archifdy sir y ffl int...(mehefin - awst 2016) arddangosfa’r somme yng nghyntedd yr archifdy. 6...
TRANSCRIPT
Adroddiad Blynyddol Archifdy Sir y Fflint 2016/17 1
Archifdy Sir Y Ffl int Adroddiad Blynyddol
2016/17
Adroddiad Blynyddol Archifdy Sir y Fflint 2016/172
Adroddiad Blynyddol Archifdy Sir y Fflint 2016/17 3
Cynnwys
Byrfoddau t.4
Rhestr Staff t.5
Cyflwyniad t.6
Ystadegau Defnyddwyr t.7
Estyn Allan t.8
Cadwraeth t.9
TGCh t.10
Gweithgareddau y tu ôl I’r Llenni t.11
Newidiadau Staff t.12
Hyfforddiant Staff t.12
Gwaith Gwirfoddol t.13
Cysylltiadau Allanol t.13
Atodiad A - derbynion t.14
Atodiad B – arolwg ymwelwyr 2016 t.17
Atodiad C –cyfraddau defnyddio ar-lein t.19
Llun y clawr: “Rhif 3 Gwaith Dur 27” o AN5058 (gweler Atodiad A)
Archifdy Sir y FflintYr Hen Reithordy PenarlâgCH5 3NRFfôn: 01244 532364E-bost: [email protected]: www.flintshire.gov.uk/archives
Adroddiad Blynyddol Archifdy Sir y Fflint 2016/174
Byrfoddau
ARA Cymdeithas Archifau a Chofnodion
ARCW Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru
FCC Cyngor Sir y Fflint
FRO Archifdy Sir y Fflint
MALD Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd, Llywodraeth Cymru
TNA Yr Archifau Cenedlaethol
Baneri hyrwyddo newydd a brynwyd gydag arian grant
Adroddiad Blynyddol Archifdy Sir y Fflint 2016/17 5
Staff
Prif Archifydd: Claire Harrington
Uwch Archifydd: Steve Davies
Archifyddion: Steph Hines
Liz Newman
Cynorthwywyr Archifol: Sue Copp
Sue Millward
Bridget Thomas
Cadwraethwr: Mark Allen
Swyddog Gweinyddol: Helen Waite
Cynorthwyydd TG Prosiect: Karina Kucharski
(Mehefin - Awst 2016)
Arddangosfa’r Somme yng nghyntedd yr Archifdy
Adroddiad Blynyddol Archifdy Sir y Fflint 2016/176
Cyflwyniad
Mae 2016/17 wedi bod yn fl wyddyn llawn digwyddiadau ar draws y byd, ac o fewn llywodraeth leol rydym wedi bod yn edrych ar ffyrdd newydd o weithio. Rydym yn sylweddoli bod llawer wedi newid dros y blynyddoedd diweddar o ran yr hyn y mae ein defnyddwyr eisiau gennym ac yn disgwyl i ni ei ddarparu, a bod angen i ni addasu er mwyn cwrdd â’r her hon. I’r perwyl hwnnw, rydym ni ac ystorfeydd archifo awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru wedi bod yn ystyried sut y gallem o bosibl gydweithio. Nid yw’r gwaith hwn wedi dwyn ffrwyth eto, ond yn ystod y fl wyddyn i ddod rydym yn gobeithio gweld cydweithio mwy adeiladol. Yn benodol, mae Archifdy Sir y Ffl int ac Archifau Sir Ddinbych wedi bod yn edrych ar y posibilrwydd o gynnig gwasanaethau ar y cyd ac rydym yn credu y gallai hyn gynnig cyfl eoedd cyffrous dros ben.
Mae deunydd newydd ar gyfer ei archifo yn cyrraedd yn gyson - gweler Atodiad A. Eleni rydym wedi derbyn sawl casgliad gan ysgolion; cyfres gynhwysfawr o luniau o Sir y Ffl int wedi’u tynnu o’r awyr (AN5052) a ffotograffau llawn atgofi on o ddiwydiant Sir y Ffl int, gan gynnwys rhai o ffatri Courtauld’s ym Maes Glas (AN5049) a Gwaith Dur Shotton (AN5058 - gweler y clawr). Roeddem hefyd yn falch iawn o dderbyn i’n gofal gan Gymdeithas Thomas Pennant gasgliad godidog o waith cyhoeddedig Pennant (AN5087). Anrheg i’r Gymdeithas oedd y rhain gan Mr Ted Hughes (gweler y llun ar dudalen 13) ac rydym wrth ein bodd bod y Gymdeithas wedi gofyn i ni ofalu amdanynt.
Fel arfer rydym yn ddiolchgar am arian grant gan MALD a weinyddir gan ARCW. Gyda’r nawdd hwn eleni bu modd i ni gyfl ogi cynorthwyydd TG i wneud peth o’r gwaith cefndir ar ein system CALM (gweler tudalen 10) a hefyd anfon aelod o staff i gynhadledd yr ARA yn Llundain. Gyda nawdd ariannol MALD a gafwyd drwy sianelau eraill bu modd i ni gynorthwyo dau archifydd i ennill cymhwyster mewn cadwraeth ddigidol (gweler t.12) a thalu am bedair o faneri hysbysebu er mwyn hyrwyddo ein gwasanaethau cartref ac oddi cartref (gweler t.4).
Roedd ein harolwg defnyddwyr eleni yn canolbwyntio ar ymwelwyr â’n hystafell chwilio (gweler Atodiad B). Mewn blwyddyn gymharol dawel o ran ymwelwyr, parhaodd yr ystafell chwilio’n rhan hynod bwysig o’n gwasanaeth ac rydym yn awyddus i roi profi ad cadarnhaol i’r rhai sy’n ei defnyddio. Roedd yr ymatebion i’n harolwg mor gadarnhaol ag erioed – mae pobl yn dal i fod â meddwl mawr o’n staff cyfeillgar a chymwynasgar a’n hadeilad hardd. Fodd bynnag mae ein cyfl eusterau hen ffasiwn yn dod yn fwyfwy blinderus i’n defnyddwyr rheolaidd ac ymwelwyr newydd fel ei gilydd.
Cawsom fl wyddyn brysur arall o ran gwaith maes gydag amrywiaeth eang o ddigwyddiadau wedi’u cynnal ar gyfer unigolion o bob oed a sawl diddordeb (gweler t.8).
Claire Harrington
Adroddiad Blynyddol Archifdy Sir y Fflint 2016/17 7
Ystadegau Defnyddwyr
Gwasanaeth 2016/7 2015/6 2014/5 2013/4 2012/3 2011/2
Ymweliadau â’r ystafell ymchwilio 1,761 2,000 2,005 1,997 1,798 2,246
Ymholiadau trwy’r post 31 47 81 101 102 175
Ymholiadau ffôn 326 421 361 401 425 512
Ymholiadau e-bost 522 536 608 626 649 873
Dogfennau a astudiwyd 4,423 4,849 5,991 6,296 4,779 6,403
Llungopïau a werthwyd 2,273 3,454 3,263 3,385 3,968 5,628
Ffotograffau a werthwyd 334 313 371 225 379 448
Trwyddedau ffotograffau 133 130 188 139 114 144
a ddosbarthwyd
Archebion/gwasanaeth 30 30 32 45 38 66ymchwil
Tarddiad y chwilwyr 2016/7 2015/6 2014/5 2013/4 2012/3 2011/2
Sir y Ffl int 1,188 1,409 1,306 1,081 997 1,119
Gweddill Cymru 250 277 286 428 234 343
Gweddill y DU 287 289 358 433 543 625
Tramor 36 25 55 55 24 59
Dosbarthiad y chwilwyr 2016/7 2015/6 2014/5 2013/4 2012/3 2011/2
Addysg a chyhoeddiadau 313 591 439 465 326 397
Achyddiaeth 766 626 607 816 944 1,152
Hanes lleol 555 626 809 545 420 563
Hanes ty 45 62 69 66 39 64
Swyddogol a chyfreithiol 82 95 81 105 69 70
Baner Facebook ar gyfer yr ymgyrch “Archwilio Eich Archif”
Adroddiad Blynyddol Archifdy Sir y Fflint 2016/178
Estyn Allan
Roedd ein Teithwyr Amser Ifanc yn brysur dros ben yn 2016 gyda sesiynau bywiog ar ffermio, bwyd, hwylio, glan y môr a Punch a Judy. Gwelsom fod cau Llyfrgell Penarlâg wedi gwneud gwahaniaeth i bresenoldeb pythefnosol ac felly eleni dechreuom gynnal sesiynau yn ystod gwyliau’r ysgol.
Mae ymweliadau ysgolion yn parhau i ddigwydd yn gyson. Mae’r ymweliadau eleni wedi cynnwys Ysgol Bentref Penarlâg a Grwp MAT (Mwy Abl a Thalentog) o Ysgol Gynradd Gatholig yr Hybarch Edward Morgan.
Cynhaliwyd ein digwyddiad Drysau Agored blynyddol ym mis Medi ar y patrwm poblogaidd arferol, sef teithiau y tu ôl i’r llenni, taith o amgylch y pentref ac arddangosfa am hanes ein hadeilad, yr Hen Reithordy.
Unwaith eto cymerom ran yn yr ymgyrch ‘Archwiliwch eich Archifdy’ cenedlaethol ym mis Tachwedd gydag arddangosfa gan Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru ar waith Capability Brown a William Emes yng Ngogledd Cymru ynghyd â phanel ychwanegol ar waith Emes ym Mhenarlâg. Yn ogystal cawsom ymweliad gan Advolly Richmond, darlithydd teithiol a siaradodd ar y testun ‘The March of Archery: an amusing look at archery as an elite pastime, 1780-1900”.
Mae’r prosiect Cynefi n Cymru-gyfan wedi parhau eleni ac rydym yn chwarae ein rhan gyda grwp o wirfoddolwyr lleol sydd wedi bod yn gwneud cynnydd rhagorol o ran rhoi cynnwys mapiau ac adodlenni degwm Sir y Ffl int ar-lein. ‘Does gan y prosiect fawr o amser ar ôl ac rydym yn ddiolchgar i’r holl wirfoddolwyr lleol am sicrhau fod cynnwys Sir y Ffl int yn gyfl awn.
Roedd mis Gorffennaf i fi s Tachwedd 2016 yn nodi canmlwyddiant Brwydr y Somme, un o frwydrau mwyaf gwaedlyd y Rhyfel Byd Cyntaf. I goffa hyn crëwyd arddangosfa am chwe milwr o Sir y Ffl int a fu farw yn y frwydr. Roedd yr arddangosfa i’w gweld yn ein cyntedd am beth amser cyn iddi fynd ar daith o amgylch eglwysi a llyfrgelloedd ledled y sir, gan orffen y daith yn Neuadd y Sir ar gyfer Dydd y Cofi o (gweler y ffotograff ar dudalen.5).
Rydym wedi parhau i gael ein galw arnom yn aml i siarad am ein gwaith mewn grwpiau allanol. Ymunodd Claire a Mark â Graeme Clarke o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gyfl wyno papur ar brosiect cadwraeth a digideiddio Llyfr Teulu Erddig mewn cynhadledd yn Aberystwyth ym mis Mai. Mae Claire wedi rhoi sgwrs ar hanes a chynnwys y llyfr hwn ddwywaith erbyn hyn.
“The March of Archery”Saethyddiaeth weithgaredd ' elite ' 1780 – 1900 Sgwrs am DDIM gan
Advolly Richmond, Ymddiredolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru
Dydd Sadwrn 19 Tachwedd 2016 14:00 – 15:50
Fel rhan o'r ymgyrch 'Archwiliwch eich archif' Cenedlaethol, mae Archifdy Sir y Fflintyn cynnal darlith darluniadol llawn yn seiliedig ar ymchwil archifol gwreiddiol ganllawer o archifau gan gynnwys swyddfa gofnodion Sir y Fflint am ddim. tynnu sylw at y gweithgareddau y Gymdeithas Frenhinol Prydain Bowman a amrywiol ystadau a theuluoedd yn Sir y Fflint, Shropshire.Gallwch hefyd weld arddangosfa ddiddorol iawn o ddathlu gwaith Capability Brown a William Emes yng Ngogledd Cymru, a luniwyd gan yr Ymddiriedolaeth gerddihanesyddol Cymru gyda gwybodaeth ychwanegol am Emes'a Penarlâg.
Archifdy Sir y Fflint,Yr Hen Reithordy, PenarlâgCH5 3NR
Bydd angel neill tuo lle ymlaen llawe-bost: [email protected], Ffôn 01244 532364
ARCHEBU LLE:Ffôn. 01244 532364E-bost:[email protected]
Poster ar gyfer digwyddiadau “Archwilio Eich Archif” mis Tachwedd 2016
Adroddiad Blynyddol Archifdy Sir y Fflint 2016/17 9
Cadwraeth
Mae’r stiwdio gadwraeth wedi bod yn llawn gweithgaredd eleni gyda chwe gwirfoddolwr yn gweithio ar y blychau cyfnod ar gyfer ailgartrefu cofnodion y Bwrdd Gwarcheidwaid. Maen nhw wedi gweithio’n eithriadol o galed ac mae cadwraeth y deunyddiau ymchwil sylfaenol gwerthfawr hwn wedi gwella’n aruthrol.
Mae gwaith Mark ei hun ar gasgliad Sir y Ffl int wedi parhau. Mae nifer o fapiau prisio bellach wedi’u hatgyweirio ac ar gael i’w gweld. Ymysg yr eitemau mwyaf anarferol y mae Mark wedi bod yn gweithio arnynt mae darluniau paratoadol Sebastien Boyesen ar gyfer ei gerfl un ‘Machina’ sydd wedi’i osod yng Nghanolfan Fysiau Hallfi elds yn yr Wyddgrug (cyf CC/PAR/7). Mae Mark hefyd wedi bod yn gweithio ar nifer o ffotograffau gan gynnwys argraffi adau ffotograffi g fformat mawr, e.e. D/CK/574A a gafodd ei ailgartrefu yn ddiweddar mewn cynhwysydd addas er mwyn sicrhau y caiff ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol.
Fel yr unig warchodwr sy’n gweithio yn archifau Gogledd-Ddwyrain Cymru, mae galw mawr ar Mark i wneud gwaith i swyddfeydd cyfagos. Eleni mae ei waith wedi cynnwys cadwraeth pedair cyfrol o gofnodion Fferyllfa Rowlands sydd wedi’u storio yn Archifau Wrecsam - gwaith a noddwyd gan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Llawysgrifau Hanesyddol. Mae Mark hefyd wedi goruchwylio prosiect diweddar i ddiogelu mapiau memrwn yn Archifau Morgannwg ac wedi cynghori ar gasgliad o archifau yn ymwneud â rygbi yng Ngwent.
Yn ei rôl fel hyfforddwr ar gwrs cadwraeth yr ARA mae Mark eleni wedi dysgu’r modiwlau rhwymo llyfrau a thrwsio memrwn ac wedi hyfforddi staff o archifau Sir Benfro, Swydd Gaerhirfryn a Durham.
Gwaeth cadwraeth 2016/7 2015/6 2014/5 2013/4 2012/3 2011/2
Eitemau arddangos 30 26 0 68 20 37
Dogfennau papur 722 894 948 165 844 1,229
Dogfennau memrwn 15 11 4 14 60 51
Mapiau a chynlluniau 84 63 68 46 31 55
Rhwymiadau manila a chlawr caled 26 29 32 38 37 67
Ffolderi, portfolios a 182 58 57 1003 351 239gwarchodwyr mapiau OS
Ffotograffau 2166 43 24 2 15 31
Lindsay Gibson o Swyddfa Cofnodion Swydd Durham yn gweithio ar gofnod memrwn
Adroddiad Blynyddol Archifdy Sir y Fflint 2016/1710
TGCh
Rydym wedi bod yn gweithio ers rhai blynyddoedd bellach i fewnbynnu ein catalogau i gronfa ddata CALM ac i’w rhoi ar-lein yn ein catalog CALMview. Dros y fl wyddyn ddiwethaf mae chwe chasgliad ystâd mawr arall wedi’u hychwanegu ac mae pob un o’n 1,800+ casgliad llai bellach ar gael. Dim ond chwe chasgliad ystâd sydd ar ôl i’w fformatio a’u lanlwytho. Y casgliadau hyn yw’r mwyaf sydd gennym a bydd yn cymryd tua dwy fl ynedd i gwblhau’r gwaith, ond o ganlyniad i lawer iawn o waith caled ar ran staff a gwirfoddolwyr, mae’r terfyn ar y gorwel.
Fel y nodwyd yn yr adran Staff, roeddem yn falch dros ben o gael Karina yma am dri mis yn gwneud peth o’r gwaith ar ein system CALM. Yn ystod y cyfnod hwnnw:
- Archwiliwyd pob catalog er mwyn gwirio terfynau unrhyw gyfyngiadau Diogelu Data gan ddiweddaru cronfa ddata CALM yn unol â hynny (gan gynnwys CALMView)
- Copïwyd gwybodaeth ynglyn â chyfyngiadau mynediad i’r maes ‘Disgrifi ad’ er mwyn i’r wybodaeth honno fod yn weladwy yn CALMView. Gwnaed hyn ar gyfer pob eitem yr oedd DDD yn parhau i fod yn berthnasol iddi yn dilyn yr archwiliad a ddisgrifi r uchod.
- Mewnbynnwyd cyfanswm o 966 Cofrestr Cofnodi Derbynion a 317 o dderbynion ffotograffi g gan eu cysylltu â chofnodion y rhoddwyr - cyfran sylweddol o’r ôl-groniad cyfan.
Gyda chefnogaeth MALD ffurfi wyd partneriaeth gyda phrosiect Canolfan Archifau (Archives Hub) Addysg Uwch sydd wedi’i lleoli ym Manceinion er mwyn ei gwneud yn haws chwilio drwy ddata casgliadau Swyddfa Cofnodion Sir y Ffl int yng ngoleuni adborth a gafwyd am y cronfeydd data ar-lein presennol. Mae gwaith paratoadol wedi bod yn digwydd dros y fl wyddyn ddiwethaf ac mae data am yr 20 casgliad cyntaf bellach wedi’i drosglwyddo i ddwylo staff y Ganolfan Archifau.
Mae FRO, a gynrychiolir gan Steve Davies, yn parhau i chwarae rhan yng ngwaith Grwp Cadwraeth Ddigidol Cymru gyfan. Dros y fl wyddyn ddiwethaf chwaraeodd Steve ran allweddol yn y gwaith o greu polisi a dogfennau canllaw cenedlaethol, a chyfrannodd tuag at ddatblygiad cyfl euster storio a chadw cenedlaethol sy’n gweithredu yn ôl y safonau priodol ac wedi’i leoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Rydym yn parhau i wneud defnydd da o’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn cysylltu ag ystod eang o bobl ac i roi cyhoeddusrwydd i’n gweithgareddau. Mae ffotograffau’n cael eu hychwanegu at ein safl e Flickr yn rheolaidd gan annog pobl i gadw llygad ar yr hyn sy’n newydd. Mae gan ein tudalen Facebook erbyn hyn ddilynwyr yn UDA, Awstralia, Cyprus, Canada, yr Almaen, Wcráin, Seland Newydd ac Yr Ariannin. Mae’r wybodaeth yr ydym yn ei phostio’n aml yn hynod o boblogaidd: edrychodd 3,329 o bobl ar y stori am y postfeistr o’r Ffl int a lithrodd ar ddarn o groen oren yn yr orsaf Ffl int Nos Galan 1892 a chael ei ‘anallugoi’n ddifrifol’, ac achosodd y stori am wraig ifanc a laddodd ei gwr hen yng Nghaerwys gyffro mawr – 6,156 wedi edrych ar y stori, 57 wedi gwneud sylwadau a 44 wedi rhannu. Rydym wedi darganfod bod pobl wrth eu boddau â llofruddiaethau erchyll a sgandal!
Adroddiad Blynyddol Archifdy Sir y Fflint 2016/17 11
Gweithgareddau’r tu ôl I’r Llenni
Yn ystod yr wythnos lawn olaf cyn y Nadolig, yn ôl yr arfer, cynhaliodd FRO wythnos ‘gwirio stoc’. Dewisir yr wythnos hon bob blwyddyn gan fod galw’r cyhoedd am y gwasanaeth dros y cyfnod hwn bob amser yn gymharol isel. Mae’n gyfl e i staff ddal i fyny â thasgau ystafell-gefn nad oes digon o amser i’w cyfl awni pan fo’r ystafell chwilio ar agor. Mae gwirio ein ‘stoc’ (ein casgliadau archifo) yn rhan bwysig o’r wythnos ond nid dyma’r unig beth sy’n digwydd.
Eleni, yn hytrach na gwirio cynnwys blychau, fe wnaethom ganolbwyntio ar wirio lleoliadau gyda’ r nod o ddiweddaru ein mynegai lleoliad. Gan ddefnyddio rhestrau wedi’u hargraffu o’r mynegai cyfredol, treuliodd staff y rhan fwyaf o’r amser yn gwirio cyfeirnodau ar du blaen y blychau ac yna’n chwilio am unrhyw eithriadau, gan nodi unrhyw anghysondebau wrth wneud hynny. Canlyniad y gwaith hwn fydd mynegai mwy cywir a fydd yn galluogi staff i adalw eitemau’n fwy effeithiol pan fydd cais amdanynt yn yr ystafell chwilio.
Tasg arall yn ystod yr wythnos hon oedd rhoi gwybodaeth am y llyfrgell mewn taenlennu er mwyn eu trosglwyddo i gatalog CALM. Ychwanegwyd tua 800 o lyfrau yn ystod yr wythnos. Ein nod yw cynnwys ein holl lyfrau a dogfennau yn ein catalog ar-lein.
Un gweithgaredd ‘y tu ôl i’r llenni’ eleni sydd wedi cael effaith uniongyrchol amlwg ar brofi ad ein hymwelwyr yw’r adolygiad o’r defnydd o’n darllenwyr microffi lm. Cwyn sydd wedi codi dro ar ôl tro mewn arolygon defnyddwyr dros y blynyddoedd yw’r diffyg lle o amgylch y darllenwyr microffi lm i ddefnyddwyr roi llyfrau nodiadau neu liniaduron ayyb. Edrychom ar y defnydd diweddar o’r darllenwyr ac o ganlyniad rydym wedi symud un ohonynt o’r ystafell chwilio’n gyfan gwbl ac wedi symud y lleill ymhellach oddi wrth ei gilydd er mwyn rhoi ychydig mwy o le i bob defnyddiwr.
Roeddem yn rhan allweddol o aduniad teuluol hyfryd eleni ar ôl i wraig o Gaerffi li, a gafodd ei mabwysiadu yn syth ar ôl ei geni, ofyn am ein help i ddarganfod a oedd ganddi unrhyw berthnasau byw. Liz wnaeth y gwaith ymchwil ac roedd wedi gwirioni pan fu modd iddi roi Mrs Brown mewn cysylltiad â brawd nad oedd erioed wedi’i gyfarfod. Roedd y ddau wedi’u plesio gymaint fe wnaethant wahodd Liz i gwrdd â’r teulu. Mae’r llun isod yn dangos Liz gyda Mrs Brown a’i brawd Iori.
Adroddiad Blynyddol Archifdy Sir y Fflint 2016/1712
Staff
Newidiadau
Eleni fe wnaethom groesawu Karina Kicharski i swydd wedi’i hariannu drwy grant am dri mis i wneud gwaith swyddfa gefn gwir angenrheidiol ar ein catalog cyfrifi adurol CALM (am ragor o fanylion gweler tudalen 10). Gwnaeth Karina swmp aruthrol o waith mewn cyfnod byr dros ben ac mae defnyddwyr yn ogystal â staff erbyn hyn yn elwa ar system sydd yn fwy cywir a chynhwysfawr. Ar wahân i hynny, ni fu unrhyw newidiadau i’n tîm.
Hyfforddiant
Mae staff yr Archifdy wedi mynychu sawl digwyddiad hyfforddi a drefnwyd yn fewnol gan FCC: mynychodd y tîm cyfan gyrsiau gloywi ar ddiogelu data, hyfforddiant ar y system e-bost Outlook newydd a sesiwn ar fod yn barod ar gyfer argyfyngau a oedd yn cynnwys cyfl wyniad diddorol gan Alisair Horton o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Fe wnaeth staff cymorth cyntaf naill ai ailgymhwyso neu fynychu cwrs gloywi blynyddol.
Mae MALD wedi darparu amrywiaeth o hyfforddiant eleni y manteisiodd staff FRO arno. Cafodd Steve hyfforddiant Datrys Problemau’n Greadigol; Mark hyfforddiant Mentora; Liz a Steph hyfforddiant Cyfathrebu Effeithiol a Helen hyfforddiant Ffotograffi aeth Ddigidol.
Y llynedd, gyda chymorth arian MALD, bu modd i Steve a Liz ddilyn cwrs dysgu o bell mewn cadwraeth ddigidol. Roedd hyn yn golygu llawer o waith caled ond mae’r ddau bellach wedi ennill Tystysgrif Ôl-radd mewn Cadw Cofnodion Digidol o Brifysgol Dundee.
Mynychodd Liz a Mark y gynhadledd ARA fl ynyddol yn Llundain eleni. Mynychodd Claire, Steve a Steph Fforwm ARCW yng Ngwesty’r Conrah yn Aberystwyth.
Mae Helen wedi cychwyn cwrs cyllid AAT Lefel 2 y bydd yn ei gwblhau yn ystod yr haf. Mae Claire wedi mynychu’r ddwy sesiwn hyfforddi oedd yn weddill o gyfres o bedair ar Godi Arian a gynhaliwyd gan TNA.
Liz Newman a Steph Hines yn Fforwm Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru
Adroddiad Blynyddol Archifdy Sir y Fflint 2016/17 13
Gwaith Gwirfoddol
Fel arfer hoffwn fanteisio ar y cyfl e hwn i ddiolch yn fawr i’n holl wirfoddolwyr. Mae pob un wedi gweithio’n galed iawn ar amrywiaeth o dasgau gan gyfrannu 125 awr yr un dros y fl wyddyn ar gyfartaledd. Cyrhaeddodd gwirfoddolwyr cadwraeth Mark garreg fi lltir fawr wrth iddynt roi eu 500fed blwch at ei gyilydd fel rhan o’n prosiect pecynnu parhaus (gweler y llun isod). Rydym yn hynod o ddiolchgar iddyn nhw.
Cysylltiadau Allanol
Mae staff yn parhau i chwarae rhan mewn materion proffesiynol ar lefelau lleol a chenedlaethol. Mae Steve Davies yn gweithio yn y Ganolfan Archifau ac yn cynrychioli’r Archifdy ar Grwp Cadwraeth Ddigidol ARCW; mae Liz Newman yn aseswr ar gynllun cofrestru’r ARA ac yn mentora ymgeiswyr cofrestru; mae Steph Hines yn cynrychioli’r Archifdy ar Grwp Llywio Marchnata Archifau MALD ac mae Mark Allen yn cadeirio pwyllgor Adran Cadwedigaeth a Chadwraeth yr ARA, yn ddarlithydd gwadd ar gwrs archifau Prifysgol Aberystwyth ac yn hyfforddwr ar gwrs cadwraeth yr ARA. Mae Mark hefyd wedi chwarae rhan fl aenllaw ar grwp Strategaeth Cadwraeth Cymru.
Mae Claire Harrington, fel Prif Archifydd, yn mynychu cyfarfodydd ARCW, Archifau Cyfeillion Clwyd a Chymdeithas Hanes Sir y Ffl int. Mae Helen hefyd wedi cael ei hyfforddi fel ‘adolygydd cymheiriad’ ar gyfer y cynllun Achredu Archifau. Yn y dyfodol bydd yn ymweld ag archifau gyda swyddogion TNA er mwyn adrodd yn ôl i’r panel asesu.
Colin Sheady, un o’n gwneuthurwyr blychau gwirfoddol
Trosglwyddo cyfrolau Pennant. O Gymdeithas Thomas Pennant: Norman Closs Parry, Dr Goronwy Wynne a Paul Brighton; gyda’r rhoddwr Ted Huws ac archifydd SCSFf, Steve Davies (gweler Atodiad A, AN5087)
Adroddiad Blynyddol Archifdy Sir y Fflint 2016/1714
Atodiad A
Cyngor Sir y Ffl int/Clwyd 5023 Ffeiliau FCC & CCC, 1968-2002 5032 Ffeiliau gwerthiannau/prydlesu CCC, 1975-19835043 Ffeil achos gwasanaethau cymdeithasol FCC, 1997-19995052 Lluniau o Sir y Ffl int o’r awyr, 1968-19925063 Papurau FCC ar Gonsortiwm Prynu Cilgwri, 1996-19995070 Ffeiliau FCC & CCC, 1970s-2000s5072 Ffeiliau FCC, 1940-1970s
Awdurdodau Lleol Eraill5023 Ffeiliau Cyngor Bwrdeistref Delyn, 1987, 19885042 Cofrestrau Cyngor Bwrdeistref Delyn, 1974-19885070 Cofrestr datganiadau Cyngor Bwrdeistref Delyn, 1991-1994
Ysgolion5029 Cofnodion Ysgol Gynradd Llanfynydd, 1907-20165030 Cofnodion Ysgol Babanod Perth y Terfyn, Treffynnon, c.1956-20165031 Cofnodion Ysgol Uwchradd Treffynnon a’i rhagfl aenwyr, 1890s-20165044 Cofnodion Ysgol Gynradd Mynydd y Ffl int, 1912-20165062 Cofnodion Ysgolion Higher Wych a Thalwrn Green, 1874-19725071 Cofnodion Ysgol y Fron, Treffynnon, 1950s-2008
Llywodraeth Ganolog5051 Cofrestrau trwyddedu llys ynadon yr Wyddgrug, 1951-2004
Busnes5011 Cynlluniau Gwaith Dur Brymbo, 1900-19905059 Llyfr Cyfl ogau, Prif Bwll Glo Coed-llai, 18695061 Cynlluniau LNWR, 1864
Yr Eglwys yng Nghymru5045 Cofnodion Undeb Mamau Gronant, Plwyf Llanasa, 1979-20015047 Cofrestrau Plwyf Penarlâg, 2010-20155081 Cofnodion Plwyf Bagillt, 1932-20085094 Eitemau amrywiol yn ymwneud â hanes Ffynnongroyw, 1780-1958
Eglwysi Anghydffurfi ol5026 Cofnodion Tabernacl URC, Treffynnon, 1840-19925033 Cofnodion Eglwys Fethodistaidd Croes Bwcle, 1930-19405034,5035 Cofnodion Cylchdaith Fethodistaidd Bwcle a Glannau Dyfrdwy, 1909-20065082 Cofnodion Capeli Wesleaidd Newmarket a Llanasa, 1907-1957
Adroddiad Blynyddol Archifdy Sir y Fflint 2016/17 15
Atodiad A (parhad) Derbynion 2016/7
Clybiau/Cymdeithasau5012 Cofnodion Ty Siapter Eglwys Sant Marc, Cei Connah, 1970-20155013,5054,5078,5089 Cofnodion Bwrdd Crwn Glannau Dyfrdwy, 1958-20175017 Cofnodion Grwp Colomennod Treuddyn, 1961-1989 5027 Cofnodion Olwyn Fewnol Penarlâg a’r Cylch, 1983-20165048 Cofnodion Clwb Gweithwyr Grosvenor, Shotton, 1912-20125064 Cofnodion WI Penyffordd, Penmynydd a Dobshill, 1992-20105067 Cofnodion Cymdeithas Hanes Sir y Ffl int, 1950-19685073 Straeon a lluniau papur newydd ayyb am Glwb Criced Parc Penarlâg, 20155074 Cofnodion cloddiad Moel y Gaer, 1973-19975083 Cofnodion WI Penarlâg, 20005085 Eitemau a gasglwyd gan Gymdeithas Treftadaeth a Chadwraeth yr Hôb a Chaergwrle, 1843-20065086 Llyfr lloffi on Clwb Rotari yr Wyddgrug, 1997-20165091 Cofnodion Cantorion Llwynegryn, 1968-2016
Papurau Personol5007 Amrywiol papurau teuluol a lluniau ayyb perthnasol i Ysgeifi og rhwng 19G - 21G5010 Copi o lythyrau at Mrs August, howsgiper, oddi wrth aelodau’r teulu Gladstone, 1867-1890au5021 Copi o lythyrau 1940 par Apêl Spitfi re5028 Paentiad o fi lwr y Rhyfel Byd Cyntaf o Fwcle ar gefn ceffyl5065 Papurau amrywiol o ddiddordeb i Sir y Ffl int 1964-19945066 Adroddiad ysgol disgybl yn Ysgol y Cyngor Treffynnon, 1927 5069 Cofnodion y Cyrnol James Ellis Evans, Arglwydd Lefftenant, 1953-19985075,5095 Papurau ymchwil yr Hybarch T.W. Pritchard, 20G a 21G5079 Papurau ymchwil Ken Lloyd Gruffydd, 20G a 21G5080 Papurau Frank H. Pinfold, Bwcle 1900au5084 Papurau cloddio plwm John Bellis, 20G5093 Papurau yn ymwneud â Sir y Ffl int gan gasglwr lleol, 20G a 21G
Eitemau Argraffedig5009 Ffotograffau o Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug, 20075015 Papur The County Herald, 4 Mawrth 19045018 Amrywiaeth o eitemau’n ymwneud â Sir y Ffl int, 1861-19855020 Tafl enni Etholiad, Mai 20165022 Map OS, 1 fodfedd = 1 fi lltir, yn dangos rhan o Sir y Ffl int, 18875024 Bywgraffi ad Edward Thomas Hughes 2016 - milwr o Oakenholt a fu farw yn y Somme yn 1916, 2016
Adroddiad Blynyddol Archifdy Sir y Fflint 2016/1716
Atodiad A (parhad) Derbynion 2016/7
5025 Ffotograffau o’r Cwrt, Birch Rise, Penarlâg, 2012-20155036 Ffotograffau o’r 20G a gasglwyd gan Lyfrgell Bwcle5037 Llungopïau o eitemau’n ymwneud ag Oakenholt a’r Ffl int, 1972, 19915046 Tafl enni ymgyrch refferendwm y DU, 20165049 Ffotograffau o ffatri Courtauld’s, Maes Glas, 1970au5055 Rhaglen gymanfa ganu yng Nghastell y Ffl int, 19295056 Amrywiaeth o fapiau OS, 18715057 Copi wedi’i deipio o erthygl papur newydd yn sôn am agoriad Theatr Alhambra, Shotton, 19225068 Erthygl o’r enw “A History of Salmon in the Welsh River Dee 1860s-1960s” gan J.A. Wright, 20165076 Dwy erthygl gan J.A. Wright am Fryn y Pys ac Owrtyn, 2012 a 20165077 Copi o erthygl am gynhyrchiad ffrwydron yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn cynnwys cyfeiriadau at Queensferry, 20165087 Llyfrau gan Thomas Pennant, 1771-18485097 Copi o dafl en am arddangosfa gyhoeddus yn Eglwys Dewi Sant, Oakenholt, 1989
Eitemau Electronig5014 DVD o raglen deledu “OMG: Ysgol Ni!”, yn cynnwys ymweliad gan ddisgyblion Ysgol Maes Garmon â FRO, 20165019 DVD o raglen deledu “Straeon y Ffi n”, yn cynnwys delwedd a gafwyd gan FRO, 20165038 Erthygl, “Sir Stephen Glynne & the Older Churches of the Four Welsh Dioceses”, gan Laurence Butler, 20125050 Nodiadau cyfweliad gyda Peter Jones o Helygain, cloddiwr plwm, yn 19805058 DVD yn cynnwys ffotograffau o waith dur Shotton, y rhan fwyaf heb ddyddiad5060 Copi wedi’i sganio o lyfr llofnodion nyrs o Sir y Ffl int, 19175088 CD yn cynnwys llyfr heb ei argraffu gan J.R. Thomas, “The Holywell Branch Album”, d.d. tua 20005090 Copi DVD o ffi lm gan Rhys Roberts o Ddyserth, 19585096 Erthygl PDF ar Murray Gladstone gan David Parry, 20175098 Erthygl PDF am y frwydr am dir ym Maes Glas yn 1893 ar gyfer adeiladu ysgol, 2017
Amrywiol5008 Cofnodion gorsaf dywydd Carmel, 2010-20165016 Amrywiol eitemau yn ymwneud â Sir y Ffl int, 19G5039 Copïau microffi lm o amrywiol gofrestrau eglwysi, 2016
Adroddiad Blynyddol Archifdy Sir y Fflint 2016/17 17
Atodiad B Arolwg Ymwelwyr 2016
Cynhaliwyd yr arolwg cenedlaethol hwn o ymwelwyr â swyddfeydd cofnodion rhwng Medi a Thachwedd 2016. Dewisom ni ei redeg am chwe wythnos ac yn ystod y cyfnod hwn gwahoddwyd pob ymwelydd â’r ystafell chwilio i gymryd rhan. Cafodd ei drefnu a’i redeg gan Grwp Arolygon Cenedlaethol yr ARA. Dosbarthwyd cyfanswm o 114 ffurfl en arolwg a dychwelwyd 108. O’r rhain, roedd un yn Gymraeg.
Fel arfer, ein staff oedd yn serennu, gyda chyfartaledd o 9.8 allan o 10 am argaeledd, agwedd a safon eu gwasanaeth. Mae pobl yn hoffi ein hadeilad ond dywedodd rhai fod safon y cyfl eusterau ar gyfer defnyddwyr (toiledau, ardal luniaeth) yn is na’r safon y byddai rhywun yn ei disgwyl heddiw.
Roedd dros hanner yr ymatebwyr yn ffonio neu’n anfon e-bost atom cyn eu hymweliad – hoffem godi hynny i 100% gan ein bod am i bobl drefnu ymlaen llaw bob amser. Roedd 61% wedi defnyddio ein gwefan cyn ddod i’r Archifdy er mwyn gwirio’r oriau agor, lleoliad ayyb, ac roedd 94% yn ‘fodlon iawn’ â rhwyddineb dod o hyd i ni, felly mae’n ymddangos ein bod yn gwneud yn eithaf da o ran y wybodaeth gyffredinol yr ydym yn ei rhoi yno. Wnaeth ein catalog ar-lein ddim sgorio mor uchel, gyda 6% o’r farn ei fod yn ‘wael’ - ond dywedodd 91% ei fod yn ‘dda iawn’ neu’n ‘eitha’ da’. Mae’n ymddangos bod amrywiaeth eang o ddisgwyliadau ymysg ein defnyddwyr.
Mae’r arolwg yn rhoi proffi l o’n defnyddwyr yn ogystal ag adborth ar yr hyn maen nhw’n ei feddwl o’r gwasanaeth maen nhw’n ei gael. Roedd y cydbwysedd dynion/merched yn weddol gyfartal, gyda 55% yn ddynion a 45% yn ferched. Roedd amrywiaeth dda o oedrannau, gyda’r ieuengaf yn 19 a’r hynaf yn 88, ond yn ôl yr arfer roedd y rhan fwyaf o’n defnyddwyr o oedran ymddeol. Roedd 47% o’r ymatebwyr yn byw yn Sir y Ffl int, 32% yn Lloegr, 17% mewn rhannau eraill o Gymru, dau o’r Alban, un o America ac un o Awstralia.
Gwelir ein bod yn ased i’r economi leol oherwydd y gweithgareddau eraill y bydd pobl yn ymwneud â nhw wrth ymweld â FRO. Roedd 18% o ymatebwyr wedi ymweld â bwytai lleol, 8% wedi aros dros nos ac 11% wedi ymweld â mannau eraill o ddiddordeb.
Y rhesymau mwyaf poblogaidd dros ymweld oedd hanes teuluol (37%), hanes lleol (25%) ac astudiaeth/cyhoeddiad academaidd (13%). Roedd astudio hanes y Rhyfel Byd Cyntaf a milwyr yn cyfrif am 10% - mae hyn yn ddealladwy yng ngoleuni coffa canmlwyddiant y Rhyfel, yn enwedig yma lle mae Prosiect Cofebion Rhyfel Sir y Ffl int wedi denu llawer o wirfoddolwyr.
Eleni am y tro cyntaf roedd cyfl e i bobl oedd yn ymweld ar ran sefydliad ddweud sut y byddai eu hymweliad o fudd i’r sefydliad hwnnw. Roedd nifer ohonynt yn ymchwilwyr ar gyfer gwefan Cofebion Rhyfel Sir y Ffl int sy’n rhoi gwybodaeth ar-lein er mwyn adrodd straeon milwyr Sir y Ffl int a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Dyma rai o’r sylwadau:
• Ymchwilio ar ran Cymdeithas Hanes Lleol Glannau Dyfrdwy a’r Cylch;
• Ymchwiliad yr heddlu - cael cymorth gyda dyddiadau a dod o hyd i drywyddion ymchwilio.
• Ymchwil ar ran Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru a fydd yn galluogi deall parciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol yng Nghymru yn well er mwyn eu cadw a’u diogelu.
• Gwella aelodaeth y Clwb Pysgota.
Adroddiad Blynyddol Archifdy Sir y Fflint 2016/1718
Atodiad B (parhad) Arolwg Ymwelwyr 2016
Roedd nifer o ymwelwyr wedi gwneud cynigion ar gyfer gwella, gan gynnwys:
• Byddai’n dda pe bai ystafell dawel ar gael;
• Cyfl eusterau ddim yn dda iawn. Dim peiriant diodydd ac yn y gaeaf mae’n mynd yn oer iawn tua 3pm. Toiled angen ei foderneiddio;
• Wifi os gwelwch yn dda!
• Mae safl e FCC ar y we yn anodd ei ddefnyddio. Mae’n rhaid bod hyn yn rhwystr i ymchwilwyr newydd;
• Byddai cyfl eusterau lluniaeth ysgafn yn ddefnyddiol
Mae gennym un neu ddau o bethau i feddwl amdanyn nhw felly, ac un neu ddau i fynd ar eu hôl gyda’r adran TG. Rydym yn ymwybodol o gyfyngiadau ein hadeilad rhestredig - sydd yn hardd ond heb rai o’r cyfl eusterau y mae ymwelwyr heddiw yn eu disgwyl.
Canmoliaeth oedd y rhan fwyaf o’r sylwadau cyffredinol:
• Roedd y staff yn dda a’r ystafelloedd yn braf iawn. Staff llawn gwybodaeth ac yn barod iawn i helpu. Hon yw’r archifdy orau yr wyf wedi bod ynddi erioed;
• Rydw i bob amser yn mwynhau’r amser ‘dwi’n ei dreulio’n gwneud ymchwil yn yr adeilad hardd hwn. Dydw i byth ofn gofyn i staff am help - maen nhw’n gyfeillgar ac yn gymwynasgar;
• Roedd y staff yn hynod o gymwynasgar ac maen nhw’n haeddu’r clod mwyaf. Yr unig beth oedd yn peri siom i mi oedd nad oedd yr un ohonynt yn siarad Cymraeg. Er hynny dyma un o’r ymweliadau mwyaf cofi adwy yr wyf wedi’i wneud ag unrhyw archifdy;
• Rwy’n gobeithio y gellir cynnal a datblygu’r gwasanaeth hwn – mae’n amlwg yn werthfawr i’r gymuned leol ac ymchwilwyr o ardaloedd eraill fel ei gilydd;
• Dogfennau wedi’u trefnu’n hynod o dda ac wedi’u cadw ar eu ffurf wreiddiol;
• Staff yn wych o gymwynasgar! Rhywun newydd ddwyn eitemau o fy mhoced felly doedd gen i ddim dogfen adnabod â llun arni. Staff wedi gwneud popeth bosibl i arwain a gwneud cynigion ar gyfer dod o hyd i gofnodion am anghydffurfwyr (tasg weddol anodd!) Diolch yn fawr iawn am eich help!
Mewn perthynas a’r Gymraeg, roedd 25% yn anfodlon â’r ddarpariaeth ar gyfer cyfathrebu ar lafar yn Gymraeg. Rydym yn deall hyn ac wedi bod yn ymwybodol ers peth amser o’n diffygion yn y cyswllt hwn. Eleni rydym wedi penodi siaradwr Cymraeg ond daeth atom fymryn yn rhy hwyr i gael ei chynnwys yn yr adroddiad hwn.
Ar y cyfan cawsom ein graddio 9.43 allan o 10 – sgôr na allai urhyw un fod yn anfodlon ag o. O dan bob cwestiwn (ar wahan i ddarpariaeth gwasanaethau Cymraeg y soniwyd amdano uchod) roedd o leiaf 90% yn meddwl ein bod ni’n dda neu’n dda iawn, felly hyd yn oed yn y meysydd yr ydym yn cydnabod bod gennym le i wella, mae’n ymddangos bod ein defnyddwyr yn gyffredinol yn hapus â’r hyn yr ydym yn ei ddarparu.
Adroddiad Blynyddol Archifdy Sir y Fflint 2016/17 19
Atodiad C Cyfraddau defnyddio ar-lein
Tudalennau FRO ar wefan FCC
2016/7 2015/6 2014/5 2013/4 2012/3 2011/2
Ebrill 3,939 4,591 3,978 448 529 288
Mai 3,792 4,229 5,036 462 491 369
Mehefi n 3,016 4,087 4,478 426 506 376
Gorffennaf 3,433 4,106 3,912 471 538 293
Awst 3,719 4,786 5,242 611 468 511
Medi 5,153 4,501 4,387 514 446 530
Hydref 4,105 4,342 5,169 5,057 490 553
Tachwedd 3,844 3,888 6,265 6,717 476 514
Rhagfyr 2,814 2,710 4,224 4,894 317 425
Ionawr 4,235 3,866 6,194 6,478 508 706
Chwefror 4,881 4,413 5,581 4,965 534 581
Mawrth 4,257 3,102 5,695 4,402 453 496
Cyfanswm ar gyfer 47,188 48,621 60,161 35,448 5,756 5,642
y fl wyddyn
Flickr
2016/7 2015/6 2014/5 2013/4 2012/3
Ebrill 258 334 544 494
Mai 340 765 661 521
Mehefi n 342 231 453 242
Gorffennaf 271 255 531 413
Awst 743 245 590 347
Medi 367 196 396 363
Hydref 322 302 572 433 488
Tachwedd 543 274 709 398
Rhagfyr 239 533 940 408
Ionawr 321 373 546 441 1,717
Chwefror 339 454 527 470 746
Mawrth 295 419 700 489 553
Cyfanswm ar gyfer 4,380 4,381 7,169 5,019 3,504
y fl wyddyn
O 6/7/2012 i
6/11/2012
O 6/11/2012 i
31/1/2013
Adroddiad Blynyddol Archifdy Sir y Fflint 2016/1720
Atodiad C (parhad) Cyfraddau defnyddio ar-lein
2016/7 2015/6 2014/5 2013/4
Ebrill 7,782 3,181 902
Mai 5,728 9,226 2,849
Mehefi n 5,850 5,013 1,509
Gorffennaf 6,234 10,489 2,397
Awst 5,768 6,248 1,822
Medi 9,152 2,126 1,504
Hydref 2,581 11,981 2,050
Tachwedd 11,647 7,034 4,511
Rhagfyr 9,244 11,222 10,143
Ionawr 9,858 5,144 6,053
Chwefror 8.939 3,265 7,095
Mawrth 1,775 9,679 7,921 1,064
Cyfanswm ar gyfer 84,558 84,608 48,756 1,064
y fl wyddyn
CALMView
Nid oes modd i ni gael y ffi gyrau defnyddwyr hyn ar hyn o bryd. Y gorau y gallwn ei wneud yw nodi nifer yr ymweliadau â’r dudalennau “Catalogau a Mynegeion” ar y wefan, sy’n cynnwys y ddolen I CALMView. Mae hyn yn dangos:
2016/7 2015/6 2014/5
Ebrill 244 344
Mai 252 263
Mehefi n 204 203
Gorffennaf 222 263 362
Awst 263 318 377
Medi 244 275 341
Hydref 339 272 387
Tachwedd 273 253 436
Rhagfyr 170 162 265
Ionawr 299 277 419
Chwefror 327 324 406
Mawrth 324 267 382
Cyfanswm ar gyfer 3,161 3,221 3,375
y fl wyddyn