y menopos: mater yn y gweithle - tuc survey report final_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”....

36
1 Y menopos: mater yn y gweithle Adroddiad ar arolwg gan TUC Cymru yn ymchwilio i’r menopos a’r gweithle yng Nghymru

Upload: lethuan

Post on 16-Jun-2019

221 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

1

Y menopos:

mater yn y gweithle

Adroddiad ar arolwg gan TUC Cymru yn ymchwilio i’r menopos a’r

gweithle yng Nghymru

Page 2: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

2

Cynnwys

3 Rhagair 4 Crynodeb Gweithredol 6 Y menopos fel mater yn y gweithle Beth yw’r menopos a phwy sy’n ei brofi?

Y menopos yn y gweithle: y gyfraith

9 Dyluniad yr arolwg Dyluniad a dosbarthiad

Yr ymatebwyr

11 Canfyddiadau’r arolwg Y menopos a bywyd gwaith

Sut y mae pobl yn gweld y menopos yn y gweithle

Siarad am y menopos yn y gwaith

Polisïau’r gweithle

Rôl TUC Cymru a’r undebau

Awgrymiadau gan ymatebwyr i wella’r sefyllfa

Sylwadau pellach

Casgliad

35 Ffynonellau gwybodaeth a chymorth pellach 36 Dogfennau cyfeiriol

Page 3: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

3

Rhagair Gan Beth Davies Cadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb TUC Cymru Yn draddodiadol, mae’r menopos wedi cael ei weld fel mater preifat neu ‘fater i ferched’ ac yn sicr nid fel pwnc sy’n cael ei drafod yn agored yn aml neu sy'n cael ei ystyried wrth ddylunio’r gweithle ac arferion gweithio. Daw’r menopos â newidiadau corfforol yn ei sgîl, ac i lawer o ferched gall achosi symptomau corfforol a seicolegol. I rai merched, gall y symptomau hyn fod yn sylweddol. Drwy ymgynghori â chynrychiolwyr undebau’r gweithle ar draws Cymru a gyda'n fforwm merched, mae TUC Cymru wedi sefydlu ar sail hanesion, er bod rhai merched wedi cael profiad hawdd o’r menopos, bod eraill wedi canfod ei fod yn amser pryd y cawsant nifer o symptomau a wnaeth eu bywyd gwaith yn anoddach. Dywedodd lawer o ferched fod amgylchedd ac arferion y gweithle’n gwneud eu symptomau’n waeth. Cafwyd fod cyflogwyr, hyd yn oed mewn gweithleoedd lle mae’r mwyafrif o’r gweithwyr yn ferched, wedi bod yn araf deg i gydnabod bod efallai angen ystyriaeth ychwanegol ar ferched sy’n mynd drwy’r menopos. Hyd yn oed heddiw, yn aml iawn nid yw’r menopos yn cael ei drafod yn y gweithle. O ganlyniad mae llawer o ferched yn teimlo bod yn rhaid iddynt guddio eu symptomau neu siarad amdanynt mewn ffordd ddigrif. Yn ôl merched, yn aml iawn nid oedd cyflogwyr yn delio â’r problemau mewn ffordd oedd o gymorth i’w gweithwyr. Pur anaml oedd rheolwyr yn derbyn hyfforddiant mewn materion menopos ac felly roedd llawer yn anymwybodol o’r mater. Mwy o ofid yw bod rhai materion yn cael eu hanwybyddu neu eu diystyru’n llwyr. O ganlyniad roedd merched yn cael eu disgyblu ar sail cymhwysedd am rywbeth lle mai’r cwbl oedd ei angen oedd gwneud addasiadau syml i’w hamodau gwaith. Ar ôl clywed am brofiadau ac adborth gan gynrychiolwyr gweithle ac aelodau o undebau, pasiwyd cynnig yng Nghynhadledd TUC Cymru 2016 yn galw ar TUC Cymru i ymchwilio ymhellach i brofiadau merched yn y gweithle, edrych ar sut y mae cyflogwyr yng Nghymru’n ymateb i’r mater ac ymgyrchu dros newid. Dyluniwyd yr arolwg hwn a’r adroddiad i ymchwilio i brofiadau rhai a aeth drwy’r menopos yn y gweithle yng Nghymru. Comisiynodd TUC Cymru rwydwaith WEN Wales i weithio mewn partneriaeth â ni ar yr ymchwil. Derbyniodd yr arolwg ymateb gwych gyda bron i 4000 o bobl yn cymryd rhan. Mae’n amlwg wedi agor briw – ni dderbyniodd TUC Cymru erioed cystal ymateb i arolwg o’r blaen. Mae wedi rhoi cyfle i ferched ddweud eu dweud ac wedi creu galwad bwerus am newid. Ers rhy hir mae anghenion merched wedi cael eu hanwybyddu a rhaid i hyn newid. Mae’n bwysig bod yr alwad hon i weithredu yn cael ei chlywed – a’i hateb. Mae’n bryd chwalu’r ‘tabŵ olaf’ – y menopos yn y gweithle.

Page 4: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

4

Crynodeb Gweithredol Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar brosiect ymchwil i’r menopos a’r gweithle a gomisiynwyd gan TUC Cymru drwy weithio mewn partneriaeth â Rhwydwaith Cydraddoldeb Merched Cymru (WEN Wales). Fel corff ymbarél ar gyfer undebau llafur, mae TUC Cymru am i Gymru ddod yn wlad gwaith teg. Merched yw dros hanner holl aelodau'r undebau llafur a gyda 50 o undebau cysylltiedig, a 400,000 a mwy o aelodau yng Nghymru, mae gan TUC Cymru rôl allweddol i'w chwarae mewn tynnu sylw at faterion sy’n effeithio ar ferched yn y gweithle. Rhwydwaith Cydraddoldeb Merched Cymru (WEN) yw corff ymbarel y sector merched yng Nghymru. Gyda dros gant o aelodau, yn sefydliadau ac unigolion, nod WEN yw creu cymdeithas fwy cyfartal i ferched o bob oed yng Nghymru. Roedd yr ymchwil yn cynnwys holiadur syml gan ddenu ymateb gan 3,844 a’r mwyafrif ohonynt yn dweud eu bod naill ai’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Roedd yr arolwg ar gael i bawb ond merched oedd y mwyafrif llethol o’r ymatebwyr, er i nifer fach o ddynion a phobl a ddywedodd fod eu rhywedd yn ‘arall’ hefyd gymryd rhan. Rhoddwyd cyfle i’r cyfranogwyr ehangu ar eu hymateb i’r cwestiynau drwy roi sylwadau ysgrifenedig ychwanegol. Cynhyrchodd hyn ymateb anhygoel gyda miloedd lawer o hanesion personol wedi eu mynegi’n daer iawn yn aml. I ddilyn yr holiadur, cynhaliodd TUC Cymru gyfres o weithdai gyda chynrychiolwyr undebau’r gweithle ar draws Cymru yn y gwanwyn 2017. Daeth tua chant o gynrychiolwyr undebol i’r gweithdai hyn a ddefnyddiwyd i drafod syniadau posib ar gyfer cyflwyno newid yn y gweithle ac argymhellion gweithredu mwy manwl. Daeth cyfranogwyr y gweithdai o ystod eang o undebau’n cynrychioli’r sectorau preifat a chyhoeddus, gan gynnwys cynrychiolwyr gweithle a chynrychiolwyr iechyd a diogelwch o’r ddau ryw a chynrychiolwyr undebau merched hŷn. Hefyd, yn Nhachwedd 2016, cynhaliwyd gweithdai gyda grŵp o 17 o ferched o gymunedau du a lleiafrifol ethnig (BAME) i sicrhau bod barn ystod amrywiol o ferched yn cael ei chlywed. Dangosodd y data rhifyddol ynghyd â’r sylwadau ysgrifenedig a’r adborth o’r gweithdai fod y menopos yng Nghymru’n effeithio ar gyfran uchel o ferched sy’n gweithio, ond eto gan amlaf nad yw’n cael ei gydnabod a’i adnabod gan gyflogwyr a rheolwyr, gymaint felly fel ei fod efallai’n cael ei ystyried yn bwnc ‘tabŵ’. Gwaeth fyth, mae’n aml yn cael ei drin yn negyddol neu ei weld fel ‘jôc’, ac mae’n enghraifft o wahaniaethu ar sail rhyw yn y gweithle. Mae hyn yn adlewyrchu’r agweddau negyddol a rhywiaethol tuag at heneiddio mewn merched sydd, yn anffodus, yn fyw ac iach yn ein cymdeithas yn gyffredinol hefyd. Nid salwch yw’r menopos ond mae llawer o’r symptomau, sy’n aml wedi eu cuddio, yn effeithio ar ferched mewn gwahanol ffyrdd. Cymerwn y dimensiwn diwylliannol: mae gwahanol grwpiau ethnig a diwylliannol yn gweld y menopos yn wahanol ac mae diwylliannau gydag agwedd fwy cadarnhaol at heneiddio’n ei ystyried fel rhywbeth mwy positif1. Mae gan yr undebau rôl bwysig i’w chwarae mewn herio gwahaniaethu yn y gweithle a bargeinio am bolisïau gwell i gefnogi eu haelodau sy’n ferched. Yn y gweithle dywedodd ferched bod arnynt ofn codi’r mater gyda’u rheolwr oherwydd ofni cael eu labelu’n wan neu’n anghymwys gan felly roi sicrwydd eu swydd neu gyfle i gael dyrchafiad yn y fantol. Wrth holi am bosibiliadau gweithredu, cafwyd amrediad o awgrymiadau gan ymatebwyr yn amrywio o godi ymwybyddiaeth a lledaenu gwybodaeth i newid arferion yn y gweithle. Dengys nifer a

Page 5: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

5

dyfnder yr ymatebion fod taer angen cael mwy o addysg, yn enwedig i gyflogwyr a rheolwyr llinell. Gwrthododd nifer fach o’r ymatebwyr y syniad o gynnwys yr undebau i fynd i’r afael â materion menopos yn y gweithle. Roedd yn well ganddynt weld y mater fel un preifat i’r unigolyn. Ond barn leiafrifol oedd hyn ac at ei gilydd roedd yr ymatebwyr yn unfrydol o blaid bod yn agored am, a chydnabod y menopos yn y gweithle, fel bod merched sydd angen cymorth neu addasiadau’n gallu derbyn y pethau hyn. Teimlai’r mwyafrif o’r ymatebwyr y gallai’r undebau chwarae rôl allweddol mewn negodi polisïau gweithle i gefnogi merched sy’n gweithio drwy’r menopos ac y byddai model o bolisi gweithle ar y menopos gan TUC Cymru yn gam defnyddiol ymlaen. Mae canfyddiadau’r arolwg hwn yn dangos yn glir mai un o’r prif flaenoriaethau yw darbwyllo cyflogwyr bod angen polisïau gweithle sy’n cefnogi merched drwy’r menopos a chael cyflogwyr i fod o blaid darparu hyfforddiant i reolwyr a staff eraill. Ar hyn o bryd nid oes polisïau addas gan lawer o weithleoedd. Ymddengys hefyd bod diffyg hyfforddiant ar gael ar y menopos yng Nghymru, gyda’r rhan fwyaf o’r hyn sydd ar gael yn cael ei dargedu at weithwyr gofal iechyd yn unig. Mae taer angen datblygu hyfforddiant addas i ateb y galw. Mae’r adroddiad hwn yn agor drwy roi esboniad byr o nodweddion y menopos gan amlinellu cyfrifoldebau cyflogwyr i sicrhau iechyd a diogelwch merched sy’n mynd drwy’r menopos yn y gweithle, a’u dyletswydd i beidio â gwahaniaethu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae yna’n cyflwyno dadansoddiad manwl o ganfyddiadau’r arolwg ynghyd â detholiad o sylwadau ysgrifenedig rhai o’r cyfranogwyr ar bob cwestiwn. Mae hefyd yn cynnwys adborth o’r sesiynau gweithdy a gynhaliwyd gyda chynrychiolwyr undebol a merched BAME.

Page 6: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

6

Y menopos fel mater yn y gweithle Beth yw’r menopos a phwy sy’n ei brofi? Mae’r menopos yn rhan naturiol o’r broses heneiddio i ferched. Yn Saesneg yr enw cyffredin arno yw’r “change” ac mae’n cyfeirio at bwynt mewn amser pan fydd y misglwyf wedi gorffen am 12 mis cyfan a merch wedi cyrraedd diwedd ei bywyd atgenhedlu.2 Dyma pryd y bydd yr ofarïau wedi rhoi’r gorau i greu wyau. Ar ôl i ferch beidio â chael misglwyf am flwyddyn, mae yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed cyfartalog yw 513, ond gall ddigwydd yn llawer cynt hefyd. Mae llawer o ferched yn mynd drwy’r menopos cyn bod yn 45 oed (menopos cynnar) ac mae nifer sylweddol o ferched yn mynd drwy’r menopos cyn bod yn 40 oed (gelwir hyn yn fenopos cyn ei amser neu’n ddiffyg ar yr ofarïau). Yn ôl y GIG bydd tua un o bob cant o ferched yn cael menopos cyn ei amser.4 Weithiau gall ddigwydd i ferched yn eu hugeiniau neu arddegau. Yn aml iawn nid oes rheswm clir dros fenopos cyn ei amser. Mae rhai merched iau’n cael menopos meddygol / llawfeddygol sy’n gallu digwydd yn sydyn pan fydd yr ofarïau’n cael difrod o ganlyniad i driniaeth benodol fel cemotherapi, radiotherapi neu lawdriniaeth. Gall y peri-menopos, sef y cyfnod o newid hormonaidd sy’n arwain i fyny at y menopos, bara am bedair neu bum mlynedd yn aml er, i rai merched, gall bara am flynyddoedd mwy tra bydd ond yn para rhai misoedd i eraill. Mae parhad y peri-menopos yn amrywio’n sylweddol mewn gwahanol unigolion. Fel arfer yn ystod y cyfnod hwn, mae’r misglwyf yn digwydd yn llai aml, weithiau bydd cylchdro’r misglwyf yn fyrrach nag o’r blaen a’r misglwyf yn drymach neu’n ysgafnach neu bydd merched efallai’n sylwi eu bod wedi colli ambell i fisglwyf hyd nes iddynt beidio’n llwyr. Fodd bynnag, weithiau medrant stopio’n sydyn. Yn ystod y peri-menopos gall merched ddechrau cael symptomau oherwydd y newid yn lefel eu hormonau. Gall y symptomau hyn amrywio rhwng gwahanol unigolion o rai ysgafn i rai drwg iawn. Oherwydd eu bod yn dal efallai i gael eu misglwyf yn rheolaidd pan fydd y symptomau’n dechrau, yn aml iawn nid yw merched yn sylweddoli eu bod yn y peri-menopos ac efallai nid yn deall beth sy’n achosi eu symptomau. Gall hyn fod yn rhwystr i ofyn am gymorth. Gall y symptomau sy’n gysylltiedig â’r peri-menopos gynnwys pyliau o wres a gwrid, curiad calon cyflym, chwysu yn y gwely, methu cysgu ac aflonyddu ar gwsg, blinder affwysol, methu canolbwyntio, teimlo’n biwis, cur pen, esgyrn yn brifo, croen yn cosi, llygaid sych, problemau wrinol a chosi, anghysur a sychder yn y fagina. Gallai fod symptomau seicolegol hefyd gan gynnwys iselder, gorbryderu a / neu byliau o banig, hwyliau anghyson a phroblemau cofio. Gall merched gael rhai neu bob un o’r symptomau hyn. Bydd y rhan fwyaf o ferched yn cael rhai symptomau ond ni fydd rhai’n cael unrhyw symptomau amlwg o gwbl. Ar gyfartaledd mae merched yn parhau i gael symptomau am bedair blynedd ar ôl eu misglwyf olaf, ond mae tua 10% yn parhau i gael symptomau am hyd at 12 mlynedd wedyn.5 Ar ôl y menopos, oherwydd bod lefel rhai hormonau’n is, mae gan ferched yn y cyfnod ôl-menopos fwy o risg o gael rhai cyflyrau fel osteoporosis (“esgyrn brau”) a chlefyd y galon. Mae mwy o risg i ferched sydd wedi cael menopos cynnar neu cyn ei amser. Mae’r menopos yn effeithio ar bob merch ac yn aml gall effeithio’n anuniongyrchol ar eu partneriaid, teuluoedd a’u cydweithwyr hefyd. Yn y DU ar hyn o bryd, amcangyfrifir bod 13 miliwn, neu un o bob tair, o ferched naill ai’n mynd drwy’r menopos neu wedi cyrraedd y menopos.6

Page 7: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

7

Yng Nghymru mae merched rhwng 16-64 yn cyfrif am tua hanner (48%) y gweithlu.7 Mae tua 47% o ferched sy’n gweithio dros 50 oed8 – felly mae tua 216,000 o weithwyr yng Nghymru mewn oed lle maen nhw’n debygol o fod yn mynd drwy’r peri-menopos neu wedi cyrraedd y menopos. Ffigur ceidwadol iawn yw hwn o nifer y merched a allai fod yn cael eu heffeithio. Os mai 51 oed yw oed cyfartalog y menopos, bydd llawer o ferched eisoes yn cael symptomau'r peri-menopos yng nghanol neu yn eu pedwardegau hwyr. Hefyd mae llawer o ferched iau sy’n mynd drwy fenopos cynnar neu gyn ei amser. Hefyd mae llawer o ferched iau yn derbyn triniaeth am gyflyrau cyffredin fel endometriosis (sy’n effeithio ar tua un o bob deg o ferched yn ystod eu blynyddoedd atgenhedlu9) ac anffrwythlondeb (sy’n effeithio ar tua un o bob saith o gyplau10). Mae llawer o’r merched hyn hefyd yn cael symptomau menopos wrth dderbyn triniaeth a allai fod yn para misoedd neu flynyddoedd yn ysbeidiol. Mae’n anodd mesur yn ystadegol faint o bobl sy’n mynd drwy’r menopos o’r cymunedau ‘anneuaidd’, trawsrywiol neu ryngrywiol. Mewn rhai achosion gallai pobl drawsrywiol brofi symptomau menopos o ganlyniad i driniaethau neu lawdriniaeth. Dylid nodi oherwydd amrywiaeth o ffactorau y gallai’r profiad o’r menopos fod yn wahanol i rai o’r cymunedau hyn. Gall profiadau a chanfyddiadau o’r menopos hefyd fod yn wahanol yng nghyswllt anabledd, oed, hil, crefydd, tueddiad rhywiol neu statws priodasol / partneriaeth sifil pobl. Mae’n bwysig cydnabod bod profiadau unigol pobl o’r menopos, am lawer o resymau, yn gallu amrywio’n sylweddol. Bydd rhai merched yn gofyn am gyngor a thriniaeth feddygol am symptomau’r peri-menopos a’r menopos. Un driniaeth gyffredin yw therapi adfer hormonau (HRT). Mae llawer o ferched yn cael budd o’r triniaethau hyn i esmwytho eu symptomau, ond nid yw HRT yn addas nac yn briodol i bob merch. Rhaid cael cyngor a goruchwyliaeth feddygol ac mae sgîl-effeithiau’n bosib. Mae gan HRT hefyd beryglon iechyd (sy’n destun ymchwil a thrafodaeth barhaus ac nid yw’r adroddiad hwn yn trafod hyn). Am y rhesymau hyn ac eraill, ni fydd pob merch sy’n cael symptomau eisiau defnyddio HRT. Yn syml felly, mae symptomau’r menopos yn effeithio ar lawer o ferched gan gynnwys llawer o ferched iau. Mae pobl yn aml yn camddeall y menopos ond gall effeithio ar ferched mewn gwahanol ffyrdd, i wahanol raddau ac am gyfnodau amrywiol. Mae cyfran fawr a chynyddol o weithwyr Cymru heddiw’n ferched sy’n gweithio drwy flynyddoedd y menopos a thu hwnt. Y menopos yn y gweithle: y gyfraith O dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith (1974) rhaid i gyflogwyr sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu holl weithwyr. O dan y Ddeddf, rhaid i gyflogwyr gyflawni asesiadau risg o dan y Rheoliadau Rheolaethol, ddylai gynnwys risgiau penodol i ferched yn y menopos os cyflogir hwynt ganddynt. Dylai asesiadau risg ystyried anghenion penodol merched yn y menopos a sicrhau na fydd yr amgylchedd gwaith yn gwaethygu eu symptomau. Mae hyn yn cynnwys edrych ar bethau fel tymheredd ac awyru. Dylai’r asesiad hefyd edrych ar faterion lles fel cyfleusterau toiled a mynediad at ddŵr oer. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb (2010) yn gwahardd gwahaniaethu ar sail rhywedd. Gan gynnwys gwahaniaethu union ac anuniongyrchol a harasio. Un enghraifft o wahaniaethu ar sail rhywedd yng nghyswllt y menopos fyddai cyflogwr sy’n gwrthod ystyried symptomau’r menopos fel ffactor liniaru wrth weithredu polisi ar reoli perfformiad, pryd y gellid tybio’n rhesymol y byddai symptomau tebyg (e.e. problemau cofio) yn codi o gyflyrau eraill wedi cael eu hystyried fel ffactor liniaru mewn staff sy’n ddynion.

Page 8: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

8

Un enghraifft o harasio yng nghyswllt y menopos fyddai rheolwr yn dweud nad oes unrhyw bwynt mewn rhoi dyrchafiad i ferched yn y menopos am eu bod yn ‘hormonaidd’. Hyd yn oed os nad yw’n dweud hyn yn uniongyrchol am ferch yn ei weithle, gallai wneud i staff deimlo’n ofidus iawn a phoeni am eu gyrfaoedd. Gallai gael ei ystyried fel harasio. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb hefyd yn gwahardd gwahaniaethu ar sail anabledd. Nid yw’r menopos yn anabledd ynddo’i hun ond gall cyflyrau sy’n codi ohono gwrdd â’r diffiniad o ‘amhariad’ o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Er enghraifft os oes gan rywun iselder neu broblemau wrinol o ganlyniad i’r menopos ac mae’r cyflyrau hyn yn cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu’r person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd, byddai’r person yn cael ei hystyried i fod ag anabledd o dan y Ddeddf. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn gwahardd gwahaniaethu ar sail anabledd, gan gynnwys gwahaniaethu union ac anuniongyrchol, gwahaniaethu’n deillio o anabledd a harasio. Mae hefyd yn ofynnol i’r cyflogwr wneud addasiadau rhesymol lle byddai gweithiwr anabl o dan anfantais sylweddol o’i gymharu â chydweithiwr heb anabledd. Mae’r gofyniad hwn yn cynnwys “darpariaethau, meini prawf ac arferion”, “nodweddion corfforol” a “darparu cymhorthion”. “Crëwyd Dyletswydd Gydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (Cymru) gan y Ddeddf Cydraddoldeb. Mae’n rhoi dyletswydd gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus a chyrff eraill sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i ystyried sut y medrant gyfrannu'n gadarnhaol at gymdeithas decach drwy roi sylw dyledus i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy’n rhannu ‘nodwedd a warchodir' a phobl nad ydynt. Y nodweddion a warchodir yw: oed, anabledd, ail-bennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, priodas a phartneriaeth sifil, rhyw a thueddiad rhywiol. Mae gan gyrff cyhoeddus fel GIG Cymru, llywodraeth leol a chyrff eraill sy'n cyflawni dyletswyddau cyhoeddus ddyletswydd i ystyried cydraddoldeb wrth wneud penderfyniadau ar ddarparu gwasanaethau a chyflogaeth. Rhaid iddynt ddangos eu bod yn rhoi sylw dyledus i hyrwyddo cydraddoldeb, gan gynnwys:

Dileu neu leihau’r anfanteision a brofir gan bobl oherwydd eu nodweddion a warchodir.

Cymryd camau i gwrdd ag anghenion pobl gyda nodweddion a warchodir lle maent yn wahanol i anghenion pobl eraill

Yn ôl y Ddeddf mae cwrdd â gwahanol anghenion yn cynnwys cymryd camau i ystyried anableddau pobl anabl. Mae’n disgrifio meithrin cysylltiadau da fel mynd i’r afael â rhagfarn a hyrwyddo dealltwriaeth rhwng pobl o wahanol grwpiau. Mae’n nodi y gallai cydymffurfio â’r ddyletswydd gynnwys trin rhai pobl yn fwy ffafriol nag eraill.”

Page 9: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

9

Dyluniad yr arolwg Dyluniad a dosbarthiad Crëwyd arolwg byr drwy ddefnyddio’r wefan arolwg ar-lein, Survey Monkey. Fe’i dosbarthwyd i gysylltiadau a rhwydweithiau TUC Cymru (tua 5000 o gyfeiriadau e-bost). Yn bennaf, swyddogion undebol, cynrychiolwyr gweithle a staff ymgyrchu o’r 50 o undebau sy’n perthyn i’r TUC oedd y rhain, gan gynrychioli ystod eang o weithleoedd a sectorau yng Nghymru. Cafodd y cysylltiadau hyn eu hannog i gylchredeg yr arolwg yn eang yn eu gweithleoedd a’i rannu drwy e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol. Rhannwyd yr arolwg hefyd â rhwydwaith y mil o aelodau sydd gan WEN, yn unigolion a mudiadau, drwy bostio uniongyrchol a chyfryngau cymdeithasol WEN (Twitter a Facebook). Oherwydd natur y dosbarthu electronig, nid yw’n bosib penderfynu faint yn union o bobl a dderbyniodd wahoddiad i gymryd rhan yn yr arolwg. Holiadur syml oedd yr arolwg yn cynnwys pedair tudalen a 14 o gwestiynau un ateb mewn fformat “ie neu na” ynghyd â thri chwestiwn penagored lle gwahoddwyd yr ymatebwyr i roi ymateb ehangach os oeddent yn dymuno. Roedd tri o’r cwestiynau “ie neu na” hefyd yn rhoi cyfle i ymatebwyr ehangu ar eu hatebion neu gynnig mwy o wybodaeth neu awgrymiadau ar gyfer gweithredu. Roedd cymryd rhan yn wirfoddol ac nid oedd yn rhaid i’r ymatebwyr ateb bob cwestiwn; felly nid oedd gwirio cyflawnder yr atebion yn berthnasol. Mae copi o’r arolwg gwreiddiol ar gael gan TUC Cymru. Y prif nod oedd bod yr holiadur yn cyrraedd gymaint o ymatebwyr â phosib. Dyfeisiwyd y cwestiynau felly i fod yn uniongyrchol a hawdd eu deall er mwyn cael atebion clir. Y teimlad oedd y byddai cwestiynau syml, heb ormod ohonynt, yn osgoi creu’r teimlad o ddiflastod neu fod y broses yn un llethol. Ychwanegwyd bar cynnydd at waelod yr arolwg i roi gwybod i’r cyfranogwyr faint o dudalennau oedd ar ôl i’w llenwi. Roedd yr arolwg ar gael yn Gymraeg ond dewisodd fwy o bobl ddefnyddio’r fersiwn Saesneg. Anfonwyd y gwahoddiad i gymryd rhan yn yr arolwg gyda nodyn esboniadol yn egluro pwrpas ac amcanion yr arolwg. Sicrhawyd yr ymatebwyr y byddent yn ddienw. Cafodd dolen URL i’r arolwg ei chynnwys yn yr e-bost. Roedd yr arolwg ar agor rhwng Mawrth 2016 a Chwefror 2017. Roedd yr arolwg wedi’i anelu at rai sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru ac ar gael i ddynion, merched a phobl drawsrywiol, aelodau undebol a rhai heb fod yn perthyn i undeb. Roedd yr ymatebwyr yn hunan-ddethol. Y nod oedd casglu tystiolaeth i greu darlun eang o sut y mae’r menopos yn cael ei drin yn y gweithle ar draws Cymru ar hyn o bryd a sefydlu beth y gellir ei wneud i wella’r gefnogaeth a dealltwriaeth pobl o’r mater. Yr ymatebwyr Cymrodd 3,844 o bobl ran yn yr arolwg. O’r holl ymatebwyr, roedd 87.8% yn ferched, 2.6% yn ddynion, 0.6% yn adnabod eu hunain fel “arall” ac 8.9% na wnaeth nodi eu rhywedd. Er i nifer o ymatebwyr nodi eu rhywedd fel “arall”, nid oedd maint y sampl (22) yn ddigon mawr i lunio casgliadau dibynadwy ar gyfer y grŵp hwn. Dywedodd cyfanswm o 90.7% o’r ymatebwyr eu bod yn byw neu’n gweithio yng Nghymru, 0.4% nad oeddent yn byw na’n gweithio yng Nghymru ac ni wnaeth 8.9% ateb y cwestiwn. Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi ym mha sector yr oeddent yn gweithio. O’r 3,501 o ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn, roedd y rhan fwyaf (86.9%) yn gweithio yn y sector

Page 10: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

10

cyhoeddus, roedd 5.3% yn gweithio yn y sector preifat a 6.4% yn y trydydd sector. Roedd 1.1% wedi ymddeol a 0.4% ddim yn gweithio.

C16 Pa sector ydych chi’n gweithio ynddo? Atebodd: 3,501 Hepgor: 343 Cyhoeddus / Preifat / Trydydd / Ymddeol / Ddim yn gweithio

Roedd ymateb mwy gan weithwyr o’r sector cyhoeddus i’w ddisgwyl oherwydd bod mwy o bresenoldeb undebol a chyfran uwch o ferched yn aelodau o undebau ac yn gweithio yn y sector hwn. 11 Y duedd hefyd yw bod mwy o gynrychiolwyr undebol sy’n ferched yn y sector cyhoeddus, ac oherwydd eu bod yn fwy tebygol o fod â phrofiad personol o’r menopos, rhesymol yw tybio fod gan y cynrychiolwyr hyn efallai gymhelliad cryf i gylchredeg yr arolwg i’w haelodau. Un o gyfyngiadau’r arolwg oedd na dderbyniwyd mwy o ymateb gan weithwyr o’r sector preifat, gyda dim ond 184 allan o’r 3,844 o ymatebwyr yn dod o’r sector preifat. Roedd hyn er i’r arolwg gael ei ddosbarthu i nifer fawr o gysylltiadau e-bost mewn nifer o weithleoedd yn y sector preifat. Er bod presenoldeb undebol yn y sector preifat yn sylweddol is nag yn y sector cyhoeddus, nid yw’n llwyr egluro’r nifer isel o ymatebion. Gallai’r ymateb isel hwn fod yn gyfiawnhad dros ymchwilio ymhellach oherwydd gallai fod yn arwydd bod gweithwyr yn fwy cyndyn o godi mater y menopos yn y sector preifat (e.e. a oedd cyflogwyr yn y sector preifat yn llai parod i gytuno i’r arolwg gael ei gylchredeg yn eang drwy’r gweithlu?). Gofynnwyd i’r ymatebwyr am eu profiad eu hunain o’r menopos. O’r rhai a atebodd y cwestiwn hwn, roedd ychydig dros hanner yn profi’r menopos ar hyn o bryd a disgrifiodd 20.3% eu hunain fel bod yn y cyfnod ôl-menopos. Disgrifiodd bron i chwarter eu hunain fel bod yn debygol o brofi’r menopos yn y dyfodol a dywedodd tua 3.1% eu bod yn byw gyda, neu’n cefnogi rhywun yn y gwaith oedd yn mynd drwy’r menopos. Yn olaf, dywedodd 68.8% o’r holl ymatebwyr eu bod yn aelodau o undebau, dywedodd 22.3% nad oeddent yn perthyn i undeb a dewisodd 8.9% beidio ag ateb y cwestiwn.

Page 11: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

11

Canfyddiadau’r Arolwg Y menopos a bywyd gwaith Gofynnwyd i’r ymatebwyr ystyried a oedd y menopos yn effeithio ar fywyd yn y gwaith. Roedd yr ateb yn glir, cadarnhaodd 84.9% o’r ymatebwyr eu bod yn teimlo bod y menopos yn effeithio ar fywyd yn y gwaith. Ymhlith y rhai gyda phrofiad uniongyrchol o’r menopos (a ddywedodd eu bod naill ai’n cael profiad o’r menopos ar y pryd neu yn y cyfnod ôl-menopos), cynyddodd y ffigur hwn i 9 allan o 10, neu 88% o’i gymharu â 77.8% nad oeddent wedi cael profiad uniongyrchol (gwahaniaeth sy’n ystadegol arwyddocaol). Mae hyn yn awgrymu bod rhai o’r ymatebwyr na chawsant brofiad uniongyrchol yn llai tebygol o gydnabod yr effaith y gall y menopos ei gael ar fywyd gwaith.

C4 Ydych yn meddwl bod y menopos yn effeithio ar fywyd gwaith? Atebodd: 3,556 Hepgor: 288 Ydy / Nac ydy / Ddim yn gwybod

Cynhyrchodd y sylwadau ychwanegol ystod syfrdanol o hanesion am effaith y menopos ar fywyd gwaith. Roeddent yn amrywio o symptomau corfforol fel pyliau o wres a gwrid, curiad calon cyflym a misglwyf trwm i fethu canolbwyntio, problemau cofio a blinder. ‘Yn aml iawn rwyf yn cael pwl o wres ac weithiau mae mor ddrwg fel fy mod yn teimlo fel llewygu. Rhaid i mi naill ai sefyll wrth y ffenestr neu adael yr ystafell. Mae’r chwys yn llifo allan ohonof ac yn gwneud i mi deimlo’n annifyr iawn. Gallaf adael am ychydig funudau oherwydd fy mod yn gymhorthydd dosbarth. Pe bawn yn athrawes, ni fyddwn yn gallu.’ ‘Y profiad gwaethaf oedd methu â chofio pethau. Roeddwn newydd gael fy nhrosglwyddo i adran newydd ac yn cael trafferth ofnadwy cofio gweithdrefnau cyfrifiadurol. Roeddwn hefyd wedi dychryn oherwydd ni allwn gofio enw rhywbeth yr oeddwn yn ceisio cyfeirio ato (cadair stôl fach). Mae’r amrywiadau yn nhymheredd y corff hefyd yn anodd oherwydd mae’n gwneud i chi deimlo’n gwbl luddedig.’

Page 12: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

12

‘Yr hyn a gefais i oedd misglwyf ofnadwy o drwm yn y cyfnod peri-menopos - gan ei gwneud yn amhosib i mi fynychu cyfarfodydd am fwy na thua hanner awr, er enghraifft, ac roedd yn anodd iawn i mi egluro pam.’ Mae’r menopos yn aml yn gysylltiedig â methu cysgu, ac i lawer o’r ymatebwyr a gyrhaeddodd y gwaith wedi blino’n lân, roedd y diwrnod gwaith yn her aruthrol. ‘Gallai symptomau o aflonyddwch cwsg elwa o oriau mwy hyblyg.’ ‘Mae angen i bobl oddef blinder / bod wedi ymladd oherwydd diffyg cwsg.’ ‘Dros y cyfnod hwn mae merched yn teimlo bod eu byd yn datgymalu’n llwyr. Rydych yn teimlo’n ofnadwy o ddiffyg cwsg, yn anghofio pethau, a neb i’ch cefnogi. Mae terfynau amser i gwrdd â nhw.’ ‘Roeddwn yn anghofio am a lle’r oedd pethau: apwyntiadau, cyfarpar, adnoddau, fy mag. Mae’n gwneud i chi deimlo fel bod gennych salwch Alzheimer.’ Roedd effaith gyfunol y symptomau a phoeni am sut yr oedd pobl yn edrych arnynt yn y gweithle’n aml yn arwain at golli hyder ac yn gwneud i ferched deimlo’n fwy ynysig ac unig. Gwaethygir y teimladau hyn yn sylweddol mewn amgylchedd o straen a digydymdeimlad. ‘Roeddwn weithiau’n ofnadwy o boeth a thro arall mor oer fel na allwn ganolbwyntio ac yn teimlo’n sâl. Roeddwn yn teimlo’n unig a “ddim yn fi fy hun” o gwbl ac o dan straen mawr, ond ar ôl sôn am sut yr oeddwn yn teimlo, yr ateb a gefais oedd nad oedd gen i unrhyw straen yn fy swydd, gan wneud i mi deimlo’n gwbl ddiwerth.’ ‘Rwyf yn edrych yn ôl nawr ac yn gweld fy mod ar fin colli fy iechyd oherwydd amgylchedd rheoli llinell oedd yn fy nhanseilio ac roedd gorfod ymdopi â’r menopos ar yr un pryd yn gwneud pethau’n gan mil gwaeth. Ond ym mlynyddoedd cyntaf y peri-menopos nid ydych yn sylweddoli mai symptomau menopos yr ydych yn eu profi. Rydych yn meddwl eich bod ar fin ei cholli hi’n llwyr.’ Dangosodd yr arolwg hefyd fod delio â’r menopos yn y gwaith yn arbennig o anodd i rai grwpiau o weithwyr proffesiynol mewn swyddi sy’n cael cyswllt â’r cyhoedd. Athrawon oedd un grŵp. Maen nhw’n aml yn gorfod gweithio drwy’r dydd heb fawr o gyfle i ymlacio a dim cyfle bron i leisio eu pryderon oherwydd bod eu gwaith yn gymharol ynysig. ‘Oherwydd bod merched yn y sector addysgu’n gweithio’n hŷn bellach, rhaid cydnabod hyn a siarad yn agored am y peth.’ ‘Mae cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn wirioneddol yn y fantol yn y gweithle coleg. Drwy roi sylw i’r mater, pe bai darlithwyr ddim yn poeni gymaint am wybodaeth taenlenni, mwy o gydymdeimlad a gallu canolbwyntio ar yr addysgu yr ydym wedi ein cyflogi i’w wneud, ni fydda’r menopos yn cael ei weld fel baich personol ychwanegol.’ Roedd gwahaniaeth yn yr atebion yn ymwneud, yn rhannol, â faint o brofiad a gafodd yr ymatebwyr yn bersonol o symptomau’r menopos. Dywedodd lawer o’r ymatebwyr nad oedd ganddynt blant fod y materion emosiynol sy’n cyd-fynd â’u profiad o’r menopos yn aml yn wahanol. ‘Mae’n ymddangos fel bod 99.99999% o’r cyngor / gwybodaeth a roddir i ferched sy’n mynd drwy’r menopos yn dechrau gyda’r geiriau “mae eich plant wedi hedfan y nyth...” h.y. mae wedi’i anelu at ferched sydd wedi cael plant. Mae merched heb blant, am ba bynnag reswm,

Page 13: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

13

yn cael profiad gwahanol o’r menopos ac yn gorfod ymdopi â nifer o wahanol faterion emosiynol yn ogystal â’r effeithiau corfforol.’ Yn yr ymatebion naratif, dywedodd nifer o’r ymatebwyr eu bod wedi cael menopos cynnar neu gyn ei amser ac, yn aml, nad oedd y ffaith y gallai’r menopos effeithio ar ferched iau yn cael ei gydnabod ac nad oedd pobl yn credu’r peth. ‘Nid yw pobl yn siarad am fenopos cyn ei amser ac mae camddealltwriaeth o’r mater ymhlith y genhedlaeth hŷn. Ond mae’n fwy cyffredin nag y mae pobl yn ei sylweddoli.’ ‘Rwyf yn 44 ac wedi cael diagnosis o fenopos cynnar ond y cwbl y mae pobl yn ei feddwl yw ‘mod i’n oriog, gan wneud jôcs am y peth. Os byddaf yn sôn am y peth, mae pobl yn dweud ‘mod i’n rhy ifanc.’ Un mater cysylltiedig yw bod merched sy’n mynd drwy fenopos cynnar yn gorfod ymdopi â’r trallod a’r galar dwfn sy’n gallu dod gydag anffrwythlondeb a symptomau’r peri-menopos ar yr un pryd. Mae triniaethau ffrwythlondeb yn aml yn llai llwyddiannus nag y mae pobl yn ei sylweddoli a llawer o ferched yn canfod bod y triniaethau’n flinderus a gofidus, gan achosi mwy o drafferthion yn y gweithle a gorfod ymdopi â diffyg dealltwriaeth o’r materion hyn. Mae dimensiwn arall i hyn hefyd – yn ôl adroddiad ymchwil diweddar gan Undeb Coleg y Brifysgol (UCU) Making Ends Meet, mae’r defnydd cynyddol o gontractau achlysurol yn y gweithle wedi creu effeithiau negyddol eang gan gynnwys yr effaith ar benderfyniadau a dewisiadau merched, fel y penderfyniad i gael plant neu beidio. Fel yr eglurodd un o’r ymatebwyr i’r arolwg gan UCU: ‘Rhaid i mi a fy ngŵr fyw gyda fy rhieni oherwydd ni allwn fforddio â chael morgais. Rydyn ni eisiau cael plant ond nid oes digon o le yn ein cartref presennol. Mae’n debyg y bydd yn rhaid i ni ohirio cychwyn teulu hyd nes y gallwn brynu tŷ.’ (Darlithydd Addysg Bellach)12 Lle mae merched sydd eisiau plant yn cael eu gorfodi i ohirio cael plant oherwydd ansicrwydd ariannol wedi’i achosi gan gyflogaeth achlysurol neu ansicr, gall hyn gael canlyniadau difrifol ac yn enwedig i ferched sy’n cael menopos cynnar neu gyn ei amser. Nid yw pobl yn sylweddoli’n aml sut y gall ffrwythlondeb ddirywio ymhell cyn y menopos ac efallai nad yw merched yn ymwybodol, hyd yn oed os ydynt yn dal i gael eu misglwyf yn rheolaidd, y gallent gael trafferth beichiogi hyd yn oed ddeng mlynedd cyn i’r menopos ddigwydd.13 Yn olaf, mae’n gamgymeriad canolbwyntio dim ond ar y menopos ei hun oherwydd mae llawer o ferched yn cael symptomau ymhell cyn hyn, yn y peri-menopos. ‘Mae llawer o’r symptomau clasurol y mae’r rhan fwyaf o bobl yn eu cysylltu â’r menopos yn digwydd yn ystod y peri-menopos. Fodd bynnag, nid yw’r peri-menopos yn cael ei gydnabod fel amser o newid, ynghyd ag unrhyw drafferthion, o’i gymharu â’r menopos ei hun. Rwyf yn 45 oed ac yn aml yn cael trafferth cysgu ynghyd ag emosiynau cryf yn y gwaith sy’n anodd eu rheoli. Sut y mae pobl yn gweld y menopos yn y gweithle Gofynnwyd a oedd y menopos yn cael ei drin yn negyddol yn y gweithle. O’r rhai a atebodd y cwestiwn, dywedodd 26.9% ei fod yn cael ei drin yn negyddol, dywedodd 29.8% nad oedd a dywedodd 43.2% na allent ddweud yr un ffordd na’r llall. Gallai’r ffaith bod cymaint o’r ymatebwyr yn ansicr ynghylch sut i ateb y cwestiwn hwn awgrymu nad yw’r mater yn cael ei drafod yn agored nac yn cael sylw mewn llawer o weithleoedd, rhywbeth a gadarnhawyd mewn llawer o’r ymatebion naratif.

Page 14: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

14

O’r rhai gyda phrofiad uniongyrchol o’r menopos, dywedodd nifer uwch o 29.3% fod y menopos yn cael ei drin yn negyddol yn eu gweithle o’i gymharu â 20.9% o’r rhai heb brofiad uniongyrchol ohono. Roedd hyn yn wahaniaeth ystadegol arwyddocaol ac efallai’n awgrymu mewn rhai achosion bod pobl heb brofiad personol uniongyrchol yn llai tebygol o fod yn ymwybodol, neu o fod wedi cael profiad, o weld eraill yn cael eu trin yn negyddol. Dywedodd dros chwarter fod problem yn eu gweithle, ond dywedodd nifer lawer uwch yn eu sylwadau ychwanegol fod rheolwyr yn eithriadol anwybodus ynghylch effaith y menopos ar y gweithle. Roedd embaras yn aml yn cyd-fynd â hyn, weithiau ar y ddwy ochr, a thuedd i ysgubo’r mater o dan y carped. Felly er nad oedd agwedd eraill, yn enwedig dynion fel rheolwyr, efallai’n elyniaethus, roeddent yn sicr yn euog o ddiffyg gwybodaeth a diffyg cydymdeimlad. ‘Mae’n anodd i ddynion ddeall na chydymdeimlo. Teimlaf y gallai dyn sy’n rheolwr llinell fod yn gyndyn neu deimlo gormod o embaras i drafod y menopos, neu wneud yn fach o’r symptomau. ‘Ni chredaf fod hyn yn broblem rhywedd er bod merched ifanc hefyd yn gallu bod yn anystyriol iawn o faterion nad yw’n effeithio arnynt.’ ‘Ar y cyfan nid yw’r menopos yn bwnc hysbys nac yn cael ei drafod.’ Tuedd gref yn y sylwadau ychwanegol oedd dweud bod angen codi ymwybyddiaeth. Teimlai’r ymatebwyr fod y menopos ar y cyfan yn agwedd ar fywyd sy’n cael ei chuddio, pur anaml yn cael ei thrafod ac yn wir, bron iawn â bod yn bwnc tabŵ. ‘Teimlaf fod hwn yn beth mawr sy’n cael ei ddiystyru’n llwyr.’ ‘Yn fy mhrofiad i nid yw dynion yn siarad am y misglwyf o gwbl, heb sôn am wybod am a cheisio deall y menopos. Yn aml iawn ni ŵyr merched rhyw lawer amdano oherwydd y tabŵ / myth o’i gwmpas.’ Ymateb y mwyafrif llethol oedd bod angen i bawb ddysgu mwy am y mater, gan gynnwys rheolwyr ac yn enwedig dynion sy’n rheolwyr, er bod merched iau hefyd efallai’n anwybodus i raddau helaeth ynghylch y cyflwr. Roedd pobl eisiau ‘normaleiddio’ y sefyllfa, rhannu gwybodaeth a hyrwyddo dealltwriaeth er mwyn dangos y gall merched yn y menopos barhau i berfformio’n dda yn y gwaith o dderbyn y gefnogaeth iawn a thrwy wneud yr addasiadau iawn ar eu cyfer. ‘Helpu i godi ymwybyddiaeth y gall y menopos, er nad yw’n salwch, achosi symptomau annymunol iawn fydd yn cael eu gwaethygu gan amodau gweithio anodd.’ ‘Does neb yn sôn amdano’ ond ‘mae’r menopos yn naturiol a dylid cael dealltwriaeth agored ohono’. ‘Mae’n bwnc cyfrinachol iawn’. ‘Mae’n bwnc anweledig a thabŵ.’ ‘Dylid dechrau’r sgwrs - h.y. ei wneud yn destun sgwrs mwy derbyniol, yn lle cuddiedig.’ ‘Cadw’r sgwrs i fynd, mae’n brofiad real iawn i bob merch ac yn rhywbeth nad yw’n cael ei drafod ddigon yn y gweithle’. Y ddadl oedd bod angen i’r menopos gael ei ystyried fel rhan normal o fywyd, tebyg i fod yn feichiog.

Page 15: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

15

‘Yn yr un ffordd ag y mae beichiogrwydd yn cael ei drin gyda pharch a dealltwriaeth (ac nid gyda chydymdeimlad nawddoglyd diangen), dylid trin y menopos yn yr un ffordd. Y rhan arall o’r darlun cenhedlu yw’r menopos’. ‘Credaf fod unrhyw beth yn ymwneud â hormonau merched yn cael ei drin fel tabŵ a’i weld yn negyddol fel rhywbeth y dylai’r ddau ryw fod â chywilydd ohono. Pe gallen ni gael sgwrs am y peth a’r sgwrs honno’n normal, byddai cydweithwyr yn teimlo llai o embaras ynghylch cael sgwrs o’r fath a byddai wedyn yn annog mwy o ddealltwriaeth. Dylid ei weld fel rhan normal o fywyd (oherwydd mae o - mae pob merch yn mynd trwyddo - yn yr un ffordd ag y mae’n rhaid i bawb fynd i’r toiled - dynion a merched). Byddai normaleiddio’r pwnc yn annog dealltwriaeth well a fyddai, yn ei dro, yn creu amgylchedd gwaith mwy goddefol gyda llai o wahaniaethu.’ Yn anad dim oedd y dymuniad i gael gwared ar y syniad o weld y menopos fel stigma a rhywbeth y gellir ei ddiystyru fel ‘ei phroblem hi’. ‘Rwyf wedi dod ar draws achosion lle mae cydweithwyr, yn ddynion a merched, wedi tanseilio / bychanu cydweithwyr eraill drwy ddweud “mae hi ar y change!” neu “rhaid ei bod yn adeg o’r mis arni!” i ensynio bod y gweithiwr y maen nhw’n cyfeirio ati’n bod yn afresymol / ddim yn gallu rheoli ei hymddygiad gan eu tanseilio, tanseilio eu hyder a barn pobl eraill amdanynt. Mae’n rhwystredig iawn pan fydd dyn yn ymddwyn mewn ffordd debyg bod pobl yn llai tebygol o’i farnu a dim ond dweud “mae’n siŵr ei fod yn cael un o’r diwrnodau hynny!” - sy’n ensynio lefel o ddealltwriaeth a ganiateir ar gyfer dynion ond nid ar gyfer merch yn yr un amgylchiadau / sy’n ymddwyn yr un fath.’ I rai ymatebwyr roedd angen symud y tu hwnt i normaleiddio ac at geisio deall y problemau cydraddoldeb mwy sylfaenol. Yr hyn oedd ei angen oedd: ‘Hyfforddiant cydraddoldeb i staff ar bob lefel. Taflenni gwybodaeth a ffeithiau am y cyflwr. Hefyd, pa gyflyrau sy’n effeithio ar ddynion fel yr edrychir arnynt yr un fath â rhai merched.’ Y menopos fel ‘jôc’ Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd y menopos yn cael ei drin fel ‘jôc’ yn eu gweithle. Dywedodd 56% o’r rhai a atebodd y cwestiwn hwn ei fod wedi cael ei drin fel ‘jôc’ yn eu gweithle. Dywedodd 26.8% nad oedd hyn wedi digwydd ac nid oedd 17.3% yn gwybod.

79O’r rhai gyda phrofiad uniongyrchol o’r menopos, dywedodd 58.5% fod y menopos wedi

cael ei drin fel jôc yn eu gweithle o’i gymharu â dim ond 50.3% o’r rhai oedd heb brofiad uniongyrchol o’r menopos. Roedd y rhai heb brofiad uniongyrchol yn fwy tebygol o ddweud nad oeddent yn gwybod a oedd wedi cael ei drin fel jôc (24.9%).

Page 16: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

16

C10 Ydy’r menopos wedi cael ei drin fel pwnc jôc yn eich gweithle erioed? Atebodd: 3,556 Hepgor: 288 Naddo / Ddim yn gwybod / Do

Roedd arwyddion gan nifer o’r ymatebwyr fod merched weithiau’n jocian ymhlith ei gilydd am eu symptomau a bod hyn yn cael ei ddefnyddio fel dull o ymdopi gan helpu i leihau’r trafferthion yr oeddent yn eu cael. Roedd hefyd yn annog cyfeillgarwch ac yn lleihau teimladau o unigrwydd. ‘Mae merched yn defnyddio hiwmor yn aml wrth siarad am feichiogi, y misglwyf, etc. Ac weithiau cyfeillgarwch a dull o ymdopi yw hyn.’ ‘Rwyf fel arfer yn jocian am y peth fy hun i leihau’r embaras.’ ‘Fel grŵp o ferched yn y menopos rydyn ni’n aml yn jocian am ein cyflwr ymhlith ein gilydd, sy’n gwneud lles’. ‘Mae merched yn chwerthin am y menopos a’r dynion yn ymuno mewn ffordd gyfeillgar. Dyna’r peth gorau i’w wneud oherwydd mae’r symptomau’n dod mor sydyn, ac yn creu embaras fel arall. Ond gallaf weld na fyddai hyn yn briodol mewn swyddfeydd eraill. Rydyn ni’n lwcus yma. Mae cryn dipyn ohonon ni’n mynd drwyddo, felly gallwn rannu profiadau ac mae chwerthin yn helpu’. Fodd bynnag roedd hyn yn wahanol iawn i drin y mater cyfan fel jôc. ‘Dim ond codi ymwybyddiaeth o’r ffaith er ein bod efallai’n jocian am y menopos, nad yw’n destun sbort a’i fod yn cael effaith aruthrol ar fywydau merched.’ Dywedodd nifer o’r ymatebwyr nad yw rhai dynion sy’n rheolwyr yn cymryd y mater o ddifrif. Roedd dynion weithiau’n gwneud sylwadau rhywiaethol, dirmygus a gwawdlyd. ‘Mae dynion yn gweld y menopos fel jôc yn aml.’

Page 17: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

17

‘Fy mhrofiad i yw bod dynion yn gwneud hwyl am ben merched yn cael pyliau o wres, etc’. ‘Mae fy rheolwr llinell i’n gwneud sylwadau rhywiaethol yn eithaf aml a byddwn yn disgwyl i drafodaeth am y menopos arwain at wneud jôcs.’ Roedd agweddau gwahaniaethu o’r fath yn gwneud i ferched deimlo’n fwy ynysig a llai tebygol o drafod eu symptomau neu ofyn am wneud gwelliannau i’w hamgylchedd gwaith. ‘Rydyn ni’n treulio gymaint o amser ar faterion cydraddoldeb ond mae’r menopos yn cael ei drin fel jôc: “wyt ti’n cael un o’r adegau yna eto”, weithiau gyda golwg ddirmygus ar eu hwyneb ac weithiau er mwyn bychanu rhywun. Problem oed yw hyn a dylai hefyd fod yn broblem cydraddoldeb - mae rhai pobl yn cydymdeimlo. Dylai merched allu ffanio eu hunain heb deimlo eu bod yn gwneud niwed i werth eu llais yn y gweithle.’ ‘Gallwch gael sgîl-effeithiau y byddai’n well gennych beidio â sôn amdanynt oherwydd nid ydych am i bobl feddwl na allwch wneud eich gwaith. Un enghraifft yw bod y dynion yn fy swyddfa’n meddwl bod yr arolwg hwn yn jôc!’ ‘Cael ein bychanu drwy e-byst rhwng cydweithwyr oherwydd adroddiad Iechyd Galwedigaethol yn cynnwys y gair menopos.’ ‘Mae’r holl gwestiwn o fisglwyf a’r menopos yn cael eu trin fel jôc yn aml. “mae hi mewn hwyliau drwg oherwydd PMT" Teimlo’n gyffyrddus neu ddim yn siarad am y menopos yn y gwaith Ar y cyfan dim ond 37.7% a atebodd y cwestiwn hwn a ddywedodd y byddent yn teimlo’n gyffyrddus yn siarad am eu statws menopos yn y gwaith. Dywedodd 36.4% arall y byddent ond yn siarad am y mater yn gyfrinachol gyda rheolwr llinell neu gynrychiolydd undebol. Dywedodd 21.4% na fyddent yn teimlo’n gyffyrddus yn trafod y mater yn y gwaith o gwbl.

C2 A fyddech yn teimlo’n gyffyrddus yn siarad am eich statws menopos yn y gwaith?

Page 18: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

18

Atebodd: 3,844 Hepgor: 0 Byddwn / Byddwn, ond dim ond yn gyfrinachol gyda rheolwr llinell / Na fyddwn / Amherthnasol

Roedd rhai a atebodd y cwestiwn yn hapus i siarad am eu symptomau. ‘Ni chredaf fod pethau fel hyn yn bethau i fod â chywilydd ohonynt ac rwyf yn hapus i siarad amdanynt gyda phwy bynnag.’ Ond roedd eraill yn llawer mwy cyndyn o siarad oherwydd ‘mae rhai pethau’n achosi gormod o embaras i siarad amdanynt’. Fodd bynnag, hyd yn oed pan oedd merched yn barod i siarad am y mater, roeddent weithiau’n ei chael yn anodd trafod y symptomau. ‘Rwyf yn tueddu i fod yn agored iawn ond yn sylwi bod dynion yn tueddu i deimlo’n anghyffyrddus, felly mae angen bod yn fwy agored.’ Teimlai leiafrif sylweddol o’r rhai a atebodd (62) fod y menopos yn bersonol ac nid yn fater i’w drafod y tu allan i’r cylch o deulu a ffrindiau. I rai roedd hyn yn fater o fagwraeth gyda rhai’n dweud y cawsant eu magu i beidio â siarad am y pethau hyn o gwbl, ac yn sicr nid gyda dynion. Y neges sylfaenol yw bod y menopos yn dal i fod yn bwnc tabŵ a sensitif. I eraill roedd yn bwnc trafod amhriodol yn y gwaith. ‘Mater preifat a phersonol ydy o yn fy marn i. Ni fyddwn yn gyffyrddus yn ei drafod â neb.’ Roedd barn wahanol am hyn hefyd, weithiau gan ferched oedd yn rheolwyr eu hunain. ‘Rwyf yn ferch yn fy mhedwar degau hwyr, sy’n rhedeg busnes sy’n cynnwys gweithgynhyrchu. Mae gen i bum aelod o staff llawn amser a 30+ ar y llyfrau. Fi yw’r ferch hynaf ac yn sicr ni fyddwn eisiau i 'nghriw i wybod fy mod yn cael misglwyf eithafol o drwm. Mae’n sicr yn effeithio ar fy ngwaith ond, fel merch, nid wyf am iddo effeithio ar y ffordd y mae fy nghriw yn gweld fy mherfformiad. Byddwn yn cefnogi UNRHYW UN yn fy nghriw i o ferched (yn bennaf), ond yn sicr ni fyddwn yn rhoi'r wybodaeth ar led’. Rhywedd y rheolwr llinell a dylanwad hynny ar ba mor barod oedd ymatebwyr i siarad gyda nhw am y menopos Dywedodd 53% o’r rhai a atebodd y cwestiwn hwn fod rhywedd eu rheolwr llinell wedi cael effaith ar eu parodrwydd neu beidio i siarad gyda nhw am y menopos. Dywedodd 36.5% nad oedd yn broblem ganddynt ac nid oedd 10.5% yn gwybod a fyddai neu beidio.

Page 19: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

19

C3 Ydy rhywedd eich rheolwr llinell yn dylanwadu ar faint y byddwch yn siarad â nhw am y menopos? Atebodd: 3,844 Hepgor: 0 Nac ydy / Ddim yn gwybod / Ydy

Dynion fel rheolwyr llinell Cynigiodd draean o’r ymatebwyr (1279) sylwadau pellach ar y mater hwn. Pwysleisiodd tua 300 na fyddent yn barod i drafod eu sefyllfa gyda dyn fel rheolwr llinell. Roedd hyn yn bennaf yn ymwneud â chredu nad oedd gan ddynion ddigon o wybodaeth i fod yn gallu deall a chydymdeimlo. Y farn oedd bod hyn yn arwain at ddiffyg cefnogaeth i’r person dan sylw. ‘Nid oes unrhyw ymgysylltu parod yn ôl beth a welaf. Pan wyf yn sôn am y peth mae ei ymateb yn ddidaro iawn. Nid yw wedi gofyn sut y gallai fy helpu.’ Roedd anwybodaeth yn broblem allweddol a theimlai rhai o’r ymatebwyr fod taer angen addysgu dynion sy’n rheolwyr llinell ynghylch beth yn union yw’r menopos a’i effeithiau. ‘Rydyn ni yn yr 21ain ganrif ac mae angen i ddynion ddysgu mwy am faterion amrywiaeth, ac fel arall.’ Teimlai rhai o’r ymatebwyr fod ymateb y dynion y daethant ar eu traws yn fater o embaras yn hytrach na difaterwch. Teimlai dros 100 o’r ymatebwyr fod dynion yn teimlo gormod o embaras i drafod y mater ac roedd tystiolaeth hefyd ei fod weithiau’n deimlad ar y ddwy ochr, ac yn embaras i ferched. ‘Mae fy rheolwr yn teimlo’n anghyffyrddus iawn yn delio gyda materion sydd, yn ei farn ef, yn faterion merched.’ ‘Mae’n anodd i ddynion ddeall na chydymdeimlo. Credaf y gallai dyn sy’n rheolwr llinell fod yn gyndyn neu deimlo gormod o embaras i drafod y menopos, neu wneud yn fach o’r

Page 20: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

20

symptomau. ‘Ni chredaf fod hyn yn broblem rhywedd er bod merched ifanc hefyd yn gallu bod yn anystyriol iawn o faterion nad yw’n effeithio arnynt.’ O’r ymatebion naratif, ymddengys mai dynion ifanc oedd y rheolwyr yr oedd merched yn fwyaf cyndyn o sôn wrthynt. Roedd gan rai merched hŷn reolwyr oedd yn ddynion ac yn llawer iau na nhw gan roi hyn fel rheswm clir dros beidio â siarad am eu trafferthion. ‘Mae’n 16 mlynedd yn iau na fi!’ ‘Ni fyddai dyn ifanc yn deall.’ ‘Ni fyddwn yn teimlo’n gyffyrddus yn trafod y peth gyda dyn ifanc.’ Roedd rhai o’r ymatebwyr yn amau a allai dynion fel rheolwyr ymateb yn gadarnhaol gan deimlo y byddai trafod y mater yn gwneud pethau’n waeth oherwydd agweddau rhywiaethol. ‘Rwyf yn cofio sôn unwaith ond y cwbl a ddywedodd oedd mod i’n swnio’n union fel ei wraig.’ ‘Credaf y byddai siarad â dyn fel rheolwr llinell yn atgyfnerthu’r stereoteip o rywedd y byddwn yn cael fy nghymryd yn llai o ddifrif fel gweithiwr.’ ‘Mae gan ddynion agwedd osodedig am ferched yn ystod y menopos.’ ‘Mae’r dynion sy’n rheolwyr yn fy ngweithle fel clwb bechgyn.’ Merched fel rheolwyr llinell Yn gwbl groes, dywedodd 300 o ymatebwyr y byddent yn gyffyrddus yn trafod y menopos gyda merched oedd yn rheolwyr arnynt. Ar y cyfan, dywedodd y merched a atebodd eu bod yn ei chael yn llawer haws siarad am eu sefyllfa gyda merched eraill, p’un ai oeddent mewn swydd gydradd neu mewn swydd reoli. ‘Bydd merch yn deall.’ ‘Mae gan ferched fwy o empathi.’ ‘Mae’n haws egluro’r symptomau i ferch arall.’ Ar y cyfan teimlai’r rhai a atebodd fod merched fel rheolwyr yn fwy tebygol o ddeall y sefyllfa ac o gydymdeimlo, yn enwedig os oeddent yn y menopos eu hunain. Yn eu sylwadau dywedodd yr ymatebwyr eu bod wedi derbyn cryn dipyn o empathi os oedd eu rheolwyr yn mynd drwy’r un broses. ‘Byddwn yn siarad â merch arall, yn enwedig rhywun o’r un oed a fyddai’n deall y problemau sy’n gysylltiedig â’r menopos.’ Roedd oed yn cael ei weld fel problem. Dywedodd yr ymatebwyr er nad oeddent yn hoff o siarad â dynion iau am y menopos, ystyriwyd bod gan ferched iau hefyd ddiffyg gwybodaeth a dealltwriaeth. ‘Teimlaf mai dim ond rheolwyr hŷn sydd ag empathi oherwydd mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi cael profiad ohono eu hunain. Mae’n ymddangos bod unrhyw sydd heb (oherwydd oed neu rywedd) gael y profiad hwn yn methu â dychmygu’r effeithiau ar allu rhywun i wneud eu gwaith.’ Nid oedd pawb yn erbyn siarad â dynion ac o blaid siarad â merched. Dywedodd rai merched fod y dynion oedd yn rheolwyr arnynt yn hawdd siarad â nhw ac yn barod i helpu. ‘Mae dynion yn aml yn fwy agored a pharod i ddeall na rhai merched sy’n rheolwyr.’

Page 21: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

21

Roedd adegau pan gyfeiriodd yr ymatebwyr at ddiffyg ystyriaeth gan y merched oedd yn rheolwyr arnynt. Y dybiaeth oedd bod rhai merched fel rheolwyr yn teimlo gormod o embaras a bod eraill yn dewis ei anwybyddu neu’n elyniaethus ynghylch y peth. Cwynodd yr ymatebwyr am ferched oedd yn rheolwyr arnynt a ‘hwyliodd drwy eu menopos nhw, a’u diffyg cydymdeimlad’: ‘Merch oedd hi ond er hynny nid oeddwn yn gyffyrddus yn siarad â hi. Roedd yn gryf iawn ac yn ymddangos i wfftio’r symptomau fel rhai ‘esgus’ er ei bod bum mlynedd yn hŷn na fi.’ ‘Mae merched fel rheolwyr yn gallu cymharu eich profiad chi â’u profiad nhw ond heb unrhyw gydymdeimlad.’ ‘Merch yw fy nghyfarwyddwr ac mae’n berson eithaf gwydn, felly mae’n meddwl pam na ddylai merched eraill fod yr un fath. Nid yw’n malio na deall ac yn ddifater am y menopos’. ‘Wrth siarad unwaith am y pyliau anghyffyrddus o wres yr oeddwn yn eu cael, dywedodd fy rheolwr Adnoddau Dynol (sy’n ferch ac nid mewn oed menopos), a glywodd fy sylwadau, nad oedd ffasiwn beth â’r menopos! Nid beth y mae rhywun eisiau ei glywed gan uwch-swyddog neu ferch arall!’ Roedd gweithio mewn cwmni o ferched yn unig weithiau’n helpu i ymdopi â symptomau’r menopos, ond nid bob amser. ‘Rwyf yn gweithio mewn gweithlu o ferched yn bennaf, felly mae mwy o botensial i gydymdeimlo ond mae’r diwylliant yn dueddol o fod yn un o “fwrw iddi beth bynnag”. Os nad oes gan y rheolwyr llinell broblem, maen nhw’n ceisio peidio â dangos eu hamheuaeth drwy feddwl eich bod yn gwneud môr a mynydd o’ch problem. Mae’r penwythnos wedi dod yn adeg i mi ddod at fy hun er mwyn gallu bwrw iddi gyda gwaith yr wythnos wedyn, yn hytrach na’n amser i mi gael hwyl / mynd allan’. Personoliaeth y rheolwr I rai ymatebwyr, roedd personoliaeth ac ymarweddiad y rheolwr yn ymddangos i fod yn fwy o ffactor na phe baent yn ddyn neu’n ferch. ‘Mae’n dibynnu mwy ar fy mherthynas a’r ymddiriedaeth yn fy rheolwr llinell, nag ar eu rhywedd.’ Pe byddech yn ddigon ffodus i gael y rheolwr ‘iawn’ sy’n gefnogol, roedd yn bosib trafod unrhyw beth gyda nhw. Ar y llaw arall roedd rhai rheolwyr oedd yn gwbl anystyriol o broblemau eu gweithwyr ac yn dilyn polisi o ‘fwrw iddi beth bynnag’. Roedd rhai rheolwyr hefyd na allent gadw cyfrinachedd. ‘Ni chefais unrhyw ddealltwriaeth na chefnogaeth gan fy rheolwr. O weithio ym maes iechyd meddwl byddech yn disgwyl i reolwyr fod yn gefnogol, ond yn drist nid yw hyn yn wir.’ Ni fyddwn yn siarad â dyn na 50% o’r merched sy’n rheolwyr oherwydd maen nhw’n gwbl ddifater am fod yn gyfrinachol a byddai fy mhroblemau’n cael eu trafod yn agored mewn cyfarfodydd rheoli er i mi ofyn iddynt beidio.’ Sicrwydd swydd ac ofn y canlyniadau

Page 22: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

22

Problem wirioneddol oedd ofni’r canlyniadau yn y gwaith os oedd merched yn codi’r menopos. Lleisiodd nifer o ferched bryder go iawn pe byddent yn tynnu sylw at eu menopos y gallai’r wybodaeth gael ei dehongli fel methiant o ryw fath. ‘Gallai siarad am faterion personol iawn ddylanwadu ar ba mor alluog y gallent edrych arnaf fel gweithiwr.’ ‘Nid wyf yn teimlo’n gyffyrddus yn rhannu gwybodaeth a allai gael ei defnyddio yn fy erbyn.’ Roedd pryder amlwg am oblygiadau datgelu a’r gwahaniaethu a allai ddilyn, un pryder cyffredin oedd y gallai roi eu siawns o gael dyrchafiad yn y fantol. ‘Gallwn ysgrifennu traethawd ar hyn!’ O ystyried bod merched yn cael eu ‘hymddeol’ yn llawer cynt na fy oed i ac yn cael eu barnu ar eu hedrychiad (yn ddifeddwl yn aml) a dynion ddim, byddwn yn wyliadwrus iawn o roi’r argraff i unrhyw un fy mod ‘heibio fy ngorau’. ‘Diffyg dealltwriaeth gan ddynion, ofni peidio â chael dyrchafiad neu o gael ein trin yn gyfartal neu o ymddangos yn ‘llai’ na dyn yn yr un swydd.’ Roedd y teimlad yn arbennig o gryf pan oedd merched yn gweithio mewn gweithle o ddynion yn unig. ‘Fi yw’r unig ferch mewn tîm o ddynion - nid wyf yn teimlo y byddwn yn derbyn unrhyw gydymdeimlad. Rwyf yn ofni y byddai’n cael ei weld fel gwendid.’ ‘Fy argraff i yw y byddai dynion yn ei weld fel gwendid ac yn ddilornus o’r peth.’ Cyfeiriodd nifer yn yr arolwg at bryderon ynghylch codi’r menopos mewn awyrgylch o ansicrwydd gwaith. Dangosodd y sylwadau fod llawer o ferched yn teimlo’n fregus yn y gwaith. Ni allent fforddio â dangos unrhyw ‘arwydd o wendid’ a allai arwain at golli eu gwaith. Tynnodd adroddiad a gyhoeddwyd gan y TUC o’r enw Living on the Edge yn ddiweddar at effeithiau ehangach ansicrwydd swydd, gan gynnwys yr effeithiau negyddol ar iechyd a lles a’r cysylltiad rhwng iechyd meddwl gwael a chyflogaeth ansicr. Cyfeiriodd hefyd at ymchwil yn dangos fod arferion cyflogaeth fel contractau dim oriau’n gallu achosi “pryder a straen sylweddol ynghyd ag iselder mewn gweithwyr o ganlyniad i ansicrwydd ariannol a chymdeithasol”. 14 Felly mae’n glir bod arferion cyflogaeth o’r fath yn andwyol i ferched sy’n cael symptomau’r menopos. Roedd nifer o’r ymatebwyr yn y sefyllfa hon fel pe baent yn gyndyn iawn o siarad am y menopos o gwbl: ‘Does neb yn siarad am y peth. Heb unrhyw gontractau parhaol ar gael, byddwn yn gyndyn

iawn o drafod hyn gyda rheolwyr llinell. 80Gwn y byddai’n cael ei weld fel gwendid. Nid wyf

wedi teimlo bod gen i gefnogaeth fy rheolwyr ers i mi fod yn cael symptomau.’ ‘O ystyried y toriadau, does neb am ddangos unrhyw wendid.’ ‘Dim pwynt mewn dieithrio dynion, yn enwedig ar adeg o doriadau.’ Cyfeiriodd nifer at y broblem hon yn y gweithdy i ferched BAME hefyd: ‘Fel gweithiwr contract / hunangyflogedig, mae arnaf ormod o ofn dweud dim.’ ‘Mae diffyg cefnogaeth i ferched hunangyflogedig, contractwyr a chontractau dim oriau...pa opsiwn cymorth sydd ar gael i rywun pan fydd eich lle yn y gweithle’n ansicr?’

Page 23: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

23

Cafodd nifer o’r atebion yn yr adran hon eu hadlewyrchu gan ymateb un ferch a ddywedodd: ‘Mantais y menopos yw nad oes angen i recriwtwyr boeni am y risg o absenoldeb mamolaeth. Nid wyf yn siŵr a fyddai disodli’r rhagfarn yma gyda gweld merched 45+ oed fel gweithwyr annibynadwy, emosiynol a chwyslyd yn rhywbeth y byddwn yn ei groesawu....hynny yw, nid wyf yn siŵr a fyddai codi ymwybyddiaeth cyflogwyr o broblemau merched gyda’r menopos yn beth da o reidrwydd i’r merched yn y gweithle.’ Er bod rhai ymatebwyr yn teimlo y gallai fod yn beth drwg codi ymwybyddiaeth cyflogwyr, teimlai’r rhan fwyaf fod mwy o ymwybyddiaeth yn beth da a bod angen herio unrhyw wahaniaethu. Gallai cadw’r mater ‘wedi’i ysgubo o dan y carped’ barhau’r cylch dieflig lle na fyddai anghenion merched yn cael sylw, lle mai’r cwbl sydd angen ei wneud yn aml iawn yw addasiadau syml i greu amgylchedd gwaith iachach i ferched yn y menopos. Gallai hyn fod yn rhywbeth i’w godi drwy’r undeb. Polisïau ar y menopos yn y gweithle A oes polisïau yn y gweithle? Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd gan eu gweithle nhw unrhyw bolisi ar y menopos. Dim ond 0.8% a ddywedodd fod gan eu gweithle bolisi ar y menopos. Yn groes i hyn, dywedodd 46% nad oedd gan eu gweithle unrhyw bolisi a dywedodd y 53.2% arall nad oeddent yn gwybod. Os oes polisïau’n bodoli yn y gweithleoedd hyn, nid oedd y gweithwyr yn ymwybodol ohonynt sy’n awgrymu nad yw’r polisi efallai’n gweithio’n effeithiol iawn.

C1 A oes gan eich gweithle bolisi ar y menopos? Atebodd: 3,844 Hepgor: 0 Ddim yn gwybod / Oes / Nag oes

Page 24: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

24

A fyddai ymatebwyr yn croesawu polisi gweithle enghreifftiol? Gofynnwyd a fyddent yn hoffi gweld TUC Cymru yn cynnig model o bolisi ar y menopos ar gyfer y gweithle. Ar y cyfan atebodd bron i naw allan o ddeg (neu 89.4%), yn gwbl glir, y byddent yn croesawu hynny, gyda dim ond 10.6% yn dweud na.

C5 A fyddech yn croesawu polisi gweithle enghreifftiol gan TUC Cymru ar y menopos? Atebodd: 3,556 Hepgor: 288 Na fyddwn / Byddwn

Roedd llawer o’r ymatebwyr yn glir bod angen polisi o’r fath ac y byddai’n fanteisiol. Roeddent yn teimlo bod angen egluro’r mater yn ofalus fel bod pawb yn ymwybodol o symptomau’r menopos a sut y gallai gweithleoedd greu trafferthion i ferched sy’n cael symptomau, yn ogystal ag enghreifftiau o addasiadau y gallai cyflogwyr eu gwneud i helpu. Y teimlad oedd y byddai’n ddefnyddiol, lle’r oedd arfer da’n digwydd, pe gellid tynnu sylw ato gan roi enghreifftiau fel bod gan sefydliadau fodel i’w ddilyn wrth ymdrin â’r materion hyn. Teimlai’r ymatebwyr y byddai model o bolisi’n llenwi bwlch amlwg ac y gallai’r undebau chwarae rôl bwysig mewn cyflwyno polisïau o’r fath. Yn ystod y gweithdai pwysleisiwyd, er y byddai polisi enghreifftiol yn ddefnyddiol, y gallai fod gwahanol ystyriaethau mewn gwahanol weithleoedd (e.e. gwahanol faterion iechyd a diogelwch i’w hystyried) felly byddai angen i unrhyw bolisi gael ei addasu i’r gweithle unigol. ‘Mae polisïau yn eu lle ar gyfer y rhan fwyaf o agweddau ar brofiadau bywyd a allai effeithio ar rywun yn y gwaith, ond dim byd ar effeithiau corfforol a meddyliol y menopos ar filoedd o ferched yn y gweithle ac mae angen polisi safonol ar draws y bwrdd i gyflogwyr lynu wrtho ar hyn hefyd.’ ‘Datblygu polisi sy’n atal cyflogwyr rhag defnyddio effaith y menopos i fwlio staff.’

Page 25: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

25

‘Dylai polisi gweithle gynnwys hyn ond rhaid cofio bod merched yn dioddef y menopos mewn llawer o wahanol ffyrdd.’ ‘Rhaid iddo fod yn offeryn gwybodaeth yn hytrach na pholisi, yn egluro sut y mae’r menopos yn effeithio ar ferched mewn gwahanol ffyrdd. Byddai’n fanteisiol pe gellid codi ymwybyddiaeth, gan gynnwys ymhlith merched sy’n nesáu at y menopos.’ Ond i rai ymatebwyr, byddai polisi syml yn ddigon ond yn rhan o gyfarwyddyd yn ymdrin â materion iechyd yn gyffredinol. ‘Credaf fod y menopos yn effeithio ar bawb yn wahanol. Dylid ei drin yr un fath â’r misglwyf...ni ddylid cael polisi penodol ar y menopos ond efallai polisi sy’n ymdrin â’r ystod lawn (i gynnwys pob oed) o faterion a allai godi. Rhaid iddo hefyd gynnwys y ddau ryw oherwydd mae problemau prostad yn gallu effeithio ar fywyd gwaith dyn canol oed hefyd (drwy aflonyddu ar gwsg, piso mwy, etc). Roedd rhai’n poeni oherwydd bod merched yn profi’r menopos mewn cymaint o wahanol ffyrdd y byddai’n amhosib i bolisi ddelio â phob dim a allai ddigwydd. Hefyd, unwaith eto, roedd rhai’n ofni y gallai polisi arwain at ymylu merched yn fwy fyth yn y gweithle neu y gallai greu problem o rywbeth a ddylai gael ei weld fel proses gwbl naturiol. ‘Rwyf yn poeni pe bai polisi yn ei le y byddai’r cymorth yn rhywbeth pendant a haearnaidd, heb unrhyw hyblygrwydd, oherwydd rydyn ni ferched i gyd yn teimlo’n wahanol am y peth. Gall hefyd arwain at gamddealltwriaeth - a phur anaml o blaid y ferch - h.y. rhoi amser penodedig erbyn pryd y dylech deimlo’n well.’ ‘Ni fyddwn yn croesawu polisi enghreifftiol oherwydd yn y DU mae’r menopos yn cael ei gyfleu fel problem drwy’r cyfryngau. I lawer o ferched nid yw’n broblem, ac mewn diwylliannau eraill nid yw’n cael ei weld fel problem o gwbl’. ‘Rwyf yn poeni y gallai tynnu sylw at broses naturiol fod yn rheswm arall dros beidio â chymryd merched o ddifrif neu roi dyrchafiad iddi os yw dros 40.’ ‘Byddai codi helynt yn rhoi’r esgus perffaith i rai sy’n casáu merched i wahaniaethu.’ Lleisiodd lawer besimistiaeth a phryder y gallai polisïau fod yn aneffeithiol oni bai y rhoddir sylw i’r materion mwy sylfaenol o straen yn y gweithle, yn enwedig mewn gweithleoedd a nodweddir gan bwysau gwaith, rheolwyr anghefnogol neu lefelau staffio annigonol. ‘Ni fyddai polisi’n gweithio yn y bwrdd iechyd hwn, gyda lefelau staffio isel a pholisïau eraill yn cael eu hanwybyddu oherwydd pwysau gwaith ac angen.’ ‘Byddai cyflwyno polisi arall yn creu mwy fyth o waith i’r bobl sy’n ei chael yn anodd yn barod ymdopi â’r holl bwysau sydd arnynt. Nid oes unrhyw beth y gallai polisi ei wneud i helpu gyda’r menopos. Rheolwr sy’n deall yw’r peth pwysicaf.’ Cododd un o’r cyfranogwyr yn y gweithdy i ferched BAME y trafferthion gyda gorfodi polisïau a hawliau yn y gweithle lle mae rhwystrau i gyfiawnder: ‘Allwn ni ddim gwneud deddfwriaeth yn haws ei defnyddio? Mae’n anodd pan fydd rhwystrau fel y gost o fynd i dribiwnlys.’ Rôl TUC Cymru a’r undebau Hyfforddiant i gynrychiolwyr undebol

Page 26: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

26

Gofynnwyd i’r ymatebwyr ystyried a fyddent yn croesawu hyfforddiant i gynrychiolwyr undebol fel y gallent gefnogi merched oedd yn mynd drwy’r menopos yn y gwaith. Fel gyda’r cwestiwn o ba mor ddymunol fyddai polisi gweithle, dywedodd y mwyafrif llethol neu bron i naw o bob deg (87.9%) o’r rhai a atebodd y cwestiwn hwn y byddent yn croesawu hyn. Dim ond 12.1% a ddywedodd nad oeddent yn meddwl bod angen hyfforddiant.

C6 A fyddech yn croesawu hyfforddiant i gynrychiolwyr undebol fel y gallent gefnogi merched sy’n mynd drwy’r menopos yn y gwaith? Atebodd: 3,556 Hepgor: 288 Na fyddwn / Byddwn Roedd hyfforddiant i gynrychiolwyr undebol yn cael ei weld fel rhywbeth pwysig ond ystyriwyd bod addysgu rheolwyr a chydweithwyr eraill hefyd yn allweddol. ‘Hyfforddiant i BOB cynrychiolydd undebol ar faterion iechyd merched. Nid dim ond y menopos y mae’n rhaid i ferched yn y gweithle ymdopi â fo. Gall hyd yn oed misglwyf ‘normal’ ac ‘iach’ weithiau roi trafferth i ferched ond eto mae’n cael ei wfftio fel peth ‘difater’. ‘Byddwn yn croesawu codi ymwybyddiaeth neu hyfforddiant i’r holl staff rheoli, nid dim ond cynrychiolwyr undebol.’ ‘Hyfforddiant ar draws y bwrdd, dim ond i gynrychiolwyr undebol. Mae rhai merched yn dewis peidio â bod mewn undeb ac ni ddylent deimlo o dan anfantais pe bai hyfforddiant a mewnbwn ond yn cael ei roi i staff sydd mewn undeb. Mater i sefydliad cyfan, nid i undeb yn unig yw hyn. Angen adnoddau pellach ac awgrymiadau ar gyfer gwella’r sefyllfa Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi unrhyw adnoddau eraill y gallai TUC Cymru eu darparu ar y menopos a fyddai’n werthfawr iddynt. Gofynnwyd iddynt hefyd a oedd unrhyw beth arall y gallai TUC Cymru ei wneud i helpu rhai sy’n mynd drwy’r menopos yn y gwaith. Roedd yr ymateb yn aruthrol, gyda dros 2,000 o ymatebwyr yn gwneud awgrymiadau ar y ffordd ymlaen.

Page 27: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

27

Er mai ar TUC Cymru a’r undebau oedd y ffocws, gwnaed awgrymiadau ehangach na rôl benodol yr undebau i gynnwys llywodraeth, cyflogwyr, rheolwyr, Adnoddau Dynol, cydweithwyr a phob rhan o gymdeithas. Mae’r ymatebion wedi eu grwpio a gwnawn sylwadau arnynt isod. Awgrymir rhaglen o weithredu gan ddechrau gyda chodi ymwybyddiaeth a hyn i gynnwys addysg, hyfforddiant, cymorth, help ymarferol a newid rhai o’r arferion gweithio presennol. Codi ymwybyddiaeth Yr hyn oedd yn gwbl glir o’r arolwg oedd bod y rhan fwyaf o gyflogwyr wedi bod yn araf iawn i gydnabod y gallai fod angen rhoi ystyriaeth arbennig i ferched mewn oed menopos. O ganlyniad mae llawer o ferched yn teimlo bod yn rhaid iddynt guddio eu symptomau ac efallai’n cael eu cymell i beidio â gofyn am addasiadau a allai eu helpu. Dywedodd ymatebwyr fod hyn weithiau wedi arwain at ferched yn colli eu swydd hyd yn oed. Teimlai’r ymatebwyr y gallai TUC Cymru a’r undebau arwain yn gryf ar herio gwahaniaethu a sicrhau bod dealltwriaeth ehangach o’r pwnc. Teimlai’r ymatebwyr hefyd fod gan TUC Cymru a’r undebau rôl i’w chwarae mewn hyfforddi cynrychiolwyr undebol yn y gweithle a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth i helpu i ledaenu’r neges i weithleoedd unigol i godi ymwybyddiaeth. Mae herio agweddau diwylliannol rhywiaethol a negyddol cynhenid at ferched a heneiddio’n rhan sylfaenol o’r broses hon: ‘Mater o newid agwedd ydy o. Rwyf yn meddwl bod llawer o ddynion yn ei weld fel gwendid, a rhai merched hefyd.’ ‘Mwy o gyfathrebu; nid yw pobl yn siarad am y peth yn y gweithle, felly nid yw’n cael ei weld fel mater i’r gweithle.’ ‘Codi ymwybyddiaeth o sut y gall y menopos effeithio ar unigolion. Rhaid dileu’r label o ‘drafferthion merched’ a ‘ei hoed hi ydy o’. ‘Mae hiwmor yn tueddu i fod ynghlwm wrth unrhyw beth ‘hormonaidd’ sy’n fater o ddiwylliant, a rhaid rhoi sylw i hyn yn fwy na dim.’ ‘Rhoi negeseuon positif i gyflogwyr a gweithwyr ar sut i reoli’r cyfnod hwn. Nid yw’n para am byth ond yn aml iawn mae’r profiad yn cael effaith aruthrol.’ Mae angen codi ymwybyddiaeth pawb yn y gweithle, nid dim ond merched a allai fod yn y grŵp oed targed. ‘Dylid cynnal sesiynau ymwybyddiaeth i ddynion yn y gweithle ac fel nad yw eraill yn meddwl bod merched yn cael triniaeth ffafriol, a hefyd fel nad yw’n cael ei weld fel jôc barhaus!’ Addysg a hyfforddiant Ochr yn ochr â chodi ymwybyddiaeth, y farn oedd bod angen addysg. O’r ymatebion, mae’n glir bod taer angen i gyflogwyr ddarparu gwybodaeth a hyfforddiant gwell i reolwyr a staff ar y mater hwn. Dylai cyflogwyr sicrhau bod rheolwyr llinell wedi cael eu hyfforddi i ddeall sut y gall y menopos effeithio ar ferched yn y gwaith a pha addasiadau sydd efallai eu hangen i’w helpu. Awgrymodd yr ymatebwyr y byddai’n ddefnyddiol pe bai gan weithleoedd gyfres o daflenni ffeithiau wedi eu targedu at reolwyr, yn ogystal â'r wybodaeth arall i bawb yn y gweithle.

Page 28: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

28

‘Gwybodaeth a hyfforddiant i ddynion a merched mewn rolau rheoli ar sut orau i drafod a chefnogi cydweithwyr yn y menopos. Gwybodaeth sy’n addysgu cydweithwyr o bob oed am y menopos a rhai o’r materion diwylliannol sy’n effeithio ar y ffordd y bydd gwahanol grwpiau ethnig yn profi’r menopos.’ ‘Hyfforddiant llawn i benaethiaid / rheolwyr i ddeall yr effeithiau posib ar staff bregus yn y gweithle i sicrhau eu bod yn derbyn cymorth priodol.’ ‘Taflenni ffeithiau syml i reolwyr a chydweithwyr - nid salwch ydy o, dim ond angen ychydig o ystyriaeth sydd. Nid yw’n fwy na llai tebygol o effeithio ar eich perfformiad na digwyddiadau eraill mewn bywyd.’ ‘Byddwn yn croesawu ymgyrch neu hysbysebion neu daflenni i addysgu pobl am y menopos. Mae’n syndod cyn lleied o wybodaeth sydd ar gael i ni.’ ‘Efallai dealltwriaeth well o’r symptomau, yn enwedig i ddynion, fel eu bod yn deall ei fod yn fater difrifol ac nid bod yn ‘anodd’ y mae merched.’ Fel rhan o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth iechyd galwedigaethol ehangach, dylai cyflogwyr dynnu sylw at faterion fel y menopos fel bod staff yn gwybod bod gan y cyflogwr agwedd gadarnhaol at y mater ac nad yw’n rhywbeth y dylai merched deimlo embaras yn ei gylch. Teimlai’r ymatebwyr y gallai’r cyfryngau cymdeithasol, adnoddau ar-lein a thaflenni gynorthwyo’r broses. Awgrymodd yr ymatebwyr hefyd y gallai fod yn beth da sefydlu gweithdai a grwpiau cymorth yn y gweithle lle gallai merched drafod eu profiadau mewn amgylchedd gyda mwy o gydymdeimlad a sefydlu ‘cynllun cyfeillio’ lle gallai ferched gefnogi ei gilydd. ‘Gweithdai i ferched yn unig ar ymdopi â’r menopos.’ ‘Siarad gyda merched eraill sy’n mynd drwy’r un peth. Sefydlu grwpiau lle gallai merched siarad a rhannu profiadau.’ Newid arferion gweithio a pholisïau Nid yw’r gweithle ac arferion gweithio wedi cael eu dylunio gydag anghenion merched yn y menopos mewn golwg. Cyfeiriodd ymatebwyr at nifer o addasiadau syml y gellid eu gwneud i’r arferion gweithio presennol i wella’r sefyllfa. Roeddent yn amrywio o addasu’r amgylchedd gwaith ffisegol i addasu polisïau’r gweithle fel y polisi oriau hyblyg, polisi rheoli perfformiad a’r polisi absenoldeb salwch er mwyn cwrdd yn well ag anghenion merched yr effeithir arnynt gan symptomau’r menopos. Darparu amgylchedd gwaith diogel Mae’r ymatebion i’r arolwg yn dangos yr amgylchiadau hynod anodd y mae rhai cyflogwyr yn disgwyl i ferched weithio o danynt, amgylchiadau oedd yn gwneud eu symptomau’n waeth yn aml. Mae TUC Cymru’n credu bod gan gyflogwyr gyfrifoldeb i ystyried yr anawsterau y

gallai merched eu hwynebu yn ystod y menopos. 96O dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn

y Gwaith (1974) rhaid i gyflogwyr sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu holl weithwyr. O dan y Ddeddf, rhaid i gyflogwyr gyflawni asesiadau risg o dan y Rheoliadau Rheolaethol, ddylai gynnwys risgiau penodol i ferched yn y menopos os cyflogir hwynt ganddynt. Dylai asesiadau risg ystyried anghenion penodol merched yn y menopos a sicrhau na fydd yr amgylchedd gwaith yn gwaethygu eu symptomau. Mae hyn yn cynnwys edrych ar bethau

Page 29: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

29

fel tymheredd ac awyru. Dylai’r asesiad hefyd edrych ar faterion lles fel cyfleusterau toiled a mynediad at ddŵr oer. Yn ddiddorol, yn ôl yr arolwg nid merched yn y diwydiannau gweithgynhyrchu’n unig, sy’n gweithio oriau hir heb lawer o doriadau, sy’n ei chael yn anodd ymdopi â’r menopos. Mae merched mewn sectorau fel iechyd ac addysg, sy’n aml yn methu â gadael eu dyletswyddau, hefyd yn profi trafferthion a hyd yn oed trawma. Mae merched sy’n gwneud gwaith swyddfa hefyd yn teimlo eu bod ‘ynghlwm’ wrth eu desgiau ac yn ei chael yn amhosib dianc hyd yn oed am ennyd. Gall sefyllfaoedd lle nad oes gan ferched hyd yn oed ennyd o breifatrwydd pan fo’i angen arnynt oherwydd eu bod yn gweithio mewn lle ‘agored’ neu broffil uchel, hefyd fod yn anodd. ‘Yn aml iawn rwyf yn cael pwl o wres, weithiau mae mor ddrwg fel fy mod yn teimlo fel llewygu. Rhaid i mi naill ai sefyll wrth y ffenestr neu adael yr ystafell. Mae’r chwys yn llifo allan ohonof ac yn gwneud i mi deimlo’n annifyr iawn. Gallaf adael am ychydig funudau oherwydd rwyf yn gymhorthydd dosbarth. Pe byddwn yn athrawes, ni fyddwn yn gallu.’ ‘Dylid rhoi caniatâd llwyr i ferched adael eu desgiau wrth gael pwl o wres, oherwydd mae bod mewn ystafell yn llawn o ddynion, a hyn yn digwydd, yn embaras i rai merched.’ ‘Roeddwn yn cael llif sydyn [misglwyf trwm] ac annisgwyl lle’r oedd angen i mi wneud rhywbeth yn ei gylch yn syth. Annifyr iawn! Blinder hefyd yn enwedig os ydych mewn swydd o straen neu gyhoeddus.’ ‘Athrawes ydw i ac weithiau rwyf yn chwysu’n ofnadwy. Rwyf yn cael cawod yn y bore ac yn defnyddio’r pethau gwrth-chwys iawn ond waeth i mi heb. Weithiau rwyf yn teimlo’n anghyffyrddus iawn o gwmpas fy myfyrwyr oherwydd bod oglau ar fy chwys na allaf wneud dim yn ei gylch Roedd gan un o gyfranogwyr y gweithdy i ferched BAME hefyd bryderon: ‘Rwyf dan fwy o straen ac yn poeni’n ofnadwy pan mae’n rhaid i mi ymdopi â phethau fel llif sydyn o waed pan fydd raid i mi roi cyflwyniad yn y gwaith....sut y mae cael fy nghydweithwyr i ddeall hyn a beth allai fy nghyflogwr ei wneud i helpu? Tymheredd, awyru a chyfleusterau lles yn y gweithle Dywedodd cyfran uchel iawn o’r ymatebwyr fod y mesurau presennol i reoli tymheredd ac awyru yn eu gweithle’n anfoddhaol ar hyn o bryd. Dywedodd lawer y byddai mesurau syml fel ffaniau yn y gweithle yn gymorth mawr, felly hefyd mwy o ryddid i reoli systemau gwresogi / cyflyru’r aer, mynediad at awyr iach neu’r opsiwn o eistedd wrth ymyl ffenestr. ‘Byddai mynediad at y system rheoli tymheredd - ffaniau / agor ffenestri, yn ddefnyddiol.’ ‘Desg wrth y ffenestr neu ffan’. ‘Ffan fach ar y ddesg!’ ‘Gwneud yn siŵr bod gan ystafelloedd dosbarth awyru digonol.’ Un thema o’r ymatebion a gododd hefyd yn y gweithdai oedd ei bod yn anodd cadw pawb yn hapus, gyda rhai’n dweud bod y gweithle’n rhy boeth ac eraill ei fod yn rhy oer. Yn ystod y gweithdai, roedd y cynrychiolwyr wedi trafod syniadau fel creu ‘mapiau gwres’ o’r gweithle i nodi’r mannau poeth ac oer fel y gallai gweithwyr symud i ardaloedd oedd yn ateb eu gofynion yn well.

Page 30: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

30

Felly hefyd, roedd mynediad hwylus at doiledau ac ystafelloedd ymolchi glân a thaclus yn un o’r gofynion sylfaenol ond eto’n profi i fod yn anodd iawn i rai gweithwyr: Mae trefniadau toiledau’n broblem benodol i ferched yn y menopos yn fy ngweithle i. Mae gan yr ysgol ddosbarthiad eang iawn o ystafelloedd dosbarth, y rhan fwyaf yn adeiladau dros dro, felly nid yw’n hawdd cael mynediad at y toiledau yn y prif adeilad pan fo angen! Mae sefyllfa a allai greu embaras bob amser yn poeni rhywun.’ ‘Does gen i nunlle i fynd i newid fy nillad neu i ymolchi.’ ‘Mae’r cyfleusterau toiled yn fy ngweithle i’n wael a'r toiledau'n fach, yn llwyd gyda chyflenwyr papur sy’n aml yn wag neu wedi torri. Mae hefyd yn anodd tynnu’r tsiaen, weithiau mae angen gwneud tair gwaith. Gyda’i gilydd mae’n gwneud y profiad o ddefnyddio’r cyfleusterau yn un anodd a minnau eisoes yn teimlo’n isel gyda phoen bol, mewn sioc o golli’r holl waed, sy’n fy atgoffa o golli babanod yn y gorffennol ac yn brofiad trallodus iawn.’ Yn ystod y gweithdai, lleisiodd rai cynrychiolwyr bryderon am dlodi yn y gwaith, yn enwedig ynghylch merched ar incwm isel nad oedd yn gallu fforddio â phrynu eitemau misglwyf. Roedd yn cael ei weld fel profiad arbennig o anodd i ferched sy’n cael misglwyf trwm neu amlach nag arfer yn y peri-menopos. Mae’r pryderon hyn yn adleisio adroddiadau tebyg o ferched ifanc mewn ysgolion, a merched yn defnyddio banciau bwyd, yn cael trafferth fforddio eitemau glanweithdra.15 Mae darparu diodydd oer hefyd yn hanfodol ond dywedodd rai eu bod yn cael trafferth cael gafael ar ddiod oer: ‘Mae ein peiriant dŵr oer wedi cael ei symud o’r ward oherwydd bod rheolwyr yn dweud ei fod yn rhy ddrud i’w redeg.’ Yn olaf, i rai, roedd gwisg unffurf yn broblem. Byddai gwisg unffurf o ddefnydd naturiol yn hytrach nag artiffisial yn llawer mwy addas, felly hefyd mwy o ddewis o ddillad. ‘Gadael i ferched sy’n nyrsus wisgo gwisg unffurf briodol.’ ‘Mewn nyrsio, gall gwisgo trowsus fod yn anodd ac nid yw ffrog yn opsiwn, ond fe ddylai fod.’ ‘Mae wedi bod yn anodd ymdopi â chwyso difrifol wrth wisgo gwisg neilon yn y gwaith. Ac mae’r boen a’r cur pen yn gwneud y gwaith mor anodd o dan y goleuadau fflwrolau llachar. A gall yr amrywiol emosiynau a hwyliau anghyson fod yn anodd pan fydd pwysau ychwanegol arnoch. Gallwch deimlo’n unig ac ynysig.’ Gweithio hyblyg Dywedodd lawer o’r ymatebwyr pa mor bwysig oedd arferion gweithio hyblyg i ferched yn y menopos. Gallai hyn gynnwys mesurau fel newid nifer yr oriau sy’n cael eu gweithio, amseroedd dechrau / gorffen hyblyg neu opsiynau i weithio o gartref neu rannu swydd. ‘Mae taer angen annog cyflogwyr i adael i bobl weithio o gartref gymaint â phosib.’ ‘Mwy o weithio hyblyg oherwydd mae colli cwsg yn ddifrifol yn y menopos ac wrth i chi golli hyder rydych yn dueddol o fynd yn fwy dagreuol ac o deimlo dan straen.’ ‘Opsiwn gweithio hyblyg i fynd yn rhan amser ac yna’n ôl yn llawn amser pan fydd y symptomau o dan reolaeth.’

Page 31: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

31

‘Bod yn hyblyg yn y gwaith gan gynnwys amseroedd dechrau a gorffen patrymau shifft.’ ‘Oriau hyblyg, gallu rhoi pen ar y ddesg ar ôl cinio, er mwyn gwella cynhyrchedd.’ Lleihau straen yn y gweithle Cyfeiriwyd droeon yn sylwadau’r ymatebwyr at effaith andwyol straen yn y gweithle a gormod o bwysau gwaith. Credai rai oedd yn teimlo dan bwysau y dylid lleihau llwythi gwaith trwm i helpu’r merched drwy’r adegau anoddaf. ‘Dylai cyflogwyr gymryd pwysau gormodol o drwm oddi ar ferched ar yr adeg hon, oherwydd mae ‘straen’ yn gwneud pethau’n llawer gwaeth.’ Cyfeiriodd lawer at y berthynas rhwng straen a symptomau gwaeth a bod straen oherwydd pwysau lefelau staffio, llwythi gwaith, cyrraedd targedau a bwlio yn y gweithle’n gwneud eu symptomau’n waeth ac, mewn rhai achosion, yn gwneud i ferched fod eisiau gadael y gweithle’n llwyr. Dywedodd lawer o’r ymatebwyr y byddent yn croesawu gweithredu effeithiol gan gyflogwyr i leihau achosion straen yn y gweithle ac i ysgafnu pwysau gwaith. Mae gan gyflogwyr ddyletswydd i gynnwys straen mewn asesiadau risg ac i gymryd camau i leihau achosion straen yn y gweithle (e.e. fel llwyth gwaith rhy drwm, targedau perfformiad afrealistig, diffyg cefnogaeth gan reolwyr a bwlio neu drais yn y gweithle). Dylai cyflogwyr nodi nad yw hyfforddiant ‘gwydnwch’ (sy’n canolbwyntio ar ddysgu unigolion sut i ‘ymdopi’ yn well â straen yn hytrach na delio ag achosion straen) yn opsiwn derbyniol a bod angen rheoli straen yn y gweithle mewn ffordd briodol (h.y. dileu a rheoli’r risg o straen). Dylai cyflogwyr gyfeirio at safonau rheoli straen yr Awdurdod HSE. Rheoli perfformiad Cyfeiriwyd hefyd at bolisïau rheoli perfformiad fel achos cyffredin o drafferthion a’r straen ychwanegol sydd ar ferched, yn enwedig lle nad oedd symptomau menopos merched yn cael sylw priodol. Lle’r oedd angen, gallai ysgafnu llwythi gwaith neu lacio targedau perfformiad helpu merched sy’n cael symptomau. Dylai cyflogwyr fod yn ymwybodol o’u dyletswydd i beidio â gwahaniaethu o dan y Ddeddf Cydraddoldeb a sicrhau nad yw polisïau’n cael eu gweithredu mewn ffordd sy’n wahaniaethol i ferched. ‘Dylid eu cefnogi yn yr un ffordd a phe byddai ganddynt unrhyw gyflwr biolegol arall yn effeithio ar eu perfformiad. Dangos dealltwriaeth ond peidio â bychanu merched sy’n mynd drwy’r cyfnod hwn.’ ‘Rhoi polisïau yn eu lle i ddiogelu merched lle mae eu symptomau’n effeithio ar eu gwaith.’ ‘Annog pobl i adnabod y symptomau a sut y medrant effeithio ar berfformiad ar adegau.’ ‘Mae diffyg cwsg, a’r blinder o ganlyniad, yn cael effaith aruthrol ar fy egni a fy ngallu i ganolbwyntio – dylai cyflogwyr fod yn ymwybodolo hyn a symptomau eraill, yn enwedig pan fydd gennych dargedau perfformiad parhaus i’w cyrraedd.’ ‘Ni chefais fy nghymryd o ddifrif gan gyn-reolwr llinell, a chefais hyd yn oed fy mwlio am fy mherfformiad, er y bu’n rhaid i mi gymryd amser i ffwrdd oherwydd bod fy symptomau (yn enwedig gorbryderu a phroblemau cofio) mor ddrwg.’

Absenoldeb salwch

Page 32: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

32

Codwyd nifer o faterion yn ymwneud â’r menopos ac absenoldeb salwch. I nifer o ferched,

roedd amser i ffwrdd wedi arwain yn gyflym iawn at weithdrefnau disgyblu. 95Fel ag o’r

blaen, mae angen i gyflogwyr fod yn ymwybodol o’u dyletswydd i beidio â gwahaniaethu o dan y Ddeddf Cydraddoldeb a sicrhau nad yw polisïau’n cael eu gweithredu mewn ffordd sy’n wahaniaethol i ferched. Mae TUC Cymru o’r farn y dylai gweithdrefnau absenoldeb salwch nodi’n glir eu bod yn ddigon hyblyg i ddarparu ar gyfer absenoldeb salwch sy’n gysylltiedig â’r menopos. Ni ddylai merched gael eu disgyblu os oes angen amser i ffwrdd arnynt am y rheswm hwn. Gall merched yn y menopos gael pyliau o deimlo’n sâl yn y gwaith. Yn yr achosion hyn, dylai rheolwyr fod yn hyblyg a dangos cydymdeimlad pan ofynnir am doriad neu hyd yn oed i gael mynd adref. Byddai canllawiau ar absenoldeb salwch yn fuddiol fel rhan o unrhyw bolisi gweithle enghreifftiol ar y menopos, neu eu cyflwyno fel diwygiad i bolisïau salwch sy’n bodoli eisoes. Dyma rai awgrymiadau gan yr ymatebwyr: ‘Ymestyn nifer y diwrnodau o salwch cyn cael eich disgyblu.’ ‘Amser i ffwrdd heb gael eich rhoi yn y grŵp sâl lle byddech yn cael cyfweliad ffurfiol.’ Disgrifiodd yr ymatebwyr rai o’r trafferthion a gawsant: ‘Mae’r polisi salwch yn cyfrif pob cyfnod o salwch felly ni allaf gymryd amser i ffwrdd os wyf yn teimlo’n sâl neu’n cael trafferth gwneud fy ngwaith.’ ‘Mae’n sefyllfa anodd oherwydd nid yw rhywun am gael ei weld i fod yn tangyflawni. Neu fel claf diglefyd oherwydd mae’r symptomau’n amrywio gymaint. Nid yw’n cael ei gydnabod fel rhywbeth sy’n creu trafferthion ynddo’i hun, felly nid yw’n cael ei drin gyda chydymdeimlad neu fel problem ynddo’i hun. Yn y diwedd cefais fy atgyfeirio at Iechyd Galwedigaethol lle’r oedd yn dod o dan y Ddeddf Cydraddoldeb oherwydd bod fy symptomau’n achosi amhariad. Mae’n dal i achosi embaras fy mod yn gorfod egluro i bob rheolwr newydd pam fod angen amser i ffwrdd arnaf. Ac mae dod o hyd i wybodaeth amdano’n anodd hyd yn oed i feddygon teulu. Byddai mwy o ymwybyddiaeth gan bawb yn helpu.’ ‘Roedd gan un ferch hwyliau anghyson iawn ac yn teimlo’n ddifrifol rhwystredig, ac roedd angen iddi gymryd amser i ffwrdd – dywedodd wrth ei rheolwyr mai’r menopos oedd ar fai ond nid oeddent yn ei chredu a chafodd ei diswyddo.’ ‘Bu’n rhaid i mi gymryd amser i ffwrdd ddwywaith oherwydd adwaith alergaidd i HRT, yna i feddyginiaeth naturiol oedd yn achosi chwydd a phoen sylweddol. Roedd yn effeithio ar fy sgôr Bradford felly roedd yn rhaid i mi drafod fy symptomau dro ar ôl tro gyda rheolwyr er i mi dderbyn triniaeth yn yr ysbyty. Roedd yn creu embaras mawr a chefais fy ngwneud i deimlo’n ddrwg am gymryd amser i ffwrdd.’ Cymorth yn y gweithle / pwynt cyswllt Un o’r pethau pwysicaf i ddod allan o’r ymateb i’r arolwg hwn yw bod angen i gyflogwyr ddarparu rhywun yn y gweithle sy’n gwybod am faterion y menopos ac y gall merched deimlo’n gyffyrddus yn trafod unrhyw drafferthion gyda nhw. Barn TUC Cymru yw, oherwydd bod llawer o ferched yn amlwg yn teimlo’n anghyffyrddus yn trafod gyda rheolwr llinell, yn enwedig os yw’n ddyn, y dylai cyflogwyr gynnig opsiynau eraill. Gallai fod yn rhywun o adnoddau dynol neu’n swyddog lles. Mae gan lawer o gyflogwyr raglenni cymorth i weithwyr sy’n gallu gweithredu fel ‘canolwr’. ‘Llinell gymorth neu swyddog cymorth fel bod gan ferched gyswllt os ydynt yn teimlo’n anghyffyrddus yn trafod y mater â’u rheolwr llinell.’

Page 33: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

33

‘Byddai cynnig a chyfeirio staff ymlaen at gymorth a dealltwriaeth a pheidio â gwadu’r broblem, yn gychwyn da.’ Roedd un o gyfranogwyr y gweithdy i ferched BAME hefyd wedi codi’r broblem hon: ‘Byddai’n wych cael person pwrpasol yn y gweithle i siarad am y peth, ac am faterion iechyd merched eraill hefyd. Pe byddech yn gwybod bod gennych rywun i siarad gyda nhw, ni fyddai angen i chi boeni am gael dyn fel rheolwr.’ Rhoddodd un ymatebwr enghraifft o gynllun effeithiol yn ei gweithle hi: ‘Mae gwasanaeth menopos ar gael yn ein gweithle ni. Mae ar gael i ni ac mae rhai’n ei ddefnyddio. Wedi siarad â merched yn yr heddlu a’r gwasanaethau cyhoeddus eraill, nid oes cystal darpariaeth ar eu cyfer nhw. Yn aml iawn, nid yw meddygon teulu’n wybodus am y menopos a dylai fod gwasanaethau mwy arbenigol ar gael, nid yw’n ddrud na chymhleth.’ Teimlai nifer o’r ymatebwyr y byddai llinell gymorth neu wasanaeth gwybodaeth yn fuddiol, lle gallai merched dderbyn arweiniad ar ymdopi â’r menopos yn y gweithle a chymorth i ddelio â phroblemau cysylltiedig â’r gwaith. Yn benodol roedd angen cymorth i rai oedd yn dioddef o iselder a gorbryderu: ‘Rwyf yn sicr bod y symptomau cysylltiedig â straen wedi gwneud i mi golli fy ngwaith ac yn rhannol gysylltiedig â’r menopos. Ni chefais unrhyw gymorth a bron ddim dealltwriaeth. Pe bai rhywun yn derbyn hyfforddiant ar gael i ferched sy’n cael problemau, gallai helpu i liniaru’r sefyllfa ac ni fyddai rhywun arall yn gorfod colli eu gwaith oherwydd eu bod yn sâl.’ Cymorth y tu allan i’r gweithle – rôl Meddygon Teulu Yn ystod y gweithdai, un mater a godwyd oedd bod angen hyfforddiant gwell ac ehangach i feddygon teulu ar y menopos. Yn ogystal â chymorth yn y gwaith, i lawer o ferched roedd cefnogaeth a chydymdeimlad gan feddyg teulu gwybodus yn hanfodol. Er bod rhai merched yn derbyn cymorth rhagorol gan eu meddyg teulu, roedd eraill yn cael trafferth cael diagnosis cywir, wedi cael diagnosis anghywir a thrafferth cael y driniaeth a’r cymorth iawn. Codwyd y broblem gan rai o’r ymatebwyr i’r arolwg hefyd: ‘Mae gwybodaeth meddygon teulu’n fratiog iawn ar draws Cymru.’ ‘Mae diffyg dealltwriaeth a chefnogaeth yn gyffredinol, gan gynnwys yn y Gwasanaeth Iechyd. Dim archwiliad cyffredinol gan feddyg teulu i ganolbwyntio ar effaith y menopos, dim cyngor na chymorth pan godir y mater. Yn fy mhrofiad i, y cymorth mwyaf a gefais oedd gan ferched eraill neu drwy fynd ar y we. Mae’n amser o newid mor allweddol ond rhaid i ni ymdopi ar ein pen ein hunain’. ‘Nid wyf yn credu, o brofiad personol, bod meddygon teulu’n rhoi digon o wybodaeth i ferched ar y symptomau, y sgîl-effeithiau ac effeithiau hirdymor cymryd HRT.’ ‘Mae’r rhan fwyaf o feddygon teulu’n ddifater o’r menopos ac efallai’n anghofio bod rhywun yn dioddef fel unigolyn gyda phrofiad pawb yn wahanol er bod y symptomau’r un fath. Yn anffodus, yn fy mhrofiad i mae rhywun yn gorfod ‘cario ymlaen beth bynnag’ ac yn cael eich labelu fel ‘dynes yn y menopos’.

Page 34: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

34

Sylwadau pellach Derbyniwyd 867 o sylwadau ychwanegol, rhai ohonynt yn sylwadau helaeth. Maent yn rhoi hanes neilltuol o brofiadau personol merched o’r menopos ac yn amrywio o ddisgrifio’r symptomau corfforol yn fanwl i amlinellu’r problemau a achosir gan eu gwaith a’r effaith ar eu gyrfaoedd. ‘Roedd yn rhaid i mi fynd adre’n rheolaidd i newid, weithiau unwaith neu ddwy’r dydd ac roedd fy ngwaith filltir i ffwrdd o fy nghartref. Ond penderfynwyd cau’r swyddfa honno a fyddai wedi golygu taith 50 milltir y ddwy ffordd. Felly roedd yn rhaid i mi lusgo tair gwisg newid dillad ar y bws a’r trên bob dydd rhag ofn. Roeddwn yn mynd yn llwythog i’r gwaith ac roedd yn anodd cuddio’r trowsusau, y sanau a’r esgidiau budron, a’r eitemau glanweithdra.’ ‘Byddai mwy o gydymdeimlad at rywbeth y gallaf ei adnabod bellach fel diffyg canolbwyntio, nid na allwn wneud fy ngwaith, wedi golygu na fyddwn wedi gorfod aberthu fy ngyrfa.’ ‘Credaf fod yr argraff negyddol o’r menopos yn rhan o ragfarn ehangach yn erbyn gweithwyr hŷn (dynion a merched) sy’n aml yn cael eu gweld fel pobl ‘heibio eu gorau’ neu ‘bren pwdr’. I gydweithwyr sy’n ferched, gwaethygir hyn gan dybiaethau negyddol am y menopos y gellir eu defnyddio i fwrw amheuaeth ar eu barn, eu crebwyll a’u gallu. Ni chredaf fod y menopos ynddo’i hun o reidrwydd yn effeithio ar fywyd gwaith pob merch, ond mae’n sicr yn wir am dybiaethau negyddol a rhagfarn.’ Dywedodd lawer o’r ymatebwyr hefyd fod y menopos yn cyrraedd yn aml ar adeg pan fo’n rhaid ymdopi â phroblemau eraill fel rhieni dibynnol. Roedd ceisio delio â myrdd o broblemau ar yr un pryd yn anodd. ‘Gwn am rywun a gollodd ei swydd fel rheolwr oherwydd y straen a ddaeth gyda’r menopos a bod angen mwy o ofal ar ei rhieni oedrannus dros yr un cyfnod. Roedd yn ferch alluog iawn ond y peth gwaethaf oedd y ffordd y cafodd ei thrin gan ferch arall.’ Casgliad Mae’r momentwm o chwalu’r tabŵ o gwmpas y menopos yn tyfu ac mae ymgyrchoedd diweddar, gan gynnwys merched proffil uchel yn siarad am y mater, wedi gwneud llawer i roi’r mater yn uwch ar yr agenda. Ond mae angen gwneud llawer mwy i fynd i’r afael â’r peth, yn enwedig yn y gweithle lle nad yw merched yn teimlo y medrant siarad am y menopos o gwbl yn aml. Cydnabod y mater yw’r cam cyntaf ond mae TUC Cymru hefyd yn credu bod angen cymryd camau allweddol fel rhan o ymgyrch i wella’r sefyllfa. Dengys canfyddiadau’r arolwg hwn a’r awgrymiadau gan ymatebwyr fod camau clir y gellir eu cymryd i gyflwyno newid gwirioneddol. O ganlyniad mae TUC Cymru wedi rhoi cynllun ymgyrchu at ei gilydd fydd yn cael ei weithredu fel ymgyrch allweddol i newid y ffordd y mae’r menopos yn cael ei drin yn y gweithle yng Nghymru. Mae copi o’r cynllun ymgyrchu ar gael o https://www.tuc.org.uk/sites/default/files/Menopause%20campaign%20asks.pdf

Page 35: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

35

Ffynonellau gwybodaeth a chymorth pellach Canllawiau gan y TUC ar y menopos www.tuc.org.uk/sites/default/files/TUC_menopause_0.pdf

Tudalennau gwybodaeth gan y GIG www.nhs.uk/Conditions/Menopause/Pages/Introduction.aspx Cymdeithas Menopos Prydain

www.thebms.org.uk/ Menopause Matters www.menopausematters.co.uk The Daisy Network www.daisynetwork.org.uk

Page 36: Y menopos: mater yn y gweithle - TUC survey report FINAL_0.pdf · yn y cyfnod “ôl-menopos”. Fel arfer mae’r menopos yn digwydd rhwng 45-55 oed. Yn y Deyrnas Unedig, yr oed

36

Dogfennau cyfeiriol

1 www.evidentlycochrane.net/menopause-matters-experience-evidence/ 2 NICE 2015 www.nice.org.uk/news/press-and-media/nice-issues-first-guideline-on-menopause-to-stop-women-suffering-in-silence 3 NHS UK www.nhs.uk/Conditions/Menopause/Pages/Introduction.aspx 4 NHS UK www.nhs.uk/Conditions/Menopause/Pages/Introduction.aspx 5 NHS UK www.nhs.uk/Conditions/Menopause/Pages/Symptoms.aspx 6 Menopause UK www.menopauseuk.org 7 Ystadegau Cyflogaeth yr ONS Mawrth 2017 8 Ystadegau Cyflogaeth yr ONS Mawrth 2017 9 www.endometriosis-uk.org/information 10 www.nhs.uk/Conditions/Infertility/Pages/Introduction.aspx 11www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/525938/Trade_Union_Membership_2015_-_Statistical_Bulletin.pdf 12 www.ucu.org.uk/media/7279/Making-ends-meet---the-human-cost-of-casualisation-in-post-secondary-education-May-15/pdf/ucu_makingendsmeet_may15.pdf 13 www.bbc.co.uk/news/health-34380258 14 www.tuc.org.uk/sites/default/files/Living%20on%20the%20Edge%202016.pdf 15 www.independent.co.uk/news/uk/home-news/girls-skipping-school-periods-cant-afford-tampons-sanitary-pads-a7629766.html

© 2017 Cynghrair Undebau Llafur Cymru

Hoffai TUC Cymru gydnabod gyda diolch y cyfraniad a wnaeth Melissa Wood a Sarah Rees o WEN Wales i’r

adroddiad hwn.

Gellir darparu holl gyhoeddiadau’r TUC i ddarllenwyr gyda dyslecsia neu nam ar eu golwg mewn fformat

hygyrch wedi’i gytuno, drwy wneud cais ac am ddim cost ychwanegol.

Cyhoeddwyd gan TUC Cymru, 1 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd CF11 9SD

Cysylltu: Rhianydd Williams/Jo Rees [email protected] www.wtuc.org.uk 029 2034 7010