communicating | resourcing | reaching - y negesydd...boed i chi fod yn ymwybodol o’i bresenoldeb...

4
Y NEGESYDD NADOLIG 2018 RHIFYN 11 Cyfarchion y Nadolig ar Flwyddyn Newydd gan Lywyddion yr Undeb DIM OND CARIAD SYDD EI ANGEN!Gofynnodd grŵp o bobl broffesiynol y cwestiwn hwn i grŵp o blant 4 i 8 oed, 'Beth mae cariad yn ei olygu?' Roedd yr atebion a gawsant yn ehangach ac yn ddyfnach nag y gallai neb fod wedii ddychmygu. Dyma ddetholiad: 'Pan gafodd fy nain wynegon, ni allai blygu drosodd a lliwio ewinedd ei thraed mwyach. Felly, mae fy nhad-cu yn gwneud hynny drosti drwy'r amser, hyd yn oed pan gafodd ef wynegon yn ei ddwylo hefyd. Dyna yw cariad ... ' Rebecca - 8 oed 'Cariad yw pan fo merch yn rhoi persawr ar ei chroen a bachgen yn gwisgo sent dan ei ên ac maen nhw'n mynd allan ac yn arogli ei gilydd.' Karl - 5 oed Cariad yw beth sydd gyda chi yn yr ystafell ddydd Nadolig os y gwnewch chi ymatal rhag agor anrhegion a gwrando.Bobby - 7 oed (Waw!) A ffefryn pawb oedd y plentyn pedair blwydd oed, ai gymydog drws nesaf yn ŵr oedrannus a oedd newydd golli ei wraig. Wrth weld y dyn yn crio, aeth y bachgen bach i mewn i ardd yr hen ŵr bonheddig, dringodd i fyny ar ei lin, a dim ond eistedd yno. Pan ofynnodd ei fam beth oedd wedi'i ddweud wrth y cymydog, dywedodd y bachgen bach, 'Dim, ond fe wnes i helpu fe i grio ' Un o ganeuon enwog y grŵp pop, Y Beatles, oedd, All you need is love!(dim ond cariad sydd ei angen), dyna chi deimlad gwych ac un y byddai llawer o bobl heddiw yn cytuno ag ef. Ond, wrth i ni edrych ar ein byd heddiw byddai llawer o bobl yn cytuno hefyd nad oes llawer iawn o gariad yn cael ei arddangos. Dathlwn dymor y Nadolig drwy ddatgan, 'Disgynnodd cariad adeg y Nadolig’, cariad sy mor ddramatig fel y gall newid bywydau. Yr her a wynebwn i gyd yw a ydym yn dangos cariad Crist sy'n newid bywydau drwy gydol y flwyddyn? Cariad sy'n siarad ac yn gweithredu'n wahanol i'r hyn sy'n normal ac yn ddisgwyliedig. Wrth i ni baratoi i fynd i mewn i flwyddyn newydd arall efallai eich bod eisoes wedi gwneud adduned flwyddyn newydd neu'n edrych ymlaen at ben-blwydd arbennig neu ddathliad teuluol neu wyliau unwaith mewn bywyd. Ond beth am fynd i mewn i'r flwyddyn newydd gyda chariad Crist sy'n gallu newid bywydau yn ein calonnau fel y bydd un peth yn aros yn real, sef bod cariad Crist ar gyfer pawb beth bynnag a ddigwydd a ble bynnag yr awn yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Duw a'ch benditho ym mhob peth a wnewch er ei fwyn Ef gydol y flwyddyn sydd i ddod a boed i chi fod yn ymwybodol oi bresenoldeb cariadus. Gallwn garu am ein bod ninnau wedi cael ein caru gyntaf! (1 Ioan 4:19) Gadewch i ni ddangos y ffaith honno i bawb drwy gydol 2019. Parchg Terry Broadhurst O LLAWENHAWN, DAETH CRIST I'N PLITH Hen fis hir a thywyll yw mis Tachwedd. O holl rialtwch calan gaeaf a'i ddychryn, sy'n pwysleisio'r tywyll a'r erchyll, i farchnata a hysbysebu diddiwedd y Black Friday, sy'n ceisio'n hargyhoeddi mai mewn eiddo a meddiannau mae pleser a boddhad i'w gael, does 'na fawr o sôn am oleuni a gobaith. Ond yna, yn flynyddol, daw mis Rhagfyr a chyfnod gobeithiol a disgwylgar yr Adfent i ni. Cyfnod y disgwyl a'r paratoi, cyfnod goleuo canhwyllau, a chyfle i baratoi ein hunain ar gyfer Gŵyl y Goleuni, gŵyl cofio geni Iesu yn Waredwr y byd. Er pob ymgais gan gynghorau tre a dinas i guddio'r preseb a hanes geni Iesu o ganol ein dathliadau, ac ysgolion yn cael eu hannog i gyflwyno 'cyngerdd' yn hytrach na 'gwasanaeth' Nadolig, heb sôn am gynhyrchwyr cardiau Nadolig yn mynd yn fwyfwy dibynnol ar y robin goch a Santa o flwyddyn i flwyddyn, eto i gyd mae 'na oedfaon, cyfarfodydd plygain, oedfaon carolau a gwasanaethau Cristingl yn cael eu cynnal mewn capeli ac eglwysi ar hyd a lled Cymru, syn ein hatgoffa mai Iesu yw Goleunir Byd, er gwaethaf pob ymdrech i ddiffodd y goleuni hwnnw. Braf hefyd gweld mentrau fel Seren yn y Stabl ar adrodd y stori trwy ddrama mewn eglwysi tebyg ir hyn syn digwydd yn y Tabernacl, Caerdydd. Mae mwy o angen i ni fel eglwysi ymestyn allan gydar stori oesol hon nag y bu erioed. Eleni bu i ni greu ymgyrch arbennig yn dwyn y teitl O Llawenhawn’, gan baratoi llawer o adnoddau i alluogi eglwysi lleol i drefnu digwyddiadau yn annog pobl ym mhobman i lawenhau, oherwydd er pob tywyllwch, fe ddaeth goleuni i'r byd. Cynhyrchwyd cylchgrawn arbennig, a braf oedd gweld miloedd o'r rhain yn cael eu dosbarthu i eglwysi ledled Cymru, ynghyd â baneri, balŵns a phob math o adnoddau eraill. Bydd llawer o eglwysi ac ysgolion Sul hefyd wedi dosbarthu comics Nadolig a llyfrau i blant mewn ysgolion ac ysgolion Sul. Fel y mae efengyl Ioan yn ein hatgoffa: Roedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Roedd gyda Duw o'r dechrau cyntaf un. Drwyddo y crëwyd popeth sy'n bod. Does dim yn bodoli ond beth greodd e. Ynddo fe roedd bywyd, a'r bywyd hwnnw'n rhoi golau i bobl. Mae'r golau'n dal i ddisgleirio yn y tywyllwch, a'r tywyllwch wedi methu ei ddiffodd... Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed; daeth i fyw yn ein plith ni. Gwelon ni ei ysblander dwyfol— ei ysblander fel Mab unigryw wedi dod oddi wrth y Tad yn llawn haelioni a gwirionedd.O Llawenhawn, daeth Crist in plith yn wir. Bydded i chithau hefyd brofi llawenydd y Nadolig yn eich calonnau'r Nadolig hwn. Carwn gymryd y cyfle hwn hefyd i ddiolch i chi ar ran yr Undeb am eich tystiolaeth ach cenhadaeth dros Grist. Nadolig llawen, a blwyddyn newydd llawn bendithion i chi oll. Parchg Aled Davies Cyfarchion yr Ŵyl i holl aelodau Undeb Bedyddwyr Cymru

Upload: others

Post on 29-Jan-2021

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Y NEGESYDD NADOLIG 2018 RHIFYN 11

    Cyfarchion y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

    gan Lywyddion yr Undeb

    “DIM OND CARIAD SYDD EI ANGEN!”

    Gofynnodd grŵp o bobl broffesiynol y cwestiwn hwn i grŵp o blant 4 i 8 oed, 'Beth mae cariad yn ei olygu?' Roedd yr atebion a gawsant yn ehangach ac yn ddyfnach nag y gallai neb fod wedi’i ddychmygu. Dyma ddetholiad: 'Pan gafodd fy nain wynegon, ni allai blygu drosodd a lliwio ewinedd ei thraed mwyach. Felly, mae fy nhad-cu yn gwneud hynny drosti drwy'r amser, hyd yn oed pan gafodd ef wynegon yn ei ddwylo hefyd. Dyna yw cariad ... ' Rebecca - 8 oed 'Cariad yw pan fo merch yn rhoi persawr ar ei chroen a bachgen yn gwisgo sent dan ei ên ac maen nhw'n mynd allan ac yn arogli ei gilydd.' Karl - 5 oed ‘Cariad yw beth sydd gyda chi yn yr ystafell ddydd Nadolig os y gwnewch chi ymatal rhag agor anrhegion a gwrando.’ Bobby - 7 oed (Waw!) A ffefryn pawb oedd y plentyn pedair blwydd oed, a’i gymydog drws nesaf yn ŵr oedrannus a

    oedd newydd golli ei wraig. Wrth weld y dyn yn crio, aeth y bachgen bach i mewn i ardd yr hen ŵr bonheddig, dringodd i fyny ar ei lin, a dim ond eistedd yno. Pan ofynnodd ei fam beth oedd wedi'i ddweud wrth y cymydog, dywedodd y bachgen bach, 'Dim, ond fe wnes i helpu fe i grio ' Un o ganeuon enwog y grŵp pop, Y Beatles, oedd, “All you need is love!” (dim ond cariad sydd ei angen), dyna chi deimlad gwych ac un y byddai llawer o bobl heddiw yn cytuno ag ef. Ond, wrth i ni edrych ar ein byd heddiw byddai llawer o bobl yn cytuno hefyd nad oes llawer iawn o gariad yn cael ei arddangos. Dathlwn dymor y Nadolig drwy ddatgan, 'Disgynnodd cariad adeg y Nadolig’, cariad sy mor ddramatig fel y gall newid bywydau. Yr her a wynebwn i gyd yw a ydym yn dangos cariad Crist sy'n newid bywydau drwy gydol y flwyddyn? Cariad sy'n siarad ac yn gweithredu'n wahanol i'r hyn sy'n normal ac yn ddisgwyliedig. Wrth i ni baratoi i fynd i mewn i flwyddyn newydd arall efallai eich bod eisoes wedi gwneud adduned flwyddyn newydd neu'n edrych ymlaen at ben-blwydd arbennig neu ddathliad teuluol neu wyliau unwaith mewn bywyd. Ond beth am fynd i mewn i'r flwyddyn newydd gyda chariad Crist sy'n gallu newid bywydau yn ein calonnau fel y bydd un peth yn aros yn real, sef bod cariad Crist ar gyfer pawb beth bynnag a ddigwydd a ble bynnag yr awn yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Duw a'ch benditho ym mhob peth a wnewch er ei fwyn Ef gydol y flwyddyn sydd i ddod a boed i chi fod yn ymwybodol o’i bresenoldeb cariadus. Gallwn garu am ein bod ninnau wedi cael ein caru gyntaf! (1 Ioan 4:19) Gadewch i ni ddangos y ffaith honno i bawb drwy gydol 2019.

    Parchg Terry Broadhurst

    O LLAWENHAWN, DAETH CRIST I'N PLITH

    Hen fis hir a thywyll yw mis Tachwedd. O holl rialtwch calan gaeaf a'i ddychryn, sy'n pwysleisio'r tywyll a'r erchyll, i farchnata a hysbysebu diddiwedd y Black Friday, sy'n ceisio'n hargyhoeddi mai mewn eiddo a meddiannau mae pleser a boddhad i'w gael, does 'na fawr o sôn am oleuni a gobaith. Ond yna, yn flynyddol, daw mis Rhagfyr a chyfnod gobeithiol a disgwylgar yr Adfent i ni. Cyfnod y disgwyl a'r paratoi, cyfnod goleuo canhwyllau, a chyfle i baratoi ein hunain ar gyfer Gŵyl y Goleuni, gŵyl cofio geni Iesu yn Waredwr y byd. Er pob ymgais gan gynghorau tre a dinas i guddio'r preseb a hanes geni Iesu o ganol ein dathliadau, ac ysgolion yn cael eu hannog i gyflwyno 'cyngerdd' yn hytrach na 'gwasanaeth' Nadolig, heb sôn am gynhyrchwyr cardiau Nadolig yn mynd yn fwyfwy dibynnol ar y robin goch a Santa o flwyddyn i flwyddyn, eto i gyd mae 'na oedfaon, cyfarfodydd plygain, oedfaon carolau a gwasanaethau Cristingl yn cael eu cynnal mewn capeli ac eglwysi ar hyd a lled Cymru, sy’n ein hatgoffa mai Iesu yw Goleuni’r Byd, er gwaethaf pob ymdrech i ddiffodd y goleuni hwnnw. Braf hefyd gweld mentrau fel Seren yn y Stabl a’r adrodd y stori trwy ddrama mewn eglwysi tebyg i’r hyn sy’n digwydd yn y Tabernacl, Caerdydd. Mae mwy o angen i ni fel eglwysi ymestyn allan gyda’r stori oesol hon nag y bu erioed. Eleni bu i ni greu ymgyrch arbennig yn dwyn y teitl ‘O Llawenhawn’, gan baratoi llawer o adnoddau i alluogi eglwysi lleol i drefnu digwyddiadau yn annog pobl ym mhobman i lawenhau, oherwydd er pob tywyllwch, fe ddaeth goleuni i'r byd. Cynhyrchwyd cylchgrawn arbennig, a braf

    oedd gweld miloedd o'r rhain yn cael eu dosbarthu i eglwysi ledled Cymru, ynghyd â baneri, balŵns a phob math o adnoddau eraill. Bydd llawer o eglwysi ac ysgolion Sul hefyd wedi dosbarthu comics Nadolig a llyfrau i blant mewn ysgolion ac ysgolion Sul. Fel y mae efengyl Ioan yn ein hatgoffa: ‘Roedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Roedd gyda Duw o'r dechrau cyntaf un. Drwyddo y crëwyd popeth sy'n bod. Does dim yn bodoli ond beth greodd e. Ynddo fe roedd bywyd, a'r bywyd hwnnw'n rhoi golau i bobl. Mae'r golau'n dal i ddisgleirio yn y tywyllwch, a'r tywyllwch wedi methu ei ddiffodd... Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed; daeth i fyw yn ein plith ni. Gwelon ni ei ysblander dwyfol— ei ysblander fel Mab unigryw wedi dod oddi wrth y Tad yn llawn haelioni a gwirionedd.’ O Llawenhawn, daeth Crist i’n plith yn wir. Bydded i chithau hefyd brofi llawenydd y Nadolig yn eich calonnau'r Nadolig hwn. Carwn gymryd y cyfle hwn hefyd i ddiolch i chi ar ran yr Undeb am eich tystiolaeth a’ch cenhadaeth dros Grist. Nadolig llawen, a blwyddyn newydd llawn bendithion i chi oll.

    Parchg Aled Davies

    Cyfarchion yr Ŵyl i holl aelodau Undeb Bedyddwyr Cymru

  • Dw i’n cofio sawl blwyddyn yn ôl, pan oedd un o’m ffrindiau ar fin mynd ar ei sabothol hi, i mi ofyn iddi: “Beth wyt ti’n bwriadu gwneud yn ystod dy gyfnod Sabothol?” Atebodd hi ar unwaith: “Dw i’n bwriadu ateb dau gwestiwn: Pwy ydy Duw, a beth mae a wnelo Fe â fi?” Ac er nad oedd yr union yr un cwestiynau ’da fi, deallais i ar unwaith beth roedd hi’n ceisio dweud. Mae bywyd y gweinidog yn un prysur, ac yn ystod yr holl bregethu a gwasanaethau ysgol ac angladdau a phriodasau ac ymweliadau ysbyty ac yn y blaen, mae cwestiynau anodd a dwfn yn codi bron bob dydd, ond does dim amser eu hystyried yn drylwyr. Mae’r cyfnod sabothol yn gyfle perffaith i gamu yn ôl o’r bwrlwm beunyddiol, a wynebu’r cwestiynau anodd sy’n codi. Beth ydw i wedi bod yn gwneud? Aethon ni, fi a fy ngŵr, am bererindod o Abergwaun lawr i Dŷ Ddewi, yn cerdded yr holl ffordd ar y llwybr arfordirol, yn ymhyfrydu yn y golygfeydd a’r haul a’r adar a’r môr mor las! Aethon ni fel teulu, y chwech ohonom, i Ben Llŷn, i dreulio pythefnos hudol ar lan y môr, yn deffro yn gynnar bob bore i ddarllen y salmau ar draeth Llanbedrog, a mynd am dro bob dydd i fwynhau harddwch yr ardal. Ysgrifennais i bennod ar gyfer llyfr newydd am Yr Alwad, a hefyd traethawd ar gyfer y Baptist Ministers' Journal. Yn arbennig, ces i’r fraint o dreulio llawer o amser bob dydd yn gweddïo ac yn astudio (adolygu’r iaith Roeg!) ac yn darllen. Amser i gofio pwy ydw i, a pham rydw i'n gwneud beth dwi'n ei wneud - amser i geisio gweld y bywyd trwy lygaid Duw. Dw i mor ddiolchgar i'm heglwys a'r Undeb am roi'r cyfle arbennig yma i fi.

    Parchg Ddr Rosa Hunt

    Cyfnod Sabothol

    SUT I ADNEWYDDU NERTH Dyna fraint oedd cael tri mis o gyfnod sabothol o'm cyfrifoldebau rheolaidd fel gweinidog yn Mount Pleasant, y Coed Duon. Ond beth mae Gweinidog yn ei wneud yn ystod cyfnod sabothol? Gallaf grynhoi hynny mewn pedwar gair - darllen, ysgrifennu, ymarfer ac ymweld. Darllen Do, darllenais rai llyfrau; dim byd anarferol yn hynny. Fodd bynnag, rwy'n ddarllenydd araf, felly roedd yr amser ychwanegol a gefais ar gyfnod sabothol yn golygu y gallwn ddarllen llawer mwy nag y gallaf ei wneud fel arfer. Cefais fwynhad arbennig wrth ddarllen trwy'r Testament newydd i gyd; roedd yn ysbrydoli ac yn goleuo. Darllen - Mae er ein lles ac rwy'n ei argymell yn fawr. Ysgrifennu Do, bûm yn teipio ar fy nghyfrifiadur; dim byd anarferol yn hynny. Rwy'n arth gydag ymennydd bach, felly doedd dim bwriad ceisio ysgrifennu llyfr na chyflawni unrhyw brosiect mor grand. Fodd bynnag, roedd y ddisgyblaeth o ysgrifennu nodiadau dyddiol am yr hyn a ddarllenais a cheisio ysgrifennu crynodebau byr o bob llyfr yn y Beibl, yn arfer da. Ysgrifennu - Mae er ein lles ac rwy'n ei argymell yn fawr. Ymarfer Oedd, roedd gwir angen i mi wneud ymarferion, ynghyd â bwyta llai. Felly, fe ddechreuais ymarfer bron bob dydd ac rwy'n sicr yn llawer iachach (ac yn dipyn hapusach) o'r herwydd. Ymarfer - Mae er ein lles ac rwy'n ei argymell yn fawr. Ymweld Do, manteisiais ar y cyfle i ymweld â gwlad dramor (mae'n dda i'r enaid), i ymweld â Llyfrgell, Llyfrgell Gladstone ym Mhenarlâg (mae'n dda i'r ysgrifennwr), i fynychu cynhadledd bregethu (mae'n dda i'r pregethwr), ac i fynychu nifer o eglwysi lleol eraill (a oedd yn brofiad cymysg—weithiau'n

    peri pryder, bryd arall yn ysbrydoli). Ymweld - Mae er ein lles ac rwy'n ei argymell yn fawr. Cyfnod Sabothol—os ydych yn weinidog, ewc h amdani. Os ydych mewn eglwys sydd â gweinidog anogwch hwy i fynd amdani. Bydd er eu lles hwy, a chwithau ... ac rwy'n ei argymell yn fawr.

    Parchg Mark Thomas

    “AMSER I GOFIO PWY YDW I”

    Parchedigion Mark Thomas a Rosa Hunt yn myfyrio ar eu cyfnodau sabothol

    Roedd y profiad o astudio ar gyfer MTh yn rhan-amser trwy Goleg Caerdydd yn un gwerthfawr iawn. Buaswn i’n disgrifio’r profiad yn un heriol ac wrth gwrs yn waith caled, ond cael fy herio oedd y rheswm pam imi ymgymryd ag astudiaethau pellach. Roedd darllen gwaith awduron ac ysgolheigion tu fas i fy nghylchoedd arferol yn fuddiol iawn ac wedi ehangu fy nealltwriaeth o ddiwinyddiaeth tra’n fy argyhoeddi yn ddyfnach o wirioneddau mawr yr Efengyl. Teitl fy nhraethawd hir oedd A Pastoral Reflection on Planting a Welsh Language Church in Swansea. Roedd y gwaith yn canolbwyntio ar dri maes penodol ac yn gofyn ‘Beth yw Eglwys Fedyddiedig?’, ‘Sut mae creu cymuned ffydd?’ a ‘Sut beth yw dwyieithrwydd positif?’ Roedd hi’n braf iawn cael y cyfle i edrych yn ôl dros y blynyddoedd ar y gwaith rydym wedi cyflawni yn Abertawe a’i ddadansoddi gan ddefnyddio dull diwinyddol. Diolch yn fawr i’r Undeb am eu cefnogaeth ac i ddarlithwyr y Coleg, yn enwedig Peter Stevenson am eu harweiniad a’u cymorth. Diolch i Alaw am greu’r amser i mi allu astudio er i ni gael dwy o ferched yn ystod y cyfnod! Rwyf wedi mwynhau'r her ac wedi elwa o’r holl broses.

    Parchg John Derek Rees

    Mae’r Tîm i Gymru, sef Eleri Alter, Gruffudd Jenkins a Hannah Smethurst, wedi bod ar leoliad yng Nghymanfa Arfon ers mis Medi, ac maen nhw wedi cael croe-so cynnes gan yr eglwysi. Fe ymgartrefont yn y Coleg Gwyn ar Hydref 5ed a diolch i’r Parch Ieuan Elfryn Jones a Pwyllgor y Coleg Gwyn am fod yn barod iddynt letya yno am chwe mis. Dyma enghreifftiau o rai o’r pethau maen nhw’n ei wneud: helpu Ysgol Sul Ieuenctid Emaus, Clwb Ieuenc-tid Caersalem, Oedfa Deulu fisol yn Chwilog a Agor y Llyfr yn Llandudno. Gweddiwch am fendith ar eu llafur.

    Dr Menna Machthreth Llwyd Cyd-lynydd Cenhadaeth

    Diweddariad ar y

    Tîm i Gymru

    Astudio ar gyfer

    Gradd Uwch

  • Cynhadledd Flynyddol Ddwyieithog y Senana yn Llambed

    Ordeinio Nicola Thomas-Bizjak

    Hyfrydwch oedd cael bod yn bresennol yn Nazareth, Bryncethin ar ddydd Sadwrn, 24 Tachwedd, ar gyfer gwasanaeth ordeinio Nicola Thomas-Bizjak. Llywyddwyd yr oedfa gan y Parchg Marc Owen ac roedd yr ordeinio ei hun yng ngofal y Parchg Judith Morris. Offrymwyd gweddi’r ordeinio gan y Parchg Eirian Wyn a chyflwynwyd cyfarchion ar ran y Gymanfa gan Mrs Sarah East, ac ar ran y Coleg gan y Parchg Ddr Ed Kaneen. Traddodwyd pregeth gofiadwy gan y Parchg Ddr Karen Smith. Cyfoethogwyd yr oedfa yn fawr gan gyfraniad côr yr eglwys a chan gyfeillion Nicola, yn ogystal â’r gynulleidfa luosog a oedd yn bresennol. Dymunwn fendith Duw ar Nicola wrth iddi gychwyn ar ei gwaith fel Caplan Carchar ym mis Ionawr. Yn y llun o’r chwith i’e dde mae’r Parchgn Paul Harris, Simeon Baker, Dr Karen Smith, Mrs Sarah East, Parchgn Marc Owen, Nicola Thomas-Bizjak, Judith Thomas, Pastor Dilys Chi, Parchgn Eirian Wyn a Dr Ed Kaneen.

    Seminar Cyllido Undeb Bedyddwyr Cymru

    Deisyfwn fendith Duw ar y Parchedig Casi Jones a sefydlwyd yn weinidog ar Eglwys Emaus, Bangor ar nos Wener, 12 Tachwedd 2018.

    Ar ddydd Gwener, 16 Tachwedd, cynhaliwyd Seminar Cyllido yn y Llwyfan pryd y daeth dros 40 o gynrychiolwyr o wahanol eglwysi ynghyd. Cawsom gyflwyniadau gan Miss Aldyth Williams, Treforys, y Parchg Kath Miller, Hengoed, Mr Geoff Champion, Trecelyn a Mr Dewi Smith o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Roedd gan y pedwar siaradwr brofiad helaeth o gyflwyno ceisiadau am grantiau i amrywiaeth o gyrff er mwyn adnewyddu ein hadeiladau. Bu’n gyfarfod hynod fuddiol a mawr yw ein diolch i Aldyth, Kath, Geoff a Dewi am rannu o’u gwybodaeth a’u profiad. Mae nodiadau o’r cyfarfod ar gael o’r Llwyfan.

    Parchedig Casi Jones

    Parchedig Roy Bedford

    Rydym yn diolch am weinidogaeth y Parchedig Roy Bedford yn Eglwysi Nantgwyn a Beulah, Sir Faesyfed dros y tair blynedd diwethaf. Bellach, mae Roy a’i wraig Lynn wedi symud i Loegr lle y byddant yn parhau i wasanaethu’r Arglwydd drwy hyfforddi a chenhadu.

    Cynhaliwyd Cynhadledd Ddwyieithog Flynyddol Chwiorydd Cymru – y Senana – yn Llanbedr Pont Steffan, Medi 4-6, 2018. Braf oedd cael dod ynghŷd fel chwiorydd ar ddechrau Medi i weddïo, cymdeithasu, moli a chlywed am waith Duw ar draws y byd. Mrs Jan Stanley yw Llywydd y Sena-na eleni ac rydym yn ddiolchgar iddi hi a Miss Carys Jones am y gwaith trefnu. Daeth Miss Judy Cook i sôn am ei gwaith gyda’r BMS yn Hope Home, Gwlad Thai, sy’n cynnig gofal arbennig i blant ag ana-bleddau. Rhannod Mrs Gillian Davies am ei thaith i Nepal a’r Parch Mary Davies fu’n arwain yr astudiaethau Beiblaidd.

    Dr Menna Machreth Llwyd Cyd-lynydd Cenhadaeth

    NODWCH Y

    DYDDIAD!

    17 Ebrill 2019

    Cynhelir Gweithgaredd ac

    Oedfa i nodi

    canmlwyddiant

    marwolaeth

    Dr Timothy Richard —

    cenhadwr i China

  • Y GYLLIDEB GYFAN

    2019

    £16.00 yr aelod

    Cyfarchion yr Ŵyl oddi wrth

    Judith, Menna, Simeon, Nigel,

    Menna Machreth, Christian,

    Bonni a Helen.

    LLAWLYFR 2019

    Pris o’r swyddfa Pris drwy’r post

    1 £7.00 £8.00

    2 £14.00 £16.00

    3 £21.00 £24.00

    4 £28.00 £32.00

    5 £35.00 £40.00

    6 £42.00 £48.00

    7 £49.00 £56.00

    8 £56.00 £64.00

    9 £63.00 £72.00

    10 £70.00 £80.00

    CYFLOGAU A

    THREULIAU

    GWEINIDOGION 2019

    Cyflog Safonol £23,127

    Treuliau £2,347

    Lwfans Tŷ £3,847

    YMDDIRIEDOLAETH

    Disgwylir i’r eglwysi y mae’r

    Gorfforaeth yn ymddiriedolwyr

    arnynt ddanfon copi o’u

    Hadroddiadau Blynyddol i’r swyddfa.

    Diolch

    Pa newidiadau yr ydych wedi’u gwneud i’ch bywydau er mwyn

    lleihau’r defnydd o blastig? Un o argymhellion y Pwyllgor Eglwys a Chymdeithas oedd ein bod yn cefnogi'n llwyr pob ymgais i sicrhau nod cenedlaethol y byd i argyhoeddi cynhyrchwyr rhag defnyddio plastig ac i gael cwmnïoedd masnachol i ddefnyddio defnydd ailgylchu hyd y mae'n bosibl. Galwyd hefyd ar ein heglwysi i leihau'r defnydd o blastig lle'n bosibl. Gyda hyn mewn golwg gofynnwyd y cwestiwn uchod i gadeiryddion ein pwyllgorau. Dyma’u hymatebion: Pedwar newid: 1.Dim prynu poteli dŵr plastig, ond defnyddio fflasg fetel bwrpasol a dŵr o'r tap. 2. Defnyddio llai o cling-film ond yn hytrach defnyddio daliwr tupperware dro ar ôl tro. 3. Dim prynu coffi mewn cwpan un tro. 4. Ceisio prynu nwyddau gyda llai o becynnu plastig. Mae hyn yn ymarferol i'w weithredu ac mae’n digwydd yn ein tŷ ni.

    Mr Bill Davies, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr

    Nid yw mor hawdd ag y mae'n ymddangos ar y cychwyn. Mae edrych trwy’r bag ailgylchu'r wythnos hon yn dangos faint o blastig sy'n cael ei ddefnyddio mewn deunydd pacio – ond o leiaf gellir ei ailgylchu. Mae fy nghwpan coffi ail-lenwi yn wych – ond nid pan mae'n eistedd yn y cwpwrdd! A phan fydd y glanhawr/wraig ar y trên yn mynd â'ch potel ddŵr wag ymaith, yr un a gafodd ei defnyddio gennyf sawl gwaith drosodd, roeddwn braidd yn siomedig o’i gweld yn mynd. Ond o leiaf os ydych chi'n dod i'r Llwyfan, fe welwch bod y cwpanau dŵr plastig wedi mynd erbyn hyn. “Mae pob tamaid bach yn cyfri’” - fel maen nhw'n dweud.

    Parchg Simeon Baker, Cadeirydd Bwrdd y Genhadaeth

    Ceisiaf ailgylchu cyn gymaint â phosib o ddeunyddiau plastig neu gynwysyddion eraill. Mae'r bag ailgylchu oren yn amlwg iawn ar ein haelwyd ac mae'n llawn bob wythnos. Yn Eglwys y Bedyddwyr Bethesda anogir ailgylchu’n fawr iawn. Mae'r bin 'ailgylchu' gwyrdd (yn cynnwys y bag oren) yn amlwg o fewn cegin yr eglwys ac anogir pawb i osod yr eitemau ailgylchu priodol ynddo.

    Parchg Terry Broadhurst Cadeirydd y Cyngor

    I mi, nid newid diweddar yw hwn ond dull o fyw. Cofiaf flynyddoedd yn ôl ddarllen y slogan, 'lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu' gyda'r pwyslais ar y drefn benodol honno, hynny yw lleihau'n gyntaf, gan ei fod yn cael mwy o effaith. Mae Penny a minnau'n ceisio peidio â phrynu unrhyw beth nad oes ei angen arnom neu y gallwn fyw hebddo, yn enwedig lle mae plastig yn y cwestiwn. Mae'r dystiolaeth yn ein bin ailgylchu.

    Rydym yn ailgylchu popeth a allwn, ac eto mae ein cynnyrch ailgylchu wythnosol yn ymddangos yn denau iawn o'i gymharu â'n cymdogion ni i gyd. Nid am ein bod yn ailgylchu llai, ond am ein bod yn prynu cymaint yn llai yn y lle cyntaf. Yn ail, fe'n magwyd ni'n dau i beidio taflu pethau i ffwrdd pe gellid eu defnyddio eto, ac mae'n cael effaith aruthrol ar ein ffordd o fyw. Nid ydym yn prynu bagiau plastig os gallwn beidio, ond os y gwnawn yna byddwn yn eu cadw i'w defnyddio'n ddiweddarach. Unrhyw beth y gellir ei ddefnyddio eto, rydym yn ei gadw, rhag ofn. Nid yw’n dda i'r gofod yn ein sied, ond mae'n debyg ei fod yn helpu'r amgylchedd! Yn drydydd, byddwn yn ailgylchu popeth a allwn, ond mae’r strategaeth honno’n rhif tri yn hytrach na rhif un.

    Parchg Ifor Williams, Cadeirydd Bwrdd y Weinidogaeth

    Yr hyn yr ydym ni fel teulu wedi’i wneud er mwyn lleihau’n defnydd o blastig yw gwneud yn siŵr ein bod yn prynu bwyd, llysiau a ffrwythau, nad ydynt wedi’u pecynnu mewn plastig.

    Mr Glyndwr Prideaux, Trysorydd Mygedol UBC

    Wrth ateb y cwestiwn, mae'n debyg mai'r ateb gonest yw, tan yn gynharach eleni, fawr ddim. Ond yna, gwelais ddelweddau o gyfres y BBC, Blue Planet II. Bryd hynny y meddyliais, "beth alla i ei wneud?". Roeddwn yn teimlo’n falch bod gennym gyflenwad da o "fagiau am oes". Ydw, rwyf wedi siarad â'r gŵr sy'n ailgyflenwi’r llysiau rhydd yn fy archfarchnad leol a hoffwn pe na bai fy nwyddau o Amazon yn cael ei amgylchynu mewn deunydd lapio polystyren. Felly dyma beth dwi yn wneud. Rwy'n ceisio’n ymwybodol i brynu pethau gyda llai o blastig amdanynt. Ceisio gweld a alla i brynu pethau'n fwy lleol yn hytrach na gorfod eu cael nhw wedi eu danfon ataf, ond y gwir yw, gallwn i wneud mwy.

    Parchg Marc Owen, Cyd-lynydd Gweinidogaeth

    Ar lefel bersonol, rydym wedi penderfynu peidio â defnyddio cymaint o blastig lle mae’n bosibl. Mae defnyddio gwydr neu lestri crochenwaith i goginio mewn ffwrn micro-don yn ddigon hawdd, ac os yw plastig i gael ei ddefnyddio ar gyfer rhewi, yna ceisiwn ddefnyddio bagiau a chynwysyddion y gellir eu hailddefnyddio. Mae Swyddfa'r enwad hefyd wedi trefnu i ddefnyddio cwpanau di-blastig.

    Apeliwn at yr eglwysi a'u haelodau i roi ystyriaeth ddifrifol i sut y gallwn dorri yn ôl ar ein defnydd o blastig a derbyn iddo fod yn broblem fawr yn ein bywyd morol.

    Parchg Denzil Ieuan John. Cadeirydd Eglwys a Chymdeithas