adroddiad ymgynghori statudol · 2019. 5. 15. · ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori byddwn yn paratoi...

13
...yn ymwneud â’r cynnig i ffederaleiddio Ysgol Bro Tryweryn ac Ysgol Ffridd y Llyn Medi 2017 Adroddiad Ymgynghori Statudol Ysgol Bro Tryweryn Ysgol Ffridd y Llyn

Upload: others

Post on 17-Feb-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • [1]

    ...yn ymwneud â’r cynnig i ffederaleiddio Ysgol Bro Tryweryn ac Ysgol Ffridd y Llyn

    Medi 2017

    Adroddiad Ymgynghori Statudol

    Ysgol Bro Tryweryn Ysgol Ffridd y Llyn

  • [2]

  • [3]

    Cynnwys

    1 Cyflwyniad............................................................................................................... 4

    2 Cefndir............................... .................................................................................... 4

    3 Yr Ymgynghoriad Statudol...................................................................................... 4

    4 Cyfarfodydd............................................................................................................. 5

    5 Ymatebion i’r ymgynghoriad .................................................................................. 5

    6 Casgliad .................................................................................................................. 6

    Atodiad 1 - Llythyr i rieni, staff a llywodraethwyr parthed y bwriad i gynnal

    ymgynghoriad

    Atodiad 2 – Ffurflen Ymateb - Llywodraethwyr

    Atodiad 3 – Taflen wybodaeth i rieni

    Atodiad 4 – Ffurflen Ymateb – Cyngor Ysgol

    Atodiad 5 – Ymateb Corff Llywodraethol Ysgol Ffridd y Llyn

  • [4]

    1. Cyflwyniad 1.1 Mae Cyngor Gwynedd wedi cynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig i ffederaleiddio Ysgol Bro Tryweryn ac

    Ysgol Ffridd y Llyn erbyn 30 Hydref 2017. Yn unol â gofynion y Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir yng

    Nghymru (2014) mewn perthynas ag ysgolion bach, cynhaliwyd yr ymgynghoriad gyda chyrff llywodraethol yr

    ysgolion dan sylw, yn ogystal â chyngor ysgol y ddwy ysgol.

    1.2 Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 8 Mehefin a 6 Gorffennaf 2017.

    1.3 Mae’r rheoliadau yn ei gwneud hi’n ofynnol ar unrhyw gynigydd gyhoeddi adroddiad ymgynghori yn dilyn

    cwblhau cyfnod ymgynghori - dyma bwrpas y ddogfen hon.

    2. Cefndir

    2.1 Yn fis Mai 2016, derbyniwyd gohebiaeth gan gyrff llywodraethu Ysgolion Bro Tryweryn a Ffridd y Llyn yn datgan

    diddordeb i ffederaleiddio’r ddwy ysgol erbyn Medi 2017/Ionawr 2018. Yn dilyn hynny, ffurfiwyd gweithgor o

    lywodraethwyr y ddwy ysgol i ystyried a thrafod yr opsiynau ffederaleiddio a gwahoddwyd yr Awdurdod Addysg i

    fod yn rhan o’r trafodaethau hynny.

    2.2 Yn dilyn cyfres o gyfarfodydd, penderfynodd y gweithgor, ar y cyd hefo’r Awdurdod Addysg, y dylid cynnal

    ymgynghoriad ffurfiol ar yr opsiwn o ffederaleiddio’r ddwy ysgol. Er mwyn symleiddio’r broses, ac i ganiatáu

    ffederaleiddio’r ysgolion ynghynt, gofynnwyd i’r Awdurdod Addysg arwain ar y broses ymgynghori statudol, a

    hynny yn unol â gofynion y Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir yng Nghymru (2014).

    2.3 O ganlyniad, penderfynwyd cynnal proses ymgynghori statudol gyda chyrff llywodraethol Ysgol Bro Tryweryn ac

    Ysgol Ffridd y Llyn ar y cynnig i ffederaleiddio’r ddwy ysgol erbyn 30 Hydref 2017.

    3. Yr ymgynghoriad statudol 3.1 Dosbarthwyd copïau caled ac electroneg o’r ddogfen ymgynghori statudol, ynghyd a llythyr cefndirol (Atodiad 1)

    i rieni, staff a llywodraethwyr y ddwy ysgol ar ddydd Iau, 8 Mehefin 2017.

    3.2 Cyhoeddwyd y ddogfen ymgynghori ynghyd a’r daflen wybodaeth i rieni ar wefan Cyngor Gwynedd ar 8 Mehefin 2017, yn ogystal. (www.gwynedd.llyw.cymru/moderneiddioaddysg)

    3.3 Gan fod Ysgol Bro Tryweryn ac Ysgol Ffridd y Llyn yn cael eu diffinio fel ysgolion bach yn unol â diffiniad

    Gorchymyn Addysg (Ysgol Bach) Cymru 2014, roedd gofynion y broses ymgynghori ychydig yn llai na’r broses arferol. Felly, yn unol â gofynion y Rheoliadau Ffederaleiddio, ymgynghorwyd gydag aelodau’r cyrff llywodraethu a’r cynghorau ysgol perthnasol yn unig, a hynny am gyfnod o 20 diwrnod, rhwng 8 Mehefin a 6 Gorffennaf 2017.

    3.4 Paratowyd fersiwn arbennig o’r ddogfen ymgynghori ar gyfer plant cynradd yn ogystal. Dosbarthwyd copïau

    electroneg o’r ddogfen hon i’r ddwy ysgol, a cyhoeddwyd y ddogfen ar wefan y Cyngor. Hwyluswyd yr ymgynghoriad gydag aelodau cyngor ysgol y ddwy ysgol gan y penaethiaid. Cynhaliwyd y sesiwn ymgynghorol gyda disgyblion Ysgol Bro Tryweryn ar 5 Gorffennaf 2017 a gyda disgyblion Ysgol Ffridd y Llyn ar 30 Mehefin 2017.

    3.5 Er mwn hwyluso’r broses o gyflwyno sylwadau, lluniwyd ffurflen ymateb bwrpasol ar gyfer y ddau gorff

    llywodraethol (Atodiad 2). Dosbarthwyd copïau caled ac electroneg o’r ffurflen i’r llywodraethwyr. Lluniwyd holiadur ar gyfer y Cyngor Ysgol yn ogystal (Atodiad 4).

    3.6 Cyhoeddwyd fersiynau dwyieithog o’r holl ddogfennau a gyfeirir atynt uchod.

    https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Ysgolion-a-dysgu/Moderneiddio-Addysg/Cynnig-i-Ffederaleiddio-Ysgol-Bro-Tryweryn-ac-Ysgol-Ffridd-y-Llyn.aspx

  • [5]

    4. Cyfarfodydd

    4.1 Cyn cychwyn ar y broses ymgynghori statudol, cynhaliwyd cyfarfod gyda’r Gweithgor Ffederaleiddio ar 29 Mawrth 2017 a 24 Ebrill 2017.

    4.2 Yn ogystal â swyddogion ar ran Adran Addysg Cyngor Gwynedd, roedd penaethiaid, cadeiryddion a rhiant lywodraethwyr y ddwy ysgol yn bresennol yn y cyfarfodydd a nodir uchod.

    5. Ymatebion i’r ymgynghoriad

    5.1 Ymateb y cyrff llywodraethol

    5.1.1 Derbyniwyd ymateb gan gorff llywodraethol Ysgol Ffridd y Llyn (atodiad 5). Fe nodwyd yn yr ymateb fod y corff yn gefnogol o’r cynnig i ffederaleiddio Ysgol Bro Tryweryn ac Ysgol Ffridd y Llyn erbyn 30 Hydref 2017. Yn ogystal â hynny, nodwyd fel a ganlyn:

    “Mae’r corff yn credu mai ffederasiwn gydag Ysgol Bro Tryweryn sy’n cynnig y dyfodol mwyaf llewyrchus i Ysgol Ffridd y Llyn ar gyfer y dyfodol, gan elwa o gydweithio a rhannu arbenigeddau, adnoddau a threfniadau.”

    5.1.2 Ni dderbyniwyd unrhyw sylwad gan gorff llywodraethol Ysgol Bro Tryweryn.

    5.2 Ymateb y cynghorau ysgol

    5.2.1 Derbyniwyd nifer 34 o ymatebion unigol gan ddisgyblion Ysgol Ffridd y Llyn ac 1 ymateb torfol gan Gyngor Ysgol Ysgol Bro Tryweryn. Dyma grynodeb o sylwadau/ymatebion disgyblion Ysgol Ffridd y Llyn ac Ysgol Bro Tryweryn:

    Ysgol 1. Sut wyt ti’n teimlo am hyn?

    Ysgol Ffridd y Llyn 12 15 7

    Ysgol Bro Tryweryn 17 7 0

    Cyfanswm 29 22 7

    Unrhyw sylwadau eraill?

    Ysgol Ffridd y Llyn Derbyniwyd un ymateb oedd yn nodi fod y cynnig yn syniad da.

    Ysgol Bro Tryweryn -

    2. Oes yn unrhyw beth yn dy boeni am hyn?

    Ysgol Ffridd y Llyn

    Derbyniwyd 25 ymateb yn nodi nad oedd ganddynt bryderon, ac 1 ymateb yn nodi fod ganddo ef/hi bryderon.

    Cafwyd rhai ymatebion yn nodi’r pryder y byddai’r newid yn arwain at fwy o ddisgyblion, gydag un yn pryderu y byddai yna ormod o ddisgyblion ar dripiau ysgol neu dimau chwaraeon.

    Nododd un ymatebydd nad oedd ef/hi yn deall yr hyn fyddai’r newid yn Ysgol Bro Tryweryn/Ysgol Ffridd y Llyn fel rhan o’r newid.

    Nododd un unigolyn ei fod ef/hi yn hoffi gwneud gweithgareddau fel ysgol unigol.

  • [6]

    5.2.2 Fe ymddengys o’r ymatebion i’r ymgynghoriad gyda disgyblion fod mwyafrif y disgyblion ar y cyfan yn fodlon

    gyda’r cynnig i ffederaleiddio’r ddwy ysgol. Mae Cyngor Gwynedd yn gwerthfawrogi barn disgyblion yr ysgolion, ac yn falch o weld yr holl sylwadau positif a chefnogol o’r newid arfaethedig. Yn ogystal, bydd y Cyngor yn cymryd i ystyriaeth unrhyw bryderon a nodwyd ac yn gwneud pob ymdrech i leddfu’r pryderon hynny pe gweithredir y cynnig.

    6. Casgliad 6.1 Wrth ystyried a phwyso a mesur yr ymatebion i’r ymgynghoriad, a oedd ar y cyfan yn gefnogol, deuir i’r

    casgliad y dylid parhau â’r cynnig i ffederaleiddio Ysgol Bro Tryweryn ac Ysgol Ffridd y Llyn. Mae’r Awdurdod yn parhau i fod yn llwyr gefnogol o’r cynnig i ffederaleiddio’r ddwy ysgol ac yn grediniol y bydd y cynnig hwn yn golygu cryfhau’r cydweithio rhwng y ddwy ysgol drwy rannu un pennaeth ac un corff llywodraethol. Yn ogystal, bydd yn arwain at sefydlogrwydd o ran arweinyddiaeth yr ysgolion i’r dyfodol a manteision cyllidol i’r ddwy ysgol.

    Ysgol Bro Tryweryn

    Nodwyd pryderon ynglŷn â threfniadau’r eisteddfod pe byddai’r ysgol yn ffederaleiddio.

    Yn ogystal, fe holwyd beth fyddai’r trefniadau gyda twrnament chwaraeon a thripiau ysgol.

    3. 4. Beth hoffet ti weld yn digwydd fel rhan o’r newid yma?

    Ysgol Ffridd y Llyn

    Derbyniwyd sawl ymateb oedd yn nodi’r gobaith i gael tripiau ysgol gwell ac ar y cyd.

    Yn ogystal, roedd rhai ymatebwyr yn gobeithio y byddai’r newid yn cael effaith bositif ar weithgareddau megis chwaraeon a rygbi. Nododd un ymatebydd i’r gwrthwyneb trwy ddatgan nad oedd ef/hi eisiau cymryd rhan mewn gweithgareddau ar y cyd.

    Cafwyd un ymateb oedd yn nodi nad oedd ef/hi eisiau i’r newid ddigwydd, ac ymateb arall yn nodi y byddai’n well ganddo ef/hi wneud gweithgareddau ar wahân.

    Nododd sawl unigolyn eu bod yn gobeithio cael ffrindiau newydd o ganlyniad i’r newid, gydag un ymatebydd yn nodi’r gobaith y byddai pawb yn hapus.

    Ysgol Bro Tryweryn

    Nodwyd y byddai’r disgyblion yn dod i adnabod ei gilydd yn well, ac hefyd yn adnabod ei gilydd yn barod cyn trosglwyddo i’r ysgol uwchradd.

    Cynigwyd y byddai’n rhoi cyfle i rannu syniadau newydd ar gyfer tasgau yn y dosbarth.

    Yn ogystal, nodwyd y byddai’n rhoi cyfle i rannu gweithdai rhwng y ddwy ysgol .

  • Addysg / Education Pennaeth Addysg (Dros Dro) / Head of Education (Interim) – Garem Jackson

    Swyddfa’r Cyngor Caernarfon Gwynedd LL55 1SH 01766 771000 www.gwynedd.gov.uk

    Gofynnwch am/Ask for: Garem Jackson (01286) 679467 Ein Cyf / Our Ref: GJ/AS

    (01286) 677347 Eich Cyf / Your Ref: [email protected]

    8 Mehefin 2017 At: Cyrff Llywodraethol Ysgol Bro Tryweryn ac Ysgol Ffridd y Llyn

    Par: Ymgynghori ar y cynnig i ffederaleiddio Ysgolion Bro Tryweryn a Ffridd y Llyn Rhwng 8 Mehefin a 13:00 ar 6 Gorffennaf, byddem yn cynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig i

    ffederaleiddio Ysgol Bro Tryweryn ac Ysgol Ffridd y Llyn. Hoffai Cyngor Gwynedd i chi gyflwyno eich barn fel

    bod modd eu hystyried cyn dod i benderfyniad ar y cynnig.

    Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori byddwn yn paratoi adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad er mwyn

    ymateb i’ch sylwadau a phenderfynu os dylid parhau â’r cynnig i ffederaleiddio ai pheidio.

    Gweler ynghlwm gopi o’r ddogfen ymgynghori i’ch sylw. Byddwn yn ddiolchgar petaech yn gallu cyflwyno

    eich sylwadau ar y cynnig erbyn 6 Gorffennaf 2017 os gwelwch yn dda. Fel nodir yn y ddogfen, yn unol â

    gofynion y Rheoliadau Ffederaleiddio 2014 ar gyfer ysgolion bach, mae’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal

    gyda chyrff llywodraethol a chynghorau ysgol y ddwy ysgol yn unig.

    Mae copi o’r ddogfen hon, a phapurau cefndirol eraill, ar gael ar wefan y Cyngor

    www.gwynedd.llyw.cymru/trefniadaethysgolion ac yn eich ysgol a’r llyfrgell leol. Am unrhyw wybodaeth

    bellach ynglŷn â’r broses ymgynghori, gallwch gysylltu â Gwenno Haf Evans, Swyddog Moderneiddio

    Addysg, ar y cyfeiriad e-bost canlynol: [email protected]

    Yn gywir,

    Garem Jackson Garem Jackson Pennaeth Addysg (Dros Dro)

    http://www.gwynedd.llyw.cymru/trefniadaethysgolionmailto:[email protected] BoxATODIAD 1

  • Addysg / Education Pennaeth Addysg (Dros Dro) / Head of Education (Interim) – Garem Jackson

    Swyddfa’r Cyngor Caernarfon Gwynedd LL55 1SH 01766 771000 www.gwynedd.gov.uk

    Gofynnwch am/Ask for: Garem Jackson (01286) 679467 Ein Cyf / Our Ref: GJ/AS

    (01286) 677347 Eich Cyf / Your Ref: [email protected]

    8 June 2017 To: Governing Bodies of Ysgol Bro Tryweryn and Ysgol Ffridd y Llyn

    Re: Consultation on the proposal to federate Ysgol Bro Tryweryn and Ysgol Ffridd y Llyn

    Between 8 June and 13:00 on 6 July, we shall be holding a statutory consultation on a proposal to federate

    Ysgol Bro Tryweryn and Ysgol Ffridd y Llyn. Gwynedd Council would like you to put forward your views so

    that these can be considered before a decision is reached.

    At the end of the consultation period, we shall prepare a report on the consultation in order to respond to

    your comments and decide whether or not to proceed with the proposal.

    A copy of the consultation document is attached with this letter for your attention. I would be grateful if

    you could please submit your comments on the proposal by July 6, 2017. As noted in the document, in

    accordance with the requirements of the Federation Regulation 2014 for small schools, this consultation is

    being held with the governing bodies and school councils of both schools.

    A copy of this document, and other background papers, are available on the Council’s website

    www.gwynedd.llyw.cymru/schoolorganisation and in your local school and library. For further information

    regarding the consultation process, please contact Gwenno Haf Evans, Education Modernising Officer, on

    the following e-mail: [email protected]

    Yours sincerely,

    Garem Jackson Garem Jackson Head of Education (Interim)

    http://www.gwynedd.llyw.cymru/schoolorganisationmailto:[email protected]

  • [1]

    Ffurflen Ymateb Cynnig i Ffederaleiddio Ysgol Bro Tryweryn ac Ysgol Ffridd y Llyn

    Eich Manylion

    Dyddiad:

    Enw (Cadeirydd y Llywodraethwyr):

    Arwyddwyd:

    Ar ran... (Cylchwch yr ymateb perthnasol)

    Corff Llywodraethol Ysgol Bro Tryweryn

    Corff Llywodraethol Ysgol Ffridd y Llyn

    Yn unol â gofynion y Ddeddf Diogelu Data 1998, mae’n ofynnol i ni eich hysbysu o’r canlynol:

    Mae Cyngor Gwynedd yn ceisio eich barn ar y cynnig hwn fel rhan o broses ymgynghori statudol. Defnyddir y manylion a ddarperir gennych i’r pwrpas hwn yn unig. Gyda’ch caniatâd, mae’n bosib y bydd eich sylwadau yn cael eu rhyddhau fel rhan o unrhyw adroddiad fydd yn deillio o’r ymgynghoriad hwn. Os nad ydych yn dymuno i’r Cyngor gyhoeddi eich ymateb, nodwch

    isod trwy roi ✓ yn y blwch perthnasol o.g. yn dda:

    1. Ydych chi’n gefnogol o’r cynnig i ffederaleiddio Ysgol Bro Tryweryn ac Ysgol Ffridd y Llyn erbyn 30 Hydref

    2017? (Rhowch ✓ yn y blwch perthnasol o.g. yn dda)

    Ydw Nac Ydw

    2. Nodwch eich rhesymau yn y blwch isod (neu atodwch daflen ychwanegol/ar wahân) o.g. yn dda?

    Cytunaf i’r Cyngor gyhoeddi fy ymateb yn llawn, gan gynnwys fy ngwybodaeth bersonol.

    Cytunaf i’r Cyngor gyhoeddi fy ymateb, heb gynnwys fy ngwybodaeth bersonol.

    Nid wyf yn cytuno i’r Cyngor gyhoeddi fy ymateb.

    Anfonwch eich ffurflen ymateb at: Swyddfa Moderneiddio Addysg, Adran Addysg, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH neu [email protected] Dyddiad cau: Dydd Iau, 6 Gorffennaf 2017

    mailto:[email protected] BoxATODIAD 1

    834083Text BoxATODIAD 2

  • Ffedereiddio – Gwybodaeth i Rieni

    Beth yw ffederasiwn?

    Strwythur llywodraethu cyfreithiol yw ffederasiwn, sy'n galluogi rhwng dwy a chwech o ysgolion i rannu un corff llywodraethu sengl.

    Gwneir y penderfyniad i ffedereiddio naill ai gan gyrff llywodraethu'r ysgolion dan sylw neu gan yr Awdurdod Lleol.

    Mae pob ysgol sydd mewn ffederasiwn yn parhau'n agored yn ei chymuned ac yn cadw ei chyllideb, ei chymeriad, ei gwisg ysgol, ei threfniadau derbyn a'i hethos ei hunan, a bydd yn cael arolygiad ei hunan gan Estyn.

    Pa fanteision y mae ffedereiddio'n eu cynnig i'r disgyblion?

    Gall ffedereiddio gynnig llawer o fanteision -

    Parhau i gael mynediad i addysgu arbenigol, chwaraeon tîm, arbenigedd cwricwlaidd ehangach a gwell dewis o weithgareddau allgyrsiol a gweithgarwch a chlybiau y tu allan i oriau ysgol

    parhau i rannu arferion gorau, deunyddiau paratoi ac adnoddau

    parhau i ddarparu cyfleoedd cymdeithasol arbennig i ddisgyblion

    parhau i gynllunio cyfleoedd arbennig i’r disgyblion wrth bontio

    parhau i ddatblygu, rhannu a meithrin gwybodaeth a sgiliau

    Bydd ysgolion sy’n ffedereiddio yn aros yn eu cymunedau ac yn cadw eu hunaniaeth unigol

    Ychwanegu at fudd cyffredinol, lles a chyflawniad pob un o’r disgyblion

    Sut y bydd ffedereiddio'n gweithio?

    Ychydig iawn o newid fydd ar drefniadau dydd i ddydd yr ysgolion. Y corff llywodraethu a'r penaethiaid neu'r pennaeth sengl fydd yn penderfynu sut y caiff y ffederasiwn ei strwythuro a'i weithredu. Y bobl hyn sydd yn y sefyllfa orau i wneud yn sicr bod gweithrediadau a threfniadau'r ffederasiwn yn cyfateb i anghenion pob un o'r ysgolion.

    A fydd yr athrawon a'r plant yn symud o ysgol i ysgol?

    Nid oes disgwyliad i staff presennol na disgyblion deithio i safleoedd ysgolion eraill o fewn y ffederasiwn.

    Ai ymgais i arbed arian yw ffedereiddio?

    Na. Mae'n ymwneud â chyfuno adnoddau'r ysgolion er mwyn parhau i gynnal perfformiad a safonau cyrhaeddiad rhagorol a chyflawni rhagor er budd y plant ― naill ai drwy ddarparu cyfleoedd a chyfleusterau na fyddent ar gael i'r plant fel arall, neu drwy ddarparu cyllid ar y cyd ar gyfer athro llawn amser, neu athrawon cymorth er enghraifft.

    A fydd ffedereiddio'n golygu bydd ein hysgol yn cael llai o arian gan yr Awdurdod Lleol?

    Na. Ni fydd ffedereiddio'n effeithio ar y ffordd y cyfrifir cyllideb ysgol unigol ‒ dylai pob ysgol yn y ffederasiwn barhau i gael ei chyllideb ei hun, ar sail y nifer o ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol plws unrhyw ffactorau eraill. Fodd bynnag, bydd modd i'r ysgolion gyfuno neu rannu eu cyllidebau. Er enghraifft, pe bai'r ysgolion rhyngddynt yn dymuno penodi aelod o staff yn llawn amser, neu uwchraddio cyfarpar chwaraeon, gallai pob ysgol gyfrannu rhan o'r gost allan o'i chyllideb.

    834083Text BoxATODIAD 3

  • Beth yw manteision ariannol ffedereiddio?

    Gall ffederasiwn wella gallu'r ysgolion i gyrraedd safonau uwch. Y canlynol yw rhai o'r manteision:

    rhannu'r gost o brynu nwyddau a chyfleusterau,

    prynu mewn ffordd sy'n manteisio ar ddarbodion maint ac yn osgoi dyblygu,

    mwy o gyfleoedd e.e. rhyddhau’r pennaeth i gynllunio’n strategol ar draws y ffederasiwn.

    A gaiff rhiant-lywodraethwyr eu hethol gan y rhieni o’u hysgol yn unig neu gan rieni o bob ysgol yn y

    ffederasiwn?

    Mae’n rhaid i bob ysgol gael o leiaf un rhiant-lywodraethwr a etholir gan y rhieni yn yr ysgol honno (neu a benodir gan y corff llywodraethu os nad oes rhiant yn sefyll i’w ethol), ond ni chaniateir i ysgol gael mwy na dau riant-lywodraethwr.

    Os penderfynir y dylai bob ysgol gael dau riant-lywodraethwyr, ac os nad oes rhiant yn sefyll i’w ethol mewn ysgol benodol, neu os oes un yn unig yn sefyll, caiff y corff llywodraethu ffederal benodi rhiant-lywodraethwyr.

    Pa dystiolaeth sydd gennych fod ffederasiynau’n llwyddiannus?

    Mae dogfen gan Llywodraeth Cymru yn cynnwys sawl astudiaethau achos sy’n amlinellu sut y mae’r ysgolion hynny wedi elwa o’r broses ffederasiwn. Cyhoeddwyd adroddiad yn Lloegr gan Ofsted yn 2011 ‘Leadership of more than one school – An evaluation of the impact of federated schools’. Mae’r adroddiad yn datgan, “ym mhob ffederasiwn yr ymwelwyd ag ef roedd y ffaith fod yr ysgolion wedi’i ffedereiddio yn ffactor a oedd yn cyfrannu at y gwelliant.

    Sut fydd ceisiadau mynediad disgyblion i’r ysgol yn gweithio?

    Ni fydd derbyniadau yn cael eu heffeithio – bydd rhieni yn parhau i wneud cais ar gyfer pob ysgol ar wahân a bydd yr Awdurdod Lleol (Cyngor Gwynedd) yn parhau i benderfynu ar dderbyniadau.

    Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r broses ffedereiddio ewch i wefan Llywodraeth Cymru drwy ddilyn y ddolen

    isod: (Proses ffedereiddio ysgolion a gynhelir yng Nghymru)

    http://gov.wales/topics/educationandskills/schoolshome/fundingschools/school-governance/federation-

    of-maintained-schools/?skip=1&lang=cy

    http://gov.wales/topics/educationandskills/schoolshome/fundingschools/school-governance/federation-of-maintained-schools/?skip=1&lang=cyhttp://gov.wales/topics/educationandskills/schoolshome/fundingschools/school-governance/federation-of-maintained-schools/?skip=1&lang=cy

  • Beth wyt ti’n feddwl?

    Y cynnig:

    Ffederaleiddio

    Ysgol Bro Tryweryn ac Ysgol Ffridd y Llyn

    1. Sut wyt ti’n teimlo am hyn? (Ticiwch un dewis)

    2. Oes yna unrhyw beth yn dy boeni am hyn?

    3. Beth hoffet ti weld yn digwydd fel rhan o’r newid yma?

    Unrhyw sylwadau eraill?

    834083Text BoxATODIAD 4

  • 834083Text BoxATODIAD 5

    Atodiadau Cymraeg.pdfNew BookmarkNew BookmarkNew BookmarkNew BookmarkNew Bookmark