeiriadau a rhoi rhesymau dros dy farn
dweud rhywbeth am sut mae’r awduron yn defnyddio iaith ac arddull
ymateb i sylwadau aelodau eraill y grŵp
tynnu’r llinynnau ynghyd a dod i gasgliad.
Ar ddiwedd y drafodaeth, gwerthusa dy waith di a gwaith aelodau eraill y grŵp.
Defnyddia’r pwyntiau bwled uchod fel rhestr wirio. Defnyddia’r wybodaeth i osod
targedau ar gyfer y drafodaeth nesa.
Y tro nesa, bydda i’n
Barddoniaeth
Dewisa gerdd ar y thema Cymru Meddylia am y cwestiynau yn uned 1?
Gweithia gyda dy bartner i ateb y cwestiynau ar y gerdd. Gwna gopi o grid 5.
Defnyddia’r atebion i’r cwestiynau i lenwi’r grid.
Cymharu’r enghreifftiau
Mae llawer o wybodaeth gennyt ti nawr. Edrycha ar y gwahanol enghreifftiau o ymateb
i Gymru sy yn gridiau 1 – 4. Cofia hefyd am gynnwys y gerdd ddewisaist ti. Mae
gridiau 6 a 7 ar gael hefyd i dy helpu. Neu beth am ddefnyddio’r diagram Venn i
gymharu’r enghreifftiau?
Nawr, rhaid defnyddio’r wybodaeth i gymharu Cymru fel thema yn y gwahanol
destunau. Beth am ddefnyddio un o’r mapiau meddwl neu greu un newydd? Mae
mapiau meddwl ar ddiwedd yr uned.
Beth?
Ble?
Sut?
Pryd?
Pam?
Tasg
Defnyddia’r wybodaeth yn y gridiau i baratoi ymateb ysgrifenedig i’r cwestiwn isod.
Manylwch ar brif thema'r gerdd a ddewisoch chi trwy gyfeirio at unrhyw
lenyddiaeth a ddarllenwyd a/neu lunyddiaeth a wyliwyd gennych sydd yn ymdrin
â'r un thema.
Mae’r wybodaeth gennyt ti yn y gridiau, ond cofia, mae cael dechrau a diwedd da yn
bwysig. Mae llawer o ymadroddion defnyddiol ar gyfer dechrau a gorffen traethawd yn
uned 3. Wyt ti’n eu cofio nhw i gyd?
Ysgrifenna chwech ymadrodd arall dwyt ti ddim yn eu cofio o uned 3 isod. Dysga’r
ymadroddion a defnyddia rai ohonyn nhw pan rwyt ti’n ysgrifennu.
Nesa rhaid cynllunio er mwyn rhoi trefn ar yr wybodaeth. Cofia bod rhaid i bob syniad
arwain ymlaen at y nesaf yn naturiol. Efallai bydd y siart ar ddiwedd yr uned yn help i ti
gynllunio. Mae bocs i bob paragraff. Penderfyna di sawl bocs fydd ei angen.
Yn y traethawd dylet ti
drafod testun Cymru yn y gerdd
dweud ym mha destunau eraill y mae cyfeiriad at Gymru
cymharu’r ymateb i Gymru yn y gwahanol destunau a rhoi rhesymau dros dy
farn
dyfynnu i gefnogi dy farn
dweud sut mae’r awduron/beirdd yn defnyddio iaith ac arddull i dynnu sylw at
Gymru
dweud ydy agwedd y beirdd/awduron yn debyg neu’n wahanol
tynnu’r llinynnau ynghyd a dod i gasgliad.
Ar ôl i ti orffen rhoia dy draethawd i dy bartner. Darllena di draethawd dy bartner.
Gwerthuswch waith eich gilydd. Ydych chi wedi ysgrifennu rhywbeth am bob un o’r
pwyntiau bwled uchod? Siaradwch am y pethau da yn y ddau draethawd. Siaradwch
hefyd am y pethau rydych chi eisiau gwneud yn well y tro nesaf. Llenwch y grid isod.
Y pethau da yn fy nhraethawd Y pethau dw i eisiau gwneud yn
well
Nawr, edrycha eto ar dy draethawd a gwna’r pethau rwyt ti wedi eu rhestru uchod.
Gweithgareddau dysgu geirfa ac ymadroddion
Gweithiwch mewn grŵp. Rhowch y geiriau yma mewn dis sbwng.
balchder
ffyddlondeb
cenedlaetholwr
diwylliant
yn fwy na hyn
gwleidyddiaeth
Taflwch y dis yn eich tro a gwnewch frawddeg i gynnwys y gair, neu gofynnwch
gwestiwn yn cynnwys y gair i’r person ar eich chwith.
CYMRU
Map Meddwl 1
Grid 1
Pwy? Enwog am ... Barn y grŵp?
Grid 2
Pwy? Sut mae’n dangos cariad a pharch at Gymru? Effaith hyn?
Grid 3
Pwy? Beth? Pam dydyn nhw ddim yn
dangos parch?
Effaith hyn?
Grid 4
Pa
gymeriadau?
Beth oedd y cyfeiriad at
Gymru?
Ymateb i’r cyfeiriad?
Effaith hyn?
Diagram Venn
Grid 5
Beth? Ble? Pryd? Pam? Sut?
Grid 6
Beth? Tebyg i beth? Pam?
Grid 7
Beth? Ble? Pryd? Pam? Sut?
Diagram Venn
Map Meddwl 2
Map Meddwl 3
Map Meddwl 4
Siart cynllunio
Cyflwyniad cyffredinol
Tynnu’r llinynnau at ei gilydd a dod i gasgliad
Arwyr Cymru
Simon Weston
Catherine Zeta Jones
Dylan Thomas
John Charles
Saunders Lewis
Aneurin Bevan
Waldo Williams
Tanni Grey Thompson
Llywelyn Ein Llyw Olaf
Gwynfor Evans