cymrwch ran 2013 - venue cymru
Post on 22-Mar-2016
230 Views
Preview:
DESCRIPTION
TRANSCRIPT
CWMNI DAWNS
RAMBERT
Y DDAU
STEVEY NATIONAL
THEATRE
YR YMDDIRIE-DOLAETH GOMEDIBIRMINGHAM
STAGE COMPANY
BRIGHT-BRICKS LEGO
HEART RADIO
GWNEUD MYGYDAU
GYDA BEN AND
HOLLYFFILMIAU
PENIGAMP ROLER DISGO
GWEITHDY FFOTOGRAFFIG
CAMBRIAN
SMALLWORLD THEATRE
CERFLUNIO TYWOD SAND IN YOUR EYES
LLWYFAN Y
WEST END
YN ÔL AR GAIS Y MILOEDD GYDA GWEITHDAI NEWYDD SBON AR GYFER 2013
Canu, Dawnsio, Actio, Creu, Chwarae, Perfformio a Cymerwch Ran!!!!
Man,TwoOne
Guvnors
Swyddfa docynnau:
01492 872000 www.venuecymru.co.uk
DyDD SaDwrn 12 a DyDD Sul 13 Ionawr 2013
11am – 4.30pm
CROESO
Cynhelir y digwyddiad hwn am y bedwaredd flwyddyn. Caiff ei gyflwyno ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Tref Llandudno a Supertemps ac rydym yn ddiolchgar i Roger W Jones, Rhyl am noddi’r digwyddiad.
Edrychwch trwy’r llyfryn; rydym wedi rhannu’r gweithdai a’r sesiynau galw heibio i wyth adran wahanol.
Celfyddydau, dawns, drama, llenyddiaeth, Cyfryngau digidol, Cerddoriaeth, Perfformio a hwyl i’r teulu
Yn ystod Cymerwch Ran 2013, bydd gweithdai, perfformiadau a sgyrsiau penodol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr Cymraeg gan griw Cyw, Stwnsh a Rownd a Rownd S4C.
Cynhelir dau wahanol fath o sesiwn, sesiynau galw heibio a gweithdai.
Sesiynau Galw Heibio: sesiynau sy’n cael eu cynnal drwy gydol y dydd y
gallwch ymuno ynddynt unrhyw adeg, am faint bynnag y dymunwch.
Gweithdai: Sesiynau sy’n dechrau a gorffen am amser penodol fel eich bod yn gallu cyflawni cymaint â phosibl o dan arweiniad hyfforddwyr arbenigol.
Cadw Lle: Rydym yn argymell eich bod yn cadw lle ar gyfer y sesiynau hynny sy’n cymryd nifer cyfyngedig. Gallwch hefyd gadw lle ar gyfer gweithdai fydd yn boblogaidd.
Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01492 872000 i gadw lle AM DDIM ar gyfer y gweithdai gyda’r arwydd hwn.
Rydym yn argymell eich bod yn cadw lle ond nid yw’n hanfodol bob amser, yr unig beth hanfodol yw - Cymerwch Ran - gyda’r agwedd iawn. Mae’r gweithdai’n mynd yn fwy arbenigol bob blwyddyn ac mae eleni’n well nag erioed gyda rhai o gwmnïau gorau’r wlad yn cynnig hyfforddiant arbenigol yn eu meysydd.
Mae Venue Cymru yn falch o gyflwyno Cymerwch Ran 2013
YR UNIG DDIGWYDDIAD CELFYDDYDAU A LLENYDDIAETH AM DDIM A GYNHELIR YNG NGOGLEDD CYMRU
2 3
Mae’n fraint gennym gyflwyno
prif actores y West End Connie
Fisher fel noddwr Cymerwch
Ran 2013. I gael rhagor o
wybodaeth yngly n â chyfarfod â
Connie ac ymuno â’i gweithdy
trowch i dudalen 14.
3
Mae map lleoliadau y tu mewn i’r llyfryn sy’n dangos beth sy’n digwydd a ble. Rydym wedi gwneud ein gorau i sicrhau y gall pawb roi cynnig ar bopeth a bod cyn lleied o sesiynau â phosibl yn cael eu cynnal yr un pryd yn yr amserlen. Dangosir pob genre mewn lliw gwahanol.
Celf - Oren
Dawns - Pinc
Drama - Gwyrdd
Llenyddiaeth - Glas
Cyfryngau Digidol - Coch
Cerddoriaeth - Melyn
Perfformio - Porffor
Hwyl i’r Teulu – Glas Tywyll
Peidiwch â cholli Cymerwch Ran !!!
Cewch yr wybodaeth ddiweddaraf ar www.venuecymru.co.uk neu dilynwch ni ar Facebook a Twitter.
Mae Venue Cymru a thîm Cymerwch Ran yn awyddus i ddiolch yn arbennig i’n holl noddwyr, yn ogystal â Joey, Lee Ellis o Watkin Jones, Ysgol Tudno,Andy Birch, Disco Dave, Steve Cridge, Coleg Llandrillo a Sian Eirian
allgymorth: Bydd Richard Evans, Cyfarwyddwr Castio ym Mhrydain yn dod i Goleg Llandrillo yn y cyfnod yn arwain at ddigwyddiad Cymerwch Ran i roi cyngor gwerthfawr a chanllawiau ymarferol i fyfyrwyr Celfyddydau Perfformio ar dechnegau clyweliad ym maes cystadleuol y celfyddydau, a’r realiti o gael rhan ar Lwyfan y West End.
Lisa Fox – Jungle Creations
Dydd Sadwrn a dydd Sul – Sesiwn
galw heibio o 11am
Oed – dim cyfyngiad o ran oed
Nodwch – efallai y byddwch yn
baeddu, felly peidiwch â gwisgo eich
dillad gorau!!Lleoliad y gweithdy: Cyntedd y Theatr
(llawr isaf)
Mae Lisa Fox yn gweithio o’i stiwdio
yn ei thyŷ cwch ar lannau’r Afon
Conwy, drws nesa i’r castell canoloesol enwog. Mae wedi ei chynrychioli’n llwyddiannus gan Bright Group
International yn Llundain ac Efrog
Newydd ers pum mlynedd ac wedi
darlunio dros 25 o lyfrau (yn cynnwys
un a ysgrifennodd ei hun) i nifer o
gyhoeddwyr ledled y byd yn cynnwys
Scholastic, Albert Whitman ac Autumn
Publishing.Jungle Creations: ‘Mae mor gyffrous
cael brîff am lyfr newydd, dw i’n edrych
ymlaen at gyfarfod y cymeriadau y
bydda i’n eu creu.’ Helpwch Lisa i greu ei
chymeriadau newydd ecsotig a dod â nhw’n
fyw ar arddangosfa enfawr yng nghyntedd
Venue Cymru i bawb eu gweld.
Andy Birch – Celf Graffiti
Dydd Sadwrn a dydd Sul - Sesiwn galw heibio o 11am Oed – 8+Nodwch - Mae’n hanfodol gwisgo dillad cynnes gan fod y gweithdy hwn yn cael ei gynnal allanLleoliad y gweithdy: Twnnel gwynt (llawr isaf) Bydd Andy DIMEONE Birch wrth law i ddangos ei ddawn fel artist graffiti: pan gydiodd mewn can chwistrellu a’i ddefnyddio y tro cyntaf un, gwyddai ei fod yn gwneud hynny am resymau celfyddydol.“Rwyf wedi mwynhau darlunio erioed a dyna’r ffordd yr oeddwn nid yn unig yn mynegi fy hun, ond hefyd yn sefydlu fy hunaniaeth yn yr ysgol.”Mae’r rhan fwyaf o waith Andy yn cael ei wneud gyda chan chwistrellu, gan ei fod yn credu bod hon yn dal yn ffordd dda o fynd ati’n gorfforol i greu celf a sianelu ei emosiynau. Ac mae’n mwynhau annog pobl ifanc i wneud yr un fath yn ei weithdai graffiti. “Mae popeth bob amser yn dechrau ar bapur,” meddai. “Rwy’n dangos sut rwy’n ffurfio’r llythrennau, gan ddefnyddio elfennau o’r ffordd y mae darlunwyr arwyddion yn gweithio.
4 5
CELF
Mumptown
Dydd Sadwrn a dydd Sul - Sesiwn galw heibio o 11am
Oed - dim cyfyngiad o ran oed
Nodwch - Manteisiwch ar y cyfle i weithio gyda nhw yma, mae’r rhain am fod yn
enwog Lleoliad y gweithdy - Cyntedd y Theatr (llawr isaf) Crëwch y Mumptown go iawn yn Venue Cymru - helpwch Oli a Ceri, dylunwyr graffeg
mwyaf arloesol Lerpwl, i ddod â’u cymeriadau’n fyw. Creu murlun dinas yng nghyntedd y
theatr o gymeriadau na welsoch eu tebyg o’r blaen. Ar ôl derbyn un o’r ychydig fwrsarïau
gan Brifysgol John Moore Lerpwl, crëwyd Mumptown, brand arloesol ac unigryw sy’n
hynod o boblogaidd yn Japan ac yn dod yn fwyfwy poblogaidd yn y DU.
www.mumptown.co.uk
SAND IN YOUR EYE – CERFLUNIAU TYWODDydd Sadwrn a dydd Sul (amseroedd i’w cadarnhau)Oed – 5+Nodwch – byddwch yn siwŵ r o gael tywod yn eich dillad!Lleoliad y gweithdy: Arena (llawr isaf
Diolch i Roger W Jones,Y Rhyl bydd gennym 15 tunnell o dywod yn y Venue i chi Gymryd Rhan! Mae Gweithdai Cerfluniau Tywod yn ffordd wych i blant gael hwyl gydag ychydig o hud yn ogystal â dysgu’r un pryd.Bydd y cerflunwyr yn dysgu’r plant a’u teuluoedd am y grefft fel y gallan nhw wneud i dywod sefyll fel dyn eira a chael ei siapio’n gastell.Byddwch yn rhyfeddu at yr hyn y gellir ei greu - edrychwch ar www.sandsculptureice.co.uk a dewch draw gyda’ch syniadau eich hun i greu cerflun tywod arbennig.Bydd tywod am ddim i gartrefi da ar ôl y digwyddiad (dydd Sul o 4.30pm) dewch â bwced gyda chi i’w llenwi’n llawn dop - os hoffech drefnu eich bod yn cael llwyth o dywod rwy’n siwŵ r y gallwn drefnu hyn, ffoniwch Lucy ar 01492 879771*** tywod adeiladu wedi’i olchi
Mike Harris o For Every
Occasion – Troelli Balwnau
Dydd Sadwrn a dydd Sul - 11.30am – 12.30pm
1pm – 2pm 2.30pm – 3.30pm Oed – 5+
Nodwch – Gallwch gadw lle ar gyfer y
digwyddiad hwn; rhoddir hyfforddiant i
grwpiau o 10
Lleoliad y gweithdy: Ystafell y Gogarth (llawr
isaf)Mae For Every Occasion a sefydlwyd yn 2005 yn
prysur ddod yn un o brif gwmnïau addurno balwnau
arweiniol Gogledd Cymru. Yn 2010 bu Mike i
Gynhadledd Balwnau’r Byd yn Dallas, Tecsas UDA.
Ym mis Tachwedd 2011 bu Mike mewn digwyddiad
hyfforddi mawr arall yn Swydd Rhydychen lle daeth
artistiaid balwnau ledled y byd i ddysgu dyluniadau
newydd a hefyd i gystadlu yn erbyn ei gilydd. Mike
a arweiniodd dîm y DU yn y gystadleuaeth gerflunio
fawr gan ail-greu’r Car Delorean o Back to the Future.
Bydd Mike yn dangos i chi
sut i droelli a gwneud cerflun
yn Cymerwch Ran! Bydd yn
dangos i chi beth y gallwch
ei gyflawni gydag ychydig
o ddychymyg a llawer o
falwnau.
5
Ben and Holly – Gwneud Mygydau
Dydd Sadwrn a dydd Sul: 11.15am – 12pm
12.30pm – 1.15pm 2.30pm – 3.15pm
Oed –2 – 6 oedNodwch – gallwch gadw lle ar gyfer y
digwyddiad hwn; dydym ni ddim eisiau i
bawb droi’n Ben a Holly am y penwythnos
felly dim ond 15 mwgwd y gellir ei wneud
ym mhob sesiwn.Lleoliad y gweithdy: Atriwm (llawr isaf)
Cyn eu cynhyrchiad gyda ni ar 16 a 17 Ionawr, bydd Gillian Burns
yn eich troi’n Ben a Holly gyda Gweithdai Gwneud Mygydau.
Gadewch eich brodyr a’ch chwiorydd gyda mam neu dad, taid neu
nain, ac ewch i roi cynnig ar yr holl bethau diddorol sydd ar gael
yn Cymerwch Ran heb i’ch brawd neu’ch chwaer fach ddifetha
eich hwyl. Bydd Ben a Holly yn ymddangos trwy gydol y
digwyddiad Cymerwch Ran,www.benandhollylive.comMae cyfle i ennill tocyn teulu i weld Ben and Holly
hefyd!!!!! www.benandhollylive.com
DRAMA
6
BIRMINGHAM STAGE COMPANY – JAMES AND THE GIANT PEACHSaturday Dydd Sadwrn 12pm – 12.45pm 1.15pm – 2pm 3pm – 3.45pmDydd Sul - 11am – 11.45pm 12.15pm- 1pm 1.30pm – 2.30pmOed - 5+Lleoliad y gweithdy - Ystafell Arcadia (llawr isaf)
Mae’r Birmingham Stage Company yn ôl gyda gweithdy newydd sbon am James and The Giant Peach yn seiliedig ar y stori wych gan Roald Dahl. Ymunwch ag Arweinydd y Gweithdy hwn wrth iddi wahodd pawb i fod yn actorion ac ymuno â James i greu’r ddrama a’r cyffro o stori glasurol Dahl. Cewch gyfle i fod yn bryfed enfawr a helpu James i ddianc rhag Spiker a Sponge, ei ddwy Fodryb greulon. Manteisiwch ar y cyfle arbennig hwn i fod yn rhan o’r antur!
CLYWELIADAU… CYFRINACHAU LLWYDDIANTDydd Sul 1.30pm – 3.30pm8+ oedNodwch: fod Richard yn cynnal gwahanol sesiwn bob dyddLleoliad y gweithdy: Ystafell Gyfarfod 4 (llawr gwaelod) Yn y gweithdy rhyngweithiol hwn, byddwch yn darganfod beth sydd ei angen mewn clyweliad, boed ar gyfer drama ysgol, theatr ieuenctid neu gynhyrchiad proffesiynol yn y theatr, ar y teledu neu mewn ffilm. Byddwch yn ymarfer darllen sgriptiau, gan ddychmygu eich bod mewn clyweliad go iawn a hefyd yn dysgu nifer o sgiliau a thechnegau gwerthfawr fydd nid yn unig yn eich helpu wrth fynd i glyweliadau, ond hefyd mewn agweddau eraill o’ch bywyd, nawr ac yn y dyfodol, felly dewch draw i ymuno â ni mewn sesiwn hwyliog ac arbennig.Gallwch fynd i’r naill sesiwn neu’r llall, ond maen nhw’n fwy effeithiol os byddwch yn mynd i’r ddau.Roedd Richard Evans yn actor am 10 mlynedd cyn symud i faes castio yn 1989. Ers hynny mae wedi gweithio’n llwyddiannus fel cyfarwyddwr castio ar amrywiaeth eang o gynyrchiadau ym mhob cyfrwng. Mae’n arwain gweithdai’n rheolaidd ar dechneg clyweliadau a datblygu gyrfa mewn nifer o ysgolion drama a theatr o gwmpas y byd a chyhoeddwyd ei lyfr, Auditions: A Practical Guide, gan Routledge yn 2009. Mae’n falch iawn o ddychwelyd i Cymerwch Ran am y pedwerydd tro ac mae’n edrych ymlaen at eich cyfarfod!
CYFARWYDDWR
CASTIO YN
LLUNDAIN -
RICHARD EVANSDydd Sadwrn – 11.45pm –
1.45pm Oed – 8+
Nodwch: Mae Richard yn
gyfarwyddwr proffesiynol
a bydd yn gweithio gyda
phob gallu (os ydych o dan
8 oed ac eisiau rhoi cynnig
arni, dewch draw a bydd
yn addasu ei sesiwn i’ch
anghenion chi hefyd)
Lleoliad y gweithdy: Ystafell
Gyfarfod 4 (llawr cyntaf)
EISIAU BOD YN BERFFORMIWR?Yn y gweithdy rhyngweithiol
hwn, byddwn yn trafod
uchafbwyntiau ac isel bwyntiau
actio, canu a dawnsio fel
unigolyn proffesiynol. Trafodir
y ffyrdd gorau i dorri i mewn i’r
diwydiant adloniant, cyfleoedd
hyfforddi, clyweliadau ar gyfer
pob math o gynyrchiadau a
pha sgiliau sydd eu hangen i
weithio mewn proffesiwn hynod
o gystadleuol.
YR YMDDIRIEDOLAETH GOMEDIDydd Sadwrn a dydd Sul 12pm – 1pm 1.30pm – 2.30pm 3pm- 4pmOed: 6 – 14 oedNodwch - mae cyfle i rieni a ffrindiau ddod i wylio’r perfformiadau 5 munud cyn diwedd pob sesiwnLleoliad y gweithdy: Ystafell Harlech (llawr cyntaf)Am dros 10 mlynedd mae ein rhaglenni comedi a hiwmor wedi hybu bywydau dros 8000 o bobl ifanc ar draws Glannau Mersi ac wedi cael sêl bendith athrawon a gweithwyr proffesiynol ym myd addysg o bob cwr o’r wlad. Yn y sesiynau hyn, bydd pobl ifanc yn dysgu sgiliau comedi sylfaenol cyn creu perfformiad byr gyda chomedïwr proffesiynol!“Mae Stand Out nid yn unig yn gynllun gwych i gyflwyno plant i fyd perfformio ac ysgrifennu comedi, ond y mae hefyd yn llwybr gwych iddynt ei ddilyn i feithrin eu talentau gan wybod y gwelir ffrwyth eu llafur.’’ John Bishop, Comedïwr a Noddwr yr Ymddiriedolaeth Gomedi
7
Y National Theatre – Gweithdai
Commedia dell’Arte Dydd Sadwrn a dydd Sul 11am – 1pm
2pm – 4pmOed: Gweithdai i’r Teulu yn addas i bobl ifanc
12+ oedNodwch - Gallwch gadw lle ar gyfer y
digwyddiad hwn, a gall unrhyw un o dan 12
sydd â’r agwedd iawn ymuno hefyd
Lleoliad y gweithdy: Ystafell Padarn (ail lawr)
Yn seiliedig ar themâu One Man Two Guvnors sydd wedi cael
ei henwi fel y ddrama newydd orau bydd y National Theatre yn cynnig gweithdy ymarferol i edrych
ar wreiddiau Commedia dell’Arte gan ddefnyddio perfformiadau byrfyfyr, theatr ffisegol ac adrodd
straeon. Mae Commedia dell’arte yn dalfyriad o ‘commedia dell’arte all’improviso’, a’i ystyr yw
‘comedi trwy gelfyddyd/grefft perfformio byrfyfyr’, ond cyfieithiad arall ohono yw ‘comedi’r gild’;
Mae One Man, Two Guvnors yn addasiad o The Servant of Two Masters. Mae Richard Bean, y
dramodydd wedi newid enwau’r cymeriadau, wedi addasu’r lleoliad daearyddol, a newid gwahanol
bwyntiau yn y plot, er hynny mae’n dal yn seiliedig ac yn driw i’r ddrama wreiddiol gan
Goldoni. Mae’r cynhyrchiad yn cynnwys elfennau o sioe adloniant, neuadd gerdd,
pantomeim, comedi stand-yp, a sioe pier; y cyfan, i raddau amrywiol, yn ddyledus i’r
genre commedia. Y mae gwreiddiau Commedia mewn perfformiadau byrfyfyr ac mae
hyn wedi ei gadw yn One Man Two Guvnors wrth i’r prif gymeriad, Francis, ryngweithio
â’r gynulleidfa. Trwy gael aelodau o’r gynulleidfa ar y llwyfan i’w helpu i symud y gist,
neu ofyn iddynt awgrymu ble dylai fynd â Dolly ar ei ddêt cyntaf, mae’r cynhyrchiad yn
cyfuno commedia traddodiadol â chomedi’r ugeinfed ganrif.
Mae One Man Two Guvnors yn Venue Cymru o ddydd Mercher 2 - dydd
Sadwrn 5 Ionawr 2013. Mae tocynnau ar gael am £10 yr un yn unig
i’r rhai sy’n mynd i’r gweithdy.
WEST END STAGEDydd Sadwrn a dydd Sul
11am – 11.50pm (13- 18 oed)
12pm – 12.50pm (8 – 12 oed)
1.15pm – 2.05pm (13 – 18 oed)
3pm- 3.50pm (8 – 12 oed)
Nodwch: sesiwn blasu yw hwn o’r gweithdy
wythnos dan ofal Gweithdy enwog West
End Stage a gynhelir yn Venue Cymru yn
ddiweddarach yn y flwyddyn.
Lleoliad y gweithdy: Ystafell Deganwy (llawr
cyntaf)
Mae Gweithdy West End yn dod â sêr a hud
West End Llundain i Venue Cymru! Mae hwn yn
weithdy cwbl unigryw sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc
sydd eisiau perfformio gael eu haddysgu gan sêr
go iawn o brif sioeau Llundain. Mae’r Gweithdy
wythnos hwn wedi ei gynllunio’n benodol ar gyfer
pobl ifanc 8 - 18 oed ac ar ei ddiwedd byddant
yn perfformio golygfeydd o rai o sioeau mwyaf
y West End o flaen teulu a ffrindiau! O dan
arweiniad a phrofiad tîm Gweithdy’r West End
bydd pobl ifanc yn dysgu sgiliau actio hanfodol
a sut i ymateb i’r gystadleuaeth fawr i gael rhan
mewn sioeau! P’un ai a ydych chi’n brofiadol
iawn neu am ddarganfod eich talentau cudd,
bydd Gweithdy West End yn rhoi’r hyder i chi
gyflawni eich potensial llawn.
DAWNS
8 9
CWMNI DAWNS RAMBERTLleoliad y Gweithdy: Llwyfan (llawr isaf)
Ymunwch ag aelod arbenigol o gwmni Rambert
fydd yn gyfrifol am y gweithdy ac yn eich tywys
trwy gamau’r dawnswyr proffesiynol dros gyfres
o bum gwahanol weithdy fydd wedi eu teilwra
i wahanol anghenion a galluoedd. Bydd cyfle
i chi ddysgu’r repertoire presennol y mae’r
cwmni Rambert yn ei berfformio’n genedlaethol
a rhyngwladol, a gwella eich techneg a’ch
dealltwriaeth o ddawnsio cyfoes.
DYDD SADWRN 12 IONAWR 2013Amser - 11am – 12.30pm
Oed: 10 - 14 oedBydd y gweithdy hwn yn
canolbwyntio ar Labyrinth of Love,
darn blaenllaw newydd Rambert ar
gyfer taith 2012/2013 yn y DU. Mae’r coreograffi
dan ofal Marguerite Donlan ac mae’n darlunio
cariad yn ei holl gymhlethdod, yr heriau a’r
mwynhad sy’n gysylltiedig ag ef. Mae’n gyfle
gwych i bobl ifanc sydd â diddordeb a rhywfaint
o brofiad o ddawnsio i ddatblygu sgiliau, bod
yn greadigol a chael gwell dealltwriaeth o waith
Rambert.Amser - 1.30pm – 3.30pm Oed: 14 - 18 oed
Nodwch – byddai rhywfaint o brofiad
dawnsio’n fanteisiol ond nid yw’n hanfodol
Bydd y gweithdy hwn yn cynnwys sesiwn o
dechnegau cynhesu cyfoes, ac yna, sesiwn
fydd yn dysgu symudiadau o waith newydd
Rambert - Labyrinth of Love. Mae’n gyfle gwych
i ddysgu symudiadau sydd wedi eu creu gan
rai o goreograffwyr mwyaf cyffrous y byd mewn
awyrgylch hwyliog a chefnogol.
DYDD SUL 13 IONAWR 2013
Amser: 11am – 12pm 1pm – 2pm
Oed: Mae croeso i bob oed i’r gweithdy hwn
ar gyfer y teuluSesiwn dawnsio cyfoes hwyliog a chreadigol i’r
teulu cyfan. Bydd y gweithdy hwn yn cynnwys
sesiwn cynhesu cyfoes syml ac yna bydd cyfle
i ddysgu symudiadau o repertoire presennol
Rambert. Bydd yn weithdy lefel agored fydd
yn addas i bob oed gydag ychydig o brofiad o
ddawnsio neu heb unrhyw brofiad. Rydym yn
annog gwahanol aelodau o’r teulu i gymryd rhan
gyda’i gilydd, ac yn argymell bod rhiant neu
warcheidwad yn aros yn y gweithdy ar gyfer pobl
ifanc 7 oed neu iau.Amser: 2.30pm – 3.30pm Oed: 7 – 10 oed
Yn y gweithdy creadigol a hwyliog hwn mae cyfle
i’r plant ddysgu peth o’r repertoire o un o ddarnau
cyffrous Rambert - Hush. Mae hwn yn gyfle gwych
i bobl ifanc ddatblygu sgiliau, bod yn greadigol a
chael gwell dealltwriaeth o waith Rambert.
CLOCSIOSesiynau galw heibio dydd Sadwrn a dydd Sul o 11am Oed – Pob oedNodwch – Enillydd Eisteddfod Genedlaethol yr UrddLleoliad y gweithdy – Ystafell y Gogarth (llawr isaf) Bydd Hannah Rowlands yn rhoi blas i chi ar glocsio traddodiadol gyda phwyslais arbennig ar sicrhau bod y profiad yn egnïol, ond yn bwysicach, yn llawn hwyl. Bydd cyfeiliant gan gerddorion byw, clocsiau go iawn, a chyfle i rieni a phlant ddysgu patrymau’r hen ffurf Gymreig hon o ddawnsio.
ADELE HARRIS – DAWNS A CHOREOGRAFFI
dydd Sadwrn a dydd Sul
11.30 – 12.15pm 6 – 9 oed
12.30 – 1.15pm 10 – 12 oed
2pm – 2.45pm 12 – 14 oed
3pm – 3.45pm 14+ oed
Nodwch - Coreograffi arloesol y
byddwch yn ei gofio am flynyddoedd
Lleoliad y gweithdy: Ystafell Conwy
(llawr cyntaf)
Mae Adele yn addysgu 140 o fyfyrwyr
bob wythnos ac mae ganddi 140 o
unigolion eraill sy’n awyddus i ymuno â’i
dosbarthiadau. Mae Adele wedi bod yn
addysgu ar gyfer Dawnswyr Gay Harris am
y 27 mlynedd diwethaf ac yn cynllunio’r Sioe
enwog ar gyfer Plant Iau yn ystod yr amser
hwnnw. Mae Adele wedi profi mor arloesol
yw ei choreograffi. Mae wedi dawnsio’n
broffesiynol yn y DU a thramor ac ers iddi
raddio o Merseyside Dance and Drama nid
yw wedi cael unrhyw gyfnod di-waith (sy’n
brin y dyddiau hyn). Yn ystod y gweithdai
bydd Adele yn addysgu disgyblaethau
dawns a choreograffi gyda dawnsfeydd i
gadwyn o gerddoriaeth. Bydd yn dangos
“nad oes dim i guro’r busnes sioeau”
www.thegayharisdancers.co.uk
KIERAN VERNONSesiynau galw heibio dydd Sadwrn a
dydd Sul o 11am Oed – 6 – Oedolion
Lleoliad y gweithdy: Arena (llawr isaf)
Breg-ddawnsio Poppin’ Lockin’ and
B-Boying
CERDDORIAETH
ED HOLDENSesiwn galw heibio o 11am
Oed – Unrhyw oedNodwch – yr unig beth sydd ei angen
yw eich cegLleoliad y gweithdy – (llawr isaf yr
Atriwm)Mae Ed, sy’n aml yn perfformio dan yr enw
Mr Phormula, wedi creu enw da iddo’i hun
yn sgil ei ddawn arbennig, ei waith caled
a’i ymroddiad llwyr i’r genre hip hop. Mae
brwdfrydedd Ed tuag at ei waith yn heintus ac
mae’n ysbrydoli myfyrwyr o bob oed a gallu i
arbrofi, bod yn greadigol a mynegi eu hunain.
Bydd Cymerwch Ran yn cynnwys
arddangosfa arbennig o fit-boscio-dwyieithog
a’r feistrolaeth sydd gan y cerddor talentog o
Ogledd Cymru, Mr Phormula, ar y genre hip-
hop. Mae gan Mr Phormula ddawn anhygoel
ac mae ei guriadau trawiadol, ei gynyrchiadau
slic a’r gwaith arbennig y mae’n ei wneud ar
y cyd ag eraill yn prysur newid sîn cerddorol
hip-hop yng Nghymru. Efallai eich bod
eisoes yn gyfarwydd ag Ed yn sgil y gwaith
llwyddiannus y mae wedi ei wneud ar y cyd
â bandiau fel Pep Le Pew, Genod Droog a’r
Diwygiad. Neu efallai eich bod wedi clywed
am ei waith gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg,
yr Urdd neu’r Academi. O
fit-bocsio i rapio i DJio, mae Ed
Holden yn frwd dros hip hop
ac mae’n awyddus i rannu’r
brwdfrydedd hwnnw â’r byd.
Drymio – Mathew Robertsdydd Sadwrn a dydd Sul
Amseroedd - 11am – 11.30am 11.45am – 12.15pm 1pm
– 1.30pm 1.45 – 2.15pm 2.45pm – 3.15pm
3.30pm- 4pm Oed - 6 – 15 Lleoliad y Gweithdy - Ystafell Gyfarfod 2
Nodwch – Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gyfer y sesiynau hyn er mwyn rhoi cymaint â sylw â phosibl
i’r unigolion sydd ynddynt. Rydym yn argymell eich bod yn cadw lle. Mentrodd Mathew i’r Busnes
Cerddoriaeth pan oedd ond yn 11 oed pan gododd bâr o ffyn drymio, ar ôl i’w Dad fynnu ei bod yn
dysgu darllen cerddoriaeth. Aeth ati’n gyndyn i ddysgu ei grefft newydd, nid y tu ôl i offer drymiau ond
wrth fwrdd yn dysgu theori Cerddoriaeth o lyfr! Ond unwaith yr oedd wedi profi ei fod yn gallu darllen
cerddoriaeth, prynodd ei Dad ei offer drymiau cyntaf iddo. O’r diwrnod hwnnw ymlaen cydiodd ei
ddiddordeb mewn drymio. Drwy ddilyn y llwybr hwn, mae Mathew wedi cael sawl profiad cerddorol
na fyddai wedi bod yn bosibl oni bai fod ganddo sylfaen gadarn mewn theori cerddoriaeth. Mae
Mathew wedi mynd yn ei flaen i berfformio’n broffesiynol, yn ogystal ag addysgu pan mae ganddo
amser - mae ei ddisgyblion yn canmol ‘Matty’ i’r cymylau ac yn cael hwyl yn ei sesiynau. Mae Mathew
yn addysgu chwarae’r drymiau ar gyfer Yamaha yn ogystal â theithio o gwmpas y wlad gyda’i lais
canu arbennig. Bydd Mathew yn cynnal sesiynau drymio i 5 o unigolion yn unig ar y tro, felly rydym yn
argymell yn gryf eich bod yn cadw lle.9
PERFFORMIADAU CERDDOROL KEYSTRINGS Dydd Sadwrn a dydd SulPerfformiadau am 11.30 – 12.30pm a 2.15pm – 3.15pm Oed – Pob oedLleoliad y perfformiadau: Llwyfan yr Arena (llawr isaf)Ffurfiwyd Key Strings dros 15 mlynedd yn ôl gan athrawon cerdd profiadol. Mae’r bobl broffesiynol sy’n aelodau o Key Strings yn defnyddio eu profiad helaeth mewn cerddoriaeth ac addysg ym mhob sesiwn. Gyda chefndir ym maes cerddoriaeth ac addysg, mae ein tîm yn arbenigo mewn darparu addysg gerddorol arbennig, wedi ei becynnu’n brofiad cofiadwy a hwyliog, i’ch ysgol gyfan!Rydym yn cyfleu elfennau addysgol pwysig y cwricwlwm, ond hefyd yn rhoi cyfle i’r plant weld bod CERDDORIAETH YN HWYL• Mae Key Strings yn cyflwyno plant i’r offerynnau llinynnol yn y gerddorfa gan ddangos unawdau a cherddoriaeth ensemble o wahanol arddulliau, cyfnodau, diwylliannau a genres• Cyflwynir ein rhaglenni gyda hiwmor, dychymyg a chreadigrwydd. Yn ogystal â chanolbwyntio ar brif elfennau cerddoriaeth sydd yn y Cwricwlwm Cenedlaethol, maen nhw hefyd yn cysylltu â nifer o bynciau trawsgwricwlaidd eraill. Mae’r plant yn cael profiad o gerddoriaeth fyw strwythuredig gyda phwyslais ar wrando, gwerthfawrogi a chymryd rhan.
LLENYDDIAETH
Y DDAU STEVE Barlow sy’n gwneud y cytseiniaid, Skidmore y llafariaid ac rydym yn dadlau yngly n â’r atalnodi!dydd Sadwrn a dydd SulOed – pob oedLleoliad y perfformiad: Mezzanine (llawr cyntaf)
ACTION DOGS 12pm – 1pmGêm ryngweithiol fywiog a hwyliog yn seiliedig ar y gyfres Action Dogs.
I HERO 2.30pm – 3.30pmGêm ryngweithiol fywiog a hwyliog yn seiliedig ar y gyfres I Hero.Mae Steve Barlow yn dal a blewog, yn wahanol i Steve Skidmore! Gyda’i gilydd, dyma ddau o’r awduron a’r perfformwyr comedi mwyaf poblogaidd i bobl ifanc. Cyfarfu’r ddau Steve dros ugain mlynedd yn ôl pan oedd y ddau’n athrawon yn Nottingham. Ers hynny maen nhw wedi ysgrifennu dros 150 o lyfrau gyda’i gilydd. Maen nhw hefyd wedi bod yn olygyddion nifer o raglenni darllen i nifer o’r prif dai cyhoeddi. Yn ogystal â’u cyfresi ffuglen poblogaidd fel Action Dogs, Challenger, iHero, iHorror, Mad Myths, Vernon Bright a The Dark Forest, maen nhw wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ffeithiol, sgriptiau teledu ac wedi golygu nifer o ddramâu. Maen nhw hefyd yn ysgrifennu llawer o ddeunydd ar gyfer darllenwyr anfoddog. Os na allwch chi aros tan fis Ionawr gallwch lawrlwytho “Colin The Barbarian” am ddim heddiw ar gyfer eich iphone, ipod neu ipad!!!!!!
10
FIONA COLLINS – ADRODD STRAEONdydd Sadwrn a dydd Sul
Adrodd straeon: 11am – 11.30am
12.30pm – 1pm 1.15pm – 1.45pm
2pm – 2.15pm
Gweithdai adrodd straeon:
3.15pm - 4pmOed: Croeso i bob oed
Nodwch: Byddwch yn clywed
Fiona yn galw pan mae’n amser
clywed ei straeon gwych
Lleoliad y gweithdy: Y tu mewn
i’r Luminarium ARBENNIG yn yr
Arena (llawr isaf)
Adrodd Straeon yn Cymerwch Ran
2013Ddydd Sadwrn bydd Fiona, storïwr
arbennig Venue Cymru, yn adrodd
straeon i blant a phobl o bob oed.
Os ydych eisiau ymlacio am ychydig,
yna, y Cylch Stori yw’r lle i chi!
Ddydd Sul, bydd storïwr Ifanc y
Flwyddyn, Bronwen Hughes ac eraill
(12-18 oed) yn ymuno ag aelodau o
Gylch Stori Venue Cymru (8 -12 oed)
i adrodd straeon a’ch ysbrydoli i roi
cynnig arni eich hun.
10
CYFRYNGAU DIGIDOL
11
FFILMIAU PENIGAMPDydd Sadwrn a dydd Sul
Amser- 11am – 11.45am 12pm –
12.45pm 1.15pm – 2pm 2.15pm –
3pm 3.15pm – 4pm
Oed: 8+Nodwch: Gallwch gadw lle ar gyfer y
digwyddiad hwn
Lleoliad y gweithdy: Theatr Ddarlithio
(ail lawr) ac Ystafell Alwen (ail lawr)
Arddangosiadau Digidol gyda Ffilmiau
PenigampVJio: Dysgwch sut i weithio a chyfuno
eich fideo a’ch clipiau cerddorol chi eich
hun i greu celf glywedol drawiadol.
Effeithiau Arbennig: Profwch fyd
cyffrous Effeithiau Arbennig a manteisiwch
ar y cyfle i ddarganfod sut y gallwch eu
creu eich hun.
Animeiddio: Mentrwch i fyd techneg
animeiddio stop-symud lle nad yw popeth
fel y mae’n ymddangos
Stribed Comic: Beth am ddarganfod
hwyl Comic Life a dod â’ch cymeriadau
animeiddiedig eich hun yn fyw gyda
ffotograffau a thestun
CYFRYNGAU DIGIDOLCambrian PhotographyDydd Sadwrn a dydd Sul - 11am – 12pm 12.30pm – 1.30pm 1.45pm -2pm 2.30pm – 3.30pm Nodwch: Bydd cyfarpar ar gael, ond os ydych eisiau dod â’ch cyfarpar eich hun, bydd yr hyfforddwr yn dangos sut i wneud y defnydd gorau ohono Lleoliad y gweithdy: Ystafell Rhuddlan (llawr cyntaf) Gan weithredu’n annibynnol i Cambrian Photography Ltd. Mae Gweithdy Ffotograffig Cambrian yn Fenter Gymdeithasol sydd wedi ei lleoli yn y Stiwdio yn 87-89 Ffordd Abergele, Bae Colwyn. Y nod yw cynnig cyfleoedd dysgu a datblygu personol i unigolion sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau ffotograffiaeth creadigol a thechnegol.Byddwch yn dysgu am yr holl nodweddion pwysig ar eich camera. Bydd hyn yn helpu i gael y llun gorau posibl. Cewch gyfle i ddysgu am y sgiliau sy’n gysylltiedig â goleuo stiwdio, trwy ein harddangosiadau a’n sesiynau ymarferol. Byddwch yn gadael yn llawer mwy hyderus ac yn barod i arbrofi gyda ffynonellau golau artiffisial.
HEART RADIODydd Sadwrn a dydd Sul
Sesiynau galw heibio o 11am
Lleoliad y gweithdy: Atriwm (llawr isaf)
Sut byddech chi’n swnio wrth ddarlledu ar y
radio? Dysgwch am y triciau o fod ar yr awyr
a chrëwch eich sioe radio eich hun gydag
Angylion Heart a’u stiwdio ryngweithiol
arbennig!!
TUDNO FM A’R RADIO YN CYMRYD RHAN!Gwyliwch –efallai y cewch eich cyfweld ar y radio fel rhan o Cymerwch Ran, helpwch Disco Dave ar Tudno FM i ddarlledu’r digwyddiad, dywedwch wrtho pa weithdai yw’r gorau a pha rai ydych chi wedi mwynhau Cymryd Rhan ynddyntYn chwarae eich hoff gerddoriaeth ac yn cynnal cystadlaethau trwy’r dydd. ŷ
Venture Photography Bydd
Venture Photography yn arddangos trwy’r
penwythnos, byddant yn tynnu ffotograffau
proffesiynol o’ch teulu a gallwch eu prynu ar
ôl y digwyddiad
Lleoliad yr Arddangosfa: Ystafell y
Gogarth (llawr isaf)
HWYL I’R TEULU
12 13
LEGOBright Bricks – creu mosaigau cyhoeddusSesiynau Galw i Mewn dydd Sadwrn a dydd Sul o 11amOed – 5+O.N. – Dim mwy na 40 ar y tro, ond ni ellir archebu ar gyfer y digwyddiad hwn, felly cymerwch gyngor oddi wrth y stiwardiaid y disgwylir i’r digwyddiad hwn fod yn brysurGofod y Gweithdy - Arena (llawer gwaelod) Yn Bright Bricks rydym wrth ein bodd gyda LEGO®. Rydym yn creu popeth o hyrwyddiadau brand mawr sy’n denu llygaid y tyrfaoedd a phrosiectau llawn ysbrydoliaeth fel y model ffantastig o’r Stadiwm Olympaidd i’r goeden Nadolig 40 troedfedd yng Ngorsaf Ryngwladol St Pancras yn Llundain, model sy’n gweithio o beiriant awyren Rolls-Royce a phortreadau, digwyddiadau ac anrhegion LEGO a gomisiynwyd yn unigol.Un o’n gweithgareddau mwyaf poblogaidd yw cynnal gweithdai, ble gallwch chi, y cyhoedd, ddod draw a helpu i adeiladu creadigaeth LEGO wych. Un sy’n ffefryn gan y dyfra yw’r mosaigau LEGO mawr yr ydym wedi eu creu mewn digwyddiadau ledled y DU ble gall cyfranogwyr adeiladu eu rhan hwy eu hunain o waith celf LEGO anferth. Rydym yn awyddus iawn i ddod â gweithdy creu mosaig i’r digwyddiad celf a llên Cymerwch Ran!, felly os ydych eisiau bod yn rhan o greu darn celf LEGO ffantastig, yna dewch draw ac ymuno yn yr hwyl.
ADLONIANT ‘HTC ENTERTAINMENTS’Sesiwn Galw i Mewn Dydd Sadwrn a Dydd Sul o 11am. Dysgwch holl sgiliau’r Syrcas gyda Harley y Clown Perfformiad Syrcas am 1.30pm Dewch i weld Harley hapus a llon yn y sioe syrcas rhyngweithiol hon
ROLER DISGODydd Sadwrn a Dydd Sul o 11am
Oed – Pob Oed O.N. Bydd cyfyngiad ar faint o bobl gaiff
eu caniatáu ar y rinc / disgwylir ciwiau
***£1 am logi sglefrwyr maint 8 plant –
maint 12 oedolionGofod Gweithdy: Arena (llawr gwaelod)
PAENTIO WYNEBAU GYDA
‘KALEIDESCOPE FACES’Dydd Sadwrn a Dydd Sul o 11.30am
O.N. £1 o gyfraniad at Hosbis Dewi Sant
***Ciwiau’n debygol – yn yr Atriwm (llawr
gwaelod)
GEMAU ANFERTHGwyddbwyll AnferthConnect 4 AnferthOperation AnferthTwister AnferthLEGO AnferthBownswyr Gwynt Anferth
NINTENDO WIIChwaraewch eich
holl ffefrynnau
Mario ar sgrin
8 troedfedd yn
Ystafell Orme
(llawr gwaelod)
PUNCH A JUDYMae Mr Bimbamboozle yn perfformio am 12pm, 1.30pm a 3pm yng Nghyntedd y Theatr (llawr gwaelod)
13
PERFFORMIO
CYMERWCH RAN – AMSERLEN PERFFORMIO
11.30am - 12.30pm Perfformiad Cerddorol Keystrings yn yr Arena
12pm - 1pm Y Ddau Steve yn cyflwyno Action Dogs ar y Mezzanine
12pm - 12.45pm Pwnsh a Jiwdi Mr Bimbamboozle yng Nghyntedd y Theatr
12.30pm - 1.30pm Smallworld Theatre yn cyflwyno Tales from the Taiga yn yr Arena
1.30pm - 2pm Sioe Syrcas HTC yn yr Arena
1.30pm - 2.15pm Pwnsh a Jiwdi Mr Bimbamboozle yng Nghyntedd y Theatr
2.30pm - 3.30pm Keystrings yn yr Arena
2.30pm - 1.30pm Y Ddau Steve yn cyflwyno I-Hero ar y Mezzanine
3pm - 3.45pm Pwnsh a Jiwdi Mr Bimbamboozle yng Nghyntedd y Theatr
3.30pm - 4.30pm Smallworld Theatre yn cyflwyno Tales from the Taiga yn yr Arena
Mae mwy o berfformiadau i’w hychwanegu at y rhestr hon yn ogystal â pherfformiadau byrfyfyr
trwy gydol y dydd
FLASHMOB gyda Dawns i BawbDydd Sadwrn YN UNIG; cyfarfod i ymarfer am 10am
Lleoliad y Ymarfer – Ystafell St David
Flashmob yw grw p o bobl sy’n ymgynnull yn sydyn mewn lle
cyhoeddus, perfformio gweithred anarferol sydd weithiau’n ymddangos yn ddibwynt am gyfnod
byr, ac yna’n gwahanu, yn aml er mwyn creu adloniant, dychan neu fynegiant artistig.Bydd
Dawns i Bawb yn trefnu Flashmob Dawns yn Cymerwch Ran. Bydd y darn yn cael ei drefnu o
10am a’i berfformio’n ddigymell bob hyn a hyn yn Venue Cymru drwy gydol y dydd.
I gymryd rhan yn hyn, cysylltwch â lucy.smith1@venuecymru.co.uk
Smallworld TheatrePerfformiadau dydd Sadwrn a dydd Sul am 12.30pm a 3.30pmLleoliad y Gweithdy a’r Perfformiad: Arena (llawr isaf)Mae hon yn stori dylwyth teg fodern, wedi ei haddasu o lên gwerin draddodiadol Nanai amw r ifanc caredig. Mae ein harwr yn byw mewn byd arctig lle mae creaduriaid rhyfeddol yn byw fel teigrod Siberia, stwrsiwn enfawr a llawer mwy. Trwy ddatys tair tasg amhosibl, mae’n llwyddo i ennill y ferch hardd. Wrth i’r haul isel a fflamau’r tân daflu eu cysgodion hir, mae Small World Theatre yn denu sylw’r gynulleidfa a’u dwyn i mewn i’r stori hudolus hon lle nad yw’r cysgodion bob amser yn ddu a gwyn…
s4c.co.uk/
stwnsh
12.01.2013
Ymuna yn yr hwyl gwallgo’
gydag Anni a Lois!
Join in crazy fun and games
with Anni and Lois!
January Event ad.indd 1 23/11/2012 16:01
13.01.2013
Sesiynau canu a dawnsio gyda
Trystan, Gareth a Dona Direidi!
Sing and dance with Trystan,
Gareth and Dona Direidi!
s4c.co.uk/cyw
January Event ad.indd 2 26/11/2012 14:17
Drop In Sessions
For Every Occasion
Balloon Artists
8ft Nintendo Wii
Venture Photography
Clogdancing
Breakdancing
Storytelling
Circus Skills
Roller Disco
Sandinyoureye Sand Sculptures
Smallworld Theatre
Keystrings
Dawns i Bawb
Top Notch Films
Top Notch Films
s4cNational Theatre
Birmingham Stage
Company
CYNLLUN LLAWR // FLOOR PLAN
top related