sylw ar adal powys

16

Click here to load reader

Upload: sharon-buckley

Post on 30-Mar-2016

244 views

Category:

Documents


3 download

DESCRIPTION

Wales & West Housing Association's newsletter for the Powys area (Cymraeg)

TRANSCRIPT

Page 1: Sylw ar adal Powys

PowysGwanwyn 2012

Sylw ar ardal

Rhagor o gartrefi fforddiadwy ym MhowysWWHA yn agor datblygiad newydd yn Llys yr Arad, AberhondduHefyd yn y rhifyn hwn...

Preswylwyr gwobredig ym MhowysCefnogi clybiau chwaraeon lleol

Page 2: Sylw ar adal Powys

2www.wwha.net

Sylw ar ardal Powys – Gwanwyn 2012

Nid oes angen i mi ddweud fod pawb ohonom yn parhau i wynebu amodau economaidd heriol iawn, ac yn awr yn fwy nag erioed, rydym yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid, cefnogi arloesi i gwrdd â galw, ac yn syml, mynd y fi lltir ychwanegol i helpu ein preswylwyr a’u cymunedau i helpu eu hunain.

Rydym yn ymroddedig i fod yn wyrdd, i helpu ein preswylwyr ymdrin â phroblemau yn ymwneud ag arian, a chael cymaint â phosibl ohonyn nhw i ddefnyddio’r we fyd eang. Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid amrywiol er mwyn helpu pobl i gael gwaith neu hyfforddiant, naill o’r newydd neu ailafael yn yr hyn roedden nhw’n ei wneud yn fl aenorol.

Yna, mae ein datblygiadau diweddaraf yn y busnes, gan gynnwys newyddion am ein rhaglen ddatblygu £101 miliwn, ein strategaeth newydd ar Gyfranogiad

Preswylwyr, a sut rydym yn mynd ati i hunanasesu. Ac rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu dweud wrthych chi ein bod ni wedi cael ein cydnabod fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru yn rhestr cwmnïau gorau 2012 y Sunday Times.

Felly, rydw i’n gobeithio y gwnewch chi gymryd pum munud i ddarllen y dafl en newyddion hon, ac y bydd yn ddefnyddiol ac yn addysgiadol yn eich golwg chi.

Yn olaf, rydym y gwerthfawrogi eich adborth bob amser, felly peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni i ddweud wrthym beth yw eich barn ar ‘Sylw ar...’, y newyddion sydd ynddo, neu unrhyw agwedd arall ar ein busnes.

Anne HincheyPrif Weithredwr

Croeso i rifyn gwanwyn 2012 Sylw ar ardal Powys

oedi cyn cysylltu â ni i ddweud wrthym

ynddo, neu unrhyw agwedd

Terry Flynn, Swyddog Tai Fforddiadwy Cyngor Sir Powys, gydag Anne Hinchey, Prif Weithred-wr WWHA a’r preswyl-

wyr newydd Emily Penpraze a Robert

Ogrodnik

Page 3: Sylw ar adal Powys

3www.wwha.net

Sylw ar ardal Powys – Gwanwyn 2012

Rhagor o gartrefi fforddiadwy ym Mhowys

Mae datblygu rhagor o gartrefi fforddiadwy, cynaliadwy o safon uchel i bobl Cymru yn un o fl aenoriaethau pennaf WWHA.

Mae ein rhaglen ddatblygu gyfredol, sy’n werth £101 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd, yn cynnwys prosiectau arloesol ar gyfer preswylwyr sydd ag awtistiaeth ac anawsterau dysgu, ynghyd â thai anghenion cyffredinol a chyfl eusterau gofal ychwanegol. Mae’r cyfan yn cael ei gefnogi gan £15 miliwn o grant tai cymdeithasol gan awdurdodau lleol sy’n bartneriaid â ni a chan Lywodraeth Cymru.

Ychydig cyn Nadolig 2011, symudodd y preswylwyr cyntaf i’n datblygiad newydd yn Llys yr Arad,Aberhonddu (y llun ar y chwith). Mae’r cynllun hwn, a gwblhawyd ar ein rhan gan y contractwyr Wates Living Space, yn cynnwys 26 cartref teuluol fforddiadwy yng nghanol tref Aberhonddu – ardal lle mae gofyn cadw at bensaernïaeth benodol.

Hefyd ym Mhowys, mae’r datblygiadau canlynol naill ai wedi dechrau, neu ar fi n dechrau:

Cwmfalldau, Llanfaes, AberhondduMae Lovell Partnerships yn datblygu 16 cartref teuluol fforddiadwy i ni fel rhan o ofynion cynllunio eu datblygiad mwy o faint ar y safl e. Disgwylir i’r cartrefi gael eu cwblhau yn ystod y fl wyddyn nesaf.

Llanbedr, PowysMae’r datblygiad arfaethedig hwn o 8 cartref yn disgwyl am gadarnhad gan Dŵr Cymru y bydd y system ddraenio

yn dderbyniol ganddyn nhw. Yna, bydd hynny’n galluogi Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i gymeradwyo’r cais cynllunio. Mae’r cynllun hwn wedi cael ei ddylunio ar y cyd â Chyngor Sir Powys ar ôl ymgynghori gyda’r gymuned leol.

Mae’r prosiectau eraill sydd gennym ar y gweill ar gyfer y ddwy fl ynedd nesaf yn cynnwys Severnside Yard yn y Drenewydd. Rydym yn disgwyl cyfl wyno cais cynllunio ar gyfer y datblygiad dwyster uchel hwn yn ystod yr haf eleni, gyda chynlluniau i ddarparu hyd at 50 rhandy, a fydd yn cynnwys llety er ymddeol.

Rydym hefyd yn adolygu nifer o gyfl eoedd datblygu ychwanegol i allu parhau i ddarparu tai fforddiadwy y mae angen mawr amdanyn nhw ym Mhowys.

Ychwanegodd y Pennaeth Datblygu, Nikki Cole: “Er bod y maes tai i deuluoedd yn rhywbeth y mae gan WWHA gryn brofi ad ac arbenigedd ynddo, rydym hefyd yn cydweithio ag awdurdodau lleol ledled Cymru i gwrdd ag anghenion pobl leol sydd ag anawsterau dysgu ac awtistiaeth.

“Rydym yn edrych ymlaen at y cyfl e i ddarparu atebion tai i gwrdd ag amrywiaeth eang o ofynion tai. Mae cyllid grant i gynorthwyo datblygu tai cymdeithasol newydd yn brin, ond er hynny, mae’r Gymdeithas wedi llwyddo i sicrhau cyllid er mwyn helpu i ddatblygu amrywiaeth o gyfl eoedd ym maes tai yn yr ardaloedd lle’r ydym yn gweithredu.”

Page 4: Sylw ar adal Powys

4www.wwha.net

Sylw ar ardal Powys – Gwanwyn 2012

Gwobrau Powys

Cydnabod synnwyr o gymuned ym Maes y Ffynnon

Roedd preswylwyr o’n cynllun er ymddeol ym Maes y Ffynnon yng Nghrughywel yn rownd derfynol ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2011. A hwythau wedi cael eu henwebu gan y rheolwyr cynllun, Rob Llewellyn a Lynda Margrett, maen nhw wedi gweithio’n ddiflino i wella gerddi a mannau patio’r cynllun.

Yn Aberhonddu, fe wnaeth ein darpariaeth tai â chymorth newydd yn Stoneleigh Manor ennill Gwobr Comisiynu Da 2011 yng Ngwobrau Hyrwyddo Annibyniaeth Cymorth Cymru.

Ac fe gafodd y cynllun, sy’n ffrwyth partneriaeth rhwng Cyngor Sir Powys a Cefni Lettings, le ar restr fer categori ‘y Defnydd Gorau o Stoc’

yng ngwobrau Tai Cymru 2011.

Mae Stoneleigh Manor yn cynnwys chwe rhandy hunangynhwysol newydd, gyda’r holl ddodrefn yno’n barod, yng nghanol tref Aberhonddu, gan ddarparu llety tymor byr sy’n addas i deuluoedd sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn ardal Powys. Mae Stoneleigh yn cydymffurfio’n llawn â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ac yn cynnwys cyfleusterau o’r radd flaenaf, ac yno fe geir 3 rhandy un ystafell wely, 2 randy stiwdio ac un rhandy penodol ar gyfer pobl anabl.

Mae preswylwyr Maes y Ffynnon yn falch o’u harddangosiadau newydd yn yr ardd

Page 5: Sylw ar adal Powys

5www.wwha.net

Sylw ar ardal Powys – Gwanwyn 2012

Clwb bocsio amatur Aberhonddu

Hyfryd oedd helpu Clwb Bocsio Amatur Aberhonddu gyda grant o £495 er mwyn eu helpu i brynu offer.

Yn ogystal, rydym wedi eu helpu i lenwi ffurflen gais am Arian i Bawb i gael peiriant hyfforddi.

Rhoddodd Alison Chaplin, ein Swyddog Prosiectau Datblygu Cymunedau, siec i Dave Gilbert o CID Aberhonddu, sy’n un o

hyfforddwyr y clwb.

Yn y llun hefyd mae’r PCSO Bryony Hope a rhai o’r bechgyn ifanc sy’n hyfforddi dair gwaith yr wythnos.

Gyda nifer o’r bobl ifanc yn cystadlu yn y Bencampwriaeth Genedlaethol eleni, mae arian o’r fath yn cael ei groesawu a’i werthfawrogi’n fawr.

Page 6: Sylw ar adal Powys

6www.wwha.net

Sylw ar ardal Powys – Gwanwyn 2012

Diwrnod hwyl yn Ward Sant Ioan

Cynorthwyodd WWHA, ynghyd â Chyngor Sir Powys, Gynghorwyr Tref Aberhonddu a Chymdeithas Preswylwyr Crug i drefnu digwyddiad hwyliog ac ymgynghori yng Nghanolfan Ieuenctid Aberhonddu.

Darparwyd yr hwyl drwy baentio wynebau a thrwy Inc Trofannol (Tropical Inc) – cymdeithas sy’n cyflwyno bywyd gwyllt i bobl ifanc, a’u helpu i ddeall anghenion yr anifeiliaid. Darparodd yr heddlu lleol yr wybodaeth, a rhoi cyfle i’r plant gael golwg ar eu fan.

Roedd yr ymgynghoriad yn ystyried materion a oedd angen sylw, atebion posibl a beth allai’r preswylwyr eu hunain wneud i helpu.

Cynhaliwyd digwyddiad arall ar 15 Chwefror, pan ofynnwyd

i’r preswylwyr roi sylwadau ar y canlyniadau, a gwirfoddoli i gynorthwyo mewn gweithgareddau arfaethedig.

Fe wnaeth Cymorth i Fenywod Aberhonddu, PAVO, Ailgylchu Cyfrifiaduron a Dyfodol Powys ddod â stondinau i’r digwyddiad. Roedd Clwb Bocsio Amatur Aberhonddu a The Dogs Trust hefyd yn atyniadau poblogaidd.

O ganlyniad i’r digwyddiad adborth, mae grŵp o breswylwyr yn ceisio dod at ei gilydd er mwyn cynnal rhai gweithgareddau i blant y stad. Mae rhagor o gyfarfodydd ar y gweill

Helpu i ostwng tlodi tanwyddYn ogystal, yn y digwyddiad hwn fe wnaethom roi 26 o baciau arbed ynni i breswylwyr sydd ar fudd-daliadau cymwys.

Page 7: Sylw ar adal Powys

7www.wwha.net

Sylw ar ardal Powys – Gwanwyn 2012

“Mae’r pecynnau yn cynnwys monitor ynni i alluogi preswylwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am sut i ostwng eu biliau trydan” meddai Bridget Garrod, Rheolwr Tîm y Gymdogaeth. “

“Maen nhw hefyd yn cynnwys cebl estyniad sy’n lleihau faint o ynni y mae pethau sy’n gysylltiedig â’r teledu yn ei ddefnyddio, fel recordydd DVD neu’r blwch Sky, pan fydd y teledu’n cael ei ddiffodd.”

Yn ychwanegol, mae cannoedd o lyfrynnau ‘Helping You Manage Your Energy Bills’, a gafodd eu

Mae cynhadledd achos gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Powys a darparwyr tai â chymorth wedi cael ei drefnu, dan broses meddwl trwy systemau, ynghylch preswyliwr sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol.

Mae defnyddio dull meddwl trwy systemau o ddatrys materion fel cynaladwyedd tenantiaeth yn ddull unigryw o weithio.

Meddwl trwy Systemau

cynhyrchu gydag Ymddiriedolaeth Ynni EDF, wedi cael eu dosbarthu. Mae’r llyfryn yn cynnwys cynghorion defnyddio ar sut i arbed ynni, gan gynnwys:

• Manteision ac anfanteision y dulliau talu gwahanol

• Pwysigrwydd darllen y mesurydd• Cynllun Tanwydd Uniongyrchol

i bobl sy’n cael budd-daliadau cymwys

• Newid dulliau talu, tariffau a chyflenwyr

• Y gofrestr flaenoriaeth a thariffau cymdeithasol

• 9 peth syml i’w gwneud a fydd yn gostwng eich bil

Page 8: Sylw ar adal Powys

8www.wwha.net

Sylw ar ardal Powys – Gwanwyn 2012

Menter Gymunedol Ashfield, Hywi

Rydym wrth ein bodd ein bod ni’n bartneriaid gyda Menter Gymunedol Ashfield yn y gwaith o ddatblygu cyfleusterau a chyfleoedd yn Ashfield, gan gynnwys dwy fflat hunangynhwysol â thair ystafell wely, sydd ar osod.

Mae’r prosiect hefyd yn cynnig gwasanaeth profiad gwaith a mentora i helpu pobl sy’n economaidd anweithgar (ac nad ydyn nhw’n cael Lwfans Ceisio Gwaith na Lwfans Cyflogaeth a Chymorth) i gael y cyfle i gynyddu eu hyder a’u hunanhyder.

Mae lleoliadau’n cael eu cynnig am leiafswm o chwe wythnos, hyd at bedwar diwrnod yr wythnos, gyda diwrnod ychwanegol ar gyfer datblygiad personol.

Mae’r cyfleoedd profiad gwaith yn cynnwys:

• tyfu, marchnata a phrosesu ffrwythau, llysiau, planhigion a pherlysiau organig, gan gynnwys garddio marchnad, cynnal stondin farchnad wythnosol a gweithio gyda chwsmeriaid

• adnewyddu’r safle a’r adeilad, defnyddio technoleg werdd a dulliau cadwraeth, gan gynnwys atgyweirio adeiladau, paentio ac addurno, cynaeafu dŵr glaw a rheoli cynefinoedd.

• Cynnal swyddfa – derbynfa, ymdrin ag archebion a chwsmeriaid, systemau rheoli swyddfa.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.ashfieldcommunityenterprise.org.uk neu ffoniwch 01597 829689.

Page 9: Sylw ar adal Powys

9www.wwha.net

Sylw ar ardal Powys – Gwanwyn 2012

Parhau i fuddsoddi yn ein heiddo

Yn ystod chwe mis olaf 2011, fe wnaethom wario £5.7 miliwn ar ailwampio ein cartrefi ledled Cymru, ac rydym wrth ein bodd ein bod ni’n debygol o gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2012.

Rydym wedi buddsoddi £1.3 miliwn yn adnewyddu ceginau mewn dros 400 o gartrefi ledled Cymru, gan gynnwys 51 ym Mhowys ar gost o £204,000.

Drwy Gymru gyfan, rydym wedi gwario dros £600,000 ar ailwampio ystafelloedd ymolchi, gan gynnwys 42 ym Mhowys ar gost o £84,000.

Rydym hefyd yn buddsoddi £1.2 miliwn yn rhagor mewn rhaglen fawr i adnewyddu ffenestri, a ddylai wneud ein cartrefi yn fwy cyfforddus, yn gynhesach, yn rhatach i’w gwresogi ac yn llai tebygol o fod angen gwaith cynnal a chadw drud yn y dyfodol agos.

Un enghraifft yn unig ym Mhowys yw Tŷ’r Porthmon yn Aberhonddu, lle rydym yn gosod ffenestri a drysau newydd ar gost o £65,000.

Rydym hefyd wedi buddsoddi £138,000 mewn gosod systemau gwres canolog nwy mewn sawl cartref ym Mhowys.

Page 10: Sylw ar adal Powys

10www.wwha.net

Sylw ar ardal Powys – Gwanwyn 2012

Mae’r Gymdeithas newydd ddod â blwyddyn arall o berfformiad ariannol cryf i ben.

Yn gyntaf, fel rhan o fframwaith reoleiddio newydd Llywodraeth Cymru, cawsom radd pasio am farn hyfywdra ariannol, sef y radd uchaf sy’n cael ei dyfarnu, ac mae hynny’n dangos bod gennym ddigon o adnoddau i gwrdd ag ymrwymiadau busnes ac ariannol sydd gennym ar hyn o bryd ac a fydd gennym yn y dyfodol.

Yn ail, mae ein canlyniadau am y flwyddyn yn dangos gwarged a llif arian rhydd a chadarnhaol. Mae hyn wedi ein galluogi i fuddsoddi dros £30 miliwn dros y tair blynedd ddiwethaf yn ein cartrefi presennol i

wella ansawdd ein cartrefi.

Gyda £10 miliwn yn rhagor o fuddsoddiad ar y gweill eleni, rydym yn debyg iawn o gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn y dyddiad targed, sef 2012.

Yn barod, mae gennym £35 miliwn o fuddsoddiadau ar gyfer datblygiadau’r dyfodol. A ninnau wedi dechrau rheoli 165 cartref newydd eu datblygu yn ystod eleni yn unig, mae gennym gynlluniau i ddod â 600 yn rhagor i’n portffolio dros y 5 mlynedd nesaf. I wneud hyn, byddwn angen cyllid pellach, ac rydym yn gwneud cynnydd da at y nod, gyda geriad isel a phortffolio mawr o gartrefi o ansawdd uchel sydd heb eu sicrhau ar ein llyfrau.

Perfformiad ariannol cryf gan WWHA

Achub morgeisiMae ein cynllun achub morgeisi yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar fywydau cymaint o ddeiliaid sydd mewn perygl o weld eu cartref yn cael ei adfeddiannu.

Rydym ymysg nifer prin o gymdeithasau sy’n gweithredu cynllun rydym yn ei gyllido ein hunain, nawr bod yr arian grant gan Lywodraeth Cymru wedi dod i ben.

Mae galw sylweddol o hyd am y gwasanaeth, ac rydym yn ymrwymedig i barhau â’r cynllun achub morgeisi er mwyn helpu i leihau digartrefedd.

Hyd yn hyn, rydym wedi buddsoddi dros £2 miliwn yn y cynllun.

Hyd heddiw, mae WWHA wedi:

• Prynu 31 cartref yn gyfan gwbl – lle mae’r preswylwyr wedi dod yn denantiaid i ni. Mae hyn yn cynnwys 3 cartref a brynwyd heb grant fel rhan o gynllun y talwyd amdano gan y Gymdeithas. Mae 4 teulu arall wedi derbyn cynnig o gymorth fel rhan o’r cynllun hwn.

• Cwblhau 26 benthyciad i alluogi’r preswylwyr i aros yn eu cartrefi fel perchnogion

Am ragor o wybodaeth ynghylch ein cynllun achub morgeisi, ffoniwch y rhif rhadffôn 0800 052 2526 Neu ewch i: www.wwha.net/OurServicesMortgageRescue/

Page 11: Sylw ar adal Powys

11www.wwha.net

Sylw ar ardal Powys – Gwanwyn 2012

Gwobrau yn gryno

Ers ein rhifyn blaenorol o ‘Sylw ar...’, rydym wedi ennill y gwobrau canlynol:

• Cwmnïau Gorau 2012 y Sunday Times. Yn 2012, enwyd WWHA fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru, gan gyrraedd yr 8fed safle, i fyny o safle 14 yn 2011.

Yn ogystal, ni oedd yr unig gymdeithas Tai o Gymru i gael gwobr tair seren y Cwmnïau Gorau – gwobr a chwenychir yn fawr.

“Rydw i wedi gwirioni ein bod ni wedi cael ein cydnabod fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru, ac ein bod ni ymysg y deg cwmni nid-er-elw gorau yn y Deyrnas Unedig. Mae cyrraedd y raddfa uchaf o dair seren yn wych,” meddai Anne Hinchey.

“Rydym yn ymfalchïo ein bod yn gwmni sy’n cael ei yrru gan werthoedd – bod yn deg, agored, cefnogol, effeithlon a chyfrifol – tuag at ein staff, yn ogystal â phawb rydym yn gweithio gyda nhw ac yn gweithio ar eu cyfer.

• Roeddem wrth ein bodd yn WWHA pan gawsom ein henwi ymysg y 30 Cwmni mwyaf caredig at deuluoedd yn y Deyrnas Unedig gan Working Families, sefydliad sy’n ymgyrchu dros gydbwysedd rhwng bywyd hamdden a gwaith. Roeddem yn un o ddau sefydliad o Gymru a gafodd le ar y rhestr, sy’n llawn cwmnïau o’r radd flaenaf.

• Fe wnaeth ein Prosiect Digartrefedd Rhagor o Ddewisiadau yn Stoneleigh Manor, ar y cyd â Chyngor Sir Powys, ennill Gwobr Comisiynu Da Hyrwyddo

Annibyniaeth 2011 Cymorth Cymru. Cafodd y prosiect hwn le ar restr fer Gwobr Tai Cymru CIH am ‘wneud y defnydd gorau o stoc.”

• Fe wnaeth Fforwm Cynhwysiant Ariannol Gogledd Cymru, yr ydym yn aelod ohono, ennill Gwobr 2011 Hyrwyddo Annibyniaeth Cynnwys Defnyddwyr y Gwasanaeth am y DVD My Home… ‘Making Every Penny Count’. Ers hynny, mae’r DVD wedi ennill ail wobr – Gwobr MoneyActionNet 2011 gan y darparwyr gwybodaeth am weithredu cymdeithasol, Lemos & Crane.

• Mae preswylwyr WWHA wedi cael dwy wobr gan TPAS Cymru. Fe wnaeth y grwpiau o Gwm Garw, Pen-y-bont ar Ogwr, a stad Barracksfield yn Wrecsam, ddod i’r brig mewn cystadleuaeth gref gyda grwpiau landlordiaid cymdeithasol eraill yng Nghymru.

• Cafodd ein Prosiect Adfywio Ecogyfeillgar ar Powell Road yn Sir y Fflint le ar restr fer Gwobr Tai CIH y Deyrnas Unedig am Gyflawniad Eithriadol yng Nghymru.

• Cafodd ein cynllun er ymddeol, Sydney Hall Court yng Nghei Connah, sy’n cael ei redeg gan y rheolwr cynllun Rob Holmes, ei gynnwys ar restr fer Gwobr Cartref Caredig i Anifeiliaid Anwes y Flwyddyn y Cinnamon Trust.

• Rydym wedi cael Safon Aur Ôl Troed Tai RSPCA.

Page 12: Sylw ar adal Powys

12www.wwha.net

Sylw ar ardal Powys – Gwanwyn 2012

Mentrau ecogyfeillgar

Rydym yn ymroddedig i fod yn wyrdd drwy ein holl sefydliad, ynghyd â chefnogi ein preswylwyr i allu mwynhau manteision niferus bod yn garedig i’r amgylchedd. Rydym hefyd newydd basio archwiliad blynyddol y Ddraig werdd, gan gyrraedd Lefel 2.

Rydym yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o brosiectau, dan arweiniad Owen Jones, ein Swyddog Amgylchedd a Chynaladwyedd.

Rydym wedi bod yn gosod Pympiau Gwres o’r Ddaear yng Nghlos Pontganol, Llangynidr, ynghyd â safl eoedd ychwanegol yng Nghrughywel, Llanfair Caereinion a’r Ffl int. Mae’r rhain yn brosiectau arloesol, sy’n mynd i gael effaith fawr ar helpu preswylwyr i arbed arian ar eu biliau ynni.

Mae rhai preswylwyr ym Maes yr Onnen, Crughywel, yn talu rhwng

£150 a £200 y mis ar eu biliau trydan, ac maen nhw nawr yn mynd i elwa ar ffenestri newydd, inswleiddio gwell a phympiau gwres o’r ddaear. Bydd camau pellach, fel tynnu eu cawodydd trydan a rhoi cawodydd cymysgu yn eu lle, hefyd yn helpu i leihau eu biliau.

Mae pympiau gwres o’r ddaear ymysg y systemau gwresogi dŵr domestig mwyaf cynaliadwy sydd ar gael ar hyn o bryd, a bydd preswylwyr ar eu hennill drwy gael rheolaeth well ar eu systemau gwresogi. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd gwneud hynny’n arbed arian iddyn nhw.

Yn y llun gwelir y twll turio cyntaf yng Nghlos Pontganol ar gyfer gosod pympiau gwres o’r ddaear.

Bydd un o’r 10 twll turio yn mynd tua 200 metr i lawr (tua 600 troedfedd).

Page 13: Sylw ar adal Powys

13www.wwha.net

Sylw ar ardal Powys – Gwanwyn 2012

Mae prosiectau eraill yn cynnwys:

• Newid tanwydd• Parhau i dreialu dyfeisiau

optimeiddio foltedd • Gweithio gydag Asiantaeth

yr Amgylchedd i ddatblygu cynlluniau llifogydd ar gyfer y cartrefi sydd gennym a allai gael eu heffeithio.

Rydym hefyd wedi buddsoddi dros £15,000 o’n Cronfa Amgylcheddol mewn 29 prosiect ledled Cymru. Mae’r rhain i gyd yn brosiectau dan arweiniad preswylwyr, sydd wedi gwneud cais am gyllid ar lawr gwlad.

Mae prosiectau yn cynnwys datblygu gerddi bioamrywiaeth, gosod gwelyau wedi’u codi ar gyfer plannu hygyrch, prynu hadau,

cyfarpar, tai gwydr a chyfarpar arall.

Rydym yn gweithio’n galed yn barhaus i sicrhau ein bod ni’n defnyddio ac yn ymgorffori technolegau sy’n garedig i’r amgylchedd lle bynnag y medrwn ni ym mhob agwedd ar ein datblygiadau newydd, ynghyd â’n rhaglenni ailwampio.

Er hynny, yn anffodus, mae ansicrwydd ynghylch cyllid wedi arwain at orfod oedi ein cynlluniau i osod paneli PV solar ar doeau ein cartrefi addas. Digwyddodd hyn yn sgil ffactorau y tu hwnt i’n rheolaeth, ac rydym ymysg nifer o ddarparwyr tai cymdeithasol eraill yn y Deyrnas Unedig sydd yn yr un sefyllfa.

Yn y llun, gwelir yr hen storfa fi niau yn Western Court, Pen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi cael ei thrawsffurfi o erbyn hyn yn dŷ gwydr, diolch i gyfraniad o £200 gan Gronfa Amgylcheddol WWHA.

Page 14: Sylw ar adal Powys

14www.wwha.net

Sylw ar ardal Powys – Gwanwyn 2012

Uwchraddio sgiliau gyda Chymunedau 2.0 a Take Ctrl

Mynediad band eang Wi-fi i breswylwyr hŷn

Rydym yn ymrwymedig i ddarparu mynediad band eang WiFi ym mhob un o’n 100 o gynlluniau i bobl hŷn ledled Cymru o fewn y ddwy flynedd nesaf, gan fuddsoddi £1 miliwn yn y prosiect.

Rydym eisoes yn gweithio ar gynllun peilot yn Nhŷ Pontrhun, un o’n cynlluniau er ymddeol ym Merthyr Tudful, mewn partneriaeth â’r darparwr o Gymru, Boynes. Bydd pedair llinell, llwybryddion a chyfnerthyddion ar waith yn y cynllun o fis Mawrth 2012 ymlaen, gan alluogi pob preswyliwr i lwytho i lawr 1MG yr un. Bydd y gost i’r preswylwyr yn swm fforddiadwy iawn, sef £1 y cartref fesul wythnos.

Rydym hefyd yn cydweithio â nifer o bartneriaid i uwchraddio sgiliau unrhyw un o’n preswylwyr, beth bynnag fo eu hoedran neu eu profiad blaenorol, fel eu bod nhw’n gallu mwynhau manteision technoleg ddigidol.

Ym Merthyr Tudful, rydym yn gweithio gyda Chymunedau 2.0 ar brosiect Connect Merthyr. Mae hwn yn cefnogi pobl hŷn sydd eisiau dysgu sut i ddefnyddio amrywiaeth o blatfformau ar y rhyngrwyd, gan gynnwys e-bost, Skype, peiriannau chwilio, Twitter a YouTube. Mae

hefyd yn eu helpu i ddefnyddio amrywiaeth o gyfarpar digidol arall, gan gynnwys ffonau symudol, camerâu a chamerâu fideo.

Daeth Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, ar ymweliad â’r prosiect yn ddiweddar, i weld dros ei hunan yr effaith anhygoel o gadarnhaol y mae’n ei gael ar ei gyfranogwyr hŷn. Yn ogystal, yng ngogledd Cymru, rydym yn cyflogi Jen Bailey, cydlynydd Prosiect Take Ctrl. Mae hon yn bartneriaeth rhwng saith cymdeithas tai, gan gynnwys WWHA. Am ragor o fanylion, ewch i: www.takectrl.org

Hunanasesu a chynllunio ar gyfer y dyfodol

Fel cymaint o gymdeithasau tai eraill, rydym yn cynnal ymarferion hunanasesu trylwyr i weld pa mor dda rydym yn perfformio, ac i’n helpu ni i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Rydym bob amser yn croesawu adborth adeiladol ynghylch unrhyw agwedd ar ein busnes, ein heiddo, neu’r gwasanaethau rydym yn eu darparu.

Am ragor o wybodaeth ynghylch ein cynlluniau a’n proses hunanasesu, ewch i:

www.wwha.net/AboutUs/CorporateInformation/Performance/InspectionInformation

Page 15: Sylw ar adal Powys

15www.wwha.net

Sylw ar ardal Powys – Gwanwyn 2012

Cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant

Rydym yn parhau i gydweithio â’n contractwyr ac eraill i ddarparu gwaith a hyfforddiant i bobl yn nifer o’r cymunedau lle’r ydym yn gweithio.

Mae Donna Samuel yn un o ddau sydd wedi dychwelyd i weithio a gafodd swyddi parhaol gyda WWHA diolch i JobMatch, Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ddiweddar, fe wnaeth Donna gyfarfod â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones (yn y llun isod) mewn digwyddiad Iechyd a Lles lleol, a manteisiodd ar y cyfle i egluro sut roedd dod o hyd i waith llawn amser wedi trawsnewid ei bywyd.

Mae nifer o’n contractwyr wedi cyflogi prentisiaid o ganlyniad i’r gwaith rydym yn ei gomisiynu. Mae enghreifftiau eraill o’r modd rydym yn cefnogi pobl i ddychwelyd i weithio yn cynnwys:

• Gweithio gyda JobMatch i hyfforddi dau Ymgynghorydd Ynni pwrpasol, a fydd yn lledaenu’r gair ymysg preswylwyr am sut i gael y bargeinion gorau ar danwydd a’r ffordd orau i dorri costau.

• Cefnogi ein contractwyr a chyflenwyr i greu prentisiaethau mewn gwaith trydanol a gosod ffenestri.

• Creu lleoliadau gwaith drwy’r Ganolfan Byd Gwaith a Rhaglen Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau.

• Ac rydym yn ymchwilio i’r cyfleoedd y gallem eu creu drwy ailgylchu.

Strategaeth Newydd ar Gyfranogiad Preswylwyr Rydym wedi diweddaru ein strategaeth ar Gyfranogiad Preswylwyr.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.wwha.net/NR/rdonlyres/6C6733C0-FA83-4302-912C-F846D2D3C68F/0/InTouchWinter20112.pdf

Neu, gallwch ddarllen y strategaeth lawn yn: www.wwha.net/NR/rdonlyres/10FD0DC5-E4DD-4B9C-9FC0-EF0F5A83AA1B/0/WHALTPS2011.pdf

Page 16: Sylw ar adal Powys

16www.wwha.net

Sylw ar ardal Powys – Gwanwyn 2012

Jenny Williams, Rheolwr Tai (Anghenion Cyffredinol) 029 2041 [email protected]

HOUSING

Cysylltiadauallweddol

Prif Swyddfa3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam,

Tremorfa, CaerdyddCF24 2UD

Ffôn: 0800 052 2526Ffacs: 029 2041 5380

Gwefan: www.wwha.net

Swyddfa’r FflintUned 2 Parc Busnes AcornAber Road, Y Fflint, Sir y FflintCH6 5YN

E-bost: [email protected]: 0800 052 5205Dilynwch ni ar @WWHA

Anne Hinchey, Prif Weithredwr029 2041 5335

[email protected]

Tony Wilson, Cyfarwyddwr Cyllid029 2041 [email protected]

Shayne Hembrow, Cyfarwyddwr Gweithrediadau029 2041 5362

[email protected]

STRATEGOL

TAI

Lynnette Glover, Pennaeth Tai029 2041 5365

[email protected]

Wales & West Housing Association is registered as a charitableassociation under the Industrial and Provident Societies Act 1965 No. 21114R

Anne Caloe, Rheolwr Tai (Tai er Ymddeol / Tai â Chymorth)01352 736323

[email protected]

Mae Cymdeithas Tai Wales & West wedi ei chofrestru fel cymdeithas elusennol dan Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965, Rhif 21114R

Nikki Cole, Pennaeth Datblygu029 2041 4093

[email protected]

Steve Porter, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo 029 2041 [email protected]

D AT B LY G U G WASA N A E T H AU E I D D O