php3008: introduction to theories of therapeutic counseling web viewtystysgrif addysg uwch i...

41
LLAWLYFR Y DYSTYSGRIF ADDYSG UWCH I RADDEDIGION TYSTYSGRIF ADDYSG UWCH I RADDEDIGION PGCert HE LLAWLYFR Y RHAGLEN BLWYDDYN ACADEMAIDD 2017-2018 © Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor

Upload: doanque

Post on 11-Feb-2018

219 views

Category:

Documents


1 download

TRANSCRIPT

Page 1: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR Y DYSTYSGRIF ADDYSG UWCH I RADDEDIGION

TYSTYSGRIF ADDYSG UWCH I RADDEDIGION

PGCert HE

LLAWLYFR Y RHAGLEN

BLWYDDYN ACADEMAIDD 2017-2018

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor

Page 2: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR Y DYSTYSGRIF ADDYSG UWCH I RADDEDIGION

Cynnwys

Cyflwyniad i'r Dystysgrif Addysg Uwch i Raddedigion.................................................5

Beth yw'r Dystysgrif Addysg Uwch i Raddedigion (PGCert HE) ym Mhrifysgol Bangor?...................................................................................................................5

Pwy yw'r Cyfarwyddwyr Cwrs ar gyfer PGCert HE?................................................5

Pam ei bod yn bwysig cwblhau'r PGCert HE?.........................................................5

Beth mae bod yn Gymrawd Addysgu yr Academi Addysg Uwch yn ei olygu?........6

Beth mae bod yn Athro/Athrawes Nyrsio Gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) yn ei olygu?..........................................................................6

Beth sy’n rhaid i mi ei wneud i gwblhau'r PGCert HE?............................................7

Faint o amser fydd yn ei gymryd i gwblhau PGCert HE?........................................7

Beth yw deilliannau dysgu'r PGCert HE?................................................................7

Beth yw'r meini prawf asesu ar gyfer fy Mhortffolio yng Ngham 1 a fy Mhapur yng Ngham 2?................................................................................................................8

Sut mae'r llyfrau gwaith yn fy helpu gyda fy asesiadau?.........................................9

Sut fedraf i gael amser i gwblhau'r PGCert HE?......................................................9

Rwyf ar gytundeb Ymchwil ac Addysgu - sut fydd cael PGCert HE yn fy nghynorthwyo i?......................................................................................................9

Rwyf ar gytundeb Addysgu ac Ysgolheictod - sut fydd cael PGCert HE yn fy nghynorthwyo i?....................................................................................................10

Pam nad yw'r PGCert HE yn canolbwyntio yn benodol ar addysgu yn fy nisgyblaeth i?.........................................................................................................10

Oes modd cwblhau dim ond Cam 1 y PGCert HE?...............................................11

Fedraf i fynd yn syth i wneud Cam 2 y PGCert HE?..............................................11

Allaf i astudio PGCert HE trwy gyfrwng y Gymraeg?.............................................11

Pwy yw fy Nhiwtor Personol?................................................................................11

Sut fydd fy Nhiwtor Personol yn fy helpu?.............................................................11

Pwy yw fy Ymgynghorydd Addysgu?.....................................................................12

Sut fydd fy Ymgynghorydd Addysgu yn fy helpu?.................................................12

Pa gefnogaeth a chydnabyddiaeth fydd fy Ymgynghorydd Addysgu yn ei gael?. .12

Cam 1 y PGCert HE..................................................................................................13

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 2 o 28

Page 3: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR Y DYSTYSGRIF ADDYSG UWCH I RADDEDIGION

Beth sydd angen i mi ei wneud i gwblhau Cam 1 y PGCert HE?..........................13

Beth yw deilliannau dysgu Cam 1 y PGCert HE?..................................................13

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn colli'r sesiwn gynefino?..................................14

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn colli gweithdy?...............................................14

Beth fydd yn digwydd os nad oes modd i mi orffen fy mhortffolio cyn y dyddiad cyflwyno?...............................................................................................................15

Beth ddylid ei gynnwys yn fy Mhortffolio Addysgu?...............................................15

Sut gallaf fod yn siŵr y bydd fy mhortffolio yn llwyddo?.........................................16

Sut ddylwn i fformatio fy mhortffolio?.....................................................................16

Sut ydw i’n cyflwyno fy mhortffolio?.......................................................................16

Beth sydd ei angen arnaf ar gyfer adran Athroniaeth Addysgu fy mhortffolio?......16

Beth sydd ei angen arnaf ar gyfer adran Profiad Addysgu fy mhortffolio?.............17

Beth sydd ei angen arnaf ar gyfer adran Arsylwadau Addysgu fy mhortffolio?.....18

Beth sydd ei angen arnaf ar gyfer adran Ymwneud ag Addysgu fy mhortffolio?...19

Beth sydd ei angen arnaf ar gyfer adran Datblygiad Proffesiynol fy mhortffolio?. .20

Sut fydd fy Mhortffolio yn cael ei asesu?...............................................................20

Beth fydd yn digwydd os ydw i'n methu yn fy Mhortffolio?.....................................21

Cam 2 y PGCert HE..................................................................................................22

Beth sydd angen i mi ei wneud i gwblhau Cam 2 y PGCert HE?..........................22

Beth yw deilliannau dysgu Cam 2 y PGCert HE?..................................................22

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn colli'r sesiwn gynefino?..................................22

Gaf i gyflwyno fy mhapur yn gynharach yn y flwyddyn a chwblhau'r PGCert HE ynghynt?................................................................................................................23

Beth fydd yn digwydd os nad oes modd i mi orffen fy mhapur cyn y dyddiad cyflwyno?...............................................................................................................23

Beth ddylid ei gynnwys yn y papur y byddaf yn ei gyflwyno?................................23

Sut gallaf fod yn siŵr y bydd fy mhapur yn llwyddo?.............................................24

Sut ddylwn i fformatio fy mhapur?.........................................................................24

Faint o eiriau ddylwn i eu hysgrifennu ar gyfer fy mhapur?...................................24

Sut ydw i’n cyflwyno fy mhapur?............................................................................24

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 3 o 28

Page 4: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR Y DYSTYSGRIF ADDYSG UWCH I RADDEDIGION

Pam y dylwn i ysgrifennu ar gyfer cyfnodolyn pedagogaidd o fewn fy nisgyblaeth?...............................................................................................................................24

Sut mae dod o hyd i gyfnodolyn pedagogaidd o fewn fy nisgyblaeth?..................25

Gaf i gyflwyno fy mhapur pedagogaidd trwy gyfrwng y Gymraeg?........................25

Pa fath o bapur pedagogaidd sydd ei angen?.......................................................26

Oes rhaid i fy mhapur pedagogaidd gael ei gyflwyno i'r cyfnodolyn a'i dderbyn ar gyfer ei gyhoeddi?.................................................................................................26

Gaf i gydweithio gyda chydweithwyr ar fy mhapur?...............................................26

Pwy ddylid eu rhestru fel awduron os penderfynaf gyflwyno fy mhapur pedagogaidd?........................................................................................................26

Pa ffordd arall sydd o sicrhau bod fy ngwaith ar gael i gydweithwyr os nad ydw i eisiau cyflwyno fy mhapur i'r cyfnodolyn?..............................................................27

Gaf i gyflwyno ffurf arall o ymchwil/ysgolheictod yn hytrach na phapur?...............27

Sut mae llenwi Ffurflen y Fframwaith Safonau Proffesiynol?.................................27

Sut caiff fy mhapur ei asesu?................................................................................27

Beth fydd yn digwydd os ydw i'n methu yn fy mhapur?.........................................28

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 4 o 28

Page 5: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR Y DYSTYSGRIF ADDYSG UWCH I RADDEDIGION

Cyflwyniad i'r Dystysgrif Addysg Uwch i Raddedigion

Beth yw'r Dystysgrif Addysg Uwch i Raddedigion (PGCert HE) ym Mhrifysgol Bangor?

Cymhwyster Lefel 7 yw’r PGCert HE sydd wedi’i gynllunio i gefnogi academyddion wrth iddynt ddatblygu sgiliau ymarferol a gwybodaeth theoretig er mwyn datblygu'n addysgwyr/ darlithwyr effeithiol mewn Addysg Uwch. Ceir pwyslais ar hyrwyddo dulliau blaengar o addysgu a dysgu ac ar ddatblygu academyddion yn ymarferwyr adfyfyriol. Caiff y cymhwyster ei gefnogi gan Ganolfan Gwella Addysgu a Dysgu (CELT) Prifysgol Bangor a chaiff y cymhwyster terfynol ei ddyfarnu gan yr Ysgol Addysg. Mae’r rhaglen yn seiliedig ar Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig (UKPSF) felly bydd y myfyriwr graddedig llwyddiannus yn cael Cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch (Mae Cam 1 yn golygu Cymrodoriaeth Gysylltiol ac mae Cam 2 yn golygu Cymrodoriaeth) Mae'r rhaglen hefyd yn bodloni'r gofynion achredu’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth felly gall graddedigion llwyddiannus ym maes nyrsio dderbyn statws cofrestredig athro/athrawes nyrsio. Caiff y rhaglen hon ei llywio hefyd gan Gynllun Strategol Prifysgol Bangor a Strategaeth Dysgu ac Addysgu Aber/Bangor er mwyn ffurfio craidd Fframwaith Datblygiad Proffesiynol Parhaus achrededig Aber-Bangor. Mae Cam 1 a 2 yn orfodol i staff a benodwyd ar gontractau addysgu academaidd ym Mangor sydd â llai na 3 blynedd o brofiad addysgu di-dor mewn addysg uwch neu sydd ddim eisoes yn Gymrodyr yr Academi Addysg Uwch. Mae’r rhaglen yn dilyn model dysgu yn seiliedig ar ymchwil weithredol er mwyn cefnogi datblygiad proffesiynol dechreuol a pharhaus staff sy'n addysgu ac yn cefnogi dysgu.

Pwy yw'r Cyfarwyddwyr Cwrs ar gyfer PGCert HE?

Mae dau Gyfarwyddwr Cwrs ar gyfer PGCert HE, sef Fay Short a Rosanna Robinson.

Mae Dr Fay Short yn Ddarllenydd yn yr Ysgol Seicoleg ac mae ei swyddfa yn Adeilad Wheldon ym Mangor (e-bost [email protected]).

Mae Rosanna Robinson yn Ddarlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol (e-bost [email protected]).

Pam ei bod yn bwysig cwblhau'r PGCert HE?

Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i sicrhau bod pob aelod o staff yn gymwys i addysgu yn unol â'r meini prawf a osodwyd gan yr Academi Addysg Uwch. Mae hyn yn golygu y dylai unrhyw aelod staff â chyfrifoldebau addysgu fod â chymhwyster addysgu perthnasol neu gymrodoriaeth addysgu trwy'r Academi Addysg Uwch.

Os nad oes gennych y naill gymhwyster na'r llall ar hyn o bryd, yna dylech ddechrau gweithio tuag at fod yn 'gymwys i addysgu' trwy ddilyn un o'r llwybrau canlynol:

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 5 o 28

Page 6: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR Y DYSTYSGRIF ADDYSG UWCH I RADDEDIGION

Os ydych wedi addysgu yn ddi-dor am fwy na dwy flynedd (neu os credwch fod gennych eisoes brofiad addysgu sylweddol) fel darlithydd Addysg Uwch yn y Deyrnas Unedig, yna gallech fod yn gymwys i wneud cais am Gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch. Cysylltwch â Sue Clayton i gael rhagor o wybodaeth am y llwybr hwn.

Os oes gennych lai na thair blynedd o brofiad addysgu neu os nad oedd eich profiad addysgu ar lefel darlithydd mewn Addysg Uwch, yna dylech gwblhau'r PGCert HE. Bydd hyn yn rhan orfodol o'ch cyfnod prawf os ydych wedi eich penodi ar gontract academaidd sy'n cynnwys dyletswyddau addysgu. Bydd cwblhau PGCert HE yn rhoi cymhwyster ffurfiol mewn addysgu i chi A Chymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch.

Yn ogystal â'r pwyntiau uchod, os ydych yn ddarlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, yna mae'n rhaid i chi fod â statws nyrs gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth er mwyn i chi fod yn gymwys i addysgu nyrsio cyn-gofrestru. Mae’r cwrs hwn yn cwrdd â gofynion cael statws nyrs gofrestredig gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth felly mae'n hanfodol fod pob aelod staff sy'n addysgu yn y maes hwn yn cwblhau'r cwrs yn llawn.

Beth mae bod yn Gymrawd Addysgu yr Academi Addysg Uwch yn ei olygu?

Yr Academi Addysg Uwch yw'r corff cenedlaethol sy'n gyfrifol am hyrwyddo ansawdd addysgu ym mhrifysgolion y Deyrnas Unedig. Mae'r Academi yn cynnig ystod o wasanaethau proffesiynol, o ariannu ymchwil pedagogaidd i lywio polisi'r llywodraeth. Maent wedi datblygu Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig (UKPSF) fel meincnod ar gyfer safonau addysgu, ac mae cael achrediad fel Cymrawd gan yr Academi Addysg Uwch yn dangos bod yr unigolyn wedi cyrraedd y meincnod hwn wrth addysgu. Ar hyn o bryd mae mwy na 75,000 o Gymrodyr achrededig ledled y Deyrnas Unedig.Mae’r PGCert HE ym Mhrifysgol Bangor wedi ei alinio'n benodol â Meysydd Gweithgarwch, Gwybodaeth Graidd a Gwerthoedd Proffesiynol yr UKPSF. Bydd Cam 1 yn cwrdd â'r meincnodau i fod yn Gymrawd Cysylltiol a bydd Cam 2 yn cwrdd â'r meincnodau i fod yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Bydd adolygydd o'r Academi Addysg Uwch yn adolygu eich asesiadau i benderfynu'n benodol a yw'r gwaith yn cwrdd â'r safonau meincnod hyn. Bydd yr adolygydd yn Uwch Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch o leiaf a bydd wedi mynychu'r hyfforddiant Prifysgol canolog ar gyfer adolygwyr Cymrodoriaethau'r Academi Addysg Uwch yn ystod y 24 mis diwethaf.

Beth mae bod yn Athro/Athrawes Nyrsio Gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) yn ei olygu?

Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yw'r corff cenedlaethol sy'n gyfrifol am reoleiddio nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'r NMC yn darparu canllawiau a chodau ymddygiad ar gyfer ymarfer, yn ogystal â gosod safonau ar gyfer addysg a hyfforddiant.Mae’r PGCert HE ym Mhrifysgol Bangor wedi ei alinio'n benodol â gofynion yr NMC. Bydd cwblhau Cam 1 a Cham 2 yn llawn yn bodloni'r gofynion hyn a bydd graddedigion

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 6 o 28

Page 7: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR Y DYSTYSGRIF ADDYSG UWCH I RADDEDIGION

llwyddiannus yn cael statws Athro/Athrawes Nyrsio Gofrestredig gyda'r NMC. Bydd hyn yn eu gwneud yn gymwys i addysgu nyrsio cyn-gofrestru.

Beth sy’n rhaid i mi ei wneud i gwblhau'r PGCert HE?

Mae dau gam i'r PGCert HE:1. Bydd Cam 1 (modiwl XVE4008) yn canolbwyntio ar agweddau ymarferol addysgu

i'ch cynorthwyo i fod yn fwy effeithiol ac effeithlon wrth addysgu mewn Addysg Uwch. Bydd y cam hwn yn cynnwys gweithdai rheolaidd i gefnogi eich datblygiad a'r asesiad fydd portffolio terfynol o'ch profiad addysgu.

2. Bydd Cam 2 (modiwl XVE4009) yn canolbwyntio ar ymchwil pedagogaidd er mwyn ymchwilio i arloeseddau newydd a datblygu eich ymarfer addysgu. Bydd y cam hwn yn cynnwys ysgolheictod annibynnol a phapur academaidd fydd yr asesiad.

Faint o amser fydd yn ei gymryd i gwblhau PGCert HE?

Cynhelir Cam 1 y PGCert HE dros un flwyddyn academaidd.Dylid cwblhau Cam 2 y PGCert HE o fewn blwyddyn. Fodd bynnag, gellir cyflwyno'r gwaith yn gynharach os yw'r athro/athrawes yn awyddus i gwblhau'r cymhwyster. Ar y llaw arall, gellir ymestyn y dyddiad cyflwyno hyd at ddwy flynedd pe bai angen.

Beth yw deilliannau dysgu'r PGCert HE?

O gwblhau'r PGCert HE, dylech fedru:1. Dylunio a chynllunio gweithgareddau dysgu a/neu raglenni astudio (UKPSF A1).2. Addysgu ac/neu gefnogi dysgu (UKPSF A2).3. Asesu a rhoi adborth i ddysgwyr (UKPSF A3).4. Datblygu amgylcheddau dysgu effeithiol a dulliau effeithiol o gynorthwyo a

chyfarwyddo myfyrwyr (UKPSF A4).5. Cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus mewn pynciau/ disgyblaethau

a’u pedagogeg, gan ymgorffori ymchwil, ysgolheictod a gwerthuso arferion proffesiynol (UKPSF A5).

6. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth dda o ddeunyddiau pwnc eich disgyblaeth eich hun (UKPSF K1).

7. Dangos dulliau addas o addysgu, dysgu ac asesu yn eich disgyblaeth eich hun (UKPSF K2).

8. Deall sut mae myfyrwyr yn dysgu, yn gyffredinol ac o fewn eich disgyblaeth (UKPSF K3).

9. Defnyddio a rhoi gwerth ar dechnolegau dysgu priodol (UKPSF K4).10. Sefydlu dulliau o werthuso effeithiolrwydd yr addysgu (UKPSF K5).11. Adnabod goblygiadau sicrhau ansawdd a gwella ansawdd ar ymarfer academaidd a

phroffesiynol, gan ganolbwyntio’n benodol ar addysgu (UKPSF K6).12. Parchu myfyrwyr unigol a chymunedau dysgu amrywiol (UKPSF V1).13. Hyrwyddo cyfranogiad mewn addysg uwch a chyfle cyfartal i ddysgwyr (UKPSF

V2).

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 7 o 28

Page 8: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR Y DYSTYSGRIF ADDYSG UWCH I RADDEDIGION

14. Defnyddio dulliau ar sail tystiolaeth a deilliannau ymchwil, ysgolheictod a datblygiad proffesiynol parhaus (UKPSF V3).

15. Cydnabod y cyd-destun ehangach y mae addysg uwch yn gweithredu ynddo, gan gydnabod y goblygiadau ar ymarfer proffesiynol (UKPSF V4).

Sut y caf fy asesu ar y PGCert HE?

Caiff Cam 1 y PGCert HE ei asesu trwy bortffolio. Bydd y portffolio hwn yn werth 100% o'r modiwl hwn a rhaid bod ei gynnwys yn rhoi sylw i bob un o ddeilliannau dysgu'r cam cyntaf. Cynlluniwyd yr asesiad hwn i gefnogi'r gwaith addysgu yr ydych eisoes yn ei wneud. Dim ond ar ôl llwyddo yng Ngham 1 y cewch symud ymlaen i Gam 2. I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at yr adran ar Gam 1 yn y llawlyfr hwn.Caiff Cam 2 y PGCert HE ei asesu trwy ddarn o ysgolheictod. Rhaid i'r ysgolheictod ganolbwyntio ar addysgu yn eich pwnc eich hun a rhaid iddo roi sylw i bob un o ddeilliannau dysgu'r ail gam. Bydd gofyn i chi gynhyrchu un papur yn arddull ysgolheictod pedagogaidd eich disgyblaeth eich hun. I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at yr adran ar Gam 2 yn y llawlyfr hwn.

Beth yw'r meini prawf asesu ar gyfer fy Mhortffolio yng Ngham 1 a fy Mhapur yng Ngham 2?

Caiff y portffolio ei asesu yn defnyddio'r meini prawf canlynol: Methu

o Cyflwyniad anghyflawn gyda thystiolaeth ar goll ar gyfer rhai elfennau gofynnol

o Dealltwriaeth a chymhwysiad annigonol yn rhai meysydd craidd o'r gweithgarwch addysgu

o Bylchau mawr yn yr wybodaeth graidd am addysgu, dysgu a phedagogego Heb ddangos gwerthoedd proffesiynol sylfaenol

Ffiniol o Cyflwyniad cyflawn a'r lleiafswm o dystiolaeth ar gyfer pob un o'r elfennau

gofynnolo Dealltwriaeth a chymhwysiad digonol ym mhob un o feysydd craidd y

gweithgarwch addysguo Rhywfaint o wybodaeth graidd am addysgu, dysgu a phedagogego Wedi dangos gwerthoedd proffesiynol sylfaenol

Llwyddoo Cyflwyniad cyflawn a thystiolaeth lawn wedi ei chynnwys ar gyfer pob un o'r

elfennau gofynnolo Dealltwriaeth a chymhwysiad cadarn ym mhob un o feysydd craidd y

gweithgarwch addysguo Gwybodaeth graidd gadarn am addysgu, dysgu a phedagogego Dangos gwerthoedd proffesiynol da yn glir

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 8 o 28

Page 9: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR Y DYSTYSGRIF ADDYSG UWCH I RADDEDIGION

Sut mae'r llyfrau gwaith yn fy helpu gyda fy asesiadau?

Cewch lyfr gwaith ar gyfer y Portffolio yng Ngham 1 ac ar gyfer y Papur yng Ngham 2 ar safle Blackboard PGCert HE. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio'r llyfrau gwaith hyn i strwythuro a fformatio eich cyflwyniad. Lawrlwythwch y llyfr gwaith, llenwch yr adrannau fel y mae'r testun a amlygwyd mewn melyn yn eich cynghori, rhowch y gwaith yn y mannau perthnasol, a chyflwynwch y llyfr gwaith terfynol fel un darn o waith i'w asesu. Dylai pob adran o'ch cyflwyniad terfynol fod wedi eu cwblhau'n llawn ac ni ddylai gynnwys unrhyw destun wedi ei amlygu mewn melyn. Mae'r llyfrau gwaith hyn yn sicrhau eich bod wedi cynnwys yr holl gynnwys sy'n ofynnol, gan symleiddio strwythur eich gwaith, a gadael i chi ganolbwyntio ar gynnwys yn hytrach nag ar faterion yn ymwneud â fformatio.

Sut fedraf i gael amser i gwblhau'r PGCert HE?

Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i sicrhau bod pob aelod o staff academaidd yn 'gymwys i addysgu' trwy naill fod â PGCert HE neu Gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch. Mae hyn yn golygu ein bod yn rhoi gwerth ar yr amser yr ydych yn ei dreulio yn cwblhau'r cwrs hwn ac rydym yn cydnabod ei fod yn rhan bwysig o'ch datblygiad proffesiynol. Dylai eich ysgol academaidd gydnabod hynny, a dylai cael Pennaeth yr Ysgol i gymeradwyo eich bod yn cwblhau'r cwrs sicrhau fod y cwrs yn cael ei ymgorffori yn rhan o'ch llwyth gwaith. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â chael amser i gwblhau'r cwrs, dylech gysylltu â Chyfarwyddwr y Cwrs.

Rwyf ar gytundeb Ymchwil ac Addysgu - sut fydd cael PGCert HE yn fy nghynorthwyo i?

Rydym yn cydnabod bod cyhoeddi ymchwil a denu grantiau yn bwysig i academyddion ar ddechrau eu gyrfa. Fodd bynnag, mae addysgu yn dal yn rhan bwysig o'ch contract ac mae'r PGCert HE wedi ei gynllunio i'ch helpu i lwyddo yn y maes hwnnw.Yn gyntaf, mae cymwysterau addysgu yn ychwanegiad y rhoddir pwys cynyddol arnynt fel rhan o CV academydd. Yn aml mae swyddi academaidd yn gofyn bod ymgeiswyr yn meddu ar gymhwyster neu'n ymrwymo i ennill cymhwyster yn ystod eu cyfnod prawf. Ar ben hynny, bydd meddu ar y cymhwyster hwn yn ddisgwyliedig ac yn elfen bwysig wrth wneud ceisiadau am ddyrchafiad yn y dyfodol yn achos contractau ymchwil ac addysgu.Yn ail, mae'r PGCert HE wedi ei gynllunio i'ch helpu i addysgu yn fwy effeithiol ac effeithlon yn ystod eich blwyddyn gyntaf o addysgu. Bydd yn ffordd i chi ymgynefino ag agweddau ymarferol addysgu ym Mhrifysgol Bangor. Mae hyn yn golygu y dylai'r cwrs eich helpu o ran cyflawni tasgau addysgu beunyddiol, fel bod yr amser a dreuliwch ar y cwrs yn arbed amser i chi wrth wneud dyletswyddau addysgu go iawn. Er enghraifft, rhaid i bob trefnydd modiwl gwblhau ffurflen QA2 ar ddiwedd pob cwrs - yn hytrach na cheisio gweithio allan sut mae llenwi'r ffurflen hon ar eich pen eich hun, bydd ein gweithdy ni yn eich arwain trwy'r broses er mwyn sicrhau fod gennych y sgiliau i'w llenwi yn gyflym ac yn briodol nawr ac yn y dyfodol. Yna byddai modd i chi gynnwys y ffurflen QA2 hon yn eich portffolio fel enghraifft o Ymwneud ag Addysgu.

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 9 o 28

Page 10: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR Y DYSTYSGRIF ADDYSG UWCH I RADDEDIGION

Yn drydydd, yn yr un ffordd ag y mae ymchwil yn hybu eich disgyblaeth academaidd, mae ysgolheictod mewn addysgu yn gwella ein gallu i addysgu myfyrwyr yn fwy effeithiol. Mae ail gam y PGCert HE yn gyfle i ddysgu am ysgolheictod o'r fath a chyfrannu tuag ato. Wrth i chi ddarllen cyfnodolion pedagogaidd eich maes, byddwch yn dysgu mwy am y datblygiadau diddorol ym maes addysgu y mae eich cydweithwyr yn eich disgyblaeth chi yn eu gwneud. Yn yr ail gam cewch eich asesu ar ddarn o ysgolheictod pedagogaidd a gallai fod diben ychwanegol i hynny pe baech yn dewis cyhoeddi eich gwaith yn un o'r cyfnodolion hyn. Gallai hyn godi eich proffil ymchwil ymhellach, neu gefnogi ceisiadau am ddyrchafiad yn y dyfodol gan ei fod yn dystiolaeth o ragoriaeth mewn addysgu ochr yn ochr â'ch rhagoriaeth ymchwil.

Rwyf ar gytundeb Addysgu ac Ysgolheictod - sut fydd cael PGCert HE yn fy nghynorthwyo i?

Mae addysgu yn rhan hanfodol o'ch contract ac mae'r PGCert HE wedi ei gynllunio i ddarparu cyfleoedd i chi ragori.Yn gyntaf, mae cymwysterau addysgu yn hollol hanfodol i'r rhai hynny sydd ar gontractau addysgu ac ysgolheictod. Bu cynnydd cyson dros y blynyddoedd diwethaf yn nifer y swyddi sy'n cael eu hysbysebu ar gyfer academyddion sy'n canolbwyntio ar addysgu, ond bellach mae cymaint o gystadleuaeth am y swyddi hyn ag sydd am swyddi ymchwil a bellach mae'n arferol disgwyl fod gan ymgeiswyr gymhwyster addysgu. Ar ben hynny, bydd meddu ar y cymhwyster hwn yn ddisgwyliedig ac yn elfen greiddiol wrth wneud ceisiadau am ddyrchafiad yn y dyfodol yn achos contractau addysgu ac ysgolheictod.Yn ail, mae'r PGCert HE wedi ei gynllunio i'ch helpu i addysgu yn fwy effeithiol ac effeithlon ac mae’n ffordd i chi ymgynefino ag agweddau ymarferol addysgu ym Mhrifysgol Bangor. Mae hyn yn golygu y bydd y cwrs yn rhoi sylfaen i chi mewn addysgu, fel bod modd i chi ganolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau ymhellach. Er enghraifft, rhaid i bob trefnydd modiwl gwblhau ffurflen QA2 ar ddiwedd pob cwrs - yn hytrach na threulio eich amser yn ceisio gweithio allan sut mae llenwi'r ffurflen hon ar eich pen eich hun, bydd ein gweithdy ni yn eich arwain trwy'r broses fel bod modd i chi ddefnyddio eich amser i adfyfyrio ynglŷn â sut mae gwella eich addysgu ar y cwrs i'r dyfodol. Yna byddai modd i chi gynnwys y cofnod adfyfyrio hwnnw yn eich ffurflen QA2 a'i ychwanegu at eich portffolio fel enghraifft o Ymwneud ag Addysgu.Yn drydydd, mae ail gam y PGCert HE yn gyfle i ddysgu am ysgolheictod o'r fath a chyfrannu tuag ato. Mae addysgu yn rhan enfawr o'ch swydd ar gontract addysgu ac ysgolheictod, ond mae ysgolheictod hefyd yn rhan o'r contract hwn. Yn yr ail gam cewch eich asesu ar ddarn o ysgolheictod pedagogaidd a byddem yn disgwyl bod y rhai hynny sydd ar gontract addysgu ac ysgolheictod yn ceisio cyflwyno eu gwaith i gyfnodolyn. Bydd hyn yn codi eich proffil ysgolheigaidd ac yn cefnogi ceisiadau am ddyrchafiad yn y dyfodol gan ei fod yn dystiolaeth o ragoriaeth mewn addysgu.

Pam nad yw'r PGCert HE yn canolbwyntio yn benodol ar addysgu yn fy nisgyblaeth i?

Mae ystod eang o bobl yn cwblhau'r PGCert HE ac mae hyn yn golygu na allwn deilwra'r cwrs yn llwyr i'ch disgyblaeth chi yn benodol. Gall hyn fod yn rhwystredig ar brydiau, yn

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 10 o 28

Page 11: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR Y DYSTYSGRIF ADDYSG UWCH I RADDEDIGION

enwedig os ydych yn teimlo nad yw rhai elfennau o'r cynnwys yn berthnasol i'ch ymarfer addysgu chi ar hyn o bryd. Fodd bynnag, cofiwch y gall eich sefyllfa newid gydag amser ac efallai y gwelwch y bydd y sgiliau yr ydych yn eu dysgu yn werthfawr os bydd eich ymarfer addysgu yn newid yn y dyfodol. Rydym wedi ceisio gwneud y cwrs a'r asesiadau mor hyblyg â phosibl i sicrhau y gellir eu teilwra at anghenion pob academydd. Yn y cam cyntaf, mae rhyddid i chi ddewis y deg gweithdy sydd fwyaf perthnasol i'ch ymarfer addysgu. Yn yr ail gam, byddwch yn cynhyrchu papur ysgolheigaidd yn arddull benodol eich disgyblaeth eich hun. Mae'r hyblygrwydd hwn yn golygu y gallwch fod â rheolaeth dros yr hyfforddiant a gewch ar y cwrs er mwyn sicrhau ei fod yn eich helpu yn eich gwaith fel darlithydd, yn hytrach nag ychwanegu at eich llwyth gwaith.

Oes modd cwblhau dim ond Cam 1 y PGCert HE?

Os ydych yn aelod staff academaidd, yna mae'n rhaid i chi gwblhau dau gam y PGCert HE er mwyn cael Cymrodoriaeth lawn gan yr Academi Addysg Uwch. Os ydych yn fyfyriwr PhD, yna gallwch ddewis cwblhau dim ond cam cyntaf y PGCert HE a chael y nifer briodol o gredydau academaidd. Fodd bynnag, ni fyddwch yn cael y PGCert HE a dim ond statws Cymrodoriaeth Gysylltiol yr Academi Addysg Uwch y byddwch yn ei gael.

Fedraf i fynd yn syth i wneud Cam 2 y PGCert HE?

Mae'n bosibl defnyddio camau APEL/APL er mwyn ymuno ag ail gam y PGCert HE os ydych eisoes wedi cwblhau hyfforddiant sy'n bodloni deilliannau dysgu Cam 1 a datganiadau meincnod Cymrodoriaeth Gysylltiol yr Academi Addysg Uwch. Cysylltwch â Chyfarwyddwr y Cwrs i gael rhagor o wybodaeth.

Allaf i astudio PGCert HE trwy gyfrwng y Gymraeg?

Mae'r cwrs yn gweithio'n agos â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a chynigir llwybr clir ar gyfer astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â Chyfarwyddwr y Cwrs i roi gwybod yr hoffech astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Pwy yw fy Nhiwtor Personol?

Bydd un o Gyfarwyddwyr y Cwrs yn cael eu dynodi i roi gofal bugeiliol i chi. Cewch enw a manylion cyswllt eich Tiwtor Personol yn ystod sesiwn gynefino'r cwrs.

Sut fydd fy Nhiwtor Personol yn fy helpu?

Bydd eich tiwtor personol yn gallu rhoi cefnogaeth unigol i chi os cewch unrhyw drafferthion personol, gan gynnwys rhoi estyniadau neu roi cyngor i chi ar amgylchiadau lliniarol. Bydd eich Tiwtor Personol hefyd yn rhoi cyngor i chi ar y cwrs PGCert HE ac ar ddatblygu eich

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 11 o 28

Page 12: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR Y DYSTYSGRIF ADDYSG UWCH I RADDEDIGION

gyrfa addysgu.

Pwy yw fy Ymgynghorydd Addysgu?

Dylech geisio canfod ymarferwr addysgu profiadol yn eich disgyblaeth eich hun a fydd yn barod i'ch arwain trwy'r broses o gwblhau PGCert HE. Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i berson addas sydd wedi cytuno i fod yn Ymgynghorydd Addysgu i chi, dylech roi gwybod i'r Cyfarwyddwr Cwrs. Y dyddiad cau ar gyfer rhoi gwybod i Gyfarwyddwr y Cwrs am enw a manylion cyswllt eich Ymgynghorydd Addysgu yw diwedd Wythnos Academaidd 2.

Sut fydd fy Ymgynghorydd Addysgu yn fy helpu?

Bydd eich Ymgynghorydd Addysgu yn eich cefnogi trwy gydol y cwrs, gan gynnwys darparu cyfleoedd i chi eu harsylwi yn addysgu a dod i'ch arsylwi chi yn addysgu. Ni ddisgwylir i chi amserlennu cyfarfodydd â'ch ymgynghorydd, ond byddant ar gael i gyfarfod â chi os hoffech drafod eich gallu cyffredinol wrth addysgu.

Pa gefnogaeth a chydnabyddiaeth fydd fy Ymgynghorydd Addysgu yn ei gael?

Gwahoddir eich Ymgynghorydd Addysgu i weithdy yn ystod Wythnos Academaidd 4. Bydd y gweithdy hwnnw yn rhoi cyflwyniad i'r PGCert HE ac yn darparu'r holl wybodaeth y bydd arnynt ei angen i'ch cynghori chi yn ystod y cwrs. Bydd eich Ymgynghorydd Addysgu hefyd yn cael ei baru ag academydd yn y Ganolfan Gwella Addysgu a Dysgu, a bydd hynny’n golygu y byddant yn cael cefnogaeth barhaus trwy gydol y broses.

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 12 o 28

Page 13: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR Y DYSTYSGRIF ADDYSG UWCH I RADDEDIGION

Cam 1 y PGCert HE

Beth sydd angen i mi ei wneud i gwblhau Cam 1 y PGCert HE?

Er mwyn cwblhau Cam 1 y PGCert HE, bydd disgwyl i chi fynychu digwyddiad cynefino, cymryd rhan mewn o leiaf ddeg o blith pymtheg o weithdai yn ystod y flwyddyn academaidd, a chynhyrchu portffolio o'ch profiadau addysgu.

Beth yw deilliannau dysgu Cam 1 y PGCert HE?

O gwblhau cam cyntaf y PGCert HE, dylech fedru:1. Dylunio a chynllunio gweithgareddau dysgu a/neu raglenni astudio (UKPSF A1).2. Addysgu ac/neu gefnogi dysgu (UKPSF A2).3. Asesu a rhoi adborth i ddysgwyr (UKPSF A3).4. Datblygu amgylcheddau dysgu effeithiol a dulliau effeithiol o gynorthwyo a

chyfarwyddo myfyrwyr (UKPSF A4).5. Cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus mewn pynciau/ disgyblaethau

a’u pedagogeg, gan ymgorffori ymchwil, ysgolheictod a gwerthuso arferion proffesiynol (UKPSF A5).

6. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth dda o ddeunyddiau pwnc eich disgyblaeth eich hun (UKPSF K1).

7. Dangos dulliau addas o addysgu, dysgu ac asesu yn eich disgyblaeth eich hun (UKPSF K2).

8. Deall sut mae myfyrwyr yn dysgu, yn gyffredinol ac o fewn eich disgyblaeth (UKPSF K3).

9. Defnyddio a rhoi gwerth ar dechnolegau dysgu priodol (UKPSF K4).10. Parchu myfyrwyr unigol a chymunedau dysgu amrywiol (UKPSF V1).11. Hyrwyddo cyfranogiad mewn addysg uwch a chyfle cyfartal i ddysgwyr (UKPSF

V2).

Beth yw amserlen Cam 1 y PGCert HE?

Dyma amserlen cam cyntaf y PGCert HE:

Dyddiadur Academaidd

Gweithgaredd

W 4 Cynefino: Cyflwyniad i Gam 1W 6 Gweithdy: Materion ymarferol ynglŷn ag Addysgu mewn AU:

Systemau, Gweithdrefnau, a Rheoliadau (gweinyddu)Dyddiad cau ar gyfer rhoi gwybod i Gyfarwyddwr y Cwrs am yr Ymgynghorydd Addysgu yr ydych wedi ei ddewis

W 8 Gweithdy: Athro/Athrawes, Cynghorydd, Cwnselydd, Rhiant... (gofal bugeiliol)

W 9 Gweithdy: Canllawiau i Ymgynghorwyr Addysgu (ymgynghorwyr

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 13 o 28

Page 14: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR Y DYSTYSGRIF ADDYSG UWCH I RADDEDIGION

addysgu yn unig sy'n mynychu)W 10 Gweithdy: Holl Amrywiaeth Asesu (asesu ac adborth)W 12 Gweithdy: Hwyluso bywyd... (technoleg gwybodaeth)W 14 Gweithdy: Grŵp Mawr, Grŵp Bach (maint dosbarth)W 16 Gweithdy: Dilysu Syniadau Newydd (dilysu modiwlau)W 21 Gweithdy: Quality Street neu Roses? (sicrhau ansawdd)W 23 Gweithdy: Llais y Dysgwr (ennyn diddordeb myfyrwyr)W 25 Gweithdy: Gwerthuso Boddhad Myfyrwyr (NSS, PTES, a PRES)W 27 Gweithdy: Sut i'w cael i ateb eich cwestiynau! (sgiliau astudio)W 29 Gweithdy: Heriau Dysgu Byd-eang (rhyngwladoli)W 34 Gweithdy: Addysgu ar gyfer Dysgu neu Addysgu ar gyfer Cyflogaeth?

(cyflogadwyedd)W 36 Gweithdy: Ymchwilio'r Dyfodol (goruchwylio ymchwil)W 38 Gweithdy: Cefnogi Trawsnewidiadau (marchnata a recriwtio)W 39 Gweithdy: Dyfodol Addysgu a Dysgu mewn Addysg UwchBlwyddyn nesafW 4 Dyddiad cyflwyno Asesiad Portffolio Cam 1W 8 Rhyddhau canlyniadau'r asesiad i'r myfyrwyrW 15 Bwrdd Arholi: Rhannu tystysgrifau ar ôl cadarnhau graddau'n derfynol

yn y bwrdd arholiW 21 Bwrdd Rhaglen: Efallai y gwahoddir cynrychiolwyr myfyrwyr i roi

adborth

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn colli'r sesiwn gynefino?

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn mynychu'r sesiwn gynefino, gan mai dyma'r ffordd gyflymaf a'r ffordd hawsaf i chi gwblhau'r holl waith papur angenrheidiol, cael yr holl wybodaeth am y cwrs, a deall yn glir beth yn union y mae angen i chi ei wneud i gwblhau'r PGCert HE. Fodd bynnag, rydym yn deall ei bod yn anorfod y bydd rhai yn methu bod yn bresennol neu y bydd rhai aelodau staff yn cyrraedd Bangor yn hwyrach yn ystod y flwyddyn academaidd. Mewn achos o'r fath, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Cwrs cyn gynted â phosibl. Os yw'n bosibl, byddant yn cyfarfod â chi i sôn wrthych beth oedd cynnwys y sesiwn a'ch rhoi ar ben ffordd ar y cwrs yn syth. Os nad yw'n bosibl trefnu amser cyfleus i gyfarfod, byddant yn eich cofrestru ar y safle Blackboard fel bod modd i chi gael mynediad at yr holl wybodaeth, a byddant yn trafod â chi er mwyn cwblhau'r holl waith papur ar gyfer cofrestru, ac yn sicrhau bod eich cwestiynau'n cael eu hateb dros e-bost.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn colli gweithdy?

Rydym yn argymell eich bod yn mynychu pob un o'r gweithdai, gan y byddant yn gymorth i chi wrth i chi addysgu trwy gydol y flwyddyn academaidd. Fodd bynnag, rydym yn sylweddoli bod eich amser yn werthfawr ac y gallai fod gennych ymrwymiadau eraill ar rai adegau o'r flwyddyn. Gyda hyn mewn golwg, does dim ond angen i chi fynychu deg o'r pymtheg gweithdy sy'n cael eu cynnig trwy gydol y flwyddyn er mwyn pasio'r cwrs. Mae hyn yn golygu y gallech golli ambell weithdy heb gael eich cosbi oherwydd ymrwymiadau eraill

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 14 o 28

Page 15: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR Y DYSTYSGRIF ADDYSG UWCH I RADDEDIGION

neu os ydych yn teimlo nad yw rhai elfennau o'r cynnwys yn berthnasol i'ch gwaith.

Beth fydd yn digwydd os nad oes modd i mi orffen fy mhortffolio cyn y dyddiad cyflwyno?

Os nad oes modd i chi gyflwyno eich portffolio erbyn y dyddiad cyflwyno dylech gysylltu â'ch tiwtor personol. Bydd un o Gyfarwyddwyr y Cwrs yn cael eu dynodi yn diwtor personol i chi, felly bydd modd iddynt gymeradwyo cais am estyniad ar gyfer cyflwyno'r portffolio.

Beth ddylid ei gynnwys yn fy Mhortffolio Addysgu?

Yng Ngham 1 byddwch yn cyflwyno un portffolio sy'n cynnwys pob un o'r canlynol:

Athroniaeth Addysgu Datganiad adfyfyriol 500-1000 o eiriau yn canolbwyntio ar eich profiadau personol

wedi ei gefnogi gan ymchwil bedagogaidd gyfredol mewn perthynas ag addysgu a dysgu yn eich disgyblaeth eich hun.

Profiad Addysgu Ffurflen Profiad Addysgu sy'n rhestru'r holl brofiad addysgu a gawsoch wrth

gwblhau'r rhan hon o'r cwrs Datganiad adfyfyriol 500-1000 o eiriau yn canolbwyntio ar ddylunio, cynllunio,

addysgu, cefnogi ac asesu dysgu wrth gwblhau'r rhan hon o'r cwrs

Adroddiadau Arsylwi Addysgu Un ffurflen arsylwi wedi ei llenwi gan ymarferydd profiadol yn eich arsylwi yn

addysgu Un ffurflen arsylwi wedi ei llenwi gennych chi yn arsylwi ymarferydd profiadol Un ffurflen arsylwi wedi ei llenwi gennych chi yn arsylwi un o'ch cyfoedion ar y cwrs

PGCert HE Un ffurflen arsylwi wedi ei llenwi gan un o'ch cyfoedion ar y cwrs PGCert HE yn

eich arsylwi yn addysgu

Ymwneud ag Addysgu Tystiolaeth o'ch ymwneud ag addysgu 1 (e.e. deunyddiau darlith arloesol a

phodlediad o'r ddarlith honno neu adnoddau gweithdy a gweithgareddau dosbarth wedi eu recordio)

Tystiolaeth o'ch ymwneud ag addysgu 2 (e.e. asesu gwreiddiol, gan gynnwys cwestiynau/cyfarwyddiadau, canllawiau, meini prawf marcio, a strwythurau cefnogi)

Tystiolaeth o'ch ymwneud ag addysgu 3 (e.e. dulliau gwerthuso newydd a gynlluniwyd i asesu effeithiolrwydd eich dulliau addysgu, gwella cydbwysedd manylion-amser eich adborth, neu annog llais y myfyrwyr)

Tystiolaeth o'ch ymwneud ag addysgu 4 (e.e. dogfennau sicrhau ansawdd neu ddilysu ar lefel rhaglen neu fodiwl ar gyfer cwrs newydd arloesol mewn Seicoleg)

Tystiolaeth o'ch ymwneud ag addysgu 5 (e.e. dogfennau sicrhau ansawdd neu ddilysu ar lefel rhaglen neu fodiwl ar gyfer cwrs newydd arloesol mewn Seicoleg)

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 15 o 28

Page 16: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR Y DYSTYSGRIF ADDYSG UWCH I RADDEDIGION

Datblygiad Proffesiynol Ffurflen Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (mynychu gweithdy) Datblygu cynllun gweithredu 500-1000 o eiriau ynglŷn â Datblygiad Proffesiynol

Parhaus i'r dyfodol Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig ar gyfer Addysgu mewn Addysg

Uwch Cyfeiriadau ac Argymhellion

Sut gallaf fod yn siŵr y bydd fy mhortffolio yn llwyddo?

Rhaid i'ch portffolio gynnwys pob un o'r elfennau a restrir yn y llyfr gwaith a rhaid i'r elfennau hynny roi sylw i bob un o'r deilliannau dysgu. Bydd hyn yn sicrhau fod gennych dystiolaeth ar gyfer pob rhan o'r UKPSF er mwyn cael Cymrodoriaeth Gysylltiol. Dylech edrych ar y deilliannau dysgu ac ar Ffurflen Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig yn niwedd llyfr gwaith y portffolio. Meddyliwch yn ofalus ynglŷn â beth fyddwch yn canolbwyntio arno yn yr adran ar athroniaeth addysgu a pha enghreifftiau y byddwch yn eu cynnwys yn yr adran ar ymwneud ag addysgu. Rhaid i chi sicrhau fod cynnwys y portffolio yn rhoi sylw i bob un o ddeilliannau dysgu Cam 1.

Sut ddylwn i fformatio fy mhortffolio?

Ceir llyfr gwaith ar safle Blackboard y PGCert HE. Gallwch lenwi’r adrannau gwag a mewnosod cynnwys lle nodir a chyflwyno'r llyfr gwaith fel eich portffolio. Bydd hyn yn symleiddio'r broses o greu eich portffolio ac yn eich galluogi i ganolbwyntio ar y cynnwys yn hytrach nag ar y fformatio.

Sut ydw i’n cyflwyno fy mhortffolio?

Bydd eich portffolio yn cael ei farcio'n electronig. Mae hyn yn golygu y dylech sicrhau bod eich portffolio yn un ddogfen Word a dylech ei gyflwyno i Turnitin trwy'r porth cyflwyno gwaith ar safle PGCert HE ar Blackboard.

Beth sydd ei angen arnaf ar gyfer adran Athroniaeth Addysgu fy mhortffolio?

Bydd arnoch angen cynnwys athroniaeth addysgu yn eich portffolio. Bydd yr athroniaeth addysgu yn cynnwys datganiad adfyfyriol 500-1000 o eiriau yn canolbwyntio ar eich profiadau personol, eich credoau, a'ch gwybodaeth mewn perthynas ag addysgu a dysgu. Dylai eich datganiad roi syniad o'ch agwedd bersonol tuag at eich gwaith addysgu a chynnig tystiolaeth i ddangos pa mor effeithiol ydych fel athro/athrawes. Gan mai datganiad adfyfyriol ydyw, mae disgwyl i chi ei ysgrifennu yn y person cyntaf ac mae'n dderbyniol cyfeirio at eich barn a'ch teimladau eich hun. Dylai eich athroniaeth addysgu ddangos o leiaf rai o'r deilliannau dysgu ac elfennau o'r UKPSF.Datganiad ysgrifenedig yw eich athroniaeth addysgu yn adfyfyrio ynglŷn â sut rydych chi yn mynd ati i addysgu. Bydd fel arfer yn cynnwys eich barn bersonol am addysgu a dysgu

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 16 o 28

Page 17: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR Y DYSTYSGRIF ADDYSG UWCH I RADDEDIGION

effeithiol, wedi ei chefnogi gan enghreifftiau penodol o'ch profiad ac ymchwil empirig ym maes pedagogeg. Yn aml gofynnir am ddatganiadau athroniaeth addysgu wrth wneud cais am swyddi academaidd. Mae ymchwil wedi datgelu fod 57% o'r hysbysebion swyddi mewn chwe disgyblaeth academaidd wedi gofyn yn benodol am athroniaeth addysgu (Meizlish & Kaplan, 2008). Ar ben hynny, roedd nifer o'r rhai nad oedd yn gofyn am athroniaeth addysgu wedi nodi mai'r rheswm am hynny oedd oherwydd eu bod yn disgwyl i'r ymgeisydd gynnwys datganiad o'r fath fel mater o drefn. Dylech fod â thystiolaeth i gefnogi eich datganiad ar ffurf profiadau personol. Gallai hynny gynnwys disgrifiadau o'ch gweithgareddau addysgu gyda thystiolaeth ar ffurf dyfyniadau gan fyfyrwyr, sgoriau gwerthuso ac ati. I wneud mwy o argraff, gallech gyfeirio at wobrau neu ganmoliaeth am addysgu. Mae ymchwil yn awgrymu fod rhai academyddion yn amheus o ddatganiadau addysgu hollol adfyfyriol a bod yn well ganddynt enghreifftiau pendant o ragoriaeth addysgu (Kaplan, Meizlish, O’Neal, & Wright, 2007). Dylech fod â thystiolaeth empirig i gefnogi eich datganiad sy'n dangos eich bod yn ymwneud â phedagogeg gyfredol. Byddem yn eich cynghori i beidio â chreu adolygiad llenyddiaeth, ond gallai cydnabod llenyddiaeth berthnasol yn gryno ddangos eich bod yn defnyddio ymarfer addysgu sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd y dull hwn yn amlygu'r ffaith eich bod yn mynd ati i ddefnyddio'r arferion mwyaf arloesol. Os ydych yn cynnwys cyfeiriadau yn eich athroniaeth addysgu, dylech eu cynnwys hefyd yn eich rhestr o gyfeiriadau ar ddiwedd y portffolio (nad yw'n cael ei gynnwys yn y cyfrif geiriau). Ceisiwch sicrhau bod eich datganiad yn rhoi darlun cadarnhaol ohonoch. Does dim o'i le ar amlygu sut rydych wedi datrys problemau addysgu cyffredin, ond nid yw'n syniad da i fod yn feirniadol o'ch addysgu, o'ch addysg, neu o ddarlithwyr eraill yn eich datganiad addysgu. Meddyliwch am addysgu mewn modd holistaidd yn eich datganiad. Peidiwch â chanolbwyntio ar yr ystafell ddosbarth yn unig; meddyliwch hefyd am ddysgu annibynnol, gweithgareddau allgyrsiol, profiad myfyrwyr, gofal bugeiliol ac ati. Ceisiwch ddangos eich gallu i feddwl y tu hwnt i'r ffordd draddodiadol a chofleidio arloesedd yn eich dull o addysgu. Ystyriwch y cwestiynau canlynol yn eich datganiad:

Beth yw eich prif amcanion fel athro/athrawes? Beth yw’r heriau allweddol yn y broses addysgu a dysgu? Pa ddulliau sydd fwyaf effeithiol er mwyn llwyddo i gael myfyrwyr i ddysgu? Pam fod y dulliau hyn yn effeithiol a sut y mesurir pa mor effeithiol ydynt? Pam fod addysgu yn bwysig mewn Addysg Uwch?

I gael arweiniad ynglŷn â sut i ysgrifennu athroniaeth addysgu ac i weld enghreifftiau ar-lein o ddogfennau o'r fath, edrychwch ar y gwefannau canlynol: http://www1.umn.edu/ohr/teachlearn/tutorials/philosophy/start/index.htmlhttp://chronicle.com/article/How-to-Write-a-Statement-of/45133/http://www.apa.org/gradpsych/2005/11/teach.aspxFodd bynnag, cofiwch mai datganiad personol yw hwn felly dylai fod yn unigryw i chi a dylai osgoi ystrydebau cyffredin a geir mewn templedi ar-lein.Edrychwch ar safle Blackboard i gael rhagor o arweiniad ynglŷn â'r adran hon o'ch portffolio, gan gynnwys awgrymiadau ac esiamplau.

Beth sydd ei angen arnaf ar gyfer adran Profiad Addysgu fy mhortffolio?

Yn eich portffolio bydd arnoch angen cynnwys tystiolaeth am y nifer ofynnol o oriau

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 17 o 28

Page 18: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR Y DYSTYSGRIF ADDYSG UWCH I RADDEDIGION

addysgu ac adfyfyrio ar eich profiad addysgu. Tabl yn cofnodi eich gweithgareddau addysgu dros 100 awr yw eich Ffurflen Tystiolaeth Profiad Addysgu. Gall yr oriau hyn gynnwys darlithio, grwpiau bychan, gweithdai, seminarau, tiwtorialau ac ati. Gallant hefyd gynnwys mathau eraill o gyswllt a myfyrwyr, megis goruchwylio projectau, cyfarfodydd tiwtor personol ac ati. Hefyd, gall yr oriau hyn gynnwys gwaith addysgu pan nad oes cyswllt uniongyrchol â myfyrwyr, megis ysgrifennu nodiadau dosbarth, cynllunio aseiniadau, marcio gwaith ac ati - mae'r math hwn o addysgu yn berthnasol yn benodol os yw'n dangos arloesedd (e.e. creu adnodd ar-lein newydd i gefnogi dysgu).Gallwch gynnwys addysgu na chynigir credydau ar ei gyfer, megis cynnal digwyddiadau hyfforddi, ond rhaid i hyn gynnwys myfyrwyr ar lefel Addysg Uwch. Dylai eich ffurflen profiad addysgu ddangos o leiaf y pedwar deilliant dysgu cyntaf ac A1, A2, A3, A4 yr UKPSF. Rhaid i'ch adran Profiad Addysgu hefyd gynnwys darn 500-1000 o eiriau yn adfyfyrio ar eich addysgu ac yn canolbwyntio ar y profiadau a amlinellwyd yn y ffurflen dystiolaeth. Er nad yw'n ofynnol cynnwys cyfeiriadau yn y darn adfyfyriol hwn, byddai tystiolaeth o ymchwil i faes addysgu mewn Addysg Uwch yn gwella ansawdd eich gwaith. Dylai'r darn yn adfyfyrio ar eich profiad addysgu ddangos o leiaf y pedwar deilliant dysgu nesaf a K1, K2, K3, K4 yr UKPSF. Edrychwch ar safle Blackboard i gael rhagor o arweiniad ynglŷn â'r adran hon o'ch portffolio.

Beth sydd ei angen arnaf ar gyfer adran Arsylwadau Addysgu fy mhortffolio?

Mae arsylwi cyfoedion yn rhan allweddol o ddatblygiad proffesiynol parhaus pob academydd sy'n addysgu mewn sefydliadau Addysg Uwch ledled y Deyrnas Unedig. Mae ymchwil yn awgrymu fod cyswllt rhwng bod â chynllun effeithiol ar gyfer arsylwi cyfoedion a chynnydd mewn hyder athrawon, gwelliant yn yr ymwneud rhwng staff a myfyrwyr, gwell ymdeimlad colegol ymhlith staff, a chynnydd mewn rhannu'r arferion gorau (Marshall, 2004; Bell & Mladenovic, 2008). Ar sail canfyddiadau ymchwil o'r fath, mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (2005) wedi rhoi anogaeth gref y dylid datblygu cynlluniau arsylwi cyfoedion ar draws Addysg Uwch fel ffordd o 'wella ansawdd'. Bydd arnoch angen cynnwys tystiolaeth eich bod wedi ymwneud â'r broses o arsylwi cyfoedion yn eich portffolio. Dylai'r dystiolaeth gynnwys y canlynol:

Un arsylwad o'ch ymarfer gan ymarferwr addysgu profiadol (sef eich Ymgynghorydd Addysgu i fod, ond gall fod yn ymarferwr profiadol arall os nad yw eich Ymgynghorydd ar gael)

Un arsylwad gennych chi o ymarferwr addysgu profiadol (sef eich Ymgynghorydd Addysgu i fod, ond gall fod yn ymarferwr profiadol arall os nad yw eich Ymgynghorydd ar gael)

Un arsylwad gennych chi o fyfyriwr arall ar y cwrs PGCert HE (un o'ch cyfoedion) Un arsylwad ohonoch chi gan fyfyriwr arall ar y cwrs PGCert HE (un o'ch cyfoedion)

Dylid cynnwys y ffurflenni priodol fel tystiolaeth o'r arsylwadau addysgu hyn. Mae'r ffurflenni arsylwi addysgu yn cynnwys adran i chi adfyfyrio yn dilyn y sesiwn. Dyma gyfle i adfyfyrio ar sut y bydd y profiad o arsylwi yn gwella ymarfer addysgu i'r dyfodol. Dylai pob myfyriwr ar y cwrs PGCert HE lenwi'r adran hon bob tro. Os yw'r myfyriwr yn cael ei arsylwi, yna dylai ystyried sut y bydd adborth yr arsylwr yn dylanwadu ar eu haddysgu i'r

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 18 o 28

Page 19: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR Y DYSTYSGRIF ADDYSG UWCH I RADDEDIGION

dyfodol. Os yw'r myfyriwr yn arsylwi rhywun arall, yna dylai ystyried a ydynt wedi dysgu unrhyw beth drwy arsylwi a allai ddylanwadu ar eu haddysgu i'r dyfodol. Yn achos arsylwadau lle mae'r arsylwr a'r sawl sy'n cael ei arsylwi ill dau yn fyfyrwyr ar y cwrs PGCert HE, yna dylai'r ddau lenwi'r adran adfyfyriol (paragraff neu ddau yr un efallai). Dylai eich arsylwadau addysgu a'r adran adfyfyriol ddangos o leiaf rai o'r deilliannau dysgu ac elfennau o'r UKPSF.Edrychwch ar safle Blackboard i gael rhagor o arweiniad ynglŷn â'r adran hon o'ch portffolio.

Beth sydd ei angen arnaf ar gyfer adran Ymwneud ag Addysgu fy mhortffolio?

Bydd arnoch angen cynnwys rhywfaint o dystiolaeth eich bod wedi ymwneud ag addysgu yn eich portffolio. Nid oes nifer geiriau'n gysylltiedig â'r rhan hon o'r portffolio. Yn hytrach, disgwylir y byddwch yn cynnwys dim llai na phum darn o dystiolaeth. Nid oes terfyn ar sawl darn o dystiolaeth y gallwch ei gynnwys.Dyma ddarn mwyaf hyblyg eich portffolio: mae gofyn i chi ystyried yn ofalus pa elfennau sydd yn dangos eich gallu fel addysgwr mewn Addysg Uwch, ac yn bodloni deilliannau dysgu'r cwrs a'r UKPSF. Dyma gyfle hefyd i gywain portffolio o dystiolaeth o'ch rhagoriaeth addysgu y gellir ei ddefnyddio yn y dyfodol i ddangos eich llwyddiannau i ddarpar gyflogwyr neu i gefnogi cais am ddyrchafiad academaidd. Dyma rai enghreifftiau o bethau y gallech eu cynnwys yn eich portffolio:

Sleidiau darlith a nodiadau i gyd fynd â nhw, gyda recordiad panopto o'r ddarlith y gwnaethoch ei chyflwyno wedi ei ddilyn gan gofnod adfyfyriol o sut y byddech yn gwella'r dosbarth i'r dyfodol.

Adnoddau dosbarth yn cynnwys taflenni ac ymarferion y gwnaethoch chi eu cynllunio i'w defnyddio gyda grŵp bach neu mewn gweithdy, wedi eu cyflwyno ochr yn ochr ag adborth gan fyfyrwyr yn sôn am werth yr ymarfer a chofnod adfyfyriol o sut y byddech yn gwella'r dosbarth i'r dyfodol.

Asesiad arloesol yr ydych wedi ei greu a meini prawf marcio, wedi ei gyflwyno ochr yn ochr â'r deilliannau dysgu a gâi eu profi a chanlyniadau di-enw'r garfan o fyfyrwyr gyda chofnod adfyfyriol o sut y gallech ddatblygu neu gymhwyso'r asesiad ymhellach yn y dyfodol.

Gwerthusiadau myfyrwyr o'r cwrs yr oeddech yn ei gefnogi ac enwebiad ar gyfer Cymhorthydd Addysgu'r Flwyddyn yn y Gwobrau Addysgu dan Arweiniad Myfyrwyr, ynghyd â chrynodeb o'r dull addysgu a arweiniodd at yr enwebiad.

Ffurflen Sicrhau Ansawdd (QA2) wedi ei llenwi ar gyfer un o'ch modiwlau, gan gynnwys cofnod cynhwysfawr yn adfyfyrio ar sut y caiff y cwrs ei ddarparu yn y dyfodol.

Ffurflen ddilysu wedi ei llenwi ar gyfer modiwl newydd yr ydych yn bwriadu ei gynnal yn y dyfodol, a sampl o gynnwys y modiwl megis asesiadau neu ddarlith.

Fodd bynnag, cofiwch nad yw'r rhestr uchod yn un cyflawn. Gallwch fod yn greadigol gyda'ch tystiolaeth, a'r prif feini prawf dros gynnwys rhywbeth fyddai:

1. A yw'n dangos eich gallu fel athro/athrawes mewn Addysg Uwch?2. A yw'n dangos sut rydych wedi bodloni un neu ragor o ddeilliannau dysgu Cam 1?3. A yw'n cynnig tystiolaeth lawn o un neu ragor o feini prawf UKPSF?

Os gallwch ateb pob un o'r cwestiynau uchod yn gadarnhaol, yna gallai fod yn addas i'w gynnwys fel enghraifft yn yr adran hon o'r portffolio. Os oes gennych unrhyw gwestiynau

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 19 o 28

Page 20: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR Y DYSTYSGRIF ADDYSG UWCH I RADDEDIGION

ynglŷn ag addasrwydd enghraifft benodol ar gyfer eich portffolio, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Cwrs.Edrychwch ar safle Blackboard i gael rhagor o arweiniad ynglŷn â'r adran hon o'ch portffolio.

Beth sydd ei angen arnaf ar gyfer adran Datblygiad Proffesiynol fy mhortffolio?

Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth eich bod wedi cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus yn eich pwnc/disgyblaeth eich hun a’i bedagogeg, gan ymgorffori ymchwil, ysgolheictod a gwerthusiad o arferion proffesiynol. Dylai'r dystiolaeth ddangos sut rydych wedi bodloni'r deilliant dysgu sy'n ymwneud â datblygiad proffesiynol parhaus ac A5 yr UKPSF.

Mae'r ffurflen Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus yn gofyn i chi ddangos eich bod wedi mynychu ac adfyfyrio am o leiaf ddeg digwyddiad hyfforddi sy'n canolbwyntio ar addysgu mewn Addysg Uwch. Fel rheol bydd y rhain yn cynnwys o leiaf ddeg o'r pymtheg gweithdy PGCert HE, ond gallech gynnwys pob un o'r pymtheg gweithdy os ydych wedi mynychu pob un ohonynt. Gellid cynnwys digwyddiadau hyfforddi ychwanegol hefyd, megis cynadleddau addysgu, digwyddiadau DPP ac ati.Rhaid i'ch Cynllun Gweithredu ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus gynnwys datganiad adfyfyriol 500-1000 o eiriau yn amlinellu eich cynlluniau ar gyfer cael hyfforddiant a phrofiad mewn addysgu mewn Addysg Uwch ar ôl cwblhau'r cwrs. Er nad yw'n ofynnol cynnwys cyfeiriadau yn y darn adfyfyriol hwn, byddai tystiolaeth o ymchwil gweithredol i faes addysgu mewn Addysg Uwch yn gwella ansawdd eich gwaith. Gallai eich cynllun edrych ar y materion canlynol:

A ydych yn bwriadu cwblhau unrhyw gyrsiau hyfforddi athrawon yn y dyfodol? A ydych yn bwriadu mynychu unrhyw seminarau/gweithdai/digwyddiadau sy'n

canolbwyntio ar ddatblygu addysgu? A ydych yn bwriadu magu unrhyw brofiad addysgu ychwanegol?

Rhaid hefyd i chi lenwi Ffurflen Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig ar gyfer Addysgu mewn Addysg Uwch. Mae'r ffurflen hon yn gofyn i chi fapio eich profiadau ar y cwrs hwn yn erbyn gofynion Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig ar gyfer statws Cymrodoriaeth Gysylltiol yr Awdurdod Addysg Uwch. Dylai cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus sicrhau eich bod wedi bodloni pob rhan o'r fframwaith, felly rydym yn argymell eich bod yn ymgyfarwyddo â'r ffurflen hon ar ddechrau'r cwrs fel bod modd i chi ddewis enghreifftiau o addysgu sy'n cwmpasu pob un o'r rhannau perthnasol.Rhaid i chi gynnwys llythyr cymeradwyo gan eich ymgynghorydd addysgu a rhaid i'r llythyr hwn nodi'n benodol eich bod wedi bodloni'r safonau addysgu sy'n ddisgwyliedig gan ddarlithydd mewn Addysg Uwch. Yn yr adran hon gallwch hefyd gynnwys llythyrau eraill sydd yn cymeradwyo ac yn rhoi cydnabyddiaeth, megis e-byst gan gydweithwyr a myfyrwyr, dyfyniadau gan fyfyrwyr mewn gwerthusiadau modiwl, enwebiadau, gwobrau ac ati. Edrychwch ar safle Blackboard i gael rhagor o arweiniad ynglŷn â'r adran hon o'ch portffolio.

Sut fydd fy Mhortffolio yn cael ei asesu?

Caiff eich portffolio terfynol ei asesu yn erbyn deilliannau dysgu'r rhaglen A meysydd gweithgaredd, gwybodaeth graidd a gwerthoedd proffesiynol UKPSF. Edrychwch ar y Daflen

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 20 o 28

Page 21: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR Y DYSTYSGRIF ADDYSG UWCH I RADDEDIGION

Marcio Portffolio yn niwedd y llyfr gwaith i gael manylion am beth yn union fydd yn cael ei asesu yn ystod y broses hon.Bydd dau farciwr yn asesu eich gwaith. Bydd y marciwr cyntaf yn Gyfarwyddwr Cwrs a bydd yr ail farciwr yn academydd o Brifysgol Bangor sydd yn Gymrawd/Uwch Gymrawd/Prif Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch (nid eich Ymgynghorydd Addysgu). Rhaid cyflwyno eich portffolio yn electronig trwy Turnitin ar Blackboard. Bydd y ddau farciwr yn adolygu'r gwaith ar-lein ac yn llenwi'r tabl marcio i nodi a ydych wedi llwyddo neu fethu ar gyfer pob un o'r deilliannau dysgu. Bydd pob marciwr hefyd yn rhoi adborth yn yr adran sylwadau i ddangos meysydd o ragoriaeth a meysydd ar gyfer gwelliant. Efallai y caiff adborth ychwanegol ei gynnwys hefyd fel sylwadau trwy gydol y portffolio, os teimla'r marcwyr bod angen gwneud hynny.Rhaid cael gradd Llwyddo neu Ffiniol ym mhob elfen ac ym mhob un o'r deilliannau dysgu er mwyn i'r myfyriwr basio'r portffolio a'r modiwl. Gallwch weld eich gradd derfynol a'r adborth a gawsoch trwy Blackboard. Gan mai dim ond Llwyddo neu Fethu sy'n bosibl yn y portffolio, fe welwch sgôr rhifol o naill ai 100% neu 0% i ddynodi gradd Llwyddo/Methu gyffredinol.

Beth fydd yn digwydd os ydw i'n methu yn fy Mhortffolio?

Rhaid cael gradd Llwyddo neu Ffiniol ym mhob elfen ac ym mhob un o'r deilliannau dysgu er mwyn i'r myfyriwr basio'r portffolio a'r modiwl. Os bydd y naill farciwr neu'r llall yn nodi eich bod wedi methu unrhyw elfen neu ddeilliant dysgu, yna byddwch yn methu'r portffolio a'r modiwl. Os digwydd hynny, cewch eich gwahodd i ailgyflwyno'r portffolio diwygiedig i'w ailraddio ar ôl gwneud y newidiadau hanfodol a nodir yn y bocs sylwadau. Dylech ddarllen yn ofalus yr holl sylwadau'n ymwneud ag elfen a fethwyd er mwyn gwneud y newidiadau priodol ac ailgyflwyno'n llwyddiannus. Dylech fod yn ymwybodol efallai na chaiff gwaith sy'n cael ei ailgyflwyno ei raddio a'i brosesu mewn pryd ar gyfer y bwrdd arholi a gynhelir ym mis Tachwedd yr un flwyddyn. Fodd bynnag, os yw eich gwaith yn llwyddo ar ôl cael ei ailfarcio, byddwch yn gymwys i gofrestru ar gyfer yr ail gam yn syth ar ôl y marcio (ond dylech fod yn ymwybodol na fydd y graddau terfynol wedi eu cadarnhau mewn pryd ar gyfer y bwrdd arholi). Yna gallwch weithio ar yr ail gam er mwyn cyflwyno yn ystod yr ail flwyddyn a chwblhau'r broses gyfan o fewn y ddwy flynedd wreiddiol.

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 21 o 28

Page 22: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR ADDYSGU SEICOLEG MEWN ADDYSG UWCH

Cam 2 y PGCert HE

Beth sydd angen i mi ei wneud i gwblhau Cam 2 y PGCert HE?

Er mwyn cwblhau Cam 2 y PGCert HE, bydd disgwyl i chi fynychu digwyddiad cynefino, ymchwilio a dewis cyfnodolyn pedagogaidd yn eich disgyblaeth eich hun, a chynhyrchu papur yn arddull ac yn fformat cyflwyniad i'r cyfnodolyn hwnnw.

Beth yw deilliannau dysgu Cam 2 y PGCert HE?

O gwblhau ail gam y PGCert HE, dylech fedru:1. Sefydlu dulliau o werthuso effeithiolrwydd yr addysgu (UKPSF K5).2. Adnabod goblygiadau sicrhau ansawdd a gwella ansawdd ar ymarfer academaidd a

phroffesiynol, gan ganolbwyntio’n benodol ar addysgu (UKPSF K6).3. Defnyddio dulliau ar sail tystiolaeth a deilliannau ymchwil, ysgolheictod a datblygiad

proffesiynol parhaus (UKPSF V3).4. Cydnabod y cyd-destun ehangach y mae addysg uwch yn gweithredu ynddo, gan

gydnabod y goblygiadau ar ymarfer proffesiynol (UKPSF V4).

Beth yw amserlen Cam 2 y PGCert HE?

Dyma amserlen ail gam y PGCert HE:

Dyddiadur Academaidd

Gweithgaredd

W 5 Cynefino: Cyflwyniad i Gam 2W 9 Y dyddiad cyflwyno cynharaf posibl ar gyfer Asesiad Papur Cam 2Blwyddyn nesafW 4 Y dyddiad cyflwyno ar gyfer Asesiad Papur Cam 2W 8 Rhyddhau canlyniadau'r asesiad i'r myfyrwyrW 15 Bwrdd Arholi: Rhannu tystysgrifau ar ôl cadarnhau graddau'n derfynol yn

y bwrdd arholiW 21 Bwrdd Rhaglen: Efallai y gwahoddir cynrychiolwyr myfyrwyr i roi

adborth

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn colli'r sesiwn gynefino?

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn mynychu'r sesiwn gynefino, gan mai dyma'r ffordd gyflymaf a'r ffordd hawsaf i chi gwblhau'r holl waith papur angenrheidiol, cael yr holl wybodaeth am y cwrs, a deall yn glir beth yn union y mae angen i chi ei wneud i gwblhau'r PGCert HE. Fodd bynnag, rydym yn deall ei bod yn anorfod y bydd rhai yn methu bod yn bresennol. Mewn achos o'r fath, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Cwrs cyn gynted â phosibl. Os yw'n bosibl, byddant yn cyfarfod â chi i sôn wrthych beth oedd cynnwys y sesiwn a'ch rhoi ar ben ffordd ar y cwrs yn syth. Os nad yw'n bosibl trefnu amser cyfleus i gyfarfod, byddant yn eich © Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 22 o 28

Page 23: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR ADDYSGU SEICOLEG MEWN ADDYSG UWCH

cofrestru ar y safle Blackboard fel bod modd i chi gael mynediad at yr holl wybodaeth, a byddant yn trafod â chi er mwyn cwblhau'r holl waith papur ar gyfer cofrestru, ac yn sicrhau bod eich cwestiynau'n cael eu hateb dros e-bost.

Gaf i gyflwyno fy mhapur yn gynharach yn y flwyddyn a chwblhau'r PGCert HE ynghynt?

Cynlluniwyd y PGCert HE i redeg dros ddwy flynedd, ond gallwch ei gwblhau mewn llai o amser os dymunwch. Rhaid i chi gwblhau'r cam cyntaf dros gyfnod o flwyddyn oherwydd bydd arnoch angen mynychu gweithdai a fydd yn cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn gyfan. Mae'r ail gam hefyd wedi ei gynllunio i redeg dros gyfnod o flwyddyn, gan gofrestru ar Gam 2 ym mis Medi a chyflwyno eich gwaith i'w asesu yn derfynol y mis Medi canlynol. Fodd bynnag, gallwch ddewis cyflwyno eich papur yn gynharach yn y flwyddyn. Os oes arnoch eisiau cwblhau'r cwrs mewn cyfnod byrrach, yna efallai y byddwch eisiau dechrau gweithio ar eich papur yn ystod y cam cyntaf neu dros yr haf i sicrhau ei fod yn barod i'w gyflwyno cyn gynhared â phosibl yn yr ail gam.Dim ond wedi i chi gwblhau cam cyntaf y PGCert HE yn llwyddiannus y cewch gofrestru ar gyfer yr ail gam. Ar ôl i chi gyflwyno eich portffolio Cam 1 yn ystod yr Wythnos Groeso, bydd arnom angen pedair wythnos i farcio eich gwaith. Fe gewch eich cofrestru ar Gam 2 y PGCert HE yn syth wedi i'ch portffolio dderbyn gradd Llwyddo, felly dylech fod wedi cofrestru erbyn Wythnos 5 y semester cyntaf. Felly, Wythnos 5 Semester 1 yw'r cynharaf y cewch gyflwyno eich papur.Os ydych yn cyflwyno eich papur rhwng Wythnos 5 ac Wythnos 8 Semester 1, yna efallai y gallwn farcio'r gwaith a'i brosesu trwy'r bwrdd arholi a gynhelir ym mis Tachwedd yr un flwyddyn. Byddai hyn yn golygu y cewch eich tystysgrif PGCert HE a'ch Cymrodoriaeth o'r Academi Addysg Uwch ynghynt.Os ydych yn cyflwyno eich papur ar ôl Wythnos 8 Semester 1, yna ni fydd modd i ni brosesu eich cyflwyniad trwy'r bwrdd arholi a gynhelir ym mis Tachwedd yr un flwyddyn. Caiff y gwaith ei farcio a byddwch yn derbyn eich canlyniadau o fewn y bedair wythnos safonol, ond ni chaiff y graddau eu cadarnhau yn derfynol hyd y bwrdd arholi a gynhelir ym mis Tachwedd y flwyddyn ganlynol. Byddai hyn yn golygu y cewch eich tystysgrif PGCert HE a'ch Cymrodoriaeth o'r Academi Addysg Uwch ar yr un pryd ag eraill yn eich carfan a gyflwynodd eu gwaith erbyn y dyddiad cyflwyno safonol ym mis Medi.

Beth fydd yn digwydd os nad oes modd i mi orffen fy mhapur cyn y dyddiad cyflwyno?

Y dyddiad cyflwyno terfynol ar gyfer y papur yw'r Wythnos Groeso ym mis Medi ar ôl i chi gofrestru ar Gam 2. Os nad oes modd i chi gyflwyno eich papur erbyn y dyddiad cyflwyno dylech gysylltu â'ch tiwtor personol. Bydd un o Gyfarwyddwyr y Cwrs yn cael eu dynodi yn diwtor personol i chi, felly bydd modd iddynt gymeradwyo cais am estyniad ar gyfer cyflwyno'r papur.

Beth ddylid ei gynnwys yn y papur y byddaf yn ei gyflwyno?

Yng Ngham 2 dylech gyflwyno un darn o waith sy'n cynnwys pob un o'r canlynol:Cyfnodolyn Pedagogaidd

Nodi pa gyfnodolyn yr ydych wedi ei ddewis

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 23 o 28

Page 24: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR ADDYSGU SEICOLEG MEWN ADDYSG UWCH

Papur Pedagogaidd Papur academaidd sy'n adlewyrchu arddull, cynnwys, a fformat gwaith a gyhoeddir yn y

cyfnodolyn o'ch dewis (gan gynnwys crynodeb a rhestr o gyfeiriadau)

Ffurflen y Fframwaith Safonau Proffesiynol Ffurflen sy'n mapio tystiolaeth Cam 1 a Cham 2 yr UKPSF

Sut gallaf fod yn siŵr y bydd fy mhapur yn llwyddo?

Rhaid i'ch papur fod yn addas o ran arddull, cynnwys, a fformat ar gyfer y cyfnodolyn yr ydych wedi ei ddewis. Rhaid i chi sicrhau hefyd fod eich papur yn rhoi sylw i holl ddeilliannau dysgu ail gam y PGCert HE. Bydd hyn yn sicrhau fod gennych dystiolaeth ar gyfer yr elfennau sy'n weddill o'r UKPSF er mwyn cael Cymrodoriaeth lawn gan yr Academi Addysg Uwch. Dylech edrych ar y deilliannau dysgu ac ar Ffurflen Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig yn niwedd llyfr gwaith y papur. Meddyliwch yn ofalus am yr hyn y byddwch yn canolbwyntio arno yn eich papur er mwyn sicrhau fod y cynnwys yn rhoi sylw i bob un o ddeilliannau dysgu Cam 2.

Sut ddylwn i fformatio fy mhapur?

Rhaid i chi ddewis cyfnodolyn pedagogaidd yn eich disgyblaeth eich hun a defnyddio arddull fformatio'r cyfnodolyn hwnnw ar gyfer eich papur. Yna dylid mewnosod y papur i'r llyfr gwaith a geir ar safle Blackboard y PGCert HE. Gallwch lenwi’r adrannau gwag a mewnosod y cynnwys lle nodir. Bydd hyn yn symleiddio'r broses o greu eich cyflwyniad ac yn eich galluogi i ganolbwyntio ar y cynnwys yn hytrach nag ar y fformatio.

Faint o eiriau ddylwn i eu hysgrifennu ar gyfer fy mhapur?

Nid oes cyfrif geiriau penodol ar gyfer eich papur, gan y dylai'r cyfrif geiriau adlewyrchu gofynion y cyfnodolyn pedagogaidd yr ydych wedi ei ddewis. Fodd bynnag, ni fyddem yn disgwyl i'ch papur fod yn llai na 2500 o eiriau a byddech yn eich cynghori yn erbyn ceisio ysgrifennu mwy na 10,000 o eiriau.

Sut ydw i’n cyflwyno fy mhapur?

Bydd eich papur yn cael ei farcio'n electronig. Mae hyn yn golygu y dylech sicrhau bod eich papur yn un ddogfen Word o fewn y llyfr gwaith a dylech gyflwyno'r ddogfen honno yn ei chyfanrwydd i Turnitin trwy'r porth cyflwyno gwaith ar safle PGCert HE ar Blackboard.

Pam y dylwn i ysgrifennu ar gyfer cyfnodolyn pedagogaidd o fewn fy nisgyblaeth?

Mae gan bron pob disgyblaeth academaidd a addysgir mewn Addysg Uwch gyhoeddiad cysylltiedig sy'n canolbwyntio ar addysgu o fewn y ddisgyblaeth honno. Mae'r cyfnodolion hyn yn cynnwys cyfraniadau gan eich cydweithwyr a'ch cyfoedion, felly mae'n debygol y byddant wedi cael eu hysgrifennu mewn arddull sy'n gyson â gwaith ymchwil o fewn eich maes. Er enghraifft, os yw'n draddodiad yn eich disgyblaeth academaidd chi i ymchwilio yn defnyddio © Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 24 o 28

Page 25: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR ADDYSGU SEICOLEG MEWN ADDYSG UWCH

dadansoddiadau data meintiol yna mae'n debygol y bydd y papurau pedagogaidd yn defnyddio dull tebyg. I'r gwrthwyneb, os yw'n draddodiad yn eich disgyblaeth academaidd chi i gyhoeddi adolygiadau adfyfyriol heb ddadansoddiadau ystadegol yna mae'n debygol y bydd y papurau pedagogaidd yn cael eu cyflwyno yn yr un modd. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi ddysgu dull hollol newydd o ymwneud ag ymchwil - does dim ond angen i chi ddefnyddio'r dull yr ydych eisoes yn gyfarwydd ag o er mwyn edrych ar sut mae addysgu eich pwnc eich hun. Mantais ychwanegol o ysgrifennu ar gyfer cyfnodolyn pedagogaidd yn eich maes eich hun yw y byddwch yn dysgu am ddulliau newydd o addysgu eich pwnc wrth ddarllen y cyfnodolyn pedagogaidd yr ydych wedi ei ddewis.

Sut mae dod o hyd i gyfnodolyn pedagogaidd o fewn fy nisgyblaeth?

Mae gan bron pob disgyblaeth academaidd a addysgir mewn Addysg Uwch gyhoeddiad cysylltiedig sy'n canolbwyntio ar addysgu o fewn y ddisgyblaeth honno. Rydym wedi darparu rhestr o'r cyfnodolion hyn ar gyfer nifer o'r pynciau a addysgir ym Mhrifysgol Bangor - fe ddewch o hyd i'r rhestr hon yn llyfr gwaith Cam 1 ar safle Blackboard PGCert HE. Os yw eich pwnc ar y rhestr, ewch ati i ddarllen rhai o'r papurau yn y cyfnodolyn hwnnw ar-lein i ddysgu am arddull a chynnwys yr hyn sy'n cael ei gyflwyno iddynt. Unwaith y byddwch wedi penderfynu ysgrifennu papur ar gyfer un o'r cyfnodolion a restrir, ticiwch y blwch perthnasol yn y llyfr gwaith.Mae gormod o gyfnodolion pedagogaidd i ni allu cynnwys pob un posibl ar y rhestr, felly efallai y gwelwch nad yw eich pwnc ar y rhestr neu efallai y byddwch yn ymwybodol o gyfnodolyn sy'n fwy penodol i'ch maes. Fel arall, efallai na fyddwch yn hoff o arddull cyflwyno'r cyfnodolyn ar y rhestr wedi i chi ddechrau darllen yr erthyglau, felly efallai y byddech yn dymuno chwilio am opsiwn arall. Gallwch fel arfer ddod o hyd i gyfnodolyn yn eich maes eich hun trwy wneud chwiliad Google Scholar am un o allweddeiriau eich pwnc ac yna'r gair 'pedagogy' neu 'teaching'. Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i gyfnodolyn addas, nodwch ei enw yn y blwch 'Arall' yn y llyfr gwaith.Mewn sefyllfa anghyffredin o fethu â dod o hyd i gyfnodolyn pedagogaidd yn eich disgyblaeth (neu os nad oes arnoch eisiau ysgrifennu ar gyfer y cyfnodolyn sy'n benodol i'ch disgyblaeth), yna gallwch ddewis ysgrifennu papur sy'n addas o ran arddull a chynnwys ar gyfer cyfnodolyn pedagogaidd cyffredinol. Mae rhai opsiynau cyffredinol wedi eu cynnwys ar y rhestr yn eich llyfr gwaith (megis Teaching in Higher Education) neu gallwch ddod o hyd i ddewis arall a chynnwys yr enw yn y blwch 'Arall' yn y llyfr gwaith.

Gaf i gyflwyno fy mhapur pedagogaidd trwy gyfrwng y Gymraeg?

Gallwch gyflwyno unrhyw ddarn o waith trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae hynny'n cynnwys y papur hwn. Mae Cylchgrawn Cymru ar gyfer Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch yn derbyn cyflwyniadau yn Saesneg neu Gymraeg, a gallwch ganolbwyntio ar eich disgyblaeth eich hun yn unrhyw erthygl i'r cyfnodolyn cyffredinol hwnnw. Fel arall, gallwch ddewis cyfnodolyn Saesneg ei iaith yn eich pwnc eich hun a chyflwyno erthygl sy'n adlewyrchu'r arddull a'r cynnwys, ond sydd wedi ei ysgrifennu yn Gymraeg. Pe baech eisiau cyhoeddi eich gwaith, gallech gyflwyno'r gwaith i'r cyfnodolyn ac anfon llythyr gyda'ch cyflwyniad at y golygydd yn eu hannog i ystyried cyhoeddi mewn iaith sy'n gynhenid i ran arall o Brydain.

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 25 o 28

Page 26: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR ADDYSGU SEICOLEG MEWN ADDYSG UWCH

Pa fath o bapur pedagogaidd sydd ei angen?

Dylai eich papur pedagogaidd adlewyrchu arddull, fformat a chynnwys y cyfnodolyn yr ydych wedi ei ddewis. Mae hyn yn golygu bod yr union fath o bapur sydd ei angen ar gyfer yr asesiad yn hyblyg: gallech gyflwyno astudiaeth ymchwil empirig, adroddiad adfyfyriol, pwynt dadl, adolygiad llenyddiaeth ac ati. Cyhyd â'i fod yn addas i'w gyflwyno i'r cyfnodolyn hwnnw, yna dylai fod yn addas ar gyfer yr asesiad hwn. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â dewis cyfnodolyn, pwnc, cynnwys, arddull ac ati, dylech gysylltu â Chyfarwyddwr y Cwrs.

Oes rhaid i fy mhapur pedagogaidd gael ei gyflwyno i'r cyfnodolyn a'i dderbyn ar gyfer ei gyhoeddi?

Rydym yn eich annog yn gryf i gyflwyno eich papur pedagogaidd i'r cyfnodolyn o'ch dewis. Bydd hyn yn sicrhau fod eich gwaith yn cael y gydnabyddiaeth briodol trwy roi cyhoeddiad ychwanegol i chi ei gynnwys yn eich CV. Os ydych ar gontract addysgu ac ysgolheictod, bydd y cyhoeddiad hwn yn dangos eich bod yn ymwneud ag ysgolheictod i bedagogeg a bydd hyn yn hanfodol mewn unrhyw gais a wnewch yn y dyfodol am ddyrchafiad. Os ydych ar gontract ymchwil ac addysgu, bydd hyn o fudd i chi hyd yn oed os nad oes modd cynnwys y cyhoeddiad yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil oherwydd gall gefnogi unrhyw gais a wnewch yn y dyfodol am ddyrchafiad trwy ddangos rhagor o ymwneud ag agwedd addysgu eich contract.Fodd bynnag, nid yw'n ofynnol bod eich papur yn cael ei gyflwyno ac/neu yn cael ei dderbyn gan y cyfnodolyn er mwyn pasio'r cwrs. Cyhyd â bod y papur o safon priodol i fod yn gymwys i'w gyflwyno yna dylai gael gradd llwyddo ar gyfer y PGCert HE.

Gaf i gydweithio gyda chydweithwyr ar fy mhapur?

Dylech ymgynghori gyda'ch Ymgynghorydd Addysgu ynglŷn â'ch papur ac efallai y byddech yn dymuno gweithio gydag ymarferwyr profiadol eraill. Mae hyn yn gwbl dderbyniol os mai chi yw prif ymchwilydd a phrif awdur y papur. Gall fod yn bosibl hefyd i gyfoedion ar y cwrs PGCert HE gydweithio ar un project. Byddai disgwyl i broject ymchwil o'r fath fod yn fenter llawer mwy na'r hyn a ddisgwylid gan un ymchwilydd ar ei ben ei hun. Mae hyn yn berffaith iawn os yw'r ddau ohonoch yn bwriadu ysgrifennu papurau annibynnol sy'n dehongli canlyniadau'r ymchwil mewn ffyrdd unigryw. Ar y llaw arall, os ydych yn bwriadu cydweithio ar y papur ymchwil ei hun, yna dylech drafod eich syniadau gyda Chyfarwyddwr y Cwrs er mwyn cael cymeradwyaeth cyn dechrau ar y gwaith er mwyn sicrhau y bydd y cyflwyniad terfynol yn darparu digon o dystiolaeth fod bod modd i'r ddau ohonoch basio'r cwrs.

Pwy ddylid eu rhestru fel awduron os penderfynaf gyflwyno fy mhapur pedagogaidd?

Chi ddylai fod awdur cyntaf unrhyw bapur pedagogaidd yr ydych yn ei gyflwyno i'w gyhoeddi. Os ydych wedi ymgynghori â'r Ymgynghorydd Addysgu neu'r Cyfarwyddwr Cwrs mewn unrhyw ffordd, yna byddem yn argymell eu bod hwythau hefyd yn cael eu rhestru fel awduron mewn modd sy'n briodol i'r cyfraniad a wnaethant. Efallai y byddech hefyd eisiau rhestru marcwyr y PGCert HE os cawsoch adborth gwerthfawr ar eich asesiad a arweiniodd at wneud newidiadau sylweddol i'ch papur cyn ei gyflwyno i'w gyhoeddi. Yn yr un modd, rydym yn eich annog i restru unrhyw academydd arall sydd wedi cyfrannu at eich ymchwil pedagogaidd neu at © Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 26 o 28

Page 27: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR ADDYSGU SEICOLEG MEWN ADDYSG UWCH

greu y papur, megis myfyrwyr, cymorthyddion ymchwil, cyfoedion, cydweithwyr ac ati.

Pa ffordd arall sydd o sicrhau bod fy ngwaith ar gael i gydweithwyr os nad ydw i eisiau cyflwyno fy mhapur i'r cyfnodolyn?

Ein bwriad yw creu cadwrfa ar-lein o ymchwil pedagogaidd y PGCert HE ar wefan Prifysgol Bangor. Os ydych yn dewis cyflwyno eich papur i'w gyhoeddi, yna byddwn yn cadw rhag rhyddhau eich gwaith ar y wefan hyd nes i ni gael caniatâd swyddogol gan y cyhoeddwr i wneud hynny. Fodd bynnag, os ydych yn dewis peidio â chyflwyno eich gwaith i'w gyhoeddi, rydym yn eich annog yn gryf i roi hawl i ni ryddhau eich papur ar y wefan yn lle hynny. Bydd hyn yn sicrhau bod eich ymchwil a'ch ysgolheictod ar gael i gydweithwyr gan annog lledaenu arferion a syniadau da.

Gaf i gyflwyno ffurf arall o ymchwil/ysgolheictod yn hytrach na phapur?

Efallai y byddai'n bosibl cyflwyno cyflwyniad ar gyfer cynhadledd yn hytrach na phapur ar gyfer yr asesiad hwn. Fodd bynnag, byddai angen bod y cyflwyniad ar gyfer cynhadledd yn cael ei gyflwyno ynghyd â thystiolaeth ysgrifenedig ar ffurf sleidiau, taflenni, recordiad, adborth gan y gynulleidfa, darn adfyfyriol am y digwyddiad ac ati. Byddai hynny’n sicrhau bod modd i'r cyflwyniad gael ei asesu gan ddau farciwr a'i adolygu gan arholwr allanol. Trafodwch eich bwriadau i wneud y math hwnnw o asesiad gyda'r Cyfarwyddwr Cwrs cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau y bydd modd i chi fodloni pob un o ddeilliannau dysgu'r cwrs.

Sut mae llenwi Ffurflen y Fframwaith Safonau Proffesiynol?

Rhaid i chi lenwi Ffurflen Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig ar gyfer Addysgu mewn Addysg Uwch. Mae'r ffurflen hon yn gofyn i chi fapio eich profiadau ar y cwrs PGCert HE yn ei gyfanrwydd yn erbyn gofynion Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig ar gyfer statws Cymrodoriaeth yr Awdurdod Addysg Uwch. Dylai cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus sicrhau eich bod wedi bodloni pob rhan o'r fframwaith, felly rydym yn argymell eich bod yn ymgyfarwyddo â'r ffurflen hon ar ddechrau'r cwrs fel bod modd i chi ddewis pwnc ar gyfer eich papur sy'n cwmpasu pob un o'r rhannau sy'n weddill.

Sut caiff fy mhapur ei asesu?

Caiff cyflwyniadau Cam 1 a Cham 2 eu hasesu yn erbyn deilliannau dysgu'r rhaglen A meysydd gweithgaredd, gwybodaeth graidd a gwerthoedd proffesiynol UKPSF. Edrychwch ar y Daflen Marcio yn niwedd y llyfr gwaith i gael manylion am beth yn union fydd yn cael ei asesu yn ystod y broses hon.Bydd dau farciwr yn asesu eich gwaith. Bydd y marciwr cyntaf yn Gyfarwyddwr Cwrs a bydd yr ail farciwr yn academydd o Brifysgol Bangor sydd yn Gymrawd/Uwch Gymrawd/Prif Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch (nid eich Ymgynghorydd Addysgu). Rhaid cyflwyno eich gwaith yn electronig trwy Turnitin ar Blackboard. Bydd y ddau farciwr yn adolygu'r gwaith ar-lein ac yn llenwi'r tabl marcio i nodi a ydych wedi llwyddo neu fethu ar gyfer pob un o'r deilliannau dysgu. Bydd pob marciwr hefyd yn rhoi adborth yn yr adran sylwadau i ddangos meysydd o ragoriaeth a meysydd ar gyfer gwelliant. Efallai y caiff adborth ychwanegol ei gynnwys hefyd fel sylwadau © Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 27 o 28

Page 28: PHP3008: Introduction to Theories of Therapeutic Counseling  Web viewtystysgrif addysg uwch i raddedigion . pgcert he. llawlyfr y rhaglen. blwyddyn academaidd 2017-2018

LLAWLYFR ADDYSGU SEICOLEG MEWN ADDYSG UWCH

trwy gydol y papur, os teimla'r marcwyr bod angen gwneud hynny.Rhaid cael gradd Llwyddo neu Ffiniol ym mhob elfen ac ym mhob un o'r deilliannau dysgu er mwyn i'r myfyriwr basio'r papur a'r modiwl. Gallwch weld eich gradd derfynol a'r adborth a gawsoch trwy Blackboard. Gan mai dim ond Llwyddo neu Fethu sy'n bosibl yn y papur, fe welwch sgôr rhifol o naill ai 100% neu 0% i ddynodi gradd Llwyddo/Methu gyffredinol.

Beth fydd yn digwydd os ydw i'n methu yn fy mhapur?

Rhaid cael gradd Llwyddo neu Ffiniol ym mhob elfen ac ym mhob un o'r deilliannau dysgu er mwyn i'r myfyriwr basio'r papur a'r modiwl. Os bydd y naill farciwr neu'r llall yn nodi eich bod wedi methu unrhyw elfen neu ddeilliant dysgu, yna byddwch yn methu'r papur a'r modiwl. Os digwydd hynny, cewch eich gwahodd i ailgyflwyno'r papur diwygiedig i'w ailraddio ar ôl gwneud y newidiadau hanfodol a nodir yn y bocs sylwadau. Dylech ddarllen yn ofalus yr holl sylwadau'n ymwneud ag elfen a fethwyd er mwyn gwneud y newidiadau priodol ac ailgyflwyno'n llwyddiannus.

© Fay Short a Rosanna Robinson CELT Prifysgol Bangor Tudalen 28 o 28