chwarae yng nghymru rhifyn 38

18
Chwarae: Asesu Digonolrwydd dros Gymru Chwarae Rhifyn 38 Gaeaf 2012 Newyddion chwarae a gwybodaeth gan yr elusen genedlaethol dros chwarae

Upload: play-wales

Post on 28-Mar-2016

243 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

Chwarae Cymru yw'r elusen cenedlaethol dros chwarae plant. Rydym yn cyhoeddi'r cylchgrawn Chwarae dros Gymru dair gwaith y flwyddyn.

TRANSCRIPT

Page 1: Chwarae yng Nghymru rhifyn 38

Chwarae: Asesu Digonolrwydd

dros GymruChwarae

Rhifyn 38 Gaeaf 2012

Newyddion chwarae a gwybodaeth gan yr elusen genedlaethol dros chwarae

Page 2: Chwarae yng Nghymru rhifyn 38

2 | Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2012

2 Golygydd Gwadd

3-5 Newyddion

6-7 Asesu Digonolrwydd Chwarae

8-9 Pecyn Cymorth yr Asesiad Digonolrwydd Chwarae

10-11 Mudiadau chwarae cenedlaethol yn croesawu’r Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae

12 Agwedd gytbwys tuag at risg

13 Cyfweliad gyda’r HSE

14-15 Datblygu’r gweithlu

16 Cymru – Gwlad chwarae-gyfeillgar

17 Aelodaeth

18 Digwyddiadau Ysbryd 2013

Diolch o galon i bawb a gyfranodd at y cylchgrawn hwn – allen ni ddim ei wneud heboch chi. Mae’r rhifyn hwn o Chwarae dros Gymru, yn ogystal â rhifynnau blaenorol, ar gael i’w lawrlwytho o adran newyddion ein gwefan ar www.chwaraecymru.org.uk

Diolch yn fawrCynnwys

Mae’r gwahoddiad i ysgrifennu’r erthygl olygyddol yma’n un amserol iawn – rwy’n aros am awyren i hedfan i Enefa ble y byddaf yn ymuno â phwyllgor rhyngwladol i gwblhau’r gwaith o ddrafftio Sylw Cyffredinol ar Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP)*.

Felly, tra bo’r gwaith rhyngwladol yma’n bwrw yn ei flaen, yng Nghymru, cyhoeddwyd Rheoliadau a Chanllawiau Statudol newydd am y Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae a geir ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Rwyf braidd yn siomedig gyda’r oedi cyn eu cyhoeddi ond, er gwaethaf fy rhwystredigaeth, mae hyn yn ddatblygiad pwysig ar gyfer gweithredu Erthygl 31 CCUHP yma yng Nghymru.

Mewn cyfnod o gyfyngu ariannol, ddylen ni ddim ystyried chwarae fel elfen ychwanegol ddymunol – mae’n hawl i bob plentyn. Fe fydden i’n dadlau y gellid gwneud llawer trwy ailddyrannu adnoddau sy’n bodoli eisoes er mwyn cyflawni blaenoriaethau newydd. ’Dyw hyn ddim yn ymwneud â gwario arian newydd yn unig, mae’n ymwneud hefyd â gwario arian sy’n bodoli

eisoes mewn modd mwy effeithiol ac effeithlon.

Fel y Comisiynydd Plant fe fyddaf yn cwrdd â llawer o blant a phobl ifainc ac rwy’n hynod ymwybodol pa mor bwysig yw mynediad i chwarae, hamdden ac adloniant iddyn nhw. Ceir llawer o dystiolaeth bellach am fuddiannau chwarae, hamdden ac adloniant a dylai sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gallu mwynhau’r buddiannau hynny fod yn flaenoriaeth i bob un ohonom. Dyma pam fod y canllawiau statudol mor bwysig fel arf i hybu sicrhau’r hawl i chwarae ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.

Er mwyn i’r weledigaeth yma gael ei gwireddu, un agwedd allweddol i mi wrth inni symud ymlaen, yw cynyddu ymwybyddiaeth am y newidiadau hyn. Bydd angen inni sicrhau bod gan aelodau etholedig lleol adnoddau a chefnogaeth digonol fel eu bod yn deall natur y dyletswydd yn llwyr. Yn aml bydd oedolion yn cysylltu ag aelodau etholedig lleol i leisio pryderon ynghylch defnydd plant a phobl ifainc o fannau cyhoeddus. O’r herwydd, dylent dderbyn cymorth digonol er mwyn caniatáu iddynt ddeall y bwriad a’r rhesymeg ar gyfer y dyletswydd.

Bydd cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith rhanddeiliaid eraill yn bwysig hefyd. Mae fy ngwasanaeth Cyngor a Chymorth wedi bod ynghlwm ag achos ble y bu grŵp o blant a phobl ifainc yn destun

ymyrraeth yr heddlu a’r Awdurdod Lleol am achosion o ymddygiad gwrth-gymdeithasol o ganlyniad i achwynion cymdogion amdanynt yn chwarae ar y stryd y maent yn byw arni. Bellach mae proses gyfryngu’n cael ei chynnig fel modd o ddatrys y broblem. Dylai ymgynghoriadau â chymunedau am yr asesiad digonolrwydd chwarae gynnwys dynodi prif bryderon oedolion a gweithio i fynd i’r afael â’r rhain mewn modd sy’n cefnogi anghenion pob aelod o’r gymuned, yn cynnwys plant a phobl ifainc.

Beth fydda’ i’n ei wneud?

Byddaf yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro gweithredu’r Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae er mwyn sicrhau na fydd unrhyw oedi pellach yn yr amserlen ar gyfer gweithredu’r dyletswydd yn llawn; a

Byddaf yn galw ar aelodau etholedig lleol, ar lefel Awdurdodau Lleol, i ganfod yr hyn sydd gan blant a phobl ifainc i’w ddweud am wireddu eu hawl i chwarae yn yr ardaloedd y maent yn byw ynddynt ac i eiriol dros yr hawl i chwarae yn y cymunedau y maent yn eu cynrychioli.

Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru

www.complantcymru.org.uk Twitter: @complantcymru

*Gweler yr erthygl ddiweddaraf am y Sylw Cyffredinol ar dudalen 3.

Golygydd Gwadd

Cyhoeddir Chwarae dros Gymru gan Chwarae Cymru dair gwaith y flwyddyn.

Cysylltwch â’r Golygydd yn:

Chwarae Cymru, Ty Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FH

Rhif ffôn: 029 2048 6050 I Ebost: [email protected]

Elusen Gofrestredig Rhif. 1068926 I ISSN: 1755 9243

Nid barn Chwarae Cymru o reidrwydd yw’r farn a fynegir yn y cylchgrawn hwn.

Rydym yn cadw’r hawl i olygu cyn cyhoeddi. Nid ydym yn ardystio unrhyw rai

o’r cynnyrch na’r digwyddiadau a hysbysebir yn neu gyda’r cyhoeddiad hwn.

Argreffir y cyhoeddiad hwn ar bapur a gynhyrchwyd o goedwigoedd cynaliadwy.

Crewyd gan Carrick | carrickcreative.co.uk

Page 3: Chwarae yng Nghymru rhifyn 38

Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2012 | 3

Newyddion

Fel y cyhoeddwyd mewn rhifynnau blaenorol, mae’r International Play Association (IPA) yn chwarae rôl arweiniol yn natblygiad y Sylw Cyffredinol ar Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) – gan weithio gyda grŵp o arbenigwyr rhyngwladol.

Beth yw Sylw Cyffredinol? Mae Sylw Cyffredinol yn ddatganiad swyddogol sy’n ymhelaethu ar ystyr elfen o GCUHP sy’n galw am ddehongliad neu bwyslais pellach.

Beth fydd y Sylw Cyffredinol yn ei wneud?Bydd y Sylw Cyffredinol yn diffinio pob elfen o Erthygl 31 ac yn egluro eu pwysigrwydd yng nghyd-destun twf a datblygiad plant a’u heffaith ar les cyffredinol plant.

Bydd y Sylw Cyffredinol yn cynnig arweiniad i lywodraethau’r 192 o wledydd (Pleidiau-Wladwriaethau) sydd wedi arwyddo’r Confensiwn,

ynghylch darpariaethau CCUHP yng nghyd-destun chwarae ac adloniant, gorffwys a hamdden, bywyd diwylliannol a’r celfyddydau.

Bydd yn cynyddu ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd y rhain ym mywydau bob dydd plant trwy’r byd i gyd. Yn ogystal, bydd y datganiad ugain tudalen o hyd yn dynodi heriau wrth gyflawni Erthygl 31.

Bydd y Sylw Cyffredinol ar Erthygl 31 yn offeryn defnyddiol ar gyfer harneisio egni byd-eang i hyrwyddo hawl plant i chwarae ar draws y byd i gyd. Gall llywodraethau ac awdurdodau chwarae rhan allweddol wrth helpu i sicrhau bod plant yn tyfu dan amodau ble y gallant arddel eu hawl i chwarae.

Beth nesaf?Ar hyn o bryd mae fersiwn drafft y Sylw Cyffredinol yn cael ei adolygu gan chwe grŵp o blant o bob cwr o’r byd; menter y mae’r IPA yn arbennig o falch ohoni.

Mae’r weithgor yn hyderus y bydd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn cymeradwyo, mabwysiadu a chyhoeddi’r Sylw Cyffredinol ar Erthygl 31 ym mis Ionawr 2013.

Wedi ei gyhoeddi, bydd y Sylw Cyffredinol ar gael ar: www.chwaraecymru.org.uk/cym/sylwcyffredinol

Hawliau mewn Ysgolion: Beth fu profiadau’r plant?

Dros y blynyddoedd diwethaf, yn sgîl Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, cafodd agweddau sy’n seiliedig ar hawliau dynol eu hybu’n sylweddol ym mhob agwedd o weithio â phlant, yn cynnwys addysg a chwarae. Datblygwyd

amrywiol agweddau arloesol ar gyfer gweithredu hawliau plant mewn ysgolion o amgylch y byd. Yn y DU, un o’r gwobrau mwyaf adnabyddus yw gwobr ‘Right Respecting School’ UNICEF. Ond beth fu profiadau’r plant? Beth wnaeth weithio iddyn nhw, a beth wnaeth ddim? Sut mae profiadau plant mewn gwahanol wledydd, yn y gogledd a’r de, yn gyfoethog a thlawd, yn cymharu?

Gadawodd Harry Shier, sydd ag ysgoloriaeth ymchwil ddoethurol o Brifysgol Queen’s Belfast, Gogledd Iwerddon, ei gartref yn Nicaragwa a, dros y tair blynedd nesaf, bydd

yn gweithio mewn partneriaeth â thimau o ymchwilwyr sy’n blant o bob cwr o’r byd i geisio canfod atebion i’r cwestiynau hyn.

Medd Harry: ‘Fydda’ i ddim yn canolbwyntio’n benodol ar chwarae mewn ysgolion, ond rwy’n gwybod eisoes, o fy mhrofiadau yn Nicaragwa, bod plant yn ystyried bod ysgol sy’n parchu hawliau yn un sy’n cydnabod a pharchu eu hawl i chwarae, y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol.’

Cawn rannu canfyddiadau gwaith ymchwil Harry mewn rhifyn pellach o Chwarae dros Gymru.

Sylw Cyffredinol ar Erthygl 31 – y diweddaraf

Ymchwil hawliau mewn ysgolion

Cyfryngau Cymdeithasol

www.facebook.com/ChwaraeCymru

twitter.com/ChwaraeCymru

Page 4: Chwarae yng Nghymru rhifyn 38

4 | Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2012

Nod Project Wild Thing yw ail-gysylltu miliwn o blant â byd natur. Yn rhedeg yr ymgyrch farchnata trwy’r DU mae’r gwneuthurwr ffilmiau David Bond, sydd wedi penodi ei hun yn Gyfarwyddwr Marchnata dros Natur, mewn ymgais i hysbysebu buddiannau natur.

Mae’r ymgyrch yn cael ei ffilmio ar gyfer rhaglen ddogfen a chaiff ei chefnogi gan Arla, Britdoc, Chwarae Cymru, Good For Nothing, Play England, PlayBoard Northern Ireland, Uned Datblygiad Cynaliadwy’r GIG a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Disgwylir i’r ffilm ddogfen Project Wild Thing, gaiff ei chynhyrchu gan gwmni Green Lions mewn cydweithrediad â’r BRITDOC Foundation, gael ei rhyddhau mewn sinemâu trwy’r DU yn ystod Haf 2013.

Bydd ymgyrch i annog plant i dreulio rhagor o amser ym myd natur yn cyd-redeg â rhyddhau’r ffilm.

I gefnogi rhan gyntaf yr ymgyrch mae David Bond wedi cynhyrchu clip ffilm dau funud o hyd i annog plant i ‘anghofio am atyniadau’r byd modern a bod yn effro i fuddiannau byd natur’.

Yn y clip hwn rydym yn falch i weld Bob Hughes yn gwisgo crys-t Chwarae Cymru Better a broken bone than a broken spirit! Mae nifer fechan o’r crysau-t hyn yn dal ar gael i’w prynu trwy ein siop ar-lein:

Mae Llywodraeth Yr Alban wedi lansio ymgynghoriad ar y Mesur Plant a Phobl Ifainc (Yr Alban) arfaethedig. Un o brif gynigion y Mesur yw creu sail cyfreithiol ar gyfer hawliau plant a phobl ifainc. Fodd bynnag, mae’r Dyletswydd wedi ei gyfyngu i Weinidogion ac, ar hyn o bryd, nid yw’n cwmpasu cyrff cyhoeddus eraill yn cynnwys Awdurdodau Lleol. Fel rhan o’r ymgynghoriad hwn cyflwynodd Play Scotland ddeiseb (PE1440) i Bwyllgor Deisebau Cyhoeddus (PPC) Senedd Yr Alban yn galw ar i Lywodraeth Yr Alban gynnwys Dyletswydd Statudol ar gyfer Chwarae yn y Mesur newydd. Gallai hyn osod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ddarparu cyfleoedd chwarae digonol a boddhaol ar gyfer plant o bob oed a gallu. Cyflwynodd Play Scotland fwy o wybodaeth i’r PPC ym mis Medi ac roedd y gymdeithas yn hynod o falch pan gafwyd cytundeb unfrydol y gellid cadw’r ddeiseb hon yn agored; bydd y Pwyllgor yn ceisio rhagor o ymchwil a gwybodaeth. www.playscotland.org

Fel rhan o ymgyrch ‘Outdoor Nation’, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cyhoeddi adroddiad: Findings of the Natural Childhood Inquiry. Mae’r ymchwiliad yn dilyn adroddiad Natural Childhood Steven Moss, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, wnaeth gofnodi’r dirywiad yng nghysylltiad plant â’r awyr agored a byd natur.

I gyd-fynd â chanfyddiadau’r ymchwiliad cyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol waith ymchwil sy’n dangos mai perygl dieithriaid (37 y cant), diffyg mannau awyr agored diogel i chwarae gerllaw (25 y cant) a gormod o draffig (21 y cant) oedd y prif rwystrau i roi rhyddid i blant fwynhau’r awyr agored ymysg rhieni plant dan 12 oed.

Dywedodd 45 y cant o rieni mai ‘mwy o fannau lleol diogel i chwarae’ oedd y prif ffactor fyddai’n eu hannog i adael i’w plant fynd allan ac archwilio eu cymuned.

http://outdoornation.org.uk

Ymchwiliad Plentyndod Naturiol

‘‘Canfyddodd yr ymchwiliad mai yn y cartref yw’r man gorau i sbarduno cariad plant tuag at fyd natur. Dywedodd y rheini wnaeth ymateb i’r ymchwiliad bod rhieni angen rhagor o fannau naturiol a gwyrdd hygyrch sy’n gyfeillgar i blant a theuluoedd a bod angen i gyfleoedd i blant gael mynediad i ac i fwynhau natur gael eu hyrwyddo mewn modd mwy cydlynol, ac mewn ffyrdd sy’n apelio mwy at deuluoedd a phlant.’

Mesur Plant a Phobl Ifainc (Yr Alban)

Prosiect Wild Thing

www.chwaraecymru.org.uk/cym/siop

Page 5: Chwarae yng Nghymru rhifyn 38

Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2012 | 5

Sicrhawyd £5,000 o gyllid i gynnal peilot cau strydoedd er mwyn caniatáu i blant gael lle a rhyddid i chwarae’r tu allan i’w cartrefi mewn rhannau o Abertawe. Fel rhan o brosiect peilot Strydoedd Chwarae caiff tair neu bedair stryd, wedi eu dethol o strydoedd a gaewyd yn y gorffennol ar gyfer cynnal partïon i ddathlu’r briodas frenhinol neu’r jiwbilî, eu cau am ychydig oriau ar y tro unwaith yr wythnos.

Mae Cyngor Abertawe am gefnogi’r prosiect yn ystod y cyfnod peilot a byddant yn darparu hyfforddiant i alluogi aelodau o’r gymuned i redeg y cynllun eu hunain.

Meddai Mitch Theaker, aelod cabinet Cyngor Abertawe dros gyfleoedd i blant a phobl ifainc:

Os bydd y peilot yn llwyddiant, mae’n bosibl y gwnaiff Cyngor Abertawe ehangu’r prosiect i gynnwys rhannau eraill o’r ddinas ble y gall pobl leol argymell Strydoedd Chwarae eraill.

Mae prosiect tebyg yn llwyddiannus eisoes ym Mryste: http://playingout.net

‘Rydym am greu ardaloedd ble y gall plant a phobl ifainc yn eu harddegau chwarae’n ddiogel heb berygl traffig, gan roi tawelwch meddwl i rieni ac o bosibl greu ymdeimlad cryfach o gymuned.’

Digonolrwydd a’r gweithlu

Mae’r Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae newydd yn cynnig gwir gyfle i bob Awdurdod Lleol ar draws Cymru i ddynodi’r sefyllfa bresennol yn gwbl eglur o ran plant a’u chwarae, mewn mwy o fanylder nag erioed o’r blaen. Bydd asesu digonolrwydd y gweithlu’n elfen ganolog i hyn. Fydd dim yn cael cymaint o effaith ar ansawdd darpariaeth chwarae wedi ei staffio, na sgiliau a gwybodaeth y tîm staff. Bydd asesu’r lefel presennol o sgiliau, gwybodaeth, cymwysterau yn ogystal â chyfleoedd a roddir i staff ar gyfer datblygiad proffesiynol

parhaus, yn ganolog i gynllunio’r holl wasanaethau sy’n cefnogi hawl plant i chwarae i’r dyfodol.

Bydd y Dyletswydd yn cynorthwyo Awdurdodau Lleol i ddynodi’n gwbl eglur eu sefyllfa unigryw o ran y gweithlu chwarae sy’n weithredol yn eu sir. Dynodi’r lefel o gymwysterau, ymwybyddiaeth, sgiliau a gwybodaeth y mae’r gweithlu’n meddu arnynt fydd y cam cyntaf. Yna, bydd creu fframwaith realistig ar gyfer eu sicrhau yn her newydd ar gyfer Awdurdodau Lleol a’u partneriaid.

Bydd angen i’r ariannu sydd ar gael i gefnogi gwireddu’r weledigaeth yma, yn enwedig ar gyfer datblygu’r gweithlu, fod yn ddigonol. A yw hyn yn ddigonol ar hyn o bryd? Mae gan yr awdur ei farn ei hun ar y mater hwn. Ond un peth y mae’r asesiadau’n sicr o’i ddarparu, am y tro cyntaf erioed, fydd ateb seiliedig ar dystiolaeth i’r cwestiwn hwn, yn ogystal â nifer o gwestiynau eraill!

Am fwy o newyddion datblygu’r gweithlu gweler tudalennau 14 a 15

Simon Bazley, Swyddog Gweithredol Datblygu Chwarae Rhanbarthol NEW Play sy’n rhannu ei farn ar yr effaith gaiff Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae Llywodraeth Cymru ar y gweithlu gwaith chwarae yng Nghymru

Prosiect Strydoedd Chwarae Abertawe

Page 6: Chwarae yng Nghymru rhifyn 38

6 | Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2012

Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod, er mwyn cyflawni’r nod o greu Cymru sy’n chwarae-gyfeillgar ac er mwyn darparu cyfleoedd chwarae gwych ar gyfer ein plant, ei bod yn angenrheidiol i Awdurdodau Lleol, eu partneriaid a rhanddeiliad eraill weithio tuag at y diben hwn hefyd. Felly cafodd adran ar ‘Gyfleoedd Chwarae’ ei chynnwys ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru), dderbyniodd gydsyniad brenhinol yn 2010. Mae Pennod 2, Adran 11 y Mesur yn amlinellu’r dyletswydd sydd gan Awdurdodau Lleol o ran Cyfleoedd Chwarae.

Mae Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru’n datgan bod:

Er mwyn cyflawni’r pwrpas hwn, cychwynodd Llywodraeth Cymru ran cyntaf y dyletswydd ar 2 Tachwedd 2012. Mae’r dyletswydd yn mynnu bod Awdurdodau Lleol yn asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae ar gyfer plant yn eu hardal.

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i ymgorffori dyletswydd o’r fath yn ei fframwaith deddfwriaethol, felly nid oes unrhyw gynsail ar gyfer y gwaith yma. Mae’n bwysig bod pob rhanddeiliad yn gweithio i wneud y ddeddfwriaeth yma’n addas i’r diben o greu Cymru sy’n chwarae-gyfeillgar. Bydd sicrhau bod Awdurdodau Lleol yn cymeradwyo ac yn cydymffurfio â’r Canllawiau Statudol, a’u hymrwymiad parhaus i’r agenda chwarae, yn cyfrannu at greu Cymru sy’n chwarae-gyfeillgar.

Mae hawl plant i chwarae wedi ei ddiogelu gan Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mabwysiadodd Llywodraeth Cymru’r CCUHP yn ffurfiol yn 2004, ac mae wedi ymrwymo i wneud egwyddorion y Confensiwn yn realiti i bob plentyn. Mae tair erthygl sy’n perthyn yn benodol i’r dyletswydd yma:

• Erthygl 31 (Hamdden, chwarae a diwylliant): Mae gan blant hawl i ymlacio a chwarae, ac i ymuno ag ystod eang o weithgareddau diwylliannol, artistig a hamdden eraill.

• Erthygl 15 (Rhyddid i gymdeithasu): Mae gan blant hawl i gwrdd â’i gilydd ac i ymuno â grwpiau a mudiadau.

• Erthygl 12 (Parch tuag at farn y plentyn): Pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar blant, mae gan blant hawl i ddweud beth ddylai ddigwydd yn eu barn hwy a gwybod y caiff eu barn ei hystyried.

Yng Nghymru, mae chwarae wedi ei gadarnhau fel un o hawliau plant o dan Nod Craidd 4 – Chwarae, Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant, o Saith Nod Craidd ar gyfer Plant a Phobl Ifainc, Llywodraeth Cymru, a amlinellir yn Plant a Phobl Ifainc: Gweithredu’r Hawliau.

Mae Llywodraeth Cymru’n credu hefyd y gallai cyfleoedd chwarae o safon uchel ar gyfer pob plentyn, gyfrannu at leddfu effeithiau negyddol tlodi ar fywydau plant a helpu i gynyddu eu gwytnwch.

Yn ogystal, gall chwarae fod yn fodd o leihau anghydraddoldebau rhwng plant sy’n byw mewn teuluoedd sy’n gallu fforddio darpariaeth hamdden costus a rhai sydd ddim, a thrwy hynny leihau tlodi profiadau i bob plentyn.

Mae Llywodraeth Cymru am greu amgylchedd yng Nghymru ble y caiff plant gyfleoedd gwych i chwarae ac i fwynhau eu amser hamdden.

Cyhoeddwyd Canllawiau Statudol er mwyn cynorthwyo Awdurdodau Lleol i gwblhau eu Asesiadau Digonolrwydd Chwarae. Mae hefyd yn egluro pwrpas y dyletswydd a’r materion y dylid eu hystyried wrth asesu digonolrwydd, fel yr amlinellir dan adran 10. Er mwyn sicrhau gweithio partneriaeth, mwyafu adnoddau, ymgynghoriaeth a chyfranogaeth, mae’r Canllawiau Asesu Digonolrwydd Chwarae wedi eu hategu gan fframwaith polisi.

Er mwyn sicrhau’r canlyniadau y bydd chwarae’n eu darparu ar gyfer plant, gweithiodd Llywodraeth Cymru gyda mudiadau sy’n rhanddeiliaid i greu Polisi Chwarae cenedlaethol yn 2002 a Chynllun Gweithredu’r Polisi Chwarae yn 2006. Mae’r dogfennau hyn yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae i blant yng Nghymru a’r camau yr oedd yn bwriadu eu cymryd er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon.

‘Chwarae mor allweddol bwysig i bob plentyn o ran datblygu eu sgiliau corfforol, cymdeithasol, meddyliol, emosiynol a chreadigol fel y dylai cymdeithas geisio pob cyfle i’w gefnogi ac i greu amgylchedd sy’n ei feithrin. Dylai’r broses o lunio penderfyniadau ar bob lefel o lywodraeth gynnwys ystyriaeth o effaith y penderfyniadau hynny ar gyfleoedd plant i chwarae.’

Asesu Digonolrwydd

Page 7: Chwarae yng Nghymru rhifyn 38

Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2012 | 7

Gweithio partneriaeth Er mwyn creu cymdeithas chwarae-gyfeillgar sy’n cynnig ystod eang o gyfleoedd chwarae a hamdden, bydd angen i bob partner yn y gymuned weithio ar y cyd i’r diben hwn.

Mae Llywodraeth Cymru’n annog Awdurdodau Lleol i gydnabod pwysigrwydd chwarae ym mywyd plant a gwneud ymrwymiad cadarn i weithio’n drylwyr o fewn eu strwythurau eu hunain, â mudiadau partner, plant a’u teuluoedd a chymunedau, er mwyn sicrhau bod plant yn cael mynediad i’r cyfleoedd chwarae y maent eu heisiau ac y maent â hawl i’w disgwyl.

Mae partneriaethau perthnasol yn debygol o gynnwys:

• Cynghorau Tref a Chymuned• Mudiadau trydydd sector, yn

enwedig cymdeithasau chwarae rhanbarthol

• Y sector preifat, os yn briodol• Grwpiau cymunedol• Partneriaethau Cymunedau’n

Gyntaf Yn ogystal â gweithio gyda mudiadau perthnasol yn ei ardal ei hun, gall y gwaith o gynllunio a throsglwyddo darpariaeth chwarae ddigwydd ar lefel rhanbarthol a thraws-Awdurdod Lleol ble fo’n briodol, a gyda sefydliadau cenedlaethol sy’n cefnogi datblygiad chwarae. Dylai pob ardal fod yn rhagweithiol wrth ddatblygu cyfleoedd chwarae ar gyfer plant yn eu hardal eu hun, yn ogystal â bod yn gefnogol a rhannu arfer da gydag Awdurdodau Lleol / sefydliadau

eraill, er mwyn hyrwyddo chwarae ar gyfer pob plentyn yng Nghymru. Dylai’r Asesiadau gofio ystyried darpariaeth allai gael ei defnyddio gan blant y tu hwnt i ffiniau’r Awdurdod Lleol.

Darparu a mwyafu adnoddauMae chwarae’n cwmpasu ystod eang o ddarpariaeth, cyfleusterau, gwasanaethau a mudiadau cymunedol, felly mae’n hanfodol bod cyllidebau sy’n cwmpasu’r meysydd hyn i gyd yn cyfrannu at y nod o sicrhau cyfleoedd chwarae digonol. Rhagwelir y gellir sicrhau gwelliant sylweddol yn y cyfleoedd chwarae sydd ar gael trwy ddim ond sicrhau newid bychan mewn pwyslais yn y modd y caiff cyllidebau eu defnyddio.

Dylai partneriaid lleol ddynodi ac ystyried defnydd y cyllidebau hyn wrth ddatblygu Cynlluniau Gweithredu ar gyfer gwella cyfleoedd chwarae, gan gynnwys ailflaenoriaethu os oes angen. Bydd angen adolygu cyllidebau meysydd polisi perthnasol sy’n effeithio ar gyfleoedd chwarae plant.

Ymgynghoriaeth a ChyfranogiadEr mwyn i gyfleoedd chwarae ateb gofynion plant, mae’n hanfodol ein bod yn ymgynghori â hwy ynghylch yr hyn y maent ei eisiau o weithgareddau chwarae a hamdden. Dylai’r Awdurdod Lleol ymgynghori â phlant ynghylch pa gyfleoedd chwarae, darpariaeth chwarae, gweithgareddau a digwyddiadau

y maent eu heisiau yn eu hardal. Dylai’r dulliau cyfranogi ac ymgynghori gydymffurfio â Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc Llywodraeth Cymru ac Adran 12 Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ar Gyfranogaeth.

Mae’r Canllawiau’n nodi y dylai’r Awdurdod Lleol ymgynghori â rhieni, y gymuned leol ac unrhyw randdeiliaid eraill sydd â diddordeb yn natblygiad cyfleoedd chwarae a datblygu cymunedau sy’n gyfeillgar tuag at blant a chwarae.

Dylai’r asesiad ystyried:

• Barn y plant, a gesglir trwy ymgynghoriadau, am ba ddarpariaeth chwarae a hamdden y maent ei eisiau yn eu hardaloedd; sut yr hoffent i’w cymdogaeth gael ei threfnu er mwyn darparu’r cyfleoedd chwarae y maent eu heisiau; a pha rwystrau sy’n eu hatal rhag chwarae. Dylai’r ymgynghoriad gynnwys barn plant sydd, ac sydd ddim, yn defnyddio cyfleoedd chwarae sy’n bodoli eisoes.

• Dadansoddiad o ganlyniadau’r ymgynghoriadau a sut y defnyddiwyd neu sut y caiff y rhain eu defnyddio i hysbysu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

• Barn rhieni, teuluoedd a rhanddeiliaid eraill, a gesglir trwy ymgynghoriadau, ar ddarpariaeth / cyfleoedd chwarae a sut y bu i hyn, neu sut y bydd hyn yn hysbysu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

www.chwaraecymru.org.uk/cym/digonolrwydd

Asesiadau Digonolrwydd Chwarae: Materion y dylid eu hystyried:• Mater A: Poblogaeth

• Mater B: Darparu ar gyfer anghenion amrywiol

• Mater C: Gofod sydd ar gael i blant chwarae - Mannau agored - Mannau chwarae awyr agored penodedig heb eu staffio - Meysydd chwarae

• Mater Ch: Darpariaeth â goruchwyliaeth - Darpariaeth gwaith chwarae - Gweithgareddau hamdden strwythuredig

• Mater D: Codi tâl am ddarpariaeth chwarae

• Mater Dd: Mynediad i le / darpariaeth - gwybodaeth - cyhoeddusrwydd - digwyddiadau

• Mater E: Sicrhau a datblygu’r gweithlu chwarae

• Mater F: Cyfranogaeth ac ymgysylltu â’r gymuned

• Mater Ff: Chwarae ym mhob agenda polisi a gweithredu perthnasol

Page 8: Chwarae yng Nghymru rhifyn 38

8 | Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2012

Cymeradwywyd datblygu’r pecyn cymorth gan Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol, fel modd o gynorthwyo gyda gweithredu’r dyletswydd i asesu digonolrwydd chwarae.

Dylid defnyddio’r pecyn cymorth gan gyfeirio at Reoliadau Asesiadau Digonolrwydd Chwarae (Cymru) 2012 a’r Canllawiau Statudol perthnasol. Mae’r rhain yn amlinellu manylion yr asesiad y bydd angen i bob Awdurdod Lleol ei gynnal, yn dilyn cychwyn Adrannau 11(1), 11(2), 11(5) ac 11(6) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Bydd Asesiad Digonolrwydd Chwarae, o’i gynnal yn dda, yn darparu’r dystiolaeth sydd ei angen i ddynodi bylchau mewn darpariaeth yn ogystal â helpu i ddatblygu cynlluniau gweithredu i ddelio â’r diffygion hyn.

Bydd cynnal yr Asesiad Digonolrwydd Chwarae’n erbyn criteria’r Canllawiau Statudol yn gofyn am sgiliau ac agwedd partneriaeth.

Mae llawer o Awdurdodau Lleol yng Nghymru wedi datblygu polisïau a strategaethau chwarae sy’n seiliedig ar y Polisi Chwarae cenedlaethol a Chynllun Gweithredu’r Polisi Chwarae. O ganlyniad i hyn, mae gan nifer o ardaloedd eisoes sail cadarn ar gyfer creu polisïau a strategaethau lleol sy’n datblygu arferion gweithio traws-adrannol, gweithdrefnau datblygu a gweithredu polisïau i gyfoethogi cyfleoedd plant i chwarae.

Bydd angen i’r Asesiad Digonolrwydd Chwarae arddangos y rhoddwyd ystyriaeth i’r ystod o ffactorau fydd yn effeithio ar gyfleoedd plant i chwarae. Bydd yn cynnwys:

• Proffiliau demograffig o’r ardal

• Asesiad o: - fannau agored a mannau chwarae sy’n bodoli eisoes yn ogystal â mannau chwarae posibl- darpariaeth chwarae penodedig- darpariaeth hamdden

• Ffactorau eraill sy’n hybu cyfleoedd chwarae, yn cynnwys cynllunio, traffig, trafnidiaeth, gwybodaeth a chyhoeddusrwydd, yn ogystal â datblygu’r gweithlu.

Mae’r arfau a ddarperir yn y pecyn cymorth yn dempledi profedig sy’n seiliedig ar y materion y bydd angen eu hystyried yn unol â’r Canllawiau Statudol. Gellir defnyddio’r templedi a ddarperir fel ag y maent neu fel canllaw i hysbysu datblygiad adnoddau mwy penodol.

Darperir pro forma hefyd ar gyfer yr Asesiad Digonolrwydd Chwarae a’r Cynllun Gweithredu Digonolrwydd Chwarae, y dylid eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 1 Mawrth 2013. Bwriad yr arfau eraill a ddarperir yw cynorthwyo Awdurdodau Lleol i gwblhau’r asesiad a’r cynllun gweithredu a dylid eu defnyddio’n unol â gofynion lleol.

Amser, lle a chaniatâd i chwaraeMae’r dyletswydd i asesu digonolrwydd chwarae’n llunio rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hybu cyfleoedd chwarae ar gyfer pob plentyn yng Nghymru. Mae hefyd yn ffurfio rhan o’r agenda trechu tlodi, sy’n cydnabod y gall plant ddioddef o dlodi profiadau, cyfleoedd ac uchelgeisiau, ac y gall y math yma o dlodi effeithio ar blant o bob cefndir cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd ar draws Cymru.

Er mwyn cynorthwyo Awdurdodau Lleol i gynnal Asesiadau Digonolrwydd Chwarae, crewyd pecyn cymorth gan Chwarae Cymru a Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â darparwyr chwarae ar draws Cymru. Mae’n cynnig cymorth i bob Awdurdod Lleol wrth gyflawni eu dyletswyddau, fel yr amlinellir yn Rheoliadau Asesiadau Digonolrwydd Chwarae (Cymru) 2012.

Digonolrwydd Chwarae

Pecyn Cymorth Yr Asesiad

Page 9: Chwarae yng Nghymru rhifyn 38

Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2012 | 9

Mae gan y dyletswydd hwn y potensial i sicrhau newidiadau real ac ystyrlon fydd yn cefnogi hawl plant i chwarae yn ogystal â chynnig llu o gyfleoedd a phrofiadau iddynt.

Mae Llywodraeth Cymru am i Gymru fod yn wlad ble y gwelir mwy a mwy o blant y tu allan yn mwynhau buddiannau chwarae. Maent am greu amgylchedd chwarae-gyfeillgar sy’n darparu amser, lle a chaniatâd i blant chwarae. Bydd hyn yn gofyn i rieni, teuluoedd a phawb yn y gymuned i gydnabod bod chwarae o bwys mawr ym mywyd plant yma yn awr ac ar gyfer eu datblygiad i’r dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru am hybu agweddau cadarnhaol tuag at hawl plant i chwarae’n rhydd yn eu cymunedau. Bydd hyn yn galw ar y grwpiau hyn i gyd, ynghyd â swyddogion ac aelodau etholedig Awdurdodau Lleol, llunwyr penderfyniadau eraill a darparwyr ar draws nifer o feysydd polisi, i weithio ar y cyd i chwalu rhwystrau i chwarae plant a gwneud gwir wahaniaeth i blant yn eu strydoedd a’u cymunedau eu hunain.

Mae’n bwysig bod aelodau etholedig Awdurdodau Lleol yn deall yr ystod eang o feysydd polisi sy’n effeithio ar chwarae a’r materion y dylid eu hystyried fel rhan o’r asesiad. Bydd angen iddynt ymgysylltu’n llwyr ar ddechrau’r broses asesu a derbyn perchenogaeth o’r canlyniadau.

Mae canllawiau Deddf Plant 2004 ar gyfer Cymru’n mynnu bod Awdurdodau Lleol a’u partneriaid yn ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae’r gyfraith yn mynnu bod Awdurdodau Lleol ac asiantaethau partner allweddol yn cydweithredu er mwyn gwella lles plant a phobl ifainc yn eu hardal leol. Gosododd Deddf Plant 2004 ddyletswydd ar bob Awdurdod Lleol yng Nghymru i benodi cyfarwyddwr arweiniol ac aelod arweiniol ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifainc. Bydd y cyfarwyddwyr a’r aelodau arweiniol hyn mewn sefyllfa dda i dderbyn cyfrifoldeb am gwblhau’r asesiad.

Yn ogystal, bydd llif cyfathrebu da â’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn

bwysig. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod yr Asesiad Digonolrwydd Chwarae’n cyfrannu at yr asesiad anghenion lleol cyffredinol ar gyfer Cynlluniau Integredig Sengl a bod y Cynllun Gweithredu Digonolrwydd Chwarae’n cael ei ymgorffori yn y Cynllun Integredig Sengl, fel a nodir yn y Canllawiau Statudol.

Datblygwyd y pecyn cymorth i ddarparu agweddau ymarferol allai fod o gymorth ar gyfer asesu a delio â rhwystrau a chreu Cymru well i blant fyw a chwarae ynddi. Er mwyn achub ar y cyfle y mae’r ddeddfwriaeth yma’n ei gynnig inni, a gwneud iddi weithio i’r plant, mae’n amlwg bod angen inni ddefnyddio’r adnoddau sydd gennym eisoes unai’n fwy effeithlon, neu mewn modd gwahanol.

Mae Rheoliadau Asesiadau Digonolrwydd Chwarae (Cymru) 2012, y Canllawiau Statudol cysylltiedig a’r pecyn cymorth ar gael ar:www.chwaraecymru.org.uk/cym/digonolrwydd

Cam 1: Paratoi

• Trafod gyda’r Aelod Arweiniol dros Blant a Phobl Ifainc / Cabinet

• Cytuno ar fethodoleg yr Asesiad

• Penderfynu pwy fydd yn arwain yr Asesiad

• Dynodi cyfranwyr • Dynodi aelodaeth a ffurfio

Gweithgor Digonolrwydd Chwarae

• Pennu rolau a chyfrifoldebau partneriaeth a llinell amser

• Dynodi a recriwtio partneriaid allweddol

• Cytuno ar egwyddorion • Dynodi adnoddau / cymorth

ariannol

Cam 2: Cynnal yr Asesiad Digonolrwydd Chwarae

• Cyflawni’r Asesiad a dynodi opsiynau ar gyfer camau gweithredu gan ddefnyddio’r Ffurflen Asesiad Digonolrwydd Chwarae

• Cwblhau archwiliad a mapio mannau a darpariaeth chwarae sy’n bodoli eisoes

• Cynnal arolwg ymysg plant a rhieni

• Dynodi a chytuno ar gryfderau a diffygion yn y ddarpariaeth

Cam 3: Cynhyrchu’r Asesiad Digonolrwydd Chwarae

• Ysgrifennu’r Asesiad • Y Weithgor Digonolrwydd

Chwarae i adolygu a chadarnhau’r Ffurflen Asesiad Digonolrwydd Chwarae

• Aelodau etholedig i gymeradwyo’r Asesiad Digonolrwydd Chwarae

Cam 4: Cynhyrchu’r Cynllun Gweithredu

• Dadansoddi a blaenoriaethu camau gweithredu ar gyfer y dyfodol

• Y Weithgor Digonolrwydd Chwarae i adolygu a

chadarnhau’r Ffurflen Cynllun Gweithredu Digonolrwydd Chwarae

• Aelodau etholedig i gymeradwyo’r Cynllun Gweithredu Digonolrwydd Chwarae

Cam 5: Cyflwyno’r ffurflen Asesiad Digonolrwydd Chwarae a’r ffurflen Cynllun Gweithredu Digonolrwydd Chwarae i Lywodraeth Cymru

Cam 6: Cyflwyno’r Asesiad Digonolrwydd Chwarae a’r Cynllun Gweithredu Digonolrwydd Chwarae i’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol i’w gynnwys yn y Cynllun Integredig Sengl

Cam 7: Cyhoeddi’r crynodeb Digonolrwydd Chwarae ar wefan yr Awdurdod Lleol

Gwahanol Gamau yr Asesiad Digonolrwydd Chwarae

Page 10: Chwarae yng Nghymru rhifyn 38

10 | Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2012

International Play Association

Un dywediad a ddefnyddir am hawliau dynol yw eu bod yn cael eu cyflawni ‘mewn mannau bychain, yn agos i gartref’, y mannau sy’n ffurfio byd unigolion. Mae Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae Llywodraeth Cymru’n fy atgoffa o’r dywediad hwnnw pan mae’n datgan eu bod ‘am greu amgylchedd ble fo presenoldeb plant yn chwarae’r tu allan yn ein cymunedau’n cael ei groesawu a’i ddathlu’. Rwy’n cytuno bod rhwystrau i chwarae i’w cael ar ffurf agweddau yn ogystal ag amgylcheddau.

Canfyddodd ymgynghoriadau diweddar yr IPA, mewn wyth gwlad ryngwladol, ar hawliau chwarae plant (2010) bod rhwystrau sylweddol i chwarae’n cynnwys amgylcheddau peryglus a digroeso. Roedd diffyg polisïau a deddfwriaethau neu bolisïau a deddfwriaethau annigonol yn cael eu coroni â diffyg ymwybyddiaeth eang ynghylch pwysigrwydd chwarae ymysg oedolion. Yn ystod 2012 fe siaradom yn uniongyrchol â phlant mewn chwe gwlad. Fe wnaethant bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod safbwynt plant yn cael ei ddeall yn iawn:

Disgwylir y bydd Sylw Cyffredinol arfaethedig y Cenhedloedd Unedig ar Erthygl 31 yn ymhelaethu ar oblygiadau Pleidiau Wladwriaethau (llywodraethau cenedlaethol) sy’n gysylltiedig ag Erthygl 31 a’r mesurau sydd eu hangen i sicrhau y caiff ei weithredu’n gyfartal ar gyfer pob plentyn heb unrhyw wahaniaethu.

Gan dderbyn, efallai, rywfaint o bryderon bod cyplysu cyfleoedd hamdden â chwarae rhydd yn y Dyletswydd yn creu perygl y caiff chwarae a ddewisir o wirfodd ac a arweinir gan blant ei golli, mae’n bosibl y bydd Cymru’n y sefyllfa ffodus o fod ar flaen y gad unwaith eto.

Theresa Casey, Llywydd:International Play Association

Play England

Mae Play England yn gwbl gefnogol i ymrwymiad ein cydweithwyr yn Chwarae Cymru i wneud

cymunedau’n fwy chwarae-gyfeillgar trwy werthfawrogi a chynyddu cyfleoedd ar gyfer chwarae trwy’r gymuned. Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru’n arwain wrth weithredu CCUHP. Mae’r Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae’n gam pwysig i Awdurdodau Lleol gydnabod eu cyfrifoldeb am greu cyfleoedd ar gyfer chwarae; ac mae’n amlinellu’r rôl cadarnhaol sydd gan bob adran o’r cyngor wrth sicrhau y gall plant chwarae’n rhydd yn eu cymunedau eu hunain – ar riniog drws eu cartref, ar y stryd, yn y parc lleol, mewn ardaloedd naturiol ac mewn ardaloedd chwarae penodedig.

Mae’r Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae’n un i’w groesawu, gan y rhoddir pwyslais dyledus i bwysigrwydd chwarae a ddewisir o wirfodd ac nid dim ond i weithgareddau strwythuredig gaiff eu hwyluso gan oedolion. Mae’r Dyletswydd yn ei gwneud yn gwbl eglur bod hyn yn gyfrifoldeb i bawb. Mae hyn yn cynnwys swyddogion cynllunio, trafnidiaeth a phriffyrdd a phobl eraill sydd heb, yn draddodiadol, ystyried eu hunain fel bod â chyfrifoldeb uniongyrchol am les plant a phobl ifainc.

Golyga’r Dyletswydd bod chwarae – sydd mor ganolog i fywydau plant – yn rhan o drafodaeth ehangach rhwng Awdurdodau Lleol a’r gymuned ehangach am blant a phlentyndod. Ble fo Cymru’n arwain, gobeithio y bydd eraill yn dilyn.

Steven Chown, Rheolwr Datblygu Rhaglenni

‘Dylai swyddogion a phersonau cyfrifol wybod beth sy’n digwydd a dylent fonitro gweithredu Erthygl 31 am hawl plant i chwarae.’ (Plant yn Libanus)

‘Er mwyn helpu plant i fyw’n iach mewn cymdeithas fodern, dylai oedolion ganfod ffyrdd i ddeall yr amgylchiadau hyn ynghyd â’r plant.’ (Plant yng Ngwlad Thai)

Mudiadau chwarae cenedlaethol yn croesawu’r

Page 11: Chwarae yng Nghymru rhifyn 38

Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2012 | 11

PlayBoard Northern Ireland

Mae PlayBoard yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i osod gwerth mawr ar chwarae a’i bwysigrwydd ym mywydau plant. Rydym yn dathlu llwyddiant eu gwaith eiriolaeth gyda Chwarae Cymru, a’u gweledigaeth i ymgorffori chwarae ym mhob agenda polisi a gweithredu perthnasol.

Gan mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i greu Dyletswydd o’r fath o fewn ei fframwaith deddfwriaethol, mae gennym ni yng Ngogledd Iwerddon ddiddordeb mawr yn natblygiad y gwaith yma. Byddwn yn talu sylw manwl i’r modd y bydd rhanddeiliaid yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yma’n addas i’r pwrpas er mwyn creu Cymru sy’n chwarae-gyfeillgar – gweledigaeth gyffredin sydd gennym ar draws bob gwlad. Gallwn ddysgu a chymharu’r gwahanol agweddau ar draws bob gwlad er mwyn symud yr agenda chwarae’n ei blaen er mwyn y plant.

Bydd y Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae’n sicrhau mabwysiadu agwedd a hysbysir gan dystiolaeth cwbl angenrheidiol, i ddynodi cryfderau yn ogystal â chyfyngiadau’r ddarpariaeth. Bydd hyn yn galluogi Awdurdodau Lleol i ddatblygu cynlluniau gweithredu’n well er

mwyn mynd i’r afael â bylchau mewn darpariaeth, ble bynnag y maent. Byddem yn rhagweld y bydd y Dyletswydd yn sicrhau sylfaen ar gyfer creu polisïau a strategaethau lleol, gan ymgorffori arferion gweithio traws-adrannol, gweithdrefnau datblygu a gweithredu polisïau er mwyn cyfoethogi cyfleoedd i blant a’u gallu i chwarae’n rhydd yn eu cymunedau eu hunain.

Rydym yn gwbl gefnogol o’r gweithio ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chwarae Cymru i ddatblygu pecyn cymorth fydd yn cynorthwyo Awdurdodau Lleol i gynnal Asesiadau Digonolrwydd Chwarae. Rydym yn edrych ymlaen i’r wybodaeth a ddarperir gan y broses er mwyn symud yr agenda chwarae yn ei blaen yng Ngogledd Iwerddon.

Roisin McCooey, Uwch-Swyddog Polisi ac Ymchwil

Play Scotland

Mae chwarae’n allweddol ar gyfer lles pob plentyn ac mae’r hawl i chwarae’n adlewyrchu’r hawl i fod yn blentyn yma, yn awr. Bydd y Dyletswydd Digonolrwydd

Chwarae newydd yng Nghymru’n helpu i ddatblygu amgylcheddau cymdeithasol a ffisegol lleol sy’n cefnogi chwarae ac fydd yn sicrhau nad yw chwarae’n cael ei ddiystyru fel rhywbeth gwamal neu ymylol. Gwyddom fod chwarae’n sail i bedwar egwyddor Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) – peidio â gwahaniaethu, goroesiad a datblygiad, buddiannau gorau’r plentyn a chyfranogaeth. Bydd y Dyletswydd newydd yma’n cynorthwyo gyda dylunio a throsglwyddo cymunedau plant-gyfeillgar yng Nghymru, gyda chefnogaeth cymdogaethau chwarae-gyfeillgar ble y gall plant gwrdd â ffrindiau a chwarae; cerdded y strydoedd yn ddiogel ar eu pen eu hunain; bod â mannau gwyrdd agored ar gyfer planhigion ac anifeiliaid; cyfranogi mewn bywyd teuluol, cymunedol a chymdeithasol (Dangosyddion Dinas Plant-Gyfeillgar).

Mae Play Scotland yn credu y dylai plant a phobl ifainc o bob oed, gallu a diddordeb a ble bynnag y maent yn byw, allu chwarae, mewn amrywiol ffyrdd, mewn mannau o safon uchel, o fewn golwg i’w cartrefi, neu o fewn pellter cerdded rhwydd, ble y maent yn teimlo’n ddiogel – os ydynt yn cael eu hebrwng gan oedolion ai peidio. Mae’r Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae newydd yn gyfle gwych i wneud i hyn ddigwydd ar gyfer pob plentyn yng Nghymru.

Marguerite Hunter Blair, Prif Weithredwraig

Fe ofynnom i fudiadau chwarae cenedlaethol Gogledd Iwerddon, Lloegr a’r Alban, yn ogystal â’r International Play Association (IPA) i rannu eu barn ar Ddyletswydd Digonolrwydd Chwarae Llywodraeth Cymru.

‘Buddsoddi mewn chwarae plant yw un o’r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i wella iechyd a lles plant,’S iHarry Burns, Prif Swyddog Meddygol, Yr Alban

International Play Association http://ipaworld.org Play England www.playengland.org.uk PlayBoard Northern Ireland www.playboard.orgPlay Scotland www.playscotland.org

Page 12: Chwarae yng Nghymru rhifyn 38

12 | Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2012

Mae’r datganiad yn pwysleisio, tra’n cynllunio a darparu cyfleoedd chwarae, mai’r nod fydd nid dileu risg, ond pwyso a mesur y risgiau a’r buddiannau – fydd yr un plentyn yn dysgu am risg os yw wedi ei lapio mewn gwlân cotwm. Mae’r PSF a’r HSE yn annog pob mudiad i fabwysiadu’r argymhellion a’r egwyddorion a geir yn y datganiad Children’s Play and Leisure: promoting a balanced approach statement.

Mae’r datganiad hwn yn ei gwneud yn gwbl glir:

• Bod chwarae’n bwysig i les a datblygiad plant

• Pan fyddwn yn cynllunio a darparu cyfleoedd chwarae, nad dileu risg yw’r nod, ond yn hytrach y dylid pwyso a mesur y risgiau a’r buddiannau

• Y dylai’r rheini sy’n darparu cyfleoedd chwarae ganolbwyntio ar reoli gwir risg, tra’n sicrhau neu’n cynyddu’r buddiannau – ac nid ar y gwaith papur

• Y bydd damweiniau a chamgymeriadau’n digwydd yn ystod chwarae – ond bod ofn cael eich dwyn i gyfraith a chael eich erlyn bellach y tu hwnt i bob rheswm.

Judith Hackitt, Cadeirydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch:

Robin Sutcliffe, Cadeirydd y Play Safety Forum:

Chwarae Cymru:

Mae’r datganiad: Children’s Play and Leisure: promoting a balanced approach ar gael i’w lawrlwytho ar: www.hse.gov.uk/entertainment/childs-play-statement.htm

Amgaeëir copi o’r datganiad fel dalen rydd yn y cylchgrawn hwn

Mae’r Play Safety Forum (PSF) a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi cyhoeddi datganiad lefel uchel ar y cyd er mwyn hybu agwedd gytbwys tuag at reoli risg mewn chwarae plant.

‘Yn aml, caiff deddfau iechyd a diogelwch eu camddyfynnu fel rheswm dros wrthod cyfleoedd i blant, gan gyfrannu at ddiwylliant gwlân cotwm. Rwy’n croesawu’r datganiad hwn sy’n cynnig eglurder a ffocws i’r hyn sydd wir yn bwysig wrth reoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â chwarae plant.

Tra mai prif ffocws yr HSE yw iechyd a diogelwch yn y gweithle, mae’n amlwg bod agweddau tuag at risg yn cael eu ffurfio ymhell cyn i bobl ifainc ymuno â’r byd gwaith.

Mae chwarae’r tu allan yn dysgu pobl ifainc sut i ymdopi â risg a heb hyn byddant yn ei chael yn anodd i ymdopi â bywyd gwaith.’

‘Rwy’n credu y bydd hwn yn ddatganiad o bwys, fydd yn cynorthwyo cynghorau, ysgolion, elusennau ac eraill i roi mwy o ryddid i blant a phobl ifainc brofi cyfleoedd chwarae a hamdden heriol ac anturus. Bydd yr oblygiadau ar gyfer cymdeithas yn bellgyrhaeddol.’

‘Ddylen ni ddim bychanu pwysigrwydd y datganiad hwn. Mae’n nodi newid cyfeiriad ym marn y Llywodraeth am chwarae, trwy gydnabod yn gwbl agored yr angen datblygiadol i blant fentro. Mae atgasedd cynyddol at risg, gaiff ei sbarduno gan ofn cael ein dwyn i gyfraith, yn golygu ein bod fel cymdeithas wedi peidio ag edrych ar ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer chwarae, ac wedi canolbwyntio’n unig ar ei ddiogelwch. Bydd y datganiad hwn yn ein galluogi i roi mwy o ryddid i blant chwarae ac i brofi pleser mentro, fel y gwnaethom ni pan yn blant.’

h New Model Army Photography

Page 13: Chwarae yng Nghymru rhifyn 38

Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2012 | 13

Helo Judith, beth ydych chi’n ei wneud?

Fi yw Cadeirydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Beth yw’r HSE?

Rydym yn gorff gwarchod annibynnol cenedlaethol sy’n gweithredu er lles y cyhoedd i leihau marwolaethau, anafiadau difrifol ac afiechydon cysylltiedig â gwaith ar draws gweithleoedd ym Mhrydain.

Byddwn yn gwneud hyn trwy archwiliadau, ymchwiliadau, gorfodi, ymchwil, darparu gwybodaeth a chyngor, hybu hyfforddiant, rheoliadau a chodau ymarfer newydd neu ddiwygiedig a thrwy weithio â’n partneriaid mewn awdurdodau lleol.

Beth yw canllawiau’r HSE ar gyfer chwarae ar hyn o bryd?

Mae prif ffocws yr HSE ar iechyd a diogelwch yn y gweithle felly, fel arfer, bydd materion sy’n ymwneud â diogelwch chwarae y tu allan i’n gwaith o ddydd-i-ddydd o ran cynnig arweiniad. Fodd bynnag, mae gennym ddiddordeb penodol mewn cywiro’r gwall pan gaiff deddfau iechyd a diogelwch eu cam-ddyfynnu fel rheswm dros warafun cyfleoedd i blant, gan gyfrannu at ddiwylliant gwlân cotwm.

Yn ddiweddar, rydym wedi gweithio â’r Play Safety Forum i ddatblygu Datganiad Lefel Uchel ar Chwarae – gan gytuno ar agwedd ar gyfer rheoli risg, er mwyn rhoi hyder i ddarparwyr chwarae gynnig amgylcheddau chwarae cyffrous a heriol heb waith papur a phryderon diogelwch diangen.

Beth yw gwerth risg mewn chwarae?

Mae’n amlwg bod agweddau tuag at risg yn cael eu ffurfio ymhell cyn i bobl ifainc ymuno â byd gwaith, felly bydd chwarae’r tu allan yn dysgu pobl ifainc sut i ymdopi â risg. Heb hyn byddant yn anghymwys i ddelio â gwaith neu â bywyd yn gyffredinol.

Roedd chwarae’r tu allan yn rhywbeth y byddai fy nghenhedlaeth i’n ei wneud, ac roedd hynny o fudd inni. Wrth gwrs roedd adegau pryd y byddem yn dod adref gyda chwtiau a chleisiau – neu hyd yn oed asgwrn wedi torri – ond ar yr adegau hynny, byddem yn dod â rhywbeth arall yn ôl gyda ni hefyd: gwers am y byd.

Pe byddech yn cwympo allan o goeden, fe fyddai’n brifo. Ond byddai’n eich dysgu unai beth i beidio â’i wneud y tro nesaf, neu nad oedd dringo coed yn rhywbeth i chi. Byddai’n magu parch iach ynoch tuag at y byd ffisegol o’ch hamgylch, pa risgiau y gallech, yn rhesymol, eu cymryd a beth i’w wneud yn wahanol y tro nesaf.

Beth oedd eich hoff weithgaredd chwarae fel plentyn?

Roeddwn wrth fy modd yn mynd ar fy meic ac roeddwn hefyd yn hoff iawn o godi argaeau mewn nentydd gyda phlociau o goed a cherrig a phethau.

Pam fod chwarae’n bwysig?

Pan fyddaf yn siarad â chyflogwyr, yn aml iawn byddant yn dweud wrthyf ei bod yn mynd yn fwyfwy anodd i ddod o hyd i bobl ifainc i dderbyn prentisiaethau sydd â’r un doniau mecanyddol neu gorfforol â’r bobl y byddent wedi eu cyfweld 10 neu

15 mlynedd yn ôl. Dydyn nhw heb adeiladu cert er mwyn rasio i lawr bryn lleol, nac wedi atgyweirio pynjar ar eu beic.

Mae pobl ifainc yn chwilfrydig ac maent yn dysgu’n gyflym. Ddylen ni ddim gwarafun y cyfle iddyn nhw ddysgu trwy fentro. Yn y pen draw bydd ceisio eu hamddiffyn rhag pob perygl posibl, yn hytrach na mynd ati’n rhesymol i reoli’r gwir beryglon y byddant yn eu hwynebu, yn golygu eu bod mewn perygl, heb sôn am eu hamddifadu o atgofion fydd yn para oes.

Beth yw’r dyfodol ar gyfer chwarae yn eich barn chi?

Mae’n ymddangos bod cenedlaethau iau na mi wedi cael eu hamddifadu’n raddol o’r cysylltiad hwnnw â’r byd mawr y tu allan a’r addysg yr oedd hynny’n ei gynnig iddynt. Gyda datblygiadau mewn technoleg, mae profiadau chwarae rhithwir ar beiriannau chwarae mewn ystafelloedd gwely wedi disodli llawer o anturiau go iawn yn yr awyr agored. Fodd bynnag, mae ffasiynau a phrofiadau’n tueddu i ddod yn ôl yn grwn ac efallai, trwy barhau i weithredu’n rymus yn erbyn y rheini sy’n defnyddio iechyd a diogelwch fel esgus i atal plant rhag chwarae ac ennill profiadau, yna y gallwn ninnau i gyd wneud ein rhan i adennill gwerth chwarae’r tu allan.

Atgynhyrchwyd y cyfweliad hwn gyda chaniatâd yr Association of Play Industries (API): www.api-play.org

Yr Association of Play Industries (API) sy’n cyfweld Judith Hackitt o’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)

‘Ddylen ni ddim gwarafun y cyfle i blant ddysgu trwy fentro’

Page 14: Chwarae yng Nghymru rhifyn 38

Yn 2011, dyfarnodd Rhaglen Beilot y Gronfa Blaenoriaethau Sector ariannu i SkillsActive i ddatblygu’r prosiect Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith (P3).Prosiect saith mis o hyd oedd hwn i ddatblygu cymwysterau gwaith chwarae ar lefel 3 ac ysgrifennu deunyddiau drafft i ddysgwyr a hyfforddwyr ar gyfer y Wobr (y cyntaf o’r dair adran sy’n creu’r cymhwyster).

Mae ail Gronfa Blaenoriaethau Sector, wedi ei hariannu trwy raglenni Cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru, wedi dyfarnu prosiect dilynol i SkillsActive i ddatblygu mwy o ddeunyddiau dysgwyr a hyfforddwyr ar gyfer P3 ar lefel 3 ac i sicrhau bod y deunyddiau’n cael eu dylunio a’u hargraffu, â’u trosi i’r Gymraeg i gyd.

Mae SkillsActive yn rhagweld y caiff y cytundeb ar gyfer y gwaith ei ddyfarnu erbyn mis Ionawr 2013, gyda’r prosiect yn cael ei gwblhau erbyn diwedd 2014.

Mae hyn yn newyddion gwych i’r sector gwaith chwarae yng Nghymru – yn enwedig i ddysgwyr

sydd eisoes wedi dechrau ar y cymhwyster P3 Lefel 3, gan y gallant bellach edrych ymlaen at dderbyn deunyddiau o’r un safon i’w cynorthwyo gyda’u datblygiad. Caiff y newyddion ei groesawu hefyd gan gyflogwyr sydd wedi sylweddoli bod y cymwysterau hyn yn amhrisiadwy ac sydd wedi tystio i’r effaith ar ddarpariaeth wedi iddynt gefnogi eu staff i ennill cymwysterau trwy’r cwrs hwn.

Lisa Williams, Swyddog Datblygu Chwarae, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO)

Yn ddiweddar diwygiwyd cymhwyster Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith (P3) lefel 2. Wedi pedair blynedd hynod lwyddiannus roedd yr hen unedau oedd yn ffurfio’r cymhwyster ar fin dod i derfyn eu hoes. Gan weithio gyda’n corff dyfarnu, y Scottish Qualifications Authority (SQA), datblygwyd unedau newydd ac maent bellach wedi eu achredu tan fis Awst 2017.

Mae’r newidiadau’n rhai cwbl esblygol yn hytrach na’n rhai chwyldroadol ac mae’r cymhwyster newydd yn cynnal ei ffocws ar

ddealltwriaeth o chwarae ym mywydau plant a sut y gellir ei hwyluso. Mae gweledigaeth ac athroniaeth y cymhwyster yn parhau i fod yn gwbl seiliedig ar yr Egwyddorion Gwaith Chwarae. O ran ei strwythur mae’r cymhwyster yn dal i gynnwys adran Gwobr, Tystysgrif a Diploma, ac mae trosglwyddiad y cymhwyster yn parhau yr un fath.

O ran y cynnwys, mae’r cymhwyster newydd yn cynnwys adrannau estynedig ar ddiogelu, datblygiad proffesiynol, teithio a nifer o feysydd eraill llai o faint. Mae’r newidiadau helaethaf i’w gweld

yn y gofynion asesu, sy’n fwy integredig a manwl tra’n cynnal eu pwyslais blaenorol ar fyfyrio ac arsylwi.

Mae’r cymhwyster newydd yn cyflawni’r safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer gwaith chwarae yn llwyr ac mae bellach ar gael ar gyfer dysgwyr.

Am fwy o wybodaeth am yr unedau newydd a’r cwrs P3 lefel 2 diwygiedig, cysylltwch â thîm Datblygu’r Gweithlu: [email protected]

Diwygio P3 lefel 2

Datblygiadau lefel 3 P3

Yn ystod mis Hydref a Tachwedd 2012 bydd Chwarae Cymru’n cynnal cwrs Hyfforddi’r Hyfforddwr P3.

Mae hwn yn gwrs ymsefydlu chwe-diwrnod cynhwysfawr i drosglwyddo cymwysterau Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith (P3) Chwarae Cymru. Mae’n cynnig rhaglen ddwys a heriol sy’n ymbaratoi hyfforddwyr â’r sgiliau i drosglwyddo hyfforddiant gwaith chwarae mewn modd hyderus fydd yn ysbrydoli dysgwyr.

Bydd 13 o ddysgwyr o bob cwr o Gymru’n dysgu am ystod o bynciau, o’r modd y bydd dysgwyr yn dysgu a chofio gwybodaeth i ddamcaniaethau gwaith chwarae allweddol.

Comisiynwyd y cwrs hwn gan Gyngor Caerdydd.

Mwy o wybodaeth am hyfforddwyr P3: www.chwaraecymru.org.uk/cym/hyfforddwyr

Cwrs Hyfforddi’r Hyfforddwr

‘Fel cyflogwr staff gwaith chwarae rwy’n credu bod yr hyfforddiant Gwobr lefel 3 P3, y gwnaethant ei fynychu’n ddiweddar, wedi bod yn allweddol i’w datblygiad a’u harferion gweithio. Mae’r dysg nid yn unig wedi atgyfnerthu eu gwybodaeth damcaniaethol ond mae hefyd wedi cyfoethogi eu sgiliau arweinyddol a’u hyder wrth ddelio â heriau all godi o fewn ein proffesiwn. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn i wylio eu datblygiad parhaus trwy gamau Tystysgrif a Diploma’r cymhwyster.’

14 | Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2012

Page 15: Chwarae yng Nghymru rhifyn 38

Beth yw dy farn am y modd y caiff y cwrs ei drosglwyddo?

Rydw i wir yn mwynhau’r modd y caiff P3 lefel 3 ei drosglwyddo oherwydd ei fod yn rhoi rhyddid imi hwyluso dysgu mewn ffyrdd cyffrous a diddorol. Mae hyn, yn ei dro, yn caniatáu i’r dysgwyr ymdrwytho mewn gwaith chwarae a rhannu eu harfer a’u profiad gydag eraill.

’Dyw hi heb fod yn hawdd canfod y lefel a’r traw cywir ar gyfer ambell i bwnc oherwydd bod rhai o’r dysgwyr heb astudio’r gwaith theori a geir yn P3 lefel 2. Yn sicr mae wedi bod yn brofiad dysgu sylweddol iawn imi, ond mae wedi bod yn brofiad heriol a difyr dros ben.

Sut mae’n cymharu â chyrsiau lefel 3 eraill o ran ei drosglwyddo?

Fe fyddwn i’n defnyddio’r un arddull gydag unrhyw grŵp o fyfyrwyr ar gyfer unrhyw gwrs lefel 3, ond rwy’n credu mai’r prif wahaniaeth yw fy mod yn dysgu rhywbeth yr ydw i’n credu ynddo ac sy’n berthnasol i weithwyr chwarae. Yn ogystal, mae’r asesiad yn berthnasol a chynhwysfawr, sydd ddim yn wir am gyrsiau lefel 3 eraill sydd ar gael. Mae cynnwys y cwrs yn weddol drwm, ond mae’r mwyafrif o ddysgwyr wedi dweud eu bod yn mwynhau’r tasgau grŵp ymarferol gan eu bod yn eu helpu i ‘gymryd y cyfan i mewn’.

Pa mor ddefnyddiol yw llawlyfrau’r cwrs?

Mae’r llawlyfrau’n adnoddau gwerthfawr iawn ar gyfer dysgwyr gan eu bod yn cynnig trosolwg cynhwysfawr o’r pynciau gaiff eu hastudio. Bydd angen i’r dysgwyr

barhau i ymchwilio a darllen o amgylch pob pwnc, ond maent yn fan cychwyn cwbl eglur a rhwydd i’w deall.

Wyt ti’n wedi gweld gwahaniaeth rhwng y dysgwyr sydd wedi cwblhau P3 ar lefel 2 a rhai sydd heb gyflawni’r cymhwyster yma?

Mae gwahaniaeth mawr iawn gan fod y dysgwyr P3 wedi cael profiad eisoes o fyfyrio ar lefel is, felly maent yn llithro i mewn i’r myfyrio dyfnach fydd ei angen. Rwyf wedi sylwi bod y dysgwyr eraill dan anfantais gan fod cymaint o lefel 3 yn seiliedig ar fyfyrio.

Pa adborth wyt ti’n ei dderbyn gan y dysgwyr?

Dywedodd un o fy nysgwyr wrthyf, erbyn diwedd y cwrs y bydd hi’n barod i reoli’n effeithiol iawn gan fod rhaid iddi fwyta ac yfed arfer gorau er mwyn cwblhau’r asesiad. Mae eraill, yn enwedig y rheini sydd heb astudio P3 lefel 2, wedi sôn bod y cwrs yn agoriad llygad sylweddol ar yr hyn y dylen nhw fod yn ei wneud, ond nad ydyn nhw wedi ei wneud, oherwydd eu bod yn credu mai’r cyfan oedd angen oedd cydymffurfio â Safonau Gofynnol AGGCC.

Wyt ti wedi derbyn unrhyw adborth gan gyflogwyr neu blant mewn lleoliadau ble mae’r staff yn astudio ar gyfer y cymhwyster lefel 3?

Mae un cyflogwr wedi gweld gwahaniaeth sylweddol yn arfer y dysgwr, sydd wedi dechrau ail-ysgrifennu polisïau a gweithdrefnau’r lleoliad chwarae yn unol â’r hyn y mae’n ei ddysgu.

Mae cyflogwr arall (dau o ddysgwyr) wedi dweud y byddai bellach

yn gwbl fodlon caniatáu iddynt ddatblygu syniadau oherwydd eu bod wedi cymryd perchenogaeth o’u lleoliad a’u bod yn ei symud yn ei flaen.

Tra roeddwn yn arsylwi ar ddysgwr ar leoliad, fe ofynnodd plentyn imi beth oeddwn i’n ei wneud. Wedi imi egluro wrthi, fe ddywedodd bod y gweithiwr chwarae wedi dechrau dod â llawer o bethau newydd i mewn a’u bod wedi cael cynnau tân. Pan ofynnais iddi beth oedd ei hoff beth newydd fe ddywedodd – dringo ar y bwrdd pŵl a chlymu rhaffau i’r trawstiau i greu siglen.

Wyt ti wedi sylwi ar newidiadau yn y lleoliadau y byddi’n ymweld â nhw tra’n asesu dysgwyr?

Mewn un lleoliad penodol rwyf wedi gweld un o’r dysgwyr yn ymgasglu’r staff eraill a phasio arfer da ymlaen iddynt. Mae’r tîm yn gweithio mewn modd mwy cydlynol ac yn edrych ar ffyrdd y gallant newid gweithdrefnau hirsefydlog aneffeithiol er mwyn adfywio’r lleoliad a mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio.

Unrhyw sylwadau pellach?

Rwy’n teimlo bod P3 lefel 3 yn chwyldro hir-ddisgwyliedig ym maes hyfforddiant gwaith chwarae. Mae’r dysgwyr yn ennill cymhwyster sy’n addas i’r diben o’r diwedd, a gobeithio y bydd y dysg yma a’r gwelliannau mewn arfer ddaw yn ei sgîl yn effeithio’n uniongyrchol ar ein plant. Rwy’n teimlo ei bod yn fraint fawr cael bod ynghlwm â dechrau’r broses hon, a bydd yn ddiddorol ei gwylio’n dwyn ffrwyth.

Mwy o wybodaeth am P3:www.chwaraecymru.org.uk/cym/p3

Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2012 | 15

cyfweliad gyda hyfforddwr Yn ddiweddar fe wnaethom gyfweld Alex Neill, Swyddog Datblygu Hyfforddiant Gwaith Chwarae, Chwarae Plant, am ei phrofiadau o drosglwyddo ein cymhwyster lefel 3 Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith (P3) newydd.

Page 16: Chwarae yng Nghymru rhifyn 38

16 | Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2012

Dyfarnwyd ariannu ar gyfer y prosiect, arweiniodd at ddatblygu dau fan chwaraeadwy naturiol newydd, trwy Grant Rhaglen Blaenau’r Cymoedd. Mae’n fuddsoddiad penodol ar gyfer adfywio’r rhanbarth hwn o Gymru.

Ymgeisiodd y Tri-County Play Association am yr ariannu ar ran tîm oedd yn eu cynnwys hwy a Chwarae Plant. Mae pob cymdeithas chwarae’n gweithio’n ei hardal ei hun o fewn y rhanbarth ond penderfynwyd gweithio mewn partneriaeth ar y prosiect hwn.

Comisiynwyd Chwarae Cymru, ar y cyd â PLAYLINK, i gydlynu a bod yn gyfrifol am elfennau o’r prosiect, yn benodol, sicrhau bod dylunio a chreu’r mannau chwaraeadwy’n digwydd. Cyflogodd PLAYLINK un o’u penseiri tirwedd i ddylunio a goruchwylio elfennau o’r gwaith adeiladu, gan weithio’n agos â chontractiwr tirlunio lleol.

Mae ardal ddiffaith ar dir Ysgol Gynradd Gymunedol Maerdy wedi ei adfywio gan gynllun sensitif i ateb anghenion yr ysgol yn ogystal â’r gymuned leol. Mae’r gymuned leol yn cael defnyddio’r safle ar ôl amser ysgol, ar y penwythnos ac yn ystod y gwyliau, gan hybu gwir ymdeimlad o ddefnydd cymunedol. Mae’r ardal yn ganolog i gymunedau dau begwn y cwm, ac fe’i clustnodwyd fel y man gorau i ddatblygu cyfleusterau chwarae newydd gan aelodau’r gymuned leol.

Cyflwynodd cymdeithas dai leol, RCT Homes, gyllid ychwanegol i Maerdy Regeneration (grŵp cymunedol lleol) i ariannu ardal ar y safle, na fyddai’r gyllideb wedi ei ganiatáu fel arall. Defnyddiwyd yr ariannu yma i gynnwys ardal chwarae pêl ar hen fuarth segur, gan sicrhau cyfleusterau ar gyfer plant hŷn. Trwy gwblhau hyfforddiant, cefnogwyd

yr ysgol i fod yn fwy cyfforddus wrth gynnal a chadw a rheoli’r man chwarae y tu hwnt i oes y prosiect.

Yn ogystal, sicrhaodd y prosiect fuddsoddiad yng Nghoetir Sirhywi. Mae hon yn warchodfa natur wedi ei lleoli rhwng dwy gymuned ddifreintiedig yn Nhredegar. Cafodd y gofod yma ei gyfoethogi ag elfennau chwaraeadwy fel pyllau tywod, llwybrau rhaffau a thrac beics trwy’r coed fydd yn denu teuluoedd i’r ardal, a chynyddu’r defnydd o’r safle trwy ddarparu ffocws ar ‘atyniadau’ chwaraeadwy.

Mae Cymru – Gwlad Chwarae-Gyfeillgar yn ymgyrch gan Chwarae Cymru i helpu i greu rhwydwaith o gefnogaeth ar gyfer chwarae ar draws Cymru. Gellir ei defnyddio hefyd i sefydlu ymgyrchoedd lleol ar gyfer chwarae plant a bod yn rhan o fudiad cenedlaethol ar yr un pryd. Rhannwch yr hyn sy’n digwydd yn lleol, sydd unai’n gwarchod neu’n gwahardd hawl plant i chwarae, ar dudalen yr ymgyrch ar Facebook. Dyma enghraifft o brosiect sy’n cyfrannu at wneud Cymru’n wlad gyfeillgar ar gyfer plant sy’n chwarae.

http://on.fb.me/gwladchwaraegyfeillgar

Cydlynwyd y Prosiect Mannau Chwaraeadwy gan un o’n Swyddogion Prosiect, sef Sarah Southern. Yn ddiweddar cafodd ei phenodi’n Swyddog Magu Plant a’r Blynyddoedd Cynnar gyda Learning through Landscapes Cymru. Dymunwn bob llwyddiant i Sarah yn ei swydd newydd.

Gwlad Chwarae-Gyfeillgar Cymru

Page 17: Chwarae yng Nghymru rhifyn 38

Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2012 | 17

Po fwyaf o leisiau sy’n ymuno â ni i gefnogi hawl plant i chwarae, y cryfaf y byddwn. Trwy ddod yn aelod o Chwarae Cymru gallwch ychwanegu eich llais a chryfhau’r floedd.

Yn 2011 enillodd Chwarae Cymru Wobr Hawl i Chwarae yr International Play Association ar ran pawb sy’n gweithio tuag at weld Cymru’n tyfu’n wlad chwarae-gyfeillgar. Pan dderbyniodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, y Wobr dywedodd:

Fel aelod gallwch:

• ymuno â’r ymgyrch i wneud Cymru’n wlad mwy chwarae-gyfeillgar

• helpu i hysbysu ein safbwynt a dylanwadu ar ein gwaith gyda’r llywodraeth ac asiantaethau eraill

• atgyfnerthu ein safbwynt pan fyddwn yn lobïo am newid

• ein helpu i werthuso ein effeithlonrwydd

• enwebu a chael eich enwebu i fod ar Fwrdd Ymddiriedolwyr Chwarae Cymru

Byddwn yn:

• eich hysbysu ynghylch ymgynghoriadau allweddol ac yn gofyn am eich cyfraniad ar gyfer ein hymatebion

• eich hysbysu am ddatblygiadau a gwaith ymchwil newydd

• rhoi gostyngiad ichi ar brisiau mynediad i ddigwyddiadau Chwarae Cymru ac yn rhoi pris arbennig ichi ar gyhoeddiadau Chwarae Cymru

• eich galluogi i drefnu gwiriadau gyda’r Biwro Cofnodion Troseddol yn rhad ac am ddim ar gyfer staff sy’n gweithio mewn darpariaeth chwarae rheoledig

Mae aelodaeth cyswllt yn agored i bob sefydliad ac unigolyn sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru

Mae aelodaeth cyswllt rhyngwladol yn agored i unrhyw sefydliad neu unigolyn sy’n byw neu’n gweithio’r tu allan i Gymru – mae buddiannau aelodaeth yn gyfyngedig gan mai Cymru yw ein hardal gofrestredig o fudd elusennol.

Gofynnir i bob aelod gefnogi:

• yr Egwyddorion Gwaith Chwarae, a

• Pholisi Chwarae Llywodraeth Cymru (gweler y ddau ar ein gwefan)

Ymunwch â ni trwy gwblhau a dychwelyd y ffurflen gofrestru amgaeëdig neu ymwelwch â: www.chwaraecymru.org.uk/ cym/aelodaeth

Eisoes yn aelod?

Anfonir anfoneb ail-ymaelodi atoch ym mis Rhagfyr.

Pam ymuno â

img

Mae chwarae’n bwysig i bob plentyn ac yn bwysig i’n cymunedau i gyd. Fel yr elusen genedlaethol dros chwarae plant, mae Chwarae Cymru’n hyrwyddo hawl pob plentyn a pherson ifanc i chwarae ac i gyfranogi yn eu cymuned leol fel rhan o’u bywyd bob dydd – rydym yn gweithio’n galed i wneud Cymru’n le gwell i chwarae. Dysgwch fwy am ein gwaith ar www.chwaraecymru.org.uk

Mae’r ffaith mai dyma’r tro cyntaf i’r wobr ryngwladol arobryn yma gael ei chyflwyno i wlad gyfan yn anrhydedd fawr. Hoffwn ddiolch i’r holl fudiadau ac i bob person y mae eu hegni a’u hymrwymiad wedi cyfrannu tuag at weld Cymru’n ennill y wobr yma.

Chwarae Cymru?

h New

Mod

el A

rmy

Phot

ogra

phy

Page 18: Chwarae yng Nghymru rhifyn 38

18 | Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2012

DIGWYDDIADAU

Cynhadledd y Trydydd Sector - Yn Gryfach Gyda’n GilyddPlant yng Nghymru 5 Rhagfyr 2012 Future Inn, Bae Caerdydd www.plantyngnghymru.org.uk

Cynhadledd Genedlaethol Gwaith Chwarae 2013 Yn cynnwys 4ydd Gwobrau Blynyddol Gwaith Chwarae 5 – 6 Mawrth 2013 Eastbourne www.playworkconferences.org.uk

Philosophy at Play 2 9 – 10 Ebrill 2013 Prifysgol Swydd Gaerloyw www.facebook.com/Play.and Playwork.at.UoG

Ydych chi wedi gweld gwefan newydd Chwarae Cymru? Ymwelwch â: www.chwaraecymru.org.uk

Byddwn yn gwerthfawrogi derbyn adborth adeiladol am y wefan newydd.

Ebostiwch eich sylwadau at: [email protected]

Mae gwefan cynhadledd yr IPA 2011 wedi ei gau i lawr bellach. Mae’r holl gynnwys perthnasol a chyfredol, yn cynnwys clipiau ffilm o’r prif areithiau, ar gael ar: www.chwaraecymru.org.uk/cym/ipa2011

Ysbryd 2013

Bellach yn ei deuddegfed blwyddyn, mae Ysbryd yn gynhadledd deuddydd sy’n llawn areithiau ysbrydoledig, trafodaethau bywiog, gweithdai ymarferol, bwyd arbennig a chyfleoedd rhwydweithio ar gyfer gweithwyr chwarae, pobl broffesiynol ym maes chwarae ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn chwarae plant.

Bydd pynciau’n cynnwys: stereoteipio negyddol, cynhwysiant, datblygiadau gwleidyddol, nodweddion chwarae, datblygiadau allweddol a phrosiectau cymunedol.

Caiff noson gymdeithasol wych, ar ddiwedd diwrnod cyntaf y gynhadledd, ei chynnwys yn y pris.

Lleolir y gynhadledd yng nghanol dinas brysur Caerdydd, rhwng Stadiwm y Mileniwm a Chastell Caerdydd, sy’n safle gwych os ydych am fwynhau rhagor o atyniadau’r ddinas.

Dyma’r hyn ddywedodd cyfranogwyr cynadleddau Ysbryd yn y gorffennol:

‘Diolch ichi am gynhadledd chwarae anhygoel arall – un cwbl allweddol’

‘Fy nhro cyntaf – wedi mwynhau’n fawr iawn – cefnogi fy mrwdfrydedd dros waith chwarae’

‘Wedi mwynhau’r gweithdai i gyd yn fawr iawn – y cyfan yn gwbl wahanol o ran y fformat a’r dull trosglwyddo – rhywbeth i gnoi cil drosto ac i fyfyrio arno’

‘Digwyddiad amrywiol sy’n peri ichi feddwl’

‘Awyrgylch cynnes a chyfeillgar’

Archebwch eich lle ar: www.chwaraecymru.org.uk/cym/ysbryd2013

Eleni rydym yn cadw cost y gynhadledd yr un fath AC yn cynnig pris boregodwyr arbennig ar gyfer y rheini ohonoch all archebu a thalu am le cyn 31 Rhagfyr 2012.

Aelodau (yng Nghymru)

Rhai sydd ddim yn aelodau

Cyn 31 Rhagfyr 2012 £210 £230

1 Ionawr – 31 Mawrth 2013 £230 £250

1 Ebrill 2013 ymlaen £250 £270