yng nghysgod pantycelyn€¦ · megis amlin ag amig ac esther. bellach dyma’r unig gwmni amatur...

Post on 12-Feb-2021

3 Views

Category:

Documents

0 Downloads

Preview:

Click to see full reader

TRANSCRIPT

  • Mae hanes Cymdeithas Ddrama’r Crwys,fel y gelwid hi, yn mynd yn ôl i ddauddegau’r ganrif ddiwethaf pryd y sefydlwydhi fel un o gymdeithasau Capel Heol yCrwys yng Nghaerdydd. Llwyfannwyddramâu o waith Cynan a Saunders Lewis,megis Amlin ag Amig ac Esther.

    Bellach dyma’r unig gwmni amatur syddyn llwyfannu yn y brifddinas ac efallai’runig un yn y de ddwyrain. Mae’r Cwmnibellach dan ddwylo medrus Betsan Evansa Robin Pryderi Owen.

    Addaswyd rhan o adeilad capel y Crwysyn Richmond Road yn theatr fechan gydalle i bedwar ugain o gynulleidfa. Mae’nadnodd sy’n cael ei defnyddio gan yr

    eglwys a’r gymuned ehangach. Gydagagoriad Theatr y Crwys fe ail enwydCymdeithas Ddrama’r Crwys yn GwmniTheatr y Crwys.

    Mae’r cwmni wedi bod yn cystadlu ynrheolaidd hyd yn ddiweddar gan gaelllwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

    Mae eu cynyrchiadau yn amrywio o’r lloni’r lleddf, gyda chomedïau, pantomeimiaua dramâu crefyddol eu naws. Mae’nllwyfannu dau gynhyrchiad y flwyddyn ynogystal â chyfrannu at addoliad Eglwys yCrwys drwy gynyrchiadau achlysurol, erenghraifft, adeg y Nadolig.

    Eleni yn y Gymanfa Gyffredinol, ar gais ycyn lywydd bellach, Yr Athro JohnGwynfor Jones, llwyfannwyd detholiad oddrama Norah Isaac, “Y Pererin”, sefdrama deyrnged i ddathlu tri chanmlynedd geni’r emynydd William WilliamsChwaraewyd rhan Williams ei hun gangyn-Weinidog y Crwys, Y Parch GlynTudwal Jones, gydag Ysgrifennydd yCrwys, Mr Bob Roberts. Gwnaethpwyddefnydd celfydd o gyfryngau trydanol iosod cefndir a chyd-destun i’r cyflwyniadgan Robin Pryderi Owen, un o flaenoriaidy Crwys. Er i’r ddrama gael ei thalfyrru nichollwyd dim o naws ac emosiwn ycynhyrchiad gyda’r geiriau a’r canu yn

    plethu i’w gilydd yn hwylus. Ar nos Sul yGymanfa eleni, mwynhawyd gwledd ogyflwyniad – cynhyrchiad y dylid ei aillwyfannu yn sgil y llwyddiant. Diolchmawr a llongyfarchion i Gwmni Theatr yCrwys.

    Hysbysebion Swyddi … t. 2 a 7 • O Gefn Gwlad… t. 7 • O’r Capeli … t. 8

    yGOLEUADCYFROL CXLV RHIF 28 DYDD GWENER, GORFFENNAF 14, 2017 Pris 50c

    EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU

    yn calonogi

    yn ysbrydoli

    yn adeiladu

    Yng Nghysgod PantycelynAr gychwyn y Gymanfa Gyffredinol a gynhaliwyd yn Eglwys y Crwys, Caerdydd daeth cynulleidfa ddisgwylgarynghyd ar 2 Gorffennaf i wylio Cwmni Theatr y Crwys yn cyflwyno “Y Pererin”. A dyma holi gweinidog y Crwys,

    y Parch Aled Huw Thomas am ychydig o hanes y cyflwyniad.

    Ffenest Liw Pantycelyn yn Eglwys y Crwys

    Eglwys y Crwys

    Gol. Gad i mi ddechrau trwy dylongyfarch ar dy ethol i fod yn Llywydd yGymanfa Gyffredinol am y flwyddynnesaf. Diolch am dy barodrwydd i rannuychydig o dy hanes gyda darllenwyr yGoleuad. Dywed ryw ychydig am dygefndir wrthym.

    BHJ. Diolch am y cyfle am sgwrs. Dwi’nenedigol o Gaernarfon ac fe gefais fyaddysgu yn Ysgol Syr Huw Owen aCholeg y Drindod, Caerfyrddin. Roeddwnyn addoli yng nghapel Beulah,Caernarfon lle’r oedd fy niweddar rieni ynaelodau ffyddlon a gweithgar. Roedd fy

    nhad yn flaenor a thrysorydd yr Eglwys aHenaduriaeth Arfon a chefais innau fynghodi yn flaenor yno.

    Gol. Dwi’n gweld felly bod byd addysgwedi dy ddenu ar y cychwyn, ond afentraist ti i fyd addysg o gwbl, neuaethost ti’n syth oddi yno i’rweinidogaeth?

    BHJ. Do, fe fûm i’n athro Cymraeg ynYsgol Uwchradd Caergybi cyn cael fymhenodi yn Swyddog Ieuenctid EBC arheolwr Coleg y Bala. Ac yna wnes i

    Pwy yw Llywydd newydd y Gymanfa Gyffredinol?Yn ystod y Gymanfa Gyffredinol a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn ddiweddarsefydlwyd y Parch Brian Huw Jones fel Llywydd newydd y Gymanfa Gyffredinol.Dyma felly fanteisio ar y cyfle i’w holi am ei hynt a’i hanes.

    (parhad ar dudalen 2)

  • 2 Y Goleuad Gorffennaf 14, 2017

    ddilyn dwy flynedd yn y Coleg Diwinyddolyn Aberystwyth cyn derbyn galwad iweinidogaethu saith eglwys ynHenaduriaeth Dwyrain Meirionnydd.

    Gol. Ond nid yn yr eglwysi yna wyt tierbyn hyn?

    BHJ. Na, wedi tua phum mlynedd hapusyno derbyniais i alwad i HenaduriaethDyffryn Clwyd yn 2003 yn fugail ar 5eglwys (Nasareth, Bethel, Ebeneser,Salem a Rehoboth). Ychwanegwyd Bethel,Afonwen yn 2005 ac yna Clwyd St., aBethlehem Unedig yn 2010.

    Gol. Dywed air bach wrthym am dy deulu.

    BHJ. Dwi’n briod â Helena sy’nllyfrgellwraig yn Ysgol Glan Clwyd a maegennym ddau o blant. Mae Siôn yn athroyn Ysgol y Llys, Prestatyn a Heledd sy’ngyfieithydd gyda Chyngor Sir Conwy.Mae gennym un fiyr sef Jac, sy’n bedairoed.

    Gol. Mae pawb sy’n dy adnabod yngwybod dy fod ti wedi cyfrannu’n

    helaeth i fywyd y Cyfundeb dros yblynyddoedd.

    BHJ. Ymhlith nifer o gyfrifoldebau, ac ynychwanegol at fy ngwaith fel gweinidog ynfy ngofalaeth, dwi wedi gwasanaethu’rCyfundeb fel ysgrifennydd AdranYmgeiswyr a Hyfforddiant ac yngofnodydd y Gymanfa am nifer oflynyddoedd. Dwi hefyd wedi bod ynLlywydd ac yn YsgrifennyddCymdeithasfa’r Gogledd a Llywydd dwyHenaduriaeth.

    Gol. Mae clywed am gymaint oweithgarwch yn ddigon i wangalonni niferohonom! Ond os nad ydy o’n gwestiwnffôl, tybed oes gen ti amser ar gyferunrhyw ddiddordebau hamdden?

    BHJ. Wel, mae gen i ddiddordeb ym mhêl-droed – ac roeddwn yn ddyfarnwr am nifero flynyddoedd…

    Gol. …Profiad, mae’n sifir, fydd yn help igadw trefn ar gyfarfodydd y Gymanfa!

    BHJ. Efallai yn wir… Ond yn ychwanegol

    at hynny dwi’n hoffi cyfrannu i’n bywydcenedlaethol trwy’r EisteddfodGenedlaethol. Dwi’n aelod o’r Orsedd ers1980 ac wedi bod yn ddirprwy brifStiward…

    Gol. Wel, dyma hyd yn oed fwy o brofiadfydd yn dy helpu i’n cadw mewn trefn!

    BHJ. … Dwi wedi bod yn GadeiryddLlywodraethwr y Llys ers 2004, yn aelod oCYSAG Sir Ddinbych, ac yn drysorydddwy gangen Cytûn lleol. Rwyf yn hoff oddarllen ac i ymlacio yn darllen llyfrauditectif o bob math. Braint hefyd ydy caelbod yn aelod o Glwb Rotari Prestatyn lledwi wedi cael y cyfle i drefnucystadlaethau siarad Cyhoeddus a chorauar gyfer ysgolion cynradd.

    Gol. Mae’n arferiad i Lywydd y GymanfaGyffredinol osod thema neu adnod sy’nffocws i’w weledigaeth a chyfeiriad i’rCyfundeb drwy’r flwyddyn. I ba gyfeiriadfyddet ti am ein harwain?

    BHJ. Dwi ‘di dewis dwy adnod yn themaar gyfer y flwyddyn. Y cyntaf ywgwahoddiad Crist, “Dilyn di fi” wedi eucyplysu gyda geiriau Eseia, “Dyma fi,Anfon fi.” Dwi’n gobeithio medru ymweld âphob Henaduriaeth i ddiolch ac i annogein pobl ac i’n hatgoffa fod gennym negeso obaith a chariad i’w chyhoeddi.

    Gol. Diolch am godi’r llen a’n galluogi igael adnabod ryw ychydig ar ein Llywyddnewydd. Tybed a fyddai gennyt ryw air,wrth gloi, i annog ein darllenwyr?

    BHJ.Wel oes, fel mae’n digwydd! Mae unyn gais a’r ail yn anogaeth. Yn gyntaf,gofynnaf i’n holl aelodau am eichgweddïau a’ch cydweithrediad. Ac yn ail,gadewch i ni fynd ymlaen yn hyderus acyn ffyddiog gyda’n gilydd gan ddarganfodewyllys Duw ar ein cyfer fel unigolion acfel eglwysi.

    Pwy yw Llywydd newydd y Gymanfa Gyffredinol (parhad o dudalen 1)

    Yng nghapel Bethesda’r Wyddgrug y cawsom gyfeisteddfod oferched yr Henaduriaeth eleni ar brynhawn Dydd Llun 12Mehefin. Roedd y cyfarfod yn un hapus ac ysbrydoledig o’rdechrau cyntaf. Cawsom groeso cynnes a siriol gan y llywyddMrs Marion Simkin, a defosiwn teimladwy gyda darlleniadpwrpasol o lythyr Paul at y Corinthiaid gan Mrs Doli Edwards agweddi gan y Parch Eirlys Gruffydd-Evans. Roedd y canu yngalonnog o dan arweiniad yr organyddes alluog Mrs GlenysLightfoot. Daeth nifer go lew at ei gilydd gyda chynrychiolaeth obron bob dosbarth, ond nid pob capel chwaith! Roedd yn gyfle iddathlu a gwerthfawrogi gwaith Dr Gwyneth P. Roberts, ycenhades ddawnus ac ymroddedig o Brestatyn a aeth gyntaf i’rIndia yn 1943. Roedd y siaradwraig Mrs Nerys Biddulph yn gyfaillagos i Dr Gwyneth ac wedi mwynhau ei chwmni ymmlynyddoedd ymddeoliad Dr Gwyneth. Roedd yn ei hedmygu amei hymroddiad, ei dawn a’i gwrhydri yn ei gwaith am dros fwy nachwarter ganrif yn yr India. Bu ei gwasanaeth cenhadol ynsyfrdanol a hynny mewn byd gwahanol lle nad oedd merched ynarfer rheoli. Ond dyna beth wnaeth Dr Gwyneth o ddechraucyntaf ei chenhadaeth yn Durtlang – rheoli a datblygu’r ysbyty,adeiladu sustem carthffosiaeth ac addasu’r ystafelloedd. Hi hefydoedd yn hyfforddi nyrsys a hi oedd yr unig lawfeddyg llawnamser yn yr ysbyty. Yr hanes anhygoel o’i hymdrechion a’ihaberth oedd wedi cyffwrdd calon Mrs Biddulph a llwyddodd iddatgan i ni ei theimladau a’i moliant i Dduw am fywyd Gwynethmewn ffordd ddymunol a diddorol. Diolch yn fawr Nerys am

    brynhawn bythgofiadwy. Cawsom hefyd adroddiad byr o bobdosbarth am waith y chwiorydd. Roedd yn dda i weld ein bod igyd yn gweithio ar hyd yr un llinellau. Dangoswyd ein ffyddGristnogol mewn dull ymarferol gyda gwaith gwnïo a gweu afydd o gymorth i’r rhai llai ffodus na ni. Roedd yn orig arbennigiawn a chawsom de ardderchog i gloi’r cyfeisteddiad fel ygwelwch yn y llun. Diolch i bawb a drefnodd oedfa morllwyddiannus. Diolch i Dduw am ei alwad i bawb ohonom ac amarwyr fel Dr Gwyneth.

    Eleri Edwards

    Dathlu Cyfraniad Cenhades yn yr Wyddgrug

    O’r chwith, Mrs Ceinwen Parry, Mrs Menna Davies, Mrs MarionSimkin, Parch Eirlys Gruffydd-Evans, Parch Eleri Edwards,

    Mrs Anne Hunt.

    EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU

    Hyrwyddwr Strategaeth a GweinidogaethMae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn edrych i sicrhau gweithiwr i ardalcylch Tawe-Nedd..

    Oriau – 35 awr yr wythnos.Cytundeb – 3 blynedd, gyda’r 6 mis cyntaf yn gyfnod prawf.Cyflog – Graddfa 26-30, ynghyd â lwfans tŷ a chyfle i ymuno a Chynllun PensiwnEBC.

    Mae'r swydd hon yn amodol ar ddatgeliad DBS manwl a dau eirda boddhaol.I gael disgrifiad swydd a ffurflen gais, cysylltwch â’r swyddfa. Rhif ffôn: 02920 627465.

    Mae’n ofyniad galwedigaethol bod ymgeiswyr ar gyfer y swydd hon yn medru siaradCymraeg ac yn Gristion.

    Dyddiad Cau: 4 o’r gloch, Dydd Gwener, Goffennaf 21, 2017.

top related