cronfa archesgob cymru er budd plant cylchlythyr 2016 … · 2017. 9. 4. · cyfraniadau 32,103...
TRANSCRIPT
Ffôn: 029 2034 8200E-bost: [email protected]
Elusen Gofrestredig 102236
Cyflwynodd yr Ymddiriedolwyr yr
adroddiad diwethaf ar waith Cronfa Archesgob Cymru er budd Plant ym Mehefin 2013.
Ers hynny gwnaeth cynulleidfaoedd a phlwyfi waith rhagorol yn parhau i godi cyllid i’r hyn a ddaeth yn rhaff bywyd yn y cyfnod economaidd anodd hwn ar gyfer grwpiau plant ledled Cymru.
Heb gefnogaeth sylweddol ein plwyfolion, ni fyddai ein hymrwymiad i a thros blant a phobl ifanc yn enw Iesu yn bosibl.
Roedd yr Ymddiriedolwyr yn ddiolchgar iawn i dderbyn cymynrodd sylweddol yn ystod 2014 gan y ddiweddar Lillian Sophia Richards oedd yn byw yn Esgobaeth Mynwy.
Cafwyd ceisiadau am gefnogaeth ariannol gan ystod eang o brosiectau plant. Bu’r Ymddiriedolwyr yn falch i gefnogi cyfanswm o 57 o brosiectau gyda nifer o’r rhain o’r tu mewn i’n cymunedau eglwys ein hunain. Rydym wedi cynnwys peth gwybodaeth ar ychydig o’r prosiectau a gefnogwyd hefyd.
£31 Rhagfyr 2014
£31 Rhagfyr 2015
Cyfraniadau 32,103 29,915Cymynrodd 57,014 --Balans Banc 150,745 148,009Ceisiadau
Derbyniwyd 60 47Cefnogwyd 33 24
Canlyniadau Ariannol
2016CRONFA ARCHESGOB CYMRUER BUDD PLANT
CRONFA ARCHESGOB CYMRUER BUDD PLANT
THE ARCHBISHOP OF WALESFUND FOR CHILDREN
THE ARCHBISHOP OF WALESFUND FOR CHILDREN
Esgobaeth LlanelwyPlwyf Bae Colwyn £2,500 fel cyfraniad tuag at gost Gweithiwr Ieuenctid a Phlant Plwyf.
Eglwys y Drindod Sanctaidd, £3,400 i’w dalu dros 3 blynedd i helpu parhau i dalu Gwersyllt am Eglwys Flêr a Pebbles, clwb ar ôl ysgol
Cadeirlan Llanelwy £1,720 i ariannu hyfforddiant pedwar o bobl mewn Chwarae Duwiol.
Esgobaeth BangorCanolfan Plant a Theuluoedd £2,452 i brynu dodrefn ac offer diogelwch hanfodol Plwyf Bro Ardudwy ar gyfer ei Chanolfan Plant a Theuluoedd
Eglwys Santes Fair, Beddgelert Dyfarnwyd grantiau yn gyfanswm o £2,150 i brynu offer ar gyfer eu prosiectau Agor y Llyfr ac Eglwys Flêr
Prosiectau a Gefnogwyd
Cylch lythyr Ymddiriedolwyr
Cronfa Archesgob Cymru er budd Plant
40929 CIW AWFC Newsletter W June 2016.indd 1 20/07/2016 16:55
Esgobaeth LlandafGallodd y Gronfa unwaith eto gefnogi gwaith Bwrdd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Esgobaeth Llandaf a dyfarnwyd 2 grant iddo.
Rhoddwyd £3,000 fel cyfraniad tuag at gost rhedeg grwpiau Sunshine Disability a Little Dragons a chefnogi ei gynllun newydd Bumps and Bundles a £1,000 tuag at gost prynu offer hanfodol ar gyfer Meithrinfa Ddydd Illtyd Sant.
Gwneud Cerddoriaeth yn Newid BywydauSefydlwyd yn 2009 fel sefydliad cerdd cymunedol o fewn Plwyf Trelái a Chaerau. Ei nod yw darparu addysg cerddoriaeth glasurol sy’n hygyrch i bob plentyn a pherson ifanc yn byw yn ardaloedd Trelái a Chaerau, ardal amddifadus yn gymdeithasol ac economaidd o Gaerdydd. Dyfarnwyd grant o £3,300 iddynt i dalu am gostau hyfforddiant cerddoriaeth.
Esgobaeth Trefynwy Cymuned Holywell, Y FenniMae’r symudiad mynychaidd newydd hwn yn gweithio gyda phobl ifanc yng ngogledd y Fenni i drin y problemau y mae amddifadedd yn eu hachosi i bobl ifanc, yn cynnwys effeithiau camddefnyddio cyffuriau. Dyfarnwyd grant o £3,000 i’r Gymuned i brynu offer a chefnogi trefniadau byw y gymuned fynychaidd hon.
Uned Mamau Bedwellte £600 i helpu cefnogi eu Diwrnod Hwyl i’r Teulu
Esgobaeth Tyddewi Canolfannau TeuluDyfarnodd y Gronfa nifer o grantiau i’r prosiectau dilynol yn 2014/2015
Canolfan Teulu Felinfoel, Llanelli 2 grant yn gyfanswm o £3,819 ar gyfer i Grwp Tadau
Canolfan Teulu Morfa, Llanelli £2,500 fel cyfraniad tuag at ei gostau rhedeg
Ty Enfys £1,000 fel cyfraniad tuag at gost ei weithwyr sesiwn
Canolfan Teulu Trimsaran, Cydweli £1,000 fel cyfraniad tuag at ei gostau rhedeg blynyddol
Esgobaeth Abertawe ac AberhondduGallodd y Gronfa gefnogi’r Esgobaeth yn ei phrosiectau cyfrifoldeb cymdeithasol o fewn ei Rhaglen Ffydd mewn Teuluoedd:
Canolfan Teulu Penplas, Abertawe £1,750 fel cyfraniad tuag at gost cefnogi ei rhaglen o sesiynau cinio teulu
Canolfan Teulu Sant Ioan, £3,756 i gefnogi costau rhedeg meithrinfa Aberhonddu am gyfnod o 12 mis
Sefydliadau EraillWhizz KidsMae Whizz Kids yn elusen genedlaethol Brydeinig sy’n trawsnewid bywydau plant anabl er mwyn rhoi’r dechrau gorau posibl iddynt i’w galluogi i gyrraedd eu potensial llawn mewn bywyd. Mae Whizz Kids wedi helpu dros 19,000 o blant a phobl ifanc ers 1990. Mae ein grant iddynt o £4,000 yn eu cefnogi i ddarparu offer symudedd ar gyfer 3 o bobl ifanc sy’n byw yn Esgobaethau Abertawe ac Aberhonddu a Mynwy.
Bullies OutSefydlwyd yn 2006, gyda’i bencadlys yng Nghaerdydd, mae’n darparu help, cefnogaeth, hyfforddiant a gwybodaeth gwrth-fwlio i unigolion, ysgolion, gweithleoedd a gosodiadau ieuenctid a chymuned eraill. Fe wnaethom ddyfarnu grant o £2,400 tuag at gost hyfforddi ei Raglen Llysgennad Ifanc yn gweithio ledled Cymru.
YMCA CaerdyddMae rhaglen Time 4 Me YMCA Caerdydd ar gyfer gofalwyr ifanc yn cefnogi dros 120 o blant a phobl ifanc rhwng 7 a 18 oed sy’n gofalu am aelod arall o’r teulu mewn amgylchiadau anodd. Nod Time 4 Me yw rhoi o leiaf un cyfle seibiant y mis i bob gofalwr ifanc. Dyfarnodd y Gronfa £2,500 iddynt tuag at gost ariannu gweithgareddau seibiant am flwyddyn.
Prosiect Amber Byddin yr Eglwys CaerdyddMae Prosiect Amber yn gweithio mewn ffordd flaengar gyda phobl ifanc 14-25 oed sydd â phrofiad o hunan-anafu. Gan gymryd pobl ifanc fel atgyfeiriadau o ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a meddygon teulu, yn ogystal ag asiantaethau eraill, mae Amber ar y cyd gyda Theatr Fforwm Cymru yn rhedeg cyfres 10 wythnos o weithdai i helpu cefnogi’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan. Dyfarnodd y Gronfa grant o £1,870 iddynt fel cyfraniad tuag at gost rhedeg gweithdai theatr.
Cwn Clywed i’r ByddarElusen Brydeinig a sefydlwyd yn 1982 i ddarparu a chefnogi cwn clywed i bobl ddifrifol fyddar. Dyfarnwyd y Gronfa grant o £1,000 i helpu tuag gost ei bartneriaeth yng Nghymru a fu o fudd i blentyn difrifol fyddar yn byw yn Esgobaeth Mynwy.
Caiff rhestr lawn o’r prosiectau a gefnogir ei chynnwys gyda’r cylchlythyr yma.
40929 CIW AWFC Newsletter W June 2016.indd 2 20/07/2016 16:55
Grantiau a Ddyfarnwyd 2014Llanelwy £
Get Going Gang, Y Trallwng 500
Cadeirlan Llanelwy 1720
Eglwys Emaniwel, Penyffordd 2500
Clwb Hwyl Plant Prestatyn, Plwyf Bae Colwyn 2500
Bangor £
Eglwys Santes Fair, Beddgelert794
1356Sefydliad Cymreig Marchogaeth Therapiwtig, Porthmadog
500
Canolfan Plant a Theuluoedd, Plwyf Bro Ardudwy 2452
Llandaf £
Cytûn yng Nghastell Nedd 500
Home Start, Butetown, Caerdydd 300
Cerddoriaeth mewn Ysbytai, Caerdydd 1170
World of Words, Williamstown 500
Plwyf Caerau gyda Threlái, Caerdydd 500
Eglwys Santes Catherine, Pontypridd 1920
YMCA Caerdydd 2500
Bwrdd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Esgobaeth Llandaf 3000
Meithrinfa Ddydd Illtyd Sant 1000
Mynwy £
Undeb y Mamau Bedwellte 600
Dawns Ffin, Abertyleri 300
Cymrodoriaeth Gristnogol Wyesham 1000
Cytûn Tredegar 350
Cymuned Holywell, Treffynnon 3000
Tyddewi £
Hafan Cymru, Caerfyrddin 1077
Canolfan Teulu Felinfoel 1664
Canolfan Teulu Morfa 2500
Canolfan Addysg a Phererindod Ty'r Pererin 3000
Abertawe ac Aberhonddu £
KIT Eglwys Gatholig Mihangel Sant, Aberhonddu 1210
Eglwys y Forwyn Fair, Brynmawr 200
Canolfan Datblygu Teulu Ty Morgannwg, Abertawe 1000
Canolfan Chwarae Ystradgynlais 1000
Capel CM Tabernacl, Gorseinon 1500
Canolfan Teulu Sant Ioan, Aberhonddu 3756
Cymru Gyfan £
ERIC - Addysg ac Adnoddau ar Wella Cynhwyster Plentyndod
1500
Hope UK 900
Grantiau a Ddyfarnwyd 2015Llanelwy £
Eglwys Tyrnog Sant, Llandyrnog 800
Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Pentrobin 700
Prosiect Ieuenctid Esgobaeth Llanelwy 423
Llandaf £
Bullies Out, Caerdydd 2400
Prosiect Ieuenctid Blaenllechau, Rhondda 1625
Canolfan Plant Castell-nedd Port Talbot, Gwasanaethau Therapi, Port Talbot
400
Canolfan Norbury, Tyllgoed, Caerdydd 1184
Clwb Dydd Sul Mair Forwyn, Caerdydd 920
Academi Cyfryngau Caerdydd 1003
Prosiect Amber (Byddin yr Eglwys) Caerdydd 1870
Gwneud Cerddoriaeth yn Newid Bywydau, Caerau/Trelai, Caerdydd
3300
Trefynwy £
Ymddiriedolaeth Canolfan Beacon, Caerdydd 2000
Cwn Clywed i Bobl Fyddar 1000
Tyddewi £
Santes Catherine a Sant Pedr, Aberdaugleddau 900
Ysgol Sul Eglwys, Llanfihangel Ystrad 579
Canolfan Teulu Trimsaran 1000
Canolfan Teulu Ty Enfys, Llanelli 1000
Canolfan Teulu Felinfoel 2155
Abertawe ac Aberhonddu £
Whizz Kids, Abertawe 4000
Fferm Gymunedol Abertawe, Abertawe 2040
Cronfa Archesgob Cymru er Budd Plant
40929 CIW AWFC Newsletter W June 2016.indd 3 20/07/2016 16:55