modiwl 4: defnyddio cyfrif banc

40
Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Upload: naava

Post on 30-Jan-2016

99 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc. Amcanion y modiwl. Darparu a thynnu sylw at weithgareddau effeithiol y gellir eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth i ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o’r ‘manteision a’r anfanteision sy’n gysylltiedig â chyfrifon banc, gan gynnwys cardiau banc’.* - PowerPoint PPT Presentation

TRANSCRIPT

Page 1: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Page 2: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Amcanion y modiwl• Darparu a thynnu sylw at weithgareddau effeithiol

y gellir eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth i ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o’r ‘manteision a’r anfanteision sy’n gysylltiedig â chyfrifon banc, gan gynnwys cardiau banc’.*

• Rhannu gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael i ddatblygu gwybodaeth dysgwyr o dermau a geirfa ariannol.

• Darparu rhestr o adnoddau a gemau ar-lein defnyddiol wedi’u cysylltu â datblygu gwybodaeth dysgwyr o arian a bancio.

* Deilliannau dysgu Blwyddyn 6 a Blwyddyn 7 o'r elfen 'Rheoli arian' yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh).

Page 3: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Cysylltiadau â chydran rhifedd y FfLlRh

• Sut mae defnyddio cyfrif banc yn cysylltu â chydran rhifedd y FfLlRh?

• Mae’r sleidiau canlynol yn dangos ble yn y FfLlRh y mae’r modiwl gwaith hwn wedi’i dargedu.

• Gellir defnyddio’r gweithgareddau a ddarperir yn y modiwl hwn i ddatblygu canfyddiadau dysgwyr a’u gwybodaeth o gyfrifon banc a chardiau banc.

• Gall athrawon gyrchu a phenderfynu pa weithgareddau y gellir eu defnyddio yn ôl anghenion eu dysgwyr.

• Gall yr adnoddau dan sylw gael eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth gynradd a hyd at Gyfnod Allweddol 4.

Page 4: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Rheoli arian Mae dysgwyr yn gallu:

Blwyddyn 3 • defnyddio gwahanol gyfuniadau o arian i dalu am eitemau hyd at £2 a chyfrifo’r newid

• trefnu a chymharu eitemau hyd at £10• cofnodi arian a wariwyd a chynilion.

Blwyddyn 4 • defnyddio arian i dalu am eitemau hyd at £10 a chyfrifo’r newid• rhoi eitemau yn eu trefn a’u cymharu hyd at £100• adio a thynnu cyfansymiau llai na £10 gan ddefnyddio’r nodiant

cywir, e.e. £6.85 – £2.76• rheoli arian, cymharu costau rhwng adwerthwyr gwahanol a

phenderfynu beth y gellir ei brynu o fewn cyllideb benodedig.

Blwyddyn 5 • cymharu a rhoi eitemau mewn trefn o ran cost, hyd at £1 000• adio a thynnu cyfansymiau llai na £100 gan ddefnyddio’r nodiant

cywir, e.e. £28.18 + £33.45• cynllunio ac olrhain arian a chynilion drwy gadw cofnodion cywir• deall bod cyllidebu yn bwysig.

Blwyddyn 6 • defnyddio’r termau elw a cholled mewn gweithgareddau prynu a gwerthu a gwneud cyfrifiadau syml ar gyfer hyn

• deall y manteision a’r anfanteision sy’n gysylltiedig â defnyddio cyfrifon banc

• cymharu prisiau a deall beth sy’n cynnig y gwerth gorau am arian.

Page 5: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Rheoli arian Mae dysgwyr yn gallu:

Blwyddyn 7 • defnyddio elw a cholled mewn cyfrifiadau prynu a gwerthu• deall y manteision a’r anfanteision sy’n gysylltiedig â

chyfrifon banc, gan gynnwys cardiau banc• gwneud penderfyniadau gwybodus yn ymwneud â

gostyngiadau a chynigion arbennig.

Blwyddyn 8 • gwneud cyfrifiadau mewn perthynas â TAW, cynilo a benthyca

• gwerthfawrogi egwyddorion sylfaenol cyllidebu, cynilo (gan gynnwys deall adlog) a benthyca.

Blwyddyn 9 • cyfrifo gan ddefnyddio arian tramor a graddfeydd cyfnewid• deall y risgiau sy’n gysylltiedig â gwahanol ffyrdd o gynilo a

buddsoddi• disgrifio pam bod yswiriant yn bwysig a deall effaith peidio

â threfnu yswiriant.

Ymestyn • defnyddio a deall dulliau effeithlon o gyfrifo adlog• deall a dangos y broses o gyfnewid arian tramor• deall a chyfrifo treth incwm.

Page 6: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Lleoedd i gadw arian yn ddiogel

Tasg: Gofynnwch i’r dysgwyr restru’r lleoedd gan ddefnyddio’r dull Diemwnt 9 (y lle mwyaf diogel ar y brig a’r lleiaf diogel ar y gwaelod).

(Gweler Adnodd 1.)

Poced

Mewn jarSwyddfa’r

Post

Dwylo

Cadw-mi-gei

Pwrs neu

waled

Banc

O dan y gwely

Mewn sêff

Page 7: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Ymweld â bancEfallai yr hoffai ysgolion fynd â dysgwyr i ymweld â banc lleol neu drefnu i wirfoddolwr o’r banc (rhiant/gofalwr o bosib) ddod i’r ysgol i siarad â’r dysgwyr. Gall anerchiadau neu ymweliadau roi cyfle i ddysgwyr ganfod:• sut mae banciau’n gweithio• sut y gallai pobl dalu arian i mewn a thynnu arian allan• sut y caiff adneuon ac alldyniadau eu cofnodi (megis cyfriflenni banc neu lyfrau cynilo)• gwybodaeth ar sut i agor cyfrif banc• y math o gardiau banc a chyfrifon sydd ar gael iddyn nhw ar oedran arbennig• defnyddio ATM a rhifau PIN• bancio diogel ar-lein.

Cewch ragor o wybodaeth gan Money Advice Service (www.moneyadviceservice.org.uk), sy’n cynnig canllawiau am ddim a llawer o wybodaeth, ac yn www.pfeg.org/learningaboutmoney

Efallai yr hoffai ysgolion sefydlu (neu eu bod eisoes wedi sefydlu) banc yr ysgol. Mae rhai undebau credyd wedi helpu ysgolion i sefydlu eu banciau eu hunain sydd wedi cael eu ‘rhedeg’ gan y dysgwyr. I gael rhagor o wybodaeth am eich undeb credyd lleol ewch i www.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/regeneration/debt/affordcredit/?skip=1&lang=cy

Page 8: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Beth yw’r balans ym ‘manc geiriau ariannol’ y dysgwyr?

• Defnyddiwch weithgaredd paru cardiau i gael ychydig o fewnwelediad i ddealltwriaeth dysgwyr o derminoleg a geirfa ariannol (gweler Adnodd 2).

• Rhowch gyfle i ddysgwyr gynnal hunanasesiad i ganfod pa eiriau ariannol y maen nhw’n eu gwybod a pha eiriau yr hoffen nhw wybod mwy amdanyn nhw (gweler Pecyn Cymorth Cyllid Personol Llywodraeth Cymru sydd wedi cael ei gynnwys fel download gyda’r modiwl hwn).

• Gall gwahaniaethu ddigwydd yn naturiol yn dibynnu ar ba eiriau rydych chi’n penderfynu eu rhoi i’r dysgwyr yn y ddau weithgaredd.

Page 9: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Gweithgaredd paru cardiau

Debyd uniongyrchol

Peiriant ATM

Cerdyn debyd

Mewn credyd

Archeb sefydlog

Gorddrafft

Benthyciad

Cyfriflen banc

Yn y coch

Cyfrif

Ffi

Llog

(Gweler Adnodd 2.)

Page 10: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Daw’r gweithgaredd hwn o Pecyn Cymorth Cyllid Personol Llywodraeth Cymru. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys llawlyfr athrawongyda chynlluniau gwersi, taflenni adnoddau a geirfa. Mae’r pecyn cymorth yn strwythuro’r dysgu ar draws chwe thestun, ac yn fframwaith hynod o hyblyg o weithgareddau byr, anffurfiol. Mae’r daflen adnoddau a ddangosir yma yn gofyn i’r dysgwyr hunanasesu eu gwybodaeth am eiriau arian. Gellir defnyddio’r gweithgaredd i greu trafodaeth ar beth mae dysgwyr yn awyddus i’w ddysgu mwy amdano.

Page 11: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Sut ydyn ni'n talu am bethau?

Tasg B: Gan ddefnyddio bwrdd gwyn, nodiadau gludiog neu fel gêm, gofynnwch i’r dysgwyr lunio dwy restr: un o’r holl ddulliau arian parod o dalu am nwyddau sydd ar gael (h.y. darnau arian ac arian papur (gan gynnwys arian cyfred tramor os yw’n briodol)), a’r llall o’r holl ffyrdd heb arian parod y gellir talu am eitemau. Gall dysgwyr gael eu hannog i gynnwys dewis eang o ddulliau talu heb arian parod, o stampiau cynilo’r archfarchnad, talebau i gardiau banc. Tasg C: Gofynnwch i’r dysgwyr drefnu’r mathau o ddulliau talu i’r rhai lle mae’n rhaid cael cyfrif banc a’r rhai lle nad oes rhaid cael cyfrif banc.

Tasg A: Gyda dysgwyr iau (neu is eu gallu ond hŷn), gofynnwch y cwestiynau canlynol i gael dealltwriaeth o’u gwybodaeth flaenorol.*

Sut mae oedolion yn talu am eu siopa os nad oes arian parod neu newid ganddyn nhw?

Beth sy’n dda am dalu heb arian parod?

Beth sydd ddim cystal ynghylch talu heb arian parod?

Page 12: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Gallwch ddefnyddio’r cardiau ysgogi hyn fel pwyntiau trafod.

Pa mor hen mae’n rhaid i chi fod i ddefnyddio pob un o’r mathau hyn o arian?

Gyda pha rai o’r mathau hyn o ddulliau talu mae’n rhaid cael cyfrif banc?

Page 13: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Pa fathau o arian allai pob lle eu derbyn?

Pam allem ni ddefnyddio arian mewn cynifer o ffurfiau gwahanol? Diogelwch, cyfleustra a hawdd i’w brynu yw rhai o’r rhesymau.

Pa fath allai fod orau ar gyfer prynu eitemau gwahanol?

Page 14: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Cyfrifon banc

Syniad i’w drafod:

Beth mae cyfrif cynilo neu gyfrif cyfredol yn ei

gynnig i’w gwsmeriaid?

Syniad i’w drafod:

Pam ydyn ni’n defnyddio

cyfrifon banc?

Page 15: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Adnabod nodweddion cyfrif cynilo

Tasg: Rhowch daflen i’r dysgwyr o fanc ffug (enghraifft i’w weld yma).

(Gweler Adnodd 3.)

Page 16: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Syniadau i’w trafodDarllenwch y daflen yna atebwch y cwestiynau. • Pa fanc sydd wedi cyhoeddi’r daflen hon?• Faint o arian sydd ei angen arnoch i agor cyfrif?• Pa fath o gyfrif sy’n cael ei gynnig?• I bwy mae’r cyfrif?• Pwy all agor y cyfrif?• Beth sydd angen arnoch er mwyn agor y cyfrif?• Pa gyfradd llog sy’n cael ei gynnig?• Beth yw llog?• Sut ydych chi’n agor cyfrif?• Allwch chi feddwl am fanteision agor cyfrif cynilo?• Beth sydd yn y pecyn cychwynnol?• Pam ydych chi’n meddwl bod y banc yn cynnig pecyn cychwynnol?

Page 17: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Cyfrifon banc i bobl ifancMae ymchwil yn awgrymu bod nifer o blant yn eu harddegau yn fwyfwy awyddus i newid eu ‘cadw-mi-gei’ am gardiau plastig er mwyn iddyn nhw gael annibyniaeth ariannol, ac o ganlyniad mae banciau’n darparu cyfrifon i blant yn eu harddegau. Efallai fod gan nifer o ddysgwyr ryw fath o gyfrif cynilo sylfaenol sy’n cael ei weithredu gan eu rhieni/gofalwyr yn ôl pob tebyg. Dyma rai syniadau o’r hyn y mae amryw o fanciau yn ei gynnig i bobl ifanc.• O 11 oed, gallan nhw gael cerdyn arian parod i dynnu arian o ATM (ar yr amod bod arian yn y cyfrif).• O 13 oed, gallan nhw gael cerdyn debyd i brynu eitemau mewn siopau ac ar-lein (ar yr amod bod arian yn y cyfrif a swm cyfyngedig i’w wario bob dydd).• O 16 oed, gallan nhw gael mynediad i’w cyfrif drwy fancio symudol a bancio ar-lein.

Page 18: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Agor cyfrifTasg: Gofynnwch i’r dysgwyr ymchwilio (ar-lein neu ymweld â’u banc lleol) nodweddion allweddol y mathau o gyfrifon a allai gael eu cynnig iddyn nhw.

Esboniwch i’r dysgwyr bod rhaid i bobl ifanc ddangos prawf adnabod pan fyddan nhw’n agor cyfrif. Pam?

Pa mor hen mae’n rhaid i chi fod i agor

y cyfrif?

Oes angen unrhyw

ganiatâd rhieni?

Beth mae’r cyfrif yn ei gynnig?

Beth allwch chi ei ddefnyddio i brofi pwy ydych

chi?

Beth allwch chi ei ddefnyddio i brofi ble rydych

chi’n byw?

Page 19: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Bydd dysgwyr yn cael profiadau amrywiol o gael neu ddefnyddio cyfrif banc. Mae’n bosib y bydd cyfrifon cynilo ganddyn nhw. Gall fod cyfrif cyfredol gan rai ohonyn nhw a mynediad i’w harian, gall eraill ddefnyddio cyfrif banc bob wythnos neu bob mis, ond ni fydd rhai dysgwyr yn y grŵp hwn yn cael unrhyw un o’r profiadau hyn.

(Gweler Adnodd 4.)

Gweithgaredd trafod

Tasg: Mae Gareth yn 14 oed. Mae rownd bapur ganddo ac mae wedi cael bron £100 yn ddiweddar ar gyfer ei ben-blwydd. Mae’n bwriadu cynilo i brynu moped yr hoffai ei gael pan fydd yn 16 oed. Pa gyfrif banc yw’r dewis gorau?

Page 20: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Gweithgaredd trafodMae Gareth yn 14 oed. Mae rownd bapur ganddo ac mae wedi cael bron £100 yn ddiweddar ar gyfer ei ben-blwydd. Mae’n bwriadu cynilo i brynu moped yr hoffai ei gael pan fydd yn 16 oed. Pa gyfrif banc yw’r dewis gorau?

‘Cyfrif Cerdyn’ Banc y Sgwâr• Cerdyn i dynnu arian.• Taleb CD am ddim.• Dim llog.

‘Cyfrif Arddegau’ Banc y Dref• Llog o 3%.• Rhaid cadw o leiaf £1 yn y cyfrif.• Cerdyn i dynnu arian.

‘Cyfrif Cynilo’ Banc y Sgwâr• Dim cerdyn.• Llog o 5%.• Rhaid cadw o leiaf £100 yn y cyfrif.• Tynnu arian dros y cownter yn y banc.

‘Cyfrif Cynilo’ Banc y Dref• Llog o 6%.• Rhaid cadw’r arian yn y cyfrif am 3 blynedd.

Page 21: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Gall y gweithgaredd hwn:• arwain at drafodaethau am y mathau o gardiau, megis cerdyn debyd, cerdyn arian parod, cerdyn credyd• bod yn gyfle i wneud cyfrifiadau yn cynnwys llog syml• arwain at wneud gwaith ar adlog• arwain at drafodaethau ynghylch sut mae’r gyfradd llog ar gyfrif cynilo yn wahanol i’r gyfradd llog ar fenthyciad.

Pa gyfrif ddylwn i ei ddewis?

Beth mae’n ei olygu pan ddywedir bod

‘cerdyn’ yn dod gyda’r cyfrif?

Beth yw ystyr ‘llog’? Ydy e’n rhywbeth mae’r banc yn ei roi i mi, neu’n rhywbeth y mae’n rhaid i mi ei roi i’r

banc?

Ddylwn i fynd am gyfrif gyda chanran llog isel

neu uchel?

Page 22: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Cardiau sy’n gadael i chi fenthyca arian

a’i dalu yn ôl yn ddiweddarach

Mathau o gardiau credyd a debyd

Cardiau sy’n gadael i chi wario’r arian

sydd gennych eisoes neu o fewn

cyfleuster gorddrafft wedi’i gytuno

Cardiau credyd

Cardiau debyd

Cardiau siop

Cardiau rhagdaledig

Cardiau talu

Page 23: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Gwybodaeth am y mathau o gardiau credyd a debyd

Mae’r sleidiau canlynol yn rhoi gwybodaeth y gellir ei rhannu â’r dysgwyr er mwyn trafod cardiau banc a’u helpu i benderfynu ar fanteision ac anfanteision y mathau o gardiau credyd a debyd.

Mae gwybodaeth ar gael gan Money Advice Service. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.moneyadviceservice.org.uk

Page 24: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Cardiau credydCardiau credydMae cerdyn credyd yn ffordd o brynu pethau nawr a thalu’n ddiweddarach. Gallwch gael bil hyd at derfyn wedi’i chytuno a’i dalu wedi hynny, unwaith y mis fel arfer ar ddyddiad talu penodol.

I bwy mae’r cardiau hyn?Dim ond i bobl sy’n drefnus iawn gyda’u harian – fel arall mae risg gwirioneddol o fynd i ddyled. Hyd yn oed os ydych yn sefydlu debyd uniongyrchol i dalu’r swm llawn bob mis, os nad ydych yn cadw golwg ar eich cyfrif banc, gallech fynd i orddrafft pan ddaw’r taliad allan. Maen nhw ar gael i bobl dros 18 oed yn unig.

• Mae cardiau credyd yn rhoi diogelwch da yn erbyn twyll.• Mae cardiau credyd yn darparu diogelwch ychwanegol os oes

problemau gyda nwyddau a gwasanaethau rydych wedi’u prynu sy’n costio rhwng £100 a £30,000.

• Mae cardiau credyd yn cynnig ffordd hawdd i dalu am yr annisgwyl.• Os nad ydych yn talu’r swm llawn yn ôl codir llog ar yr arian rydych wedi’i

fenthyca.

Page 25: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Cardiau debydCardiau debydMae cerdyn debyd fel cyswllt uniongyrchol i’ch cyfrif banc – pan fyddwch yn siopa neu’n prynu gwasanaethau mae’r arian yn cael ei dynnu o’ch cyfrif yn syth.

I bwy mae’r cardiau hyn?Bron pawb sydd â chyfrif cyfredol safonol y DU, ond os ydych yn bwriadu ei ddefnyddio dramor dylech holi i weld pa daliadau a godir yn gyntaf. Mae cardiau debyd yn cael eu cynnig gyda rhai cyfrifon adnau erbyn hyn hefyd.

• Mae cardiau debyd yn cynnig rhywfaint o ddiogelwch yn erbyn twyll ond nid cymaint â chardiau credyd.

• Nid oes unrhyw fenthyca, ac eithrio os ydych yn mynd i mewn (neu dros) eich gorddrafft.

Page 26: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Cardiau siopCardiau siopMae cardiau siop yn fath o gerdyn credyd y gallwch ei ddefnyddio mewn un gadwyn o siopau yn unig.

I bwy mae’r cardiau hyn?Yn syniad da dim ond i bobl sy’n gwario llawer mewn siop arbennig, ac yn hollol sicr y byddan nhw’n talu’r bil bob mis.

• Maen nhw’n cynnig bargeinion a disgowntiau yn y siop.• Codir cyfradd llog uchel iawn os ydych yn mynd i ddyled neu’n talu

swm bach yn ôl bob tro yn unig.

Page 27: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Cardiau rhagdaledigCardiau rhagdaledigMae cerdyn rhagdaledig yn gweithio fel cerdyn rhodd – rydych yn ychwanegu arian ato a gallwch wario hyd at y swm hwnnw yn unig.

I bwy mae’r cardiau hyn?Cânt eu defnyddio gan deithwyr yn aml i gludo arian gwyliau, a chan unrhyw un heb gyfrif banc arferol – plant, plant yn eu harddegau a phobl â statws credyd gwael fel rheol.

• Maen nhw’n fwy diogel nag arian parod oherwydd gallwch ganslo’r cerdyn os ydych yn ei golli neu os yw’n cael ei ddwyn.

• Ni chânt eu derbyn ymhob man, ac efallai y byddwch yn talu ffioedd am eu defnyddio neu am ychwanegu arian atyn nhw.

Page 28: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Cardiau taluCardiau taluMae cardiau talu yn gweithio’n debyg i gardiau credyd – rydych yn prynu nawr ac yn talu’r arian yn ôl ar eich dyddiad ad-dalu misol – ond gyda cherdyn talu mae’n rhaid i chi dalu’r gweddill bob mis. Ni allwch gael bil a thalu’r swm yn ôl yn ddiweddarach.

I bwy mae’r cardiau hyn?Yn gyffredinol dim ond i bobl ar incwm uchel neu at ddefnydd busnes. Hefyd ceir rhai cardiau talu sylfaenol, ond does dim llawer o fantais iddyn nhw o’u cymharu â chardiau credyd.

• Nid oes unrhyw derfyn gwario yn aml ac maen nhw’n cynnig manteision ychwanegol.

• Os nad ydych yn talu’ch bil gall y ffioedd fod yn uwch na llog cerdyn credyd – a gall eich cerdyn gael ei ganslo.

Page 29: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Cwestiynau posibl• Pam mae angen cyfrif banc ar Lisa?• Pwy fydd yn cael mynediad i gyfrif Lisa?• Beth yw biliau tŷ?• Pa filiau eraill sy’n rhaid i Lisa eu hystyried?• Sut byddai Lisa yn gallu cael £500 o’i banc i dalu’r blaendal ar gyfer y fflat?• Beth all Lisa ei wneud i gael gwybod mwy am gyfrifon banc?

Mae Lisa yn 18 oed. Mae swydd ganddi a hoffai ei chyflogwr dalu ei chyflog yn syth i’w chyfrif banc. Hoffai Lisa symud i fflat ac mae’n rhaid iddi dalu rhent. (Disgwylir iddi dalu’r biliau tŷ hefyd.) Mae’r landlord yn gofyn am flaendal o £500.

Gweithgaredd trafod

Page 30: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Dewis o gyfrifon banc

Meddyliwch am y dewis o gyfrifon banc sydd ar gael i Lisa.(Gweler Adnodd 5.)

NodauNod y gweithgaredd hwn yw rhoi cyfle i’r dysgwyr drafod yr eirfa a ddefnyddir yn y pedair enghraifft (Adnodd 5) ac atgyfnerthu eu dealltwriaeth o’r termau yn y gweithgaredd paru cardiau blaenorol (Adnodd 2). Mae’n rhoi senario i’r dysgwyr sy’n eu galluogi i nodi manteision ac anfanteision cyfrifon banc.

Mae Lisa yn 18 oed. Mae swydd ganddi a hoffai ei chyflogwr dalu ei chyflog yn syth i’w chyfrif banc. Hoffai Lisa symud i fflat ac mae’n rhaid iddi dalu rhent. (Disgwylir iddi dalu’r biliau tŷ hefyd.) Mae’r landlord yn gofyn am flaendal o £500.

Page 31: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Cyfriflenni banc

Syniad i’w drafod:Pam gallai hi fod yn bwysig i gadw

cofnodion o wariant?

Syniad i’w drafod:

Beth mae cyfriflenni banc yn ei ddangos i ni?

Page 32: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Gweler Adnodd 6 (tudalennau 1–2).

Mae’r gweithgaredd yn nodi’r trafodion ar gyfrif banc Lisa drwy ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau canlynol:• cerdyn• debyd uniongyrchol• siec• ATM• credyd.

Tasg: Defnyddiwch yr wybodaeth i gwblhau’r gyfriflen banc bapur.

Nod: Nod y gweithgaredd hwn yw rhoi cyfle i’r dysgwyr adnabod y termau a ddefnyddir ar gyfriflen banc a defnyddio eu sgiliau rhifedd i gadw gweddill cyfredol.

Gweithgaredd 1: Deall y trafodion ar gyfriflen banc

Page 33: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Dyddiad Math Disgrifiad Talu allan Talu i mewn Gweddill (cyfredol)

4 Mai £215.50

5 Mai

7 Mai

10 Mai

13 Mai

17 Mai

20 Mai

23 Mai

25 Mai

Efallai yr hoffech chi roi dewisiadau i’r dysgwyr ar gyfer y golofn hon, e.e.• cerdyn• debyd uniongyrchol• siec 000000• ATM neu beiriant tynnu arian• credyd.

Page 34: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Gweler Adnodd 6 (tudalennau 3–4). Tasg: Defnyddiwch y gyfriflen ar-lein brintiedig (ar dudalen 3) i ateb y cwestiynau a awgrymir (tudalen 4). Nid yw’n rhestr gyflawn o gwestiynau a gellir ymestyn y gweithgaredd drwy roi cyfle i’r dysgwyr greu eu cyfriflenni neu eu cwestiynau eu hunain.

Gweithgaredd 2: Darllen a deall cyfriflen banc ar-lein

Page 35: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Gweler Adnodd 6 (tudalennau 5–7). Tasg: Defnyddiwch yr wybodaeth a roddir (tudalen 5) am y dyddiadau pan wariodd Lisa arian, a’r debydau uniongyrchol sydd wedi digwydd, er mwyn cwblhau’r gyfriflen ar-lein brintiedig (tudalen 6).

Gweithgaredd 3: Adnabod trafodion a chyfrifo gweddill

cyfredol

Page 36: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Gweler Adnodd 7.

Mae’r gweithgaredd ‘ymarferol’ hwn yn gweithio orau pan fydd dysgwyr yn gweithio mewn parau neu grwpiau bach yn hytrach nag ar eu pennau eu hunain.

Nod: Mae’r dysgwyr yn darllen stori am fywyd oedolyn a’r trafodion ariannol sy’n digwydd yn ystod mis arferol.

Gan ddefnyddio’r trafodion wedi’u lamineiddio a’r gwerthoedd arian, mae’r dysgwyr yn cwblhau fersiwn mawr (A3) o gyfriflen banc Philip, gan gadw golwg ar y gweddill cyfredol, y codau a ddefnyddir ar gyfriflenni banc a’r dyddiadau pan ddigwyddodd y trafodion.

Gall athrawon ganiatáu i’r dysgwyr ddefnyddio cyfrifianellau, yn dibynnu ar allu’r grŵp.

Anelir y dasg at ddysgwyr mwy galluog a thalentog er bod modd ei gwahaniaethu drwy ddarparu mwy o wybodaeth ar y gyfriflen banc, addasu’r stori gyda gwerthoedd arian a geirfa a fydd yn cefnogi’r nodau dysgu ar y lefel sy’n ofynnol ar gyfer y grŵp.

Gweithgaredd 4: Wythnos Philip

Page 37: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Arian Philip – wythnos ym mis Rhagfyr

Wythnos ym mis Rhagfyr . . . Cafodd Philip drafferth yn ceisio mynd drwy fis Tachwedd heb ddefnyddio’i orddrafft. Yn y pendraw, ar 30 Tachwedd roedd ei falans agoriadol yn £12.45 yn y coch. Ond, roedd Philip wedi gwneud llawer o waith goramser ym mis Tachwedd ac fe gafodd bron £1,000 ei dalu i mewn i’w gyfrif banc ddydd Gwener 1 Rhagfyr. Roedd mor hapus aeth at yr asiant teithio lleol y bore dydd Sul wedyn. Talodd am wyliau munud olaf dros Nadolig ar ei gerdyn debyd, a thalu ychydig yn fwy nag un rhan o dair o’r cyflog roedd e newydd ei gael! Ychydig ddyddiau wedyn, roedd Philip yn y dref gyda ffrind ac fe gododd arian parod o’r peiriant twll yn y wal. Roedd e’n bwriadu codi £115, ond dim ond papurau £20 oedd ar gael yn y peiriant . . .  Tasg: Ewch ymlaen i ddarllen y stori a chwblhewch y gyfriflen banc.

(Gweler Adnodd 7.)

Page 38: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Gwefannau ac adnoddauwww.pfeg.org

• Pecyn Cymorth Cynradd Fy Arian (lawrlwythiad)

• Dysgu am Arian yn yr Ystafell Ddosbarth Gynradd (lawrlwythiad)

www.barclaysmoneyskills.com/Information/Resource-centre/School-Children.aspx

• Pedwar Pecyn Adnoddau Sgiliau Arian Barclays i ddadlwytho ar gyfer dysgwyr 4 i 7 oed, dysgwyr 7 i 11 oed, dysgwyr 11 i 14 oed a dysgwyr 14 i 16 oed.

www.moneysense.natwest.com/schools/resources/

• Rheoli’ch arian (adnodd ar-lein i'w gyrchu gan athrawon a myfyrwyr)

www.nationwideeducation.co.uk

• Sgiliau Arian: gemau, taflenni ffeithiau a thaflenni gwaith i ddysgwyr 4 hyd at 18 a fwy (adnoddau argraffadwy a gemau ar-lein)

www.dysgu.cymru.gov.uk

• Rhifedd: addysg ariannol

Page 39: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Adding up to a lifetimeAdnodd ar-lein rhad ac am ddim yw hwn o’r enw Adding up to a lifetime sy’n dilyn pedwar cymeriad a sut maen nhw’n delio â sefyllfaoedd ariannol. Mae’n addas ar gyfer Cyfnodau Allweddol 3 i 5. Mae’r pecyn yn cynnwys tua 25 awr o weithgareddau dysgu y gall dysgwyr eu cwblhau ar-lein. Caiff ei gyflwyno fel pum modiwl:• Bywyd fel myfyriwr (14 oed a hŷn)• Bywyd gwaith• Perthnasoedd• Bywyd newydd• Ymddeoliad egnïol.

www.addinguptoalifetime.org.uk

Mae tiwtorial sain gyda phob

modiwl y gallwch wrando

arno yn Gymraeg neu yn

Saesneg.

Page 40: Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Gemau ar-leinhttps://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/_layouts/NGFLSolution/MaterialDescription.aspx?LearningMaterialId=39431&lang=cy gemau arian

https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial-literacy//cym/all-the-way-to-the-bank.htmlGêm ar-lein sy’n annog dysgwyr i gadw golwg ar yr hyn maen nhw’n ei wario a’r arian y maen nhw’n ei dderbyn ac yna mae’n gofyn iddyn nhw roi’r gweddill yn y banc.

www.funtosave.orgGêm ryngweithiol aml-lefel hawdd ei defnyddio i addysgu plant ifanc am egwyddorion craidd arian a manteision cynilo. Mae cymorth a deunyddiau adnoddau yn cael eu darparu i athrawon a rhieni/gofalwyr.

www.moneymatterstome.co.uk/interactive-workshops/atm.htmATM rhyngweithiol sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr ymgyfarwyddo â nodweddion defnyddio ATM, e.e. PIN 4 digid, ymholiad gweddill, tynnu arian mewn lluosrifau o 10, cael gweddill printiedig, ac ati.