amgueddfa lechi cymru - digwyddiadau hydref gaeaf 2012-13

2

Click here to load reader

Upload: amgueddfa-cymru

Post on 13-Mar-2016

237 views

Category:

Documents


4 download

DESCRIPTION

Tach 2012 - Chwe 2013: Digwyddiadau / Arddangosfeydd

TRANSCRIPT

Page 1: Amgueddfa Lechi Cymru - Digwyddiadau Hydref Gaeaf 2012-13

Hwyl i’r TeuluSgyrsiau a Theithiau

Amgueddfa Lechi CymruDigwyddiadau Yr Hydref a’r Gaeaf

www.amgueddfacymru.ac.uk(029) 2057 3700

Page 2: Amgueddfa Lechi Cymru - Digwyddiadau Hydref Gaeaf 2012-13

Digwyddiadau Rheolaidd Sgyrsiau a TheithiauAmryw ddyddiadau ac amseroedd,ffoniwch yr Amgueddfa neu ewch i’r wefan

Dewch i fwynhau un o’n teithiau cerdded,sgyrsiau neu arddangosiadau. Cewch weldllechen yn cael ei hollti, dysgu pam oeddcoed yn bwysig yn hanes llechi, mwynhausgyrsiau tu ôl i’r llenni gyda’n curaduron achyfarfod ag injan y chwarel, UNA!

Am ddim Codir tâl Teuluoedd Ymarferol

ArddangosfeyddDathlu’r Deugain Tan ddydd Llun 31 Rhagfyr

Yn 2012, mae Amgueddfa Lechi Cymru’ndathlu ei phen-blwydd yn ddeugain oed!Ers 1972, rydym ni wedi croesawu bron idair miliwn o ymwelwyr. Dewch i glywedam hynt a helynt yr Amgueddfa dros yddeugain mlynedd diwethaf yn einharddangosfa newydd sbon sydd hefydyn trafod pa mor amrywiol a pherthnasolyw ein hamgueddfeydd diwydiannol yngNghymru.

John Neville Foulkes(1937-1997)Iau 28 Chwefror-Gwe 26 Ebrill Detholiad o waith yr artist a’r cerflunydddiweddar fu’n gweithio am flynyddoeddlawer yn Chwarel Lechi Dinorwig.Cafodd hyneffaith ddwys arei feddyliau a’isyniadau, sy’namlwg yn yrarddangosfa hon.

2 Am ragor o wybodaeth am bob digwyddiad, ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3700

Digwyddiadau i’r TeuluFfair AeafSul 25 Tachwedd, 11am-4pmDewch i weld Santa’n cyrraedd ar drên acymweld ag ef yn ei ogof. Bydd cyfle ifwynhau crefftau Nadoligaidd, ymweld âTai'r Chwarelwyr yn eu gogoniantNadoligaidd, adrodd straeon, sioe bypedaua digonedd o hwyl yr wyl i’r teulu cyfan. Mins pei am ddim gyda phob paned o deneu goffi a brynir yng Nghaffi'r Amgueddfatan 31 Rhagfyr 2012. Am oriau agor dros yNadolig a’r Flwyddyn Newydd, ffoniwch

(029) 2057 3700 neu ewch i’r wefan.

Cariad at Garreg!Sul 20 Ionawr, 1pm-3pm Galwch draw i addurno calon lechen irywun arbennig.

Sioe Trenau Bach Iau 14-Sul 17 Chwefror, 10am-4pm

Bydd arddangosiadau, sgyrsiau dyddiol acamrywiaeth o injans a threfniannau o boblliw a llun. Cofiwch ddod â’ch trenau lled 00eich hun i’w defnyddio ar y trac prawf i blant!

Dydd Gwyl Dewi Gwener 1 Mawrth, 11am-3pm Bydd teisen gri am ddim i bawb yngnghaffi’r Amgueddfa!

1972 - 2012

Dyl

un

io a

ch

ynh

yrch

u g

an M

ediadesign w

ww.m

ediadesign-w

ales.co.uk 01874 730748

Arolwg Llyfryn DigwyddiadauDyma'ch cyfle chi i gael dweud eichdweud am y llyfryn Digwyddiadau!Byddwn yn ddiolchgar pe bai modd i chiroi ychydig funudau o'ch amser i lenwiholiadur ar-lein: www.amgueddfacymru.ac.uk/arolwgdigwyddiadau. Diolch.