music from wales

21
Byd O GerddOriaeth O Gymru WOrld music FrOm Wales wales arts international celfyddydau rhyngwladol cymru

Upload: wales-arts-international

Post on 28-Mar-2016

228 views

Category:

Documents


4 download

DESCRIPTION

A small Directory of Musicians from Wales. Published by Wales Arts International

TRANSCRIPT

Page 1: Music from Wales

Byd O GerddOriaeth O GymruWOrld music FrOm Wales

wales arts in

ternatio

nal

celfydd

ydau

rhyn

gw

lado

l cymru

Page 2: Music from Wales

Mae Cymru yn genedl sydd wedi ei hadeiladu ar gerddoriaeth, celf, chwedlau a llenyddiaeth. Mae gan y Cymry ddwy iaith – Saesneg, sy’n cael ei rannu gyda gweddill y byd, a Chymraeg, eu hiaith Geltaidd hynafol eu hunain – un o ieithoedd hynaf Ewrop, a iaith sy’n fyw ac yn ffynnu heddiw.

Mae cerddoriaeth byd yn fyw ac yn iach yng Nghymru ac mae’n cynnwys nifer o genres. O wlad fechan, mae gan Gymru gyfoeth o gerddorion sy’n dehongli repertoire o ganeuon gwerin Cymreig mewn myrdd o ddulliau, ac fe’u cynrychiolir yn y cyfarwyddiadur hwn.

Wales is a nation built on music, art, legends and literature. The Welsh people have two languages – English that they share with the rest of the world, and Welsh, their very own ancient Celtic language – one of the oldest in Europe – that is alive and flourishing today.

World music in Wales is alive and kicking and includes many genres. For a small country, Wales has a wealth of musicians that interpret the rich repertoire of Welsh folk songs in a multitude of ways, represented in this directory.

Page 3: Music from Wales

Drwy Gymru benbaladr, mae cerddorion wrthi’n creu cerddoriaeth hudolus sy’n cyfuno sain Cymreig a Cheltaidd, a hyn mewn ffurfiau cyfoes.

Mae’r detholiad cerddorol yma gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru yn adlewyrchu cyfoeth o dalent ‘cerddoriaeth byd’ o Gymru (teitl fe wn sy’n gallu golygu amryw o bethau gwahanol). Mae’n cynnwys cerddorion amryddawn – unigolion a grwpiau – ynghyd â phrosiectau a chydweithrediadau. Er fod y gerddoriaeth yma wedi ei greu yng Nghymru, mae dylanwadau o bob cwr o’r byd i’w clywed yma. Ond am bob artist sydd wedi eu cynnwys, mae yna lawer mwy i chi eu darganfod.

Mae rhai enwau cyfarwydd fel Cerys Mathews a Catrin Finch, wedi gwneud eu marc ar lwyfannau drwy’r byd ac yn dal i dorri tir newydd creadigol. Mae eu prosiectau a’u syniadau amrywiol yn gwefreiddio cynulleidfaoedd drwy’r byd. Mae eraill fel Sild, yn cymysgu ieithoedd a dylanwadau diwylliannol i greu cerddoriaeth egnïol ac ysbrydoledig. Bydd rhai, fel Georgia Ruth Williams a The Gentle Good, yn enwau newydd i chi a fydd yn sicr o greu argraff barhaol fydd yn eich rhyfeddu.

Gobeithiaf y cewch foddhad o’r detholiad a gyflwynir yma ac y cewch flas ar gerddoriaeth o Gymru sy’n prysur ledaenu i lwyfannau’r byd.

In every corner of the small and beautifully formed country of Wales, musicians continue to create captivating music that blends traditional Welsh and Celtic sounds, presented in a contemporary style.

This compilation by Wales Arts International highlights the wealth of talent our country has to offer. Coming under the broad description of ‘world music’ (a term that has many connotations for many different people) this is a selection of musicians, groups and individual artists as well as interesting collaborations and projects. Here we have Welsh world music, made in our country with influences from far and wide. For every artist included there are many more for you to discover.

You may already have heard of some of these, such as Cerys Matthews and Catrin Finch; who continue to push boundaries creatively and leave audiences around the world wanting more. Others such as Sild, mix languages, sounds and cultural backgrounds to create hypnotic and unforgettable music. Some, such as Georgia Ruth Williams and The Gentle Good are new names that are guaranteed to create a lasting and astounding impact.

I hope you enjoy the music selection presented here. This is just a taste of the excellence that we have to offer in Wales, which we would like to share with the world.

04/05BYD O GERDDORIAETH O GYMRu / WORlD MuSIC FROM WAlES

rhaGairFOreWOrdhuWstephensDJ Radio 1 ac aelod o Banel Dethol Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Radio 1 DJ and member of Wales Arts International Selection Panel

Page 4: Music from Wales

Music has always been an inextricable part of my life. I was born in a small Welsh speaking village in mid Wales surrounded by music and poetry and a deep awareness of all things cultural! My father sang, my uncles, my aunts and friends sang; most had instrumental lessons of some kind – usually piano, violin or harp. Writing poetry by local rhymesters and more established masters of cynghanedd was the norm as was amateur dramatics in most of the surrounding villages.

I began learning the piano at the age of six, the violin at eight and the harp at eleven. My harp teacher was Ffranses Môn Jones who passed on to me the craft of singing folk songs to my own harp accompaniment. By fourteen, composing songs and arrangements opened up a whole new world for me and my obsession with folk music grew and grew. For me, these songs appealed to my burgeoning womanhood – they were emotional, sexy, raunchy, quirky, humorous, perplexing, dealing with the whole gamut of the human condition: love, hate, joy birth, death, the afterlife, all intertwined with melodies which left me gasping for breath from their sheer beauty.

I remain as passionate about the music of my country today as I was in the heady days of my youth. Over the years I have experimented with their wonder fusing other styles such as jazz and blues and programmed rhythms, with various instruments, whilst hopefully never losing respect for their innate beauty.

I am filled with hope and joy for the future of Welsh folk music as I witness a whole new generation of musicians performing, experimenting and opening their minds to the endless possibilities this genre offers them. These songs are theirs to embrace and of course to share!

Bu cerddoriaeth yn rhan annatod o’m mywyd erioed. Fe’m ganwyd mewn pentref bach Cymraeg ei iaith yng nghanolbarth Cymru, â cherddoriaeth a barddoniaeth o’n cwmpas ac ymwybyddiaeth ddofn o bopeth diwylliannol! Roedd fy nhad yn canu, fy ewythredd, fy modrybedd a’m ffrindiau i gyd yn canu; roedd y mwyafrif yn derbyn gwersi ar ryw offeryn cerdd neu’i gilydd – y piano, y fiolín neu’r delyn fel rheol. Peth cyffredin oedd barddoni gyda beirdd talcen slip lleol a beirdd oedd yn feistri ar y gynghanedd, fel hefyd oedd actio amatur yn y mwyafrif o’r pentrefi cyfagos.

Dechreuais ddysgu canu’r piano pan roeddwn yn 6 mlwydd oed, y fiolín pan roeddwn yn wyth a’r delyn pan roeddwn yn un ar ddeg. Ffranses Môn Jones oedd fy athrawes ar y delyn, a dysgodd i mi’r grefft o ganu caneuon gwerin wrth gyfeilio fy hun. Erbyn i mi gyrraedd pedair ar ddeg agorwyd byd hollol newydd i mi yn cyfansoddi caneuon a threfniadau a thyfodd fy obsesiwn gyda cherddoriaeth werin yn fwy ac yn fwy! Roedd y caneuon hyn yn apelio fwyfwy ataf wrth i mi gyrraedd oedran gwraig ifanc – roeddent yn emosiynol, yn rhywiol, yn rhyfedd, yn ddigri ac yn gymhleth, yn ymwneud â holl ystod y cyflwr dynol: caru, casáu, llawenydd, geni, marw, bywyd tragwyddol, y cyfan oll wedi eu plethu yn y melodïau a’m lloriodd oherwydd eu prydferthwch pur.

Rwy’n dal yr un mor frwdfrydig am gerddoriaeth fy mamwlad ag yr oeddwn yn nyddiau gwyllt fy ieuenctid. Bûm yn arbrofi gydol y blynyddoedd yn eu rhyfeddod gan uno arddulliau eraill fel jazz a blues a rhythmau rhaglenedig, gydag amrywiaeth o offerynnau, gan obeithio nad oeddwn byth yn colli’r parch at eu prydferthwch cynhenid.

Rwy’n llawn gobaith a llawenydd am ddyfodol cerddoriaeth werin Cymru wrth i mi weld cenhedlaeth newydd cyfan o gerddorion yn perfformio, arbrofi ac agor eu meddyliau i’r posibiliadau diddiwedd mae’r genre hwn yn cynnig iddynt. Eu heiddo hwy yw’r caneuon hyn, i’w cofleidio ac, wrth gwrs, i’w rhannu!

06/07BYD O GERDDORIAETH O GYMRu / WORlD MuSIC FROM WAlES

rhaGairFOreWOrdsîanJamesCantores ac aelod o Banel Dethol Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Singer and member of Wales Arts International Selection Panel

Page 5: Music from Wales

BYD O GERDDORIAETH O GYMRu / WORlD MuSIC FROM WAlES

Gan asio chwedlau o dreftadaeth dywyll Cymru gyda melodïau sy’n cyniwair atgofion o ganeuon a hir anghofiwyd, mae taith gerddorol 9Bach wedi eu tywys ymhell o’u gwreiddiau ym mynyddoedd gogledd Cymru a strydoedd cefn gogledd llundain.

Wedi eu hysbrydoli gan draddodiad cyfoethog cerddoriaeth gwerin Cymru ac yn awyddus i anadlu anadl einioes i rai o’i thrysorau cuddiedig, mae 9Bach wedi distyllu gwerth mwy na 200 mlynedd o ganeuon i greu sain melys fydd yn cynhesu’r galon ac ar yr un pryd yn gwneud i chi ryfeddu.

“Mae 9Bach yn cynnig rhagflas pryfoclyd o’u halbwm cyntaf, sydd i ymddangos yn fuan yn 2009, gyda cheinder llesmeiriol, rhithiol Yr Eneth Ga’dd Ei Gwrthod.” Mae cerddoriaeth werin newydd y grwp yn galw i gof awyrgylch arallfydol cerddoriaeth hynafol, tra ar yr un pryd yn mabwysiadu taerineb, grwp megis, Portishead, a chreu sain sy’n eu rhoi yn rheng flaen arloeswyr cymysgu cerddoriaeth werin.”

Cylchgrawn Rock ’n’ Reel Gorffennaf/Awst 2008

Fusing tales from Welsh Folks dark heritage with melodies that conjure memories of long forgotten songs, 9Bach’s musical journey has taken them far beyond their roots in the mountains of north Wales and the spoon playing backstreets of north london.

Inspired by Wales’s rich history of Folk music and with a desire to breathe new life into some of its buried treasures, 9Bach have distilled over 200 years worth of songs to create a honey-dipped sound that will leave you with your heart warmed, and your jaw dropped.

“9Bach offer a tantalising taster of their debut album, due in early 2009, with the hypnotic, spectral beauty of “Yr Eneth Ga’dd Ei Gwrthod”. This Welsh nu-folk act evoke the unearthly atmosphere of ancient music, while adopting the urgency of, say, Portishead, creating a sound that puts them at the forefront of those pioneers mixing up Folk”

Rock ‘n’ Reel magazine July/August 2008

08/09

Martin Hoyland Track: Pa Bryd y Deui Eto?

c/o Martin Hoyland 6 Gwernydd Gerlan, Bethesda Gwynedd LL57 3TY

T +44 (0)1248 601 715 M +44 (0)7930 393 358

[email protected] www.myspace.com/9bach

9Bach

Page 6: Music from Wales

BYD O GERDDORIAETH O GYMRu / WORlD MuSIC FROM WAlES

Mae Burum yn chwarae cymysgedd unigryw o gerddoriaeth draddodiadol Gymreig a jazz modern. Gyda thalentau sy’n cynnwys y gorau o fyd jazz Cymreig a cherddoriaeth werin, mae Burum yn creu ieithwedd gerddorol newydd ar gyfer cerddoriaeth draddodiadol Gymreig.

Mae dehongliadau gwreiddiol Burum o ganeuon gwerin Cymraeg yn arddangos parch dwfn i’r melodïau eu hunain, tra ar yr un pryd yn rhoi lle i ystwythder a deinamics jazz byrfyfyr. Mae cynnwys y pibgorn/bagbib Cymreig fel ychwanegiad at y pumawd jazz arferol yn creu sain hyfryd sydd ar yr un pryd yn hudolus a chyffrous.

Artistiaid Burum yw: Tomos Williams (trwmped), Ceri Rhys Matthews (pibgorn Cymreig), Daniel Williams (sacs), Dave Jones (piano), Chris O’Connor (bas), Mark O’Connor (drymiau).

“Dyma fy awgrym i ar gyfer 2008 – gwyliwch am y trwmpedwr ifanc o Gymru, Tomos Williams a’i fand Burum, sydd yn ddiweddar wedi rhyddhau ‘Alawon’ – jazz ar alawon gwerin Cymreig gan gynnwys pibau Cymreig.”

Jim Smith, Jazzwise Magazine, Rhagfyr 2007

Burum play a unique blend of Welsh traditional music and modern jazz. Featuring the best talent from both the Welsh jazz and folk scenes, Burum are creating a new musical vernacular for Welsh traditional music.

Burum’s original interpretations of Welsh folk songs demonstrate a deep respect for the melodies themselves while also allowing for the flexibility and dynamics of jazz improvisation. The inclusion of the Welsh bag/horn pipe to augment a standard jazz quintet creates a beautiful soundscape at once enchanting and exciting.

Featuring Tomos Williams (trumpet), Ceri Rhys Matthews (Welsh hornpipe), Daniel Williams (saxes), Dave Jones (piano), Chris O’Connor (bass), Mark O’Connor (drums).

“My Tip for 2008 – look out for young Welsh-based trumpeter Tomos Williams and his band Burum who’ve recently released ‘Alawon’ – jazz on Welsh folk tunes complete with Welsh pipes.”

Jim Smith, Jazzwise Magazine, December 2007

10/11

Tomos Williams Track: Hiraeth am Feirion

11 Denton Road/Ffordd Denton Canton/Treganna Cardiff/Caerdydd CF5 1PD

T +44 (0)2920 232238

[email protected] www.burum.org

Burum

Page 7: Music from Wales

BYD O GERDDORIAETH O GYMRu / WORlD MuSIC FROM WAlES

Mae Carreg lafar yn perfformio cerddoriaeth draddodiadol Cymreig bywiog ac angerddol. Trwy gymysgedd o gerddoriaeth draddodiadol a gwreiddiol, mae Carreg lafar yn cyfleu ysbryd iach ac egniol, sydd â’i wreiddiau’n ddwfn yn y traddodiadau cân a cherddoriaeth dawns Cymru. Mae’r gerddoriaeth yn gymysgedd fywiog o ffidil, ffliwt, pibgorn, pibau a gitâr, ynghyd â lleisiau deinamig. Mae Carreg lafar wedi recordio tri albwm gyda Sain, sef ‘Ysbryd y Werin’, ‘Hyn’ a ‘Profiad’.

Carreg lafar yw: linda Owen Jones (llais), Rhian Evan-Jones (ffidil), James Rourke (ffliwt), Antwn Owen Hicks (pibau a llais) a Danny KilBride (gitâr).

“Mewn cyfnod pan mae cymaint o’r hyn sy’n cael ei ryddhau yng Nghymru heddiw yn gwthio’r ffiniau ac yn amcanu at sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â gweddill y byd – amcanion cwbl deilwng ac anrhydeddus – mae yna rywbeth iachusol mewn dychwelyd at y craidd a gwrando ar y rhagoriaeth y mae cerddoriaeth draddodiadol Gymreig, o’i wneud yn dda, yn gallu ei gonsurio… Mae’r band yn siarp, a’i chwarae un ai’n atmosfferig, neu’n symud yn gyflym a phwerus, ac mae llais Linda Owen Jones yn morio trwy’r cyfan yn y dull mwyaf ardderchog.”

Cylchgrawn Folk Roots (Adolygiad o ‘Profiad’)

Carreg lafar perform lively and passionate traditional Welsh music. Through a mixture of traditional and original music, Carreg lafar convey a healthy and vibrant spirit, rooted firmly in Wales’s tradition of song and dance music. The music is a lively mixture of fiddle, flute, hornpipe, bagpipes and guitar, together with dynamic vocals. Carreg lafar have recorded three albums with Sain, namely Ysbryd y Werin, Hyn and Profiad.

Carreg lafar are: linda Owen Jones (vocals), Rhian Evan-Jones (fiddle), James Rourke (flute), Antwn Owen Hicks (pipes and vocals) and Danny KilBride (guitar).

“At a time when so many Welsh releases are pushing the envelope and seeking to stand in line with a wider world – all honourable and worthy aims – it’s refreshing to come right back to the core and listen to the excellence that Welsh trad, done well, can conjure…The band are sharp, their playing by turn breathily atmospheric, or paced and driving and vocalist Linda Owen Jones carries all before her in splendid fashion.”

Folk Roots Magazine (review of ‘Profiad’)

12/13

carreGlaFar

Antwn Owen Hicks (Pipes and Vocals)

Track: Profiad track 2 of the album Profiad

10 Stryd Eyre Splot Cardiff/Caerdydd CF24 2JR

T +44 (0)29 20257589

[email protected] www.carreglafar.co.uk

Page 8: Music from Wales

BYD O GERDDORIAETH O GYMRu / WORlD MuSIC FROM WAlES

Mae’r prosiect cerddorol rhyngwladol hwn, sydd wedi ei seilio ar y delyn, yn cyfuno talent syfrdanol Catrin Finch (Cymru), sy’n cael ei chydnabod fel un o delynorion mwyaf blaenllaw’r byd ac yn un mor lwyddiannus yn pontio’r clasurol a’r poblogaidd, a Cimarron (Colombia), grwp llanera saith darn dan arweiniad y telynor a’r cyfansoddwr Carlos Rojas, grwp sy’n tarddu o bobloedd mestizo sy’n byw yn safanâu afon fawr Orinoco.

Cyfarfu Catrin Finch a Cimarron gyntaf yng Nghaernarfon ym mis Tachwedd 2007. Dros bedwar diwrnod dwys, buont yn cyfnewid ac yn datblygu tônau a chaneuon o ddiwylliant brodorol y naill a’r llall, gyda’r ddau yn cael eu harwain gan draddodiad telyn y ddwy wlad. Chwistrellwyd hyfedredd syfrdanol Catrin i rhythmau traddodiadol Colombia a chafodd y melodïau traddodiadol Cymreig beth o’r hunaniaeth lladinaidd soniarus.

“Mae Catrin Finch yn ffenomenon unwaith-mewn-oes ac mae ganddi gymaint meistrolaeth ar ei hofferyn a’r fath ddealltwriaeth gerddorol ddofn, fel bod eraill yn pylu mewn cymhariaeth â hi.”

William Furtwangler Charleston Post and Courier, Mehefin 2006

“Mae Catrin Finch yn canu’r delyn. Pan yw’n gwneud hynny, mae’r byd yn peidio â throi. Rydw i wedi gwrando ar gannoedd o delynorion yn fy oes, ond dim byd erioed fel hyn – mae’n gwbl syfrdanol…”

Simon Honywill, ar Adiemus Live! in Japan, Mawrth 2004

This exciting and high-profile harp-based international music project combines the awesome talent of Catrin Finch (Wales), regarded as one of the world’s leading harp players and classical crossover success, with Cimarron (Colombia), a seven piece llanera group led by harpist and composer Carlos Rojas, and drawn from the mestizo people that inhabit the savannahs of the great Orinoco river.

Catrin Finch and Cimarron first met each other in Caernarfon, Wales in November 2007. During an intense four days, they exchanged and developed tunes and songs from each other’s native culture, each being led by the other’s harp tradition. Traditional Colombian rhythms saw the injection of Catrin’s stunning virtuosity, whilst traditional Welsh melodies became infused with a vibrant latin identity.

“Finch is a once-in-a-lifetime phenomenon who has such a mastery of her instrument, combined with deep musical insight, that others pale in comparison.”

William Furtwangler Charleston Post and Courier, June 2006

“Catrin Finch plays the harp. When she does, the world stops turning. I have heard hundreds of harp players in my time, but nothing quite like this – she is simply staggering..”

Simon Honywill, on Adiemus Live! in Japan, March 2004

14/15

Dilwyn Davies Director of Theatr Mwldan

Track: Ar Ben Waun Tredgar traditional arrangement by Carlos Rojas and Catrin Finch

Theatr Mwldan (Producer) Bath House Road Cardigan/Aberteifi SA43 1JY

T +44 (0)1239 623926

[email protected] www.mwldan.co.uk www.myspace.com/catrinfinchandcimarron

catrin Finch & cimarrOn

Page 9: Music from Wales

BYD O GERDDORIAETH O GYMRu / WORlD MuSIC FROM WAlES

Mae cerddoriaeth Gwyneth yn gyfuniad o gerddoriaeth werin gyfoes Cymru a melodïau cynnes a chofiadwy; trwyddynt mae’n adrodd storïau ddoe a heddiw. Mae’n gweu ei chaneuon o ddeunydd ei llais, gan greu sain sy’n onest ac ystyrlon.

Mae ei gitâr acwstig yn ail lais, gyda’i gymeriad neilltuol ei hun. Mae’n canu am y tir, y tywydd a thrai a llanw’r galon. Mae natur ei gwaith yn reddfol a digyfnewid.

I gyfeiliant ei gitâr ei hun, neu gyda detholiad o gerddorion talentog, mae’n cynnwys offerynnau o bob rhan o’r byd: bousouki, pedal dur ac acordion yn cyfoethogi ei phrif offeryn a barddoniaeth delynegol ei chaneuon.

“…Mae ail albwm Gwyneth bron â bod yn berffaith…Llais cyfareddol, melodïau atgofus a huodledd anghyffredin – dewines ar waith.”

Tudur Huws Jones, Yr Herald Cymraeg, Mai 9fed 2007

Gwyneth’s music is a blend of contemporary Welsh folk music and heart-warming, memorable melodies, through which past and present stories are told. She weaves her songs from the fabric of her voice, creating a sound that is meaningful and honest.

Her acoustic guitar is a second voice that has its own distinctive character. She sings of the land, the weather and the ebb and flow of the heart. The nature of her work is intuitive and timeless.

Accompanied only by her guitar, or with a selection of talented musicians, she includes instruments from the four corners of the world; bousouki, pedal steel and accordion, that enriches her main instrument and the lyrical poetry of her songs.

“…Gwyneth’s second album borders on perfection… A wonderful voice, haunting melodies and an extraordinary eloquence – a sorceress at work.”

Tudur Huws Jones, Yr Herald Cymraeg, May 9th 2007

16/17

Gwyneth Glyn

Track: Can y Siarc taken from her second album, Tonau

29 Brecon Street, Canton/Treganna Cardiff/Caerdydd CF5 1RE

M +44 07971 243 931

[email protected] www.myspace.com/gwynethglyn

GWynethGlyn

Page 10: Music from Wales

BYD O GERDDORIAETH O GYMRu / WORlD MuSIC FROM WAlES

Band chwe darn sy’n prysur ennill enw iddo’i hun yw Mabon. Mae’n perfformio cerddoriaeth wreiddiol yn y genre Celtaidd/Gwerin/Byd, wedi ei gyfansoddi gan y canwr acordion “brawychus dalentog” Jamie Smith (Green Man Review) a’i berfformio gyda’r cerddorion safonol Oli Wilson-Dickson ar y ffidil, Calum Stewart ar y ffliwt, Derek Smith ar y gitâr, Matt Downer ar y bas a Iolo Whelan ar y drymiau.

Mae cerddoriaeth y band, er yn adnabyddadwy Geltaidd, yn arddangos llawer o ddylanwadau cerddoriaeth byd o ganlyniad i brofiadau Jamie. Mae galw cynyddol am y band gan drefnwyr gwyliau a digwyddiadau, nid yn unig yn y Du ond hefyd yn fyd-eang.

“…gellid dadlau mai hwn yw’r casgliad mwyaf crwn a mwyaf cyson ei foddhad a ddeilliodd o Gymru ers peth amser.” Sean McGhee (Golygydd), Rock’n’Reel Magazine

Mabon is a fast-rising 6-piece band performing original music in the Celtic/Folk/World genres, composed by their “scarily-talented” (Green Man Review) accordionist Jamie Smith, and performed with fellow high-calibre musicians Oli Wilson-Dickson on fiddle, Calum Stewart on flute, Derek Smith on guitars, Matt Downer on basses and Iolo Whelan on Drums.

The band’s music, although identifiably Celtic, takes in many world music influences as a result of Jamie’s experiences. The band is becoming increasingly in-demand by festivals and event organisers not only in the uK but worldwide.

“…arguably the most rounded and consistently satisfying collection of folk music to emerge from Wales in some time.” Sean McGhee (Editor) Rock’n’Reel Magazine

18/19

maBOn

Derek Smith Guitarist for Mabon

Track: Schindig taken from the album ‘OK Pewter’ composed by Jamie Smith.

40 The Woodlands Brackla/Bracla Bridgend/Pen-y-bont ar Ogwr CF31 2JF

T +44 (0)1656 766667 M +44 (0)7779 655689

[email protected] www.mabon.org

Page 11: Music from Wales

BYD O GERDDORIAETH O GYMRu / WORlD MuSIC FROM WAlES

Daeth Cerys Matthews i enwogrwydd fel prif leisydd y band indie-roc, Catatonia. Gyda chwe albwm, enillodd y band lwyddiant rhyngwladol gyda’u halbwm International Velvet, gan gyrraedd statws platinwm dair gwaith a disgieirio yn siartiau’r Du.

Gwahanodd y band yn 2001 a dechreuodd Cerys ar ei gyrfa fel perfformwraig unigol. Rhyddhawyd ei dwy albwm ungol, Cockahoop a Never Said Goodbye, a chawsant ganmoliaeth mawr; yna, yn 2007, dychwelodd at ei gwreiddiau a rhyddhau yr albwm fer Gymraeg, Awyren= Aeroplane ar label My Kung Fu, Caerdydd.

“Mae’r albwm fer ar label Caerdydd yn dangos gwir dalent y gantores …Mae bron yn sicr mai hon yw’r albwm Gymraeg gyntaf i gael ei recordio yn Nashville a Seattle; mae hyn yn dipyn o orchest gan gyn-gantores Catatonia.” Uncut

Cerys Matthews first came to widespread fame as lead singer with Welsh indie-rockers, Catatonia. Over six albums, the band achieved international success with their album, International Velvet, reaching three times platinum status and topping the uK charts.

The band split in 2001 and Cerys embarked on a solo career. She released the lauded solo albums, Cockahoop and Never Said Goodbye, then in 2007 returned to her roots and released a Welsh-language mini-album, Awyren = Aeroplane on Cardiff’s My Kung Fu label.

“Mini-album on Cardiff label reveals singer’s true talent... Almost certainly the first Welsh-language album to be recorded in Nashville and Seattle, this is something of a masterstroke from the former Catatonia singer”. Uncut

20/21

cerysmattheWs

Carl Morris c/o Cerys Matthews

Track: Lisa Lân Traditional song, arranged by Matthews/Neely Taken from ‘Awyren = Aeroplane’

c/o My Kung Fu 68 Broad Street Canton/Treganna Cardiff/Caerdydd CF11 8BZ

M +44 (0)7974 355 078

[email protected] www.cerysmatthews.co.uk

Page 12: Music from Wales

BYD O GERDDORIAETH O GYMRu / WORlD MuSIC FROM WAlES

Mae Sild (y gair Estoneg am bont) yn dod a dau gerddor ifanc sy’n rhyngwladol enwog at ei gilydd: o Estonia, y gantores, y ffidleres a’r chwaraewr hiiu-kannel (telyn fwa Estonaidd) Sille Ilves, ac o Gymru y gitarydd blaengar Martin leamon. Maent wedi datblygu asiad gwirioneddol wreiddiol o ddau ddiwylliant cerddorol gwahanol, y ddau wedi eu gwreiddio mewn traddodiad ac eto yn gyfangwbl fodern; llwyddasant i greu cerddoriaeth newydd o ymylon hynafol Ewrop.

“Roedd Sild yn un o ddarganfyddiadau ein gwyl: deunydd cyfareddol, artistwaith cywrain – a gwir gynhesrwydd dynol hefyd.”

Tim Healey, Cyfarwyddwr, Oxford Folk Festival

Sild (an Estonian word for bridge) brings together two young internationally acclaimed musicians: from Estonia the exquisite singer, fiddler and hiiu-kannel (Estonian bowed harp) player, Sille Ilves and from Wales, innovative guitarist Martin leamon. They have developed a truly original fusion of two different musical cultures, rooted in tradition yet thoroughly modern; they create new music from the ancient edges of Europe.

“Sild were one of the finds of our festival: fascinating material, exquisite artistry – and real human warmth too.” Tim Healey, Director, Oxford Folk Festival

22/23

Sille Ilves and Martin Leamon

Track: Y Gwcw taken from the album Tro

105 Wern Road Ystalyfera Swansea/Abertawe SA9 2LZ

T +44 (0)1639 842604

[email protected] www.sildmusic.com

sild

Page 13: Music from Wales

BYD O GERDDORIAETH O GYMRu / WORlD MuSIC FROM WAlES

O ran arddull mae’r caneuon hyn yn amrywio o’r gwerin ysgafn, blues tyner a jazz ‘up-tempo’ i ryw fath o bop cabare, dramatig; ynddynt mae lleuwen Steffan yn cyfareddu cynulleidfaoedd gyda chyfansoddiadau sy’n cael eu canu yn bennaf yng Gymraeg a’r Saesneg.

Mae ei CD cyntaf God Only Knows, yn gydweithrediad gyda’r pianydd Cymreig Huw Warren ac fe’i rhyddhawyd ar label Babel yn 2005. Roedd yr albwm yn ail-ddehongliad o emynau’r diwygiad Cymreig ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ac fe ymddangosodd yn Top 20 Albums yr Observer.

Mae Penmon, ryddhawyd yn ddiweddar ar label Sain, yn adlewyrchu llanw a thrai tirwedd Cymru, yn cael ei gyflwyno trwy gyfrwng asiad unigryw o jas a gwerin.

“Cerddoriaeth a aned yn y cymoedd, ond sy’n cyrchu at Seion.” Chris May: www.allaboutjazz.com

Stylistically ranging from airy folk, gentle blues and up-tempo jazz to a kind of cabaret, dramatic pop, lleuwen Steffan enchants audiences with compositions sung mainly in Welsh and English.

Her first CD ‘God Only Knows’, is a collaboration with Welsh pianist Huw Warren and was released on the Babel label in 2005. The album was a reinterpretation of Welsh revivalist hymns for the twenty first century, which featured in The Observer’s Top 20 Albums.

Her latest release, Penmon on the Sain label reflects the natural ebb and flow of the Welsh landscape presented through a unique fusion of jazz and folk.

“Music born in the valleys, but bound for Zion” Chris May: www.allaboutjazz.com

24/25

Lleuwen Steffan

Track: Pererinion taken from the album ‘Penmon’

Bryn Ilys, Rhiwlas Bangor, Gwynedd LL57 4GA

T +44 (0)7723 390 446

[email protected] www.myspace.com/lleuwen

lleuWensteFFan

Page 14: Music from Wales

BYD O GERDDORIAETH O GYMRu / WORlD MuSIC FROM WAlES

Mae’r triawd Taith yn gydweithrediad rhwng y cerddorion o Gymru, Dylan Fowler a Gillian Stevens a’r cerddor Ffinnaidd enwog, Timo Väänänen. Maent yn arbenigo mewn cyfuno cerddoriaeth draddodiadol ei darddiad o Gymru a’r Ffindir gyda darnau a gyfansoddwyd, darnau sy’n arddangos dylanwad eu cyd-deithio a’u profiadau fel cerddorion. Mae’r grwp yn asio synau acwstig rhyfeddol gyda defnydd o’r Kantele, Feiolau, Crwth, Gitarau, Mandocello, Chwibannau ac offerynnau taro. Ffurfiwyd y grwp bum mlynedd yn ôl pan yr oedd Dylan yn cynrychioli Cymru ym mhrosiect Music of the Northlands, prosiect ddaeth â cherddorion o Sgandinafia a’r Du at ei gilydd ar gyfer taith fawreddog trwy eu gwahanol wledydd. Ar y daith hon y cyfarfu â Timo sy’n brif chwaraewr y Kantele traddodiadol yn y Ffindir. Dyna greu sbarc cerddorol a phan ymunodd Gillian â’r criw, tyfodd y prosiect fel ‘Taith’. Mae pob un o’r cerddorion yn adnabyddus yn rhyngwladol yn ei rinwedd ei hun.

“Perl cynnil o record gan dri offerynnwr gwych iawn: Dylan Fowler (gitâr, offerynnau taro, obo), Timo Väänänen (kantele, jouhikko) a Gillian Stevens (feiolau, crwth).” Adolygiad ar-lein BBC o Now & Then gan Taith

The trio Taith is a collaboration between musicians from Wales, Dylan Fowler and Gillian Stevens and renowned Finnish musician, Timo Vaananen. They specialise in combining traditional based music from Wales and Finland alongside composed pieces that show the influence of their collective travels and experiences as musicians. The group blends wonderful acoustic sounds together through the use of Kantele, Viols, Crwth, Guitars, Mandocello, Whistles and percussion.

The group formed five years ago when Dylan was the representative for Wales as part of the Music of the Northlands project, which brought musicians together from Scandinavia and the uK for a prestigious tour throughout the respective countries. On this tour he met with Timo who is the leading player in Finland of the traditional Kantele. Musical sparks were created and when Gillian entered into the frame, the project took shape as Taith. Each musician is known internationally in his or her own right.

“Understated gem of a record from three very fine players; Dylan Fowler (guitars, percussion, oboe), Timo Vaananen (kantele, jouhikko) and Gillian Stevens (viols, crwth).” BBC online review of ‘Now & Then’ by Taith

26/27

Dylan Fowler

Track: Orpolasten Polka / Gyrrur’r Byd Ymlaen

Ty’r Felin Fach Heol Ross Y Fenni / Abergavenny Sir Fynwy / Monmouthshire NP75RF

T +44 (0)1873 850968

[email protected] www.taithrecords.co.uk

taith

Page 15: Music from Wales

BYD O GERDDORIAETH O GYMRu / WORlD MuSIC FROM WAlES

Gwaith y cyfansoddwr caneuon a’r amryw-offerynnwr Gareth Bonello, sy’n gweithio yng Nghaerdydd, yw The Gentle Good. Gyda cherddoriaeth sydd wedi ei wreiddio yn nhraddodiad gwerin Ynysoedd Prydain ac arddull chwarae gitâr a ddysgwyd gan rai o gitâryddion gorau 60au’r ganrif ddiwethaf, mae The Gentle Good yn gyfoes ac ar yr un pryd yn ddigyfnewid.

Mae’r cyfuniad o’r lleisiol gonest a thynner, gyda’r rhannau gitâr cymhleth a’r trefniannau llinynnol cynnil yn hudo’r gwrandäwr i mewn i fyd lledrith, dirgelwch a llonyddwch. Yn berfformiwr byw cyfareddol, mae The Gentle Good yn cyflwyno caneuon hyfryd yn Saesneg, y Gymraeg a Sbaeneg a thrwy’r cyfan yn gweu chwedlau cofiadwy.

“Mae Bonello fel Nick Drake ar ‘The Hitcher’, neu John Renbourn ar ‘Amser’ ac eto fel ef ei hun ar bob un o’r traciau – mor amlwg Gymreig ac eto’n elwa ar elfennau o gerddoriaeth gwlad a gwerin America. Ond fe ddaw’r uchafbwynt ar y diwedd yn ‘Waiting for Jane’ – sef arucheledd cerddoriaeth werin, syml a heintus. Fe fyddwch am ddal y trên arbennig hwn.” Adolygiad o EP Dawel Disgyn gan Wyl Menmuir – FLY Global Music Culture: Europe

The Gentle Good is the work of Cardiff based songwriter and multi instrumentalist Gareth Bonello. With music rooted in the folk tradition of the British Isles and a guitar style learned from the great pickers of the 1960s, The Gentle Good is at once contemporary and timeless.

Honest and tender vocals accompany intricate guitar parts and subtle string arrangements to draw the listener into a world of magic, mystery and calm. A captivating live performer, The Gentle Good delivers beautiful songs in English, Welsh and Spanish and weaves memorable tales throughout.

“Bonello is Nick Drake on ‘The Hitcher’, John Renbourn on ‘Amser’ and yet himself on all the tracks – recognisably Welsh but pulling in elements of American country and folk. The highlight comes at the end though in ‘Waiting For Jane’, which is simple, infectious folk sublimity. This is a train you want to catch.” Review of ‘Dawel Disgyn’ EP by Wyl Menmuir – FLY Global Music Culture: Europe

28/29

Gareth Bonello

Track: Dawel Disgyn taken from the debut EP released in 2007

20 Courtenay Rd, Splott Cardiff/Caerdydd CF24 2JQ

T +44 (0)7849 829 806

[email protected] www.myspace.com/gentlegood

theGentleGOOd

Page 16: Music from Wales

BYD O GERDDORIAETH O GYMRu / WORlD MuSIC FROM WAlES

Gan dynnu ar felodïau traddodiadol Cymru, ei gwlad enedigol, ac ar draddodiad gitâr Bert Jansch a thraddodiad y Blues Americanaidd, mae caneuon Georgia, sydd wedi eu seilio ar y delyn, yn asiad swynol o’r gwerin a chanu’r enaid.

Gyda geiriau Cymraeg a Saesneg, mae ei chaneuon yn aml yn defnyddio delweddau o arfordir gorllewin Cymru i ganolbwyntio ar natur felancolaidd ac unig perthynas bersonol.

“Dyma gywair ardderchog” Adam Walton, BBC Radio Wales

Drawing from the traditional melodies of her native Wales, the sixties finger-picking guitar tradition of Bert Jansch and the American Blues tradition, Georgia’s harp-based songs are an intriguing blend of folk and soul.

Writing in both Welsh and English, her lyrics often use the imagery of the west Wales coastline to focus on the melancholy and often lonely nature of personal relationships.

“Such excellent tuneage” Adam Walton, BBC Radio Wales

30/31

GeOrGiaruthWilliams

Georgia Ruth Williams

Track: Ocean

Morven Ffordd Ddewi Aberystwyth SY23 1EU

M +44 (0)78172 12603

[email protected] www.myspace.com/georgiaruthwilliams

Page 17: Music from Wales

Mae’r Cyngor Prydeinig yng Nghymru yn cysylltu pobl gyda cyfleoedd dysgu a syniadau creadigol o Gymru er mwyn adeliadu perthnasau hir dymor o gwmpas y byd.

The British Council in Wales connects people with learning opportunities and creative ideas from Wales to build lasting relationships around the world.

cynGOr prydeiniG cymruBritish cOuncil Wales

BYD O GERDDORIAETH O GYMRu / WORlD MuSIC FROM WAlES 32/33

28 Plas y Parc / Park PlaceCaerdydd / CardiffCF10 3QE

T +44 (0)29 20344792britishcouncil.org

cynGOr celFyddydau cymruarts cOuncil OF Wales

Cyngor Celfyddydau Cymru yw’r corff sy’n datblygu ac yn ariannu’r celfyddydau yng Nghymru. Darperir ein prif ffynhonnell incwm a’n fframwaith strategol gan lywodraeth Cynulliad Cymru. Rydym hefyd yn buddsoddi arian y loteri Genedlaethol, a ddyrennir i ni gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn llundain.

Arts Council of Wales is the development and funding body for the arts in Wales. Our main source of income and strategic framework are provided by the Welsh Assembly Government. We also invest National lottery funds, allocated to us by the Department of Culture, Media and Sport in london.

BYD O GERDDORIAETH O GYMRu / WORlD MuSIC FROM WAlES

9 Stryd yr Amgueddfa / Museum PlaceCaerdydd / CardiffCF10 3NX

T +44 (0)29 20376500artswales.org.uk celfcymru.org.uk

Page 18: Music from Wales

BYD O GERDDORIAETH O GYMRu / WORlD MuSIC FROM WAlES 34/35

seFydliad cerddOriaeth GymreiGWelsh music FOundatiOn

Mae’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig (SCG) yn bodoli i“gynorthwyo datblygu’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru trwy gymorth busnes arbenigol a chynrychiolaeth a arweinir gan y diwydiant”.

Mae’r SCG yn gwneud hyn mewn nifer o wahanol ffyrdd gan gynnwys seminarau a gweithdai i fusnesau cerddoriaeth, ein gwasanaeth cyngor a gwybodaeth, cydlynu cenadaethau masnachu i gwmnïau sy’n dymuno allforio, cyfeirio at gymorth busnes a chynrychioli angen y diwydiant i’r llywodraeth. Mae’r SCG hefyd yn sicrhau bod anghenion penodol ein diwydiant iaith Gymraeg yn cael eu nodi a’u trin.

Mae cyfeirlyfr ar-lein y SCG (gweler www.welshmusicfoundation.com) yn cynnwys dros 2,000 o fusnesau a gwasanaethau cerddoriaeth sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, y mae dros 200 ohonynt yn ffurfio ein grwp Rhanddeiliaid craidd. Os ydych yn chwilio am unrhyw beth sy’n ymwneud â cherddoriaeth yng Nghymru – o gwmnïau recordio i gynhyrchwyr, lleoliadau a gwyliau i hyfforddiant a chyrsiau coleg, rheolwyr a stiwdios – hwn yw’r lle i chwilio.

Mae’r SCG yn cael ei gyllid craidd gan lywodraeth Cynulliad Cymru fel rhan o’i strategaeth i gefnogi’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Welsh Music Foundation (WMF) exists “to assist in the development of the music industry in Wales by way of specialist business support and industry led representation”.

WMF does this in a number of different ways including seminars and workshops for music businesses, our advice and information service, coordinating trade missions for companies looking to export, signposting to business support and funding and representing the need of the industry to Government. WMF also ensures that the particular needs of our Welsh language industry are identified and addressed.

WMF’s online directory (see www.welshmusicfoundation.com) is a window to over 2000 music businesses and services based in Wales, over 200 of which make up our core Stakeholder group. If you are looking for anything to do with music in Wales – from record labels to publishers, venues and festivals to tuition and college courses, management to studios – this is the place to look.

WMF is core funded by the Welsh Assembly Government as part its strategy to support the creative industries in Wales.

33-35 West Bute StreetBae Caerdydd / Cardiff BayCaerdydd / Cardiff CF10 5lH

T +44 (0)29 20494110welshmusicfoundation.comenquiries@welshmuicfoudnation.com

celFyddydau rhynGWladOl cymruWales arts internatiOnal

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru (CRhC) yn bartneriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Cyngor Prydeinig: mae’n gweithio i hyrwyddo gwybodaeth am ddiwylliant cyfoes o Gymru ac i annog cyfnewid a chydweithio rhyngwladol. Trwy gyfrwng ein prosiectau a mentrau, ein nod yw helpu adeiladu cyd-destun rhyngwladol deinamig i’r celfyddydau yng Nghymru.

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn gweithio i hyrwyddo a datblygu arfer broffesiynol ar draws pob ffurf ar gelfyddyd, gan ddarparu gwybodaeth am y celfyddydau yng Nghymru i sefydliadau diwylliannol ac ymarferwyr tramor a chefnogi cyfleoedd rhyngwladol trwy ein rhaglenni a chynlluniau ariannu.

Sefydlwyd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ym 1997 gan gydnabod mai’r ffordd orau i hyrwyddo proffil Cymru dramor a datblygu gwaith rhyngwladol fyddai trwy gyfrwng asiantaeth ar y cyd gan gynnig un man hygyrch ar gyfer cyflwynwyr, rhaglenwyr ac ymarferwyr fel ei gilydd.

Wales Arts International (WAI) is a partnership between the Arts Council of Wales and British Council: it works to promote knowledge about contemporary culture from Wales and encourage international exchange and collaboration. Through our projects and initiatives, we aim to help build a dynamic international context to the arts in Wales.

Wales Arts International works to support the promotion and development of professional practice across all artforms, providing information about the arts in Wales for cultural organisations and practitioners overseas, and supporting international opportunities through our programmes and funding schemes.

Established in 1997, Wales Arts International was set up out of recognition that both Wales’s profile overseas and the development of international working would be best served through a joint agency that provided a single access point for presenters, programmers and practitioners alike.

BYD O GERDDORIAETH O GYMRu / WORlD MuSIC FROM WAlES

28 Heol y Parc / Park PlaceCaerdydd / CardiffCF10 3QE

T +44 (0)29 [email protected]

Page 19: Music from Wales

Dros y dair mlynedd diwethaf mae Theatr Mwldan wedi cyd-gynhyrchu dros dri deg o brosiectau teithiol, sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth byd, cerddoriaeth draddodiadol a drama. Daeth y cwmni â llawer o berfformiadau ac artistiaid rhyngwladol eithriadol o bedwar ban byd i deithio yng Nghymru, a maent yn cynhyrchu prosiectau o fewn Cymru sydd ar gael ar gyfer teithiau byd eang. Yn ddiweddar gwobrwywyd Mwldan fel Cwmni llusern 2008/9 gan Gyngor Celfyddydau Cymru am eu gwaith teithiol a’u cynhyrchiadau cerddoriaeth byd.

Over the past three years, theatr Mwldan has co-produced more than thirty touring projects specialising in world music, traditional music and drama. Mwldan has brought many outstanding international acts and artists from over the world to tour in Wales and produced projects within Wales available for touring worldwide. Mwldan was recently awarded Beacon Company status 2008/9 by the Arts Council of Wales for its touring and production work in world music.

BYD O GERDDORIAETH O GYMRu / WORlD MuSIC FROM WAlES 36/37

theatr mWldan

Bath House Road Aberteifi / CardiganSA43 1JY

T +44 (0)1239 621200 [email protected] mwldan.co.uk

Trac yw’r Asiantaeth Datblygu Gwerin gyntaf yng Nghymru; ei rôl yw hyrwyddo a datblygu traddodiadau cerddoriaeth a dawns Cymru – yng Nghymru a thu hwnt.

Gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae Trac yn darparu gwasanaeth gwybodaeth, cylchgrawn am ddim a gwefan sy’n rhestru perfformwyr, digwyddiadau a chysylltiadau.

Yn lleol, mae Trac yn gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol a grwpiau datblygu i gynnal prosiectau mewn ysgolion a chymunedau. Yn genedlaethol, mae’n trefnu sesiynau hyfforddiant i gerddorion profiadol a fforymau i drafod materion sydd o bwys i’r byd gwerin.

Yn rhyngwladol, mae Trac yn trefnu teithiau cyfnewid i gerddorion ifanc ac yn cynrychioli cerddoriaeth draddodiadol Gymreig mewn rhwydweithiau Ewropeaidd.

Trac is Wales’s first Folk Development Agency; its role is to promote and develop the music and dance traditions of Wales – both within Wales and beyond.

With support from the Arts Council of Wales, Trac provides an information service, a free magazine, and a website listing performers, events and contacts.

On a local level, Trac works in partnership with local authorities and development groups to run projects in schools and communities. Nationally, it organises training sessions for experienced musicians, and forums to discuss issues that matter to the folk world.

Internationally, Trac arranges exchanges for young musicians, and represents Welsh traditional music in European networks.

trac

BYD O GERDDORIAETH O GYMRu / WORlD MuSIC FROM WAlES

Blwch SP 428 / PO Box 428Caerdydd / CardiffCF11 1DP

T +44 (0)29 20318863trac-cymru.org

Page 20: Music from Wales

38/39

The twelve performers and groups included in this directory were selected by a panel of music industry experts to provide a taste of world music from Wales. They are a small representation of the wealth of talented and exciting musicians, singer-songwriters and groups in the world music field that Wales has to offer.

Dewiswyd y deuddeg artist neu grwp sydd wedi eu cynnwys yn y cyfeirlyfr hwn gan banel dethol o arbenigwyr yn y maes, er mwyn cynnig blâs o gerddoriaeth byd o Gymru. Detholiad bach iawn ydyw o’r wledd o grwpiau, cantorion, cerddorion a chyfansoddwyr yn y maes cerddoriaeth byd sydd gan Gymru i gynnig.

BYD O GERDDORIAETH O GYMRu / WORlD MuSIC FROM WAlES

2

5 6

y panel dethOlthe selectiOn panel

3 4

7

11 Einion Dafydd Cyngor Celfyddydau Cymru Arts Council of Wales

2 Eluned Hâf Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Wales Arts International

3 Siân James Cerddor Musician

4 Crispin Parry British underground

5 Huw Stephens DJ Radio 1

6 Andy Williams Welsh Music Foundation

7 Leah Zakss Y Cyngor Prydeinig British Council

Page 21: Music from Wales

design / dylunio. elfen.co.uk

www.wai.org.uk