2016 school leavers magazine - welsh

28
GOLWG NEWI O GREU I GURADU Ein gorau, ddoe a heddiw...yn greadigol 2016 - 2017 AMSER EGWYL BAKED gOODS VIBE P epper wer Cipolwg o’r doc Y GYFRAITH >

Upload: pembrokeshire-college

Post on 30-Jul-2016

231 views

Category:

Documents


5 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

GOLWG NEWI

O GREU I GURADUEin gorau, ddoe a heddiw...yn greadigol

2016 - 2017

AMSER EGWYL

BAKEDgOODSVIBE

Pepperwer

Cipolwg o’r docY GYFRAITH

>

w

Pennaeth, Sharron Lusher

Peidiwch â rhoi’r gorau i’ch breuddwydYdych chi’n breuddwydio bod yn bensaer neu’n actor, yn gogydd neu’n saer? Yng Ngholeg Sir Benfro, rydym yn credu bod gennych yr awydd a’r ymrwymiad i ddysgu. Yn ogystal â dysgu ysbrydoledig ac amgylchedd dysgu gwych, gallwn eich helpu i’ch rhoi ar ben ffordd tuag at eich swydd ddelfrydol - beth bynnag y bydd hynny.

Rydym yn ymfalchïo yn y Coleg ac yn gobeithio y byddwch yn cymryd yr amser i ymweld â ni yn ystod noson agored i weld drosoch eich hun ein cyfl eusterau sydd o safon diwydiant a’n tîm dysgu profi adol ac ymroddedig.

Edrychaf ymlaen at eich croesawu i Goleg Sir Benfro. Sharron Lusher, Pennaeth

GOLWG NEWYDD AR EICH dyfodol

Edrychaf ymlaen at eich croesawu i Goleg Sir Benfro. Sharron Lusher, Pennaeth

yr amser i ymweld â ni yn ystod noson agored i weld drosoch eich hun ein cyfl eusterau sydd o safon diwydiant a’n tîm dysgu profi adol ac

Edrychaf ymlaen at eich croesawu i Goleg Sir Benfro.

CREA

DIG

OL

4-5

BLW

YDD

YNIF

FWRD

D

6-7

CYFR

AIT

HAT

HRE

FN 9

-8PŴ

ER P

EPPE

R 1

0-12

BAKE

DVI

BE 1

4-15

HED

FAN

YNU

CHEL

16-

17D

YSG

WCH

FI 1

8-19

A-D

IP?

20-

21

FFORDD NEWYDD O FYND ATIEin nod yw rhoi gwybod i chi am ddewisiadau ar ôl eich TGAU ond mewn ff ormat ‘Newydd’. Gall y cyfnod hwn o’ch bywyd greu llawer o bwysau - pa gwrs, pa yrfa, cymryd blwyddyn i ff wrdd ai peidio? Mae gennym gyfweliad gyda band mwyaf gwefreiddiol y Coleg ac awgrymiadau a chyngor gan gyn-fyfyrwyr ysbrydoledig y Coleg. Os hoff ech chi wybod mwy am ein Coleg, cysylltwch â ni:

0800 9 776 788 | [email protected]@pembrokeshire.ac.uk

GO

LWG

N

EW

I

Fe wnaeth 90% o‛r dysgwyr ddweud bod eu cwrs yn 'well/yn ôl y disgwyl'

Fe wnaeth 82% o'r dysgwyr ddweud bod y dysgu a‛r hyfforddi yn 'dda/dda iawn'

Mae'r Coleg yn fl aenllaw yn y sector yng Nghymru yn y defnydd o dechnoleg ddigidol – Dysgu ac Asesu Ar-lein â Chymorth (SOLA)

CREU

CREU

CURA

DU

Lefel A mewn:• Celfyddyd Gain• Ffotograffi aethDiplomâu mewn:• Cyfryngau Rhyngweithiol• Dylunio Graffi g• Ffasiwn a Thecstilau• Y Celfyddydau Perff ormio• Technoleg Cerddoriaeth

Dydyn ni ddim am ymffrostio ond mae’n wir, mae gennym y cyrsiau mwyaf cyffrous a chreadigol yn y wlad a’r darlithwyr a’r cyfl eusterau gorau i fynd â chi i lefydd. Mae gennym hanes hir o lwyddiant, felly os ydych yn anelu at fod yn ddylunydd ffasiwn neu graffi g, actor, animeiddiwr neu hyd yn oed ffotograffydd masnachol, yna darllenwch ymlaen...

ON.Peidiwch ag anghofi o mae ein Diplomâu Estynedig yn gyfwerth â thair Lefel A. Bydd y cymhwyster lefel 3 hwn yn mynd â chi i mewn i brifysgol neu waith.

Cyrchfannau Prifysgol 2015:Ysgol Gelf a Dylunio Saint MartinsPrifysgol BournemouthPrifysgol Kingston Prifysgol Gorllewin LloegrPrifysgol Leeds

Dangos eich dawn yn y ColegMae myfyrwyr celf a dylunio o bob disgyblaeth greadigol yn cael y cyfl e i arddangos eu gwaith creadigol mewn arddangosfa ddylunio diwedd blynydd y Coleg. Mae artistiaid cain, ffotograffwyr, dylunwyr graffeg, animeiddwyr a dylunwyr ffasiwn uchelgeisiol i gyd yn cael eu lle i arddangos nid yn unig i gyd-fyfyrwyr a staff y Coleg, ond hefyd i’r cyhoedd yn gyffredinol.

Cyn-fyfyriwr Lefel AMALACHY DONELLYAstudiodd Malachy Ffotograffi aeth Olygyddol ym Mhrifysgol Brighton. Un o swyddi cyntaf Malachy yn Ninas Llundain oedd gweithio yn Amgueddfa Victoria ac Albert fel technegydd gosodiadau celf. “Ro’n i’n gweithio ar osod a chynnal arddangosfeydd a gwaith oriel, roedd yn brofi ad anhygoel. Yr arddangosfa ddiwethaf i mi weithio arni oedd gosodiad ‘trem yn ôl’ David Bowie a oedd yn cyfuno’i wisgoedd, cerddoriaeth a chelf eiconig a stori ei fywyd. Roedd yn gryn dipyn o hwyl i fod yn rhan o’r arddangosfa hon”, meddai Malachy. Mae talent Malachy fel newyddiadurwr llun hefyd wedi cael ei recriwtio gan nifer o gyhoeddiadau ers graddio, sy’n cynnwys: cylchgrawn ff otograffi aeth ‘Next Level’, ‘The Real South East Photography Blog’ a ‘The Art Rabbit’.

Ysgol Ddylunio o’r radd fl aenafBETH LEWISDangoswyd gwaith ff asiwn Beth Lewis yn yr arddangosfa ddylunio eleni; gwaith wedi’i ysbrydoli gan ddiwylliant Siapan. Mae Beth wedi cael ei derbyn gan y Central Saint Martins byd-enwog i astudio dillad menywod. Cafodd ff asiwn cynaliadwy y myfyriwr ff asiwn arobryn Tunde Komar hefyd ei arddangos. Roedd Tunde yn caru ei thiwtoriaid gymaint nes iddi benderfynu astudio am ei gradd dylunio yma yn y Coleg! Fe wnaeth y myfyriwr Dylunio Graffi g Cal Woodford arddangos ei waith drwy gyfrwng gwaith graff eg cymhleth a llyfr darluniadol yr oedd e wedi ysgrifennu, gwneud y gwaith ff otograffi g a’i ddylunio ei hun. Mae Cal nawr yn astudio yn Ysgol Gelf Winchester.

Cyn-fyfyriwr Y Cyfryngau Rhyngweithiol IAN GATTFe wnaeth Ian Gatt symud ymlaen i Brifysgol Kingston lle graddiodd gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf a der-byniodd Gymeradwyaeth am Arloesedd. Mae Ian eisoes wedi sicrhau gwaith gallai’r rhan fwyaf o raddedigion freuddwydio amdano’n unig: gweithio yn adran gamera ‘13 Hours: The secret soldiers of Benghazi’ Michael Bay a fydd yn cael ei ryddhau cyn bo hir (mae’r credydau’n cynnwys y gyfres ffi lm ‘The Transformers’). “Fe wnaeth gweithio ar ffi lm Michael a ffi lm arall o’r enw ‘Simshar’ fy mharatoi ar gyfer fy mhrosiect nesaf, sef cyfarwyddo ochr gelf ffi lm fer o’r enw ‘Prickly Pear’. Dw i’n argymell diplomâu creadigol Coleg Sir Benfro, fe wnaeth fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol gymaint yn haws, gan ei fod wedi rhoi sylfaen i mi gyfl awni fy llawn botensial”, meddai Ian.

4-5Prif lun: Saskia Chant yn perff ormio fel y cawr yn Jac a’r Goeden Ffa.CR

EU

CURA

DU

AM

SER EGWYL?

MADAGASCAR

HWLFFORDDMae penderfynu cael blwyddyn i ffwrdd, i wirfoddoli neu gael swydd ‘dydd Sadwrn’, i gyd yn brofi adau gwerthfawr i’ch helpu i gael y blaen...

EGWYL? MADAGASCAR

HWLFFORDD

DINBYCH-Y-PYSGOD

EWCH I CHWILIO:globalvolunteeringprojects.orggvi.co.uk

6-7

CWESTIWN:RYDW I‛N AWYDDUS IAWN I WEITHIO MEWN MEDDYGAETH, OND DYDW I DDIM YN SIWR SUT I GAEL PROFIAD CYN I MI WNEUD CAIS I BRIFYSGOL?

Mae ‘Global Medical Projects’ yn rhoi cyfl e i chi ennill profi ad gwaith meddygol, nyrsio a gwaith parafeddyg gwerth chweil o gwmpas y byd. Os ydych yn gobeithio astudio meddygaeth, neu unrhyw un o’r pynciau sy’n gysylltiedig â meddygaeth fel nyrsio, radiograffeg neu wyddoniaeth parafeddyg, mae profi ad gwaith yn gam hollbwysig.

“Mae gwirfoddoli meddygol yn HANFODOL os ydych am fynd i ysgol feddygol neu brifysgol o fri”

“Mae ennill profi ad gwaith drwy wirfoddoli mewn ysbytai neu glinigau tramor yn ychwanegu dimensiwn arall at eich cais. Yn gyntaf, fe gewch system gofal iechyd lle mae’n rhaid i bobl dalu am driniaeth, yn wahanol i’r DU – hyd yn oed mewn gwledydd tlotach o lawer na ni. Efallai y byddwch yn gweld cleifi on gyda chyfl yrau sydd wedi hen ddifl annu yn y DU neu sydd yn llawer mwy difrifol nag y byddech chi erioed wedi gweld yn eich gyrfa oherwydd nid yw’r claf yn gallu ff orddio i gael triniaeth gynnar, neu roi brechiadau i’w plant. Felly, nid yn unig mae profi ad gwaith meddygol dramor yn gwella eich siawns o gael lle yn y brifysgol i fod yn feddyg ond hefyd, gobeithio, yn eich gwneud yn well meddyg yn y tymor hir”, medd Kevin Dynan, Cyfarwyddwr Global Medics Projects.

Nid yn unig y mae gwirfoddoli meddygol yn rhoi cyfl e i chi brofi os taw’r yrfa hon yw’r dewis cywir i chi yn y dyfodol, ond mae hefyd yn dangos i’chdarpar brifysgol neu ddarpar-gyfl ogwr eich bod yn ymrwymedig i fl ynyddoedd o astudio a hyff orddiant dwys. Os yw gwirfoddoli tramor allan o’ch cyrraedd, beth am gysylltu â’ch ysbyty neu gartref gofal lleol?

CWESTIWN:A GA I FLWYDDYN I FFWRDD NEU A WNA I BROFIAD GWAITH GARTREF?

ATEB: Mae’r ddau’n werthfawr a bydd y ddau’n helpu gyda’ch CV neu eich cais prifysgol. Rydyn ni’n byw mewn cyfnod cystadleuol, felly p’un a ydych yn bwriadu gwneud cais i’r brifysgol neu gael swydd, mae gwneud rhywbeth mentrus yn mynd yn bell. Gall cychwyn ar fl wyddyn i ffwrdd fod yn ddrud, ond bydd eich profi ad yn gwneud eich bywyd chi a bywydau eraill yn llawer mwy cyfoethog. Ychydig yn nes at adref fodd bynnag, ac fe welwch y bydd gweini mewn caffi neu ysgubo lloriau mewn salon trin gwallt yn dysgu ‘sgiliau meddal’ ystyrlon i chi y bydd eich bos yn y dyfodol yn chwilio amdanynt. Aberdaugleddau neu Affrica, mae un peth yn sicr, bydd unrhyw waith achlysurol neu waith gwirfoddol yn helpu i gadw’ch CV allan o’r bin sbwriel!

MAE YNA DDIGONEDD O SEFYDLIADAU SY‛N TREFNU GWEITHGAREDDAU BLWYDDYN I FFWRDD NEU SEFYDLIADAU GWIRFODDOLI UCHEL EU PARCH SY‛N ARBENIGO MEWN CADWRAETH, GWAITH MEDDYGOL, HYD YN OED NEWYDDIADURAETH Y TELEDU A‛R WASG. MAEN NHW‛N CYNNIG CYFLE GWYCH I CHI ROI HWB I‛CH CAIS PRIFYSGOL NEU GAIS AM SWYDD.

gallwch ymddiried yNDDO’ I,

RYDW I BRON Â BOD

YN GYFREITHIWR

Mae’r gyfraith yn effeithio ar bob rhan o’n bywydau, felly nid yw’n anodd dod o hyd i enghreifftiau bob dydd: dysgu gyrru, rhentu tŷ, hyd yn oed ddod yn fyfyriwr coleg. Ond ydych chi erioed wedi ystyried astudio’r gyfraith neu hyd yn oed fod yn gyfreithiwr?

Oeddech chi’n gwybod y gallwch weithio mewn nifer o wahanol feysydd o’r gyfraith fel cyfraith droseddol, cyfraith teulu, hyd yn oed cyfraith adloniant. Mae llawer o gyn-fyfyrwyr y Coleg wedi astudio’r Gyfraith yn y Brifysgol; mae rhai wedi graddio’n ddiweddar ac eraill eisoes yn ymarfer, edrychwch ar y dudalen gyferbyn.

Priodoleddau cyfreithiwr deinamig

Mae gen i sgiliau darllen ac ysgrifennu daMae gen i sgiliau rhyngbersonol da

Rydw i’n mwynhau siarad cyhoeddusRydw i’n rhesymegolRydw i’n ddarbwyllolRydw i’n angerddol

Rydw i’n gystadleuolRydw i’n greadigol

1. Ysgol: 5 TGAU gradd C neu uwch

2. Coleg: Tair Lefel A (gradd B neu uwch)

3. Prifysgol: Gradd yn y Gyfraith 4. LPC (Cwrs Ymarfer Cyfreithiol) NEU BPTC (Cwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar)

5. Contract Hyfforddiant (cyflogaeth 2 flynedd a thâl)

6. Cymwysterau llawnCyflog cychwynnol: £35,000Cyfreithiwr profiadol: £60,000Partner mewn cwmnicyfreithiol: £100,000Bargyfreithiwr: £225,000 - £750,000Barnwr neu QC: hyd at £1.5m.

LLWYBR GYRFA CYFRAITH A THREFN

CILEx: Y llwybr arall i fod yn gyfreithiwrPeidiwch â phoeni os nad ydych am fynd i’r brifysgol. Nid yw dod yn gyfreithiwr cymwysedig ac yna mynd ymlaen i fod yn gyfreithiwr, yn bartner mewn cwmni cyfreithiol neu hyd yn oed yn farnwr yn golygu bod rhaid i chi ddechrau eich gyrfa gyda thipyn o ddyled myfyriwr. Mae cymryd y llwybr CILEx, sef Gweithredydd Cyfreithiol Siartredig, yn golygu y gallwch ennill-wrth-ddysgu ac ennill profiad ymarferol gwerthfawr tra bod y rhai sy’n astudio graddau traddodiadol yn y gyfraith o fewn pedair wal yr ystafell ddosbarth.

EWCH I CHWILIO: cilex.org.uk

8-9

James HughesAr ôl y Coleg es i i Brifysgol Bryste i astudio gradd yn Y Gyfraith. Rydw i yn fy nhrydedd fl wyddyn, gyda fy nhraethawd estyngedig i’w gwblhau. Rydw i ar fi n cychwyn interniaeth o 100 diwrnod mewn cwmni cyfreithiol yn Llundain fel paragyfreithiwr. Rydw i wedyn yn bwriadu cofrestru ar y BPTC ar gyfer 2016. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn hawliau anifeiliaid a hoffwn i yn y pen draw arbenigo yn y maes hwn o’r gyfraith.

Fy nghyngor i i unrhyw un sy’n ystyried astudio’r gyfraith...Gwnewch yn siŵr ei fod yn rhywbeth rydych yn angerddol amdano gan fod yna rai pynciau cyfraith difl as iawn, ond os ydych chi wir yn mwynhau’r gyfraith, byddwch yn gallu mynd drwy’r darnau hyn a chael hwyl gyda’r meysydd rydych yn eu hoffi . Byddwch yn barod am lefel uchel iawn o waith, ond yn dwyn llawer o foddhad.

Lauren ProbertAr ôl astudio Lefel A (Llenyddiaeth Saesneg, Y Gyfraith a Seicoleg) yn y Coleg fe wnes i gofrestru ym Mhrifysgol Caerdydd i astudio’r Gyfraith. Dyma un o’r pethau anoddaf ond y mwyaf gwerth chweil rydw i wedi’i wneud erioed. Mae’r radd yn heriol ond mae wedi rhoi boddhad llwyr i mi.

Pa briodoleddau sy’n gwneud cyfreithiwr da?Mae’n rhaid i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog, sgiliau ymchwil lefel uchel ac mae’n rhaid i chi fod yn barod i weithio’n galed, yn drefnus, yn ddadansoddol a chanolbwyntio ar y cleient. Trwy gydol fy mhrofi ad gwaith a fy ngradd rydw i wedi sylweddoli dydych chi ddim yn gallu cael un heb y llall. Rydw i ar hyn o bryd yn y broses o wneud cais am yr LPC (Cwrs Ymarfer Cyfreithiol - y cymhwyster proffesiynol sydd ei angen i fod yn gyfreithiwr).

EWCH I CHWILIO: cilex.org.uk

Darlithydd yn Y Gyfraith, Joy Sandifer

Nikita EdwardsAr ôl Lefel A yn y Coleg fe wnes i gofrestru ym

Mhrifysgol Aberystwyth (gradd Y Gyfraith) a

chwblhau fy LPC ym Mhrifysgol Caerdydd yn

2015. Os ydych â’ch bryd ar fod yn Gyfreithiwr,

yna byddwn yn sicr yn gwneud tipyn o waith

ymchwil a cheisio canfod pa fath o gyfreithiwr

hoffech chi fod. Ro’n i’n sicr fy mod am arbenigo

mewn cyfraith teulu, fodd bynnag, yn dilyn

cyfnod o brofi ad gwaith, penderfynais nad

oedd i mi. Nid tan ychydig fi soedd yn ôl (bron

i ddwy fl ynedd ar ôl cwblhau fy ngradd ac yn

dod i ddiwedd fy LPC) fe wnes i ddarganfod fy

mod i’n mwynhau cyfraith eiddo masnachol, yn

academaidd ac yn ymarferol. Felly, cymerwch yr

amser i benderfynu pa fath o gyfreithiwr hoffech

chi fod.

“BYWIOG – FEL DINAS”

“LLAWER O GYFLEOEDD”

“AMRYWIOL.

CYMYSG

EDD

DA O BOBL”

“BYWIOG – FEL DINAS”

“AMRYWIOL.

“AMRYWIOL.

“AMRYWIOL.

CYMYSG

EDD

DA O BOBL”

“BYWIOG – FEL DINAS”

“AMRYWIOL.

CYMYSG

EDD

“MAE‛R COLEG YN GYFFROUS”

PWERPEPPER

>

BENC: Ydy’r Coleg wedi cwrdd â’ch disgwyliadau?“Ydy, mae’r Coleg wedi cwrdd â fy nisgwyliadau. Mae ‘na rwydwaith enfawr o staff yma sy’n ymroddedig i’ch helpu i gyfl awni. Er enghraifft, mae yna Anogwyr Dysgwyr i’ch helpu gyda’ch astudiaethau a Swyddog Profi ad Gwaith i gael cyfl eoedd i chi mewn gweithle. Dw i’n hapus gyda’r addysg sy’n cael ei ddarparu gan fy nhiwtoriaid pwnc, a gyda’r agwedd iawn rydych yn sicr o lwyddo. Hefyd, mae’r ffreutur yn gweini dewis da o fwyd blasus, iachus! “C: Beth ydych chi’n bwriadu’i wneud ar ôl y Coleg?“Ar ôl y Coleg hoffwn astudio ffi seg yn y brifysgol (Rhydychen yw fy newis cyntaf).”C: Pam wnaethoch chi benderfynu dod i’r Coleg ar gyfer eich addysg ôl-16?“Ces i fy nenu i’r Coleg achos y cyfl eusterau dysgu a’r adnoddau gwych sydd ar gael, gyda’r Ganolfan Adnoddau Dysgu yn uchafbwynt. Rhesymau eraill oedd y cyfl e i wneud Mathemateg Pellach fel pwnc ar yr amserlen ar gyfer dwy fl ynedd y Lefel A, yr ysgoloriaeth STEM ar gyfer myfyrwyr uchelgeisiol a’r cyfl e i astudio gyda phobl newydd.”C: Pwy yw eich hoff ddarlithydd a pham?“Helen Coomer, y Tiwtor Ffi seg. Helen oedd fy nhiwtor personol ym mlwyddyn gyntaf fy Lefel A, felly byddwn yn mynd at Helen i siarad am bethau fel dewis beth i astudio yn y brifysgol a chyngor cyffredinol arall. Dw i’n meddwl taw Helen yw’r diffi niad o diwtor rhagorol; mae ganddi lefel wych o wybodaeth am y pwnc (uchel!), yn ystyried anghenion y myfyrwyr i gyd yn y dosbarth, ac mae hi’n gweithio’n galed i wneud yn siwr bod y dosbarth wedi paratoi orau posib ar gyfer yr arholiadau. Rhaid i mi ddweud hefyd fy mod yn hoff iawn o fy nhiwtoriaid pwnc eraill, a’u bod i gyd yn haeddu clod am yr addysg a’r cymorth maen nhw’n darparu. “

JacC: Pam wnaethoch chi benderfynu parhau â’ch addysg yn y Coleg?“Astudiais i’r Diploma Estynedig mewn Chwaraeon. Roedd gan y cynnwys fodiwlau diddorol a oedd yn canolbwyntio’n gyfangwbl ar ddysgu am ymarfer corff, effeithiau ar iechyd a sut i wella perfformiad.”C: Beth oedd yn sefyll allan i chi yn y Coleg?“Roedd ansawdd y darlithio trwy gydol y cwrs yn ardderchog ac roedd y cyfl eusterau a’r adnoddau llyfrgell o’r radd fl aenaf.”C: Sut wnaeth y cwrs Diploma eich helpu i fynd ymlaen i’r Brifysgol?“Fe wnaeth e roi’r wybodaeth theori i mi allu astudio mewn prifysgol gwych a mynd ar y cwrs gwyddor chwaraeon ac iechyd gorau yn y Deyrnas Unedig!”C: Pa eiriau fyddech chi’n defnyddio i ddisgrifi o bywyd y Coleg?“Amgylchedd gwaith bendigedig, cyfl eusterau ardderchog a darlithwyr gwych.”C: Oedd gennych chi hoff ddarlithydd a pham?“Roedd pob darlithydd yn rhagorol ac yn darparu cymaint o gefnogaeth pan oedd ei angen. Mae’n anodd cael ffefryn, ond roedd y modiwlau a ddysgwyd gan Andrew Thomas yn ddiddorol tu hwnt.”

Harri“Fe wnes i orffen yn y Coleg yn 2011 a chofrestru ar radd Technoleg Cerddoriaeth a Sain ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr. Fe wnes i fwynhau’r Coleg. Roedd yn gyffrous. Fe wnes i fwynhau dysgu gyda phobl o’r un anian a ches i fynediad i offer anhygoel. Fe wnaeth y cwrs Diploma Technoleg Cerdd fy mharatoi’n dda ar gyfer astudio yn y brifysgol wrth i chi ddysgu drwy aseiniadau a gwaith prosiect, a dyna sut wnes i ddysgu yn y Coleg. Tim Lambert oedd fy nhiwtor, fy unig siom oedd nad oedd e gyda fi am gyfnod hirach!”

“BYWIOG – FEL DINAS”

HARRi, BEN& JAC Tri brawd, tri phrofi ad dysgu gwahanol, tair uchelgais fawr, ond un peth yn gyffredin, (heblaw genynnau) - astudio yng Ngholeg Sir Benfro...

Ar hyn o bryd mae Ben yn astudio Lefel A yn y Coleg, mae Jac yn astudio Gwyddor Ymarfer Corff a Chwaraeon ym Mhrifysgol Exeter, ac mae Harri wedi graddio o Brifysgol Gorllewin Lloegr yn ddiweddar.

10-11

Dewch i gwrdd MYLES PEPPERC: Oedd gennych unrhyw ddylanwad ar benderfyniadau eich meibion (ysgol neu goleg)?“Dim ond agor eu llygaid a’u meddyliau at y cyfl eoedd mae bywyd yn cyfl wyno iddyn nhw ro’n i’n ceisio‘i wneud. Ro’n nhw’n gallu gweld bod yr hyn roedd y Coleg yn ei gynnig yn iawn ar eu cyfer nhw ac roedd Ysgol y Preseli yn gefnogol ac yn deall eu dewis i ymgymryd â’u haddysg ôl-16 yn y Coleg.”

C: Ar ôl cael tri mab yn mynychu’r Coleg, sut fyddech chi’n argymell y Coleg i rieni eraill?“Mae’r Coleg wedi helpu ein plant ar eu taith o hunan-ddarganfod. Byddwn i bob amser yn dweud wrthoch chi i gyfl wyno eich plant i’r ystod ehangaf bosib o gyfl eoedd, sefyll nôl ac yna gadael iddyn nhw ddewis. Mae’r Coleg yn arbenigwyr ar hyn. Maen nhw bob amser yno i roi cymorth, ond fel y cofweinydd yn yr esgyll, maen nhw’n camu i mewn pan fydd angen. Mae parch a chydraddoldeb yn arwyddeiriau cadarn y Coleg ac maen nhw’n arfer yr hyn maen nhw’n dweud. Alla i ddim canmol y Coleg digon.”

C: A fu newidiadau cadarnhaol yn natblygiad eich meibion ar ôl mynychu’r Coleg? e.e. mwy o hyder? “Yn bendant. Mae pob plentyn yn wahanol ac mae ymagwedd y Coleg i ddatblygiad personol drwy feithrin hunan-werth wedi arwain at gynydd yn eu hunan-hyder. Maen nhw hefyd wedi cael eu cynorthwyo yn eu dysgu o sut i gael y cydbwysedd iawn o gyfl awni’r gorau yn eu pwnc a gallu byw bywyd.”

DIWRNOD BENDIGEDIG! FFAIR NADOLIG

FFAIR Y GLAS

DIWRNOD MENTER

TASHWEDDDYDD SANT FFOLANT DIGW

YDDI

ADAU

CŵL

â’r tad

IS-DDIWYLLIANT POBL IFANCMae is-ddiwylliannau bob amser yn ffurfio yn y Coleg, yn seiliedig ar agweddau, steil dillad a chwaeth cerddoriaeth. Allwch chi uniaethu gydag unrhyw un o’r grwpiau hyn?

SGLEFRWYRDdoe, ‘sglefrwyr’ oedd y grŵp oedd eisiau bod yn syrffwyr. Heddiw, mae sglefrwyr wedi benthyg aroleuadau melyn ac addurniadau cŵl y byd syrffio, ond nawr maen nhw ychydig yn fwy gwrthryfelgar. Chwiliwch am esgidiau Airwalk/retro a chrysau-t anferth (sy’n tueddu cael eu smwddio!!).

FFAITH SGLEFRIORoedd sglefr-fyrddau o gwmpas cyn i rieni rhai o sglefrwyr heddiw gael eu geni. Cafodd y bwrdd cyntaf ei fasgynhyrchu yn 1959 ar gyfer “syrffio ar y palmant”.

JOCSMae’r grŵp yma (o ferched a bechgyn) wedi bod o gwmpas am byth! Gallwch eu hadnabod gan y labeli ar eu crysau-t a’u hesgidiau. Nhw yw’r bobl ifanc yn eu harddegau sy’n byw am athletau – yn amhosibl eu hadnabod allan o’u siorts a’u tracwisgoedd.

HIPSTERMaen nhw’n gwneud ymdrech fawr i gynllunio wardrob sy’n ymddangos yn ddiymdrech. Mae merched a bechgyn yn mynd am jîns tyn, sbectol ‘prepi’ a dillad ‘vintage’, a barf (i’r bechgyn).

DIFFINIADYn 2009, diffiniodd Dan Fletcher, awdur y cylchgrawn Time ‘hipsters’ fel “y bobl sy’n gwisgo crysau-t gyda dyfyniadau o ffilmiau nad ydych erioed wedi clywed amdanyn nhw.”

MERCHED CASRoedd y ffilm “Mean Girls” yn 2004 gyda Lindsay Lohan, yn cynrychioli’r grŵp yma yn eu sodlau uchel a sgertiau byr - beth bynnag yw’r ffasiwn ddiweddaraf, maen nhw’n ei wisgo. Maen nhw’n ffurfio criw unigryw, a chlecs yw eu hiaith naturiol (nhw greodd y term BFF).

PREPSRydych chi’n eu hadnabod yn ôl y logos ar eu dillad: Lacoste, Hollister, Abercrombie & Fitch. Mae gwisgo coleri lan a chrys-polo yn safonol ac maen nhw’n dueddol o ymbincio’n berffaith.

FFAITH CRANDMae gan un ym mhob tri oedolyn ifanc datŵ. Roedd tatŵs arfer bod yn bethau crand. Yn ôl vanishingtatoo.com mae erthygl o’r enw ‘Queer Stories of a Queer Craze’ yn disgrifio tatŵio fel “hobi poblogaidd y byd breintiedig”. Roedd hyn yn 1898, pan oedd uchelwyr Ewrop yn incio’u croen yn go helaeth.

LLIPRYNNODNhw yw’r rhai cyntaf gyda’u dwylo i fyny yn y dosbarth, ac maen nhw bob amser gyda’r ateb cywir! Nawr, mae cenhedlaeth gyfan yn deall cyfrifiaduron yn dda, felly efallai’r lliprynnod modern fydd y rhai sy’n deall y wyddoniaeth tu ôl i’r dechnoleg, efallaiMark Zuckerberg yr yfory.

Mae pawb yn mynd yn ddwl gyda band y Coleg ‘Baked Goods’. Mae eu hapêl eang yn tynnu’r tyrfaoedd - mae mamau, tadau, a hyd yn oed mam-guod a thad-cuod yn dawnsio yn yr eiliau! Ond peidiwch â gadael i’r frigâd lwyd eich rhwystro, mae sain ‘Baked Goods’ yn ffres gyda chymysgedd o ska, indi, ffync a roc.

Dywedodd Theo Blackburn o Lechryd, y canwr/cyfansoddwr a chwaraewr bysellfwrdd tu ôl i rai o’u traciau poblogaidd, “Dw i wedi bod yn chwarae cerddoriaeth ar hyd fy oes, mae mam yn chwarae’r ffidil a’r piano felly fe allech ddweud bod fy nhalent wedi tyfu gartref”.

Nid yw’r band wedi cael ei ddenu gan atyniad poblogaidd yr ‘X Factor’, er bod rhaglen ‘The Voice’ wedi cysylltu â Theo yn ddiweddar, ond fe wnaeth droi’r cynnig i lawr. “Efallai y gallen ni edrych ar ‘Britain’s Got Talent’, ond dydw i ddim yn siŵr a fydden ni’n gallu delio â’r cywilydd o gael ein curo gan fyji sy’n canu,” meddai’r gitarydd bas Di-Di Tusler. Mae’r grŵp pum dyn hefyd yn cynnwys dau gitarydd arweiniol, Leigh Barnard a Nathan Ball, a drymiwr Charlie Scarr.

Fel rhan o’u hastudiaethau Diploma Technoleg Cerddoriaeth, ac o dan profiad a goruchwyliaeth yr arwr (a’r darlithydd) Tim Lambert, ffurfiodd a datblygodd y band eu sain unigryw eu hunain…

‘legend’ Lambert

DIPLOMÂU ESTYNEDIG:Rheoli Anifeiliaid | Busnes | Gofal Plant | Adeiladu | Dylunio (nifer o lwybrau) | Peirianneg (nifer o lwybrau) | Iechyd a Gofal Cymdeithasol | TG | Morol | Technoleg Cerddoriaeth | Y Celfyddydau Perfformio | Gwasanaethau Cyhoeddus | Chwaraeon |

“Yr unig siom am y Coleg oedd na ches i ‘mo Tim Lambert yn athro i mi am fwy o amser!” medd y cyn-fyfyriwr Harri Pepper

sain ffres

cyfweliad bg

CHARLIETHEO NATHAN & DI -DI

Ydych chi wedi recordio unrhyw beth eto?Charlie: Ydyn, fel rhan o’r cwrs Technoleg Cerdd rydyn ni wedi dysgu popeth am gynhyrchu a recordio cerddoriaeth. Mae gan Tim gyfoeth o brofiad ar ôl gweithio gyda labeli yn Llundain, felly aethon ni i stiwdio’r Coleg gyda fe dros yr haf i greu ein EP gyntaf. Beth nesa’ i’r Baked Goods? Nathan: Rydyn ni gyd wedi penderfynu cymryd blwyddyn allan i ganolbwyntio ar ein cerddoriaeth,mae cynlluniau gyda ni i ddanfon yr EP i labeli recordio gan gynnwys y label indi Rough Trade (cartref i’r Super Furry Animals a’r Libertines), sy’n gyffrous iawn!Beth mae Baked Goods yn ei gynhyrchu?Leigh: Mae Baked Goods yn ffres, does dim blas artiffisial yn digwydd yma, dim ond y cynhwysion go iawn!! Rydyn ni’n gallu chwarae, ysgrifennu a pherf-formio sy’n wahanol i rai o’r bandiau sy’n dylanwadu’r siartiau heddiw.

Sut mae deinameg y grŵp - oes unrhyw rwystredigaethau Lennon v McCartney yn dod i’r amlwg eto!?Theo: Nac oes, dim o gwbl, rydyn ni’n lwcus mewn gwirionedd. Mae gan bob un ohonon ni dalent unigol sy’n cyd-fynd yn dda gyda’i gilydd. Rydw i’n ysgrifennu’r geiriau ac mae’r bechgyn yn rhoi’r gerddoriaeth gyda’i gilydd, felly mae pawb yn cyfrannu.

Sut gallwn ni ffeindio mas ble mae’r band yn chwarae?Di-Di: Ewch i’n tudalen facebook - BakedGoodsBand, rydym ni’n gobeithio cael ein gig fawr nesaf yn Neuadd y Frenhines yn Arberth ar ddydd San Steffan.

14-15

LEIGH

Rydych chi’n meddwl Peilot, Meddyg, efallai Hyfforddwr Chwaraeon, ond beth mae wir yn ei gymryd i fod yn un o’r anwelwyr uchel hyn? Rydym wedi dewis pum gweithiwr diwydiant proffesiynol i gynnig cyngor gyrfaol yn uniongyrchol i chi. Felly gwrandewch ar y rhai sy’n gwybod a pharatoi ychydig yn well ar gyfer eich dyfodol.

Uwch Swyddog Cyntaf McGreevy

Y PEILOTFel llawer o bethau mewn bywyd, mae bod yn beilot cwmni hedfan yn gofyn am ymroddiad, gwaith caled ac ychydig o lwc. Mae’r llwybrau i fod yn beilot cwmni hedfan wedi newid yn ddramatig ers i mi freuddwydio am gael gyrfa o’r fath yn oed 16. Yn y bôn mae yna dri phrif lwybr i mewn i’r diwydiant heddiw; ymuno yn uniongyrchol o’r fyddin (mae’r RAF yn eich hyfforddi i hedfan), hunan-noddedig (rydych yn talu am eich hyfforddiant eich hun) neu noddedig (mae cwmni hedfan fel British Airways yn talu am eich hyfforddiant). Pa bynnag lwybr rydych yn ei ddewis, y rhwystr cyntaf i oresgyn yw’r archwiliad meddygol dosbarth un y mae angen i bob peilot basio o leiaf unwaith y flwyddyn. Rydw i’n argymell yn gryf i chi gysylltu â’r Awdurdod Hedfan Sifil ynghylch yr archwiliad meddygol os ydych yn dewis yr opsiwn hunan-noddedig. Y newyddion da yw does dim gwahaniaeth os ydych yn gwisgo sbectol ai peidio. Yr ail rwystr yw eich arholiadau ysgol lle bydd angen o leiaf pum TGAU gradd A-C arnoch ac o leiaf dair Lefel A graddau A-C, yn ddelfrydol mewn pynciau gwyddoniaeth/mathemateg. O safbwynt cyngor gyrfaoedd, mae angen i chi gael mwy na sgiliau hedfan rhagorol. Ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw sgiliau annhechnegol fel: arwain a rheoli, gwaith tîm, datrys problemau, ymwybyddiaeth busnes a chwsmeriaid. Mae cwmnïau hedfan heddiw yn gwmnïau mawr sy’n chwilio am unigolion sy’n gyfathrebwyr da ac yn gallu gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm a gyda rhywun maen nhw newydd gwrdd. Os ydych yn credu bod gennych yr hyn mae’n ei gymryd, cewch weld y byd i gyd a byw’r freuddwyd!” David McGreevy, Uwch Swyddog Cyntaf, Peilot,British Airways.

Felly, rydych

chi am hedfan...

Y PEIRIANNYDDRydw i’n Beiriannydd Dylunio Mecanyddol sy’n arbenigo yn y sector dŵr a’r amgylchedd. Rydw i’n darparu gwasanaethau peirianneg i gyfleustodau fel Thames Water, Wessex Water ac United Utilities. O’i gymharu â chymwysterau neu raddau eraill mwy poblogaidd, nid yw’r llwybr peirianneg yn un hawdd, gyda llai o gyrsiau peirianneg ar gael i ddewis o’u plith, mae unedau yn tueddu fod â sail mathemateg a ffiseg cryf, gyda myfyrwyr yn llai tebygol o wneud cais amdanynt. Mae hyn, fodd bynnag, yn darparu graddedigion peirianneg gyda dilemma boddhaol wrth chwilio am waith gan eich bod yn gallu dewis o blith nifer o alwedigaethau peirianneg gyda chyflogau cystadleuol, hirhoedledd gyrfa a boddhad gwaith. Cymerais y llwybr dysgu ac ennill lle roedd fy nghyflogwr cyntaf yn hapus i noddi fy nilyniant drwy addysg uwch wrth weithio fel drafftsmon. Astudiais yn rhan-amser dros bum mlynedd i ennill HNC, HND a Gradd Baglor mewn Peirianneg Fecanyddol / Gweithgynhyrchu. Heddiw, mae mwy o gyflogwyr yn barod i gymryd myfyrwyr a phrentisiaid er mwyn helpu i ariannu’r llwybr hwn, ac wrth gyfeirio at eich swydd bob dydd, mae dysgu yn dod yn fwy perthnasol ac yn haws i’w ddeall. Rhai ffeithiau i chi:Mae Prydain yn cynhyrchu 25,000 o raddedigion peirianneg y flwyddyn ond mae angen o leiaf 80,000 ar y wlad (Sefydliad Peirianneg aThechnoleg (IET). Mae hyn yn newyddion gwych i ddarpar beirianwyr gan y gallwch ddisgwyl ennyn cyfraddau uchel o gyflog a buddion.Jason Adams, Peiriannydd Dylunio Arweiniol.

EWCH I CHWILIO: britishairways.com/careersEWCH I CHWILIO: semta.org.uk

EWCH I CHWILIO: britishairways.com/careers

YR HYFFORDDWRDechreuais i fel intern gydag Undeb Rygbi Cymru nôl yn 2001 tra ro’n i’n cwblhau fy ngradd Meistr mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Athrofa Cymru yng Nghaerdydd. Gwnes i’n siŵr fy mod yn parhau i ddysgu mwy am rôl yr Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru a gwnes i lawer o waith gwirfoddoli ychwanegol / gwaith cysgodi gyda Thîm Bath (Prifysgol), Tîm Jiwdo Prydain Fawr a Thîm Rhwyfo Prydain Fawr. Yn ddiweddarach, ces i swydd Prif Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru gydag URC, gan weithio’n bennaf gyda Gleision Caerdydd. Mae cryfder a chyflyru wedi dod yn broffesiwn boblogaidd iawn a galw mawr amdani. Tra bod llawer o wahanol raddau Gwyddor Chwaraeon neu raddau Cryfder a Chyflyru ar gael o amgylch y DU, mae niferoedd cymharol fach o swyddi llawn-amser, â thâl llawn o fewn chwaraeon proffesiynol a dim ond ychydig dethol sy’n ddigon ffodus i gael enillion ariannol mawr. Mae gwaith gwirfoddol a

swyddi intern yn hanfodol er mwyn i’ch cais am swydd sefyll allan.Mae yna ormod o ‘hyfforddwyr’ graddedig nad ydynt yn meddu ar y gallu ymarferol i hyfforddi neu fod yn gyfforddus mewn amgylchedd unigryw lle mae llawer o bersonoliaethau cryf yn bodoli. Yn fwy diweddar, mae Cymdeithas Cryfder a Chyflyru y DU (UKSCA) wedi cael ei sefydlu er mwyn darparu achrediad i’r diwydiant yn y DU. Mae bellach yn cael ei weld fel cymhwyster dymunol wrth wneud cais am swydd. Mae’r diwydiant yn parhau i esblygu, ac mae natur gystadleuol ein rôl yn golygu bod hyfforddwyr yn gyson yn ceisio esblygu a darparu rhaglen well ar gyfer eu hathletwyr. O ganlyniad, mae angen dysgu parhaus drwy raglenni DPP gwahanol ac amrywiol mewn ymgais i wella. Rhod Williams, Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru Academi Dreigiau Gwent

Hyfforddwr Rh

od Williams

Dr. Samantha Moore

Y MEDDYGWrth astudio Lefel A meddyliais efallai yr hoffwn i fod yn feddyg, felly trefnais wneud ychydig o waith gwirfoddol mewn canolfan ddydd i’r henoed. Os ydych yn ystyried meddygaeth yna rydw i’n argymell yn gryf eich bod chi hefyd yn dod o hyd i brofiad gwaith perthnasol. Bydd hyn yn helpu gyda’ch cais. Gwnes i gais i bum ysgol feddygol gwahanol; roedd y cyfweliadau yn siarad yn bennaf am brofiadau, diddordebau a rhesymau dros ymgeisio. Nawr, mae’r rhan fwyaf o ysgolion meddygol hefyd am i ymgeiswyr wneud arholiad o’r enw UKCAT, sy’n profi sgiliau synnwyr cyffredin a rhesymu, nid gwybodaeth. Treuliais i bum mlynedd yn Ysgol Feddygol Glasgow, roedd fy nghwrs yn gymysgedd o theori, darlithoedd, gwaith labordy a dyrannu, ynghyd â lleoliadau clinigol mewn practisau meddygon teulu ac ysbytai. Ar ôl pedair blynedd o weithio ar wardiau meddygol, penderfynais mai gofal lliniarol oedd y mwyaf diddorol. Bûm yn gweithio bedair blynedd yn hyfforddi mewn meddygaeth liniarol gan ddod yn ymgynghorydd yn 2012. Mae yna lawer o opsiynau ar ôl cymhwyso – fe wnaeth rhai o’m ffrindiau ddewis seiciatreg yn yr Unol Daleithiau, meddyg teulu yn Ucheldiroedd yr Alban, a phediatreg yn Seland Newydd. Mae hyfforddi i fod yn feddyg yn ymrwymiad gyrfa hirdymor, gwerth chweil ond hefyd yn galed iawn!Ymgynghorydd, Anna McPhearsonEWCH I CHWILIO: rcgp.org.uk

EWCH I CHWILIO: uksca.org.uk

Dr. Anna McPhearson

Y MILFEDDYGFelly, rydych yn unigolyn uchelgeisiol, sy’n gweithio’n galed ac yn benderfynol, a fyddai wrth eich boddyn gweithiogydag anifeiliaid? Dechrau gwych, ond beth allwch chi wneud i sefyll allan o’r llu o ymgeiswyr ysgol filfeddygol? Afraid dweud bod angen i chi fod y gorau o’r criw academaidd - bydd tair ‘A’ mewn bioleg, cemeg a/neu ffiseg a mathemateg yn ofynnol gan y rhan fwyaf, os nad pob un o’r prifysgolion sy’n cynnig gradd milfeddyg. Mae angen i chi gael rhywfaint o brofiad gwaith yn trin anifeiliaid gan gynnwys da byw a cheffylau. Os ydych yn ddigon ffodus i ddod o gefndir ffermio yna mae’n hawdd dangos digon o’r math hwn o brofiad. Os nad felly, yna parhewch i chwilio am gyfleoedd i wirfoddoli mewn stablau marchogaeth, cytiau achub a chathdai. Mae ffermydd elusen hefyd yn aml yn haws i fynd i mewn iddynt na ffermydd masnachol er mwyn gwneud y math hwn o waith gwirfoddol. Peidiwch â rhoi’r ffidil yn y to os nad ydych yn mynd i mewn i ysgol filfeddyg ar y cynnig cyntaf, cymerwch flwyddyn i ffwrdd, gwnewch rywbeth sy’n berthnasol i gael profiad ymarferol, yna ail-ymgeisiwch. Dr. Samantha MooreEWCH I CHWILIO: rcvs.org.uk

Chwaraeon | Gwasanaethau Cyhoeddus: Steve Quinton, MScAr ôl graddio mewn Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Lerpwl, fe wnaeth Steve gyfuno’i gymwysterau gyda’i angerdd am yr awyr agored i fod yn uwch hyfforddwr chwaraeon peryglus. Mae Steve yn awdurdod ar ddringo creigiau ac yn awdur cyhoeddedig; mae e hefyd yn Bencampwr Caiac Dull Rhydd; daeth yn 6ed yn y byd yn 1991, ac mae’n Bencampwr Cyfeiriadu Cymru ... phew!

Rydyn ni’n cyflogi staff sydd â chymwysterau academaidd ôl-16 arbenigol a chanddynt arbenigedd go iawn o’u diwydiant. Mae’r cyfuniad yma’n sicrhau eich bod yn derbyn addysg o ansawdd uchel sy’n atyniadol ac yn berthnasol er mwyn i chi fedru symud ymlaen naill ai i brifysgol neu gyflogaeth.

Cwrdd â’ch darlithwyr

Astudiaethau’r Amgylchedd: Powell Strong, MScYn ogystal â dysgu, mae Powell wedi bod yn ymgyrchydd brwd ar faterion cadwraeth ac amgylcheddol yn ystod y rhan fwyaf o’i fywyd proffesiynol. Mae Powell hefyd wedi ennill llawer o brofiad ar draws y byd yn gweithio ar brosiectau ymchwil yn Awstralia, Alasga ac yn agosach i gartref gydag Ymddiriedolaeth y Môr a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Celfyddydau Perfformio: Simon Haslam, BAAr ôl graddio, treuliodd Simon 10 mlynedd yn perffeithio’i sgiliau actio mewn hysbysebion a gyda chyfnod fel Mr Tumble ar ‘Play School’ y BBC. Fe wnaeth Simon berffeithio’i grefft ymhellach fel actor llwyfan yn Theatr Salisbury, Theatr Everyman yn Lerpwl a Theatr y Sherman, Caerdydd.

Busnes: Mike Thomas, MBAAr ôl graddio mewn Economeg o Brifysgol Rhydychen, dechreuodd Mike ar ei yrfa gan weithio ym myd bancio cyn symud ymlaen i ddysgu. Mae Mike wedi gweithio yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus, gan ddysgu busnes ac economeg. Mae wedi ysgrifennu llawer o erthyglau sydd wedi cael eu cyhoeddi.

Ffiseg | Cemeg: Dr. Helen CoomerAr ôl cwblhau ei gradd Meistr yn Y Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Caergrawnt, cafodd Helen ei chyflogi gan yr Asiantaeth Gwerthuso ac Ymchwil Amddiffyn (DERA) lle gwnaeth hi ei PhD. Cyn penderfynu dysgu, ymunodd Helen ag Unilever ac roedd yn un o’r gwyddonwyr a ddatblygodd y cynnyrch Persil ‘Small and Mighty’.

Technoleg Cerdd: Tim Lambert, MScAstudiodd Tim gerddoriaeth ym Mhrifysgol Newcastle. Roedd ei gefndir mewn cerddoriaeth glasurol yn ei alluogi i newid o chwarae i gynhyrchu cerddoriaeth. Gweithiodd Tim gyda Trevor Horn yn y nawdegau, yn cynhyrchu i artistiaid, yn cynnwys Madonna a Take That. Fe wnaeth Tim symud ymlaen i ddysgu mewn ysgol ramadeg yn Preston cyn symud i Sir Benfro.

Ffasiwn a Thecstilau:Julia Rees, BAAr ôl graddio gyda BA mewn Ffasiwn a Thecstilau, cafodd Julia ei dewis i weithio fel cynorthwy-ydd cwpwrdd dillad ar set y ffilm ‘Without a Clue’ gyda Syr Michael Caine a Syr Ben Kingsley. Roedd Julia hefyd yn ddylunydd dillad priodas llwyddiannus ar gyfer casgliadau Moss Bros yn Llundain. Heddiw, mae Julia yn cyfuno dysgu gyda chynhyrchu creadigaethau ar gyfer eu harddangosfeydd ei hun.

Peirianneg: : Richard Wray, MScFel Peiriannydd Siartredig, fe wnaeth Richard weithio fel Pennaeth Peirianneg i’r Grŵp Technoleg Prydain (BTG) yn flaenorol. Fe wnaeth gymryd rhan mewn prosiectau arbenigol fferyllol gan gynnwys creu gwrthwenwynau i drin brathiadau neidr a darganfod gwenwynau amgylcheddol a ddefnyddir i drin cyflyrau ar y galon a chanser.

Mathemateg | Mathemateg Uwch: Helen Stoddart, MScGraddiodd Helen mewn Economeg ac yna cwblhaodd MSc mewn Ystadegau cyn symud ymlaen i ddysgu. Astudiodd Helen radd ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac ar hyn o bryd yn gweithio gyda chyd-ddarlithwyr Powell Strong a Steve Quinton ar brosiect LCRI (Sefydliad Ymchwil Carbon Isel).

Rheoli Adeiladu: :Antony Davies, BScDechreuodd gyrfa broffesiynol Antony gyda Dŵr Cymru pan weithiodd fel Syrfëwr Drafftsmon. Symudodd i fyny’n gyflym i weithio fel Uwch Dechnegydd Ymgynghorol cyn cymryd swydd fel Peiriannydd Modelu Peirianneg Cyfrifiadurol gyda Hyder, yn arbenigo mewn systemau cyflenwi dŵr.

Bioleg: Kate Bassett-Jones, MScRoedd Kate yn arfer dysgu yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau. Pan nad yw Kate yn gwisgo’i chot labordy wen byddwch yn gallu dod o hyd iddi yn cerdded gyda myfyrwyr y Coleg yng Nghymru a thramor gyda Gwobr Dug Caeredin. Fe wnaeth sgiliau dysgu Kate ennill le iddi ar y rhestr fer am wobr gyda Cholegau Cymru yn ddiweddar.

18-19

LEFEL A NEU DDIPLOMA, PA LWYBR SY’NADDAS I CHI?

? ?

Lefel A:Y Llwybr Academaidd i’r BrifysgolYng Ngholeg Sir Benfro, rydym yn ymfalchïo mewn cynnig llwybrau academaidd a galwedigaethol i’r brifysgol. Os ydych yn penderfynu cymryd y llwybr Lefel A, rydym yn cynnig system cryf iawn o ofal bugeiliol a chymorth i fynd â chi drwy eich astudiaethau ac i mewn i brifysgol o’ch dewis cyntaf. Roedd cyrchfannau y llynedd (2015) yn cynnwys: prifysgolion Bryste, Abertawe a Manceinion.

Anelwch am un o’r prifysgolion gorau yn y DURydym yn cynnig amrywiaeth eang o bynciau Lefel A, o Wyddoniaeth i’r Cyfryngau i’r Dyniaethau, fe welwch restr lawn ar dudalen 26. Byddwch hefyd yn gallu cael cymorth arobryn i fyfyrwyr, hyd yn oed mentora arbenigol ar gyfer y rhai sy’n anelu at astudio meddygaeth neu fynd i mewn i un o brifysgolion gorau’r DU.

Diploma Estynedig:Y Llwybr Ymarferol i Brifysgol neu GyflogaethOeddech chi’n gwybod bod llawer o fyfyrwyr y DU nawr yn dewis y llwybr galwedigaethol i brifysgol? Y llynedd, daeth 80% o geisiadau prifysgol Coleg Sir Benfro o fyfyrwyr Diploma a 20% o fyfyrwyr Lefel A. Mae Diplomâu Estynedig BTEC yn gryfach ac yn fwy perthnasol nag erioed o’r blaen. Mae llawer o rieni yn credu taw Lefel A yw’r unig lwybr i fynd i brifysgol o safon. Nid yw hyn yn wir. Mae Diplomâu yn werth tair Lefel A ac maent yn llwybr arall i brifysgolion yn y DU, gan gynnwys Prifysgolion Grŵp Russell, ee Prifysgol Caerdydd.

MANTEISION ANFANTEISIONLEFEL A

• Safon aur ar gyfer mynediad i brifysgol o’r radd flaenaf.

• Cymwysterau academaidd trylwyr.• Fe’u cydnabyddir yn rhyngwladol.• Gallwch astudio dewis o bynciau sydd o

ddiddordeb i chi.

LEFEL A • Gall myfyrwyr gael eu bwydo â llwy. Gall y trawsnewid o’r Coleg / ysgol i’r brifysgol fod yn heriol.• Dysgu Dwys - llwyth gwaith trwm, mae

arholiadau wedi’u pentyrru ar ddiwedd pob blwyddyn.

DIPLOMA ESTYNEDIG• Llwybr cydnabyddedig i’r brifysgol.• Cyfuniad o ddysgu ymarferol a theori gyda

llai o arholiadau.• Mae modiwlau yn gysylltiedig â’ch pwnc

dewisol.• Mae astudio Diploma yn hyrwyddo dysgu

annibynnol, sy’n eich paratoi ar gyfer blwyddyn gyntaf astudio mewn prifysgol.

• Mae’r cwrs yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth neu brifysgol.

DIPLOMA ESTYNEDIG • Ni fydd rhai cyrsiau academaidd prifysgol yn

derbyn y Diploma e.e. Meddygaeth a’r Gy-fraith.

• Dewiswch eich cwrs diploma yn ddoeth - ni fydd diploma gofal iechyd yn cael lle prifysgol i chi wrth astudio peirianneg.

• Mae angen i chi gadw momentwm gyda’ch astudiaethau. Bydd methu terfynau amser yn lleihau eich siawns o ennill y graddau uchaf a fydd yn y pen draw yn penderfynu eich lle mewn prifysgol.

20-21

Ext.

Mae James Taylor yn astudio Peirianneg Gemegol ym Mhrifysgol Rhydychen

Mae Olivia Collens yn astudio Biowyddoniaeth yn yr Unol Daleithiau Mae Vinnie Daniels yn astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Durham

DIPLOMÂU ESTYNEDIG:Rheoli Anifeiliaid | Busnes | Gofal Plant| Adeiladu | Dylunio (nifer o lwybrau) | Peirianneg (nifer o lwybrau) | Iechyd a Gofal Cymdeithasol | TG | Morol | Technoleg Cerddoriaeth | Y Celfyddydau Perfformio | Gwasanaethau Cyhoeddus | Chwaraeon |

Myfyriwr y flwyddyn 2014,Mae Shaquell Williams yn astudio Pensaernïaeth ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr

Cyn-fyfyriwr Diploma Estynedig:Mae Shaquell Williams yn astudio Pensaernïaeth ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr

Fe allech ddweud wnes i ddim cymryd y llwybr traddodiadol i Bensaernïaeth. Fe wnes i gwblhau blwyddyn gyntaf y Diploma Lefel 1 mewn Gosod Brics yn y Coleg ac yna cofrestru ar y Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig.I unrhyw un sydd â diddordeb yn y diwydiant adeiladu, nid dim ond pensaernïaeth, byddwn i’n argymell y Diploma Estynedig yn gryf. Mae’n cynnwys amrywiaeth eang o feysydd o fewn y diwydiant, a llawer ohonyn nhw wedi fy mharatoi’n llawn ar gyfer modiwlau blwyddyn gyntaf prifysgol.

Mae’r cwrs BSc (Anrh) Pensaernïaeth ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr yn gwrs hynod dwys. Mae’r flwyddyn gyntaf yn cynnwys gwaith llaw, dim cyfrifiaduron.

Roedd hyn yn swnio’n rhyfedd i ddechrau, ond mae wir yn eich galluogi i ddeall pob elfen y tu ôl i ddylunio, trwy arbrofi gyda braslunio llawrydd i ddarllen a deall adeiladau ac adeiladu drwy fanylder technegol. Mae fy mhrofiad blaenorol o weithio ar safle adeiladu hefyd wedi fy mharatoi’n dda ar gyfer bron pob modiwl rydw i wedi astudio hyd yn hyn.

Fy nghyngorOs ydych yn ystyried gyrfa mewn pensaernïaeth, cofiwch mae mwy nag un llwybr i gyrraedd eich nod. Po fwyaf o wybodaeth y gallwch chi gasglu o lwybrau anghonfensiynol, fel gwaith safle adeiladu ymarferol, mwyaf i gyd y byddwch ar eich ennill.

Cyn-fyfyriwr Lefel A:Mae James Taylor yn astudio Peirianneg Gemegol ym Mhrifysgol Rhydychen

Gwneud cais i Rydychen oedd y penderfyniad gorau wnes i erioed. Y brifysgol yw, yn fy marn i, y lle gorau i fod fel person ifanc, a rydw i’n credu y dylai pawb roi cynnig arni! Roedd setlo i mewn yn hawdd gyda chymorth myfyrwyr hŷn a’r amgylchedd o barch a goddefgarwch sy’n bodoli mewn prifysgolion.

Fy nghyngorFy nghyngor pennaf yw i chi ymchwilio eich prifysgol dewisol gymaint ag sy’n bosib. Mae gwneud penderfyniad gwybodus yn bwysicach na rydych yn’i feddwl. Mae cyllid myfyrwyr yn wych yn Rhydychen, ychydig iawn o anawsterau sydd na ellir mo’u goresgyn, ac mae’r cymorth yn ardderchog.

Byddwch yn cwrdd ag amrywiaeth helaeth o gymeriadau; byddwch yn chi eich hun a byddwch yn ffitio i mewn. Mae blwyddyn gyntaf fy nghwrs Gwyddor Peirianneg wedi bod yn heriol ac ar adegau’n straen. Os ydych fel fi, byddwch yn teimlo bod cyflymder gwaith y mis cyntaf yn anhygoel o gyflym, ond byddwch yn dod i arfer ag e. Gwnewch yn siŵr bod gennych ddiddordeb gwirioneddol yn y pwnc rydych wedi dewis!

LEFEL A YN Y COLEG:Celfyddyd - Celf Gain | Bioleg | Busnes | Cemeg | Iaith a Llenyddiaeth Saesneg | Llenyddiaeth Saesneg | Astudiaethau Amgylcheddol | Y Gyfraith | Mathemateg | Mathemateg Bellach | Astudiaethau’r Cyfryngau | Ffotograffiaeth | Ffiseg | Seicoleg | Cymdeithaseg

Coleg... Hip neu Sgip?

Enwau cyntaf Does dim angen galw eich athrawon yn ‘Syr’ neu ‘Miss’

Amrywiaeth Dewch yn llu a disgwyl parch am eich unigolrwydd

eich tabled? Dewch â’ch dyfais eich hun gyda chi i’r Coleg

Dewiswch fwyty’r Bistro neu’r ffreutur am ddewis eang

Coleg Cwl !

Gwaith a chwarae Cyfle i gael hwyl yn Ffair y Glas! Mwynhewch gerddoriaeth, bwyd a gweithgareddau

Diwylliant Astudiwch ochr yn ochr â’n myfyrwyr rhyngwladola chael blas ar bedwar ban y byd

Cyfleusterau gwychSalon gwallt ac ystafelloedd therapi, cegin ddiwydiannol a bwyty cyhoeddus, stiwdio recordio a stiwdio ffotograffig, ystafelloedd Apple Mac, gweithdai peirianneg ac adeiladu

Mwy o le Mae gennych gysylltiad-o-bell i’ch gwaith cwrs felly gallwch ddal lan ar unrhyw adeg, unrhyw le

Yma i’ch helpuMae tîm Cymorth Dysgu ymroddedig gyda chi bob cam o’r ffordd

Yma i’ch helpuMae tîm Cymorth Dysgu Yma i’ch helpu

Dim gwisg ysgol! Does dim angen i chi gydymffurfio. Byddwch eich hun a gwisgwch beth bynnag rydych chi eisiau

Ysgoloriaeth Bob blwyddyn mae nifer cyfyngedig o ysgoloriaethau ar gael i fyfyrwyr sy’n llwyddo

eich tabled?

Diwylliant Astudiwch ochr yn ochr â’n myfyrwyr rhyngwladola chael blas ar bedwar ban y byd

Mwy o le Mae gennych gysylltiad-o-bell i’ch gwaith cwrs felly gallwch ddal lan ar unrhyw adeg, unrhyw le

Bwyd ar gyfer egni

Cyfle

Profiad

CWTCH

xx

>

£

Mae Georgia Geary nawr yn astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Bryste (2015). Dywedodd Georgia a astudiodd Bioleg, Cemeg a Mathemateg: “Mae yna gymysgedd wych o bobl yn y Coleg a dw i’n gweld eu heisiau. Mae’r darlithwyr wedi bod yn wirioneddol wych - Byddwn yn bendant yn argymell astudio yn y Coleg!”

Dyma lun o Georgia yn casglu ei siec am £1,000, fel rhan o fwrsari STEM y Coleg, gyda’r nod o gefnogi pobl ifanc sydd am ddilyn gyrfa yn y pynciau STEM.

BWRSARI STEM £2,000 I FYFYRWYR LEFEL AA MYFYRWYR DIPLOMAGall myfyrwyr sydd am astudio Lefel A Gwyddoniaeth, Cyfrifiadura neu Fathemateg, neu Ddiploma Estynedig mewn Peirianneg fod yn gymwys i wneud cais am Ysgoloriaeth STEM gwerth £2,000. Rhaid i fyfyrwyr fod wedi ennill graddau A* neu A mewn TGAU Gwyddoniaeth a Mathemateg (ar eu cynnig cyntaf). Bydd dyfarnu’r Ysgoloriaeth yn amodol ar gyfweliad gan banel y Coleg yn ystod tymor yr hydref. Ar ôl cael eich derbyn fel myfyriwr ysgoloriaeth byddwch yn derbyn eich taliad cyntaf o £500 yn Rhagfyr 2016.Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost at [email protected]

MENTORAMentoriaid derbyn i ysgolion meddygol:Maxine Thomas, Pennaeth Diogelu a Gwasanaethau i Ddysgwyr yn y Coleg.Dr Vellupillai Vipulendran, Cynghorydd y Coleg.Ymgynghorwyr Oxbridge (ar y cyd â Rhwydwaith Seren: Rhaglen Cefnogi Myfyrwyr Disgleiriaf Cymru):Maxine Thomas a Dr Hywel Davies, Cyn Gyfarwyddwr Derbyniadau,Prifysgol Aberystwyth. Bydd dysgwyr hefyd yn cymryd rhan yn Rhaglenni Llysgennad Oxbridge.Sesiynau wedi’u hamserlennu: Rhaglen Oxbridge:3 slot bob tymor.Rhaglen Feddygol a Milfeddygol:3 slot bob tymor.Sesiynau Mentora: Apwyntiadau ddwywaith y tymor i’w cytuno rhwng mentoriaid a mentoreion.Apwyntiadau misol ar gyfer myfyrwyr meddygol a milfeddygol.

MENTOR AMRAGORIAETHMae’r holl fyfyrwyr Lefel A yn cael cymorth UCAS (Gwasanaeth Ceisiadau i Brifysgolion a Cholegau). Mae cymorth ychwanegol hefyd drwy ein Rhaglen Cyflawni a Mentora ar gyfer Rhagoriaeth ar gyfer myfyrwyr uchelgeisiol.Mae panel o uwch academyddion wedi cael eu dewis i helpu myfyrwyr i ddatblygu meysydd rhagoriaeth drwy waith ymestynol, heriol ac arweiniad arbenigol a mentora.

YCOLEGYNGOFALUAMDANOCHP’un a ydych yn gobeithio mynd i’r brifysgol, neu hyfforddiant ar gyfer cyflogaeth, efallai bydd angen ychydig o gymorth arnoch ar ryw adeg yn ystod eich astudiaethau. Yn y Coleg gallwn gynnig llawer o gymorth beth bynnag yw lefel eich dysgu.

• Mae tîm o bedwar Anogwr Dysgu yn sicrhau bod dysgwyr yn deall ac yn ymrwymo i lwybr dysgu a fydd yn gwella’u siawns o lwyddo.

• Mae Hyfforddwr Ymddygiad Cadarnhaol yn cefnogi dysgwyr ar sail un-i-un ac yn mynd i’r afael ag unrhyw faterion hyder, hunan-barch, straen neu reoli dicter.

• Mae Cwnselydd y Coleg yn darparu cwnsela un-i-un, cwnsela grŵp a chwnsela ar-lein.

• Mae Nyrs y Coleg wedi’i hyfforddi ym mhob agwedd ar nyrsio ysgol a phediatrig.

• Mae Asesydd Cymorth Arbenigol yn darparu trefniadau mynediad a threfniadau arholiadau i fyfyrwyr ag anableddau ac anawsterau dysgu.

• Mae tîm o dri Ymgynghorwr Cymorth Sgiliau yn darparu cymorth ar gyfer TGAU, sgiliau hanfodol a sylfaenol, cymorth gydag aseiniadau, prawfddarllen a gwirio bod tasgau aseiniadau wedi’u cwblhau.

• Mae tîm helaeth o Gynorthwywyr Cymorth Dysgu (LSAs) yn darparu cymorth ystafell ddosbarth, gweithdai a chymorth galw i mewn ar sail un-i-un a grŵp.

• Mynediad i’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn i helpu myfyrwyr trwy gyfrannu tuag at gostau cyrsiau fel llyfrau, offer a gwisg. Gall myfyrwyr hefyd wneud cais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg, sy’n helpu myfyrwyr gyda chostau astudio yn y Coleg.

MWY GALLUOG A THALENTOG (MAT)Mae gan y Coleg raglen gynhwysfawr bwrpasol ar gyfer ei ddysgwyr Mwy Galluog a Thalentog. Fel rhan o’r Rhaglen MAT, mae’r Coleg yn:

• Darparu mentora gan arbenigwyr allanol ar gyfer rhaglenni Oxbridge ac ysgolion Meddygol.

• Trefnu ffug-gyfweliadau gydag ymgynghorydd Oxbridge.

• Gwobrwyo ysgoloriaethau STEM er mwyn helpu i gefnogi dysgwyr yn ariannol wrth iddyn nhw astudio.

• Annog mynediad i Brifysgolion Grŵp Russell.• Cefnogi dysgwyr i fynychu cynadleddau VetMed a

Medlink.• Trefnu bod holl ymgeisgwyr posib Grŵp Russell

ac Oxbridge yn mynychu’r digwyddiad yn Stadiwm Liberty.

• Gosod targedau uchelgeisiol trwy’r rhaglen diwtorial, ac mae dysgwyr yn derbyn dulliau wedi’u teilwra i’w galluogi i ddatblygu a gwneud cynnydd.

• Aelod achrededig o Barc Villiers lle gall dysgwyr fynychu cyrsiau.

• Darparu dysgwyr â’r cyfle i ddilyn unedau YASS.

24-25

MENTOR AMRAGORIAETH

colegsirbenfro.ac.uk0800 9 776 788

CYRSIAU LLAWN AMSERLEFEL AAstudiaethau yr Amgylchedd - Lefel 3Astudiaethau’r Cyfryngau - Lefel 3Busnes - Lefel 3Bioleg - Lefel 3Celfyddyd Gain - Lefel 3Cemeg - Lefel 3Cymdeithaseg - Lefel 3Ffiseg - Lefel 3Ffotograffiaeth - Lefel 3Mathemateg - Lefel 3Mathemateg Uwch - Lefel 3Saesneg (Llenyddiaeth) - Lefel 3Saesneg (Iaith & Llenyddiaeth) - Lefel 3Seicoleg - Lefel 3Y Gyfraith - Lefel 3ANIFEILIAID AC ASTUDIAETHAU’R TIRAnifieiliaid - Cwrs Ymgysylltu Lefel 1Gofal Anifeiliaid - Diploma Lefel 1-2Cefn Gwlad a’r Amgylchedd - Diploma Lefel 2 Rheolaeth Anifeiliaid - Diploma Lefel 3BUSNES & THWRISTIAETHBusnes - Diploma Lefel 3 GOFAL PLANTGofal Plant - Cwrs Ymgysylltu Lefel 1Gofal Plant, Dysgu & Datblygu - Diploma lefel 2-3Gofal ac Addysg Plant - Lefel 2

Dewch i gwrdd â’r tiwtoriaid, cyfle i weld cyfleusterau’r coleg ac ymchwilio’ch opsiynau ar ôl TGAU:

Noson Agored Lefel-A Nos Fawrth 19 Ionawr 2016, 5yh - 7yhNoson Agored Nos Lun 25 Ionawr 2016, 5yh - 7yhNoson Agored Nos Fawrth 19 Ebrill 2016, 5yh - 7yh

CYRS

IAU

NOSWEITHAUAGORED

CYFRIFIADUREGTGCH - Cwrs Ymgysylltu Lefel 1TGCH - Diploma Lefel 2TGCH - Diploma Lefel 3ADEILADUBricwaith - Cwrs Ymgysylltu hyd at Lefel 1Gwaith Saer - Cwrs Ymgysylltu hyd at Lefel 1Plymio - Cwrs Ymgysylltu/Hyfforddiant hyd at Lefel 1Bricwaith - Tystysgrifau a Diplomau Lefel 1-3Gwaith Saer - Tystysgrifau a Diplomau Lefel 1-3Plymio - Tystysgrifau a Diplomau Lefel 1-3Dylunio Pensaernïol ac Adeiladu - Diploma Lefel 3CREADIGOLCelf a Dylunio - Diploma Lefel 2Ffasiwn & Thecstiliau - Diploma Lefel 3Dylunio Graffeg - Diploma Lefel 3Cyfryngau Rhyngweithiol - Diploma Lefel 3Celf & Dylunio - Diploma Sylfaenol Lefel 3-4Technoleg Cerdd - Diploma Lefel 3Celfyddydau Perfformio - Diploma Lefel 3 PEIRIANNEGCerbydau Modur – Cwrs Ymgysylltu - hyd at Lefel 1Peirianneg - Cwrs Ymgysyllyu/Hyfforddiant – hyd at Lefel 1Perfformio Gweithrediadau Peirianneg - Lefel 3Trydanol - Lefel 1-2Trydanol ac Electronig – Diploma Lefel 3Cerbydau Modur - Diploma Lefel 1-3Peirianneg ac Adeiladu: Weldio, Platio, Gosod pibelli - Lefel 2-3GWALLT A HARDDWCHGwallt a Harddwch - Cwrs Ymgysylltu/Hyfforddiant i lefel 1Trin Gwallt a Gwaith Barbwr - Lefel 1-3Therapi Harddwch - Diploma Lefel 1-3Therapïau Cyfl enwol - Diploma Lefel 2-3Tylino Uwch - Diploma Lefel 3IECHYDIechyd a Gofal Cymdeithasol: Cwrs Ymgysylltu – hyd at Lefel 1Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Diploma Lefel 2Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gofal Cymdeithasol) - Diploma Lefel 3Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gwyddorau Iechyd) - Diploma Lefel 3LLETYGARWCHSgiliau Gwasanaeth Cwsmer - Lefel 2 Coginio Proffesiynol - Lefel 1-2 Coginio Proffesiynol - Diploma Lefel 3 Goruchwylio ac Arwain - Diploma Lefel 3GWASANAETHAU CYHOEDDUSParatoi i’r Fyddin - Cwrs ymgysylltu hyd at Lefel 1 Gwasanaethau Cyhoeddus - Diploma Lefel 2-3.CHWARAEONChwaraeon - Cwrs Ymgysylltu/Hyfforddiant – hyd at Lefel 1 Chwaraeon - Diploma Lefel 2 Datblygu Chwaraeon, Hyfforddi a Ffi trwydd - Diploma Lefel 3SGILIAU AR GYFER ASTUDIO PELLACHSgiliau ar gyfer Astudio Pellach - Lefel 2

Ymwadiad: Mae’r cyrsiau yn gywir ar adeg argraffu. Ewch i’n gwefan am restr o’r cyrsiau diweddaraf.

Sut i gwneud cais i’r Coleg...

Gwnewch eich ymchwil! Ydych chi’n gobeithio mynd i’r brifysgol? Ydych chi eisiau dysgu crefft i’ch paratoi am gyfl ogaeth, os felly, pa un? Sicrhewch eich bod chi’n ymchwilio’r gwahanol gyrsiau a’u gofynion mynediad cyn gwneud cais i’r coleg.

Ewch i weld... Campws y Coleg, cwrdd

â’r tiwtoriaid ac ymchwiliwch i wahanol gyrsiau:

Noson Agored Lefel-A, 19 Ionawr ‘16 Noson Agored Cyffredinol, 25 Ionawr ‘16

Noson Agored Cyffredinol, 19 Ebrill ‘16 Yn rhedeg o 5yh tan 7yh

Gwneud cais Os ydych ym Mlwyddyn 11, rhaid i chi wneud cais gan ddefnyddio’r Prosbectws Ardal Gyffredin (y CAP) drwy wefan Gyrfaoedd Cymru, fel arall gwnewch gais yn uniongyrchol i’r Coleg. Croeso i chi wneud cais ar-lein neu galwch heibio am ffurfl en gais.

Paratowch ar gyfer eich cyfweliadEdrychwch ar gynnwys y cwrs ar wefan y Coleg. Gwnewch restr o gwestiynau i ofyn i’r tiwtor. Siaradwch â ffrindiau sydd wedi astudio’r cwrs o’r blaen. Gwisgwch yn smart ond yn hamddenol.

Gweithiwch yn galed tuag at eich arholiadau

Os ydych chi’n cwrdd â, neu’n rhagweld i gwrdd â gofynion

mynediad eich cwrs byddwn yn cysylltu â chi gyda manylion eich

cyfweliad. Dal yn ansicr am ba gwrs fyddai orau?

Ffoniwch ni ar 0800 9 776 788.

Llongyfarchiadau!Yn dilyn cyfweliad, gobeithio

byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau eich cynnig ac unrhyw

amodau. Os rydyn ni’n meddwl nad yw’r cwrs yn iawn i chi, neu os nad

yw’ch canlyniadau’n bodloni’r gofynion mynediad, efallai byddwn

ni’n penderfynu cynnig lle i chi ar gwrs gwahanol.

Canllawiau cam wrth gam

High Five!

Ble? Sut? Pryd? Pam?

0800 9 776 [email protected]

Tynnwyd llun y clawr gan fyfyriwr ffotograffiaeth Rachel Thomas.