arolygiad o dan adran 28 adroddiad ar ansawdd … · arolygiad o dan adran 28 deddf addysg 2005...

60
Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13 8UW Rhif yr ysgol: 6652270 Dyddiad yr arolygiad: 15 Mawth 2010 gan Jean Laura Hannam 79196 Dyddiad cyhoeddi: 20 Mai 2010 O dan rif contract Estyn: 1111209

Upload: truongdat

Post on 02-Oct-2018

223 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005

Adroddiad ar ansawdd addysg yn

YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway,

Wrecsam LL13 8UW

Rhif yr ysgol: 6652270

Dyddiad yr arolygiad: 15 Mawth 2010

gan

Jean Laura Hannam 79196

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mai 2010

O dan rif contract Estyn: 1111209

Page 2: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Error! Unknown switch argument. Argraffydd y Frenhines a Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi 2010: Gellir ailddefnyddio’r adroddiad hwn yn ddi-dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng ar yr amod y caiff ei ailddefnyddio’n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Rhaid cydnabod hawlfraint y deunydd rhagddywededig a rhaid nodi teitl yr adroddiad penodol. Mae copïau o‟r adroddiad hwn ar gael o‟r ysgol. O dan Ddeddf Addysg 2005, rhaid i‟r ysgol ddarparu copïau o‟r adroddiad yn ddi-dâl i gategorïau penodol o bobl. Gellir

Page 3: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

codi tâl nad yw‟n fwy na chost ailgynhyrchu ar bobl eraill sy‟n gofyn am gopi o‟r adroddiad.

Page 4: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Cyflwyniad

Arolygwyd Ysgol Gynradd Gymuned Gwenfro fel rhan o raglen genedlaethol arolygu ysgolion. Diben arolygu yw nodi nodweddion da a diffygion mewn ysgolion er mwyn iddynt allu gwella ansawdd yr addysg a gynigir a gwella‟r safonau a gyflawnir gan eu disgyblion. Bwriedir i arolygu pob ysgol o fewn cylch chwe blynedd hefyd roi mwy o wybodaeth i rieni am berfformiad ysgol eu plentyn. Cynhaliwyd yr arolygiad o Ysgol Gynradd Gymuned Gwenfro rhwng 15 Mawrth 2010 a 18 Mawrth 2010 gan dîm annibynnol o arolygwyr, wedi‟u harwain gan Jean Laura Hannam. Comisiynwyd yr arolygiad gan Estyn, sef corff statudol sy‟n annibynnol ar, ond a ariennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Roedd yn ofynnol i‟r tîm adrodd ar y safonau a gyflawnir gan ddisgyblion, ansawdd yr addysg a ddarperir gan yr ysgol, ansawdd arweinyddiaeth a rheolaeth a‟r cyfraniad a wneir gan yr ysgol at ddatblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol ei disgyblion. Mae adroddiadau Estyn yn dilyn ei arweiniad ar gyfer ysgrifennu a golygu adroddiadau, sydd ar gael ar wefan Estyn (www.estyn.gov.u). Mae‟r tabl isod yn dangos y termau a ddefnyddir gan Estyn a syniad bras o‟u hystyr. Mae‟r tabl ar gyfer rhoi arweiniad yn unig.

Bron pob un gydag ychydig iawn o eithriadau

Y rhan fwyaf 90% neu fwy

Llawer 70% neu fwy

Mwyafrif dros 60%

Hanner/tua hanner yn agos 50%

Lleiafrif islaw 40%

Rhai islaw 20%

Ychydig iawn llai na 10%

Mae‟r raddfa pum pwynt a ddefnyddir i gynrychioli‟r holl farnau arolygu yn yr adroddiad hwn fel a ganlyn: Gradd 1 da gyda nodweddion rhagorol Gradd 2 nodweddion da a dim diffygion pwysig Gradd 3 nodweddion da‟n gorbwyso diffygion Gradd 4 rhai nodweddion da, ond diffygion mewn meysydd pwysig Gradd 5 llawer o ddiffygion pwysig

Page 5: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Mae tri math o arolygiad. Ar gyfer pob arolygiad, ceir adroddiad ysgrifenedig ar saith cwestiwn allweddol. Ar gyfer arolygiadau byr, ni cheir unrhyw adroddiadau pwnc. Ar gyfer arolygiadau safonol, ceir adroddiadau ar chwe phwnc hefyd. Ar gyfer arolygiadau llawn, ceir adroddiadau ar bob pwnc hefyd. Estyn sy’n penderfynu pa fath o arolygiad y bydd ysgol yn ei gael, yn bennaf ar sail ei pherfformiad yn y gorffennol. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn cael arolygiad safonol. Mae pob ysgol feithrin, ysgol arbennig, unedau cyfeirio disgyblion ac unrhyw ysgol newydd neu ysgol sydd wedi uno yn cael arolygiad llawn. Cafodd yr ysgol hon arolygiad llawn. Grwpiau blwyddyn a chyfnodau allweddol Mae ysgolion yn defnyddio system gyffredin o rifo grwpiau blwyddyn o ddechrau addysg ysgol orfodol i 18 oed. Mae‟r system hon yn pwysleisio pwysigrwydd parhad ac yn hwyluso cyfathrebu ymhlith ysgolion, cyrff llywodraethol, rhieni ac AALlau. Mae‟r term „Derbyn‟ (D) yn cyfeirio at grŵp blwyddyn o ddisgyblion mewn ysgol gynradd sy‟n cyrraedd 5 oed yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae Blwyddyn 1 yn cyfeirio at y grŵp blwyddyn o ddisgyblion sy‟n cyrraedd 6 oed yn ystod y flwyddyn academaidd, ac ati. Blwyddyn 13 yw‟r grŵp blwyddyn o fyfyrwyr sy‟n cyrraedd 18 oed yn ystod y flwyddyn academaidd. Sector cynradd:

Blwyddyn D B1 B2 B3 B4 B5 B6

Oedrannau 4-5 5-6 6-7 7-8 8-9 9-10 10-11

Sector uwchradd:

Blwyddyn B7 B8 B9 B10 B11 B12 B13

Oedrannau 11-12 12-13 13-14 14-15 15-16 16-17 17-18

Mae‟r Cwricwlwm Cenedlaethol yn ymdrin â phedwar cyfnod allweddol fel a ganlyn:

Cyfnod allweddol 1 Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2

Cyfnod allweddol 2 Blwyddyn 3 i Flwyddyn 6

Cyfnod allweddol 3 Blwyddyn 7 i Flwyddyn 9

Cyfnod allweddol 4 Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11

Page 6: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Cynnwys Tudalen Cyd-destun 1

Crynodeb 3 Argymhellion 9 Safonau 10 Cwestiwn Allweddol 1: Pa mor dda y mae dysgwyr yn cyflawni? 10 Ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant 16 Cwestiwn Allweddol 2: Pa mor effeithiol yw‟r addysgu, yr hyfforddi a‟r

asesu? 16

Cwestiwn Allweddol 3: Pa mor dda y mae profiadau dysgu yn cwrdd ag anghenion a diddordebau dysgwyr a‟r gymuned ehangach?

18

Cwestiwn Allweddol 4: Pa mor dda yw‟r gofal, y cyfarwyddyd a‟r gefnogaeth i ddysgwyr?

20

Arweinyddiaeth a rheolaeth 24 Cwestiwn Allweddol 5: Pa mor effeithiol yw arweinyddiaeth a rheolaeth

strategol? 24

Cwestiwn Allweddol 6: Pa mor dda y mae arweinwyr a rheolwyr yn arfarnu ac yn gwella ansawdd a safonau?

26

Cwestiwn Allweddol 7: Pa mor effeithlon y mae‟r arweinwyr a rheolwyr wrth ddefnyddio adnoddau?

27

Safonau a gyflawnir mewn pynciau a meysydd dysgu 29 Cyfnod sylfaen Saesneg Cymraeg (Ail Iaith) Mathemateg Gwyddoniaeth Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu Dylunio a thechnoleg Hanes Daearyddiaeth Celf a dylunio Cerddoriaeth Addysg gorfforol Addysg grefyddol

29 36 37 38 39 40 40 41 43 44 45 45 46

Ymateb yr ysgol i’r arolygiad

Atodiadau 1 Gwybodaeth sylfaenol am yr ysgol 2 Data a dangosyddion ysgol 3 Canlyniadau asesiadau‟r Cwricwlwm Cenedlaethol 4 Sail dystiolaeth yr arolygiad 5 Cyfansoddiad a chyfrifoldebau‟r tîm arolygu

Page 7: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

1

Cyd-destun

Natur y darparwr

1 Adeiladwyd Ysgol Gynradd Gymuned Gwenfro yn 1958. Mae hi yn ardal Caia

yn Wrecsam, gogledd ddwyrain Cymru. Dywed yr ysgol bod y rhan fwyaf o‟r disgyblion yn byw yn agos at yr ysgol, ond mae lleiafrif yn cael eu cludo o rannau eraill o‟r dref i‟r unedau. Mae‟r ysgol mewn ardal Cymunedau‟n Gyntaf a hon yw‟r ardal drydydd uchaf o safbwynt amddifadedd yng Nghymru. Mae‟r ysgol yn paratoi ar gyfer disgyblion gydag ystod gallu eang iawn, gan gynnwys disgyblion a arenwyd fel unigolion galluog a thalentog yn ogystal â rhai ag anawsterau dysgu. Mae dwy Ganolfan Adnoddau â Darpariaeth yn yr ysgol. Maent yn darparu ar gyfer 15 disgybl gydag anawsterau dysgu cymhedrol sydd rhwng pump ac un ar ddeg mlwydd oed. Mae 54 y cant o ddisgyblion gyda hawl i dderbyn prydau ysgol am ddim ac mae hyn ymhell uwchlaw y cyfartaleddau lleol a chenedlaethol. Ar adeg yr arolygiad, yr oedd dau y cant o‟r disgyblion angen cymorth i ddysgu Saesneg yn iaith ychwanegol. Mae gan dri ar ddeg o‟r disgyblion ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig. Yn gyfangwbl, mae 26 y cant o‟r disgyblion wedi cael eu cofrestru gydag anghenion addysgol arbennig. Mae tri y cant o‟r disgyblion ar y gofrestr “Gweithredu Ysgol a Mwy” a 23 y cant ar y gofrestr “Gweithredu Ysgol”. Cafodd un disgybl ei eithrio dros dro yn y deuddeg mis diwethaf.

2 Ar adeg yr arolygiad, yr oedd 272 o ddisgyblion rhwng pump ac un ar ddeg

mlwydd oed ar y gofrestr, 143 yn fechgyn a 129 yn ferched. Mae‟r niferoedd ar y gofrestr wedi amrywio cryn dipyn dros y flwyddyn academaidd. Mae disgyblion yn cael eu trefnu mewn 14 dosbarth, gan gynnwys Uned y Cyfnod Sylfaen. Mae‟r ysgol yn darparu cyfleusterau meithrin ar gyfer 40 o blant tair a phedair oed sy‟n mynychu‟r ysgol yn rhan amser. Mae‟r meini prawf derbyn i‟r dosbarth meithrin yn dilyn canllawiau cenedlaethol ac awdurdod lleol (ALl). Caiff plant eu derbyn yn y tymor yn dilyn eu trydydd penblwydd cyn belled â bod lleoedd ar gael. Mae asesiadau sylfaen yn dangos bod yn agos i hanner, ar eu mynediad, gyda lefelau cyrhaeddiad is nag ysgolion tebyg o fewn yr ALl, yn enwedig yn eu datblygiad personol a chymdeithasol a‟u sgiliau cyfathrebu. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ymofynwyr noddfa ar y gofrestr. Mae tri phlentyn sydd “mewn gofal” wedi eu cofrestru yn yr ysgol. Ar hyn o bryd, mae nifer bychan o ddisgyblion gydag anableddau corfforol yn mynychu‟r ysgol.

3 Mae 98 y cant o‟r disgyblion yn siarad Saesneg yn iaith gyntaf, a‟r dau y cant

sy‟n weddill yn siarad amrywiaeth o ieithoedd eraill. Nid oes unrhyw ddisgybl yn siarad Cymraeg yn iaith gyntaf gartref.

4 Cafodd yr ysgol bresennol ei chreu yn 2007 pan gafodd Ysgolion Iau a

Babanod Gwenfro eu cyfuno. Cawsant eu harolygu ddiwethaf yn Chwefror 2005 (yr ysgol iau) a Mawrth 2004 (ysgol y babanod). Ers hynny cafodd gwaith adeiladu ei wneud i hyrwyddo creu ysgol unedig. Mae‟r pennaeth wedi bod yn ei swydd ers yr uno, a chyn hynny roedd yn bennaeth ysgol babanod Gwenfro. Ar adeg yr arolygiad, yr oedd pum aelod o staff ar absenoldeb mamolaeth, a bron pob un yn addysgu cyfnod allweddol 1, ac yr oedd y rhai

Page 8: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

2

oedd yn llanw yn amrywio o aelod o staff a benodwyd yn ddiweddar i bersonél sydd wedi ymsefydlu‟n dda.

5 Dyfarnwyd Gwobr Marc Safon Sgiliau Sylfaenol, achrediadau Buddsoddwyr

mewn Pobl ac Ysgolion Iach a‟r Wobr Eco Efydd i‟r ysgol.

Blaenoriaethau a thargedau’r ysgol

6 Mae‟r ysgol yn anelu at gynnig amgylchedd sefydlog, gofalgar a chyfeillgar i

bob dysgwr, waeth beth fo ei oed, ei ryw, ei hil neu ei allu. Mae pob aelod o staff yn ymdrechu i gynnig yr addysg orau i ddisgyblion, gan drin pawb fel unigolion a chynnig anogaeth i gyflawni eu gorau.

7 Datganiad neges yr ysgol yw “ darparu amgylchedd ddysgu gynhwysol,

ofalgar, ddiogel a hapus y bydd ein disgyblion yn mwynhau perthyn iddi, ac o ganlyniad, yn dysgu ffynnu”.

8 Mae blaenoriaethau cyfredol yr ysgol ar gyfer datblygiad yn cynnwys:

gwella‟r gweithdrefnau monitro ac arfarnu ymhellach gyda “ rhodfeydd dysgu” ar gyfer arweinyddion pynciol a llywodraethwyr;

gwella safonau cyflawniad mewn llythrennedd a rhifedd ymhellach gyda‟r nod o fod yn y chwartel uchaf yn gyson mewn cymhariaeth ag ysgolion tebyg, a

pharhau i arenwi‟r disgyblion “sialens” a chynllunio ar eu cyfer – gan roi hwb i‟w cyrhaeddiad ar ddiwedd y ddau gyfnod allweddol.

Page 9: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

3

Crynodeb 9 Mae Ysgol Gynradd Gymuned Gwenfro yn ysgol ofalgar iawn sy‟n gosod lles y

disgyblion yn ganolbwynt i‟w darpariaeth. Yn ei chyfanrwydd, mae‟n darparu‟n dda ar gyfer anghenion ac amrediad y disgyblion yn ei gofal. Gofelir am y disgyblion a‟u harwain a‟u cefnogi mewn amgylchedd diogel a chynhwysol. Mae gan yr ysgol ethos tra chadarnhaol ac mae gan yr holl staff ddisgwyliadau uchel iawn o‟r holl ddisgyblion. Mae hyn yn gryfder yn y ddarpariaeth.

10 Mae arweinyddiaeth a phenderfyniad y brif athrawes ac uwch reolwyr wedi

bod yn ffactorau allweddol yn y llwyddiant i uno ysgolion babanod a iau Gwenfro yn un ysgol gadarn yn ddiweddar. Maent wedi gweithredu gwelliannau sylweddol ym mhob maes ac maent mewn sefyllfa gadarn i godi safonau ymhellach.

Tabl o’r graddau a ddyfarnwyd

Cwestiwn Allweddol Gradd arolygu

1 Pa mor dda y mae dysgwyr yn cyflawni? Gradd 2

2 Pa mor effeithiol yw‟r addysgu, yr hyfforddi a‟r asesu? Gradd 2

3 Pa mor dda y mae profiadau dysgu yn cwrdd ag anghenion a diddordebau dysgwyr a‟r gymuned ehangach?

Gradd 2

4 Pa mor dda yw‟r gofal, y cyfarwyddyd a‟r gefnogaeth i ddysgwyr? Gradd 2

5 Pa mor effeithiol yw arweinyddiaeth a rheolaeth strategol? Gradd 2

6 Pa mor dda y mae arweinwyr a rheolwyr yn arfarnu ac yn gwella ansawdd a safonau?

Gradd 3

7 Pa mor effeithlon y mae‟r arweinwyr a rheolwyr wrth ddefnyddio adnoddau?

Gradd 2

11 Mae gwybodaeth asesu‟r ysgol yn dangos bod cyrhaeddiad yn agos at hanner

y plant pan ddechreuant yn y Cyfnod Sylfaen islaw cyfartaledd yr ALl. 12 Mae canlyniadau asesiadau athrawon diwedd cyfnod allweddol 1 yn 2009 yn

dangos bod cyflawniad disgyblion islaw cyfartaleddau cenedlaethol a rhai‟r Awdurdod Lleol yn y Saesneg, gwyddoniaeth ac yn y dangosydd pynciau craidd ( y nifer o ddisgyblion sy‟n cyrraedd lefel dau neu uwch ym mhob un o‟r tri phwnc). Mae‟n cyfateb i gyfartaleddau cenedlaethol a lleol mewn mathemateg. Mewn cymhariaeth ag ysgolion tebyg yng Nghymru ar sail nifer y disgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim, mae‟r ysgol yn yr 50 y cant uchaf yn y Saesneg, mathemateg a‟r dangosydd pynciau craidd ac yn y 50 y cant isaf mewn gwyddoniaeth; mae ychydig uwchlaw cyfartaledd y “grŵp teulu”. Mae‟r merched yn perfformio‟n well na‟r bechgyn yn yr holl bynciau craidd.

13 Yr oedd asesiadau athrawon diwedd cyfnod allweddol 2 yn 2009 uwchlaw y

cyfartaleddau cenedlaethol a lleol yn y Saesneg, mathemateg, gwyddoniaeth a‟r dangosydd pynciau craidd (y nifer o ddisgyblion yn cyrraedd lefel 4 ym mhob un o‟r tri phwnc). Mae‟r canlyniadau hyn yn gosod yr ysgol yn y pump ar hugain y cant uchaf o ysgolion tebyg o safbwynt prydau ysgol am ddim, yn y

Page 10: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

4

Saesneg, mathemateg a‟r dangosydd pynciau craidd. Mae‟r ysgol yn y 50 y cant uchaf mewn gwyddoniaeth. Yn groes i gymariaethau “grŵp teulu” mae‟r bechgyn yn perfformio‟n well na‟r merched yn y cyfnod allweddol hwn.

14 Mae tystiolaeth dros amser yn awgrymu bod minteioedd unigol yn amrywio‟n

sylweddol ond bod safonau wedi codi‟n raddol yng nghyfnodau allweddol 1 a 2 dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

15 Waeth beth fo eu cefndir cymdeithasol, ethnig neu ieithyddol, mae‟r rhan fwyaf

o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion addysgol arbennig a‟r rhai sydd angen cymorth i ddysgu Saesneg fel iaith ychwanegol, yn gwneud cynnydd unigol da a weithiau da iawn wrth gaffael gwybodaeth a dealltwriaeth a sgiliau newydd pan edrychir ar hynny yn g ngoleuni eu safonau cyrhaeddiad wrth gyrraedd yr ysgol. Mae saithdeg pump y cant o‟r disgyblion yn cyrraedd y targedau a‟r nodau a osodwyd iddynt.

Maes arolygu Cyfnod Allweddol 1 Gradd

Cyfnod Allweddol 2 Gradd

Y Cyfnod Sylfaen 2 Amherthnasol

Saesneg 2 2

Cymraeg Ail Iaith 2 2

Mathemateg 3 2

Gwyddoniaeth 3 2

Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

2 2

Dylunio a Thechnoleg 2 3

Hanes 2 2

Daearyddiaeth 3 3

Celf a Dylunio 2 2

Cerddoriaeth 2 2

Addysg Gorfforol 2 2

Addysg Grefyddol 2 2

Pynciau a/neu feysydd dysgu ar gyfer Y Cyfnod Sylfaen (plant o dan 5 oed a Derbyn)

Maes dysgu Gradd arolygu

M D B1 B2

Datblygiad personol a chymdeithasol, lles a datblygiad diwylliannol

2 2 Amh. Amh.

Sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu 2 2

Datblygiad iaith Gymraeg 2 2

Datblygiad mathemategol 3 3

Gwybodaeth a dealltwriaeth o‟r byd 2 2

Datblygiad creadigol 2 2

Datblygiad corfforol 2 2

Page 11: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

5

16 Mae ansawdd y ddarpariaeth addysgol yn ei chyfanrwydd ar gyfer plant o dan bump oed yn briodol i‟w hanghenion ac mae‟r plant yn gwneud cynnydd da tuag at ddeilliannau‟r Cyfnod Sylfaen.

17 Yn y pynciau a arolygwyd yr oed safonau cyflawniad fel a ganlyn:

Gradd 1 Gradd 2 Gradd 3 Gradd 4 Gradd 5

8% 68% 24% 0% 0%

18 Mae‟r canrannau islaw y ffigurau a ddangosir yn y canlyniadau cenedlaethol

diweddaraf lle adroddir bod safonau‟n dda neu well (gradd 1 a 2) mewn 87 y cant o wersi. Maent islaw y ffigurau a gyhoeddwyd o 12 y cant o wersi lle mae safonau cyflawniad yn rhagorol (gradd 1).

19 Er bod y safonau a welwyd mewn gwersi islaw y cyfartaledd cenedlaethol ar

gyfer gradd 2, mae tystiolaeth o waith yr edrychwyd arno a thrafodaethau helaeth â disgyblion yn cefnogi‟r proffil canlyniadau cwricwlwm cenedlaethol a gyhoeddwyd sy‟n gosod yr ysgol yn y chwartel uchaf ar gyfer mwyafrif y pynciau craidd yng Nghyfnod Allweddol 2.

20 Mae safonau disgyblion trwy‟r ysgol yn y sgiliau allweddol yn eu cyfanrwydd

gyda nodweddion da yn gorbwyso diffygion. Mae sgiliau cysylltiedig â medrau dwyieithog, gwrando a chreadigrwydd yn dda ac mae gan y rhan fwyaf o ddisgyblion ymwybyddiaeth dda o draddodiadau a diwylliant Cymru.

21 Mae sgiliau datrys problemau a dysgu annibynnol disgyblion yn fwy

datblygedig yn y Cyfnod Sylfaen a chyfnod allweddol 1 ond maent yn datblygu mewn meysydd eraill o ganlyniad i‟r Rhaglen Dysgu Effeithiol a phwyslais cynyddol ysgol gyfan ar fedrau meddwl.

22 Mae bron pob disgybl, gan gynnwys disgyblion gydag anghenion ychwanegol,

rhai yn yr Unedau Adnoddau â Darpariaeth a‟r rhai sy‟n dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol, yn gwneud cynnydd da tuag at y targedau a osodwyd iddynt ac yn cyflawni safonau da mewn perthynas â‟u hoed, eu hangen a‟u gallu. Maent yn caffael gwybodaeth a sgiliau newydd ac mae‟r rhan fwyaf o‟r disgyblion yn datblygu sgiliau dysgu gydol oes.

23 Mae nifer cynyddol yn gallu cyfleu‟n llafar sut y maent yn dod yn eu blaenau

wrth egluro eu gwaith i eraill yn ystod sesiynau crynhoi gwersi ac maent yn dechrau mynegi beth y mae‟n rhaid iddynt ei wneud i wella. Mae‟r elfen hon o ddysgu‟n datblygu‟n arbennig o dda yn y Cyfnod Sylfaen.

24 Mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion yn arddangos sgiliau personol a chymdeithasol

da, yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn dangos parch mawr at eraill. Mae disgyblion yn gweithio‟n dda gyda‟i gilydd ond mae eu gallu i drefnu eu gwaith ac i weithio‟n annibynnol yn llai datblygedig.

25 Mae lleiafrif o ddisgyblion sydd wedi cael eu harenwi yn alluog a thalentog nad

ydynt yn cyrraedd eu potential llawn. Mae‟r ysgol yn dechrau mynd i‟r afael â‟r broblem hon.

Page 12: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

6

26 O ganlyniad i‟r strategaethau diweddar y mae‟r ysgol wedi dechrau eu gweithredu, mae presenoldeb yn arddangos tueddiadau tuag at wella. Yr oedd y data am y flwyddyn yr adroddwyd arni ddiwethaf yn 93.3 y cant. Mae hyn yn gyffelyb i ffigurau diweddaraf Cymru gyfan ond ychydig yn is na chyfartaledd yr ALl. Mae datblygiad cymdeithasol, moesol, ysbrydol a diwylliannol y disgyblion yn dda.

27 Mae gan y rhan fwyaf o ddisgyblion ddealltwriaeth dda o gyfleoedd cyfartal ac

ymwybyddiaeth dda o amrywiaeth mewn cymdeithas. 28 Mae dealltwriaeth disgyblion o‟u lle yn y gymuned yn dda; mae eu

hymwybyddiaeth o fyd gwaith yn llai datblygedig. Ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant Graddau ar gyfer addysgu 29 Yr oedd ansawdd yr addysgu a welwyd yn ystod yr arolygiad fel a ganlyn:

Gradd 1 Gradd 2 Gradd 3 Gradd 4 Gradd 5

11% 74% 15% 0% 0%

30 Mae‟r cyfartaleddau yn gyffredinol yn unol â‟r ffigurau cenedlaethol diweddaraf

lle adroddir bod ansawdd yr addysgu‟n dda neu well (gradd 1 neu radd 2) mewn 85% o wersi. Maent islaw y ffigurau a gyhoeddwyd o 17 y cant o wersi lle adroddir bod safonau addysgu yn rhagorol (gradd 1).

31 Mewn gwersi gyda nodweddion rhagorol, mae gan staff fwriadau dysgu eglur

ar gyfer yr holl ddisgyblion, cynigiant addysgu bywiog a diddorol a darparant dasgau sy‟n symbylu diddordeb a chymhelliant disgyblion. Yn y mwyafrif o wersi, mae‟r nodweddion da yn cynnwys cynlluniau sy‟n adeiladu ar wybodaeth flaenorol disgyblion a chyflymder da sy‟n sicrhau cydbwysedd da rhwng addysgu uniongyrchol a thasgau ymarferol ar gyfer disgyblion. Pan oedd gwersi‟n llai effeithiol, yr oedd y diffygion yn cynnwys arafwch yng nghyflymder yr addysgu a diffyg sialens, ystyriaeth annigonol i anghenion a galluoedd gwahanol yr holl ddisgyblion a gweithgareddau rhy gaeth eu cyfarwyddyd yn llesteirio annibyniaeth a chreadigrwydd disgyblion.

32 Mae‟r perthnasau gwaith cryf rhwng oedolion sy‟n gweithio yn yr ystafell

ddosbarth yn sicrhau bod cyfleoedd cyfartal yn cael eu hybu‟n dda drwy‟r ysgol, waeth beth fo gallu, cefndir neu ryw‟r disgybl.

33 Ar y cyfan, mae‟r rhan fwyaf o athrawon yn cynllunio gwersi sydd mewn

dilyniant gofalus fel bod disgyblion yn adeiladu ar brofiadau a gwybodaeth flaenorol ac mae‟r athrawon yn addasu eu gwersi i gyfarfod ag anghenion y disgyblion i gyd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gyson trwy‟r ysgol. Ychydig o gynlluniau gwersi sy‟n cynnwys bwriadau dysgu sy‟n disgrifio‟n fanwl yr hyn y mae disgwyl i‟r disgyblion ei ddysgu.

Page 13: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

7

34 Mae athrawon yn llwyddiannus yn eu hymdrechion i hybu dwyieithrwydd y disgyblion. Mae aelodau o staff yn fodelau rôl da iawn, ac yn defnyddio Cymraeg ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar y dysgu.

35 Yn ei gyfanrwydd, mae gan asesu cynnydd disgyblion nodweddion da sy‟n

gorbwyso diffygion ond mae‟n gryfder yn y Cyfnod Sylfaen a rhai meysydd yng nghyfnod allweddol 1. Mae‟r ysgol yn cyfarfod â‟r holl ofynion statudol ar gyfer asesu ac adrodd ar gyrhaeddiad disgyblion. Mae athrawon yn asesu gwaith disgyblion yn rheolaidd ac yn deg. Mae‟r gyfundrefn fewnol o dracio disgyblion yn gymorth i adnabod disgyblion a fyddai‟n cael budd o gefnogaeth ychwanegol yn y Saesneg a mathemateg ac mae hyn yn nodwedd dda.

36 Mae‟r ysgol yn darparu cwricwlwm eang, cytbwys a pherthnasol, y gall

disgyblion gael mynediad llawn ato ac mae‟n cydymffurfio â phob galw cyfreithiol. Mae‟r profiadau dysgu a ddarperir yn cyfarfod ag anghenion y rhan fwyaf o ddisgyblion yn effeithiol. Mae‟r rhain, fodd bynnag, wedi eu datblygu‟n fwy eglur yn y Cyfnod Sylfaen.

37 Mae gweithgareddau all-gyrsiol yn effeithiol wrth ehangu a chyfoethogi

profiadau dysgu disgyblion. Mae hyn yn gryfder yn narpariaeth Gwenfro. Mae‟r bartneriaeth â darparwyr eraill hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar safonau.

38 Mae addoli yn y dosbarth ac amser cylch yn gwneud cyfraniad rhagorol i

ddealltwriaeth disgyblion o faterion moesol ac ysbrydol ac yn eu cynorthwyo i ennill parch at wirionedd a thegwch. Mae hyn yn rhywbeth y mae un yn sylwi‟n arbennig arno yn nosbarthiadau pen uchaf cyfnod allweddol 2. Mae disgyblion hefyd yn cyflawni safonau da yn eu datblygiad diwylliannol a chymdeithasol. Mae addoliadau ar y cyd yn cyflawni gofynion statudol.

39 Mae ansawdd y gofal, y gefnogaeth a‟r arweiniad i ddisgyblion i sicrhau eu

datblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol, eu hiechyd a‟u lles yn dda. Mae cefnogaeth bersonol yn agwedd ragorol o waith yr ysgol gan bod yr holl oedolion yn adnabod y disgyblion yn arbennig o dda ac yn monitro eu datblygiad personol wrth iddynt symud trwy‟r ysgol.

40 Yn ei gyfanrwydd, mae‟r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion gydag anghenion

addysgol arbennig (AAA) yn y lleoliad prif lif ac yn yr Unedau Adnoddau yn dda gyda nodweddion rhagorol yng ngofal corfforol rhai grwpiau o ddisgyblion. Mae disgyblion, teuluoedd a‟r gymuned yn gwerthfawrogi‟r gefnogaeth hon.

41 Mae‟r ddarpariaeth ar gyfer arwain yr holl ddisgyblion yn bersonol, yn

gymdeithasol ac yn emosiynol yn rhagorol drwy‟r ysgol. 42 Mae gweithdrefnau i fonitro a hybu presenoldeb rheolaidd a phrydlondeb yn

dda. 43 Mae gweithdrefnau iechyd a diogelwch yn briodol ac yn eu cyfanrwydd, mae

trefniadau anwytho a phontio yn dda.

Page 14: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

8

44 Mae trefniadau amddiffyn plant a diogelu disgyblion yn briodol. 45 Mae polisïau a gweithdrefnau i sicrhau cyfle cyfartal, cyfartaledd hil ac i ddileu

unrhyw fath o ymddygiad treisgar yn effeithiol. Mae ethos cadarnhaol yr ysgol yn adlewyrchu gweithrediad llwyddiannus iawn y polisïau.

46 Mae‟r ysgol yn adnabod a pharchu amrywiaeth ar unrhyw ffurf. Mae polisïau i

weithredu hyn yn gynhwysfawr ac yn cael eu diweddaru‟n rheolaidd. Arweinyddiaeth a rheolaeth 47 Mae‟r pennaeth yn dra ymroddedig i les y disgyblion ac yn llwyddiannus iawn

yn cael y rhieni a‟r gymuned i gefnogi‟r addysg. Gyda chymorth uwch dîm rheoli cryf mae hi wedi bod yn llwyddiannus wrth gymryd trosolwg ar uno ysgolion babanod a iau Gwenfro i ffurfio un ysgol newydd ar gyfer yr holl ystod oedran. Mae‟r pennaeth yn ddyfal wedi dechrau gweithredu llawer o‟r newidiadau yr oedd eu hangen i gynhyrchu ethos cynhwysol yn yr ysgol newydd heb ddifetha arferion da oedd yn bodoli. O ganlyniad, mae Ysgol Gynradd Gymuned Gwenfro yn awr yn un ysgol ym mhob ffordd.

48 Mae gweithdrefnau, strwythurau ac adnoddau sydd wedi cael eu cyflwyno

wedi arwain at ddisgyblion yn gwneud cynnydd unigol da drwy‟r ysgol pan edrychir ar hynny yng ngoleuni eu lefelau ar eu mynediad.

49 Mae ansawdd arweinyddiaeth arweinwyr pynciol yr ysgol yn datblygu‟n dda

wrth iddynt gryfhau eu swyddogaeth strategol ar sail ysgol gyfan. Mae‟r staff yn gweithio‟n dda iawn gyda‟i gilydd fel tîm. Rhennir gwerthoedd cyffredin am sgiliau dysgu, medrau meddwl, lles emosiynol, safonau ymddygiad a pherthnasau.

50 Yn ei gyfangwbl, caiff gwybodaeth asesu dydd i ddydd ei defnyddio‟n effeithiol

i adnabod targedau gwelliant unigol ar gyfer y disgyblion, gan gynnwys plant gydag AAA a rhai y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt, yn ogystal ag aelodau unigol o staff. Yn ddiweddar, mae‟r ysgol wedi dechrau gweithredu cyfundrefn ddadansoddi data mwy treiddgar ond, hyd yma, ni chafodd hyn effaith lawn trwy‟r ysgol fel bod modd hyrwyddo gosod targedau cryf neu dymor maith (dros fwy na blwyddyn) yn ddigonol yn y cynllun gwella ysgol, ac y gellid arfarnu llwyddiant yr ysgol a‟i symud ymlaen yn gyflym.

51 Mae‟r pennaeth, y llywodraethwyr a‟r uwch reolwyr yn dechrau monitro‟r

addysgu a‟r dysgu ac yn asesu ei effaith ar safonau. Mae monitro effeithiol ysgol gyfan yn flaenoriaeth yn y cynllun gwella ysgol er mwyn sicrhau bod pob menter newydd yn cael ei gweithredu‟n gyson trwy‟r cyfnodau allweddol a bod yr effaith ar safonau‟n cael ei arfarnu‟n llawn.

52 Mae‟r Corff Llywodraethol yn llwyr gefnogi‟r pennaeth, y staff, y disgyblion a

nodau ac amcanion yr ysgol ac yn sicrhau bod yr holl ofynion statudol yn cael eu cyfarfod trwy amryw o is-bwyllgorau.

Page 15: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

9

53 Mae diwylliant hunan arfarnu yn sefydlu fwy a mwy o fewn yr ysgol. Fodd bynnag, nid yw‟r trefniadau ar gyfer casglu barn disgyblion, rhieni ac eraill sydd â diddordeb wedi cael eu datblygu‟n ddigonol hyd yma.

54 Mae‟r adroddiad hunan arfarnu a baratowyd ar gyfer yr arolygiad yn dilyn

fframwaith Estyn. Mae‟n ddogfen eang ac onest, ond mae‟n ddisgrifiadol yn hytrach nag yn arfarnol ac nid oes cyswllt digon cryf bob amser rhyngddi â‟r blaenoriaethau eglur yn y cynllun gwella ysgol. Mae barn y tîm arolygu yn cytuno â hunan arfarniad yr ysgol yn unig mewn perthynas â chwestiwn allweddol 2. Rhoddodd arolygwyr radd is i gwestiynau allweddol 1, 3, 4, 5 a 7, a dwy radd yn is i gwestiwn allweddol 6.

55 Mae‟r ysgol wedi gwneud gwelliannau sylweddol ers yr uno ac maent yn

adlewyrchu ymroddiad personol y pennaeth a‟r staff yn yr ymdrechion i gwblhau‟r broses cyn gynted ag y bo modd a chynhyrchu amgylchedd newydd lle byddir yn cyfarfod ag anghenion y disgyblion.

56 Caiff y disgyblion eu cefnogi‟n dda gan athrawon profiadol sydd â

chymwysterau priodol a staff cefnogi, i gyd â‟r wybodaeth a‟r arbenigaeth i addysgu pob agwedd ar y cwricwlwm. Mae datblygiad proffesiynol ar gyfer y staff i gyd yn drylwyr ac yn berthnasol i flaenoriaethau yn y cynllun gwella ysgol.

57 Mae‟r adeiladau‟n dda ac mae gan yr ysgol adnoddau da dros ben gydag offer

priodol ym mhob pwnc. Mae hyn yn elfen ragorol o ddarpariaeth yr ysgol. Yn ei chyfanrwydd, mae‟r ysgol yn gyffredinol yn gwneud defnydd economaidd da, effeithlon ac effeithiol o‟r adnoddau ar gael, gan gysylltu‟r cyfan â gwariant, gwella‟r ddarpariaeth a chodi safonau.

58 Mae‟r ysgol yn llwyddiannus yn cydbwyso effeithiolrwydd ei darpariaeth yn

erbyn costau, gan gynnwys costau staffio. Caiff gwariant ei fonitro‟n ofalus gan y pennaeth a‟r Corff Llywodraethol. Mae‟r ysgol yn rhoi gwerth da am arian.

59 Wrth grynhoi, o ystyried lefel isel y disgyblion ar eu mynediad, mae‟r holl

ddisgyblion yn gwneud cynnydd unigol da a weithiau da iawn yn ystod eu hamser yn Ysgol Gynradd Gymuned Gwenfro ac mae‟r rhan fwyaf wedi cael eu paratoi‟n dda ar gyfer cam nesaf eu dysgu.

Page 16: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

10

Argymhellion 60 Er mwyn gwella a gwneud cynnydd, dylai‟r ysgol: A1 barhau i godi safonau yn y pynciau a‟r sgiliau allweddol sydd â diffygion; A2 fireinio‟r gyfundrefn gynllunio ysgol gyfan i sicrhau bod cysondeb a pharhad ar

draws y cyfnodau allweddol yn y dysgu, a bod yna wahaniaethu tasgau gosod er mwyn delio ag anghenion unigol yr holl ddisgyblion, yn enwedig y rhai galluog a thalentog;*

A3 sicrhau bod yr holl weithdrefnau newydd yn cael eu sefydlu‟n gadarn, ac yn

cael eu monitro a‟u harfarnu, i sicrhau eu bod wedi cael effaith ar yr addysgu a‟r dysgu, ac ymestyn y gyfundrefn monitro sy‟n bodoli fel bod ymagweddiad cyson tuag ati trwy‟r ysgol;*

A4 sicrhau bod y gyfundrefn dadansoddi data, asesu a thracio gwybodaeth sydd

newydd ei chyflwyno yn bwrw gwreiddiau cadarn ac yn cael ei chysylltu ag arferion gosod targedau miniocach;*

A5 addasu‟r gweithdrefnau hunan arfarnu fel eu bod yn gysylltiedig â‟r cynllun

gwella ysgol trwy dargedau mesuradwy, eglur, er mwyn rhoi darlun mwy eglur o ble mae safonau ar unrhyw bwynt mewn amser a hyrwyddo cynllunio ar gyfer gwelliant dros gyfnod hwy nag un flwyddyn.

* Noder: Mae‟r ysgol eisioes wedi adnabod A2, A3 ac A4 yn ei hadroddiad hunan arfarnu a dogfennaeth gysylltiedig.

Mae‟r corff llywodraethol yn gyfrifol am ddiwygio‟i gynllun datblygu cyfredol i ymgorffori camau i ymateb i‟r argymhellion ymhen 45 diwrnod gwaith o dderbyn yr adroddiad, gan ddangos yr hyn y mae‟r ysgol am ei wneud ynglŷn â‟r argymhellion. Bydd y cynllun hwn, neu grynodeb ohono, yn cael ei ddosbarthu i bob rhiant yn yr ysgol.

Page 17: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

11

Safonau Cwestiwn Allweddol 1: Pa mor dda y mae dysgwyr yn cyflawni? Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig 61 Nid yw canfyddiadau‟r tîm arolygu yn cyfateb i‟r farn radd 1 a ddyfarnodd yr

ysgol yn ei hadroddiad hunan arfarnu am y cwestiwn allweddol hwn. Barnodd y tîm nad oedd safonau‟n gyson ragorol trwy‟r ysgol. Fodd bynnag, mae cyfundrefnau rheolaeth newydd wedi cael eu sefydlu o ganlyniad i‟r uno ac yn deillio o hynny mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd unigol da wrth iddynt fynd yn eu blaenau trwy‟r ysgol.

62 Mae canlyniadau asesiadau athrawon diwedd cyfnod allweddol 1 yn 2009 yn

dangos bod cyflawniad disgyblion islaw cyfartaleddau cenedlaethol a rhai‟r awdurdod lleol yn y Saesneg, gwyddoniaeth a‟r dangosydd pynciau craidd (y nifer o ddisgyblion yn cyrraedd lefel dau neu uwch yn y tri phwnc craidd). Mae‟n cyfateb i gyfartaleddau lleol a chenedlaethol mewn mathemateg. Pan gaiff yr ysgol ei chymharu ag ysgolion cyffelyb yng Nghymru o safbwynt nifer disgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim, mae‟r ysgol yn yr 50 y cant uchaf yn y Saesneg, mathemateg a‟r dangosydd pynciau craidd ac yn y 50 y cant isaf ar gyfer gwyddoniaeth; mae ychydig uwchlaw cyfartaledd y “grŵp teulu”.

63 Mae merched yn perfformio‟n well na bechgyn ym mhob pwnc craidd. Mae‟r

ysgol wedi cymryd camau i ddelio â rhai o‟r materion perthnasol i dangyflawni trwy ddechrau cael dosbarthiadau hybu a elwir yn “booster classes” ond nid yw eto wedi canolbwyntio ar yr agendor rhyw. Mae‟r ysgol newydd ddechrau gweithredu cyfundrefn finiocach i ddadansoddi data ac mae hon yn dechrau arwain at ddefnydd mwy effeithiol o wybodaeth asesu i ddarogan tueddiadau a chanolbwyntio„r camau y mae‟r ysgol yn eu cymryd mewn perthynas â thangyflawni a chyflawniad eithriadol.

64 Yn 2009, yr oedd cyfartaledd disgyblion cyfnod allweddol 1 yn ennill lefel tri yn

is na chyfartaleddau lleol a chendlaethol yn y Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth; mae merched yn perfformio‟n well na bechgyn ar y lefel hon.

65 Yr oedd asesiadau athrawon diwedd cyfnod allweddol 2 yn 2009 uwchlaw‟r

cyfartaleddau cenedlaethol a lleol yn y Saesneg, mathemateg, gwyddoniaeth a‟r dangosydd pynciau craidd (y nifer o ddisgyblion yn cyrraedd lefel 4 ym mhob un o‟r tri phwnc). Mae gan yr ysgol dystiolaeth i ddangos bod hyn yn ganlyniad uniongyrchol i gamau a gymerwyd i godi safonau ers yr uno a‟i fod yn adlewyrchu‟r gwerth ychwanegol a roddwyd gan yr ysgol. Mae‟r canlyniadau hyn yn gosod yr ysgol yn y pump ar hugain y cant uchaf o ysgolion gyda niferoedd cyffelyb yn derbyn prydau ysgol am ddim yn y Saesneg, mathemateg a‟r dangosydd pynciau craidd. Mae‟r ysgol yn yr 50 y cant uchaf mewn gwyddoniaeth. Yn y cyfnod allweddol hwn, mae bechgyn yn perfformio‟n well na merched. Mae hyn yn groes i‟r patrwm sy‟n datblygu yn y “grwpiau teulu” ac yn dangos natur amrywiol pob mintai.

Page 18: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

12

66 Dros y cyfnod hwn, mae canlyniadau‟n dangos bod canran disgyblion cyfnod allweddol 2 sy‟n ennill y radd uwch, sef lefel 5, islaw y cyfartaledd cenedlaethol a lleol yn y Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth. Mae bechgyn yn perfformio‟n well na merched ar y lefel hon. Mae‟r agendor rhyw yn eang o‟i gymharu ag ysgolion tebyg yn y “grŵp teulu”.

67 Mae‟r data sydd ar gael dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan gynnwys data

disgyblion o‟r Unedau Adnoddau, yn dangos bod safonau trwy‟r ysgol wedi gwella‟n raddol ond eu bod yn amrywio gyda minteioedd unigol. Y rheswm dros hyn yw‟r niferoedd amrywiol o ddisgyblion dros dro, a‟r rhychwant cyrhaeddiad eang ar eu mynediad.

68 Yn y pynciau a arolygwyd yr oedd safonau cyflawniad fel a ganlyn:

Gradd 1 Gradd 2 Gradd 3 Gradd 4 Gradd 5

8% 68% 24% 0% 0%

69 Mae‟r canrannau islaw y ffigurau a ddangosir yn y canlyniadau cenedlaethol

diweddaraf lle adroddir bod safonau‟n dda neu well (gradd 1 a 2) mewn 87 y cant o wersi. Maent islaw y ffigurau a gyhoeddwyd o 12 y cant o wersi lle mae safonau cyflawniad yn rhagorol (gradd 1).

70 Er bod y safonau ar gyfer gradd 2 neu well a welwyd mewn gwersi islaw y

cyfartaledd cenedlaethol, mae tystiolaeth o waith yr edrychwyd arno a thrafodaethau helaeth â disgyblion yn cefnogi‟r canlyniad proffil cwricwlwm cenedlaethol a gyhoeddwyd sy‟n gosod yr ysgol yn y chwartel uchaf ar gyfer mwyafrif y pynciau craidd yng Nghyfnod Allweddol 2. Mae safonau perthnasol i oed uchaf ym mlynyddoedd 5 a 6.

Graddau ar gyfer safonau yn y pynciau a arolygwyd yng nghyfnod allweddol 1 a chyfnod allweddol 2

Maes arolygu Cyfnod Allweddol 1 Gradd

Cyfnod Allweddol 2 Gradd

Y Cyfnod Sylfaen Gradd yn ei chyfanrwydd 2

Saesneg 2 2

Cymraeg Ail Iaith 2 2

Mathemateg 3 2

Gwyddoniaeth 3 2

Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

2 2

Dylunio a Thechnoleg 2 3

Hanes 2 2

Daearyddiaeth 3 3

Celf a Dylunio 2 2

Cerddoriaeth 2 2

Addysg Gorfforol 2 2

Addysg Grefyddol 2 2

Page 19: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

13

71 Mae ansawdd y ddarpariaeth addysgol yn ei chyfanrwydd ar gyfer plant o dan bump oed yn briodol i‟w hanghenion ac mae‟r plant yn gwneud cynnydd da tuag at ddeilliannau‟r Cyfnod Sylfaen.

72 Mae gwybodaeth asesu‟r ysgol yn dangos bod cyrhaeddiad yn agos i hanner y

plant ar eu mynediad i‟r Cyfnod Sylfaen islaw cyfartaledd yr ALl (Awdurdod Lleol). Yn arbennig, maent yn arddangos oediad yn eu datblygiad emosiynol a chymdeithasol a‟u sgiliau siarad a gwrando. Mae‟r plant yn setlo‟n gyflym i drefn y feithrinfa ac yn cymryd rhan mewn amrediad eang o weithgareddau gyda pharodrwydd. Maent yn caffael gwybodaeth a sgiliau newydd ym mhob un o‟r saith maes dysgu yn gyflym ac yn datblygu sylfaen eang a chytbwys i ddechrau eu gyrfa academaidd. Yn ei gyfanrwydd, nid oes unrhyw wahaniaeth cyson rhwng perfformiad bechgyn a merched yn yr asesiad sylfaen sy‟n cael ei gynnal ar ddechrau‟r ail flwyddyn, wrth i blant berfformio ar lefel sy‟n cyfateb yn fras i‟r cyfartaledd lleol. Mae hyn yn adlewyrchu‟r gwerth ychwanegol a rydd yr ysgol yng nghyfnod cynnar eu haddysg.

73 Mae safonau cyflawniad yn y meysydd dysgu ar gyfer plant o dan bump a‟r

dosbarth derbyn fel a ganlyn: Pynciau a/neu feysydd dysgu ar gyfer Y Cyfnod Sylfaen (plant o dan 5 oed a Derbyn)

Maes dysgu Gradd arolygu

M D B1 B2

Datblygiad personol a chymdeithasol, lles a datblygiad diwylliannol

2 2 Amh. Amh.

Sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu 2 2

Datblygiad iaith Gymraeg 2 2

Datblygiad mathemategol 3 3

Gwybodaeth a dealltwriaeth o‟r byd 2 2

Datblygiad creadigol 2 2

Datblygiad corfforol 2 2

74 Waeth beth fo eu cefndir cymdeithasol, ethnig neu ieithyddol, mae‟r rhan fwyaf

o ddisgyblion yn gwneud cynnydd unigol da, a weithiau da iawn, wrth gaffael gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau newydd. Mae saith deg pump y cant o‟r disgyblion yn cyrraedd eu targedau a‟u nodau.

75 Mae disgyblion gydag anghenion ychwanegol, gan gynnwys y disgyblion yn y

Canolfannau Darparu Adnoddau a‟r rhai sy‟n dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol yn gwneud cynnydd da iawn tuag at gyrraedd y targedau a osodir iddynt yn eu cynlluniau addysg unigol ac yn cyflawni safonau da mewn perthynas â‟u hoed, eu hangen a‟u gallu. Nid yw lleiafrif o ddisgyblion a arenwyd yn ddisgyblion galluog a thalentog yn cyrraedd eu llawn botensial. Mae‟r ysgol yn dechrau mynd i‟r afael â‟r broblem hon.

76 Drwyddi draw, trwy‟r ysgol, mae gan ddisgyblion sgiliau allweddol sy‟n

arddangos nodweddion da yn gorbwyso diffygion. Fodd bynnag, mae eu sgiliau sy‟n gysylltiedig â dwyieithrwydd, gwrando a chreadigrwydd yn dda.

Page 20: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

14

77 Mae gan blant sydd ym mlwyddyn gyntaf y Cyfnod Sylfaen nodweddion da yn gorbwyso diffygion yn eu sgiliau allweddol siarad, darllen, ysgrifennu, rhifedd, addysg bersonol a chymdeithasol a‟r sgiliau cysylltiedig â thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh). Erbyn y pryd y maent yn eu hail flwyddyn o‟r Cyfnod Sylfaen maent yn datblygu sgiliau TGCh, creadigol a datrys problemau da wrth iddynt gymryd rhan yn frwdfrydig mewn gweithgareddau crefft y maent hwy eu hunain wedi eu cychwyn ac wrth atgyfnerthu eu dysgu ar y cyfrifiaduron.

78 Mae disgyblion cyfnod allweddol 1 yn cynnal eu sgiliau gwrando, creadigol a

datrys problemau da wrth iddynt ganolbwyntio am gyfnodau hwy a gweithio‟n fwy annibynnol ar dasgau gosod. Maent yn parhau i arddangos safonau da yn gorbwyso diffygion yn y gweddill o‟r sgiliau allweddol. Maent yn defnyddio sgiliau darllen ac ysgrifennu gyda phleser cynyddol ac maent yn datblygu eu hyder i‟w cymhwyso i amrediad o gyd-destunau.

79 Yng nghyfnod allweddol 2, mae gan sgiliau allweddol darllen, siarad, rhifedd a

TGCh y rhan fwyaf o ddisgyblion nodweddion da yn gorbwyso unrhyw diffygion o hyd. Fodd bynnag, yn rhan uchaf yr ysgol, mae enghreifftiau o ysgrifennu da wrth iddynt ddangos empathi â phlant efaciwî mewn hanes neu gymharu nodweddion personol Gandhi a Mandela. Yn yr ystod oedran yma, mae hefyd rai enghreifftiau o ddefnyddio sgiliau rhif yn dda, er enghraifft mewn gwyddoniaeth lle mae disgyblion yn defnyddio mapiau, graffiau a data i gofnodi a dehongli gwybodaeth. Yn gyfangwbl, yng nghyfnod allweddol 2, mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion yn parhau i gynnal safonau da yn eu sgiliau gwrando, creadigol a dwyieithog.

80 Mae dwyieithrwyydd bron pob un o‟r disgyblion yn dda. Mae hyder y

disgyblion yn eu dealltwriaeth a‟u defnydd o Gymraeg yn datblygu‟n arbennig o dda wrth iddynt fynd yn eu blaenau trwy‟r ysgol. Erbyn diwedd cyfnod allwedol 2, mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gallu cynnal sgwrs a defnyddio brawddegau cynyddol gymhleth sy‟n cael eu cyfoethogi â geirfa sy‟n datblygu. Yn gyfangwbl, mae disgyblion hefyd yn datblygu ymwybyddiaeth dda o draddodiadau a diwylliant Cymru.

81 Mae dechrau gweithredu‟r Rhaglen Dysgu Effeithiol, a phwyslais cynyddol ar

fedrau meddwl, wedi sicrhau bod ffocws ysgol gyfan ar gynnydd cyson yn y sgiliau sy‟n gysyttliedig â sut mae disgyblion yn dysgu. O ganlyniad, mae disgyblion yn dechrau datblygu cyfres o strategaethau i‟w galluogi i ddelio â dysgu newydd yn hyderus. Mae hyn yn raddol yn cynyddu lefel eu gwybodaeth a‟u dealltwriaeth ar draws pob maes dysgu. Mae‟r ystafelloedd dosbarth tra symbylus y tu mewn a thu allan yn gymorth i ddatblygu eu cywreinrwydd i ymestyn eu dysgu.

82 Mae nifer cynyddol o ddisgyblion yn gallu cyfleu‟n llafar sut y maent yn dod yn

eu blaenau ac maent yn dechrau mynegi beth y mae‟n rhaid iddynt ei wneud i wella. Mae‟r elfen hon o ddysgu‟n datblygu‟n arbennig o dda yn y Cyfnod Sylfaen. Gall disgyblion weithio‟n dda gyda‟r naill a‟r llall ac mae dros hanner erbyn hyn yn gallu atgyfnerthu eu sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau trwy eu gweithgareddau dyddiol. Trwy drafodaethau parhaus

Page 21: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

15

â staff, mae disgyblion yng nghyfnodau allweddol 1 a 2 yn dechrau deall eu dysgu, ond pan gymerir hyn o‟i gyd-destun cyfarwydd, mae lleiafrif arwyddocaol yn cael trafferth delio â‟r sefyllfa.

83 Trwy‟r ysgol, mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion yn trafod eu gwaith yn synhwyrol

gydag oedolion ac mae dros hanner yn gallu adolygu eu cryfderau a‟u gwendidau‟n onest wrth iddynt wneud cynnydd tuag at gyflawni eu potensial. Mae pob un yn mwynhau sialens ac mae llawer yn dechrau cymryd amser i feddwl cyn ceisio datrys problemau newydd. Mae‟r rhan fwyaf yn gofyn am gymorth pan maent ei angen ac yn cadw wrth eu gwaith trwy‟r sesiynau dysgu. Ar ddiwedd cyfnod allweddol 2, mae disgyblion wedi cael eu paratoi‟n dda ac yn barod i symud ymlaen i gam nesaf eu dysgu.

84 Yn y rhan fwyaf o wersi, mae brob pob disgybl yn gweithio i‟r eithaf. Fodd bynnag, mewn rhai dosbarthiadau, mae lleiafrif o ddisgyblion, yn arbennig rhai mwy galluog, nad ydynt yn cael eu hymestyn i‟r eithaf ac felly nid ydynt yn cyflawni cymaint ag a allent.

85 Mae cymhelliad y rhan fwyaf o ddisgyblion yn arbennig o dda, maent yn amlwg yn mwynhau eu gwersi ac yn ymwneud yn awyddus gyda‟r holl gyfleoedd dysgu a gynigir iddynt.

86 Mae safonau ymddygiad yn dda drwy‟r ysgol. Mae awyrgylch dawel, ond prysur, pwrpasol a gweithgar yn y mwyafrif o wersi. Mae‟r berthynas rhwng disgyblion a‟i gilydd yn arbennig o dda ac mae eu gofal a‟u dealltwriaeth o anghenion y naill a‟r llall yn gefnogol dros ben. Mae amseroedd cinio yn achlysuron dymunol iawn a chymdeithasol ac mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion yn chwarae‟n hapus gyda‟r naill a‟r llall yn ystod amser egwyl.

87 Mae‟r disgyblion i gyd yn dangos datblygiad da yn eu sgiliau personol a chymdeithasol. Yn y rhan fwyaf o wersi, maent yn gweithio‟n dda ac mae eu gallu i ganolbwyntio‟n dda. Cydweithiant gyda‟i gilydd mewn parau a grwpiau bychain yn dda. Nid yw eu gallu i drefnu eu gwaith ac i weithio‟n annibynnol wedi datblygedu cystal. Mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion, fodd bynnag, yn datblygu sgiliau dysgu gydol oes. Mewn rhai dosbarthiadau, mae gallu cyflwyno disgyblion yr ysgol heb ei ddatblygu‟n ddigonol.

88 O ganlyniad i‟r strategaethau diweddar y mae‟r ysgol wedi dechrau eu gweithredu, mae tueddiadau tuag at wella o safbwynt presenoldeb. Yr oedd y data am y flwyddyn yr adroddwyd arni ddiwethaf yn 93.3 y cant. Mae hyn yn gyffelyb i ffigurau diweddaraf Cymru gyfan ond ychydig yn is na chyfartaledd yr ALl.

89 Caiff y rhan fwyaf o absenoldeb ei achosi gan salwch disgyblion. Fodd bynnag, mae lleiafrif o rieini nad ydynt yn cefnogi polisi presenoldeb yr ysgol i sicrhau bod eu plant yn mynychu‟n rheolaidd ac yn brydlon. Mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion yn brydlon ar ddechrau‟r diwrnod ysgol.

90 Mae gan y rhan fwyaf o ddisgyblion ddealltwriaeth dda o gyfleoedd cyfartal ac maent yn dangos ymwybyddiaeth dda o amryfaliaeth mewn cymdeithas.

91 Mae dealltwriaeth disgyblion o‟u lle yn y gymuned yn dda; mae eu

hymwybyddiaeth o fyd gwaith yn llai datblygedig.

Page 22: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

16

Ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant Cwestiwn Allweddol 2: Pa mor effeithiol yw’r addysgu, yr hyfforddi a’r asesu? Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig 92 Mae canfyddiadau‟r tîm arolygu yn cydfynd â barn gradd 2 yr ysgol am y

cwestiwn allweddol hwn yn ei hadroddiad hunan arfarnu. 93 Yr oedd ansawdd yr addysgu a welwyd yn ystod yr arolygiad fel a ganlyn:

Gradd 1 Gradd 2 Gradd 3 Gradd 4 Gradd 5

11% 74% 15% 0% 0%

94 Mae‟r canrannau‟n gyffredinol yn debyg i‟r ffigurau cenedlaethol diweddaraf lle

adroddwyd bod ansawdd yr addysgu‟n dda neu well (gradd 1 a gradd 2) mewn 85 y cant o wersi. Maent islaw y ffigurau a gyhoeddwyd o 17 y cant o wersi lle adroddwyd bod ansawdd yr addysgu‟n rhagorol (gradd 1).

95 Caiff gwersi gyda rhagoriaethau eu nodweddu gan:

fwriadau dysgu eglur ar gyfer yr holl ddisgyblion;

addysgu diddorol, bywiog a thasgau sy‟n symbylu diddordeb a chymhelliad disgyblion;

cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau dysgu annibynnol, a

dolennau cyswllt â phrofiadau personol disgyblion sy‟n ymestyn eu sgiliau bywyd.

96 Yn y mwyafrif o wersi, mae nodweddion da yn cynnwys:

cynlluniau sy‟n adeiladu ar wybodaeth flaenorol disgyblion;

cyflymder da;

defnydd dychymygus ac effeithiol o‟r bwrdd gwyn rhyngweithiol, a

chydbwysedd da rhwng addysgu uniongyrchol a thasgau ymarferol ar gyfer y disgyblion.

97 Lle oedd gwersi‟n llai effeithiol, yr oedd diffygion yn cynnwys:

cyflymder gwael a diffyg sialens;

dim digon o ystyriaeth i anghenion a galluoedd gwahanol yr holl ddisgyblion;

gweithgareddau rhy gaeth sy‟n llesteirio annibyniaeth a chreadigrwydd disgyblion, a

gorddefnydd o gwestiynau caeëdig nad ydynt yn hybu medrau meddwl a sgiliau cyfathrebu disgyblion.

98 Trwy‟r ysgol, mae athrawon a gweithwyr cefnogi gyda pherthynas dda iawn

gyda disgyblion. Mae hyn yn annog a chymell disgyblion sy‟n dymuno plesio eu hathrawon. Yn y gwersi gorau, mae gan athrawon wybodaeth dda o‟r

Page 23: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

17

pynciau a ddysgant ac maent yn trosglwyddo hyn yn llwyddiannus i‟w disgyblion.

99 Yn gyfanbwbl, mae‟r rhan fwyaf o athrawon yn cynllunio gwersi mewn dilyniant

gofalus fel bod disgyblion yn adeiladu ar brofiadau a gwybodaeth flaenorol, ond nid yw‟r arfer hwn yn gyson trwy‟r ysgol. Ychydig o gynlluniau gwersi sydd ag amcanion yn disgrifio‟n fanwl yr hyn y disgwylir i ddisgyblion ei ddysgu.

100 Mae athrawon yn trefnu eu dosbarthiadau mewn nifer o ffyrdd er mwyn bod yn

effeithiol. Er enghraift, gallai disgyblion gael eu dysgu mewn dosbarthiadau cyfan, grwpiau bychan neu yn unigol. Maent yn defnyddio ystod dda o ddulliau addysgu ac adnoddau, gan gynnwys y bwrdd gwyn rhyngweithiol a chael canlyniad da.

101 Caiff cyfartaledd cyfle ei hybu yn dda ym mhob dosbarth, waeth beth fo gallu,

cefndir neu ryw disgyblion. Caiff disgyblion gydag anghenion addysgol arbennig eu hystyried yn aelodau pwysig o‟r gymuned ysgol a gwyddant bod eu cyfraniadau‟n cael eu gwerthfawrogi.

102 Mae athrawon yn llwyddiannus yn eu hymdrechion i hybu dwyieithrwydd

disgyblion. Mae aelodau staff yn fodelau rôl da iawn, gan ddefnyddio Cymraeg ym mhob agwedd o fywyd ysgol. Mae hyn yn cael dylanwad cadarnhaol ar y dysgu.

103 Mewn rhai dosbarthiadau mae diffygion yn y modd y mae athrawon yn addasu

eu gwersi i gyfarfod ag anghenion yr holl ddisgyblion, gan gynnwys y rhai galluog a thalentog. Mewn meysydd o‟r fath, nid yw cynlluniau a bwriadau gwersi yn cael eu gwahaniaethu‟n ddigonol, nid yw dulliau dysgu‟n gwahaniaethu‟n ddigonol ac nid yw‟r tasgau a roir i ddisgyblion yn cyfateb yn ddigonol i‟w hanghenion.

104 Mae gan asesu disgyblion nodweddion da yn gorbwyso diffygion ond mae‟n

gryfder yn y Cyfnod Sylfaen a rhai meysydd yng Nghyfnod Allweddol 1. Caiff yr holl ofynion statudol ar gyfer asesu ac adrodd ar gyrhaeddiad disgyblion eu cyfarfod. Mae athrawon yn asesu gwaith disgyblion yn rheolaidd a theg. Fodd bynnag, mewn rhai dosbarthiadau, nid yw‟r bwriadau dysgu a osodir ar gyfer pob gwers yn ddigon manwl yn aml i ganiatáu asesiadau dilys.

105 Caiff cynnydd disgyblion trwy‟r ysgol ei fesur trwy gyfres o brofion safonol

mewn darllen, Saesneg a mathemateg, yn ogystal â phrawf i brofi eu gallu i feddwl. Mae‟r rhain yn cefnogi asesiadau parhaus yr athrawon ac yn caniatáu iddynt osod targedau. Mae‟r gyfundrefn dracio disgyblion hon yn gymorth i adnabod disgyblion a fyddai‟n cael budd o gefnogaeth ychwanegol ac mae‟n nodwedd dda.

106 Mae portffolio o ansawdd da o waith wedi ei asesu yn Saesneg , sy‟n caniatáu

i‟r ysgol gymharu safonau gyda safonau gawith ysgolion eraill yn yr ALl ac yn cadarnhau asesiadau athrawon. Mae portffolios cyffelyb ar gyfer pynciau eraill yn dechrau cael eu datblygu. Fodd bynnag, mae‟r uwch dîm rheoli wedi gweithio‟n galed ar brosiectau clwstwr ac ALl i sicrhau bod asesiadau yn awr

Page 24: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

18

yn cael eu cymedroli a‟u safoni drwy‟r ysgol. Mae hon yn agwedd sy‟n datblygu o‟u gweithdrefnau asesu.

107 Mae polisi marcio y mae pob athro‟n ei ddilyn. Lle mae marcio‟n dda, mae

athrawon yn barnu cynnydd tuag at gyrraedd amcanion gwersi, yn rhoi sylwadau cadarnhaol ac yn awgrymu ffyrdd o wella. Er y gofynnir i‟r disgyblion wneud sylwadau am eu gwaith eu hunain a gwaith y rhai sy‟n yr un dosbarth yn achlysurol, mae eu hymwneud â chynllunio eu cynnydd a‟u gwelliant eu hunain ar gam cynnar o‟i ddatblygiad heblaw yn y Cyfnod Sylfaen a meysydd yng nghyfnod allweddol 1.

108 Mae rhieni‟n gwerthfawrogi‟r mynediad hawdd i‟r ysgol i drafod cynnydd eu

plant. Mae nosweithiau ymgynghori rhieni yn nhymhorau‟r hydref a‟r gwanwyn. Mae cyfle i drafod yr adroddiad blynyddol ysgrifenedig Mae adroddiadau yn cyfarfod â‟r gofynion.

Cwestiwn Allweddol 3: Pa mor dda y mae profiadau dysgu yn cwrdd ag

anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach?

Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig 109 Nid yw canfyddiadau‟r tîm arolygu yn cyfateb i farn gradd 1 yr ysgol am y

cwestiwn allweddol hwn yn ei hadroddiad hunan arfarnu. Ni chanfu‟r tîm arolygu ddigon o nodweddion rhagorol i haeddu gradd 1.

110 Mae ansawdd y ddarpariaeth addysgol yn ei chyfanrwydd ar gyfer plant o dan

bump oed yn briodol i‟w hanghenion ac mae‟r plant yn gwneud cynnydd da tuag at ddeilliannau‟r Cyfnod Sylfaen.

111 Mae‟r ysgol yn darparu cwricwlwm eang, cytbwys a pherthnasol sydd i gyd yn

hygyrch i bob disgybl ac yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol. Mae‟r profiadau dysgu a ddarperir yn cyfarfod yn effeithiol ag anghenion y rhan fwyaf o ddisgyblion. Mae hyn, fodd bynnag, wedi ei ddatblygu‟n amlycach yn y Cyfnod Sylfaen a meysydd yng nghyfnod allweddol 1. Mae‟r ysgol yn y cyfnod cynnar o ddechrau delio ag anghenion disgyblion abl a thalentog. Mae‟r ysgol yn darparu‟n dda iawn ar gyfer disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol a chânt gefnogaeth i gael mynediad at gyfleoedd dysgu yn yr ysgol a thu hwnt i‟w muriau.

112 Mae dogfennau polisi a chynlluniau gwaith manwl yn sicrhau parhad yn

sgiliau‟r plant yng nghwricwlwm y Cyfnod Sylfaen a‟u haddysg grefyddol. Fodd bynnag, yng nghyfnodau allweddol 1 a 2, er bod cynlluniau gwaith yn cynllunio i gynnwys pynciau‟r Cwricwlwm Cenedlaethol a‟r Maes Llafur Cytunedig lleol mewn addysg grefyddol, nid ydynt yn sicrhau parhad cyson ym mhob pwnc.

113 Mae llawer o gyfleoedd yn cael eu hadnabod i ddisgyblion ddatblygu sgiliau

allweddol siarad a gwrando, darllen ac ysgrifennu a‟r rhai hynny sy‟n gysylltiedig â Chymraeg fel ail iaith. Caiff y rhai hyn eu harenwi‟n eglur yn y

Page 25: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

19

cynlluniau cyfnod canolig. Mae athrawon yn gwneud y gorau o gyfleoedd i drafod a chynllunio sgiliau allweddol, ac mae hyn yn gryfder yn y Cyfnod Sylfaen ac yng nghyfnod allweddol 1. Fodd bynnag, yng ngweddill yr ysgol, nid yw cyfleoedd cynllunio er mwyn i ddisgyblion ddatblygu a chymhwyso eu sgiliau rhifedd a TGCh mewn meysydd pynciol wedi eu harenwi mor eglur.

114 Mae gweithgareddau all-gyrsiol yn effeithiol wrth ehangu a chyfoethogi

profiadau dysgu disgyblion. Mae‟r ysgol yn darparu amrediad o glybiau ar ôl yr ysgol ar ddau brynhawn yr wythnos. Mae‟r clybiau hyn yn datblygu sgiliau personol a chymdeithasol y disgyblion ymhellach. Mae grwpiau cefnogi yn yr ysgol yn cael eu cynnal yn ystod amseroedd egwyl a chinio i gadarnhau sgiliau bywyd gyda disgyblion dethol. Mae hyn yn gryfder yn narpariaeth Gwenfro.

115 Mae‟r ysgol hefyd yn darparu cyfleoedd da iawn ar gyfer dysgu trwy

ddefnyddio‟r ardal agos o amgylch yr ysgol, trwy ymweliadau â mannau o ddiddordeb, cyrsiau preswyl a gweithgareddau eraill sy‟n atgyfnerthu dealltwriaeth y disgyblion o‟r cwricwlwm.

116 Mae‟r ddarpariaeth ar gyfer datblygiad moesol, cymdeithasol a diwylliannol y

disgyblion yn dda yn ei gyfanrwydd. Mae eu datblygiad ysbrydol yn arddangos rhai nodweddion rhagorol. Mae cynllunio ar gyfer datblygu addysg bersonol a chymdeithasol gyda ffocws arbennig o dda, gyda phwyslais clir a phriodol ar gamddefnyddio cyffuriau, diogelwch personol ac addysg rhyw.

117 Mae addoli yn y dosbarth ac amser cylch yn gwneud cyfraniad rhagorol i

ddealltwriaeth disgyblion o faterion moesol ac ysbrydol ac yn eu cynorthwyo i ennill parch at wirionedd a chyfiawnder. Mae hyn yn arbennig o amlwg yn nosbarthiadau hynaf cyfnod allweddol 2. Trwy‟r cyfleoedd hyn, cânt drafod, dehongli ac arfarnu storiau crefyddol a moesol a dweud sut y maent yn berthnasol i‟w profiadau bywyd eu hunain. Mae gwasanaethau ysgol gyfan a gwasanaethau dathlu yn creu hinsawdd addas ar gyfer adfyfyrio‟n ysbrydol, defosiwn a datblygu hunan barch. Mae addoliadau ar y cyd yn cyflawni‟r gofynion statudol. Mae disgyblion yn cyrraedd safonau da yn eu datblygiad cymdeithasol a diwylliannol. Caiff yr agwedd ddiwylliannol ei datblygu trwy astudio amrywiaeth o grefyddau amgen ac mae hyn yn rhoi dealltwriaeth dda i‟r rhan fwyaf o ddisgyblion o fywyd yn y Gymru amlddiwylliannol.

118 Hyd yma, nid oes unrhyw strategaeth ffurfiol i ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth

disgyblion o addysg berthynol i waith. Serch hyn, mae amrediad priodol o brofiadau yn cael eu darparu gan sicrhau eu bod yn cyfateb i amrediad oedran y disgyblion. Mae‟r rhain yn gymorth i ddatblygu dealltwriaeth gadarn o fyd busnes a masnach. Mae‟r ysgol yn awr yn ystyried sut i ffurfioli‟r trefniadau hyn. Nid yw lleoliadau mewn diwydiant neu fasnach yn ffurfio rhan o strategaeth datblygiad proffesiynol parhaus yr ysgol ar gyfer staff.

119 Er bod ychydig o gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau menter, nid

yw‟r agwedd hon wedi ei datblygu‟n dda. Mae‟r ysgol yn cydnabod bod hwn yn faes i‟w ddatblygu.

Page 26: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

20

120 Mae darpariaeth trwy‟r ysgol i gyd i hybu sgiliau dwyieithog disgyblion a diwylliant ac etifeddiaeth Cymru yn dda.

121 Mae trefniadau da yn amlwg ym mhob agwedd o waith yr ysgol i sicrhau bod

disgyblion yn derbyn amrediad eang o brofiadau sy‟n cynyddu eu hunan barch a‟u hyder ac ymestyn eu dyheadau.

122 Mae addysg ar gyfer datblygiad cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd eang yn

datblygu‟n dda. Mae cyfleodd cynyddol yn cael eu creu i godi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol a chynaladwyedd ac i baratoi disgyblion ar gyfer byw yn un o ddinasyddion y byd yn y dyfodol. Mae clwb Ewro‟r ysgol yn gwella ansawdd y ddarpariaeth hon. Mae ystod briodol o fentrau a phrosiectau yn sicrhau bod yr ysgol yn gweithredu mewn modd cynaliadwy ac mae llawer o‟r rhain wedi cael eu hawgrymu gan y pwyllgor Eco brwdfrydig.

123 Mae gan drefniadau i sicrhau bod disgyblion yn datblygu sgiliau dysgu gydol

oes nodweddion da yn gorbwyso diffygion. Mae pwyslais cryf iawn yr ysgol ar eu datblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol yn cynorthwyo i‟w paratoi yn dda ar gyfer cam nesaf eu dysgu. Mae cysylltiadau gyda‟r ysgolion uwchradd lleol yn gryf iawn ac yn hyrwyddo‟r pontio. Fodd bynnag, mae rhy ychydig o gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu sgiliau dysgu annibynnol y byddant eu hangen pan ydynt yn hŷn.

Cwestiwn Allweddol 4: Pa mor dda yw’r gofal, y cyfarwyddyd a’r gefnogaeth i

ddysgwyr?

Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig

124 Nid yw canfyddiadau‟r tîm arolygu yn cyfateb i farn gradd 1 yr ysgol am y cwestiwn allweddol hwn yn ei hadroddiad hunan arfarnu. Barnodd y tîm nad oedd safonau‟n gyson ragorol fel bod y cwestiwn yn haeddiannol o radd 1.

125 Mae ansawdd y gofal, y gefnogaeth a‟r arweiniad i ddisgyblion yn dda. 126 Mae‟r ysgol yn gweithio‟n agos â rhieni a gofalwyr mewn perthynas â gofal eu

plant. Mae cynlluniau gofal neu gefnogaeth yn cael eu llunio pan fo angen ac mae‟r rhain yn briodol ar gyfer oedran, angen a gallu‟r disgyblion, Mae ystod eang iawn o asiantaethau allanol yn cael eu defnyddio i gynnal plant lle bo angen. Yn y cyfarfod cyn-arolygu, mynegodd rhieni y farn bod yr ysgol yn gofalu‟n dda am eu plant ac mae‟r tîm arolygu yn cytuno â‟r sylwadau. Mae‟r gymuned agos yn chwarae rhan gefnogol gref yn yr elfennau gofal yn Ysgol Gwenfro.

127 Mae‟r cyngor ysgol a‟r pwyllgor Eco wedi sefydlu‟n dda ac yn cynrychioli

safbwyntiau disgyblion yn effeithiol. Mae‟r pwyllgorau‟n rhoi llais clir iddynt ac, o ganlyniad, gellir clywed eu barn. Mae disgyblion yn cadarnhau bod eu hawgrymiadau wedi dylanwadu ar waith yr ysgol, er enghraifft wrth wella‟r cyfleusterau toiled a dechrau mentrau arbed ynni. Caiff aelodau‟r pwyllgorau eu hethol yn ddemocrataidd ac maent yn cyfarfod yn rheolaidd.

Page 27: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

21

128 Mae trefniadau i gynorthwyo plant i setlo yn y Cyfnod Sylfaen wedi eu trefnu‟n dda. Mae trefniadau cyffelyb yn sicrhau bod y rhai sy‟n dechrau yn yr ysgol yn ddiweddarach yn setlo‟n dda. Mae disgyblion sy‟n gymharol newydd i‟r ysgol yn cadarnhau eu bod wedi setlo‟n gyflym a gwneud ffrindiau newydd.

129 Mae‟r ddarpariaeth ar gyfer arweiniad emosiynol, personol a chymdeithasol yr

holl ddisgyblion gyda nodweddion rhagorol drwy‟r ysgol. Rhoir pwyslais arwyddocaol ar ddatblygu disgyblion „fel unigolion‟ a chynorthwyo‟r rhai sy‟n fwy bregus i ddelio â sialensau a wynebant yn eu bywydau ifanc neu i‟w goresgyn. Mae cefnogaeth bersonol yn agwedd ragorol o waith yr ysgol oherwydd bod yr holl oedolion yn adnabod y disgyblion yn arbennig o dda ac yn monitro eu datblygiad personol yn ofalus wrth iddynt fynd ymlaen trwy‟r ysgol. Mae gan yr holl staff ddisgwyliadau uchel iawn ar gyfer eu disgyblion yn Ysgol Gwenfro ac mae hyn yn rhwyddhau codi safonau. Mae disgyblion yn dweud yn hyderus bod yna oedolyn y gallent droi ato neu ati i gael cymorth pe baent angen.

130 Mae gweithdrefnau i fonitro a hybu presenoldeb rheolaidd a phrydlondeb yn

dda. Maent yn cynorthwyo i sicrhau bod tuedd cyson tuag at gynnydd yn y cyfraddau yn eu cyfanrwydd. Mae asiantaethau allanol yn dod i ymwneud â‟r broses os oes unrhyw bryderon. Mae cyfundrefnau i fonitro a delio ag unrhyw bryderon mewn perthynas ag ymddygiad disgyblion wedi gwreiddio‟n gadarn ar draws yr ysgol. Canlyniad hyn yw bod yr holl athrawon yn gyson yn ymagweddu yr un fath er mwyn rheoli unrhyw ddigwyddiad pan fo ymddygiad amhriodol. Mae trefniadau priodol i dracio a monitro perfformiad disgyblion yn cael eu mireinio‟n barhaus.

131 Mae trefniadau iechyd a diogelwch yn briodol; mae gan yr ysgol bolisïau a

gweithdrefnau addas i ddelio â‟r agwedd hon. Mae trefniadau da sy‟n cyfrannu at les disgyblion tra yng ngofal yr ysgol. Caiff dulliau byw iach a diogel eu hybu, er mai yn y Cyfnod Sylfaen a chyfnod allweddol 1 y mae hyn gryfaf. Mae staff yn rhoi pwyslais cadarn ar les disgyblion. Mae‟r ysgol yn cyfranogi mewn ystod eang iawn o weithgareddau chwaraeon sy‟n annog disgyblion i gadw‟n heini ac ymarfer yn rheolaidd. Mae prydau canol dydd yn iach a maethlon ac mae llawer o ddisgyblion yn dweud eu bod yn mwynhau y rhain. Yng nghyfnod allweddol 2, fodd bynnag, mae camau a gymerwyd i annog disgyblion i beidio bwyta byrbrydau afiach fel creision, da da a diodydd byrlymus wedi bod yn aneffeithiol ar gyfer y mwyafrif o‟r disgyblion.

132 Mae trefniadau ar gyfer amddiffyn plant a diogelu disgyblion yn briodol. Y

pennaeth yw‟r person dynodedig ac mae hi wedi derbyn hyfforddiant addas. Fodd bynnag, yn y gorffennol, mae trefniadau i sicrhau bod hyfforddiant yr holl staff yn cael ei diweddaru wedi bod ychydig yn anffurfiol. Mae‟r ysgol yn dra ymwybodol o hyn ac wedi cymryd camau pendant i gywiro‟r sefyllfa.

133 Mae‟r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol,

gan gynnwys y disgyblion gydag anghenion addysgol arbennig (AAA) a‟r rhai y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt yn dda gyda rhai nodweddion rhagorol. Caiff anghenion unigol yr holl ddisgyblion sydd angen cefnogaeth ychwanegol ei ganfod, ei gefnogi a‟i fonitro yn effeithiol iawn.

Page 28: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

22

134 Mae trefniadau‟r ysgol ar gyfer canfod disgyblion AAA yn gynhwysfawr iawn a chaiff cefnogaeth ei roi yn briodol, mor gynnar ag y bo modd, a gyda sensitifrwydd mawr. Mae cefnogaeth ddysgu ragorol yn cael ei darparu gan athrawon tra phrofiadol gyda chymwysterau da a gan staff cefnogi. Defnyddiant amrediad eang o adnoddau o ansawdd da iawn.

135 Mae ansawdd y Cynlluniau Addysg Unigol ar gyfer y disgyblion hynny sydd ag

anawsterau dysgu, anawsterau ymddygiad neu gorfforol yn dda. Maent ar gael yn rhwydd ar gyfer yr holl staff ac i roi gwybodaeth ar gyfer cynllunio, adolygu a monitro cynnydd ar gyfnodau rheolaidd. Mae rhieni disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol yn rhan o‟r broses ar bob cam, ac yn cael gwybodaeth lawn am gynnydd eu plentyn.

136 Mae amrediad eang o asiantaethau cefnogi allanol a gwirfoddolwyr yn

cynorthwyo i gyfoethogi gwaith staff yr ysgol. Mae disgyblion galluog a thalentog yn cael eu harenwi ac fe gaiff eu hanghenion eu cyfarfod mewn rhai meysydd dysgu. Mae cefnogaeth dda ar gael yn yr ysgol ar gyfer y disgyblion hynny y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt. Mae staff cefnogaeth ychwanegol yn yr ysgol yn rhoi sylw ychwanegol i ddisgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol.

137 Mae‟r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig (a adwaenir fel y SENCO) a‟r

Cyd-drefnydd Ymddygiad yn gweithio‟n agos iawn gyda‟i gilydd ac yn rhannu eu harbenigaeth a hyfforddiant ar draws yr ysgol. Maent wedi ymrwymo i godi safonau a gwneud yn siwr bod pob disgybl yn ymwneud yn llawn â phob agwedd o fywyd ysgol. Mae‟r ethos gynhwysol hon yn gryfder yn yr ysgol.

138 Mae cyfundrefnau effeithiol yn cael eu gweithredu ar gyfer rheoli ymddygiad

disgyblion; fe‟u sylfaenwyd ar weithdrefnau cadarnhaol a phendant; o ganlyniad, caiff digwyddiadau tarfu eu trin yn dda iawn.

139 Mae disgwyliadau uchel o safbwynt ymddygiad disgyblion ac mae ymwelwyr

yn dweud yn aml bod disgyblion yn gwrtais iawn. Mae parch o‟r ddeutu yn amlwg ar draws yr ysgol. Mae llawer o nodweddion da yn cael effaith ar ymddygiad. Er enghraifft, sesiynau therapi chwarae a drefnwyd a‟r gwaith a wneir yn y man chwarae gan y disgyblion a hyfforddwyd gan Childline. Maent hwy yn monitro ymddygiad eraill ac yn ymateb yn addas er mwyn diogelu yr holl ddisgyblion.

Uned Darparu Adnoddau ar gyfer Cyfnod Allweddol 1 140 Mae‟r ddarpariaeth ar gyfer plant o dan saith oed sydd ag AAA yn dda iawn.

Mae‟n canolbwyntio ar adnabod anghenion dysgu plant unigol yn gynnar a rhoi cefnogaeth briodol o ansawdd uchel. O ganlyniad, mae‟r rhan fwyaf o‟r plant yn gwneud cynnydd unigol da iawn. Mae staff addysgu a chefnogi yn gweithio‟n dda iawn gyda‟i gilydd, gyda chymorth llawer o asiantaethau allanol. Maent yn cynllunio ac arfarnu‟r ddarpariaeth ac yna‟n rheolaidd yn gosod y camau nesaf yn nysgu‟r plant trwy weithgareddau parhaus sydd wedi eu gwella. Mae‟r gefnogaeth hon yn sicrhau bod y rhan fwyaf o blant yn cael eu cynnwys yn llwyddiannus yn y dosbarthiadau prif lif fel a phan y bo hynny‟n

Page 29: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

23

briodol. Mae adnoddau o ansawdd da dros ben yn atodi‟r gefnogaeth addysgu.

Uned Darparu Adnoddau ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 141 Mae‟r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion hŷn gydag AAA yn dda iawn. Mae‟r

mwyafrif yn gwneud cynnydd unigol da iawn o ganlyniad i‟r gefnogaeth sylweddol a dderbyniant gan staff gyda chymwysterau uchel a llawer o brofiad.Mae gan yr holl ddisgyblion dargedau penodol, llawn sialens a chyraeddadwy, y maent yn gwybod yn dda amdanynt a chânt eu monitro‟n rheolaidd. Caiff y Cynlluniau Addysg Unigol eu hysgrifennu mewn cydweithrediad â staff, disgyblion a rhieni a chânt eu harfarnu pryd bynnag y bo hynny‟n briodol. Mae amrediad eang o adnoddau, gan gynnwys TGCh, wedi cael eu casglu i ddelio â‟r rhan fwyaf o agweddau ar anghenion addysgol arbennig. Ar ben hyn, mae adnoddau rhagorol ar gyfer disgyblion gydag anawsterau corfforol a chânt eu cynnwys ym mhob gweithgaredd. Mae‟r ddarpariaeth ar gyfer tracio cynnydd disgyblion pan symudant rhwng yr uned â dosbarthiadau prif lif yn dda. Mae hyn yn cynnwys paratoadau i‟w trosglwyddo i ysgolion uwchradd.

142 Mae polisïau a gweithdrefnau i sicrhau cyfle cyfartal, cyfartaledd hil a dileu

unrhyw fath o ymddygiad treisgar yn effeithiol. Mae ethos cadarnhaol yr ysgol yn adlewyrchu gweithrediad llwyddiannus iawn y polisïau.

143 Darpara‟r ysgol gefnogaeth dda ar gyfer disgyblion y mae‟r Saesneg yn iaith

ychwanegol iddynt fel eu bod yn integreiddio‟n gyflym i fywyd yr ysgol. Mae bechgyn a merched yn gweithio‟n dda gyda‟i gilydd yn eu gwersi. Caiff „Amser Cylch‟ a gwersi eraill eu cynllunio‟n dda i ddelio‟n benodol â materion rhyw y person a stereoteipio.

144 Mae ethos ysgol gyfan yn hybu cydraddoldeb, rhannu a deall y naill a‟r llall.

Caiff y gwerthoedd hyn eu dysgu trwy addoli ar y cyd ac Addysg Grefyddol. Mae disgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn setlo‟n gyflym yn yr ysgol.

145 Mae gan yr holl ddisgyblion fynediad at fywyd ysgol, ymweliadau a

gweithgareddau chwaraeon. Caiff cynlluniau unigol eu llunio gan ddefnyddio cefnogaeth allanol er mwyn sicrhau y gall disgyblion gydag anghenion penodol gael mynediad at ymweliadau ac achlysuron preswyl. Mae hyn yn nodwedd ragorol.

146 Mae‟r ysgol yn adnabod a pharchu amrywiaeth ar unrhyw ffurf. Mae‟r polisïau

ac arferion yr ysgol yn gynhwysfawr ac yn cael eu diweddaru‟n rheolaidd.

Page 30: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

24

Arweinyddiaeth a rheolaeth Cwestiwn Allweddol 5: Pa mor effeithiol yw arweinyddiaeth a rheolaeth

strategol? Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig 147 Nid yw canfyddiadau‟r tîm arolygu yn cyfateb i farn gradd 1 yr ysgol am y

cwestiwn allweddol hwn yn ei hadroddiad hunan arfarnu. Barnodd y tîm arolygu nad oedd safonau‟n ddigon rhagorol fel bod y cwestiwn yn haeddiannol o radd 1.

148 Mae‟r pennaeth yn dra ymroddedig i les y disgyblion ac yn llwyddiannus iawn

yn cael y rhieni a‟r gymuned i gefnogi‟r addysg. Mae yn berson proffesiynol ymroddedig sy‟n darparu arweinyddiaeth llawn pwrpas a synnwyr o gyfeiriad strategol sy‟n datblygu. Mae hi‟n arwain yr ysgol yn dda trwy gyfnod o gyfnerthu a chaiff ei chefnogi‟n llawn gan y staff a‟r llywodraethwyr.

149 Mae gweithdrefnau, strwythurau ac adnoddau sydd wedi cael eu cyflwyno

wedi arwain at ddisgyblion yn gwneud cynnydd unigol da drwy‟r ysgol pan edrychir ar hynny yng ngoleuni eu lefel ar eu mynediad; mae disgwyliadau uchel i bawb ymhlyg yn y cyfundrefnau rheolaeth diwygiedig. Bu‟r pennaeth yn llwyddiannus wrth gyflwyno llawer o newidiadau angenrheidiol i gynhyrchu ethos cynhwysol yn yr ysgol newydd, heb ddifetha arfer dda oedd yn bodoli yn yr ysgolion babanod a iau blaenorol. O ganlyniad, mae Ysgol Gynradd Gymuned Gwenfro yn awr, ym mhob agwedd, yn un ysgol.

150 Dechreuodd y pennaeth adeiladu uwch dîm rheoli gweithgar ac ymroddedig

sy‟n gweithio‟n agos gyda‟i gilydd er budd yr holl ddisgyblion. 151 Mae ansawdd arweinyddiaeth arweinwyr pwnc yr ysgol yn datblygu‟n dda wrth

iddynt gryfhau eu swyddogaeth strategol ar sail ysgol gyfan. Arweiniant eu meysydd gyda hyder cynyddol wrth iddynt adolygu ac arfarnu eu pynciau a chynhyrchu cynlluniau gweithredu i godi safonau. Mewn rhai meysydd, mae cymorthyddion addysgu hefyd yn cymryd cyfrifoldebau ac yn ddiwyd yn gwneud tasgau rheolaethol; er enghraifft, maent yn cymryd cyfrifoldeb am rai mentrau man chwarae. Mae‟r staff yn gweithio‟n dda iawn gyda‟i gilydd fel tîm. Rhennir gwerthoedd cyffredin am sgiliau dysgu, medrau meddwl, lles emosiynol, safonau ymddygiad a pherthnasau. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cynnydd da a wneir gan bron yr oll o‟r disgyblion.

152 Mae pawb yn rhannu a derbyn gweledigaeth yr ysgol a chaiff hyn ei

adlewyrchu yn holl agweddau ymarferol gwaith yr ysgol. Caiff nodau a gwerthoedd eu deall yn llawn gan holl gymuned yr ysgol ac yn amlwg maent yn hybu cyfle cyfartal i bawb. Mae‟r disgwyliadau uchel o safbwynt cynnydd personol disgyblion gan bob un sy‟n addysgu yn gryfder pellach sy‟n perthyn i‟r ysgol.

Page 31: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

25

153 Mae‟r ysgol yn rhoi sylw da i flaenoriaethau cenedlaethol a chytundebau partneriaethau lleol. Yn ddiweddar, mae‟r pennaeth wedi arwain yr ysgol mewn nifer o fentrau pwysig sydd wedi gwella ansawdd yr addysg (a gwnaeth hynny yn ei swyddogaeth flaenorol fel pennaeth yr ysgol babanod). Er enghraifft, mae‟r ysgol wedi gweithio gyda‟r ALl i hyfforddi ysgolion eraill ar ddechrau gweithredu egwyddorion y Cyfnod Sylfaen. Mae Ysgol Gwenfro hefyd yn cymryd rhan yn y Prosiect Ysgolion Eco, Menter Ysgolion Iach a datblygu‟r ystafell ddosbarth awyr agored.

154 Mae cysylltiadau gyda Dechrau‟n Deg wedi cael effaith fuddiol iawn ar

safonau dysgu yn y Cyfnod Sylfaen cynnar. Mae‟r ysgol yn cymryd rhan mewn mentrau pontio gyda‟r grŵp ysgolion clwstwr lleol a‟r Prosiect Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion. Mae symud o un cyfnod i‟r llall o fewn yr ysgol yn dda.

155 Yn ei gyfanrwydd, mae gwybodaeth a geir o asesu dydd i ddydd yn cael ei

ddefnyddio‟n effeithiol i adnabod targedau unigol ar gyfer gwelliant, ar gyfer y disgyblion, gan gynnwys plant gydag AAA a rhai y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt, yn ogystal ag aelodau unigol o staff. Yn ddiweddar mae‟r ysgol wedi dechrau gweithredu cyfundrefn ddadansoddi data mwy treiddgar. Hyd yma, nid yw hyn wedi cael ei effaith lawn ar sail ysgol gyfan fel ei fod yn hyrwyddo gosod targedau cryf neu dymor maith (dros fwy na blwyddyn) yn ddigonol yn y cynllun gwella ysgol fel y gellir arfarnu llwyddiant yr ysgol a‟i symud ymlaen yn gyflym.

156 Mae‟r ysgol wedi sefydlu cyfundrefn gysylltiedig ag adolygiadau rheolaidd i

fonitro perfformiad pob aelod o staff a thimau. Mae trefniadau rheoli perfformiad ac arfarnu staff yn llwyddiannus wrth adnabod a chyfarfod ag anghenion datblygiad proffesiynol yr holl staff a‟u cysylltu yn eu cyfanrwydd â blaenoriaethau yn y cynllun gwella ysgol. Fel rhan o‟r broses hon, caiff targedau unigol ar gyfer gwelliant eu gosod a threfnir hyfforddiant priodol. Mae cyfleoedd hyfforddiant a ddarperir yn cynnwys hyfforddiant yn yr ysgol a chyrsiau a drefnir yn allanol. Mae rhai aelodau o staff yn cymryd rhan mewn mentrau datblygiad proffesiynol cyfnod hwy sy‟n arwain at achrediad pellach. Caiff effaith hyfforddiant ar yr addysgu a‟r dysgu yn ei gyfanrwydd ei werthuso‟n rheolaidd.

157 Mae‟r pennaeth, y llywodraethwyr a‟r uwch reolwyr yn dechrau monitro‟r

addysgu a‟r dysgu ac yn asesu ei effaith ar safonau. Mae monitro effeithiol ysgol gyfan yn flaenoriaeth yn y cynllun gwella ysgol er mwyn sicrhau bod pob menter newydd yn cael ei gweithredu‟n gyson trwy‟r cyfnodau allweddol a bod yr effaith ar safonau‟n cael ei arfarnu‟n llawn.

158 Mae‟r Corff Llywodraethol yn llwyr gefnogi‟r pennaeth, y staff, y disgyblion a

nodau ac amcanion yr ysgol. Mae‟r llywodraethwyr yn ffurfio tîm rheoli ymroddedig ac ymrwymedig sy‟n cyfarfod yn rheolaidd ac yn cael adroddiadau manwl am fywyd yr ysgol gan y pennaeth.

159 Mae‟r llywodraethwyr yn wybodus iawn am lawer o agweddau o fywyd yr

ysgol, yn deall eu swyddogaethau a‟u cyfrifoldebau‟n llawn ac yn datblygu eu

Page 32: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

26

rôl strategol. Mae is-bwyllgorau priodol ac effeithiol yn cael eu sefydlu i adolygu meysydd dysgu ac adnoddau. Mae llywodraethwyr allweddol yn monitro‟r ddarpariaeth, megis ym meysydd arian, AAA a iechyd a diogelwch. Mae llywodraethwyr hefyd yn dechrau monitro safonau trwy edrych yn dra manwl ar ddogfennaeth ac ymweliadau dosbarth.

160 Mae‟r corff llywodraethol yn raddol yn dechrau ymwneud â pharatoi‟r cynllun

gwella ysgol a‟r adroddiad hunan arfarnu ac yn gydwybodol yn adolygu‟r holl bolisïau. Ar y cyfan, mae llywodraethwyr yn mynychu hyfforddiant diweddaru.

161 Sefydlodd yr ysgol bolisi cwynion perthnasol sy‟n gynhwysfawr, yn gyfoes ac

yn addas i‟r diben. Mae llywodraethwyr yn cyfarfod â‟u gofynion rheoleiddiol a chyfreithiol.

Cwestiwn Allweddol 6: Pa mor dda y mae arweinwyr a rheolwyr yn arfarnu ac

yn gwella ansawdd a safonau? Gradd 3: Nodweddion da yn gorbwyso diffygion 162 Nid yw canfyddiadau‟r tîm arolygu yn cyfateb i farn gradd 1 yr ysgol am y

cwestiwn allweddol hwn yn ei hadroddiad hunan arfarnu. Ni welodd arolygwyr unrhyw nodweddion rhagorol ond adnabuwyd nifer o ddiffygion ym miniogrwydd yr hunan arfarnu ac effeithiolrwydd cynlluniau gwella.

163 Mae‟r pennaeth, y staff a‟r llywodraethwyr yn ymroddedig i gynnal a gwella

safonau. Gan ei bod yn ysgol gymharol newydd, mae‟r uwch dîm rheoli wedi cymryd yr awennau yn y broses hunan arfarnu a‟u canfyddiadau hwy yn cael eu cynnig i‟r staff a‟r llywodraethwyr er ystyriaeth ganddynt. Mae diwylliant hunan arfarnu yn gynyddol yn gwreiddio mwy. Fodd bynnag, nid yw‟r trefniadau i geisio barn disgyblion, rhieni nac eraill sydd â diddordeb wedi eu datblygu‟n ddigonol ar hyn o bryd.

164 Mae aelodau o staff gyda chyfrifoldebau pynciol wedi ymgymryd ag

arfarniadau manwl. Mae‟r rhain wedi cynnwys edrych ar waith disgyblion, siecio cynllunio‟r athrawon ac arsylwi dosbarthiadau wrth eu gwaith.

165 Mae gan yr ysgol fynediad at amrediad eang o ddata perfformiad, ac mae

ganddi‟r cyfleuster i gymharu ei pherfformiad ag ysgolion tebyg. Fodd bynnag, yn ei babandod y mae‟r gyfundrefn ar gyfer dadansoddi data a‟i defnyddio ar gyfer cynllunio gwelliant.

166 Mae‟r uwch dîm rheoli yn sicrhau bod pob aelod o staff yn cael y cyfle i fod yn

rhan o‟r broses hunan arfarnu. 167 Mae‟r adroddiad hunan arfarnu a baratowyd ar gyfer yr arolygiad yn dilyn

fframwaith Estyn. Mae‟n ddogfen eang ac onest, ond mae‟n ddisgrifiadol yn hytrach nac yn arfarnol ac nid oes cyswllt digon cryf bob amser rhyngddi â‟r blaenoriaethau eglur yn y cynllun gwella ysgol. Gwna hyn hi‟n anodd i‟r ysgol sicrhau‟n rhwydd lle mae lefel safonau ar unrhyw un pryd. Mae barn y tîm

Page 33: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

27

arolygu yn cytuno â hunan arfarniad yr ysgol yn unig mewn perthynas â chwestiwn allweddol 2. Rhoddodd arolygwyr radd is i gwestiynau allweddol 1,3,4,5 a 7, a dwy radd yn is i gwestiwn allweddol 6.

168 Casgliad o weithredoedd y bwriedir eu gwneud i gyfarfod â nifer o dargedau a

flaenoriaethwyd gan uwch reolwyr yw‟r cynllun gwella ysgol. Nid yw‟r targedau ar gyfer 2009-2010 wedi eu fframio‟n fanwl ac nid ydynt yn canolbwyntio‟n ddigonol ar godi safonau cynnydd disgyblion. O ganlyniad, mae yn gyfyngedig o ran defnyddioldeb fel arf ar gyfer gwelliant. Nid yw‟r cynllun gwella ysgol yn dangos cynlluniau strategol dros gyfnod meithach (dros fwy na blwyddyn).

169 Mae gan y llywodraethwyr wybodaeth dda am gynnwys y cynllun gwella ysgol

a derbyniant ddiweddariadau rheolaidd ar ei gynnydd. 170 Dyrennir adnoddau digonol i gefnogi blaenoriaethau‟r cynllun gwella ysgol ac

mae‟r ysgol wedi llwyddo i gael grantiau ychwanegol a chronfeydd eraill. Mae hyn, er enghraifft, wedi caniatáu penodi a chadw nifer o aelodau o staff, a gosod caledwedd TGCh o ansawdd da.

171 Mae camau a gymerwyd ers ffurfio‟r ysgol wedi arwain at greu ysgol unedig y

mae‟r holl ddisgyblion a‟r staff yn teimlo eu bod yn perthyn iddi. Codwyd safonau addysgu a dysgu o ganlyniad uniongyrchol i‟r buddsoddiad mewn TGCh.

172 Mae‟r ysgol wedi gwneud gwelliannau sylweddol ers yr uno ac mae‟n awr

mewn sefyllfa gref i roi rhagor o newidiadau fydd yn codi safonau ar waith. Cwestiwn Allweddol 7: Pa mor effeithlon y mae’r arweinwyr a rheolwyr wrth

ddefnyddio adnoddau? Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig 173 Nid yw canfyddiadau‟r tîm arolygu yn cyfateb i farn gradd 1 yr ysgol yn ei

hadroddiad hunan arfarnu am y cwestiwn allweddol hwn. Barnodd y tîm arolygu nad oedd safonau yn gyson ragorol fel y byddent yn cyfiawnhau gradd 1.

174 Caiff y disgyblion eu cefnogi‟n dda gan athrawon profiadol, gyda

chymwysterau priodol sydd â‟r wybodaeth a‟r arbenigaeth i addysgu pob agwedd o‟r cwricwlwm. Mae‟r synnwyr da o dîm o fewn yr ysgol yn sicrhau bod staff yn gweithio‟n dda gyda‟i gilydd, yn rhannu safbwyntiau a phrofiad er lles disgyblion. Mae‟r berthynas agos sy‟n bodoli rhwng athrawon a‟r staff cefnogi brwdfrydig a hyfforddwyd yn dda yn gwneud cyfraniad da i ansawdd yr addysgu a‟r dysgu yn eu cyfanrwydd.

175 Mae gan yr ysgol, gan gynnwys y Cyfnod Sylfaen, adnoddau da dros ben a

chyfarpar priodol ym mhob pwnc. Mae hyn yn elfen ragorol o ddarpariaeth yr ysgol. Mae gan ddisgyblion fynediad rhwydd at amrediad eang o adnoddau priodol i‟w hoed a‟u hanghenion. Mae buddsoddiad sylweddol diweddar mewn

Page 34: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

28

adnoddau yn gwella‟r addysgu a‟r dysgu ac yn ychwanegu‟n arwyddocaol godi safonau ar draws y cwricwlwm.

176 Mae‟r adeiladau yn dda. Mae arddangosfeydd bywiog o waith disgyblion yn

sicrhau bod llawer o‟r ystafelloedd dosbarth, y coridorau a mannau a rennir yn ddeniadol ac yn dangos bod yr ysgol yn gosod gwerth ar gyflawniadau ei disgyblion. Mae‟r ysgol yn ei chyfanrwydd yn ddisglair, glân a destlus.

177 Yn gyffredinol, mae‟r ysgol yn gwneud defnydd economaidd da, effeithlon ac

effeithiol o‟r adnoddau ar gael. Er enghraifft, buddsoddiad sylweddol diweddar fu gosod byrddau gwyn rhyngweithiol ym mhob ystafell ddosbarth. Defnyddir hwy‟n dda gan athrawon fel arf addysgu ond maent eto i ddatblygu‟r defnydd i‟w botensial llawn fel arf dysgu i‟r disgyblion.

178 Defnyddir arian ailfodelu‟r gweithlu yn effeithiol i ddarparu cefnogaeth ar gyfer

athrawon ac i ostwng eu baich gweinyddol. Caiff ansawdd addysgu a dysgu eu cynnal yn effeithiol yn ystod amser cynllunio, paratoi ac asesu‟r athrawon. Trwy‟r ysgol, mae‟r cyflenwi dros athrawon sy‟n cynllunio, paratoi ac asesu yn cael ei wneud gan staff o ansawdd. Mae staff cefnogi‟n cael eu rheoli‟n effeithiol er mwyn gwneud y gorau o brofiadau dysgu‟r disgyblion ac yn cyfrannu‟n sylweddol tuag at gynnydd y disgyblion.

179 Mae penaethiaid pynciol yn cynnal awdit a monitro adnoddau yn eu meysydd

pynciol a chaiff y wybodaeth a gesglir ei bwydo i‟r cynllun gwella ysgol, ond nid yw blaenoriaethau‟n cael eu hadnabod yn eglur bob amser.

180 Mae‟r pennaeth a‟r corff llywodraethol yn monitro defnydd a chyflwr

adnoddau‟n rheolaidd. 181 Mae‟r ysgol yn llwyddiannus yn cydbwyso effeithiolrwydd ei darpariaeth yn

erbyn costau, gan gynnwys costau staffio. Caiff gwariant ei fonitro‟n ofalus gan y pennaeth a‟r Corff Llywodraethol. Mae‟r ysgol yn rhoi gwerth da am arian.

Page 35: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

29

Safonau a gyflawnir mewn pynciau a meysydd dysgu

Y Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant dan 5 oed a’r dosbarth derbyn

182 Mae‟r ysgol wedi gweithredu‟r Cyfnod Sylfaen yn llawn ar gyfer plant yn y

meithrin a‟r derbyn, ac mae wedi sefydlu elfennau cryf ohono yn y ddarpariaeth ar gyfer plant 5 i 7 oed.

183 Mae bron pob plentyn yn y Cyfnod Sylfaen yn gwneud cynnydd unigol da, a

da iawn weithiau, o gymharu â lefel isel eu cyflawniad ar eu mynediad. Yn gyfangwbl, erbyn yr adeg y maent yn gadael y cyfnod hwn o‟u haddysg, maent yn cyrraedd safon dda a dim diffygion pwysig. Mae ansawdd y ddarpariaeth addysgol yn ei chyfanrwydd ar gyfer plant o dan bump oed yn briodol i‟w hanghenion ac mae‟r plant yn gwneud cynnydd da tuag at ddeilliannau‟r Cyfnod Sylfaen.

Datblygiad personol a chymdeithasol, lles a datblygiad diwylliannol Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig Nodweddion da 184 Ar eu mynediad i‟r Cyfnod Sylfaen mae‟r rhan fwyaf o‟r plant ieuengaf yn

datblygu digon o hunan barch a hunan hyder yn fuan iawn fel eu bod yn ffurfio perthynas gadarnhaol ag oedolion a phlant eraill. Mae bron pob un yn setlo‟n gyflym ar ddechrau pob sesiwn ac mae‟r rhan fwyaf yn dangos gofal da, teimladau annwyl a pharch tuag at eraill. Maent yn dechrau cynyddu eu lefelau canolbwyntio wrth iddynt weithio trwy gyfres o weithgareddau‟n cael eu harwain gan yr athrawes, a rhai y mae plant yn eu dechrau, fel adeiladu prosiect grŵp crefftau gydag offer byd bach neu wneud jigsos mawr. Mae‟r mwyafrif yn dechrau gwneud dewisiadau gwybodus am eu tasgau ac mae lleiafrif yn gweithio‟n annibynnol am gyfnodau cynyddol. Mae bron pob un yn datblygu strategaethau dysgu cadarnhaol.

185 Mae‟r rhan fwyaf o‟r plant ieuengaf yn ymddwyn yn dda ac yn datblygu

synnwyr o dda a drwg yn fuan iawn. Mae‟r mwyafrif llethol yn datblygu ffurfiau da o hunan reolaeth ar eu gweithredoedd a‟u hemosiynau. Ar y cyfan, maent yn glynu‟n dda at y rheolau, ac mae‟r rhai nad ydynt yn dilyn rheolau yn dechrau addasu eu hymddygiad wrth iddynt ddysgu beth sy‟n cael ei dderbyn gan y grŵp. Maent yn dechrau adnabod yr angen i ystyried teimladau a barn eraill yn sensitif. Mae‟r mwyafrif yn dechrau cynorthwyo yn ystod amser twtio a gofynnant yn fodlon am gymorth os ydynt ei angen. Maent yn canmol eraill yn briodol pan ydynt yn ei haeddu.

186 Mae bron pob plentyn 4 a 5 oed yn ymateb yn barod i amrediad o

weithgareddau diddorol ac yn ymchwilio i sgiliau dysgu, cyfleoedd ac adnoddau newydd yn frwdfrydig; er enghraifft, wrth iddynt ymchwilio yr ardaloedd dysgu yn yr awyr agored neu dyfu ffa ac edrych arnynt trwy chwyddwydr. Mae ganddynt agweddd gadarnhaol tuag at ddysgu a phrofiadau

Page 36: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

30

dysgu newydd. Ar y cyfan, maent yn awyddus a hyderus yn eu gwaith a‟u chwarae.

187 Maent yn amyneddgar yn aros eu tro wrth chwarae gyda‟r offer mawr y tu

allan ac yn rhannu‟n fodlon mewn gweithgareddau adeiladu gyda blociau adeiladu mawr. Mae‟r plant yn rhyngweithio‟n gydweithredol wrth iddynt chwarae‟n ddychmygus yn y gwahanol fannau chwarae rôl.

188 Trwy eu hymchwiliadau i amryw o ddathliadau ac arferion amlddiwylliannol,

mae‟r plant hŷn yn dechrau deall amrywiaeth yn ogystal ag amryfaliaeth bywyd yng Nghymru heddiw. Mae‟r rhan fwyaf yn wybodus am eu hetifeddiaeth ddiwylliannol Gymreig eu hunain wrth iddynt gymryd rhan yn nathliadau Dydd Gŵyl Ddewi ac Wythnos Gymraeg. Mae bron pob un yn dechrau cymryd cyfrifoldeb am ei hylendid personol ac yn gwybod bod angen dilyn dull iach o fyw.

189 Mae‟r plant mwy galluog 4 a 5 oed yn dechrau mynegi eu safbwyntiau, eu hoff

a‟u cas bethau yn dda, yn enwedig adeg byrbryd. Yn ystod amser cylch mae‟r rhan fwyaf yn siarad yn agored am faterion fel cyfeillgarwch a bod yn garedig at eraill; mae llawer yn dangos empathi tuag at eu cyfoedion sydd yn anhapus, er enghraifft, pan fo anifail anwes plentyn wedi marw. Mae‟r mwyafrif yn deall yn eglur bod pethau byw angen eu trin gyda gofal, parch a chonsyrn. Mae‟r holl blant yn dechrau gwerthfawrogi bod angen iddynt edrych ar ôl eu hamgylchedd ac maent yn mwynhau gweithgareddau ailgylchu.

Diffygion 190 Nid oes diffygion pwysig. Sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig Nodweddion da 191 Mae‟r rhan fwyaf o‟r plant yn dod i‟r Cyfnod Sylfaen gyda sgiliau siarad a

gwrando gwael iawn ond maent yn dysgu‟n fuan i reoli eu lleisiau a siarad gyda theimlad. Maent i gyd yn gallu adalw a mwynhau caneuon syml a rhigymau. Maent yn ymestyn y sgiliau hyn wrth chwarae‟n greadigol yn y man chwarae rôl a gyda phypedau. Erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf, mae‟r rhan fwyaf o blant yn gwrando‟n dawel ar oedolion a chyfoedion ac yn edrych ar y person yn ystod sgwrs. Maent yn ymateb yn dda i gyfarwyddiadau, a gall y rhan fwyaf ailadrodd eu hoff stori gyda brwdfrydedd.

192 Erbyn yr ail flwyddyn, gall llawer siarad, yn aml mewn modd rhesymegol, am

bynciau sydd o ddiddordeb iddynt hwy a siarad i wahanol ddibenion a chynulleidfaoedd. Er enghraifft, wrth iddynt drafod eu gwaith neu eu gweithgareddau yn y man chwarae yn yr awyr agored.

193 Mae dros hanner y plant hŷn yn gofyn cwestiynau priodol ac yn ateb gydag

ynganiad sy‟n gwella, yn aml mewn modd sensitif ac empathetig fel pan yn trafod gofal eu draenog anwes. Maent yn dechrau cynnig eglurhad syml pam y

Page 37: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

31

maent o farn arbennig, ac yn hyderus yn mynegi eu teimladau wrth eu cyfoedion ac oedolion y maent yn eu hadnabod. Gall y rhan fwyaf gyfleu eu anhawster os nad ydynt yn deall.

194 Mae‟r plant mwy galluog yn manteisio ar gwricwlwm dysgu priodol, arbrofol i

fynegi eu syniadau mewn ffordd sy‟n gymdeithasol dderbyniol. 195 Mae llawer yn defnyddio‟r ganolfan wrando gydag annibyniaeth cynyddol ac

yn cymryd rhan mewn sesiynau drama y maent wedi eu dechrau eu hunain yn yr ardal greadigol.

196 Ar ddechrau‟r Cyfnod Sylfaen, mae‟r plant yn dysgu‟n gyflym iawn i gyfateb

awgrym darluniadol gyda dilyniant er mwyn creu stori. Maent yn dechrau dod yn gyfarwydd â siâp geiriau a phatrymau.

197 Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, mae llawer yn gallu adnabod amryw o

lythrennau a‟u synau gan ddefnyddio ciwiau ffonetig. Maent yn deall bod geiriau a lluniau yn cyfleu ystyr. Mae lleiafrif bychan yn darllen eu henwau eu hunain ac mae‟r rhan fwyaf yn gallu darogan yn hyderus beth sy‟n dod nesaf mewn stori. Maent yn deall ac ymateb i storiau a cherddi. Maent yn ailadrodd eu hoff straeon, megis “Jasper‟s Beanstalk” yn frwdfrydig.

198 Erbyn diwedd y Cyfnod Sylfaen, mae plant yn trin llyfrau gyda pharch ac yn

barod i rannu profiadau darllen gydag oedolion a chyfoedion. Mae‟r rhan fwyaf o blant yn defnyddio‟r llyfrgell ddosbarth yn frwdfrydig ac yn gallu dewis llyfrau priodol ar gyfer eu hoed yn annibynnol.

199 Mae plant yn gyflym yn manteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd i gymryd rhan

mewn gweithgareddau gwneud marciau ar draws y meysydd dysgu. Erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf, gall y rhan fwyaf egluro eu sgribliadau a cheisiant ffurfio llythrennau.

200 Maent yn cyfarwyddo â gweithio o‟r chwith i‟r dde, yn deall pwrpas ysgrifennu

ac yn hyderus yn gwneud nodiadau a rhestrau yn eu mannau chwarae rôl. Mae nifer bychan yn deall cysyniad brawddeg syml.

201 Mae‟r plant i gyd yn gwneud cynnydd da iawn wrth ddatblygu eu sgiliau

cyfathrebu wrth iddynt fynd yn eu blaenau trwy‟r Cyfnod Sylfaen. Diffygion 202 Mae lleiafrif bychan o blant gyda sgiliau darllen ac ysgrifennu cynnar nad

ydynt wedi datblygu digon. Datblygiad iaith Gymraeg Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig Nodweddion da 203 Mae bron pob un o‟r plant ifanc iawn gydag agwedd gadarnhaol tuag at

ddysgu Cymraeg. Maent yn ymuno‟n frwdfrydig mewn nifer o ganeuon a

Page 38: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

32

rhigymau Cymraeg a gallant ddilyn cyfarwyddiadau Cymraeg syml wrth iddynt gymryd rhan yn eu gweithgareddau a‟u trefn ddyddiol. Mae‟r rhan fwyaf yn caffael amrediad priodol o eirfa ac mae‟r mwyafrif yn dechrau ynganu geiriau‟n gywir. Mae‟r plant hŷn yn datblygu patrymau iaith da ac yn gallu defnyddio‟r iaith mewn meysydd eraill o ddysgu.

204 Erbyn diwedd y Cyfnod Sylfaen, mae‟r rhan fwyaf o blant yn gwrando‟n ofalus

ac yn ymateb i gyfarwyddiadau eglur ac amryw ysgogiadau fel straeon a drama. Maent yn adeiladu ar eu gwybodaeth flaenorol gydol yr amser i atgyfnerthu eu sgiliau iaith. Mae bron pob un yn gallu adalw‟n gywir enwau‟r lliwiau cynradd yn y Gymraeg, yn ogystal â rhai mathau o dywydd. Maent yn cyfrif yn hyderus hyd at ddeg ac yn gallu gofyn cwestiynau syml i‟w cyfoedion megis beth yw eu henw a sut y maent yn teimlo.

205 Mae‟r mwyafrif o‟r plant yn dechrau gallu defnyddio Cymraeg achlysurol yn

ddigymell wrth iddynt chwarae yn y mannau creadigol ac yn ceisio darllen arwyddion cyfarwydd a labeli o amgylch y dosbarth. Mae lleiafrif arwyddocaol yn dechrau cysylltu ffurf ysgrifenedig y geiriau gyda‟r sain pan maent yn “darllen” amrywiaeth o lyfrau Cymraeg sydd ar gael yn y llyfrgell ddosbarth.

Diffygion 206 Nid oes diffygion pwysig.

Datblygiad mathemategol Gradd 3: Nodweddion da yn gorbwyso diffygion Nodweddion da 207 O‟r amser y mae plant yn dechrau yn yr ysgol, maent yn dechrau datblygu eu

dealltwriaeth o rif, yn aml trwy eu chwarae rôl a gweithgareddau stori ac wrth iddynt adalw ystod o rigymau a chaneuon rhif. Trwy amryw o ymchwiliadau datrys problemau, mae‟r rhan fwyaf o blant yn ennill dealltwriaeth eglur o gysyniadau mathemategol cynnar, megis dosbarthu yn ôl amryw o feini prawf ac adnabod patrymau syml.

208 Mae‟r mwyafrif o‟r plant iau yn cyfrif mewn trefn hyd at 5 yn y Gymraeg a‟r

Saesneg, yn cyfateb a dosbarthu ffurfiau ac yn deall cysyniad o „fwy na‟ a „llai na‟. Mae‟r plant mwy galluog yn cyfrif setiau o wrthrychau yn gywir, yn aml hyd at ddeg. Maent yn adnabod symbolau rhif hyd at bump ac yn cyfateb symbolau â‟r gwrthrychau y buont yn eu cyfrif.

209 Erbyn diwedd eu hamser yn y Cyfnod Sylfaen, mae llawer o blant yn adnabod

rhifolion mwy ac mae ychydig yn cyfrif ymhellach na 20 heb gymorth. Mae lleiafrif yn gallu adio rhifau syml un digid ac maent yn dechrau dewis a defnyddio geirfa fathemategol briodol yn y cyd-destun cywir ac yn ymchwilio i syniadau, er enghraifft, yn y man chwarae dŵr.

210 Mae‟r rhan fywaf o‟r plant hŷn yn datblygu ymwybyddiaeth dda o „fesuriadau‟.

Maent yn cofnodi eu canfyddiadau ar siartiau a diagramau syml a gallant lunio a dehongli graffiau syml fel y rhai yn cofnodi eu hymchwiliadau i ffurfiau.

Page 39: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

33

Maent yn hyderus yn delio ag arian wrth chwarae rôl yn yr ardal caffi, gan roi newid i gwsmeriaid.

211 Mae bron pob plentyn yn datblygu gwybodaeth dda o ffurfiau dau a thri

dimensiwn ac mae lleiafrif arwyddocaol yn gallu disgrifio rhai o‟u nodweddion yn gywir. Wrth i‟r plant fynd yn eu blaenau trwy‟r Cyfnod Sylfaen, mae‟r rhai mwy galluog yn dechrau datblygu strategaethau personol syml ar gyfer amcangyfrif, siecio a chofnodi cyfrifo yn y pen. Mae‟r rhan fwyaf yn ymwybodol o amser yn mynd heibio wrth iddynt astudio eu pynciau tymhorol a nodi‟r patrymau o newid tywydd.

212 Mae‟r holl blant yn defnyddio TGCh yn effeithiol a hyderus i‟w cynorthwyo i

ddatblygu eu gwybodaeth a‟u dealltwriaeth fathemategol. Diffygion 213 Nid oes gan leiafrif bychan o‟r plant sgiliau cyfrif ymlaen ac adnabod rhif sy‟n

briodol i‟w hoedran ac nid ydynt hyd yma yn gallu cymhwyso eu sgiliau rhif yn annibynnol i feysydd eraill dysgu.

Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r byd Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig Nodweddion da 214 Trwy gydol y Cyfnod Sylfaen, mae‟r plant yn datblygu cywreinrwydd am y byd

ehangach tra‟n gwrando ar amrywiaeth o storiau am wahanol rannau o‟r byd a chymryd rhan mewn digwyddiadau cenedlaethol fel Wythnos Llyfr y Byd.

215 Mae‟r plant iau yn gallu trafod eu teuluoedd gyda brwdfrydedd ac yn ymestyn

y dysgu hwn trwy wrando ar ymwelwyr o‟r Sŵ Fynydd Gymreig. 216 Mae llawer o blant yn dechrau deall yr ardal y maent yn byw ynddi wrth iddynt

wrando ar ymwelwyr o‟r gymuned leol sy‟n ymchwilio i‟w rolau a‟u cyfrifoldebau.

217 Mae‟r plant yn dechrau deall pwysigrwydd gofalu am eu hamgylchedd agos

wrth iddynt gymryd rhan mewn prosiectau fel ailgylchu a gofalu am ardd yr ysgol. Mae‟r mwyafrif yn gallu dilyn cyfarwyddiadau syml.

218 Mae‟r plant yn datblygu dealltwriaeth o‟r newid yn y tymhorau a nodweddion

sylfaenol y tywydd yn gyson wrth iddynt drafod yn frwdfrydig yr amrywiadau dyddiol a pha ddillad y dylent eu dewis i wisgo y tu allan.

219 Erbyn diwedd y Cyfnod Sylfaen mae gan y plant ddealltwriaeth gynyddol bod

pethau yn wahanol yn y gorffennol ac maent yn ymchwilio i nodweddion rhew wrth iddynt gynnal arbrofion ar eira sy‟n toddi.

220 Mae plant trwy gydol y Cyfnod Sylfaen yn datblygu eu sgiliau gwneud

penderfyniadau wrth iddynt ddysgu‟n raddol i gynllunio eu gweithgareddau anstrwythuredig eu hunain. Mae‟r plant iau yn ymestyn eu sgiliau ymchwilio ac

Page 40: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

34

archwilio ymhellach wrth iddynt ragfynegi ac arsylwi yn ystod eu pwnc tyfu ffa. Mae ychydig yn dechrau gofyn cwestiynau priodol a deall bod pob peth byw angen gofal a pharch.

221 Mae‟r plant i gyd yn cofnodi eu gwaith yn hyderus ar amrywiol ffurfiau yn

amrywio o waith celf, i chwarae rôl a chreu siartiau syml a defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol.

222 Trwy eu gweithgareddau addysg grefyddol, mae plant yn dechrau ymchwilio i gredoau, dysgeidiaeth ac arferion diwylliannau eraill. Mae lleiafrif bychan yn gallu adfyfyrio‟n annibynnol ac mae‟r rhai mwy aeddfed yn dechrau mynegi eu safbwynt ar sail gwybodaeth a gafwyd o storiau a chwarae rôl. Maent i gyd yn datblygu ymagweddiad goddefgar at yr elfen aml-ddiwylliannol yn ein cymdeithas ac yn dangos brwdfrydedd da dros draddodiadau a chredoau eraill. Maent i gyd yn cofleidio elfennau o‟u diwylliant, yr iaith a‟u hetifeddiaeth Gymraeg yn frwdfrydig.

Diffygion 223 Nid oes diffygion pwysig. Datblygiad corfforol

Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig

Nodweddion da 224 Mae‟r plant iau yn nosbarthiadau‟r Cyfnod Sylfaen yn mwynhau archwilio i‟w

hamgylcheddau dysgu y tu mewn ac yn yr awyr agored. Datblygant ymwybyddiaeth dda o iechyd, ffitrwydd a diogelwch, o chwarae anturus a chorfforol ac maent yn rheoli symudiadau corfforol yn dda. Mae‟r rhan fwyaf o blant yn ymwybodol iawn o‟r gofod o‟u hamgylch ac yn newid eu symudiadau yn llwyddiannus i osgoi taro i mewn i‟r naill a‟r llall, fel pan maent yn defnyddio teganau ar olwynion neu gyfarpar yn y neuadd.

225 Wrth iddynt fynd yn eu blaenau trwy‟r Cyfnod Sylfaen mae‟r plant yn ennill hyder wrth deithio o amgylch gan ddefnyddio gwahanol ddulliau fel rhedeg, neidio a neidio ar un droed. Maent yn newid cyfeiriad ar gyflymder a chytbwysedd ar flociau cul wrth iddynt chwarae‟n greadigol yn yr ardaloedd awyr agored. Maent yn ymestyn eu rheolaeth gorfforol a‟u cydbwysedd da wrth symud i gerddoriaeth. Mae llawer yn dechrau newid eu perfformiad eu hunain wrth wylio eraill yn arddangos arfer dda. Mae llawer yn sylfaenu eu chwarae credigol ar eu sgiliau corfforol estynedig.

226 Mae‟r plant hŷn yn gweithio‟n ddiogel gyda‟r naill a‟r llall a gydag offer. Trwy gydol y Cyfnod Sylfaen, mae plant yn gyffredinol yn datblygu sgiliau llawdriniol priodol. Defnyddiant siswrn gyda hyder cynyddol. Mae‟r mwyafrif yn dechrau defnyddio cyllyll, ffyrc a llwyau yn briodol amser byrbryd ac amser cinio. Mae gan lawer o blant ddigon o reolaeth i ddefnyddio pensiliau a chreonau yn llwyddiannus i gynnwys manyldeb yn eu gwaith. Mae bron pawb yn fedrus yn defnyddio llygoden y cyfrifiadur ac yn trin offer syml yn hyderus wrth iddynt ddylunio a gwenud brechdanau fel rhan o‟u prosiectau technoleg.

Diffygion 227 Nid oes diffygion pwysig.

Page 41: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

35

Datblygiad creadigol Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig Nodweddion da 228 Mae‟r holl blant yn y Cyfnod Sylfaen yn mwynhau canu caneuon syml

Saesneg a Chymraeg yn swynol fel rhan o grŵp ac yn ymateb yn dda i rhythm ac odl. Mae llawer yn gwybod enwau offerynnau taro ac mae plant hŷn yn dechrau gwahaniaethu rhwng y gwahanol synau a wnânt. Mae llawer yn gallu taro‟r amser yn gywir. Mae ganddynt ymwybyddiaeth gynyddol o amryw o elfennau cerddorol ac mae bron pawb yn mwynhau ymateb i gerddoriaeth, dawnsio a symud eu cyrff mewn gwahanol ffyrdd i gynllun “Sticky Kids” neu i gerddoriaeth “Dingle, Dangle Scarecrow”.

229 Yn eu chwarae rôl, mae‟r plant ieuengaf yn mwynhau cymryd arnynt eu bod

yn oedolion yn siopa am hadau a phlanhigion. Wrth iddynt fynd yn eu blaenau trwy‟r cyfnod, mae llawer yn ymestyn y sgiliau hyn ymhellach wrth ail –greu eu hoff straeon neu raglen gan ddefnyddio pypedau. Mae mwyafrif cynyddol yn gallu actio ar y pryd a meddwl yn ddychmygus wrth chwarae‟n greadigol ar eu pennau eu hunain neu mewn grwpiau bychain.

230 Mae‟r rhan fwyaf o blant yn creu delweddau cynrychioliadol dau a thri

dimensiwn da o gychod a cheir. Mae llawer yn ymchwilio ac archwilio, yn chwarae gyda, yn teimlo a thrin amrediad o ddeunyddiau ac adnoddau er mwyn creu modelau‟n effeithiol o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu; gwnânt ddewisiadau priodol o ran deunyddiau a lliw wrth ddatblygu annibyniaeth. Mae‟r plant aeddfetach yn gallu defnyddio amrediad o offer a sgiliau yn hyderus. Mae nifer cynyddol yn defnyddio sgiliau torri, peintio a gludo‟n ddeheuig, a gyda dychymyg.

231 Trwy gydol y Cyfnod Sylfaenol, mae pawb bron o‟r plant yn peintio‟n effeithiol

ac yn defnyddio amrywiaeth o offer, gan gynnwys eu dwylo eu hunain, i wneud patrymau gwahanol. Mae‟r plant hŷn yn arddangos sgiliau cymysgu lliw da wrth iddynt beintio lluniau o flodau‟r gwanwyn neu ddefnyddio eu technegau peintio swigod ac argraffu a ddysgwyd yn flaenorol ar gyfer eu peintio rhydd. Maent yn creu modelau o glai gan ddefnyddio offer addas. Mynegant eu creadigrwydd unigol yn dda yn eu peintiadau, eu collages a‟u gwnïo. Mae gan y rhan fwyaf o blant sgiliau arsylwi da; caiff y rhain eu hadlewyrchu yn eu lluniau arsylwadol o ffrwythau ecsotig.

232 Mae‟r rhan fwyaf o‟r plant hŷn yn gallu trafod eu gwaith wrth fynd yn eu blaenau i lefel briodol. Mae dros hanner yn gwerthfawrogi gwaith eraill ac yn cynnig sylwadau adeiladol. Mae rhai yn fodlon addasu eu gwaith ar ôl trafod gydag oedolyn y maent yn ei adnabod.

233 Erbyn diwedd eu hamser yn y Cyfnod Sylfaen, mae‟r rhan fwyaf o blant yn dechrau defnyddio eu sgiliau creadigol a dychmygus mewn meysydd eraill o‟u dysgu.

Diffygion 234 Nid oes diffygion pwysig.

Page 42: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

36

Saesneg

Cyfnod allweddol 1: Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig Cyfnod allweddol 2: Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig Nodweddion da 235 Mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion yn y ddau gyfnod allweddol yn gwrando‟n

arbennig o dda ar eu hathrawon ac ar y naill a‟r llall. Maent yn ymateb yn briodol i gwestiynau. Mae llawer o ddisgyblion yn defnyddio geirfa estynedig a chyfoethog ar ddiwedd cyfnod alllweddol 2. Trwy gydol yr ysgol, mae pob disgybl yn gwrando‟n dda ar syniadau‟r naill a‟r llall wrth weithio mewn parau neu grwpiau bychain.

236 Mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da wrth ddefnyddio eu

sgiliau siarad ar gyfer amrywiaeth eang o ddibenion. Yng nghyfnod allweddol 1, lle maent yn barod iawn i fynegi eu syniadau, mae‟r rhan fwyaf ar y camau cyntaf o fod yn gallu disgrifio eu cymeriadau mewn storiau. Yng nghyfnod allweddol 2, maent yn gynyddol yn addasu eu llafar yn ôl y diben.

237 Mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 1 yn gwneud cynnydd

da wrth ddatblygu eu sgiliau darllen. Maent yn datblygu gwybodaeth dda am lythrennau a‟r synau sy‟n perthyn iddynt ac yn defnyddio eu gwybodaeth yn gymwys i weithio allan beth yw gair anghyfarwydd. Erbyn blwyddyn 2, mae disgyblion yn darllen testunau y gellir eu rhagfynegi yn hyderus yn unsain.

238 Yng nghyfnod allweddol 2, mae llawer o ddisgyblion yn datblygu eu sgiliau

darllen ar gyfer amrywiaeth eang o ddibenion ac i ganfod gwybodaeth. Erbyn blynyddoedd 5 a 6, maent yn deall nodweddion gwahanol amrywiol fathau o ysgrifennu (genre), megis straeon byrion a sgriptiau drama. Defnyddiant sgiliau tynnu casgliadau a dod i gasgliadau yn dda er mwyn ennill dealltwriaeth ddyfnach o gymeriadau a themâu a chyfeiriant at y testun yn effeithiol i gefnogi eu barn a‟u gwerthusiadau. Mae adolygiadau a gwerthusiadau ysgrifenedig, er enghraifft, wrth ymateb i Carrie‟s War yn enghreifftiau o‟r sgiliau. Maent yn gyfarwydd â gwaith nifer da o awduron.

239 Wrth iddynt symud trwy‟r ysgol, mae mwyafrif y disgyblion yn gwneud cynnydd

mewn ysgrifennu i ystod o wahanol ddibenion. Mae llawer o ddisgyblion ym mlwyddyn 2 yn cofnodi cyfarwyddiadau ac yn dechrau ysgrifennu disgrifiadau o gymeriadau. Maent yn adnabod ansoddeiriau ac yn dechrau eu defnyddio‟n effeithiol yn eu hysgrifennu eu hunain.

240 Yn ystod cyfnod allweddol 2, mae llawer o ddisgyblion o bob gallu yn

ysgrifennu darnau hwy a mwy cymhleth wrth gynhyrchu amrywiol adroddiadau, hanesion, llythyrau a chyfarwyddiadau.

241 Erbyn blwyddyn 6, mae‟r mwyafrif o‟r disgyblion yn ysgrifennu storiau diddorol,

wedi eu strwythuro‟n dda a cherddi llawn dychymyg yn dangos defnydd da o ddelwedd a chymhariaeth. Mae llawer o ddisgyblion wedi canfod llais eglur, personol. Ar y cyfan, mae‟r rhan fwyaf yn defnyddio amrediad eang o atalnodi, mae sillafu yn gywir yn gyffredinol ac mae eu llawysgrifen yn eglur a rhugl.

Page 43: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

37

Mae llawer o ddisgyblion yn datblygu sgiliau cyflwyno da erbyn y pen hwn i‟r cyfnod allweddol.

Diffygion 242 Yn achos lleiafrif bychan o ddisgyblion, nid yw eu lefel deall y testun yn

cyfateb i‟w lefel datgodio ac, ar adegau, nid yw eu llawysgrifen a‟u sgiliau cyflwyno wedi datblygu‟n ddigonol.

Cymraeg ail iaith

Cyfnod allweddol 1: Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig Cyfnod allweddol 2: Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig Nodweddion da 243 Mae gan y rhan fwyaf o ddisgyblion yn y ddau gyfnod allweddol ddealltwriaeth

dda ac maent yn defnyddio amrediad o gyfarwyddiadau, cwestiynau ac atebion a gaiff eu defnyddio mewn arferion rheolaidd dydd i ddydd yn ddigon medrus, er enghraifft yn ystod cofrestru.

244 Yng nghyfnod allweddol 1, mae mwyafrif y disgyblion yn gwneud cynnydd da

wrth siarad a gwrando. Maent yn ymateb yn dda i gyfarwyddiadau ac yn datblygu amrediad geirfa da i drafod hwy eu hunain a bwyd. Maent yn gofyn ac ateb cwestiynau yn dda. Mae bron pob un yn defnyddio cyfarchion Cymraeg yn hyderus.

245 Ym mlwyddyn 2, mae llawer o ddisgyblion yn darllen geiriau a brawddegau‟n

dda ac yn gwneud defnydd da o gliwiau mewn lluniau i‟w cynorthwyo i ddeall y gair ysgrifenedig. Maent yn dechrau defnyddio patrymau brawddegol o‟u llyfrau darllen yn eu gwaith ysgrifenedig.

246 Ym mlwyddyn 3, mae mwyafrif y disgyblion yn gofyn ac ateb cwestiynau yn

effeithiol am y tywydd. Mae‟r rhan fwyaf yn datblygu amrediad geirfa ac maent yn defnyddio brawddegau a phatrymau iaith cyfarwydd yn rhwydd a hyderus. Mae gan lawer ddealltwriaeth dda o iaith lleoli ac o iaith cyfeiriad.

247 Mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion ym mlwyddyn 6 yn gofyn ac ateb cwestiynau

am hobïau a gweithgareddau‟n dda ac mae ganddynt afael dda ar osodiadau cadarnhaol a negyddol. Darllenant gyda dealltwriaeth ac mae disgyblion mwy abl yn ysgrifennu cyfres o frawddegau gyda mesur da o gywirdeb.

Diffygion 248 Nid oes diffygion pwysig.

Page 44: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

38

Mathemateg

Cyfnod allweddol 1: Gradd 3: Nodweddion da yn gorbwyso diffygion Cyfnod allweddol 2: Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig

Nodweddion da 249 Mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion cyfnod allweddol 1 yn gyflym yn dysgu

symbolau rhif ac yn dechrau gwneud adio a thynnu syml. Mae llawer yn defnyddio amryw o strategaethau gwaith pen, gan gynnwys cyfrif ymlaen ac yn ôl i ddatrys problemau‟n effeithiol. Mae ychydig yn gallu adnabod ffracsiynau syml mewn atebion ymarferol.

250 Mae llawer o ddisgyblion cyfnod allweddol 1 yn dechrau defnyddio geirfa

briodol wrth gyfeirio at fesuriadau ac arian. Mae bron pob un yn defnyddio mesurau ansafonol i amcangyfrif a mesur hyd wrth iddynt adeiladu modelau o gyfarpar adeiladu mawr a defnyddiant a deall „mwy na‟ a „llai na‟.

251 Mae gan y mwyafrif gysyniad da o amser ac mae eu gallu i adnabod darnau o

arian yn datblygu‟n briodol wrth iddynt dreulio amser yn yr ardaloedd chwarae rôl. Mae‟r rhan fwyaf yn gallu adnabod ffurfiau dau a thri dimensiwn yn gymharol rwydd ac yn cyfeirio at eu nodweddion.

252 Mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion yn defnyddio geirfa lleoliad yn gywir. 253 Mae llawer o blant ym mlwyddyn 3 yn dangos gwybodaeth dda o‟r hyn sy‟n

gwneud 100, ac ychydig o rai galluog yn gallu gwneud 1000. Mae llawer yn dewis technegau mwy cymhleth i ddatrys problemau syml mewn perthynas â phris wyau Pasg. Mae‟r rhan fwyaf yn adio, tynnu, lluosi a rhannu rhifau yn eu pen yn gyflym ac mae ganddynt wybodaeth dda o werth lle. Mae‟r mwyafrif yn adnabod ac yn defnyddio ffracsiynau syml.

254 Mae disgyblion ym mlwyddyn 4 yn meddu ar ddealltwriaeth dda o fesurau ac

arian a gallant ddefnyddio clociau analog a digidol yn effeithiol.

255 Mae llawer o ddisgyblion ym mhen uchaf cyfnod allweddol 2 yn egluro‟n gywir bod arwynebedd a pherimedrau yn fesuriadau gwahanol er mwyn disgrifio maint polygonau. Mae‟r mwyafrif ym mlwyddyn 5 yn defnyddio fformiwla syml i weithio allan arwynebedd hirsgwar, yn talgrynnu mesuriadau i fyny neu i lawr er mwyn symleiddio eu cyfrifiadau.

256 Mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion ym mlwyddyn 5 a 6 yn deall yn eglur y berthynas rhwng eiliadau, munudau, oriau a dyddiau. Mae llawer yn gwybod sut i roi llinynau o rifau at ei gilydd er mwyn gwneud adio yn y pen yn haws, gan edrych i greu degau neu ddyblu. Mae‟r rhan fwyaf yn dechrau trin data mathemategol yn hyderus ac y gallu tynnu casgliadau wrth iddynt gyfleu eu canfyddiadau.

Diffygion 257 Yng nghyfnod allweddol 1, mae dealltwriaeth llawer o ddisgyblion o werth rhif

wrth adio a thynnu yn ansicr ac mae mwyafrif sylweddol nad ydynt yn ddigon hyderus i egluro eu canfyddiadau‟n wybodus wrth drafod eu gwaith gydag eraill.

Page 45: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

39

Gwyddoniaeth

Cyfnod allweddol 1: Gradd 3: Nodweddion da yn gorbwyso diffygion Cyfnod allweddol 2: Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig Nodweddion da 258 Mae llawer o ddisgyblion cyfnod allweddol 1 yn cynnal ymchwiliadau gan

ddefnyddio dulliau strwythuredig. Maent yn rhagfynegi deilliannau tebygol eu hymchwiliadau‟n synhwyrol. Trafodant eu gwaith yn hyderus a chofnodi eu canfyddiadau yn briodol gan gynnig eglurhad syml am yr hyn y maent wedi ei ddarganfod. Ar y cyfan, mae nifer arwyddocaol o ddisgyblion yn dechrau codi eu cwestiynau eu hunain ar gyfer archwilio.

259 Mae gan lawer o ddisgyblion ddealltwriaeth briodol o gylch bywyd amryw o

greaduriaid a phlanhigion ac maent yn defnyddio yr ardal awyr agored i wella eu dysgu. Maent yn deall yr amgylchiadau angenrheidiol er mwyn i bethau byw oroesi. Mae llawer yn disgrifio‟n fanwl sut i gadw‟n iach ac adnabod bwydydd sydd yn rhan hanfodol o ddeiet iach. Erbyn diwedd blwyddyn 2, mae llawer o ddisgyblion yn defnyddio terminoleg wyddonol briodol pan yn trafod mewn grŵp.

260 Ar y cyfan, ym mlynyddoedd cynnar cyfnod allweddol 2, mae mwyafrif y

disgyblion yn arddangos dealltwriaeth dda o brawf teg. Gallant ragfynegi ar sail eu dysgu blaenorol a data presennol mewn ystod o dablau priodol, siartiau a graffiau. Yn gyffredinol, mae disgyblion yn ymwneud yn annibynnol mewn gwaith ymarferol gofalus ac yn gwneud defnydd da o eirfa wyddonol, ond mae hyn yn amrywio o ddosbarth i ddosbarth. Gallant adnabod patrymau a thueddiadau a rhoi eglurhad syml am newidiadau mewn deunyddiau. Maent yn perthnasu‟r wybodaeth a astudiwyd i fywyd pob dydd a‟r amgylchedd.

261 Ym mlynyddoedd cynnar cyfnod allweddol 2, mae mwyafrif y disgyblion gyda gwybodaeth gadarn o nodweddion deunyddiau cyffredin a dealltwriaeth ymarferol dda o anweddiad a chyddwysiad. Mae bron pob un yn gallu dilyn patrymau a sefydlwyd o gynllunio arbrawf gyda hyder. Maent yn ystyried dewisiadau ac yn gwneud penderfyniadau gwybodus wrth iddynt arfarnu eu gwaith a gwaith grwpiau eraill.

262 Mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion ym mhen uchaf cyfnod allweddol 2 yn cynyddu eu sgiliau ymholi gwyddonol yn sylweddol wrth iddynt ymchwilio i sut y gall awyr yrru cerbydau ymlaen. Yn y gwaith ymchwiliol gorau, mae disgyblion yn codi eu cwestiynau neu eu syniadau eu hunain er mwyn archwilio ar sail eu hymchwil unigol eu hunain. Maent yn adnabod y newidynnau i‟w newid ac yn mesur yn ofalus y rhai sydd i aros heb eu newid. Maent yn dechrau tynnu casgliadau trwy gyfeirio at y meini prawf llwyddiant gwreiddiol, yn ffurfio barnau y maent wedi rhoi ystyriaeth iddynt ac yn gwneud dewisiadau gwybodus.

Diffygion 263 Nid oes gan leiafrif arwyddocaol o ddisgyblion Cyfnod Allweddol 1 y sgiliau

sylfaenol i gynhyrchu ymchwiliadau o safon dda yn gyson. Nid yw‟r disgyblion mwy galluog bob amser yn astudio‟r maes dysgu i lefel sy‟n briodol i‟w gallu.

Page 46: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

40

Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu

Cyfnod allweddol 1: Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig Cyfnod allweddol 2: Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig Nodweddion da 264 Nid oedd modd arsylwi unrhyw wersi TGCh yn ystod yr arolygiad. Casglwyd

tystiolaeth o edrych ar waith yn y gorffennol a gwaith presennol, edrych ar ffeiliau cynllunio athrawon a thrafod gyda disgyblion.

265 Mae llawer o ddisgyblion yn mlwyddyn 1 a blwyddyn 2 yn defnyddio rhaglenni

ymarfer yn effeithiol i atgyfnerthu eu dealltwriaeth fathemategol. Maent yn defnyddio lluniau llonydd digidol a chamerâu fideo yn hyderus i gofnodi eu gweithgareddau, y maent yn ddiweddarach yn eu hymgorffori mewn dogfennau a broseswyd mewn geiriau. Wrth ddefnyddio meddalwedd graffigol mae‟r rhan fwyaf yn defnyddio‟r arf Ffurfio a Llanw i greu delweddau.

266 Trwy gydol cyfnod allweddol 2, mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud eu

cyflwyniadau‟n fwy diddorol trwy ymgorffori ffont a lliwiau gwahanol a thrwy ymgorffori eu ffotograffau eu hunain a rhai wedi eu llawrlwytho o‟r rhyngrwyd. Ym mlwyddyn 3 a blwyddyn 4, mae disgyblion yn dewis a newid maint eu delweddau. Maent yn dechrau deall egwyddorion basdata trwy greu cofnodion mewn llawysgrifen.

267 Mae bron pob disgybl ym mhen uchaf cyfnod allweddol 2, yn creu

cyflwyniadau amlgyfrwng ac yn dechrau defnyddio taenlenni i ymgorffori fformiwlae syml. Maent yn defnyddio meddalwedd ffotoddelweddu i ychwanegu effeithiau gwahanol, gan greu darnau creadigol o waith celf.

Diffygion 268 Nid oes diffygion pwysig.

Dylunio a thechnoleg

Cyfnod allweddol 1: Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig Cyfnod allweddol 2: Gradd 3: Nodweddion da yn gorbwyso diffygion Nodweddion da 269 Yn y ddau gyfnod allweddol, mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gweithio‟n dda

gyda‟i gilydd a rhannu syniadau mewn modd trefnus. Mae brob pob un yn datblygu dolennau cyswllt da ar draws meysydd dysgu eraill ac o ganlyniad yn dechrau deall diben eu prosiectau dylunio.

270 Trwy gydol cyfnod allweddol 1, mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gallu dewis

arfau priodol yn annibynnol a dangos sgiliau sylweddol wrth eu defnyddio i ddiben penodol. Er enghraifft, wrth iddynt wneud pypedau neu lyfrau „pop up‟ yn annibynnol. Ar y cyfan, mae‟r cynnyrch terfynol o safon dda ac mae dros hanner y disgyblion yn gallu arfarnu eu gwaith eu hunain a gwaith eu cymheiriaid, ac yn aml yn awgrymu beth y mae angen ei newid i wella‟r

Page 47: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

41

deilliant. Yng nghyfnod allweddol 1, mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion yn cyrraedd safonau da wrth ddylunio a gwneud amrediad o eitemau i wahanol ddibenion.

271 Gallant lunio diagramau syml a gwnânt ddewisiadau gwybodus am

ddeunyddiau a thechnegau addas. Mae llawer o ddisgyblion ar y cam hwn yn gallu rhaglennu cerbydau electronig fel “Bee Bot”, gan ddefnyddio cyfarwyddiadau cyfeiriadol eglur.

272 Mae‟r disgyblion ym mlynyddoedd 1 a 2 yn gallu dilyn y broses ddylunio‟n

annibynnol a chynhyrchu arteffactau unigol o ansawdd uchel iawn yn ystod eu cyfnod darpariaeth parhaus. Mae eu defnydd ymarferol o sgiliau dylunio ar draws amryw o feysydd dysgu yn gwella eu dealltwriaeth yn sylweddol.

273 Mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion yng ngwaelod cyfnod allweddol 2 yn gwneud a

gwerthuso amrediad eang o “anghenfilod”\\\mae'r gyda rhannau symudol ac wedi defnyddio eu gwybodaeth gynyddol o gylchedau trydanol i ddylunio a gwneud goleudai.

274 Ym mhen uchaf cyfnod allweddol 2, mae mwyafrif y disgyblion yn defnyddio‟r

broses ddylunio ac yn casglu gwybodaeth o amryw o ffynonellau i ymchwilio i wahanol fathau o bontydd cyn dylunio a gwneud rhai eu hunain. Maent yn dechrau cael yr hyder i weithio‟n annibynnol neu mewn grwpiau, gwneud newidiadau yn ôl y galw ac ymestyn y broses o drafod technegau gwneud. Mae lleiafrif sylweddol yn awr yn gallu mynegi eu barn a‟r hyn sydd orau ganddynt a gwerthuso‟r cynnyrch terfynol yn nhermau eu bwriad gwreiddiol.

Diffygion 275 Nid oes diffygion pwysig yng nghyfnod allweddol 1. 276 Nid yw mwyafrif disgyblion cyfnod allweddol 2 eto â gwybodaeth ddigonol o

sgiliau dylunio a thechnoleg sylfaenol, nac o offer, i gynhyrchu arteffactau o safon gyson dda; nid ydynt chwaith yn defnyddio eu sgiliau TGCh yn ddigonol i gefnogi eu gwaith dylunio.

277 Nid yw‟r disgyblion mwy galluog yng nghyfnod allweddol 2 yn astudio y maes

hwn o ddysgu i lefel briodol i‟w gallu. 278 Mewn rhai dosbarthiadau yng nghyfnod allweddol 2, mae llawer o ddisgyblion

yn dibynnu‟n ormodol ar daflenni gwaith ac yn rhoi rhy ychydig o‟u syniadau unigol yn eu dyluniadau gwreiddiol.

Hanes

Cyfnod allweddol 1: Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig Cyfnod allweddol 2: Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig Nodweddion da 279 Mae bron pob disgybl yng nghyfnod allweddol 1 gydag ymwybyddiaeth dda,

ddatblygol o gronoleg. Maent yn defnyddio geirfa briodol yn dda i ddisgrifio

Page 48: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

42

treigl amser wrth gymharu amgylchiadau yn amser eu neiniau a‟u teidiau â rhai heddiw. Mae ymweliadau ag Erddig a chreu llinellau amser i ddangos prif ddigwyddiadau eu bywyd yn gwella eu hamgyffred o amseroedd a fu.

280 Erbyn diwedd cyfnod allweddol 1, mae gan ddisgyblion wybodaeth dda am

ddillad ar draws cyfnodau diweddar a gallant gymharu steil a deunydd a ddefnyddid gyda rhai heddiw. Mae mwyafrif y plant hŷn gyda dealltwriaeth briodol o fywyd yn China ers talwm a gallant adalw‟n gywir agweddau oedd o ddiddordeb personol iddynt hwy.

281 Mae mwyafrif y disgyblion ym mlynyddoedd 3 a 4 gyda chywreinrwydd am y

gorffennol ac adeiladant ar eu sgiliau, eu gwybodaeth a‟u dealltwriaeth flaenorol. Mae pob grŵp blwyddyn yn cymryd rhan mewn astudiaeth ymholiad hanesyddol gyda ffocws gan ddefnyddio amrediad o adnoddau cynradd ac eilradd, gan gynnwys TGCH. Mae llawer yn gallu dod i farn wybodus ar sail y wybodaeth hon ac, mewn rhai dosbarthiadau, maent yn dechrau cymharu elfennau‟n hyderus ar draws cyfnodau o amser.

282 Mae mwyafrif y disgyblion yng ngwaelod cyfnod allweddol 2 yn atgyfnerthu

dealltwriaeth gynhwysfawr o gronoleg trwy gymharu amryw o elfennau bywyd cyfnod y Tuduriaid gyda‟u math hwy o fywyd.

283 Mae llawer o ddisgyblion ym mlwyddyn 5 yn gallu gofyn ac ateb cwestiynau

perthnasol am y gorffennol a chynllunio ymchwiliad i ddarganfod ffeithiau. Mae‟r rhan fwyaf yn gallu cyfleu eu syniadau a‟u canfyddiadau‟n annibynnol ac mewn dyfnder mewn amryw o ffyrdd. Er enghraifft, fel graffiau, siartiau neu gyflwyniadau llafar. Maent yn arbennig yn mwynhau eistedd yn y “sedd boeth” i gael eu holi.

284 Mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion ym mlwyddyn 5 a 6 yn datblygu gwybodaeth

gywir am yr Ail Ryfel Byd. Mae eu gwaith ysgrifenedig wedi ei strwythuro‟n dda ac yn arddangos dealltwriaeth dda o ddyddiadau a thermau priodol. Mae gan y mwyafrif o ddisgyblion ymwybyddiaeth gadarn o achosion a chanlyniadau prif ddigwyddiadau‟r cyfnod a gallant nodi sut mae‟r newidiadau‟n dylanwadu ar ddigwyddiadau yn y dyfodol. Maent yn ystyried dehongliadau o ddigwyddiadau ac yn cynnig rhesymau. Mae‟r disgyblion mwy galluog yn amlwg yn deall y gall ffeithiau hanesyddol gael eu dehongli mewn amryw o ffyrdd. Maent yn hollol abl i wahaniaethu rhwng ffaith a barn wrth iddynt ofyn cwestiynau hanesyddol perthnasol a dysgu defnyddio amrywiaeth o adnoddau i wirio‟u canfyddiadau,

285 Mae llawer o ddisgyblion blwyddyn 6 gyda dealltwriaeth dda o‟r prif

ddigwyddiadau yn yr ugeinfed ganrif. Maent yn gwneud cymariaethau da rhwng bywydau ac effaith personoliaethau amlwg ac arbennig ar y pryd, gan ddatblygu eu gwybodaeth o hanes a chronoleg wrth adeiladu ar gysyniadau a safbwyntiau a luniwyd yn flaenorol. Er enghraifft, maent yn ystyried yn wybodus pa rinweddau ddylai arweinydd da eu cael ac yn defnyddio‟r rhain i asesu Hitler a Churchill.

Page 49: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

43

286 Mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion drwy‟r ysgol gyda dealltwriaeth sy‟n datblygu o‟r dylanwad a gafodd Cymry enwog ar ein gorffennol ni.

Diffygion 287 Nid oes diffygion pwysig.

Daearyddiaeth

Cyfnod allweddol 1: Gradd 3: Nodweddion da yn gorbwyso diffygion Cyfnod allweddol 2: Gradd 3: Nodweddion da yn gorbwyso diffygion Nodweddion da 288 Yng nghyfnod allweddol 1, mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gallu nodi

gwahaniaethau rhwng Wrecsam a Llundain. Mae llawer yn gwybod mai tref yw Wrecsam a bod Llundain yn ddinas. Mae disgyblion blwyddyn 2 yn defnyddio atlas i adnabod gwledydd Ynysoedd Prydain yn gywir. Maent yn lliwio‟r gwledydd ar fap amlinell, gan ddefnyddio allwedd.

289 Mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion ym mlwyddyn 3 yn disgrifio llawer o

wahaniaethau rhwng pentref yn India o‟r enw Chembakolli a Wrecsam. Gallant egluro mewn termau syml bod ffactorau fel hinsawdd, materion economaidd a diwylliant yn dylanwadu ar ddulliau byw pobl. Mae llawer yn dyfalu‟n sensitif i beth y defnyddid gwahanol arteffactau Indiaidd.

290 Yn eu hastudiaeth ar anheddau, mae llawer o ddisgyblion ym mlwyddyn 4 yn

gallu egluro yn gywir y nodweddion a fyddai‟n denu y rhai fyddai am fyw yno. Maent yn gwybod bod enwau lleoedd sy‟n gorffen mewn “-chester” a “-ham” yn rhoi cliw i‟w dechreuad.

291 Ym mlwyddyn 5 a blwyddyn 6, mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gallu disgrifio

rhai o nodweddion amgylcheddau gwrthgyferbyniol yn gywir. Mae‟r mwyafrif yn gwybod enwau a lleoliadau y prif gadwynni o fynyddoedd, er enghraifft bod yr Andes yn Ne America.

Diffygion 292 Yn y ddau gyfnod allweddol, ychydig o ddisgyblion sy‟n defnyddio iaith

ddaearyddol yn briodol ac nid yw‟r mwyafrif o ddisgyblion yn datblygu gwybodaeth ddigonol o brosesau neu sgiliau ymchwiliad daearyddol.

293 Mae sgiliau llawer o ddisgyblion wrth gasglu a chofnodi gwybodaeth

ddaearyddol mewn gwaith maes yn gyfyngedig ac mae llawer yn dewis gwybodaeth o ffynonellau eilradd, fel y rhyngrwyd, heb gymryd gofal digonol.

294 Wrth drafod effaith dyn ar y tir, mae lleiafrif o ddisgyblion yng nghyfnod

allweddol 2 yn cymysgu rhwng achos ac effaith.

Page 50: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

44

Celf a dylunio

Cyfnod allweddol 1: Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig Cyfnod allweddol 2: Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig Nodweddion da 295 Yn y ddau gyfnod allweddol, mae bron pob disgybl yn datblygu gwybodaeth

dda o waith amrywiaeth o artistiaid, gan gynnwys artistiaid lleol Cymraeg. Maent yn defnyddio eu henghreifftiau fel symbyliad i gynhyrchu eu gwaith eu hunain mewn amryw o arddulliau ac mewn dau a thri dimensiwn.

296 Yng nghyfnod allweddol 1, mae‟r rhan fwyaf o disgyblion yn arbrofi gyda

phaent ac yn datblygu sgiliau mewn technegau brws wrth iddynt greu cefndiroedd effeithiol ar gyfer eu paentiadau o adlewyrchiadau.

297 Mae‟r disgyblion hynaf yng nghyfnod allweddol 1 yn arbrofi‟n frwdfrydig gydag

amrediad o gyfryngau gan gynnwys paent, creonau a sialc i gynhyrchu lluniau ac astudiaethau arsylwadol, yn arbennig o ffrwythau. Mae‟r rhan fwyaf yn arsylwi nodweddion fel lliw, gwead a phatrwm ac yn eu defnyddio i fynegi eu creadigrwydd eu hunain.

298 Ym mlynyddoedd cynnar cyfnod allweddol 2, mae llawer o ddisgyblion yn

dangos datblygiad da o fraslunio arsylwadol a sgiliau dychmygus yn eu llyfrau braslunio a‟r gwaith a arddangosir. Maent yn arbrofi gydag amrediad o gyfryngau ac mae eu sgiliau wrth ddefnyddio llinell, tôn, siâp a ffurf yn datblygu‟n dda.

299 Ym mlynyddoedd uchaf cyfnod allweddol 2, mae gwybodaeth y rhan fwyaf o

ddisgyblion am arddull a thechnegau arlunwyr fel Leonardo Da Vinci yn dda. Mae eu hastudiaethau yn cynnwys gwaith artistiaid o Gymru. Er enghraifft, mae disgyblion blwyddyn 5 yn cymharu arddull a gwaith Kyffin Williams a Van Gogh.

300 Ym mlynyddoedd 5 a 6 mae disgyblion yn gweithio mewn clai i gynhyrchu rhai

enghreifftiau da o lestri ciwb wedi eu harddurno mewn arddull „Art Deco‟. Mae dros hanner yn gallu adnabod nodweddion da yn eu gwaith eu hunaion a gwaith eraill ac yn cynnig sylwadau ar sut y gellid ei wella.

301 Trwy sgiliau ymchwil da, mae disgyblion blwyddyn 6 yn datblygu dealltwriaeth

dda o sut mae arlunwyr o wahanol ddiwylliannau a chyfnodau yn gweithio ac maent yn cynhyrchu cyflwyniadau Powerpoint ar „Noson Serennog‟ Van Gogh.

Diffygion 302 Nid oes diffygion pwysig.

Page 51: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

45

Cerddoriaeth

Cyfnod allweddol 1: Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig Cyfnod allweddol 2: Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig Nodweddion da 303 Mae mwyafrif y disgyblion drwy‟r ysgol yn arddangos technegau cymhwysedd

technegol a chywirdeb priodol ar gyfer eu hoed a‟u datblygiad. 304 Mae‟r rhan fwyaf o‟r disgyblion drwy‟r ysgol yn caffael gwybodaeth, sgiliau a

dealltwriaeth gerddorol briodol i‟w hoedran a‟u datblygiad trwy amrediad o weithgareddau ymarferol.

305 Yng nghyfnod allweddol 1, mae llawer o ddisgyblion yn dechrau caffael

dealltwriaeth sylfaenol o dempo a rhythm. Maent yn canu rhigymau a chaneuon mewn tiwn a gyda brwdfrydedd, yn enwedig yn y Gymraeg, wrth iddynt ymgymryd ag arferion dyddiol eu dosbarthiadau.

306 Yng nghyfnod allweddol 2, mae llawer o ddisgyblion yn gwerthuso

cerddoriaeth o ystod eang o arddulliau a diwylliannau. Mae‟r mwyafrif o‟r digyblion yn gallu ymchwilio i batrymau rhythmic wedi eu sylfaenu ar arddull cerddoriaeth carnifal o Frasil a‟u dadansoddi‟n gymwys.

307 Mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion ym mlynyddoedd 5 a 6 yn defnyddio ystod dda

o offerynnau yn hyderus i gyfansoddi a chwblhau cyfansoddiadau wrth ymateb i wahanol symbyliadau, er enghraifft, i greu cyfansoddiad cerddorol ar y Blitz. Maent yn gwneud sylwadau‟n sensitif a gwerthuso gwaith eu cymheiriaid ac yn gallu awgrymu gwelliannau.

308 Trwy gydol cyfnod allweddol 2, mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion yn canu

amrediad o ganeuon yn frwdfrydig yn y Gymraeg a‟r Saesneg. Maent yn canu‟n hyderus mewn deulais, gan addasu‟r deinameg yn briodol.

Diffygion 309 Nid oes diffygion pwysig.

Addysg gorfforol

Cyfnod allweddol 1: Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig Cyfnod allweddol 2: Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig Nodweddion da 310 Yn y ddau gyfnod allweddol, mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwybod ei bod

yn bwysig cynhesu‟r corff cyn dechrau ymarfer ac yn egluro‟n gywir rai o effeithiau ymarfer ar y corff.

311 Mae bron pob disgybl yng nghyfnod allweddol 1 yn ymateb yn gyflym i

gyfarwyddiadau. Mae‟r rhan fwyaf yn dewis symudiadau priodol wrth

Page 52: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

46

berfformio golygfeydd o Jack and the Beanstalk. Mae llawer yn ymgripio, yn camu‟n uchel ac yn mynd ar flaenau eu traed, yn ôl naws y cyfeilio.

312 Mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion ym mlwyddyn 2 yn gwneud defnydd effeithiol o

ofod wrth symud o amgylch ac yn dangos rheolaeth dda ar eu gallu i gydbwyso a newid cyfeiriad. Maent yn canolbwyntio‟n dda ar eu gweithgareddau wrth ddilyn cyfarwyddiadau.

313 Mae mwyafrif y plant ym mlwyddyn 3 yn arddangos sgiliau lluchio a dal da

wrth weithio‟n unigol, gyda phartner ac mewn grwpiau. Wrth ymarfer sgiliau tennis, mae llawer yn dangos cydsymud llaw/llygad da yn enwedig wrth fownsio a tharo pel.

314 Mae‟r rhan fwyaf ym mlwyddyn 5 a 6 yn gwybod y daeth yr Haka o Seland

Newydd. Mae‟r mwyafrif yn efelychu ei symudiadau cryf, eglur gan ddangos cydbwysedd da; maent yn arddangos amseru da wrth weithio fel un corff. Mae llawer yn rhoi eu dehongliad creadigol eu hunain i waith grŵp.

315 Mewn gemau y tu mewn, mae bron pawb yn cymryd rhan yn frwdfrydig, yn

chwarae‟n deg ac yn deall pwysigrwydd rheolau. Mae‟r mwyafrif yn arfarnu cynnydd yn eu perfformiad yn synhwyrol ac yn nodi pwyntiau ar gyfer gwella.

Diffygion 316 Nid oes diffygion pwysig.

Addysg grefyddol

Cyfnod allweddol 1: Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig Cyfnod allweddol 2: Gradd 2: Nodweddion da a dim diffygion pwysig Nodweddion da 317 Yn y ddau gyfnod allweddol, mae mwyafrif y disgyblion gyda dealltwriaeth dda

o egwyddorion fel gofalu am eraill a beth sy‟n gwneud ffrind da. Yn gyffredinol, mae disgyblion yn ymwybodol o‟r defnydd o symboliaeth mewn gwahanol grefyddau.

318 Yng nghyfnod allweddol 1, mae gan y rhan fwyaf o ddisgyblion wybodaeth dda

am straeon o‟r Beibl. Maent yn gwybod y straeon am rai o brif gymeriadau‟r Hen Destament. Maent yn gwybod stori‟r Nadolig a gallant ailadrodd straeon am fywyd Iesu Grist yn hyderus. Gall lawer eu hadalw‟n llafar, mewn lluniau ac yn ysgrifenedig. Ym mlwyddyn 2, mae‟r rhan fwyaf yn datblygu gwybodaeth dda am ddathliadau a gwyliau Cristnogol.

319 Yng nghyfnod allweddol 2, mae mwyafrif y disgyblion yn gwybod mai

Cristnogaeth yw prif grefydd Cymru a siaradant yn synhwyrol am nodweddion bywyd Cristnogol. Maent yn deall bod rhai arweinyddion crefyddol wedi cael dylanwad mawr ar ein ffordd o feddwl heddiw, er enghraifft, Dewi Sant a‟r Esgob William Morgan. Mae ganddynt wybodaeth dda hefyd am arweinyddion byd yr oedd crefydd yn bwysig iddynt, fel Gandhi a Mandela.

Page 53: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

47

320 Yng nghyfnod allweddol 2, mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o ddathliadau Cristnogol a‟r cyswllt rhyngddynt â gwyliau Iddewig, er enghraifft, gŵyl y Pasg a Gŵyl y Bara Croyw.

321 Ym mlwyddyn 6, mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gallu adfyfyrio ar

gwestiynau mawr bywyd, credoau a ffydd a gyfyd trwy astudio crefydd. Gwyddant nifer dda o straeon o‟r Hen Destament a‟r Testament Newydd. Ymatebant yn ddeallus mewn trafodaethau ynglŷn ag arwyddocâd y rhain yn ein bywydau heddiw.

322 Erbyn diwedd cyfnod allweddol 2, mae‟r rhan fwyaf o ddisgyblion gyda

gwybodaeth dda am grefyddau eraill, sef Iddewiaeth ac Islam. Maent yn trafod gwahanol ffurfiau o addoli a symbolau‟r crefyddau hyn yn effeithiol. Mae pawb yn oddefgar iawn o gredoau ac arferion crefyddau eraill.

Diffygion 323 Nid oes diffygion pwysig.

Page 54: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Adroddiad gan Jean Laura Hannam YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO, 15/03/10

48

2

Ymateb yr ysgol i’r arolygiad Yr ydym yn falch iawn o ganfyddiadau cadarnhaol yr adroddiad arolygu sy‟n cydnabod bod ein hysgol wedi dod ymlaen lawer ers yr uno, ac sydd bellach “ym mhob agwedd, yn un ysgol”. Mae‟r adroddiad yn gywir yn disgrifio‟n hysgol fel “ysgol ofalgar iawn sy‟n gosod lles y disgyblion yng nghanol ei darpariaeth”. Mae‟r adroddiad yn cydnabod bod yr ysgol :

â disgwyliadau uchel gan bawb a bod cefnogaeth bersonol yn agwedd ragorol o waith yr ysgol;

â darpariaeth dda iawn ar gyfer disgyblion sydd ag AAA, a bod elfennau rhagorol yn ei gofal corfforol o rai grwpiau, gyda llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd unigol da iawn o ganlyniad i‟r gefnogaeth a dderbyniant;

gydag adnoddau da iawn ac yn rhoi gwerth da am arian. Mae‟r ysgol yn falch iawn o‟r cyfeiriad at “y tîm ymroddedig sy‟n darparu cwricwlwm sy‟n cyfoethogi ar gyfer disgyblion”. Lluniwyd Cynllun Gweithredu i ymateb i‟r argymhellion y teimlwn ni y gallwn ymateb iddynt yn hyderus – a rhai ohonynt wedi cael eu hadnabod gan yr ysgol eisioes. Caiff y cynllun ei rannu â rhieni a bydd amlinelliad ar y cynnydd yn Adroddiad Blynyddol y Llywodraethwyr i Rieni.

Page 55: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Atodiad 1 Gwybodaeth sylfaenol am yr ysgol

Enw‟r ysgol Ysgol Gymuned Gynradd GWENFRO

Math o ysgol Cynradd yn cynnwys y Cyfnod Sylfaen

Ystod oedran y disgyblion 3 – 11 mlwydd oed

Cyfeiriad yr ysgol

Queensway, Wrecsam

Cod post LL13 8UW

Rhif ffôn 01978 340380

Pennaeth Mrs Janice Ashford

Dyddiad penodi Medi 2007

Cadeirydd y llywodraethwyr / Awdurdod priodol

Mrs Christine Thomas

Arolygydd cofrestredig Mrs Jean Laura Hannam

Dyddiadau‟r arolygiad 15 – 18 Mawrth 2010

Page 56: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Atodiad 2 Data a dangosyddion ysgol

Nifer y disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn

Grŵp blwyddyn M (call) D B1 B2 B3 B4 B5 B6 Cyfanswm

Nifer y disgyblion 20 41 45 36 28 36 40 46 292

Cyfanswm nifer yr athrawon

Amser llawn Rhan-amser Cyfwerth ag amser llawn (call)

Nifer yr athrawon 13 5 15.5

Gwybodaeth staffio

Cymhareb disgybl: athro (call) (ac eithrio dosbarthiadau meithrin ac arbennig)

19:1

Cymhareb disgybl: oedolyn (call) mewn dosbarthiadau meithrin 8:1

Cymhareb disgybl: oedolyn (call) mewn dosbarthiadau arbennig 2.5:1

Cyfartaledd maint dosbarth, ac eithrio dosbarthiadau meithrin ac arbennig 21

Cymhareb athro (call): dosbarth 1:1

Canran presenoldeb ar gyfer y tri thymor cyflawn cyn yr arolygiad

Tymor M D Gweddill yr ysgol

Gwanwyn 2009 82.2 91.5 93

Haf 2009 84.8 90,9 94.1

Hydref 2009 87.3 93.6 93.9

Canran y disgyblion sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim 54

Nifer y disgyblion a gafodd eu gwahardd yn ystod y 12 mis cyn yr arolygiad 1

Page 57: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Atodiad 3

Page 58: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13
Page 59: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Atodiad 4 Sail dystiolaeth yr arolygiad 1. Treuliodd pump arolygydd gyfwerth â phedwar diwrnod arolygu ar ddeg yn y

ysgol, a chyfarfod fel tîm cyn dechrau‟r arolygiad. 2. Y pennaeth oedd yr enwebai a bu mewn swyddogaeth gefnogol gydol yr

arolygiad. 3. Ymwelodd yr arolygwyr hyn â:

54 o sesiynau neu rannau o sesiynau;

pob dosbarth, a grwpiau sy‟n cael eu tynnu o‟r prif ddosbarthiadau;

addoliadau ar-y-cyd;

amrediad o weithgareddau, a

gweithgareddau all-gyrsiol. 4. Cafodd aelodau o‟r tîm arolygu gyfarfodydd gyda:

staff, llywodraethwyr a rhieni cyn ac ar ôl yr arolygiad, ac

uwch reolwyr, swyddogion AALl, athrawon, staff cymorth a gweinyddol, aelodau o‟r gymuned a grwpiau o ddigyblion yn ystod yr arolygiad.

5. Roedd y tîm hefyd wedi ystyried:

adroddiad hunan arfarnu‟r ysgol;

43 ymateb i‟r holiadur i rieni ac ynddynt roedd 98 y cant yn cytuno neu‟n cytuno‟n gryf;

dogfennau gynhwysfawr a ddarparwyd gan yr ysgol cyn ac yn ystod yr arolygiad, ac

ystod eang o waith blaenorol a chyfredol disgyblion, ar draws yr holl ystod oedran.

6. Hefyd:

gwrandawodd y tîm arolygu ar ddisgyblion ac arsylwi eu hymddygiad trwy‟r dydd; a

chynnal trafodaethau â‟r disgyblion am eu gwaith a‟u chwarae.

Page 60: Arolygiad o dan Adran 28 Adroddiad ar ansawdd … · Arolygiad o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005 Adroddiad ar ansawdd addysg yn YSGOL GYNRADD GYMUNED GWENFRO Queensway, Wrecsam LL13

Atodiad 5 Cyfansoddiad a chyfrifoldebau’r tîm arolygu

Aelod tîm Cyfrifoldebau

Jean Hannam Arolygydd Cofrestredig

Cyd-destun, Crynodeb, Argymhellion, Atodiadau. Cwestiynau Allweddol 1 a 5 a chyfraniadau at Gwestiwn Allweddol 3. Y Cyfnod Sylfaen, Gwyddoniaeth, Dylunio/Technoleg a Hanes.

Buddug Bates Arolygydd tîm

Cefnogi Cwestiynau Allweddol 1, 3, 4 a 7. Cymraeg Ail Iaith, Saesneg, Cerddoriaeth, Celf a Dylunio ac Addysg Grefyddol

Chris Dolby Arolygydd tîm

Cwestiynau Allweddol 2 a 6. Mathemateg, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Daearyddiaeth ac Addysg Gorfforol.

Collette Gribble Anghenion Addysgol Arbennig.

Denise Shields Arolygydd Lleyg

Cefnogi Cwestiynau Allweddol 1, 3 a 4.

Janice Ashford

Enwebai.

Spencer Williams

Asesydd Cymheiriaid.

Contractwr Evenlode Education Little Garth St Johns Close Penarlâg Sir y Fflint CH5 3QJ Cydnabyddiaeth Hoffai‟r tîm arolygu ddiolch i‟r corff llywodraethol, y pennaeth, y staff, rhieni a disgyblion am eu cwrteisi a‟u cydweithrediad trwy gydol yr arolygiad.