menywod a chlefyd y galon -...

of 41 /41
Menywod a chlefyd y galon Lleihau’r risg i chi? Hina Shah, Wedi dod drwyddi

Author: dolien

Post on 16-Jun-2019

218 views

Category:

Documents


0 download

Embed Size (px)

TRANSCRIPT

Menywoda chlefyd y galonLleihaur risg i chi?

Hina Shah,Wedi dod drwyddi

MENYWOD GO IAWN, STORAU GO IAWNPun bynnag a ydych wedi byw gydag afiechyd y galon erioed, newydd gael diagnosis neu ddim ond wedi penderfynu rhoi mwy o sylw i iechyd y galon, gall fod yn daith anodd ac unig.

Yn ein hadran newydd, Ystafell y Menywod, cewch sgwrsio a rhannu profiadau gyda phobl debyg i chi. Yma, fe welwch yr atebion i gwestiynau anodd a phroblemau syn codi o ddydd i ddydd.

Ewch i bhf.org.uk/women

Beth os oes clefyd y galon arna i? Meddyginiaethau 54Triniaethau 55Adsefydlu cardiaidd 56Mynd yn l i fyw bywyd bob-dydd 59

Beth arall ddylwn i ei wybod? Y bilsen atal cenhedlu 65Y menopos ac HRT 66Gair i gloi 68

Mudiadau defnyddiol 72Adnoddau gan y British Heart Foundation 74

Rhagair 02 Beth yw clefyd cardiofasgwlaidd?Clefyd coronaidd y galon 06Angina 08Trawiad ar y galon 10Methiant y galon 15Strc 16

Sut alla i leihau fy risg? Ffactorau risg 20Archwiliadau iechyd 24Smygu 26Pwysedd gwaed 29Colesterol 30Diabetes 32Pwysau a sip y corff 34Gweithgarwch corfforol 36Hanes teuluol 40Oedran 40Ethnigrwydd 42Deiet iachus 45Alcohol 46Straen 48

CYNNWYS

Maer holl fenywod syn ymddangos yn y llyfryn hwn boed hynny fel astudiaethau achos neu mewn ffotograffau yn gysylltiedig r British Heart Foundation mewn rhyw ffordd.

Dyn yn marw o drawiad ar y galon. Mae honnon stori gyffredin. Ond pryd oedd y tro diwethaf i chi glywed am fenywn marw o glefyd y galon? Efallai na chlywsoch chi erioed ond dydi hynny ddim yn golygu nad yw problemaur galon yn effeithio ar fenywod.

Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn lladd cynifer o fenywod ag o ddynion sef dros un o bob pedwar. Mae clefyd cardiofasgwlaidd, neu CVD, yn golygu pob clefyd syn ymwneud r galon a chylchrediad y gwaed, yn cynnwys clefyd coronaidd y galon (CHD angina a thrawiad ar y galon), a strc.

Ystyriwch y ffeithiau: Mae CHD yn lladd bron dair gwaith mwy o fenywod

na chanser y fron. Mae dros 50,000 o fenywod yng Nghymrun byw

gyda CHD.

O ystyried y ffigurau hyn, maen peri pryder i feddwl nad yw rhai menywod yn sylweddoli y gallen nhw gael clefyd y galon. Gall hyn eu gwneud yn llai ymwybodol o ffactorau risg clefyd y galon, yn llai tebygol o nabod symptomau trawiad ar y galon, ac yn llai parod i ffonio 999 pan gn nhw drawiad a gall hynny olygu eu bod yn llawer llai tebygol o ddod trwyddi.

Gwaethar modd, gan fod menywod yn tueddu i fod yn hn na dynion yn dechrau cael problemau ar y galon, maen gallu cymryd mwy o amser iddyn nhw wella ar l mynd ir ysbyty. Hefyd, mae menywod yn llai tebygol o ddilyn rhaglen adsefydlu ar l cael pwl ar y galon ac mae hynnyn bwysig iawn er mwyn gwella a mwynhau iechyd hirdymor wedyn.

Fel menyw, maen hollbwysig i chi wybod bod clefyd y galon yn gallu effeithio arnoch chi. Y newyddion da yw bod modd atal clefyd y galon yn aml iawn. Yn y llyfryn hwn, byddwn yn edrych ar ffeithiau, ystadegau a ffactorau risg clefyd y galon, a sut y gallwch chi helpu i sicrhau eich bod yn llai tebygol oi gael.

Pe bai fy ngr wedi cael poenau fel ges i, dw in siwr y byddai rhywun wedi meddwl efallai ei fod yn cael trawiad ar y galon.

Karen, 40 oed

Dywr llyfryn hwn ddim yn cymryd lle cyngor gweithwyr iechyd proffesiynol ond dylaich helpu i ddeall beth y maen nhwn ei ddweud wrthych

Rhag

air

020

3

Nodiadau.

Beth yw CLEFYD CARDIOFASGWLAIDD?

040

5

Beth yw clefyd cardiofasgwlaidd?Mae clefyd cardiofasgwlaidd (CVD) yn golygu pob clefyd syn ymwneud r galon a chylchrediad y gwaed, yn cynnwys clefyd coronaidd y galon (angina a thrawiad ar y galon), methiant y galon a strc.

Clefyd coronaidd y galonGall clefyd coronaidd y galon (CHD) achosi angina neu drawiad ar y galon. Mae CHD yn dechrau pan fydd eich rhydwelau coronaidd (y rhydwelau syn cario gwaed ac ocsigen ich calon) yn mynd yn gul am fod stwff brasterog yn crynhoi yn eu waliau yn raddol. Gelwir y cyflwr hwn yn atherosclerosis a gelwir y stwff brasterog yn atheroma.

Ymhen amser, gall eich rhydwelau fynd mor gul fel na all digon o waed lifo trwyddynt i gario ocsigen i gyhyr y galon. Gall hyn achosi angina (tudalen 8).

Ydych chi mewn perygl?Mae rhai ffactorau syn eich gwneud yn fwy tebygol o ddatblygu CHD. Rydym yn eu rhestru ar dudalen 20. Os oes un neu fwy or ffactorau risg hyn yn berthnasol i chi, peidiwch ag anobeithio mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i leihauch risg (tudalennau 26-48). Hyd yn oed os nad oes yr un or ffactorau risg yn berthnasol i chi, gallwch leihauch risg o gael CHD trwy ddilyn yr un cyngor.

Mae dros 50,000 o fenywod Cymrun byw gyda chlefyd coronaidd y galon. Mae bron 1,800 o fenywod Cymrun marw ohono bob blwyddyn.

Clef

yd c

oron

aidd

y g

alon

060

7

AnginaMae anginan symptom o glefyd coronaidd y galon. Angina ywr boen neur teimlad anghyfforddus a gewch yn eich brest pan na all digon o waed ac ocsigen lifo trwych rhydwelau ir galon.

Yn aml, mae anginan achosi teimlad trwm, teimlad tynn neu boen mud, parhaus yn eich brest. Gall symud ir breichiau, y gwddf, yr n, y cefn neur stumog neu efallai mai dim ond mewn un neu fwy or mannau hyn y byddwch yn ei deimlo.

Dydi pawb ddim yn cael yr un symptomau. Mae rhai menywod yn cael poen difrifol neu deimlad anghyfforddus iawn ac eraill yn teimlo ychydig yn anghysurus. Gall rhai menywod fynd yn fyr eu gwynt hefyd.

Yn aml, daw pwl o angina ar l gweithgarwch corfforol neu gynnwrf emosiynol. Gall ddod yn ystod tywydd oer neu ar l pryd o fwyd.

Os cewch ddiagnosis o angina, fe gewch feddyginiaethau i atal neu liniaruch symptomau. Fel rheol, maer symptomaun cilio ar l gorffwys am rai munudau neu gymryd eich meddyginiaeth. Os bydd patrwm eich symptomaun newid, dylech siarad ch meddyg ar unwaith.

Mae dros 36,000 o fenywod Cymrun dioddef o angina.

I gael gwybod rhagorArchebwch ein llyfryn Angina (HIS6) and Rheolich angina (G534/W).

Angi

na08

09

Trawiad ar y galon Mae trawiad ar y galon yn digwydd pan fydd ceulad gwaed (clot) yn blocio rhydweli goronaidd. Os bydd yr atheroma yn eich rhydwelau yn mynd yn ansefydlog, gall darn ohono dorrin rhydd a ffurfio clot gwaed. Os bydd y clot yn blocio rhydweli goronaidd ac yn atal y cyflenwad o waed ac ocsigen rhag cyrraedd cyhyr y galon, gall wneud difrod parhaol i gyhyr y galon. Gelwir hyn yn drawiad ar y galon (neun gnawdnychiant myocardaidd).

Mae symptomau trawiad ar y galon yn amrywio o berson i berson. Maent yn cynnwys: Poen neu deimlad anghyfforddus yn y frest,

a all symud ir breichiau, y gwddf, yr n, y stumog neur cefn.

Poen mud neu deimlad trwm yn eich brest. Poen neu deimlad anghyfforddus yn eich brest,

syn teimlo fel diffyg traul ond syn gwneud i chi deimlon anhwylus yn gyffredinol.

Teimlon gyfoglyd, yn chwyslyd, yn fyr eich gwynt, yn ben-ysgafn neun gyffredinol anhwylus, yn ogystal chael poen neu deimlad anghyfforddus yn eich brest.

Mae dros 15,000 o fenywod yng Nghymru wedi dod dros drawiad ar y galon.

I gael gwybod rhagorArchebwch ein llyfryn Deall trawiad ar y galon (HIS7W) an taflen Heart attack? Know these symptoms (G499).

Peidiwch gamblo ch bywydYn ystod trawiad ar y galon, gallaich calon ddatblygu rhythm a allai fygwth eich bywyd ac arwain at ataliad y galon. Bryd hynny, rydych yn mynd yn anymwybodol, yn stopio anadlu ach calon yn stopio curo. Felly, os credwch eich bod yn cael trawiad ar y galon, rhaid i chi ffonio 999 ar unwaith a gofyn am ambiwlans.

Mae menywod yn tueddu i aros yn hirach na dynion cyn ffonio 999 ar l dechrau cael symptomau trawiad ar y galon. Dyma rai rhesymau: Mae menywod yn llai tebygol o adnabod y symptomau, dydyn nhw ddim eisiau gwneud ffws, neu mae arnyn nhw ofn creu embaras os nad ywr sefyllfan ddifrifol wedir cyfan. Ond gall oedi olyguch bod yn llawer llai tebygol o ddod trwyddi.

Os credwch eich bod yn cael trawiad ar y galon, peidiwch ag oedi! Po gyntaf y ffoniwch 999 am ambiwlans, mwyaf tebygol y byddwch o ddod trwyddi.

Fyddech chi ddim yn oedi pe bai bywyd ffrind neu berthynas yn y fantol, felly peidiwch gamblo ch bywyd eich hunan. Os na fyddwch yn siwr, ffoniwch 999. Gallai achub eich bywyd.

Traw

iad

ar y

gal

on10

11

Astudiaeth achos: JacquelineDim ond 39 oed oedd Jacqueline pan gafodd drawiad ar y galon. Roedd wedi bod yn ffit erioed felly roedd yn hollol annisgwyl. I ddechrau, cafodd dri diwrnod o boen yn ei brest oedd yn teimlo fel camdreuliad. Yn ogystal, cafodd gyfnod byr or bendro, chwysu a theimlo fel taflu i fyny. Sylweddolodd fod rhywbeth oi le a gofynnodd iw brawd fynd hi ir ysbyty. Yno, gwelwyd ei bod wedi cael trawiad ar y galon ac, yn ffodus, cafodd driniaeth i achub ei bywyd.

Ers hynny, mae Jacqueline wedi bod yn gwneud ymdrech i gadwi phwysau a lefel ei cholesterol i lawr. Dechreuodd gerdded bob dydd ac, ymhen tipyn, roedd mor ffit ag yr oedd cynt. Meddai: Dw i wrth fy modd dw i wedi cael ail gyfle.

Peidiwch ag anwybyddur symptomau.Os cewch boen yn eich brest neu unrhyw rai or symptomau a ddisgrifir ar dudalen 10, ffoniwch 999 am ambiwlans ar unwaith. Efallai y bydd eich symptomaun hollol ddiniwed, ond gallech fod yn cael trawiad ar y galon. Peidiwch mentro dim ffoniwch 999 yn syth.

Traw

iad

ar y

gal

on12

13

Methiant y galon Mae methiant y galon yn digwydd pan fydd cyhyr y galon yn cael trafferth pwmpio gwaed o gwmpas y corff. Un or rhesymau mwyaf cyffredin dros hyn yw bod trawiad ar y galon yn niweidio cyhyr y galon.

Yn ogystal, gall pwysedd gwaed uchel, problemau falfiaur galon, cyflwr ar y galon ers eich geni, cardiomyopathi (afiechyd ar gyhyr y galon) ac yfed gormod o alcohol achosi methiant y galon.Maer symptomaun amrywio o berson i berson, ond dymar prif rai: mwy blinedig nag arfer byr eich gwynt pigyrnau a thraed yn chwyddo.

Gwaethar modd, mae methiant y galon yn afiechyd hirdymor. Ond gyda thriniaeth feddygol a thrwy wneud newidiadau iw ffordd o fyw, mae llawer o bobl sydd methiant y galon yn gallu cael bywyd o ansawdd da a byw bywyd arferol o ddydd i ddydd.

Mae 15,000 o fenywod Cymrun byw gyda methiant y galon.

I gael gwybod rhagorArchebwch ein llyfryn Byw gyda methiant y galon (HIS8W) an DVD One step at a time living with heart failure (DVD5).

Met

hian

t y g

alon

141

5

Strc Mae gwaith ymchwil yn dangos bod menywod yn fwy tebygol o gael strc na dynion. Yn ogystal, mae strc yn tueddu i effeithion fwy difrifol ar fenywod ac maen nhwn fwy tebygol o orfod cael gofal hirdymor.

Mae strc yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i ran och ymennydd yn cael ei atal er enghraifft os bydd clot gwaed yn blocio rhydweli syn carior gwaed ich ymennydd. Heb gyflenwad gwaed, gall celloedd yr ymennydd gael eu difrodi neu eu dinistrio ac felly gall strc effeithio ar y ffordd y maech meddwl neuch corff yn gweithio.

Os credwch efallaich bod chi neu rywun arall yn cael strc, mae angen gweithredun gyflym. Defnyddiwch y gair FAST i gofio beth yw symptomau strc a beth iw wneud: Facial weakness Gwendid yn yr wyneb Ydych

chin gallu gwenu? Ydich ceg neu un och llygaid yn gam? Arm weakness Gwendid yn y breichiau allwch

chi godir ddwy fraich? Speech problems Trafferthion siarad ydych

chin gallu siarad yn glir ac ydy pobl eraill yn eich deall yn siarad?

Time to call 999 Amser ffonio 999.

Os ywr symptomaun pasio ymhen munudau neu ychydig oriau ac yn diflannun llwyr cyn pen 24 awr, efallai mai pwl o isgemia dros dro neu TIA (a elwir weithiaun strc fach) a gawsoch ond peidiwch u hanwybyddu. Os cewch chir symptomau hyn neu os gwelwch nhw yn rhywun arall, ffoniwch 999 ar unwaith.

I gael gwybod rhagorFfoniwch y Gymdeithas Strc ar 0303 3033 100 neu ewch i www.stroke.org.uk

Str

c16

17

Ffaith: Mae bron 35,000 o fenywod Cymru wedi dod dros strc.

181

9

Sut alla i

LEIHAU FY RISG?

Nodiadau.

202

1Ff

acto

rau

risg

Ffactorau risgMae ffactor risg yn rhywbeth syn eich gwneud yn fwy tebygol o gael rhyw glefyd. Mae sawl ffactor risg ar gyfer clefyd coronaidd y galon (CHD) a strc. Sef:

Smygu Pwysedd gwaed uchel Colesterol uchel Dim digon o ymarfer corff Bod dros eich pwysau neun ordew Bod diabetes Bod hanes teuluol o glefyd y galon. Mae hyn

yn golygu bod eich tad, eich mam, brawd neu chwaer i chi wedi cael clefyd coronaidd y galon neu strc yn ifanc (o dan 65 i fenywod neu o dan 55 i ddynion).

Oedran Maer risg yn cynyddu wrth i chi heneiddio. Cefndir ethnig Mae pobl o gefndir De Asiaidd neu Affricanaidd

du yn fwy tebygol o gael CHD a strc. Maen ymddangos bod rhai ffactorau risg yn cael mwy o effaith ar y bobl hyn. Er enghraifft, mae pobl o gefndir De Asiaidd yn tueddu i roi pwysau o gwmpas eu canol, gan eu gwneud yn fwy tebygol o gael CHD, strc a diabetes. Gweler tudalen 42.

I gael gwybod rhagorArchebwch ein llyfryn Byw yn iach, calon iach (HIS25W) neu ein DVD Risking it (DVD21).

Gall y ffactorau isod eich gwneud yn fwy tebygol o gael CHD hefyd:

Tlodi Mae pobl ar incwm isel yn fwy tebygol o gael

ffactorau risg CHD a strc ac yn llai tebygol o ddewis ffordd o fyw iachus.

Yfed llawer o alcohol Eich ffordd o ddelio straen. Gweler tudalen 48.

Po fwyaf o ffactorau risg sydd gennych, mwyaf tebygol yr ydych o gael clefyd coronaidd y galon neu strc. Ac er na allwch newid eich holl ffactorau risg er enghraifft, allwch chi ddim newid eich oedran mae digon y gallwch ei wneud i leihaur risg y cewch glefyd y galon a gwarchod eich calon.

Beth bynnag ywch sefyllfa, gallwch leihau effaith eich ffactorau risg a helpu i atal CVD trwy geisio byw yn iach.

Astudiaeth achos: Sally Mayos, 50Fy stori bryd hynnyMae na hanes o glefyd y galon yn fy nheulu i, ond er fy mod in gwybod hynny, fe roddais i lawer o bwysau ymlaen. Roeddwn i byth a hefyd nhrwyn yn y cwpwrdd, yn chwilio am rywbeth iw fwyta. Mae asthma arnai ac ron in mynd yn fyr o wynt ac yn cael poenau ynfy nghymalau. Dim ond 52 oedd fy nhad pan fu farwo drawiad ar y galon ac ron i bron yn 50. Fe ges i fraw o sylweddoli hynny. Mi benderfynais i newid fy ffordd o fyw.

Fy stori yn awrMi ymunais i gwasanaeth cefnogi ffordd o fyw syn defnyddio adnoddau BHF, ac roedd eu help au cefnogaeth nhw yn hwb i mi. Roedd cymryd llai o fwydar fy mhlt yn hollbwysig. Doeddwn i ddim yn arfer bwyta llawer o ffrwythau ond erbyn hyn rwyn cael pum darn y dydd. Fe gymera i fanana neu afal yn lle pecyn o grisps. Dw i wedi dechrau mynd am dro gydar nos gyda fy merch ac rwy wedi bod yn nofio am y tro cyntaf ers 20 mlynedd. Dw i wrth fy modd. Roeddwn in cymryd tabledi at fy mhwysedd gwaed uchel ond, ar l colli tair stn, dw i wedi cael rhoir gorau iddyn nhw. Dydw i ddim yn cael cymaint o boen yn fy nghymalau ac mae gen i lawer mwy o egni.

222

3

Archwiliadau iechydYng Nghymru, os ydych dros 50 oed, mae gennych hawl i gael archwiliad iechyd gan eich meddyg teulu neu nyrs y practis.

Asesiad i ganfod pa mor debygol yr ydych o gael CHD ywr archwiliad iechyd. Weithiau, gelwir hyn yn asesiad o iechyd y galon neun asesiad risg cardiofasgwlaidd.

Ar sail canlyniadauch asesiad, bydd eich meddyg neuch nyrs yn eich cynghori beth y gallwch ei wneud i gadwch calon yn iach. Bydd y meddyg yn ystyried hefyd a oes angen triniaeth fel moddion i warchod eich calon.

Arch

wili

adau

iech

yd24

25

Smyg

u26

27

Smygu Rhoir gorau i smygu ywr un peth pwysicaf y gallwch ei wneud i wella iechyd y galon. Mae gwaith ymchwil yn dangos hefyd bod pobl sydd ddim yn smygu ond syn byw gyda smygwr yn fwy tebygol o gael CHD na phobl eraill sydd ddim yn smygu.

Wrth stopio smygu, rydych yn mynd yn llai tebygol o gael CHD. Ac, o fewn blwyddyn ar l stopio, maer risg wedi lleihau o tua hanner. Maen debygol y gwelwch hefyd eich bod yn teimlon iachach, na fydd aroglau annifyr ar eich dillad ach gwallt, eich bod yn cael mwy o flas ar eich bwyd a bod eich croen yn dangos llai o arwyddion heneiddio.

Mae rhai menywod yn gyndyn o stopio smocio am eu bod yn meddwl y byddan nhwn mynd yn dew. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn ennill peth pwysau ar l stopio smocio, ond mae peryglon iechyd dal ati i smygu llawer yn fwy na pherygl rhoi ychydig o bwysau ymlaen. Gallwch gollir pwysau trwy wneud rhagor o ymarfer corff a thorri i lawr ar eich calorau (gweler tudalennau 3439).

Os ydych am roir gorau iddi, maen hanfodol cael cefnogaeth. Holwch yn y feddygfa a oes nyrs neu gwnselydd a all helpu, chwiliwch am fanylion gwasanaeth lleol syn helpu pobl i roir gorau iddi, neu cysylltwch ag un or mudiadau a restrir ar dudalennau 7273. Gallech holich meddyg neu fferyllydd hefyd am therapi disodli nicotin (NRT) neu feddyginiaeth ich helpu i roir gorau iddi.

Astudiaeth achos: Angela59 oed oedd mam Angela pan fu hi farw o glefyd coronaidd y galon. Mae Angelan ei chofio fel un oedd yn smocio 40 y dydd ac yn byw ar smcs, caws a choffi. Byth ers iddi golli ei mam, mae Angela wedi gwneud ymdrech i fyw mor iach ag y gall. Mae wedi rhoir gorau i smygu ac maen gwneud ymarfer corff yn rheolaidd i gadwi phwysau i lawr.

Mae un menyw o bob pump yng Nghymrun smygun rheolaidd. Mae menywod syn smygu bron ddwywaith yn fwy tebygol o gael trawiad ar y galon menywod nad ydyn nhw erioed wedi smygu.

I gael gwybod rhagorArchebwch ein llyfryn Stop smoking (G118).

Pwys

edd

gwae

d28

29

Pwysedd gwaed Os ywch pwysedd gwaed yn aml yn uwch nar lefel a argymhellir, rydych yn dioddef o bwysedd gwaed uchel. Dylai pwysedd gwaed y rhan fwyaf o fenywod fod o dan 140/85mmHg. (Os oes diabetes neu CHD arnoch, neu os ydych wedi cael trawiad ar y galon neu strc, dylai fod o dan 130/80mmHg.)

Os ywch pwysedd gwaed yn uchel, rydych yn llawer mwy tebygol o gael trawiad ar y galon neu strc. Dywedir bod pwysedd gwaed uchel yn fygythiad distaw achos does dim symptomau gan amlaf. Yr unig ffordd o wybod a ywch pwysedd gwaed yn uchel yw ei fesur. Gall eich meddyg teulu neuch nyrs ei fesur. Os cewch archwiliad iechyd (gweler tudalen 24), caiff eich pwysedd gwaed ei fesur fel rhan or asesiad.

Gwnewch ragor o ymarfer corff (tudalen 36) Cadwch eich pwysaun iachus (tudalen 34). Cymerwch lai o halen (tudalen 44). Yfwch lai o alcohol (tudalen 46). Bwytwch fwy o ffrwythau a llysiau (tudalen 44).

Os bydd eich pwysedd gwaed yn dal yn uchel, dylaich meddyg roi meddyginiaethau iw ostwng er mwyn helpu i warchod eich calon.

Mae 20% o fenywod Cymrun cael triniaeth am bwysedd gwaed uchel.

I gael gwybod rhagorDarllenwch ein llyfryn Blood pressure (HIS4).

Cole

ster

ol30

31

Colesterol Stwff brasterog sydd yn eich gwaed yw colesterol. Maen hanfodol i helpu pob cell yn eich corff i weithio ond os bydd gormod ohono gall fod perygl i chi gael problemau r galon.

Proteinau syn cario colesterol o gwmpas y corff. Yr enw ar y cyfuniadau hyn o golesterol a phroteinau yw lipoproteinau.

Mae dau brif fath: LDL (lipoproteinau dwysedd isel) ywr math

niweidiol o golesterol. Weithiau, caiff ei alwn golesterol LDL.

Mae HDL (lipoproteinau dwysedd uchel) yn fath o golesterol syn gwarchod. Weithiau, caiff hwn ei alwn golesterol HDL.

Mae mwy o berygl i chi gael problemau r galon os yw lefel eich colesterol LDL yn uchel a lefel eich colesterol HDL yn isel.

Un or prif bethau syn achosi lefelau colesterol uchel yw bwyta gormod o fraster dirlawn. Fodd bynnag, mae lefelau colesterol rhai pobl yn uchel er eu bod yn bwyta deiet iachus. Er enghraifft, efallai eu bod wedi etifeddu cyflwr or enw gorgolesterolemia teuluol (FH).

Er mwyn eich helpu i ostwng lefel y colesterol ach gwneud yn llai tebygol o gael clefyd y galon, gallwch:

Fwyta llai o fraster. Bwyta llai o fwydydd syn cynnwys braster dirlawn

neu drawsfrasterau, fel cigoedd brasterog (e.e. selsig), cacennau a bisgedi.

Dewis llaeth a chynnyrch llaeth, fel iogwrt a chaws, sydd llai o fraster.

Defnyddio ychydig o olew olewydd, olew corn, olew blodau haul neu olew hadau rp yn lle brasterau dirlawn. Maer brasterau mono-annirlawn ac amlannirlawn yn y rhain yn iachach i chi.

Ar yr un pryd, gall gweithgarwch corfforol rheolaidd helpu i gynyddu lefel y colesterol HDL gwarchodol.

Os bydd angen, cewch feddyginiaethau fel statinau gan eich meddyg teulu i ostwng lefel eich colesterol a helpu i warchod eich calon. Os bydd eich meddyg yn meddwl bod perygl i chi gael clefyd y galon, gall argymell eich bod yn cymryd statin hyd yn oed os nad yw lefel y colesterol yn eich gwaed yn uchel.

Mae gan tua 60% o fenywod Prydain lefel uchel o golesterol yn eu gwaed.

I gael gwybod rhagorGweler ein llyfryn Reducing your blood cholesterol (HIS3).

Diab

etes

32

33

Diabetes Mae dau fath o ddiabetes. Dydi pobl sydd diabetes math 1 ddim yn cynhyrchu inswlin o gwbl. Dydi pobl diabetes math 2 ddim yn cynhyrchu digon o inswlin, neu dydi eu corff ddim yn gallu defnyddior inswlin a gynhyrchir yn iawn.

Mae diabetes math 1 yn llai cyffredin na diabetes math 2 ac, fel rheol, maen datblygu mewn plant ac oedolion ifanc. Does neb yn deall yn iawn beth syn achosi diabetes math 1.

Mae diabetes math 2 yn fwy cyffredin ac rydych yn fwy tebygol oi gael os ydych dros eich pwysau, os nad ydych yn gwneud llawer o ymarfer corff neu os oes gennych hanes o ddiabetes yn y teulu. Gall ethnigrwydd chwarae rhan hefyd mae adroddiadau wedi dangos bod diabetes math 2 ddwy waith a hanner yn fwy tebygol mewn menywod o dras Caribaidd Du a Phacistanaidd.

Os oes diabetes arnoch, maen bwysig iawn eich bod yn rheoli lefel y siwgr yn y gwaed, eich pwysedd gwaed a lefel y colesterol.

Bydd y pethau isod yn eich helpu i gadwch risg o gael CHD mor isel ag y bo modd:

Gwneud rhagor o ymarfer corff (tudalen 36). Bwyta deiet iachus a chytbwys (tudalen 44). Rheolich pwysau a sip eich corff (tudalen 34). Os nad oes diabetes math 2 arnoch, gallwch helpun fawr i leihaur risg oi gael trwy reoli eich pwysau a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd.

Mae menywod sydd diabetes o leiaf dair gwaith yn fwy tebygol o gael clefyd y galon a chylchrediad y gwaed na menywod sydd hebddo.

I gael gwybod rhagorGweler ein llyfryn Diabetes and your heart (HIS22).

Pwysau a sip y corff Os ydych dros eich pwysau neun ordew, rydych yn fwy tebygol o gael CHD. Gall cadwch pwysau a sip eich corff yn iachus helpu ich gwarchod rhag diabetes a phwysedd gwaed uchel, ac i reoli lefel y colesterol yn eich gwaed.

Maech sip yn bwysig hefyd. Os ydych yr un sip ag afal gydach pwysau wedii grynhoi o gwmpas eich canol rydych hyd yn oed yn fwy tebygol o gael CHD. Dylai menywod fesur llai nag 80cm (tua 31.5 modfedd) o gwmpas eu canol. Er mwyn colli pwysau neu leihau maint eich gwast:

Cymerwch lai o galorau trwy geisio osgoi braster a siwgr a chodi llai ar eich pt.

Gwneud mwy o ymarfer corff o ddydd i ddydd.

Ceisiwch beidio cholli pwysaun rhy gyflym. Maen iachach colli pwysaun araf ac yn gyson tua phwys neu ddau (rhwng hanner cilo a chilo) yr wythnos ac felly rydych yn fwy tebygol o beidio rhoir pwysau yn l. Bydd colli hyd yn oed ychydig o bwysau yn lles ich iechyd.

Mae dros hanner menywod Cymru naill ai dros eu pwysau neun ordew.

I gael gwybod rhagorArchebwch ein llyfryn Facts not fads Your simple guide to healthy weight loss (M2)

Pwys

au a

si

p y

corf

f34

35

Gwei

thga

rwch

cor

fforo

l36

37

Gweithgarwch corfforolMae cael mwy o weithgarwch corfforol yn un ffordd o leihaur risg o gael CHD. Yn ogystal, gall helpu i ostwng eich pwysau gwaed, gwella lefel y colesterol yn eich gwaed, rheolich pwysau ach gwneud yn llai tebygol o gael diabetes. Mae ymarfer corff yn ffordd dda o leihau straen hefyd.

Er mwyn gwarchod eich calon, dylech geisio cael rhywfaint o ymarfer corff bob dydd. Er lles eich iechyd, dylech wneud o leiaf 150 munud o weithgarwch corfforol cymedrol bob wythnos. Ceisiwch rannur 150 munud trwyr wythnos. Mae 5 x 30 munud yn un ffordd oi wneud ond mae pob 10 munud yn cyfrif. Bydd gweithgareddau cymedrol yn gwneud i chi deimlon gynhesach, anadlun drymach a gwneud ich calon guron gyflymach nag arfer ond dylech fod yn gallu sgwrsio.

Mae sesiynau 10 munud, o leiaf, o weithgaredd cymedrol yn achlysurol trwyr dydd yn ffordd dda i ddechrau. Ceisiwch wneud mwy o sesiynau 10 munud bob dydd. Gallwch gynnwys ymarfer corff yn eich trefn ddyddiol heb ymuno champfa na chymryd rhan mewn chwaraeon. Mae cerdded, dawnsio, seiclo a nofion lles i iechyd y galon.

Beth am roi cynnig ar un or pethau isod? Cerdded amser cinio, ir siopau, mynd ch plant

neuch wyrion ir ysgol. Dringor grisiau yn lle defnyddior lifft neur

grisiau symud. Gwneud gwaith t neu arddio. Cael DVD ffitrwydd ai ddefnyddio gartref.Ceisiwch gadw i symud a pheidio ag eistedd yn llonydd fwy nag sydd raid. Os oes raid i chi eistedd

yn hir, ceisiwch wneud hynny fesul tipyn, a chwilio am ffyrdd o dreulio mwy o amser yn symud eich corff.

Yn ogystal r 150 munud o weithgarwch, cofiwch gynnwys gweithgareddau ich helpu i gryfhauch cyhyrau o leiaf ddwywaith yr wythnos e.e. ymarfer gyda phwysau, gweithio gyda bandiau ymwrthedd, gwaith garddio trwm, neu gario llwythi trymion fel bagiau siopa. Gyda gweithgareddau cryfder, mae gofyn i chi ddefnyddioch cyhyrau yn erbyn grym neu bwysau ychwanegol a bydd yn gwneud ir cyhyrau deimlo mwy o dyndra nag arfer.

Pa fath bynnag o ymarfer corff a wnewch... Codwch lefel eich gweithgarwch yn raddol.

Dechreuwch yn araf ar lefel syn addas i chi yna, yn raddol, gwnewch y gweithgaredd yn amlach ac am fwy o amser.

Wrth wneud ymarfer corff, cychwynnwch yn araf am rai munudau a chynyddun raddol. Ar y diwedd, treuliwch ychydig o amser yn arafu ac yn oeri.

Os byddwch yn teimlon fyr eich gwynt, yn benysgafn neun anhwylus, neu os cewch boen, rhowch y gorau ir ymarfer ac ewch i weld eich meddyg teulu.

Os oes gennych afiechyd hirdymor neu bwysedd gwaed uchel, holwch eich meddyg teulu neu nyrs y practis cyn dechrau gwneud ymarfer corff yn rheolaidd.

Dydy dros hanner menywod Cymru ddim yn gwneud digon o weithgarwch corfforol i warchod eu calon.

I gael gwybod rhagorArchebwch ein llyfryn Get active, stay active (G12) neu os ydych dros 50 oed, Be active for life (G364).

Astudiaeth achos: Sarah-Jayne Herbert, 32Fy stori bryd hynnyBu Mam a Dad farw o drawiad ar y galon. Roedd Dad dros ei bwysau ac roedd diabetes arno. Roeddwn incael trafferth mawr mhwysau hefyd. Ron in pwyso19 stn, yn prynu dillad maint 20 ac ron in anhapus iawn am y peth. Dwin dysgu mewn ysgol gynradd ond doeddwn i ddim yn ddigon ffit i ymuno yn y gwersi chwaraeon. Roedd rhaid i mi eistedd ar yr ochr oherwydd fy asthma, fy maint ar ffaith nad oeddwn in ddigon ffit. Ron i mewn rhigol.

Fy stori yn awrGm fach gyffredin gydar plant yn fy nosbartha roddodd hwb i mi i golli pwysau. Fe wnaethonni geisio enwi mathau chwaraeon oedd yn dechrau phob llythyren yn yr wyddor 26 i gyd. Roedd fy nisgyblion yn awyddus i mi roi cynnig arnyn nhw, ac fe dderbyniais ir her. Fe roddais i gynnig ar bopeth o acwarobeg i loncian, o Quidditch i Swmba. Roedd fy neiet wedi bod yn llawn melysion a byrbrydau. Rhoddais ir gorau iw bwyta nhw a gwneud ymdrech fawr i fwytan iach. Wrth i mi ddechrau colli pwysau, roedd yn hwb i mi ddal ati. Mae gen i fwy o egni ac mae fy nghroen, fy ngwallt a fy iechyd cyffredinol wedi gwella.

38

39

40

41

Hanes teuluol Os cafodd eich tad, eich mam, neu frawd neu chwaer i chi glefyd cardiofasgwlaidd yn ifanc (o dan 65 i fenywod ac o dan 55 i ddynion), gallech chi fod yn fwy tebygol oi gael.

Gall ymddygiad y teulu fod yn ffactor hefyd. Mae arferion fel deiet sl neu smygu yn cael eu pasio i lawr mewn teuluoedd weithiau.

Os oes hanes o glefyd cardiofasgwlaidd yn y teulu, mae angen i chi gymryd mwy o ofal gydach ffactorau risg.

Maen hollbwysig i chi reolich pwysau, bwytan iach, cael digon o ymarfer corff a pheidio smygu.Allwch chi ddim newid eich cefndir teuluol ond fe allwch chi ddewis eich ffordd o fyw!

OedranWrth heneiddio, rydych yn fwy tebygol o ddatblygu CHD. Mae hormonaun helpu i amddiffyn menywod rhag CHD cyn cyrraedd y menopos, felly rydych yn llai tebygol na dynion o ddatblygur cyflwr tan hynny. Ond yn y blynyddoedd ar l y menopos, maech risg yn cynyddun fawr. Ac erbyn i chi gyrraedd eich 60au, maer bwlch rhwng dynion a menywod yn cau.

Han

es te

uluo

l / O

edra

n

Ethnigrwydd Maer risg yn uwch i fenywod o rai grwpiau ethnig. Er enghraifft, yng Nghymru a Lloegr, mae menywod o rai grwpiau o Dde Asia dros ddwywaith yn fwy tebygol na menywod eraill o farwn ifanc o CHD.

Fel oedran a hanes teuluol, dyma ffactor arall na allwch ei newid, ond gallwch gadwch risg mor isel ag y bo modd trwy fynd ir afael ffactorau risg y gallwch wneud rhywbeth amdanynt.

I gael gwybod rhagorEwch in gwefan i weld sut y gall ethnigrwydd effeithio ar iechyd y galon bhf.org.uk/ethnicity

Ethn

igrw

ydd

42

43

Astudiaeth achos: HinaRoedd Hinan gwneud cacennau Rice Krispies ar gyfer y teulu pan gafodd drawiad ar y galon. Roedd yn hollol annisgwyl. Doedd hi ddim wedi cael symptomau cyn hynny a doedd dim hanes yn y teulu. Yn ffodus, cafodd ei thrin yn ddiymdroi ac fe ddaeth drostin fuan.

Mae ein Llinell Gymorth y Galon wedi ei helpu i ddeall mwy am ei chyflwr ai meddyginiaethau a sut i ailddechrau byw bywyd normal. Mae Hinan poeni bod pobl yn meddwl nad yw pobl ifanc, ac yn enwedig menywod ifanc, yn cael afiechydon y galon ac maen awyddus i bobl gael gwybod y gwir.

Gall clefyd y galon daro unrhyw un, unrhyw bryd. Mae angen i ni fod yn ymwybodol or hyn rydyn nin ei fwyta, beth rydyn nin ei wneud a faint o ymarfer corff a gawn nin rheolaidd. Dydw i ddim yn gallu gwneud rhai pethau, fel mynd ar reids gwyllt mewn ffeiriau, ond ar y cyfan rwyn byw bywyd llawn a diddorol iawn.

Deie

t iac

hus

44

45

Pethau eraill a all effeithio ar iechyd y galon

Deiet iachus Bydd deiet iachus a chytbwys yn help i warchod eich calon.

Dymar prif bwyntiau:

Ceisiwch osgoi bwydydd syn cynnwys braster dirlawn a dewiswch frasterau iachach.

Bwytwch bysgod o leiaf ddwywaith yr wythnos. (Dylai un or prydau hyn gynnwys pysgod olewog.)

Bwytwch o leiaf 5 dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd.

Ceisiwch gymryd llai na 6g o halen y dydd.

Pan fyddwch yn brysur, maen demtasiwn i golli prydau neu fwyta bwydydd hwylus. Mae rhai pobl yn ceisio gwneud iawn am ddeiet gwael trwy gymryd fitaminau, mwynau neu atchwanegiadau bwyd. Ond dydy hynny ddim mor llesol bob amser bwyta deiet iachus, cytbwys a ddylai roir holl fitaminau a maethynnau angenrheidiol i chi.

I gael gwybod rhagorArchebwch ein llyfryn Eating well (G186).

I gael gwybod rhagorCadwch olwg ar faint rydych yn ei yfed defnyddiwch ein cyfrifiannell unedau alcohol yn bhf.org.uk/alcohol

Alcohol Os ydych yn yfed alcohol, gofalwch gadw at y lefelau a argymhellir. Ddylai menywod ddim yfed mwy na 23 uned o alcohol y dydd yn rheolaidd.

1 uned o alcohol =

Hanner peint (300ml) o gwrw chwerw, lager neu seidr (3.5% ABV [alcohol yn l cyfaint])

neu fesur tafarn (25ml) o wirodydd fel jin, fodca, wisgi neu rym

neu wydraid bach (100ml) o win (10% ABV)

Gall yfed cymedrol rhwng 1 a 2 uned o alcohol y dydd helpu rywfaint i warchod menywod sydd wedi mynd trwyr menopos rhag clefyd coronaidd y galon. Ond, os nad ydych eisoes yn yfed alcohol, does dim angen i chi ddechrau gwneud, achos mae na ffyrdd iachach o lawer o ofalu am eich calon.

Dydy yfed mwy nar swm a nodir ddim yn amddiffyn y galon a gall wneud drwg i gyhyraur galon, achosi pwysedd gwaed uchel, strc a rhai mathau o ganser. Mae llawer o galorau mewn alcohol hefyd ac felly gall wneud i chi ennill pwysau.

Ceisiwch beidio chael pyliau o yfed yn drwm. Maen well yfed ychydig yn rheolaidd na llawer weithiau.

Alco

hol

46

47

Mae dros un o bob tair o fenywod Cymrun yfed mwy o alcohol nag yr argymhellir yn rheolaidd.

Straen Mae ambell her mewn bywyd yn gallu rhoi hwb i ni ond, os ydym yn teimlo ein bod yn methu ymdopi r pwysau mawr sydd arnom, rydyn nin dod o dan straen.

Mae rhai pobl yn ymateb i straen mewn ffyrdd sydd ddim yn iachus, fel smygu, goryfed alcohol, peidio bwytan iach a chael llai o ymarfer corff. Gall y rhain i gyd eich gwneud yn fwy tebygol o gael CHD.

Os ydych yn ei chael yn anodd cydbwyso gwaith, eich teulu neu berthnasoedd ach bywyd cymdeithasol, maen demtasiwn i chi anwybydduch anghenion chi. Ond cofiwch bod eich iechyd yn bwysig ac mae hynnyn cynnwys eich iechyd meddwl.Maen bwysig dysgu ymlacio a delion effeithiol straen.

Ceisiwch feddwl pryd yr ydych yn teimlo o dan straen ac osgoi sefyllfaoedd felly os oes modd.

Byddwch yn realistig am yr hyn y gallwch ei wneud a dysgu dweud na pan fydd angen.

Gall gwneud rhywbeth egnol fel mynd am dro sionc neu redeg eich helpu i ollwng stm.

Rhowch gynnig ar ymarferion ymlacio neu ymunwch dosbarth ioga.

Os ydych yn teimlo bod popeth yn ormod, siaradwch ffrind neu bartner, neu holwch eich meddyg am gyngor. Gall teimloch bod ar eich pen eich hun wneud i chi deimlo o dan hyd yn oed fwy o straen.

I gael gwybod rhagorArchebwch ein llyfryn Coping with stress (G187).

Stra

en48

49

505

1

Beth os oes

CLEFYD Y GALON ARNA I?

Nodiadau.

Beth

os

oes

clef

yd y

gal

on a

rna

i?52

53

Beth os oes clefyd y galon arna i? Os cewch ddiagnosis o glefyd coronaidd y galon (CHD) neu angina, neu os cewch drawiad ar y galon, mae meddyginiaethau, triniaethau neu raglenni adfera all eich helpu i deimlon well a byw bywyd morllawn ac egnol ag y bo modd. Mae rheolich ffactorau risg a byw bywyd iach yn hanfodol er mwycadwch calon yn iach ai gwarchod rhag rhagoro broblemau, felly darllenwch dudalennau 2648 hefyd.

Med

dygi

niae

thau

/ Tr

inia

etha

u54

55

CofiwchPeidiwch rhoir gorau i gymryd meddyginiaethau presgripsiwn heb gyngor meddygol, hyd yn oed os byddwch yn teimlon well. Gall stopion sydyn fod yn beryglus. Os cewch sgl-effeithiau neu symptomau newydd, soniwch wrth y meddyg.

Triniaethau Os ydych yn cymryd meddyginiaethau ond eich bod yn dal i gael trafferth r symptomau, efallai y gellir ystyried triniaethau eraill fel angioplasti neu lawdriniaeth ddargyfeiriol ar rydwelaur galon.

I gael gwybod rhagorEwch i bhf.org.uk/treatments neu archebwch ein llyfrynnau Coronary angioplasty (HIS10) neu Having heart surgery (HIS12).

I gael gwybod rhagorArchebwch ein llyfryn Medicines for your heart (HIS17).

MeddyginiaethauOs oes CHD arnoch, maen debygol y cewch feddyginiaethau i helpu i reolir symptomau a chadwch calon mor iach ag y bo modd. Maer meddyginiaethaun debygol o gynnwys dos isel o aspirin neu rywbeth tebyg i atal clotiau gwaed rhag ffurfio. Mae hynnyn helpu ich gwneud yn llai tebygol o gael trawiad ar y galon neu strc. (Fodd bynnag, os nad oes CHD arnoch, peidiwch dechrau cymryd aspirin yn rheolaidd fel ffordd oi atal. Y rheswm yw bod peryglon gwaedu, syn un o sgl-effeithiau cymryd aspirin, yn fwy nar manteision i bobl sydd heb CHD.)

Os oes CHD arnoch, efallai y cewch feddyginiaethau eraill, fel statinau. Gall statinau helpu i ostwng lefel y colesterol yn eich gwaed ach gwneud yn llai tebygol o gael trawiad ar y galon neu strc. Maen debygol y cewch statinau hyd yn oed os nad yw lefel eich colesterol yn uchel, gan eu bod yn helpu i leihaur perygl o gael rhagor o broblemau ar y galon.

Os ydych yn cymryd fitaminau, atchwanegiadau neu feddyginiaethau llysieuol naturiol, dylech holich meddyg, nyrs neu fferyllydd a yw hynnyn ddiogel. Does dim digon o dystiolaeth bod atchwanegion neu feddyginiaethau llysieuol yn gallu atal na thrin CHD. Dydir rhan fwyaf o feddyginiaethau llysieuol ddim wedi bod trwy brofion mawr wediu rheoli fel syn digwydd gyda meddyginiaethau confensiynol. Gallant adweithio r meddyginiaethau a gewch gan y meddyg hefyd.

Adse

fydl

u ca

rdia

idd

56

57

Mae menywod yn fwy tebygol o fod yn hn yn dechrau cael problem r galon ac felly gallai fod gennych broblemau iechyd eraill syn golygu eich bod yn cymryd mwy o amser i wella. Felly, maen bwysig iawn eich bod yn dod i sesiynau adsefydlu cardiaidd er mwyn cael cymaint o gymorth ag y bo modd ich helpu i wella.

Os na chewch eich cyfeirio at raglen adsefydlu cardiaidd, holwch eich meddyg lle maer un agosaf, neu ewch i www.cardiac-rehabilitation.net neu ffonio ein Llinell Gymorth y Galon ar 0300 330 3311.

Adsefydlu cardiaidd Os ydych wedi cael trawiad ar y galon, llawdriniaeth ar y galon neu angioplasti, dylech gael cynnig lle ar raglen adsefydlu cardiaidd (cardiac rehab). Gwelwyd bod hynnyn gallu gwellach iechyd hirdymor ach gwneud yn llai tebygol o farw o CHD. Maen eich helpu i wella a dechrau byw bywyd arferol.

Mae llawer o raglenni adsefydlu cardiaidd yn cynnwys dysgu am iechyd y galon a sesiynau ymarfer corff dan oruchwyliaeth. Gallwch ddysgu technegau ymlacio hefyd. Byddwch yn trafod sut i newid eich ffordd o fyw er mwyn gwarchod eich calon fel y gallwch fyw bywyd mor llawn ag y bo modd. Byddwch yn cyfarfod phobl eraill sydd wedi cael profiadau tebyg ac fe gewch gyngor a chefnogaeth broffesiynol. Gall hyn i gyd eich gwneud yn fwy hyderus ach helpu i deimlon well.

Maen achos pryder bod menywod yn llai tebygol na dynion o fynd i sesiynau adsefydlu cardiaidd. Mae rhai menywod yn teimlo embaras os oes llai o fenywod nag o ddynion yn y grp. Mae eraill yn teimlou bod yn rhy brysur yn gofalu am y teulu ac yn gwneud pethau eraill. Ond mae adsefydlu cardiaidd yn bwysig iawn er mwyn gwella ac maer manteision yn fwy o lawer nag unrhyw anghyfleustra neu embaras a deimlwch.

I gael gwybod rhagorArchebwch ein llyfryn Cardiac rehabilitation (HIS23).

Astudiaeth achos: MaureenBu Maureen yn mynd i sesiynau adsefydlu cardiaidd ar l cael trawiad ar y galon, ac angioplasti wedyn. Meddai: Roeddwn in mynd i ganolfan chwaraeon leol. Roedd yno nyrsys y galon a hyfforddwr ffitrwydd wedii hyfforddin arbennig. Fe roddodd y sesiynau hynny fi ar y llwybr cywir. Roedd yn wych.

Mynd yn l i fyw bywyd bob-dydd Ar l trawiad neu lawdriniaeth ar y galon neu angioplasti, efallai na fyddwch yn siwr pryd y gallwchddechrau gwneud pethau fel gyrru, gwaith tneu fynd yn l ir gwaith. Efallai y byddwch yn poeniam gael rhyw, neu efallai na fydd llawer o chwant rhyw arnoch. Efallai hefyd y byddwch yn teimlon isel, yn cael trafferth cysgu neu y bydd eich hwyliaun newid fel nad oeddent or blaen.

Maer pethau hyn i gyd yn gyffredin ar l cael diagnosis neu gyfnod yn yr ysbyty gyda phroblem ary galon. Beth bynnag ywch pryder, ceisiwch beidio theimlo embaras na chuddioch teimladau.

Holwch eich meddyg, nyrs y practis neur tm adsefydlu cardiaidd am gyngor. Gall Llinell Gymorth y Galon BHF (0300 330 3311) gynnig gwybodaeth a chefnogaeth, ac mae digon o wybodaeth am driniaethau ar broses wella ar ein gwefan, bhf.org.uk/condition. Neu mae rhestr o fudiadau eraill a all eich helpu ar dudalennau 72-73.

I gael gwybod rhagorArchebwch ein llyfryn Returning to work with a heart condition (HIS21) neu ein Looking forward: Life after a heart attack (DVD19). Neu gallwch ffonio ein Llinell Gymorth ar 0300 330 3311 a gofyn in Cynghorwyr Iechyd y Galon am adnoddau eraill syn berthnasol ich cyflwr chi.

Myn

d yn

l i

fyw

byw

yd b

ob-d

ydd

58

59

60

61

Beth arall

DDYLWN I EI WYBOD?

Nodiadau.

62

63

Y bi

lsen

ata

l cen

hedl

u64

65

Beth arall ddylwn i ei wybod?

Y bilsen atal cenhedluGall y bilsen atal cenhedlu olygu eich bod ychydig yn fwy tebygol o gael problem chlotiau gwaed a gall gynyddur risg o thrombosis gwythiennau dwfn (DVT). Mae DVT yn digwydd pan fydd clot gwaed yn ffurfio mewn gwythen yn eich coes. Gall achosi poen a chwydd, yn rhan isar goes fel rheol, a gall eich coes deimlon boeth neun dyner. Nid yw hyn yn digwydd yn aml ond maen fwy tebygol os ydych yn smygu, yn rhy drwm neu os ydych yn llonydd am amser hir, er enghraifft wrth deithio ar awyren, bws neu drn neu mewn car.

Gall DVT fynd ymlaen i achosi emboledd ysgyfeiniol (PE) lle maer clot gwaed yn symud i fyny ich ysgyfaint. Gall hynnych lladd ac mae angen ei drin ar frys. Felly, os sylwch ar arwyddion DVT, cysylltwch ch meddyg teulu ar unwaith.

Gall y bilsen atal cenhedlu gynydduch pwysedd gwaed, felly dylech drefnu i gael ei fesur yn rheolaidd tra byddwch yn cymryd y bilsen.

men

opos

ac

HRT

66

67

Mae rhai menywod syn mynd trwyr menopos yn dod yn fwy ymwybodol ou calon yn curo (crychguriadau [palpitations]). Os cewch chi hyn, ewch i weld eich meddyg. Gan amlaf, maer crychguriadaun ddiniwed a dydyn nhw ddim yn golygu bod rhywbeth oi le ar y galon, ond efallai yr hoffaich meddyg roi archwiliad i chi rhag ofn.

Y menopos ac HRT Maen bosib bod hormonaun helpu i warchod menywod rhag clefyd coronaidd y galon (CHD) cyn y menopos. Ond, ar l y menopos, rydych yn mynd yn fwy tebygol o gael CHD ac maer risg yn cynyddu wrth i chi heneiddio.

Os ydych yn dioddef symptomau annymunol yn ystod y menopos, efallai y bydd y meddyg yn cynnig therapi adfer hormonau (HRT) i chi i helpu i leihaur symptomau hynny. Yn y gorffennol, roedd rhain credu bod HRT yn helpu i warchod menywod rhag clefyd y galon hefyd. Ond mae gwaith ymchwil mwy diweddar yn awgrymu nad yw hynnyn wir. Gall rhai mathau o HRT achosi cynnydd bach yn y risg o CHD a strc ach gwneud yn fwy tebygol o gael DVT a PE (gweler tudalen 65), yn enwedig ym mlwyddyn gyntaf yr HRT. Felly, ar hyn o bryd, dydy HRT ddim yn cael ei ddefnyddio i warchod menywod rhag CHD. Mae gwaith ymchwil yn cael ei wneud i weld a allai dechrau HRT yn gynt helpu i warchod y galon.

Gall HRT fod yn effeithiol iawn ar gyfer symptomaur menopos ac, yn achos y rhan fwyaf o fenywod syn mynd trwyr menopos yn enwedig rai o dan 60 oed mae manteision cymryd HRT yn fwy nar peryglon. Fodd bynnag, mae sefyllfa pob menywn wahanol a dydy HRT ddim yn addas i bawb, felly holwch eich meddyg a allai HRT fod yn addas i chi.

I gael gwybod rhagor Lawrlwythwch ein taflen wybodaeth HRT and heart disease (IS63) o bhf.org.uk/publications

Gair i gloiDydi hi byth yn rhy hwyr i newid eich ffordd o fyw ac amddiffyn eich calon neu gadw problem ch calon rhag gwaethygu. I ddechrau, os ydych dros 50, trefnwch i weld eich meddyg teulu neu nyrs y practis heddiw i gael archwiliad iechyd. Hefyd, ewch i weld y meddyg os byddwch yn meddwl bod gennych unrhyw un or symptomau neur ffactorau risg syn cael eu trafod yn y llyfryn hwn. A beth am edrych ar y ffactorau risg ar dudalennau 2048 a dechrau mynd ir afael r un peth rydych am ei newid fwyaf?

Cofiwch, maech iechyd yn bwysig. Mae bron 1800 o fenywod Cymrun marw o Glefyd Coronaidd y Galon bob blwyddyn. Does dim rhaid i chi fod yn un ohonyn nhw. Cymerwch gamau i warchod eich calon nawr.

Os oes gennych gwestiynau am rai or pethau rydyn nin eu trafod yn y llyfryn hwn, rydyn ni yma i helpu.Ewch in gwefan, bhf.org.uk neu ffoniwch ein Llinell Gymorth y Galon ar 0300 330 3311.

Gair

i glo

i68

69

707

1

Nodiadau.

Quit www.quit.org.uk Mae Quit yn cynnig llinell gymorth mewn gwahanol ieithoedd i helpu pobl i roir gorau i smygu.

AlcoholDrinkline 0800 917 8282 Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gyfrinachol ynghylch yfed a phroblemau yfed.

Cwnsela, straen a gorbryderCymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) 01455 883300 www.bacp.co.uk Help i ganfod cwnselydd addas yn eich ardal chi.

No Panic 0808 808 0545 www.nopanic.org.uk Cefnogaeth i rai syn cael pyliau o banig neun dioddef o ffobia neu fathau eraill o orbryder.

Y Samariaid 08457 909090 www.samaritans.org Cefnogaeth gyfrinachol, anfeirniadol, 24 awr y dydd, i unrhyw un syn dioddef gofid meddwl, anobaith neun ofni eu bod am ladd eu hunain.

Mudiadau defnyddiolGwybodaeth feddygolBlood Pressure Association 0845 241 0989 www.bloodpressureuk.org

Diabetes UK 0845 120 2960 www.diabetes.org.uk

Heart UK (Elusen Colesterol) 0845 450 5988 www.heartuk.org.uk

Y Gymdeithas Strc 0303 3033 100 www.stroke.org.uk

Womens Health Concern 01628 478 473 www.womens-health-concern.org

Rhoir gorau i smyguLlinell Gymorth y GIG ar gyfer Ysmygu a Beichiogrwydd 0800 169 9 169 I ferched syn feichiog ac yn ceisio rhoir gorau i smygu neu syn awyddus i gael babi ac yn dymuno rhoir gorau iddi.

Dim Smygu Cymru 0800 022 4 332 www.dimsmygucymru.com Cewch chwilio am wasanaeth lleol y GIG ich helpu i roir gorau i smygu.

Sefy

dlia

dau

defn

yddi

ol e

raill

727

3

Adnoddau gan y British Heart Foundation Maer British Heart Foundation (BHF) yn cynhyrchu llawer o wahanol adnoddau ich helpu chi ach teulu ach ffrindiau i ofalu am iechyd y galon soniwyd am lawer ohonynt yn y llyfryn hwn.

Os hoffech archebu ein llyfrynnau neun DVDs: Ffoniwch Linell Archebu BHF ar 0870 600 6566 Ebostiwch [email protected] Ewch i bhf.org.uk/publications

Gallwch lawrlwytho llawer on cyhoeddiadau on gwefan bhf.org.uk Os hoffech wybodaeth am ein holl adnoddau, gofynnwch am gopi on catalog (G5).

Sut y gallwch chi helpuMae ein hadnoddau an gwasanaethau am ddim, ond rydym yn dibynnu ar gyfraniadau i wneud ein gwaith hanfodol. Os hoffech wneud cyfraniad, ffoniwch ein llinell gyfraniadau ar 03003303322 neu ewch in gwefan bhf.org.uk/donate. Neu gallwch lenwir ffurflen ar y dudalen nesaf ai hanfon atom yn y cyfeiriad ar y cefn. Y British Heart Foundation (BHF) yw elusen genedlaethol y galon. Maen achub bywydau trwy waith ymchwil arloesol, gofalu am gleifion a rhannu gwybodaeth bwysig.

Bydd eich cefnogaeth chi yn ein helpu yn y frwydr yn erbyn clefyd y galonDyma fy rhodd i helpu rhagor o bobl i wella o broblemau gydar galon.

10 15 20 arall Gwnewch eich siec / archeb bost / taleb CAF yn daladwy ir British Heart Foundation

TeitlEnw llawnCyfeiriad

EbostHoffem gadw mewn cysylltiad chi i roi gwybod i chi bod eich cymorth wedi gwneud gwahaniaeth. Trwy roich cyfeiriad ebost, rydych yn cytuno y caiff y BHF ei ddefnyddio i gysylltu chi yngln n gwaith.

NEU cewch dynnur swm uchod om cyfrif:

Cerdyn CAF MasterCard Visa/Delta Maestro Amex Rhif y Cerdyn

Dilys o Daw i ben Rhif cyhoeddi

Llofnod

I wneud cyfraniad ar unwaith, ffoniwch 0300 330 3322 manylioneich cerdyn credyd. Llinellau ar agor LlunGwener, 9am5pm. Neu ewch i bhf.org.uk

(Maestro yn unig)

(Maestro yn unig)

Ticiwch yma os nad ydych yn dymuno ir BHF gysylltu chi. (MP0059)

O bryd iw gilydd, rydym yn rhoi caniatd i fudiadau eraill tebyg i ysgrifennu at ein cefnogwyr. Os nad ydych yn dymuno iddyn nhw gysylltu chi, ticiwch yma. (MP0060)

Y British Heart Foundation yw elusen genedlaethol y galon. Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr (225971) ac yn yr Alban (SC039426)

10BS00 CC12CC

Cod post

Manylion ar gefn y ffurflen hon

Heart MattersGwasanaeth di-dl, personol i chi, yw Heart Matters ac maen eich helpu i fyw gyda chalon iach.

Ymunwch Heart Matters heddiw i gael manteision fel cylchgrawn arbennig, Llinell Gymorth, a lle arbennig i aelodau ar y wefan gyda ryseitiau, erthyglau ac awgrymiadau ynghylch eich ffordd o fyw. Ymunwch trwy fynd i bhf.org.uk/heartmatters neu ffonio 0300 330 3300. Llinellau ar agor rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener (cost debyg i rifau 01 neu 02).

Llinell Gymorth y GalonMae llinell gymorth y galon yn rhoi gwybodaeth, cefnogaeth ac arweiniad i bawb y mae clefyd y galon yn effeithio arnynt neu sydd am ofalu am eu calon. Ffoniwch ni ar 0300 330 3300; llinellau ar agor rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener (cost debyg i rifau 01 neu 02) neu ebostiwch [email protected]

Dweud eich dweudByddem yn croesawuch sylwadau chi in helpu i roir wybodaeth orau i chi. Beth am ddweud eich barn? Gallwch gysylltu ni trwy ein gwefan, bhf.org.uk/contact

DiolchiadauHoffem ddiolch i Dr E. Jane Flint am ei help wrth baratoir llyfryn hwn. Dr Flint yw Cardiolegydd Ymgynghorol Arweiniol Ymddiriedolaeth GIG Grp Ysbytai Dudley ac maen gadeirydd Cydweithgor Cymdeithas Gardiofasgwlaidd Prydain ym maes Argymhellion Iechyd y Galon i Fenywod.

Gall eich rhodd fod yn werth 25% yn fwy heb gost ychwanegol i chi!

Ydych chin talu treth yn y DU? Os ydych yn talu treth yn y DU, ticiwch y blwch cyntaf fel y gallwn hawlio hyd at 25c am bob 1 a roddwch heb gost ychwanegol i chi.

GA1 Ydw, rwyn talu treth yn y DU a hoffwn ir BHF

hawlior dreth yn l y cyfraniad hwn, unrhyw gyfraniadau a wnes yn y pedair blynedd ddiwethaf ac unrhyw gyfraniadau a wnaf o hyn ymlaen.*

Dyddiad / /

GA2

Na, nid wyf yn talu treth.* Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Cymorth Rhodd, maen rhaid eich bod yn

talu swm o Dreth Icwm a/neu Dreth Enillion Cyfalaf yn y Deyrnas Unedig sydd o leiaf gymaint r dreth y bydd yr holl elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASCs) yr ydych yn cyfrannu atynt yn ei hawlio yn l ar eich rhoddion am y flwyddyn dreth honno (6 Ebrill yn un flwyddyn tan 5Ebrill yn y nesaf). Nid yw trethi eraill fel TAW ar Dreth Gyngor yn gymwys. Oshoffech ragor o wybodaeth am hyn, neu swm y dreth y gall y BHF ei hawlio yn l, gallwch gysylltu n tm Gofal am Gefnogwyr ar 0844 847 2787.

Ers dros 50 mlynedd, rydym wedi arloesi gyda gwaith ymchwil sydd wedi trawsnewid bywydau miliynau o bobl syn byw gyda chlefyd cardiofasgwlaidd. Bu gennym ran ganolog yn y gwaith o ddarganfod triniaethau pwysig i newid y frwydr yn erbyn clefyd y galon.

Ond mae clefyd cardiofasgwlaidd yn dal i ladd tuag un o bob pedwar person yn y Deyrnas Unedig, gan eu dwyn oddi wrth eu teuluoedd au hanwyliaid.

O fabanod syn cael eu geni phroblemau ar y galon syn bygwth eu bywydau, i lu o famau, tadau, neiniau a theidiau syn dod dros drawiad ar y galon ac syn gorfod wynebu brwydrau methiant y galon o ddydd i ddydd.

Ymunwch yn ein brwydr dros bob curiad calon yn y Deyrnas Unedig. Bydd pob punt a godir, pob munud och amser a phob cyfraniad in siopau yn helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Tecstiwch FIGHT i 70080 i roi 3

Mae hwn yn wasanaeth cyfraniadau elusennol ir BHF. Maer negeseuon testun yn costiio 3 + 1 neges cyfradd safonol. Bydd y BHF yn cael 100% och rhodd i ariannu ein gwaith ymchwil syn achub bywydau.I optio allan o alwadau ac SMS tecstiwch NOCOMMS BHF i 70060, neu os oes gennych gwestiynau am eich rhodd, ffoniwch 02032827862. British Heart Foundation 2015, elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (rhif 225971) ac yn yr Alban (SC039426). M37W/0315