y ddraig goch - hydref 2013

8
D echreuodd ymgyrch isetholiad Ynys Môn o fewn munudau i ddiwedd etholiad arall - fy etholiad cyntaf ers dyddiau gwleidyddiaeth Prifysgol - sef yr ornest am enwebiad y Blaid. Nid gartref i’r gwely oedd y drefn wedi’r ‘hustings’, ond gartref gyda’r dylunydd Rhys Llwyd yn gwmni i lunio’r bamffled etholiadol gyntaf. Nos Iau, Mehefin 27ain oedd hynny. Erbyn nos Sadwrn y 29ain, byddai byddin o wirfoddolwyr wedi sicrhau bod y pamffledi hynny wedi’u dosbarthu i bron bob cartref ar yr ynys. Roedd yr effeithlonrwydd hwnnw’n rhywbeth ddaeth yn batrwm hyd Awst 1af - diolch i gynllunio manwl, gwaith disgybledig, ac yn bennaf oll diolch i ymroddiad ac amser llu o staff a gwirfoddolwyr o Fôn a ledled Cymru. Tra bod Llafur wedi paratoi cryn dipyn o lenyddiaeth etholiadol, yr hyn oedd yn nodweddiadol am ein hymgyrch ni oedd y cyswllt personol. Aed a’n pamffledi ni o dŷ i dŷ gyda gwên, cnociodd ugeiniau o wirfoddolwyr ar filoedd o ddrysau gyda brwdfrydedd ac egni. Dwi’n adnabod Ynys Môn yn dda, ond y pleser mawr i mi drwy’r ymgyrch oedd dod i adnabod yr ynys a’i phobl yn well fyth. Bûm ym mhob cwr o’r ynys, yn curo drysau, yn galw mewn i fusnesau a siopau, yn cymryd rhan mewn sesiynau hawl-i-holi ac yn bennaf oll yn sgwrsio. Roedd pobl Môn, yn barod iawn i sgwrsio, a’r haul tanbaid wenodd arnom ni drwy’r cyfan, bron, yn rhoi cyfle cyson am glonc hamddenol. Gyda llu o gefnogwyr newydd yn dod atom o bob cyfeiriad gwleidyddol, roedd arwyddion clir bod pobl Môn, llawer ohonynt am y tro cyntaf, yn barod i roi eu ffydd ym Mhlaid Cymru. Ond fel cyn-ohebydd gwleidyddol, sydd wedi arfer gweld gwleidyddion gor-optimistaidd, roeddwn i a’r tîm yn gyndyn o gredu’r darlun oedd yn amlygu’i hun. Dyna pam y parhaodd yr ymgyrch gydag ymdrech 100% hyd y diwedd. Ddiwrnod yr etholiad, ymwelais ag ymhell dros hanner y gorsafoedd pleidleisio - cyfle olaf i deimlo pa ffordd yr oedd y gwynt yn chwythu, i ddiolch i’r timau etholiadol...ac i basio’r amser wrth i 10 y nos nesáu! Anghofia i fyth noson y cyfrif yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur - y papurau pleidleisio’n pentyrru wrth i gefnogwyr lu ganu yn y cyntedd. Roedd cyffro yn yr awyr. Erbyn iddyn nhw gael eu gadael i mewn ar gyfer y cyhoeddiad, roedd maint y fuddugoliaeth yn amlwg. Roedd cyfnod newydd yn fy mywyd ar ddechrau, cyfnod lle y gallaf, gobeithio, wneud cyfraniad bach at ddatblygiad ein cenedl, a dadlau - wedi 20 mlynedd o orfod cadw ’marn i mi fy hun - mai dim ond drwy roi grym yn nwylo pobl Cymru y gall ein cenedl gyrraedd ei llawn botensial. Y Ddraig Goch Hydref 2013 £1 Ymgyrchu gyda gwên Cofnod Rhun ap Iorwerth AC o isetholiad Ynys Môn Canlyniad Etholiad Pleidleisiau Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) 12,601 Tal Michael (Llafur) 3,435 Nathan Gill (UKIP) 3,099 Neil Fairlamb (Ceidwadwyr) 1,843 Kathrine Jones (Llaf. Sos.) 348 Stephen Churchman (Dem. Rhydd.) 309

Upload: plaid-cymru

Post on 16-Mar-2016

224 views

Category:

Documents


9 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

Page 1: Y Ddraig Goch  - Hydref 2013

Dechreuodd ymgyrch isetholiad Ynys Môn o fewn munudau i

ddiwedd etholiad arall - fy etholiad cyntaf ers dyddiau gwleidyddiaeth Prifysgol - sef yr ornest am enwebiad y Blaid.

Nid gartref i’r gwely oedd y drefn wedi’r ‘hustings’, ond gartref gyda’r dylunydd Rhys Llwyd yn gwmni i lunio’r bamffled etholiadol gyntaf.

Nos Iau, Mehefin 27ain oedd hynny. Erbyn nos Sadwrn y 29ain, byddai byddin o wirfoddolwyr wedi sicrhau bod y pamffledi hynny wedi’u dosbarthu i bron bob cartref ar yr ynys.

Roedd yr effeithlonrwydd hwnnw’n rhywbeth ddaeth yn batrwm hyd Awst 1af - diolch i gynllunio manwl, gwaith disgybledig, ac yn bennaf oll diolch i ymroddiad ac amser llu o staff a gwirfoddolwyr o Fôn a ledled Cymru.

Tra bod Llafur wedi paratoi cryn dipyn o lenyddiaeth etholiadol, yr hyn oedd yn nodweddiadol am

ein hymgyrch ni oedd y cyswllt personol. Aed a’n pamffledi ni o dŷ i dŷ gyda gwên, cnociodd ugeiniau o wirfoddolwyr ar filoedd o ddrysau gyda brwdfrydedd ac egni.

Dwi’n adnabod Ynys Môn yn dda, ond y pleser mawr i mi drwy’r ymgyrch oedd dod i adnabod yr ynys a’i phobl yn well fyth. Bûm ym mhob cwr o’r ynys, yn curo drysau, yn galw mewn i fusnesau a siopau, yn cymryd rhan mewn sesiynau hawl-i-holi ac yn bennaf oll yn sgwrsio. Roedd pobl Môn, yn barod iawn i sgwrsio, a’r haul tanbaid wenodd arnom ni drwy’r cyfan, bron, yn rhoi cyfle cyson am glonc hamddenol.

Gyda llu o gefnogwyr newydd yn dod atom o bob cyfeiriad gwleidyddol, roedd arwyddion clir bod pobl Môn, llawer ohonynt am y tro cyntaf, yn barod i roi eu ffydd ym Mhlaid Cymru.

Ond fel cyn-ohebydd gwleidyddol, sydd wedi arfer gweld gwleidyddion gor-optimistaidd, roeddwn i a’r tîm yn gyndyn o

gredu’r darlun oedd yn amlygu’i hun. Dyna pam y parhaodd yr ymgyrch gydag ymdrech 100% hyd y diwedd.

Ddiwrnod yr etholiad, ymwelais ag ymhell dros hanner y gorsafoedd pleidleisio - cyfle olaf i deimlo pa ffordd yr oedd y gwynt yn chwythu, i ddiolch i’r timau etholiadol...ac i basio’r amser wrth i 10 y nos nesáu!

Anghofia i fyth noson y cyfrif yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur - y papurau pleidleisio’n pentyrru wrth i gefnogwyr lu ganu yn y cyntedd. Roedd cyffro yn yr awyr. Erbyn iddyn nhw gael eu gadael i mewn ar gyfer y cyhoeddiad, roedd maint y fuddugoliaeth yn amlwg.

Roedd cyfnod newydd yn fy mywyd ar ddechrau, cyfnod lle y gallaf, gobeithio, wneud cyfraniad bach at ddatblygiad ein cenedl, a dadlau - wedi 20 mlynedd o orfod cadw ’marn i mi fy hun - mai dim ond drwy roi grym yn nwylo pobl Cymru y gall ein cenedl gyrraedd ei llawn botensial.

Y Ddraig GochHydref 2013 £1

Ymgyrchu gyda gwênCofnod Rhun ap Iorwerth AC o isetholiad Ynys Môn

Canlyniad Etholiad Pleidleisiau

Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) 12,601

Tal Michael (Llafur) 3,435

Nathan Gill (UKIP) 3,099

Neil Fairlamb (Ceidwadwyr) 1,843

Kathrine Jones (Llaf. Sos.) 348

Stephen Churchman (Dem. Rhydd.) 309

Page 2: Y Ddraig Goch  - Hydref 2013

Y Ddraig Goch Hydref 2013

Wrth groesawu’r Ddraig ar ei newydd wedd, hoffwn fachu

ar y cyfle i ddiolch i ddau fu’n bennaf gyfrifol am wneud y Ddraig Goch yn bapur difyr, diddorol a darllenadwy am yr wyth mlynedd diwethaf. Llafur gwirfoddol yw rhoi’r Ddraig at ‘i gilydd, ac mae’r Blaid yn fawr ei dyled i’r dylunydd, Bedwyr Williams ac i Ioan Roberts y golygydd.

Mae Ioan yn un o’n newyddiadurwyr mwyaf priodol. Yn wreiddiol o Roshirwaun, Pen Llyn, bu’n gohebu i’r Cymro, yn olygydd rhaglen ‘Y Dydd’ ar HTV, yn gofalu am raglenni newyddion Radio Cymru cyn ymuno â thîm ‘Hel Straeon’, un o raglenni mwyaf poblogaidd S4C.

Erbyn hyn, mae galw mawr am ei wasanaeth fel golygydd i gyfrolau o bob math – Bro a Bywyd Wil Sam a Lluniau Geoff Charles a llawer mwy.

Ar wahân i’w deulu a Chymru, does dim dwywaith mai Iwerddon a’i phobl yw ei ddiléit pennaf. Ef fu’n gyfrwng i drefnu cyfarfod cofiadwy rhwng Bertie Ahern – Taoiseach Iwerddon – a Dafydd Wigley flynyddoedd yn ôl.

Llwyddodd Ioan a Bedwyr i gadw’r Ddraig rhag mynd yn fwletin ffeithiol sych. Ac mae’r

Twrch wedi tynnu blewyn o drwynau gwleidyddion o bob plaid (a Phlaid!) yn gyson ddifyr.

Ar ran y darllenwyr oll, tîm Tŷ Gwynfor a’r aelodau etholedig, diolch am eich cyfraniad hogia.

Alun Ffred Jones AC yn talu teyrnged i Ioan Roberts a Bedwyr Williams

Cysylltwch â ni:Rydym yn awyddus iawn i glywed am newyddion, digwyddiadau ac ymgyrchoedd yn eich ardal chi!

Y Ddraig Goch, Plaid Cymru, Ty Gwynfor, Llys Anson, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd, CF10 [email protected]

Yn y ffrâm! Yn galw ar ffotograffwyr Plaid Cymru! Oes gennych chi ddiddordeb mewn tynnu lluniau? Camera newydd? Awydd her?

Beth am gystadlu yng nghystadleuaeth ffotograffiaeth newydd Y Ddraig Goch?

Thema’r gystadleuaeth gyntaf: Ymgyrchu!

Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr arbennig yn ogystal â gweld y llun wedi argraffu yn rhifyn nesaf Y Ddraig Goch.

Anfonwch eich lluniau mewn fformat JPEG ansawdd uchel (o leiaf 300dpi os yn bosib) at [email protected] erbyn Hydref 31ain 2013, gyda brawddeg neu ddwy am gefndir y llun.Fe fydd Plaid Cymru’n cadw’r hawl i ddefnyddio’r lluniau a anfonir i’r gystadleuaeth.

Undeb CredydPlaid CymruAelodau yn ei rhedeger budd aelodau

Mae Undeb Credyd Plaid Cymru (UCPCCU) yn dyst ymarferol i athroniaeth gydweithredol y Blaid o adeiladu Cymru newydd annibynol, hyderus.

Yr aelodau sy’n berchen ar UCPCCU ac ers 20 mlynedd mae UCPCCU wedi gweithio dros aelodau’r Blaid a’u teuluoedd, yn cefnogi eu busnesau teuluol bychain a Changhennau’r Blaid.

Mae cynilo arian yn golygu bod gennych chi rywbeth i edrych ymlaen ato ac i syrthio’n ôl arno.Talwyd difidend o 2% ar gynilion yn 2011/12.

Yn ddibynnol ar statws mae’n bosib benthyg hyd at £5,000 trwy benthyciad isel ei gost, heb unrhyw daliadau cudd.

Ymunwch ag Undeb Credyd Plaid Cymru ein sefydliad ariannol cenedlaethol ni.Am fwy o fanylion, ewch at www.ucpccu.orgCliciwch ar ‘Ffurflenni’ er mwyn dadlwytho’r Ffurflenni Cais am Aelodaeth ac Archeb Banc.Printiwch a chwblhau y ffurflennni a’u postio i Swyddfa’r Undeb Credyd.

Undeb Credyd Plaid Cymru (UCPCCU)Tŷ’r Cymry, 11 Heol Gordon, Caerdydd, CF24 3AJT: 029 2049 1888 www.ucpccu.org E: [email protected]

Page 3: Y Ddraig Goch  - Hydref 2013

Teyrngedau TrydarAdam Price @_Adam_Price@IeuanWynJones, y cenedlaetholwr cynta i

lywodraethu Cymru ers Glyndwr, ei gamp aruthrol, troi Cynulliad yn Senedd a’n hiaith yn gyfartal

Dafydd Elis-Thomas @ElisThomasDBu cyfraniad

@IeuanWynJones i wleidyddiaeth Cymru a thwf ei chyfansoddiad yn gwbl arbennig. DBWCymru i arwain busnes yn gam gwych arall!

John Gillibrand @John_GillibrandCefnogaeth arbennig gan

@IeuanWynJones i ni a’m mab awtistig - yn byw ar #YnysMon ar y pryd #ParchMawr @Plaid_Cymru

Carwyn Jones @CarwynJones22Cyfarfod Blynyddol y Blaid

neithiwr yn Llangefni, ac un o’r standing ovation hira a mwyaf haeddiannol dwi wedi brofi i IWJ.

Elin Jones @ElinCeredigionDiolch i @IeuanWynJones am ei waith dros Ynys Môn,

Cymru a @Plaid_Cymru Diolch hefyd am roi cyfle i fi yn 2007 i fod yn Weinidog Cymru’n Un.

Sian Gwenllian @siangwenfelinNewyddion gwych

am @ieuanwynjones a’r Parc Gwyddoniaeth newydd. Dangos ymrwymiad i greu swyddi a gwella’r economi. #plaidcymru

Rhuanedd Richards @RhuaneddCyfle o’r diwedd i drydar ac

i ddweud diolch i @IeuanWynJones am bopeth mae e wedi ei gyflawni dros Fôn, dros y Blaid a thros Gymru.

Nerys Evans @NerysEvansDiolch @IeuanWynJones am arwain Plaid i lywodraeth,

am ddelifro’r refferendwm ac am y gefnogaeth parhaol. #plaidcymru

Mae lle Ieuan yn hanes Plaid Cymru a datganoli Cymreig

yn sicr.Am dros chwe blynedd ar

hugain, gwasanaethodd Ieuan bobl Ynys Môn a Chymru yn anrhydeddus.

Fe’i etholwyd yn Aelod Seneddol yn 1987, gan godi hyder y Blaid yn ystod degawd siomedig.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, roedd Ieuan yn benderfynol o weld llwyddiant y refferendwm a roes fod i ddemocratiaeth Gymreig, a chyda’i dîm, gweithiodd yn ddiflino i sicrhau’r canlyniad yr oeddem oll wedi gobeithio.

Etholwyd i’r Cynulliad Cenedlaethol newydd yn 1999. Wyth mlynedd yn ddiweddarach, yn goron ar y cyfan, arweiniodd Ieuan Blaid Cymru i’r hyn ddaeth yn Llywodraeth Cymru’n Un, a dod yn Ddirprwy Brif Weinidog Cymru.

Tra mewn llywodraeth, llwyddodd Plaid Cymru i warchod ein gwasanaethau iechyd, dileu’r farchnad fewnol, a sicrhau statws swyddogol i’r iaith Gymraeg.

Caiff Ieuan ei gofio hefyd am ei ymateb cadarn i’r argyfwng economaidd yn 2008, ac yntau’n Weinidog yr Economi. Gweithredodd bolisïau blaengar i amddiffyn swyddi ac i helpu i

ail-hyfforddi pobl a gollodd eu gwaith - polisïau a efelychwyd ers hynny gan lywodraethau eraill.

Gydag Ieuan wrth y llyw, arweiniodd Plaid Cymru’r ymgyrch i sicrhau llwyddiant y refferendwm yn 2011, a gyflwynodd bwerau deddfu i Gymru.

Mae ei benderfyniad i ysgwyddo’r her newydd o arwain prosiect Parc Gwyddoniaeth Menai yn arwydd clir eto o’i ymrwymiad cryf i’r ardal. Os ydym am drawsnewid economi Cymru, mae prosiectau fel hyn yn hanfodol er mwyn creu gwell dyfodol i’n pobl. Yn sicr, bydd brwdfrydedd ac egni Ieuan yn gyrru prosiect y parc gwyddoniaeth yn ei flaen, a sicrhau y bydd yn llwyddo.

Gosododd Ieuan sylfaen gref ar gyfer y dyfodol wrth i ni adeiladu tuag at etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2016. Ar ran aelodaeth Plaid Cymru, carwn ddiolch iddo a dymuno bob llwyddiant yn y dyfodol.

Diolch IeuanArweinydd Plaid Cymru Leanne Wood AC yn talu teyrnged i Ieuan Wyn Jones

Page 4: Y Ddraig Goch  - Hydref 2013

Y Ddraig Goch Hydref 2013

Roedd hi’n brynhawn anghyfforddus o gynnes yng

Ngorffennaf yn Llangefni. Yn swyddfa’r ymgyrch, roedd

grwnian y ffaniau plastig yn ailgylchu’r awyr trwm a thap-tapian y data yn tasgu mewn i Treeware yn asio’n felodaidd gyda sŵn y plygu taflenni a’r chwythu balŵns (maddeuwch y rhamant – wi’n joio!).

Yn ei swyddfa ar lawr ucha’r adeilad, eisteddai’r Prif Weithredwr – y bariau dur ar unig ffenestr y ‘stafell grasboeth yn ei hatgoffa’n ddyddiol bod gadael yr ynys yn ddiogel yn ddibynnol ar sicrhau buddugoliaeth ar Awst 1af.

Yn sydyn, uwchlaw murmur y peiriant ymgyrchu, clywodd lais cyfarwydd. Rhedodd (oce, stori yw hon ac felly dwi’n cael gor-ddweud) i lawr y grisiau a chael ei chyfarch gan ddyn doeth o’r De Orllewin – y dihafal Dyfrig Thomas.

Wedi ymlwybro’n bell o dre’r Sosban i Wlad y Medra, brasgamodd dros drothwy’r swyddfa, bythefnos cyn yr etholiad, gan ddatgan “Wi’ ‘ma tan Awst yr 2il, be’ chi ishe i fi wneud?”

“Gwych Dyfrig, ond ble ry’ch chi’n mynd i aros am yr holl amser yna?” medde fi, heb amau am eiliad na fyddai’r hen law o ymgyrchydd wedi cynllunio’r cyfan yn fanwl.

“Mae gen i babell ac mae

yna gae addas ym Mrynsiencyn.”

A dyna wnaeth Dyfrig, drwy’r haul a’r hindda – gwersylla yn y nos ac ymgyrchu drwy’r dydd, bob dydd.

Dyfrig Thomas oedd un o blith sawl arwr ac arwres aeth yr ail filltir dros Blaid Cymru yn yr isetholiad. Fe aberthodd degau ar ddegau o wirfoddolwyr ac aelodau staff o etholaethau ar hyd a lled Cymru eu gwyliau haf er mwyn ymuno a’r tîm gwych o Fonwysion selog i sicrhau llwyddiant. Buddugoliaeth i aelodau’r Blaid yn genedlaethol oedd canlyniad isetholiad Ynys Môn.

Y gamp nawr fydd ceisio adeiladu ar y momentwm a throsglwyddo’r ymroddiad a’r gweithgaredd a welwyd ar Ynys Môn i ymgyrch etholiad Ewrop y flwyddyn nesaf.

Oedd, roedd ffactorau a fu’n fanteisiol i ni yn yr isetholiad. Maint y data hanesyddol wedi ei gasglu gan yr etholaeth; ymgeisydd lleol ac adnabyddus; cyfraniadau ariannol hael unigolion ac etholaethau; ac amseru’r etholiad rhai misoedd wedi ymgyrch etholiad lleol llwyddiannus.

Wedi dweud hynny, yr hyn a wnaeth y gwahaniaeth mawr oedd y nifer o bobl a lwyddwyd i’w canfasio. Ein targed oedd siarad gyda 60% o’n pleidleiswyr posib dros gyfnod yr ymgyrch. Yn y pendraw, gwnaethom yn well na hynny, gan gynnal miloedd ar filoedd o sgyrsiau ar y stepen drws - gan ddychwelyd weithiau i sawl

stepen drws er mwyn siarad â rheini a oedd am wybod mwy.

Mi fydd hi’n dasg dipyn anos pan ddaw hi at etholiad Ewrop flwyddyn nesaf wrth gwrs. Mae cyrraedd 2.3 miliwn o etholwyr yn hytrach na 51,000 yn gofyn ein bod yn cynyddu nifer ein canfaswyr yn sylweddol ac yn targedu’r gwaith yn wahanol. Serch hynny, ni ddylai natur yr ymgyrch fod yn wahanol.

Gyda thrwch etholwyr Cymru yn derbyn eu newyddion o bapurau a darlledwyr Llundain, mi fydd hi’n hanfodol ein bod yn canolbwyntio ein hymdrechion ar guro drysau a chyfathrebu’n uniongyrchol yn ystod etholiad Ewrop. Pan fydd ymgyrchoedd y pleidiau Llundeinig wedi selio ar godi bwganod am Ewrop, mi fydd hi’n bwysicach nag erioed ein bod yn trechu eu rhethreg negyddol, ynysig gyda dadleuon cadarnhaol a chryf am yr hyn y gall Cymru ei gyflawni mewn Ewrop ddiwygiedig.

Gair o Dy GwynforRhuanedd Richards, Prif Weithredwr

Chwedl Môn: Dyfrig a’i babell

“Buddugoliaeth i aelodau’r Blaid

yn genedlaethol oedd canlyniad isetholiad Ynys Môn.

Page 5: Y Ddraig Goch  - Hydref 2013

Unwaith eto, mae cynhadledd y Blaid yn cael ei chynnal

yn Aberystwyth, prifddinas go iawn Cymru (sori, Caerdydd!). Fel yr ymgeisydd newydd dros Geredigion yn etholiad San Steffan, rydw i’n falch iawn o’i chroesawu i’r etholaeth. Mae Aberystwyth yn lleoliad cyffrous i gyfnod cyffrous i’r Blaid.

Gallwn ni gyd ei deimlo. Mae ethol Leanne fel arweinydd wedi rhoi hwb newydd i ni, ac am reswm da. Mae’r platiau tectonig gwleidyddol yn symud yn gyflym iawn, ar bob lefel: yn fyd-eang, Ewropeaidd, Prydeinig a Chymreig. Gyda’r refferendwm Albanaidd flwyddyn nesaf, mae’r dyfodol agos yn llawn addewid.

Mae’r gynhadledd hon yn gyfle holl bwysig i ni gynllunio camau nesaf yr ymgyrch, er mwyn bod y blaid fwyaf yn y Cynulliad ar ôl yr etholiad nesaf yn 2016. Fel rhan o adeiladu momentwm, mae rhaid i ni berfformio’n dda yn etholiad

San Steffan ym mis Mai 2015. Fan lleiaf, mae angen adennill seddi fel Ynys Môn a Cheredigion er mwyn cael mwy o aelodau seneddol nag erioed - a gobeithio cipio eraill hefyd.

Dyna pam rydw i’n gobeithio’ch croesawu chi’n ôl i Geredigion dros y ddwy flynedd nesaf. Na, fydd adennill y sedd ddim yn hawdd, ond pan enillodd y Blaid yma am y tro cyntaf yn 1992, daethon ni o’r bedwerydd safle yn yr etholiad blaenorol, gydag 16.2% o’r bleidlais. Y tro diwethaf, roedden ni’n ail, gyda 28.3%. Mae’n hollol bosibl.

Rydw i’n falch iawn i fod yn un o ymgeiswyr newydd Plaid Cymru – pobl sy’n dod o faes arall er mwyn sefyll. Fel mewnfudwr, mae Cymru wedi bod yn garedig iawn i mi, yn rhoi ysbrydoliaeth i ysgrifennu llyfrau a chreu rhaglenni y bum eisiau eu gwneud ers blynyddoedd. Rydw i’n edrych ymlaen at yr ymgyrch o’m mlaen,

ac yn gobeithio byddwch chi’n cymryd rhan. Rydyn ni’n mynd i gael lot o hwyl!

Mwy am Mike Parker

Mae Mike Parker yn awdur a darlledwr. Symudodd o Kidderminster i Geredigion yn 2000, gan fyw yng ngorllewin Cymru byth oddi ar hynny a dysgu Cymraeg. Mae’n awdur nifer o lyfrau yn cynnwys The Rough Guide to Wales, Map Addict a Neighbours from Hell? Ymysg y cyfresi y mae wedi eu cyflwyno mae Coast to Coast i ITV Cymru ac On The Map i BBC Radio 4.

Meddai Elin Jones AC, “Mae Mike Parker yn ymgeisydd a chanddo dalent, gonestrwydd a hygrededd; mae’n hollol amlwg fod ganddo frwdfrydedd dros ein bro, a syniadau at y dyfodol. Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gydag e.”

Croeso i Geredigion!Mike Parker

Ryff Guide Mike i AberystwythYFED: Mae’r Cŵps a’r Hen Lew Du yn boblogaidd gyda siaradwyr Cymraeg; Ship & Castle yn cynnig cwrw gorau’r dre; Scholars yn gysurus a chyfeillgar.

BWYTA: Aber yw prifddinas ‘Café Culture’ annibynnol – rhowch gynnig ar Cariad, MG’s, Morgan’s, y Penguin, Y Siop Leol neu Agnelli’s. Mae’r tapas (a’r awyrgylch)

yn Ultracomida yn hyfryd; Baravin yn ychwanegiad gwych i’r Prom; Gwesty Cymru am rywbeth moethus; Shilam, wrth yr orsaf, am gyris gorau’r dre.

YMWELD: Y Camera Obscura, am olygfa o holl Fae Ceredigion, ar gopa Constitution Hill (ewch ar Reilffordd y Graig os nadych chi’n ffansio dringo!); yr Oriel Nwy am gelf yr ardal ac Oriel yr Ysgol Celf am gasgliad rhyngwladol; y Llyfrgell Genedlaethol am arddangosfeydd ysbrydoledig.

Page 6: Y Ddraig Goch  - Hydref 2013

Y Ddraig Goch Hydref 2013

A’r flwyddyn academaidd ddiwethaf eisoes wedi mynd

rhagddi, fe allech ddychmygu ein bod ni ym Mhlaid Cymru Ifanc wedi bod yn dawel yn ddiweddar, gan fod ein myfyrwyr ar draws Cymru wedi symud adref i fwynhau gwyliau’r haf. Ond na, rydym ni mor brysur ag erioed!

Y newyddion mawr i Blaid Cymru, wrth gwrs, yw buddugoliaeth ysgubol Rhun ap Iorwerth yn isetholiad Ynys Môn. Llongyfarchiadau gwresog i Rhun ar ei fuddugoliaeth. Gwir yw dweud

fod ganddo esgidiau mawr i’w llenwi, ond does gennym ddim amheuaeth y bydd yn gwasanaethu pobl Ynys Môn fel Aelod Cynulliad arbennig o dda. Dymuniadau gorau iti Rhun ar dy waith, a chofia fod gen ti gefnogwyr brwd ymysg ieuenctid y Blaid bob amser!

Rydym ni’n falch iawn bod nifer o aelodau ifanc

lleol wedi cynnig eu help i Rhun yn ystod yr ymgyrch. Profiad anhygoel oedd cael bod yn rhan o ymgyrch mor gadarnhaol. I’r sawl na lwyddodd i fynd lan i Fôn i helpu, roeddem yn rhoi llu o sylw i’r ymgyrch yn y cyfryngau cymdeithasol, ac fe gafwyd ymateb gadarnhaol yno hefyd. Rydym i gyd yn edrych ymlaen yn arw at ddatblygu perthynas dda gydag Aelod Cynulliad mwyaf newydd ein plaid.

Mynychodd nifer o’n haelodau’r Eisteddfod Genedlaethol yn

Ninbych. I mi yn bersonol, rhaid dweud bod cael lloches yn stondin y Blaid – yn enwedig ddechrau’r wythnos pan oedd y glaw yn tasgu! – wedi bod yn hyfryd iawn. Pleser oedd cael cwrdd â wynebau cyfarwydd, a rhai newydd, a rhaid llongyfarch y Blaid ar gynnal stondin wych yn enwedig o ystyried bod yr Eisteddfod wedi dechrau diwrnod wedi etholiad Rhun.

Buom yn Mardi Gras Cymru Caerdydd ar Awst 31ain, ac fel arfer, roedd yn ddiwrnod gwych o ddathlu! Mae’n dda gennym ddweud ein bod ni wedi rhoi rhodd o £50 i Plaid Pride, y grŵp ar gyfer aelodau a chefnogwyr Plaid Cymru sy’n lesbaidd, hoyw, deurywiol, neu drawsrywiol, unwaith eto eleni. Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu parhau i gefnogi’r achos pwysig hwn. Mynychodd ein harweinydd Leanne Wood AC y digwyddiad, ac roedd gan Blaid Cymru bresenoldeb gwych yn y Stadiwm! Os na lwyddoch i ddod eleni, fe’ch anogwn i ddod yn 2014. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â @plaidifancyouth neu’n uniongyrchol â @plaidpride.

Ar ôl y Mardi Gras, y peth mawr nesaf, fel y gellwch ddychmygu, yw dechrau’r flwyddyn academaidd newydd. Ganol mis Medi, fe fydd y colegau’n ail-ddechrau a’n myfyrwyr yn symud ‘nôl i’w trefi prifysgol. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn creu deunyddiau newydd i’w dosbarthu i’n grwpiau lleol er mwyn atynnu cynifer o aelodau newydd ag y bo modd!

Gair bach olaf i gyhoeddi ein bod wedi cyfethol Is-gadeirydd Cenedlaethol newydd, a fydd hefyd yn gyfrifol am ein cysylltiadau rhyngwladol. Mae Paul Stevenson yn dod o Abererch yng Ngwynedd ac eisoes wedi cychwyn ar ei waith. Ceir mwy o wybodaeth am Paul a holl aelodau Pwyllgor Gwaith Plaid Cymru Ifanc ar ein gwefan sydd newydd ei diweddaru – plaidcymru.org/ifanc.

Tan y tro nesaf – ymlaen!

Môn, Mardi Gras a dechrau Medi! Cerith Rhys Jones

Jill Evans ASE | MEP45 Gelligaled Road, Ystrad, Rhondda, CF41 7RQ

T: 01443 441395 E: [email protected]

jillevans.net youtube.com/jillevansasemeptwitter.com/jillevansmep flickr.com/jillevansasemep

Page 7: Y Ddraig Goch  - Hydref 2013

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Blaid Cymru.

Roedd buddugoliaeth ysgubol Rhun ap Iorwerth yn isetholiad Ynys Môn yn ganlyniad ymdrech gan dîm gwych - roedd yn batrwm o’r hyn fydd ei angen yn 2016 os ydym am gyrraedd ein nod o arwain llywodraeth Cymru.

Yn Rhun, cafwyd ymgeisydd gwych. Fe ddenodd bleidleiswyr o bob oed a chefndir lle bynnag yr âi - mewn busnesau lleol, yng nghartrefi gofal y cyngor oedd dan fygythiad, ac ar stepen y drws ledled yr ynys.

Gwnaed swyddi a’r economi leol yn flaenoriaethau allweddol i’r ymgyrch. Mae llawer gormod o bobl yn brwydro i gael dau ben llinyn ynghyd gyda’u biliau’n dal i gynyddu, ac yn aml iawn, eu hincwm wedi rhewi.

Rhoes perfformiad Plaid Cymru yn etholiadau’r cyngor fis Mai diwethaf, pan lwyddom i ddod y blaid wleidyddol fwyaf, sylfaen gref i Rhun adeiladu arni.

Ni fyddai buddugoliaeth gadarn Plaid Cymru wedi bod yn bosib heb gefnogaeth ei deulu na’r gwaith rhyfeddol a wnaed gan dîm tu hwnt o ymroddedig. Yr oedd degau ar ddegau o aelodau allan

ym mhriffyrdd a chaeau Ynys Môn bob dydd a hynny yn y gwres llethol.

Torrodd y canlyniad bob record a gwneud yn well na disgwyliadau unrhyw un, mewn ymgyrch oedd yn gwbl gadarnhaol.

Teithiodd llawer o aelodau o bob cwr o Gymru i gefnogi, gan dalu eu ffordd eu hunain i gyrraedd Ynys Môn ac i aros yno. Dyma ddangos lefel ymrwymiad ein haelodau wrth i ni ymdrechu i wneud Cymru yn wlad well i’n pobl.

Rhaid diolch yn arbennig i dîm y staff; cymerodd rhai ohonynt wyliau er mwyn treulio pum wythnos ar yr ynys. Mae’n iawn i aelodau Plaid Cymru wybod fod gennym dîm staff mor ardderchog sydd wedi ymrwymo’n llwyr i’r prosiect, gan weithio yn y cefndir, yn aml ar dasgau nad oes neb yn eu gweld.

Mae Rhun yn awr yn ymuno â’n 10 aelod arall yn y Cynulliad. Bydd yn ychwanegiad ysblennydd i dîm rhagorol fydd yn parhau i alw Llywodraeth Lafur ddiddychymyg a di-uchelgais Cymru i gyfrif dros y tair blynedd nesaf yn y cyfnod cyn etholiadau hollbwysig y Cynulliad.

Mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair gyda rhai ymgeisyddion arbennig eisoes wedi eu dewis

mewn seddi allweddol ledled Cymru.

Mae’r fuddugoliaeth yn Ynys Môn wedi rhoi hwb i ni i gyd, ond nid dyma’r amser i laesu dwylo. Rhaid bwrw ati.

Rhaid mynd allan a rhannu ein neges gadarnhaol i Gymru ar stepen y drws drwy’r amser, nid dim ond mewn cyfnod etholiad. Bydd yn golygu llawer iawn o waith caled, ond o wneud y gwaith, fe fedrwn lwyddo.

Mae’r canlyniad hwn, ynghyd â’r canlyniad gwych yn isetholiad y cyngor ym Mhenyrheol, Caerffili, yn rhoi momentwm da i ni adeiladu arno.

Roeddem ni wedi tybio y byddai 2013 yn flwyddyn dawel, ond nid felly y bu! Yn y flwyddyn nesaf, fe welwn etholiadau Ewrop, ac yna Etholiad Cyffredinol y DG yn 2015.

Mae blynyddoedd prysur o’n blaen, ond gyda’ch gwaith caled chi, fe fydd y cyfan yn werth chweil.

Ymlaen!

Leanne Wood ACCyfnod cyffrous i Blaid Cymru

“Mae’r fuddugoliaeth

yn Ynys Môn wedi rhoi hwb i ni i gyd, ond nid dyma’r amser i laesu dwylo. Rhaid bwrw ati.

Page 8: Y Ddraig Goch  - Hydref 2013

Y Ddraig Goch Hydref 2013

Nabod ein poblMari Siôn, Golygydd Y Ddraig Goch

Soniwch am eich cefndir

Fe dreuliais fy mhlentyndod yn Nyffryn Ceiriog, a’n arddegau ym Mangor. I brifysgol Aberystwyth wedyn i astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol, yna treulio saith mlynedd hapus iawn yng Nghaerdydd. Ondroedd tynfa Ceredigion yn rhy gryf, a dwi bellach yn byw yn Aberystwyth gyda ’ngŵr Mei a Twm Emlyn ein mab 10 mis oed.

Atgof gwleidyddol cyntaf?

Ysgrifennu llythyr at y prif weinidog ar y pryd, John Major, yn galw arno i ddod a rhyfely Gwlff i ben yn 9 oed. Datblygodd ysgrifennu at wleidyddion yn dipyn o obsesiwn, bron bod Syr Wyn Roberts yn pen pal am gyfnod!

Pryd y daethoch chi’n aelod o Blaid Cymru?

Nôl yn 1999. Roedd gen i dipyn

mwy o ddiddordeb yn etholiadau cyntaf y Cynulliad na’n arholiadau lefel A! Dwi’n cofio fy ngorfoledd o glywed canlyniad Conwy ynarbennig, a theimlo, am y tro cyntaf efallai, bod unrhyw beth yn bosib.

Pam Plaid Cymru?

Am mai dyma’r unig blaid sy’n rhoi Cymru a’i chymunedau’n gyntaf.

Pa swyddi ydych chi wedi eu dal o fewn y Blaid? Rhwng 2003 a 2008 fe fûm i’n aelod o dîm Tŷ Gwynfor, gan weithio’n gyntaf fel trefnydd ieuenctid, yna fel swyddog polisi ac ymchwil. O wisgo fyny fel Womble i gydlynu comisiynau polisi, o baratoi papurau briffio i’r cydweithio yn ystod ymgyrchoedd etholiadol, bu’n gyfnod cwbl unigryw ac yn brofiad arbennig. Wedi hynny, fe fûm i’n ysgrifennydd etholaeth Ceredigion

am ddwy flynedd, ac yn gydlynydd tombola ffair ‘Dolig y Blaid yn Aberystwyth unwaith…

Arwyr gwleidyddol?

Noelle Davies, cyd awdur Can Wales Afford Self Government?, yr ymgyrchydd a’r cynghorydd, Eileen Beasley, a chyn drefnydd y Blaid, Nans Jones. Nans Jones oedd enw un o’r byrddau yng ngwledd fy mhriodas.

Beth yw eich nod fel golygydd newydd Y Ddraig Goch? Adeiladu ar waith gwych Ioan Roberts drwy geisio cynnig rhifynnau difyr a darllenadwy. Fy ngobaith yw plethu newyddion nid yn unig gan ein haelodauetholedig ond gan aelodau’r Blaid ar lawr gwlad, gyda thrafodaeth arbrofiadau, polisïau a syniadau.